– Senedd Cymru am 2:43 pm ar 27 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch, heddiw, i gyhoeddi ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Cyn i mi gyhoeddi’r Biliau y byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf, rwy’n awyddus i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ers i mi wneud fy natganiad cyntaf ym mis Mehefin y llynedd, mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi pasio deddfwriaeth dreth bwysig, a fydd yn galluogi Cymru i godi ei refeniw ei hun o fis Ebrill 2018—y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd.
Cafodd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, gan ddod yn Ddeddf gyntaf y pumed Cynulliad. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno i basio Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cymryd cam pellach ar ein taith ddatganoli a sicrhau bod treth gwarediadau tirlenwi—yr ail o'r ddwy dreth ddatganoledig—ar waith erbyn mis Ebrill 2018. Llywydd, mae’r ddau ddarn hyn o ddeddfwriaeth treth yn sefydlu perthynas newydd rhwng pobl Cymru, Llywodraeth Cymru a’r gwaith o gyflwyno ein gwasanaethau cyhoeddus. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd yr arian a godir o drethi Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Fis diwethaf, pasiodd y Cynulliad hefyd Fil Iechyd Cyhoeddus (Cymru). Disgwylir i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol yr wythnos nesaf ac, unwaith y bydd wedi’i ddeddfu, bydd yn darparu gwelliannau eang o ran iechyd y cyhoedd, gan gynnwys cyfyngiadau newydd ar ysmygu mewn rhai mannau cyhoeddus yn yr awyr agored lle mae plant yn bresennol, cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer triniaethau arbennig, gwaharddiad ar roi twll mewn rhannau personol o’r corff ar gyfer pobl dan 18 oed, a gwelliannau i'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus a gwasanaethau fferyllol. Cyhoeddais dri Bil arall y llynedd, ac mae'r rhain yn parhau i symud drwy gamau craffu’r Cynulliad.
Llywydd, cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn gynharach y mis hwn a bydd Cyfnod 2 yn digwydd ar ôl toriad yr haf. Rydym yn disgwyl cyrraedd cyfnodau terfynol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a chwblhau cyfnod cyntaf Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) cyn toriad yr haf. Mae pob un o'r Biliau hyn wedi bod yn destun graffu gan Aelodau, a byddant yn cael eu gwella gan y broses honno. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses ddeddfwriaethol. Efallai nad yw bob amser yn broses gyfforddus i’r Llywodraeth—ac ni ddylai fod felly—ond mae craffu yn arwain at well ddeddfwriaeth.
Llywydd, bydd y Llywodraeth yn parhau i adeiladu ar y cynnydd yr ydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn parhau i gael ei llunio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae’r cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn y flwyddyn i ddod yn adlewyrchu ein nod o wella Cymru yn awr ac yn y tymor hir.
Over the next 12 months, we will introduce legislation in Wales to tackle the damaging use of alcohol by raising a minimum unit price for alcohol, providing free childcare to those in work with children between three and four years of age, protecting tenants from unfair fees, and reforming local government.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, a’n nod ers amser hir yw defnyddio mesurau iechyd cyhoeddus i dargedu a mynd i'r afael â'r defnydd niweidiol a pheryglus o alcohol. Mae tystiolaeth wedi dangos y cysylltiad rhwng yfed ar lefelau niweidiol ac argaeledd alcohol rhad. Mae deddfwriaeth yn elfen hanfodol o'n strategaeth ehangach i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn ein galluogi i bennu isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu yn eang ynghylch isafbris uned ar gyfer alcohol a gwnaethom ymgynghori ar Fil drafft ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad. Roedd y mwyafrif o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn o blaid deddfu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Senedd yr Alban wedi pasio Deddf yn 2012 i gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol, ac, wrth gwrs, yn ymwybodol o benderfyniad Llys Sesiwn yr Alban bod y ddeddfwriaeth yn gydnaws â chyfraith yr UE, yn dilyn her gyfreithiol gan y Scotch Whisky Association ac eraill. Nawr, mae’r apêl gan y gymdeithas honno i fod i gael ei chlywed gan y Goruchaf Lys yr haf hwn. Rydym yn edrych ymlaen at ddiwedd yr achos hwnnw ac yn monitro'r datblygiadau'n agos.
Llywydd, bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau deddfwriaethol i fynd i'r afael â'r ffioedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae cartref fforddiadwy, o ansawdd da yn allweddol i lesiant. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu bod y ffioedd presennol, a godir yn bennaf gan asiantau, yn rhwystr i bobl gael mynediad at dai rhent preifat, ac, unwaith y ceir mynediad at dai rhent, bod y ffioedd yn gallu bod yn rheswm dros beidio â symud cartref. Gall tenantiaid wynebu costau sylweddol ymlaen llaw, sy'n cynnwys mis o rent, blaendal diogelwch sylweddol a ffioedd asiantaeth ar gyfer sicrhau tenantiaeth. Gall y ffi gynnwys taliadau lluosog, ond yn aml mae’n dâl sefydlog neu'n seiliedig ar ganran o gostau rhent yr eiddo. Yn rhy aml, nid yw tenantiaid yn gwybod am beth y maent yn talu’r costau hyn. Felly, byddwn yn cyflwyno Bil i atal codi ffioedd annheg ar denantiaid a'u darpar denantiaid. Bydd hyn yn rhoi eglurder i’r rhai yn y sector rhentu preifat ynghylch y costau cysylltiedig ac yn sicrhau bod y system yn deg, yn gyfiawn ac yn gynaliadwy.
Llywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r rheolaethau rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Ym mis Medi 2016, gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cymru i’w cynnwys yn y sector cyhoeddus. O ganlyniad, bydd unrhyw fenthyca o'r sector preifat gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn dod yn dâl yn erbyn cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae'r penderfyniad i ailddosbarthu yn dilyn cynsail a osodwyd yn Lloegr, ond mae hefyd yn un sy'n wynebu Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon. Os nad eir i'r afael â hyn, gallai canlyniadau’r newid hwn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yn sylweddol o bosibl. Gallai gyfyngu'n ddifrifol ar y gwaith o ddatblygu tai fforddiadwy newydd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cymru a gallai hefyd gyfyngu ar ein gallu ni ein hunain i ariannu prosiectau seilwaith cyfalaf eraill. Felly, byddwn yn diwygio’r rheolaethau rheoleiddio perthnasol sydd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac rydym yn credu y bydd hyn yn galluogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailystyried dosbarthiad Landlordiaid Cymdeithasol Cymru yng Nghymru a'u cynnwys gyda’r sector preifat unwaith eto.
Llywydd, mae gofal plant yn fater pwysig i bob rhiant. Un o'n hymrwymiadau allweddol fel Llywodraeth yw darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair blwydd oed sy'n gweithio. Pan gaiff ei gyflwyno'n llawn, bydd ein cynnig gofal plant yn helpu i ddymchwel y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth gael swydd. Rydym yn gwneud cynnydd da, a bydd ein cynlluniau peilot gofal plant cyntaf yn dechrau ym mis Medi. I gefnogi hyn a hwyluso cyflwyno'r cynnig gofal plant yn llawn erbyn 2020, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gefnogi system genedlaethol ar gyfer ceisiadau a gwiriadau cymhwystra. Rydym yn gweithio i ddatblygu system lle y gall rhieni gyflwyno eu cais a’u gwybodaeth ar-lein, y gellir ei wirio wedyn yn erbyn setiau data sydd eisoes yn bodoli er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys. Bydd angen deddfwriaeth yn sail i’r system hon. Un o'r dewisiadau yw gweithio gyda Chyllid a Thollau EM i integreiddio ceisiadau i'r gwasanaeth gofal plant presennol.
Llywydd, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hanfodol, o ofal cymdeithasol ac addysg i gasglu a rheoli gwastraff. Mae ein hawdurdodau lleol hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol i'w cymunedau. Mae’n rhaid iddynt fod yn gydnerth ac yn gynaliadwy os ydynt am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Rydym wedi bod yn trafod diwygio llywodraeth leol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Mae’n bwysig ein bod yn symud ymlaen ar sail consensws. Dyna pam rydym wedi ymwneud yn helaeth â chydweithwyr llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at gyhoeddi Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cydnerth ac wedi’i Adnewyddu' yn gynharach eleni.
Llywydd, byddwn yn awr yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd y Bil yn ceisio sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn rhoi i'r awdurdodau lleol bŵer cymhwysedd cyffredinol a fframwaith perfformiad newydd, a bydd yn creu mwy o dryloywder wrth wneud penderfyniadau. Ond nid yw hynny'n ddigon. Mae'n amlwg bod angen i ni barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a bod yn rhaid i awdurdodau lleol hefyd weithio mewn ffordd wahanol. Bydd y Bil, felly, yn darparu sail ar gyfer mwy o gydweithredu drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol a systematig. Gyda’i gilydd, bydd ein cynigion ar gyfer diwygio yn cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd, ac o fewn y fframwaith hwn byddwn yn creu llywodraeth leol gydnerth, wedi’i hadnewyddu, a chynaliadwy yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i geisio cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer deddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Rydym yn sefyll yn gadarn yn ein hymrwymiad i fynd ar drywydd newid yn y gyfraith, ac rydym yn parhau i weithio drwy'r cymhlethdodau cyfreithiol i ddatblygu Bil i wneud hyn yn realiti. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym eu heisiau ac yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Felly, byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion i ddileu amddiffyniad o gosb resymol yn ystod y 12 mis nesaf, ac rydym yn bwriadu cyflwyno Bil yn nhrydedd flwyddyn tymor y Cynulliad hwn.
Llywydd, yr wythnos diwethaf nododd Llywodraeth y DU ei bwriadau deddfwriaethol yn Araith y Frenhines. Roedd y datganiad hwnnw yn cynnwys y Bil diddymu a Biliau arwyddocaol eraill sy'n ymwneud â Brexit. Rwyf wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon o'r blaen bod yn rhaid i'r setliad datganoli gael ei barchu a bod yn rhaid i'r Cynulliad fod yn gyfrifol am ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Rwyf hefyd wedi bod yn glir lle nad yw darpariaethau wedi eu cytuno rhwng Llywodraethau ac nad ydynt yn parchu’r setliad datganoli, y byddwn yn ystyried opsiynau eraill, megis Bil parhad, i warchod ein buddiannau datganoledig.
Bydd Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar fusnes Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Felly, i ddarparu ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth sydd eu hangen ar gyfer Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol ddwy flynedd. Byddai'n naïf i gymryd yn ganiataol na fydd hefyd yn cael effaith ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain. Ond nid yw wedi bod yn bosibl eto i bennu beth fydd yr effaith honno a phryd y bydd yn dod i'r amlwg. Wrth i'r darlun a’r effeithiau ddod yn gliriach, byddaf wrth gwrs yn hysbysu Aelodau.
Llywydd, bydd y Biliau rydym ni’n bwriadu eu cyflwyno yn ystod ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn helpu ein hymdrechion i adeiladu Cymru iach ac egnïol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig.
Llywydd, the Bills we intend to introduce during the second year of this legislative programme will support our efforts to build a Wales that is healthy and active, prosperous and secure, ambitious and learning, and united and connected.
Edrychaf ymlaen at weld y Biliau yn dod ymlaen ac at graffu pwyllgorau ac Aelodau, ac rwy’n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad Cenedlaethol.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ac, yn wir, i’r Pwyllgor Busnes a'r Llywydd am newid ychydig ar fformat y ffordd y mae’r busnes hwn yn mynd i gael ei drafod y prynhawn yma, er mwyn cael datganiadau/dadleuon a fydd, gobeithio, yn cynnig mwy o gyfle i graffu ar y cynigion y mae’r Llywodraeth wedi’u cyflwyno, a gobeithio cael ymateb llawn gan y Prif Weinidog i’r sylwadau a gyflwynir ar draws y Siambr? Felly, rwy’n diolch i chi, Brif Weinidog, am eich datganiad.
Nodaf fod pum Bil a amlinellwyd gennych heddiw a fydd yn ffurfio sail eich rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y 12 mis nesaf. Yn bennaf oll, hoffwn groesawu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r pla o ffioedd a godir gan asiantaethau gosod tai, sy’n gam sydd wedi ei wneud o dan rywfaint o bwysau yn dilyn y camau cadarnhaol a wnaed gan Lywodraethau yn Lloegr a'r Alban. Rydym yn cefnogi gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai, lle mae Cymru ar ei hôl hi erbyn hyn o gymharu â gweddill Prydain, ac rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau o'r diwedd i amddiffyn tenantiaid rhag y costau ychwanegol. A dweud hynny, ar ôl bod mewn grym am bron i ddau ddegawd, yn anffodus, mae yna deimlad ein bod ni wedi clywed y datganiad hwn droeon. Mae rhaglenni blaenorol wedi methu yn gyson â gwella canlyniadau bywyd pobl yma yng Nghymru, ac nid yw geiriau cynnes a chamau gwag yn anffodus yn cynnig fawr ddim er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf ar draws Cymru.
Rydym ni, wrth gwrs, yn cydnabod y mandad sydd gan y Llywodraeth yma yn y Siambr ac, yn anad dim, y ffordd y mae'n rhaid iddi gyflwyno ei deddfwriaeth, ond yn anffodus mae’r ddeddfwriaeth yn bell o fod yn foddhaol. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer pobl Cymru. Ar wahân i'r Bil iechyd cyhoeddus, sy’n deillio o’r pedwerydd Cynulliad, a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, nid yw'r Biliau cyntaf yn arloesi.
Yn wir, rydym wedi cael yr amgylchiadau gofidus yn ymwneud â'r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn dangos ymagwedd ‘rhywsut rywsut’ eich Llywodraeth i ddeddfwriaeth. Mae’r cawlio gweinidogol dros ei gost, sy’n rhywbeth yr ydym ni wedi’i weld yn rhy aml, wedi arafu'n sylweddol ei daith drwy'r Cynulliad, er anfantais i blant ledled Cymru. O ystyried addewid y Prif Weinidog yn 2016 y byddai'r rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn i ddatblygu ar ein harferion er mwyn sicrhau eu bod yn gweddu cyfrifoldebau seneddol y lle hwn, beth y mae'n ei feddwl am y ffaith bod penderfyniad ariannol y Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi ei ohirio—y tro cyntaf yn ein hanes deddfwriaethol y mae hyn wedi digwydd, a bod y Pwyllgor Cyllid wedi cael gwybod am y gwallau dim ond y diwrnod cyn iddo gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog?
Yn 2015, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn benodol femorandwm ariannol i gael ei ddarparu ochr yn ochr â phob Bil. O ystyried bod asesiad effaith rheoleiddiol y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys camgymeriadau ariannol difrifol—£13.1 miliwn i fod yn fanwl gywir—pa fesurau y mae eich Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn eu cymryd i sicrhau bod Asesiad Effaith Rheoleiddiol pob Gweinidog yn gadarn yn ariannol? Mae arian trethdalwyr yn y fantol yma, ac mae'n hollbwysig bod y mesurau cryfaf yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu arian o'r fath.
Rydym, wrth gwrs, wedi cael cyflwyniad i ddileu'r hawl i brynu, a’r diolch dros ysgwydd i'r undebau llafur. Rwy'n siŵr na fydd yn ddim syndod bod y rhai ohonom ar y meinciau hyn yn siomedig dros ben o weld y ddau hyn yn nodweddion allweddol ym mlwyddyn gyntaf eich Llywodraeth newydd. Mae'n ofid mawr i ni, ac rydym yn teimlo y bydd yn tynnu cyfleoedd oddi ar bobl ar hyd a lled Cymru.
Yn anffodus, ni fu unrhyw ganolbwyntio yng nghyflwyniad y Bil iechyd cyhoeddus ar fynd i'r afael â materion fel gordewdra a llygredd aer, er ei bod yn amlwg erbyn hyn bod eich cynnig gofal plant am ddim yn annhebygol iawn o gael ei gyflawni, oherwydd cyllido gwael ar draws y sector. Roedd hwn, wrth gwrs, yn addewid o bwys a wnaed gan eich plaid yn yr etholiad diwethaf, a byddwn yn gwerthfawrogi asesiad gennych chi ar gyflawni’r fenter allweddol, ac amserlen debygol, gan y bydd llawer o deuluoedd yn eistedd yno yn meddwl tybed beth ar y ddaear a phryd ar y ddaear y mae'n debygol o ddwyn ffrwyth. Rwy’n sylwi bod y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad, wedi siarad am ddefnyddio gwasanaethau gofal plant presennol.
Rwyf wedi eistedd ar sesiynau craffu'r pwyllgor plant a phobl ifanc y ddau Weinidog yma—y Gweinidog addysg a'r Gweinidog cymunedau, ac mae gan y Gweinidog cymunedau gyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni hyn—ac mae'n ymddangos bod gwahaniaeth barn ynghylch sut yn union y bydd y polisi hwn yn cael ei gyflwyno. Rwy’n derbyn bod angen deddfwriaeth i ryw bwynt, a dyma lle mae deddfwriaeth a pholisi yn gwrthdaro. Mae pryderon mawr ynghylch sut yn union y bydd y Llywodraeth yn gallu gwireddu’r ddwy elfen fel y gellir cyflawni’r cynnig hwn yn llwyddiannus.
Nodaf hefyd, gyda difyrrwch a phryder fel ei gilydd, y posibilrwydd o Fil llywodraeth leol arall. Ni allwn ond gobeithio ei fod o leiaf yn ymgais well na'r traed moch a wnaed ohono yn y Pedwerydd Cynulliad. Byddwn yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu gwirioneddol gyflawni'r hyn y mae'n addo ei wneud y tro hwn.
Unwaith eto, hoffwn wybod beth yw eich nodau ar gyfer y Bil hwnnw ac a ydym yn debygol o ddechrau o'r newydd, neu a oes rhai elfennau o'r cynigion blaenorol yn debygol o ymddangos? A pha swyddogaeth, os o gwbl, fydd argymhellion comisiwn Williams yn ei chwarae wrth ategu’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf hon? Yn yr un modd, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod dymuniadau cymunedau lleol yn cael eu clywed yn y Bil hwn a'r penderfyniadau a wneir ar y daith hon?
Nodaf hefyd, o ddatganiad y Prif Weinidog heddiw, gosod isafbris, a'r sylwadau ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin gan David Davis am yr angen i weithio gyda deddfwrfeydd yng Nghymru ac yn yr Alban, a cheisio caniatâd gan y ddwy ddeddfwrfa wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwy Dŷ'r Cyffredin. Mae’n rhaid bod hwn yn ymrwymiad i'w groesawu gan Ysgrifennydd Brexit.
O ran gosod isafbris, mae'n bwysig ystyried materion trawsffiniol ynghylch deddfwriaeth a allai arwain, yn amlwg, at wahanol awdurdodaethau prisio—rhywbeth yr ydym wedi ei weld mewn deddfwriaeth flaenorol pan ddaw at rywbeth mor syml â thipio anghyfreithlon, er enghraifft, a'r gallu, yn amlwg, i symud gwastraff ar draws y ffin. Er fy mod yn cynnig cefnogaeth gyfyngedig o'r meinciau hyn ar osod isafbris, rwyf yn dymuno gweld mwy o dystiolaeth o’r gallu i hyn symud ymlaen, a sicrhau’r canlyniad yn y pen draw o wella iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru, oherwydd, heb os nac oni bai, mae cysylltiad rhwng yfed llawer o alcohol ac iechyd gwael, ond yr hyn y mae angen i ni sicrhau yw bod y ddeddfwriaeth yn addas at ei diben, ac yn mynd i'r afael ag iechyd gwael ac alcohol a'r berthynas rhwng y ddau, ac nad yw'n ceisio creu drws cefn yn unig ar gyfer marchnad ddu ar gyfer alcohol yma yng Nghymru ac ar draws y ffin.
O ran y ddeddfwriaeth gosb resymol y mae’r Prif Weinidog yn siarad amdani, rydym ni, y Ceidwadwyr yn y Siambr hon, bob amser wedi ystyried hyn yn fater o gydwybod, a bydd yn bleidlais rydd gan Aelodau yn y grŵp Ceidwadol ar y gwahanol gamau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd drwyddynt pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno, yn gyntaf, ei hymgynghoriadau. Rwy'n meddwl bod y datganiad hwn yn eu hamlinellu heddiw, ac yna, yn amlwg, deddfwriaeth yn y drydedd sesiwn, y credaf fod y Prif Weinidog yn sôn amdani yn ei ddatganiad y prynhawn yma.
O fewn y rhaglen hon, byddem wedi dymuno gweld amrediad o gynigion llawer mwy a mwy uchelgeisiol yn cyflwyno Biliau sy'n ymdrin â llawer o agweddau ar anghenion pobl Cymru. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig wedi hoffi gweld Biliau mwy arloesol yn cael eu cyflwyno, megis Bil lleoliaeth a dinasyddiaeth, a fyddai wedi dod â thryloywder a phŵer lleol i graidd y gwaith o wneud penderfyniadau; Bil sicrwydd economaidd a menter, a fyddai wedi creu amodau i’r sector preifat yng Nghymru allu ffynnu, gan arwain at sgiliau newydd, swyddi a sicrwydd economaidd i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled Cymru; Bil iechyd a gofal cymdeithasol, a fyddai wedi integreiddio'n briodol y system iechyd drwy fynnu bod darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar y cyd; Bil hawliau pobl hŷn, a fyddai wedi ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru mewn cyfreithiau Cymru; a Bil llywodraethu a chyllid y GIG, a fyddai wedi cyflwyno mwy o atebolrwydd i gleifion. Ac, yn ôl pob tebyg, mae’r darn mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau i gymunedau wedi dod o'r meinciau hyn, gyda fy nghydweithiwr, Paul Davies a'i gynigion ar gyfer Bil awtistiaeth drwy'r broses ddeddfwriaeth meinciau cefn. Wrth i hyn fynd yn ei flaen trwy ei gamau amrywiol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i ddenu cefnogaeth drawsbleidiol, ac, ymhen amser, yn denu cefnogaeth eich Llywodraeth.
Ar ôl bron i ddau ddegawd o or-addo a thangyflawni, mae'n dorcalonnus nad oes yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yr uchelgais a’r arloesi sydd eu hangen i wireddu'r newidiadau angenrheidiol. Er mwyn i’n gwlad lwyddo a chyrraedd ei gwir botensial fel lle gwych i fyw a gweithio, a chreu cymdeithas wirioneddol gynhwysol sy'n grymuso pawb, ni waeth o ble’r ydych yn dod a beth yw eich cefndir, mae gwir angen Llywodraeth arnom all dorri'r cylch hwn o ailadrodd ein hunain yma yng Nghymru.
Cefais deimlad o déjà vu pan welais y rhaglen ddeddfwriaethol hon: gosod isafbris alcohol; gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai; gweithio rhanbarthol gorfodol ar gyfer cynghorau lleol a'r cynnig gofal plant newydd. Maen nhw i gyd yn bolisïau Plaid Cymru—pedwar o'r pum Bil. Ond nid llên-ladrad yw fy nghyhuddiad yma; fy nghyhuddiad yw hunanfodlonrwydd. Mae'r rhain yn feysydd lle gallai’r Llywodraeth fod wedi cymryd camau, mewn rhai achosion, flynyddoedd yn ôl. Cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Chwefror 2014: fe’i gwrthodwyd gan Lafur. Atal landlordiaid ac asiantaethau rhag codi ffioedd annheg, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Tachwedd 2015: fe’i gwrthodwyd gan Lafur. Gweithio rhanbarthol gorfodol gan gynghorau lleol, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Mehefin 2015: fe’i gwrthodwyd gan y Prif Weinidog a honnodd y byddai'n creu haen arall o lywodraeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a dyma ni’n gweld y polisi rhanbarthol hwnnw yn cael ei weithredu gan Lafur heb ei newid o gwbl, bron. Yr un hen stori sydd i'w gweld drwy gydol busnes Llywodraeth Cymru. Fe’i gwelsom ar y gronfa triniaethau newydd, pan oeddech yn honni yn y gorffennol na ellid ei wneud; fe’i gwelsom hefyd ar gontractau dim oriau—saith gwaith fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru ar gontractau dim oriau. Rydym wedi ei weld ar y dreth ystafell wely, lle mae eich diffyg gweithredu yn golygu mai Cymru yw'r unig wlad ddatganoledig lle mae pobl yn dal i orfod talu'r dreth ystafell wely. Mae pobl yng Nghymru yn haeddu Llywodraeth ystwyth sy'n cymryd camau pendant i ddatrys y problemau a’r anghyfiawnderau sy'n wynebu ein gwlad. Yn hytrach, mae ganddynt Lywodraeth sy'n cymryd blynyddoedd i weithredu, ac yn y blynyddoedd hynny pan nad oes camau wedi'u cymryd, mae pobl wedi bod ar eu colled.
Un o'r meysydd mwyaf hanfodol a fyddai'n helpu rhieni a theuluoedd sy'n gweithio yw’r cynnig gofal plant. A all y Prif Weinidog roi ateb credadwy i mi heddiw? Pam y bydd yn cymryd bron i dymor cyfan y Cynulliad i gael system gofal plant gweddus yn weithredol? Rydych yn addo gweithredu erbyn 2020. 2020. Sut y mae hynny'n helpu rhieni sydd â phlant nawr? Mae’r rhieni hynny yn wynebu tair blynedd arall o orfod talu cyfraddau wedi’u gorymestyn ac o drefnu gofal plant o gwmpas eu swyddi o dan system nad yw'n addas at ei diben. Yr un hen stori, y broblem yw diffyg uchelgais gan y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd. Mae'n siomedig ac mae ar ei hôl hi, a’r hyn y mae Cymru'n ei haeddu yw Llywodraeth sydd ar flaen y gad.
Felly, bydd Plaid Cymru yn astudio pob un o'r Biliau hyn yn fanwl. Byddwn yn cynnig gwelliannau a byddwn yn ceisio gwella’r hyn sydd ar y bwrdd. A phan fydd hynny'n digwydd, efallai y byddai'n syniad i Lywodraeth Lafur bleidleisio mewn gwirionedd o’n plaid ni pan maent yn meddwl fod gennym ni syniad da, yn hytrach na dweud dro ar ôl tro na ellir gwneud yr hyn yr ydym yn ei gynnig.
Ond ar wahân i’r materion domestig hynny, mae her ddeddfwriaethol ddifrifol arall yn gysgod dros y Cynulliad hwn, y senedd hon yn y dyfodol. Mae Bil diddymu mawr Llywodraeth y DU yn bygwth caniatáu i San Steffan gipio pŵer oddi arnom. Un o ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd yw y dylai pwerau a fframweithiau sy’n cael eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE ddychwelyd yn uniongyrchol i Gymru ac i'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Ond rydym yn gwybod o baragraff 4.2 o Bapur Gwyn y Bil diddymu mawr mai dim ond ymgynghori a wneir â’r gweinyddiaethau datganoledig ar y fframweithiau hynny. Yn wir, rhagwelodd fy nghydweithiwr Simon Thomas hyn yn ymateb Plaid Cymru i ddatganiad deddfwriaethol y llynedd. Dywedodd bryd hynny, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ddeddfwriaeth amgylcheddol a deddfwriaeth amaethyddol. Gwnaeth hefyd godi'r mater o ddyfodol taliadau fferm yr UE, sy'n cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth. Mae’r polisi amaethyddol cyffredin yn dod o dan bedwar rheoliad sylfaenol ac mae Gweinidogion Cymru yn cael eu hawdurdodi i roi effaith i reoliadau’r PAC.
Ateb Plaid Cymru i’r her ddeddfwriaethol hon yw Bil parhad, a gynigiwyd gyntaf gan Steffan Lewis AC o Blaid Cymru fis Tachwedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r egwyddor hon, ond y cam nesaf yw gwneud iddo ddigwydd. Nodaf fod y Prif Weinidog yn dal Bil parhad yn ôl fel offeryn y gellid ei ddefnyddio os bydd Llywodraeth y DU yn torri ar ein pwerau datganoledig. Ond fe allai ac fe ddylai Bil parhad gael ei gyflwyno yn ddi-oed. Gellid ei weithredu fel mesur rhagweithiol i roi rhywfaint o drosoledd i Gymru. Mae'r Cynulliad hwn eisoes wedi cymeradwyo'r egwyddor. Gallai Bil parhad mewn ymateb i Lywodraeth y DU yn wir fod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr. Felly, byddwn yn annog y Prif Weinidog i fod yn fwy pendant ar hyn; i fod yn gyflymach ac yn fwy ystwyth wrth ymateb i'r sefyllfa wleidyddol gymhleth yn y DU; i edrych eto ar y penderfyniad i ddal y Bil parhad yn ôl, ac yn awr, i ystyried ei gyflwyno cyn gynted ag sy’n bosibl.
Rwy'n gobeithio y gallaf fod efallai ychydig yn fwy cadarnhaol wrth gyfrannu at y ddadl hon na'r ddau gyfraniad yr ydym newydd eu clywed. Mae llawer yn y rhaglen ddeddfwriaethol y gall UKIP ei gefnogi. Mae, wrth gwrs, bethau y byddwn yn eu gwrthwynebu. Gallaf yn sicr gytuno â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ar ddiwedd ei ddatganiad mewn cysylltiad â Bil parhad a setliad Brexit. Mae'n amlwg na fyddai modd ei gefnogi mewn unrhyw ffordd os, fel y mae arweinydd Plaid Cymru newydd ei ddweud, y byddai rhyw fath o gydio pŵer gan Lywodraeth San Steffan i leihau'r pwerau sydd eisoes gan y Cynulliad hwn. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd fod hynny yn yr arfaeth o gwbl. Mae'n un arall o'r cythreuliaid y mae'r remoaners yn eu codi er mwyn ceisio parhau ag ymgyrch y refferendwm y llynedd, ac ychydig o les a wnaeth iddynt bryd hynny ac a fydd yn ei wneud iddynt yn y dyfodol.
O ran bod Plaid Cymru ar flaen y gad, o araith arweinydd Plaid Cymru rwy'n credu ei fod yn fwy o golli arni, gan nad ydynt yn sicr wedi gallu esbonio erioed sut y byddent yn llenwi'r twll du yn y cyfrifon cyhoeddus pe byddai Cymru’n dod yn wleidyddol annibynnol o weddill y Deyrnas Unedig. Oherwydd, fel y gwyddom, mae Llywodraeth ar bob lefel yn gwario oddeutu £38 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, ond rydym yn codi mewn refeniw treth o bob math o oddeutu £23 biliwn, gan adael bwlch sy'n gyfwerth â 25 y cant o CDG Cymru, sydd yn llawer mwy na hyd yn oed y diffyg sy'n bodoli yng Ngwlad Groeg. Felly, mae’n rhaid i bopeth sydd gan Blaid Cymru i'w ddweud o ran eu cynigion gwariant gael ei weld yng ngoleuni’r diffyg sylfaenol hwnnw.
Ond byddwn yn sicr yn cefnogi'r Llywodraeth ar nodweddion da'r rhaglen ddeddfwriaethol hon, ac rwy’n sicr yn cefnogi'r cynnig ar gyfer mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol a systematig. Credaf hefyd fod gennym ormod o awdurdodau lleol yng Nghymru, a byddai'n fanteisiol pe baem yn gwneud rhywfaint o ostyngiad yn y nifer, er nad cymaint o ostyngiad ag y cynigiodd y Llywodraeth yn flaenorol. Byddwn, wrth gwrs, yn cefnogi'r cynigion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, er na fyddwn yn cefnogi diddymu'r hawl i brynu, a oedd yn ymddangos i mi i fod yn gwbl amherthnasol i anghenion tai Cymru ac a fyddai mewn gwirionedd yn ei gwneud yn fwy anodd i lenwi’r bylchau sy'n bodoli eisoes.
Ac rwy’n pryderu, fel y mae fy mhlaid, ynghylch y cynnig ar gyfer isafswm pris ar gyfer alcohol—nid nad ydym yn credu bod problem gydag yfed gormod ymhlith carfan o'r boblogaeth, ond na fydd y cynnig am osod isafbris yn mynd i'r afael â'r broblem. Mae'r holl drethi anuniongyrchol, yn ôl eu natur, fel y maent yn bodoli yn y Deyrnas Unedig, yn atchweliadol a byddai isafbris ar gyfer alcohol hyd yn oed yn fwy felly na'r rhan fwyaf. Mae hefyd yn debygol o fod yn aneffeithiol, oherwydd mai’r bobl sy'n lleiaf tebygol o gael eu poeni gan gynnydd yn isafbris alcohol yw'r rhai sy'n gaeth iddo. Felly, bydd hon yn dreth ar yfwyr cymedrol, fel fi, a mwyafrif y boblogaeth, ond na fydd yn gwneud dim i fynd i'r afael ag anghenion iechyd cyhoeddus lleiafrif bychan. Nid oes problem yfed go iawn yn y Deyrnas Unedig o’i chymharu â gwledydd eraill. Rydym yng nghanol y tabl. [Torri ar draws.] Wel, gall Simon Thomas siarad drosto'i hun, wrth gwrs, ar hyn, ond yr hyn y mae'n ei wneud yn breifat nid wyf yn ymwybodol ohono. Ond os ydych yn edrych ar y tabl o yfed alcohol cenhedloedd fesul pen, mae’r Deyrnas Unedig yn y canol. Yn wir, mae'r ffigurau'n dangos bod yfed alcohol fesul pen wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 20 mlynedd diwethaf. Ym 1998, roedd cofnodion yn dangos bod 75 y cant o ddynion yn cael diod unwaith yr wythnos. Erbyn 2010, roedd hynny wedi gostwng i 67 y cant. [Torri ar draws.] Ac rwyf yn wynebu realiti oherwydd mae’r ffigurau gennyf o fy mlaen. O blith rhai 16 i 24 oed, mae’r rhai sy'n yfed unwaith yr wythnos wedi gostwng o 71 y cant i 48 y cant ymhlith dynion, ac o 62 y cant i 46 y cant ymhlith menywod. Roedd cyfeintiau alcohol y pen a yfwyd yn 2004, yn 9.5 litr y flwyddyn; erbyn 2011, roedd wedi ei leihau i 8.3 litr. Dyna ostyngiad o 12 y cant yn y defnydd cyfartalog o alcohol y pen. Ac mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, wrth gwrs, wedi dyblu yn y cyfnod hwnnw, er bod y ffigurau ar gyfer yfed gan ddynion wedi aros yn wastad neu wedi gostwng drwy gydol y cyfnod.
Felly, nid yw treth ar yfwyr cymedrol yn mynd i ateb i'r broblem, yn enwedig gan fod yr holl dystiolaeth yn dangos bod yfed alcohol yn codi ynghyd ag incwm, felly po fwyaf o arian sydd gennych, po fwyaf y byddwch yn ei wario ar alcohol, po fwyaf o arian sydd gennych, y lleiaf tebygol yr ydych chi o gael eich rhwystro rhag yfed trwy gael isafbris ar gyfer alcohol. Felly, mae'r cysyniad cyfan i ddechrau yn afresymegol. Felly, rydym yn cynnig targedu diodydd sy'n cael eu hyfed yn anghymesur gan bobl ar incwm isel, gan nad yw yfwyr siampaen yn debygol o fod yn poeni gormod am y cynnig hwn—yn sicr, mae Nick Ramsay yn nodio yn cytuno gyda mi draw acw—ond bydd yn rhaid i yfwyr cwrw ym mhen isaf y raddfa dalu mwy am eu hoff ddiod. Nid oes unrhyw dystiolaeth gredadwy i ddangos unrhyw gysylltiad rhwng problem alcohol a phris alcohol, y byddaf yn sicr yn mynd i edrych arno’n fanylach pan ddaw'r cynnig hwn ymlaen ar gyfer ystyriaeth benodol. Ond hefyd, dyma flaen y gyllell. Rydym yn gwybod unwaith y bydd pŵer i gyflwyno treth neu i osod isafbris ar unrhyw beth yn cael ei gyflwyno, yna bydd mwy a mwy o bwysau am byth ar ôl hynny i’w wthio i fyny.
Felly, mae panig moesol ffug ar y mater hwn. Os ydym yn poeni mewn gwirionedd am fynd i'r afael â'r broblem o or-yfed, sydd, gyda llaw, wedi’i diffinio fel arfer fel yfed tri pheint y dydd—mae hynny'n or-yfed mewn pyliau eithaf diflas yn fy marn i—ond os ydym ni wir â diddordeb mewn cyflwyno mesurau sy'n debygol o fod yn effeithiol o ran lleihau’r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr problemus, yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw cysylltu trethi â chryfder diodydd alcoholig. Dyma’r broblem fawr sydd gennym ni heddiw: pobl yn yfed cyn mynd allan trwy brynu diodydd mewn archfarchnadoedd sydd â chynnwys alcohol uwch nag y byddai’r yfwr cyfartalog yn ei yfed mewn tafarn. Ond mae isafbris uned yn fesur rhy eang i effeithio ar hynny, oherwydd ni fydd yn mynd at ffynhonnell y broblem. Felly, mae'n offeryn di-awch iawn, iawn yn wir.
Er bod yna rannau sylweddol o'r rhaglen ddeddfwriaethol sydd ger ein bron ni heddiw y byddwn ni yn eu cefnogi, byddwn yn rhoi gwrthwynebiad cryf i rai o'r mesurau pan nad ydym yn credu eu bod er budd y cyhoedd. Ond rydym yn dymuno’n dda i’r Llywodraeth yn y flwyddyn sydd i ddod a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud pa bynnag ddeddfwriaeth sy’n cael ei rhoi ger ein bron yn y Cynulliad hwn mor ymarferol â phosibl i'r graddau y mae'n ddymunol ei chael o gwbl.
Rwy’n awyddus i roi sylw ar un neu ddau o agweddau, er yn wahanol iawn, a amlinellir yn y datganiad deddfwriaethol heddiw. Yn gyntaf, o ran gofal plant, rwy’n croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud gyda'r cynlluniau peilot a amlinellir ar y cynnig gofal plant, ac mae ei gynnwys ar gyfer deddfwriaeth wedi ei amlinellu heddiw. Fel i lawer o bobl, mae hon yn broblem fawr i lawer o fy etholwyr ac yn rhywbeth sydd wedi'i godi gyda mi dro ar ôl tro mewn sgwrs, mewn gohebiaeth, cyn yr etholiad ac yn y flwyddyn ddiwethaf ers imi fod yn Aelod Cynulliad dros Delyn. Er fy mod yn cydnabod ei bod yn hanfodol bwysig bod y cynnig gofal plant yn hyblyg a bod y ddarpariaeth yn diwallu gwahanol anghenion rhieni sy'n gweithio, rwyf hefyd yn ymwybodol iawn, i lawer o rieni sy'n gweithio yn fy etholaeth, na all y cynnig gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn y DU a’r ddeddfwriaeth a allai newid bywydau ddod yn ddigon buan. Felly, yn gyntaf oll, a gaf i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar hyn cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl fel nad yw pobl ar draws fy etholaeth ac ar draws y wlad yn colli allan ar y cymorth hanfodol hwn a’r addewid etholiadol allweddol hwn?
Yn ail, ar y cynigion i gyflwyno isafswm pris ar gyfer cyfraith alcohol yng Nghymru er mwyn ymdrin â'r heriau o gwmpas lefelau niweidiol o yfed, o ganlyniad i argaeledd alcohol rhad a chryf, mae hwn i’w groesawu ac yn gyfiawn, ond byddwn hefyd yn gofyn a allai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd y cyfle hwn i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu tafarndai traddodiadol mewn cymunedau ar draws y wlad. Mae llawer o dafarndai mewn cymunedau wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac, er bod tafarndai yn parhau i fod yn ganolbwynt ac yn galon i lawer o gymunedau, â llawer ohonynt erbyn hyn hefyd yn swyddfa bost neu’n siop y pentref, ar hyn o bryd ychydig iawn sydd gan gymunedau yn eu harfogaeth i ddiogelu eu tafarndai lleol rhag cau, sy'n golygu, yn ôl CAMRA, bod dwy dafarn yn dal i gau bob wythnos yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, deuthum yn aelod o CAMRA fy hun, yr wyf yn sicrhau fy nghydweithwyr ei fod yn gam cwbl anhunanol i gefnogi diwydiant a busnesau yn fy etholaeth i, sef Delyn. Ond, o ddifrif, rwy'n credu y gallai rhywbeth tebyg i gynllun asedau o werth cymunedol wneud gwahaniaeth pan ddaw i ddiogelu ein tafarndai rhag mwy o gau yn y dyfodol, a hefyd gallai dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer tafarndai roi grym i’r gymuned, gan roi llais uniongyrchol i bobl cyn i dafarn gael ei dymchwel neu ei haddasu. Felly, i orffen, Brif Weinidog, a gaf i annog, yn rhan o unrhyw raglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol, y dylid cymryd camau i gefnogi'r diwydiant tafarndai yng Nghymru yn y dyfodol, a'r camau sy'n caniatáu i'n cymunedau gael mwy o lais?
Yn gyffredinol, rwy’n croesawu y datganiad deddfwriaethol heddiw. Fel mae Leanne Wood eisoes wedi’i amlinellu, mae’r rhan fwyaf ohono fe’n deillio o syniadau Plaid Cymru yn y lle cyntaf, felly wrth gwrs ein bod ni’n croesawu hynny. Mae’n ddiddorol nodi ei bod hi’n ddengmlwyddiant sefydlu llywodraeth ar y cyd Cymru’n Un, lle'r oedd lot o’r syniadau yma wedi deillio ohono fe ac wedi cael eu trafod o hynny ymlaen, gan gynnwys y symudiad tuag at ddiddymu’r amddiffyniad o gosb resymol. Rwy’n gobeithio yn fawr iawn ein bod ni’n gweld hynny yn cael ei sicrhau yn y Cynulliad hwn o’r diwedd. Wedi dweud hynny, mae’r datganiad yn un tenau iawn ac yn ddiddychymyg.
Mae’n bosib, i fod yn deg i’r Llywodraeth, a thrio edrych ar bethau o bersbectif y Llywodraeth—mae’n ddigon posib bod hynny’n fwriadol, gan eu bod nhw’n ystyried bod angen deddfu, ar frys, o bosib, ynglŷn â Brexit, ynglŷn â rai o’r pethau sy’n deillio o San Steffan, ac ynglŷn â’r syniad sydd gyda ni fel Plaid Cymru o Fil parhad ym maes amaethyddol ac amgylcheddol. Felly, wrth ymateb ar ôl ei ddatganiad a’r drafodaeth, byddwn i’n hoffi clywed gan y Prif Weinidog os oes gyda fe le yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y posibiliadau hyn—nid yn unig y Bil parhad, ond hefyd yr hyn sy’n debyg o ddeillio o’r tua 2,000 o leiaf o ddarnau o ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n mynd i gael eu trafod yn awr yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn San Steffan.
Wrth droi at rai o’r pethau eraill sydd yn y datganiad, hoffwn i wybod bach mwy ynglŷn â’r bwriad sydd gyda fe ym maes llywodraeth leol. Mae’n amlwg bod gyda ni ddiddordeb fan hyn am gadarnhad ein bod ni’n estyn y bleidlais i bobl ifanc yn 16 ac 17 ar gyfer llywodraeth leol, a byddai cadarnhad o hynny yn beth da i’w glywed.
Mae’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud yn y gorffennol ei fod e am estyn dewis STV—y bleidlais gyfranogol—i awdurdodau lleol. Rydw i’n meddwl bod hynny’n colli cyfle, a bod angen i rywbeth sydd mor bwysig â’r STV gael ei estyn i bob awdurdod, ac felly byddwn i’n licio clywed ym mha ffordd mae’r Llywodraeth yn mynd i weithio gyda’r mwyafrif, rydw i’n meddwl, sydd yn y Senedd hon erbyn hyn o blaid STV ym maes llywodraeth leol i sicrhau bod deddfwriaeth y Bil arbennig yma yn adlewyrchu nid yn unig barn y Blaid Lafur, ond barn y mwyafrif yn y Senedd hon.
Rydw i hefyd yn gofidio bod cymaint o oedi gyda gofal plant. Rydw i’n derbyn bod angen deddfu ar gyfer gwneud unrhyw beth ynglŷn â rhannu data—mae angen seilwaith statudol derbyniol i hynny—ond mae yna bethau gall y Llywodraeth eu gwneud yn awr yn llawer fwy cyflym yn y maes gofal plant ynglŷn ag estyn yr hawliau hynny a’r gallu yna i lawer mwy o rieni, a mamau ifanc yn arbennig. Byddwn i’n licio clywed nad oes yn rhaid aros am ddeddfu ynglŷn â data er mwyn sicrhau bod cynnig gofal plant boddhaol i bob un teulu yng Nghymru.
Mae yna sawl peth sydd ar goll hefyd o’r rhaglen ddeddfwriaeth yma. Mae ambell i beth yn edrych ymlaen—dyma rhaglen ddeddfwriaethol am flwyddyn, ac mae ambell i beth yn edrych ymlaen, er enghraifft, ynglŷn â diddymu’r amddiffyniad cosb, ynglŷn, o bosib, â Brexit. A gaf i awgrymu tri pheth y byddwn i’n licio gweld y Llywodraeth yn eu gwneud yn ystod, os nad y flwyddyn nesaf, yn sicr yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan baratoi yn ystod y flwyddyn ddeddfwriaethol hon? Yn gyntaf oll, gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru. Mae pwerau yn dod i ni yn gynnar y flwyddyn nesaf, lle byddem ni fel Senedd yn gallu gwahardd ffracio. Hoffwn i weld y Llywodraeth yn cynnig sut rŷm ni’n gwneud hynny. Yn ail, cynllun dychwelyd blaendal: y posibiliad o wneud yn siŵr bod poteli, yn enwedig poteli plastig a phob math o blastig sydd yn anodd ei ailgylchu, ac sy’n mynd yn wastraff ac yn bennu ar ein traethau ni, ac yn ein moroedd ni, a thu fewn i’n bywyd gwyllt ni—bod hynny yn dwyn cost fel bod modd ad-dalu’r gost yna ac felly lleihau ar y defnydd o’r plastig yma. Mae modd gwneud hynny gyda’r pwerau newydd. Ac, yn olaf, fel sydd wedi cael ei drafod cwpwl o weithiau eisoes heddiw, mynd i’r afael â’r broblem gamblo, ac wrth inni ymafael ag ychydig o bwerau—dim llawer rydw i’n gwybod, ond ychydig o bwerau—ym maes y peiriannau ‘fixed odds’, ein bod ni’n edrych ar bosibiliadau o fynd i’r afael â hynny.
Y pwynt olaf rydw i am ei wneud, a cwestiwn, mewn ffordd, i’r Prif Weinidog: er, wrth gwrs, rŷm ni’n flin iawn, rydw i’n meddwl, ac yn rhannu’r anhapusrwydd nad oedd awdurdod cyfreithiol ar wahân i Gymru yn Neddf fwyaf diweddar Cymru, beth yw’r posibiliadau yn awr ein bod ni yn dal i bwyso am hynny? Rydw i’n cymryd nad yw’r Llywodraeth wedi newid ei barn ynglŷn ag awdurdod cyfreithiol ar wahân, felly hoffwn i wybod beth yw’r camau nesaf y mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud i wireddu hynny.
Hoffwn longyfarch y Llywodraeth ar ei chynlluniau a nodir yma yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Croesawaf yn arbennig y cynnydd yr ydym yn mynd i’w wneud ar y 30 awr yr wythnos o gynnig gofal plant am ddim, gan fy mod yn meddwl y bydd o bwysigrwydd mawr i rieni, ac rwy’n meddwl bod hwn yn addewid uchelgeisiol iawn, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei weithio allan yn y ffordd sydd fwyaf buddiol i rieni. Oherwydd, yn amlwg, bydd yn rhoi cyfle i rieni weithio, ond bydd hefyd yn dda ar gyfer y plant.
Felly, croesawaf y ffaith ein bod yn cael cynlluniau peilot a'n bod yn ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o wneud hynny, oherwydd yn sicr rwyf i wedi cael llawer o etholwyr yn dod ataf yn esbonio rhai o'r anawsterau o gysylltu’r cyfnod sylfaen â gofalwyr plant a system gofal plant arall, ac rwy’n gobeithio, drwy fynd o’i chwmpas yn y ffordd hon o gael cynlluniau peilot, dyna fydd y ffordd orau o fynd i'r afael â hi. Ond nid wyf yn meddwl y dylen ni fychanu’r mater hwn. Dyma’r cynnig gorau yn y DU a bydd yn gwbl drawsffurfiol, felly rwyf yn credu bod hwn yn gynllun uchelgeisiol iawn, ac rwy’n ei gymeradwyo.
Rwyf hefyd yn croesawu'r camau ar osod isafbris ar alcohol a ffioedd asiantaethau gosod tai i denantiaid yn y sector rhentu preifat. Roeddwn yn synnu nad oedd y Ceidwadwyr yn gweld bod hwn yn fater o bwysigrwydd mawr, oherwydd, mewn gwirionedd, mae tai yn fater mor hanfodol, ac, os oes yn rhaid i chi dalu cymaint o arian ymlaen llaw i fynd i mewn i lety rhent preifat, mae hynny'n sefyllfa real, ddifrifol. Onid dyna’n union yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud fel mater o flaenoriaeth. Felly, rwy’n croesawu hynny, hefyd, ac yn sicr yn croesawu'r ffordd gydsyniol yr ydym yn symud ymlaen ar lywodraeth leol.
Felly, credaf fod y materion hyn sy’n cael eu cynnig yn faterion go iawn sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru o ddydd i ddydd, ac maent yn cynnig cymorth ymarferol i bobl yn y ffordd y maent yn byw. Credaf mai un o'r rhesymau pam y mae Llafur Cymru yn parhau i gael ei chanlyniadau cadarnhaol yn ei hetholiadau, yw oherwydd bod y materion hyn yn faterion sy'n bwysig iawn i bobl yng Nghymru.
Hoffwn hefyd groesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y gyfraith ynglŷn â chosbi plant yn gorfforol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at weld bob plentyn yng Nghymru yn derbyn amddiffyniad cyfartal rhag cosb gorfforol yn yr un modd ag y mae oedolion wedi’u diogelu yn hynny o beth. Tybed, yn ei ymateb terfynol, a allai’r Prif Weinidog roi rhyw amserlen bosibl ar gyfer yr ymgynghoriad yn ystod y flwyddyn nesaf, a rhoi gwybod ar ba ffurf y byddai’r ymgynghoriad hwnnw. Gwnaethom drafod y mater hwn ar sawl achlysur yn ystod y Cynulliad blaenorol, ond nid wyf yn credu ein bod mewn gwirionedd wedi cael dadl sylweddol yn y Cynulliad hwn, ac rwy’n meddwl ei fod yn werth ailadrodd y ffaith, bod 52 o wledydd, at ei gilydd, wedi cyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd pob cosb gorfforol ar blant—sy'n cynnwys yn y cartref—a Sweden oedd y cyntaf, bron i 38 mlynedd yn ôl.
Ymhlith y diweddaraf y mae Gweriniaeth Iwerddon, a wnaeth ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol ym mis Rhagfyr 2015, a chafwyd datganiad gan Lywodraeth Canada yn nodi ei bod yn bwriadu gwahardd pob cosb gorfforol ar blant hefyd ym mis Rhagfyr 2015, ac, ym mis Mawrth eleni, mae Zimbabwe wedi gwahardd cosb gorfforol ar blant gan rieni ac athrawon. Mae Bil Aelod preifat hefyd yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn Senedd yr Alban, a dywedodd comisiynydd plant yr Alban sy'n ymadael, Tam Baillie, ym mis Mai eleni mai’r hyn yr oedd yn ei ddifaru fwyaf am ei gyfnod wyth mlynedd yn y swydd oedd iddo beidio â diddymu’r amddiffyniad o ymosodiad rhesymol, fel y caiff ei alw yn yr Alban. Dywedodd wrth y papur newydd Herald Scotland ym mis Ebrill bod y DU yn un o ddim ond pum gwlad Ewropeaidd nad ydynt yn diogelu plant yn llawn rhag cosb gorfforol. Dywedodd fod hyd yn oed plant sy'n byw yn Zimbabwe yn cael eu diogelu'n well na'r rhai yn yr Alban. Ym mis Mai, siaradodd pedwar comisiynydd plant y DU â phwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn y Swistir a galw am i’r gyfraith gael ei newid i amddiffyn plant a phobl ifanc yma.
Felly, mae barn y cyhoedd yn newid. Yng Ngogledd Iwerddon, mae arolygon wedi dangos bod barn am gosb gorfforol yn newid, gyda'r rhan fwyaf o bobl yng Ngogledd Iwerddon bellach yn cefnogi rhoi diogelwch cyfreithiol i blant rhag taro, smacio ac ymosodiad. Felly, i gloi, rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at y cyfnod ymgynghori ac rwy’n teimlo bod hwn yn symudiad blaengar, uchelgeisiol gan Lywodraeth uchelgeisiol.
Cyn i mi ymateb i'r rhaglen ddeddfwriaethol go iawn, a gaf i godi un pwynt a wnaeth Simon Thomas am y mater o blastig a phlastigau yn yr amgylchedd morol, hefyd? Er nad yw'n ymddangos yma, rwy’n amau bod hwn yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato, ac efallai y gwnaf awgrymu ar ddiwedd fy nghwestiwn byr i'r Prif Weinidog ymhle y gellid gwneud hynny mewn gwirionedd hefyd. Ond ni fyddwn yn poeni’n ormodol am yr honiadau o déjà vu neu ailadrodd ein hunain neu beth bynnag. Dyma’r un hen stori: rydych yn dweud wrth bobl beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud, rydych yn ei wneud, ac yna rydych yn dweud wrthynt wedyn eich bod chi wedi gwneud hynny iddyn nhw. Gwnaethom gynhyrchu maniffesto. Rydym yn bwrw ymlaen â'r maniffesto. Byddwn yn ei gyflwyno, a bydd pobl yn diolch i ni am wneud hynny hefyd, ac un o’r pethau pwysicaf, mae’n rhaid i mi ddweud, yw datblygu cynigion sydd yn y rhaglen ddeddfwriaethol hon ar ofal plant. Dyma, fel y mae Julie Morgan ac eraill wedi dweud, yw’r pecyn gofal plant mwyaf uchelgeisiol, a bydd unrhyw beth, yn arbennig y cynigion sydd yma, sy’n ei gwneud yn haws i bobl o ran cofrestru, ac yn gliriach o ran y cofrestru hefyd, yn cael croeso, yn ogystal, mae’n rhaid i mi ddweud, â'r mesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Nid ydym yn mynd i orfod aros tan 2020 ar gyfer hyn. Bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol. Felly, bydd manteision bob blwyddyn wrth inni symud ymlaen. Rwy’n croesawu hynny.
Ar isafbris uned ar gyfer alcohol, ydi, mae hwn yn fater anodd, ydi mae'n fater dadleuol, ond mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn union y math o bolisi blaengar y dylai'r Cynulliad hwn fod yn edrych arno. Ac nid yw’n ymwneud â gwneud alcohol yn rhy ddrud i bobl. Ni allwn fod yn biwritanaidd ynglŷn â hyn, ac yn sicr, ni allaf i fod yn biwritanaidd ynglŷn â hyn. Dydw i ddim yn mynd i wisgo llodrau pen-glin a het ddu uchel a dweud 'Rwyf nawr yn ymuno â'r mudiad dirwest’—er mae’n rhaid i mi ddweud bod fy hen gangen o’r Blaid Lafur yn arfer cyfarfod yn Neuadd y Rechabiaid yn Nhre-gŵyr, un o ragflaenwyr y mudiad dirwest. Nid oeddent i gyd yn bobl dirwest eu hunain, mae’n rhaid i mi ddweud, ymhlith y bobl Blaid Lafur hynny. Ond dyma’r peth iawn i'w wneud, oherwydd, unwaith eto, mae'n rhan o ddangos beth yw defnydd cyfrifol o alcohol. Dyw hi ddim yn dweud wrth bobl 'Peidiwch ag yfed, peidiwch â chael diod, a pheidiwch â dathlu'. Nid dyna beth yw hi, ond yn hytrach mae'n ymwneud â rheoli alcohol yn rhan o ffordd o fyw, gan nad yw’n ymwneud â’r unigolyn yn unig. Mae’n ymwneud hefyd, mae’n rhaid i mi ddweud wrth Neil ac eraill, ag effeithiau hyn nid yn unig ar iechyd unigolion ond ar y costau i'r GIG hefyd. Ac rwy’n gwybod y bydd yn cydnabod hynny. Dyw hi ddim yn fater o un, dau neu dri pheint y dydd; ond mae’n fater o pan fod hynny’n rhywbeth sy’n digwydd yn rheolaidd, ac mae hynny’n ychwanegu at faterion marwolaeth ac yn y blaen. Rwy’n gweld hynny yn fy etholaeth i.
Rwy'n croesawu'n fawr y ddeddfwriaeth ar fwy o gydweithredu ac effeithlonrwydd mewn llywodraeth leol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet sy’n eistedd ar ochr chwith y Prif Weinidog, ac mae'n cydweddu â llif a’r ffordd o feddwl am lywodraeth leol yng Nghymru yn awr, sef sbarduno mwy o effeithlonrwydd a sbarduno mwy o gydweithio. Ond mae rhoi’r hwb yna iddo, rhoi’r sbardun hwnnw iddo, rwy’n meddwl bod hynny i'w groesawu, ac y bydd yn cael ei groesawu gan y grymoedd blaengar hynny o fewn llywodraeth leol yng Nghymru hefyd.
Croesawaf y ffaith bod y Prif Weinidog yn y datganiad yn talu sylw i'r Bil parhad. Ni fyddaf yn mynd i fanylion pwy wnaeth ei grybwyll yn gyntaf ac yn y blaen ac yn y blaen, ond rwy’n deall pam nad yw'n cael ei baratoi fel Bil ynddo'i hun. Ond rwy’n croesawu'r ffaith ei fod wedi ei grybwyll, oherwydd credaf y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn gobeithio na fyddai'n rhaid paratoi Bil parhad ac na fyddai'n rhaid ei ddefnyddio. Ond, fel rhywbeth wrth gefn, mae’n rhaid i mi ddweud—fel ffon fawr sy'n cael ei chario y tu ôl i'ch cefn—credaf fod angen iddo fod yn gwbl glir i Lywodraeth y DU pe baent yn mynd yn rhy bell yma, a’n bod yn gweld difrod i'r setliad datganoli oherwydd diffyg parch, anwybodaeth, neu beth bynnag, yna rwy’n credu bod angen i ni gael y bwriad hwnnw o fewn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth sifil.
Ond y peth yr hoffwn ei weld yn cael ei ddwyn ymlaen—ac mae'n gais cynnar, os mynnwch chi, ac mae'n dod yn ôl at y mater hwn o gwmpas y plastigau—. Yr wythnos diwethaf, dechreuodd ymgynghoriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Yr enw arno yw 'Symud Cymru ymlaen’ rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy '. Rydym wedi dangos arweinyddiaeth o'r fath yng Nghymru ar yr amgylchedd naturiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig mewn deddfwriaeth, ond mewn polisi arloesol hefyd. Mae’r ymgynghoriad hwnnw yn delio â materion fel mynediad at yr awyr agored. Nid oes dim yn fwy gwleidyddol na mynediad at yr awyr agored. Cymryd cam o flaen ein gilydd yn awyr agored cefn gwlad yw'r weithred fwyaf gwleidyddol erioed, byth ers tresmasu Kinder Scout. Mae hwnnw yn ddarn diddorol o waith, ac rwy’n credu, os byddwn yn ei ddwyn yn ei flaen, y bydd angen slot deddfwriaethol ar ryw adeg, pa bynnag ffurf y bydd yn ei chymryd.
Mae pethau yno hefyd sy’n ymwneud â thynnu dŵr—mater hollbwysig, fel y gwyddom—a draenio, a gwastraff mewn polisi amgylcheddol. Ond fy hoff rai i, yn bennaf oll, yw cosbau dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990—y gallu i fynd i'r afael â gweithredwyr ffug nad ydynt yn trin gwastraff y ffordd y dylent, sy'n ei ddympio yn anghyfreithlon, nad ydynt yn gofalu amdano, a lle maent yn ei ddympio, ac yn y blaen ac yn y blaen. Y gallu ydyw i gamu i mewn fel Llywodraeth ac i roi grym i'r Ddeddf honno a dweud 'Rydym yn mynd i osod cloeon clap, rydym yn mynd i’ch atal rhag gwneud hynny.' Felly, fy nghais i fyddai, os cawn ni’r cyfle yn y dyfodol agos, ynghyd â'r ddeddfwriaeth ar blastigau, a ellid o bosibl ei phlethu i mewn i'r ymgynghoriad rywsut—gadewch i ni edrych am y slot ar gyfer hynny yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol.
Cytunaf yn llwyr â'r ddau siaradwr blaenorol ar lawer o'r materion hyn. Hoffwn atgoffa Neil Hamilton, er nad ydym yn dyheu am gael lefelau Pwyleg, Rwsieg neu Ffinneg o yfed alcohol, rydym ni ymhlith y rhai sy’n yfed y lefelau uchaf o alcohol yn Ewrop. A byddwn yn ei wahodd i ddod i ganol dinas Caerdydd ar unrhyw nos Sadwrn, a bydd yn gweld canlyniadau’r bobl ifanc sy'n yfed lefelau gormodol o alcohol rhad, sef yr hyn y mae isafbris uned wedi ei gynllunio i gyfyngu arno. Oherwydd mae llawer iawn o waith ymchwil sy'n dangos mai drwy osod isafbris yr ydych yn atal y rhai sy'n lleiaf abl i ymdrin â chanlyniadau alcohol—. Mae gormod o bobl ifanc yng nghanol y ddinas yn yfed cymaint o alcohol rhad fel nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad o gwbl ble yn y byd y maent, neu’r canlyniadau, neu'r risg i'w diogelwch. Felly, rwy’n llwyr gefnogi deddfwriaeth y Llywodraeth yn hyn o beth, a chroesawaf y ffaith ein bod yn ei chyflwyno yn awr.
Roeddwn yn synnu i glywed Leanne Wood yn mynegi agwedd ‘gwydr hanner gwag’ tuag at bopeth, bron, yn y datganiad deddfwriaethol, o ystyried yr ymgynghorwyd â hi ar yr hyn a oedd ynddo o flaen llaw mae’n siwr. Ac, fel y dylai wybod, nid yw gofal plant yn ymwneud â chadw plant mewn warws; mae'n ymwneud â datblygu gofal plant ac addysg gynnar o ansawdd, ac mae hynny’n cymryd amser, i sicrhau bod gennym y bobl gywir yn y cyfleusterau cywir, er budd plant.
Beth bynnag—. Yn amlwg, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd ffioedd asiantaethau gosod tai, oherwydd ei fod yn berffaith amlwg i mi fod—. Roeddwn yn synnu o glywed Andrew R.T. Davies yn awgrymu bod hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Lloegr yn manteisio arno, gan fy mod eto i weld p’un a yw Llywodraeth gloff y DU yn mynd i allu cyflwyno deddfwriaeth o'r fath. Ond beth bynnag, rwyf wrth fy modd ein bod yn bwrw ymlaen ar hynny, gan ei fod yn achosi llawer iawn o niwed i lawer o fy etholwyr—yr asiantaethau gosod tai sy'n codi symiau gwarthus yn aml am newid tri gair mewn contract.
Ond roeddwn hefyd eisiau codi un mater arall, sef: rydym yn sôn am dryloywder y broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n cytuno bod hynny yn gwbl hanfodol. Ond, yng ngoleuni annigonolrwydd y rheoliadau adeiladu anweithredol ar hyn o bryd, a ddaeth i’r amlwg yn sgil y tân brawychus yn Grenfell Tower, nid yw ond yn ymwneud â chaniatáu i gontractwyr osod ffaglau tân ar ochr adeiladau uchel, sydd i fod i wella eu heffeithlonrwydd ynni. Mae'n rhaid i ni, yn fy marn i, ddod o hyd i amser i ddeddfu ar gyfer adolygiad cyffredinol o'r rheoliadau adeiladu, er mwyn atal datblygwyr rhag galw gwaith adeiladu gwael fel hyn yn ddatblygu moethus. Ac mae enghreifftiau di-rif o hynny yn fy etholaeth i, a thrwy ganol Caerdydd.
Mae'n rhaid i ni adfer pwerau rheoleiddio annibynnol awdurdodau lleol i fynnu bod eu harolygwyr adeiladu annibynnol yn cymeradwyo adeiladau newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio, cyn bod y gwaith yn cael ei orchuddio â phlastr. Gan ei bod yn amhosibl gweld beth sydd wedi digwydd y tu ôl iddo, unwaith y bydd y plastr wedi'i selio. Mae'n rhaid i ni roi terfyn ar adeiladau sâl yn cael eu creu er mwyn elw, a sicrhau bod yr adeiladau yr ydym yn eu creu gyda'n hadnoddau cyfyngedig yn addas ar gyfer y dyfodol, ac nid yn unig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau siarad yn benodol am yr isafbris uned ar gyfer alcohol. Efallai y bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod yn gyn-drwyddedai, ac rwyf wedi gweld pobl sydd wedi credu, yn aml iawn, eu bod nhw yn cadw’r hyn yr oeddent yn ei yfed dan reolaeth. Wedi'r cyfan, doedden nhw ond yn dod i mewn am un, efallai dau, beint yn rheolaidd, ar ôl gwaith. Ond, yr wythnos wedyn, efallai y byddent yn cael tri pheint, ac felly yr aeth ymlaen. Hyd yn oed os oeddent ond yn cael dau beint bob dydd—ac roedd hynny’n beth cyffredin iawn—daeth yn arferiad. A dyna'r broblem gydag alcoholiaeth. Mae'n dod yn arferiad, ac mae'n dod yn angen, ac mae'n dod yn ddibyniaeth, ac mae'n datblygu ac yn casglu momentwm o fewn yr unigolyn.
Rwyf wedi gweld dynion a menywod yn cael eu dinistrio yn llwyr gan ddibyniaeth ar alcohol. Roeddent yn byw bywydau ffrwythlon iawn cyn i’r ddibyniaeth dyfu. Mae'n ddibyniaeth go iawn, mae'n rheoli’r unigolyn, ond mae eu teulu yn talu’r pris hefyd, ac rwyf hefyd wedi gweld canlyniad hynny. Felly, afraid dweud, byddaf yn cefnogi'r isafbris uned ar gyfer alcohol, oherwydd nid oes amheuaeth—. Rwy’n cytuno â'r siaradwr blaenorol pan ddywedodd fod unigolion yn mynd i'r archfarchnad, maent yn prynu alcohol mor rhad ag y gallant, maent yn ei dywallt i lawr eu gyddfau—a dyna'r unig ffordd i'w ddisgrifio—cyn iddynt hyd yn oed fynd allan ar y stryd. Mae hefyd yn dinistrio tafarndai, ac o fewn y sector tafarndai roedd y rhan fwyaf o'r yfed yn cael ei reoli mewn gwirionedd, ac roedd pobl yn cael eu cyfyngu yn yr hyn yr oeddent yn ei yfed gan normau cymdeithas, yn y rhan fwyaf o achosion. Rwy’n meddwl bod problemau enfawr, enfawr gydag archfarchnadoedd yn gwerthu diod. Rydych chi’n gweld cynigion drwy'r amser. Does dim ond rhaid i chi gerdded trwy'r drws a gallwch brynu 20 neu 30 can o beth bynnag ydyw am £10 neu £20. Mae hynny'n ffordd wirioneddol beryglus i fod yn gwerthu cynnyrch a all achosi cymaint o boen. Felly, rwy’n llwyr gefnogi hynny.
Mae’n rhaid inni gofio hefyd, pan fyddwn yn sôn am ddibyniaeth ar alcohol, ei bod yn costio llawer iawn o arian i fusnes am y diwrnodau gwaith a gollir bob un flwyddyn; ei bod yn costio eu cartref, yn aml iawn, i deuluoedd; a chymdeithas yn y modd a ddisgrifiwyd gan Jenny Rathbone nawr. Ond mae hefyd yn costio arian i’n GIG bob un penwythnos o bob un flwyddyn, ac mae'n costio staff yn aml iawn, sy'n cael eu heffeithio gan yr unigolion hynny sy'n dod i mewn gyda’u hymddygiad anwaraidd tuag at y staff. Felly, byddaf i yn sicr, fel y gallwch ddweud, yn cefnogi isafbris uned ar gyfer alcohol. Rwyf wir yn meddwl ei fod yn flaengar, ac rwy’n canmol y Llywodraeth am ei roi yn eu rhaglen.
Galwaf ar y Prif Weinidog i ateb.
A gaf i ddiolch i'r Aelodau, Dirprwy Lywydd, am y sylwadau y maent wedi'u gwneud? Pe gallwn ddechrau gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ysgrifennais i yma mewn ymateb i'w sylwadau cyntaf, 'Beth sydd arno ei eisiau?'. Fe aeth yn ei flaen i ddweud beth oedd arno ei eisiau: Bil lleoliaeth a dinasyddiaeth, Bil diogelwch economaidd a Bil hawliau pobl. Does gen i ddim syniad beth y maent yn ei olygu, ond, serch hynny, rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny'n glir yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Un o'r pethau, wrth gwrs, y bydd yn rhaid inni sylweddoli yw y bydd Brexit yn dominyddu. Mae nifer o siaradwyr wedi gwneud y pwynt hwn. Bydd yn rhaid inni wneud lle ar gyfer deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit—llawer iawn o le, yn ogystal, rwy’n amau, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ac, yn wir, y tu hwnt i hynny. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen ei ystyried yng ngoleuni datganiad deddfwriaethol y flwyddyn nesaf.
Mae'n gwneud y pwynt am yr asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'n iawn i ddweud bod pryderon wedi'u codi ynghylch cadernid yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae adolygiad o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi digwydd, a bydd yna fersiwn ddiwygiedig yn yr hydref. Gwelwyd, wrth gwrs, bod craffu ar hynny wedi cyflwyno materion i’r Llywodraeth y mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw, ac mae hynny'n iawn, yn rhan o'r broses graffu.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'r Bil wedi’i gefnogi yn eang, a, gobeithio, pan fydd yn cyrraedd y llyfr statud, y bydd yn cyflawni'r nodau a nodir. Ond mae bod mor anghywir ar elfennau cyllidol y Bil yn peri pryder mawr o ystyried yr holl waith sydd wedi ei wneud, fel y cyfeiriais at—adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater hwn. Mae'n un peth sy'n dod o asiantaethau a sefydliadau partner: pan fydd deddfwriaeth yn cael ei phasio yn y lle hwn, nid yw adnoddau yn dilyn y ddeddfwriaeth. Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar pam yr oedd anghysondeb o'r fath rhwng yr amcangyfrif gwreiddiol a'r canlyniad terfynol sydd wedi ei roi i'r Pwyllgor Cyllid?
Wel, rydym wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y mae Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn cael eu datblygu a'u cyflwyno. Mae canllawiau diwygiedig wedi eu llunio sy'n pennu diffinio cliriach ac ymagwedd fesul cam at ddatblygiad yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, ac mae'n darparu ar gyfer cyhoeddi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol drafft yn rhan o'r ymgynghoriad polisi er mwyn i bobl gael gwell golwg ar yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, a hynny ar gam cynharach.
Dydw i ddim yn synnu nad yw'n cefnogi Bil yr undebau llafur. Mae angen pasio hwnnw cyn, wrth gwrs, y bydd y cymwyseddau yn newid, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w wneud.
Mae’r hawl i brynu yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddwn yn ei drafod yn ystod y flwyddyn nesaf. O safbwynt y Llywodraeth, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i adeiladu tai, ac ar yr un pryd, eu gwerthu—mewn geiriau eraill, llenwi'r bath pan fydd y plwg allan.
Ar y cynnig gofal plant, sydd wedi ei godi, wel, fel y dywedais yn gynharach, mae'r cynlluniau peilot yn dechrau ym mis Medi. Bydd yn cael ei gyflwyno wedyn. Mae'n iawn fod hyn yn cael ei wneud yn briodol. ‘Ei gael yn iawn a pheidio â gwneud llanast’ yw'r ymadrodd yr wyf bob amser yn ei ddefnyddio, ac felly mae’r pethau hyn yn cymryd ychydig o amser er mwyn eu cael yn hollol iawn.
Ar y Bil llywodraeth leol, amcan y Bil, yn syml iawn, yw cael awdurdodau lleol gwell a mwy cynaliadwy. Fe fydd gweithio gorfodol yn rhan o'r Bil hwnnw. Nid bwriad y Bil yw gorfodi uno'r awdurdodau lleol, er y bydd y dewis hwnnw ar gael iddynt. Mae'n iawn i ddweud y gorfodir gweithio trawsffiniol er mwyn cael gwell darpariaeth mewn awdurdodau lleol.
Ceir mater y Bil isafbris yr uned o ran alcohol. Mae materion trawsffiniol yn broblem bob amser. Maent yn broblem rhwng yr Alban a Lloegr. Maent yn broblem, o ran hynny, rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Mae’n rhaid iddynt gael eu rheoli—mae hynny’n wir—ond nid yw hynny'n rheswm dros beidio â gwneud rhywbeth.
O ran yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru—‘llên-ladrad hunanfodlon', rwy’n meddwl, oedd y disgrifiad y gallai hi fod wedi ei olygu. Nid ydym yn derbyn hynny o gwbl. Mae popeth yr ydym yn ei gynhyrchu wedi’i gynnwys yn ein maniffesto—y maniffesto y cawsom ein hethol arno. Mae hi'n codi cosb resymol; wel, nid oedd mandad yn y Cynulliad diwethaf i ni fwrw ymlaen gyda chosb resymol—mae yna erbyn hyn. Mae yna erbyn hyn. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu, fel yr wyf wedi ei ddweud, ac wrth ateb fy nghydweithiwr Julie Morgan: ymgynghoriad dros y 12 mis nesaf a’r Bil wedi’i gyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y Cynulliad. Dyna'r amserlen yr ydym yn sôn amdani yma.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud mai syniad ei phlaid hi yw’r gronfa triniaethau newydd—nid yw hynny’n wir. Os cofiaf yn iawn, cronfa cyffuriau canser oedd ei phlaid hi’n awyddus i’w chefnogi, tuag at ddiwedd y Cynulliad diwethaf. Mae'r gronfa triniaethau newydd yn wahanol. Ac ar gontractau dim oriau, fel y mae hi yn gwybod, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ceisio mynd i’r afael ag ef, a gyda’r pwerau newydd, rydym yn gallu gwneud hynny.
O ran Brexit, mae hi’n iawn i ddweud, unwaith eto, y bydd Brexit yn cymryd llawer iawn o ddeddfwriaeth. Nid wyf yn credu bod gan Simon Thomas, gyda phob parch, y bel grisial fwyaf pan ddywedodd, y llynedd, y byddai hyn yn broblem i daliadau fferm a'r amgylchedd. Roeddem yn gwybod hyn, ac mae e'n iawn. Mae e'n dal i fod yn iawn, ond nid wyf yn mynd i roi clod iddo am ddoniau rhagweld y dyfodol helaeth yn yr amgylchiadau hynny. Rhannwyd nifer o'r materion hyn y llynedd, ac wrth gwrs, bydd angen ymdrin â nhw.
Cafodd Bil parhad, mae'n iawn i ddweud, ei godi gyntaf gan Steffan Lewis. Rwyf yn rhoi clod iddo am hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gweithio arno. Dyw hi ddim yn wir nad oes dim wedi digwydd yn y cyfamser, ac rwyf am wneud yn siŵr os a phan fydd angen Bil—gan ddwyn i gof yr hyn a ddywedodd David Davis ddoe, ac nid wyf yn derbyn hynny o reidrwydd ar ei olwg ar y cam hwn—yna byddai Bil o'r fath yn barod i gael ei gyflwyno, os yw hynny'n briodol.
O ran yr hyn a ddywedodd arweinydd UKIP, wel, siaradodd yn helaeth am y Bil isafbris uned alcohol. Gadewch i ni gadw mewn cof bod hwn yn Fil iechyd. Yn gyntaf oll dywedodd ei bod yn dreth atchweliadol, sef yr hyn y mae trethi anuniongyrchol yn tueddu i fod. Mae'n iawn am hynny mewn rhai ffyrdd, ond yna dywedodd, wrth gwrs, po fwyaf y byddwch yn ei ennill y mwyaf y byddwch yn ei yfed, sy'n gwneud iddi swnio fel treth gynyddol, oherwydd ei bod yn seiliedig ar incwm. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho os ydych yn troi'r ddadl o gwmpas, os byddwch yn dweud nad oedd pris rhywbeth yn atal rhywun rhag cymryd rhan ynddo, mae'n debyg i bris sigaréts—mae'n debyg i bris sigaréts. Ydyn, mae pobl yn ymwybodol o effeithiau iechyd sigaréts, ond un o'r rhesymau pam mae llawer o bobl yn lleihau eu lefelau ysmygu neu’n rhoi'r gorau i ysmygu yw oherwydd bod pris sigaréts mor uchel nad ydynt yn dymuno gwario eu harian bellach, ac felly, rydych yn gwybod, gwnaeth hynny weithio, cyn belled ag yr oedd tybaco yn y cwestiwn.
Y peth arall i'w gofio yw, er mai deddfwriaeth iechyd yw hon, a gwnaed y pwynt gan Joyce Watson, un o'r rhesymau pam y mae alcohol wedi dod—. Mwy na thebyg, y prif reswm pam y mae alcohol wedi dod mor rhad—ac fe a wnaeth y pwynt ei hun; mae pobl yn yfed yn y cartref cyn mynd allan, fel y dywedodd—yw bod archfarchnadoedd a chadwyni tafarn yn gallu codi prisiau is na thafarndai traddodiadol, ac o ganlyniad maen nhw wedi dioddef. Gallai un o ganlyniadau anuniongyrchol deddfwriaeth o'r fath yn hawdd fod ei bod yn rhoi’r tafarndai hynny ar sail fwy cyfartal gyda'r archfarchnadoedd ac, wrth gwrs, gyda chadwyni tafarn, sydd wedi gallu codi prisiau is, oherwydd y diffyg isafbris uned, na’r cynnig sy'n cael ei wneud gan dafarnau gwledig, a chan dafarndai cymunedol, ac nid ydyn nhw wedi gallu cystadlu â nhw. Felly, er bod hwn yn fesur iechyd—nid oes amheuaeth am hynny—mae’n bosibl y ceir effaith anuniongyrchol o ran y tafarndai hynny sydd wedi ei chael yn anodd cystadlu.
May I turn, therefore, to what Simon Thomas said? It’s right to say that we have to, of course, leave scope for what will happen after Brexit, and that’s going to impact the time that’ll be available for us in this Assembly to move legislation through.
In terms of ensuring a vote for 16-year-olds in local authorities, we’re in favour of that, and that’s part of the Bill itself. To answer his question about STV and the voting system, well, we have fought in this place to control the system that elects Members to this place. So, this is a devolution Bill to ensure that councils can say what kind of system is relevant to them, and not that we as a Government tell them what system they should use.
He raised several interesting questions after that in terms of fracking—that’s something to be considered next year, perhaps—in terms of a deposit-return scheme and gambling. We will only have few powers, but, of course, we will have to consider in what way we can change that situation. In terms of the legal jurisdiction, it’s right to say that the Welsh Government’s opinion hasn’t changed. Work has been undertaken regarding how we can take this forward, and there will be a statement on this, I would think now, in the autumn, in terms of what the Welsh Government’s plans will be in terms of ensuring that this doesn’t die as a subject or as an issue over the next few months.
Croesawaf y sylwadau a wnaed wedyn gan fy nghydweithwyr Julie Morgan, Huw Irranca-Davies a Jenny Rathbone, a'r croeso a roesant i ddeddfwriaeth. A gaf i gydnabod, wrth gwrs, safiad egwyddorol a'r gwaith y mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan, wedi’i wneud ar y mater o gosb resymol? Mae hi wedi cyfarfod â mi sawl gwaith, fel y gwnaeth fy nghyn gydweithiwr Christine Chapman, gan wneud y pwynt yn rymus fod hwn yn rhywbeth y dylem ei ddatblygu. Rwy’n gobeithio ei bod bellach yn gweld bod y sgyrsiau a gawsom wedi cael effaith, os caf ei roi felly, ac erbyn hyn mae amserlen ar waith.
Dim ond i fynd i’r afael â'r mater a gododd Jenny Rathbone, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, ydi, mae hi’n iawn i ddweud efallai y bydd angen edrych ar reoliadau adeiladu yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd gyda Grenfell Tower. Wrth gwrs, maent yn rheoliadau y gellir ymdrin â hwy drwy weithdrefnau is-ddeddfwriaeth yn hytrach na thrwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ond mae hi'n gywir i ddweud ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gallu bodloni ein hunain bod y gyfundrefn rheoleiddio adeiladu yn annibynnol ac yn gadarn, ac mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, yr wyf i’n gwybod y mae’r Gweinidog yn awyddus iawn i’w archwilio a’i ddatblygu.
Ar y sail honno, fel y dywedais yn gynharach, Dirprwy Lywydd, byddwn yn cymeradwyo'r datganiad i'r Cynulliad.
Diolch yn fawr iawn.