1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 28 Mawrth 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Yfory, bydd Llywodraeth y DU yn sbarduno erthygl 50, gan ddechrau’r broses lle bydd y Deyrnas Unedig, neu rai rhannau o'r DU o leiaf, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydych chi wedi dweud o'r blaen eich bod yn disgwyl y bydd ymgynghori â chi cyn gwneud yr hysbysiad erthygl 50. A allwch chi ddweud wrthym pa ymgynghori sydd wedi digwydd a, hefyd, yr hyn yr ydych chi’n disgwyl ei weld yn y llythyr erthygl 50?
Gallaf, trafodwyd hyn gennym yn fanwl yr wythnos diwethaf pan gefais gyfarfod â Phrif Weinidog y DU a chyfarfod gyda David Davis. Bryd hynny, nid oedd yn eglur, o safbwynt Llywodraeth y DU, a fyddai'n llythyr byr neu’n llythyr hwy; llythyr hwy, mewn geiriau eraill, yn amlinellu'r achos cyfan, neu’r safbwynt cyflawn y byddai'r DU yn ei gymryd yn y trafodaethau erthygl 50. Ond, mae'n ymddangos i mi, yn syml, mai’r hyn a fydd yn digwydd yw y bydd llythyr yn cael ei anfon, yn esbonio’r hyn y mae'r DU yn bwriadu ei wneud. Nid wyf yn disgwyl y bydd unrhyw beth yn y llythyr sy'n cyfeirio at ddatganoli.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Nid yw'n rhoi llawer iawn o ffydd i mi nad ydych chi’n gwybod yn union beth sy'n mynd i fod yn y llythyr hwnnw. Nododd y felin drafod Demos ddoe y gallai Cymru fod y wlad i gael ei tharo waethaf gan effaith economaidd Brexit, ac rydym ni’n wynebu, fel y gwyddoch, risg uchel o unrhyw golled o allforion, a dyna pam mae cyfranogiad parhaus yn y farchnad sengl mor bwysig. Rydym hefyd yn wynebu risg uchel o unrhyw golled o gyllid UE. O ran dinasyddion yr UE, mae Demos yn disgrifio'r sefyllfa fel un risg isel i Gymru oherwydd y nifer gymharol fach o bobl sydd yma. Ond rydym ni yn gwybod bod y dinasyddion UE sydd yma yn bwysig i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ein GIG. Nawr, mae’r canfyddiadau Demos hynny yn esbonio'n union pam mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu'r economi drwy hyn i gyd. Beth yw eich asesiad nawr o Brexit caled, lle gallai’r risgiau hyn droi’n realiti?
Wel, gwrandewais ar y sylwadau a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru dros y penwythnos, ac roeddent yn union yr un fath â'r sylwadau, ac eithrio un mater, yr wyf i wedi eu gwneud yn y gorffennol. Yr unig fater sy'n wahanol yw'r derminoleg sy'n cael ei defnyddio—mae hi'n defnyddio 'aelodaeth'; rydym ni’n defnyddio 'cyfranogiad'. Nid wyf yn ceisio dweud bod unrhyw wahaniaeth rhyngom ni o ran beth fyddai'r canlyniad. Ond yr hyn sy'n amlwg i mi, yn gyntaf oll, yw nad oedd Llywodraeth y DU ei hun, yr wythnos diwethaf, yn gwybod beth yn union fyddai’r llythyr erthygl 50 yn ei ddweud. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cynghori Prif Weinidog y DU; roeddwn i'n meddwl mai’r byrraf y gorau fyddai orau iddi hi. Cawn weld sut y mae’r llythyr yn edrych mewn gwirionedd.
O ran dinasyddion yr UE, mae’n rhaid i mi ddweud bod dinasyddion UE yng Nghymru o hyd sy'n bryderus. Ddoe, cefais gyfarfod â llysgennad Rwmania. Mae'r gymuned Rwmanaidd yn eithaf bach, ond mae rhai ohonynt yn pryderu y byddant yn cael eu hallgludo, yn llythrennol. Nid yw’n ofn sydd wedi ei wreiddio mewn ffaith, ond mae pobl wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau ac maen nhw wedi cyfateb hynny i'r sefyllfa yma. Rwyf wedi ceisio, yn amlwg, tawelu rhai o'r ofnau hynny. O’m safbwynt i, yr hyn sy'n gwbl allweddol, cyn gynted â phosibl, yw bod y mater o ddinasyddion UE sy'n byw ar draws yr Undeb Ewropeaidd, a dinasyddion y DU sy’n byw mewn gwledydd eraill yn yr UE, yn cael ei ddatrys yn gyflym er mwyn cael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw.
Ac, o ran yr economi, mae hi a minnau o’r un safbwynt yn union: mynediad at y farchnad sengl, dim gosod tariffau. Mae’r gallu i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl yn gwbl hanfodol i economi fel ein heconomi ni, lle mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nid oes gen i unrhyw ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i adlewyrchu ein buddiannau cenedlaethol penodol yng Nghymru, ac nid oes unrhyw wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i ni y prynhawn yma i roi mwy o ffydd i ni. Ni all Cymru fforddio talu pris uchel am Brexit caled, ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i orfod amddiffyn ein buddiannau yn ystod y trafodaethau erthygl 50. Ond mae angen i ni hefyd feddwl am sut yr ydym ni’n mynd i symud y ddadl ymlaen i ymdrin â'r pwerau sydd eu hangen arnom i liniaru'r risgiau economaidd hynny. Rydym ni eisiau cadw gwerth ein cyllid UE presennol mewn unrhyw gynllun newydd, ond mae Plaid Cymru yn credu bod angen mwy o rym yng Nghymru i benderfynu sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei wario. Dylem allu defnyddio cyllid newydd i wneud Cymru'n fwy deniadol i fusnesau, ac mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru’n cael ei grymuso fel y gallwn addasu i her Brexit. Mae angen pwerau treth arnom, er enghraifft, sy’n llawer ehangach na'r rhai sy’n cael eu cynnig eisoes. Rwyf wedi nodi fy ngalwadau i Lywodraeth y DU ar hyn heddiw—yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ystyried fel budd pennaf Cymru—ond a allwch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi’n bwriadu ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, i gael ein gwlad i'r sefyllfa lle y gall oroesi Brexit Torïaidd eithafol?
Fel y dywedais, mae llawer o'r hyn a ddywedodd fwy neu lai yr un fath â’r hyn a ddywedais i yr wythnos gynt ac yn yr wythnosau cyn hynny. Nid oes gennym safbwynt gwahanol o gwbl yn hynny o beth. Wel, gadewch i mi esbonio: yn gyntaf oll, nid wyf mor optimistaidd—y gair anghywir mae’n debyg, ond mor optimistaidd ag y mae hi y bydd unrhyw arian ar ôl 2020. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd unrhyw arian i ddisodli cronfeydd strwythurol. Rwy’n llai a llai argyhoeddedig y bydd unrhyw arian i dalu cymorthdaliadau ffermio. Mwy a mwy, rydym ni’n clywed bod y polisi amaethyddol cyffredin yn broblem. Clywsom hynny gan Iain Duncan Smith. Mae hynny'n golygu ei bod yn bosibl iawn y gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu—mae’n bosibl iawn y gallent ddiflannu. Dyna fy ofn mwyaf. Rydym ni’n gwybod beth fyddai hynny'n ei olygu i economi cefn gwlad Cymru.
Fel y mae hi’n gwybod, rwyf wedi dweud lawer, lawer gwaith na fydd y broses hon yn gweithio oni bai bod y pedair gwlad yn cytuno i'r setliad terfynol. Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl mewn unrhyw ffordd cael setliad terfynol erbyn mis Mawrth 2019, oherwydd byddai'n rhaid iddo gael ei gwblhau erbyn hydref y flwyddyn nesaf, ac mae hynny'n dipyn o gamp. Wrth gwrs, er mwyn i farchnad sengl fewnol y DU oroesi, mae angen rheolau cymorth gwladwriaethol yn y DU; mae’n rhaid iddynt gael eu cytuno gan y pedair gwlad, nid eu gorfodi gan Lywodraeth y DU; ac mae'n rhaid cael proses ddyfarnu annibynnol i blismona'r rheolau hynny. Rwy'n credu ei fod yn ymarferol wedyn. Ond, fy ofn mwyaf yw nad oes dealltwriaeth dda o hyn yn Whitehall. Ddydd Iau, byddwn yn gweld y Papur Gwyn ar y Bil diddymu mawr fel y'i gelwir. Os yw'n canolbwyntio ar gadw acquis presennol cyfraith Ewropeaidd yn unig, mae hynny'n synhwyrol. Os, fodd bynnag, y bydd yn symud tuag at awgrymu rhywbeth fel, 'Wel, dylai pwerau’r UE ddod yn ôl i Whitehall ar sail dros dro ac yna bydd trafodaeth ynghylch ble maen nhw’n mynd,' ni fyddai hynny'n dderbyniol, gan nad wyf yn credu y byddai'r 'dros dro' yn golygu dros dro. Byddwn yn gweld ddydd Iau a yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â gweithio i sicrhau bod y DU yn parhau i weithio fel partneriaeth.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Ddoe, Prif Weinidog, darganfuwyd bod pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa o ddiffyg cronig, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw teg—sefyllfa o ddiffyg cronig. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu llinell yn y tywod gan ddweud na fyddant yn cael eu hachub. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd na fydd unrhyw wasanaethau yn cael eu colli yn unman yng Nghymru oherwydd diffyg arian. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir ac mai dyna bolisi Llywodraeth Cymru?
Gallaf, mae’n wir. Mae'r byrddau iechyd yn cael eu hysbysu—mae’r pedwar yn cael eu hysbysu—bod yn rhaid iddyn nhw gadw at y gyllideb. Dywedwyd hynny wrthynt ar y cychwyn cyntaf. Mae’n rhaid iddyn nhw beidio â niweidio gwasanaethau o ganlyniad i hynny. Byddwn yn edrych eto ar eu cyfrifon ym mis Mehefin, ac os oes angen cymryd camau pellach, os nad ydynt yn gallu cyflawni yn hynny o beth, yna bydd y camau hynny'n cael eu cymryd.
Er tegwch, mae Betsi mewn mesurau arbennig, yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, ond ni allwch ysgaru’r gallu i roi arian yn y gwasanaeth iechyd oddi wrth cynnal y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ac roedd fy nghwestiwn i chi yn ymwneud â’r gymeradwyaeth o bwynt Ysgrifennydd y Cabinet na fyddai unrhyw wasanaethau yn cael eu colli oherwydd arian. Pan ragwelir y bydd Abertawe Bro Morgannwg, un o'r pedwar bwrdd iechyd, mewn sefyllfa o ddiffyg gwaeth y flwyddyn nesaf—£52 miliwn, yn hytrach na £39 miliwn eleni o sefyllfa o fantoli'r gyllideb y flwyddyn ddiwethaf—nid yw’r datganiad yn gweithio, neu mae’n anghredadwy, Brif Weinidog. Sut ydych chi'n mynd i allu cynnal gwasanaethau pan fo gan bedwar o'r chwe bwrdd iechyd sefyllfa o ddiffyg cronig o'r fath ac, yn y pen draw, y mae amseroedd aros yn cynyddu’n gyson?
Pedwar allan o saith yw hi. Yn gyntaf oll, nid yw amseroedd aros yn cynyddu. Pedwar o saith yw hi, ond gofynnodd y cwestiwn, 'Beth fydd yn digwydd os nad ydynt yn cadw o fewn y gyllideb?' Rydym ni’n edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Os nad ydynt yn cadw o fewn y gyllideb heb niweidio gwasanaethau, yna bydd yn rhaid i ni edrych yn ofalus ar y ffordd y mae’r byrddau hynny yn cael eu llywodraethu, ac ni fyddwn yn osgoi hynny yn yr un modd ag na wnaethom osgoi ymdrin â Betsi Cadwaladr pan gododd y sefyllfa honno.
Defnyddiais bedwar allan o chwech yn fwriadol, oherwydd, yn amlwg, nid oes gan fwrdd iechyd Powys ysbyty cyffredinol dosbarth yn ei ardal, ac mae pen uchaf gwasanaethau acíwt yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth, ac mae’n ymddangos mai’r rheini yw’r byrddau iechyd sy'n amlwg â phroblem fawr o ran diffyg, gan fy mod wedi defnyddio Abertawe Bro Morgannwg gyda diffyg a ragwelir y flwyddyn nesaf o £52 miliwn. Rydych chi’n sôn am edrych ar drefniadau llywodraethu, rydych chi’n sôn am edrych ar y fantolen fis Mehefin nesaf, a gallaf glywed o sefyllfa rhywun sy’n eistedd bod angen i mi edrych dros y ffin. Mae diffyg ariannol GIG Cymru yn ddwbl—dwbl—yr hyn y mae GIG Lloegr yn ei wynebu. Nid wyf yn diystyru—[Torri ar draws.] Nid wyf yn diystyru'r materion ar draws y GIG cyfan yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw'n afresymol—nid yw'n afresymol, bod pobl yn yr ardaloedd byrddau iechyd hynny yn ceisio cysoni'r datganiad na fydd unrhyw golli gwasanaethau ac na fydd unrhyw gynnydd i amseroedd aros, pan fo gennych chi gymaint o bwysau ar y cyllidebau heb arian ychwanegol yn mynd i mewn. Felly, gofynnaf i chi eto: pa fesurau penodol ydych chi’n credu y byddwch chi’n gallu eu cymryd, gan eich bod wedi nodi bod mis Mehefin yn adeg gritigol, a threfniadau llywodraethu, i fynd i'r afael â'r diffyg hwn? Rwy’n derbyn bod y diffyg ar draws y Deyrnas Unedig; nid wyf yn ceisio gwneud y pwynt gwleidyddol hwnnw. Yr hyn yr wyf i'n ceisio ei wneud yw’r pwynt bod etholwyr a defnyddwyr y gwasanaethau hyn, nid yn afresymol, yn bryderus oherwydd, yn amlwg, ceir problem fawr o ran sut y bydd y diffygion hyn yn cael eu dwyn yn ôl o dan reolaeth.
Wel, mae byrddau iechyd eraill yn ymdopi. Mae Powys yn fwrdd iechyd, ac mae'n prynu’r rhan fwyaf o'i wasanaethau i mewn. Yn wir, gellid dadlau ei bod yn fwy anodd i Bowys, gan fod cyn lleied o wasanaethau yn cael eu darparu ym Mhowys oherwydd ei natur wledig, ac eto mae Powys yn ymdopi. Unwaith eto, y neges yr ydym ni wedi ei rhoi i'r byrddau iechyd sy'n dweud wrthym na fyddant yn gallu bod o fewn eu cyllideb yw: 'Mae'n rhaid i chi reoli hyn. Mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn torri mewn meysydd nad ydynt yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd. Ni ddylech edrych ar wasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o ran torri, ac rydych chi’n cadw o ferwn eich cyllideb.’ Dyna beth ddylai byrddau iechyd ei wneud. Eu cyfrifoldeb nhw yw hyn, yn y pen draw—dyna pam mae gennym ni fyrddau iechyd. A bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn atebol am eu gweithredoedd ymhen ychydig fisoedd pan fyddwn ni’n edrych eto ar y sefyllfa ariannol.
Ar ran arweinydd grŵp UKIP, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Gofynnodd arweinydd fy ngrŵp i mi gyfleu ei ymddiheuriadau, gan ei fod mewn angladd teuluol heddiw. A gaf i ganmol y Prif Weinidog ar ymateb ei Lywodraeth ar 13 Mawrth i bapur ymgynghori Llywodraeth y DU ar ddyfodol tollau Pont Hafren? Mae wedi ei ddadlau’n dda, ac yn adlewyrchu’n ffyddlon barn unfrydol y Cynulliad hwn ar fy nghynnig i gefnogi diddymu'r tollau ar bont Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus. Byddai rhywun yn gobeithio, fodd bynnag, y byddai mwy o ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU na dim ond ffeilio ymateb i'r ymgynghoriad. Cynigiodd comisiwn Silk gydgysylltu agos rhwng y ddwy Lywodraeth dros ddyfodol pont Hafren. Dywedodd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi wedyn y byddai Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol hirdymor pontydd Hafren, ac mae strategaeth buddsoddi mewn ffyrdd Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed yn dweud,
Bydd yr Adran Drafnidiaeth, gan weithio gyda... Llywodraeth Cynulliad Cymru...yn archwilio dyfodol y bont yn fanwl.
A allai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y mae’r ymgysylltu hwnnw’n mynd?
Wel, mae swyddogion mewn trafodaethau, ond y sefyllfa yr ydym yn ei ffafrio yw y dylem ni gymryd drosodd y cyfrifoldeb am redeg y ddwy bont— cymryd rheolaeth dros y tollau. Cyn i ni wneud hynny, byddai'n rhaid i ni gael dealltwriaeth gadarn o gyflwr a chostau cynnal a chadw’r ddwy bont hynny. Mae'r ffigurau yr ydym ni wedi eu cael yn amrywio'n helaeth. Byddai angen hoelio hynny i lawr—bron yn llythrennol, rwy’n gobeithio—ond byddai'n rhaid i ni ddeall beth ydyn nhw, a’n barn ni yw y dylem ni reoli'r tollau. Nid wyf yn deall gwrthwynebiad Llywodraeth y DU i hyn. Nid wyf yn deall pam maen nhw’n teimlo na ddylai pont sydd, yn y pen draw, yn brif fynedfa i Gymru gael ei rheoli o Gymru.
Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog, a dymunaf yn dda iddo fe, Ken Skates a'i swyddogion wrth ddadlau’r safbwynt hwnnw. Ceir tair risg gyfreithiol ddifrifol iawn i Lywodraeth y DU, rwy’n credu, os bydd yn ceisio parhau i godi tollau heb ein cytundeb, a gallai unrhyw un o'r rheini fod yn angheuol i unrhyw gynllun sydd ganddi. Yn gyntaf, mae Deddf Pontydd Hafren 1992 yn dweud y dylai tollau ddod i ben ar ôl i swm penodol pellach gael ei godi, a byddai hynny'n debygol o ddigwydd tua diwedd y flwyddyn nesaf. Yn ail, mae gennym ni, o dan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n rhestru'r materion datganoledig, gan gynnwys mater 10.1, creu, gweithredu a gorfodi cynlluniau ar gyfer codi ffioedd o ran y defnydd o gefnffyrdd yng Nghymru.
A dyna, yn fy marn i, sydd wedi arwain at Lywodraeth y DU yn cynnig parhau i godi tollau ar yr hanner pont Hafren sydd yn Lloegr, gan fod hynny’n disodli cael yr awdurdod codi tâl. A byddai angen iddynt orfodi’r doll honno, o bosibl, yn y cabannau yng Nghymru, yr wyf yn cynnig sy’n mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Ac yn drydydd, mae ganddyn nhw broblem bellach bod Deddf Trafnidiaeth 2000, y maen nhw’n bwriadu ei defnyddio nawr, yn dweud,
Ceir cyflwyno cynllun codi ffioedd ar gefnffyrdd yng nghyswllt ffordd.... dim ond os bydd y ffordd yn cael ei chludo gan bont, neu’n teithio trwy dwnnel.
Nid yw'n darparu ar gyfer iddyn nhw godi tâl am ran o ffordd sy’n cael ei chludo gan bont, ac mae’r defnydd o'r ymadrodd ‘teithio trwy dwnnel’ yn awgrymu, trwy gyfatebiaeth, mynd o un ochr i'r afon i'r llall. Felly, am yr holl resymau hynny, a all y Prif Weinidog ystyried beth arall y gall ef neu ei Llywodraeth ei wneud i bwysleisio i Lywodraeth y DU, o leiaf, y risgiau cyfreithiol iddi os bydd yn ceisio codi ffioedd yn y dyfodol heb ein cytundeb ni?
Mae'r Aelod wedi codi'r materion hyn o'r blaen. Fe wnaethom edrych arnynt.. Mae’n ymddangos i ni, oherwydd natur y ddeddfwriaeth sy'n rheoli pontydd Hafren, eu bod wedi eu cadw. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, na ddylid ymchwilio ymhellach i'r pwyntiau y mae eisoes wedi eu codi. Byddaf yn gwneud hynny a byddaf yn ysgrifennu ato, gan eu bod yn haeddu ymchwiliad pellach. Wrth gwrs, mae’r tollau ar yr hen bont ar ochr Lloegr, ac mae’r tollau ar y bont newydd ar ochr Cymru. Byddai'n well gennym pe na byddai unrhyw dollau o gwbl ar y naill ochr na’r llall, ac i gytundeb gael ei sicrhau o ran cynnal a chadw'r pontydd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa gyfreithiol, y sefyllfa a anfonwyd ataf i mewn gohebiaeth o leiaf, wedi newid. I ddechrau, y pwyslais oedd y gallai Llywodraeth y DU ei wneud gan mai hi oedd yr awdurdod codi tâl, ond mewn gwirionedd nid yw Llywodraeth y DU yn ceisio gorfodi ar ein hochr ni o’r ffordd, a byddai angen iddi orfodi, a cheir anawsterau gwirioneddol o ran gwneud hynny mewn Deddf ddiweddarach. Ceir tair gwahanol ddadl, y byddai unrhyw un ohonynt yn angheuol i safbwynt Llywodraeth y DU. Felly, maen nhw’n ceisio defnyddio'r cabanau tollau presennol er gwaethaf y ffaith fod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud mai ein hawl ni yw gorfodi ar ffyrdd yng Nghymru, neu maen nhw’n ystyried buddsoddi mewn cynllun llif rhydd—llawer o gyfalaf—heb sicrwydd cyfreithiol, os bydd rhywun yn mynd trwodd ac nad yw'n talu, eu bod yn mynd ar eu holau am y ddyled, mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r llys, ac oni bai y gallant wybod gyda sicrwydd bod y llys yn mynd i ddweud, 'Ydy, mae honna’n ffi ddilys', yna mae'n arbennig o anodd iddyn nhw fuddsoddi yn y cynllun hwnnw. Y rhwystredigaeth sydd gennyf i ynghylch hyn yw bod swm sefydlog yma, rwy’n meddwl, o tua £75 miliwn y mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n ei godi ac y byddem ni’n gwella ar hynny, ond byddai'n codi hynny o fewn tua blwyddyn o godi tollau parhaus. Wedyn mae'n dweud bod y gost o weithredu a chynnal a chadw parhaus tua £15 miliwn y flwyddyn, ond gweithrediad y tollau eu hunain yw llawer o hynny mewn gwirionedd. Felly, rydym ni’n edrych efallai ar swm o tua hanner hynny. Er nad dyna ein sefyllfa ddelfrydol, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried y gallai fod yn well na dim, pe byddai codi tollau yn parhau dim ond am flwyddyn arall, a phe gallem ni wneud cyfraniad cymedrol ar ôl hynny o tua £2 filiwn neu £3 miliwn efallai i'r gost o godi tollau, a yw'n credu y byddai hwnnw'n gytundeb gwerth ei gael er mwyn cael gwared ar y tollau hynny? Ac a wnaiff ef weithio gyda phartïon ar draws y Siambr i geisio cytuno ar hynny?
Wel, fel mater o egwyddor, ni fyddem yn ceisio cyfrannu at unrhyw beth nad oedd wedi ei ddatganoli. Os nad yw wedi’i ddatganoli, yna mae'n fater i adran briodol Llywodraeth y DU ymdrin ag ef. Mae'n fy nharo i ei fod wedi awgrymu ffordd ymlaen, ond y ffordd haws, yn fy marn i, yn syml, fyddai cael dim tollau o gwbl, a chael tollau electronig yn y cyfamser, er bod angen buddsoddiad sylweddol yn hynny. Ac, wrth gwrs, y mater i ni yw mai’r cyflymaf y mae’r traffig yn mynd trwy bontydd Hafren, y cyflymaf y bydd yn cyrraedd twneli Brynglas, gan ychwanegu at y tagfeydd sydd eisoes yn bodoli yn y twneli hynny. Mae honno'n ffaith yr ydym yn ymwybodol ohoni, ac yn amlwg bydd ef yn gwybod y cynigion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud yn hynny o beth. I mi, mae hwn yn fater syml nad oes angen ei wneud yn gymhleth. Mae angen i ni gael dealltwriaeth o beth yw cyflwr y ddwy bont mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod hynny. Rwyf wedi gweld ffigurau ymhell y tu hwnt i'r ffigur y mae ef wedi ei awgrymu o ran cynnal a chadw. Mae angen i hynny fod yn gadarn, yn gyntaf oll, ac yna gallwn gael dealltwriaeth o beth yw’r rhwymedigaeth. Yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud erioed yw, i ni fel Llywodraeth, yr hoffem gymryd drosodd cyfrifoldeb am y tollau, ond cyn i ni wneud hynny mae angen i ni ddeall beth yr ydym ni’n cymryd cyfrifoldeb amdano.