– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 25 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd yr Cabinet dros Gyllid ar y Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr am gytuno i'r datganiad yma am ddatblygiadau ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, dros y misoedd ac wythnosau diweddar, mae trafodaethau dwys wedi cymryd lle gyda'r nod o ddatrys anghytundeb rhyngom ni a Llywodraeth yr Alban ar yr un llaw a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y llaw arall ynglŷn â chymal 11 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Lywydd, heddiw mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn Nhŷ'r Arglwyddi sy'n adlewyrchu cytundeb rhynglywodraethol a gyhoeddwyd y bore yma hefyd. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn ddigon i alluogi Gweinidogion Cymru i argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil mewn cynnig y byddwn yn ei drafod y mis nesaf. Dylai hyn hefyd baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU ddiddymu cyfeiriad ein Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) i'r Goruchaf Lys, ac i'r Llywodraeth yma gychwyn proses i ddiddymu'r Bil hwnnw, sydd, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, bob amser wedi'i fwriadu fel ôl-stop pe na bai'r trafodaethau hyn yn dod i ganlyniad boddhaol.
Hoffwn egluro pam y cred y Llywodraeth fod y cytundeb y daethom iddo'n darparu digon o amddiffyniad i'n setliad datganoli ac yn caniatáu inni gefnogi Bil y DU. Wrth wneud hynny, hoffwn gydnabod y cyfraniad sylweddol a wnaed gan Weinidog Brexit yr Alban, Michael Russell, a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, yn y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd ar y materion hyn.
Lywydd, ceir cyfres o ffyrdd y bydd y cytundeb yn gam mawr ymlaen o'r cynigion gwreiddiol. Bydd yr Aelodau'n cofio, ar ei fwyaf sylfaenol, fod yr anghytundeb yn ymwneud ag egwyddor y pwerau a arferir ar hyn o bryd drwy lyfr rheolau cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, a pha un a oedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hawl unochrog i benderfynu lle y dylai'r pwerau hynny fod ar yr ochr arall i Brexit. Roedd y cymal 11 gwreiddiol yn dargyfeirio'r holl bwerau hyn i San Steffan. Dadleuasom fod pwerau mewn meysydd datganoledig yn perthyn i'r fan hon, y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r gwelliant heddiw'n gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae'n creu sefyllfa ddiofyn lle mae pwerau dros bolisi datganoledig yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y maent wedi bod ers 1999. Nawr, heb y llyfr rheolau a ddarparwyd gan ddeddfwriaeth yr UE, rydym yn cydnabod bod angen i fframweithiau ledled y DU mewn meysydd penodol osgoi amharu ar farchnad fewnol y DU. Bydd rhai o'r fframweithiau DU hyn yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac yn amodol ar gyfyngiad newydd dros dro, sydd ond yn sicrhau parhad trefniadau cyffredin presennol. Lywydd, mae hyn yn amlwg yn llawer mwy cydnaws â'r model cadw pwerau o ddatganoli.
Lywydd, yr ail ffordd y mae'r cytundeb heddiw yn gam sylweddol ymlaen yw ei fod yn cydnabod y bydd Confensiwn Sewel yn berthnasol i bwerau gwneud rheoliadau eilaidd—y pwerau a gaiff eu defnyddio i roi'r cyfyngiadau newydd dros dro hyn ar gymhwysedd ar waith. Ni fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn rhoi rheoliadau o'r fath i'r Senedd eu cymeradwyo oni bai bod y deddfwrfeydd a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi rhoi eu caniatâd. Ar ben hynny, os bydd deddfwrfa'n gwrthod rhoi cydsyniad, gofynnir i'r Senedd benderfynu a ddylid gwneud y rheoliad ar sail gwybodaeth ddiduedd. Hynny yw, nid yn unig y bydd rhaid i ddeddfwyr ddibynnu ar gyfrif Llywodraeth y DU yn unig, ond byddant hefyd yn cael gwybodaeth wedi'i darparu'n annibynnol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Yn drydydd, Lywydd, mae Llywodraeth y DU bob amser wedi honni mai rhai dros dro fyddai'r cyfyngiadau a ragwelir, ond nid oedd unrhyw beth yn y Bil gwreiddiol i gadarnhau hyn. Mae'r cytundeb bellach yn gwarantu cymalau machlud y mae'r gwelliannau yn eu cynnwys ar wyneb y Bil.
Lywydd, y bedwaredd ffordd y mae'r cytundeb hwn yn ddatblygiad mor fawr, fel y gwyddoch, yw bod y cymal 11 gwreiddiol wedi'i lunio yn y fath fodd fel y gellid gwthio deddfwriaeth sylfaenol i osod fframweithiau newydd ar gyfer y DU ar waith, er enghraifft, ar gymorth amaethyddol, drwy'r Senedd heb gael, neu hyd yn oed heb ofyn, am gydsyniad y Cynulliad. Mae'r cytundeb yn diystyru'r posibilrwydd hwn yn benodol.
Mewn pumed datblygiad, un pryder sylweddol ynghylch dull gwreiddiol Llywodraeth y DU o weithredu oedd nad oedd unrhyw gyfyngiad cyfatebol ar y Senedd i ddeddfu mewn perthynas â Lloegr tebyg i'r un a osodwyd ar y deddfwrfeydd datganoledig gan y cymal 11 gwreiddiol, ond mae'r cyfyngiad presennol ar ddeddfu yn groes i gyfraith yr UE yn gymwys i'r holl ddeddfwrfeydd, gan gynnwys y Senedd. Yma hefyd mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth y DU na fydd yn cyflwyno deddfwriaeth o'r fath tra bo'r fframweithiau'n cael eu negodi.
Y pwynt olaf namyn un, Lywydd, yw hwn: drwy nodi proses fwy cydweithredol o weithio'n rhynglywodraethol er mwyn datblygu'r rheoliadau, mae'r cytundeb hefyd yn cymryd cam mawr cyntaf tuag at ddull teg o weithio'n rhynglywodraethol yn y ffordd y dadleuwn y dylai fod yn nodwedd o'r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn olaf, o ran y pwerau cydredol yng nghymalau 7, 8 a 9 o'r Bil i Weinidogion y Goron allu estyn draw i wneud diwygiadau sy'n cywiro i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, mae'r cytundeb yn cydgrynhoi sicrwydd a roddwyd eisoes gan Weinidogion yn y Senedd na ddefnyddir pwerau o'r fath fel arfer heb gydsyniad Gweinidogion datganoledig, gan ddarparu haen arall o sicrwydd.
Lywydd, nid yw'r canlyniad yn berffaith, wrth gwrs. Byddai wedi bod yn well gennym pe na bai yna gymal 11 ac i bob Llywodraeth ymddiried yn ymrwymiadau ei gilydd i beidio â deddfu mewn meysydd lle y cytunwn fod angen fframweithiau ar gyfer y DU gyfan hyd nes y byddid wedi cytuno ar fframweithiau o'r fath. Dro ar ôl tro rydym wedi nodi'n glir ein bod yn barod i roi sicrwydd o'r fath ac i dderbyn sicrwydd tebyg gan y Llywodraethau eraill. Mae eraill wedi ceisio sicrwydd cryfach na allai unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Lloegr, ddatblygu ei deddfwriaeth ei hun mewn perthynas â'r meysydd hyn lle mae angen fframwaith ledled y DU hyd nes y byddai fframwaith o'r fath wedi'i drafod a'i gytuno, ac mae'r cytundeb hwn yn darparu'r sicrwydd hwnnw.
Wrth gwrs, ceir rhai sy'n dadlau ei bod yn annerbyniol, hyd yn oed mewn amgylchiadau eithafol, i'r Senedd allu gweithredu i osod cyfyngiadau ar gymhwysedd datganoledig. Ond hyd nes y negodir setliad cyfansoddiadol newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan—fel y mae'r Llywodraeth hon wedi dadlau ers tro byd—y realiti cyfansoddiadol yw mai'r Senedd sy'n cadw'r rôl honno. Nid yw'r cytundeb hwn, fel Confensiwn Sewel, ond yn cydnabod y ffaith honno gan bwysleisio'r rheidrwydd gwleidyddol i'r Senedd weithredu ar sail cydsyniad lle bo materion datganoledig yn y fantol.
Ac mewn termau ymarferol, Lywydd, rydym yn derbyn bod rhaid cael ateb wrth gefn, ffordd o ddod ag anghydfodau na ellir eu datrys drwy negodi rhynglywodraethol i ben. Hyd nes, ac oni bai y gallwn gytuno ar lwybr arall yn lle symud ymlaen drwy gonsensws—ac rwy'n atgoffa'r Aelodau ein bod wedi cyflwyno cynnig o'r fath er mwyn cyflawni'r ffordd honno o weithredu yn ein papur 'Brexit a Datganoli' y llynedd—yna bydd yr ateb wrth gefn hwnnw'n dod o'r Senedd.
Nawr, Lywydd, roeddwn wedi gobeithio wrth gwrs y gallai'r cytundeb rhynglywodraethol fod wedi ei gytuno gan bob un o'r tair Llywodraeth, gan gynnwys ein cymheiriaid yn yr Alban. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar fwrw ymlaen â thrafodaethau pellach ar fframweithiau yn y dyfodol a'r trafodaethau â'r UE 27. Rwyf wedi'i gwneud yn glir y byddwn yn parhau i weithio gyda'r ddwy Lywodraeth hyd nes yr eiliad olaf sy'n bosibl i weld a ellir gwneud unrhyw fireinio pellach defnyddiol i'r cytundebau presennol, a bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn cyfarfod eto yr wythnos nesaf i olrhain unrhyw gynnydd o'r fath.
Lywydd, mae'r fargen hon yn arwydd o gynnydd sylweddol iawn o lle y dechreuodd hyn i gyd, ac mae'n amddiffyn buddiannau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gadarn. Mae wedi golygu cyfaddawd ar y ddwy ochr. Dyna yw crefft negodi, a chredaf fod y canlyniad yn gytundeb aeddfed rhwng Llywodraethau sy'n parchu buddiannau ei gilydd.
Gyda'r mater yn agosáu at gael ei ddatrys, byddwn yn gallu canolbwyntio sylw o'r newydd ar gyd-destun ehangach perthynas y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Yma hefyd byddwn yn dadlau dros negodi, realaeth a chyfaddawd. Rydym eisiau cytundeb sy'n diogelu buddiannau Cymru a buddiannau hanfodol y DU gan ddangos parch a synnwyr o realaeth tuag at fuddiannau ein partneriaid Ewropeaidd.
Rwy'n cymeradwyo'r cytundeb a'r gwelliannau sy'n gysylltiedig ag ef i'r Aelodau ac yn edrych ymlaen at gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol maes o law.
Yn wahanol i'r ymateb Paflofaidd y gellid bod wedi'i ragweld o bosibl o rai mannau, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i chi a David Lidington, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, a'ch llongyfarch am y ffordd bwyllog, aeddfed a phragmatig y cynhaliwyd y negodiadau gennych er mwyn sicrhau cytundeb ar gymal 11—
Mae angen imi glywed Mark Isherwood, os gwelwch yn dda. Parhewch, Mark.
—o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy'n gwrthdroi'r cymal 11 presennol fel y bydd pwerau sy'n dychwelyd o'r UE mewn meysydd sydd fel arall wedi'u datganoli yn trosglwyddo i'r Llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig? A gaf fi hefyd ddiolch i chi am y ffordd gynhwysol yr aethoch ati ar hyn o'm rhan i a David Melding, ac nid yn unig y dystiolaeth a roesoch yn gyson i'r pwyllgor materion allanol, y bydd fy nghyd-Aelodau'n sicr o gyfeirio ato, ond y ffordd rydych wedi rhannu gwybodaeth yn gyfrinachol gyda ni sydd wedi ein helpu i weithio gyda chi wrth i bethau symud yn eu blaen. Rwy'n credu ein bod oll wedi gobeithio ac wedi credu y gallem gyrraedd y pwynt hwn a rhannu, os nad eich pleser ym mhob agwedd ar hyn efallai, yna y rhyddhad ein bod bellach yn y sefyllfa rydym ynddi.
Rydym wedi hen gydnabod y bydd pwerau a chymwyseddau ar lefel yr UE sy'n berthnasol i faterion datganoledig yn trosglwyddo i'r lle hwn ar adeg ymadael neu ddyddiad neu amser ymadael, oni bai bod ymyrraeth ar ran Llywodraeth y DU, ac rydym yn cydnabod eich bod bellach wedi cytuno'n syml i beidio â deddfu mewn meysydd lle mae angen fframweithiau ar gyfer y DU gyfan hyd nes y cytunir ar fframweithiau o'r fath.
Rydych wedi nodi yn y cytundeb, y cytundeb rhynglywodraethol, ym Mil yr UE, ar sefydlu fframweithiau cyffredin, fod dyletswydd ar Weinidogion y DU i adrodd yn rheolaidd i Senedd y DU ar gynnydd ar weithredu fframweithiau cyffredin, gan ddileu rheoliadau a phwerau cymal 11 dros dro, ac y bydd Gweinidog y DU yn anfon adroddiadau o'r fath yn ffurfiol at y Llywodraethau datganoledig, a fydd, yn eu tro, yn rhannu'r rhain gyda'u deddfwrfeydd eu hunain. Sut y cânt eu rhannu â'r deddfwrfeydd? Pa mor rheolaidd y mae 'rheolaidd' yn ei olygu o ran Gweinidogion y DU? A yw'n rheolaidd yn yr ystyr o amser penodol neu a yw'n rhywbeth a gaiff ei sbarduno gan ddigwyddiadau penodol neu amgylchiadau a gytunir rhyngoch?
Rydych wedi nodi y byddwch yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Tybed a allwch ymhelaethu ychydig mwy ar sut y byddwch yn bwrw ymlaen â hynny, yn enwedig o ystyried safbwynt yr Alban—a'n hewyllys ein hunain, yn sicr, rwy'n meddwl, y bydd yr Alban yn y pen draw hefyd yn rhan o'r cytundeb hwn—heblaw drwy fecanwaith sefydledig y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, oni bai mai dyna'r cyfan sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Mae dyletswydd ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i gynnwys maes polisi yn rhan o'r rhewi, fel y'i gelwir, ar gymal 11. A fydd y rheoliadau hyn yn amodol yn gyntaf ar eu cytuno â Llywodraeth Cymru cyn eu cyflwyno i'r deddfwrfeydd datganoledig? Neu, pa fecanwaith fydd yn bodoli i geisio sicrhau'r cytundeb hwnnw cyn y gofynnir inni eu hystyried? Rydym yn deall y bydd hyn yn caniatáu i Senedd y DU gymeradwyo'r rheoliadau sy'n creu'r rhewi os caiff cytundeb deddfwrfa ddatganoledig ei wrthod neu os na chaiff ei ddarparu o fewn 40 diwrnod, yn amodol ar fod Gweinidogion y DU yn gwneud datganiad i Senedd y DU yn egluro pam eu bod wedi penderfynu gwneud rheoliadau er na cheir cytundeb deddfwrfa ddatganoledig. Yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, pa mor debygol yw hi y bydd y sefyllfa honno'n digwydd? Neu, yn fwy tebygol, pa systemau diogelwch a roddwyd ar waith i leihau'r risg y bydd y sefyllfa honno'n codi?
Rydym yn ymwybodol yn awr o'r machlud neu'r terfyn amser ar y pwerau gwneud rheoliadau: o ddwy flynedd ar ôl y diwrnod ymadael os na chânt eu dwyn i ben ynghynt, ac ar reoliadau'r cymal dros dro eu hunain, bum mlynedd ar ôl iddynt ddod i rym os na chânt eu dirymu'n gynharach. Sut y bydd y gwahanol ddulliau a allai herio fframweithiau y cytunwyd arnynt wedyn yn cael eu dyfarnu a'u trafod? Oherwydd yn amlwg, ar yr adeg honno, pan ddaw'r holl bwerau allan o'r rhewgell a dychwelyd i'r lle hwn, mae'n bosibl y gallai gwahanol ddulliau gweithredu digwydd. Cyfeiriwyd yn gyson at restr o 24 o feysydd fel rhai sydd yn y rhewgell fel y'i gelwir. Deallwn mai 24 o feysydd ydyw o hyd, er efallai fod trafodaeth o hyd ynghylch nifer lai, o bosibl mewn perthynas â chymorth gwladwriaethol. Unwaith eto, os gallech roi rhyw syniad inni efallai o'r sefyllfa mewn perthynas â chymorth gwladwriaethol, oherwydd o'n rhan ni, mae yna resymeg dros wneud cymorth gwladwriaethol yn destun cytundeb fframwaith y DU.
Roedd gennyf un cwestiwn olaf—os gallaf ddod o hyd iddo. Fe ddywedoch y dylai hyn baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU ddiddymu cyfeiriad y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Bil parhad, i'r Goruchaf Lys, ac i Lywodraeth Cymru yma gychwyn proses i ddiddymu'r Bil hwnnw. Pan ofynnais i chi ynglŷn â hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fe nodoch nifer o fecanweithiau posibl y gellid eu defnyddio, ond a ydych wedi meddwl ymhellach ynglŷn â sut, a thros ba gyfnod o amser, y gallech fod yn ceisio diddymu'r Bil hwnnw? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau manwl hynny. Fe wnaf fy ngorau i ateb cynifer ag sy'n bosibl. Cyfeiriodd Mr Isherwood at ddyletswydd ar Weinidogion y DU i adrodd yn rheolaidd wrth Senedd y DU ar gynnydd mewn perthynas â fframweithiau. Credaf fod hynny'n debygol o fod ar sail bob tri mis. Roeddem yn awyddus i weld hynny oherwydd mae'n rhoi pwysau gwirioneddol yn y system i gyrraedd cytundeb yn gyflym ar y materion hynny. Caiff yr adroddiad hwnnw ei rannu gyda'r Cynulliad, fel y dywedodd Mark Isherwood.
Rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar faterion heb eu datrys, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn ei weld, o fewn y cytundeb hwn. Siaradais â Michael Russell, Gweinidog yr Alban, yr wythnos diwethaf ac yn gynharach yr wythnos hon. Rydym yn ymrwymo i barhau i weithio ar y materion a nodwyd gan Lywodraeth yr Alban, ac os gellir gwneud unrhyw beth i wella'r cytundeb mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i Lywodraeth yr Alban ei gefnogi ac sy'n dderbyniol i bartïon eraill, byddwn yn gweithio hyd at y funud olaf i geisio sicrhau hynny, a dyna pam y byddwn yn mynd i gyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion eto yr wythnos nesaf, gyda'r Alban a Llywodraeth y DU, i olrhain cynnydd ar hynny.
Gofynnodd Mark Isherwood i mi pa mor debygol oedd hi, yn fy marn i, na cheid cytundeb mewn perthynas â'r materion sydd i'w rhoi yn y rhewgell. Credaf fod hynny'n annhebygol iawn, oherwydd, fel y bydd yr Aelodau wedi gweld mewn atodiad i'r cytundeb rhynglywodraethol, rydym yn nodi 24 maes y cytuna pob un o'r tair Llywodraeth y gallent fod yn amodol ar gytundebau fframwaith, a cheir dau fater arall—cymorth gwladwriaethol a dynodiad daearyddol bwyd—sy'n dal i fod yn destun trafodaethau parhaus rhwng y gweinyddiaethau.
Ar y Goruchaf Lys, fel y gwelwch, rydym wedi dod i gytundeb dwyochrog. Os a phan y caiff cynnig cydsyniad deddfwriaethol ei basio ar lawr y Cynulliad hwn, bydd y Twrnai Cyffredinol yn mynd i'r Goruchaf Lys i geisio diddymu'r cyfeiriad a wnaed yno. Byddwn wedyn yn cyflwyno cynigion i'r Cynulliad Cenedlaethol a fyddai'n arwain at y cynnig yn cael ei roi ar y llawr yma, ond byddai'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y mae o hyd, yn cael ei ddiddymu. Ni allwch ddiddymu Bil nad yw eto wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Bil hwn eto i fod yn y sefyllfa honno, ac mae amseriad pethau'n dibynnu ar y llwybr gweithredu hwnnw. Ond pan fydd y Twrnai Cyffredinol wedi gweithredu fel y mae wedi ymrwymo i weithredu, byddwn yn rhoi'r cynnig hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn iddo allu penderfynu yn ei gylch.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymddiheuro am golli eich sylwadau agoriadol, ond rwyf wedi darllen eich datganiad yn llawn.
'Cyflawniad arwyddocaol', 'Datganiad cryf', 'Gadewch inni fwrw ymlaen â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit'. Datganiadau Alun Cairns, Ruth Davidson ac Andrew R.T. Davies yw'r rhain. Roedd hyd yn oed Prif Weinidog y DU yn diolch ichi heddiw. Mae'r Torïaid yn baglu dros ei gilydd i groesawu ildiad y Blaid Lafur a'u parodrwydd i estyn pwerau ein Senedd yn ôl i San Steffan. Nawr, drwy fod yn gydawduron 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda ni a phleidleisio i gefnogi ein Bil parhad, roedd Llafur yng Nghymru wedi deall y bygythiad i Gymru a'r tanseilio a fyddai'n digwydd i'n pwerau a ddaw yn sgil Brexit. Mae ein mantais wedi mynd, ein harweiniad wedi'i golli, a'r Senedd wedi'i gwanhau. Cawsom ein camarwain gan y Torïaid a Llafur mewn modd nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Lywydd, roedd ateb i fy llythyr, a gefais y bore yma gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn honni bod fy ngoslef yn ymfflamychol. Pan fydd yn gwerthu'r Senedd hon a democratiaeth fy ngwlad i San Steffan, gall esgusodi fy niffyg goslef gymodlon. Mae'r ffaith nad yw ef a'r gweddill ohonoch mor flin â fi ynghylch y syniad y bydd y Cynulliad hwn yn cael ei wanhau gan San Steffan yn dangos lle mae eich blaenoriaethau.
Yn ei ddatganiad ar lafar, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n well ganddo pe na bai cymal 11 wedi'i gynnwys. Fy nghwestiwn cyntaf braidd yn amlwg yw: pam felly y gwnaeth fargen gyda'r Torïaid sy'n caniatáu i gymal 11 aros? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, fel y mae wedi dweud o'r blaen, y bydd hyn yn arwain at lai o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu a yw'n cytuno gyda'r Prif Weinidog fod y fargen hon yn golygu mwy o bwerau i Gymru? A gaf fi ei eirio mewn ffordd arall? Faint o bwerau, a pha bwerau, rydych yn eu dychwelyd i San Steffan?
Lywydd, mae gennyf lawer mwy o gwestiynau, ond mae gennyf un cwestiwn olaf allweddol am nawr. Yn ei lythyr at yr ASau—ac fel yr amlinellwyd gennych yn eich llythyr i mi, ac yn eich datganiad heddiw—mae Senedd y DU yn cadw'r awdurdod i ddeddfu dros y Senedd hon os na cheir cytundeb ar faterion. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam ei fod yn hapus i San Steffan weithredu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y ddeddfwrfa ddatganoledig, fel y nodwyd gan David Lidington?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiynau.
Rwy'n parhau i resynu braidd at yr iaith a ddefnyddiwyd gan arweinydd Plaid Cymru. Disgrifiwyd y cynnydd y mae'n ei ddisgrifio fel ildiad a chamarwain gan Brif Weinidog yr Alban, yn ei llythyr at y Prif Weinidog heddiw, fel 'cynnydd sylweddol a wnaed'. Dyna a ddywedodd Michael Russell wrth Senedd yr Alban ddoe, pan ddisgrifiodd y llu—y llu—o ddatblygiadau a wnaed o ganlyniad i'r trafodaethau. O ystyried y nifer o gamau a enillwyd gennym drwy gydweithio â'n cymheiriaid yn yr Alban, mae galw'r hyn a gyflawnwyd yn ildiad ac yn gamarwain mor bell oddi wrth y ffeithiau fel bod yr Aelod yn cael ei threchu gan ei gormodiaith ei hun. Mae arnaf ofn, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r hyn sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Pan gafodd cymal 11 ei wrthdroi yn y gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn gynharach, fe ddywedasom, Lywydd, fod yna bedwar cwestiwn heb eu hateb. Atebir y cwestiynau hynny i gyd gan y cytundeb hwn. Dywedasom, 'Sut y rhoddir pwerau yn y rhewgell?' i ddefnyddio cyfatebiaeth Mark Isherwood. Wel, fe wyddom yn awr y cânt eu rhoi yn y rhewgell gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Senedd yr Alban. Dywedasom, 'Pa ddefnydd y gellir ei wneud o'r pwerau tra'u bod yno? Oherwydd cawsom ein hatal rhag defnyddio'r pwerau hynny gan y ddeddfwriaeth.' Nawr, caiff Gweinidogion Lloegr eu hatal rhag defnyddio'r pwerau hynny yn ogystal. Yna fe ddywedasom, 'Sut y caiff y pwerau hynny eu tynnu allan o'r rhewgell?' Ac yn awr, fe wyddom fod gennym broses ar gyfer cytuno ar y fframweithiau sy'n ein symud i le cyfansoddiadol newydd sbon, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam mawr ymlaen i gyflawni'r math o drefniadau rydym am eu gweld ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig.
Nawr, wrth gwrs mae'n wir fod y blaid hon yn blaid ddatganolaidd. Felly, yn y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ar hyn o bryd, os na ellir sicrhau cytundeb, rydym yn cydnabod bod angen trefniant ôl-stop i sicrhau y gall trefniadau fynd yn eu blaenau, ac fel y mae pethau, mater i Senedd y DU yw hynny. Rydym wedi cyflwyno cynigion a fyddai'n newid hynny ac yn rhoi'r cyfan ar sail lawer mwy cyfartal, ond mae hynny oherwydd ein bod yn credu mai o fewn y Deyrnas Unedig y mae sicrhau'r dyfodol gorau i Gymru—mewn Teyrnas Unedig sy'n gweithredu'n effeithiol, sy'n gweithredu ar sail cydraddoldeb, sy'n gweithredu ar sail parch cydradd. Os ydych yn blaid genedlaethol, mae'n gwbl briodol eich bod dweud yn glir wrth bobl nad ydych yn rhannu'r gred honno. Nid ydych yn ddatganolwr, rydych yn ymwahanwr. Rydych yn credu y dylai Cymru fod yn gwbl gyfrifol am bopeth sy'n digwydd. Mae'n safbwynt cwbl barchus i'w arddel, ond credaf fod gan bobl yr hawl nid yn unig i'w gael ar sail parch, ond hefyd yn agored ac mewn ffordd sy'n glir ynglŷn â'r hyn y mae pobl yn ei gredu. Dyna pam, pan fydd yr Aelod yn gofyn pa bwerau sy'n cael eu cadw yn San Steffan, rwy'n tynnu ei sylw at y rhestr a gytunwyd gyda Llywodraeth yr Alban—y rhestr a atodwyd at y cytundeb rhynglywodraethol. Mae yno i bawb ei gweld.
'Beth sy'n digwydd os na cheir cytundeb?' gofynnodd yr Aelod. Rwy'n credu bod y cytundeb hwn yn ein rhoi'n amlwg mewn gofod lle rydym wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb. Os na allwch chi, rhaid i rywun allu rhoi camau ar waith i ddatrys materion na ellir eu gweithredu fel arall. Mae ein cynigion, a'r cytundeb hwn, yn camu ymlaen ar y daith honno a fyddai'n sicrhau bod y sefyllfa honno'n cael ei datrys drwy fod pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd i'r diben hwnnw.
A gaf fi groesawu'r datganiad a chymeradwyo'r Ysgrifennydd cyllid am y dull difrifol, myfyriol a digyffro y mae wedi mynd ati i ymgymryd â'r negodiad hwn, a chredaf ei fod wedi sicrhau casgliad sy'n dderbyniol i bawb yn y Cynulliad hwn sy'n credu y dylai Cymru fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig? Ar gam cynnar, dywedais nad oedd dull Llywodraeth Cymru o gyflawni hyn drwy hyrwyddo Bil parhad o reidrwydd yn safbwynt y byddai disgwyl i unrhyw aelod o UKIP ei gefnogi, ond roeddwn yn barod i roi mantais yr amheuaeth iddynt nad tacteg i osgoi canlyniadau'r refferendwm ydoedd, ac rwy'n falch fod y cyhoeddiad heddiw yn llwyr gyfiawnhau'r hyder a oedd gennyf yn Llywodraeth Cymru yn y dasg honno. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli na fydd rhai ar fy llaw chwith ar y meinciau hyn yn cytuno â'r hyn sydd gennyf i'w ddweud am hyn, ond rwy'n derbyn nad yw'n rhoi'r cyfan y byddent eisiau ei weld i Blaid Cymru, a bod yna elfen benodol o hyder na fydd Llywodraeth y DU cilio rhag yr addewidion o ymddygiad da—os caf ei roi felly—sydd wedi'i gynnwys yn rhan o'r cytundeb hwn.
Maes o law, pe bai ymgais ar ran Llywodraeth y DU i geisio cipio pŵer, credaf y byddai hynny'n ysgogi argyfwng cyfansoddiadol o fath difrifol iawn, ac yn yr amgylchiadau hynny byddai aelodau o UKIP hyd yn oed, sy'n credu mewn parchu canlyniadau refferenda, ar ochr y bobl sydd am gadw pwerau'r Cynulliad hwn. Nid wyf yn credu, felly, y byddai unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn debygol o grwydro i'r diriogaeth honno, hyd yn oed yn anfwriadol.
Rhaid imi ddweud, credaf ei bod braidd yn rhyfedd fod Plaid Cymru wedi mabwysiadu'r ymagwedd hyperbolig hon, fel y'i disgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid, o ystyried bod y rhain oll yn bwerau nad oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl drostynt ar hyn o bryd am eu bod wedi'u lleoli ym Mrwsel, yn nwylo Comisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd na allwn eu henwi hyd yn oed, heb sôn am eu hethol neu eu diswyddo, sefydliad nad oes gan y Deyrnas Unedig, drwy Gyngor y Gweinidogion, ond 8.5 y cant yn unig o'r pleidleisiau. Senedd Ewrop, sydd ag ond ychydig iawn o bwerau cyfyngedig i roi deddfwriaeth mewn grym yn yr UE—yn Senedd Ewrop, nid oes gan Gymru ond pedwar ASE o blith oddeutu 750. Felly, mae democratiaeth a'r rhagolygon yma'n gwella'n aruthrol, hyd yn oed os bydd rhai o'r meysydd polisi hyn yn aros yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros dro yn hytrach na chael eu datganoli i'r Cynulliad yma yng Nghymru.
Ceir tair agwedd ar y cytundeb hwn y credaf ei bod hi'n werth tynnu sylw atynt ar y pwynt hwn, yn enwedig y cymalau machlud y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n sefydlu go iawn fod y pwerau hyn yn mynd i gael eu dychwelyd i'r Cynulliad yn llawn mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Nid yw hyd at saith mlynedd yn amser hir ofnadwy yn oes deddfwrfa, hyd yn oed un mor ifanc â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn cael marchnad fewnol sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae pawb ohonom yn derbyn y bydd yn rhaid cael fframweithiau cyffredin a bydd yna broses o negodi a fydd yn parhau, a lle bydd llais Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn cael ei glywed yn ei negodiadau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er nad oes gennym bŵer i ddeddfu yn y pen draw.
Mae'r ail bwynt yr hoffwn dynnu sylw ato ym mharagraff 8 y cytundeb rhynglywodraethol, ac mae ei frawddeg olaf yn dweud na ddefnyddir y pwerau i weithredu polisi newydd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mai diben sylfaenol defnyddio pwerau o'r fath fydd effeithlonrwydd gweinyddol.
Felly, yr hyn y siaradwn amdano yma yw trefniant gwaith yn unig, gwrthwyneb llwyr y cipio pwerau y dywedir ei fod yn digwydd mewn gwirionedd.
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud ar hyn yn ymwneud â pharagraff 9. Mae'n dweud wrth gwrs y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddiwygio deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd y gellir ei chymhwyso'n uniongyrchol ym mhob maes nad yw wedi ei gynnwys yn y rhan honno o'r cytundeb sy'n rhoi pŵer deddfu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, byddwn yn cael pwerau yn ôl, hyd yn oed yn y cyfnod o saith mlynedd pan nad oes gennym reolaeth lwyr dros y meysydd hyn. Felly, dyma gam mawr ymlaen mewn democratiaeth yng Nghymru.
Fodd bynnag, rwy'n gobeithio, pan gawn ni ryddid llwyr, yn y pen draw, na fydd bodolaeth fframweithiau cyffredin yn rhy anhyblyg ac y bydd gennym allu i wahaniaethu, oherwydd gwelaf mai un o fanteision mawr dychwelyd pwerau o Frwsel i Gaerdydd, Caeredin, Belfast, yn ogystal â San Steffan, yw y gallwn gael rhywfaint o gystadleuaeth ddeddfwriaethol rhwng gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Ceir gwahanol ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd, ac nid oes raid i bawb ohonom wneud pethau yn yr un ffordd a symud gyda'n gilydd ar yr un cyflymder. Drwy broses o gystadleuaeth fewnol, fe fyddwn yn canfod pa broses yw'r orau a pha ffurf ar ddeddfwriaeth yw'r orau, a bydd pawb yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig pobl Cymru, yn elwa o'r broses honno. Felly, rwy'n llongyfarch yr Ysgrifennydd cyllid ar ei gyflawniad, a chredaf ei fod yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.
Llywydd, diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiynau.
Rwyf am ymateb i nifer fach ohonynt. Beth fyddai'n digwydd, gofynnodd yr Aelod, pe bai Llywodraeth y DU yn cilio rhag y cytundeb rhynglywodraethol a gafwyd rhyngom a hwy? Wel, mae'n iawn: byddai'n argyfwng cyfansoddiadol go iawn. Nid wyf yn meddwl y bydd hynny'n digwydd, oherwydd credaf fod yn rhaid imi fwrw ymlaen ar y sail, os daw Gweinidog mewn Llywodraeth arall, ar ôl llawer o wythnosau a misoedd o negodi amyneddgar, i gasgliad y mae'n rhaid iddynt geisio cytundeb gan bob un o'u cymheiriaid yn y DU i'w droi'n ddeddfwriaeth ac yn rhan o'r cyfryw gytundeb, pan fyddant wedi gwneud yr holl ymdrechion hynny a'i fod wedi'i gydgrynhoi rhyngom, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ragdybio eu bod yn golygu'r hyn y maent yn ei ddweud ac y byddant yn cadw at eu gair. Nid yw'n bosibl cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol ar unrhyw sail arall.
Cyfeiriodd at y cymal machlud. Credaf y bydd fframweithiau'n cael eu rhyddhau'n gyflymach o lawer o'r rhewgell na'r saith mlynedd y mae'n ei nodi, a cheir rheswm ychwanegol yn y cytundeb hwn pam y dylai hynny fod yn wir, oherwydd mae'r cytundeb hwn yn atal Gweinidogion Lloegr rhag gwneud newidiadau i bolisi yn Lloegr hyd nes y cytunir ar y fframweithiau hynny. Ceir pob cymhelliad bellach i bob partner fel ei gilydd sicrhau'r trefniadau hynny mor gyflym ag y bo modd, a chredaf y byddwn yn gweld cynnydd cyflym yn hyn o beth. Wrth gwrs, dyna oedd yr ail bwynt a wnaeth yr Aelod ei hun: na ellir defnyddio'r pwerau i roi polisïau newydd mewn grym. Cadw'r status quo yn unig a wna—y status quo yn llyfr rheolau'r Undeb Ewropeaidd—y llyfr rheolau Ewropeaidd a gyflwynodd llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon i bobl Cymru a cheisio'u perswadio y dylem aros i mewn yn barhaol, ac roeddwn yn cytuno â hynny. Y cyfan y mae hyn yn ei ddweud yw mai dyma fydd y safbwynt o hyd, y safbwynt a gafodd ei gefnogi—dyma yw'r safbwynt sy'n parhau ac ni fydd yn newid. Bydd yn parhau i sefyll—bydd y safbwynt y dadleuasom drosto yn y refferendwm yn parhau i sefyll hyd nes y byddwn wedi cytuno ar ffordd o newid.
Yn olaf, gofynnodd beth sy'n digwydd i'r meysydd nad ydynt yn cael eu cadw yn y rhewgell. Wel, roedd yn iawn am hynny: maent yn dychwelyd yma ar unwaith. Yn y cymal 11 gwreiddiol, roedd pob un ohonynt i gael eu cadw yn San Steffan. Bellach, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dychwelyd yma ar unwaith a gallwn barhau gyda'r gwaith o ddyfeisio polisïau a ffyrdd o wneud pethau sy'n gweddu i amgylchiadau Cymru.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac a gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r ymrwymiad y mae ef yn bersonol wedi ei roi i'r gwaith hwn? Heb os, mae wedi bod yn arwain o'r tu blaen. Hefyd, diolch i Mike Russell, Gweinidog yr Alban sydd wedi cymryd rhan yn hyn, ac os oes yn rhaid i mi, i David Lidington yn ogystal—hefyd, i swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd, y tu ôl i'r llenni, ar sail lawer mwy rheolaidd, wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hyn. Rydym wedi teithio ymhell o ble roeddem yn y Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gwreiddiol. Credaf fod y gair 'aeddfed' wedi'i grybwyll, ac mae'n bwysig cydnabod os ydym yn dymuno cael ein hystyried fel rhai sydd mewn perthynas aeddfed â Llywodraeth y DU, mae yna bethau weithiau sy'n rhaid inni eu disgwyl a chytuno arnynt. Efallai mai fy mhryder i yw bod hanes wedi dangos nad yw hynny bob amser yn cael ei ad-dalu, ac mae gennym rai pryderon o ran gallu'r ochrau eraill i ddangos aeddfedrwydd hefyd.
Y cytundeb, Ysgrifennydd y Cabinet—yn amlwg, nid ydym wedi gweld y gwelliannau, ac edrychwn ymlaen at hynny. Bydd y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld y gwelliannau hynny, a goblygiadau cyfreithiol penodol y gwelliannau hynny, yn yr wythnosau nesaf, cyn inni drafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y nodoch y byddwch yn ei gyflwyno rywbryd yn ystod mis Mai. Ond ar y cytundeb, a'r memorandwm, mae un neu ddau o bryderon gennyf ynglŷn â hynny. Caiff y geiriau 'fel arfer' eu defnyddio'n aml, fel y nodwyd sawl gwaith. Credaf fod angen inni gael dealltwriaeth o beth y mae 'fel arfer' yn ei olygu, oherwydd mae llysoedd y gyfraith yn sôn yn aml am beth sy'n arferol a beth sy'n afresymol, ac nid oes eglurhad yno, oherwydd mae yna gwestiwn na ddylem ddal pethau'n ôl pan fo'n afresymol gwneud hynny, ond efallai y gallai Llywodraeth y DU hefyd symud yn gynt ar yr hyn sy'n rym rhesymol arnynt i sicrhau eu bod yn darparu. Mae'r cytundeb hwn yn dweud, 'Ni all dim ddigwydd yn Lloegr tra bo hynny yn y rhewgell', ond beth sy'n digwydd os yw'n gyfleus inni ei dynnu allan o'r rhewgell mewn gwirionedd ond nid yn Lloegr, ac felly eu bod hwy'n afresymol? Sut y symudwn ymlaen ar hynny, gwthio'r agenda, fel ein bod yn cael ateb sy'n addas i bawb, os daw'r cytundeb hwnnw? Credaf fod hynny'n bwysig, oherwydd fel arall efallai y gellid ei ddefnyddio i rwystro cynnydd yn y gwledydd datganoledig.
Y sylw ym mharagraff 7 am y cyfnod o amser a'r cyfnod dros dro o bum mlynedd arno—y cymal machlud; ni allwn gofio'r gair. Gallai fod yn saith mlynedd i gyd, mewn gwirionedd: dwy flynedd i'r adeg y daw i ben, a phum mlynedd arall o'r pwynt hwnnw. Mae hynny'n mynd â ni hanner ffordd drwodd, mewn gwirionedd, os nad yr holl ffordd drwy'r Cynulliad nesaf. Felly, mewn gwirionedd mae'n ein cyfyngu fel Cynulliad rhag gwneud penderfyniadau polisi, a hyd yn oed rhag gallu cyflwyno'r penderfyniadau polisi hynny i'r bobl benderfynu yn eu cylch mewn etholiadau. Felly, mae'n gyfnod hir o amser, ac rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar ba amgylchiadau fydd yn bum mlynedd mewn gwirionedd, a pha rai y gallwn eu gwneud yn gynt na hynny, oherwydd ceir cyfnod cyffredinol o bum mlynedd ar hyn o bryd, ac mae'n gyfnod hir i'n cyfyngu rhag gwneud rhai penderfyniadau a fyddai o fudd i Gymru, ac a fyddai o fudd i bolisïau Cymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig iawn.
Dengys yr adroddiad cynnydd ym mharagraff 9 y cytundeb rhynglywodraethol y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn anfon adroddiadau ffurfiol at y Gweinidogion, a bydd y Gweinidogion yn amlwg yn rhannu'r adroddiadau hyn â'u deddfwrfeydd eu hunain yn rhan o'r trefniadau adrodd. Ond sut y gallwn roi adborth ar yr adroddiad hwnnw fel deddfwrfa? Ble mae ein mewnbwn i'r dadleuon ar yr adroddiad hwnnw, a'r cynnydd ar hynny? Nid yw'n gwbl glir.
Yn y memorandwm a ddaw gydag ef, mae'n dweud y gall Gweinidogion y DU wneud argymhellion a gaiff eu cymeradwyo gan Senedd y DU, ond a fyddant yn cael eu cyflwyno i ni o gwbl? Cymeradwyaeth gan Senedd y DU ydyw, ond nid yw'n dweud mewn gwirionedd y cawn ni unrhyw ystyriaeth, mewn amgylchiadau lle y gwneir rheoliad cymal 11 o bosibl. Os na roddir cydsyniad y ddeddfwrfa, mae'n dweud y gallant weithredu gyda datganiad ysgrifenedig yn nodi pam eu bod wedi gwneud hynny. Rydych yn ystyried y datganiad ysgrifenedig, ond ble mae ein mewnbwn i hynny? O ble y cawn y wybodaeth honno? Ble mae'r adroddiad i ni ynglŷn â pham y maent wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, a sut y gallwn ymateb i'r adroddiad hwnnw? Credaf ei bod yn bwysig inni ymdrin â hynny hefyd.
Ac yn olaf ym mhwynt 9 y memorandwm, mae'r frawddeg olaf yn dweud:
na ellir eu diwygio gan y gweinyddiaethau datganoledig gan fod rheoliadau cymal 11 wedi'u gwneud, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo y bydd yn ymgynghori yn gyntaf â'r weinyddiaeth neu'r gweinyddiaethau datganoledig perthnasol— mae'r gair 'ymgynghori' yno eto, ac nid 'ceisio cydsyniad', naill ai'r Gweinidogion neu'r gweinyddiaethau datganoledig. Felly, unwaith eto, mae gennym sefyllfa lle nad oes dim ond ymgynghori'n digwydd ac ni cheisir unrhyw gydsyniad, na dod i gytundeb.
Felly, mae gennyf rai pryderon dwfn ynglŷn â'r ffaith y ceir meysydd o hyd lle na chawn gyfle i gyfrannu at y broses honno fel deddfwrfa, heb sôn am fel Gweinidogion, a buaswn yn gobeithio y byddwch yn ystyried y rheini o bosibl, oherwydd mae'r 24 maes a nodwyd yn eithaf enfawr mewn gwirionedd— amaethyddiaeth, ffermio organig, lles anifeiliaid, ansawdd amgylcheddol, labelu bwyd, rheoli a chynorthwyo pysgodfeydd, sylweddau peryglus—ac rwy'n tybio bod hynny'n cynnwys gwastraff peryglus—caffael cyhoeddus, honiadau iechyd maethol. Mae'r 24 maes yn cwmpasu llawer iawn o bethau. Gallai llawer o feysydd fod wedi'u rhewi am y saith mlynedd nesaf.
Lywydd, diolch ichi. Yn gyntaf oll, a gaf fi roi sicrwydd i'r Aelod y bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno cyn y Cyfnod Adrodd a Chyfnod y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi? Mae'n gywir i ddweud bod y rhwymedigaeth 'nid fel arfer' ar Lywodraeth y DU yn cael ei chydbwyso gan y rhwymedigaeth 'heb ei ddal yn ôl yn afresymol' ar y gweinyddiaethau datganoledig.
Gadewch imi ymdrin â'r hyn a ddywedodd am y cymal machlud. Gadewch inni fod yn glir y caiff y cyfnod cyntaf o ddwy flynedd eu cynnwys yn y cytundeb pontio y mae Llywodraeth y DU bellach wedi'i gytuno gyda'r Undeb Ewropeaidd. Felly, am y cyfnod hwnnw o amser, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i sicrhau bod y llyfr rheolau presennol a'r trefniadau sy'n bodoli eisoes yn eu lle. Dywedais yn fy ateb cynharach i Neil Hamilton y byddai'r pum mlynedd sy'n dilyn wedi hynny'n cynnig diogelwch, a gadewch i ni gofio nad oedd y cymal 11 gwreiddiol yn cynnwys unrhyw ddiogelwch o gwbl. Gallai'r pwerau hynny fod wedi'u cadw am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ac mae sicrhau cymal machlud, gallaf ddweud wrthych, wedi galw am wythnosau bwy'i gilydd o ddadlau rhwng ein Llywodraeth ni a Llywodraeth yr Alban ar y naill law, a Llywodraeth y DU ar y llall. Ac mae'n gam arwyddocaol ymlaen ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi bod yn barod i gynnwys yr ôl-stop hwnnw yn y ddeddfwriaeth. Credaf y byddwn wedi dod i ben â hyn i gyd ymhell cyn yr adeg honno.
Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd David Rees am waith swyddogion yn y maes hwn. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi gweithio'n ddiflino, yn enwedig dros y ddau fis diwethaf, i sicrhau'r sefyllfa rydym wedi'i chyrraedd heddiw. Maent yn haeddu diolch pob Aelod o'r Cynulliad hwn.
Cyfeiriodd David Rees at yr adroddiadau cynnydd a nodir yn y cytundeb. Dywedais wrth Mark Isherwood y credaf y byddant yn cael eu cynhyrchu bob tri mis ac y byddant ar gael i'r Cynulliad hwn. Mae David Rees, fel Cadeirydd un o bwyllgorau mawr y Cynulliad, yn gwbl briodol yn cyfeirio at yr angen i fanylu ar sut y bydd gwaith craffu'n digwydd ar y cytundeb hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n gwbl fodlon ymrwymo ar ran y Llywodraeth y byddwn eisiau siarad gyda'r pwyllgorau a fydd yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny am y ffyrdd gorau o gyflawni hynny.
Lywydd, byddai wedi bod yn gynamserol, mi gredaf, i mi fod wedi cytuno ar unrhyw beth â'r Alban a Llywodraeth y DU ar y camau gweithredu sydd yn nwylo'r ochr Seneddol i'r sefydliad hwn heb yn gyntaf fod wedi cael cyfle i siarad â'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni'r cyfrifoldebau craffu hynny. Credaf ein bod, yn y ddadl hon, wedi darparu'r deunydd crai sy'n gwarantu y bydd y cyfleoedd craffu hynny ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bellach mae angen inni weithio gyda chi i wneud yn siŵr fod y ffyrdd ymarferol y caiff hynny ei gyflawni yma yn rhai sy'n bodloni gofynion y pwyllgorau ac sy'n caniatáu i'r Llywodraeth gyflawni ei chyfrifoldebau hefyd.
Mae'n ddrwg gennyf lwytho molawd arall ar y Gweinidog, ond credaf fod ei berfformiad grymus drwy gydol y mater hwn—nid wyf bob amser wedi cytuno â'r hyn y mae wedi'i wneud, ond rwy'n credu ein bod bellach yn gweld ffrwyth cyfaddawd dychmygus iawn a fydd yn parchu canlyniadau'r refferendwm ac yn cryfhau'r cyfansoddiad Prydeinig.
Lywydd, lluniwyd datganoli ar sail aelodaeth o'r UE. Mae'n debyg y byddai wedi'i lunio mewn ffordd wahanol iawn pe na bai Prydain wedi bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn y 1990au. Cawsom un o'r mathau mwyaf trylwyr o ddatganoli—sy'n rhyfeddol mewn gwirionedd, o gofio ein hanes fel gwladwriaeth unedol. O ganlyniad i'ch negodiadau, mae natur y setliad datganoli nid yn unig heb ei newid, ond mae'n ymddangos i mi y bydd wedi'i gryfhau mewn ffordd radical.
Gadewch inni beidio ag anghofio, nad yw llawer o'r pwerau a fydd yn cael eu rhewi—y pethau y bydd gofyn eu cael i redeg fframweithiau—gyda ni ar hyn o bryd, mewn gwirionedd; maent yn bodoli ar lefel llywodraethiant Ewropeaidd. Ymddengys i mi eich bod wedi cryfhau rôl Llywodraeth Cymru a bydd gan y ddeddfwrfa hon fel y gwelwn yn awr ymddangosiad cydlywodraethu dros faterion hanfodol i'r Deyrnas Unedig gyfan.
Yn wir, o'r cychwyn mae Llywodraeth yr Alban, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, wedi derbyn yr angen am fframweithiau i lywodraethu meysydd o ddiddordeb cyffredin. Rydym yn clywed drwy'r amser gan grwpiau amgylcheddol, er enghraifft, fod hyn yn bwysig tu hwnt. Felly, credaf fod llywodraethu fframwaith yn hanfodol a chroesawaf yn arbennig y cytundeb rhynglywodraethol a gobeithio y bydd hyn yn gosod cynsail ar gyfer y modd y gweithreda'r fframweithiau hyn yn y dyfodol pan fydd angen iddynt weithredu a chael eu diwygio mewn blynyddoedd i ddod. Felly, rwy'n ei longyfarch ar amddiffyn pwerau'r Cynulliad hwn ac yn wir, fel y dywedais, ar gadw mewn modd dychmygus iawn y ffurf eang o ddatganoli sydd gennym.
A gaf fi ddweud yn olaf y credaf fod egwyddor triniaeth gyfartal y pwerau yn y rhewgell—rhaid imi ddefnyddio'r gyfatebiaeth honno hefyd—yn gyflawniad anhygoel? Mae'n diogelu ein hawliau a'n buddiannau, ac fel y dywedais mae'n ffurfio sail ar gyfer cydlywodraethu priodol yn y dyfodol yn fy marn i.
Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ac am y sylw gofalus iawn y mae wedi'i roi i hyn i gyd ac am y cyfle ar hyd y ffordd i drafod datblygiadau gydag ef, fel y gwneuthum gyda phleidiau eraill yma? Mae'n hollol gywir i ddweud bod y cytundeb hwn yn sicrhau rôl gryfach i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar draws ystod gyfan o gyfrifoldebau pwysig iawn.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud heddiw y bydd popeth a gytunwyd gennym ar gael i Lywodraeth yr Alban, a chredaf fod Llywodraeth yr Alban hefyd wedi dynodi, er eu bod yn dymuno pe bai modd i'r cytundeb hwn fynd ymhellach, ac rydym yn parhau i weithio gyda hwy ar hynny, y byddant hwy hefyd yn gweithredu'n llwyr o fewn y fframweithiau a nodwyd gan ein cytundeb, ac mae hynny'n golygu nid yn unig fod ein pwerau wedi'u cryfhau, ond y bydd datganoli ledled y Deyrnas Unedig mewn man gwahanol i ble y byddai wedi bod pe na baem wedi gallu cyrraedd y cytundebau sydd gennym. A bydd yr egwyddor triniaeth gyfartal a sicrhawyd gennym, lle mae Gweinidogion Lloegr yn yr un sefyllfa'n union â Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban, yn dir newydd sylfaenol bwysig a enillwyd gennym, a chredaf y bydd yn rhoi hwb newydd i'r cytundeb hwn yn ei gyfanrwydd allu sicrhau bod y prosesau y mae'n eu nodi yn cael eu gwneud, a'u cwblhau, a bod y pwerau'n dychwelyd yn llwyr i'r sefydliad cyn pen dim o dro.
A gaf fi ddweud bod eich datganiad wedi fy niflasu'n bersonol, Ysgrifennydd y Cabinet? Ac oherwydd prinder amser, fe ganolbwyntiaf ar rai cwestiynau'n unig. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill pwerau yma mewn ymateb i ganlyniadau refferendwm a gawsom yma yng Nghymru. Mae 24 o'n pwerau ar fin cael eu rhewi am hyd at saith mlynedd mewn rhewgell. Trosglwyddo pwerau o'r lle hwn i rywle arall yw hynny—pwerau sydd bob amser wedi dod i'r lle hwn o Frwsel i Gaerdydd heb unrhyw groestorri.
Brynhawn dydd Llun, yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cawsom drafodaeth ar gymal 11. Rydych yn dweud yn eich datganiad: 'Nid yw'r canlyniad hwn yn berffaith.' Cytunaf â chi yn y fan honno, Ysgrifennydd y Cabinet.
Byddai'n well gennym pe na bai Cymal 11 yn bodoli.
Rwy'n cytuno â chi ar hynny hefyd. Ac mae'n amlwg ichi wneud y pwynt yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol brynhawn Llun nad oedd gwrthdroi cymal 11 ym mis Mawrth yr awgrymodd Llywodraeth y DU nad oedd yn ddigon i chi o hyd—heb fod yn ddigon i chi o hyd; roedd gormod o amwysedd yn ei gylch. Daliai i edrych fel pe bai San Steffan yn mynd i redeg yr amserlen, y pwerau a phopeth, er mai hwy oedd wedi'i wrthdroi. Mewn geiriau eraill, nid oedd y pwerau'n mynd o Frwsel i San Steffan ac wedyn, o bosibl, ymlaen i Caerdydd. Maent yn mynd o Frwsel i Gaerdydd yn awr gyda rhai wedi'u cadw yn Llundain—y rhan sydd wedi'i wrthdroi. Felly, roeddwn gyda chi hyd at y pwynt hwnnw ac roeddwn gyda chi yn eich anfodlonrwydd ynglŷn â'r sefyllfa fel oedd hi brynhawn dydd Llun. Felly mae pethau wedi digwydd yn gyflym iawn yn y 24 awr hynny. Yn amlwg, mae 24 awr yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond a allwch egluro beth yn union a ddigwyddodd rhwng prynhawn dydd Llun a phrynhawn dydd Mawrth—ddoe?
Oherwydd amser, mae fy unig gwestiwn arall yn ymwneud â chydlywodraethu, oherwydd rydym yn y sefyllfa rydym ynddi. Mae'n ymwneud â fframweithiau a phwy sy'n penderfynu. Mewn geiriau eraill, yr hyn rydym ei eisiau yw cadarnhad nad yw'r hen ddictad o 'San Steffan yn penderfynu ac yna'n dweud wrthym beth i'w wneud' yn ddigon da. Mae llawer o ddefnydd creadigol o'r gair 'fel arfer' yma, a gall pobl ddehongli 'fel arfer' mewn nifer o ffyrdd. Rydym eisiau sicrwydd yn y sefyllfa enbyd hon fod cydlywodraethu mewn perthynas â fframweithiau hanfodol bwysig yn gydlywodraethu go iawn. Mewn geiriau eraill, y bydd ein mewnbwn yma o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael ei gydnabod mewn gwirionedd, ac y ceir parch cydradd a chydraddoldeb o ran perfformiad, yn hytrach na bod San Steffan yn penderfynu a ninnau'n dilyn yn dila. Oherwydd mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei ymddiriedaeth mewn Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.
Bob dydd yma, rydym yn clywed sylwadau dilornus gan Aelodau Llafur y Cynulliad am y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, yr un Lywodraeth Dorïaidd yr ydych wedi ymddiried y manylion iddi i wneud yn siŵr nad ydym yn colli pwerau. Mae ymddiriedaeth yn beth bregus iawn, yn enwedig pan fyddwch yn ymdrin â'r Ceidwadwyr. Rydym wedi cael pobl yn barnu perfformiad y Ceidwadwyr heddiw hyd yn oed, mewn perthynas â chyni, diwygio lles, pensiynau menywod, ac yn y blaen—yr wythnos diwethaf yn ogystal. Bellach, rydych yn ymddiried yn yr un Lywodraeth ag sydd wedi gorfodi ein pobl i fyw mewn tlodi.
A fy mhwynt terfynol yw hwn: mae pobl bob amser yn dweud, pam fod gan Gymru lai o bwerau, llai o ddylanwad na'r Alban, na Gogledd Iwerddon, na Manceinion, lle mae plismona wedi'i ddatganoli, na Chynulliad Llundain? Wel, wyddoch chi pam? Oherwydd yn y pen draw, mae Llywodraeth San Steffan yn gwybod bob tro y bydd Llafur yng Nghymru bob amser yn ildio.
Wel, Lywydd, rwy'n teimlo'n sicr pan fydd yr Aelod yn cael cyfle i astudio'r hyn a gytunwyd y bydd peth o'r pryder y mae wedi'i fynegi y prynhawn yma'n cael ei liniaru. Mae'n unigolyn rhesymol, rwy'n gwybod, ac rwy'n credu o ddifrif pan ddaw i edrych ar y manylion, y bydd yn teimlo y gall edrych yn wahanol ar rai o'r pwyntiau a wnaeth.
Dywedodd nad oedd gwrthdroi cymal 11 yn ddigon, ac wrth gwrs mae'n iawn, ac wrth gwrs roeddem yn cytuno â hynny. Ac yna gofynnodd beth oedd wedi digwydd ddoe i ddod i gytundeb mor gyflym. Roedd ddoe yn ddiwrnod cyflym iawn o symud yn ôl ac ymlaen rhwng y tri chyfranogwr yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dyfarniad ydoedd: dyfarniad ar ran y Llywodraeth hon, pe na baem wedi dynodi ddoe ein bod yn barod i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y byddai popeth a gyflawnwyd gennym yn ystod y negodiadau hyn, popeth a amlinellais y prynhawn yma sy'n wahanol ac yn gam ymlaen i ddatganoli ar y cymal 11 gwreiddiol, heb gytundeb gyda ni a heb gytundeb gyda Llywodraeth yr Alban, y byddai Llywodraeth y DU yn dychwelyd at y gwelliant gwreiddiol a gyflwynodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Popeth a gyflawnwyd gennym, popeth y mae Prif Weinidog yr Alban yn cyfeirio atynt fel 'datblygiadau sylweddol': ni fyddai dim o hynny wedi'i sicrhau. A dyna a newidiodd ddoe: y datganiad gan Weinidog yr Alban; negodiadau a thrafodaethau pellach rhyngom ni a Llywodraeth y DU; a'r Llywodraeth hon yn sicrhau popeth a sicrhawyd gennym dros wythnosau a misoedd o negodi poenus a manwl. Credaf mai dyna pam yr ystyriaf hyn yn gyflawniad mawr.
Gofynnodd Dr Lloyd gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â phwy sy'n penderfynu ar y fframweithiau a ddaw i'r amlwg wrth i bwerau ddychwelyd i'r gweinyddiaethau datganoledig. Wel, bydd penderfyniadau'n digwydd mewn dwy ffordd wahanol. Yn gyntaf oll, rydym wedi sicrhau set gyfartal o drefniadau lle bydd y tair—ac os oes gennym weinyddiaeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon, pedair—Llywodraeth yn gweithio ar y cyd i sicrhau'r fframweithiau hynny. Ni fydd yn fater, fel sydd wedi digwydd yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, o Lywodraeth y DU yn gweithio ar y pethau hyn ar ei phen ei hun a chynhyrchu darn o bapur ar yr unfed awr ar ddeg a dweud wrthym, 'Dyna fe, gallwch ei gael os ydych ei eisiau.' Na. Mae hyn yn hollol wahanol. Mae pawb ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar y fframweithiau, a dyna sut y cânt eu cytuno.
Wedyn, pwy sy'n penderfynu? Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu. Oherwydd lle bydd gofyn cael sail ddeddfwriaethol i'r fframweithiau hyn, boed drwy ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth, cymhwysir Confensiwn Sewel. Ac mae hynny hefyd yn gam mawr ymlaen yn y cytundeb hwn. Am y tro cyntaf, caiff Sewel ei warantu yn y rheoliadau. Caiff ei gymhwyso i ddeddfwriaeth sylfaenol bob amser, a bydd yn digwydd os oes angen deddfwriaeth sylfaenol ar fframweithiau. Nawr, bydd yn gymwys i fframweithiau sy'n galw am wneud rheoliadau yn ogystal, a bydd hynny'n dod yma, i lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn i'w benderfynu. Dyna pam, yn y pen draw, os ydych yn negodi'n ddidwyll â llywodraethau eraill, rhaid caniatáu i ymddiriedaeth weithredu.
Nid ymddiriedaeth ydyw, wrth gwrs, yn rhaglen bolisi Llywodraeth y cawsom gymaint o anghytundeb dwfn â hi, ond trefniant sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth rhwng Llywodraethau pan fydd y trefniadau hynny wedi'u nodi mewn deddfwriaeth, pan geir cytundeb rhynglywodraethol i gyd-fynd â hwy y bydd pob parti sy'n barod ac yn abl i wneud hynny wedi'i gefnogi'n ffurfiol ac yn gyhoeddus.
A gaf fi, yn gyntaf oll, groesawu eich datganiad a'ch manylder wrth ateb y pwyntiau amrywiol a godwyd? Mae'n iawn, fel y byddwch yn disgwyl, ein bod yn mabwysiadu ymagwedd ofalus hyd nes y byddwn yn gwybod y manylion llawn, hyd nes ein bod wedi gweld y gwelliannau eu hunain mewn gwirionedd a lle maent yn ffitio o fewn y ddeddfwriaeth. Dyna ein rôl fel deddfwrfa: craffu ar hynny, ac edrych hefyd ar y berthynas rhwng yr holl adrannau. Ac mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl darllen drwy'r papurau ar nifer o achlysuron, mae'r gydberthynas rhyngddynt yn gymhleth iawn; mae bron fel dychwelyd at atgyfodi deunydd dilechdidol wrth imi geisio darganfod yn union beth yw'r trefniadau. Ond rwy'n cydnabod hefyd, fel rydych wedi dweud, y bydd dadl lawn a phenderfyniad yn y Siambr hon, yn yr ystyr y bydd yna gynnig cydsyniad deddfwriaethol. A gaf fi hefyd gydnabod, mewn sawl ffordd, ei fod wedi bod yn dyst i'ch mewnbwn a mewnbwn Llywodraeth Cymru, ar adegau, mai'r doethineb gwleidyddol o Gymru a oedd yr unig ran, bron, a greodd rywfaint o gallineb ac a gadwodd y negodiadau a'r trafodaethau hyn i symud? Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod hynny.
Rwyf am ofyn nifer o gwestiynau, ond rwyf am wneud un sylw ar y pwynt a wnaethoch am yr adran ar beidio â chadw cydsyniad yn ôl yn afresymol. Mae'n ymddangos i mi'n dawtolegol braidd yn yr ystyr na allai unrhyw benderfyniad y gellid ei wneud yn y lle hwn i beidio â rhoi cydsyniad fod mewn unrhyw ffordd yn afresymol, oherwydd, fel Senedd, rydym yn gwneud ein penderfyniadau ar ran y bobl ac fel y cyfryw mae'n amlwg na all y penderfyniadau hynny fod yn afresymol yn yr ystyr gyfansoddiadol. Felly, nid wyf yn hollol siŵr beth yw ystyr yr ymadrodd hwnnw, a hoffwn i chi ddweud ychydig bach, maes o law, ynglŷn ag a ydych yn credu y bydd hyn yn y pen draw yn arwain at ystyriaeth briodol o'r trefniadau rhyngseneddol a strwythur y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ei hun, oherwydd mae llawer o'r hyn a ddywedoch am drefniadau fframwaith a thrafodaethau'n parhau yn gwbl ddibynnol ar ddiwygio'r weithdrefn honno mewn gwirionedd, ac mae i ba raddau y gall hynny weithio yn mynd i fod yn ddibynnol mewn rhai ffyrdd ar weld y newidiadau hynny'n digwydd.
Mae'n amlwg nad yw mater cydsyniad yn yr ystyr gaeth yn llinell goch, ac un o'r meysydd y byddaf am eu harchwilio a'u hystyried yn ofalus iawn yw'r modd y sicrheir cydsyniad neu gytundeb, ond hefyd, goblygiadau penodol y cytundeb hwn i'r Bil Masnach, er enghraifft, oherwydd gallai'r cytundebau masnach y gellid eu cyflawni—fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd yn flaenorol—danseilio fframweithiau. Gallent effeithio'n sylweddol ar fframweithiau, ac anwybyddu fframweithiau o bosibl, ac mae'n gwbl hanfodol fod y ddeddfwriaeth sy'n unol â'r Bil ymadael hefyd yn adlewyrchu egwyddorion y cytundeb—os cânt eu cymeradwyo, ac os caiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei roi i'r rheini yn y pen draw—neu gallai'r trefniant cyfan, y cytundeb cyfan, chwalu mewn gwirionedd, neu gael ei anwybyddu.
Hoffwn glywed barn ar y cyfeiriad yn y memorandwm—rheoliadau cymal 11—oherwydd mae'r trefniant 40 diwrnod i mewn yno, wrth gwrs, lle na fydd gweithredu'n digwydd am gyfnod o 40 diwrnod. Ond wrth gwrs, mae gennym drefniant cyfansoddiadol ychydig yn wahanol i'r Alban oherwydd, ar gyfer is-ddeddfwriaeth yma, mae gofyn cael cydsyniad deddfwriaethol nad yw'n bodoli yn yr Alban. Tybed a allwch egluro sut y y byddai'n gweithredu mewn gwirionedd, oherwydd yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall ohono roedd fel pe bai'n awgrymu, ar ôl y cyfnod o 40 diwrnod, y gallai Llywodraeth y DU fwrw ymlaen, a byddai hynny'n ymddangos yn sefyllfa waeth nag sydd gennym ar hyn o bryd mewn perthynas â chydsyniad deddfwriaethol. Nawr, efallai fy mod yn ei gamddehongli, ond hoffwn eglurhad ar hynny.
Yr unig beth olaf yw hyn: mewn perthynas â'r trafodaethau sydd ar y gweill, yn enwedig mewn perthynas â'r Alban, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedwch ynghylch natur barhaus y cytundeb hwn ac ati, ond pe ceid cytundeb gyda'r Alban a fyddai'n cynnig sefyllfa y gallem weld ei bod yn well na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, a yw'n wir na fydd unrhyw gwestiwn y byddem yn gallu manteisio hefyd ar unrhyw beth arall a fyddai'n codi y byddem yn ei ystyried yn well?
Heblaw hynny, fe ddywedaf fy mod yn edrych ymlaen at eich gweld yn mynychu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, oherwydd yr ochr graffu i hyn sy'n allweddol mewn gwirionedd, a dyna pam rwy'n meddwl ei bod hi'n hollbwysig nad ydym yn ffurfio barn yn rhy gynnar ynglŷn â'r hyn a gytunwyd a beth yw ei oblygiadau llawn.
Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. A gaf fi ddechrau drwy fynegi fy siom nad yw'r Aelodau wedi gweld y gwelliannau mewn gwirionedd? Roedd yn rhaid eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi erbyn 4 o'r gloch y prynhawn yma. Gyda'ch help chi, Lywydd, trefnwyd y datganiad ar gyfer 4 o'r gloch yma—dyna oedd ein ffordd orau o geisio sicrhau y byddai'r gwelliannau wedi bod ar gael i'r Aelodau. Nid yw yn ein dwylo, fel y gallwch weld, ond rydym wedi gwneud ein gorau glas i drefnu pethau fel y byddai'r Aelodau wedi gweld y gwelliannau. Byddant yn eu gweld yn awr, wrth gwrs, ac mae Mick Antoniw yn llygad ei le yn dweud bod yn rhaid gweld y gwelliannau o ran eu cydberthynas â'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth a gytunwyd gennym a'r cytundeb rhynglywodraethol.
A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fod yna gyfaddawdu bob amser wrth negodi, fel y gŵyr yn dda iawn, rhwng yr hyn y mae partïon gwahanol ei angen? Roeddem angen i Lywodraeth y DU ymrwymo'n benodol i beidio â gwrthod gwneud pethau fel arfer yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl, ac yn gyfnewid am hynny, roeddent am inni ymrwymo i beidio â gwrthod cydsynio yn afresymol. Efallai'n wir ei fod yn iawn pan fyddwch yn tyllu o dan y geiriau fod y ddau ohonynt yn ddatganiadau syml o'r ffordd y caiff pethau eu gwneud bob amser, ond dyna'r ffordd y cynhelir negodiadau. Os ydych am gael rhywbeth, weithiau rhaid ichi roi rhywbeth hefyd.
Fe wnaeth dri phwynt pwysig iawn, Lywydd, ac rwyf am inni ymdrin â hwy. Nid parch syml rhwng Llywodraethau yw parch cydradd, mae'n golygu parch rhwng Seneddau yn ogystal. Gwnaed pwynt da iawn i mi yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddoe sy'n nodi os yw gwybodaeth yn mynd i gael ei chyflenwi i'r ddeddfwrfa hon mewn perthynas â fframweithiau, er enghraifft, yna dylai fod yr un lefel o wybodaeth ar gael i Seneddau mewn mannau eraill, y dylai fod triniaeth gydradd ledled y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr nad oes unrhyw Senedd yn cael ei thrin yn llai manteisiol nag unman arall, a cheir pwysau gwirioneddol ac angenrheidiol i gwblhau trefniadau rhyngseneddol newydd er mwyn sicrhau y cedwir hawliau Seneddau yn llawn.
Gwnaeth bwynt pwysig iawn, Mick Antoniw, am y ddeddfwriaeth a fydd yn dilyn y Bil ymadael. Rheswm arall pam yr oeddem yn argyhoeddedig fod angen inni ddod i gytundeb yw bod popeth a gytunwyd gennym yma, popeth a gytunwyd gennym ynghylch cydsyniad ac ati, yn rhaeadru ymlaen i'r Biliau y bydd Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno bellach, megis y Bil Masnach. Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn syml ag ennill tir yn y Bil ymadael, mae'n ymwneud â sicrhau'r datblygiadau a wnaethom yma yn barhaol ym mhob deddfwriaeth Brexit UE sy'n dilyn.
Ac yn olaf, gadewch imi roi sicrwydd iddo, os gellir mireinio'r cytundeb ymhellach a'i symud ymlaen ymhellach ac os gall sicrhau cyfranogiad yr Alban, bydd unrhyw beth a gaiff ei sicrhau yn cael ei sicrhau o ganlyniad i'r tair Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, a byddai pob un o'r datblygiadau hynny yr un mor berthnasol i ni.
Rydym ymhell dros yr amser ar y datganiad hwn, ond mae'n ddatganiad pwysig. Mae gennyf bedwar siaradwr arall sydd am siarad. Fe'u galwaf, ond mae angen i bob un ohonoch fod yn gryno iawn yn eich cwestiynau. Simon Thomas. [Chwerthin.]
Diolch, Lywydd. Fe wnaf fy ngorau. A gaf fi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'r anghytundeb yma yn ymwneud â'r gwaith a gyflawnodd na'r gwaith caled y mae ef a'i swyddogion wedi'i wneud? Mae'n anghytundeb rhwng y rhai ohonom nad oes gennym y ffydd y mae wedi ei arddangos heddiw yng nghyfansoddiad y DU i gyflawni dros Gymru, y rhai ohonom sy'n awyddus i ddilyn safbwynt llawer mwy beirniadol a llawer mwy cadarn ar amddiffyn pwerau'r Senedd hon. Os caf ddweud, mae'n gorddibynnu ar gytundeb rhynglywodraethol i sicrhau tegwch ar gyfer y Senedd hon, ac rwy'n credu mai dyna ble rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r hyn y mae wedi'i nodi heddiw.
Gan nad oes gennyf lawer o amser, a gaf fi ei annog i wrando ac adolygu'r cwestiynau perthnasol iawn a roddwyd iddo gan Mick Antoniw a David Rees, sydd wedi mynd at wraidd rhai o'r cwestiynau y buaswn wedi dymuno eu gofyn iddo ynghylch y gwendidau mewn cytundeb rhynglywodraethol o'r fath yn cyflawni ar ochr seneddol? Mewn gwirionedd, er bod gennym gyfeiriad at y Cynulliad yn y cytundebau hyn ac yn y memorandwm, yn y pen draw, gall San Steffan, ar ôl 40 diwrnod—nid yn yr anialwch, ond ar ôl 40 diwrnod—weithredu yn y 24 maes, ynghyd â 12 maes arall sydd eto i'w cytuno. Felly, gallai hynny gynyddu 50 y cant. Ac os caf wneud y pwynt hefyd ein bod yn sôn am wyth mlynedd, nid saith mlynedd—daw'r cytundeb hwn yn weithredol ar y diwrnod ymadael a dwy flynedd, a phum mlynedd wedyn. Dyna wyth mlynedd. Felly, mae'n rhaid i bob un ohonom sydd â diddordeb mewn bod yn Llywodraeth yng Nghymru sylweddoli ein bod yn gwerthu ein gallu i weithredu yn y 24 maes am wyth mlynedd hir.
Nawr, ceir ffyrdd ymarferol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u nodi pam na fydd hynny'n digwydd, oherwydd bod Lloegr wedi'i rhewi yn ogystal, ond nid wyf yn gweld llawer o gynnydd yn Lloegr, diolch yn fawr iawn. A phan siaradwn am ddatganoli polisi cymorth amaethyddol, er enghraifft, nid wyf eisiau inni aros wyth mlynedd i Loegr benderfynu beth y maent am ei wneud; rwyf am inni weithredu o'r diwrnod cyntaf un. Cawn ein hatal rhag gwneud hynny yn y cyswllt hwn.
Os caf ddod i ben gyda dau gwestiwn penodol, yn gyntaf oll, mae'n sôn bod y cytundeb hwn yn meddu ar y gallu i symud ymlaen. Dywed ei fod yn gam sylweddol o ran cydweithio. Eto nid yw'r cytundeb ond yn nodi'r hyn y mae ef yn y gorffennol wedi'i ddisgrifio fel rhywbeth sydd ond ychydig yn well na chyngor plwyf Sain Ffagan. Beth yn y cytundeb hwn sy'n sefydlu'r gweithio cydweithredol hwnnw mewn gwirionedd? Nid oes ganddo'r cyd-gyngor Gweinidogion yr oedd am ei gael, yn gweithio yn y ffordd yr oedd ei eisiau. Nid oes unrhyw gyflafareddu annibynnol. Nid oes unrhyw ffordd o gyfeirio pethau at fecanwaith anghydfod amgen. Os cymharwch y cytundeb hwn â'r fframwaith cyllidol a gytunwyd ganddo ac a gefnogwyd yn llawn gan Blaid Cymru, gyda llaw, fe welwch yr elfennau hynny yno, ac nid ydych yn eu gweld yn y cytundeb hwn. Dyna'r gwendid cyntaf, yn ymarferol, a fydd yn digwydd yma.
Mae'n disgrifio penderfyniad terfynol y Senedd yma fel 'ôl-stop'. Buaswn yn ei ddisgrifio fel feto. Pan edrychwn ar y cytundeb sy'n cynnwys arfer y feto hwn, mae'r term 'fel arfer' yn frith drwyddo. Mae wedi'i godi sawl gwaith, ond nid ydych wedi ateb hyn eto: beth yw ystyr 'fel arfer' yn yr amgylchiadau hyn? Mae'n amlwg o'r cytundeb—. Rydym wedi siarad am gymal 11 yma, ond mae hefyd yn amlwg o'r cytundeb y caniateir i Lywodraeth y DU ddefnyddio cymalau 7, 8 a 9 bellach i ymyrryd yn uniongyrchol mewn meysydd eraill sydd eisoes wedi'u datganoli—nid y 24 sy'n cael eu dychwelyd, ond y rhai sy'n dod yma. Gall Senedd y DU ddal i estyn i mewn a bachu ein pwerau yn y meysydd hynny—ond na fydd fel arfer yn gwneud hynny unwaith eto. Beth y mae 'fel arfer' yn ei olygu? Rwy'n dweud wrtho fod gwleidyddiaeth wedi newid ystyr 'fel arfer' mewn gwleidyddiaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn ffordd sylfaenol iawn.
Lywydd, mae'r honiad cyntaf a wnaeth Simon Thomas, rwy'n meddwl, yn ddatganiad hollol resymol o sut y gellir deall anghytundeb rhwng dau barti. Os mai safbwynt ei blaid yw eu bod yn croesawu'r tir a enillwyd ond yn credu nad yw'n mynd yn ddigon pell a bod mwy y gellid bod wedi ei wneud, mae hynny'n ymddangos i mi yn gwbl resymol. Nid dyna y credaf i mi ei glywed gan aelodau eraill Plaid Cymru, rhaid imi ddweud; maent hwy wedi disgrifio'r hyn a gyflawnwyd gennym mewn termau diraddiol iawn. Mae'r ffordd y rhoddodd Simon Thomas y peth, fod yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn rhywbeth y mae'n ei groesawu—nid wyf am roi geiriau yn ei geg—ond bod mwy y mae'n credu y dylid bod wedi'i wneud, ac felly na all ei dderbyn fel y mae, mae hynny'n ymddangos yn ffordd gwbl briodol o'i roi, ac yn wir, dyna'r ffordd y rhoddodd Michael Russell y peth pan wnaeth ei ddatganiad yn Senedd yr Alban ddoe. Ac yn yr ystyr honno, ceir anghytundeb rhwng y ffordd y mae'r Llywodraeth yma wedi dod i gytundeb a'r ffordd y byddai Simon Thomas wedi dymuno gweld pethau. Rydym yn rhoi pwys ar y cytundeb rhynglywodraethol, oherwydd credwn fod yr ymdrech i'w sicrhau, y ffordd gyhoeddus yr ymrwymwyd iddo, yn golygu y gallwn ymddiried rhywfaint ynddo.
Mae Simon Thomas yn dweud nad yw'n ymdrin yn ddigonol â hawliau'r Senedd yma, ac rwy'n gweld y pwynt a wnaeth. Yn wir, roedd yn bwynt a wnaed gan David Rees, ond rwy'n rhoi'r un ateb: y byddai wedi bod yn beth rhyfedd yn wir i mi, fel aelod o'r Llywodraeth, fod wedi gwneud ymrwymiadau ar ran y ddeddfwrfa mewn cytundeb rhwng Llywodraethau. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yn awr yw gwneud y gwaith y cyfeiriodd David Rees ato, a gwneud yn siŵr fod y prosesau seneddol sy'n mynd ochr yn ochr â chytundeb rhynglywodraethol yn cael eu cytuno yma—nid eu cytuno rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ond eu cytuno yma, ar yr ochr seneddol, lle bydd y cyfrifoldebau hynny.
Gwnaeth Simon Thomas dri phwynt ar y diwedd. Fel y dywedaf, nid wyf am funud yn credu fy hun y bydd yn cymryd wyth mlynedd, fel y dywedodd, i bwerau ddychwelyd yma. Gadewch imi ddweud wrth y Cynulliad pa mor galed oedd y gwaith i gael cytundeb na fyddai Gweinidogion Lloegr yn defnyddio'r pwerau tra bod y pethau hyn yn y rhewgell. A ydych chi'n meddwl eu bod wedi cytuno i hynny yn ddifyfyr? Gallaf ddweud wrthych eu bod yn amharod iawn yn wir i fod yn y sefyllfa honno, a byddant am ddod o'r sefyllfa honno, fel ninnau, mor gyflym ag y gallwn gytuno i wneud hynny.
Mae'n gofyn beth yw ystyr 'fel arfer'. Wel, nid yw 'nid fel arfer' yn cael ei ddefnyddio yn y cytundeb hwn am y tro cyntaf, naill ai mewn deddfwriaeth neu gytundebau rhynglywodraethol. Mae'n golygu yma yr hyn y mae'n ei olygu yn yr holl leoedd eraill y defnyddir yr ymadrodd hwnnw, a'r ffordd y mae—[Torri ar draws.] Credaf y bydd yn cael trafferth canfod gormod o enghreifftiau—rwy'n siŵr y bydd rhai—lle y defnyddiwyd y ffordd honno o weithio er anfantais i'r ddeddfwrfa hon, a byddem yn disgwyl i'r ymrwymiadau a wnaed yma, gan adleisio fel y maent yn ei wneud yr ymadrodd hwnnw o'r ffyrdd eraill y llunnir deddfwriaeth a chytundebau, weithredu yr un mor effeithiol yma ag y maent wedi ei wneud mewn mannau eraill.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Gwn ei fod yn cynrychioli misoedd lawer o waith manwl a chaled gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan ei swyddogion. Credaf ei fod wedi rhestru cyflawniadau sylweddol heddiw, a hoffwn ei longyfarch ar y canlyniadau hynny. Credaf ei bod yn gwbl briodol fod y Llywodraeth yn teimlo y gallant argymell ein bod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol pan ddaw hyn ger ein bron.
Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn eisoes wedi'u gofyn, diolch byth, rwy'n siŵr, Lywydd, ond un peth yr oeddwn am ei ofyn oedd hyn: yn ystod y misoedd o negodi, a oedd yna, ar unrhyw adeg, bwynt tipio pan oeddech yn teimlo, nawr ein bod wedi cyflawni hynny, fod gobaith go iawn o ddod i gytundeb?
Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd. Ni chredaf y buaswn yn dweud bod yna bwynt tipio yn y negodiadau. Hyd at ddydd Llun yr wythnos diwethaf, pan gyfarfu'r tair Llywodraeth ddiwethaf, roedd yna bwyntiau pellach yr oedd yr Alban a Chymru yn dymuno eu cynnwys yn y cytundeb, rhagor o dir yr oeddem am ei ennill. Mae wedi bod yn broses raddol lle rydym, gam wrth gam a bob yn dipyn, wedi nesu'n araf at y pwynt lle y teimlaf y gallaf ddod i'r Cynulliad heddiw a dweud y byddwn yn rhoi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac argymell y dylech ei gytuno. Mae'r Alban wedi ymrwymo, ac rydym ni gyda hwy, i wthio'r broses honno ymlaen hyd yn oed ymhellach. Os gallwn gyflawni hynny, byddwn yn falch iawn o chwarae ein rhan yn hynny. Ond dyna'r ffordd y credaf fod y negodiadau hyn wedi gweithio—nid pwynt sydyn pan fydd pethau'n tipio o fod yn annerbyniol i fod yn dderbyniol, ond gwaith hir, wythnos ar ôl wythnos, gyda swyddogion yn arbennig yn treulio oriau hir ar bethau i gyrraedd y pwynt rydym wedi'i gyrraedd heddiw o'r diwedd.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i’n dallt, wrth gwrs, bod yna lot o waith caled wedi mynd i mewn i hyn, ond dyna ydy ein gwaith ni—gweithio’n galed dros Gymru. Fel Cymraes, fel democrat, rydw i wedi dychryn ar ba mor hawdd rydych chi wedi ildio i’r Torïaid, a pha mor hawdd rydych chi wedi cytuno i drosglwyddo pwerau iddyn nhw yn Llundain—pwerau y mae pobl Cymru wedi dweud, mewn dau refferendwm, y dylai Senedd Cymru eu rheoli nhw.
Mi wnaf i gyfyngu fy hun i un cwestiwn. Rydych chi yn dweud yn eich datganiad nad ydy canlyniad y trafodaethau efo’r Torïaid yn berffaith, ac mai cyfaddawd ydy’r cytundeb yma. Wel, mae eisiau cyfaddawdu, wrth gwrs; mae eisiau cyfaddawdu o dro i dro mewn gwleidyddiaeth, ac rydw i'n ddigon o bragmatydd ac yn ddigon realistig i gyfaddawdu yn reit aml, a dweud y gwir. Ond mae cyfaddawdu ar ddyfodol democratiaeth Cymru yn annerbyniol. Dwyn pwerau ydy dwyn pwerau, ac ni fedrwn ni ddim cyfaddawdu ar fater mor sylfaenol a hanfodol â hynny.
Ychydig dros fis yn ôl, mi wnaeth y Senedd yma bleidleisio dros Fil parhad a fuasai wedi sicrhau na fyddai modd i Lywodraeth Prydain ddwyn ein pwerau ni. Roedd y cardiau i gyd yn nwylo eich Llywodraeth chi. Felly, pam yn y byd oedd angen cyfaddawdu o gwbl?
Diolch i Siân Gwenllian am beth ddywedodd hi ar y dechrau am y gwaith caled, i gydnabod y gwaith caled sydd wedi mynd i mewn i'r cytundeb sydd o flaen y Cynulliad heddiw. Nid oes neb yn dwyn pwerau nawr o'r Cynulliad Cenedlaethol, achos rŷm ni wedi cytuno ar bethau, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd gytuno pan mae pwerau yn dod ymlaen i'r llawr yma.
Ar y Bil parhad, roeddwn i wedi dweud o'r dechrau nad hynny oedd ein dewis cyntaf ni. Dywedais i a'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol bob tro, os allwn ni ddod at gytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Bil, hynny oedd y ffordd gorau i ddelio â'r problemau yn y Bil gwreiddiol. Dyna beth rŷm ni wedi llwyddo i'w wneud, a dyna pam rydw i wedi meddwl fy mod yn gallu dod ar lawr y Cynulliad heddiw a dweud wrth Aelodau yma bod hwn yn gytundeb yr ydym ni i gyd yn gallu cytuno ag ef.
Ac yn olaf, Jane Hutt.
A gaf fi ddiolch i chi i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma? Rydym yn ymwybodol yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'ch ymrwymiad diysgog i sicrhau'r fargen orau i Gymru yn eich negodiadau a chredaf ei bod hi'n bwysig cofio bod Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir y Prif Weinidog bob amser wedi dweud mai'r hyn oedd orau gan Lywodraeth Cymru oedd sicrhau cytundeb ar y Bil ymadael, ac wrth gwrs, dyna pam y cyflwynasom y gwelliannau pwysig hynny.
Mae'r ddau gwestiwn rwyf am eu gofyn yn ymwneud ag i ba raddau y credwch eich bod wedi sicrhau ymrwymiad i newid go iawn mewn gwaith rhynglywodraethol mewn perthynas, yn arbennig, â rôl hollbwysig y Cyd-bwyllgor Gweinidogion fel cyfrwng negodiadau Ewropeaidd, oherwydd mae honno'n hollbwysig o ran gallu cyflawni'r cytundeb hwn, ac i ni hefyd fod yn hyderus y gallwn graffu arnoch chi a Llywodraeth Cymru ac yn wir, ar weithrediad rhynglywodraethol y cytundeb hwnnw. Ac wrth gwrs, rhaid i hynny gael ei ategu gan Mike Russell, yn sgil eich cysylltiadau gweithio da gyda Gweinidog Brexit yr Alban, ac rwy'n siŵr y caiff hynny ei gryfhau. Felly, y pwynt hwnnw.
Yn ail, neithiwr bûm gyda Eluned Morgan ac eraill yn narlith Gina Miller. Roedd cannoedd o bobl yno. Credaf fod rhaid inni gydnabod y bydd pobl am wybod am y cytundeb hwn, nid yma yn y Siambr hon yn unig neu yn eich pwyllgor cynghori allanol, ond sut y gallwn rannu'r newyddion hwn ac esbonio i bobl Cymru beth a gyflawnwyd.
I orffen, credaf ei bod mor bwysig inni drosi: beth y mae'n ei olygu? Mae'r gwelliant heddiw yn gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae hwnnw'n ddatganiad mor bwysig. Mae'n creu sefyllfa ddiofyn lle mae pwerau dros bolisi datganoledig yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y maent wedi'i bod ers 1999. Mae pobl Cymru am glywed hynny.
A gaf fi ddiolch i Jane Hutt, Lywydd, am yr hyn a ddywedodd? Mae'n gofyn am broses cytundeb rhynglywodraethol. Roedd yn bwynt a godwyd gan Simon Thomas a methais ymdrin ag ef yn fy ateb iddo. Mae yno ym mharagraff 7a o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, a dyna un o'r ychwanegiadau hwyr iawn i'r cytundeb hwn, a sicrhawyd yn y trafodaethau olaf un rhwng Llywodraeth yr Alban, ni ein hunain a Llywodraeth y DU, oherwydd mae'n ymrwymo pawb ohonom i broses sy'n arwain at gyflwyno rheoliadau. Mae'n gwarantu y bydd trafodaeth rhwng y Llywodraethau ar y sail ein bod wedi cynnal trafodaethau i gyrraedd y cytundeb hwn, i gytuno ar gwmpas a chynnwys y rheoliadau. Fel y dywedais yn gynharach, nid mater i Lywodraeth y DU ei hun fydd cyflwyno cynigion i ni eu derbyn neu eu gwrthod. Byddwn wedi bod yno wrth y bwrdd ar sail cydraddoldeb, a dyna pam y mae hon yn ffordd ymlaen. Wrth gwrs, nid yw'n cyflawni popeth yr ydym am ei gyflawni yn y ffordd y mae Simon Thomas wedi ei nodi, ond rhaid ichi ddod o hyd i ffordd i mewn i'r trafodaethau hyn. Rhaid ichi ddod o hyd i gam ymlaen sy'n caniatáu i rai pethau newid er gwell, a defnyddio hynny wedyn fel platfform ar gyfer cyflawni mwy. Bydd y cymal hwnnw yn y rhan honno o'r cytundeb yn caniatáu inni wneud hynny.
Mae Jane Hutt yn hollol gywir i ddweud bod yna neges syml wrth wraidd hyn oll. Pan ddechreuasom ar y broses hon, roedd gennym gymal 11 a oedd yn dweud, 'Ni ddaw dim i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae popeth yn aros yn San Steffan, mater i Weinidogion y DU yn unig fydd unrhyw benderfyniadau ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl hynny ac ni allwn ddweud wrthych pa mor hir y mae'r cyfan yn mynd i gymryd'. Bellach, mae gennym y gwrthwyneb llwyr i hynny: daw popeth i'r Cynulliad Cenedlaethol oni bai ein bod yn cytuno y dylid ei gadw yn San Steffan, tra'i fod yn San Steffan, yr unig ddefnydd y gellir ei wneud o'r pwerau hyn yw defnydd yr ydym yn ei gytuno, ac mae gennym ôl-stop terfynol na ellir cadw unrhyw bwerau oddi wrthym y tu hwnt iddo, a bydd popeth yn dychwelyd yma. Dyna pam y mae'r cytundeb hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth, a dyna pam y mae pobl Cymru yn sicr yn haeddu cael gwybod popeth amdano.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.