7. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:15, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn symud ymlaen at eitem 7, sef y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6241 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:15, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.

Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Rwy'n ddiolchgar i Dai Lloyd, Huw Irranca-Davies a Simon Thomas a'u pwyllgorau priodol am graffu ar y Bil hyd yn hyn. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad gwerthfawr rhanddeiliaid, sydd wedi cymryd rhan yn y broses drwy ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar.

Pan gyflwynais y Bil fis Tachwedd diwethaf, bûm yn siarad am swyddogaeth lwyddiannus deddfwriaeth o ran gwella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru. Pwysleisiais hefyd fod deddfwriaeth yn ffurfio un rhan bwysig o agenda iechyd y cyhoedd ehangach gyda'r nod o atal niwed y gellir ei osgoi a symud yn nes at ein dyheadau ar gyfer Cymru iach a gweithgar. Mae'r Bil hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i’r agenda honno drwy weithredu mewn meysydd penodol er budd grwpiau a chymunedau penodol yn eu cyfanrwydd. Rwyf wedi fy nghalonogi yn ystod y broses graffu o weld y gefnogaeth gyffredinol gref gan randdeiliaid a phwyllgorau i’r hyn y mae'r Bil yn ceisio ei gyflawni.

Mae pob cynnig yn y Bil yn ceisio sicrhau manteision gwirioneddol i bobl Cymru. Er enghraifft, bydd ymestyn y gyfundrefn ddi-fwg i leoliadau awyr agored ar dir ysgolion, ar dir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â'r camau gweithredu eraill ar dybaco, yn torri tir newydd pwysig ac yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol yr ydym wedi’i wneud dros lawer o flynyddoedd drwy amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol smygu. Mewn rhannau eraill o’r Bil, bydd y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig yn cynnig nifer o fanteision uniongyrchol. Bydd y rhain yn cynnwys helpu i atal niwed y gellir ei osgoi i'r unigolion hynny sy'n dewis cael gweithdrefn arbennig, helpu pobl i ddod yn fwy gwybodus wrth feddwl am weithdrefn arbennig, a gweithio gyda’r sector fel bod y safonau arfer gorau yn dod yn safonau i bawb.

Er bod y Bil yn canolbwyntio'n briodol ar ddiwallu anghenion grwpiau penodol, mae hefyd yn cymryd camau pwysig er budd cymunedau cyfan. Bydd y gofyniad i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau o fudd i gymunedau drwy helpu i sicrhau bod penderfyniadau pwysig a gymerwyd yng Nghymru yn cael eu llywio gan asesiad o'u heffaith debygol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yn galluogi'r system i ddiwallu anghenion cymunedau lleol yn well ac yn adlewyrchu swyddogaeth iechyd cyhoeddus hanfodol fferyllfeydd cymunedol yn well. Mae'r gofyniad i awdurdodau lleol baratoi strategaethau tai bach lleol yn annog ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i'r afael â mater iechyd cyhoeddus cymhleth.

Er bod y Bil eisoes wedi elwa o graffu trylwyr yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd, yn gwbl briodol, yn defnyddio dull trylwyr iawn o graffu yn ystod Cyfnod 1, fel y dengys y dadansoddiad manwl a ddarperir yn y tri adroddiad pwyllgor. Rwy’n bwriadu ymateb yn ffurfiol i'r adroddiadau hynny, ond rwy’n falch heddiw o amlinellu fy myfyrdodau cychwynnol arnynt.

O'r 19 o argymhellion gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rwy'n falch o ddweud fy mod i'n debygol o allu ymateb yn gadarnhaol i’r mwyafrif mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bwriadaf gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a fydd yn ymateb yn uniongyrchol i rai o'r argymhellion. Bydd y rhain yn cynnwys gwelliannau sy’n ymateb i argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â throseddau y bydd awdurdodau lleol yn gallu rhoi ystyriaeth iddynt wrth ystyried ceisiadau am drwyddedau gweithdrefnau arbennig. Bydd hyn yn enghraifft bendant o sut y bydd y broses graffu a mewnbwn gan randdeiliaid wedi cryfhau'r Bil yn uniongyrchol ac yn sylweddol. Rhagwelaf y bydd hefyd feysydd eraill lle rwy'n gallu ymateb yn gadarnhaol i awgrymiadau pwyllgorau mewn ffyrdd heblaw gwelliannau i'r Bil. Er enghraifft, byddaf yn gweithio gyda phartneriaid i gynhyrchu gwybodaeth sy'n cynorthwyo'r cyhoedd i leoli cyfleusterau tai bach sydd ar gael at ddefnydd lleol.

Fodd bynnag, er nad wyf yn anghytuno â'r bwriad sydd y tu ôl i'r argymhellion, bydd nifer cyfyngedig o achosion pan na fyddaf yn gallu ymateb yn union yn y modd y mae adroddiad y pwyllgor yn ei argymell. Er enghraifft, nid wyf yn gallu ychwanegu triniaethau laser at y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig ar hyn o bryd o ganlyniad i nifer o faterion, gan gynnwys y risgiau posibl o ddyblygu rheoleiddio. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu ar gyfer ymchwilio ymhellach i’r mater hwn maes o law, gan ganiatáu ar gyfer ymgynghori'n briodol ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, awdurdodau lleol a'r cyhoedd.

Mae rhai o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor yn codi materion cymhleth, sy'n gofyn am ystyriaeth drylwyr. Rwy'n arbennig o ymwybodol o'r ystyriaeth fanwl y mae’r pwyllgor wedi’i rhoi o ran cyfyngu ar yr oedran mwyaf priodol ar gyfer triniaethau rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff, er enghraifft. Rwyf wedi nodi'n flaenorol fy mod yn edrych eto’n fanwl ar y mater hwn o ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod Cyfnod 1 ac rwy’n gobeithio y gallaf amlinellu fy safbwynt heddiw. Yn anffodus, oherwydd yr ystyriaethau cymhleth dan sylw, mae'r gwaith manwl angenrheidiol, er ei fod bron wedi'i gwblhau, yn parhau. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i sicrhau’r Aelodau fy mod yn rhoi ystyriaeth weithredol a thrylwyr iawn i'r mater hwn, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag yr wyf yn gallu gwneud hynny.

Mae mater cymhleth arall a godwyd gan y pwyllgor yn ymwneud ag ymestyn gofynion di-fwg i leoliadau ychwanegol. Er fy mod yn cydnabod y bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor ar y pwynt hwn, mae materion o'r fath yn eu hanfod yn gymhleth. Hoffwn bwysleisio bod darpariaethau'r Bil sydd, am y tro cyntaf erioed, yn ceisio ymestyn gofynion di-fwg i dri man agored, eisoes yn dangos ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i'r egwyddor o ymestyn ardaloedd di-fwg, gyda'r nod o atal plant rhag gweld smygu fel gweithgaredd arferol a bob dydd. Fel arwydd pellach o'n hymrwymiad i'r egwyddor hon, gallaf gadarnhau heddiw fy mod i'n rhoi ystyriaeth weithredol i bedwerydd lleoliad, sef lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan ymateb yn uniongyrchol i drafodaethau'r pwyllgor. Fodd bynnag, oherwydd y gwaith manwl angenrheidiol, nid wyf yn gallu ymrwymo i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2, ond rwy’n rhagweld y gellir cwblhau’r gwaith hwn i fy ngalluogi i gyflwyno gwelliannau gerbron y Cynulliad yn ystod Cyfnod 3.

Gan droi yn fyr at argymhellion y pwyllgorau eraill, mae hefyd rai meysydd lle’r wyf o blaid gwneud ymatebion cadarnhaol. Mae'r rhain yn cynnwys cadw at fy ymrwymiad blaenorol i gyflwyno gwelliannau yn ymwneud ag awdurdodau gorfodi, a fydd yn helpu i leddfu pryderon sy'n sail i argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Gallaf hefyd ddweud, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, fy mod i'n barod i ystyried y potensial ar gyfer nodi cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu’r Bil yn gynnar, gan gydnabod rhan hanfodol y sector mewn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon, ac adeiladu ar y ffyrdd sylweddol y mae'r Bil eisoes wedi cael ei gynllunio i helpu awdurdodau lleol i fodloni rhwymedigaethau y bydd y Bil yn eu gosod arnynt.

Mae heddiw yn nodi carreg filltir bwysig yn nhaith y Bil hwn. Rwy’n credu bod y broses graffu hyd yn hyn wedi bod o gymorth sylweddol, ac edrychaf ymlaen at gyfraniad yr Aelodau at y broses barhaus honno yn ystod y ddadl heddiw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:22, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau eraill o’r pwyllgor. Mae ein ffordd golegol o weithio wedi galluogi gwaith craffu cadarn ac, yn fy marn i, wedi ein harwain ni i ddatblygu casgliadau ac argymhellion clir i’r Gweinidog. Dylwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddweud ein bod yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth inni yn un o’n cyfarfodydd ffurfiol, a bu sawl un o’r rheini.

Nawr, yn naturiol, mae iechyd y cyhoedd yn hanfodol bwysig, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o’r ystadegau echrydus sy’n amharu ar iechyd ein pobl—19 y cant o oedolion yng Nghymru yn dal i smygu, 40 y cant o oedolion yn yfed mwy o alcohol nag y dylen nhw, a thros hanner y boblogaeth yn rhy dew a ddim yn cadw’n heini yn rheolaidd. Fel yr ydym ni wedi’i glywed, dyma’r ail dro i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ddod gerbron y Cynulliad. Rydym ni i gyd yn gwybod na chafodd y cynnig i gymeradwyo’r Bil blaenorol ei dderbyn gan y pedwerydd Cynulliad, ac felly ni ddaeth yn Ddeddf. Mae’r Bil ger ein bron nawr yn cynnwys y cynigion gwreiddiol a gafodd eu hystyried gan y Cynulliad blaenorol, ond heb y darpariaethau sy’n cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin—e-sigarennau—mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae’r pwyllgor iechyd wedi clywed siom gan rai bod y darpariaethau hyn wedi cael eu dileu. Fodd bynnag, barn y mwyafrif llethol o’r tystion oedd y bydd y Bil hwn yn helpu’r rheini sy’n gweithio yn y maes i yrru’r agenda o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ei blaen, ac mae’n rhaid caniatáu i’r Bil symud ymlaen y tro hwn.

I droi at y casgliadau a’r argymhellion, rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion fydd yn cryfhau’r ddeddfwriaeth, yn ein barn ni, fel yr ydym ni wedi’i glywed, a byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ddim ond rhai o’r rheini, yn nhermau amser. Nawr, rydym ni’n croesawu’r cyfyngiadau arfaethedig ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Rydym ni yn credu y bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu pobl rhag niwed mwg pobl eraill, yn ogystal â darparu llai o gyfleoedd i weld pobl yn smygu. Nid yw’n rhywbeth normal i’w wneud. Fodd bynnag, rydym yn credu bod angen manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i gynnig y lefel hon o amddiffyniad, ac felly rydym ni yn argymell bod y Gweinidog, fel mater o flaenoriaeth, yn ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i leoliadau addysg a gofal plant yn ystod y blynyddoedd cynnar—rwy’n clywed bod hynny wedi cael ei ganiatáu—gât yr ysgol a’r ardaloedd o amgylch meysydd chwarae cyhoeddus. Buaswn i’n licio pwyso yn benodol ar y Gweinidog. Dyna ein hargymhelliad rhif 3 ni.

Mae’r sylwadau nesaf yn ymwneud â'r mater o roi twll mewn rhannau personol o'r corff—‘intimate piercings’, felly. Mae'r Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn cynnig y dylai'r oed cydsynio ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff fod yn 16 mlwydd oed. Gwnaethom wrando ar y rhesymeg dros bennu'r terfyn oedran yn 16 oed, ac rydym ni’n gwybod mai dyma’r oedran cydsynio ar gyfer gweithgaredd rhywiol, ac, fel pwyllgor, rydym ni’n cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i benderfynu beth i’w wneud gyda’u cyrff eu hunain. Fodd bynnag, yna wnaethom ystyried hyn yn erbyn pwysau’r dystiolaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth ac iechyd amgylcheddol sydd wedi gweld eu hunain yr effaith y gall rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ei gael ar gorff sy’n dal i ddatblygu. Cawsom wybod bod ‘difrod sylweddol’ yn gallu cael ei wneud o ganlyniad i dyllu o’r fath.

Clywsom awgrymiadau hefyd o gysylltiad posibl rhwng rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person ifanc 16 i 17 mlwydd oed a cham-fanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc. Gwnaethom hefyd ddysgu wrth gasglu tystiolaeth y gallai rhoi twll mewn organau cenhedlu person dan 18 mlwydd oed gael ei ystyried yn fath o anffurfio organau rhywiol merched—‘female genital mutilation’, felly—dan ddiffiniad Sefydliad Iechyd y Byd, ac felly mae'n ddigwyddiad troseddol y dylid rhoi gwybod amdano i’r awdurdodau.

Ar y sail hon, nid ydym yn credu bod y cydbwysedd cywir wedi cael ei daro rhwng hawl pobl ifanc i gael llais a’r hawliau a ddylai fod gan bob person ifanc dan 18 mlwydd oed yng Nghymru i gael ei amddiffyn gan erthyglau confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Felly, rydym ni’n gwbl argyhoeddedig fel pwyllgor y dylai’r oedran cydsynio gael ei bennu’n 18 mlwydd oed, ac rydym wedi argymell bod adran 92 o’r Bil yn cael ei diwygio i wahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, neu wneud trefniadau ar gyfer hynny, ar gyfer person sydd o dan 18 mlwydd oed. Dyna argymhelliad 14.

Roeddem hefyd wedi ein synnu ac yn bryderus o glywed nad yw’r troseddau sy’n cael eu rhestru yn adran 63(3) o'r Bil a fyddai'n atal ymarferydd rhag cael trwydded i ddarparu triniaethau arbennig, sy’n cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff, yn cynnwys troseddau rhywiol. Rwy’n clywed beth mae’r Gweinidog wedi’i ddweud heddiw. Mae hyn, yn ein barn ni, yn bryder sylweddol a pherthnasol iawn o’i ystyried bod unrhyw un o’r triniaethau a enwir yn y Bil yn gallu cael eu gwneud ar ran bersonol o’r corff. Nid ydym yn derbyn fel pwyllgor bod y Bil hwn yn ‘Fil iechyd y cyhoedd’ yn hytrach na Bil ‘diogelu’. Yn wir, mae’r memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Bil yn sôn am yr angen i osgoi amgylchiadau lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallent fod yn agored i niwed. Felly, rydym yn gadarn o’r farn y dylai’r troseddau sy'n cael eu rhestru yn adran 63(3) gael eu diwygio i gynnwys ‘troseddau rhywiol’—argymhelliad 13.

Yn olaf, allwn ni ddim siarad am iechyd y cyhoedd heb grybwyll yr her fwyaf, fwy na thebyg, i iechyd y cyhoedd sy’n wynebu ein cenedl, sef gordewdra. Roedd yr arolwg diweddaraf o ran iechyd Cymru yn dangos bod 59 y cant o oedolion yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel eu bod dros eu pwysau neu’n ordew, gan gynnwys 21 y cant yn ordew. Mae gordewdra yn fygythiad mor ddifrifol i iechyd y boblogaeth na allwn ei anwybyddu, ni waeth pa mor anodd neu gymhleth yw’r her.

Rydym ni yn cytuno efo’r Gweinidog nad oes unrhyw un darn o ddeddfwriaeth yn gallu ymdrin â’r holl ffactorau sy’n ymwneud â gordewdra—bydd yn gofyn i ni ymdrin â’r mater o sawl ongl—ond rydym yn rhannu pryderon rhanddeiliaid bod diffyg unrhyw fesurau penodol i fynd i’r afael â’r mater yn y Bil. Yn wir, daeth i’n sylw wrth i ni gasglu tystiolaeth bod camau eisoes y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond nid yw’r pwerau presennol yn y maes hwn yn cael eu defnyddio i’r eithaf. Felly, rydym ni wedi annog y Gweinidog i ystyried ein hargymhelliad 2 ac ymchwilio i’r potensial, drwy’r ddeddfwriaeth hon ac o dan bwerau sydd eisoes yn bodoli, i gyflwyno Bilau i fynd i’r afael â gordewdra a materion eraill sydd â blaenoriaeth o ran iechyd y cyhoedd, fel ymestyn safonau maeth sydd eisoes mewn bodolaeth yn ysgolion i ysbytai a chartrefi preswyl, er enghraifft. Ond, ar y cyfan, rydym ni’n croesawu’r cynigion yn y Bil yn gyffredinol ac yn credu y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell, fel pwyllgor, bod y Cynulliad yn derbyn yr egwyddorion cyffredinol yma heddiw. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:30, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n siŵr ei fod yn arwydd o pa mor bwysig yw iechyd y cyhoedd bod, rwy’n credu, tri phwyllgor yn mynd i adrodd ar y Bil yma wrth inni fwrw drwyddi.

Rwy’n credu ei fod yn bwysig i ni ddweud yn y lle cyntaf fod y pwyllgor wedi croesawu’r ffaith bod gwelliant sylweddol wedi bod o ran cyflwyno’r Bil yma o’i gymharu â’r Bil blaenorol yn y ffordd mae’r costau a’r manteision wedi’u cyflwyno yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Mae’r pwyllgor wedi adrodd o’r blaen pa mor bwysig yw hi bod y wybodaeth yma mor glir â phosibl er mwyn osgoi dryswch. Mae’n dda, felly, croesawu’r ffaith fod y Bil yma yn gwneud hynny’n fwy clir na’r Bil a gyflwynwyd yn y Cynulliad diwethaf.

Rydym hefyd yn croesawu’r sicrwydd a gafwyd gan y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i wella’r wybodaeth ariannol a roddir mewn asesiadau effaith rheoleiddiol. Mae hwn yn fater y byddwn yn parhau, fel Pwyllgor Cyllid, i’w fonitro wrth graffu ar oblygiadau ariannol deddfwriaeth a gyflwynir yn ystod y Cynulliad hwn.

Y prif destun pryder, o ran cyllid yn y Bil, sydd wedi’i amlygu yn ein hadroddiad ni yw’r ffaith fod baich ariannol yn cael ei roi ar gyrff cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, o ran gweithredu darpariaethau’r Bil. Rydym wrth gwrs yn sylweddoli bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi arian drwy ffioedd, yn enwedig trwy gofrestriadau ar y gofrestr nicotin, ceisiadau i drwyddedu ymarferwyr triniaethau arbennig a hysbysiadau cosb benodedig. Wrth gwrs, fe all awdurdodau lleol yn eu tro ail-fuddsoddi’r arian hwn er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau arolygu.

Fodd bynnag, roeddem ni’n bryderus o hyd fod y buddsoddiad y mae disgwyl i awdurdodau ei wneud i roi’r Bil ar waith yn faich anghyBil, o ystyried na fyddent yn elwa ar y buddion arfaethedig am gryn amser. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog, wrth agor y ddadl yma, wedi dweud bod y Llywodraeth yn ailedrych ar yr agwedd yma ac yn edrych ar sut y gellir ariannu o leiaf costau cychwynnol y Bil a chynorthwyo awdurdodau cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, sydd yn gorfod gweithredu’r Bil, os daw yn Ddeddf, cyn cael y ffordd o gasglu arian refeniw o ddarpariaethau’r Bil.

Mae’n codi cwestiwn ehangach, Ddirprwy Lywydd, ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i lywodraeth leol ysgwyddo baich y cyfrifoldebau newydd, ac mae’r Pwyllgor Cyllid yn ymwybodol iawn fod, yn y gorffennol, cytundeb wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu cyfrifoldebau newydd wrth gyflwyno deddfwriaeth. Mae hynny’n fater efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ddychwelyd ato.

Rydym hefyd yn nodi nad yw’r wybodaeth ariannol a ddarperir yn dangos a fyddai awdurdodau lleol yn casglu swm digonol drwy hysbysiadau cosb benodedig i dalu am y gost o orfodi’r darpariaethau, yn benodol wrth gwrs yn gysylltiedig â’r gofrestr nicotin. Mae’r ffaith nad yw’r wybodaeth hon ar gael yn destun pryder inni, gan y gallai manylion o’r fath gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu’r goblygiadau ariannol a allai fod ynghlwm wrth roi darpariaethau’r Bil ar waith. Credwn ei fod yn bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyhoeddi faint o arian a godir gan bob awdurdod lleol drwy incwm hysbysiadau cosb benodedig i dalu’r costau gorfodi—hynny yw, ein bod yn cael cadw golwg a monitro’r costau y mae’r awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth orfodi’r polisi yn eu cymunedau nhw.

Fe fyddai awdurdodau lleol hefyd yn wynebu costau yn sgil paratoi strategaethau tai bach. Er na ddylai’r costau hyn fod yn sylweddol iawn, rydym yn cwestiynu a fyddai’r broses o baratoi strategaeth ohoni’i hun yn arwain at well mynediad at dai bach i’r cyhoedd, ac felly a fyddai’r buddsoddiad yn rhoi gwerth am arian. Rydym wedi argymell, felly, y dylai Llywodraeth Cymru adolygu pa mor effeithiol fyddai’r darpariaethau sy’n ymwneud â thai bach cyhoeddus—rhywbeth a ddenodd gryn sylw gan y cyhoedd, rwy’n gwybod, wrth edrych ar y Bil hwn.

Yn olaf, hoffwn ailadrodd ein hargymhellion yn ymwneud â chostau gweithredu’r darpariaethau o safbwynt is-ddeddfwriaeth. Rydym yn sylweddoli y caiff asesiadau effaith rheoleiddiol eu paratoi i ddangos y costau a’r manteision wrth i bob gwahanol ddarn o is-ddeddfwriaeth gael ei gyflwyno. Er hynny, nid yw gwybodaeth o'r fath yn cael ei chynnwys yn y costau a'r manteision ar gyfer y Bil hwn. Rydym yn credu bod y wybodaeth hon yn bwysig er mwyn galluogi'r Cynulliad i ddeall y costau a'r manteision yn llawn. Rydym felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu dull mwy cyson o ddarparu costau sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ar gyfer pob Bil er mwyn gallu craffu’n well ar gostau a manteision llawn pob Bil.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:35, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw un yn beirniadu’r Bil hwn am ddioddef o ddiffyg craffu wrth i mi gamu ymlaen fel y trydydd mewn triwriaeth o Gadeiryddion pwyllgorau.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau pwyllgor am eu gwaith craffu diwyd ar hyn ac am eu diwydrwydd cyson wrth graffu ar yr amrywiol Filiau sy'n dod ger ein bron. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 10 Chwefror, a hoffwn i amlinellu'n fras ein canfyddiadau gydag ychydig o sylwadau yn unig. Ond, cyn i mi wneud hynny, rwy’n credu y byddai'n gwneud synnwyr inni edrych yn ôl ar y gwaith a wnaed gan y pwyllgor a’n rhagflaenodd ar Fil tebyg yn y pedwerydd Cynulliad dan ein Cadeirydd blaenorol, sydd yma gyda ni heddiw.

Pan adroddodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd ar y Bil, gwnaeth naw argymhelliad i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chafodd saith ohonynt eu derbyn. Yna cyflwynodd y Gweinidog welliannau i weithredu’r saith argymhelliad hynny yng Nghyfnod 2 a chytunwyd ar y rhain gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y pedwerydd Cynulliad.

Fel y nododd y Gweinidog, un o'r prif wahaniaethau rhwng y Bil ger ein bron heddiw a’r un y cytunwyd arno yng Nghyfnod 3 yn y Pedwerydd Cynulliad, wrth gwrs, yw cael gwared ar y cyfyngiad ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau fel ysbytai, ysgolion, siopau, sefydliadau bwyd ac ar gludiant i’r ysgol a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfeirio at newidiadau eraill yn y Bil.

Yn ein barn ni, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, efallai y byddai wedi bod yn ddefnyddiol ac, yn wir, yn fwy tryloyw, pe byddai’r memorandwm esboniadol mewn gwirionedd wedi cymharu’r ddau Fil a'r gwahaniaethau sydd wedi dod i’r amlwg dim ond er hwylustod deall, nid yn unig i ddeddfwyr ond i aelodau'r cyhoedd hefyd. Gall fod yn rhywbeth y byddwn yn dymuno edrych arno yn y dyfodol hefyd—mae'n hawdd ei gyflawni; byddai wedi helpu aelodau a rhanddeiliaid, yn ogystal â lleygwyr, i ddeall sut mae syniadau wedi symud ymlaen, ac wedi hwyluso’r broses graffu er budd dinasyddion Cymru.

Un o argymhellion y pwyllgor a’n rhagflaenodd i Lywodraeth Cymru oedd ei gwneud yn ofynnol ar wyneb y ddeddfwriaeth mai awdurdodau cyhoeddus fyddai’r awdurdodau gorfodi. Ni chafodd yr argymhelliad hwnnw ei dderbyn, ac, yn ein gwaith craffu ni, nodwyd gennym fod y Bil newydd yn parhau i ddefnyddio’r un dull o weithredu. Fodd bynnag, rydym yn falch iawn, o ganlyniad i waith pellach gan y Llywodraeth, fod y Gweinidog wedi dweud wrthym ei fod yn fwriad ganddi gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i fodloni argymhelliad y pwyllgor a’n rhagflaenodd. Rydym yn croesawu penderfyniad y Gweinidog yn fawr iawn ac yn ystyried y bydd hyn yn cryfhau'r Bil drwy roi mwy o eglurder.

Rwyf am droi yn awr at yr argymhelliad yn ein hadroddiad cyfredol sy'n ymwneud â’r awdurdodau gorfodi hynny. Roeddem yn argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i sicrhau bod awdurdodau gorfodi yn gwbl ymwybodol o'u rhwymedigaethau hawliau dynol pan fyddant, er enghraifft, yn mynd i mewn i gartrefi pobl. Yn benodol, fe wnaethon ni awgrymu y gellid cyflawni hyn drwy gyhoeddi canllawiau. Credwn y byddai hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hawliau dynol wrth gyflawni’n benodol y dyletswyddau gorfodi mewn ffordd fwy effeithiol nag y gellid eu cyflawni trwy ymgyrch gyfathrebu syml. Felly, tybed a allai'r Gweinidog egluro ymhellach ei bwriadau o ran yr argymhelliad hwn.

Ond, rydym yn croesawu sylwadau'r Gweinidog heddiw a hefyd ei hymgysylltiad gweithredol—ei hymgysylltiad cadarnhaol—â gwaith y pwyllgor. Mae hi wedi cymryd rhan bositif iawn ac mae hi wedi ymateb yn bositif i graffu’r pwyllgor hwn a gwaith y pwyllgor a’n rhagflaenodd, a diolchwn iddi am hyn—mae hyn i gyd yn dda i ansawdd y craffu o fewn y sefydliad hwn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:39, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o allu sefyll yma a siarad am Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Weinidog, hoffwn i ddweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Wrth i ni fwrw ymlaen gyda’r ychydig gamau nesaf, byddwn yn ceisio dod â gwelliannau pellach i'r Bil a byddwn yn ceisio sicrhau bod yr asesiad ariannol o gost y Bil hwn yn cyd-fynd â'r gwelliannau wrth iddynt gael eu gwneud.

Hoffwn geisio cyffwrdd yn fyr â nifer o feysydd. Roeddwn yn falch iawn o glywed eich sylw eich bod yn bwriadu ymestyn y parthau di-fwg i leoliadau blynyddoedd cynnar. Mae hynny'n cyd-fynd â'n dymuniad ni, ac rydym yn falch iawn â phwyslais cyffredinol y Bil o ran cynhyrchion tybaco a nicotin. Rydym yn pryderu rhywfaint, fodd bynnag, na fydd y gofrestr arfaethedig yn cyflawni'r canlyniad a ddymunir o ran atal y fasnach farchnad ddu mewn sigaréts a chynhyrchion tybaco. Dyna’r maes, wrth gwrs, yr ydym yn ceisio ei gyrraedd, ac os nad ydym yn ofalus gallem gael system feichus sy'n targedu’r rhai y gwyddom amdanynt, yn hytrach na system ychydig yn gyflymach sy'n cyrraedd y bobl nad ydym yn gwybod amdanynt ac yr ydym yn awyddus i’w hatal.

Hoffwn i droi at y maes nesaf, sef maes gweithdrefnau arbennig. Rwy’n drist nad ydych yn mynd i fod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor ar driniaethau laser. Mae hynny'n peri i ni feddwl—y Ceidwadwyr Cymreig—oherwydd ein bod rhwng dau feddwl ynghylch a hoffem ddilyn y disgrifiad cyffredinol o driniaethau neu a ddylem dderbyn eich rhesymeg chi y dylem eu hychwanegu un ar y tro, wrth i’r niwed a brofwyd ddigwydd. Felly, hoffwn i ddeall eich meddylfryd chi y tu ôl i'r penderfyniad i wrthod argymhelliad y pwyllgor, oherwydd dyma ni yn y cam cyntaf pryd y gallem ofyn i chi ystyried ychwanegu rhywbeth ac mae'r Llywodraeth yn dweud 'na'. Felly, a yw hynny'n golygu, os ydym yn edrych ar feysydd eraill yn y dyfodol—gwaredu blew'r corff yn llwyr, er enghraifft—neu os ydym yn edrych ar gwpanu a meysydd eraill sydd bellach yn dechrau ymddangos— hollti tafod—fel triniaethau a allai fod yn niweidiol, a fydd hynny’n golygu 'na' yn awtomatig? Felly, hoffwn i gael dealltwriaeth glir o'r broses yr aethoch drwyddi a'r rhesymeg y tu ôl iddi, oherwydd fel arall bydd angen i ni ystyried sut yr ydym yn meddwl y gallwn ni gryfhau wyneb y Bil hwn.

Mae amddiffyn y cyhoedd rhag niwed yn gwbl allweddol i'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud a hoffwn gael eglurhad o dystiolaeth eich swyddog a ddywedodd mai diben y ddeddfwriaeth oedd sicrhau bod y gweithdrefnau yn cael eu cynnal mewn ffordd ddiogel a hylan ac nad oedd yn fater diogelu, oherwydd, unwaith eto, tra fy mod yn dal i sôn am roi twll mewn rhannau personol o’r corff a maes gweithdrefnau arbennig, rhaid i mi ddweud bod hyn yn gwrthddweud yn uniongyrchol y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor. Nid yw’n ymwneud yn unig â’r heintiau y mae modd eu cael; mae hefyd yn ymwneud â chymhwysedd y broses o wneud penderfyniadau, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed, atal cam-fanteisio rhywiol ac atal rheolaeth gymhellol. Yn gynharach heddiw, cawsom gwestiwn gwych gan Joyce Watson am anffurfio organau rhywiol merched, ac fe'i gwnaed yn glir iawn i ni yn rhywfaint o'r dystiolaeth a gawsom na ellir gwrthdroi rhai o'r gweithdrefnau hyn. Mae rhai o'r gweithdrefnau hyn yn cael eu hystyried i fod yn sylweddol neu—ac rwy’n mynd i ddyfynnu—yn ‘ail-gyflunio mawr ar anatomeg yr organau rhywiol'. Gall rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn 16 oed, os ydych wedi’ch cael eich hun mewn cwmni sy'n arfer rheolaeth gymhellol drosoch, fod yn rhywbeth yr ydych yn byw i’w ddifaru pan fyddwch yn 25, 26, neu 27 oed. Hefyd, os edrychwn ar Ymgyrch Seren, gallwn weld bod llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan Ymgyrch Seren yn bobl ifanc. Roedd llawer ohonynt yn blant a oedd yn derbyn gofal. Roeddent yn agored iawn i niwed ac felly byddwn yn eich annog, Weinidog, i fod yn wirioneddol benodol ac yn glir yn eich dadansoddiad o’r oedran cydsynio ar gyfer rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff ac ar gyfer pob un o'r gweithdrefnau hyn. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ar oedran cydsynio o 18 oed. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am weld 18 oed. Byddwn yn wir yn hoffi eich gweld chi’n barod i gytuno â ni ar hyn.

Hoffwn droi yn fyr iawn at un pwnc arall yn unig, o ystyried yr amser, sef gordewdra.  Weinidog, mae hwn yn Fil iechyd y cyhoedd a dyma'r un pwnc nad yw’n cael ei grybwyll o gwbl. Rhagwelir y bydd yn lladd llawer iawn o bobl yng Nghymru yn ystod y degawdau sydd i ddod. Byddem yn eich annog i gymryd tystiolaeth bellach ac ystyried sut y gellid teilwra’r Bil hwn mewn ffordd a fydd yn galluogi awdurdodau iechyd lleol, cynghorau lleol a'r Llywodraeth i fynd ati i hyrwyddo strategaeth gwrth-gordewdra. Gyda mwy na 59 y cant o bobl Cymru dros bwysau, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar gyflyrau meddygol eraill, mae hyn, a bod yn onest, yn gyfle a gollwyd i gael Bil iechyd y cyhoedd nad yw'n cyffwrdd â’r un pwnc hollbwysig hwn. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:44, 28 Chwefror 2017

Yn gyntaf, byddwn yn dymuno atseinio holl sylwadau Cadeirydd y pwyllgor. Rydw i wir yn gweld bod yna werth i’r ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn ni’n cydsynio iddi fynd i’r cam nesaf yn sicr, lle gobeithio y gallwn ni ei chryfhau a’i diwygio. Ond mae’n bwysig iawn, rydw i’n meddwl, ein bod ni, ar y pwynt yma, yn ymwybodol iawn o gyfyngiadau y Bil yma, rhag codi disgwyliadau pobl yn ormodol. Mae yna elfennau pwysig iawn ynddo fo, heb os, ond mae yna lawer sydd ddim ynddo fo, ac mi fydd angen deddfu cryfach, heb os, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn fwy iach go iawn yng Nghymru, waeth pa mor bwysig ydy’r camau sydd yn y Bil yma ar dyllu y corff a thatŵs ac, yn bwysig iawn, ar ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu, ac yn y blaen.

Fel rydym newydd ei glywed, mynd i’r afael â gordewdra ydy prif her iechyd cyhoeddus ein hamser ni. Rydym i gyd yn gwybod yr ystadegau am yr effaith ariannol mae gordewdra yn ei gael ac y bydd yn ei gael ar yr NHS, ac am yr effaith ddynol mae o’n ei gael ar bobl yn ein cymunedau ni. Ond y cwestiwn ydy: beth allwn ni a beth ddylem ni ei wneud am y peth? Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu yn sicr fod yna sawl gwers y gallwn ni eu dysgu o’r ymdrechion i fynd i’r afael ag ysmygu dros y degawdau diwethaf, a bod y rheini yr un mor berthnasol yn erbyn gordewdra. Mi oeddwn i eisiau Bil yn y fan hyn a oedd yn ceisio ymateb i’r argyfwng mwyaf yna sydd yn ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd, ac mi fyddwn innau yn apelio ar y Llywodraeth i barhau i chwilio am ffyrdd, drwy’r Bil yma, i gymryd camau pendant. Ond, yn anffodus, mae wedi bod yn broses rwystredig yn y pwyllgor hyd yma. Rydym wedi gweld bod y diffyg pwerau, o bosib, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn atal rhai o’r camau y byddem ni, yn sicr, ym Mhlaid Cymru yn dymuno eu cymryd—gwahardd hysbysebu rhai mathau o fwydydd, trethu rhai mathau o fwydydd a diodydd ac yn y blaen.

Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio bod yna lawer yn y maes yma y gall y Llywodraeth ei wneud heb ddeddfu. Mae angen cyfathrebu yn llawer mwy effeithiol efo pobl ac efo gweithwyr proffesiynol hefyd am ddeiet iach, pwysigrwydd ymarfer corff ac yn y blaen. Mae eisiau i’r Llywodraeth feddwl yn fwy cydgysylltiedig. Nid yw’n syniad da cyfyngu ar oriau canolfannau hamdden neu gau canolfannau hamdden yn ystod argyfwng gordewdra. Mae eisiau buddsoddi, rywsut, mewn adnoddau i ganiatáu a hybu bywyd iach, fel rydym ni yn buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd. Nid oes angen deddfu bob amser, ond rwy’n meddwl y bydd angen deddfu, ac rwy’n edrych ymlaen at pan fyddwn ni’n gallu deddfu mwy. Nid dyma fydd y Bil iechyd y cyhoedd olaf, heb os, ond nid dim ond gordewdra—fe allwn ni edrych ar faterion fel atal llygredd, er enghraifft, fel meysydd arall.

Mi fyddwn i hefyd yn licio tynnu sylw at ba mor bwysig ydy bod craffu ar ôl deddfu yn digwydd i raddau mwy nag efallai y mae o wedi cael ei wneud o’r blaen, os ydy’r Bil yma yn pasio. Rydym wedi gweld dro ar ôl tro, pan mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, fod ein sylw ni weithiau yn gallu crwydro oddi wrth y nod go iawn, a’n bod ni’n methu â monitro y cynnydd sy’n cael ei wneud o ganlyniad i Fil.

Mae hyn yn ein harwain ni at fy mhwynt olaf i ynglŷn ag asesiadau effaith ar iechyd. Mi oeddem ni yn sicr fel plaid yn eiddgar i weld asesiadau effaith ar iechyd yn dod i’r Bil gwreiddiol. Mi lwyddodd y pwysau yna i weithio. Mi osodwyd hyn, ac roeddem yn ddiolchgar i’r Llywodraeth ddiwethaf am roi hyn ar wyneb y Bil hwnnw, er i’r Bil fethu yn y pen draw. Ac mae hynny’n berthnasol y tro yma hefyd. Rydym i gyd yn cefnogi ac yn deall y rhesymau pam ein bod ni eisiau i sefydliadau gynnal asesiadau effaith ar iechyd, ond mi fyddwn i’n rhybuddio’r Gweinidog ar y pwynt yma mai yn y gweithredu y bydd y manteision yn cael eu Bil go iawn. Yn rhy aml, rwy’n meddwl, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld asesiadau cydraddoldeb neu asesiadau effaith amgylcheddol yn cael eu gwneud, ond yna’n cael eu hanwybyddu. Gyda llaw, rwy’n cefnogi ychwanegu’r gair ‘llesiant’—asesiadau iechyd a llesiant. Dyna sy’n bwysig, ond allwn ni ddim gadael i’r asesiadau hynny fod yn ymarfer ticio bocsys.

Felly, ar y cyfan, y neges i gloi ydy na ddylem ni ddim edrych ar basio’r ddeddfwriaeth yma fel diwedd y daith—y nod o gael poblogaeth iachach rydym ni’n anelu ato fo. Mae yna fesurau pwysig, yn sicr, yma o ran creu poblogaeth fwy diogel, ond gadewch inni fynd drwy’r broses rŵan—cynnig gwelliannau, cynnig ffyrdd o gryfhau’r hyn sydd gennym ni o’n blaenau ni rŵan, tra’n cadw mewn cof yr hyn y dylem ni fod yn anelu ato fo yn y pen draw.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:50, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Conffederasiwn GIG Cymru wedi galw’r Bil hwn yn

gyfle unigryw i godi proffil iechyd y cyhoedd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a lleihau'r galw ar y GIG. Mae nifer o siaradwyr eisoes wedi crybwyll pwysigrwydd mynd i'r afael â gordewdra a’i absenoldeb o'r Bil hwn, ond rwyf am godi un mater arall sy'n gysylltiedig â gordewdra, ond sydd, yn fy marn i, yn fater iechyd y cyhoedd hyd yn oed yn fwy o ran y niwed y mae'n ei wneud, a rheoli prisiau alcohol yw hwnnw.

Diod sy’n lladd y nifer uchaf o bobl rhwng 15 a 50 oed. Rydym hefyd yn gwybod bod 40 y cant o'r holl oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod yn yfed alcohol uwchlaw'r terfyn dyddiol a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn yr wythnos ddiwethaf. Mae'r rheini'n ystadegau eithaf brawychus, a byddwn wedi meddwl bod gennym rwymedigaeth i wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r ffaith bod alcohol yn llawer rhy rad a bod pobl felly'n gallu yfed llawer iawn ohono, hyd yn oed os ydynt ar incwm isel iawn.

Mae camddefnyddio alcohol yn arwain yn uniongyrchol at dros 1,500 o farwolaethau yng Nghymru ac mae nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd camddefnyddio alcohol yn costio bron 110 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwybod bod llawer iawn o bobl yn tagu'r system damweiniau ac achosion brys, er gwaethaf y gwyriad yr ydym yn ymdrechu i’w weithredu yma yng Nghaerdydd i gadw pobl yn ddiogel yng nghanol y ddinas heb orfod eu hanfon i’r ysbyty. Ond, yn anffodus, mae llawer ohonynt yn mynd i’r ysbyty ac maent yn tagu'r system ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn.

Felly, rwy'n siomedig iawn nad ydym wedi cael unrhyw beth ar alcohol yn y Bil hwn eto, yn enwedig gan fy mod yn credu ei fod yn cael cefnogaeth ar draws y Siambr. Yn wir, pan ofynnais i'r Prif Weinidog am hyn ddiwedd mis Ionawr, cadarnhaodd fod y Llywodraeth yn cefnogi cyflwyno isafswm pris uned fel rhan o becyn o fesurau gyda'r nod o leihau effaith camddefnyddio alcohol ar unigolion, cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, byddwn yn awyddus iawn i wybod pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i gynnwys isafbris am alcohol yn y Bil hwn, oherwydd ar hyn o bryd mae gennym sefyllfa lle mae alcohol yn cael ei werthu, i bob pwrpas, am bris rhatach na dŵr.

Rydym yn gwybod bod isafbris alcohol yn achub bywydau oherwydd mewn rhannau o Ganada, lle mae isafbris wedi cael ei weithredu, mae wedi arwain at leihad amlwg yn y swm y mae pobl yn ei yfed, gyda llai o dderbyniadau i'r ysbyty a llai o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, rwy’n credu bod gennym rwymedigaeth i wneud rhywbeth am hyn. Rydym yn gwybod bod isafbris alcohol yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r alcohol rhad a chryf sy’n cael ei werthu mewn archfarchnadoedd a siopau trwyddedig: diodydd fel fodca neu gin eu brandiau eu hunain, seidr gwyn cryf a lager cryfder uwch, a gynhyrchwyd yn bennaf yn y DU. Y bobl sy'n elwa fwyaf o hyn yw'r rhai sy'n yfed ar lefelau niweidiol, yn enwedig y rhai ar yr incwm isaf, sef y rheini na all fforddio colli diwrnod o'r gwaith.

Yn anffodus, ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol, oherwydd bod y Llywodraeth glymblaid wedi bradychu’r achos dros hyn yn 2013, ar y sail nad oedd digon o dystiolaeth gadarn. Wel, byddwn yn dweud bod digon o dystiolaeth y gall hyn weithio. Mae'r diwydiant alcohol—rydym yn gwybod y byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wrthsefyll prisiau cyfrifol, fel y gwelsom yn yr Alban, lle pasiodd Senedd yr Alban ddeddfwriaeth ar hyn mor gynnar â 2012, ond mae'r cyfan wedi cael ei ddal yn ôl yn y llysoedd oherwydd bod y Scotch Whisky Association yn ei herio yng Ngoruchaf Lys y DU. Ni allwn aros 30 mlynedd arall i fynd i'r afael ag alcohol fel y bu'n rhaid i ni dreulio 30 mlynedd yn brwydro yn erbyn niwed smygu. Felly, byddwn yn gobeithio y byddem yn gallu cynnwys hyn yn y Bil, ac y gallai rhywfaint o'r arian a godir ein galluogi ni i gadw ein canolfannau hamdden ac ati yn agored. Byddai'n codi symiau defnyddiol o arian i helpu i drin pobl â chlefyd alcohol ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd at geisio brwydro yn erbyn y miliynau o bunnoedd sy'n cael eu gwario gan y diwydiant diodydd i annog pobl i yfed llawer mwy nag sy’n dda iddynt.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:55, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, hoffwn ddiolch i'n Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor am y ffordd golegol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y Bil hwn. Hefyd, diolch i swyddogion iechyd ac asiantaethau allanol am ddarparu eu tystiolaeth i ni.

Bydd UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae llawer i’w ganmol am y Bil hwn. Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd i gryfhau’r cyfyngiadau ar werthu cynnyrch tybaco a nicotin i bobl ifanc. Rydym yn croesawu'r bwriad i atal smygu mewn mannau lle mae plant yn bresennol. Rydym yn croesawu’r camau a gymerir i wella iechyd a diogelwch o ran tatŵio a thyllu, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n cyflawni’r gweithdrefnau hyn yn cael eu trwyddedu a'u cofrestru. Teimlir bod angen ystyried ymhellach a yw oedran cydsynio o 16 yn rhy ifanc ar gyfer rhoi twll mewn rhannau personol o’r corff. Rydym hefyd yn croesawu’n fawr cyflwyno’r asesiadau effaith ar iechyd.

Fodd bynnag, mewn llawer o feysydd, nid yw’r Bil yn mynd yn ddigon pell. Fel y dywedodd llawer o rai eraill, nid yw’r Bil iechyd y cyhoedd bondigrybwyll hwn yn mynd i'r afael â her fwyaf ein hoes ni i iechyd y cyhoedd: yr epidemig gordewdra sy'n wynebu ein cenedl. Mynegodd llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni ar y pwyllgor iechyd eu siom nad yw’r Bil yn gwneud dim i fynd i'r afael â gordewdra, camddefnyddio alcohol, ansawdd aer gwael neu unigrwydd ac arwahanrwydd. Rwy’n rhannu eu siom ac yn gobeithio y gallwn fynd i'r afael â'r diffygion hyn yn ystod hynt y Bil drwy'r pwyllgor iechyd.

Mae un o fy siomedigaethau mwyaf gyda'r Bil fel y mae yn ymwneud â’r ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus. Mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y Bil yn cydnabod yr anghysonderau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus ledled Cymru a'r ffaith nad oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu tai bach cyhoeddus. Er ei bod yn fwriad gan y Gweinidog i wella darpariaeth tai bach i bawb, mae llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd yn teimlo bod y Bil yn siom enfawr ac na fyddai'n arwain at unrhyw welliannau mawr. Yn anffodus, i lawer yn ein cymdeithas, mae diffyg tai bach cyhoeddus hygyrch yn ddedfryd o garchar. Mae pobl ag ystod o gyflyrau meddygol yn cael eu caethiwo yn eu cartrefi eu hunain, yn y bôn, oherwydd diffyg tai bach cyhoeddus ar draws Cymru. Ni fydd y ffaith bod y Bil ddim ond yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau baratoi strategaeth tai bach cyhoeddus yn gwneud dim i wella'r ddarpariaeth neu dawelu pryderon y rhai yr effeithir arnynt gan y diffyg darpariaeth. Roedd y pryderon hyn yn cael eu rhannu nid yn unig gan y grwpiau cleifion a'r comisiynydd pobl hŷn, ond hefyd gan Gydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd y Cyhoedd Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor iechyd y bydd y pwysau ariannol ar gynghorau yn golygu na fydd strategaeth yn gwella'r ddarpariaeth.

Teimlai'r rhan fwyaf o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni yn y pwyllgor iechyd y dylai fod yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i weithredu'r strategaethau tai bach cyhoeddus. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod yn teimlo, o ystyried y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol, na fyddai'n bosibl gosod y ddyletswydd statudol hon arnynt. Rwy'n teimlo ein bod yn siomi pobl Cymru drwy beidio â chael strategaethau tai bach gorfodadwy ac rwy’n gobeithio y gallwn gryfhau gorfodaeth o'r strategaethau hyn drwy ddulliau eraill. Efallai mai dyletswydd Llywodraeth Cymru, yn y pen draw, yw sicrhau bod strategaethau lleol yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer tai bach cyhoeddus. Mae angen i ni edrych ar yr holl opsiynau ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Bil wrth iddo fynd yn ei flaen drwy'r Cynulliad. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:59, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n aelod o'r pwyllgor ac roeddwn yn ystyried y broses graffu yn gynhyrchiol a cholegol, fel y dywedodd aelodau eraill y pwyllgor heddiw. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau i ar ddau faes: smygu a darparu tai bach cyhoeddus. Rwy’n croesawu ymestyn y diogelwch rhag smygu sydd yn y Bil, yn enwedig i blant. Rwy’n credu bod y rhain yn gamau ymlaen sy’n gwbl hanfodol, ac mae Aelodau eraill eisoes wedi cyfeirio at argymhelliad 3, sy'n gwbl allweddol i alluogi cyfyngiadau ar smygu i gael eu hymestyn i leoliadau addysgol gofal plant blynyddoedd cynnar. Mae'n braf iawn bod y Gweinidog wedi dweud bod hynny'n rhywbeth y mae'n bwriadu ei wneud.

Hoffwn hefyd dynnu sylw at argymhelliad 5, sy'n argymell bod y Gweinidog yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod cymorth a chyngor ar roi'r gorau i smygu yn cael eu hyrwyddo'n helaeth mewn lleoliadau gofal iechyd ac y dylai hyn gael ei bwysleisio yn arbennig, mewn ardaloedd smygu allanol lle mae'r rhain yn cael eu darparu.

Rwy’n credu mai dyna’r cyfle, pan fydd pobl mewn lleoliadau gwasanaeth iechyd, i hyrwyddo cyngor a chymorth yn gryf iawn i roi'r gorau i smygu. Rwy’n credu ein bod yn teimlo yn y trafodaethau yn y pwyllgor fod hyn yn rhywbeth y gellid ei wneud i raddau llawer mwy.

Hefyd, wrth gwrs, ceir problem staff sydd mewn lleoliadau gofal iechyd. Rydym yn gwybod bod nifer sylweddol o staff gofal iechyd yn smygu, ac felly rwy’n meddwl y dylid gwneud pob ymdrech i gynnig cyfleoedd iddynt.

Credaf, yn y Bil, mai’r byrddau iechyd lleol sydd i benderfynu, neu’r ysbytai lleol sydd i benderfynu, a oes ganddynt lochesi smygu ar eu tir. Mae hwn yn benderfyniad eithaf anodd i’r ysbytai ei wneud. Yn sicr, yn fy etholaeth i fy hun, ni chaiff unrhyw un smygu o gwbl yn Ysbyty Felindre, nac ar dir yr ysbyty, ac nid oes ganddo loches i smygu. Gallaf ddeall yn iawn pam, gan ei fod yn ysbyty canser, mae'n gweld y perygl ofnadwy y mae smygu yn ei achosi ac mae'n dweud 'na' i smygu ar ei dir.

Ond mae’n achosi problem i bobl sy'n byw y tu hwnt i dir yr ysbyty. Er enghraifft, mae etholwr wedi cysylltu â mi gan ddweud,

O ddydd i ddydd, yn sgil y gwaharddiad ar smygu, mae llif cyson a pharhaus o staff, ymwelwyr a chleifion yr ysbyty sy'n ymgynnull y tu allan i’n tŷ ni ... i smygu.

Mae stympiau sigaréts yn cael eu taflu yn gyson yn ein gardd ac mae hyn yn peri gofid. Mae hefyd risg tân ....Ar sawl achlysur ... mae cleifion ac ymwelwyr wedi eistedd ar wal fy ngardd hyd yn oed a smygu. I fy mhlant i, felly, mae smygu yn sicr yn rhan 'arferol' o fywyd bob dydd.

Felly, er fy mod yn cefnogi penderfyniad Ysbyty Felindre, sydd wedi ymdrechu'n galed iawn i atal cleifion, ymwelwyr a staff rhag mynd y tu allan a smygu ar dir pobl, mae'n rhaid i ni edrych ar ganlyniadau hyn. Lle mae ysbyty’n darparu ardal ar gyfer smygu i bobl ar y tir, rwy’n meddwl bod y pwyllgor yn teimlo y dylem wneud pob ymdrech i roi cyngor yn y llochesi hynny ar y ffynonellau cymorth sydd ar gael iddynt. Mae yno gynulleidfa barod. Felly, rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arno yn ofalus iawn.

Rwyf hefyd yn awyddus i godi pryderon am y ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus. Rydw i wedi bod yn ymgyrchu yn ddiweddar ar y mater hwn gydag etholwr 82 mlwydd oed ar ôl i’r tŷ bach cyhoeddus olaf yn yr Eglwys Newydd gau. Rwy'n credu ein bod wedi clywed eisoes pa mor bwysig yw tai bach cyhoeddus i’r cyhoedd. Ond rwy’n teimlo bod hwn yn gam ymlaen, ac rwy’n credu bod awgrymiadau yn y Bil iechyd y cyhoedd a fydd yn gwella'r sefyllfa o ran mynediad i dai bach cyhoeddus ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol. Yn amlwg, os na fyddai arian yn broblem, gallem fynd yn llawer pellach, gallem adeiladu tai bach cyhoeddus a gallem wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Dyna fyddai’n ddelfrydol, ond nid ydym yn y sefyllfa honno.

Felly, rwy’n credu y byddai’n anfoesgar, mewn gwirionedd, i ddweud bod siom anferthol nad yw’r Bil hwn yn gwneud unrhyw beth, gan fy mod yn credu ei fod yn gwneud rhywfaint o awgrymiadau synhwyrol iawn. Er enghraifft, y cynnig y gallai tai bach cyhoeddus ym mhob adeilad cyhoeddus fod yn hygyrch ar gyfer y cyhoedd—credaf fod hwnnw’n gam cadarnhaol iawn ymlaen, oherwydd, yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae yna o leiaf un adeilad cyhoeddus. Amser cinio, euthum i agoriad y ganolfan newydd yn Ystum Taf, sef yr hen lyfrgell a'r ganolfan ddydd yn dod at ei gilydd er mwyn creu canolfan o gyfleusterau ar gyfer yr ardal, ac mae ganddyn nhw dai bach yn y ganolfan. Rwy’n meddwl bod angen i ni gael hysbysiad ar y drws, ac rwy'n siŵr y bydd yna un, i ddweud bod y tai bach hyn ar gael at ddefnydd y cyhoedd, p’un a ydych yn defnyddio'r ganolfan mewn unrhyw ffordd neu beidio.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Mewn rhai gwledydd, maent yn annog mentrau preifat i gynnig cyfleusterau hefyd, a gall hyn chwyldroi argaeledd tai bach cyhoeddus effeithiol a dymunol i'w defnyddio.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Ydy. Credaf fod honno yn ffordd arall o symud ymlaen, ond un o'r pwyntiau—. Dim ond un rhybudd bach ar hynny yw bod rhai pobl oedrannus yn arbennig, wedi dweud nad ydynt yn dymuno mynd i mewn i gaffis i ddefnyddio'r toiled yn unig, oherwydd eu bod yn tynnu sylw at eu hunain.

Felly, rwy’n credu ei fod yn gam ymlaen ar y tai bach cyhoeddus yn y Bil hwn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i eisiau siarad yn fyr iawn, os caf i, yn y ddadl bwysig hon. A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod â Bil yn ôl heb unrhyw gynigion am gyfyngiadau sylweddol ar e-sigaréts? Rydym yn gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth ostwng cyfraddau smygu yma yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi mynd law yn llaw â phobl yn dewis cael e-sigarét yn hytrach na smygu tybaco, sydd yn amlwg yn llawer mwy buddiol i'w hiechyd.

A gaf i hefyd ei roi ar gofnod gymaint yr wyf yn cytuno'n llwyr â Jenny Rathbone, a wnaeth achos cryf, yn fy marn i, dros isafbris alcohol yma yng Nghymru? Gallaf gofio, pan oeddwn yn ymwneud yn gyntaf â’r briff iechyd cysgodol nifer o flynyddoedd yn ôl, imi gael sgwrs gydag Alcohol Concern Cymru am hyn. Roeddwn yn gwrthwynebu’n llwyr gael unrhyw fath o isafbris alcohol, ond pan edrychais ar yr ystadegau, roeddent yn llwm iawn o ran fforddiadwyedd sylweddol alcohol o’i gymharu â'r sefyllfa yn ôl yn y 1970au a'r 1980au. Mae pris alcohol, mewn termau cymharol, wedi gostwng yn sylweddol fel cyfran o incwm pobl. Rwy’n credu ei bod yn bryd i ni dderbyn cyfrifoldeb a chyflwyno rhai cynigion ar isafbris alcohol. Byddai hyn yn ymdrin â'r niwed y mae alcohol yn ei achosi i gymdeithas a'r costau sylweddol y mae alcohol yn eu rhoi ar drethdalwyr o ran ceisio clirio cost trin clefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol, a chanlyniadau troseddu oherwydd alcohol, wrth gwrs, na wnaeth Jenny eu crybwyll mewn gwirionedd.

O ran y gofynion di-fwg, rwy’n croesawu rhai o'r estyniadau a gyflwynwyd sydd wedi cael eu dwyn ymlaen gan y Llywodraeth, ond bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi codi gyda hi gynnig gan blant ysgol yn fy etholaeth i yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, sydd mewn gwirionedd wedi dweud mai un o'r pethau y maent wir yn ei gasáu yw hongian o gwmpas mewn arosfannau bysiau pan fydd pobl yn pwffian ar sigaréts. Rwy’n meddwl, yn enwedig rhwng yr oriau y mae plant yn teithio i'r ysgol ac oddi yno, efallai y bydd rhywbeth y gallech ei ystyried o bosibl o ran cyfyngu ar smygu mewn arosfannau bysiau, gan ei fod yn fan lle mae plant yn ymgynnull yn rheolaidd. Rwy’n meddwl bod eich bwriadau yn gwbl gywir o ran yr ymgyrch i atal pobl rhag smygu mewn ardaloedd lle mae plant yn ymgynnull, ond mae hynny, rwy’n credu, yn fuddugoliaeth hawdd ac mae'n anodd gweld pam nad ydych wedi gallu ei roi ar wyneb y Bil ar hyn o bryd. Tybed, Weinidog, a allech ddweud a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn barod i’w ystyried yng Nghyfnod 2.

O ran tai bach cyhoeddus, yn amlwg, un o'r pethau a gynigiwyd gennym yng Nghyfnod 3 pan oedd y Bil blaenorol yn cael ei drafod yn y Cynulliad diwethaf, oedd yr angen nid yn unig am strategaethau lleol ar gyfleusterau cyhoeddus, ond hefyd, wrth gwrs, am ddatblygu strategaeth genedlaethol. Ymddengys bod y Llywodraeth yn dweud y dylai awdurdodau lleol gynhyrchu eu strategaethau lleol ac, os nad ydynt yn llwyddo, yna gall yr etholwyr gael gwared arnynt yn yr etholiad nesaf. Mae hynny'n hollol iawn ar gyfer tai bach sy'n bwysig yn lleol, ond y broblem yw bod rhai tai bach sy’n bwysig yn strategol yn genedlaethol nad ydynt yn bwysig i’r etholwyr lleol. Felly, er enghraifft, cafwyd dyfyniad enwog, ar lawer achlysur—a bydd Kirsty Williams yn falch fy mod yn codi'r pwynt hwn—bod tai bach ar hyd cefnffordd yr A470 nad ydynt, a dweud y gwir, yn cael eu defnyddio yn aml gan y bobl leol, ond sy’n cael eu defnyddio lawer gan bobl sy'n pasio drwodd ar y gefnffordd, neu bobl sy'n ymweld â’r ardal honno. Wrth gwrs, ni fydd gan yr unigolion hynny bleidlais leol, ym Mhowys, i gael gwared ar y cynghorwyr lleol sy'n gwrthod cydnabod pwysigrwydd y cyfleusterau hynny.

Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth, i fod yn deg, wedi ei gydnabod fel problem, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi rhoi cyllid i gynnal a chadw rhai o'r tai bach cyhoeddus hynny. Eto i gyd, nid oes darpariaeth o gwbl ar gyfer strategaeth cyfleusterau cyhoeddus ar sail genedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr y cyfrifir ar gyfer y bylchau hynny yn y ddarpariaeth. A gadewch i mi ddweud wrthych, mae’r ffaith nad oes unrhyw gyfleusterau cyhoeddus mewn rhai rhannau o Gymru yn gwahardd pobl, yn enwedig y rheini â chyflyrau meddygol, rhag mynd allan o'r tŷ a mynd ar deithiau hir. Mae hynny, rwy’n credu, yn annerbyniol a dyna pam rwyf am weld y Bil yn cael ei gryfhau. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn ystyried cryfhau'r Bil drwy ddarparu rhyw fath o strategaeth genedlaethol, strategaeth gyffredinol sy'n edrych ar y ddarpariaeth ledled Cymru, y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros ei gweithredu mewn gwirionedd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:10, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Yn olaf, Gareth Bennett.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog a'r gwahanol bwyllgorau am ddod a'r Bil ymlaen i'r cyfnod presennol. Roeddwn yn mynd i siarad am ordewdra, ond teimlaf fod nifer o bobl eraill wedi siarad am hynny, felly nid wyf am rygnu ymlaen ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n credu bod y mater tai bach cyhoeddus yn bwynt dadleuol, nid yn unig ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol ond ar gyfer pobl yn gyffredinol. Roedd gen i ddiddordeb yn sylwadau Julie Morgan, oherwydd roedd tafarn yn ei hetholaeth hi, y New Inn yn Birchgrove, yr oeddwn yn mynd iddi yn aml, ac weithiau byddai pobl yn mynd i mewn nad oeddent yn defnyddio'r dafarn ac roeddent yn cael eu cyfeirio at y tai bach. Rwyf fel petawn yn cofio’r dafarnwraig yn dweud wrthyf eu bod nhw’n rhan o gynllun, a all fod yn debyg i'r math o gynllun yr oedd David Melding yn sôn amdano. Yn anffodus, caewyd y dafarn i wneud gwaith adnewyddu iddi ac nid yw’r dafarnwraig honno yno mwyach. Er hynny, byddai'n ddiddorol cael gwybod pa fath o gynllun yr oeddent yn ei redeg ac a ellid ei ddefnyddio’n ehangach.

Yr unig bwynt arall yr hoffwn i ei wneud yw adleisio ac ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd Angela ynglŷn â'r mater o dyllu a’r oedran cydsynio ar gyfer tyllu’r corff. Roedd Angela yn ei gymharu ag anffurfio organau cenhedlu benywod, gyda'r posibilrwydd o rywun 16 neu 17 oed yn cymryd rhan mewn perthynas gymhellol, a oedd yn ddiddorol. Nid oeddwn wedi meddwl am hynny o'r blaen, ond roeddwn wedi meddwl yn flaenorol, mewn rhai achosion, y gallai fod yn amlygiad o hunan-niweidio ymysg yr ifanc. Rwy’n cytuno â'r awydd a fynegwyd gan nifer o bobl efallai y gallech edrych ar godi'r terfyn oedran i 18 oed. Credaf fod hynny’n bwysig ar y pwynt hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:12, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Rebecca.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, a hefyd am yr arwydd o gefnogaeth i egwyddorion cyffredinol y Bil. Yn amlwg, byddaf yn ymateb yn ffurfiol i bob un o'r tri phwyllgor a phob un o'u hargymhellion. Ond byddaf yn achub ar y cyfle hwn i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol, yn fy marn i, a godwyd gan yr Aelodau y prynhawn yma.

O ran y darpariaethau smygu yn y Bil, rwy'n falch iawn o weld bod yr Aelodau wedi croesawu’r rhain. Byddant i gyd wedi clywed fy ymrwymiadau i ymestyn i leoliadau blynyddoedd cynnar. Yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, siaradais am gymhlethdod gwahardd beth yn ei hanfod sy’n weithgaredd cyfreithiol mewn man cyhoeddus. Mae'r Bil yn caniatáu i leoliadau eraill gael eu hychwanegu maes o law, a byddai'n rhaid i hynny ddigwydd ar ôl ymgynghori priodol, â chytundeb y Cynulliad. Byddai’n rhaid i unrhyw leoliad yr ydym yn ei ychwanegu at y Bil neu i'r Ddeddf maes o law fod yn gyfraith dda. Felly, bydd yn rhaid i'r cyhoedd dan sylw ddeall yn rhesymol eu bod yn cyflawni trosedd, a bydd yn rhaid i’r bobl sy’n gorfodi'r ddeddfwriaeth gael dealltwriaeth dda o hynny hefyd. Felly, mae hynny'n gwneud ardaloedd megis terfynau allanol, er enghraifft, arosfannau bysiau ac ardaloedd eraill yn arbennig o gymhleth. Ond, fel y dywedais, bydd cyfleoedd maes o law yn y Bil i edrych ar ymestyn i leoliadau eraill. Mae'n werth cydnabod hefyd, pan gafodd y Bil ei gyflwyno’n wreiddiol gerbron y Cynulliad yn y Pedwerydd Cynulliad, nad oedd unrhyw leoedd wedi’u henwi ar wyneb y Bil. Felly, mae gennym dri eisoes ac rydym yn edrych ar gyflwyno pedwerydd. Felly, rwy’n meddwl ein bod ni wedi dod yn bell o ran y lleoliadau awyr agored ar gyfer smygu.

Codwyd peth pryder yn y ddadl am dybaco anghyfreithlon, ac rwy’n cytuno bod angen ystyried troseddau sy'n ymwneud â thybaco anghyfreithlon ochr yn ochr â rhai eraill wrth ychwanegu troseddau newydd i'r gyfundrefn gorchymyn mangre dan gyfyngiad. Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn destun pryder i'r pwyllgor. Rwy'n credu mai’r ffordd orau o wneud hyn fyddai defnyddio'r pwerau gwneud rheoliadau sy'n cael eu darparu gan y Bil. Fel y nodais yn y datganiad o fwriad polisi, a gyhoeddais ochr yn ochr â'r Bil, bydd gwaith yn cael ei wneud gyda rhanddeiliaid i nodi'r troseddau y mae angen eu cynnwys.

Yn ogystal â hyn, bydd angen i ymgynghoriad llawn ddigwydd cyn y gellir gwneud y rheoliadau, a byddant hefyd yn amodol ar y broses gadarnhaol yn y Cynulliad. Byddwn yn dweud fy mod yn ystyried y darn hwn o waith i fod yn flaenoriaeth, ond bydd yn rhaid dilyn y sianelau priodol. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym drefn orfodi gref i bobl sy’n parhau i werthu tybaco a nicotin yn anghyfrifol, ac yn arbennig felly i bobl ifanc.

Bydd yr Aelodau wedi clywed fy sylwadau ar roi twll mewn rhannau personol o’r corff. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae’r Aelodau yn arbennig o bryderus yn ei gylch, a byddwn yn ailbwysleisio fy mod yn rhoi ystyriaeth weithredol iawn i hyn, gan gymryd cyngor ac edrych eto ar y dystiolaeth sydd wedi cael ei derbyn gan y pwyllgor, a thu hwnt i'r pwyllgor hefyd.

Cafodd troseddau rhywiol, laserau ac addasu’r corff i gyd eu crybwyll gan yr Aelodau hefyd. Argymhellodd y pwyllgor fod y troseddau a restrir yn adran 63 (3) o'r Bil yn cael eu diwygio i gynnwys troseddau rhywiol. Ac mewn ymateb i'r dystiolaeth tyst arbenigol a ddarparwyd i'r pwyllgor, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ailedrych ar y troseddau perthnasol a restrir dan yr adran hon o'r Bil. Rwyf felly yn bwriadu cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth ar y mater. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod galluogi awdurdodau lleol i ystyried gwybodaeth fel troseddau rhyw heb eu disbyddu yn cael ei gyfiawnhau ar sail diogelu'r cyhoedd, yn enwedig gan fod rhai gweithdrefnau yn gofyn am elfen o agosatrwydd, megis rhoi twll mewn organau cenhedlu. Mae cleientiaid yn aml ar eu pennau eu hunain gyda'r ymarferydd tra bod y weithdrefn honno yn cael ei pherfformio.

Roedd cwestiwn yn ymwneud â laserau a defnyddio golau pwls dwys, sydd eisoes yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Felly, os oeddent i gael eu rhestru ochr yn ochr â'r gweithdrefnau arbennig ar wyneb y Bil yn y cyfnod hwn, byddai dyblygu o ran rheoleiddio yno.

Rwy’n cydnabod bod rhai sefydliadau yn darparu tatŵs yn ogystal â chael gwared â thatŵs â laser. Felly, rwy’n derbyn bod hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gael cofrestriad awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau fel tatŵio, a hefyd gofrestriad AGIC ar gyfer laserau ac IPLs. Mae rôl a swyddogaeth AGIC, fodd bynnag, yn destun trafodaeth barhaus yn dilyn ymatebion i'r Papur Gwyrdd, 'Ein Hiechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd'. Felly, hoffwn ymchwilio a fyddai'n briodol ai peidio, maes o law, ychwanegu laserau ac IPLs at ddibenion nad ydynt yn llawfeddygol at y rhestr o weithdrefnau arbennig, ond ar ôl ymgynghori'n briodol ag AGIC, awdurdodau lleol a'r cyhoedd.

O ran addasu’r corff, gwn fod y pwyllgor wedi bod yn awyddus i waith ychwanegol gael ei wneud i ddeall faint o driniaethau addasu’r corff sy’n cael eu cynnal yng Nghymru, a’r risg a achosir i iechyd y cyhoedd. Yn ystod datblygiad y Bil, fe wnaethom ymgynghori ag awdurdodau lleol ac ymarferwyr a roddodd dystiolaeth sy'n awgrymu bod triniaethau addasu’r corff mewn gwirionedd yn cael eu perfformio yn eithaf anaml yng Nghymru. Ond rwy’n cytuno bod angen mwy o dystiolaeth i ddeall hyd a lled hyn yn llawn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 6:17, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Er fy mod yn derbyn cywirdeb y dystiolaeth yr ydych wedi’i chlywed gan gyrff cyhoeddus, roedd sôn hefyd yn nhystiolaeth y pwyllgor a gymerwyd gennym fod symudiad tanddaearol mawr sy'n ymwneud â phethau fel triniaethau addasu’r corff. Felly, nid ydynt o anghenraid yn mynd i gael eu nodi gan awdurdodau cyhoeddus.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:18, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n derbyn hynny, ac fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol ymrwymiad, pe byddai’r Bil yn llwyddo i ddod yn gyfraith, ei fod yn bwriadu ymgynghori ar yr egwyddor o ychwanegu gweithdrefnau ychwanegol at y rhestr a gwmpesir gan y Bil yn fuan ar ôl deddfu’r Bil, a byddwn yn hapus i ddal at yr ymrwymiad hwnnw.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fodd bynnag, nad ydym yn rheoleiddio gweithdrefnau sy'n cael eu hystyried yn ôl y gyfraith i fod yn ymosodiadau. Ar hyn o bryd mae achos yn Wolverhampton lle mae'r heddlu yn erlyn dyn a oedd yn perfformio triniaethau addasu’r corff megis tynnu clust, tynnu teth a hollti tafod. Ac mae wedi cael ei gyhuddo o dri achos o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol, a chyhuddiadau amgen o glwyfo heb fwriad. Felly, rydym yn monitro datblygiad yr achos hwnnw i ddeall lle mae’r llinell yn gorwedd rhwng addasu’r corff ac ymosodiad.

Dylai digon o dystiolaeth gael ei darparu drwy'r broses ymgynghori maes o law i awgrymu bod triniaethau addasu’r corff yn cael eu cynnal yn aml yng Nghymru a'u bod yn risg sylweddol i iechyd pobl. Yna byddai angen gwneud gwaith pellach i ddeall cymhlethdodau cyfreithiol a moesegol y gweithdrefnau cyn i ni ystyried eu hychwanegu at y rhestr o weithdrefnau arbennig, drwy gyfrwng rheoliadau cadarnhaol. Ond, fel y dywedais, rwy’n dal at yr ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog blaenorol yn hyn o beth.

Cyfeiriodd nifer o Aelodau at y ffaith nad oes yn y Bil unrhyw gamau penodol i fynd i'r afael â gordewdra. Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddwn yn awyddus i bwysleisio, mewn gwirionedd, nad yw’r Bil ond yn un rhan o gyfres ehangach o Filiau. Ac rwy’n deall y rhwystredigaethau a gafodd y pwyllgor mewn gwirionedd o ran gallu archwilio, gyda phobl sy'n rhoi tystiolaeth am y mathau o gamau gweithredu y gellid eu datblygu ar y sail hon. Rwy’n diolch i'r pwyllgor am yr awgrymiadau a wnaeth, ac yn pwysleisio ein bod yn gwbl ymroddedig i fynd i'r afael â'r agenda bwysig hon o ran iechyd y cyhoedd. Ni fydd hyn bob amser yn digwydd trwy ddeddfwriaeth; er enghraifft, mae gennym eisoes safonau maeth mewn ysgolion ac ysbytai, ac mae trafodaeth barhaus gydag ysbytai ynghylch sut y gallwn ymestyn bwyd iach i aelodau staff ac ymwelwyr ag ysbytai. Mae gennym ein gwaith ar y gweithle iach, y cynllun cenedlaethol ar gyfer atgyfeirio ymarfer corff, rhaglenni bwyta'n iach, ac rydym hefyd yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU ar y mater hysbysebu bwydydd afiach, yn enwedig i blant hefyd.

Rwy'n fodlon derbyn egwyddor argymhellion y pwyllgor sy’n cael eu gwneud yn hyn o beth, i'r graddau y maent yn ystyried materion a godwyd dan bwerau sydd eisoes yn bodoli a llwybrau deddfwriaethol eraill. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar fater safonau maeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a lleoliadau cartref gofal. Rwyf hefyd yn hapus i drafod ymhellach fater siwgr ychwanegol mewn ysgolion gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, er, unwaith eto, efallai mai diwygio rheoliadau fyddai’r ffordd o roi sylw i hynny yn hytrach nag ar wyneb y Bil hwn o anghenraid.  Byddai'n rhaid ymgynghori’n briodol ar unrhyw newidiadau yno hefyd.

Gwn fod y pwyllgor iechyd wedi gwneud nifer o argymhellion o ran cael mynediad at dai bach. Hoffwn gadarnhau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol feddwl am dwristiaid a digwyddiadau ac ati—felly nid y boblogaeth leol yn unig—a materion cydraddoldeb ehangach hefyd pan fyddant yn paratoi eu dull o weithredu yn lleol. Felly, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu map cenedlaethol. A gallaf ddweud wrth yr Aelodau bod fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda'u cymheiriaid TG i ystyried y seilwaith sydd ei angen i gasglu'r data priodol gan awdurdodau lleol ac ymgorffori’r rheini yn yr offer mapio sy'n bodoli eisoes. Gallai’r data hynny, wedyn, fod ar gael i drydydd partïon fyddai’n gallu datblygu mapiau ac apps eraill, er enghraifft, hefyd—rwy’n gwybod bod yna awydd i ddatblygu apiau. Wrth ystyried barn y pwyllgor a thystion arbenigol, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion archwilio opsiynau ar gyfer datblygu logo hawdd ei adnabod y gellid ei arddangos mewn cyfleusterau tai bach hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru.

O ran isafswm pris uned, rydym yn cydnabod yn llwyr ddifrifoldeb yr heriau a achosir gan alcohol i’n cymdeithas, i unigolion ac i gymunedau ehangach. Mae'n parhau i fod yn ddyhead gennym i weithredu ar y mater hwn, yn enwedig mater isafswm pris uned. Ond cyfeiriodd Jenny Rathbone at y ffaith bod ymdrechion yn yr Alban wedi cael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly byddwn yn edrych yn fanwl iawn ar yr hyn sy'n digwydd yno. A phan fyddaf yn gallu dweud mwy wrth y Cynulliad am y mater hwn, byddaf yn gwneud hynny.

Yn olaf, rwyf eisiau cadarnhau fy mod hefyd yn credu bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd. Mae gennym ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Fel y dywedais, ac fel mae’r Aelodau yn sylweddoli, mae’r Bil iechyd y cyhoedd hwn sydd ger ein bron heddiw yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth ac mae'n parhau i fod yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru o ran iechyd y cyhoedd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:23, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.