6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Plant

– Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Jane Hutt.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:06, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd plant a galwaf ar Angela Burns i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6251 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn;

2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy’n hyrwyddo iechyd a lles o’r crud.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r broses o gasglu data a’r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:

a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16 oed;

b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac

c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:07, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o ddod â’r ddadl hon i’r Cynulliad heddiw ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwyf wedi rhoi llawer o ystyriaeth i’r drafodaeth y gobeithiaf y gallwn ei datblygu heddiw. Fel mam i ddau o blant ifanc, mae mater iechyd a lles plant yn amlwg yn hynod o agos at fy nghalon ac yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Rwyf mor ymwybodol fod gormod o’n plant yn cael trafferth gwirioneddol i sicrhau cydbwysedd da o ran eu hiechyd a’u lles. Ac oherwydd bod y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd plant a phobl ifanc a lles yn torri ar draws nifer o bortffolios, rwy’n sylweddoli efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo bod peth o’r ddadl hon yn crwydro oddi wrth ei bortffolio, ond nid wyf yn ymddiheuro am lynu at y rhagosodiad fod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd.

Byddem i gyd yn dymuno am y gorau i blant a phobl ifanc Cymru, ond rwy’n awyddus i ni gydnabod pwysigrwydd egluro a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant sy’n hyrwyddo iechyd a lles o enedigaeth, gan fod plentyn iach a gwydn yn emosiynol yn fwy tebygol o lywio dyfroedd cythryblus y glasoed; byddant yn fwy parod i ddysgu a gwneud y gorau o’u cyfleoedd mewn bywyd; yn fwy tebygol o fod wedi datblygu arferion ffordd o fyw iach; yn gallu goroesi’r cyfan y bydd bywyd yn ei luchio atynt yn well; ac yn gallu ymdopi nid yn unig â llawenydd bywyd, ond â chythrwfl siom a thristwch hefyd. Rwyf am weithio gyda’r pleidiau eraill ac Ysgrifennydd y Cabinet i gyflawni hyn. Hyderaf na fydd ysbryd ein dadl heddiw yn cael ei ystyried yn wrthdrawiadol ond yn hytrach fel trafodaeth aeddfed sy’n cyflwyno syniadau ac awgrymiadau ar gyfer cyrraedd nod y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon am ei gefnogi.

Felly, gadewch i ni ddechrau drwy edrych ar rai ffeithiau. Yng Nghymru, 4 y cant yn unig o gyllideb y GIG sy’n cael ei dargedu at anghenion iechyd menywod a phlant yn unig. Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ledled y byd, yn sicr mae angen i hyn newid ac mae angen i ni weld mwy o ganran o gyllideb y GIG yn canolbwyntio ar fenywod a phlant, oherwydd nid yw anghydraddoldebau iechyd yn digwydd drwy hap a damwain—cânt eu pennu gan ble rydym yn byw, iechyd ein rhieni, ein hincwm ac addysg. Ac er na all plant effeithio ar yr amgylchiadau hyn, gall yr amgylchiadau hyn effeithio’n ddifrifol ar eu datblygiad.

Yn ôl adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, mae’r bwlch mewn anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yn lledu. Mae enghraifft berffaith o hyn i’w weld ym mhydredd dannedd pobl ifanc. Er bod canrannau plant â phydredd dannedd yng Nghymru wedi gostwng o 48 y cant yn 2008 i 35 y cant yn 2015, sy’n newyddion da iawn, mae’r ffigurau wedi codi’n syfrdanol ym Merthyr i 57 y cant. Mewn geiriau eraill, mae dros hanner y plant yn yr ardal honno yn dioddef o bydredd dannedd. Ac yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, yng Nghymru yn gyffredinol, mae bron i ddwy ran o dair o bobl ifanc yn eu harddegau yn dioddef o bydredd dannedd, gan eu gwneud 60 y cant yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y clefyd na’u cyfoedion yn Lloegr. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y ffigurau’n peri pryder. Felly, pam y cyfeiriaf at fater o’r fath? Oherwydd dylem gofio pwysigrwydd iechyd y geg i les cyffredinol. Mae iechyd y geg gwael nid yn unig yn effeithio ar iechyd corfforol, ond hefyd ar hyder plentyn, ei iechyd meddwl a’i ddatblygiad.

Mae angen cael gwell dealltwriaeth hefyd o achosion salwch plant, a dyma ble y credaf fod monitro ac ymchwil effeithiol mor bwysig. Yn aml gwelwn anghydraddoldebau iechyd drwy brism o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, ac weithiau byddwn yn anwybyddu agweddau eraill ar fywyd claf sy’n gallu cael effaith arnynt, megis eu rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, neu eu hiechyd meddwl neu gyfrifoldebau rhiant. Rwy’n dal i bryderu nad oes gennym ddealltwriaeth ddigon da o’r unigolyn i allu mynd i’r afael â’u hanghenion yn effeithiol ac yn ddigonol. Er mwyn gwneud hynny, mae angen cyflawni ymchwil mwy manwl ar draws pob grŵp oedran, ac mae angen inni ehangu’r ymchwil er mwyn dadansoddi effeithiau pwysau cymharol fodern, megis cyfryngau cymdeithasol, ac effeithiau pornograffi, gwrthrycholi menywod ifanc, yn arbennig, gan y cyfryngau, a bwlio di-baid gan gyfoedion ar iechyd a lles plant. Yn wir, rwyf newydd gael e-bost yr wyf am ei ddarllen—neu ran ohono—gan fenyw ifanc a ddywedodd,

Mae’r pwysau i fod yn berffaith, i edrych yn berffaith, i ymddwyn yn berffaith, i gael y corff perffaith, i gael y grŵp perffaith o ffrindiau, y swm perffaith yn ‘hoffi’ ar Instagram—ac os nad ydych yn cyrraedd y safonau chwerthinllyd o uchel hynny, yna bydd yr hunangasineb a’r bwlio’n dechrau.

Dyma pam y mae hi mor bwysig i ni wir ddeall yr effeithiau y mae’r rhain yn eu cael ar bobl ifanc.

Yng Nghymru, mae cynifer ag un o bob tri o’n plant yn byw o dan y llinell dlodi, ond unwaith eto, mae yna ddiffyg data amlwg ar ddyfnder y tlodi hwn. Wrth gynnal astudiaethau i ymdrin â hyn, mae angen i ni hefyd ystyried cymathu ymchwil ar lefelau sy’n manylu ar ryw, anabledd ac ethnigrwydd, oherwydd yn y pen draw bydd yn darparu gwybodaeth well a mwy cywir i lunwyr polisi allu seilio eu penderfyniadau arni. Mae’n rhaid i ni symud oddi wrth y dull un maint i bawb a sicrhau ein bod yn meithrin dealltwriaeth lawer gwell. Mae hyn yn cyd-fynd â’r galwadau a wnaed yn adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar gyflwr iechyd plant ar gyfer 2017. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu astudiaeth hydredol i dracio canlyniadau babanod, plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghymru i greu data a fydd yn llywio polisïau a gwasanaethau’n uniongyrchol. Yn ogystal, mae’n nodi bod angen i’r arolwg poblogaeth Healthwise gymryd ymatebion gan rai o dan 16 oed hefyd. Nawr, mae’r ddau argymhelliad hwn yn bwysig a hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag ymgyrch CLIC Sargent i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddechrau casglu data profiad cleifion canser rhai o dan 16 oed, rhywbeth nad ydynt yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae’r GIG yn Lloegr wedi ymrwymo i fethodoleg i wneud hyn, a hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ystyried hyn ar gyfer Cymru.

Bydd yr holl argymhellion hyn yn ein helpu i dargedu adnoddau’n well, ond ar gost fach iawn. Gan fod yr astudiaethau hyn eisoes yn digwydd, y cyfan y byddai ei angen yw naill ai ehangu rhagor ar yr astudiaethau hynny neu fân welliannau a newidiadau i’r fethodoleg ymchwil.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’i chymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU i nodi bylchau o ran casglu data ac i sicrhau bod modd cymharu’r ffynonellau presennol â gwledydd eraill y DU. Nawr, nid ydym yn ceisio gosod un rhan o’r DU yn erbyn y llall yma. Ond drwy gyfuno gwybodaeth, drwy gyfuno adnoddau ac arferion gorau, yna rwy’n teimlo bod gennym well gobaith o wella canlyniadau i bawb.

Roedd adroddiad CLIC Sargent yn tynnu sylw hefyd at ganfyddiad pryderus iawn arall, sy’n effeithio’n ddifrifol iawn ar ddioddefwyr canser ifanc. Gwelsant fod pobl ifanc yn teimlo nad oedd pobl yn gwrando arnynt neu’n eu cymryd o ddifrif wrth sôn wrth feddygon teulu am eu symptomau am y tro cyntaf. Mae hyn yn peri pryder, gan ein bod i gyd yn gwybod ei bod hi’n hanfodol yn achos llawer o ganserau i ni eu dal yn gynnar. Yn ogystal, mae meddygon teulu yn nodi diffyg cyfleoedd hyfforddi fel un o’u tri phrif rwystr i ganfod canser mewn pobl ifanc. Byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio i’r mater hwn fel blaenoriaeth, er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y llais y maent yn ei haeddu.

Yn olaf, cyn i mi orffen, hoffwn ganolbwyntio ar agwedd lles iechyd plant. Gall mesuriadau goddrychol o iechyd a lles plant ein helpu i ddeall y gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl a wynebir gan blant a phobl ifanc yn well. Mae ymchwil gan Gymdeithas y Plant wedi ceisio archwilio’r patrymau rhywedd mewn perthynas â lles plant yn y DU, a gwelodd eu hadroddiad diweddar, ‘Good Childhood Report 2016’, fod gan ddangosyddion gwrthrychol, megis strwythur y teulu ac incwm y cartref, gysylltiad llawer gwannach â lles plant na dangosyddion sy’n oddrychol neu’n agosach atynt, megis ansawdd eu perthnasoedd teuluol a dulliau eraill o fesur amddifadedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Aeth yr adroddiad rhagddo i ganfod bod nifer y merched rhwng 10 a 15 oed a oedd yn diffinio eu hunain yn anhapus wedi codi o 11 i 14 y cant dros gyfnod o bum mlynedd, a bod y ffigurau ar gyfer nifer y bechgyn yn yr un grŵp oedran dros yr un cyfnod wedi aros yn sefydlog ar 11 y cant.

Mae mudiad y Geidiaid hefyd wedi gwneud gwaith mewn perthynas â’r mater hwn yn eu harolwg o agweddau merched yn 2016. Canfu na fyddai 33 y cant o ferched rhwng 11 a 21 oed yn gofyn am gymorth, am fod disgwyl i ferched ymdopi, sydd, yn fy marn i, yn feirniadaeth gyfunol o’r modd yr ydym yn eu magu. Ac nid wyf yn ymddiheuro am bwysleisio’r adroddiad Girlguiding a’r adroddiadau eraill sy’n canolbwyntio ar fenywod ifanc, heddiw o bob diwrnod—Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—gan fod yr adroddiad hwnnw’n nodi hefyd fod merched rhwng 11 a 21 oed yn dweud mai iechyd meddwl a lles yw’r materion pwysicaf iddynt hwy, er mwyn gwella bywydau merched a menywod. A phan ofynnwyd pa gamau gweithredu yr oeddent am eu gweld, dywedodd 34 y cant o’r ymatebwyr eu bod am weld mwy o gymorth i bobl iau gyda’u hiechyd meddwl. Mae’n destun gofid fod dros un rhan o bump wedi honni nad oeddent yn gwybod i bwy i ofyn am gymorth, gyda’r ffigurau hyn yn codi yn nes at un rhan o dair yn y grŵp oedran hŷn agored iawn i niwed rhwng 17 a 21 oed. Rwy’n derbyn mai arolwg ar gyfer y DU yn gyfan oedd hwn, gan nodi barn gan Geidiaid Cymru, ond roedd yn cynnwys barn gan Geidiaid Cymru a byddwn yn pwyso am astudiaeth debyg yng Nghymru i helpu i lywio polisi. Fodd bynnag, nid wyf yn dychmygu y bydd y canfyddiadau mor wahanol â hynny. Credaf fod y canfyddiadau’n amlygu nad yr henoed yn unig sy’n teimlo unigedd ac ofn, maent hefyd yn cael eu teimlo gan lawer o bobl ifanc ac yn effeithio ar eu lles. Dyna pam y mae tua 7 y cant—neu ai dyna pam y mae tua 7 y cant o fechgyn 15 oed a 9 y cant o ferched 15 oed yn ysmygu’n rheolaidd? Mae’r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid i lefel gwledydd eraill yr UE. Mae hwn yn fom sy’n tician, ac os nad awn i’r afael ag ef yn ddigonol, bydd yn cael effaith hirdymor ddifrifol ar iechyd yr unigolyn. Ai dyma pam y mae camddefnyddio alcohol ymhlith yr ifanc ar gynnydd, fel y mae hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta?

Wrth i ferched dyfu’n hŷn, maent yn fwy tebygol na bechgyn o brofi problemau emosiynol megis gorbryder ac iselder. Mae’r problemau emosiynol weithiau’n ymddangos ar ffurf cyflyrau fel anorecsia, cyflyrau y gellir eu trin, ond yn aml maent yn effeithio’n hirdymor ar iechyd ar ôl i’r cyflwr ei hun gael ei drin. Bydd pobl ag anorecsia yn aml yn dioddef o glefyd yr esgyrn brau yn ddiweddarach mewn bywyd, neu gael problemau cenhedlu o ganlyniad i gyflwr y gellid bod wedi’i drin o’i ddal a’i ganfod yn gynharach.

Gall fod gan oroeswyr canser ifanc anghenion iechyd meddwl hirdymor hefyd. Mae CLIC Sargent yn nodi y gall canser effeithio ar bob rhan o fywyd person ifanc, gan gynnwys addysg, iechyd emosiynol, perthnasoedd a hyder. Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn sydd angen i ni ei sicrhau yw ein bod yn cynhyrchu plant gwydn a chytbwys a fydd yn tyfu’n oedolion gwydn a chytbwys. Mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod plant yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl effeithiol. Mae angen i ni sicrhau bod plant yn cael eu dysgu ynglŷn â gwerth mabwysiadu patrymau ymddygiad ffordd o fyw iach a ffurfio perthnasoedd da. Mae angen i ni roi cyfle iddynt dyfu mewn amgylcheddau â chymorth, lle y mae rhieni a gofalwyr yn gallu ac yn cael eu galluogi i gynorthwyo eu plant. Mae arnom angen gweledigaeth glir a diamwys ar gyfer iechyd a lles ein plant, a byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno mynd ar y daith honno gyda chi er mwyn rhoi’r weledigaeth honno ar gyfer plant Cymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:18, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1, 2 a 4, a gyflwynwyd yn ei enw ef. Rhun.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant.’

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2:

a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu.’

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ar ddiwedd pwynt 3, ychwanegu is-bwyntiau newydd:

ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i’r afael â gordewdra;

sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon.’

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 4.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:19, 8 Mawrth 2017

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu y cynnig yma gan y Ceidwadwyr? Ac mi wnaf i gynnig gwelliannau rydym ni’n credu sydd yn cryfhau y cynnig hwn ymhellach. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r effaith mae sicrhau tai o ansawdd da, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel yn y cartref, ac ati, yn eu cael ar ddatblygiad plentyn. Rwy’n siŵr bod rhai ohonoch chi yn cofio rhai o ddadleuon blaenorol Plaid Cymru yn y Siambr yma ar atal troi teuluoedd efo plant allan o’u cartrefi, lle rydym ni wedi rhestru canlyniadau niferus a negyddol digartrefedd, tai gorlawn a thai gwael ar blant, ond mae wastad yn werth atgoffa ein hunain bod plant sy’n byw mewn tai sydd ddim wedi eu gwresogi’n ddigonol ac mewn amodau gwael yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau brest ac anadlu fel asthma a broncitis. Mae perthynas gref rhwng y lefel o dai gorlawn y mae plant yn ei brofi a’r haint helicobacter pylori, sy’n un o brif achosion canser y stumog ac afiechydon eraill yn y system dreulio. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu afiechydon o’r fath pan maen nhw’n cyrraedd rhyw 65 i 75 mlwydd oed. Mae gan blant digartref bedair gwaith gymaint o heintiau anadlol; maen nhw bum gwaith mwy tebygol o gael heintiau’r stumog neu ddolur rhydd; maen nhw ddwywaith mor debygol o orfod cael ymweliad brys â’r ysbyty; maen nhw chwe gwaith yn fwy tebygol o gael problemau lleferydd ac atal dweud; a phedair gwaith y gyfradd o asthma o’u cymharu â phlant sydd ddim yn ddigartref. Mae’r rhestr yma o sgil-effeithiau dechrau gwael mewn bywyd yn rhestr hir, ond mae hi’n werth mynd drwyddi dro ar ôl tro, ac hyd nes y bydd y diwylliant gwleidyddol ehangach yn San Steffan yn cydnabod, er enghraifft, nad ydy hi byth yn dderbyniol i gydbwyso cyllideb drwy wneud plant yn sâl drwy doriadau i fuddsoddiadau ac ati, mi fyddwn ni yn ailadrodd y pwyntiau yma dro ar ôl tro. Ac mae hynny ynglŷn â thai, rwy’n meddwl, yn cael ei adlewyrchu yn ein gwelliant cyntaf ni.

Mi wnaf i symud at ein gwelliant nesaf ni. Mae’n eithaf amlwg, rwy’n meddwl, fod y dystiolaeth yr ydym ni’n ei chael gan wyddonwyr niwrolegol yn dangos bod datblygiad yr ymennydd yn parhau yn gyflym drwy flynyddoedd yr arddegau ac i mewn i flynyddoedd cynnar rhywun fel oedolyn, felly mae’n hanfodol, rwy’n meddwl, yn fy marn i, fod iechyd a lles plant yn gorfforol ac yn feddyliol yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw dyfu i fyny drwy y blynyddoedd yma. Mae gan y Llywodraeth, wrth gwrs, strategaeth iechyd plant hyd at saith oed, ond rŷm ni o’r farn bod angen cael cymorth priodol y tu hwnt i’r oedran hwnnw a thrwy gydol blynyddoedd yr arddegau. Mae angen i’r strategaeth honno ymdrin ag iechyd corfforol, ond rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud bod angen llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer atal a thrin problemau iechyd meddwl hefyd, cyn iddyn nhw ddod yn gyflyrau gydol oes difrifol. Rŷm ni’n siarad yn aml am bwysigrwydd adnabod a thrin canser, er enghraifft, yn gynnar—mae’r un peth yn wir efo iechyd meddwl hefyd. Mae eisiau i ni gydnabod hynny a gweithredu yn strategol.

Mae ein gwelliant olaf ni yn adlewyrchu’r angen am ffocws parhaol ar fynd i’r afael â gordewdra. Mae gan ysgolion rôl hanfodol i’w chwarae yn fan hyn. Mi fuaswn i’n hoffi gweld chwaraeon a mathau eraill o weithgaredd corfforol, achos nid ydy pob plentyn yn mwynhau nac yn cael budd o chwaraeon cystadleuol, ond mae eisiau i’r cyfan chwarae rhan llawer mwy amlwg yn y cwricwlwm newydd. Yn amlwg, mi fydd hyn yn gofyn hefyd am well cyfleusterau chwaraeon. Ond, yn ogystal â hynny, rwy’n meddwl y dylai ysgolion ystyried sut y gallan nhw greu amgylchedd sy’n mynd i’r afael â gordewdra: ystyried beth sydd ar fwydlenni cinio ysgol yn fwy nag y maen nhw’n ei wneud yn barod—mae yna ddatblygu wedi bod, wrth gwrs; a rheoli mynediad at fwyd sothach drwy beiriannau gwerthu neu reoli a ydy disgyblion yn gallu cael têc-awes amser cinio ac yn y blaen. Hefyd, rwy’n meddwl bod gan athrawon gwyddoniaeth rôl wrth sicrhau bod disgyblion yn cael rhywfaint o lythrennedd iechyd fel eu bod nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng cyngor bwyta iach yn seiliedig ar dystiolaeth a straeon dychryn a ffadiau deietegol ac yn y blaen.

Felly, dyna’n gwelliannau ni. Mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth. Nid ydym ni’n argyhoeddedig bod y cymorth presennol yn ddigonol. Mi fuasai’n well gennym ni fod wedi gweld y geiriad yn pwysleisio yr angen am ailwerthusiad o’r sefyllfa ar hyn o bryd. Ond mae hwn yn gynnig pwysig iawn, ac o’i wella yn y ffordd yr ydw i wedi ei chynnig, rwy’n meddwl bod hwn yn gallu bod yn ddatganiad clir o’n huchelgais ni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:24, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 3—Jane Hutt

Dileu pwynt 3c) a rhoi yn ei le:

monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed.’

Cynigiwyd gwelliant 3.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Suzy Davies.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, Aelodau, gallwch ddweud o ysbryd y cynnig ein bod yn chwilio heddiw am drafodaeth agored a chynhwysfawr, a fydd yn helpu i lywio tri pheth, rwy’n credu: yn gyntaf, sut i wella lles plant unigol, sef yr agwedd bwysicaf wrth gwrs, ond hefyd sut i’w helpu i dyfu i fyny gydag ymdeimlad o wytnwch a hyder i fod yn ddinasyddion da, ac yna, wrth gwrs, sut i helpu ein Llywodraethau, waeth beth yw eu gwleidyddiaeth, i gytuno ei bod yn mynd i fod yn anodd mynd ar drywydd dyheadau eraill ar gyfer ein pobl ifanc heb weledigaeth hirdymor effeithiol ar gyfer iechyd plant.

Magu ein plant, waeth beth fo’u hamgylchiadau, eu dechreuad mewn bywyd, eu heriau, a allai fod yn rhai gydol oes, wrth gwrs, mewn rhai achosion, i allu ymdopi ac i gredu’n wirioneddol fod yfory yn ddiwrnod arall yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr sy’n bod, nid yn unig i’r plentyn unigol, ond er mwyn sicrhau gwead cymdeithasol cryf. Ac wrth gwrs, yn rhan o’r broses o aeddfedu’n iach, mae pobl ifanc yng Nghymru, ac unrhyw le arall, angen dod i delerau â’r argyfyngau arferol yn ystod ieuenctid sy’n ymwneud â hyder: pethau’n mynd o chwith ac amrywiaeth o fân anghyfiawnderau. Ond mae’n ymddangos bod rhywbeth yn digwydd sy’n gwneud aeddfedu iach o’r fath yn fwy anodd.

Clywsom yn gynharach gan Angela Burns am y cynnydd yn lefelau anhapusrwydd mewn merched a’u hymdeimlad o gael eu hynysu gyda’u pryderon. Bechgyn iau sy’n cyfaddef eu bod yn anhapus, yn aml yn gysylltiedig â gwaith ysgol, ymddygiad a diffyg sylw. O’i adael i fod, gall yr anhapusrwydd y mae plant yn ei brofi dyfu’n rhywbeth llawer mwy difrifol nag anhapusrwydd ieuenctid. Mae’r canfyddiadau hyn, er y gallent gael eu gwaethygu gan yr hyn yr ydym yn eu hadnabod fel effeithiau tlodi, i’w gweld ar draws yr holl ystod economaidd-gymdeithasol, ac rydym yn eu colli os dibynnwn yn ormodol ar ddangosyddion, fel y dywedodd Angela, megis incwm a strwythur teuluol. Fe ddowch o hyd i’r plant hapusaf, mwyaf gwydn, sy’n cael fwyaf o gefnogaeth emosiynol yn y cymunedau tlotaf yng Nghymru a’r plant mwyaf unig, mwyaf digyfeiriad, sydd wedi’u hesgeuluso fwyaf yn emosiynol yn byw mewn plastai. Pwy yw’r mwyaf difreintiedig yn ôl y dangosyddion hynny?

Wrth gwrs, nid wyf yn gwadu dim o’r dystiolaeth am y cysylltiad rhwng iechyd gwael mewn plant a’u mamau ac amddifadedd. Rwy’n siŵr y bydd popeth a glywn heddiw am oresgyn anghydraddoldebau cymdeithasol a datblygu’r data i fynd i’r afael â’r mater mewn ffordd fwy gronynnog yn rhywbeth rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld synnwyr ynddo. Y math o ddata a gasglwn fydd yn llywio newid. Fy mhwynt yw bod iechyd meddwl pob plentyn yn bwysig ac os yw un o bob pedwar ohonom yn debyg o brofi iechyd meddwl gwael, yna mae’n eithaf amlwg nad yw’n parchu ffiniau economaidd-gymdeithasol gwrthrychol. Mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r data gronynnog gwahanol hwn nid yn unig i farnu maint a dyfnder iechyd meddwl gwael, ond er mwyn llunio cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gyfer pob plentyn. Gwyddom fod gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed yn wynebu trafferthion. Rwy’n siŵr fod Lynne Neagle druan wedi cael llond bol ar ei ddweud. Ac mae’n wir, mae’n bosibl fod pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio’n amhriodol at CAMHS ac mae’n wir, a bod yn deg, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy mewn therapïau siarad, sy’n newyddion da, ond rydym yn cael trafferth bodloni anghenion iechyd meddwl penodol unigolion cyn eu bod yn oedolion, ac rydym yn cael trafferth atal iechyd meddwl gwael yn y lle cyntaf.

Felly, wrth edrych ar weledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, gadewch i ni beidio ag anwybyddu iechyd meddwl gwael y gellir ei atal. Mae addysg orfodol am berthnasoedd iach, rhywioldeb gwahanol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan o hynny, fe ddywedwn i—felly rwy’n gobeithio y bydd gan eich cyd-Aelodau, Ysgrifennydd y Cabinet, adroddiad eu gweithgor ar hynny’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach—ond mae deall eich bod yn rhan o rywbeth mwy na chi eich hun neu hyd yn oed yn fwy na’ch teulu eich hun yn rhan o hynny hefyd. Mae’n ddigon hawdd rhoi’r bai ar y cyfryngau cymdeithasol am hyn, felly fe wnaf, ond pan fyddwch yn cael 500 ‘hoffi’ am lun o’ch aeliau newydd ymhell y tu hwnt i’ch arddegau, a phan ddaw hynny’n bwysicach na dweud helo wrth eich cymydog, codi i rywun arall ar fws, neu gario bag rhywun arall drostynt pan fyddant yn ceisio rheoli bygi a thri o blant, a oes rhaid i chi ofyn, ‘Pam y mae pobl yn fwy anhapus?’

Wrth gwrs, ni allwn fynd yn ôl. Rwy’n gweld enghreifftiau aruthrol o unigolion yn dod at ei gilydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol i sefyll fel cymuned ac ymladd dros rywbeth neu’n well fyth, i ysgwyddo cyfrifoldeb dros ei wneud eu hunain. Unigolion na fyddai byth, yn yr oes analog, wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus neu gymryd rhan mewn gwaith fel grŵp i ddatrys problem yn eu hardal am eu bod yn rhy swil, heb hunanhyder, neu’n waeth na dim, yn meddwl mai problem rhywun arall yw hi, cyfrifoldeb rhywun arall. Os meddyliwch yn unig am ofal cymdeithasol fel enghraifft yn y blynyddoedd i ddod, nid ydym yn mynd i allu ymdopi â hynny os ydym yn gymdeithas ddatgysylltiedig. Mae angen i’n plant dyfu i fyny yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol, yn gryf ac yn ddigon hyderus i gyfrannu at gymunedau iach. Diolch.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:29, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gynnig y ddadl hon heddiw. Mae sicrhau canlyniadau iechyd gwell i blant a phobl ifanc yn un o’r tasgau pwysicaf sy’n ein hwynebu yn y Cynulliad hwn. Mae Cynulliadau blaenorol a Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i wella iechyd plant, ond nid yw’n ddigon yn ôl y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn eu hadroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd plant. Maent yn tynnu sylw at y ffaith fod canlyniadau iechyd plant yn llusgo ymhell y tu ôl i’n cymheiriaid yng ngorllewin Ewrop, yn enwedig o ran canlyniadau iechyd meddwl a marwolaethau plant. Mae’r ddadl hon yn arbennig o amserol gan i ni gael y newyddion ddoe fod llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol. Gwelodd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, mewn astudiaeth ddiweddar nad oedd gan bron i hanner cynghorau Cymru unrhyw offer monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion. Canfu Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint hefyd, yn y pum ardal a nodwyd fel rhai â lefelau anniogel o lygredd gronynnol—Caerdydd, Cas-gwent, Casnewydd, Abertawe a Phort Talbot—chwe ysgol yn unig a oedd ag offer monitro gerllaw.

Cofnodwyd bod llygryddion aer yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o effeithiau andwyol ar iechyd plant. Oherwydd y newidiadau cyflym y mae corff plentyn yn mynd drwyddynt, mae plant yn arbennig o agored i effaith llygryddion aer. Dangosodd adroddiad diweddar gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant y gall llygredd aer gynhyrchu effeithiau andwyol ar dwf, deallusrwydd, a datblygiad niwrolegol. Yn aml, bydd babanod a phlant bach yn cael trafferth gyda brest dynn a pheswch mynych o ganlyniad i lygredd aer, ac mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg y gall hefyd effeithio ar ddatblygiad meddyliol a chorfforol.

Mae ymchwil o Sweden wedi canfod bod cysylltiad rhwng cynnydd cymharol fach mewn llygredd aer a chynnydd sylweddol yn y problemau seiciatrig sy’n cael eu trin mewn plant. Ond efallai mai canfyddiad mwyaf arwyddocaol adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant oedd y dystiolaeth lethol fod llygredd aer yn gysylltiedig â llai o dwf ysgyfaint yn ystod plentyndod a mwy o berygl o ddatblygu asthma. Bob 20 munud caiff plentyn ei dderbyn i’r ysbyty oherwydd pwl o asthma, ac mae un o bob tri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth yn dioddef o’r clefyd.

Dylai’r rhybudd ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer yn fwy o bryder na gordewdra ac alcohol fod yn sioc i bawb ohonom—nid yn unig oherwydd y 2,000 o bobl sy’n colli eu bywydau’n ddiangen bob blwyddyn, ond oherwydd yr effaith a gaiff llygredd aer ar iechyd plant. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod offer monitro llygredd aer yn cael ei osod y tu allan i bob ysgol yng Nghymru, a gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i leihau lefelau llygryddion aer o amgylch ysgolion a mannau lle y bydd plant yn chwarae.

Yn ogystal â rhoi camau ar waith i leihau llygredd aer, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan lygryddion aer yn cael mynediad cynnar at wasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint. Mae cyfrifoldeb ar Lywodraethau ar bob lefel i amddiffyn plant ein cenedl rhag melltith llygredd aer, a chan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi ei nodi fel argyfwng iechyd y cyhoedd, rwy’n gobeithio y bydd camau’n cael eu rhoi ar waith ar fyrder. Diolch.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:33, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ar iechyd plant, ac roeddwn eisiau rhoi ychydig o amser, os caf, i dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i gyfleu negeseuon iechyd i blant ac i rieni, ac yn wir i addysgwyr proffesiynol yn ein hysgolion. Un o’r arfau a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gyflwyno’r negeseuon pwysig hyn oedd ein gweithlu nyrsio ysgolion, a chefais y pleser o ymweld â gwasanaeth nyrsio ysgolion rhagorol yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar gyda Suzy Davies, fy nghyd-Aelod, lle y clywsom o lygad y ffynnon gan nyrs yr ysgol yno, sy’n cael ei chyflogi gan yr ysgol mewn gwirionedd yn hytrach na’r bwrdd iechyd, am y mathau o wasanaethau y mae’n eu darparu, a’r ffordd y mae hi’n gallu ymgysylltu â’r boblogaeth ysgol o ganlyniad i’r ffordd y caiff ei chyflogi gan yr ysgol honno.

Nawr, gwyddom fod y fframwaith nyrsio ysgolion yng Nghymru yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, ac rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn gobeithio ei adnewyddu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn, ond tybed a fydd y trefniadau yn y fframwaith nyrsio ysgolion newydd honno’n ddigon i fanteisio ar y cyfleoedd y mae nyrsio ysgolion yn eu cynnig mewn gwirionedd. Mae gennym oddeutu 220 o nyrsys ysgol yng Nghymru—mae gan bob ysgol uwchradd nyrs ysgol a enwir ar gael iddynt—ond nid yw’r nyrsys ysgol unigol hynny’n gweithio’n llawnamser mewn ysgol uwchradd unigol. O ganlyniad i hynny, mae’r math o ymddiriedaeth a hyder y mae pobl ifanc yn aml iawn eu hangen er mwyn sefydlu perthynas gyda’r nyrs benodol yn eu hysgol ar goll.

Mae hynny’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r model a welais yn Ysgol Bryntirion, lle y mae’r nyrs yno, Judith, ar gael bob dydd o’r wythnos ar gyfer y disgyblion a’r staff, ac roedd hi yno, yn ymgysylltu, yn rhoi rhyw fath o gyngor iechyd galwedigaethol, yn rhoi cyngor ar ddiogelu i aelodau o’r tîm staff proffesiynol ac yn ychwanegol at hynny, yn rhoi negeseuon iechyd cyhoeddus pwysig iawn i’r plant yn yr ysgol, ac yn eu cefnogi drwy’r hyn sy’n aml wedi bod yn gyfnod anodd iawn yn eu bywydau. Rwy’n meddwl mai’r un peth mawr a’m trawodd oedd ei bod hi wedi gallu sefydlu perthynas nid yn unig gyda’r ysgol, ond gyda’r gymuned ehangach y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu mewn gwirionedd—teulu ehangach yr ysgol. O ganlyniad i’r cysylltiadau hynny, maent wedi gweld cyfraddau absenoldeb staff yn disgyn yn aruthrol, maent wedi gweld cyfraddau presenoldeb ysgol ymhlith y dysgwyr yn cynyddu’n gyflym, maent wedi gweld disgyblion yn gallu rheoli eu cyflwr o fewn y diwrnod ysgol heb fynd adref pan fyddant yn sâl, mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl oni bai ei bod hi ar gael yno.

Rwy’n sylweddoli bod gan y gwasanaeth nyrsio ysgolion ehangach sydd ar gael ar draws Cymru ym mhob ardal bwrdd iechyd unigol nifer o swyddogaethau pwysig eraill i’w cyflawni: pethau fel brechiadau, a rhaglenni gofal iechyd y geg a deintyddol, sy’n rhan greiddiol o’u gwaith. Ond yr un peth nad oes gan ein gwasanaeth nyrsio ysgolion presennol yn aml iawn yw digon o amser i allu ei fuddsoddi ar safleoedd ysgolion unigol fel y gallant ddatblygu’r mathau o berthnasoedd a welais, a oedd wedi’u meithrin dros y blynyddoedd gan Judith gydag Ysgol Bryntirion.

Wrth gwrs, nid ein hysgolion uwchradd yn unig sydd angen mynediad at nyrsys ysgol. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod ein hysgolion cynradd yn cael mynediad at nyrsys ysgol dibynadwy hefyd, ac yn wir, hoffwn eu gweld ar gael yn fwy eang yn ein colegau addysg bellach a’n prifysgolion, oherwydd, wrth gwrs, gŵyr pawb ohonom eu bod hwy hefyd yn fannau lle y mae pobl ifanc a staff angen cymorth gan weithwyr iechyd proffesiynol a all fod ar gael ac wrth law pan fyddant eu hangen.

O ran iechyd y cyhoedd, beth am gael y nyrsys ysgol yn rhan o’r gwaith o gyflwyno gwersi ar faeth, ar weithgarwch corfforol, ar gamddefnyddio sylweddau? Rydym yn wynebu epidemig ar hyn o bryd o broblemau iechyd meddwl a phroblemau sy’n gysylltiedig â lles, fel y dywedodd Suzy Davies yn ddigon cywir ychydig funudau’n ôl. Gallai ymdrin â’r rhain cyn iddynt dyfu’n broblemau mwy fod yn rhywbeth y gallai ein nyrsys ysgol ei wneud, os ydynt wedi cael eu paratoi a’u hyfforddi’n briodol i allu gwneud hynny. Felly, rwyf am ganmol rhinweddau nyrsys ysgol ac annog y Llywodraeth, wrth ymateb heddiw, i godi ychydig mwy ar y caead efallai ar yr hyn sy’n cael ei wneud i adnewyddu’r fframwaith nyrsio ysgolion a dweud ychydig bach mwy wrthym o bosibl ynglŷn â’r sefyllfa ar hyn o bryd o ran yr amserlen ar gyfer cyflawni’r addewid i’w adnewyddu. Diolch.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:38, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma ac i ystyried rhai o’r nifer fawr o bwyntiau a gyflwynwyd. Gobeithiaf yn fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gyfrannu i’r ddadl, yn siarad am y ffrydiau gwaith y mae’r Llywodraeth yn eu dwyn at ei gilydd, oherwydd, fel y dywedodd Angela Burns yn hollol glir yn ei sylwadau agoriadol, mae’r rhan fwyaf o hyn mewn gwirionedd y tu hwnt i’r portffolio iechyd ac yn treiddio i nifer o bortffolios ar draws y Llywodraeth. Yn aml iawn, gall fod enghreifftiau o ymarfer rhagorol yn digwydd, ond yn aml iawn, cânt eu gwneud ar wahân, ac mewn gwirionedd, os ydym yn mynd i weld gwelliant cyffredinol yn iechyd pobl ifanc a phlant yma yng Nghymru, mae angen ymagwedd gydlynol a thargedau clir o ran ble rydym am fod ymhen pum mlynedd a 10 mlynedd.

Gallaf ddeall fod targedau, yn aml iawn, yn gallu bod yn rhagnodol iawn a chyfyngu ar rai o’r syniadau mwy dychmygus y gallai fod angen eu datblygu, yn enwedig yn rhai o’n hardaloedd gwledig, lle y gall darparu gwasanaethau fod yn fwy heriol, ond yn y pen draw, os oes gan y Llywodraeth strategaeth a nod, gall holl bwysau’r Llywodraeth o leiaf, a’r cyrff ategol o dan hynny, weithio i’r cyfeiriad hwnnw a’r nod cyffredin yr ydym i gyd am ei weld, sef gwella gobeithion pobl ifanc yn gyffredinol yma yng Nghymru.

Yn ddiweddar, ar ymweliad ag ACT, darparwr hyfforddiant i lawr yn Ne Caerdydd a Phenarth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn siŵr o fod yn gwybod amdano gan ei fod yn ei etholaeth. Aeth Darren Millar, fy llefarydd addysg, yno gyda mi, ac roeddent yn tynnu sylw at y ffaith fod y fenter gofod diogel y maent wedi’i chreu yno ar gyfer pobl ifanc a gafodd broblemau yn eu bywyd ysgol ac sydd wedi methu setlo i’r diwrnod ysgol arferol—drwy’r diwylliant gofod diogel hwnnw, drwy’r fenter gofod diogel honno, maent wedi cynnig cyfle i’r bobl ifanc hyn adennill eu hyder go iawn, i adennill blas am addysg, ac yn y pen draw, i feithrin pwrpas. Hoffwn gymeradwyo’r fenter i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli ei bod yn perthyn i’r maes addysg, ond yn sicr, hefyd, os oes gennych blant sy’n teimlo’u bod yn cyflawni ac yn teimlo’n fodlon, mae hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar eu hiechyd hefyd, felly, mae’n berthnasol. Rwy’n gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod ei fod yn gyfarwydd â’r fenter. Nid yma yng Nghaerdydd yn unig y mae angen i ni weld y gallu hwnnw, ond ar draws Cymru, ac rwy’n canmol ACT am ddatblygu is-ganolfan yng Nghaerffili i gynnig yr un math o fentrau a chyfleoedd.

Hefyd hoffwn ddatblygu’r thema am lygredd aer a gyflwynwyd gan Caroline Jones, a soniais am hyn mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe. Unwaith eto, dyma faes y gall y Llywodraeth wneud cynnydd sylweddol ynddo. Mae ganddi’r dulliau, drwy’r system gynllunio, drwy’r system drafnidiaeth, drwy’r system iechyd y cyhoedd sydd yma yng Nghymru, i wneud gwelliannau ac enillion sylweddol yn y maes. Ni all fod yn iawn ein bod yn goddef i 2,000 o bobl farw’n gynamserol yma yng Nghymru—pump o bobl y dydd—ac mewn gwirionedd nid ydym yn gwneud y cynnydd y dylem fod yn ei wneud yn y meysydd hyn pan fo gennym atebion ar gael i ni. Rwy’n derbyn na fyddwch byth yn cyrraedd sero, ond gallwn wneud rhai newidiadau mawr go iawn i’r ffordd y mae pobl yn gweithio, y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd, a fyddai’n cael effaith enfawr. Byddwn yn awgrymu y byddai unrhyw faes arall a fyddai’n golygu bod 2,000 o bobl yn marw’n gynamserol bob blwyddyn yn mynnu mwy o sylw gan y Llywodraeth o ran defnyddio rhai o’r dulliau sydd ganddi. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu defnyddio’r mesurau y mae wedi’u gosod yn benodol i Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud gwelliannau yn y maes penodol hwn.

Maes arall yr hoffwn ei grybwyll yn benodol hefyd yw’r digwyddiad a gynhaliwyd gan Angela yn ystod amser cinio, lle roedd llawer o fenywod a oedd wedi dioddef trasiedi camdriniaeth—cam-drin corfforol a meddyliol—yn eu bywydau wedi llwyddo i ailadeiladu, ac adfer eu hyder i fagu eu teuluoedd a rhoi eu hunain ar y ffordd i fod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned ar ôl bod wedi’u digalonni—a’u gwaradwyddo, yn ôl yr enghreifftiau a roddwyd i ni, rwy’n meddwl, a’u hunanhyder wedi’i chwalu i’r fath raddau gan y cam-drin a ddioddefasant. Roedd llawer o enghreifftiau da yno, unwaith eto, o ble y gellid cyflwyno arferion da, ac fe gyflwynodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, hynny mewn cwestiynau cynharach am rai o’r profiadau yn yr Almaen. Pam y dylai’r dioddefwyr gael eu herlid o’r gymuned y maent wedi byw ynddi, yr ardal y cawsant eu magu ynddi, tra bo’r cyflawnwyr yn aml iawn yn aros yn y gymuned honno? Unwaith eto, gallwn edrych o gwmpas a dod o hyd i enghreifftiau da o arferion da y gall y Llywodraeth eu defnyddio, gyda’r adnoddau sydd ganddynt, i ddatblygu’r broses o gynorthwyo pobl yn y gymuned i ailadeiladu eu bywydau, ailfagu eu hyder, a dod yn aelodau gwerthfawr o’n cymdeithas eto heb deimlo’n ddieithr ac wedi’u gwthio i’r cyrion. Mae’r gwaith a wnaeth y grŵp hwnnw’n glodwiw a dweud y lleiaf.

Wrth gloi, hoffwn gyffwrdd ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Rwyf wedi cymryd rhai sylwadau, yn enwedig gan Diabetes Cymru, sydd wedi cyffwrdd ar anghenion iechyd nad ydynt, ar hyn o bryd, oherwydd y ffordd y drafftiwyd y Bil, wedi’u cynnwys yn y Bil—maent wedi’u cynnwys yn y rheoliadau yn ôl yr hyn a ddeallaf. Gallaf weld y Dirprwy Weinidog yn dynodi—y Gweinidog yn dynodi hynny. Fe roddaf ddyrchafiad sydyn iddo eto. Ond unwaith eto, hoffwn weld a yw’r Gweinidog iechyd yn cefnogi’r galwadau i gynnwys anghenion iechyd, ac anghenion iechyd sylfaenol pobl ifanc, yn y Bil, oherwydd, yn amlwg, mae hwnnw’n gategori pwysig y mae angen i’r ddeddfwriaeth ei gynnwys, ac unwaith eto, byddai’n cael effaith enfawr ar wella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc yma yng Nghymru.

Felly, gyda’r ychydig sylwadau hynny, edrychaf ymlaen at glywed ymatebion Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, drwy weithio’n gydgysylltiedig a chyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i ragolygon pobl ifanc yma yng Nghymru.

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent 4:44, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Fel bodau dynol, mae gennym anghenion sylfaenol: bwyd, dŵr, cynhesrwydd a gorffwys, diogelwch a chysur. Rhaid bodloni’r anghenion sylfaenol hyn cyn y gallwn hyd yn oed ddechrau anelu at gyflawni ein potensial. Mae fy mhlant yn ddigon ffodus i ddod adref bob nos i le cyfarwydd—lle y maent yn ei adnabod, lle y maent yn ei alw’n gartref. Mae’n fan lle y maent yn teimlo’n ddiogel, lle y maent yn teimlo’u bod yn perthyn. Mae’n fan lle y mae ganddynt eu hoff eiddo: tegan meddal, eu llyfrau, eu teganau, eu gwelyau. Mae’n fan sy’n eiddo iddynt hwy.

Roeddwn yn syndod darganfod, y Nadolig diwethaf, fod dros 1,100 o blant yn ddigartref yma yng Nghymru. Mae bod heb gartref yn golygu bod heb wreiddiau. Mae’n golygu bod gan blant bryderon, straen ac ofnau na ddylai unrhyw blentyn eu disgwyl ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys plant sy’n ddigartref ac sy’n byw mewn llety dros dro. Nid yw’n cynnwys plant annibynnol 16 ac 17 oed sydd wedi gadael cartref neu ofal drwy ddewis neu beidio.

1,100 o blant—ni all hynny fod yn iawn. Mae’n ddwywaith nifer y plant yn ysgol St Joseph yn Wrecsam. Pa obaith sydd gan y plant hynny i fynd yn ôl ar unrhyw fath o gae chwarae gwastad, o ystyried y profiadau y mae’n rhaid eu bod wedi’u cael wrth nesu fwyfwy at ddigartrefedd a’r profiadau y gallent fod yn eu hwynebu wrth ymdrechu i ddod allan ohono?

Mae gwir angen inni ganolbwyntio ar achosion sylfaenol y problemau sy’n bla yn ein cymdeithas. Mae’n drasiedi nad yw anghenion sylfaenol a phwysicaf plant Cymru yn cael eu diwallu. Maent yn haeddu gwell.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:46, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc pwysig ac eang hwn. Rwy’n hapus i gadarnhau bod y Llywodraeth yn cefnogi pob un o’r gwelliannau.

Lansiwyd y rhaglen Plant Iach Cymru ym mis Hydref y llynedd ar gyfer yr holl blant a’u teuluoedd, er mwyn gwella iechyd, datblygiad cymdeithasol ac addysgol a chanlyniadau corfforol, meddyliol a chymdeithasol hirdymor. Bydd y rhaglen yn diogelu iechyd plant drwy wasanaethau sgrinio a goruchwylio o enedigaeth i saith oed. Mae’r rhaglen yn hyrwyddo gwydnwch ac wedi ei hanelu at rymuso teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus i ddarparu amgylcheddau diogel a meithringar.

Hoffwn ymdrin yn fras ag un o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns ar y dechrau, sef y gwariant canrannol yn y gwasanaethau iechyd ar fenywod a phlant. Nid wyf yn credu bod hynny mewn gwirionedd yn ffordd ddefnyddiol o fynd ati, yn syml oherwydd fy mod yn credu ein bod yn ceisio cael ymagwedd gwasanaeth cyfan i weld y person cyfan yn eu cyd-destun. Mewn gwirionedd ceir llawer o feysydd gwariant a gweithgareddau eraill na fydd wedi’u cynnwys yn y ffigurau a rowch sydd wrth gwrs yn bwysig iawn i’r hyn y gall gwasanaethau iechyd a gofal ei wneud wrth gyfrannu mewn partneriaeth ag eraill hefyd. Roedd llawer o weddill eich cyfraniad yn cydnabod ac yn ystyried y ffaith fod angen i ni weld plant yn y cyd-destun cyfan hwnnw a lle y cânt y rhyngweithiadau hynny a beth y gallai ac y dylai’r rheini ei wneud i wella.

Rwy’n croesawu ysbryd y cyfraniadau yn y ddadl, gan gynnwys y ffordd y dechreuodd Angela Burns. Rwy’n hapus i barhau i drafod yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud o safbwynt Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i blant a’u teuluoedd. Ond ni ddylem geisio troi cefn ar realiti anochel beth arall sy’n digwydd y tu allan i’r lle hwn hefyd.

Er enghraifft, nid yw cymorth i deuluoedd sy’n rhentu tai wedi’i ddatganoli. Ers 2011, yn y maes hwn ac eraill, cafwyd toriadau parhaus gan Lywodraeth y DU i’r cymorth hwnnw. Mae hwnnw’n ddewis bwriadol ac mae’n golygu llai o gefnogaeth i deuluoedd mewn angen, y mwyafrif ohonynt yn gweithio mewn gwirionedd. Dyna un enghraifft o’r dewisiadau y mae Llywodraeth y DU wedi’u gwneud sydd wedi effeithio’n wirioneddol ar ganlyniadau a rhagolygon ar gyfer plant. Yn anffodus, mae’n mynd i waethygu.

Tlodi yw’r ffactor sy’n cyfyngu fwyaf ar iechyd, lles a rhagolygon ein plant yn y dyfodol. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y bydd nifer y plant ar draws y DU a fydd yn tyfu i fyny mewn tlodi yn cynyddu mwy nag 1 filiwn fel y bydd dros 5 miliwn o blant yn y DU yn byw mewn tlodi. Byddant yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi gan ddewisiadau uniongyrchol a bwriadol Llywodraeth y DU. Bydd hynny’n effeithio ar bopeth y gallwn ei wneud a’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda, ac ar gyfer plant a’u teuluoedd.

Yma yng Nghymru, rwy’n falch o ddweud bod gennym agwedd wahanol. Rydym yn buddsoddi dros £124 miliwn yn flynyddol yn y rhaglen Cefnogi Pobl i gefnogi teuluoedd sy’n agored i niwed a helpu i atal problemau’n gynnar. Mae gan wasanaethau digartrefedd yr awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gyfeirio aelwydydd â phlant at y gwasanaethau cymdeithasol lle y maent mewn perygl o fod yn ddigartref yn fwriadol.

Ac wrth gwrs, mewn addysg, rydym yn cydnabod bod datblygiad yn gosod y sail ar gyfer datblygiad iechyd plentyn. Dyna pam y mae adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm yng Nghymru, ‘Dyfodol Llwyddiannus’, yn cydnabod bod angen i blant a phobl ifanc brofi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol er mwyn ymgysylltu’n llwyddiannus ag addysg—a gweld y plentyn yn eu cyd-destun cyfan. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn pob un o’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw ar gyfer addysg ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad. Un o’r meysydd hynny, wrth gwrs, yw iechyd a lles, i gyflwyno themâu sy’n cynnwys lles meddyliol, corfforol ac emosiynol. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion arloesi ar ddatblygu’r canllawiau iechyd a lles i gefnogi fframwaith y cwricwlwm.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n hanfodol fod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at addysg sy’n diwallu eu hanghenion ac yn eu galluogi i gymryd rhan yn y profiad dysgu. Bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn mynd â ni tuag at hyn ac yn darparu system deg a chyfiawn i bob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy’n hapus i gadarnhau eto y bydd yr anghenion iechyd nad ydynt yn anghenion dysgu yn destun canllawiau statudol y bydd y Gweinidog yn eu cyhoeddi cyn diwedd y mis hwn.

Rwy’n cydnabod pwysigrwydd darparu gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant. Roedd un o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns yn sicr yn adroddiad diweddar y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, a dyna pam rwy’n hapus i gadarnhau heddiw y bydd y Llywodraeth hon yn datblygu cynllun iechyd plant newydd i ymateb yn uniongyrchol i’r argymhelliad canolog hwnnw.

Rwyf wedi gwrando ar randdeiliaid, ac rwy’n cydnabod yr angen i ddisgrifio’r meysydd blaenoriaeth cenedlaethol y dylai gwasanaethau iechyd fynd i’r afael â hwy i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Rwyf hefyd yn cydnabod rôl dulliau gwell o gasglu data ar gyfer deall iechyd plant yng Nghymru—mewn termau cyffredinol, ond hefyd i gefnogi’r cynllun hwn.

O ran y pwyntiau uniongyrchol a wnaed am y cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae gennym ffocws newydd pellach ar ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dangosodd yr arolwg diweddaraf o brofiad cleifion canser pa mor dda y caiff gwasanaethau eu darparu i’r boblogaeth oedolion. Rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu dulliau o fesur profiadau a gofnodir gan gleifion ar gyfer plant yr effeithir arnynt gan ganser i sicrhau ein bod yn diwallu eu hanghenion. Byddwn yn ystyried ymestyn yr ystod oedran ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn yr arolwg hwn wrth gomisiynu yn y dyfodol.

Am y tro cyntaf, yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar wasanaethau cwnsela awdurdodau lleol sy’n gweithredu mewn ysgolion uwchradd a blwyddyn chwech yr ysgolion cynradd. Roedd dros 5 y cant o’r plant a oedd yn cael gwasanaeth cwnsela ysgolion yn 2014-15 yn gwneud hynny am resymau’n ymwneud â bwlio. Dengys tystiolaeth y gall gwasanaeth cwnsela o fewn strategaeth gyffredinol ar gyfer ysgolion fod yn hynod o effeithiol yn atal y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl. Rydym yn disgwyl i ysgolion ei gwneud yn glir na fydd bwlio gan gyfoedion yn cael ei oddef a bod y neges wrthfwlio yn cael ei rhoi ar waith.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd yn adolygu’r polisi gwrthfwlio er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben. Rydym yn benderfynol o gael cymorth clir a chyson i bobl sy’n cael eu bwlio, ac rydym yn awyddus i atgyfnerthu ein nod o greu lle i bobl roi gwybod am fwlio a chael cymorth.

Yn 2015-16, cyhoeddais dros £1.5 miliwn o gyllid rheolaidd newydd i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned i wella canlyniadau i fenywod sydd â salwch amenedigol. Dywed y GIG fod mwy na 1,500 o fenywod wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau amenedigol cymunedol ers mis Ebrill 2016. Yn ddiweddar, wrth gwrs, cyhoeddais gynnydd o £20 miliwn pellach yn y gwariant ar iechyd meddwl yn gyffredinol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru a basiwyd gan y lle hwn. Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r GIG yng Nghymru. Fe fyddwn, wrth gwrs, yn monitro effeithiolrwydd ac effaith y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd i sicrhau cysondeb ar draws Cymru i deuluoedd sy’n agored i niwed.

Drwy ein rhwydwaith o gynlluniau ysgolion iach Cymru, rydym yn cynorthwyo ysgolion i greu amgylchedd i helpu i fynd i’r afael â gordewdra. Mae dros 99 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cynlluniau hyn.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnaed yn y cynnig a’r gwelliannau ynglŷn â chwaraeon. Nid ydym am anghofio pwysigrwydd addysg gorfforol yn y cwricwlwm, ond wrth gwrs mae Addysg Gorfforol yn llawer mwy na chwaraeon yn unig. Rydym eisiau i ysgolion gynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol wrth gwrs. Dyna pam y bydd £1.4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad yn ein rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i ysgolion a cholegau allu darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn eu hysbrydoli i gyflawni eu potensial. Rwy’n hapus i gadarnhau’n gryno, mewn ymateb i Darren Millar, fod y fframwaith nyrsio ysgolion yn cael ei ddatblygu gyda, a chan y gweithlu ei hun, a bydd yn cael ei lansio yn y dyfodol agos.

Wrth orffen, Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus i gadarnhau fy mod yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ar draws y gwahanol bleidiau yn y Siambr hon a’r tu allan i’r lle hwn. Edrychaf ymlaen at wneud hynny er mwyn helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a’u teuluoedd yma yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:54, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o glywed am y cynllun iechyd plant yr ydych yn ei argymell, gan fod hyn yn ganolog i’r ddadl hon. Y rheswm pam y cyflwynwyd y ddadl hon gennym oedd, er eich bod wedi tynnu sylw at nifer fawr o fentrau yn y maes iechyd, yn y maes addysg—ac mae croeso iddynt oll—mae’n ymwneud â hybu thema, mae’n ymwneud â gweithio edafedd aur drwy wahanol weadau’r Llywodraeth. Rydym am weld—ac rwy’n casáu’r gair ‘trosfwaol’, ond mae’n ei gwmpasu mewn gwirionedd—gweledigaeth drosfwaol, gan mai’r plant hyn yw ein dyfodol yfory ac os gallwn eu gwneud yn iach, yn wydn, yn fodlon ac yn gadarn yn fewnol heddiw, yna byddant yn gallu ymdopi cymaint yn well â’r hyn sy’n digwydd yn eu dyfodol.

Rydym yn siarad am y straen mawr ar y GIG yng Nghymru o ran y cyfyngiadau ariannol. Rydym yn siarad am yr argyfwng gordewdra, yr epidemig ysmygu a’r problemau llygredd aer. Mae’n rhaid dod â’r cyfan hyn at ei gilydd mewn ffordd y gallwn ddechrau heddiw gyda’r ieuengaf o’n plant a’u symud ymlaen ac edrych arno mewn ffordd gyfannol. Hoffwn weithio gyda chi. Byddem yn hoffi gweithio gyda chi i sicrhau bod y cynllun iechyd plant mewn gwirionedd yn edrych arno yn y ffordd gydweithredol honno. Mae’n debyg braidd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd â chynaladwyedd a chydraddoldeb yn egwyddorion ysgogol yn sail i’r lle hwn. Hoffwn weld iechyd a lles plant yn egwyddor ysgogol sy’n sail i holl bolisïau’r Llywodraeth. Mae’n rhywbeth y mae gwahanol bwyllgorau dros y blynyddoedd—. Rwy’n meddwl bod y Dirprwy Lywydd a minnau yn aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc pan edrychasom ar gyllidebu a sut y gall cyllidebau effeithio ar iechyd plant a chanlyniadau addysgol plant.

Roeddwn yn meddwl bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud rhai pwyntiau dilys iawn ar y gwelliannau. Mynd i’r afael â gordewdra: dyna enghraifft, pe bai gennym weledigaeth lle rydym yn deall bod gordewdra yn broblem o ran iechyd, yna byddem yn ysgogi’r newid hwnnw ar lefel yr ysgolion mewn gwirionedd. Rydych yn iawn, Ysgrifennydd y Cabinet; nid yw’n ymwneud yn unig â chwaraeon elitaidd neu chwaraeon. A dweud y gwir, mae’n ymwneud â hwyl. Mae’n ymwneud â mynd allan a neidio o gwmpas mewn campfa neu ar faes chwarae, bod yn egnïol a symud. Os oes gennym y weledigaeth gyffredinol, yr edafedd aur, yna byddem yn edrych, o’r crud i’r bedd, ar sut y gwnawn ein hunain yn iach. I fod yn onest, i rywun fy oedran i mae’n debyg ei bod hi’n rhy hwyr, ond ar fy ngwir, y rhai dwy oed, tair oed, pedair oed, saith oed, fy merched—12 a 14 oed—ein plant i gyd—

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn sicr y byddai trampolinio’n fy nghynnal, mewn gwirionedd, David Melding. [Chwerthin.] Nid wyf am dorri rhagor o esgyrn. Ond mae’n ymwneud â dal yr ifanc a newid eu ffyrdd o fyw a newid eu disgwyliadau. Y peth arall nad ydym wedi’i grybwyll yw hyn: bydd unigolyn iach sy’n wydn yn emosiynol, a fydd, yn 18, 19 neu’n 20 oed, yn dechrau mewn swydd neu’n cychwyn mewn addysg uwch yn rhywun a fydd yn llwyddo’n llawer gwell yn eu bywydau mewn gwirionedd. Byddant yn cael gwell canlyniadau ac yn eu tro, byddant yn magu plant hapusach, iachach a mwy gwydn. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn mynd i fwrw ymlaen â hyn a cheisio ffurfio gweledigaeth. Byddwn yn gweithio gyda chi. Hoffwn ddiolch i bawb—nid wyf wedi cael cyfle i ddiolch i bawb—am gymryd rhan yn y ddadl.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:58, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.