1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 15 Chwefror 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn gwyro’n sylweddol oddi wrth y cynigion a amlinellwyd yn y Bil drafft blaenorol drwy fod 24 cynnig o’r fath naill ai wedi’u hepgor, a 13 wedi’u diwygio. Byddai rhai o’r rhain wedi caniatáu mecanweithiau adrodd a fuasai’n galluogi etholwyr i fod yn llawer mwy gwybodus, ac yn llawer mwy abl hefyd i ddwyn eu haelodau etholedig i gyfrif. Nawr, rydym yn cefnogi’n fawr y cynigion i arweinwyr cynghorau gynnal cyfarfod cyhoeddus blynyddol ac i gynghorwyr etholedig gynhyrchu adroddiad blynyddol, ac eto rydych yn awr yn ystyried bod y rhain yn rhy anhyblyg. Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, a roddwyd ar waith gan eich Llywodraeth, yn cefnogi’r canllawiau hyn ar gyfer sicrhau atebolrwydd democrataidd o’r fath. Pam rydych yn ei wrthod yn awr?
Wel, Lywydd, ein hymagwedd yn y Papur Gwyn yw bod yn glir ar yr amcanion a geisiwn, ac mae’r amcanion yn rhai rwy’n eu rhannu â’r hyn a ddywedodd yr Aelod wrth gyflwyno ei chwestiwn—y dylai gwleidyddion lleol fod yn atebol ac mewn perthynas barhaus â’u poblogaethau lleol. Roedd y BIl drafft a gyhoeddwyd yn y Cynulliad diwethaf yn cynnig set benodol o ffyrdd y gallai unigolion ddangos hynny, a’r hyn a wnaethom yw symud oddi wrth hynny yn y Papur Gwyn i ddweud bod gwahanol ffyrdd mewn gwahanol leoedd y gallech ddangos eich bod yn gwneud yr hyn y mae pawb ohonom yn gytûn fod angen i chi ei wneud. Mae’n rhaid i chi allu dangos hynny. Ond os ydych yn dychmygu eich bod yn gynghorydd ward da a’ch bod yn dosbarthu tri neu bedwar cylchlythyr bob blwyddyn o amgylch eich ward, beth yw pwynt dweud wrthych fod yn rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ben hynny? Oherwydd rydych mewn cysylltiad â’ch poblogaeth dair neu bedair gwaith y flwyddyn fel y mae. Felly, mae’n rhaid i chi ddangos hynny. Mae mwy nag un ffordd o ddangos hyn, a chredwn y bydd rhoi hyblygrwydd lleol o’r fath, yn y pen draw, yn darparu ffyrdd mwy effeithiol o ddiogelu’r berthynas honno na meddwl bob amser y gallwn bennu’r pethau hynny yma yng Nghaerdydd.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig adeiladu ar drefniadau rhanbarthol presennol lle y maent ar waith. Fodd bynnag, mae Estyn wedi beirniadu rhai consortia addysgol ynglŷn â’u trefniadau llywodraethu a’u perfformiad. Er enghraifft, ym mis Mehefin 2016, beirniadwyd consortiwm addysg gogledd Cymru ganddynt am safonau gwaith gwael, am mai’r gyfradd wella mewn llawer o ddeilliannau disgyblion oedd yr arafaf o bedwar rhanbarth, ac am fod y consortiwm wedi bod yn araf i sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn cyd-fynd â model cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio rhanbarthol. Os oes gennych fodel yn awr gyda beirniadaeth mor hallt ac nad yw i’w weld yn gweithio’n effeithiol, pam y buasech eisiau ailadrodd hynny?
Wel, rwy’n meddwl bod yr Aelod yn unochrog ac yn ddetholus iawn ei barn ar y consortia addysg, oherwydd mae llawer iawn o bethau llwyddiannus yn eu cylch y gallant eu dangos ar draws Cymru. Mae’r ffordd ranbarthol o weithio yn un sy’n cael ei chymeradwyo’n gadarn yn ein Papur Gwyn. Yr hyn y gallwn ei wneud yw ateb y feirniadaeth ynglŷn â llywodraethu a grybwyllodd yr Aelod, gan ein bod yn dweud yn ein Papur Gwyn, ar ôl cytuno ar drefniadau rhanbarthol, ac ar ôl cytuno ar y swyddogaethau a gaiff eu cyflawni ar y lefel ranbarthol, byddwn yn deddfu i greu dull cyson o lywodraethu ar draws Cymru. Rwy’n credu y bydd hynny’n mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at ateb rhai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â rhai agweddau ar lywodraethu mewn rhai trefniadau rhanbarthol.
Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mewn ymateb i gwestiwn Cynulliad ysgrifenedig ataf yn ddiweddar, rydych yn datgan eich bod wedi gofyn i awdurdodau lleol dynnu sylw at y ffyrdd y byddant yn ymgynghori, ond mae’n ymddangos mai’r canlyniad y cytunwyd arno yw annog cyfranogiad gan ddinasyddion drwy eu gwefannau. Fodd bynnag, mae’r ymgynghoriad hwn yn sicr yn mynd i fethu cyrraedd nifer o’n hetholwyr ledled Cymru, a chadarnhawyd hynny’n ddiweddar gan aelod cabinet cyngor Llafur Abertawe dros drawsnewid a pherfformiad, pan ddywedodd,
Er bod mwy o wasanaethau a gwybodaeth y cyngor yn cael eu darparu ar-lein y dyddiau hyn, rydym yn deall nad oes gan bawb fynediad at y rhyngrwyd, yn enwedig pobl hŷn a rhai ar incwm isel, sef y bobl, yn aml, sydd fwyaf o angen ein gwasanaethau.
Ysgrifennydd y Cabinet, dyma’r union bobl y credaf fod ganddynt hawl i wybod bod eu model llywodraeth leol yn newid a’i fod yn symud yn fwy tuag at sail ranbarthol. Sut rydych chi’n argyhoeddi’r Siambr hon felly y bernir bod hyn yn dderbyniol o ran cyfathrebu â phobl Cymru sydd â hawl i wybod sut y bydd eu gwasanaethau lleol yn cael eu darparu?
Lywydd, rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, yn yr ystyr fod gennym uchelgais a rennir i wneud yn siŵr fod y cynigion yn y Papur Gwyn yn cael eu dwyn i sylw cymaint o bobl ag sy’n bosibl ar draws Cymru a’n bod yn gwneud ymdrechion penodol i gyrraedd y bobl na fyddent fel arall yn cael gwybod am y materion hyn o bosibl. Rwy’n bendant yn disgwyl i awdurdodau lleol chwarae eu rhan yn hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan. Os caf ddweud wrth yr Aelod, rwy’n meddwl bod gan bleidiau gwleidyddol gyfrifoldeb yn hyn hefyd. Mae llywodraeth leol yn fusnes i bawb ohonom, a cheisio perswadio dinasyddion i gefnogi ein dewisiadau polisi, ac rwy’n gobeithio y bydd pob plaid wleidyddol yma, wrth iddynt baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai, yn meddwl bod dyfodol llywodraeth leol a gwahanol ffyrdd o wella’r dyfodol hwnnw yn rhywbeth y byddwn ni ein hunain yn awyddus i sicrhau ein bod yn tynnu sylw ato wrth i ni gyfathrebu gyda’r etholwyr.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, un o swyddogaethau traddodiadol cynghorau lleol yw’r maes tai. Ond weithiau gall rheoleiddio gormodol fod yn faen tramgwydd, yn enwedig i gwmnïau adeiladu tai llai o faint, ac mae rhai o’r rheoliadau hyn yn ymwneud â madfallod dŵr cribog. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Papur Gwyn sy’n cynnig cynllun gwrthbwyso ar gyfer madfallod. Byddai hyn yn caniatáu i ddatblygwyr adeiladu ar safleoedd sy’n cynnwys pyllau madfallod cyn belled â’u bod yn talu am ddarparu cynefinoedd da ar gyfer madfallod mewn mannau eraill, fel bod y madfallod, fel rhywogaeth, yn parhau i ffynnu. Roeddwn yn meddwl tybed a oeddech o’r farn y gallai cynghorau lleol yng Nghymru fynd i’r afael â’r prinder tai yn well pe bai cynllun o’r fath yn cael ei gyflwyno yma.
Wel, Lywydd, nid wyf yn gyfarwydd â’r cynllun, er fy mod yn siŵr fod fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, sydd â chyfrifoldeb am dai, yn ymwybodol ohono. Mae gennym darged uchelgeisiol iawn ar gyfer tai fforddiadwy yma yng Nghymru. Rydym yn edrych ar bob math o ffyrdd o gyflymu’r broses o gyflawni’r targed hwnnw. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd i gynnal ein bywyd gwyllt a’n rhywogaethau dan fygythiad yn bwysig hefyd. Rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod eisiau edrych ar y cydbwysedd a geir yn y Papur Gwyn i weld a oes unrhyw beth y gallem ddysgu ohono yng Nghymru.
Ie, diolch. Mae angen cael cydbwysedd, ond rwy’n falch eich bod yn ei ystyried er fy mod yn sylweddoli mai cyfrifoldeb Gweinidog arall ydyw yn awtomatig. Ond diolch i chi.
Nawr, gall cydymffurfio â rheoliadau fod yn fater sy’n codi dro ar ôl tro i gynghorau. Yn amlwg, mae angen rheoliadau—rheoliadau synhwyrol, hynny yw—ond mae rheoliadau’n ychwanegu cost. Un ddadl fynych y byddwn yn ei chael yma dros y ddwy flynedd nesaf yn ôl pob tebyg fydd pa reoliadau’r UE y byddwn eisiau eu cadw mewn gwirionedd. Cafwyd problemau mawr gyda chasgliadau gwastraff cartref yn y blynyddoedd diwethaf. Yng Nghaerdydd, mae’r gweinidog cabinet perthnasol, Bob Derbyshire, wedi nodi’r angen i gydymffurfio â rheoliadau’r UE ar sawl achlysur, ond yn fuan ni fydd yn rhaid i ni gydymffurfio â hwy mwyach. O ystyried hynny, a yw’n amserol i gynghorau adolygu eu polisïau casglu gwastraff yn awr?
Wel, yn gyffredinol, Lywydd, rwy’n cytuno â’r pwynt, a chyda’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae angen i bob awdurdod cyhoeddus a fydd mewn sefyllfa wahanol ar ôl Brexit ddechrau meddwl am y dewisiadau sydd ganddynt yn y cyd-destun hwnnw. Ar y cyfan, mae’r rheoliadau yno i wasanaethu dibenion gwleidyddol a chyhoeddus pwysig. Fodd bynnag, lle y ceir gwahanol gyfleoedd yn y dyfodol—er enghraifft, ym maes caffael, o ran Llywodraeth Cymru—mae’n awgrym synhwyrol y dylai awdurdodau lleol hefyd edrych ar y newid yn eu hamgylchiadau a dechrau meddwl yn awr ynglŷn â sut y byddant yn dymuno gwneud unrhyw gymwysiadau.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, y tro diwethaf y gofynnais gwestiynau i chi yn rhan o’ch brîff llywodraeth leol, roeddwn yn sôn am daliadau traffig yng Nghaerdydd ac fe ddywedoch y byddech yn ysgrifennu ataf, ac yn wir, fe wnaethoch hynny. Felly, diolch i chi am y wybodaeth a roesoch. O ran taliadau parcio a throseddau traffig a gâi eu casglu gan gyngor Caerdydd a chynghorau eraill—Caerdydd oedd yr enghraifft a ddefnyddiais; wrth gwrs, mae’n berthnasol drwy Gymru—fe ddywedoch y byddai’r dirwyon hyn yn cael eu clustnodi ar gyfer yr adran benodol dan sylw. Felly, rwy’n meddwl tybed sut rydych chi, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod dirwyon yn cael eu clustnodi.
Lywydd, yr hyn y cofiaf ei ddweud wrth yr Aelod pan soniodd am hyn ddiwethaf oedd y buaswn, yn ogystal ag ysgrifennu ato gyda manylion, yn ychwanegu’r eitem hon at yr agenda o faterion y byddaf yn eu trafod gydag awdurdodau lleol pan wyf mewn cysylltiad â hwy. Rwyf wedi gallu dechrau gwneud hynny. Rwy’n bwriadu defnyddio’r misoedd nesaf, tra bo’r Papur Gwyn yn destun ymgynghoriad, i ddefnyddio’r cyfle i siarad ag awdurdodau lleol am bethau heblaw diwygio llywodraeth leol. Felly, edrychaf ymlaen at allu rhoi’r mater a grybwyllodd yr Aelod wrthyf yn flaenorol ar yr agenda gydag awdurdodau lleol, a gwneud hynny gyda nifer fwy ohonynt yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Llefarydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ar leoliad yr awdurdod refeniw newydd, fe ddywedodd y Prif Weinidog hyn:
rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai.’
Aeth ymlaen i ddweud:
Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’.
Eto, pan holwyd cyfarwyddwr cyflawni’r awdurdod yr un cwestiwn yn y Pwyllgor Cyllid y diwrnod wedyn, sef a yw’r arbenigedd perthnasol yn bodoli yma yng Nghymru ac a fydd yr awdurdod yn recriwtio yng Nghymru, fe ddywedodd y cyfarwyddwr fod y sgiliau ar gael yma ac y bydd yr awdurdod yn recriwtio yng Nghymru. Pwy, felly, yn eich barn chi, y dylwn ni wrando arnyn nhw? Y Prif Weinidog ynteu’r arbenigwr sydd wedi’i apwyntio i sefydlu’r corff yma? Os mai barn yr arbenigwr sy’n ddilys, ydy’r Prif Weinidog yn euog o gamarwain y Cynulliad? Yn sicr, mae o’n euog o bardduo a thanbrisio a bychanu Cymru. Unwaith eto, mae Llafur yn dweud bod Cymru yn ‘too poor, too small, too stupid’, i ddyfynnu’r anfarwol Alex Salmond. Mae hynny’n warthus, ac mae angen i’r Prif Weinidog ymddiheuro.
Wel, rwy’n gwrthod bron bopeth y mae’r Aelod newydd ei ddweud, Lywydd. Nid oes gwrthdaro rhwng yr hyn y mae’r ddwy ffynhonnell a ddyfynnodd wedi’i ddweud wrthych. Bydd 40 o bobl yn gweithio yn Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd nifer o’r rheini’n cael eu recriwtio o Gymru. Bydd nifer ohonynt yn ddi-os yn cael eu recriwtio o’r tu hwnt i Gymru. Rydym yn sefydlu proffesiwn treth ar gyfer Cymru am y tro cyntaf erioed. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru angen sgiliau sy’n brin ac yn benodol iawn. Cefais gyfarfod ddoe â chadeirydd a phrif weithredwr Revenue Scotland. Archwiliais yn benodol iawn gyda hwy yr hyn yr oeddent yn dweud wrthyf sy’n her gyson o ran gallu recriwtio a chadw staff prin. Roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn recriwtio ar gyfer Revenue Scotland o’r tu hwnt i’r Alban, ac yn wir, y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig. Nid oes ganddynt bobl o fewn yr Alban yn unig, ac maent hwythau hefyd yn sefydlu proffesiwn am y tro cyntaf. Bydd arnom angen pobl o Gymru, ond yn sicr bydd angen i ni gael pobl sy’n gweithio tu hwnt i Gymru ar hyn o bryd, a byddwn yn falch iawn, ar yr ochr hon, o ddenu pobl sy’n barod i wneud eu dyfodol yn rhan o’n dyfodol ni yma yng Nghymru.
A gaf i jest eich atgoffa chi o beth ddywedodd y Prif Weinidog? Mi ddwedodd o:
Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’.
Rydw i’n symud ymlaen i’r Papur Gwyn a gafodd ei gyflwyno gennych chi, ychydig o wythnosau yn ôl, ar ddiwygio llywodraeth leol. Mae yna nifer o gwestiynau yn codi, yn bennaf: a fydd y math o drefniadau rhanbarthol sy’n cael eu cynnig yn creu cymhlethdod a dryswch i bobl Cymru? Un o brif broblemau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl adroddiad y comisiwn Williams, yw ei fod yn rhy gymhleth, ac felly’n rhwystro awdurdodau lleol rhag darparu ac ymgysylltu yn effeithiol. Rydw i’n tynnu sylw’r Cynulliad at y model fframwaith a phatrwm daearyddol a gynigir yn y papur, sef pwynt 2.6.10. Gallai hyn olygu, er y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno ar lefel ranbarthol, gallai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan bartneriaethau eraill isranbarthol, neu hyd yn oed bartneriaethau isranbarthol a fydd yn croesi’r ffiniau rhanbarthol. Felly, yn gyntaf, a ydych chi’n meddwl bod y model hwn yn symleiddio’r ffordd y bydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau, ynteu a fydd yr holl system yn ddryslyd tu hwnt, ac y bydd atebolrwydd yn mynd ar goll?
A gaf i ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, rydw i’n cydnabod y ffaith bod cymhlethdod yn rhywbeth pwysig i feddwl amdano, pan rydym ni’n cynllunio dyfodol awdurdodau lleol? Os oes syniadau yn dod i mewn pan fydd pobl yn ystyried y Papur Gwyn, byddwn ni’n gallu gwneud mwy i symleiddio pethau, a mwy i wneud y system yn fwy atebol i bobl leol yn y dyfodol, ac rydw i’n hollol agored i glywed beth mae pobl yn mynd i ddweud. Mewn egwyddor, nid ydw i’n meddwl bod y pethau yn ein Papur Gwyn ni yn mynd i wneud mwy i greu cymhlethdod nag oedd ym maniffesto Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, pan oedd Plaid Cymru yn dweud:
We will legislate to create…regional combined authorities’.
The same arguments would have been implicit in that proposal, and I’m keen to find ways of bearing down on them, and trying to solve them, and I’m sure the discussions that will happen during the White Paper will help us to address the issues which she identified, and which I share with her, as important matters to be resolved.
Diolch. Mae Plaid Cymru yn dadlau am ranbartholi syml, a dyna ydy’r cynghorau cyfunol. Rydym ni hefyd yn dadlau dros gyflwyno meiri etholedig fel ffordd o sicrhau atebolrwydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu cynnwys y Papur Gwyn o ymrwymo i gyflwyno pleidlais gyfrannol fel ffordd o gynnal etholiadau llywodraeth leol. Mi fuasem ni’n gwneud pleidlais gyfrannol drwy STV yn fandadol i bob cyngor, ond mae cynnig y dewis yn gam i’r cyfeiriad cywir.
Mae’r ddadl dros gyflwyno system bleidlais gyfrannol bellach yn ddadl sydd yn derbyn cefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad, ac yn San Steffan hefyd, efo Aelodau nodedig o’ch plaid chi yn galw am system bleidleisio gyfrannol ar lefel genedlaethol hefyd. Felly, a ydych chi’n cytuno bod cynnig system bleidleisio gyfrannol drwy STV ar gyfer etholiadau cyngor, a’r egwyddor ar gyfer etholiadau cenedlaethol hefyd, yn ffordd ymarferol werthfawr o fywiogi ac adfer democratiaeth, a sicrhau bod pobl yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfri, gan ddiogelu cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol yng Nghymru?
Lywydd, mae systemau pleidleisio yn faterion y ceir amrywiaeth o safbwyntiau yn eu cylch o fewn y pleidiau gwleidyddol, yn ogystal â rhwng pleidiau gwleidyddol. Y cynnig yn y Papur Gwyn yw caniatáu i awdurdodau lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn iddynt hwy yn eu cyd-destun eu hunain. Rwy’n siŵr y bydd trafodaeth fywiog yma yn y Cynulliad am y gwahanol safbwyntiau a fydd gan unigolion a phleidiau ynglŷn â’r ffordd orau o sicrhau system bleidleisio yn genedlaethol yng Nghymru sy’n galluogi pobl i deimlo cysylltiad â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, ac i deimlo bod y ffordd y maent yn bwrw eu pleidlais yn dylanwadu ar y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yma.