– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 9 Ionawr 2019.
Eitem 5 ar agenda ein y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid 'Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i gost gofal am boblogaeth sy'n heneiddio. Ac er nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor adeg cynnal rhai o'r sesiynau tystiolaeth, mi hoffwn i, wrth gwrs, ddiolch i bawb a gyfrannodd, a hefyd i'r Gweinidog blaenorol dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol am ei ymateb e i'n hadroddiad ni, ac yn enwedig am dderbyn ein hargymhellion ni, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
Fe gafodd un o'r chwe maes a drafodwyd gennym ni yn ein hymchwiliad, sef yr arfau cyllidol, neu'r levers cyllidol, sydd ar gael ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddoe, wrth gwrs, ac felly mi fyddaf i'n canolbwyntio ar y pum arf arall yn fy nghyfraniad i heddiw. Fodd bynnag, fel y nodais i ddoe, mi oeddwn i'n siomedig nad oedd y Llywodraeth yn teimlo y gallai hi gydweithio â'r pwyllgor o ran amserlennu ei dadl hi, er mwyn rhoi cyfle inni gael trosolwg mwy cydgysylltiedig o'r drefn gyllido ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe glywom ni dystiolaeth gref yng ngwaith y pwyllgor fod dryswch ar raddfa eang am y system sydd gennym ni, ac mi ddywedwyd wrthym ni y byddai'n amhosibl creu system fwy cymhleth, hyd yn oed pe bai rhywun yn trio gwneud hynny. Nid yw dadl ddarniog ar system neu gyfundrefn ddarniog yn mynd i ddod â'r eglurder sydd ei angen arnom o ran y pwnc pwysig hwn. Felly, rydw i wedi gwneud y pwynt ein bod ni wedi colli cyfle, rydw i'n meddwl, ac rydw i'n gwybod bod y Trefnydd yma, mewn capasiti arall, yn mynd i ymateb i'r ddadl fel y Gweinidog Cyllid, ond rydw i jest eisiau dweud fy mod i'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw ddulliau mwy creadigol i ddefnyddio amser y lle yma yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon efallai yn y dyfodol.
Nawr, fe glywodd y pwyllgor, er bod gwariant ar ofal cymdeithasol wedi'i ddiogelu mewn termau cymharol, fod gwariant y pen ar bobl dros 65 oed wedi gostwng yn sylweddol, yn rhannol oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn cynyddu. Mae'r pwyllgor yn pryderu, oni bai bod camau'n cael eu cymryd, y bydd y pwysau parhaus yma ar gyllidebau gofal cymdeithasol, yn sgil galw cynyddol, yn arwain yn y pen draw at ddarpariaeth annigonol o wasanaethau ar gyfer pobl hŷn.
Mae'r pryder o ran y pwysau cynyddol hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ein dibyniaeth ar y rôl amhrisiadwy y mae'r 370,000 o ofalwyr di-dâl, neu ofalwyr gwirfoddol yn ei chwarae—cyfraniad, gyda llaw, sydd werth dros £8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, yn ôl amcangyfrifon. Ac mi hoffwn i gydnabod y rôl hanfodol hon, ac ailadrodd ein barn ni, er mor werthfawr yw'r cyfraniad hwnnw, wrth gwrs, nad yw dibynnu ar ofalwyr di-dâl yn gynaliadwy yn y tymor hirach.
Nawr, mae ein hadroddiad yn pwysleisio ein pryder ynghylch a yw'r asesiadau y mae gan ofalwyr hawl iddyn nhw o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cynnal, ac, ble y maen nhw'n cael eu cynnal, a yw anghenion yn cael eu hasesu'n gywir. Mae'r cymorth a roddir i ofalwyr yn hanfodol, ac roedd y pwyllgor yn pryderu am y dull o gynnal asesiadau. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o asesiadau gofalwyr er mwyn gwerthuso a yw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn cryfhau'r cymorth sy'n cael ei roi i ofalwyr. Ac rwy'n falch bod yr adolygiad hwn wedi dechrau ym mis Tachwedd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ei gasgliadau.
Fe glywodd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch pwysau ariannol a phwysau staffio yn y sector gofal. Roeddem ni'n pryderu i glywed bod darparwyr gofal cartref, mewn rhai achosion, yn ymateb drwy roi contractau yn ôl i awdurdodau lleol, gan nad ydyn nhw yn ariannol hyfyw ar lefelau'r ffioedd sy'n cael eu talu iddyn nhw. Fel sydd wedi'i nodi yn ein hadroddiad, mae'n hanfodol felly fod y contractau sy'n cael eu rhoi gan awdurdodau lleol yn realistig, a hynny er mwyn osgoi unrhyw gynnydd mewn angen sydd heb ei ddiwallu, a fyddai wedyn, yn ei dro, yn rhoi pwysau cynyddol ar y gwasanaeth iechyd cenedlaethol.
Fe glywom ni am argyfwng wrth geisio recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, ac roedd cyflog isel a chanfyddiad o statws cymdeithasol isel yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa yma. Mae'r sector gofal cymdeithasol, yn arbennig, yn agored i bwysau ychwanegol ar y gweithlu, gan fod cyfran uchel o'r staff eu hunain yn heneiddio. Ac rŷm ni hefyd yn pryderu'n arbennig ynghylch honiadau bod staff, ar ôl cael eu hyfforddi gan ddarparwyr gofal, yn cael eu colli i'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, neu i awdurdodau lleol, sydd, wrth gwrs, ag amodau gwaith a phecynnau cyflogaeth mwy deniadol i'r gweithwyr rheini. Yn ein hadroddiad ni, rŷm ni'n pwysleisio'r ffaith bod mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y system. Mae angen i bobl weld gofal cymdeithasol fel opsiwn gyrfa deniadol, a hynny er mwyn denu gweithwyr newydd, ac, wrth gwrs, er mwyn cadw staff profiadol. Ac mae'n rhaid i'r amodau gwaith yn y sector gofal fod yn gydradd â'r rhai sy'n cael eu cynnig i staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, a hynny er mwyn dangos pa mor werthfawr yw'r rolau hyn. Felly, rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r broses o ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Ac mi ddylai hyn gynnwys cymryd camau i godi statws y rheini sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod y rôl hon yn yrfa ddeniadol sydd yn denu cyflog priodol.
Rydw i'n falch bod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, a bod y Llywodraeth, yn ei hymateb, yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy, ac rydw i'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i roi gwelliannau ar waith. Ac mi fydd y pwyllgor yn edrych ar effeithiolrwydd y mesurau a weithredwyd yn ddiweddar, yn ogystal â'r rhai a gaiff eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni, pan fyddwn ni'n cynnal ein hadolygiad o'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar weithredu ein hargymhellion ni yn 2020.
Nawr, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd yn y trothwy cyfalaf ar gyfer cyfraniadau o asedau mewn perthynas â gofal dibreswyl, ond rydym yn pryderu ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid digonol i dalu am refeniw a gollwyd gan awdurdodau lleol. Rŷm ni'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar, wrth gwrs, ynghylch y cynnydd terfynol a wnaed i gyrraedd trothwy o £50,000, yn ogystal â'r £7 miliwn ychwanegol a ddarperir i ariannu hyn. Ond, yn bwysicaf oll, rŷm ni'n croesawu'r ymrwymiad i fonitro, a hefyd i addasu'r cyllid hwn os yw e yn annigonol.
Er ein bod ni'n croesawu cynlluniau'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol ar gyfer ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd, er mwyn eu hysbysu nhw'n well ynglŷn â fframwaith y taliadau yn y flwyddyn sydd i ddod, mae'r pwyllgor yn pryderu am y diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol sy'n bodoli o ran talu am ofal cymdeithasol i oedolion, ac yn benodol am y ffaith y gall y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth y trefniadau presennol arwain at annhegwch mewn perthynas â'r rhai sy'n gymwys i gael cymorth ffurfiol a ariennir yn gyhoeddus.
Fel rhan o'n hymchwiliad, bu'r pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer diwygio cyllidol, gan gynnwys y cynnig a wnaed gan yr Athro Gerry Holtham ar gyfer cyflwyno cynllun cyfrannol o yswiriant gorfodol. Nawr, rŷm ni'n croesawu'r gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn fel cam cadarnhaol tuag at gydnabod y bydd angen i'r system bresennol newid er mwyn diwallu'r galw yn y dyfodol.
Mae'r pwyllgor yn ategu galwadau gan randdeiliaid am sgwrs genedlaethol am safon y gofal y mae'r cyhoedd yn awyddus i'w chael, cyn bod unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud am y drefn gyllido yn y dyfodol. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Llywodraeth ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â chyllid gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a hynny er mwyn trafod yr hyn y byddai'r cyhoedd yn disgwyl ei gael yn gyfnewid am wneud unrhyw gyfraniadau ychwanegol. Yn benodol, fe wnaethom ni argymell, cyn cyflwyno ardoll i godi arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, y bydd angen i Lywodraeth Cymru gyfiawnhau sut y bydd unrhyw arian a godir yn cael ei ddefnyddio, a dangos sut y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth. Nawr, mi ddylai'r broses hon gynnwys egluro'r lefel o ofal y dylai'r cyhoedd ei disgwyl, gan ei bod hi'n annhebygol, wrth gwrs, y bydd y cyhoedd yn rhoi ei gefnogaeth os yw'r gofal a ddarperir yn parhau ar ei lefel bresennol. Ac mi oedd clywed sylwadau'r Gweinidog iechyd ynglŷn â'r angen yma am y sgwrs genedlaethol yma ddoe, wrth gwrs, yn galonogol i'r perwyl hwnnw.
Rydw i'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion 7 ac 8 yn ein hadroddiad ni, ac yn benodol ei hymrwymiad i ddatblygu modelau cyllido arloesol, i sicrhau bod adnoddau ar gael i fodloni anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a'i chydnabyddiaeth y bydd angen ymgysylltu cyhoeddus sylweddol cyn gwneud penderfyniadau.
Yn olaf, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o gasgliadau'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nawr, mi glywodd y pwyllgor fod y cynnig i sefydlu un system iechyd a gofal di-dor wedi'i groesawu'n fras, ond rŷm ni hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r pryderon sy'n bodoli ynglŷn â'r ffaith bod gofal cymdeithasol weithiau'n cael ei weld fel gwasanaeth sinderela. Mi wnaeth y pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gallai'r cynnig i sefydlu system iechyd a gofal di-dor, a argymhellir yn yr adolygiad seneddol, gyfuno cronfa ar gyfer gofal cymdeithasol â'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol sydd am ddim, wrth gwrs, ar y pwynt cysylltu. Fe gafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor yn unig. Felly, mi fyddem ni yn croesawu rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y syniad yma yn cael ei ddatblygu.
Mae'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn un o'r materion mwyaf a phwysicaf sy'n wynebu Cymru heddiw, ac mae'n galonogol bod y Llywodraeth yn derbyn ein holl argymhellion, ac eithrio un, yn llawn. Mae ymateb y Llywodraeth yn cyfeirio at weithgarwch amrywiol ar y pwnc, gan gynnwys creu grwpiau rhyngweinidogol, datblygu nifer o strategaethau hirdymor, cynnal ymgynghoriadau a chodi ymwybyddiaeth. Ac mae hyn i gyd, fel rydw i'n ei ddweud, yn galonogol, ac rŷm ni'n gobeithio gweld canlyniadau cadarnhaol yn sgil y mentrau yma pan fyddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu'r holl argymhellion yn ein hadroddiad ni yn y flwyddyn 2020.
Fodd bynnag, mae yn hanfodol bod newidiadau yn cael eu gwneud. Mae angen gweithredu cadarn, a hynny ar frys, er mwyn dod o hyd i'r datrysiad gorau i Gymru ac er mwyn sicrhau y gall pobl Cymru weld cynnydd. Mae cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn broblem na ddylai byth fod yn bell o'n meddyliau ni, ac mae'n broblem sy'n effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar bob un ohonom ni. Diolch.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac yn wir, o fod wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid a chymryd rhan yn adroddiad adolygiad y Pwyllgor Cyllid. Roedd yn ymchwiliad a ysgogai'r meddwl am fater sydd, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, yn peri pryder cynyddol ac a ddylai beri pryder cynyddol i bob un ohonom. Fel y clywsom, mae cyfran y bobl hŷn yng Nghymru wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf, ac mae'r rhagolygon yn dangos y bydd y duedd hon yn parhau. Mae cwestiynau difrifol i'w hateb o ran y lefel o adnoddau sydd ar gael ar gyfer cynnal gwasanaethau a'r pwysau arnynt.
Felly, i ble yr awn oddi yma? Dyna y ceisiwyd ei ateb yn yr adroddiad. Wel, fel y dywedwyd, mae'r Athro Gerry Holtham wedi awgrymu cronfa yswiriant cyffredin i dalu am gostau gofal cymdeithasol i oedolion yn y dyfodol, ac edrychodd y pwyllgor ar hyn, yn ogystal ag atebion eraill posibl, a dof at y rheini mewn munud.
Yn gyntaf oll, hoffwn gyfeirio'n fyr at rai o'n prif argymhellion, ac mae argymhelliad 1 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu mwy o ymchwil wedi'i dargedu, fel bod gennym y data mwyaf diweddar a manwl gywir ar gyfer seilio amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol arnynt, ac fel y gwyddom o brofiad, hyd yma mae rhai o gyfyngiadau'r data ar Gymru yn unig wedi bod yn broblem i'r Cynulliad hwn. Mae argymhelliad 2 yn galw am adolygiad llawn o asesiadau gofalwyr ac i weld a yw'r Ddeddf wedi darparu cymorth mwy cadarn i ofalwyr ar lawr gwlad mewn gwirionedd—sef ei holl fwriad.
Nawr, edrychodd ein hymchwiliad ar natur fregus y farchnad ddarparwyr, ac roedd y dystiolaeth a ddarparwyd ar ein cyfer yn awgrymu bod y farchnad wedi bod yn fregus ers cryn dipyn, ac mae hyn yn arwain at gynyddu'r adnoddau mewnol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol er mwyn ceisio lleihau'r risg i'r sector annibynnol. Nododd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru sut y mae rhai darparwyr yn dychwelyd eu contractau i awdurdodau lleol, am na allant ddarparu gwasanaethau ar lefel y ffi a osodwyd. Felly, pa ffordd bynnag yr edrychwch arni, mae hon—dros y tymor hwy—yn sefyllfa anghynaliadwy.
Os caf ddweud ychydig am y pwysau ar y gweithlu a chadw gweithwyr, cafodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth a dynnai sylw at yr anawsterau i recriwtio staff i'r sector gofal cymdeithasol yn y lle cyntaf, a chadw'r staff hynny wedyn. Dywedodd Fforwm Gofal Cymru y gall gweithwyr gofal ennill mwy drwy lenwi silffoedd yn aml na thrwy weithio yn y sector, ac mae hynny'n anhygoel, neu dyna'r canfyddiad, o leiaf, ac ni all hynny fod yn iawn. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i godi proffil gweithwyr gofal cymdeithasol fel y gellir ei weld fel dewis gyrfa mwy cadarnhaol, gan fod hynny'n sicr ar goll o'r dystiolaeth a gawsom gan y sector. Ond mae angen inni wneud mwy na hynny; mae'n fwy na chanfyddiad. Mae angen inni gadw'r gweithwyr hynny ar ôl eu recriwtio.
Gan symud ymlaen at yr ardoll gofal cymdeithasol arfaethedig y cyfeiriodd y Cadeirydd ati a'r ateb y mae'r Athro Gerry Holtham yn ei ffafrio a'i elfennau allweddol, sef cyfraniadau a wneir fel cyfran o incwm, gyda chyfraddau'n aros yn gyson drwy gydol oes yr unigolyn, er y byddent yn uwch po hynaf y bo'r unigolyn wrth ymuno â'r cynllun. Roedd yr Athro Holtham yn onest iawn a dywedodd y byddai angen gwneud rhagor o waith i weld a fyddai gennych raddfa symudol, er enghraifft, ar gyfer cyfrannu neu gyfradd sefydlog—awgrymodd 1.5 y cant. Felly, mae yna nifer o newidynnau.
Cyfaddefodd yr Athro Holtham hefyd nad oedd sicrwydd fod ei awgrym i wrthdroi'r dirywiad o 20 y cant a nododd yn y gwariant fesul y pen o'r boblogaeth yn ddigon i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Dywedodd y gallai fod yn well sôn am oddeutu 23 y cant ar y pen uchaf neu 17 y cant ar y pen isaf ac y gallai'r naill neu'r llall o'r rhain weithio, neu beidio â gweithio, ac y byddai angen gwneud llawer iawn mwy o waith i ddarganfod ar ba lefel yn union y byddai angen ei osod.
Hefyd, wrth gwrs, mae'r cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y mae gwerthu hyn oll i'r cyhoedd. A ydych yn cyfeirio at y cynllun newydd fel ardoll—treth i bob pwrpas—neu a ydych yn ei labelu fel yswiriant gorfodol? Wrth gwrs, hyd yn oed os gwnewch yr olaf, gallai ddod i gael ei hystyried fel treth beth bynnag, felly mewn rhai achosion o bosibl, waeth i chi fynd amdani ar hynny, ond rhaid i'r cyhoedd gael gwybod bod problem fawr yma a rhaid iddynt fod ar ein hochr ni o ran dod o hyd i ffordd o'i datrys.
Yn hollbwysig, rwy'n credu, rhaid i hyn gael cefnogaeth drawsbleidiol a hirdymor. Dyna'r unig ffordd y bydd hyn yn gweithio ac yn cael ei dderbyn. Hefyd, rhaid ichi gael cytundeb ynglŷn â sut i dalu costau'r rhai nad ydynt o bosibl wedi gwneud unrhyw gyfraniadau sylweddol ar hyd eu hoes o ganlyniad i salwch neu fethu gweithio am resymau eraill.
Felly, a ydym am gael ardoll ar wahân neu ei hymgorffori yng nghyfradd Cymru o'r dreth incwm? Bydd yr opsiwn hwnnw'n agored i Lywodraeth Cymru cyn bo hir. Mae'r olaf yn ffordd symlach o wneud pethau, fel y dywedodd y cyn-Weinidog cyllid, ac mae'r strwythur yn ei le, ond unwaith eto, efallai y bydd angen i'r cyhoedd weld yn glir fod y swm sy'n cael ei gasglu yn mynd tuag at eu gofal cymdeithasol.
Felly, yn olaf, dywedodd y Gweinidog—neu'r cyn-Ysgrifennydd Cabinet, fel yr oedd—mai ateb DU gyfan fyddai'r ateb gorau yn ôl pob tebyg a gallaf weld ei resymau dros ddweud hynny. Mae'r costau mor fawr fel y byddai lledaenu hyn ar draws y DU yn fanteisiol mae'n debyg. Ond wedi dweud hynny, os mai Cymru fydd yn arwain ar hyn yn y pen draw, boed hynny fel y bo. Mae hwn yn fater na ellir ei anwybyddu mwyach. Rhoddodd yr adroddiad ddarlun go llwm i ni, ond roedd yn cynnwys nifer o atebion hefyd a chredaf fod yn rhaid i ni i gyd edrych ar draws y pleidiau i ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen sy'n dderbyniol i bawb ohonom yma ac i'r cyhoedd yn gyffredinol hefyd.
Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn y ddadl yma er nad wyf yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ond rydw i'n croesawu'r adroddiad a hefyd y gwaith cefndirol tu ôl iddo ac, wrth gwrs, fe wnaethom ni glywed y dadleuon yn ystod dadl y Llywodraeth ddoe.
Mae'r system o ariannu beth sydd ar gael o dan ein system gofal cymdeithasol ni ar hyn o bryd—fel y mae'r Cadeirydd wedi ei olrhain—yn hynod gymhleth ac ni fyddai'n bosib dyfeisio system fwy cymhleth, hyd yn oed pe tasech yn trio, fel y dywedodd y Cadeirydd. Wedi dweud hynny, nid yw jest yn fater o arian. Fel y dywedais i ddoe, mae angen edrych yn gynhwysfawr ar yr her sylweddol o ddarparu gofal i'r henoed a thrio ei weld o mewn ochr bositif. Mae gennym ni gyfle i greu system gofal cymdeithasol genedlaethol yn fan hyn, achos rydw i'n credu bod angen newid y strwythur. Mae angen bod yn radical achos mae'n mynd i gymryd arian ac mae'n rhaid gallu darbwyllo'r cyhoedd bod yna system gwerth chweil, yn seiliedig ar yr un math o system â'r gwasanaeth iechyd. Mae pawb mewn cariad efo'r gwasanaeth iechyd, wel, beth am ailstrwythuro ein system gofal yr un peth â'n system gwasanaeth iechyd ni? Achos bydd yna fudd economaidd yn dod o hynny hefyd, yn darparu swyddi, cyflogau a hyfforddiant ac yn y blaen, yn union fel y gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, yn yr ardaloedd yna yng Nghymru sydd yn ei ffeindio hi'n anodd i gael swyddi ta beth, ac mae angen datblygu gwasanaeth gofal cymdeithasol fel datblygiad economaidd.
Achos, nid yw'r system, fel y dywedodd Nick Ramsay, yn gynaliadwy ar hyn o bryd. Mae'n rhaid cael rhyw syniad ymlaen ac nid jest meddwl am sut rydym yn mynd i ariannu system sydd yn ffaelu nawr. Achos, ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau ariannol ar wasanaethau cymdeithasol ein siroedd ni, codi y mae'r trothwy i bobl dderbyn gofal cyhoeddus bob blwyddyn rŵan. Rwy'n ei weld o o hyd: pobl hŷn efo sawl her gorfforol a chymdeithasol, maen nhw'n teilyngu derbyn gofal, ond eto, nid ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy—trothwy sydd yn codi bob blwyddyn, y trothwy i gael y gofal am ddim oddi wrth y sir, achos, yn naturiol, nid yw'r arian yna. Rydw i’n gwybod beth mae pobl yn ei ddweud: 'Aha', mae pobl yn ei ddweud, 'talwch amdano fo, felly; talwch am eich gofal yn breifat, felly.' Dyna beth rydym ni’n ei glywed, a chlywsom ni e ddoe. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n opsiwn i nifer fawr o'n pobl hŷn ni; nid ydyn nhw'n gallu talu, ac maen nhw'n mynd heb ddim gofal cyhoeddus, heb ddim gofal, a'r cwbl yn syrthio ar eich teulu, os ydych chi'n ddigon ffodus i ddal cael teulu. Dyna beth rydym ni weithiau yn anghofio.
Pam mae hyn yn bwysig? Wel, mae pobl yn marw achos y toriadau cyllid a diffyg darpariaeth gofal. Pobl yn marw. Bu adolygiad yn The British Medical Journal yn 2017 yn olrhain sefyllfa enbydus gofal yn Lloegr, lle mae cyllid gofal cymdeithasol wedi gorfod dioddef ergyd ddwbl. [Torri ar draws.] Nick.
Diolch am ildio, Dai. Cytunaf â llawer o'r hyn rydych newydd ei ddweud. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn eironig, yn ystod yr ymchwiliad, fod yr Athro Holtham wedi nodi pan edrychodd ar y farn gyhoeddus yng Nghymru, ei bod hi'n ymddangos bod diffyg dealltwriaeth, i raddau helaeth, ynglŷn â maint y broblem sy'n ein hwynebu? Mae hynny'n dangos sut y mae angen gwirioneddol inni fynd i'r afael â hyn a chael pobl i ddeall sut y mae'n rhaid i bawb ohonom wynebu hyn gyda'n gilydd.
Ie, buaswn i'n cytuno 100 y cant, achos mae angen ad-drefnu; nid yw siarad am y peth yn ddigon. Mae yna system sydd yn ffaelu yn fan hyn. Rydym ni'n ei weld o'r ffigurau—roeddwn i'n mynd i'w ddweud—yn Lloegr, rŵan. Roedd yna adolygiad wedi cael ei wneud yn y BMJ ynglŷn â gofal a bod diffygion yn y system gofal yn Lloegr wedi arwain at 22,000 o farwolaethau uwchben y disgwyl. Hynny yw, 22,000 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn yn Lloegr achos dim darpariaeth gofal. Felly, nid yw ceisio taflu ychydig rhagor o arian at system sydd yn ffaelu heb ad-drefniant sylweddol yn mynd i weithio. Wrth gwrs, os bydd y system gofal yn methu, yna bydd y gwasanaeth iechyd yn methu hefyd.
Nawr, fel y dywedais i ddoe, system ranedig, rhannol breifat, rhannol gyhoeddus a rhannol elusennol oedd iechyd cyn i Aneurin Bevan fynnu sefydlu gwasanaeth iechyd cynhwysfawr i arbed bywydau, achos roedd miloedd o bobl yn y 1930au ddim yn gallu cael mynediad at driniaeth gwasanaeth iechyd o gwbl. Dyna'r sefyllfa sy'n wynebu pobl efo gofal heddiw ac mae angen gofal cymdeithasol, felly, yn teilyngu'r un un ateb, hynny yw, cael system genedlaethol, gynhwysfawr o ofal. Diolch yn fawr.
Gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, nid oeddwn yn rhan o'r trafodaethau a arweiniodd at yr adroddiad hwn, ond hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad gofalus a thrylwyr ar gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. Mae datblygiadau mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn galluogi pawb ohonom i fyw bywydau hirach ac iachach. Ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth, nid yw'n syndod fod mater talu amdano'n codi ei ben a dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor, ynghyd â'r adroddiad annibynnol gan yr Athro Gerald Holtham, a drafodwyd gennym ddoe, yn gwbl amserol.
Os edrychwn ar y gwariant cyfredol, gwelwn ei fod wedi gostwng 14 y cant mewn gwirionedd rhwng 2009-2010 a 2016-17 wrth i wasanaethau ganolbwyntio ar gefnogi pobl â lefelau uwch o angen. Mae hyn yn golygu bod yna fwy o bobl ag anghenion gofal llai acíwt o bosibl sy'n cael gofal yn eu cartrefi eu hunain. Wrth gwrs, mae'n bosibl mai priod neu bartner sy'n darparu'r gofal hwnnw. Felly, pan fyddwn yn edrych ar ariannu gofal cymdeithasol, rhaid inni roi ystyriaeth ofalus iawn i'r gofalwyr eu hunain, yn enwedig aelodau o'r teulu sy'n darparu gofal ar gyfer eu hanwyliaid. Yn wir, ceir oddeutu 370,000 o ofalwyr anffurfiol yng Nghymru. Rydym yn clywed llawer o straeon am y gofalwyr hyn yn methu eu hapwyntiadau meddygol eu hunain neu weithgareddau cymdeithasol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Mae gofalwyr ifanc yn arbennig angen ein cymorth, a gwn y byddai Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn dymuno talu teyrnged i'r gwaith y mae pob gofalwr yn ei wneud yn ddyddiol. Rwy'n falch, felly, fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai gynnal adolygiad i weld a yw'r asesiad y mae gan ofalwyr hawl iddo o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei gyflawni, ac a yw'r anghenion hynny'n cael eu hasesu'n gywir.
Gan droi at y galwadau ar y system gofal cymdeithasol, mae'r gymhareb rhwng nifer y bobl dros 70 oed a rhai 20 i 69 oed yn mynd i gynyddu erbyn y 2040au cynnar o 23 y cant i 37 y cant. Felly, dyna gynnydd o 50 y cant o fewn y boblogaeth—ac efallai y dylwn gyffesu rhywfaint o euogrwydd ynglŷn â'r ystadegyn hwnnw fy hun. Rhagwelir y bydd y galw am wariant ar ofal cymdeithasol yn codi dros 85 y cant erbyn 2035, ar brisiau 2016-17, felly dyna gynnydd o 20 y cant yn y gwariant y pen a chynnydd o dros 55 y cant yn y niferoedd sydd angen gofal. Mae'r ffigurau hyn yn amlygu'n glir yr angen i wynebu realiti hirdymor ariannu gofal cymdeithasol. Ers gormod o amser, nid ydym wedi mynd i'r afael â hyn yn ddigonol. Fel y nododd y pwyllgor, dengys y dystiolaeth fod pwysau ariannu ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth yn arwain at ddiffyg ariannol. Cymhlethir hyn ymhellach gan y trefniadau cymhleth sy'n gysylltiedig â thalu am ofal, sy'n aml yn arwain at annhegwch.
Wrth gwrs, bu llawer o ddadlau ynghylch y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol, ac mae'r pwyllgor hwn wedi ystyried hyn yn ofalus iawn. Rwy'n falch o weld mai un o'r argymhellion yw y byddai angen i Lywodraeth Cymru allu cyfiawnhau sut y defnyddir unrhyw arian a godir a gallu dangos y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Dylai hyn gynnwys esbonio pa lefel o ofal y gallai'r cyhoedd ei disgwyl yn gyfnewid am eu cyfraniadau, gan ei bod yn annhebygol y byddent yn cefnogi argymhellion i dalu mwy os yw lefel y gofal yr un fath â'r hyn ydyw ar hyn o bryd. Cyn inni ystyried unrhyw drethi newydd, gan mai dyna fyddai'r ardoll newydd mewn gwirionedd, mae angen i'r cyhoedd fod yn sicr eu bod yn cael rhywbeth sy'n quid pro quo, ac yn sicr, ni fyddem ni ar y meinciau hyn yn gallu cefnogi ardoll newydd oni bai a hyd nes y gellir ei chyfiawnhau'n llawn i'r trethdalwr.
Pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, yn ystod trafodaethau'r pwyllgor yw bod angen inni hefyd wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn sylweddol yn y sector iechyd. Rhaid inni sicrhau bod pobl yn gallu gweld eu meddyg teulu pan fo angen. Byddai hyn yn lleihau nifer yr achosion brys a derbyniadau i'r ysbyty. Bydd sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty'n gyflymach ac yn ôl i'w cartrefi, gydag addasiadau a phecynnau gofal addas, hefyd yn helpu i leihau'r baich hirdymor ar y sector gofal cymdeithasol.
Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi prosiect ymateb i gwympiadau o'r blaen ar y cyd ag Ambiwlans Sant Ioan, i ymdrin â pheth o'r pwysau ar y GIG dros y gaeaf. Dylem edrych ar bob un o'r mathau hyn o brosiectau er mwyn gwerthuso eu budd i ofal cymdeithasol. A bod yn deg â hwy, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud peth gwaith rhagorol yn y maes hwn, ond rhaid inni wneud rhagor er mwyn goresgyn heriau'r dyfodol.
Yn olaf, mae angen inni ymdrin â thwf yn y boblogaeth, ac mae hynny'n golygu cael polisi mewnfudo sy'n addas ar gyfer ein buddiannau economaidd cenedlaethol. Felly rhaid inni gael mesurau rheoli ffiniau priodol fel y gallwn asesu'n iawn pa bobl sydd ag angen dybryd a phriodol am loches, ond gyda mesurau rheoli llymach ar gyfer y rhai sy'n dod yma am resymau economaidd, ac a fydd, yn anochel, yn rhoi mwy fyth o bwysau ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau gormodol.
Fel y mae rhagair y Cadeirydd i'r adroddiad hwn yn datgan,
'Roedd llawer o'r dystiolaeth yn cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac er bod y tystion, ar y cyfan, yn gefnogol i'r Ddeddf, roedd peth pryder ynghylch cymhwyso'r meini prawf cymhwyster, cynnal asesiadau gofalwyr a'r amrywiad yn y ffioedd rhwng awdurdodau lleol. Yr hyn a ddaeth yn glir hefyd oedd bod costau annisgwyl yn gysylltiedig â'r Ddeddf.'
Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi
'Manylir ar ein rhaglen i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn
Cymru Iachach' a'i bod wedi dechrau ar werthusiad tair blynedd
'[o Dd]eddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i archwilio rhoi’r Ddeddf ar waith a’r effaith ar y sawl sy’n derbyn gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr di-dâl,' ym mis Tachwedd 2018.
Pan dderbyniais wahoddiad i weithio gyda'r Llywodraeth Cymru ddiwethaf i ymgorffori cynigion yn fy Mil Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) Cymru a dynnwyd yn ôl, gosododd cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i dilynodd system ar waith lle y mae pobl yn bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gofal a chymorth, gan roi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys i bobl. Mae'n nodi y dylai'r broses o asesu anghenion unigolion fod yn seiliedig ar egwyddorion cydgynhyrchu, gan sicrhau ei fod yn cynnwys perthynas lle y mae ymarferwyr ac unigolion yn rhannu pŵer i gynllunio a darparu cymorth gyda'i gilydd, ac yn cydnabod bod gan bob partner gyfraniadau allweddol i'w gwneud wrth helpu i gyflawni canlyniadau personol a nodwyd. Mae'r ffyrdd o weithio sy'n rhaid i'r cyrff cyhoeddus a restrwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eu harddangos hefyd yn cynnwys gweithio gydag eraill, yn cynnwys cyrff trydydd sector a chymunedau, er mwyn helpu i gyflawni nodau y penderfynwyd arnynt ar y cyd.
Fodd bynnag, mae cyfres o adroddiadau wedi dynodi nad yw'r ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu fel y rhagwelwyd, nad yw'r bywydau gwell a'r costau is a fwriadwyd yn cael eu gwireddu, a bod angen ymyrryd ar frys yn unol â hynny. Nododd cylchlythyr Cynghrair Henoed Cymru ar gyfer y gaeaf diwethaf fod cynrychiolwyr trydydd sector ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi adrodd eu bod yn teimlo wedi'u heithrio, neu, fan lleiaf, nad oes ganddynt ran lawn yn y gwaith, a bod y trydydd sector wedi cael ei weld fel elfen sydd ond yn chwarae rhan fach yn y gwaith, heb fawr o ymwneud strategol os o gwbl yn y gronfa gofal integredig a fawr ddim mewnbwn i'r broses o gynllunio rhaglen. Er gwaethaf eu gwaith ymgysylltu dilynol gyda'r Gweinidog ar y pryd ar hyn, rwy'n deall bod hyn yn parhau.
Canfu'r gwerthusiad fis Mawrth diwethaf o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, er bod disgwyl
'i'r pwyslais ar gydgynhyrchu ac atal helpu i wella effeithiolrwydd a
lleihau'r galw' a bod
'llwyddiant yn ei gwneud yn ofynnol cael dull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r Gwasanaeth' ceir pryderon fod y dull o'r brig i lawr wedi llesteirio hyn. Ddydd Gwener diwethaf, mynychais gyfarfod gyda chyngor Sir y Fflint ac aelodau o'r gymuned awtistiaeth leol i drafod gwasanaeth awtistiaeth integredig gogledd Cymru a ddarperir gan y cyngor, anghenion defnyddwyr y gwasanaeth awtistiaeth a gweithio gyda'n gilydd yn well yn y dyfodol.
Nododd dadansoddiad fis Tachwedd diwethaf gan yr elusen iechyd meddwl Hafal o gynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru
'mae’n methu’r prawf os ydych yn ystyried yr hyn sydd yn medru newid i gwsmeriaid unigol yn hytrach na’r darparwyr gwasanaeth', ei fod
'yn enghraifft o bolisi sydd wedi ei lunio ar gyfer darparwyr gan ddarparwyr' ac er y dylid parchu barn y darparwyr,
'dyma un persbectif yn unig a dylai gael ei ystyried ar ôl ystyried barn y cwsmeriaid'.
Gwelodd canlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd gan Gynghrair Niwrolegol Cymru ar ran y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, 'The Social Services and Wellbeing Wales Act—experiences of people living with a neurological condition', a gyhoeddwyd fis diwethaf, er bod y Ddeddf wedi bod mewn grym ers dwy flynedd, nad oes neb yn gofyn i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol beth sydd o bwys iddynt hwy, nid ydynt yn cael gwybod am eu hawliau i gael asesiad, nid ydynt yn cael gwybodaeth am wasanaethau cymorth a chyngor, ac maent yn gorfod talu o'u pocedi eu hunain am gymorth.
Yn gywilyddus, canfu'r arolwg hyd yn oed fod canllawiau gyda'r Ddeddf hon wedi'u defnyddio i wahardd y taliadau uniongyrchol sydd wedi llwyddo'n flaenorol i ddarparu gofal o ansawdd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. A'r wythnos diwethaf, er bod disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno'u cynlluniau gofal lliniarol tair blynedd i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Ionawr, dywedodd hosbisau sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol wrthyf nad yw eu bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â hwy o gwbl.
Dyma'r realiti creulon, ac mae'n galw am weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r bywydau sydd wedi'u difrodi'n ddiangen a'r adnoddau a wastraffwyd o ganlyniad i hyn.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch. Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn, oherwydd mae'r modd y mae cymdeithas yn trin ei phobl hŷn yn adlewyrchiad sicr o'i gwerthoedd, ac rwy'n canmol y pwyllgor am ddewis y maes pwysig hwn i'w ystyried. Ceir ffocws pendant yn adroddiad y pwyllgor ar agweddau ar y polisi gofal cymdeithasol, ac rydym wedi clywed llawer o'r rheini yn awr yng nghyfraniad Mark Isherwood, yn ogystal ag ar yr heriau ariannol ehangach pwysig o ofalu am boblogaeth hŷn. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i'r gyfres o argymhellion yn yr adroddiad. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol am ei waith ar yr agenda benodol hon.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud cynnydd amlwg ar wella'r gofal a'r cymorth hanfodol sydd ei angen ar bobl hŷn. Rydym yn ymrwymedig i wneud Cymru y wlad orau ar gyfer tyfu'n hen ynddi ac fel yr amlygwyd yn ystod yr ymchwiliad, rydym yn ail-lunio'r ffordd y darperir gofal a chymorth er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon.
Gyda hyn mewn golwg, fe nodaf yn fyr y gwaith a wneir yn y meysydd allweddol a gafodd sylw gan y pwyllgor yn ei adroddiad, gan adeiladu, wrth gwrs, ar y materion a godwyd yn y ddadl ar adroddiad Holtham ar dalu am ofal, a arweiniwyd gan fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd ddoe, sy'n amlinellu un ffordd bosibl ymlaen.
Mae gofalwyr anffurfiol, yr aelodau teuluol a'r ffrindiau sy'n darparu gofal ar sail barhaus, yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl yn ddiweddarach mewn bywyd, a chredaf fod cyfraniad Dai Lloyd yn arbennig wedi ein hatgoffa o hynny'n rymus iawn.
Cyflawnir argymhelliad y pwyllgor i gynnal adolygiad o asesiadau gofalwyr drwy werthusiad o effaith ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Dechreuodd hwn ym mis Tachwedd a bydd yn cynnwys ymgysylltu â gofalwyr eu hunain. Bydd yn ystyried pa effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar ofalwyr anffurfiol a beth sydd wedi newid ers i'r Ddeddf ddod i rym. Bydd yn nodi i ba raddau y mae'r Ddeddf yn hwyluso'r cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt i barhau i ofalu ac a fydd angen unrhyw welliannau pellach. Yn ogystal, rydym yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf, ac elfen benodol ohoni fydd sicrhau bod gofalwyr anffurfiol yn ymwybodol o'u hawliau ac yn cael eu hannog i ofyn am wybodaeth ac asesiad gofalwyr lle y gallai fod angen amdano.
Heb weithlu gofal cymdeithasol profiadol wedi'i hyfforddi'n briodol, bydd unrhyw ymgais i weithredu gwelliannau neu wella ansawdd yn ofer, a chredaf fod cyfraniad cadeirydd y pwyllgor wedi cydnabod hyn yn dda. Roedd y pwyllgor yn cydnabod hyn yn llawn wrth argymell ein bod yn blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i hyn yn 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol', a gweithredu amrywiaeth o fesurau gwella'r gweithlu. Mae'r rhain yn cynnwys rheoliadau i wella telerau ac amodau drwy leihau'r defnydd o gontractau dim oriau, cyfres o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu llwybr gyrfa clir, a chyflwyno cofrestru i adlewyrchu ein hymrwymiad i broffesiynoli'r gweithlu.
Yn uchel ar ein hagenda, mae cyllid hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n ganolog i'w gynaliadwyedd. Pwysleisiodd y pwyllgor y galw cynyddol am ofal y gallem ei weld yn y dyfodol gan boblogaeth sy'n heneiddio a'r her y mae hyn yn ei chreu. Oherwydd yr her hon, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol yn ein strategaeth 'Ffyniant i Bawb', sy'n ymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol i ateb y galw disgwyliedig. Fe fyddwch yn gwybod o'r ddadl ddoe am ein hymrwymiad i archwilio opsiynau ar gyfer trethi newydd yng Nghymru, gan gynnwys ardoll gofal cymdeithasol bosibl, i godi arian ychwanegol. Yr argymhellion hyn sy'n sail i waith ein grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, a sefydlwyd yr haf diwethaf a'i orchwyl yw darparu'r safbwynt polisi i'r ystyriaethau ariannol hyn. Mae ei waith ar gam cynnar ond byddwn yn mynd ati'n gyflym eleni i sicrhau safbwynt gwybodus ar hyfywedd ardoll, er enghraifft, ac a allai wireddu'r manteision a ragwelwn.
Credaf fod cyfraniad Nick Ramsay yn benodol wedi amlinellu pa mor heriol yw'r agenda hon a pha mor fawr yw rhai o'r cwestiynau sy'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Nick y byddai datblygu rhyw fath o gonsensws trawsbleidiol yn ffordd dda ymlaen, oherwydd mae hon yn her a fydd yn wynebu pob un ohonom, ni waeth beth yw ein pleidiau. A gwn fod yr ysgrifennydd iechyd a minnau'n awyddus iawn i wrando ar y pleidiau eraill a'u syniadau ac edrych gyda'n gilydd ar y ffordd ymlaen. A rhaid imi ddweud hefyd fy mod yn croesawu'r ffordd y mae'r Aelodau'n ymwneud â'r agenda wirioneddol bwysig hon.
Felly, ochr yn ochr â hyn byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â'u safbwyntiau ar dalu am ofal a goblygiadau hynny iddynt hwy. Ac fel yr argymhellodd y pwyllgor yn briodol, mae angen inni gynnal ymgysylltiad o'r fath, ac yn fuan byddwn yn ystyried cynnig i gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn deall pwysigrwydd gofal cymdeithasol a'r system sydd ar waith ar hyn o bryd. A chyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor yn ei araith at y dryswch cyffredinol sy'n bodoli ar hyn o bryd mewn perthynas â thalu am ofal.
Credaf y bydd y gwaith hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer ymgysylltiad wedi'i dargedu ar yr opsiynau i godi arian ychwanegol wrth i'r opsiynau hyn ddatblygu, ac yn sicr, cawsom ein hatgoffa gan Mark Isherwood o bwysigrwydd rhoi'r unigolyn wrth wraidd y penderfyniadau hyn.
Yn olaf, mewn ymateb i un argymhelliad penodol, rwy'n falch o gadarnhau bod ein hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen' i gynyddu'r cyfalaf y gall pobl mewn gofal preswyl ei gadw heb orfod talu am eu gofal wedi'i gwblhau. Ymrwymiad ydoedd i godi'r ffigur o £24,000 i £50,000 yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ar hyn o bryd mae'r swm yn £40,000 a bwriadwn ei godi i'r £50,000 llawn o fis Ebrill ymlaen. I helpu i weithredu hyn, rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn y flwyddyn pellach yn y setliad llywodraeth leol o 2019-20, gan gynyddu'r cyllid gweithredu cyffredinol a ddarperir i i £18.5 miliwn y flwyddyn. Fel yr argymhellodd y pwyllgor, byddwn yn parhau i fonitro er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn ddigon i alluogi awdurdodau i gyflawni eu dyletswyddau gofal cymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at barhau'r trafodaethau a gawsom dros y ddeuddydd diwethaf. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Ni wnaf gyfeirio at bob cyfraniad, maddeuwch i fi, ond fe wnaf jest ategu un neu ddau o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Yn sicr, yng nghyfraniad Nick Ramsay, roedd y cyfeiriad at lefel y cyflogau o fewn y sector yn cymharu â rhai yn stacio silffoedd, rydw i'n meddwl, yn tanlinellu lle mae'r sector yn y cyd-destun hynny ar hyn o bryd. Ac, wrth gwrs, yn ei hymateb, mi wnaeth y Gweinidog gyfeirio at rai pethau mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i edrych ar dermau ac amgylchiadau cyflogaeth o'r fath. Wrth gwrs, y llinell waelod yw bydd pobl eisiau gweld cynnydd yn eu pecyn cyflog. Tan fod hynny'n digwydd, mae'n debyg y bydd hi'n anodd iawn dangos i'r bobl sy'n gweithio yn y sector yna fod cymdeithas yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y maen nhw yn ei wneud.
Soniodd Nick am y cyfeiriadau a nodwyd yn ystod ein gwaith ynghylch yr angen am ateb ar sail y DU gyfan, ac mae'n debyg fod hynny'n adlewyrchu barn y pwyllgor neu ei ddewis yn hynny o beth, ond wrth gwrs, os nad yw hynny'n digwydd rhaid inni fwrw iddi a'i wneud ein hunain. Rwy'n obeithiol fod y Llywodraeth o'r un farn, oherwydd, fel y dywedodd Nick, rydym mewn sefyllfa anghynaliadwy yn y tymor hir, er y credaf nad yw'r tymor hir mor hir ag y mae rhai pobl yn ei feddwl neu'n ei obeithio.
Cawsom ein hatgoffa gan David Rowlands am y gymhareb rhwng pobl ifanc a phobl hen sy'n newid yn gyflym, ac mae hynny, wrth gwrs, yn galw am ymateb mawr gan ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mater i ni, felly, yw dod o hyd i ffordd o ddarparu'r gwasanaethau hynny. Cawsom ein hatgoffa gan Mark Isherwood hefyd o'r gwerth a'r cyfleoedd a ddaw o'r dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n siŵr y gallai'r sgwrs genedlaethol fod yn ddechrau ar hynny.
Rydw i eisiau diolch i Dai Lloyd hefyd am ei gyfraniad y prynhawn yma. Mae yna gyfle yn y fan hyn, fel roedd Dai yn ei awgrymu, inni fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol. Mae eisiau dangos yr un uchelgais, yr un arloesedd a'r un dewrder a welwyd adeg creu y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Nid taflu arian at system sy'n methu yw'r ateb, fel dywedodd Dai. Mae angen newid y system hefyd fel bod gennym ni gyfundrefn fwy cynaliadwy.
Rydw i felly eisiau diolch i'r Aelodau a gyfrannodd i'r ddadl yma. Diolch hefyd i dîm clercio’r pwyllgor a phawb roddodd dystiolaeth i ni fel rhan o'r broses yma. Rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r naw argymhelliad a wnaed, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae yna gonsensws, rydw i'n siŵr o hynny, fod angen gweithredu'n awr—bod yr amser wedi dod nawr inni fynd i'r afael â'r sefyllfa yma unwaith ac am byth.
Rydw i eisiau cloi drwy ategu'r gydnabyddiaeth rŷm ni fel pwyllgor eisiau rhoi i'r gofalwyr gwirfoddol allan yn fanna—y glud sy'n dal y gwasanaeth yma at ei gilydd. Mae'r ddibyniaeth yn drom iawn arnyn nhw, ond mae'r ddibyniaeth yna hefyd, wrth gwrs, yn peri risg i gynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed am y pryderon ynghylch pwysau ar y gweithlu. Rŷm ni wedi clywed yr heriau sydd o'n blaenau ni.
A gaf i ddiolch i chi i gyd? A gaf i ddweud ei fod wedi bod yn ymateb calonogol gan y Llywodraeth? Ond, wrth gwrs, mae angen i'r holl weithgarwch yma nawr sydd yn digwydd arwain at ganlyniadau pendant a newidiadau go iawn i gyfundrefn ariannu sydd, rydw i'n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno, yn rhedeg allan o amser. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.