– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Felly, eitem 4 yw'r eitem nesaf: datganiad gan y Prif Weinidog ar y cytundeb drafft ar ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Prif Weinidog, felly—Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Mae'n nodweddiadol wrth ymdrin â negodiadau Brexit Llywodraeth y DU fy mod i'n rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yng nghanol yr argyfwng gwleidyddol gwaethaf a welais. Fel yr egluraf, mae'n argyfwng y gellid bod wedi ei osgoi. Mae'n argyfwng sydd wedi'i wreiddio mewn cyndynrwydd i fod yn onest am y cyfaddawdu anodd sydd ei angen yn y negodiadau, ac amharodrwydd i sicrhau consensws eang, gan gynnwys gyda'r llywodraethau datganoledig, ynghylch sut i ymdrin â'r heriau digyffelyb o adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, mae gennym ni'r Brecsitwyr digyfaddawd yn y Blaid Geidwadol sydd wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio sicrhau nad oes cytundeb, sy'n ceisio dwysáu'r argyfwng gwleidyddol ymhellach gydag etholiad arweinyddiaeth.
Heddiw, Llywydd, fe hoffwn i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ac amlinellu'r pethau nesaf y mae angen eu gwneud, a hynny ar fyrder, gan Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i wahaniaethu rhwng y cytundeb ymadael a'r berthynas economaidd yn y dyfodol y bydd angen ei hegluro yn y datganiad gwleidyddol. Mae angen dirfawr am nifer o'r agweddau ar y cytundeb ymadael. Mae sicrhau'r cyfnod pontio yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi cyrraedd dibyn ymhen dim ond pedwar mis. Bydd amddiffyn hawliau dinasyddion yn sicrhau statws dinasyddion yr UE sydd wedi dewis byw yma, gan gyfrannu at ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a hefyd rhai o wladolion y DU sydd wedi dewis byw a gweithio neu ymddeol mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae'n warthus bod Llywodraeth y DU wedi defnyddio dinasyddion yr UE a'r DU fel gwystlon tactegol yn yr hyn sy'n gêm wyddbwyll o wleidyddiaeth plaid.
Rydym ni'n llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau cytundeb Dydd Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon i wneud yn siŵr nad yw Brexit yn peryglu'r heddwch a'r ffyniant a ddaeth i Ynys Iwerddon yn sgil y cytundeb. Fel yr wyf i wedi sôn hyd syrffed yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mae'r materion trawsffiniol ar Ynys Iwerddon wrth wraidd Brexit ac maen nhw'n dangos methiannau'r cytundeb diweddaraf a rhai Prif Weinidog y DU. Rydym ni'n deall, o gofio dihidrwydd peryglus rhai yn y Blaid Geidwadol ynghylch cytundeb Dydd Gwener y Groglith, bod ar 27 aelod yr UE angen sicrwydd cadarn na fydd y ffin galed yn dychwelyd mewn unrhyw ffordd. Mae elfennau o'r cynllun ôl-stop yn broblemus ar y gorau, ond ni fyddai angen eu gweithredu fyth pe byddai Llywodraeth y DU wedi croesawu ateb sy'n cydnabod pwysigrwydd y berthynas agosaf bosibl rhwng y DU gyfan a'r UE, heb fod yn aelod. Pe bai Llywodraeth y DU wedi arddel y safbwynt a amlinellwyd gennym ni ar y cyd â Phlaid Cymru bron i ddwy flynedd yn ôl ar gyfer perthynas economaidd yn y dyfodol a fyddai'n cynnwys mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac undeb tollau, ni fyddai fyth angen unrhyw gynllun ôl-stop. Ond yr hyn sydd gennym ni yn lle hynny gan Lywodraeth y DU yw datganiad gwleidyddol hollol annigonol.
Methiant gwirioneddol y cytundeb presennol yw'r diffyg cynnydd yn y datganiad gwleidyddol a diffyg eglurder, sy'n peri pryder. Beth mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf? Nid oes gennym ni syniad beth fydd perthynas y DU yn y dyfodol gyda'n partneriaid masnachu mwyaf o ran maint a dylanwad. Y rheswm am hyn yw bod y Prif Weinidog yn parhau gyda'i strategaeth fethedig o edrych tuag i mewn, gan ganolbwyntio ar reoli cythrwfl mewnol y Blaid Geidwadol ac nid canolbwyntio ar anghenion y DU yn ei chyfanrwydd a buddiannau Cymru a'r gwledydd eraill. Mae'r argyfwng gwleidyddol yn un o greadigaeth Llywodraeth y DU i gyd. Doedd dim rhaid i bethau fod fel hyn.
Mae'r Prif Weinidog wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf, yn anffodus, yn porthi disgwyliadau Brecsitwyr digyfaddawd milwriaethus, ideolegol yn ei phlaid ei hun, a does syndod yn y byd eu bod wedi eu siomi gan yr hyn y mae hi wedi ei gyflwyno. Nawr, yn rhy hwyr o lawer, mae'n rhaid iddi hi drechu'r rhai yn ei phlaid na wnaiff fyth gefnogi perthynas â 27 gwlad yr UE. Mae'n rhaid iddi wrando ar farn y gymuned fusnes, yr undebau llafur a'r llywodraethau datganoledig, ac wedyn fe allai hi ddechrau negodi'r cytundeb priodol â 27 gwlad yr UE.
Ym Mrwsel, mae 27 gwlad yr UE wedi datgan yn glir pe bai Llywodraeth y DU yn cefnu ar ei safbwyntiau cyfeiliornus ac yn cofleidio perthynas economaidd agosach—un a amlinellwyd gennym ni yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—yna gellir sicrhau cytundeb symlach, mwy cydlynol a ffafriol. Ac er y gwelwn ni safbwynt Llywodraeth y DU yn symud yn nes o hyd at un ni, drwy wneud hynny dim ond yn y modd mwyaf amharod—dan gicio a strancio—mae'r Prif Weinidog wedi colli pob mantais negodi y gallasai hi eu cyflawni.
Yn hytrach nag ystrydebau o dan benawdau pwnc, gyda'r nesaf peth i ddim ar faterion allweddol fel mudo yn y dyfodol a chymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon neu Erasmus +, mae angen i'r datganiad gwleidyddol fod yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn a chytûn gan y DU a 27 gwlad yr UE i berthynas yn y dyfodol sy'n seiliedig ar fod yn rhan hirdymor mewn undeb tollau a'r farchnad sengl ym mhob sector. Mae hyn yn cael ei gynnig. Mae Michel Barnier wedi sôn droeon mai ei hoff fodel ef yw 'Norwy plws', ond nid yw hyn wedi bod yn bosibl gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n benderfynol o wrthod cyfaddawdu.
Felly pa newid sydd ei angen, cyn y gallem ni hyd yn oed ystyried cefnogi'r cytundeb hwn? Wel, efallai cymharol ychydig yn y cytundeb ymadael ei hun, ar wahân i sicrhau na fydd angen byth am y cynllun ôl-stop. Ac os derbynnir ein cynnig o undeb tollau tymor hir, mae unrhyw achos damcaniaethol ar gyfer cynllun ôl-stop yn diflannu i raddau helaeth. Ond mae angen ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn ei hanfod a chael newid sylfaenol yn y meddylfryd er mwyn bod yn onest ynghylch y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwneud dewis clir i flaenoriaethu ein sefydlogrwydd economaidd dros y dôn gron o adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau a'n harian.
Ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm, does bosib, am drychineb economaidd a chymdeithasol o ymadael heb gytundeb. Mae angen inni weld datganiad gwleidyddol sy'n nodi bwriad y ddwy ochr i drafod perthynas hirdymor sy'n adlewyrchu'n glir y dewisiadau a gyflwynir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', rhywbeth nad yw bellach yn afrealistig o ystyried y safbwynt y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dechrau ei arddel. Byddai mynd ati fel yna yn gwneud y cynllun ôl-stop yn ddiangen a byddai'n rhoi sicrwydd i'n pobl a'n busnesau na fyddwn ni'n camu tuag at ochr dibyn arall ym mis Rhagfyr 2020. Ac, yn ymarferol, byddai hynny bron yn sicr yn ennill mwyafrif mawr yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae amser yn brin iawn tan y Cyngor Ewropeaidd, ond mae'r datganiad gwleidyddol yn amlwg yn waith ar y gweill. Yn dilyn fy nghais am gyfarfod brys yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ddoe, eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid eto ein barn ar y berthynas briodol yn y dyfodol gyda 27 gwlad yr UE.
Llywydd, penderfynir ar safbwynt terfynol Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r ffaith a fydd Llywodraeth y DU ar yr adeg hwyr hon yn gweld synnwyr ai peidio.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Er fy mod i'n siomedig ynghylch ysbryd datganiad heddiw, mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau, i gefnogi'r fargen hon, mai cymharol ychydig yn y cytundeb ymadael drafft sydd angen ei newid. Ac felly, Llywydd, fy nghwestiwn cyntaf yw; os felly, a wnaiff y Prif Weinidog egluro pam ar y ddaear nad yw ef a'i Lywodraeth yn cefnogi'r cytundeb ymadael hwn?
Wrth gwrs, fel mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, er bod hyn yn gam pwysig ymlaen, nid dyma'r cytundeb terfynol, ac mae trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i gynhyrchu datganiad gwleidyddol llawn. Nawr, yn y datganiad heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir ei fod yn credu bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati yn dangos diffyg unrhyw ymgysylltu ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig, ond mae'n rhaid imi ddweud nad estynnodd y Prif Weinidog unrhyw wahoddiad i drafod effaith y cytundeb ymadael hwn ar Gymru gyda mi fel arweinydd y blaid yn y lle hwn. Ac, ers imi fod yn y swydd hon, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw wahoddiad i drafod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru gyda mi fel arweinydd, felly rydych chi'n un da i siarad am ymgysylltu pan ymddengys bod yr ymgysylltu hynny wastad un ffordd yn unig. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, yn hytrach na chwarae gwleidyddiaeth plaid, y byddai hi wedi bod yn well o lawer i arweinwyr y Cynulliad gwrdd a thrafod y cynigion a'r effaith a gaiff y cynigion hyn ar Gymru a sut mae'r Cynulliad yn gweithio? Os yw Llywodraeth Cymru yn wirioneddol gredu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm 2016 a chyflwyno cytundeb Brexit sy'n gweithio i fusnesau a chymunedau, yna efallai bod angen i'r sianeli cyfathrebu fod yn agored yng Nghymru ac yn San Steffan.
Llywydd, roedd ysbryd datganiad heddiw, a sylwadau'r Prif Weinidog ynglŷn â pherthnasoedd mewnol Plaid Geidwadol y DU yn eironig pan edrychwch chi ar ddisgyblaeth rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n gwneud unrhyw beth adeiladol o bell ffordd i gefnogi diwydiant Cymru. Yn wir, mae'n gwneud i Gymru edrych yn wan o ran arweinyddiaeth ar adeg pan ddylai'r wlad fod yn canolbwyntio ar gael y fargen orau bosibl ar gyfer ei phobl.
Cadarnhaodd y cytundeb ymadael drafft y bydd cyfnod gweithredu gyda therfyn amser iddo yn darparu pont i'r berthynas yn y dyfodol, gan alluogi busnesau i barhau i fasnachu fel hyn tan ddiwedd 2020—rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai'r Prif Weinidog yn ei groesawu, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am ei sylwadau ynglŷn â'r cyfnod gweithredu hwnnw.
Mae Prif Weinidog Cymru yn ei gwneud hi'n glir yn y datganiad heddiw bod angen i Brif Weinidog y DU wrando ar farn byd busnes, ond gadewch imi ei atgoffa bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi ei gwneud hi'n glir bod y fargen hon yn gyfaddawd, gan gynnwys ar gyfer busnes, ond mae'n cynnig y cyfnod pontio hanfodol hwnnw fel cam yn ôl o ymyl y dibyn.
Yn wir, bydd hefyd yn ymwybodol o farn prif weithredwr Aston Martin, Andy Palmer, sydd wedi dweud bod cytundeb drafft Brexit yn 'ddigon da'. Felly, efallai mai Prif Weinidog Cymru ddylai wrando ar farn byd busnes, sydd wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r Blaid Lafur weithio gyda'r byd busnes, nid ceisio ei reoli. Felly, a wnaiff ef gadarnhau pa drafodaethau cychwynnol y mae wedi'u cael gydag arweinwyr busnes yng Nghymru, fel y gallwn ni fod yn sicr y caiff eu barn ei hadlewyrchu'n gywir pan fydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod effaith y cytundeb ymadael drafft gyda'u cymheiriaid yn San Steffan yn ystod yr wythnosau nesaf?
Fel y mae Prif Weinidog Cymru'n ymwybodol, ceir perthynas agos rhwng diwydiant amaethyddol Cymru a'r farchnad Ewropeaidd, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gweld sylwadau Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, sydd unwaith eto yn rhoi croeso gochelgar i'r cytundeb drafft fel cam yn agosach at gyflawni'r masnachu rhwydd a didramgwydd y mae ffermwyr Cymru eisiau ei weld gyda'r UE.
Wrth gwrs, mae NFU Cymru hefyd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru, ei bod hi'n amheus a fydd y cytundeb drafft yn cael cymeradwyaeth Seneddol, a bod ffermwyr Cymru yn edrych yn awr at eu gwleidyddion i wneud yr hyn sydd orau i'r wlad. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod Aelodau Seneddol Cymru yn cefnogi barn y diwydiant ffermio yng Nghymru yn llawn fel y bydd holl wleidyddion Cymru yn rhoi anghenion a chynaliadwyedd y diwydiant ar frig eu hagenda.
Wrth gwrs, mae digon o fanylion o hyd sydd eto i'w cynnwys yn gadarn yng nghytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae un mater ynghylch y diffyg manylion pendant ar effaith y cytundeb hwn ar ddiwydiant pysgota Prydain, y mae Cymru yn chwarae rhan sylweddol ynddo. Fel rwyf i'n deall pethau, mae diwydiant pysgota Prydain yn parhau i alw ar y DU i roi'r gorau i'r polisi pysgodfeydd cyffredin a datblygu fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol erbyn diwedd 2020, ond mae rhywfaint o amwysedd ynghylch llongau o'r UE yn dod i ddyfroedd Prydain. Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn, a pha sylwadau y mae ef a'i gydweithwyr wedi eu gwneud i ganfod beth fydd y cytundeb ymadael drafft yn ei olygu i bysgodfeydd Cymru.
Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir mai'r peth olaf y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Iwerddon a Chymru, ac rwy'n cytuno ag ef i raddau helaeth iawn. Dywedodd y gallai fod goblygiadau enfawr, yn enwedig o ran y ffyrdd sy'n arwain i'n porthladdoedd. Prif Weinidog, bu dadlau dros ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth i ers y 1950au, ac rwyf i wedi holi Gweinidogion y Llywodraeth yn y Siambr hon yn barhaus am ymrwymiadau i ddeuoli'r ffordd hon. Nid ydym ni wedi gweld unrhyw beth ers creu'r Cynulliad i sicrhau gwelliannau gwirioneddol i'r rhwydweithiau ffyrdd presennol.
Cadarnhaodd adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ynglŷn â goblygiadau Brexit ar borthladdoedd Cymru y llynedd nad oedd Cymru wedi manteisio'n llawn ar y cyllid sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith traws-Ewropeaidd. Felly, yng ngoleuni pryderon newydd Llywodraeth Cymru am y strwythurau ffyrdd o amgylch porthladdoedd Cymru, a wnewch chi ddweud wrthym ni nawr pa gynlluniau sydd gennych chi i ddechrau mynd i'r afael o ddifrif â'r materion hirsefydlog hyn?
Daw hyn â mi at y pwynt ehangach ynghylch paratoi ar gyfer ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, pryd mae'n ymddangos fel petai digon o faterion y gallai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw o fewn ei chymwyseddau ei hun, ac eto mae'n ymddangos nad oes fawr ddim tystiolaeth o unrhyw gamau pendant.
Er ei bod hi'n hawdd beirniadu Llywodraeth y DU, gallai a dylai Gweinidogion y Llywodraeth yng Nghymru wneud mwy i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a grybwyllwyd yn adroddiadau'r Pwyllgor Cynulliad ynghylch goblygiadau Brexit ar Gymru, yn hytrach na dim ond sylwebu ar bolisïau a chyhoeddiadau Llywodraeth y DU.
Felly, Llywydd, i gloi, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn edrych ymlaen at graffu ar fanylion y cytundeb drafft hwn a'i effaith ar Gymru yn yr wythnosau nesaf, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weithio, lle gallwn ni, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd i baratoi'r fargen orau bosibl i bobl Cymru.
A gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau? Mae'n gofyn beth yw'r broblem o ran y cytundeb ymadael. Ei hirhoedledd, mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos i mi nad yw'r cytundeb yn mynd at wraidd y mater. Ble fyddwn ni ym mis Rhagfyr 2020? A fyddwn ni yn yr union un sefyllfa eto? Rydym ni eisoes wedi cael dwy flynedd, a dyma ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw'r cytundeb yn barhaol. Mae ein safbwynt yn eithaf syml, a hynny yw: rydym ni eisiau gweld mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl ac i aros yn yr undeb tollau, ac mae unrhyw beth sy'n llai na hynny yn amlwg yn rhywbeth na allem ni gytuno iddo.
Mae'n iawn iddo ddweud bod busnesau ac eraill wedi rhoi croeso gochelgar i'r cytundeb, ond mae hynny, rwy'n credu, oherwydd eu bod yn credu mai'r dewis arall yw dim cytundeb o gwbl, nad oes neb eisiau ei weld. Felly, gallaf ddychmygu pam y byddai pobl eisiau cefnogi'r cytundeb hwn oherwydd yr ofn nad oes unrhyw beth arall ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl edrych eto ar, yn sicr, y datganiad gwleidyddol, ac i fod yn fwy penodol ynghylch y ffordd ymlaen. Mae hynny'n golygu gwneud ymrwymiad i'r undeb tollau a'r farchnad sengl.
Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu bod Prif Weinidog y DU wedi rhoi ei hun mewn cornel ynghylch hyn. Doedd dim rhaid iddi gynnal etholiad cyffredinol y llynedd ar sail rhoi gweledigaeth o Brexit caled gerbron pobl Prydain, na wnaethon nhw mo'i derbyn, ac mae hi wedi ei chael hi'n anodd cael ei hun allan o'r gornel y canfu ei hun ynddi. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae'n cyfeirio at dinc fy llais. Nid yw tinc fy llais yn ddim o'i gymharu â hwnnw o eiddo ei gyd-Aelodau yn Llundain. Mae ei gyd-Aelodau ei hun yn Llundain wedi galw'n agored am ymddiswyddiad y Prif Weinidog. Maen nhw wedi bod yn agored ymosodol, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y maen nhw wedi ei disgrifio hi. Y gwir amdani yw y bûm i, rwy'n credu, yn dyner o'i gymharu â'r naws a fabwysiadwyd gan wleidyddion Ceidwadol, a dyma'r broblem, ynte?
Oes, mae rhai yn fy mhlaid i â safbwynt gwahanol. Ceir rhai yn fy mhlaid yn San Steffan sydd yn Frecsitwyr. Nid oes llawer ohonyn nhw, ond maen nhw'n bodoli. Y broblem yw bod y rhaniadau yn y Blaid Geidwadol mor helaeth fel ei bod hi'n anodd iawn gweld sut y gellir cael unrhyw undod yn y blaid honno o ran gweledigaeth ar gyfer Brexit. Mae'n dweud 'chwarae gwleidyddiaeth'. Y pryder sydd gennyf i yw; ble daw hyn i ben? Nid oes unrhyw arweinyddiaeth oherwydd ni ellir cael hynny. Mae gennym ni Brif Weinidog sydd wedi colli llawer o Weinidogion—Gweinidogion Cabinet sydd wedi ymddiswyddo. Mae nifer yn ei phlaid nad ydyn nhw'n cefnogi ei pholisi ei hun. Yn yr amgylchiadau hynny, mae'n dweud bod arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru yn wan. Wel, ni allwn ni ond cyfeirio at Lundain a dweud, 'Ble mae'r arweinyddiaeth yn Llundain, o ystyried yr amgylchiadau sy'n bodoli yn y fan honno?'
Rydym ni wastad wedi bod yn gyson yn yr hyn y bûm yn galw amdano. Fe wnaethom ni lunio ein gweledigaeth ddwy flynedd yn ôl ynghylch beth yr oeddem ni ei eisiau. Rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU; fe wnaf i enwi David Lidington fel rhywun y mae'n bosibl gweithio ag ef ac i drafod materion gydag ef. Mae yna berthynas yno. Nid yw'n gyson, oherwydd bod adrannau eraill yn Llywodraeth y DU yn gweld pethau mewn goleuni fymryn yn wahanol.
Mae'n crybwyll bod angen pont. Efallai fod hynny'n wir, ond pont at beth? Ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gwybod i ble mae'r bont honno yn arwain, a dyna'r broblem. Ddwy flynedd yn ôl, bu sôn am adeiladu pont, a nawr mae sôn am adeiladu pont o hyd. Nid ydym ni'n gwybod beth yw'r cyrchfan terfynol mewn gwirionedd. O wrando ar farn byd busnes, eu barn nhw yn syml yw hyn; maen nhw eisiau sicrwydd. Ac er y gallai hyn roi elfen o sicrwydd dros dro, nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen, yn arbennig o ran eu gallu i gael gweithwyr medrus.
O ran y diwydiant amaethyddiaeth, wel, ceir nifer o broblemau y mae angen eu datrys. Mae mynediad i'r farchnad yn allweddol; heb fynediad i'r farchnad, ni all ffermio defaid, yn enwedig, oroesi yng Nghymru. Nid yw marchnad y DU yn ddigon mawr i gefnogi diwydiant cig defaid y DU, felly nid yw'n fater syml o gefnogi ffermwyr; mae ynglŷn â sicrhau bod ganddyn nhw fynediad i'w marchnad hefyd.
Mae'r un peth yn wir am bysgota. Un peth yw cael mynediad digonol, fel yr ydych chi'n ei gweld hi, i'ch dyfroedd arfordirol eich hun, ond pan yr ydych chi'n gwbl ddibynnol ar allforio'r pysgod, mae'n rhaid ichi sicrhau bod gennych chi farchnad ar gyfer y pysgod hynny hefyd. Byddai'n dda i ddim i'r DU allu dal mwy o bysgod, hyd yn oed pe bai hynny'n bosibl, ac nid wyf yn credu ei fod yn bosibl oherwydd y lefel isel o stociau pysgod. Y gwir amdani yw na fyddai marchnad i'r rhan fwyaf o'r pysgod hynny, felly mae angen ystyried hynny hefyd.
Soniodd am fater y ffin galed. Mae gwaith yn cael ei wneud drwy gyfrwng grŵp porthladdoedd ynghylch sut y byddai hynny'n datblygu. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho, y byddai'r pwyslais ar Ddoc Penfro yn hytrach nag Abergwaun o ran cludo nwyddau. Mae Abergwaun yn tueddu i gludo pobl, ac mae Doc Penfro yn tueddu i gludo nwyddau ac mae Caergybi'n cludo'r ddau.
Dywed nad oes dim wedi'i wneud i wella'r ffordd. Wel, mae ffordd osgoi Robeston Wathen yn bodoli a ffordd osgoi Llanddowror, wrth gwrs, sy'n mynd tuag at Ddoc Penfro i'r cyfeiriad arall. Felly, bu gwelliannau ffyrdd hefyd, ond nid dyna'r broblem. Y broblem yw, nid beth sy'n digwydd ar y ffyrdd hynny, ond beth fydd yn digwydd yn y porthladdoedd.
Os oes gennym ni sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn penderfynu bod yn llawdrwm o ran tollau, bydd hynny'n arwain at oedi a bydd hynny'n golygu y bydd angen llety yn y porthladdoedd hynny yn hytrach nag ymhellach ar hyd y ffyrdd. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd y sefyllfa yn hynny o beth. Nid ydym ni'n gwybod pa fath o wiriadau gaiff eu gweithredu. Rydym ni'n tybio na fyddai unrhyw reolaeth basbort oherwydd bod yr ardal deithio gyffredin wedi ei chadw, ond a fydd elfen o wiriadau tollau, sut cânt eu cynnal, a fyddan nhw ar hap, a fyddan nhw'n llym? Nid oes unrhyw un o'r cwestiynau hyn wedi eu hateb, felly mae'n anodd iawn paratoi ein porthladdoedd ar gyfer sefyllfa nad yw eto yn glir. Ond, fel y dywedais, mae gweithgor porthladdoedd wedi'i sefydlu gyda Llywodraeth y DU i edrych ar hyn.
O ran paratoi ar gyfer ymadael, rydym ni eisoes ar y trywydd iawn i wneud hynny. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod Brexit 'digytundeb' yn rhywbeth nad oes modd paratoi ar ei gyfer. Ni ellir paratoi trefniadau lliniaru ar ei gyfer. Ni ellir ei weld fel un dewis ymhlith llawer. Mae'n ganlyniad trychinebus a, drwy gronfa bontio'r UE a thrwy weithio gyda busnesau a gyda'n ffermwyr, rydym ni wedi gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol er mwyn hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, i roi mwy o farchnadoedd yn y dyfodol i Gymru drwy ehangu ein swyddfeydd tramor. Ond wrth gwrs, yn y pen draw, os na allwn ni gael y berthynas fasnachu yn iawn gyda'n marchnad agosaf, fwyaf—a fydd ein marchnad agosaf, fwyaf bob amser—yna ni chawn ni hynny'n iawn gydag unrhyw farchnad arall.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei fod yn grynodeb defnyddiol a theg o'n sefyllfa ar hyn o bryd. Yr hyn yr oeddwn i'n ei chael hi'n anodd ei ddirnad ynddo oedd strategaeth o ran sut y dylem ni symud ymlaen, sut yr ydym ni'n osgoi'r trychineb gwleidyddol sy'n ymagor o'n blaenau.
Wrth gwrs, y ffaith amlwg allweddol yn y cytundeb ymadael drafft, rwy'n credu—pob un o'r 585 o dudalennau— yw nad yw'n crybwyll Cymru hyd yn oed fel troednodyn. Gwnaeth hyd yn oed fersiwn 1888 o Encyclopaedia Britannica yn well na hynny. Ac mae'n dweud rhywbeth eithaf canolog, onid yw, am agwedd Llywodraeth San Steffan at Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig? Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi cwyno'n briodol am y ffaith nad oedd y cytundeb drafft hyd yn oed wedi ei rannu ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru. Yn wir, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud a fydd yr un peth yn wir am yr ail ddrafft—y fersiwn 20 tudalen o'r datganiad gwleidyddol y dywedir wrthym ni sydd wrthi'n cael ei lunio ar hyn o bryd.
Ond yng ngoleuni hynny, siawns nad oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymddiried yn Llywodraeth San Steffan wrth drosglwyddo ein pwerau iddyn nhw yn ddiniwed ar y gorau ac yn ddiofal ar y gwaethaf. A wnaiff y Prif Weinidog egluro—rwy'n deall y pwynt a wnaeth yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog o ran yr awydd i gadw at y cytundeb rhynglywodraethol—ond a wnaiff esbonio'r amseriad, nid yn unig yng ngoleuni'r achos sydd gerbron y Goruchaf Lys, ond hefyd y ffaith syml iawn y gall Llywodraeth y DU ddymchwel yn yr ychydig wythnosau nesaf? Felly, pam na ellir gohirio'r penderfyniad hwn i weld sut mae pethau'n datblygu, fel y dywedodd, ar yr adeg hon o'r argyfwng gwleidyddol mwyaf mae'n debyg yn ein hoes ni?
Mae Plaid Cymru wedi dweud yn glir na fyddwn ni'n cefnogi'r cytundeb ymadael fel y mae ar hyn o bryd. Mae'n rhwygo Cymru allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae mewn gwirionedd yn anwybyddu Cymru yn gyfan gwbl a'n buddiannau arbennig, ac nid yw'n dweud gair, fel y dywedodd y Prif Weinidog, o ran swm a sylwedd y berthynas economaidd yn y dyfodol.
Rwy'n falch o weld ein bod ni'n mynd i gael pleidlais ystyrlon ar y bleidlais ystyrlon, i ddefnyddio jargon Seneddol y dydd. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gennym ni hefyd y cyfle i gyflwyno amrywiaeth o welliannau a fydd yn adlewyrchu'r ystod o safbwyntiau rhwng y pleidiau a hefyd o fewn pleidiau o ran atebion posibl i'r argyfwng gwleidyddol y cyfeiriodd ato? Ac yn benodol, a allwn ni gael ymrwymiad i ganiatáu i'r Aelodau hynny ar ei feinciau cefn sy'n hollol bleidiol i gael pleidlais y bobl, fel yr ateb gorau mae'n debyg, wrth gamu i'r dyfodol—nid yn unig ar ei feinciau cefn ond hefyd ar ei feinciau blaen, fel yr ydym ni wedi clywed yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth—fel y gallwn ni gael pleidlais rydd i'r Aelodau hynny sy'n dymuno arddel y safbwynt hwnnw?
Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi gofyn am gyfarfod brys o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, a gynhaliwyd neithiwr. A wnewch chi ddweud, o gofio bod y rhain yn amserau rhyfeddol, p'un a ydych chi wedi ceisio cael cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion cyn i chi adael eich swydd? Rydym ni'n cytuno â chi y bu dwy flynedd o anwadalu, nid yw'r amser ar ein hochr ni yn awr i roi ateb ymarferol wrth gamu i'r dyfodol, boed yn aelodaeth o'r farchnad sengl, aelodaeth o'r undeb tollau, neu bleidlais y bobl. A ydych chi'n cytuno mai dyma'r amser i ymestyn Erthygl 50 er mwyn caniatáu inni'r amser hwnnw i ganfod ffordd synhwyrol ymlaen?
Yn olaf, sylwaf iddo ddweud yn gynharach, mewn gwirionedd, bod gwleidyddiaeth San Steffan wedi methu'n llwyr. Ni allwn i gytuno mwy. Roeddwn i lawr yn San Steffan yn gynharach heddiw yn cyfarfod â Phrif Weinidog yr Alban i geisio llunio rhyw fath o ffordd synhwyrol ymlaen, yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin ymysg y gwrthbleidiau fel y gallwn ni mewn gwirionedd gynnig y math o arweinyddiaeth sydd wedi bod, yn anffodus, yn ddiffygiol. A fyddai'n cytuno, fodd bynnag, bod y diffyg arweinyddiaeth hwnnw sydd wedi nodweddu'r Llywodraeth Geidwadol yn sicr hefyd wedi bod yn wir yn ei blaid ei hun yn San Steffan oherwydd rhaniadau o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan ynghylch y mater hwn hefyd? Siawns y dylem ni achub ar y cyfle, pan fydd hi'n bryd pleidleisio yn y Senedd hon, i ddarparu'r math o arweinyddiaeth sydd wedi bod yn ddiffygiol ac anfon neges ddiamwys ein bod ni eisiau gweld Cymru'n cadw ei haelodaeth o'r farchnad sengl fan leiaf, ond, yn well fyth, i ni gael pleidlais y bobl i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau. Mae'n gofyn am y strategaeth yn y dyfodol. Bydd dadl yn y fan yma naill ai yr wythnos nesaf neu ddechrau'r wythnos ganlynol. Ein dealltwriaeth ni yw y cynhelir y bleidlais yn San Steffan yn ystod wythnos olaf y Senedd yn San Steffan, sef yr wythnos ar ôl, wrth gwrs, y bydd y Cynulliad yn terfynu, felly bydd hi'n hanfodol bod dadl yn y fan yma fel y gall yr Aelodau Seneddol fod yn ymwybodol o farn Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n deall y bu trafodaethau ynghylch cynnal hynny o bosibl ddydd Iau yr wythnos nesaf neu ddiwrnod arall o bosib. Byddai'n rhaid iddo fod, rwy'n credu, yn ddiwrnod penodol wedi'i glustnodi ar gyfer dadl mor bwysig, yn hytrach na cheisio ei wasgu i faterion busnes y Llywodraeth rhwng nawr a'r Nadolig. Felly, yn sicr, rwy'n derbyn bod angen gwneud hynny.
A gaf i ddweud wrtho fod y Cabinet wedi cytuno ar gynnig ddoe. Mae angen cyflwyno'r cynnig, wrth gwrs, ger bron ein grŵp, fel y gall ei ddychmygu. Mae'n ceisio bod mor gynhwysfawr â phosib. Mae'n cynnwys, er enghraifft, yr angen i edrych ar ymestyn cyfnod erthygl 50. Rwy'n credu bod hynny'n anochel os oes angen edrych eto ar y datganiad gwleidyddol yn arbennig. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr angen i'r cyhoedd fod yn rhan, a'r angen i gael dewisiadau nad ydyn nhw'n eithrio unrhyw ddewis, ac a fydd yn ffurfio rhan o'r cynnig, ac efallai bod hynny'n rhywbeth y gall ei weld pan gaiff y cynnig hwnnw ei lunio.
Mae'n gywir i ddweud nad yw fy nghyd-Brif Weinidog yn yr Alban na minnau wedi gweld y dogfennau hyn ar adeg a oedd, yn fy nhyb i, yn briodol. Gallwn ddeall os oedd amharodrwydd yn y Llywodraeth i rannu dogfennau gyda Llywodraeth arall rhag ofn beth allai ddigwydd i'r dogfennau hynny. Wel, rwyf wedi dweud droeon os ydym ni'n derbyn dogfennau cyfrinachol, byddwn yn eu cadw'n gyfrinachol. Os ydym ni'n torri'r cyfrinachedd hwnnw, y cwbl sy'n digwydd wedyn yw nad ydym ni'n cael y dogfennau hynny eto. Heblaw am hyn, wrth gwrs, gallai llawer o ddogfennau gael eu rhannu gyda mi ar delerau'r Cyfrin Gyngor, a fyddai'n golygu y gellid rhannu'r dogfennau hynny yn gyfrinachol ar y pryd.
Mae'n sôn am y cytundeb rhynglywodraethol. Mae ei safbwynt ef yn wahanol i fy un i yn hyn o beth. Fy marn i yw bod gennym ni gytundeb. Rhan o'r cytundeb hwnnw oedd cael gwared ar y Ddeddf Barhad. Fel y dywedais, gallai San Steffan yn syml ei diddymu beth bynnag gydag un llinell, ond yr hyn y mae'r Ddeddf Barhad wedi ei gyflawni i ni yw cytundeb rhynglywodraethol, y mae'r ddwy Lywodraeth wedi ymrwymo iddo. Nid oes unrhyw argoel y byddai Llywodraeth y DU eisiau cilio oddi wrth hynny. Mae'n bosib y bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn yr ychydig wythnosau nesaf, neu arweinydd newydd yn San Steffan yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac mae'r un peth yn wir am y fan yma, ond amheuaf yn fawr y byddai unrhyw un o fy olynwyr eisiau ymbellhau o'r cytundeb hwnnw. Felly, rwy'n credu, ar ôl ceisio dod i gytundeb, ei bod hi'n hanfodol ein bod yn cadw ewyllys da o ran y cytundeb hwnnw ac yn anrhydeddu ein rhwymedigaethau yn unol â hynny.
Mae'n sôn am gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Rwy'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory. Rydym ni wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r cyfarfod llawn hwnnw. Mae'r dyddiad a gafwyd yn ddyddiad y gallaf warantu na fyddaf i yno oherwydd ei fod ar ôl fy nghyfnod i yn Brif Weinidog. Felly, rydym ni'n ceisio cael cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion yn gynharach na hynny. Mae'n hanfodol, a byddai'n hynod o bwysig.
O ran, wel, arweinyddiaeth yn San Steffan, rydym ni i gyd wedi gweld beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf. Nid yw'n gwneud unrhyw les i neb bod mewn sefyllfa lle nad yw'n bosib gwybod, fesul awr bron iawn, a fydd y Llywodraeth yn goroesi neu beidio. Yn y byd busnes, mae hynny'n rhywbeth yn sicr na fydden nhw'n ei groesawu, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi annog Llywodraeth y DU—ac rydym ni wedi gweithio gyda Phlaid Cymru ar hyn, gyda'r Papur Gwyn—i fabwysiadu dull pragmatig a synhwyrol o ymdrin â Brexit sy'n cydnabod pwysigrwydd y farchnad sengl, a mynediad dirwystr iddi; sy'n cydnabod pwysigrwydd yr undeb tollau i Gymru; ac sy'n cydnabod pwysigrwydd rhoi sicrwydd wrth wireddu canlyniad y refferendwm. Hyd yma, wrth gwrs, rydym ni ymhell o fod yn y sefyllfa honno.
Rwyf i, hefyd, yn croesawu datganiad y Prif Weinidog, ac, fel arweinydd Plaid Cymru, rwy'n credu ei fod, ar y cyfan, yn grynodeb teg o'n sefyllfa ni nawr. Ac rwy'n sicr yn cytuno'n llwyr gyda'r Prif Weinidog yn ei feirniadaeth o Theresa May a'i hymdriniaeth o negodiadau Brexit. Tybed a yw'n cytuno â mi bod canlyniad trychinebus dwy flynedd o anallu llwyr yn y trafodaethau hyn wedi arwain at y sarhad cenedlaethol mwyaf i Brydain, yn sicr sarhad gwleidyddol, ers Suez.
Mae gan Theresa May math penodol o athrylith. Y llynedd, llwyddodd i wneud Jeremy Corbyn edrych fel rhywun yr oedd modd ei ethol a dod o fewn trwch blewyn i ennill etholiad cyffredinol nad oedd angen iddi ei chynnal. Eleni, mae hi wedi llwyddo i gynhyrchu cytundeb ar gyfer gadael yr UE sydd hyd yn oed yn waeth nag aros yn aelod. Mae'n anodd osgoi dod i'r casgliad bod Prif Weinidog y DU mewn gwirionedd wedi rhoi ei bryd ar danseilio'r holl broses Brexit. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, mae'n hollol afresymol i mi i beidio â gwneud unrhyw baratoi o gwbl ar gyfer gadael yr UE, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, yna i gynnal trafodaethau ar y funud olaf, fel yr ydym ni yn awr, sydd wedi cyfyngu ar ddewisiadau pawb, gan gynnwys ei hun, ac yna i gytuno i'r cytundeb pontio—y cynllun pontio honedig hwn—sy'n ymddangos yn waeth nag aros yn aelod, oni bai bod yna isdestun yn y fan yma ein bod ni mewn gwirionedd yn Hotel California, lle gallwch chi fynd at y ddesg i adael, ond byth gadael mewn gwirionedd.
A sylwaf yr wythnos hon fod Monsieur Barnier wedi sôn am ymestyn y cytundeb pontio, hyd yn oed y tu hwnt i'r dyddiad arfaethedig ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2022-23. Ac yn sicr rwy'n cytuno â'r cwestiwn y mae'n ei ofyn yn y datganiad: beth ar y ddaear mae hi wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf? Nid wyf yn credu y bu hi'n rheoli'r helynt mewnol yn y Blaid Geidwadol yn gymaint â'i greu yn y lle cyntaf. Mae hyn yn fargen a gynlluniwyd gan Brif Weinidog sydd eisiau aros, sydd wedi ei chymeradwyo gan gabinet sydd eisiau aros, i sicrhau nad yw Prydain byth mewn gwirionedd yn gadael yr UE. Ni fyddwn ni hyd yn oed yn gadael mewn enw yn unig oherwydd mae'r fargen hon yn ein hymrwymo i gydymffurfio â threfniadau rheoleiddio'r UE am gyfnod amhenodol. Ac ar ôl inni adael yr UE, wrth gwrs, ni fydd gennym ni hyd yn oed lais, heb sôn am bleidlais, ar y cyfreithiau hynny a wneir ac y bydd rheidrwydd arnom ni i'w gweithredu.
Ni ellir ei egluro, yn fy marn i, drwy anallu yn unig. Brad yw hyn gan sefydliad sy'n benderfynol o rwystro democratiaeth, ac rydym ni wedi gweld hynny o'r blaen: yn Nenmarc, yn Ffrainc, yn Iwerddon, yn yr Iseldiroedd, lle cynhaliwyd refferendwm, lle mae pobl wedi pleidleisio 'na', ond y dywedwyd wrthyn nhw, 'mae'n rhaid ichi ddal ati i bleidleisio nes y byddwch chi'n pleidleisio'r ffordd gywir.' [Torri ar draws.] Rydym ni, felly, o ganlyniad i'r fargen honedig hon, o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn ddarostyngedig i'w chyfarwyddebau a'i rheoliadau, fel y dehonglir nhw gan Lys Cyfiawnder Ewrop, na fydd gennym ni hyd yn oed ein barnwr ein hunain ynddo, heb gynrychiolaeth yn y Comisiwn, heb gynrychiolaeth yng Nghyngor y Gweinidogion.
Ac ar ben hynny, er, yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon, mae gennym ni'r hawl i adael, o dan y cytundeb hwn, yr UE sydd â'r gair olaf a yw'r fargen hon yn derfynol neu beidio, ac mae modd gorfodi'r penderfyniad hwnnw ar orchymyn Llys Cyfiawnder Ewrop. Mae hynny'n groes i adfer rheolaeth, sef yr amcan y soniodd y Prif Weinidog amdano. O leiaf ar hyn o bryd mae gennym ni 8 y cant o'r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion. Ar ôl 29 Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd gennym ni 0 y cant o'r pleidleisiau. Ac rydym ni'n talu £39 biliwn o arian trethdalwyr am y fraint o ildio y mymryn rheolaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac, yn y broses, rydym ni'n cael ein hatal rhag manteisio ar y fendith fwyaf o adael yr UE, sef i ymrwymo i gytundebau masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, Awstralia, India, Tsieina, ac ati, am gyfnod amhenodol, ac o bosib yn barhaol.
Mae'r UE wedi cael popeth roedd hi'n ei ddeisyfu gan Brif Weinidog y DU, a mwy. Mae gennym ni ddiffyg masnachu o £90 biliwn y flwyddyn gyda nhw. Maen nhw yn allforio gwerth £340 biliwn o nwyddau a gwasanaethau i ni. Pam ar y ddaear fyddai'r Comisiwn Ewropeaidd eisiau rhoi rhwydd hynt inni lunio cytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill i danseilio eu prisiau ar geir, bwyd, dillad, esgidiau, ac ati? Wrth gwrs dydyn nhw ddim eisiau inni leihau trethi ar danwydd oherwydd byddai hynny'n gwneud ein diwydiannau'n fwy cystadleuol gyda nhw. A'r peth mwyaf syfrdanol—byddaf yn dod i gasgliad ar hyn—am y cytundeb hwn yw, o ran Gogledd Iwerddon, yn y dyfodol, caiff cyfreithiau eu gwneud ar gyfer Gogledd Iwerddon ble bydd llais a phleidlais gan Ddulyn, ond nid y DU a Belfast. Mae hynny i'r gwrthwyneb yn llwyr o ymrannu.
Soniodd arweinydd y Ceidwadwyr yn ystod ei gwestiynau i Brif Weinidog Cymru—[torri ar draws.]—dof atoch chi mewn eiliad—am yr angen i ymgysylltu. Wel, mae Prif Weinidog y DU wedi mynd y tu ôl i gefn dau Ysgrifennydd Brexit a gwneud consesiynau pellgyrhaeddol i Frwsel, a dwywaith wedi ceisio sicrhau cydbwysedd yn y Cabinet i gytuno â'i chynlluniau o ystrywiau wedi eu cynllwynio'n ddidrugaredd yn Chequers a Rhif 10. Nid oedd unrhyw ymgysylltu gyda'r Cabinet gan y Prif Weinidog, heb sôn am Lywodraeth Cymru. A chynhyrchwyd dogfen 558-tudalen, geiriog iawn, i bobl roi sylwadau arni gyda phum munud o rybudd. Mae hi'n amlwg nad yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn blaid unoliaethol bellach. Nid bargen mo hon ond ymostyngiad. Tybed a yw Prif Weinidog Cymru yn cytuno â'r disgrifiad yna?
Mae'n eithaf rhyfedd, Llywydd, y caf fy hun yn codi bron iawn i amddiffyn Prif Weinidog y DU rhag yr ymosodiadau a wnaed arni yn hytrach nag arnaf i am fod hyn i gyd ynghylch yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan. Mae'n rhaid imi ddweud mai'r hyn sy'n amlwg am Brexit yw bod y rhai sydd wedi chwalu'r ffenest wedi rhedeg i ffwrdd a gadael i'r rhai nad oedd eisiau chwalu'r ffenest i'w rhoi yn ôl at ei gilydd gan hawlio eu bod yn gwneud hynny yn y ffordd anghywir. Fe wnes i sylwi bod y bobl hynny a ddywedodd y byddai hyn y fargen fasnach hawsaf erioed a'r holl ffwlbri yna a glywsom ni, nid yw hynny wedi digwydd—. A beth yw'r gân yn awr? Bod yr UE yn afresymol. Wel, mae'r UE yn gofalu am ei buddiannau ei hun. A'r syniad yma bod yr UE ein hangen ni yn fwy nag y mae arnom ni eu hangen nhw, nid yw'r UE yn ei gweld hi felly o gwbl, neu nid yw 27 gwlad yr UE. Eu barn nhw yw, 'Wel, fe hoffem ni roi bargen dda i'r DU, ond, mewn gwirionedd, mae yna fyd cyfan draw yn y fan acw y gallwn ni siarad ag ef ac y gallwn ni fasnachu ag ef— blociau mawr y gallwn ni werthu ein nwyddau iddyn nhw.'
Nawr, mae'n gofyn yn deg beth sydd wedi'i wneud yn y ddwy flynedd diwethaf. Wel, pan fo gennych chi David Davis a Boris Johnson yn eu swyddi ers cyhyd, mae'r cwestiwn wedi ei ateb. Nid wyf yn siŵr beth wnaeth David Davis, os wyf yn onest gyda chi, o ran symud hyn ymlaen. Roedd hi'n ymddangos fod Boris Johnson yn credu y gellid datrys unrhyw broblem gyda sylw bachog o ryw fath. Ei gyfraniad mwyaf i'r swydd o Ysgrifennydd Tramor oedd peryglu rhyddhau dinesydd Prydeinig yn Iran oherwydd rhywbeth a ddywedodd. Felly, ni ddewisodd hi ei phersonél yn ddoeth o ran ei Hysgrifennydd Brexit a'i Hysgrifennydd Tramor. A dyma ni unwaith eto: 'Dyma frad gan y sefydliad.' Nid oes gronyn o dystiolaeth i ategu hynny, er gwaethaf y ffaith bod llawer eisiau gadael, wrth gwrs. Roedd David Davis eisiau gadael, roedd Dominic Raab eisiau gadael, ac eto, er gwaetha'r ffaith mai ef oedd yr un a roddodd y cytundeb hwn gerbron y Cabinet ac yna penderfynu gadael, a David Davis, oedd eisiau gadael—ef oedd Ysgrifennydd Brexit— a ydyn nhw'n rhan o'r sefydliad a oedd yn mor fradwrus? Ac yma mae gennym ni ddechrau naratif: 'byddai hyn i gyd yn iawn oni bai am y bradwyr yn ein rhengoedd ein hunain.' Y ddamcaniaeth cyllell yn y cefn. Nawr, lle glywsom ni hynny o'r blaen? Mae pobl Prydain wedi cael eu trywanu yn eu cefnau gan bobl a'u gwerthodd yn rhad. Clywyd rhywbeth tebyg mewn gwlad arall bron i gan mlynedd yn ôl. Efallai y gwelwn ni yn awr pam fydd cymaint o groeso i Tommy Robinson yn UKIP oherwydd y gyfatebiaeth hanesyddol ymddangosiadol.
Ac o ran cytundebau masnach rydd, mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod: nid oes modd ffeirio cytundeb da ag Ewrop am gytundeb masnach rydd ag America. Mae ymhellach i ffwrdd ac mae'n farchnad lai. Mae India ymhellach i ffwrdd. Mae Awstralia yn farchnad fechan a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd. Ni fydd unrhyw un o'r marchnadoedd hyn yn gwneud iawn am y farchnad Ewropeaidd. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrtho: bydd y gwledydd hyn, India yn arbennig, yn dweud, 'Os ydych chi eisiau cytundeb masnach rydd gyda ni, rydym ni eisiau i'n pobl allu symud ac i allu cyrraedd Prydain heb fisa.' Nid ydyn nhw'n mynd i dderbyn cyfyngiadau fisa o gwbl. Bydd arnyn nhw eisiau rhywbeth sy'n agos at ryddid i symud ar gyfer eu pobl eu hunain, ac wedyn beth mae'n mynd i ddweud bryd hynny? Mae'n gwrthwynebu rhyddid i symud i wladolion Ewropeaidd. A yw hynny'n golygu ei fod o blaid hynny i wladolion Awstralia, i wladolion yr India, i wladolion Americanaidd? Mae hynny'n rhywbeth nad yw UKIP erioed wedi rhoi sylw iddo.
Ac wedyn, wrth gwrs, yn olaf, fe wnaeth sylw sy'n celu, mewn gwirionedd, y math o syniadau am ryddid y farchnad sy'n rhemp yn UKIP. Dywedodd y byddem ni'n colli'r cyfle i gael ceir rhatach, bwyd rhatach, dillad rhatach ac esgidiau rhatach. Beth am weithwyr Prydain sy'n gweithio yn y sectorau hynny? Beth mae'n ei olygu i'n ffermwyr os caniatawn i gynnyrch israddol—cynhyrchion bwyd israddol—danseilio beth maen nhw'n ei gynhyrchu? Beth mae'n ei olygu i'n gweithwyr ceir os ydym ni'n caniatáu i geir ddod i mewn sy'n cael eu cynhyrchu am gost is o lawer ac nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau amgylcheddol sydd gennym ni ar hyn o bryd? Ymddengys mai ei farn yw: Gadewch inni dorri'r safonau cywir at yr asgwrn a gadewch iddyn nhw ddod i mewn, tanseilio ein gweithwyr ein hunain. Dillad, esgidiau—yr holl ddiwydiannau hyn sy'n bwysig i Brydain. Nid wyf yn credu bod y rhai a bleidleisiodd 'gadael' wedi pleidleisio 'gadael' i beryglu eu swyddi eu hunain. Dywedodd llawer iawn, iawn o bobl wrthyf mai un o'r rhesymau pam roedden nhw yn pleidleisio 'gadael' oedd oherwydd eu bod yn teimlo bod eu swyddi yn ansicr a'u bywydau yn ansicr. Fyddan nhw byth yn pleidleisio am unrhyw beth sy'n edrych fel economi laissez-faire, rheoliad isel. Dyna'n union beth—roeddwn yn mynd i ddweud arweinydd UKIP, ond mae'r awenau yn newid dwylo—mae'r Aelod wedi dweud. Nid dyna, rwy'n credu, y pleidleisiodd pobl Prydain drosto, nid dyna'r weledigaeth y gwnaethon nhw bleidleisio o'i phlaid. Rwy'n credu mai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw Brexit synhwyrol sy'n diogelu eu buddiannau a buddiannau Cymru.
Prif Weinidog, fe roddwyd sicrwydd clir iawn, iawn inni yn ystod ymgyrch y refferendwm ac ar ôl hynny na fyddai unrhyw ymwrthod â hawliau gweithwyr, unrhyw gwtogi ar hawliau gweithwyr, y bydden nhw'n cael eu diogelu bob cam o'r ffordd. Ond wrth ddarllen y cytundeb, neu'r cytundeb drafft yn ei ddiwyg presennol, ar yr olwg gyntaf mae'n ymddangos yn eithaf deniadol, oherwydd mae'n sôn am beidio ag ildio'r hawliau hynny. Ond, Prif Weinidog, rydych chi'n gwybod, gystal â mi, mai ychydig iawn o statws cyfreithiol sydd i gymalau di-atchweliad, eu bod i bob pwrpas yn amhosib eu gorfodi, eu bod wedi'u gwrthod gan nad ydyn nhw'n rhoi unrhyw sail wirioneddol o gefnogaeth i hawliau gweithwyr yn y gyfraith Ewropeaidd nac yn wir yng nghyfraith Prydain. Nid yw'r union gymalau yn y ddogfen yn werth y papur y maen nhw wedi eu hysgrifennu arno. Nawr, dyna'r farn yr wyf i wedi dod iddi ynglŷn â hyn, ac rwyf i hefyd wedi ymgynghori â rhai o gyfreithwyr cyflogaeth mwyaf blaenllaw'r wlad, a dyma maen nhw yn ei ddweud: maen nhw'n dweud ei bod hi felly yn gwbl glir bod yr ymrwymiadau i beidio â gostwng safonau llafur a chydymffurfio gyda'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, rhwymedigaethau Siarter Cymdeithasol Ewrop, yn aneffeithiol ac na fyddan nhw'n cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei nodi yn ei Phapur Gwyn; yn benodol bydd hi bron yn sicr yn amhosib i undebau llafur a gweithwyr ddibynnu'n uniongyrchol ar yr ymrwymiadau hyn beth bynnag. Mae hi hyd yn oed yn fwy clir nad yw'r ymrwymiadau hyn hyd yn oed yn dechrau bodloni pedwerydd prawf Llafur, sef: a yw'n amddiffyn hawliau ac amddiffyniadau ac yn atal ras i'r gwaelod?
A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, gyda'r dadansoddiad hwnnw? Ac yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag yn y ddadl sy'n digwydd yn San Steffan, un o'n hymrwymiadau sylfaenol yw na chaiff pobl yng Nghymru sy'n gweithio eu hawliau wedi eu cymryd oddi arnyn nhw, a bod y cytundeb drafft hwn, fel y mae ar hyn o bryd, yn tanseilio'n sylweddol ac yn dileu'r amddiffyniad sydd gan weithwyr Cymru o ran yr hawliau y bu ganddyn nhw hyd yn hyn?
Wel, ydw. Rydym ni'n gwybod fod llawer yn y Blaid Geidwadol, ac yn wir fe glywsom ni hynny gan UKIP heddiw, sydd o'r farn bod hwn yn gyfle i gael gwared ar yr hawliau hynny yr ymdrechwyd mor galed i'w hennill dros gynifer o flynyddoedd. Maen nhw'n gweld hynny fel baich ar fusnesau, p'un a yw'n hawl i absenoldeb statudol, nad oedd yn bodoli 20 mlynedd yn ôl—roedd yna weithwyr yng Nghymru nad oedd â hawl i unrhyw absenoldeb o gwbl—p'un a yw'n dâl mamolaeth statudol, p'un a yw'n absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu gweld fel beichiau diangen ar yr economi gan rai y byddent yn hoffi cael gwared arnyn nhw. Ond bydd yn gwybod, fel rwyf innau'n gwybod, y ceir llawer iawn, iawn o bobl, er iddyn nhw bleidleisio 'gadael', wnaethon nhw ddim pleidleisio dros y weledigaeth honno. Roedden nhw eisiau mwy o ddiogelwch, nid rhyw fath o agwedd beryglus fyddai'n eu gadael ar ôl. Felly, ydw, rwy'n pryderu'n fawr ynglŷn â beth fydd yn digwydd o ran hawliau cymdeithasol, o ran hawliau gweithwyr, ond un peth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wrthsefyll yn llwyr yw unrhyw ymgais i wanhau'r hawliau hynny y gweithiwyd mor ddygn i'w sicrhau ac a fu gan weithwyr yng Nghymru a gweddill Prydain ers rhai blynyddoedd.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am eich camau gweithredu cyflym, Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ar y cyd â Nicola Sturgeon, yn galw am gyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion fel mater o frys. O ran y cytundeb ymadael, rwyf wedi fy siomi gan y diffyg parch a'r diffyg pwysigrwydd ymddangosiadol yn y datganiad gwleidyddol o ran y berthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar hyn fel Pwyllgor, yn casglu tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ogystal â phartneriaid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. A ydych chi'n rhannu'r siom yma? A fyddwch chi'n mynegi'r pryderon hyn ynglŷn â'r datganiad gwleidyddol i Brif Weinidog y DU pan fyddwch chi'n cwrdd â hi yfory? Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddoe ar ôl cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a drefnwyd er mwyn ateb eich llythyr, dylid canolbwyntio ar Gymru bellach. A fyddwch chi'n gofyn iddi, fel y mae Mark Drakeford wedi gwneud, i grafangu rhywfaint o amser i feddwl am ddyfodol ei gwlad—gwlad sydd â phedair Llywodraeth wahanol, pob un â'u cyfrifoldebau eu hunain? A, Prif Weinidog, mewn cyfarfod bord gron ynglŷn â Brexit ac ariannu teg yr wythnos diwethaf, lle trafodwyd y cyd-destun economaidd-gymdeithasol o effaith Brexit, gofynnwyd cwestiynau am effaith y cytundeb ymadael drafft o ran mynd i'r afael â'r tlodi a'r anghydraddoldeb a achoswyd gan y Lywodraeth Dorïaidd hon yn y DU yn ei hymgyrch ddidrugaredd o gyni. Gofynnwyd y cwestiwn hefyd o ran y cytundeb ymadael drafft ynghylch diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy'n cefnogi Mick Antoniw yn hyn o beth ac yn diolch i chi am eich ateb i'w gwestiynau.
Ond, yn olaf, o ran amcanion Diogelu Dyfodol Cymru, beth fydd hyn yn ei olygu i Lywodraeth Cymru, y cytundeb drafft hwn, sydd eisoes yn buddsoddi yn ein dinasyddion a'n cymunedau tlotaf, pan gawn ni ein diystyru wrth ymgynghori ar y rhagolygon ar gyfer dyfodol cyllid, o ran y gronfa ffyniant gyffredin, yn sgil colli ein cronfeydd strwythurol?
A gaf i ddiolch i fy nghyfaill a'r Aelod dros Fro Morgannwg am ei sylwadau? Addawyd inni na fyddem ni'n colli yr un geiniog o arian, ac rydym ni'n bwriadu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif o ran yr addewid yna.
Rwy'n credu mai un o'r cyfleoedd a gollwyd yn hyn o beth oedd bod Prif Weinidog y DU i raddau helaeth iawn wedi arddel y safbwynt cyn yr etholiad cyffredinol mai hi oedd yr un a fyddai'n cael y maen i'r wal yn hyn o beth ac nad oedd hi'n gweld yr angen i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig bryd hynny. Nawr, rwy'n credu ei bod hi mae'n debyg yn deg dweud pe byddai'r Blaid Geidwadol wedi ennill mwyafrif teilwng o 90 i 100 o seddi, yna mae'n siŵr na fyddem ni yn y sefyllfa hon lle mae'n rhaid iddyn nhw siarad â ni fel y maen nhw yn ei wneud heddiw. Ond nid dyna, wrth gwrs, oedd y canlyniad. Wrth gwrs, y cyfle a gollwyd oedd os nad oedd Prif Weinidog y DU wedi gwasgu ei hun i gornel o'r fath, cornel Brexit caled, efallai y byddai cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y math o Brexit y byddem ni wedi ei ddymuno. Efallai y byddem ni wedi bod yn y sefyllfa lle gallasem ni fod wedi dweud, 'Iawn, edrychwch, mae angen inni adael yr UE, mae pobl wedi pleidleisio dros hynny, ond gadewch inni gael mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl—mae hynny'n bwysig i ni. Does dim dewis gwell i'r undeb tollau, felly gadewch i ni aros yn yr undeb tollau.' Nawr, os mai dyna oedd agwedd Llywodraeth y DU ar y dechrau, buasai hynny wedi bod yn agos at ein safbwynt ni; fe allem ni fod wedi bod mewn sefyllfa lle byddem ni wedi gallu bod yn gefnogol, ond fe gollwyd hynny i gyd. Mae'n gwestiwn damcaniaethol.
A nawr, mae Llywodraeth y DU yn ei chael ei hun mewn sefyllfa lle nad oes neb yn hapus. Nid yw'r bobl sydd eisiau aros yn hapus, nid yw'r rhai sydd eisiau gadael yn hapus, dydym ni ddim yn hapus, dydy Llywodraeth yr Alban ddim yn hapus, y DUP—wel, dydyn nhw bron byth yn hapus, ond maen nhw'n arbennig o anhapus ar hyn o bryd. A lle mae hynny'n ein gadael ni? Y broblem yw na chafodd hyn ei drin fel y dylai fod wedi ei drin yn y lle cyntaf, ond gellid bod wedi osgoi'r sefyllfa hon. Nid wyf yn dweud y byddai wedi ei osgoi, ond y gallai fod wedi ei osgoi. Ond yn anffodus, wrth gwrs, y diffyg ymgynghori ac ymgysylltu a'n harweiniodd at y sefyllfa hon, ac rwy'n sicr yn gobeithio yn y dyfodol y bydd Llywodraeth y DU yn dysgu gwersi, sef er mwyn bod yn fwy effeithiol, bod yn rhaid iddyn nhw siarad â ni ac, wrth gwrs, bod yn rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr ein bod ni'n teimlo nid yn unig y gwrandewir arnom ni, ond y gweithredir ar yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud. Oherwydd mae hynny wedi digwydd, wrth gwrs, gyda Brexit. Maen nhw wedi troedio ar ein tiriogaeth ni—nid yn gyfan gwbl, ond yn sicr yn rhannol—ond gellid bod wedi osgoi llawer o hyn ddwy flynedd yn ôl pe bai'r llinellau cyfathrebu wedi bod yn fwy agored.
Yn gyntaf oll, fe hoffwn i hefyd ailadrodd pa mor gywilyddus yw hi nad ymgynghorwyd yn ystyrlon â Chymru ynglŷn â'r cytundeb ymadael. Nid yw'n ddigon da, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ddoe, dim ond gwrando ar yr hyn a ddywedwn ni ac yna mynd ymaith a dydym ni'n clywed dim mwy. Yr olaf o chwe phrawf y Blaid Lafur yw: a yw'n darparu ar gyfer holl ranbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig? Ac nid yw'n gwneud hynny, yn sicr. A yw Prif Weinidog Cymru yn credu, mewn gwirionedd, bod y cytundeb ymadael yn bodloni unrhyw un o'r chwe phrawf hynny a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur?
Mae'r cytundeb ymadael yn gosod allan sut y caiff dinasyddion a theuluoedd yr UE a dinasyddion y DU eu diogelu ar ôl inni adael yr UE. Dyna'r bobl sydd wedi dewis ble maen nhw eisiau byw yn unol â'u rhyddid i symud, a oedd, hyd yma, yn hawl i ni, o fewn yr UE. Nawr ein bod ni'n colli'r hawl hwnnw o ryddid i symud, onid yw'n cytuno bod yr ansicrwydd ynghylch pwy sy'n mynd i allu aros yn y wlad hon a phwy fydd yn dod yma yn y dyfodol yn achosi ansicrwydd mawr i fusnesau? Cefais gyfarfod ddoe â chyfarwyddwr cwmni o Ogledd Gaerdydd sy'n gwneud cynhyrchion meddygol ac sy'n dibynnu'n drwm ar staff Ewropeaidd. Roedd yn dweud wrthyf i, mewn gwirionedd, cymaint yr oedd yn tosturio wrth y staff hynny ar hyn o bryd, oherwydd eu bod mor ansicr—maen nhw'n teimlo mor ansicr ynghylch eu dyfodol. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth yn y ddogfen ymadael hon heddiw, ond nid ydym ni'n gwybod beth fydd ar y gorwel. Mae'n ansicr iawn ynghylch sut y bydd ei gwmni, sy'n gwmni gwerthfawr iawn yng Ngogledd Caerdydd, yn ffynnu yn y dyfodol, gyda'r cynigion ar gyfer mewnfudo yn y dyfodol a dim rhyddid i symud, ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod beth yw barn Cydffederasiwn Diwydiant Prydain am gynlluniau'r Llywodraeth o ran mewnfudo.
Felly, onid yw'n cytuno hefyd nad yw peth o'r rhethreg a defnyddiwyd o ran y mater mewnfudo wedi meithrin cysylltiadau da—geiriau Theresa May oedd y bydd ei chytundeb yn rhwystro gwladolion yr UE rhag 'neidio i flaen y rhes'—a pha mor ddiangen yw hi i ddefnyddio'r math yna o ymadrodd? Mae'n hau rhaniadau eto, ac rwy'n credu y cawsom ni cymaint o gynnydd sydyn mewn troseddau casineb pan gawsom ni'r refferendwm, ac adroddir am fwy o droseddau casineb bellach nag erioed o'r blaen, ac mae dyletswydd arnom ni, bob un ohonom ni wleidyddion, bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn gyda'r geiriau a ddefnyddiwn ni fel nad ydym ni, ar yr adeg anodd iawn, iawn yma, yn cynyddu'r teimladau o ansicrwydd sydd gan lawer o'n dinasyddion o ganlyniad i'r bleidlais gynhennus iawn hon a'r wleidyddiaeth gynhennus iawn hon yr ydym ni'n dyst iddi ar hyn o bryd. Felly, a oes gan y Prif Weinidog unrhyw sylwadau a hoffai eu gwneud am y mater penodol hwnnw?
Oes. Roedd hwn yn fater pwysig, yn dilyn y refferendwm, inni weld cynnydd sydyn mewn troseddau casineb. Un o'r pethau a wnes i oedd ymweld â chymunedau ledled Cymru—cymuned Bwylaidd yn Llanelli, wrth gwrs, ac es i gyfarfod yn Abertawe—er mwyn tawelu meddyliau pobl bod Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn groesawgar iddynt, ac nad oedd unrhyw wirionedd, fel y credai rhai pobl, y bydden nhw'n cael eu taflu allan o'r wlad rywsut cyn hir. Dywedodd un person wrthyf, hyd yn oed, ei bod hi'n ofni clywed y gnoc ar y drws. Dyna pa mor ddrwg y gallai pethau fod, yn eu tyb nhw.
Ar fater hawliau dinasyddion, mae'r cytundeb tynnu'n ôl yn ein tywys ni ymhellach ac yn rhoi rhyw fath o sicrwydd o'i chymharu â'r sefyllfa yr oeddem ynddi hi o'r blaen. Ond, wrth gwrs, yr hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthyf i yw, ydyn, maen nhw'n deall y pwynt bod angen cael gweithwyr proffesiynol a medrus yn y gwasanaeth iechyd—ac rydym ni i gyd wedi siarad am hynny—ond mae angen cael gweithwyr heb sgiliau hefyd, pobl a fydd yn gweithio mewn swyddi nad ydyn nhw'n ennill cyflog mor uchel, sy'n anneniadol mewn hinsawdd o gyflogaeth lawn, fel lladd-dai. Rwy'n dal i sôn amdanyn nhw; nid oes gennyf i ddim yn eu herbyn nhw, ond y maen nhw'n ei chael hi'n anodd recriwtio oherwydd natur annymunol y swydd yng ngolwg y rhan fwyaf o bobl. O ble y daw eu gweithwyr? Os na allan nhw gael eu gweithwyr o'r UE, bydd hynny'n golygu na fyddan nhw'n gallu gweithredu, ac ni fydd pobl sy'n byw yn lleol yn gallu cael swydd yno ychwaith, oherwydd ni fydd y cyfleoedd i'w cael yno. Felly, mae'r pethau hyn wedi mynd ar goll gan Lywodraeth y DU.
Ac, wrth gwrs, y drychineb yw bod pobl yn dathlu'r ffaith bod y rhyddid i symud yn dod i ben. Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Mae'n golygu na fydd dinasyddion y DU yn gallu teithio na byw yn ddilyffethair mewn 26 o wledydd eraill fel yr oedden nhw'n gallu o'r blaen—mur yw hwn. Er hynny, os ydych chi o Awstria neu o'r Almaen neu o Ffrainc, gallwch deithio i 26 o wledydd eraill, ond nid i'r DU. Felly, mewn gwirionedd, gallwch chi deithio i'r holl wledydd hyn ledled Ewrop heb unrhyw gyfyngiadau. Os ydych chi o Iwerddon, gallwch deithio i bob un ohonyn nhw—y DU a phob gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw bod cyfyngiadau ar y rhyddid i symud yn llymach ar ein pobl ni ein hunain nag ar unrhyw un arall yn Ewrop. Ein pobl ni ein hunain yw'r rhai na fyddan nhw bellach yn gallu byw a theithio a gweithio fel y buon nhw, tra bydd pob dinesydd eraill yn Ewrop yn gallu gwneud hynny, ond ni fyddant yn gallu dod i'r DU yn yr un modd. Felly, mewn gwirionedd, bu hon yn weithred hunandrechol sy'n cyfyngu ar y mannau lle gall dinasyddion y DU fynd iddyn nhw a byw ynddyn nhw yn yr hirdymor, a gweithio yn yr hirdymor. Ni fydd y cyfyngiadau hynny'n berthnasol i wledydd eraill yn Ewrop. Felly, mae'n dangos mai'r hyn yr ydym wedi ei wneud yw nid creu sefyllfa lle mae mewnfudo yn cael ei reoli'n well gan y DU; mae wedi golygu y bydd rheolaethau ar ddinasyddion y DU bellach pan fydd yn rhaid iddyn nhw deithio i wledydd eraill yn Ewrop.
Diolch i'r Prif Weinidog.