1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 31 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Mae pedair blynedd, bron i bedair blynedd a hanner nawr, ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ar sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Yn yr adroddiad, mi wnaeth hi'n gwbl glir ei bod hi'n unfed awr ar ddeg bryd hynny ar y Gymraeg fel ail iaith, a bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pwnc yna yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. A phetai hynny wedi bod yn wir am Saesneg neu Fathemateg, rwy'n siŵr y byddem ni wedi hen weld datrysiad i'r broblem erbyn hyn. Mae hi'n cloi drwy ddweud bod rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Felly, a gaf i ofyn pryd mae'r Gweinidog yn bwriadu y bydd y cymhwyster cyfunol newydd ar gael i'w ddysgu mewn ysgolion?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Byddwch chi yn ymwybodol ein bod ni wedi cael adroddiad Donaldson ers hynny a bod rhaid i ni ystyried y newidiadau yng nghyd-destun Donaldson. A allaf i wneud hi'n glir na fyddaf i'n barod i jest aros tan bod Donaldson yn ei le? Rydw i'n meddwl bod hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd ar ei ôl nawr. Rydw i wedi gofyn, heddiw, fel mae'n digwydd bod, i'm swyddogion i roi symposiwm at ei gilydd i ddod ag arbenigwyr yn y maes ynghyd i drafod y ffordd orau o ddysgu ail iaith. Nid wyf i'n meddwl bod hon yn broblem jest i'r Gymraeg, ond mae'n broblem i ieithoedd eraill hefyd, ond mae fy sylw i, yn amlwg, ar y Gymraeg. Gallaf i ddweud fel ffaith fy mod yn mynd i roi fy sylw yn arbennig i'r mater hwn o gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg erbyn diwedd yr ysgol. Y bwriad yw, wrth gwrs, fod 70 y cant o bobl yn gallu siarad rhywfaint erbyn 2050 wrth iddyn nhw ddod o'r ysgol. Felly, mae ffordd bell i ni fynd.
Diolch yn fawr. Rydw i'n croesawu'r ateb pendant yna: na fyddwch chi'n aros tan fod Donaldson yn ei le, oherwydd, fel rydym ni'n gwybod, mi fydd hi'n 2025 cyn bod gan bawb fynediad i'r cwricwlwm newydd, ac mae hynny'n colli cenhedlaeth botensial arall o siaradwyr Cymraeg. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth rydych chi wedi ei rhoi i dreialu neu beilota efallai mewn rhai ardaloedd penodol y model newydd yma o gymhwyster cyfunol, oherwydd y perig yw y bydd hi'n cymryd dwy, tair, blynedd mae'n debyg—os rydw i'n adnabod y modd mae Llywodraethau fel arfer yn ei weithredu— lle, mewn gwirionedd, mae yna ewyllys ac mae yna weithlu addas mewn rhai rhannau o Gymru lle byddai modd troi hwn rownd yn sydyn iawn?
Wel, i ddechrau, mae'n rhaid i ni edrych ar beth sy'n bodoli heddiw. Rydw i'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar fwy o adnoddau ar gyfer athrawon sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith, ac rydw i wedi bod yn siarad yn uniongyrchol ag athrawon sydd yn y dosbarthiadau ac yn gofyn iddyn nhw yn union beth yw'r pethau y bydden nhw'n hoffi eu gweld fel help. Felly, mae fy swyddogion i'n edrych ar beth allwn ei wneud i helpu nawr yn y flwyddyn yma. Rydw i wedi cael sgwrs gyda'r BBC i weld a fydden nhw'n barod i helpu yn y maes yma hefyd, achos rydw i'n meddwl y gallem ni wneud fwy yn weledol wrth ddysgu plant yn y dosbarth. Felly, mae camau yn eu lle, ond mae'n rhaid i fi bwysleisio fy mod i'n meddwl na allwn ni fforddio colli cenhedlaeth arall—rydw i'n cytuno.
Rydw i'n siwr eich bod yn deall y rhwystredigaeth, oherwydd mae clywed Gweinidog yn dweud bod yn rhaid i ni weld beth yw'r sefyllfa heddiw, bedair blynedd a hanner ar ôl i adroddiad ddweud bod angen gweithredu ar fyrder, yn peri rhwystredigaeth, mae'n rhaid i mi ddweud.
Nawr, wrth gwrs, nid yw'n bosibl symud ymlaen yn ystyrlon i gyrraedd y nod yr ydym yn ei rannu rydw i'n siwr o safbwynt miliwn o siaradwyr Cymraeg a rôl y gyfundrefn addysg yn hynny, heb fod y gweithlu addas yn y ei le o safbwynt y gallu i ddarparu'r addysg angenrheidiol yna. Rydw i'n mynd i gyfeirio at adolygiad Aled Roberts, wrth gwrs, i'r cynlluniau strategol addysg Gymraeg a oedd yn dweud yn gwbl glir:
'Rhaid holi pa bwrpas sydd i gynllunio ar gyfer twf sylweddol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog...heb bod penderfyniadau brys yn cael eu cymryd ar hyfforddi rhagor o athrawon newydd sydd yn medru’r Gymraeg, yn arbennig yn y sector uwchradd.'
Nawr, rydym ni'n gwybod bod 6 y cant o'r holl weithlu addysg yng Nghymru yn medru'r Gymraeg ond ddim yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dysgu Cymraeg. Felly, beth mae'r Llywodraeth yma am wneud i roi'r grŵp yna o addysgwyr ar waith yn y maes yma? Rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod 80 y cant o'r myfyrwyr sydd ar gyrsiau ymarfer dysgu wedi dod drwy'r system addysg yng Nghymru ac, felly, os nad ydyn nhw wedi bod yn rhan o addysg ddwyieithog, maen nhw fod wedi cael 10 mlynedd o wersi Cymraeg. Ocê, mae yna ddiffygion ail iaith ond mi ddylai fod yna sail fanna hefyd i fod yn manteisio ar ddatblygu gweithlu galluog o safbwynt addysg Gymraeg yn y cyd-destun yna. Felly, a gaf i ofyn sut ydych chi am ddefnyddio ac adeiladu ar y sgiliau ieithyddol yna a phryd welwn ni gynllun gweithlu addysg Gymraeg yn cael ei gyflwyno a'i weithredu oherwydd, hebddo fe, fydd dim gobaith cyrraedd miliwn o siaradwyr?
Diolch. Mae yna gynllun gweithlu yn ei le. Rydym ni wedi ei gwneud yn hollol glir faint o athrawon fydd eu hangen yn ystod y blynyddoedd nesaf. Fy ngobaith i, ar hyn o bryd, yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod yna £5,000 ychwanegol os ydyn nhw'n awyddus i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn cael gwybod am hynny achos nawr yw'r amser y mae pobl yn dechrau meddwl am beth maen nhw'n mynd i'w wneud ym mis Medi. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion i—. Rŷch chi wedi pwyso ar y ddau fotwm rwyf fi yn pwyso arnyn nhw. Mae yna ddau beth sydd fwyaf pwysig i fi: cael y gweithlu yn iawn—os na chawn ni hwnnw'n iawn o'r dechrau, mae hwnnw'n mynd i beri gofid mawr i fi—a'r ail beth yw'r ffaith bod rhaid inni feddwl am beth y gallwn ei wneud i wella dysgu ail iaith.
Felly, rwyf yn cydnabod bod 6 y cant o bobl sydd yn y gweithlu—efallai y gallwn ni drafod gyda nhw. Felly, mae hynny'n rhywbeth rŷm ni'n talu sylw iddo ar hyn o bryd. Felly, rŷm ni yn ymwybodol iawn fod rhai inni symud ar hwn ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion i roi adroddiad misol i fi ynglŷn â beth yw'r sefyllfa o ran faint o bobl sydd wedi 'apply-o' i fynd i'r colegau yma, fel ein bod ni'n siŵr ein bod ni ar y trywydd cywir.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2015 pan oedd y cymwysterau TGAU newydd ar gyfer Cymru yn cael eu trafod ac ar fin cael eu cyflwyno, dywedodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, Gweinidog yr wrthblaid bryd hynny dros y portffolio addysg, mai penderfyniad annoeth ydoedd ac y byddai'n cael effaith niweidiol ar ddysgwyr. Mae hi bellach yn 2018, ac mae arnaf ofn fod rhai o'n pryderon yn cael eu gwireddu. Cafodd dros hanner y disgyblion a wnaeth y TGAU mathemateg newydd radd D neu is, yn ôl y canlyniadau a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. A ydych bellach yn derbyn, ac a fyddech yn cytuno â'n hasesiad, mai camgymeriad oedd penderfyniad eich rhagflaenydd i gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn?
Darren, er mwyn y disgyblion a'r athrawon yn y system ar hyn o bryd, mae'n rhaid inni ymdrin â realiti heddiw, ac rwy'n gwneud hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn yn y Siambr hon dro ar ôl tro fy mod yn awyddus i weld addysg yn codi safonau ar gyfer ein plant i gyd, gan gynnwys pontio'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion llai cyfoethog a sicrhau bod ein system addysg yn destun balchder a hyder cenedlaethol, a thrwy wella'r canlyniadau TGAU, dyna un o'r ffyrdd y gallwn wneud hynny. Rwyf wedi dweud yn glir, ers ymgymryd â'r swyddogaeth hon, y gallwn wneud yn well, felly o ran mathemateg, er enghraifft, rydym wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn mathemateg, fel y gallwn wella addysgu mathemateg ledled y wlad, a hefyd i sicrhau, er enghraifft, o ran sefyll arholiadau yn gynnar, sy'n gallu bod yn anfanteisiol mewn rhai achosion fel y gwyddom, na ddylid gwneud hynny mewn ysgolion ac eithrio ar gyfer disgyblion sydd mewn sefyllfa i gyflawni eu llawn botensial yn hytrach na chael eu hanfon i sefyll arholiad yn gynnar a pheidio â chyflawni'r canlyniadau y gallent eu cyflawni ar ôl i'r cwrs gael ei ddysgu yn ei gyfanrwydd.
Ni fydd y geiriau hynny o unrhyw gysur i'r dysgwyr sydd wedi cael graddau is nag y byddent wedi eu cael wrth sefyll yr arholiadau TGAU blaenorol. Rhoesom rybudd hefyd, wrth gwrs, y byddai'r cymwysterau TGAU newydd yn drysu cyflogwyr a'u bod yn llai tebygol o'u derbyn na chymwysterau o rannau eraill o'r DU, ac wrth gwrs, roeddem yn iawn ynglŷn â hynny hefyd. Gwyddom, o ran ceisiadau am brentisiaethau yn Lloegr, sy'n gofyn am TGAU mathemateg a phrofion Saesneg—mae rhai pobl yn gorfod ailsefyll TGAU Saesneg, gan nad ystyrir bod TGAU Cymraeg o werth cyfartal wrth ymgeisio am brentisiaethau penodol. Mae hynny'n annerbyniol, a phobl ifanc sy'n talu pris oherwydd y dyhead hwn am gymwysterau ar gyfer Cymru yn unig, ac mae ein plant a'n pobl ifanc o dan anfantais o ganlyniad i hynny.
Beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr, dysgwyr a phobl sy'n awyddus i gamu ymlaen i broffesiynau, lle y ceir gofynion mynediad penodol, a phrentisiaethau lle y ceir gofynion mynediad penodol, a lle nad yw'r TGAU Saesneg sydd gennym yng Nghymru na'r TGAU Mathemateg sydd gennym yng Nghymru yn cael eu cydnabod—beth y bwriadwch ei wneud i atal ein plant a'n pobl ifanc rhag gorfod goresgyn rhwystr arall drwy orfod ailsefyll arholiadau TGAU, gan mai hynny sy'n digwydd yn ôl y dystiolaeth, er mwyn cyrraedd yno?
Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir: ni all yr Aelod ragdybio y byddai'r plant hynny wedi gwneud yn well o dan yr hen system arholiadau TGAU. Nid wyf am ymddiheuro, Darren—ac rwy'n synnu nad ydych yn cytuno—am ddymuno cael mwy o drylwyredd yn ein system arholiadau, ac os yw arholiadau mathemateg yn cyflwyno mwy o drylwyredd, dylai hynny fod yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddo, yn hytrach na gorsymleiddio ein system arholiadau. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir hefyd—oherwydd rydych yn gwneud anghymwynas â phlant ac athrawon Cymru drwy ailadrodd y myth nad yw ein harholiadau yn cymharu ag arholiadau yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Ni cheir unrhyw dystiolaeth o gwbl y gallwch ei chyflwyno yn y Siambr hon i gefnogi hynny. Mae ein harholiadau, sy'n cael eu goruchwylio gan gorff annibynnol Cymwysterau Cymru, ac sy'n cael eu haddasu a'u monitro gan gyrff ar draws y DU, o werth cyfartal i unrhyw rai eraill, a thrwy awgrymu fel arall yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn heb gyflwyno unrhyw dystiolaeth, rydych yn gwneud anghymwynas â'r plant sydd wedi cael yr arholiadau hynny.
Nid fi yn unig sy'n dweud hyn, ond y cyflogwyr sy'n pleidleisio â'u penderfyniadau i beidio â derbyn pobl ifanc o Gymru sydd wedi sefyll rhai o'r cymwysterau hyn; y prifysgolion—prifysgolion blaenllaw ledled y DU—sy'n dweud, 'Nid ydym yn derbyn bod TGAU rhifedd pobl o Gymru yn gyfwerth â TGAU mathemateg', sef yr hyn y mae Cymwysterau Cymru yn ei ddweud wrthym, wrth gwrs. Y prifysgolion nad ydynt yn derbyn bod bagloriaeth Cymru yn gyfwerth â'r arholiadau Safon Uwch y mae plant a phobl ifanc yn eu sefyll mewn mannau eraill ledled y wlad sy'n dweud hyn. Felly, gallwch wneud cymaint o honiadau ag yr hoffwch, Ysgrifennydd y Cabinet—y gwir amdani yw ei bod yn amlwg nad yw'r rhain o werth cyfartal mewn marchnad lle mae angen iddynt fod o werth cyfartal, sef mewn perthynas â chynorthwyo pobl i gael swyddi ac i gael eu derbyn ar y cyrsiau addysg uwch ac ar y cyrsiau addysg bellach sydd eu hangen arnynt. Ac nid yn unig hynny, ond un o'r rhesymau y mae athrawon yn dweud wrthyf ac y mae'r disgyblion yn dweud wrthyf eu bod yn cael graddau is yw oherwydd, wrth gwrs, fod ganddynt bellach ddwy set o arholiadau i'w sefyll mewn perthynas â mathemateg—un ar gyfer rhifedd ac un ar gyfer mathemateg. Mae hynny'n achosi problemau gydag amserlennu, mae'n achosi problemau sy'n rhoi pwysau ar bynciau eraill, ac mae'n gwaethygu eu canlyniadau. Nawr, datgelwyd yr wythnos diwethaf eich bod yn cyflogi arbenigwr i hyrwyddo'r cymwysterau TGAU newydd ledled y wlad, gan wastraffu arian trethdalwyr, gan eich bod yn mynd ar drywydd y dull gwahanol hwn. Pa gamau rydych am eu cymryd i ddweud wrthym faint y mae hynny'n ei gostio, a faint sydd wedi'i wastraffu arnynt hyd yn hyn, a phryd rydych yn mynd i roi'r gorau i'r prosiect hurt hwn?
Mae'n anghredadwy fod yr Aelod yn awgrymu y byddai unrhyw un yn y Siambr hon yn goruchwylio system arholi a fyddai'n gwneud tro gwael â'n plant. Darren, mae gennym ein dau blant yn y system hon. A ydych yn meddwl am un funud y byddwn i fel mam hyd yn oed, heb sôn am Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn sefyll yma ac yn gadael i fy mhlentyn i neu blentyn unrhyw un arall anelu am gymhwyster o werth is? Nid oes gennych unrhyw dystiolaeth y gallwch ei chyflwyno i'r Siambr hon a fyddai'n cefnogi eich honiad nad yw ein TGAU ni o werth cyfartal. Ac rwy'n synnu—rwy'n synnu bod y Ceidwadwyr am gael gwared ar y TGAU rhifedd, oherwydd fel arfer maent yma yn y Siambr yn dweud bod angen inni sicrhau bod gan blant y sgiliau y mae gweithwyr a busnesau yn gofyn amdanynt, a chymhwyso mathemateg yn ymarferol yn y ffordd a brofir yn yr arholiad TGAU rhifedd yw'r union sgiliau rwyf am weld pobl ifanc Cymru yn eu dysgu.
A gadewch i mi gywiro'r Aelod, Lywydd: nid wyf yn cyflogi unrhyw un i fynd o gwmpas yn hyrwyddo'r cymwysterau hyn. Bydd Cymwysterau Cymru, sy'n gorff annibynnol, yn cyflogi unigolyn i sicrhau nad yw prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn amau trylwyredd ein system arholiadau, a buaswn yn dweud bod unrhyw brifysgol sy'n gwrthod cyfle i dderbyn myfyriwr o Gymru, neu unrhyw gyflogwr sy'n gwrthod cyfle i gyflogi person ifanc o Gymru, ar eu colled, gan fod ein pobl ifanc cystal â phobl ifanc yn unman arall.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd. Ym mis Ebrill y llynedd, canfu arolwg a gynhaliwyd ar eich cais gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod 90 y cant o athrawon yn dweud nad ydynt yn gallu rheoli eu llwyth gwaith. Dywedodd un o'r undebau athrawon fod yr arolwg yn dangos bod llawer o bobl yn y proffesiwn addysgu ar ben eu tennyn. Ar y pryd, fe ddywedoch eich bod yn benderfynol, fel blaenoriaeth, i fynd i'r afael â phroblem hirdymor llwyth gwaith a sicrhau bod athrawon yn cael lle ac amser i addysgu hyd eithaf eu gallu. Er lles y staff addysgu, mae'n hanfodol fod rhywbeth amlwg yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Beth yw eich asesiad o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar leihau llwyth gwaith athrawon, Ysgrifennydd y Cabinet?
Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod llwyth gwaith yn bryder parhaus i'r gweithlu, ac i minnau yn wir. Mae pryderon llwyth gwaith yn amrywio'n fawr ar draws y teulu addysg, fodd bynnag. Mae gwahanol faterion a blaenoriaethau'n codi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y cyfnod ysgol y mae rhywun yn gweithio ynddo, ardaloedd gwledig, amddifadedd, maes pwnc neu eu rôl mewn ysgol unigol, yn ogystal ag arferion gweithredu unigol a fynnir neu a bennir gan arweinwyr yr ysgolion hynny. Ein nod yw meithrin gallu a lleihau llwyth gwaith gormodol er mwyn arwain at safonau gwell ar gyfer ein plant, ond hefyd at wella'r gallu i athrawon reoli eu llwyth gwaith.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un ffordd o leihau llwyth gwaith athrawon, ar wahân i leihau faint o waith papur y mae'n ofynnol iddynt ei wneud, ac ni chlywais sôn am hyn gennych, fyddai lleihau maint dosbarthiadau. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf yn ei gylch. Byddai'n fuddiol i athrawon a disgyblion, a byddai'n cyfrannu'n helaeth at y gwaith o ddarparu'r addysg wych y gwn y gallai ein hathrawon ei darparu pe baent yn cael eu caniatáu i wneud hynny. A ydych yn cytuno? Ac os felly, pa fesurau rydych wedi eu rhoi ar waith i leihau maint dosbarthiadau?
O ran gwaith papur, rydym yn cynnal prosiect biwrocratiaeth i weld pa waith papur y gallwn gael gwared arno ar gyfer athrawon. Rydym yn cyflogi rheolwyr busnes drwy ein cynlluniau peilot fel bod modd i weithiwr proffesiynol arall yn yr ysgol gyflawni tasgau nad ydynt yn ymwneud ag addysgu a dysgu, ac rydym wedi dosbarthu dogfen chwalu mythau sy'n nodi'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan athrawon yn gwbl glir.
Nawr, am y tro cyntaf erioed, mae Michelle Brown wedi dweud rhywbeth rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n cytuno â chi fod maint dosbarthiadau yn hynod o bwysig, a dyna pam rydym wedi darparu adnoddau i awdurdodau lleol, ar ffurf cyfalaf a refeniw, i'w helpu i leihau maint dosbarthiadau yn y meysydd addysg lle y gwyddom y bydd y polisi hwnnw'n cael yr effaith fwyaf, sef ein plant ieuengaf a dosbarthiadau sydd â lefelau uchel o amddifadedd neu lefelau uchel o blant nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Byddwn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r newyddion diweddaraf iddi ynglŷn â'r cynlluniau a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru os oes ganddi ddiddordeb.
Byddai diddordeb mawr gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch am eich ateb.
Gan symud ymlaen, mae awdurdodau lleol o dan bwysau cynyddol o du Llywodraeth Cymru i neilltuo tir ar gyfer tai, ac adeiladir tai newydd ledled Cymru wrth ragweld cynnydd yn y boblogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddatblygu Cymru a denu pobl yma. Nid oes gennyf broblem gyda hynny. Hoffwn ofyn, fodd bynnag: yn sgil y cynnydd tebygol yn y boblogaeth yng Nghymru, pa gynlluniau sydd gennych ar waith i sicrhau bod digon o leoedd mewn ysgolion i addysgu plant ychwanegol yn briodol?
Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol unigol yn bennaf yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion, a buaswn yn disgwyl iddynt allu sicrhau, wrth ymdrin, er enghraifft, â datblygiadau tai newydd, eu bod wedi ystyried gallu'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn i ymateb i anghenion addysgol. Os oes gan yr Aelod unrhyw enghreifftiau lle mae'n teimlo nad yw hynny'n digwydd, hoffwn glywed ganddi oherwydd gallwn drafod hynny gydag awdurdodau lleol unigol.
Yn ddiweddar, cefais y fraint o agor ysgol newydd yn ardal Casnewydd, ysgol a adeiladwyd mewn ardal o'r ddinas lle mae cryn dipyn o dai'n cael eu hadeiladu, a bydd yr ysgol honno'n tyfu wrth i'r gymuned dyfu. Felly, mae ganddynt ddosbarth derbyn a blwyddyn 1, ac wrth i'r gymuned o'i hamgylch dyfu, bydd lleoedd ar gael yn yr ysgol honno, a dyna enghraifft o awdurdod lleol yn meddwl ymlaen o ran sut y maent yn cynllunio ar gyfer rhagor o dai a rhagor o alw ar y system addysg yn eu hardal.