– Senedd Cymru ar 12 Rhagfyr 2017.
Dyma ni'n dod, felly, i'r ddadl ar adolygiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17. Rwy'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyfle heddiw i drafod 'Adolygiad Blynyddol 2016-17 Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'. Croesawaf adolygiad blynyddol y Comisiwn yn fawr ac rwy'n ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiwn i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig y mae'n tynu sylw atynt. Rydym ni eisoes wedi cysoni amcanion allweddol ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2016-20 gyda'r saith her cydraddoldeb a hawliau dynol a nodir yn adroddiad cyffredinol y Comisiwn, 'A yw Cymru'n decach?' Mae'r saith her allweddol hyn yn tynnu sylw at y gwelliannau sydd eu hangen yng Nghymru. Mae cysoni ein cynllun a'n hamcanion gyda heriau'r Comisiwn yn sicrhau ein bod yn mynd ati mewn modd cydlynol a phenodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru.
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn cynnig sylfaen hyblyg ar gyfer y gwaith amrywiol iawn yr ydym ni'n ei wneud mewn sawl agwedd ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, buddsoddi'n helaeth mewn safleoedd newydd a gwell ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ein rhaglen cyllid cydraddoldeb a chynhwysiant newydd, cydweithio clos er mwyn mynd i'r afael â phob math o droseddau casineb a chael mwy o bobl i roi gwybod am droseddau o'r fath, mwy o gymorth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda mwy o arian i gefnogi plant sy'n ceisio lloches sy'n teithio ar eu pen eu hunain. Ym mhob rhan o'r gwaith hwn, ac mewn enghreifftiau eraill y byddaf yn sôn amdanynt cyn hir, rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i gyngor ac ymchwil y Comisiwn. Byddwn yn parhau gyda'r dull hwn drwy weithio gyda'r Comisiwn a thrwy wrando ac ymateb panfgyddan nhw yn ein herio.
Mae'n deg dweud bod adolygiad blynyddol eleni yn cwmpasu cyfnod digynsail o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU. Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn digwydd cyn hir, wedi esgor ar sawl ansicrwydd ynghylch llawer o bethau, gan gynnwys dyfodol y ffynonellau ariannol Ewropeaidd pwysig. Mae degawdau o aelodaeth o'r UE wedi creu gwaddol o fanteision sy'n cwmpasu sawl agwedd ar fywyd bob dydd yng Nghymru, er enghraifft yr hawliau cyflogaeth yr ydym ni'n eu coleddu. Ein nod yw diogelu'r buddiannau hyn sy'n elfennau o fywyd bob dydd yng Nghymru a byddwn yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais i dorri corneli a chreu amodau gwaeth wrth inni adael yr UE.
Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio hawliau dynol ar hyn o bryd wedi eu rhoi o'r neilltu nes y bydd cytundeb terfynol ynglŷn ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud ei bod hi'n yn bwriadu parhau i fod yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy gydol y Senedd bresennol. Rydym ni'n effro iawn i natur dros dro y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud droeon ein bod ni'n wrthwynebus iawn i unrhyw ddiwygio ar yr hawliau y mae pobl Cymru yn eu mwynhau ar hyn o bryd ac yn mynd â ni gam yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Er gwaetha'r modd y dychenir y Ddeddf weithiau, mae hi'n ddarn cynhwysol o ddeddfwriaeth sy'n diogelu ein dinasyddion ac yn galluogi pobl i herio anghyfiawnder ac anghydraddoldeb a dwyn y rhai sydd mewn grym i gyfrif. Dangoswyd hyn yn ddiweddar yn ystod yr ail gwest i drychineb Hillsborough, lle roedd teuluoedd y dioddefwyr yn gallu defnyddio'r Ddeddf Hawliau Dynol i geisio cael cyfiawnder.
Dydd Sul diwethaf oedd diwrnod hawliau dynol, sy'n coffáu'r diwrnod ym 1948 pan fabwysiadwyd y datganiad cyffredinol o hawliau dynol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Roedd y datganiad wedi'i ddrafftio gan gynrychiolwyr o bob rhanbarth yn y byd a hwn oedd y diffiniad rhyngwladol cytunedig cyntaf o hawliau pob person. Cafodd ei ysgrifennu yn dilyn y tramgwyddo erchyll ar hawliau yn ystod yr ail ryfel byd, a gosododd y sylfeini ar gyfer system gytundebau y Cenhedloedd Unedig, y mae Llywodraeth Cymru'n rhan flaenllaw ohoni. Mae'r flwyddyn nesaf yn nodi dengmlwyddiant a thrigain y garreg filltir hon o ddogfen, ac mae'n atgof amserol o'r rheswm pam y dylem werthfawrogi hawliau dynol ac o bwysigrwydd hyrwyddo a diogelu hawliau pawb.
Mae'n parhau i fod yn amser heriol ar gyfer hawliau dynol yn y DU a thramor. Mae adrannau o'r cyfryngau a rhai gwleidyddion sy'n benderfynol o hau amheuaeth o hawliau dynol, a hyd yn oed yn cwestiynu'r angen amdanynt. Yn y cyfnod heriol hwn, mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mor bwysig ag erioed.
Bu'n flwyddyn brysur arall i'r comisiwn. Ym mis Ebrill, penodwyd Ruth Coombs yn bennaeth newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod Ruth yma. Rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i'r swyddogaeth hon ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol. Hoffwn i hefyd achub ar y cyfle i longyfarch Kate Bennett, a fu'n arwain gwaith y Comisiwn yng Nghymru am flynyddoedd lawer cyn ei hymddeoliad ddiwedd 2016, am gael ei gwobrwyo â'r OBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines — mae hi'n llwyr haeddu'r anrhydedd.
Eleni, roedd y comisiwn yn rhan fawr o archwiliad y Cenhedloedd Unedig o'r DU ynglŷn â gweithredu'r Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl. Rydym yn croesawu beirniadaeth Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig o fesurau cyni Llywodraeth y DU. Aeth Cadeirydd y Pwyllgor mor bell â dweud bod polisïau Llywodraeth y DU wedi arwain at 'drychineb ddynol' ar gyfer pobl anabl sy'n byw yn y DU. Daw'r feirniadaeth hon lai na blwyddyn ers i'r Cenhedloedd Unedig gynnal ymchwiliad i ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU a'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod tramgwyddo dwys a systematig ar hawliau pobl anabl yn y DU. Dyma'r realiti creulon ar gyfer rhai pobl anabl yn y DU, a byddwn yn parhau yn ein hymdrechion i liniaru effaith y mesurau cyni ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae system adrodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn gyfle i dynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau dynol. Roeddem yn falch bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn ei sylwadau terfynol yn croesawu'r ffaith ein bod wedi cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym ni'n cydnabod bod mwy i'w wneud yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl anabl, ac rydym yn gwerthfawrogi'r
Byddwn nawr yn ystyried sut i weithredu ar argymhellion y Pwyllgor fel y maen nhw'n berthnasol i Gymru. Rydym hefyd yn ystyried adroddiad y Comisiwn 'Bod yn anabl ym Mhrydain', a gyhoeddwyd ym mis Ebrill. Drwy gydol y flwyddyn hon, buom yn gweithio'n agos â phobl anabl ledled Cymru i adolygu ein fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, a gyhoeddwyd yn 2013. Hoffwn yn fawr iawn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau ymgysylltu, gan gynnwys aelodau o'r grŵp llywio sydd wedi goruchwylio'r broses.
Byddwn cyn hir yn disgrifio o'r newydd sut y bydd ein strategaeth genedlaethol yn cefnogi pobl anabl yng Nghymru, gan ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn darparu'r sylfeini ar gyfer dull newydd a chadarnach o weithio. Byddwn yn parhau i ddibynnu'n fawr ar ymgysylltiad cyhoeddus wrth inni ddatblygu ein polisïau, nawr yng nghyd-destun 'Ffyniant i Bawb'. Mae ein pwyslais ar gydraddoldeb ledled Llywodraeth Cymru a thu hwnt yn helpu i sicrhau bod ein strategaeth genedlaethol mewn gwirionedd yn cynnwys pawb.
Ym mis Medi, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i'r adduned Gweithio Ymlaen, sef ymgyrch genedlaethol y Comisiwn i sicrhau bod gweithleoedd y gorau y gallant fod ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd. Sefydlodd y Comisiwn yr addewid yn dilyn ei ymchwil sy'n dangos bod gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac anfantais yn y gwaith yn effeithio ar tua 390,000 o fenywod beichiog a mamau newydd ledled Prydain bob blwyddyn. Mae'r addewid yn cefnogi Amcan Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru i ddod yn esiampl i'w efelychu yn yr agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant erbyn 2020.
O ran y Comisiwn ei hun, roedd hi'n flwyddyn arall o ddigwyddiadau poblogaidd. Roedd y rhain yn cynnwys ei ddarlith flynyddol gyda'r bargyfreithiwr hawliau dynol, Adam Wagner, a'i gynhadledd flynyddol a ddenodd dros 120 o bobl i Stadiwm Dinas Caerdydd. Unwaith eto, mae'r Comisiwn wedi rhyddhau nifer o gyhoeddiadau defnyddiol a heriol dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ychwanegol at yr adroddiad ar anabledd yr wyf i wedi ei grybwyll eisoes. Bu adroddiadau ar weithleoedd sy'n ystyriol o ffydd pobl, lleihau'r bwlch cyflog, ac adroddiad o'r enw 'Healing the divisions' ynglŷn â diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r cyhoeddiadau hyn a llawer o rai eraill i gyd ar gael ar-lein ac rwy'n eu hargymell i bob Aelod.
Eleni, mae'r comisiwn yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Cynhaliodd y Comisiwn ddigwyddiad yn y Senedd fis diwethaf i nodi'r garreg filltir hon a hefyd i lansio'r adolygiad blynyddol ffurfiol. Hoffwn i ddiolch felly i'r Comisiwn am ei waith nid yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf ond hefyd am ddegawd o ymroddiad i wella bywydau pobl yn y DU. Mae'r Comisiwn yn gwerthuso, yn gorfodi, yn dylanwadu ac yn gatalydd ar gyfer newid. Rydym ni'n parhau'n ddiolchgar am ei arweiniad ac yn gwerthfawrogi ei bresenoldeb cadarn ac unigryw yma yng Nghymru. Diolch.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Siân Gwenllian.
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Diolch, Llywydd. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i wneud gwaith pwysig yn yr hinsawdd wleidyddol heriol presennol, a hoffwn innau hefyd ddiolch iddyn nhw am eu gwaith. Ddydd Sul oedd Diwrnod Hawliau Dynol—cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid rhag trais ydy rhai o’r themâu mawr. Mae cwmpas gwaith y comisiwn yn eang, ac felly heddiw rydw i wedi penderfynu canolbwyntio ar un agwedd benodol ar gydraddoldeb a hawliau dynol, sef rhyddid rhag trais, ac, yn fwy penodol, rhyddid merched a genethod i fyw heb ofni trais a chamdriniaeth ddomestig.
Yn ôl Byw Heb Ofn, sy’n ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, mae 7.7 y cant o ferched wedi adrodd eu bod nhw wedi profi rhyw fath o drais yn y cartref—tua 1.2 miliwn ledled Cymru a Lloegr. Mae’r ffigur yn debygol o fod llawer uwch, o gofio natur guddiedig y math yma o drais.
Nid wyf am ymddiheuro am ddefnyddio’r ddadl prynhawn yma i hoelio sylw ar yr un agwedd yma. Mae trais yn erbyn merched ar gynnydd ac yn arwydd o ddiffyg cydraddoldeb systemig o fewn ein cymdeithas heddiw. Mae’n gwelliant ni yn gresynu am y diffyg cynnydd wrth weithredu’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae’r gwelliant yn debyg i un y Ceidwadwyr. Y gwahaniaeth ydy bod y gwelliant hwnnw’n nodi bod angen gweithredu, tra bod ein gwelliant ni yn gresynu nad ydy’r gweithredu wedi digwydd yn ddigonol. Mater o eiriau, efallai, ond mae yna wahaniaeth pendant.
Yr wythnos diwethaf, wrth holi’r Gweinidog cydraddoldeb, mi wnes i amlinellu rhes o broblemau gyda gweithredu’r ddeddfwriaeth bwysig yma, ac mi oeddwn i’n falch o glywed y Gweinidog cydraddoldeb yn cydnabod y problemau ac yn dangos awydd i symud ymlaen efo’r materion. Dyma sydd wedi dod i’r amlwg: nid oes yna gynllun gweithredu o hyd ar gyfer gweithredu’r strategaeth trais yn erbyn merched, dros flwyddyn wedi’i chyhoeddi. Roedd y strategaeth ei hun yn wan ac wedi’i chyhoeddi ar frys er mwyn cydymffurfio â’r amserlenni a gafodd eu rhestru yn y Ddeddf. Ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol. Nid yw’r grŵp arbenigol ar addysg am berthynas iach wedi cyhoeddi ei argymhellion ar y cwricwlwm newydd. Roedd y rheini i fod allan yn yr hydref. Yr wythnos diwethaf, clywyd mai yn y flwyddyn newydd y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi. Ni wnaf i ymhelaethu—mae yna fwy ac mi wnes i restru’r rheini’n llawn yr wythnos diwethaf.
Mae’n hollol amlwg, felly, fod yna gryn lusgo traed. Yn anffodus, mae rhai o fewn y Llywodraeth yn dal i feddwl bod popeth yn iawn ac yn clodfori’r Ddeddf. Yn gynharach heddiw, cawsom ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd yn honni, unwaith eto, fod y Ddeddf yn torri tir newydd. Un peth ydy torri tir newydd drwy ddeddfwriaeth, peth arall ydy’i gweithredu. Nid ydy hi'n ddigon i yrru deddfwriaeth drwy’r Siambr yma ac wedyn eistedd nôl yn disgwyl i bopeth ddisgyn i'w le. Yn wir, unwaith bod sêl bendith frenhinol wedi cael ei chyflwyno, bryd hynny ydy’r amser i weithredu er mwyn cyflawni’r newid rydym ni am ei weld.
Ni wnaf i dderbyn bod y Ddeddf yma’n arloesol ac yn torri tir newydd tan imi weld bod yr ystadegau ynglŷn â cham-drin domestig yn dechrau gostwng. Ni wnaf i dderbyn bod y Ddeddf yma’n arloesol tan imi ddechrau gweld newid ymddygiad gwirioneddol gan ein sefydliadau ac yn ein cymdeithas. Mae rhyddid merched i fyw heb drais ac i fyw heb ofni trais yn hawl dynol sylfaenol, di-gwestiwn. Rydw i’n mawr obeithio y gwelwn ni weithredu buan gan y Llywodraeth er mwyn symud yr agenda yma ymlaen ar ôl y llusgo traed rydym ni wedi ei weld. Mi fyddaf i’n craffu’r gwaith yn ofalus ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni adrodd stori llawer mwy cadarnhaol wrth inni drafod adroddiad blynyddol y comisiwn y flwyddyn nesaf, ac rwy'n hapus iawn i gydweithio efo’r Gweinidog cydraddoldeb ar hyn. Diolch.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.
Gwelliant 2. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addweidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Gwelliant 3. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
Gwelliant 4. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen 'deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus' yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.
Diolch, Llywydd. Wrth i'r adolygiad blynyddol hwn ddechrau, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma i wneud Cymru yn lle tecach, ac fel y dywed, un o'i heriau allweddol yw dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.
Gan weithio ochr yn ochr â Jocelyn Davies o Blaid Cymru a'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black, roeddwn i'n un o'r tri Aelod Cynulliad yn y Cynulliad diwethaf a ddaliodd Llywodraeth Cymru yn atebol ynglŷn â phasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. A bellach mae Cymorth i Ferched Cymru yn pryderu mai prin iawn yw'r arian o'r gyllideb iechyd a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y cyrff hynny sy'n darparu gwasanaethau arbenigol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Byddwn felly yn cefnogi gwelliant 1 ac, yn y cyd-destun hwn, rwyf hefyd yn cynnig gwelliant 2, gan nodi bod angen gweithredu addewidion ehangach Llywodraeth Cymru a wnaed yn ystod hynt y Ddeddf er mwyn cyflawni nod y Comisiwn o gael gwared ar drais yn y gymuned.
Cynigiais welliannau wedyn yn galw am strategaethau cenedlaethol a lleol i ddiwallu anghenion rhyw-benodol o ran menywod a dynion. Roedd Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaethau wedi'u teilwra i anghenion penodol dynion a menywod fel ei gilydd. Fe wnaeth y Gweinidog wedyn wrthwynebu'r gwelliannau hyn, gan ddweud y bydd awdurdodau eisoes yn ystyried hyn wrth baratoi a gweithredu strategaethau cenedlaethol a lleol.
Wrth bwysleisio yr effeithir ar fenywod a merched yn anghymesur gan drais, mae'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton hefyd yn darparu gwasanaeth niwtral o ran rhyw, oherwydd maen nhw'n dweud bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar y ddau ryw. Pan ymwelais â nhw yn ddiweddar, dywedwyd wrthyf fod pum person wedi eu cyfeirio at eu lloches dynion ar y diwrnod cyntaf er mai dim ond dau le oedd ar gael, ac y bu'n llawn byth ers hynny ac maen nhw ar hyn o bryd yn cadw rhestrau aros. Deallaf mai hwn yw'r unig loches i ddynion yn y Gogledd. Caiff ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor. Bydd yn cynorthwyo dioddefwyr tan fis Mawrth nesaf, gyda'r cyllid ar gyfer cefnogi dioddefwyr benywaidd dim ond ar gael am flwyddyn arall. Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ateb ysgrifenedig ataf fis diwethaf fod arolwg 2015 yn dangos bod 274 o leoedd lloches ar gael ledled Cymru, gyda phedwar yn Sir Drefaldwyn ar gyfer dynion.
Wedyn fe wnes i gynnig gwelliannau sy'n galw ar i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darpariaeth ar gyfer o leiaf un rhaglen droseddwyr. Fel y dywedodd Relate Cymru wrth y Pwyllgor, roedd 90 y cant o'r partneriaid y gwnaethon nhw eu cwestiynu beth amser ar ôl diwedd eu rhaglen yn dweud bod y trais a'r bygythiadau gan eu partner wedi peidio'n llwyr.
Ymatebodd y Gweinidog nad oedd yn ystyried bod fy ngwelliannau i'n briodol, ond ei fod wedi cydariannu ymchwil i helpu i benderfynu sut yr eir ati yn y dyfodol i ymdrin â throseddwyr. Wel, fel y pwysleisiwyd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, rhaglen Relate - Choose 2 Change - yw'r unig raglen wedi ei achredu gan Respect sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Yfory, byddaf yn cadeirio cyfarfod y grŵp trawsbleidiol a fydd yn tynnu sylw at safon achrededig Respect ar gyfer gwaith gyda throseddwyr, ei bwyslais ar newid ymddygiad a rheoli risg, a hwnnw'n seiliedig ar dystiolaeth niferus, a'i bwyslais ar ddiogelwch goroeswyr a phlant.
Fe wnaethom frwydro'n galed i gynnwys addysg am gydberthnasau iach yn y Ddeddf. Fel y dywedais yn y ddadl ar Gyfnod 4, roedd y tair gwrthblaid wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan y Gweinidog, a dywedodd yntau wedyn y byddai'n cynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer addysg am gydberthnasau iach o fewn y cwricwlwm. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, y Llywodraeth hon, gofio am addewid y Gweinidog wedyn i adrodd yn ôl i'r Cynulliad ynglŷn â hyn a rhaglenni i droseddwyr.
Rwy'n cynnig gwelliant 3, gan nodi'r cynnydd yn y troseddau casineb yng Nghymru sy'n cael eu cofnodi, gyda'r mwyafrif yn rhai sy'n ymwneud â hiliaeth, ond y cynnydd mwyaf yw troseddau casineb yn erbyn pobl anabl a thrawsrywiol, er bod hyn yn rhannol oherwydd cofnodi troseddau'n well a mwy o bobl yn dod ymlaen.
Yn olaf, rwy'n cynnig gwelliant 4, sy'n nodi bod
'ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'
2015—mae gwall ar y papur, dylai ddweud 2015—yr ymdrechion y manylir arnyn nhw yn eu hadroddiad blynyddol, a bydd angen, ac rwy'n dyfynnu,
'deialog wirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus'
—diwedd y dyfyniad—y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdani yn ei chynllun strategol drafft.
Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi dyletswydd benodol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo'r elfen o gynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gofal a gwasanaethau cymorth. Ond dywedwch hynny wrth y gymuned fyddar yng Nghonwy na chawsant eu hannibyniaeth, wrth ddefnyddwyr cadair olwyn yn Sir y Fflint a gawsant eu hatal rhag defnyddio llwybr yr arfordir, ac wrth ddysgwyr anabl yng Nghymru a gawsant eu hamddifadu rhag gwneud prentisiaethau, pan ddechreuwyd 1.3 y cant o'r holl brentisiaethau ganddyn nhw, o'i gymharu â 9 y cant yn Lloegr. Mae llawer eto i'w wneud.
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw â minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn un o randdeiliaid allweddol y Pwyllgor. Rydym ni wedi mwynhau perthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda nhw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar sawl darn o'n gwaith ni, gan gynnwys ein hadroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Yn fwy diweddar, roeddem yn falch o groesawu'r Prif Weithredwr i Gaerdydd, yn gynharach y tymor hwn, i glywed ei safbwynt ar hawliau dynol yng Nghymru ar ôl Brexit.
Rwy'n croesawu adolygiad blynyddol 2016-17 y Comisiwn, a gyhoeddwyd wrth i'r Comisiwn ddathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu. Yn ystod yr amser hwnnw, mae eu gwaith yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol, ac rwy'n ffyddiog y bydd hynny'n parhau. Hoffwn i hefyd, Llywydd, dalu teyrnged i'r rhan ganolog a chwaraeodd Kate Bennett, cyfarwyddwr cyntaf Cymru, yn ystod y 10 mlynedd hynny, a chroesawu hefyd Ruth Coombs, olynydd Kate. Rydym eisoes wedi cael y pleser o weithio gyda Ruth ers ei phenodi i swydd y cyfarwyddwr.
Felly, roedd yr adolygiad blynyddol ar gyfer 2016-17 yn manylu ar rai o lwyddiannau mwyaf arwyddocaol y Comisiwn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud y cawson nhw eu gwireddu mewn hinsawdd wleidyddol heriol ac, yn wir, ansefydlog. Cyn symud ymlaen at rai o'r llwyddiannau hynny, roeddwn i eisiau sôn yn fyr am rai o'r ystadegau sy'n dangos yr heriau sy'n ein hwynebu: mae 32 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi—mae 32 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi; mae gweithwyr croenddu gyda gradd yn ennill 23.1 y cant yn llai ar gyfartaledd na gweithwyr croenwyn; ac yn 2014-15 roedd dysgwyr anabl wedi dechrau ar 1.3 y cant yn unig o'r holl brentisiaethau yng Nghymru. Felly, mae cynnydd sylweddol i'w wneud—rhagor o gynnydd i'w wneud. Ac, wrth gwrs, mae Brexit yn fframwaith hanfodol o ran sut yr ydym yn symud ymlaen ar y materion hyn a'r holl faterion sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd.
Ar lefel y DU, roedd adroddiad y Comisiwn, 'Healing the Divisions' yn ymateb cadarnhaol i rai o'r materion allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wedi dod i'r amlwg ers refferendwm 2016, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n gymorth i lywio ein gwaith ar hawliau dynol. Rydym yn cefnogi galwad y Comisiwn y dylid parhau i amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU i'r un graddau ag y gwneir yn awr, ac, yn y dyfodol, y dylai'r DU barhau i fod yn arweinydd byd-eang ar hawliau dynol a chydraddoldeb.
Fel pwyllgor, un o elfennau allweddol ein gwaith yn ystod y Cynulliad hwn yw tlodi yng Nghymru. Rydym yn edrych ar hyn mewn darnau amrywiol o waith ymchwil sy'n rhoi sylw i wahanol agweddau. Nododd yr ymchwil ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn fis diwethaf bod effaith gyffredinol y newidiadau i dreth a pholisi lles wedi bod yn gam yn ôl o ran cydraddoldeb. Mae aelwydydd lleiafrifol ethnig; aelwydydd gydag un neu fwy o bobl anabl; rhieni sengl; menywod; a phobl hŷn wedi gweld y gostyngiadau mwyaf sylweddol mewn incwm cartref o ganlyniad i'r polisïau hyn. Rydym hefyd yn gwybod o adroddiad 'UK poverty 2017' Sefydliad Joseph Rowntree fod Cymru yn gyson wedi gweld y lefelau uchaf o dlodi o blith pedair gwlad y DU. Yn ystod cyfnod adolygu 2016-17, cynhyrchodd y Comisiwn eu hadroddiad 'A yw Cymru'n decach?', a oedd yn nodi'r saith her allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â'r gwaith y mae'r pwyllgor, fy mhwyllgor i, yn gweithio arno o ran tlodi. Mae heriau penodol ynghylch yr angen i annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg ym maes cyflogaeth; gwella amodau byw a chreu cymunedau cydlynus, a dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned; a bydd y pwyllgor yn gwneud gwaith pellach o ran ein gwaith craffu yn sgil pasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Llywydd, mae sawl peth felly sy'n hynod o bwysig a sylweddol o ran gwaith y Comisiwn a'r gwaith y mae fy Mhwyllgor yn bwrw ymlaen ag ef, ac rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â nhw yn fawr iawn. Wedi ei gynnwys yn y gwaith y maen nhw'n ei gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac sy'n berthnasol i'n gwaith ni, mae eu cyhoeddiad diweddar o ymchwiliad i drasiedi Tŵr Grenfell. Credaf ei bod yn arwyddocaol y byddan nhw'n sicrhau na chaiff agweddau ynglŷn â hawliau dynol a chydraddoldeb mewn perthynas â'r tân a'r amgylchiadau cysylltiedig eu hanwybyddu, a gobeithio y bydd hynny'n helpu i atal trychinebau rhag digwydd yn y dyfodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld perthynas y Pwyllgor gyda'r Comisiwn yn parhau, Llywydd, dros y flwyddyn sydd i ddod ynglŷn â'r materion hyn sydd o ddiddordeb i ni ein dau.
Diolch i Bwyllgor Cymru o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu hadolygiad blynyddol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes llawer ohonom ni yn UKIP yn rhannu yr un brwdfrydedd dros hawliau dynol, fel y'u gelwir nhw, â phobl mewn pleidiau eraill.
Dyna ddweud hyfryd.
Mae hynny'n wir.
Ydy. Rydym yn pryderu'n benodol y bydd y pwyslais cynyddol ar hawliau lleiafrifoedd yn y pen draw yn cael effaith negyddol ar hawliau'r boblogaeth fwyafrifol. Nawr, mae'n rhaid inni wahaniaethu yma rhwng—[torri ar draws.] Na, nid wyf yn mynd i dderbyn unrhyw ymyriadau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid oes gennyf amser.
Mae gennych chi ddigon o amser.
Diolch am y cynnig, Joyce, ond nid oes amser.
Nawr, mae'n rhaid inni wahaniaethu yma rhwng yr hawliau gwirioneddol ac ystyrlon iawn sydd gennym ni yma yn y Deyrnas Unedig sydd wedi esblygu dros 1,000 o flynyddoedd a mwy, a'r peth hawliau lleiafrifoedd cyfyng iawn yma y dywedir wrthym ni, heddiw, sy'n gyfystyr â hawliau dynol.
Mae gennym ddemocratiaeth sy'n gweithio yma yn y DU. Mae gennym ryddfreiniau sylfaenol, ac mae'r pethau hyn wedi bodoli mewn gwirionedd ers amser maith—ni waeth a ydyn nhw'n ysgrifenedig ai peidio. Yn amlwg, nid oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, ond mae gennym Fesur Hawliau, ymhlith pethau eraill. Gallwch olrhain yr hawliau hyn yn ôl i'r Magna Carta ym 1215, ond maen nhw'n mynd yn ôl hyd yn oed cyn hynny i Alfred Fawr, a roddodd gyfraith i Loegr, i ryw raddau. Nid oes gan yr hawliau hyn unrhyw beth i'w wneud â Llys Cyfiawnder Ewrop neu Lys Hawliau Dynol Ewrop, nac ag unrhyw sefydliad rhyngwladol arall. Maen nhw'n hawliau a esblygodd yma yn y Deyrnas Unedig, ac ni fyddwn yn colli'r hawliau hyn gyda Brexit. Hefyd nid oes a wnelo nhw ddim ag Amnest Rhyngwladol na Liberty nac unrhyw grŵp arall sydd ag obsesiwn ynglŷn â hawliau lleiafrifoedd.
Yr hyn sy'n rhaid inni ei ddeall, o ran hawliau lleiafrifoedd, yw bod lleiafrifoedd yn aelodau o gymdeithas. Felly maen nhw—
Ac felly mae ganddyn nhw hawliau.
Oes, da iawn, Simon. Felly, fe ddylen nhw fwynhau rhai hawliau. Ond ni allwn ddal ati fel cymdeithas i gytuno'n dragwyddol â galwadau lleiafrifoedd. Rywbryd, mae'n rhaid inni gydnabod y bydd rhoi mwy o hawliau i grŵp lleiafrifol penodol yn cael effaith negyddol ar hawliau y rhan fwyaf o bobl yn ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Mae gennym enghraifft berffaith o hyn gyda'r dadleuon diweddar dros hawliau pobl drawsryweddol. Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cynnig rhai diwygiadau eithaf cynhwysfawr i hawliau pobl drawsryweddol. Gallai hyn olygu y gallai unrhyw un sy'n dymuno nodi bod eu rhyw yn wahanol i'w rhyw corfforol wneud hynny o bosibl, dim ond drwy ddiffinio eu hunain fel y cyfryw. Felly, gallem weld dynion yn mynd i mewn i doiledau cyhoeddus menywod oherwydd mae'r dynion hyn yn honni eu bod nhw'n diffinio eu hunain fel menywod. Gallem weld troseddwyr gwrywaidd yn mynnu cael eu hanfon i garchardai i fenywod oherwydd maen nhw'n diffinio'u hunain fel menywod. Gallem yn y diwedd weld mudiad y 'Girl Guides' yn gorfod derbyn dynion sy'n diffinio eu hunain fel menywod yn arweinwyr, oherwydd os yw mudiad y 'Girl Guides' yn gwrthod gwneud hyn, efallai yn y pen draw y byddan nhw'n wynebu cael eu herlyn oherwydd maen nhw rywsut wedi torri hawliau dynol honedig rhywun. Rydym yn mynd i gael llawer o hwyl gyda hyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf os ydym yn parhau i roi sylw fel cymdeithas i'r math hwn o ffwlbri sydd ag obsesiwn am leiafrifoedd.
Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw cael trafodaeth aeddfed am yr elfen o hawliau lleiafrifoedd a derbyn bod yn rhaid cael terfynau iddynt. Dim ond hyn a hyn o wyro oddi wrth y norm y gall unrhyw gymdeithas ei dderbyn cyn bod cymdeithas yn ymffrwydro'n llwyr. Ac os parhawn ni ar hyd y ffordd hon o geisio plesio elfennau mwyaf gwallgof y mudiad trawsryweddol, yna'r hyn y byddwn ni'n ei wynebu fel cymdeithas, o fewn dim o dro, fydd chwalfa lwyr.
Nawr, ar ôl gwneud y sylw cyffredinol hwn, nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw waith da yn digwydd ym maes hawliau dynol yng Nghymru. Mae rhywfaint o waith da yn digwydd. Ond mae rhai o'r pryderon a fynegir yn yr adroddiad hwn yn sicr, yn fy marn i, yn gyfeiliornus. Er enghraifft, dyna'r mater o roi'r bleidlais i garcharorion. I ddyfynnu o'r adroddiad,
'Mae carcharorion yng Nghymru, fel sy'n wir yng ngweddill Prydain, yn parhau i fod yn destun gwaharddiad cyffredinol ar bleidleisio mewn etholiadau, ac mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi canfod ei fod yn groes i'w hawliau Confensiwn.'
Diwedd y dyfyniad. Fy ymateb i hynny fyddai bod carcharorion yn y carchar oherwydd eu bod nhw wedi troseddu—hynny yw, ar wahân i nifer cymharol fychan sydd wedi eu collfarnu ar gam. Maen nhw felly wedi ymddwyn yn groes i fuddiannau'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Wrth wneud hynny, maen nhw wedi ildio rhai hawliau eithaf sylweddol, megis yr hawl i'w rhyddid eu hunain. Felly, maen nhw dan glo. Mae'r hawl i ryddid yn fwy o hawl na'r hawl i bleidleisio. Felly, os ydyn nhw'n ildio'u hawl i'w ryddid eu hunain, pa wallgofddyn a gafodd y syniad y dylen nhw gael yr hawl i bleidleisio?
Rydym ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd yn union oherwydd ffwlbri fel hyn. Nid oes unrhyw gydsyniad poblogaidd i'r cynnig hwn i sicrhau bod carcharorion yn cael pleidleisio. Os mai dyma beth mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn ceisio'i ddweud, yna gorau po gyntaf y byddwn ni'n cefnu arno a'r holl sefydliadau eraill cysylltiedig. Diolch.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o allu siarad yn y ddadl hon, a hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a diolch iddyn nhw am y gwaith pwysig iawn y maen nhw yn ei wneud yng Nghymru, gan dynnu sylw at faterion sy'n effeithio ar gynifer o wahanol grwpiau mewn cymdeithas. Hoffwn i hefyd ddiolch i Kate Bennett, un o'm hetholwr am flynyddoedd lawer, am y gwaith y mae hi wedi'i wneud yno, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Ruth Coombs.
Credaf ei bod yn arbennig o ddiddorol yn eu hadroddiad sut maen nhw'n nodi y byddan nhw'n gweithio'n strategol gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant, ac rwy'n credu bod y gwaith gyda'r gwasanaeth carchardai yn bwysig iawn hefyd. Credaf hefyd fod yr hawliau dynol y byddan nhw'n gweithio i'w hamddiffyn pan rydym ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn falch iawn eu bod nhw'n tynnu sylw at yr anghydraddoldebau a wynebir gan Sipsiwn a Theithwyr ac yn hyrwyddo'u hawliau. Rwy'n croesawu hyn yn fawr, â minnau'n Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. A sylwaf eu bod yn sôn yn yr adroddiad ynghylch sut y mae iechyd meddwl Sipsiwn a Theithwyr yn waeth na gweddill y boblogaeth. Credaf fod hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd y pwynt pwysig arall i'w nodi yw bod y rhan fwyaf o Sipsiwn a Theithwyr mewn gwirionedd yn byw mewn tai, ac mae effaith byw mewn tai ar bobl nad yw eu ffordd o fyw yn gydnaws â hynny yn cael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl. Felly, rwy'n falch iawn bod y pwyntiau hynny yn cael sylw yn eu hadroddiad.
Fe wnes i edrych ar welliant Plaid Cymru a gwrando ar araith Siân Gwenllian, ac achubais ar y cyfle i drafod gyda'r bobl sy'n weithgar yn y maes cam-drin domestig i weld pa effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Ac, yn amlwg, mae pawb yn croesawu egwyddorion y Ddeddf a'r datganiad o fwriad, ond maen nhw yn gytûn mai gweithredu'r Ddeddf yw'r mater allweddol. Felly, o edrych ar fy awdurdod lleol fy hun, Caerdydd, cefais drafodaeth gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd i weld sut roedden nhw'n teimlo bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod mewn gwirionedd yn effeithio ar y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud. Maen nhw o ddifrif yn teimlo bod Cyngor Caerdydd wedi gwneud gwaith da iawn, yn wir, o gynnwys egwyddorion y Bil yn eu strategaeth gomisiynu, y mae cefnogaeth frwd iawn iddo o du asiantaethau trydydd sector, ac maen nhw mewn gwirionedd wedi mynd ati mewn modd cynhwysfawr iawn. Felly, gwelais yn fy awdurdod i fy hun fod elfen gadarnhaol iawn tuag at y ffordd yr oedd y Ddeddf yn cael ei gweithredu. Ond, wrth gwrs, dim ond un awdurdod lleol yw hwnnw, felly mae gwir angen inni ddal ati i graffu ar sut mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu, ac i gadw hyn yn gadarn ar yr agenda wleidyddol, oherwydd mae'n dibynnu cymaint ar sut y mae awdurdodau unigol yn gweithredu. Ond, fel y dywedais, roedd hynny yn adborth da.
Hefyd trafodais hyn â'r 'Black Association of Women Step Out', ac roedd Bawso yn teimlo bod peth dryswch wedi bod ar y cychwyn, ond maen nhw bellach yn gwbl grediniol fod pethau yn dod at ei gilydd a'u bod nhw'n mynd i'r afael â'r problemau. A dim ond eisiau sôn oeddwn i yn fyr am enghraifft o arfer da iawn ar ffurf y prosiect Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch, y mae Cymorth i Fenywod Caerdydd, Atal y Fro a Bawso yn ei ddarparu ac sy'n cael ei ariannu hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. Mae'r cynllun hwn yn targedu meddygon teulu, oherwydd dyna ble y dywed 80 y cant o fenywod sydd wedi cael eu cam-drin eu bod nhw'n teimlo'n gyfforddus yn mynd i siarad am gam-drin, a dyma'r un lle y gallan nhw fynd heb i'w partner amau neu geisio eu hatal. Ac mae meddygon teulu yn cael cynnig sesiynau hyfforddiant i'w helpu i adnabod dioddefwyr cam-drin domestig, ac mae llwybr cyfeirio clir. Mae hyn wedi arwain at gynnydd enfawr yn nifer y menywod y mae meddygon teulu yn y cynllun peilot wedi eu cyfeirio am gymorth—mae wedi codi o bedair neu bump bob blwyddyn i 202 y llynedd. Mae'r cynllun hwn yn rhagflaenydd i'r hyfforddiant 'holi a gweithredu', sydd i'w roi ar waith fel rhan o'r Ddeddf. Felly, roeddwn i eisiau tynnu sylw at yr arferion da hynny sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Mae dau bwynt yr hoffwn i eu codi gyda'r Gweinidog. Rwy'n gwybod bod oedi wedi bod wrth benodi ymgynghorydd cenedlaethol. Tybed a oes ganddi unrhyw wybodaeth ynglŷn â phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd. Ac, wrth gwrs, mae'r DU yn penodi comisiynydd ar gyfer y DU, a meddwl oeddwn i tybed a oedd hi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y byddai'r ymgynghorydd cenedlaethol yma yng Nghymru yn ymwneud â chomisiynydd y DU, a fyddai yn ôl pob tebyg yn gweithio ar faterion nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Ond mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n faes eithaf pwysig.
Ac yna mae'r pwynt olaf yn bwynt y cododd Siân Gwenllian ynglŷn â'r grŵp arbenigol ar ryw a pherthnasoedd iach, yr wyf i, rwy'n gwybod, wedi holi yn ei gylch lawer tro. Tybed a oes ganddi unrhyw wybodaeth ynghylch pryd mae'r grŵp hwnnw'n debygol o adrodd yn ôl, ac, yn amlwg, mae'r mater allweddol a godwyd eisoes ynglŷn â sut y gweithredir unrhyw argymhellion gan y grŵp hwnnw.
Rwy'n croesawu'r adolygiad blynyddol hwn, sy'n nodi saith prif her o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Hoffwn i roi sylw yn fy nghyfraniad byr heddiw i un o'r heriau hynny: dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned, a hoffwn yn benodol fynd i'r afael â'r agwedd o Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth yn yr un modd.
Roedd 500 yn fwy o droseddau casineb yng Nghymru eleni o'i gymharu â'r llynedd. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol, ac mae'n rhaid inni roi terfyn arno. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o fwy na 22 y cant yng Nghymru, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n hiliol—mwy na 2,000 o ddigwyddiadau ledled Cymru, yn bennaf yn ardal Heddlu De Cymru. Mae troseddau yn tueddu i gynyddu yn dilyn ymosodiadau terfysgol fel y rhai ar bont Westminster a'r bomio yn nhiwb Parsons Green. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n naturiol i bobl edrych at y gwleidyddion a gofyn beth ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru.
Weithiau rydym yn anghofio am yr hyn y mae ein cymunedau Mwslimaidd yn ei wneud i dawelu meddyliau pobl ac annog mwy o gydlyniant rhwng y cymunedau. Yn dilyn yr ymosodiadau yng ngorsaf tiwb Parsons Green cafodd nifer o bobl eu harestio ledled y wlad, gan gynnwys yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Aeth aelod o fosg Al Noor yng Nghasnewydd ati i dawelu meddyliau pobl nad oedd ganddyn nhw ddim byd i boeni yn ei gylch, y byddai ysbryd cymunedol lleol cryf ac amrywiol yn parhau. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol y mosg, Mr Abdul Rahman Mujahid, ddatganiad grymus yn llwyr gondemnio'r bomio, ac aeth ymlaen i ddweud, o gyfieithu ei eiriau i'r Gymraeg:
'Nid yw'r bobl hyn yn cynrychioli ein barn ni, mae pob un ohonom ni'n Brydeinwyr, a Phrydain yw ein cartref, lle rydym wedi dewis byw a magu ein teuluoedd. Rydym ni'n cefnogi ac yn gwella amrywiaeth.'
Aeth yn ei flaen i ddweud:
'Mae'r holl gymunedau yn cyd-fyw yn hapus yng Nghasnewydd ac yn parchu cred a ffydd ei gilydd. Ni ddywedir yn unman yn y grefydd Foslemaidd...y dylid brifo pobl ddiniwed.
Nid Islam yw hynny, ac nid ydym yn cytuno â hynny.
Llywydd, rwy'n llwyr gymeradwyo'r teimladau hyn. Dyma enghraifft o'r pethau cadarnhaol a wneir gan gymuned i dawelu'r argraff negyddol sy'n cael ei chyfleu. Dim ond yr wythnos ddiwethaf, trefnodd Cyngor Mwslimiaid Cymru ddigwyddiad ardderchog yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd rhai o'm cyd-Aelodau yno. Rhoddwyd gwobr i Jane Hutt yno am wasanaeth cymunedol gwych. Y ffaith yw bod Iddewon, Mwslimiaid, Cristnogion a phob hierarchaeth arall yn cynrychioli lleiafrifoedd ethnig yno— roedd Archesgob Cymru yno, roedd y Prif Imam Mwslimaidd o Ewrop yno, ac roedd gwesteion eraill yno. I ddweud y gwir, dylem ddathlu ein gwyliau gyda'n gilydd, ac mae'n rhaid inni o'r haenau uchaf i lawr fynd i'r ysgolion ac mae'n rhaid i'r plant ddeall a mwynhau ein dathliadau, fel y Nadolig yn agosáu—felly, mae'r rhaid i'r Mwslimiaid, Iddewon, Cristnogion a phawb ei fwynhau. Yn yr un modd, ein gwyliau Eid a'n—.
Felly, mae'r hyn a welais i yr wythnos diwethaf yn un enghraifft. Mae Saleem Kidwai a Chyngor Mwslimiaid Cymru yn gwneud gwaith gwych. Fy mhwynt yma yw: pam na allwn ni gael rhyw fath o gysylltiad, fel mae Julie newydd ei ddweud? Comisiynydd, neu ryw gyswllt neu linyn tuag at un man canolog lle gall cymunedau nid yn unig deall ei gilydd, ond dysgu oddi wrth ei gilydd a dathlu gwyliau ei gilydd. Dyna'r pwynt yr wyf i eisiau ei wneud, Llywydd. Rwy'n llwyr gymeradwyo'r teimladau hyn, ac mae hon yn enghraifft a grybwyllwyd eisoes gan Imamiaid Casnewydd. Rwy'n galw ar gymunedau Mwslimaidd ledled Cymru i estyn allan ac ymwneud â chrefyddau eraill a chymunedau eraill i hyrwyddo mwy o gydlyniant. Ac nid Mwslimiaid yn unig—rwy'n golygu pob cymuned arall. Yn y modd hwn, Llywydd, gallwn fynd i'r afael â'r ymchwydd o droseddau casineb yng Nghymru am byth, ac ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf.
Rwy'n falch iawn o gael siarad o blaid y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gyfeirio'n arbennig at y bennod ynglŷn â gwella gweithleoedd Cymru. Nod penodol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw gwella gweithleoedd drwy weithio gyda chyflogwyr a thrwy hyrwyddo arferion effeithiol yn y gweithle o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy'n croesawu'r glymblaid Gweithio Ymlaen a sefydlwyd gan y Comisiwn, gyda mwy nag 20 o sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i ddenu, datblygu a chadw menywod yn y gwaith. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae menywod yn dal i'w hwynebu, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 18.1 y cant ym Mhrydain. Dyma rai ystadegau eraill y maen nhw'n eu rhoi yn eu hadolygiad: mae 86 y cant o gyflogwyr Cymru yn dweud eu bod nhw'n gefnogwyr cadarn o staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, ond mae 71 y cant o famau yn dal i ddweud eu bod nhw'n cael profiadau negyddol neu, o bosibl, wahaniaethol yn y gwaith.
Mae'r ystadegau hyn yn dangos pa mor bell y mae angen inni fynd o hyd, a chefais fy atgoffa o hyn yn nathliad pen-blwydd Chwarae teg yn bump-ar-hugain mlwydd oed, yr oeddwn i ynddo yr wythnos diwethaf. Roedd y Prif Weithredwr, Cerys Furlong, yn edrych yn ôl i'r cyfnod y sefydlwyd Chwarae Teg pan gefais i fy mhenodi'n gyfarwyddwr cyntaf y mudiad, yn dilyn arolwg mawr o swyddogaeth menywod yn y gweithle yng Nghymru. Bryd hynny, nid oedd un o bob pum menyw yn gweithio; erbyn 2010, y ffigur oedd un o bob 10. Ond dywedodd Cerys wrthym fod menywod yn dal i wneud, ar gyfartaledd, 60 y cant yn fwy o waith di-dâl na dynion, sef 26 awr yr wythnos o'i gymharu ag 16 awr. Atgoffodd ni fod Chwarae Teg wedi bod yn gweithio dros y 25 mlynedd diwethaf gyda menywod, busnesau, ysgolion a llunwyr polisi i sicrhau y gall menywod yng Nghymru weithio, meithrin eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil.
A gaf i dynnu eich sylw at raglen Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg a sefydlwyd er mwyn helpu i wella safle menywod yn y gweithlu? Caiff y rhaglen ei hariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru a chafodd ei datblygu fel ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth, sy'n dangos angen clir am fesurau cadarnhaol y mae angen eu gweithredu i gefnogi cynnydd menywod yng Nghymru. Er enghraifft, mae'r ffigurau cenedlaethol yn dangos bod 7 y cant o fenywod yng Nghymru mewn swyddi rheoli, o'i gymharu ag 11 y cant o ddynion. Ac mae merched wedi eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM allweddol— gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Bydd Cenedl Hyblyg 2 yn cefnogi 2,207 o fenywod a 500 o fusnesau yn ystod ei gylch oes arfaethedig.
Ar y pwynt hwn, hoffwn i dalu teyrnged i Val Feld, cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe. Hi arweiniodd y ffordd i sefydlu Chwarae Teg pan oedd yn gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru. Rwy'n gwybod y bydd y Cynulliad hwn yn falch o glywed ein bod ni wedi gwneud cynnydd gyda'r cynllun i osod plac porffor ar y Senedd hon yn y flwyddyn newydd, pryd y gallwn ni roi amser a sylw dyledus i'w gwaddol sylweddol cyn ei marwolaeth annhymig ar ôl brwydr ddewr yn erbyn canser. Er cof am Val ac i gefnogi Chwarae Teg, a chyda Chwarae Teg yn uchelgeisiol ynghylch ei nod i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gaf i groesawu meincnod newydd chwarae teg y mudiad a gafodd ei lansio yr wythnos diwethaf? Rwy'n gwybod y byddai Val yn eithriadol o falch o glywed am hyn ac am eu huchelgais.
Bydd y meincnod cyflogwr chwarae teg yn helpu cyflogwyr i weld sut maen nhw wedi eu graddio o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhoi cynllun gweithredu iddyn nhw fel y gallan nhw wneud cynnydd o ran datgelu cyflog merched a dynion. Bydd y fenter chwarae teg ar gael i gyflogwyr sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i'w helpu i gael cydnabyddiaeth fel cyflogwr chwarae teg. A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a all Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r fenter newydd ysbrydoledig hon? Rwy'n credu bod yn rhaid ymgorffori hyn yn y cynllun gweithredu economaidd, y cafwyd datganiad yn ei gylch gan Ken Skates y prynhawn yma. Mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn benderfynol o sbarduno newid o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru i fynd â ni ymlaen ac rwyf yn diolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu hadolygiad blynyddol diddorol.
Dyna eiriau da iawn o ochr arall y Siambr. Fe wnes i wenu pan wnaeth yr aelod o UKIP gyfeirio at 'hawliau dynol honedig'. Wel, mae hawliau dynol yn hawliau dynol. Ac rwy'n anghytuno â'r ymadrodd 'hawliau lleiafrifoedd'; buaswn i, gorau oll, yn dweud 'hawliau i bawb'. Mae angen parchu pawb a dylai pawb gael hawl, oherwydd, pan fydd pawb yn cael eu parchu, daw hynny â chytgord i'n cymdeithas.
Y ddeddfwriaeth sy'n destun y diwygiadau yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Wel, cwestiwn amlwg iawn gen i yw: beth am ddynion? Beth am fechgyn? A beth am ychydig o gydraddoldeb? Mae'r ddeddfwriaeth yn dweud bod trais yn erbyn menywod a merched yn golygu trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol lle mae dioddefwyr yn fenywod. Wel, mae un o bob tri dioddefwr yn ddyn, dynion ydyn nhw, a 10 y cant —dim ond 10 y cant—o ddynion fydd yn rhoi gwybod am gam-drin domestig.
Rwy'n ymwneud â llawer o waith achos gyda llawer o dadau yn dod i'r feddygfa sy'n dioddef cam-drin domestig, ac mae'n anodd iawn yn y De i gael dynion wedi eu cydnabod fel y cyfryw, a dim ond drwy imi ymyrryd mewn nifer o achosion y llwyddwyd i gydnabod y bobl hynny fel dioddefwyr. Nid oes unman yn y ddinas hon, neu yn y rhanbarth hwn i ddweud y gwir, i anfon y bobl hynny i gael cymorth anfeirniadol—dim un man. Asesir dynion oherwydd maen nhw'n cael eu cyfrif fel y rhai sy'n cyflawni'r trais oherwydd mai dynion ydym ni, a dim rheswm arall. Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi barn gyfreithiol sy'n datgan mai gwahaniaethu yw hyn, a byddaf yn gofyn i'r Llywodraeth a ydynt yn bwriadu symud ymlaen o ran hynny.
Bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod dwy fenyw yr wythnos yn cael eu llofruddio drwy drais yn y cartref. Mewn gwirionedd, mae'r ffigur o ddau yr wythnos yn cynnwys dynion, a'r dadansoddiad yw 29 dyn a 79 menyw ar gyfer 2015-6. Dywedasoch hefyd fod angen inni gael ein blaenoriaethau'n iawn. Nawr, onid yw'r 29 person hynny'n flaenoriaeth? Wrth gwrs, mae hwn yn ffigur ar gyfer y DU. Onid yw dynion a bechgyn yn flaenoriaeth? Dylen nhw fod, felly rwy'n gofyn ichi a ydych chi eisiau eu cynnwys nhw yn eich rhestr o flaenoriaethau, fel yr ydych chi wedi dweud.
Rwyf wedi fy ethol yma i gynrychioli pawb. Does dim ots beth yw eich rhyw, p'un a ydych chi'n wryw, benyw neu heb ryw neu yn drawsryweddol. Rwyf yma i'ch cynrychioli chi, ac mae hynny'n wir am bob un ohonom ni, a dylem ni i gyd siarad yn erbyn gwahaniaethu. Mae trais domestig yn effeithio ar bawb, gall effeithio ar bawb—pob dosbarth, pob galwedigaeth, ac mae'n rhywbeth y mae angen ei gydnabod.
Rwyf eisiau sôn am yr hyn a ddywedodd Mohammad Asghar am Islamoffobia—roedd yna rai sylwadau gwych ganddo. A chredaf mai John Griffiths a soniodd am bobl groenddu, pobl groendywyll. Rwy'n gofyn i holl Aelodau'r Cynulliad gerdded o amgylch y Cynulliad hwn a gweld a allwch chi ddod o hyd i lawer o bobl groendywyll nad ydyn nhw'n gweithio yn y maes diogelwch neu lanhau. Does dim llawer o bobl o gwbl. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r Cynulliad hwn roi sylw iddo, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynigion i wneud hynny. Os edrychwch chi ar yr ardal gerdded i'r gwaith o amgylch y Cynulliad hwn—Butetown, Glan yr Afon, Grangetown — hi yw'r ardal fwyaf amrywiol yng Nghymru, ond ni welwch chi hynny'n cael ei adlewyrchu yn y bobl a gyflogir yma y tu ôl i'r llenni yn y Cynulliad hwn, oni bai eich bod chi'n sôn am lanhau a diogelwch. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen gweithio arno a dylid gwneud yr ymdrech.
Rwy'n dychwelyd at fy mhwynt gwreiddiol, mewn gwirionedd, oherwydd mae'n hen bryd—yn hen bryd—cydnabod y gall dynion fod yn ddioddefwyr trais domestig hefyd. Mae rhai ohonom ni'n gwybod hynny yn iawn. Diolch yn fawr.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn i yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Gallech ddisgwyl y byddai llawer o'r materion hyn ar eu hagenda, ac roedd hynny'n wir. Wrth drafod cydraddoldeb a hawliau dynol, yn anochel mae'r sgwrs yn troi at Brexit. Felly, mae'n galonogol iawn bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi cyngor i Grŵp Ymgynghorol Brexit Llywodraeth Cymru a hefyd, fel y clywsom ni, i Aelodau drwy eu pwyllgorau. Mae Brexit yn sylfaenol i'r sgwrs oherwydd, pan fyddwn yn gadael yr UE, byddwn yn gadael y siarter hawliau sylfaenol. Mae hynny'n golygu hawliau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn Neddf Hawliau Dynol 1998 y DU, fel hawliau gweithwyr amrywiol, a gellid diddymu rheolau sy'n ymwneud â gwahaniaethu, ar rydym eisiau deall ac mae angen inni ddeall hynny.
Mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, wedi addo eu hamddiffyn o dan y Bil Diddymu Mawr. Mae'n swnio'n ardderchog, ond rwy'n amau a fydd Plaid Geidwadol a wrthwynebodd lawer o'r hawliau a'r rhyddfreiniau yn y lle cyntaf yn eu hamddiffyn hyd yr eithaf unwaith i'r inc sychu ar y papurau ysgaru. A hyd yn oed—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Mewn munud.
Ac, hyd yn oed os diogelir hawliau, rwy'n poeni y bydd cynlluniau i israddio hawliau ym Mhrydain ar ôl Brexit. Er enghraifft, mae cyfraith yr UE yn dweud na ddylid gosod terfyn ar iawndal i bobl sy'n dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw. Ond mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi dweud ar goedd eu bod nhw eisiau cyfyngu ar y taliadau hynny, ac mae hynny eisoes wedi digwydd gyda diswyddo annheg, nad yw wedi ei amddiffyn gan gyfraith yr UE.
Diolch. A yw hi'n cofio bod Llywodraeth Lafur, o dan Tony Blair, hefyd wedi gwrthwynebu'r Siarter, ac y gwnaethon nhw ei dderbyn yn y pen draw dim ond ar y sail na ellid ei orfodi yn ôl y gyfraith, ac na fyddai ganddo fwy o rym cyfreithiol na'r Beano, yn ôl y Gweinidog Ewrop ar y pryd?
Fy ateb i chi yw hyn: Byddaf yn amddiffyn ac rwyf wastad wedi amddiffyn hawliau dynol. Dyna fy ateb i chi. Nid wyf yma i drafod Tony Blair. Rwyf yma i drafod yr hyn a ystyriaf yn egwyddorion sylfaenol bywyd, ac un o'r rheini yw hawliau dynol.
Felly, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y gost o gyflwyno achosion diswyddo. Yn wir, os nad oes gennych chi £1,500 yn eich poced gefn, bydd gennych chi broblem enfawr yn dwyn achos o ddiswyddo annheg. A'r Llywodraeth Geidwadol a sicrhaodd mai dyna fyddai ei angen arnoch chi. Felly, rwy'n credu bod angen i Gymru fod yn effro i lastwreiddio hawliau yn ystod ac ar ôl Brexit, a bydd goruchwyliaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn aruthrol bwysig yn hynny o beth. Ni allwn fforddio syrthio y tu ôl i Ewrop, ac mae rhybuddion. Wrth i'r DU ymrafael â thrafodaethau Brexit—a bu hynny'n ymrafael fawr—mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi bod yn trafod pecyn newydd o hawliau i wella'r cydbwysedd bywyd-gwaith gyda'r undebau llafur a sefydliadau cyflogwyr. Mae'n cynnwys gwyliau gofalwyr, gweithio hyblyg a mwy o amddiffyniad i famau newydd rhag cael eu diswyddo. Y gwir amdani yw, y tu allan i'r UE, y bydd yn rhaid inni ymladd yn galetach am hawliau newydd ac yn galetach i amddiffyn y rhai sydd eisoes yn bodoli. Ond dylem fod yn uchelgeisiol. Gallwn ni fod yn dangnefeddwyr. Rhaid inni beidio â llusgo ar ei hôl hi beth bynnag arall sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae Julie—na, Jane o bosibl—eisoes wedi sôn am y ffaith bod staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd yn dioddef yn anghymesur. Mae tystiolaeth bod bron un o bob pum dyn sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn ag adnoddau dynol yn amharod i gyflogi menywod ifanc sydd efallai'n mynd i gael plant, er ei bod yn anghyfreithlon ystyried y ffactor honno wrth recriwtio. Cafwyd arolwg YouGov o 800 o bobl sy'n gwneud penderfyniadau adnoddau dynol, a chanfuwyd bod un o bob 10 aelod o staff adnoddau dynol benywaidd yn gyndyn i gyflogi menywod yn eu 20au a'u 30au. Dywedodd chwarter y bobl sy'n gwneud penderfyniadau eu bod nhw'n gweithio i gwmnïau sy'n ystyried a yw menyw yn feichiog neu a oes ganddi blant ifanc wrth wneud penderfyniad ynghylch dyrchafiad, a dywedodd Carole Easton, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Menywod Ifanc, sy'n cynrychioli menywod rhwng 16 a 30 mlwydd oed sydd ar gyflog bychan neu ddim cyflog, ac a gomisiynodd yr arolwg, ei bod hi'n sefyllfa syfrdanol, ac yn wir, yn gwbl syfrdanol.
Rwyf eisiau gorffen trwy ddweud fy mod i'n datgysylltu fy hun yn llwyr ac yn gyfan gwbl o'r holl sylwadau a wnaed gan UKIP yma heddiw. Ni wnaf i ddim aros yn dawel, oherwydd aros yn dawel a ganiataodd anghyfiawnder a thramgwyddo hawliau dynol yn y lle cyntaf.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan heddiw. Mae un Aelod yn benodol, efallai drwy amryfusedd, wedi dangos yn gryf pam ei bod yn bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i fod â phresenoldeb cryf ac unigryw yng Nghymru er mwyn gwrthsefyll y math o ragfarn a gwahaniaethu, yn anffodus, yr ydym ni wedi ei glywed yn y Siambr. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i am gyfeirio at fy ffrind Lily, a gollodd ei brwydr i fyw y llynedd, a'r modd heriol y bu hi'n hyrwyddo hawliau pobl drawsryweddol. Buaswn wedi hoffi iddi fod yma i glywed y cyhuddiadau ffiaidd a wnaeth Gareth Bennett, ac rwy'n argymell iddo ddarllen ei blog hi, lle mae'n disgrifio pam mae pobl drawsryweddol yn bobl fel pawb arall ac yn haeddu'r un hawliau dynol â phawb arall. Rwy'n canmol Joyce am ddatgysylltu ei hun; hoffwn innau ddatgysylltu fy hun o hynny.
Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 1. Rydym yn parhau i wneud cynnydd wrth weithredu mesurau i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae gennym nifer o bethau sydd eisoes ar y gweill. Nododd Julie Morgan un ohonyn nhw ac, mewn ymateb i'w chwestiwn am y Cynghorydd Cenedlaethol, rwyf yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn fuan am y Cynghorydd Cenedlaethol, a fydd, wrth gwrs wedyn yn gweithio'n agos iawn gyda'r DU, wrth inni symud yr agenda hon ymlaen. Er enghraifft, rwy'n gwybod y bydd Kirsty Williams cyn hir yn gwneud datganiad am sefydlu ei grŵp arbenigol i'w chynghori ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a'r dyfodol o ran addysg ryw a pherthnasoedd yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at glywed ganddi hi am hynny.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod meysydd y mae angen eu datblygu o hyd a byddwn yn adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi'u gosod. Rwy'n arbennig o awyddus i groesawu cynnig Siân Gwenllian i weithio ochr yn ochr â ni i ddatblygu'r agenda hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn hynny o beth. Felly, mae llawer iawn mwy i'w wneud.yn datblygu'r agenda hon ymlaen yn y ffordd orau bosibl.
Rwyf hefyd yn croesawu sylwadau Mark Isherwood. Amlinellodd rai meysydd o bryder, ond gofynnaf iddo ystyried effaith agenda gyni y Llywodraeth Dorïaidd yn y maes hwn oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod hynny'n llesteirio'r ymdrechion i helpu rhai o'r bobl y cyfeiriodd atyn nhw'n sy'n llwyr haeddu ein cymorth.
Rydym yn cefnogi gwelliant 2. Mae atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ganolog i wella iechyd a lles, lleihau troseddu a'r niwed a achosir gan droseddau treisgar, diogelu plant ac oedolion, hyrwyddo dysgu ac addysgu, a hyrwyddo cydraddoldeb. Rwy'n cytuno bod llawer iawn mwy i'w wneud, fodd bynnag, ac mae llawer o'r Aelodau, ac yn enwedig Jane Hutt, wedi ein hatgoffa pam mae angen inni wneud llawer iawn mwy o'r gwaith hwnnw ac am yr holl ffyrdd amrywiol y mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
A ydych chi'n cydnabod bod y pwyntiau a wnes i—ac nid wyf yn mynd i sôn am le arall—pe baen nhw wedi cael eu gweithredu, y byddai hynny mewn gwirionedd yn arbed arian ar gyfer gwasanaethau eilaidd oherwydd maen nhw'n gynigion ymyraethol ataliol yn hytrach na chostau ychwanegol wrth ymdrin â symptomau?
Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond rwyf yn credu y dylai'r Aelod sylweddoli hefyd bod rhai o effeithiau cyni ar allu pobl sy'n byw yn annibynnol, er enghraifft, gydag anabledd ac ati, yn cael effaith fawr iawn ar y gwasanaethau hynny sydd eu hangen arnynt. Ond rwy'n fwy na pharod i weithio gydag ef i ddod o hyd i unrhyw feysydd lle mae'n credu y gallwn ni fuddsoddi er mwyn arbed, oherwydd mae hynny o ddiddordeb mawr i ni.
Ond, fel y dywedais, amlygodd Jane Hutt yn briodol iawn pam bod angen dull integredig i roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, o'r arweinyddiaeth hyd at y gweithwyr rheng flaen. Mae hyn yn blaenoriaethu'r materion ac yn dod â nhw i olau dydd, gan ei gwneud hi'n gyfrifoldeb pawb yma yng Nghymru yn ddiwahan.
Tynnodd Mohammad Asghar sylw hefyd at fater Islamoffobia, ac rwy'n rhannu ei bryderon ynghylch hyn ac yn rhoi croeso gwresog iawn i'w farn ynghylch darparu cydlyniant cymunedol ehangach mewn rhai o'r syniadau a amlinellodd.
Rydym yn cefnogi gwelliant 3, ond dylem fod yn glir y gwnaed camau breision i gynyddu hyder dioddefwyr i ddod ymlaen a gwneud adroddiad. Roedd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2016-17 22 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Ond mae rhan o'r cynnydd o 22 y cant yn ganlyniad i gynnydd yn y cyfraddau adrodd. Mae hyn yn adlewyrchu faint o waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, yr heddlu, y trydydd sector a'n partneriaid i annog dioddefwyr i ddod ymlaen. Mae cynnydd i'w groesawu, oherwydd fe wyddom o waith ymchwil nad yw bron 50 y cant o droseddau casineb yn cael eu dwyn i sylw'r awdurdodau. Fodd bynnag, mae'n debygol iawn bod rhan o'r cynnydd hwnnw oherwydd cynnydd gwirioneddol yn y troseddau casineb adeg refferendwm yr UE ac yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol a fu yn ystod y cyfnod adrodd. Rwy'n credu bod Mohammad Asghar wedi amlinellu rhai o'r problemau yn fedrus iawn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr troseddau casineb, trais a cham-drin. Byddwn yn parhau i gyflawni ein fframwaith gweithredu gyda'n partneriaid ledled Cymru. Hoffwn i dynnu sylw at ymyriad Neil McEvoy. Wrth gwrs, rydym eisiau gweithio gyda phawb sy'n dioddef unrhyw fath o drosedd casineb, trais a cham-drin ble bynnag y bônt a ble bynnag y maent yn digwydd yng Nghymru.
Rydym yn cefnogi gwelliant 4. Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys gofyniad yn ei bum ffordd o weithio ar i gyrff cyhoeddus gynnwys pobl yn eu holl amrywiaeth ym mhopeth a wnânt. Felly, mae'n gwbl gydnaws â fframwaith ac ysbryd presennol y Ddeddf bod deialog ystyrlon rhwng cymunedau, unigolion a'u gwasanaethau cyhoeddus yn ddisgwyliedig wrth ymgorffori gwaith y Comisiwn. Mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyfrannu mewn modd uniongyrchol iawn at yr amcanion o greu Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru fywiog ei diwylliant ble mae'r Gymraeg yn ffynnu. Ond, oherwydd eu cyd-ddibyniaeth, mae hefyd yn amlwg yn hanfodol gwneud cynnydd tuag at y nodau hyn i gyd gyda'i gilydd.
Rwy'n cloi'r ddadl hon drwy ddiolch unwaith eto i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ers y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Comisiwn wedi gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng Nghymru. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r Comisiwn wedi darparu ei raglen waith benodol a pherthnasol i adlewyrchu tirwedd wleidyddol, gyfreithiol a chymdeithasol unigryw Cymru. Mae'r Comisiwn yn gyfaill beirniadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—yma i'n harwain ni i gyd a sicrhau newid cadarnhaol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Comisiwn yn y dyfodol ac i barhau â'n perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol iawn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.