8. 8. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol

– Senedd Cymru ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:28, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6549 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.

2. Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â’r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd i unigolion nid cartrefi.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 5:28, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn agor y ddadl drwy gofnodi barn Plaid Cymru ar y polisi hwn yn gadarn o’r cychwyn. Mae credyd cynhwysol yn bolisi dinistriol a chreulon a luniwyd yng nghorneli mwyaf anghyfannedd y blaid Dorïaidd fel pwdin ‘Eton mess’ wedi troi i gosbi’r rhai sy’n chwilio am waith. Mae’n ffaith hysbys fod rhai elfennau o’r Blaid Geidwadol a’r rhai yn UKIP a arferai fod yn Dorïaid ar un adeg wedi dirmygu pobl sy’n dlawd neu heb waith. Mae elfennau ar y dde wedi bod yn gwthio ers amser hir i sefydlu’r syniad hwn o’r tlawd haeddiannol a’r tlawd anhaeddiannol, ymateb syml du a gwyn i faterion cymhleth tlodi, amddifadedd a diweithdra nad yw’n gweithio yn y byd go iawn.

Os yw credyd cynhwysol i fod i gymell pobl i weithio, mae’n awgrymu nad oedd unrhyw gymhelliant cyn y credyd cynhwysol. A all unrhyw un ddweud wrthyf gydag unrhyw ddifrifoldeb fod y gyfundrefn cyn y credyd cynhwysol yn hael neu’n rhodd i’r di-waith neu’r tlawd? Os oes unrhyw un yn credu hynny, mae’n amlwg nad ydynt erioed wedi bod ar fudd-daliadau neu o bosibl erioed wedi cael sgwrs iawn gydag unrhyw un arall sydd wedi bod ar fudd-daliadau hyd yn oed cyn y camau cyfredol i gyflwyno’r credyd cynhwysol. Os yw’r polisi hwn yn ymwneud â chael pobl i weithio a chreu mwy o gyfrifoldeb i hawlwyr a’u grymuso drwy daliad misol, gan gynnwys yr elfen dai, pam yr oedi mympwyol dibwynt a chrintachlyd o chwe wythnos cyn talu? A all unrhyw un sy’n cynrychioli’r Blaid Geidwadol ddweud wrthyf pam y bydd yn rhaid i hawlydd newydd yn Aberafan, er enghraifft, aros am amser mor hir am daliad cyntaf os yw’r person hwnnw wedi cael ei ddiswyddo’n annisgwyl? Pwy fydd yn esbonio i rywun pam y gallent fod yn hwyr yn talu biliau a mynd i ddyled na ellir ei rheoli? Pa sail resymegol sydd gan Lywodraeth y DU dros hyn? Neu, fel rwy’n amau, nid oes rheswm go iawn dros wneud hyn, fel y dywedodd Angela Burns mewn e-bost a ddatgelwyd yn answyddogol ddoe, ac rwy’n dyfynnu:

Rwy’n credu nad oes modd amddiffyn y safbwynt hwn ac os caf fy herio byddaf yn dweud hynny. Ar fy myw ni allaf ddeall pam y bernir bod bwlch o 6 neu 4 wythnos yn dderbyniol. Dylai bontio’n ddi-dor ac nid yw y tu hwnt i allu dyn i’w wneud yn ddi-dor... mae’r agwedd drahaus hon y gall y tlotaf stryffaglo drwyddi yn ddideimlad ar y gorau ac yn hollol greulon ar y gwaethaf. Mae gennyf gywilydd o fy Llywodraeth.

Wel, rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr ag Angela Burns yn y fan hon. Hoffwn ganolbwyntio’n benodol ar yr elfen dai ychydig yn fwy, oherwydd mae’r broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol, ymhell o fod yn cymell pobl i weithio ac ysgwyddo cyfrifoldeb, yn rhoi to dros bennau’r di-waith sydd mewn perygl mewn gwirionedd.

Gadewch i ni ddechrau gydag un ffaith ddamniol. Mae bron i hanner yr holl denantiaid cyngor yn y—.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Wel, gallwch ddod i mewn os ydych am wneud ymyriad. Rwy’n hapus i chi gadarnhau eich safbwyntiau yn yr e-bost hwnnw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Os gwnaiff yr Aelodau barhau i siarad, fe benderfynaf pwy sy’n mynd i gael codi i siarad, ac os gallech gadw’n ddistaw i wrando, yn ogystal.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 5:31, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i ni ddechrau gydag un ffaith ddamniol. Mae bron i hanner y tenantiaid cyngor yn y 105 o awdurdodau lleol sy’n cael elfen dai y credyd cynhwysol mewn mis o ddyled. Mae bron i draean mewn dau fis o ddyled, ac mae’r rhai sy’n dal ar fudd-dal tai—10 y cant o denantiaid cyngor yn unig—mewn mis o ddyled, a llai na 5 y cant o’r grŵp hwnnw sydd mewn dau fis neu fwy o ddyled. Felly, dywedwch wrthyf unwaith eto sut y mae’r credyd cynhwysol yn helpu yn hyn o beth. Pan fo’r budd-dal cyffredinol ei hun yn aml yn cael ei dorri a Llywodraeth y DU yn disgwyl i’r rhai sydd ar y credyd i stryffaglo drwyddi, cynhwyswch yr holl oedi anesboniadwy ac mae gennych rysáit ar gyfer trychineb—gorchmynion troi allan, achosion llys, costau llys a throbwll o ddyled a thaliadau sy’n mynd yn ormod i lawer ei oddef. Wedyn, wrth gwrs, mae yna ergyd derfynol. Pan fydd angen i rywun mewn sefyllfa anodd ffonio i holi am y budd-dal a pham y ceir oedi neu sancsiwn neu daliad hwyr, byddant yn wynebu cost o hyd at 55c y funud. Diolch byth, mae’r gosb benodol honno i’r tlawd a’r difreintiedig bellach yn cael ei dirwyn i ben yn raddol, ond yr unig reswm pam y mae hynny’n digwydd yw oherwydd pwysau cyhoeddus.

Mae’r costau gweinyddol hefyd wedi cael eu rheoli’n wael ar y gorau. Buasai rheolaeth weinyddol o fudd i ni yma yng Nghymru ac yn gwneud bywydau hawlwyr yn well er mwyn cymell pobl i weithio yn briodol, heb gondemnio pobl i dlodi yn y broses. O ran y credyd cynhwysol, mae’r SNP wedi defnyddio eu pwerau cyfyngedig i gynnig taliadau amlach—ddwywaith y mis—i ganiatáu i bobl gael y gydran dai wedi ei thalu’n uniongyrchol i landlordiaid. Fodd bynnag, nid oes ganddynt allu i atal y diwylliant o sancsiynau, mewn egwyddor. Mae’r Bil nawdd cymdeithasol newydd hefyd yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion yr Alban i roi cymorth, sy’n golygu y gallent lunio systemau taliadau tai disgresiynol i liniaru sancsiynau.

Mae’n rhaid i ni gael rheolaeth ar fudd-daliadau wedi ei datganoli i Gymru, fel y gellir rhoi atebion a luniwyd ar gyfer ein gwlad ar waith fel sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r DU. Pe bai Llafur o ddifrif am newid y gyfundrefn fudd-daliadau a chymorth tai bresennol, buasent yn cefnogi datganoli gwariant a pholisi budd-daliadau, gan gynnwys y credyd cynhwysol. Rwy’n ofni, fodd bynnag, fel y gwelsom gyda’r dreth ystafell wely a chontractau dim oriau yn y gorffennol, y buasai’n well ganddynt wneud areithiau twymgalon, fel y byddwch yn clywed heddiw o bosibl, yn condemnio’r Ceidwadwyr ar lefel y DU, ond heb wneud na mynnu’r pwerau yma yng Nghymru inni allu bod yn feistri ar ein tynged ein hunain. Rydym wedi cael problemau tebyg gydag achosion tebyg lle y mae gennym y penderfyniadau, mae gennym y pwerau yn ein rheolaeth i allu arwain ar yr agenda hon.

Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn cefnogi datganoli budd-daliadau’n llawn, fel sydd ei angen ar ein pobl yn amlwg, a buaswn yn gobeithio y gall y Ceidwadwyr Cymreig ddilyn arweiniad rhai o’u cyd-Aelodau yma a dweud wrth Lywodraeth y DU i wneud newidiadau, neu ddiddymu’r gyfundrefn fympwyol a dinistriol hon. Os cytunwn, fel pleidiau—neu os gwnaiff ACau eraill gytuno—fod hwn yn bolisi sy’n niweidio pobl dlawd, yna dylem ddefnyddio pob pŵer sydd gennym, hyd yn oed os mai pŵer egwyddorol a moesol fydd hwnnw, i ddweud wrth Lywodraeth y DU y dylent ddiddymu’r gyfundrefn gredyd cynhwysol benodol hon.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:34, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y pryder sy’n bodoli ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.

2. Yn croesawu’r egwyddorion y tu ôl i’r credyd cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan fwyaf o bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw’n ysgogi cyflogaeth.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:34, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n cynnig ein cynnig fel y’i diwygiwyd. Fel y mae’n dweud, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y pryder ynglŷn â’r broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol. Bythefnos yn ôl, ysgrifennais at Ysgrifennydd y DU dros Waith a Phensiynau ynglŷn â chost y llinell gymorth credyd cynhwysol, yn erfyn arno i archwilio ar unwaith ac ystyried opsiynau amgen, mewn sefyllfa lle y codwyd tâl o hyd at 55c y funud ar rai pobl i drafod eu cais unigol yn Saesneg, gan greu rhwystrau pellach a llawer o ofid, tra bo’r llinell gymorth Gymraeg yn rhad ac am ddim. Roeddem yn falch felly o glywed y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y byddai’r gost hon yn cael ei dileu. Rydym hefyd yn croesawu adroddiadau y gallai Gweinidogion y DU leihau’r amser aros am daliadau credyd cynhwysol o chwe wythnos. Fel y dywedodd yr AS dros Stevenage ddydd Sadwrn, ar y mater penodol hwnnw rwy’n meddwl ein bod yn agos tu hwnt at gael ateb.

Mewn gwirionedd, mae’n wych gweld aelodau o feinciau cefn plaid y Llywodraeth yn gwneud eu gwaith yn ddemocrataidd a bod eu Llywodraeth yn gwrando, ac mae’n drueni nad ydym wedi gweld yr un peth yma gan aelodau o feinciau cefn Llafur ar faterion yn amrywio o rybuddion dros ddegawd yn ôl y byddai toriadau tai cymdeithasol enfawr Llafur yn creu argyfwng o ran y cyflenwad tai, i’w methiant i siarad yn gyhoeddus yn awr i gefnogi ymgyrchwyr anabl sy’n ymladd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu’r grant byw’n annibynnol yng Nghymru.

Mae ein cynnig fel y’i diwygiwyd hefyd yn croesawu’r egwyddorion sy’n sail i’r credyd cynhwysol. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cymunedau ei hun yma yr wythnos diwethaf,

‘nid oedd egwyddor y rhaglen credyd cynhwysol yn anghywir.’

Pan ragwelodd y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â dau Aelod Llafur ar eu bwrdd, y credyd cynhwysol, gwelsant fod y rhan fwyaf o’r bobl sy’n hawlio budd-daliadau eisiau gweithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad oedd yn cymell cyflogaeth. Er gwaethaf rhaglen ailddosbarthu enfawr, gwelsant fod bod heb waith magu gwraidd mewn sawl rhan o’r DU. Fodd bynnag, dangosodd ymchwil fod hawlwyr credyd cynhwysol yn y camau cychwynnol o’i gyflwyno 13 y cant yn fwy tebygol o fod wedi bod mewn gwaith na’r rhai ar lwfans ceisio gwaith ac yn ennill mwy o arian na’r rhai ar lwfans ceisio gwaith.

Mae tystiolaeth heddiw’n dangos bod pobl yn cael gwaith yn gyflymach ac yn aros yn hirach yn eu swydd o ganlyniad i gredyd cynhwysol. Ni fydd angen mwyach i hawlwyr fynd drwy’r fiwrocratiaeth o newid eu cais am fudd-dal wrth iddynt ddechrau gweithio, gan fod y credyd cynhwysol yn aros gyda hwy. Mae taliadau ymlaen llaw ar gael i unrhyw un sydd eu hangen, ac mae tua hanner y bobl yn manteisio ar hyn. I’r rhai nad ydynt yn gallu aros nes eu taliad llawn cyntaf, mae blaendaliadau budd-dal di-log ar gael o fewn pum diwrnod gwaith, ac os bydd rhywun ei angen ar frys, gellir gwneud hyn ar yr un diwrnod. Mae dros 50 y cant o hawlwyr newydd wedi gwneud defnydd o’r taliadau hyn.

Ar ddechrau’r flwyddyn hon, nid oedd 55 y cant o bobl ar gredyd cynhwysol yn cael eu taliad cyntaf ar amser, ond erbyn hyn mae dros 80 y cant yn cael y swm cywir ar amser y tro cyntaf, gyda’r 20 y cant arall â gwybodaeth ar goll. Ni fydd y cam diweddaraf i ehangu ond yn mynd â’r gyfran o’r boblogaeth o hawlwyr credyd cynhwysol a ragwelwyd o 8 y cant ar hyn o bryd i 10 y cant erbyn diwedd mis Ionawr, gydag amser i ymdrin â materion wrth iddynt godi a’u hymgorffori yn yr amserlen gyflwyno. Roedd gan dros dri chwarter y tenantiaid ôl-ddyledion rhent eisoes cyn iddynt ddechrau hawlio credyd cynhwysol, ond ar ôl pedwar mis ar gredyd cynhwysol, gwelwyd gostyngiad o draean yn y nifer hon.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Clywais yr hyn y mae newydd ei ddweud am y modd y bydd y broses o gyflwyno’n galluogi’r materion hyn i gael eu datrys, wrth symud ymlaen. A all ddeall, felly, pam rydym wedi ei dreialu yn Nhorfaen a Sir y Fflint yma yng Nghymru, a heddiw, mewn gwirionedd, yn y 10 munud diwethaf, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud, ar sail y treialon hynny, y dylid ei atal am y tro yng Nghymru ar gyfer ystyried?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:38, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth weld pwy yw’r llofnodwr, rwy’n amau bod rhywfaint o gymhelliad gwleidyddol yno, i gyd-daro â’r ddadl hon.

Fodd bynnag, fel y dywedais, ceir traean yn llai o ôl-ddyledion ymhlith y rhai ar gredyd cynhwysol ar ôl pedwar mis. Fodd bynnag, er bod y rhan fwyaf o bobl ar incwm isel yn rheoli eu harian ac eisiau gwneud hynny, cydnabuwyd o’r cychwyn y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai, a dyna pam y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae hyn yn sicrhau bod hawlwyr nad ydynt yn barod eto i gyllidebu drostynt eu hunain yn fisol neu sy’n methu defnyddio’r rhyngrwyd yn cael eu diogelu a’u cynorthwyo i ddod yn rhan o’r system newydd. Ond bydd hawlwyr sydd â phroblemau dyled neu anawsterau eraill, megis sgiliau rhifedd gwael, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl, yn cael cymorth ymarferol ar ddechrau eu cais drwy rwydwaith o wasanaethau lleol, a bydd trefniadau talu amgen ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol, gan dalu costau tai yn uniongyrchol i’r landlordiaid, gwneud taliadau’n amlach na thaliadau misol i helpu gyda chyllidebu, a rhannu taliadau rhwng partneriaid lle y ceir cam-drin ariannol. Dyna y mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ymrwymo iddo, am bedair blynedd a hanner yn ôl pob sôn, ac mae hyn bellach yn dod o dan faner cymorth cynhwysol.

Fel y nodais yn y Siambr hon bedair blynedd yn ôl, mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda’r holl weinyddiaethau datganoledig ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno’r credyd cynhwysol, ochr yn ochr â’r fframwaith gyda llywodraeth leol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac felly mae’n rhaid inni ofyn i Lywodraeth Cymru pam nad yw cymorth cynhwysol yn gweithredu’n well yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:40, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn nodi’r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy’n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno’r credyd cynhwysol sy’n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.

Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a’r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno’r credyd cynhwysol a mynd i’r afael â’r pryderon sylfaenol sy’n cael eu codi.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Leanne Wood.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae dadl Plaid Cymru heddiw yn mynd i’r afael ag un o brif faterion cymdeithasol ein cyfnod. Mae bellach y tu hwnt i amheuaeth fod y broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn achosi mwy o galedi, ac mae’r ffaith bod credyd cynhwysol wedi cael ei gyflwyno ochr yn ochr â thoriadau llym i les wedi gwneud y problemau cynhenid yn y cynllun hyd yn oed yn waeth. Mae Cyngor ar Bopeth wedi sefydlu bod y rhai sy’n cael credyd cynhwysol yn fwy tebygol o fod mewn dyled ar filiau rhent, treth gyngor a dŵr. Mae dyled, troi allan a defnydd o fanciau bwyd i gyd wedi cynyddu i rai sy’n cael cymorth yn y cynlluniau peilot. Rydym yn gwybod bod digartrefedd yn uwch eisoes, ac eto, yn nes ymlaen, bydd hyn yn golygu mwy o risg o fod yn ddigartref eto, yn ogystal â mwy o gostau i’r GIG, llywodraeth leol a gwasanaethau cymdeithasol.

Nawr, y celwydd mwyaf sydd wrth wraidd y credyd cynhwysol, a’r anghyfiawnder mwyaf, yw’r syniad fod hyn rywsut yn ymwneud yn llwyr â chymell pobl i weithio. Mae defnyddio’r system nawdd cymdeithasol i gael pobl i weithio yn nod canmoladwy na fyddai fawr iawn o bobl yn anghytuno ag ef. Ond y ffordd o gyflawni hyn yw drwy wneud i waith dalu mwy na’r budd-daliadau, nid trwy gosbi pobl a’u gorfodi i gymryd swyddi am gyflog isel neu swyddi ansicr, neu drwy ddefnyddio sancsiynau. Yn wir, mae asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun o gredyd cynhwysol yn awgrymu y bydd 2.1 miliwn o bobl sy’n ei dderbyn yn gweld cyfraddau eu didyniadau’n cynyddu. Golyga hyn nad yw’n wir i ddweud bod credyd cynhwysol yn gwneud i waith dalu; i’r gwrthwyneb i 2.1 miliwn o bobl weithgar.

Mae hyn yn golygu bod y system newydd, mewn gwirionedd, yn cael gwared ar gymhellion ariannol i bobl weithio a oedd yn bodoli o dan y system flaenorol i nifer sylweddol o bobl. I roi halen ar y briw, mae credyd cynhwysol yn sefydlu diwylliant o sancsiynau ac yn ymestyn y diwylliant hwnnw i gynnwys gweithwyr rhan-amser, fel pe bai gweithwyr rhan-amser bellach yn bobl sy’n byw oddi ar eraill fel y byddai’r Torïaid yn eu galw.

Mae cyfradd sancsiynau’n uwch na’r system flaenorol a gellir eu defnyddio yn erbyn pobl sydd mewn gwaith cyflogedig. Os yw Llywodraeth y DU yn mynnu bwrw ymlaen â chredyd cynhwysol, ceir model sydd eisoes yn bodoli o fewn y DU i Gymru allu addasu a lliniaru ei effeithiau gwaethaf. Buasai datganoli rheolaeth weinyddol ar les yn caniatáu i Lywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, rhoi diwedd ar y diwylliant o sancsiynau ac amseroedd aros hir, a sicrhau y gallai taliadau fynd i unigolion yn hytrach nag i aelwydydd. Mae’r model ar gyfer hyn, wrth gwrs, yn yr Alban lle y gwnaed y defnydd cyntaf o bwerau datganoledig gan Lywodraeth yr Alban i newid amlder y taliadau o fod yn fisol i bob pythefnos yn dilyn adborth. Gwnaethant hi’n bosibl hefyd i’r cydrannau tai gael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid. Mae’r cyfreithiau newydd yn yr Alban hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i gynorthwyo pobl sy’n ei hawlio. Mae hyn yn golygu y gellir cymryd camau gweithredu yn awr y tu ôl i’r llenni i fynd i’r afael â’r diwylliant sancsiynau.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae mesurau tebyg i liniaru credyd cynhwysol eisoes wedi eu cytuno a byddant yn cael eu gweithredu pan ailddechreuir rhannu grym.

Mae’r lefel hon o ddatganoli wedi gwneud agenda nawdd cymdeithasol ddatganoledig ehangach yn bosibl hefyd, gan gynnwys polisïau helaeth i liniaru effeithiau toriadau lles San Steffan a sefydlu asiantaeth nawdd cymdeithasol. Mae datganoli’r agweddau hynny ar nawdd cymdeithasol yn cael ei gefnogi nid yn unig gan yr SNP, ond ar sail drawsbleidiol, sy’n cynnwys y Blaid Lafur yn yr Alban. Mae angen consensws o’r fath yma yng Nghymru, yma yn y Cynulliad hwn. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw’r Llywodraeth yn cytuno. Ble mae eu strategaeth wrthdlodi? Beth y maent yn ei wneud i liniaru’r diwygiadau lles creulon hyn? Os gellir gweithredu’r gwasanaeth iechyd gwladol gan y gwahanol wledydd, yna nid oes unrhyw reswm pam na all agweddau eraill ar y wladwriaeth les ar ôl y rhyfel gael eu gweithredu felly yn ogystal. Mae’n rhaid i ni roi datganoli lles ar yr agenda. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr inni ddal ati i ladd ar y Torïaid ynglŷn â hyn pan allem fod yn gwneud pethau’n wahanol yma yng Nghymru. Fel Aelodau’r Cynulliad, rydym mewn perygl o fod yn ddim mwy na sylwebwyr ar hyn—

Carl Sargeant a gododd—

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:44, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—yn cwyno ar y cyrion heb unrhyw allu i liniaru, i addasu neu newid polisïau. Ildiaf i Ysgrifennydd y Cabinet.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Er eglurder yn unig, a ydych yn ymwybodol faint y mae’n ei gostio i Lywodraeth yr Alban weithredu proses weinyddu hyn yn unig; nid y pen budd-daliadau ohono—y weinyddiaeth yn unig, sy’n darparu’r gallu i wneud hyn?

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:45, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf ffigur wrth law. A hoffech chi ddweud wrthyf?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Maent yn talu £200 miliwn ymlaen llaw a £66 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y costau gweinyddol yn unig a delir i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dyna’r broblem sydd gennyf gyda’r broses weinyddu yma. Dylem fod yn gwneud rhywbeth gwahanol iawn. Dylent fod yn gwneud hyn yn awtomatig, nid codi tâl ar yr Alban neu arnom ni i wneud hynny. Dyna’r her sy’n ein hwynebu.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ond y pwynt yw’r egwyddor, onid e? Tra bo San Steffan—[Torri ar draws.]. Tra bo San Steffan yn gwneud—. Tra bo San Steffan yn gwneud penderfyniadau sy’n cynyddu digartrefedd ac yn gwthio’r bobl rydych yn gyfrifol amdanynt i galedi, mae hyn yn rhywbeth y dylech fod yn barod i’w ystyried.

Yn lle ffordd San Steffan—[Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ymdawelu, os gwelwch yn dda?

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn lle ffordd San Steffan, sy’n gwneud cam â chymaint o’n dinasyddion, dylem fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ein hunain, a dylai’r Cynulliad gefnogi ffordd Gymreig ar fater lles. Byddai ffordd Gymreig yn seiliedig ar dystiolaeth, ar ddyngarwch ac ar gyfiawnder. Byddai hynny’n creu rhwyd ddiogelwch sy’n cefnogi’r rhai sydd mewn angen: urddas yn hytrach na dyled, gobaith yn hytrach na newyn—pam ddim?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:46, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau fy ymyriad gyda dyfyniad gan etholwr i mi yng Nghaerfyrddin:

Mae bod yn fam sengl yn fy nychryn. Cefais lythyr heddiw yn rhoi gwybod i mi faint o gredyd cynhwysol y bydd gennyf hawl iddo, ac rwy’n mynd i fod £210 y mis yn waeth fy myd. Rwy’n gweithio 16 awr yr wythnos ac rwy’n llwyddo o drwch blewyn i ddal dau ben llinyn ynghyd yn awr. Mae’n gas gennyf feddwl beth fydd fy sefyllfa pan fyddaf yn newid i gredyd cynhwysol yn y pen draw. Am bob £1 rwy’n ei hennill yn ychwanegol at fy lwfans gwaith, eir â 65c oddi arnaf. Sut y mae hyn i fod i annog a helpu pobl i weithio?

Dyna un yn unig o’r 20,000 o bobl yn Sir Benfro yn unig yr effeithir arnynt gan y newidiadau i’r credyd cynhwysol, ac er ei bod yn wir i ddweud y bydd rhai ar eu hennill, y ffaith amdani yw y bydd y rhan fwyaf, oherwydd bod Llywodraeth y DU yn mynnu dilyn trywydd mesurau cyni, yn llawer gwaeth eu byd. Y peth rhyfeddaf oll am y polisi hwn, fel sydd eisoes wedi cael ei awgrymu, yw ei fod yn cael ei weithredu a bod y ffordd y mae’n cael ei weithredu, mewn llawer o achosion, yn tanseilio’r ysgogiad ariannol i weithio.

Mae rhieni sengl gyda phlant dibynnol yn cael eu taro’n arbennig o galed, a byddant yn cael £3,100 y flwyddyn yn llai nag y maent yn ei gael gyda chredyd treth: ergyd enfawr i unrhyw gyllideb deuluol. Ac mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati’n fwriadol i gyflwyno’r credyd cynhwysol yn raddol fel y gall pawb ohonom ddysgu gwersi, ond yn Wigan, mae pedwar o bob pump o’r rhai sy’n hawlio credyd cynhwysol, neu dros 80 y cant o bobl, wedi mynd i ddyled gyda’u rhent. Rhaid i mi ofyn, os mai dyna yw tystiolaeth y gwersi, pam nad ydym yn oedi i ailfeddwl sut y gallwn wneud y system yn haws i rai o’r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein cymunedau?

Mae mwy na hanner y bobl sy’n cael y credyd cynhwysol yn gweithio. Maent yn gwneud y peth iawn iddynt eu hunain ac i’r gymdeithas ehangach, ond maent yn cael eu cosbi yn awr. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn hyrwyddo’r ffaith y dylem barhau â’r system bresennol, sy’n hynod gymhleth, ond mae’r ffordd y caiff y system ei chyflwyno yn gwbl wrthgynhyrchiol.

Ceir problem benodol sy’n deillio o’r pwynt ynglŷn â bod arian yn cael ei ôl-dalu, ac ar hyn o bryd mae’n rhaid aros 42 diwrnod am y taliad cyntaf ac mae eraill, fe glywoch, yn gorfod aros 60 diwrnod am ôl-daliad. Mae tua hanner y rhai sy’n derbyn credyd cynhwysol hyd yn hyn wedi gallu cael taliadau ymlaen llaw, ond mae’n anodd iawn i bobl sy’n agored i niwed sydd â sgiliau darllen ac ysgrifennu gwael brofi eu bod angen arian i dalu am filiau neu i dalu am fwyd. Ac yn anffodus, mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn credu bod yr oedi hwn cyn talu yn dderbyniol rywsut ac yn bosibl i bobl sy’n aml yn byw bywydau caotig, yn tanlinellu pa mor allan o gysylltiad yn llwyr y maent â’u hetholwyr. Ac ar ben hynny, dychmygwch sut y mae hi i rywun sy’n gaeth—i gamblo, alcohol neu gyffuriau efallai—neu bobl ag anawsterau dysgu i reoli’r hyn a allai ymddangos fel llawer iawn o arian yn eu cyrraedd i gyd ar unwaith wedyn.

Mae’n ddiddorol nodi bod y cyd-bwyllgor hawliau dynol wedi rhybuddio y gallai’r broses o gyflwyno’r budd-dal credyd cynhwysol wneud menywod yn agored i gael eu cam-drin am fod y budd-dal yn cael ei dalu i gyplau trwy gyfrif ar y cyd. Dylem fod yn bryderus y gall rhai dynion gyfyngu ar fynediad eu partneriaid at arian a gorfodi menywod i aros mewn perthynas dreisgar.

Yn y cynlluniau peilot a welsom, rydym wedi gweld cynnydd anferth mewn ôl-ddyledion rhent, sydd â goblygiadau i landlordiaid tai cymdeithasol a landlordiaid tai cyngor. Rydym wedi clywed eisoes fod llawer o bobl bellach yn ddigartref o ganlyniad. Rydym wedi gweld y cynnydd enfawr yn y galw mewn banciau bwyd. Mae llawer wedi cael eu gyrru i freichiau benthycwyr arian didostur, ac maent yn codi cyfraddau llog gormodol ar bobl sydd am fwydo eu plant. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi—sefyllfa gywilyddus mewn gwlad sydd yn bumed wlad gyfoethocaf y byd, a lle y bydd Llywodraeth y DU wedi gwneud gwerth £80 biliwn o doriadau treth, gan gynnwys gwerth £22 biliwn o doriadau treth incwm, erbyn 2021. Rwy’n credu ei bod yn bryd chwistrellu rhywfaint o gyfiawnder i mewn i’r system hon, er mwyn ailgydbwyso’r anghydraddoldeb yn y wlad hon, ac i wneud yn siŵr fod pawb yn cael ei gymell i gyfrannu ac i weithio.

Rwy’n ofni fy mod yn anghytuno â’r cynnig y dylid datganoli rheolaeth dros les. Nid wyf yn credu bod unrhyw obaith y bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau’r arian ar gyfer lles gan ildio rheolaeth weinyddol. [Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:50, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Na, nid wyf yn meddwl y gallwch ildio oherwydd mae eich amser eich hun wedi dod i ben. Felly, os gallwch ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:51, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n meddwl ei bod yn werth tanlinellu’r swm enfawr o arian sy’n dod i Gymru yn ychwanegol at y grant bloc o ganlyniad i fudd-daliadau lles. Rwy’n meddwl y buasem yn mynd ar drywydd peryglus iawn pe baem yn dilyn y llwybr cynhennus hwnnw.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:52, 25 Hydref 2017

Un o brif broblemau credyd cyffredinol ydy ei fod o’n cael ei dalu i gartrefi yn hytrach nag unigolion, ac rwy’n mynd i ganolbwyntio ar yr agwedd yna am ychydig. Dim ond un person fydd yn cael derbyn yr arian ar ran y cartref, felly mae yna gwestiynau o gydraddoldeb yn codi yn syth efo hynny, oherwydd mae’n debygol mai’r dyn fydd yn ei dderbyn yn y rhan fwyaf o achosion—nid bob tro o bell ffordd, ond yn y mwyafrif o achosion, mae’n bur debyg. Bydd hyn yn cynyddu dibyniaeth ariannol merched ar ddynion ac yn milwrio yn erbyn y ffaith bod dynion a merched yn gydradd. Mae hawl merched i annibyniaeth ariannol yn hawl sylfaenol—hawl sy’n cael ei danseilio efo credyd cyffredinol. Mae o felly’n gam sylweddol yn ôl yn yr ymdrech i gael cydraddoldeb llawn rhwng dynion a merched—ymdrech y mae rhai ohonom ni yn rhan ohono fo ers 40 mlynedd a mwy erbyn hyn. Mae’r daith tuag at gydraddoldeb llawn yn boenus o araf fel y mae hi. Mae unrhyw gam yn ôl—a dyna beth ydy hwn—angen ei gollfarnu gan y Cynulliad hwn, ac yn bwysicach na hynny, mae angen ei newid o, a defnyddio’r hawliau y gallem ni eu cael yn fan hyn i newid o. Mae angen i fudd-dal gael ei dalu i unigolion, nid i gartrefi.

Mae un agwedd ar hyn yn peri pryder mawr. Mae talu’r budd-dal i un person mewn cartref yn gallu golygu byddai rhai merched yn cael eu dal mewn perthynas o gamdriniaeth. Gyda’r dyn yn derbyn yr arian, y dyn sydd â’r pŵer, ac os ydy’r dyn hwnnw hefyd yn euog o gam-drin ei wraig neu ei bartner, mae’r sefyllfa yn anodd iawn i’r ferch. Mae rhai sydd o blaid credyd cyffredinol yn dadlau bod yna fecanwaith ar gyfer gweithio yn erbyn hynny, ond mae hynny’n safbwynt naïf iawn yn fy marn i. Mae hanner y merched sy’n cael eu cam-drin yn methu â gadael y berthynas oherwydd camdriniaeth ariannol. Efallai bod y ferch yn aros mewn perthynas niweidiol am ei bod yn poeni y byddai yna oblygiadau ariannol difrifol iddi hi petai hi’n gadael.

Mae’r arian ei hun yn cynyddu camdriniaeth. Gall un partner gadw arian yn ôl o’r llall gan ddefnyddio grym ariannol mewn ffordd hollol annerbyniol. O dan credyd cyffredinol, os ydy cwpl yn gwahanu, mae’n rhaid i un person rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Nid yw’r person sydd yn derbyn y budd-dal yn mynd i fod yn barod i wneud yr hysbysiad. Felly, yn y rhan fwyaf o achosion, eto, y merched fydd yn gorfod gwneud hynny ac yn cael eu dal allan yn y broses, ar adegau. Mae’n rhaid gwneud cais newydd, a fydd yn cymryd o leiaf pum wythnos i’w brosesu. I ddynes sydd heb arian ac, o bosib, plant i ofalu amdanyn nhw, mae amser fel aur. Nid ydy gwneud cais newydd bob tro ddim yn flaenoriaeth pan fyddwch chi’n ffoi am eich bywyd neu’n poeni am ddiogelwch eich plant. Petai’r budd-dal yn cael ei dalu i bob unigolyn, yna ni fyddai angen mynd drwy’r broses fiwrocrataidd o gofrestru pan fo dau unigolyn yn gwahanu.

Rŵan, wrth gwrs, petai gennym ni’r hawl i weinyddu ein budd-daliadau ein hunain yng Nghymru, fe allem ni newid hynny. Gweinyddu yr ydym ni’n sôn amdano fo yn y fan yma, cofiwch, nid derbyn yr hawl i greu budd-daliadau newydd, nid sôn am ariannu, ond y gweinyddu. Ac mi fyddai cael gafael ar hynny’n medru bod yn ffordd o greu system deg. Ie?

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 5:55, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ildio, ac mae hwnnw’n bwynt pwysig, oherwydd, wrth gwrs, buasai datganoli cyllideb ar gyfer yr holl system les yn her enfawr i ni, o ystyried cyfyngiadau cyllidol y wlad. Ond mae gweinyddu lles yn fater arall, ac wrth gwrs, nododd Ysgrifennydd y Cabinet y costau gweinyddol yn gynharach. Addaswyd y grant bloc yn yr Alban yn y flwyddyn cyn datganoli gweinyddu cyfiawnder fel bod swm ychwanegol i’r grant bloc yn yr Alban ar gyfer costau gweinyddu, y costau cychwynnol. Felly, nid mater o ddechrau o linell sylfaen ydyw’n llwyr. Fodd bynnag, mae hynny’n arwain at gwestiynau difrifol wrth gwrs.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:56, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ymyriad yw hwn, nid araith.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ond bydd awdurdodau lleol Cymru’n talu’r pris beth bynnag am ddiwygio lles Torïaidd, felly buasem yn talu’r gost un ffordd neu’r llall beth bynnag.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn am esbonio hynny. Hynny yw, yn yr Alban, pan ddatganolwyd rhai pwerau lles, fe ddaru Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithio allan faint i’w ychwanegu at y ‘block grant’ ac fe grëwyd gwaelodlin. Felly, mae yna ffordd o gwmpas y problemau ariannol, a sôn yr ydym ni am y gweinyddu—ac mae’n rhaid pwysleisio hynny dro ar ôl tro. A dyna ydy’r pwynt: petaem ni yn medru cael gafael ar y gweinyddu, mi fyddem ni’n gallu newid rhai elfennau o’r system fudd-daliadau. Mae’n rhy hawdd lluchio’r bai at y Torïaid yn Llundain. Oes, mae eisiau pwyntio allan bod hyn yn rhan o grwsâd ideolegol y diwygio lles, ond mae eisiau gwneud mwy na hynny, ac mae eisiau cynnig atebion, ac dyma un ateb yn cael ei gynnig yn fan hyn heddiw: rhowch y gweinyddu i ni yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu creu system deg. Ac, os ydych chi’n coelio mewn creu system deg yng Nghymru, wel, os nad ydych chi’n cael eich perswadio heddiw yma, edrychwch i mewn iddi a dewch efo ni i edrych am ffyrdd inni fedru symud ymlaen i greu system sydd ddim yn milwrio yn erbyn pobl fwyaf gwan ein cymdeithas ni.

Mi ddylai pawb sy’n deisyfu gwell gyfundrefn weithio tuag at hyn. Rydych chi wedi clywed am greu tarian i warchod Cymru rhag eithafion y Ceidwadwyr a’r wladwriaeth Brydeinig. Wel, byddai gweinyddu rhannau o’r system fudd-daliadau ein hunain yn darian yn erbyn rhai o eithafion credyd cynhwysol a system hollol anhrugarog.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:58, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae system newydd y credyd cynhwysol yn peri pryder mawr ymhlith y rhai a fydd yn cael eu heffeithio ganddi. Rydym yn gweld hyn o ganlyniadau’r broses o’i gyflwyno hyd yn hyn. Felly, yn UKIP, rydym yn rhannu’r pryderon. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru i’r graddau hynny, ac rydym yn meddwl bod Plaid Cymru’n iawn i gyflwyno hyn fel pwnc ar gyfer dadl, er nad ydym yn cefnogi uchelgais Plaid Cymru y dylai lles gael ei ddatganoli i Gymru. Yn hynny o beth, rydym yn cefnogi Llafur ar yr achlysur hwn mewn gwirionedd, gan nad ydym yn credu bod datganoli’r system les i’r Cynulliad Cenedlaethol yn ateb ymarferol i’r problemau sy’n wynebu Cymru, a gallai wneud pethau’n llawer gwaeth mewn gwirionedd, am y rhesymau a glywsom, fod Cymru’n dderbynnydd net o ran lles a’r anallu i wybod a fyddwn yn cael yr un lefel o gyllid pe bai lles wedi’i ddatganoli. Rwy’n derbyn efallai fod Steffan Lewis wedi codi pwynt sydd angen ei archwilio ymhellach, ond dyna ein safbwynt fel y mae ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn cytuno â’r Ceidwadwyr i ryw raddau, y gallai’r egwyddorion sy’n sail i’r credyd cynhwysol fod wedi bod yn ganmoladwy o ran helpu pobl yn ôl i’r gwaith fel cysyniad. Ond mae’r ffordd y mae’r drefn newydd wedi ei llunio mor ddiffygiol fel ei bod yn ein rhoi mewn gwaeth sefyllfa nag o’r blaen yn ôl pob tebyg.

Clywsom dystiolaeth ar y pwnc yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cawsom academyddion o unedau polisi cymdeithasol yn dod i mewn a oedd wedi cyfweld llawer o hawlwyr a oedd yn rhan o’r broses o gyflwyno’r credyd a gofynnwyd i sampl o’r hawlwyr beth oedd eu barn am y cynllun newydd. Ar y cyfan, nid oedd croeso i’r system newydd. Roedd y prif broblemau’n cynnwys mynediad at y system yn y lle cyntaf, oedi gyda thaliadau, problemau ynglŷn â ble y bydd y taliad yn mynd lle y ceir ceisiadau ar y cyd, a sancsiynau.

Un agwedd ar y system newydd yw’r anhawster i wneud y cais yn y lle cyntaf. Nawr, ychydig flynyddoedd yn ôl cawsom newid o system lle y byddai’r rhan fwyaf o hawlwyr newydd am fudd-daliadau’n gwneud apwyntiad i weld rhywun, person go iawn, mewn canolfan waith neu swyddfa debyg, i system lle y câi’r rhan fwyaf o geisiadau newydd eu gwneud dros y ffôn. Felly, roedd hynny’n codi un lefel o anhawster. Nawr, gyda chredyd cynhwysol, rydym yn symud ymlaen at lefel newydd o anhawster, oherwydd erbyn hyn caiff y ceisiadau cychwynnol eu gwneud ar-lein. Felly, mae hyn yn codi’r mater nad yw rhai hawlwyr ar-lein ac ni allant wneud pethau ar-lein, a’r perygl yw y gallai llawer o’r bobl hynny ddisgyn trwy’r craciau.

Ar ôl i chi gael eich cais wedi ei brosesu, y broblem nesaf yw’r oedi dros daliadau. Wel, rydym wedi clywed llawer am y pwnc hwnnw heddiw. Manylodd Bethan Jenkins ar hynny yn ei chyfraniad agoriadol wrth iddi dynnu sylw at y risg y bydd hawlwyr yn mynd i fwy o ddyled oherwydd yr oedi. Ceir risg hefyd o fynd i ddyled gyda’r rhent, rhywbeth arall y clywsom lawer amdano, oherwydd y system lle y telir y rhent i’r hawlwyr eu hunain mewn cyfandaliad mawr, ac ni chaiff ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord mewn gwirionedd. Yn anffodus, mae’r dull hwn yn cynyddu’r perygl y bydd pobl yn mynd i ddyled a landlordiaid yn methu cael eu rhent. Amlygodd Eluned Morgan y problemau gyda cheisiadau ar y cyd, a phwy sy’n cael y taliad, a’r ffaith nad oes unrhyw amddiffyniad go iawn wedi’i gynnwys yn y system ar gyfer menywod a phlant, er nad y fenyw sy’n cael y taliad bob amser wrth gwrs, ond yn gyffredinol mae hwnnw’n bwynt sydd angen inni ei ystyried.

Pan fyddwch yn y system ac yn cael eich taliad, mae bygythiad hollbresennol o sancsiynau, a grybwyllwyd gan Leanne Wood. Nawr, o dan gredyd cynhwysol, mae cyfundrefnau’r sancsiynau’n llymach, ac wrth gwrs, fel mewn unrhyw fiwrocratiaeth—ac mae’r system les yn fiwrocratiaeth enfawr—gall sancsiynau gael eu gosod ar gam. Dyma enghraifft. Mae’r system credyd cynhwysol yn gorfod ymdrin nid yn unig â phobl nad ydynt yn gweithio, ond hefyd â phobl sy’n gweithio, ond mewn swyddi ar gyflogau isel. Mae hyn oherwydd ei fod hefyd yn cymryd lle credydau treth gwaith. Y broblem yw y gallech chi, o dan yr hen system, hawlio credydau treth gwaith heb ymweld â’r ganolfan waith, gan eu bod yn cael eu hawlio drwy’r system dreth. Nawr, os oes gennych swydd, ond bod y cyflog yn isel, mae’n rhaid i chi fynd i’r ganolfan waith i hawlio eich taliadau ychwanegol. Felly, rydych yn gweithio, efallai mewn swydd reolaidd amser llawn, naw tan bump, ond mae’n rhaid i chi hefyd fynd i’r ganolfan waith yn rheolaidd. Tybed a allwch weld i ble rydym yn mynd gyda hyn: ie, pobl sydd â swyddi’n cael apwyntiadau yn y ganolfan waith sy’n gwrthdaro â’u horiau gwaith. Maent yn methu’r cyfweliadau hyn, yn ddealladwy, ac yna’n wynebu sancsiynau gan y ganolfan waith am fethu dod i’r apwyntiadau hynny. Os caiff rhywun ei ddal yn y math hwn o drap, mae’n camu i fyd Kafkaidd o frwydro yn erbyn biwrocratiaeth ddi-hid, ac anaml iawn y bydd yr unigolyn yn ennill y frwydr honno.

Hyd yn oed os oes gennych swydd sy’n mynd â 10 awr, dyweder, byddwch yn cael eich annog—eich blacmelio mewn geiriau eraill—i gymryd swydd arall am 15 awr. Mae’r ymagwedd anhyblyg hon yn arwain at sefyllfaoedd hurt fel dweud wrth fenyw dros 60 oed â thair swydd ganddi am gyfanswm o 21 awr am gael swydd arall. Gall sancsiynau ddod ar hap, a gallant ddigwydd chwe mis ar ôl y camymddwyn honedig. Mae’r broblem gyda hyn yn ddeublyg. Un broblem yw na fydd yr unigolyn sy’n cael ei sancsiynu yn cofio’r rheswm drosto yn ôl pob tebyg, felly ni fydd yn gallu apelio’n effeithiol. Problem arall yw y bydd yn annisgwyl i raddau helaeth, felly unwaith eto mae’n creu risg y bydd yr hawliwr yn mynd i ddyled neu ôl-ddyled gyda’r rhent—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:03, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Ydw. Felly, yn gyffredinol, rydym yn cytuno bod hon yn broblem enfawr. Y broblem arall nad oes neb wedi siarad amdani, ac nad oes gennyf amser i’w thrafod, yw nad oes unrhyw ffordd ystyrlon o ailhyfforddi pobl drwy’r system ar hyn o bryd, a dyna’r elfen hanfodol. Os ydych yn mynd i gael pobl i weithio, pam nad oes unrhyw bwyslais go iawn ar eu hailhyfforddi a’u cael i mewn i gyflogaeth ystyrlon? Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:04, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Nawr, fel y clywsom, pan gynigiwyd y credyd cynhwysol yn gyntaf, croesawodd llawer o bobl agweddau arno fel symleiddiad o’r hyn a oedd wedi mynd yn system chwerthinllyd o gymhleth. Fodd bynnag, trwy ddawn brin Iain Duncan Smith AS cafodd y methiant hwnnw ei achub ar y funud olaf o enau unrhyw ganlyniad cadarnhaol bach posibl.

Ac mae problemau gyda’r system fudd-daliadau yn codi eu pennau’n aml yn fy meddygfa. Mae hynny bob amser wedi bod yn wir. Mae problemau gyda thlodi a budd-daliadau’n codi eu pennau’n aml yn y maes meddygol oherwydd y tlodi a’r straen a’r pryder a’r iselder sy’n deillio o gamreolaeth lwyr ar y modd nad yw pobl sydd angen arian yn gallu cael yr hyn a oedd—fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet—yn nawdd cymdeithasol. Rydym wedi anghofio’r rhan honno, ynglŷn â gwneud yn siŵr fod ein pobl sydd ei angen yn cael nawdd.

Cafwyd pryderon mawr ynglŷn ag agweddau ar sut y cynlluniwyd y credyd cynhwysol o’r cychwyn, fel y clywsom gan Bethan Jenkins ac eraill: y taliadau misol, y gyfradd tapr uchel, y cosbau i ail enillwyr ac yn y blaen. Ac yn amlwg rydym wedi gweld hefyd, mewn ardaloedd lle y cyflwynwyd y credyd cynhwysol, fod y defnydd o fanciau bwyd wedi cyrraedd lefelau epidemig. Mae’r sefyllfa bresennol, yn amlwg, yn gwbl annerbyniol.

Ond mae’r pryderon ynglŷn â chredyd cynhwysol, y taliadau misol, y cosbau i ail enillwyr ac yn y blaen, wyddoch chi, gallwch fynd i’r afael â hwy, fel y clywsom, yn syml iawn—rydych yn newid y taliadau i bob pythefnos neu bob wythnos, rydych yn caniatáu i’r cydrannau tai gael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid, os mai dyna y mae pobl ei eisiau, er mwyn osgoi ôl-ddyledion, rydych yn talu unigolion nid aelwydydd, nid ydych yn codi tâl ar bobl sy’n ffonio’r llinell gymorth ac yn caniatáu dewisiadau eraill yn lle rhyngweithio ar-lein i’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, ac rydych yn rhoi diwedd ar ddiwylliant o sancsiynau i’r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas.

Mae’r camau lliniaru hyn eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan eu bod eisoes wedi eu datganoli yno. Felly, byddai datganoli rheolaeth weinyddol i Gymru yn ein galluogi i wneud taliadau bob pythefnos nid yn fisol, i wneud taliadau i unigolion nid aelwydydd, i dalu’r cydrannau tai’n uniongyrchol i landlordiaid er mwyn atal ôl-ddyledion a throi allan, i fod yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol staff yr Adran Gwaith a Phensiynau, a fydd yn caniatáu llawer mwy o hyblygrwydd ar gyfer lleihau sancsiynau os nad eu dileu’n gyfan gwbl mewn gwirionedd, a gallai cysylltu cynlluniau’r Adran Gwaith a Phensiynau â chynlluniau sgiliau sydd eisoes yn bodoli greu bargen newydd i Gymru ac ailhyfforddiant.

Nawr, fel y dywedais, ac mae wedi cael ei ddweud, mae lles eisoes wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gofelir am gostau rheoli gweinyddol gan fod lefel y budd-daliadau a’r cyllid yn parhau i gael eu gosod gan y Trysorlys. Mae Llafur yn cefnogi datganoli’r system fudd-daliadau yn yr Alban. Yn wir, mae bob amser yn gwthio’r Llywodraeth SNP i fynd ymhellach. Nid oes unrhyw broblem yno ynglŷn â pheidio â bod eisiau i fudd-daliadau fod wedi’u datganoli yn yr Alban o safbwynt Llafur; maent am i’r SNP weithio hyd yn oed yn galetach ar hynny.

Felly, bydd newid amlder y taliadau’n atal pobl rhag cael eu troi allan a digartrefedd, sy’n creu cost sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal, wrth iddynt orfod wynebu canlyniadau troi allan a digartrefedd, heb sôn am leihad enfawr yn y defnydd o fanciau bwyd. Mae’n rhaid inni weinyddu’r system bwdr hon yn well: rhowch yr offer inni wneud hynny, fel y mae Llafur yn gwthio’r SNP yn yr Alban. Mae Llafur yn cefnogi datganoli lles cymdeithasol o San Steffan i Holyrood ac mae unrhyw arian sydd ei angen i’w weinyddu wedi ei sicrhau yn amlwg. Felly, mae cefnogi datganoli budd-daliadau yn yr Alban yn ddigon teg i Lafur. Ei gefnogi yng Nghymru—nid yw ar yr agenda. Cefnogwch gynnig Plaid Cymru er mwyn lliniaru canlyniad trychinebus credyd cynhwysol yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:08, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â chanolfan waith lle y cyfarfûm â thîm o bobl a oedd yn cyflwyno’r credyd cynhwysol. Mae’r unigolion y cyfarfûm â hwy yn gwneud yr hyn a allant i gefnogi eu hawlwyr, ond mae eu system weithredu wedi torri, system a gynlluniwyd heb ystyried bywydau hawlwyr, un a gynlluniwyd ar gyfer sut y mae’r Llywodraeth yn teimlo y dylai pobl fyw, nid y ffordd y mae pobl yn byw—heb ystyriaeth i realiti, straen, a chymhlethdod pur ymdopi ar incwm isel iawn.

Mae pobl sy’n ceisio dod i ben o wythnos i wythnos yn gorfod aros am chwe wythnos am eu budd-daliadau. Pwy sydd ddim yn mynd i gael trafferth heb incwm am chwe wythnos? Bydd llawer o bobl yn cael eu gadael mewn anobaith, ac mae pawb ohonom wedi clywed straeon personol erchyll am galedi go iawn, am amseroedd aros o chwe wythnos, am ôl-daliadau, am gael trafferth i lwyddo i dalu’r rhent a rhoi bwyd ar y bwrdd.

Nawr, clywn fod rhai’n cael eu rhoi ymlaen llaw ac mae rhai yn cael cynnig taliadau bob pythefnos, ond mae oedi’n llawer mwy nodweddiadol, ac eithriadau yw’r disgresiynau hynny, lle y maent yn bodoli, sy’n dibynnu ar benderfyniadau unigol y bobl sy’n trin achosion. Ni ddylai’r penderfyniadau hynny fod yn seiliedig ar ddisgresiwn unigolion. Dylent ddigwydd fel mater o drefn. Rwy’n sicr y byddai Llywodraeth Cymru â phwerau dros y ffordd y caiff credyd cynhwysol ei weithredu a’i weinyddu yn gwneud pethau’n wahanol: taliadau cyflymach ac amlach i adlewyrchu realiti bywydau pobl ac nid y bywydau y byddem yn dymuno iddynt eu cael. Ond gadewch inni fod yn hollol glir: nid y broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn unig yw’r broblem; mae’r holl ffordd y cafodd ei gynllunio yn ddiffygiol iawn. Y bwriad oedd gwneud i waith dalu, ond ni fydd yn gwneud i waith dalu tra byddwch yn colli 63c o fudd-dal am bob £1 ychwanegol a enillwch, ac i’r rhai sydd heb waith, mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Nid yw credyd cynhwysol hyd yn oed yn dechrau talu unrhyw gostau byw realistig, gan gynnwys cost tai, ac rydym i gyd yn gwybod bod hyn yn anghymell landlordiaid rhag cymryd tenantiaid credyd cynhwysol.

Os ydych chi’n ddi-waith yn eich 20au cynnar, rydych ar £58 yr wythnos. Mewn economi lle y mae costau byw’n parhau i godi, pwy ar y ddaear sy’n gallu ymdopi ar hynny? Cymharwch hynny â’r cymorth y mae’r wladwriaeth yn ei roi i bobl mewn gwaith: mae’r lwfans treth personol yn werth £220 yr wythnos. Mae’r gyfran o’n cyfoeth cenedlaethol sy’n mynd at y lwfans treth personol yn codi, ac mae’r gyfran o’n cyfoeth cenedlaethol sy’n mynd ar fudd-daliadau credyd cynhwysol yn disgyn. Mae hynny’n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod. Mae budd-dal a oedd yn honni ei bod yn ymwneud â gwneud i waith dalu mewn gwirionedd yn gwneud i hawlwyr dalu. Ac wrth i’r credyd cynhwysol gael ei gyflwyno, bydd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwrw yn ei blaen heb boeni dim am y trallod y mae’n ei achosi, heb falio am y bobl y mae’n eu brifo, yn rhy wan i weld y diffygion yn ei chynllun, yn rhy wan i roi’r gorau iddi ac ailfeddwl.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:11, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:12, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon. Rwy’n rhannu pryder yr Aelodau ynglŷn â’r effaith ddinistriol y mae’r broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn ei chael ar bobl agored i niwed yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydym yn bryderus iawn am doriadau lles di-baid Llywodraeth y DU a sut y maent yn effeithio ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Rwyf wedi mynegi dro ar ôl tro ein pryderon wrth Lywodraeth y DU, ac wedi ysgrifennu yn galw am oedi’r broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol.

Llywydd, rwy’n croesawu’r penderfyniad hwyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yr wythnos diwethaf i wneud y llinell gymorth credyd cynhwysol yn ddi-dâl o fis nesaf ymlaen. Mae’r amser y mae pobl yn gorfod aros cyn derbyn eu taliad credyd cynhwysol cyntaf—oddeutu chwe wythnos neu fwy—yn un o’r materion mwyaf sy’n effeithio ar bobl sy’n symud ymlaen at gredyd cynhwysol, ac rwy’n ddiolchgar am gyfraniad Angela Burns ddoe; mae hi’n hollol onest ac yn gywir yn yr hyn a ysgrifennodd. Yr hyn sy’n peri fwyaf o bryder, yw na fydd nifer o’r rhai sy’n hawlio credyd cynhwysol o’r newydd ac sy’n ceisio cael cymorth hanfodol tuag at eu costau tai yn gallu fforddio talu eu rhent i’w landlord hyd nes y daw’r taliad cyntaf i law. Mae awdurdodau lleol lle y mae gwasanaethau credyd cynhwysol llawn eisoes yn weithredol yn gweld cynnydd yn y rhent i nifer o denantiaid, ac mae hyn yn achosi, neu’n gwaethygu, problemau dyled i’r rhai sydd fwyaf o angen cymorth, ac yn arwain at ganlyniadau difrifol, Llywydd, i lawer o bobl sy’n wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i’r ffaith nad oes ganddynt arian i dalu eu rhent. Rydym yn clywed gan Lywodraeth y DU y gall hawlwyr ofyn am drefniant talu amgen i sicrhau bod eu costau tai cyntaf yn cael eu talu’n uniongyrchol i’w landlordiaid. Nid wyf yn argyhoeddedig fod y prosesau presennol yn ddigon cadarn, fodd bynnag, na’n ddigon hyblyg i sicrhau bod hyn yn digwydd i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o beidio â thalu eu costau tai, gyda’r risg o gael eu troi allan a digartrefedd. Dyfynnodd Mark Isherwood yn huawdl ran o’r hyn a ddywedais am egwyddorion cyffredinol y ffordd y mae hyn yn gweithredu. Nid oedd cyflwyno’r credyd cynhwysol yn anghywir—mae’n iawn i ddweud hynny—ond ni orffennodd yr hyn a ddywedais ynglŷn â bod yr egwyddorion cyffredinol yn iawn, ond mewn gwirionedd, mae’r system yn ddiffygiol, nid yw’n gweithio, ac mae’n effeithio’n enbyd ar ein cymunedau, a dyna pam y mae angen i ni ei hatal.

Mae ein pobl fwyaf agored i niwed, sydd eisoes yn ceisio ymdopi ag amgylchiadau anodd a chymhleth yn eu bywydau, bellach yn gorfod mynd drwy’r rhwystr ychwanegol o gael mynediad at y cymorth brys hwn drwy gredyd cynhwysol. Addawodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar 2 Hydref y byddai’r amser aros yn cael ei leihau i bobl wrth wneud cais am gredyd cynhwysol drwy ofyn am daliadau ar unwaith ar yr un diwrnod ar gyfer peth o’r arian neu ofyn am daliad ymlaen llaw o 50 y cant. Nid wyf yn ystyried bod yr ateb cyflym hwn yn gynaliadwy fel ateb parhaol i hawlwyr sy’n agored i niwed a allai fod eisoes mewn dyled yn awr, a gallai benthyca fel hyn eu gwthio ymhellach dros y dibyn i ddyled yn hawdd. Nid yw’n gweithio. Mae angen ei atal. Fel mater o frys, mae angen i Lywodraeth y DU leihau’r amser aros am y taliad cyntaf yn sylweddol, cael gwared ar y cyfnod aros o saith niwrnod a newid y sefyllfa ddiofyn i’r rhai sydd â chostau tai i’w talu’n uniongyrchol i’r landlord. Mae angen iddynt adfer taliadau pythefnosol hefyd i’r rhai sydd angen taliadau mwy rheolaidd.

Gwrandewais ar gyfraniad Aelodau Plaid Cymru. Y ffaith amdani yma yw y gall Llywodraeth y DU wneud hyn. Gallant leihau’r amser aros. Gallant adfer y taliadau pythefnosol. Yr un system yn union sy’n gweithredu yn yr Alban ag sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr. Clicied ar y peiriant ydyw, dyna i gyd. [Torri ar draws.] Fe ildiaf, wrth gwrs.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:15, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Mae’n gwneud y pwynt hollol briodol. Trasiedi hyn—. Ceir trychinebau dynol ac rydym yn eu gweld yn datblygu yn awr ac mae’n mynd i fynd yn llawer gwaeth, ond trasiedi lywodraethol hyn yw ei fod wedi cael ei dreialu. Mae’r dystiolaeth wedi bod yn glir, nid ers y chwe wythnos neu’r chwe mis diwethaf, ond yn y blynyddoedd y cafodd hyn ei dreialu o’r dechrau un, fod y cynllun yn anghywir, a gallant ei wneud yn iawn. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, mai’r hyn y mae’r Aelodau’n ei feddwl—gan gynnwys rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol ac yn cynnwys rhai ar y meinciau yma hefyd, rhaid i mi ddweud—yw’r trugaredd sy’n dweud, ‘Gadewch inni wneud i’r polisi weithio. Ei gyweirio ar y pen hwnnw fel ei fod yn ei gwneud hi’n werth mynd i’r gwaith go iawn ac y bydd gwaith yn talu.’ Gellir ei wneud a dylent ei wneud yn awr, a gallent ei wneud.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:16, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn iawn yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn y gofod hwnnw. Yr hyn a wyddom yw bod methiant i—[Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Esgusodwch fi, a gawn ni ymatal rhag cael trafodaethau rhwng y meinciau, os gwelwch yn dda? Rydym am wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf am ddweud wrth unrhyw un am fod yn dawel, ond rydych yn fy ngwthio heddiw ac am ei bod ddiwedd tymor, rwy’n siwr. Felly, fe wrandawn ar Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:17, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yr hyn nad ydym yn ei gydnabod yma, mewn gwirionedd, yw bod hawlydd sy’n methu mynd i un o’r cyfarfodydd, am ba reswm bynnag—salwch, neu fynd i weithio, fel y dywedodd yr Aelod yn gynharach—yn cael ei sancsiynu mewn gwirionedd. Wel, efallai y dylem ddechrau’r sancsiynau hynny gyda’r ASau na fynychodd y Senedd, yr ASau Torïaidd na bleidleisiodd yn y ddadl ar y credyd cynhwysol. Dyna ble y dylem ddechrau efallai.

Rwy’n ddiolchgar am gyfraniadau’r Aelodau yma, ond roeddwn yn synnu braidd at gyfraniad arweinydd Plaid Cymru o ran y broses o gyflwyno’r budd-dal i Gymru. Pan ofynnais iddi am gost hyn, nid oedd gan yr Aelod syniad o gwbl. A dweud y gwir, egwyddor yr hyn y mae’n ceisio ei gyflawni yw—. Nid wyf yn anghytuno â hi, ond mewn gwirionedd, nid ydych wedi gwneud y gwaith cartref am Lywodraeth yr Alban yn talu £200 miliwn ymlaen llaw ac yna £66 miliwn y flwyddyn i weinyddu hyn yn unig—dim i’w wneud â’r system fudd-daliadau o gwbl—pan ddylai Llywodraeth y DU, os mai dyna’r peth iawn i’w wneud, fod yn ei wneud yn y lle cyntaf.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs y gwnaf.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Y pwynt a wneuthum wrth ymyrryd yn gynharach oedd bod Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i negodi fframwaith cyllidol a oedd yn caniatáu addasiad i’r bloc Barnett er mwyn gweinyddu lles yn yr Alban. A yw’n dweud nad oes ganddo hyder i fynd i Lundain i negodi setliad ar gyfer Cymru er mwyn iddo allu gweinyddu lles yma a dod â’r anghyfiawnder i ben yn awr?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Llundain ac rwyf wedi siarad â’r Arglwydd Freud am yr union faterion a grybwyllodd eich cyd-Aelod, yn enwedig ynglŷn â materion menywod a’r ffordd y caiff ceisiadau eu gwneud. Ond yr hyn y dylai’r Aelod ei ystyried go iawn—[Torri ar draws.] Yr hyn y dylai arweinydd yr wrthblaid—. Yr hyn y dylai arweinydd Plaid Cymru, dylwn ddweud, ei ystyried yw bod ei chyfraniad, mewn gwirionedd, yn un gwan pan nad oedd hi hyd yn oed yn gwybod y ffigurau. Felly, gallwn ei adael yn y fan honno.

Gadewch i mi nodi ymyriad yr Aelod sydd, mewn gwirionedd, os yw’n credu ei bod yn iawn talu £266 miliwn yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer costau gweinyddu pan all Llywodraeth y DU wneud hyn drwy godi beiro neu drwy ddweud wrth y cyfrifiadur, ‘Dyma sut rydym am i’r system weithredu’, a phan allem ddefnyddio’r arian hwnnw’n fwy gofalus ar gyfer ymyrraeth gyda chefnogaeth, mae ffordd hir gan yr Aelod i ystyried yr ymyriad ar hyn.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn mynd i dderbyn rhagor o ymyriadau gan Aelodau oherwydd—[Torri ar draws.] Wel—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Na—parhewch, felly.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Y mater yn y fan hon, Llywydd, yw gwneud yn siŵr fod yr hyn a wnawn yma’n addas i’r diben, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Plaid Cymru yn amlwg wedi cyflwyno ystyriaeth feddylgar i’r Siambr—

Rhun ap Iorwerth a gododd—

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—ond nid ydynt wedi ystyried y broses honno’n llawn, yn enwedig costau gwneud hyn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:20, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Bethan Jenkins i ymateb i’r ddadl.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Yn anad dim arall, rwy’n credu ein bod wedi cael dadl fywiog arall, ac rwy’n credu bod hynny’n dda i ddemocratiaeth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni ddechrau ar y costau gweinyddol y mae Steffan Lewis wedi ymyrryd arnynt ddwywaith. Mae cytundeb y fframwaith cyllidol—[Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Tawelwch yn awr.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn 2016 yn datgan y bydd fformiwla sylfaenol Barnett—nid yw’n gwrando arnaf hyd yn oed—yn cael ei haddasu i adlewyrchu’r cyfrifoldeb dros les, gan gynnwys costau a gweinyddiaeth—gan gynnwys costau a gweinyddiaeth. Mae’n dweud ym mhwynt 31, a dyfynnaf,

Mae’r ddwy Lywodraeth wedi cytuno y bydd y llywodraeth y DU yn darparu £200 miliwn i Lywodraeth yr Alban i gefnogi’r broses o weithredu pwerau newydd. Trosglwyddiad untro fydd hwn (heb linell sylfaen) i ychwanegu at y grant bloc, i gefnogi’r swyddogaethau a drosglwyddir. Mae proffil y trosglwyddiad hwn i’w gytuno gan Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd.

Felly, mae’n gwbl bosibl mynd i Lundain, os yw Llywodraeth Cymru eisiau gwneud hynny, a galw am y mathau hynny o sgyrsiau. Mae’r ffaith na fyddwch hyd yn oed yn trafferthu mynd i ofyn yn dyst i’ch arweinyddiaeth, nid i arweinyddiaeth Leanne Wood am wneud araith, a’ch penderfyniad i ofyn cwestiwn iddi. Mae’n dyst i’ch arweinyddiaeth, fel Ysgrifennydd y Cabinet yn hyn o beth. Ac nid ni’n unig sy’n credu y dylem, o bosibl, ddatganoli rhai o’r pwerau hynny—fe ddywedodd Jeremy Miles hynny heddiw. Ac ar y pwyllgor cydraddoldeb yn ddiweddar, cawsom academyddion i lawr o’r Alban a ddywedodd wrthym, lle y mae 15 y cant o fudd-daliadau anabledd wedi cael eu datganoli i’r Alban, maent wedi ei wneud mewn ffordd drugarog, egwyddorol, a byddwn yn mynd ati i edrych ar y cynigion hynny fel pwyllgor—[Torri ar draws.] Mae’n rhyfeddol yn awr na wrandewir arnaf, pan fo gennym—

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—syniadau adeiladol i adeiladu ein system les bosibl ein hunain ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, fel na fydd yn rhaid i ni, o bosibl, osod sancsiynau ar bobl, ac y gallwn weinyddu taliadau gyda pharch i’r unigolion. Pam na all Llywodraeth Cymru ystyried hynny? Nid ydym yn clywed yr ateb hwnnw yma heddiw.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Torïaid yn hyn o beth. Melin drafod Dorïaidd yw’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol y tynnodd Mark Isherwood sylw ati, gyda’r enw mwyaf paradocsaidd a grëwyd erioed ar gyfer melin drafod. Mae gennyf ddwy—.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:22, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yr unig reswm rwy’n gwneud yr ymyriad hwn yw er mwyn cofnodi bod y fainc flaen yn chwerthin ar hyn, sy’n fater difrifol—[Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:23, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—bleidlais i’w cymryd. Rwyf wedi gofyn yn gwrtais. Rwyf wedi gofyn yn gwrtais—

Mark Isherwood a gododd—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:23, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Eisteddwch, Mark, os gwelwch yn dda. Rwyf wedi gofyn yn gwrtais i bawb ohonoch wrando. Nid mewn maes chwarae rydym ni. Rydym yn ceisio cael dadl synhwyrol mewn gwirionedd. Nid wyf am i bobl ddweud wrthyf pryd i weiddi, ‘Trefn’, gan fod y bobl hynny’n gweiddi lawn cymaint ag eraill. Felly, os caiff pawb ohonom wrando yn awr ar yr hyn sydd gan Bethan Jenkins i’w ddweud mewn ymateb i’r ddadl. Peidiwch â chwifio eich breichiau arnaf, peidiwch â phwyntio at unrhyw un a gallwn fynd drwy hyn, cyn i mi alw ar rywun i roi’r bleidlais. Nid wyf am wneud hynny ar chwarae bach, ond fe’i gwnaf, gan nad ydym yn cyrraedd unman. Bethan Jenkins.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod o ddifrif ynglŷn â’r ddadl hon gan ein bod wedi gweld ar feinciau San Steffan yn flaenorol pan fydd pobl yn rhy ffwdd-â-hi ynglŷn â hyn, ac nid yw’n cael derbyniad da gyda’r cyhoedd. Nid yw’n cael derbyniad da gyda’r cyhoedd os yw pobl yn gweld pobl yn chwerthin yn y Siambr.

Y pwynt roeddwn am ei roi i Mark Isherwood yw bod hyn wedi cael ei sefydlu gan Iain Duncan Smith, a gyfaddefodd wedyn mewn gwirionedd fod eu polisïau eu hunain yn anghywir mewn perthynas â’r system fudd-daliadau. Felly, sut y gallwn fod o ddifrif am y felin drafod honno?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:24, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Do, cafodd ei sefydlu gan Iain Duncan Smith. Dyna ddatgan ffaith, ond aeth ati’n fwriadol i ddod â phrif weithredwr i mewn nad oedd yn aelod o’r blaid. A dweud y gwir, roedd yn gyn-gomiwnydd—yn sicr, ymhell i’r chwith o’r Blaid Geidwadol. Aeth ati’n fwriadol i boblogi’r canol â rhai nad oeddent yn Geidwadwyr, ac mae ganddo ASau Llafur a chyn-aelodau seneddol ar ei fwrdd rheoli yn fwriadol.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Efallai eich bod wedi sylweddoli bod fy llais yn diflannu; nid oes gennyf Strepsils fel Theresa May, ac felly nid wyf yn dymuno siarad am lawer rhagor. Ond rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod wedi cael y ddadl, rydym wedi gwyntyllu pryderon, ond rydym bob amser yn disgrifio’r broblem yma yn y Siambr hon. Rydym yn ei disgrifio am ei bod yn wael, ond yn hytrach na pharhau i ddisgrifio’r broblem, rwy’n meddwl y gallem ddod o hyd i atebion go iawn yma yng Nghymru, gan alw am y pwerau hynny yma yng Nghymru, edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud mewn rhannau eraill o’r DU, a chreu ein dyfodol ein hunain yn hyn o beth. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:25, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:25, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio.