– Senedd Cymru ar 17 Mai 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar y gyllideb cymorth tramor a galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig—Neil Hamilton.
Cynnig NDM6309 Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill, yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw’n gwneud synnwyr bod y gyllideb cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI).
2. Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a’i bod, bellach, yn £1.6 triliwn, sy’n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU.
3. Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso’r gyllideb cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref.
4. Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu’r ffigur targed o 0.7 y cant yng nghyfraith y DU.
5. Yn credu bod llawer o’r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario’n anghynhyrchiol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed ar gymorth dramor i 0.2 y cant o’r GNI, sy’n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol Daleithiau, yr Eidal a Sbaen.
7. Yn credu y dylai’r £8 biliwn o arbedion a fyddai’n cael eu rhyddhau gael eu dargyfeirio’n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw ar yr agenda. Wrth gwrs, mae llawer o’r gyllideb cymorth tramor yn gwneud llawer o dda yn y byd, ond 16 y cant yn unig o’r £13 biliwn, £14 biliwn, £15 biliwn a wariwn ar gymorth tramor sy’n mynd ar brosiectau o’r fath. Mae’r mwyafrif llethol yn mynd ar yr hyn a elwir yn nodau strategol hirdymor eraill y Llywodraeth, boed hynny ar bolisi newid yn yr hinsawdd neu heddychu neu geisio sicrhau bod llygredd yn cael ei ddiddymu. Efallai fod yr holl bethau hyn, i raddau mwy neu lai o bosibl, yn dda ynddynt eu hunain, ond mae’r gallu i fonitro a gwerthuso’r hyn a wnant yn gyfyngedig ac yn absennol weithiau, ac felly i bob pwrpas rydym yn arllwys arian i mewn i dwll du, lle mae’n cael ei ddargyfeirio i ddibenion na fyddem yn eu cymeradwyo o gwbl.
Caf gymorth yn y ddadl y byddaf yn ei rhoi heddiw gan erthygl a ysgrifennwyd gan Grant Shapps ychydig amser yn ôl. Ef oedd y Gweinidog Gwladol yn yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol tan lai na dwy flynedd yn ôl. Mae wedi cael tröedigaeth Ddamascaidd o’r math y mae ein cynnig heddiw yn ei amlinellu, oherwydd disgrifiodd y gwariant ar gymorth tramor fel rhywbeth sydd ‘allan o reolaeth’. Galwodd am ddiddymu’r adran yr oedd yn hanner llywyddu drosti ac mae wedi ymosod ar ei thuedd i rofio arian parod allan drwy’r drws sy’n peri pryder mawr.
Nawr, os ydym yn sôn am £8 biliwn efallai, sef y ffigur y mae ein cynnig yn ei grybwyll, arian y gallem ei wario ar bethau eraill, naill ai’r gwasanaeth iechyd neu unrhyw beth arall, mae hyn yn rhywbeth y dylem yn sicr ei ystyried yn ddifrifol iawn.
Disgrifiodd Grant Shapps yn ei erthygl sut y byddai, yn y Swyddfa Dramor, yn protestio wrth unbeniaid Affricanaidd ynglŷn â’r ffaith eu bod yn gwrthod hawliau dynol a gwerthoedd democrataidd, ond wedyn, gan wisgo het yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, mae’n dweud hyn:
Byddwn yn mynd drwy fy mocs coch (o bapurau gweinidogol) i ddod o hyd i sieciau am gannoedd o filiynau o bunnoedd yn daladwy i’r un gwledydd... Nid yw’n syndod eu bod wedi dod i’r casgliad nad yw Prydain yn poeni am fân dramgwyddau yn erbyn hawliau o’r fath. Pam arall fyddai’r holl arian Prydeinig hwn yn parhau i arllwys i mewn?
Felly, yn aml gall cymorth tramor fod yn wrthgynhyrchiol yn yr hyn y mae’n ei wneud. Mae bron i hanner canrif bellach ers i’r Athro Peter Bauer, athro datblygu rhyngwladol ac economeg yn Ysgol Economeg Llundain, ddweud bod cymorth tramor yn rhywbeth sy’n cael ei dalu gan bobl dlotach mewn gwledydd cyfoethog i bobl gyfoethog mewn gwledydd tlawd. Rydym i gyd yn gwybod am yr holl gamddefnydd sydd wedi digwydd dros nifer fawr o flynyddoedd.
Nawr, gwerir oddeutu £250 miliwn y flwyddyn, er enghraifft, yn Nigeria. Mae llawer o hwnnw’n mynd i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Nigeria i ddileu Boko Haram, sy’n un o’r peryglon mwyaf ym myd eithafiaeth Islamaidd bellach. Ond mae swyddogion y gorllewin sy’n gweithredu yn Nigeria yn bryderus iawn fod arweinydd Llywodraeth Nigeria a etholwyd yn ddiweddar, yr Arlywydd Muhammadu Buhari, yn camddefnyddio’r cymorth i erlid ei wrthwynebwyr gwleidyddol ei hun. Ers iddo ddod i rym ym mis Mai 2015, mae nifer o aelodau blaenllaw o Blaid Ddemocrataidd y Bobl a arferai reoli wedi cael eu harestio a’u carcharu heb eu cyhuddo, ac ymhlith y rhai a garcharwyd mae llefarwyr swyddogol y blaid.
Dylai’r mathau hyn o gamddefnydd beri i ni ddihuno. Efallai y bydd yn syndod i chi ddysgu fod gan Nigeria raglen ofod hefyd. Mae ganddynt asiantaeth ofod sy’n gobeithio anfon rocedi i’r gofod erbyn 2028. Honnir—[Torri ar draws.]
Fe wnaf ar ôl gorffen y pwynt.
[Yn parhau.]—ei bod yn amsugno cannoedd o filiynau o bunnoedd o wariant cyhoeddus Nigeria, ond nid ydynt yn cyhoeddi’r ffigurau, felly nid ydym yn gwybod. Ildiaf i Rhianon.
Diolch yn fawr iawn. O ran y defnydd o gymorth tramor, ceir problemau gyda’r ffordd y mae rhai gwledydd yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei gydnabod a dylid ei blismona’n gywir, ond nid yw hynny’n tanseilio dibenion cymorth tramor mewn unrhyw fodd o gwbl, ac rydych wedi crybwyll Boko Haram. A fyddech yn cytuno bod 0.7 y cant o gynnyrch domestig gros yn briodol a bod yr holl wledydd Llychlyn yn gwario llawer mwy nag a wnawn ni ar gymorth tramor?
Pum gwlad yn y byd yn unig sy’n gwario mwy nag a wnawn ni ar gymorth tramor, ac mae 0.7 fel canran o gynnyrch domestig gros yn ffigur cwbl fympwyol a ddewiswyd ar hap ac nid oes mwy o arwyddocâd iddo na 0.5 neu 1 y cant. Gan gymryd pwynt yr Aelod mewn ystyr fwy cyffredinol, pam na ddylem gynyddu’r gyllideb cymorth tramor bedwar neu bum gwaith ar y sail honno? Mae’r holl bethau hyn yn werth eu gwneud yn y byd. Ceir llawer o broblemau sydd gan wledydd eraill sy’n ddifrifol iawn, ond ni allwn barhau yn syml i ysgwyddo’r beichiau hyn ein hunain pan fo gennym gynifer o broblemau i’w datrys yn ein gwlad ein hunain. Hyd nes y cawn systemau ar waith i ni allu gwerthuso gwerth am arian yn briodol, nid yw hwn yn ddim ond ymarfer ‘rhofio arian allan drwy’r drws’, fel y’i disgrifiwyd gan Grant Shapps. Dywedodd Mr Andrew Dickens, a oedd yn swyddog yn yr adran cymorth tramor yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, pan oedd yn archwilio datblygu tramor, yr unig archwiliad posibl o gymorth amlochrog oedd gwirio bod y symiau a delid i sefydliadau rhyngwladol yn cyfateb i’r symiau a addawyd. Roedd yn rhaid i archwilwyr y sefydliad ei hun gynnal unrhyw archwiliad go iawn o’r prosiectau a gefnogid. Wel, nid yw archwiliadau hunanarchwilio yn werth y papur y cânt eu hargraffu arnynt.
Ceir llawer o enghreifftiau o gamddefnyddio dybryd, na fyddaf am drethu amynedd y Cynulliad drwy eu hailadrodd heddiw, pethau a welid yn archifau’r ‘Daily Mail’ ac sy’n hawdd dod o hyd iddynt, ond mae’r mathau o brosiectau y soniais amdanynt mewn perthynas â Nigeria yn amsugno symiau sylweddol iawn yn wir, symiau y byddai’n well eu gwario gartref ar feysydd fel y gwasanaeth iechyd, yn ein barn ni. Mae maniffesto’r Blaid Lafur yn yr etholiad ar gyfer San Steffan ar hyn o bryd yn dweud eu bod yn mynd i wario £37 biliwn arall ar y gwasanaeth iechyd gwladol—ffigur wedi’i dynnu o’r awyr. Mae cystal ag unrhyw ffigwr arall, am wn i, ond gallech bob amser ychwanegu sawl sero ato, yn bendant, ar yr egwyddor fod arian yn tyfu ar goed. Mae’r Blaid Lafur heddiw fel pe bai’n credu mai’r model economaidd y dylem ei ddilyn yw’r un sydd gan Venezuela, a ddylai fod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, ond sydd wedi’i darostwng i dlodi, amddifadedd a distryw economaidd gan bolisïau Hugo Chávez, sy’n gymaint o arwr i Jeremy Corbyn.
Gallem wario £40 biliwn yn ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd pe baem eisiau gwneud hynny dros gyfnod y senedd nesaf drwy dynnu £8 biliwn y flwyddyn allan o’r gyllideb cymorth tramor. Yna byddem yn gwybod ei fod yn cael ei wario ar rywbeth gwerth chweil. Felly, mae’n ddewis sy’n rhaid inni ei wneud. Mae’n ddewis deuaidd. Gallwn ddewis gwario arian ar bobl yn ein gwlad ein hunain sy’n haeddu cymorth, neu gallwn wario’r arian ar bobl dramor nad ydynt o reidrwydd angen y cymorth am nad y bobl y bwriadwyd y cymorth tramor ar eu cyfer yw’r rhai sy’n ei dderbyn. Felly, nid oes unrhyw werth moesol, mewn gwirionedd, i gyfrannu arian pobl eraill. Rhoi eich arian eich hun yn unig sy’n cynnwys gwerth moesol. Felly, mae’n amhriodol siarad am foesoldeb gwariant cymorth tramor, rwy’n meddwl, mewn perthynas â’r defnydd o arian trethdalwyr. Gallwch, fe allwch gyflwyno achos dros brosiectau cymorth tramor o’r math dyngarol, yn amlwg, i helpu gydag argyfyngau megis effeithiau daeargrynfeydd neu gorwyntoedd neu beth bynnag. Ni fyddai neb yn gwadu’r angen i chwarae ein rhan yn y gymuned ryngwladol yn helpu pobl heb obaith mewn sefyllfaoedd enbyd. Ond lle rydym yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol, polisïau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, sy’n ddadleuol, a bod y rhai sy’n derbyn neu’r gwledydd sy’n derbyn y taliadau hyn mewn gwirionedd yn mynd i fod yn dyblu, neu dreblu yn achos India a Tsieina, eu hallyriadau carbon dros y 30 mlynedd nesaf, er gwaethaf cytuniadau hinsawdd Paris—maent yn cael eu heithrio, i bob pwrpas, am eu bod yn economïau sy’n tyfu ac yn datblygu—yna nid ydym hyd yn oed yn cyflawni’r amcanion polisi y credwn eu bod yn ddymunol yn y byd yn gyffredinol os ydych yn credu mewn newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan bobl. Felly, ceir wrthdaro yno yn y polisi na ellir ei ddatrys. Felly, mae arnaf ofn mai’r hyn y mae fy mhlaid yn ei ddweud, yn y cyswllt hwn o leiaf, yw bod elusen yn dechrau gartref, ac ar hynny y dylem fod yn ymladd yr etholiad hwn.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol.
2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy’n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae cymorth rhyngwladol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n lliniaru dioddefaint dynol pan fo argyfyngau dyngarol yn taro. Mae’n arbed bywydau ac yn cryfhau cymunedau. Trwy weithio gyda’n gilydd, er enghraifft, rydym wedi haneru tlodi eithafol yn y 40 mlynedd diwethaf, ac wedi haneru niferoedd marwolaethau plant ers 1990. Mewn gwledydd sy’n datblygu, mae 91 y cant o blant bellach wedi’u cofrestru mewn ysgolion cynradd. Rhwng 2000 a 2014, mae dros 6.2 miliwn o farwolaethau malaria wedi’u hosgoi, gan achub bywydau—gan achub bywydau plant dan 5 oed yn bennaf. A gallwn fod yn hynod o falch o hanes Cymru. Efallai fod ein cyllideb a chyrhaeddiad ein pwerau yn gyfyngedig, fel arfer, ac o’u cymharu â’r gwaith a wnaed ar lefel y DU gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, ond mae’r gwaith a wneir gan sefydliadau ac unigolion i feithrin cysylltiadau gyda rhai sydd angen ein help o gwmpas y byd yn dangos haelioni rhyfeddol a llwyddiant mawr. Mae prosiect Cymru o Blaid Affrica wedi bod yn weithredol dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnaeth waith anhygoel gyda phartneriaid ar draws Affrica. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gysylltiadau gweithredol ag Affrica, gan helpu i hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd i ddarparu gofal iechyd yn eu cymunedau a datblygu sgiliau gweithwyr yn y GIG yng Nghymru hefyd yn eu tro.
I nodi enghraifft o’r de-ddwyrain, mae Midwives@Africa a leolir yn y Fenni yn darparu cyrsiau hyfforddi effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i diwtoriaid bydwragedd a bydwragedd yn ne Ethiopia. Mae’n bartneriaeth sy’n helpu’r ddwy ochr—mae’n gilyddol—gyda gweithwyr iechyd yn Ethiopia yn cael hyfforddiant hanfodol, a’r bydwragedd o Gymru sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn datblygu eu sgiliau addysgu, cyfathrebu ac arweinyddiaeth. Maent yn glod i’n cenedl ac i Ethiopia hefyd.
Bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld newid sylfaenol ac ail-lunio perthynas Cymru â gweddill y byd, wrth gwrs, o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r rhethreg elyniaethus a ddaw ar hyn o bryd o rai rhannau o’r sefydliad gwleidyddol yn peri gofid. Pan fo’r Prif Weinidog yn defnyddio iaith sy’n ymosod ar ein ffrindiau a’n cymdogion agosaf, mae’n peryglu statws ein cenedl ar y llwyfan byd-eang, nid yn unig mewn perthynas â chymorth rhyngwladol, ond mewn materion eraill hefyd, ac nid wyf am weld enw Cymru’n cael ei lychwino ar yr un pryd. Yn y cyd-destun hwnnw, Dirprwy Lywydd, mae’n bwysicach nag erioed fod gan Gymru ei brand byd-eang ei hun, ein bod yn parhau i fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, i greu cysylltiadau ar draws y byd, ac ni allwn adael i’r cenedlaetholdeb cul sydd ar gynnydd mewn rhannau o wleidyddiaeth Prydain leihau ein proffil byd-eang. Mae arnom angen polisi rhyngwladol penodol i Gymru, a dylai gynnwys ymrwymiad i gymorth rhyngwladol yn ogystal. Rwyf o’r farn gadarn fod angen Ysgrifennydd y Cabinet dynodedig ar y wlad hon ar gyfer materion allanol yn Llywodraeth Cymru i arwain y strategaeth honno, ac nid wyf yn deall pam y mae’r Llywodraeth hon, unwaith eto, yn gwrthod gwneud hynny.
Dylai hefyd gynnwys yn y polisi rhyngwladol hwnnw ein bwriadau ynglŷn â sut rydym yn dymuno adeiladu ar gysylltiadau datblygu, a gallwn edrych tuag at wledydd eraill ar yr ynysoedd hyn, hyd yn oed. Gallwn edrych tua’r Alban i weld sut y mae strategaeth cymorth dyngarol uchelgeisiol wedi bod yn effeithiol, hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau sydd ganddynt yno. Mae eu cronfa ddatblygu o £9 miliwn yn seiliedig ar weledigaeth yr Alban fel dinesydd byd-eang da ac yn rhan o strategaeth ryngwladol ehangach ynghlwm wrth fasnach a chynlluniau cyfnewid addysgiadol yn ogystal. Felly, wrth i ni ymdrechu i wella statws Cymru ar y llwyfan byd-eang, rwy’n gobeithio y bydd datblygu rhyngwladol yn ffurfio rhan annatod o’r strategaeth honno yn y dyfodol, fel y mae wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf.
Er fy mod yn cytuno ei bod yn ddyletswydd arnom i helpu’r rhai sy’n wynebu afiechyd, rhyfel neu newyn, y ffaith drist amdani o hyd yw bod llawer o’r gyllideb cymorth tramor yn cael ei gwario’n amhriodol. Ac nid ydym yn sôn am symiau pitw o arian yma, gan ein bod yn gwario £30 miliwn y dydd ar gymorth tramor, a dim ond oddeutu 16 y cant o’r gyllideb hon sy’n cael ei defnyddio fel cymorth dyngarol neu gymorth mewn argyfwng. Mae Diane Abbot AS yn dweud mai yr hyn sydd wedi peri pryder mawr i mi’n ddiweddar yw ymddangosiad yr hyn a elwir yn "Arglwyddi Tlodi". Ymgynghorwyr rheoli yw’r rhain sy’n cael cyflogau enfawr o gyllideb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn eu rôl fel ymgynghorwyr rheoli.
Targed y DU yw gwario 0.7 y cant o’r incwm gwladol crynswth ar gymorth tramor, ac ar ddiwedd 2013, aeth gweision sifil ar sbri wario gwerth £1 biliwn er mwyn cyrraedd y targed hwn. Ni ddylai unrhyw berson gael ei ruthro i wario arian trethdalwyr er mwyn cyrraedd targed. Cafwyd llawer o feirniadaeth ynglŷn â’r ffordd y mae arian cymorth tramor yn cael ei wario, yn enwedig ar adeg pan ydym ni yng Nghymru’n wynebu argyfwng mewn iechyd a gofal cymdeithasol. O ganlyniad i galedi, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi’n anodd. Ers 2010, mae gwariant ar draws nifer o adrannau’r Llywodraeth wedi gostwng dros chwarter. Ar adeg pan ddylem fod yn buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd er mwyn ateb heriau, gwelwn gyllidebau’n rhewi. Mewn cyferbyniad—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae’n ddrwg gennyf, oherwydd byddaf yn cymryd y pedwar munud i siarad.
Mewn cyferbyniad, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, bydd y swm o arian y mae’r DU yn ei wario ar ddatblygu rhyngwladol yn cynyddu £1 biliwn arall y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn dod â’r gyllideb i bron £15 biliwn y flwyddyn, bron cymaint â chyllideb Cymru gyfan.
Mae angen ailwampio dull cymorth tramor y DU yn llwyr, ac mae hawl gan drethdalwyr Prydain i wybod ble mae’r arian yn cael ei wario. Wrth i’n dyled genedlaethol barhau i godi i’r entrychion, sut y gallwn gyfiawnhau rhaglen gymorth sy’n rhoi miliynau o bunnoedd i genhedloedd gyda rhaglenni niwclear a gofod, pan fo’n dinasyddion yn byw mewn tlodi? Mae fy rhanbarth, Aberafan, yn un o’r ardaloedd tlotaf, a hyd yn oed wrth gerdded yn y dref mae nifer o bobl ddigartref yn gorwedd yn y drysau, ac mae hyn yn gywilyddus. Felly, sut y gallwn gyfiawnhau rhaglen gymorth sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni diwydiant Brasil pan fo trethdalwyr Cymru yn cael trafferth i wresogi eu cartrefi? Mae angen diwygio cymorth tramor drwyddo draw gan ddechrau drwy ollwng targedau gwariant mympwyol yn erbyn incwm gros cenedlaethol. Y cyfan y mae’r targed hwn wedi’i wneud yw cynyddu’r gyllideb, gan orfodi gweision sifil yr adran dros ddatblygu rhyngwladol i feddwl am ffyrdd mwyfwy rhyfedd o wario arian trethdalwyr Prydain. Mae ein cenedl yn ei chael hi’n anodd, ac mae ein dinasyddion yn haeddu ystyriaeth.
Fodd bynnag, mae gennym dystiolaeth o arian yn cael ei wario’n dda dramor mewn ymateb i Affrica, lle buom yn ymladd yn erbyn Ebola yn Sierra Leona a Liberia. Ymrwymodd Llywodraeth y DU £427 miliwn o gymorth uniongyrchol i helpu i gynnwys, i reoli, i drin ac yn y pendraw i drechu Ebola. Roedd cymorth uniongyrchol y DU yn cynnwys defnyddio arbenigwyr meddygol o’r GIG a’r fyddin, a ddarparodd ganolfannau triniaeth—1,400 o welyau ar gyfer triniaeth, gan gynnwys gwelyau ynysu, i frwydro yn erbyn y clefyd. Hefyd, adeiladwyd chwe chanolfan ar gyfer trin Ebola ar draws y wlad, a chafwyd timau hyfforddi i hyfforddi gweithwyr ar y rheng flaen. Cafodd 4,000 o weithwyr gofal iechyd addysg ar logisteg a sut i fod yn lanweithwyr yn y proffesiwn meddygol, a oedd yn cynnwys staff y fyddin a staff carchar yn Sierra Leone. Hefyd, addysgwyd pobl mewn timau ar draws y wlad sut i gladdu’r meirw’n ddiogel. Cafwyd cyflenwadau brys fel bwyd a chlorin, a gwnaed gwaith ymchwil gwyddonol drwy adeiladu labordai i ddeall sut yr oedd Ebola wedi lledaenu. Cafodd yr ymgyrch ei chyd-drefnu gan y fyddin. Fe weithiodd yr ymgyrch am fod mwy wedi’i wneud na dosbarthu arian i’r llywodraethau a’r gwledydd a dweud wrthynt fwrw yn eu blaenau. Roedd y bobl yn falch iawn o’r hyn a ddysgwyd a chawsant eu gadael gyda gwaddol o glinigwyr hyfforddedig, canolfannau gofal iechyd, a chymorth gwyddonol ac ymchwil. Roedd y bobl yn falch o’r hyn a ddysgwyd, a gallai trethdalwyr Prydain weld prawf pendant a thystiolaeth o ble roedd yr arian wedi cael ei wario. Ac er bod pobl Prydain yn hael, mae atebolrwydd a thryloywder ynglŷn ag arian trethdalwyr yn hollbwysig.
Rwy’n falch iawn fod Llafur wedi ymrwymo i wario 0.7 y cant o’n hincwm cenedlaethol gros ar ddatblygu rhyngwladol. Yn 2013, y DU oedd gwlad gyntaf y G7 i gyrraedd targed gwariant y Cenhedloedd Unedig ar ei chyfer, ac ymrwymodd Llafur i’r gwariant o 0.7 gwariant y cant ar gymorth tramor yn ei maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2015, ac yn ein maniffesto a gyhoeddwyd ddoe. Dyna ymrwymiad i 0.7 y cant—credaf ei bod yn bwysig dweud wrth yr Aelodau sy’n siarad mai targed y Cenhedloedd Unedig ydyw; dyna faint y mae’r Cenhedloedd Unedig am i wledydd ei wario.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A wnewch chi gydnabod bod yr ymrwymiad hwnnw’n ymrwymiad a wnaed yn gyntaf gan y Prif Weinidog Ceidwadol, David Cameron? Oherwydd, fel chi, rwy’n falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd, a gwn fod y Blaid Lafur wedi cefnogi’r uchelgais hwnnw.
Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi’i gefnogi, ac rwy’n falch ein bod yn cytuno ar y mater hwnnw. Hoffwn pe bai pob plaid yn y Senedd hon yn cytuno.
Dywedai ein maniffesto ddoe ein bod yn addo datblygu agenda datblygu wedi’i thargedu, yn seiliedig ar egwyddorion ailddosbarthu, cyfiawnder cymdeithasol, hawliau menywod a lleihau tlodi. Ac mewn gwirionedd, fe enillodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU gydnabyddiaeth i Brydain fel arweinydd byd ym maes datblygu rhyngwladol drwy sefydlu Adran benodol ar gyfer Datblygu Rhyngwladol. Credaf ei bod yn bwysig iawn dweud bod yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn cael ei chraffu’n ofalus iawn. Caiff ei chraffu gan y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol yn Nhŷ’r Cyffredin, caiff ei chraffu gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a chaiff ei harchwilio gan y Comisiwn Annibynnol ar Effaith Cymorth. Caiff ei chraffu’n drylwyr. Mae’r amheuon a’r ymholiadau sy’n codi ynglŷn â chymorth rhyngwladol yn cael eu creu gan y wasg asgell dde, y cyfeiriwyd ati heddiw, ac nid wyf yn credu bod angen i ni seilio ein barn ar y pwnc o bapurau megis y ‘Daily Mail’ a ‘The Mail on Sunday’, a fyddai ond yn rhy hapus i ni wario 100 y cant o’n harian arnom ein hunain a pheidio â meddwl mewn unrhyw ffordd am y ffaith ein bod yn ddinasyddion byd-eang a’n bod yn byw mewn byd byd-eang.
Credaf fod gan bawb ym mhob gwlad yr hawl i ddŵr glân, digon o fwyd, gofal iechyd sylfaenol ac addysg, ac mae gennym ymrwymiad i sicrhau y dylai’r hawliau dynol hyn ddod yn realiti i dlodion y byd a dioddefwyr gormes a gwrthdaro. Ac wrth gwrs, mae hyrwyddo hyn yn llesol i ninnau hefyd, oherwydd lle ceir tlodi a phrinder addysg, mae’n llawer mwy tebygol y bydd yna ansefydlogrwydd gwleidyddol, gwrthdaro a mudo gorfodol. Nid oes ond yn rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr argyfwng mudo Ewropeaidd i weld hyn. Nid oes neb yn gadael eu gwlad os yw’n lle sefydlog i fyw ynddo gyda digon o fwyd, gyda darpariaeth gofal iechyd a chyfle i gael addysg, felly mae’n fuddiol i ni sicrhau ein bod yn gwneud y byd mor sefydlog ag y gallwn, ac rwy’n credu bod cymorth yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Meddyliwch am yr hyn a gyflawnwyd gennym. Mae’r DU wedi ymrwymo i ddileu polio yn fyd-eang a hi yw’r wlad sy’n cyfrannu fwyaf ond dwy i’r Fenter Dileu Polio yn Fyd-eang. Erbyn hyn nid oes ond tair gwlad yn y byd lle mae polio’n endemig: Nigeria, Affganistan a Phacistan. Y rheswm pennaf am hynny yw’r cymorth a roesom.
Yn ystod fy amser yn San Steffan, roeddwn yn ffodus i ymweld â phrosiect yn Affrica a oedd wedi elwa ar gymorth rhyngwladol gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a edrychai’n arbennig ar drin TB a HIV ar y cyd yn Kenya, Rwanda a Malawi. Ar ôl gweld drosof fy hun, fel y gwn fod eraill yn y Siambr hon wedi gwneud, cymaint o dlodi y mae pobl yn y gwledydd hynny’n ei wynebu, yn enwedig y menywod a’r plant, mae’n atgyfnerthu fy ymrwymiad yn llwyr y dylai Cymru a’r DU fod yn wlad sy’n edrych tuag allan lle rydym yn cydnabod ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn gweithredu mewn ysbryd hael. Mae’n ofid i mi fod yna blaid yn y Cynulliad hwn nad yw’n cefnogi edrych tuag allan—nad ydynt yn hael yn eu meddyliau nac yn meddwl bod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu yn unedig gyda’n gilydd i geisio gwella pethau ar gyfer pobl y byd. Oherwydd o’m rhan i, a’r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon rwy’n credu, mae’r plant yn y byd—mae’r plant yn rhyngwladol yn blant i bawb ohonom.
A gaf fi ddweud fy mod wedi fy nghyffroi’n fawr—roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol mewn gwirionedd—pan gyflwynodd comisiwn Brandt eu hadroddiad? Rwy’n gwybod na fydd hyn yn ei wneud ronyn yn fwy apelgar i blaid benodol ond wrth gwrs, Edward Heath oedd un o’i brif aelodau. Sefydlodd y comisiwn y targed o 0.7 o’r cynnyrch gwladol gros y dylid ei neilltuo ar gyfer cymorth rhyngwladol. Fel rhan o’r adroddiad hwnnw, roedd hefyd yn pwysleisio, er mwyn ymateb yn uniongyrchol i Neil Hamilton, nad cymorth oedd y peth pwysicaf—er ei fod yn beth hanfodol ar gyfer trawsnewid bywydau pobl yn y gwledydd tlotaf—ond masnach oedd yn ganolog i drefn ryngwladol fwy cyfiawn. Cafodd hynny effaith fawr yn y 1980au ar rowndiau’r Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach, a dorrodd yn gyntaf mewn gwirionedd drwy’r hen systemau diffyndollol a oedd wedi cynnal grym i raddau helaeth ers yr ail ryfel byd. Arweiniodd hynny ynddo’i hun wedyn at Sefydliad Masnach y Byd, sydd wedi agor a thrawsnewid masnachu rhyngwladol, a dyna pam y mae ffigurau Cymorth Cristnogol a ddyfynnodd Steffan yn gynharach am ostyngiadau enfawr yn lefelau tlodi’r byd—. Pan edrychwch ar dlodi absoliwt, mae’r gostyngiadau hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Gwn fod UKIP, a bod yn deg, yn gyson iawn ar hyn. Mae’n gas ganddynt beth sydd wedi digwydd i’r economi fyd-eang, yn ogystal, ond mae wedi rhyddhau cannoedd o filiynau o bobl, gan fod gennym system fasnachu fwy effeithiol erbyn hyn, yn rhyngwladol. Felly, masnach a chymorth—dyna sy’n arwain at gymdeithas ryngwladol gyfiawn.
Rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gyfrifol am waith addysg UNICEF yng Nghymru yn y 1990au cynnar, ac yn rhan o hynny, ymwelais â rhai o’r prosiectau. Rwy’n cofio’r cymorth technegol a welais ym Mrasil a gâi ei roi i blant y stryd, yn enwedig yn Fortaleza, un o’r dinasoedd tlotaf ym Mrasil bryd hynny, fel yn awr—yn agos iawn at y cyhydedd. Gwelais brosiect plant y stryd yno lle câi’r plant eu helpu gan UNICEF i weithredu trefniant byw cymunedol, ac yna byddai’r plant yn mynd allan ac yn perfformio syrcas stryd. Mae Fortaleza yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid o Ogledd America, ac roedd y plant hyn yn ennill bywoliaeth weddus. Nawr, pe na baent yn ennill bywoliaeth weddus a chyfreithiol, roeddent yn agored i gael eu llofruddio gan gangiau vigilante, ac roedd yn bwysig iawn fod plant yn eu harddegau, yn arbennig, yn gallu dangos i gymdeithas eu bod mewn cyflogaeth gynhyrchiol. Oherwydd, efallai y gallwch roi arian—ac mae Neil wedi sôn am roi eich arian eich hun ac rwy’n siŵr fod llawer o bobl yn y Siambr hon yn gwneud hynny ac yn cadw hynny’n beth preifat—i blentyn y stryd sy’n bump neu’n chwech oed ar gornel stryd, ond gadewch i mi ddweud wrthych, rydych yn llai tebygol o roi’r un cymorth i unigolyn ifanc 14 neu 15 oed ar y gornel, ond sydd yr un mor dlawd o bosibl. Felly, roedd y cymorth technegol a welais yn gwbl ryfeddol.
Hefyd gwelais brosiect yng Ngwlad Thai a oedd yn helpu gweithwyr rhyw, a gwnaeth y rhyddid roedd hynny’n ei roi iddynt argraff fawr arnaf. Roedd cynhadledd ynghlwm wrth y gwaith a welsom yno a chefais fag gwaith ar gyfer y gynhadledd gyda phatrwm tecstilau hardd ar ei flaen, a defnyddiais y bag gwaith am nifer o flynyddoedd pan gefais fy ethol gyntaf i’r Cynulliad. Roedd yn arbennig iawn ac roeddwn yn falch iawn o ddweud wrth bobl pan fyddent yn gofyn, ‘O ble y cawsoch chi’r bag?’ Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn inni osod hyn mewn cyd-destun.
Rwy’n falch fod Llywodraeth Prydain gyda chefnogaeth drawsbleidiol, os nad cefnogaeth pob plaid, wedi gweithredu’r targed o 0.7 y cant. Mae’n rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono ac eisiau ei weld. Rydym yn arwain ac mae gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl, er yn rhy araf.
Yn ystod y pum neu chwe blynedd diwethaf, mae cyllideb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol wedi arwain at roi gwasanaethau ariannol i 69.5 miliwn o bobl i’w helpu i weithio eu ffordd allan o dlodi. Dyna bethau fel microfenthyciadau i fenywod ym Mangladesh. Wyddoch chi, nid yw’r cyfan yn ymwneud â rhoi cymorth ar unwaith; mae’n ymwneud â buddsoddi yn y dyfodol: mae 11.3 miliwn o blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd iau, a bron eu hanner yn ferched, oherwydd ein cyllideb; rydym wedi helpu i gynnal bron i 400,000 o athrawon; ers 2010, mae dros 67 miliwn o blant wedi cael eu himiwneiddio oherwydd arian ein pobl, os caf ei roi felly, drwy Gavi, y Gynghrair Frechu. Ni fyddai llawer o’r plant hyn yn fyw heddiw pe na bai’r cymorth wedi’i roi. Rydym yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym ac rydym am fynd ymhellach.
Rwy’n meddwl bod Julie Morgan wedi cyfeirio at y gweithdrefnau archwilio. Maent hyd yn oed yn fwy cadarn nag y cafodd Julie amser i nodi, mewn gwirionedd. Yn yr archwiliad diwethaf, adroddwyd bod 0.3 y cant o wariant yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol wedi’i golli drwy dwyll, a chafodd dwy ran o dair ohono ei adfer wedyn. Felly, collwyd 0.01 y cant o’r gyllideb, ac rwy’n meddwl mai dyna sy’n rhaid i ni ei gofio—fod gennym weithdrefnau trwyadl.
A gaf fi gloi, Dirprwy Lywydd? Mae Prydain wedi bod yn rhan o’r ateb yn y maes hwn. Gadewch i ni beidio â mynd yn rhan o’r broblem yn awr. Gwrthodwch y cynnig tila hwn.
Yn 1964, etholwyd Llywodraeth Lafur o dan Harold Wilson. Roedd yn Llywodraeth a wnaeth newidiadau adrannol ar unwaith a sefydlwyd pum gweinyddiaeth Lywodraethol newydd. Un ohonynt, yn ddiddorol, oedd y Swyddfa Gymreig. Un arall, sy’n fwy perthnasol i ddadl heddiw, oedd y Weinyddiaeth Datblygu Tramor, dan arweiniad Barbara Castle. Efallai mai dyna oedd cychwyn y diwydiant cymorth tramor. Nawr, yn 2015, dechreuodd papur newydd arall—nid y ‘Daily Mail’; efallai na fydd y bobl ar y dde i mi yn ei ystyried yn ddim gwell, ond ‘The Times’ oedd y papur—gyfres o erthyglau ymchwiliol ar bwnc cymorth tramor. Mae’r papur newydd hwnnw wedi parhau i fonitro’r sector hwn yn agos ers hynny. Pan ddechreuodd ‘The Times’ archwilio’r mater hwn, derbyniodd y papur newydd lythyr diddorol gan Gordon Bridger. Ef oedd cyfarwyddwr economeg y Weinyddiaeth Datblygu Tramor pan gafodd ei sefydlu yn 1964. Tynnodd Gordon Bridger sylw at y ffaith fod gwahanol fathau o gymorth tramor, ac un ohonynt yw cymorth cyllidebol. Cymorth a roddir yn uniongyrchol yw hwn gan un Llywodraeth i Lywodraeth arall, a dyma oedd gan Gordon Bridger i’w ddweud am gymorth cyllidebol—gyda llaw, roedd yn cyfeirio at erthygl a oedd wedi ymddangos yn ddiweddar mewn papur newydd lle honnwyd bod cymorth Prydeinig yn cyllido llu o weision sifil yn Ghana nad oeddent yn bodoli mewn gwirionedd.
Nawr, dywedodd Gordon Bridger hyn: ‘Nid yw’r camddefnydd enfawr o gymorth cyllidebol Ewropeaidd a Phrydeinig yn Ghana yr adroddwyd yn ei gylch yn ddiweddar yn syndod, gan fod bron yr holl gymorth ariannol o’r DU bellach ar y ffurf honno. Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn awr yn rhoi bron i £300 miliwn y flwyddyn i Ethiopia, a miliynau lawer i Nigeria, Pacistan, Kenya a nifer o wledydd eraill. Mae archwilio cymorth cyllidebol yn amhosibl, yn wir, yn beryglus. Ceisiwyd llofruddio cyn-gyfarwyddwr cyllidebol Malawi y llynedd ar ôl iddo gynllunio i ddatgelu llygredd y Llywodraeth. Cafwyd sgandalau anferth ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraethau Uganda, Mozambique, Kenya, Rwanda a Nepal wedi camddefnyddio’r math hwn o gymorth, ac os oes unrhyw un yn meddwl bod y £268 miliwn sy’n mynd i Bacistan yn cyrraedd pobl dlawd, rhaid eu bod yn naïf iawn. Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn wynebu achos llys yn sgil honiadau ynglŷn â chamddefnyddio cymorth yn Ethiopia, ac fe’i condemniwyd gan Amnest Rhyngwladol. Cawsom ein cyfarwyddo gan Barbara Castle, a gafodd ei rhoi yng ngofal y Weinyddiaeth Datblygu Tramor newydd yn 1964, a lle roeddwn yn gweithio fel cyfarwyddwr economeg, i ddiddymu cymorth cyllidebol yn raddol am ei fod yn tanseilio ymdrechion lleol, yn cael ei ddargyfeirio ac yn amhosibl ei archwilio—[ Torri ar draws.] Yn sicr.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar gymorth uniongyrchol i Lywodraethau. Nid yw’n digwydd rhagor. Rydym yn rhoi cymorth i bartneriaid rhyngwladol fel UNICEF, i sefydliadau, i elusennau Prydeinig sy’n gweithio yno, ac i fentrau cydweithredol a’u tebyg cyrff cymunedol eraill yn y gwledydd hyn. Nid ydym yn rhoi arian i Lywodraethau tramor fel cymorth.
A ydych hefyd yn cytuno â’r gwariant ar ymgynghorwyr, fodd bynnag, sydd wedi dyblu i dros £1 biliwn y flwyddyn ers 2012—[Torri ar draws]—arbenigwyr ar fuddion, iawn. O fudd i lawer o gwmnïau sy’n arbenigo mewn cyfrifyddiaeth, fel PricewaterhouseCoopers, nad ydynt yn arbennig o enwog am eu harferion moesegol, ond os ydych am barhau i roi’r—[Torri ar draws].
Simon Thomas.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn y 10 mlynedd y bûm yn gweithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd o gwmpas Cynulliad hwn, nid wyf yn credu fy mod wedi gweld cynnig sy’n hala ysgryd arnaf yn fwy na’r un ger ein bron heddiw. Nid wyf yn dweud nad yw diben neu’r swm o gymorth tramor yn bwnc ar gyfer dadl dda ac ystyrlon—mae’n amlwg ei fod. Ond ni allai’r ddeilen ffigys a wisgwyd gan Neil Hamilton i guddio ei wyleidd-dra ar dudalennau cylchgrawn ‘GQ’ guddio’r modd digywilydd y mae UKIP yn ceisio codi mater nad yw’n gysylltiedig â phwerau’r Cynulliad, mater sydd prin yn cyffwrdd o gwbl â’n rôl gynrychioliadol fel ACau, er mwyn bwydo cig coch asgell dde i’r ychydig gefnogwyr sydd ganddynt ar ôl.
Mae’r cynnig hwn yn gamarweiniol ac yn anghywir ac fe ddangosaf pam. Mae’n cyfeirio at darged mympwyol cynnyrch domestig gros o 0.7 y cant ar gyfer cymorth tramor. Nid oes dim yn fympwyol yn ei gylch, fel y mae David Melding newydd ei nodi—mae iddo hanes rhyngwladol hir ac wedi’i gyfrifo’n drylwyr. Yn wir, mae’n darged sy’n cael ei gydnabod i’r fath raddau fel bod Neil Hamilton wedi’i ethol ar sail ymrwymiad maniffesto i’r targed, gan fod maniffesto’r Ceidwadwyr yn 1997 yn dweud hyn:
Byddwn yn parhau i gynnal rhaglen gymorth ddwyochrog ac amlochrog sylweddol sy’n adlewyrchu’r dyhead i gyrraedd targed y Cenhedloedd Unedig o 0.7% o’r cynnyrch domestig gros ar gyfer cymorth fel amcan hirdymor.
Felly, fe safodd Neil Hamilton etholiad ar faniffesto o’r fath. Mae hyd yn oed—[Torri ar draws] Na, rydych wedi arllwys eich bustl. Rydych wedi cael eich cyfle i arllwys eich bustl yn y lle hwn. Mae hyd yn oed yn rhannol gyfrifol am y ffaith fod gennym y 0.7 y cant hwn, oherwydd wedi i fy hen gydweithiwr Martin Bell ei drechu yn Tatton, bu’n rhaid i Geidwadwyr Tatton ddod o hyd i groen glân, a’r croen glân y daethant o hyd iddo oedd rhyw George Osborne a aeth ati wedyn, pan oedd yn Ganghellor yn 2013, i gyflwyno’r union ymrwymiad hwn o 0.7 y cant, felly mae dwbl y bai ar Neil Hamilton am y sefyllfa rydym ynddi.
Mae rhan nesaf y cynnig yn cwyno am ddyled genedlaethol y DU o £1.6 triliwn. Wel, unwaith eto, pwy sy’n gyfrifol am ddyled y DU? Y cynllun economaidd hirdymor a gefnogir gan y Ceidwadwyr, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn anffodus, ond a gefnogir hefyd gan y Meistri Reckless a Carswell, a oedd bob amser yn pleidleisio’n gyson dros broses y gyllideb sydd wedi arwain at ein dyled genedlaethol o £1.6 triliwn. Rwyf wrth fy modd yn gweld Mark Reckless yn y lle hwn. Roeddwn yn meddwl nad oedd strategaeth long danfor y grŵp Ceidwadol yn mynd i’w adael i ddod i fyny i anadlu rhagor, ond mae wedi dod atom gyda—
Nid wyf am ildio; mae gennyf ormod i’w ddweud, mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n falch iawn o’i weld dyna i gyd. Yna dywedir wrthym faint sy’n cael ei wastraffu neu ei ddargyfeirio drwy lygredd. Wel, os gallwch alw 0.01 y cant, fel y mae David Melding newydd ei nodi, yn wastraff, yna mae eich mathemateg yn rhy debyg i un Diane Abbott i mi, rhaid i mi ddweud. Ond mae’r mater llygredd hwn yn ddiddorol, onid yw? Beth yw’r mater llygredd hwn? Ai’r hyn sydd gan UKIP dan sylw yw HSBC yn talu bron i $2 biliwn i reoleiddwyr yn yr Unol Daleithiau mewn dirwyon o ganlyniad i wyngalchu arian cyffuriau, neu’r setliad o £30 miliwn a dalwyd gan BAE Systems i’r Swyddfa Twyll Difrifol, dros gytundeb awyrennau jet Al-Yamamah gyda Saudi Arabia? Nid wyf yn credu mai dyna sydd ganddynt dan sylw.
Gadewch i ni weld sut y treuliodd cynigydd y cynnig ei amser fel Aelod Seneddol. Bu’n gweithio i gwmni lobïo o’r enw Strategy Network International, a oedd â chysylltiadau â chwmnïau mwyngloddio yn Ne Affrica o dan drefn apartheid, cwmni a oedd yn ymgyrchu i godi sancsiynau ac a oedd yn talu i ASau Torïaidd i ymweld â De Affrica. Cymerodd yr ymchwiliad ‘arian am gwestiynau’ i ddatgelu nad oedd erioed wedi datgan yr ymgynghoriaeth hon i Dŷ’r Cyffredin. Fel AS—
Nac ydw, nid wyf yn ildio. Rydych wedi cael eich cyfle. Nac ydw. [Torri ar draws.] Ie, wel mae’r gwir yn yr ymchwiliad ‘arian am gwestiynau’, a gall pawb ei ddarllen. Fel AS, datgelais fod BAE Systems wedi talu miliynau o bunnoedd mewn comisiynau cudd i werthu awyrennau Hawk i Dde Affrica. Rwy’n credu bod y ddau ohonom wedi ymddangos ar dudalen flaen ‘The Guardian’ oherwydd ein hymchwiliadau fel Aelodau Seneddol, ond rwy’n gwybod fy mod yn falchach o’r hyn a wnes i na’r hyn a wnaeth ef; rwy’n credu fy mod wedi’i wneud am y rhesymau cywir. Rwyf hefyd yn meddwl fy mod yn sôn am y math o lygredd y dylem fod yn bryderus yn ei gylch heddiw, ac nid y dadleuon cyfeiliornus y mae’r Aelod wedi’u cyflwyno.
Nawr, ar ôl i etholwyr Tatton ddod i’r un casgliad ag y daw pleidleiswyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr iddo’n fuan, siaradodd yr Aelod yn y Springbok Club a gefnogai apartheid yn 1998. Mae nodiadau swyddogol y cyfarfod hwnnw, a ysgrifennwyd gan gyn-aelod o’r National Front, yn datgan hyn:
Rhoddodd Mr Hamilton araith gyfareddol, lle’r oedd yn cofio’i atgofion melys o Dde Affrica yn ystod oes y rheolaeth wâr. Hefyd mynegodd bleser mawr wrth weld gwir faner De Affrica yn cael ei harddangos yn falch... a mynegodd y gobaith y byddai un diwrnod i’w gweld yn hedfan yn Cape Town a Pretoria unwaith eto.
Baner cyfnod apartheid oedd honno, wrth gwrs. Nawr, rydym hefyd yn gwybod bod Mr Hamilton yn weithgar gyda’r Ceidwadwyr Ifanc pan oeddent wrthi’n llawen yn gwerthu ac yn gwisgo crysau-T ‘Hang Nelson Mandela’. Yr unig gasgliad rhesymol y gallwn ddod iddo—[Torri ar draws.] Yr unig gasgliad rhesymol y gallwn ddod iddo yw bod ystumio ffugdduwiol y cynnig hwn, ei esgus ei fod yn pryderu am faich cymorth ar bobl sy’n gweithio yng Nghymru, mai’r hyn y dylai ei ddweud mewn gwirionedd yw: ‘mae bywydau pobl dduon yn llai pwysig’. Yr hyn y mae UKIP o ddifrif yn hiraethu amdano yw’r adeg pan oedd brodorion yn gwneud yr hyn y dywedid wrthynt am ei wneud, a pheidio â bod yn hyf.
Wel, os oes unrhyw fustl yn y Siambr hon, mae newydd ddod gan y gŵr sydd newydd eistedd yn ei ymosodiadau ofnadwy o bersonol ar ACau eraill yn y Siambr hon. Hollol warthus. [Torri ar draws.] Hollol warthus.
O’r £250 miliwn mewn cymorth a anfonwyd gennym i Ethiopia y llynedd, cyfran fach iawn yn unig a aeth tuag at greu cyfoeth. Mewn geiriau eraill, nid ydym yn helpu’r gwledydd hyn i ddod yn hunangynhaliol, ond yn hytrach yn eu clymu at ddibyniaeth gynyddol a diddiwedd ar gymorth tramor. Mae ein hymdrechion mawr i ddarparu gwell iechyd, addysg a glanweithdra wedi achosi ffrwydrad poblogaeth, gan ddyblu yn Ethiopia o 74 miliwn yn 1990, i 134 miliwn heddiw. Y drasiedi yw: ychydig iawn o ansawdd bywyd fydd gan y rhan fwyaf ohonynt.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, wrth gwrs y gwnaf.
Rwy’n falch eich bod wedi llwyddo i gymryd ymyriad; ni allwn ddioddef gwrando arnoch lawer yn fwy. Ond hoffwn eich gwahodd i gyfarfod â’r bydwragedd o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gwirfoddoli yn Lesotho. Hoffwn wahodd yr holl aelodau UKIP sy’n siarad yma heddiw hefyd i ymweld â Cyswllt Carbon Cymunedol Llanbedr Pont Steffan, sy’n helpu i blannu 0.5 miliwn o goed yn Kenya, neu’r Tools for Self Reliance yng Nghrucywel, sydd wedi gweithio yn Nhanzania ers 20 mlynedd. Byddai’n fwy buddiol i chi, fel Aelodau o’r Cynulliad hwn yng Nghymru, pe baech yn siarad â’r bobl o Gymru a gweld realiti’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd yn lle’r hyn rydych ar fin—
Diolch. Ie, ie, rydych yn sôn am ganran fechan iawn o’r boblogaeth. Dyna i gyd rydych chi’n sôn amdano—canran fach iawn o’r bobl hynny—[Torri ar draws.] Maent bron yn sicr yn byw mewn tlodi truenus, heb unrhyw obaith o waith ystyrlon. Nid yw’n ddigon i ni eu hachub rhag newyn; mae’n rhaid i ni roi gobaith a phosibilrwydd o wella eu bywydau mewn ffordd gynaliadwy iddynt. Rhaid targedu unrhyw gymorth a roddwn i’w helpu i greu cyfoeth. Po fwyaf cyfoethog y daw cenedl, y lleiaf yw nifer y plant sy’n cael eu geni i bob teulu, gan roi llawer mwy o obaith i bob plentyn o gael bywyd hapus a llawn. Nid yw dull gwasgarog presennol Prydain o weithredu cymorth tramor yn helpu i ddileu tlodi, mae’n ei barhau. Trwy ddefnyddio dull mwy diffiniedig a phenodol o roi cymorth, byddwn yn gallu darparu cymorth mawr ei angen a lleihau’r gyllideb cymorth tramor. Dylem anelu i leihau’r angen am gymorth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Yn parhau.]—nid ehangu ei gyllideb yn barhaus. Dim diolch.
Rwy’n ei hystyried yn hollol warthus fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn hapus iawn i weld y dosbarth gweithiol yn y wlad hon yn cael arian wedi’i ddwyn o’u pocedi er mwyn cadw unbeniaid mewn grym—[Torri ar draws.]—pobl fel Mugabe ac ati, eich bod yn hapus fod arian enfawr yn cael ei wastraffu yn syml er mwyn i chi allu boddio’ch cydwybod a dweud, ‘Rydym yn rhoi 0.07 y cant o’n cynnyrch domestig gros’. [Torri ar draws.] Boddio eich cydwybod a wnewch. [Torri ar draws.] Nid yw’n cyflawni dim mewn gwirionedd o ran yr hyn sydd ei angen. Diolch.
Mae gen i ddau siaradwr arall. [Torri ar draws.] Mae gen i ddau siaradwr arall sy’n dymuno siarad yn y ddadl hon. Os byddant yn fy sicrhau na fyddant yn cymryd y pum munud llawn, gall y ddau ohonynt siarad. Dau o fy nghyd-Aelodau ar y meinciau Llafur ydynt, felly rwy’n erfyn arnoch, os wyf yn eich galw, i beidio â chymryd y pum munud llawn, ac yna gallwn eich cynnwys i gyd. John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth wraidd y ddadl hon heddiw, rwy’n credu, mae’r ffaith fod pob un ohonom yma’n byw mewn rhan ddiogel, sefydlog a ffyniannus o’r byd, ond fel y gŵyr pawb ohonom, ac fel y clywsom eisoes, ac fel y mae’r deunydd briffio gan Oxfam Cymru, Achub y Plant a’r Groes Goch a ddarparwyd ar gyfer y ddadl hon yn ei ddangos gyda’u hystadegau trasig, nid yw llawer iawn o bobl yn y byd yn y sefyllfa ffodus honno ac maent yn byw gyda marwolaeth fel realiti dyddiol—marwolaeth a dioddefaint diangen, glanweithdra gwael, safonau iechyd gwael, diffyg cyfleoedd addysgol, a diffyg cyfleoedd economaidd. A hefyd, wrth gwrs, llawer o ryfel a chythrwfl. Felly, rydym yn ffodus iawn, ac mae hynny’n rhoi cyfrifoldeb moesol arnom i helpu pobl mewn angen dybryd o’r fath.
Rwy’n falch iawn, mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, fod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen â’r rhaglen o blaid Affrica, gan gydnabod ein cyfrifoldeb moesol. Roeddwn yn ffodus iawn i fynd i Mbale yn Uganda a gweld drosof fy hun y plant, y gwragedd, a’r teuluoedd sydd wedi cael budd o’r gwaith—gwaith iechyd, gwaith addysgol, datblygu economaidd a gwaith amgylcheddol—y mae pobl Cymru ei wneud mewn partneriaeth â phobl Mbale, ac mae’n hynod o galonogol, pan fyddwch yn cerdded o gwmpas y cartrefi plant amddifad, a gweld drosoch eich hun pa mor bwysig ydyw i bobl, ac rwy’n cymeradwyo’r gwaith hwnnw.
Rwyf hefyd yn canmol Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn fawr iawn am sefydlu’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, am dreblu’r gyllideb cymorth, ac rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Geidwadol y DU yn fawr iawn am gyrraedd y targed o 0.7 y cant. Mae hynny’n gwbl wych i’w weld, pan edrychwch ar yr angen o gwmpas y byd. O ran dadleoli a symudiadau torfol pobl ar draws y byd yn sgil dadleoli dros 60 miliwn o bobl, gyda’r rhyfel a’r helbul sy’n ei achosi, a mudo economaidd o ganlyniad i dlodi, gwyddom fod hynny nid yn unig yn creu problemau amlwg iawn i’r gwledydd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ond i’r byd i gyd, gan fod symudiadau torfol pobl yn creu problemau ac anawsterau i bawb. Yn amlwg, fel y dywedwyd eisoes, os ydym yn datblygu economïau’r gwledydd sy’n dlawd ar hyn o bryd, yna maent yn bartneriaid masnachu cryf yn y dyfodol. Felly, mae yna fudd uniongyrchol i ni yn y byd datblygedig fel y’i gelwir os ydym yn helpu’r byd sy’n datblygu fel y’i gelwir.
Felly, rwy’n meddwl mai dyna’r cefndir go iawn i’r ddadl hon heddiw, Dirprwy Lywydd, lle cafwyd rhai datganiadau cryf iawn. Rwy’n ymuno â’r bobl sy’n ei hystyried yn gwbl warthus fod UKIP wedi cyflwyno’r cynnig hwn i’r Cynulliad heddiw. Rwy’n credu ei fod yn dangos gwir liwiau UKIP, a bydd yn ddiddorol iawn gweld beth y mae pobl y tu allan i’r Siambr a sefydliadau sy’n weithredol ym maes datblygu rhyngwladol yn ei wneud o’r ddadl hon a’r cyfraniadau iddi.
A gaf fi ddweud wrth gloi, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gwrthwynebu’r cynnig hwn gan UKIP yn llwyr ac yn sylfaenol a’r gwerthoedd, yr ymagweddau a’r wleidyddiaeth sy’n sail ôl iddo? Rwy’n credu, fel y mwyafrif llethol yma heddiw rwy’n tybio, mewn rhyngwladoliaeth, mewn cydraddoldeb a thegwch, yng Nghymru, y DU a’r byd. Diolch byth fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydnabod eu rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn ddigon egwyddorol a dewr i’w rhoi ar waith er mwyn achub bywydau a gwella bywyd yn y lleoedd hynny, y rhannau hynny o’r byd, sy’n wynebu’r angen mwyaf.
Diolch yn fawr iawn. Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n addo peidio â chymryd fy mhum munud llawn.
Rwyf am ddechrau’n gyntaf oll drwy ddweud fy mod wedi bod yn y Siambr hon ers 10 mlynedd, ac nid wyf erioed wedi clywed dim sy’n debyg i’r hyn a glywais yn cael ei arddel yn y Siambr hon y prynhawn yma oddi ar feinciau UKIP. Mewn gwirionedd byddai’n fuddiol iawn iddynt, rwy’n meddwl, fynd i ymweld, gyda’i gilydd, y prosiect PEN Cymru sydd wedi rhoi llais i ffoaduriaid mewn digwyddiadau ar benrhyn Llŷn; Sector 39 o Bowys, sy’n rhannu eu harbenigedd mewn permaddiwylliant â phartneriaid yn Uganda a Kenya; Dolen Ffermio ym Mhowys; Marit Olsson a Get Set Cymru, y ddau ym Machynlleth—[Torri ar draws.]; rwyf wedi clywed digon gennych chi. A hefyd, yn fwy hanfodol a phwysig, dylai’r sawl a gynigiodd y cynnig ac a agorodd y ddadl hon fynd i Goleg Sir Gâr i gyfarfod â’r myfyrwyr o Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn ymwneud â phrosiect Care for Uganda, y newidiwyd eu bywydau—ac rwyf wedi siarad, gyda llaw, â’r bobl ifanc y newidiwyd eu bywydau, a helpodd i adeiladu ysbyty yno, ac a ddychwelodd yn well pobl.
Pe bawn wedi cael y symudiad hwn y byddent yn ei hoffi heddiw yn enw UKIP i droi cefn ar bawb, nid yn unig byddai’r bobl sydd wir angen cymorth yn cael eu hamddifadu, ond byddai’r bobl sydd mewn gwirionedd yn elwa o’i ddarparu hefyd yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd. Felly, rwy’n awgrymu wrth aelodau UKIP y byddai’n wers dda iawn iddynt yn wir pe baent yn rhoi unrhyw amser o gwbl i addysgu eu hunain am yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i helpu a chefnogi pobl, yn hytrach na dod yma a dyfynnu o bethau fel y ‘Daily Mail’ neu ‘The Times’ a dewis darnau bach o wybodaeth ddethol mewn gwirionedd. Gwn eu bod yn galw eu hunain yn gŵn gwarchod Brexit, ac rwy’n gwybod eu bod yn chwilio am ffordd ymlaen, ond gadewch i mi ddweud hyn wrthych, drwy ymddwyn yma y prynhawn yma fel cŵn cynddeiriog, nid yw’n mynd i helpu eich achos.
Diolch yn fawr iawn a galwaf yn awr ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Dirprwy Lywydd, rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma. Mae’r Aelodau wedi dweud hyn ac rwy’n credu bod y ddadl hon wedi amlygu rhaniad gwleidyddol llydan iawn yn y Siambr hon, un nas gwelais o’r blaen dros 18 mlynedd y Cynulliad hwn. Mae’n rhaniad, ac mae’n rhaniad yr ydym wedi dadlau yn ei gylch y prynhawn yma; mae’n rhaniad ac yn wahaniaeth sylfaenol yn y gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n sail i’n hymrwymiadau gwleidyddol, ein blaenoriaethau a’n cymhellion.
Ac wrth gwrs, wrth ymateb i’r ddadl hon, mae’n rhaid inni edrych ar beth yw ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau gwleidyddol a sut rydym yn ymdrin â hynny, yn enwedig fel Llywodraeth Lafur Cymru sydd hefyd yn gorfod rheoli’r heriau sydd gennym o ran caledi parhaus, gan edrych ar ffyrdd y gallwn wneud cynnydd o ran buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, tai ac addysg, gan wneud dewisiadau anodd, ac edrych ar sut y gallwn wasanaethu pobl Cymru, ond rydym hefyd yn credu’n glir iawn mewn chwarae ein rhan, chwarae rhan sy’n rhaid i ni ei chwarae fel dinasyddion byd-eang a chynorthwyo’r byd ehangach.
Rydym yn cefnogi ein gwariant ar gymorth oherwydd mai dyna’r peth iawn i’w wneud yn foesol, a’r peth iawn i’w wneud os ydym eisiau byd mwy diogel lle mae pawb yn cael cyfle i ffynnu. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn cynnig UKIP ac yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, sy’n cydnabod pwysigrwydd cymorth rhyngwladol a phwysigrwydd rhaglen Cymru o Blaid Affrica, y soniwyd amdani, ac a nododd Steffan Lewis heddiw. Mae’n rhaid i ni gydnabod, wrth gwrs, nad yw cymorth rhyngwladol wedi’i ddatganoli i Gymru—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw—ond mae’r ddadl hon yn rhoi cyfle inni adrodd ar raglen lwyddiannus Cymru o Blaid Affrica ac edrych ar ffyrdd y gallwn gyflawni’r rhwymedigaethau a ddisgrifiwyd gan John Griffiths fel rhai sy’n amlwg iawn ar sail ryngwladol.
A gaf fi ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen i ni gael mynegiant unedig, ar ran y pleidiau eraill o leiaf? Rydym yn dehongli’r alwad am bolisi rhyngwladol cynhwysfawr fel un sy’n gweithio drwy sefydliadau Prydeinig megis y swyddfa dramor a’r Cyngor Prydeinig, rhag ofn y bydd pobl yn meddwl ein bod wedi mynd i ganlyn y weledigaeth fwy, o bosibl, a allai fod gan Blaid Cymru ynghylch annibyniaeth.
Diolch i chi, David Melding, am dynnu sylw at adroddiad Brandt yn eich cyfraniad, a oedd yn argymell y targed 0.7 y cant. Diolch i chi unwaith eto am ein hatgoffa ynglŷn â’r drefn archwilio a monitro gadarn a thrylwyr, fod 0.01 y cant yn bitw o ran y ffyrdd rydym ni, a Llywodraeth y DU yn wir, yn cyflawni ei rhaglen cymorth rhyngwladol.
Rwyf am nodi ychydig o ffeithiau eto am gymorth rhyngwladol. Mae’r DU yn un o wyth o wledydd yn y byd sy’n cyrraedd y targed gwariant swyddogol ar gyfer cymorth datblygu o 0.7 y cant o incwm gwladol gros. Mae llai na 2c o bob £1 a werir gan y Llywodraeth yn mynd ar gymorth tramor. Affrica sy’n derbyn y gyfran fwyaf o gymorth y DU. Cymorth dyngarol yw’r maes unigol mwyaf o wariant, ac mae’n un rhan o chwech o gyfanswm cymorth dwyochrog. Cafodd cyfran sylweddol o gymorth dyngarol y DU ei wario yn Sierra Leone i helpu gyda’r argyfwng Ebola, yn ogystal ag yn Syria, Yemen a De Swdan.
Mae swyddogaeth economaidd a diplomyddol bwysig i wariant cymorth y DU, swyddogaeth a ddaw’n bwysicach fyth ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Trwy ddarparu cymorth i wledydd i gefnogi eu datblygiad a’u twf parhaus, mae’n helpu i gynyddu cyfoeth eu poblogaeth. Mae gan gymorth rôl i’w chwarae’n sicrhau ac yn sefydlu diogelwch rhyngwladol. Fel y dywedodd Julie Morgan, mae ein plaid, y Blaid Lafur, yn cefnogi’r targed o 0.7. Byddai Llywodraeth Lafur newydd yn parhau i wario 0.7 y cant o incwm gwladol gros ar gymorth datblygu tramor. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y ffaith fod David Cameron wedi cyflwyno hyn fel blaenoriaeth a pholisi Llywodraeth clir. Ac er mai cyfrifoldeb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, wrth gwrs, yw datblygu rhyngwladol, mae galwad wedi bod—gwnaeth Steffan Lewis y pwynt hwn—am ymateb Cymreig penodol i ddatblygu rhyngwladol.
Ers dros ddegawd bellach, rydym wedi cael perthynas gref a dwyochrog gyda gwledydd ledled Affrica is-Sahara. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog cannoedd a miloedd o bobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau a phrosiectau drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rwy’n datgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr elusen y Fro o Blaid Affrica, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Uganda NGO, gan ysbrydoli a grymuso pobl a sefydliadau yn ardal Tororo gyda phobl a phartneriaid ym Mro Morgannwg. Mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn arbennig iawn, gydag egwyddorion partneriaeth yn sail i’r gwaith sy’n seiliedig ar gyd-barch a lles cyffredin. Mae pob prosiect unigol a gefnogir gan y rhaglen wedi dod â llawn cymaint o fudd i Gymru ag i’w bartner yn Affrica. Mae hynny’n digwydd drwy gysylltiadau iechyd a chymunedol; grwpiau masnach deg; diaspora; drwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol; gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yng Nghymru ac Affrica. Nid oes amheuaeth fod Cymru, fel gwlad, yn llawer gwell ei byd o ganlyniad i’r rhaglen hon mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’r llwyddiannau wedi mwy na gwneud iawn am ei chyllideb gymedrol ac rydym yn haeddiannol falch o’i llwyddiant. Gadewch i ni edrych ar rai o’r cyflawniadau hynny: 500 o brosiectau Cymreig unigryw ar draws 25 o wledydd Affrica; yn 2015 yn unig, elwodd 80,000 o bobl yng Nghymru a 260,000 o bobl yn Affrica ar ein cynllun grantiau bach. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru o leiaf un cyswllt gweithredol gydag ysbyty yn Affrica. Rydym wedi plannu’r nifer syfrdanol o 5.5 miliwn o goed mewn ardal lle ceir datgoedwigo uchel yn Mbale, man yr ymwelodd John ag ef yn Uganda, fel rhan o’r prosiect 10 miliwn o goed. Mae hyn yn helpu i wella bywydau mwy na 544,000 o ffermwyr Uganda, gan wrthbwyso effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cefnogi mwy na 160 o leoliadau drwy ein rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol, ac yn rhannu mwy na 47,000 o oriau o arbenigedd gyda phartneriaid yn Affrica.
Felly, Dirprwy Lywydd, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir ein bod am fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, yn agored i syniadau da, ac yn ymwneud â gweddill y byd. Rwy’n credu mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau hefyd: gofal a thosturi tuag at eu cymdogion yma ac ar draws y byd. Rydym wedi cael llawer o sylwadau’n nodi pryder a thystiolaeth ynglŷn â pha mor bwysig yw cymorth rhyngwladol pwysig yma yng Nghymru ac i’r byd. Gan y Groes Goch Brydeinig, Achub y Plant ac Oxfam, rydych i gyd wedi cael eu sylwadau yn eu tystiolaeth heddiw. Cawsom ein hatgoffa’n briodol gan Carol Wardman, o’r Eglwys yng Nghymru, fod dameg y Samariad da, a roddir mewn ymateb i’r union gwestiwn, ‘Pwy yw fy nghymydog?’, yn dangos yn benodol mai ein cymdogion yw’r rhai sydd â’r angen mwyaf, yn enwedig pan nad ydynt yn perthyn i’n llwyth, ein cenedl na’n crefydd ni ein hunain.
Felly, siaradais ar ddechrau fy ymateb ynglŷn â’r rhaniad yma heddiw: rhaniad y mae UKIP wedi’i ddwyn i’r lle hwn. Cyflwynodd UKIP y cynnig hwn i hyrwyddo addewid etholiad culfrydig ei naws, ond yn ffodus, mae cefnogaeth i UKIP i’w weld yn cilio. Dyna pam y byddwn yn parhau i chwarae ein rhan fel dinasyddion byd-eang, yn wlad sy’n edrych tuag allan, yn barod i ffurfio cysylltiadau newydd, ac i estyn llaw i gynorthwyo’r rhai sydd angen cymorth, ac ailddatgan ein diben gwleidyddol a moesol yma heddiw. Felly, gadewch i ni wrthwynebu’r ‘cynnig tila hwn’, fel y dywedodd David Melding, cynnig y mae Simon Thomas yn dweud ei fod yn ‘hala ysgryd arnom.’
Diolch. Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n ymddangos ein bod wedi taro targed yma, yn ôl adwaith yr Aelodau eraill. Rydym wedi torri ar draws y consensws clyd a oedd yn bodoli cyn i ni gyrraedd. Dyna yw diben Cynulliad democrataidd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth: Steffan Lewis, Julie Morgan, David Melding, Caroline Jones, Gareth Bennett, David Rowlands, John Griffiths a Joyce Watson. Nid wyf yn diolch, wrth gwrs, i Simon Thomas, am wneud ei araith ffiaidd, ddi-chwaeth, eithafol, sarhaus yn bersonol a chamarweiniol, a oedd yn carthu o ddyfnderoedd y rhyngrwyd rai o’r celwyddau a’r enllibion a ddywedwyd amdanaf yn flaenorol gan ei gydwleidyddion, yn ddiau. Ond nid wyf yn bwriadu rhoi bysedd fy nhraed ym mhydew ei araith. Gadawaf iddo ymdrybaeddu yn ei fudreddi ei hun yn eithaf hapus.
Ond er mwyn ymateb i weddill y ddadl, fe ddywedaf nad wyf yn credu y gallai’r Aelodau anrhydeddus fod wedi gwrando ar y ffordd yr agorais fy araith, neu fod wedi darllen y cynnig. Oherwydd byddai’r enghreifftiau niferus o gymorth da a grybwyllwyd yn ystod y ddadl hon heddiw—ac yn sicr, cafodd rhai ohonynt eu crybwyll yn araith Caroline Jones—yn ennyn cefnogaeth pawb bron ac yn sicr, cânt eu cefnogi gan UKIP.
Dechreuais fy araith drwy ddweud mai 16 y cant yn unig o’r gyllideb cymorth sy’n mynd ar brosiectau o’r math hwnnw; mae 84 y cant yn mynd ar y math o gymorth sydd â nod gwleidyddol strategol hirdymor o’r math y soniais amdano, ym maes newid yn yr hinsawdd ac yn y blaen. Y math hwn o gymorth Llywodraeth i Lywodraeth neu gymorth Llywodraeth drwy asiantaeth ryngwladol, fel y byddai David Melding wedi’i roi y dylid ei gwestiynu. Nawr, mae’r ffigur o 0.7 y cant o gynnyrch domestig gros yn un mympwyol; nid oes iddo unrhyw gyfiawnhad gwrthrychol o gwbl. Ni all fod; mae’n ffigur goddrychol—gallai fod yn 0.6, gallai fod yn 1.6, gallai fod yn 10.6. Ac felly mae’r cyfle i nodi rhinweddau—a fachwyd gan lawer o’r Aelodau o gwmpas y Siambr heddiw i hysbysebu’r hyn a welant fel eu rhagoriaeth foesol drosom ni ar y meinciau hyn—o ran sut i wario arian pobl eraill yn rhywbeth nad yw’n fater o egwyddor, ond yn hytrach yn fater o raddau. Oherwydd ni fydd yn dechrau bod yn foesol fanteisiol nes y bydd yn dechrau brifo, ac nid wyf yn gwybod a yw’r swm y mae Aelodau unigol yn ei gyfrannu o’u hadnoddau eu hunain bob blwyddyn i—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwneud pan—[Torri ar draws.] Ie, digon. Nid oes amheuaeth fod yr Ysgrifennydd Addysg, sy’n byw bywyd cyfforddus iawn yn wir—. Nid wyf yn credu bod beth bynnag y mae’n ei roi mewn elusen i achosion eraill yn effeithio llawer iawn ar ei ffordd o fyw. Nid wyf yn gwneud unrhyw—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwneud unrhyw sylw personol; rwy’n ymateb—[Torri ar draws.] Rwy’n ymateb—[Torri ar draws.] Rwy’n ymateb i’r awgrym—[Torri ar draws.] Rwy’n ymateb i’r ddadl ymhlyg yn hynny—
A ydych yn derbyn ymyriad?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Tybed a wnewch chi gydnabod, mewn gwirionedd, mai rhai o’r bobl fwyaf hael yng Nghymru yw’r rhai o’r cefndiroedd mwyaf tlawd.
Gwnaf, wrth gwrs. Wrth gwrs y gwnaf.
Y bobl hynny sy’n tueddu i roi fwyaf, am eu bod yn aml wedi cael help llaw eu hunain yn y gorffennol. A wnewch chi dderbyn hynny?
Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf. Wrth gwrs y gwnaf. Yr hyn a wnewch gyda’ch arian eich hun yw craidd y mater. A’r hyn rwy’n ei ddweud yw na all unrhyw gwestiwn o foesoldeb godi pan fydd y Llywodraeth yn cyfrannu arian trethdalwyr, oherwydd mae’n ymwneud â rhywun yn cyfrannu arian pobl eraill. Nid oes unrhyw elfen o foesoldeb yn rhan o hynny. Felly, pwynt y ddadl hon yw—[Torri ar draws.] Pwynt y ddadl hon—[Torri ar draws.] Y pwynt, os caf orffen fy sylwadau—. Pwynt y ddadl hon, yn syml, yw hysbysebu’r ffaith fod llawer iawn o’r arian sy’n cael ei wario ar gymorth tramor yn cael ei wario ar brosiectau amheus, prosiectau dadleuol, nad ydynt o reidrwydd yn arwain at leddfu tlodi, dileu clefydau, gwella cyfleusterau dŵr, ac yn y blaen—yr holl bethau y gall pawb ohonom eu cymeradwyo. Efallai nad yw anfon grwpiau dawns i Ethiopia yn rhywbeth y gallwn ei gymeradwyo—£5 miliwn neu beth bynnag oedd y ffigur a wariwyd ar hynny o’r gyllideb yn 2013. Yn fwriadol ni roddais enghreifftiau lliwgar o’r math hwnnw o archifau ‘The Daily Mail’—rhywbeth y cyfeiriais ato fel sylw eironig yn fy araith yn gynharach—oherwydd nad oeddwn am fychanu’r drafodaeth neu ganiatáu iddi gael ei bychanu.
Ond mae yna bwynt difrifol yn y fan hon. Gallwn ddewis gwario’r arian a gymerwn gan drethdalwyr mewn pob math o wahanol ffyrdd. Rydym yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd yn cael ei danariannu ym mhob man. Mae’n sicr o fod, o ystyried natur ei adeiladwaith a’r gofynion diddiwedd a osodir arno. Gallwn ddewis rhoi £10 biliwn arall i’r gyllideb cymorth a’i dynnu o gyllideb arall. Wel, os felly, beth yw’r gyllideb arall honno? A yw honno’n enghraifft o ragoriaeth foesol ar ran y rhai sydd ar yr ochr arall i’r ddadl heddiw? Wyddoch chi, mae yna ddigon o bethau: beth am gyngor y celfyddydau a phethau felly? Maent i gyd yn bethau rhinweddol ynddynt eu hunain, ond a yw’n well ariannu theatr neu gerddorfa symffoni na lleddfu tlodi go iawn a dileu clefydau? Mae’r rhain yn gwestiynau anodd ac yn ddewisiadau anodd sy’n rhaid i bawb ohonom eu gwneud.
Ond rwy’n credu bod arddel y safbwynt hunanfodlon, uwchraddol, nawddoglyd a glywsom y prynhawn yma yn diraddio’r ddadl. Yn fy marn i, rydych yn twyllo eich hunain yn meddwl mai cyfran fach iawn o bobl yn y wlad yn gyffredinol a fyddai’n cefnogi cynnig UKIP heddiw. Pe baech yn cynnal rhyw fath o refferendwm ar gymorth tramor byddai’n cynhyrchu canlyniad gwahanol iawn yn wir—[Torri ar draws.] Ac rwy’n gweld yn awr nad yw’r Aelodau lawn mor awyddus i ofyn i’r bobl beth yw eu barn am yr hyn a wnawn gyda’n harian yn y ffordd honno. Felly—
A ydych yn dirwyn i ben?
[Yn parhau.]—rwy’n meddwl fy mod wedi dod i ddiwedd fy araith am heddiw, ac rwy’n cymeradwyo ein cynnig i’r tŷ.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio.