– Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
Yr eitem nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, ac rydw i'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6909 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw.
2. Yn gresynu:
a) bod mwy na 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a
b) bod prisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog oherwydd prinder cartrefi.
3. Yn nodi papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod yr angen i adeiladu o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a
b) rhoi mwy o hyblygrwydd i gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o ddeiliadaethau i ateb y galw am dai fforddiadwy.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ac a gaf fi ddechrau gyda gorchwyl hapus iawn a chroesawu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, i'w swydd? O ddifrif, mae'n fater y gallwn ei ddathlu, yn fy marn i, fod gennym swydd Gweinidog Cabinet unwaith eto wedi'i dynodi'n arbennig ar gyfer tai—ac er ei bod hi'n gyfrifol am adran arall hefyd, mae'n un sy'n cysylltu'n agos â'r maes tai mewn llywodraeth leol. Rwy'n ddiolchgar fod y Prif Weinidog wedi cyflawni addewid a wnaeth, rwy'n credu, yn ystod ei ymgyrch i gael ei ethol yn arweinydd Llafur i ddynodi swydd Gweinidog Cabinet ar gyfer tai. Mae'n gam mawr ymlaen.
Rwy'n mynd i agor y ddadl hon gyda dyfyniad gan gyn-brif weithredwr y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, ac rwy'n dyfynnu:
Heb weithredu effeithiol yn awr, mae'r holl arwyddion yn dynodi bod Cymru'n anelu am argyfwng tai sydd cyn waethed, neu o bosibl yn waeth, nag yng ngweddill y DU... Oni roddir camau ar waith ar frys, rydym yn pwysleisio wrth Gynulliad Cymru y bydd argyfwng tai'r wlad yn arwain at ganlyniadau difrifol i dwf yn y dyfodol a ffyniant y wlad yn gyffredinol.
Lywydd, siaradwyd y geiriau hynny yn 2004 mewn gwirionedd—15 mlynedd yn ôl. Rydym wedi cael 15 mlynedd o leiaf o rybudd, a hyd yn oed mwy na hynny o bosibl yn ôl arbenigwyr eraill, ond dyma ni yn ceisio ymrafael â marchnad dai doredig, sydd bellach yn un o'r rhwystrau mwyaf i les cymdeithasol, ac sy'n niweidio gweithwyr cyffredin yn fwy na neb.
Ddoe ddiwethaf, rhyddhaodd Shelter adroddiad a oedd yn agor gyda gwirionedd plaen am fethiannau polisi yn y DU o ran tai a pherchentyaeth. Rwy'n annog pobl i ddarllen y crynodeb gweithredol o leiaf. Credaf ei bod hi'n ddogfen bwysig dros ben. Os caf ddyfynnu'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud:
rydym yn byw mewn gwlad sy'n teimlo effeithiau 40 mlynedd o fethiant o ran polisi tai.
Yn fy marn i, mae'n bwysig inni fod yn onest yma a pheidio ag osgoi goblygiadau hynny i bob plaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth.
Mae'r gostyngiad yn nifer y teuluoedd ifanc sy'n symud tuag at berchnogaeth—mae'r adroddiad yn nodi bod y cynnydd yn nifer y pensiynwyr sy'n byw mewn eiddo rhent preifat ansicr, na allant ei fforddio, a'r digartrefedd sy'n bla ar ein cymdeithas yn ein hatgoffa bob dydd o fethiant y polisi.
Aiff yr adroddiad rhagddo i ragweld y bydd cenhedlaeth o deuluoedd ifanc yn gaeth i rentu preifat drwy gydol eu bywydau oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn o ddifrif. Erbyn 2040, mae'r adroddiad yn cyfrifo y gallai cynifer ag un rhan o dair o bobl 60 oed fod yn rhentu'n breifat, gan wynebu cynnydd na allant ei fforddio yn y rhent neu gael eu troi allan ar unrhyw adeg.
Mae'r angen am strategaeth gyfannol a chydlynol i fynd i'r afael â'r mater hwn yn gliriach nag erioed, ac ni fu erioed fwy o angen consensws trawsbleidiol. Mae pawb ohonom mewn bywyd cyhoeddus wedi bod yn rhan o'r broblem. Nawr, rhaid inni ddod at ein gilydd ac adeiladu polisi i ddatrys yr argyfwng. Lywydd, ymwneud â hyn y mae'r ddadl heddiw. Heddiw, rwy'n pwyso ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig, sy'n cofnodi bod y Cynulliad hwn yn cydnabod nad ydym wedi gwneud digon a bod angen inni wneud llawer mwy.
Eisoes, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau cydnabod maint y dasg sydd o'n blaenau, a dyna sydd angen i ni ei wneud yn awr yma yn y Cynulliad. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu targed o 300,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, targed y maent yn gobeithio ei gyrraedd yn y 2020au. Yn wir, mae'n un o'r rhesymau pam y cyhoeddodd Shelter yr adroddiad, ac mae'n rhoi sylwadau go helaeth ar y targed hwnnw.
I'r rhai ar y rheng flaen, mae'r argyfwng yn golygu anhawster i dalu eich morgais neu fethu talu eich rhent. Mae eraill yn poeni ynglŷn â ble y byddant yn treulio'r nos o'u blaenau, a rhai'n gorfod byw ar y strydoedd, fel y gwyddom, a chysgu ar y stryd. Ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Mae tai yn angen sylfaenol ac mae'r hawl i gartref gweddus yr un mor bwysig â'r hawl i ofal iechyd. Mae un peth yn sicr, mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi. Llawer mwy o gartrefi—o leiaf 100,000 o gartrefi newydd yng Nghymru yn y 2020au yn ein barn ni.
I gyflawni hyn, mae'n amlwg fod angen inni gael consensws gwleidyddol newydd, oherwydd os yw'r Llywodraeth yn newid neu os ceir clymblaid, beth bynnag sy'n digwydd o ran y rhai sy'n gyfrifol am lunio polisi, rhaid sicrhau'r cysondeb sy'n deillio o gonsensws gwleidyddol dwfn. Dyna a gawsom ar ôl yr ail ryfel byd mewn cyfnod o 25 mlynedd pan ymrwymodd pleidiau gwleidyddol a'r mân bleidiau eraill a oedd yn rhan o'r broses o graffu ar y gwaith hwnnw i dargedau uchelgeisiol ar gyfer tai a llwyddo i gyflawni pethau rhyfeddol, rwy'n credu, ar ran pobl Cymru a'r DU gyfan.
Mae'r galw am dai yn fwy na'r cyflenwad yng Nghymru, fel y mae ledled y DU. Mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer. Cododd y galw ychwanegol am dai yn bennaf o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un person, sy'n adlewyrchu ffordd o fyw mwy modern, a ffactorau eraill hefyd, megis y cynnydd yn y boblogaeth.
Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi cyhoeddi ei strategaeth dai ei hun, 'Cartrefu Cenedl'. Gwn fod rhai ohonoch wedi gofyn amdani, ac rwyf wedi bod yn hapus i'w dosbarthu, ac mae rhai ohonoch wedi gwneud sylwadau adeiladol iawn. Yn amlwg, bydd pethau ynddi na fyddwch yn eu rhannu'n gyfan gwbl, o ran y pwyslais y byddem yn ei osod ar y materion hynny, ond rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bwysig inni nodi ein gweledigaeth a'n bod yn agor y drafodaeth. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi dangos diddordeb yn hynny. Mae ein syniadau presennol, felly, yn mapio llwybr fel y gallwn ddechrau datrys yr heriau sydd o'n blaenau, ond yn amlwg, mater i eraill, bellach, yw dod ynghyd ac i bawb ohonom ffurfio'r safbwynt cydsyniol hwnnw.
Rydym yn trafod fforddiadwyedd a pherchentyaeth, tir a chyflenwad tir, a datblygiadau o ran adeiladu ac arloesedd. Rydym yn rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad tai. Rydym yn argymell mwy o gydweithredu rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, ac yn cyflwyno syniadau i annog mwy o ymgysylltiad cymunedol. Rydym yn codi mater cyflogaeth yn y sector adeiladu, a gwella sgiliau gweithwyr profiadol sydd mewn perygl o syrthio ar ôl gydag esblygiad safonau tai, yn enwedig gyda thechnegau adeiladu mwy modern. Dyma faes nad yw'n cael ei drafod yn aml mewn unrhyw ddadl ynglŷn â thai mewn gwirionedd, ond mae'n gwbl hanfodol, ac rwy'n falch fod adroddiad Shelter yn rhoi sylw iddo, gan fod cyfle gwych yma i ni. Fel y mae Shelter yn ei bwysleisio, mae pwysigrwydd adeiladu preswyl i'r economi ddomestig yn helaeth, gydag un o'r lluosyddion uchaf a gyfrifwyd, sef 184 y cant. Felly, mae'n weithgaredd da iawn ar gyfer yr economi yn ogystal â'r angen cymdeithasol enfawr y mae'n ei ddiwallu.
Rydym hefyd yn sôn am adeiladu cartrefi cynaliadwy—nid yn unig o ran eu deunyddiau ond cynaliadwy o ran eu hyblygrwydd yn y dyfodol fel eu bod yn addas am eu hoes gyfan, nid ar gyfer heddiw'n unig.
Fel y dywedais, nid ein syniadau yw'r gair olaf ar bopeth. Rydym wedi eu cyflwyno, mewn gwirionedd, fel Papur Gwyn, i gael mwy o ymgysylltiad â rhanddeiliaid a gwleidyddion, i ni allu dysgu beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio.
Lywydd, rwy'n credu bod angen imi sôn yn fyr am rai o'r costau a allai fod ynghlwm wrth hyn. Unwaith eto, rwy'n argymell y dylai pobl edrych ar adroddiad Shelter. Mae'n ymdrin â Lloegr yn unig, ond nid yw'n anodd ei drosi a gwneud cyfrifiadau. Bydd mwyafrif y costau'n cynnwys buddsoddi a benthyca cyfalaf, yn enwedig yn rhan gynnar eu tymor.
Mae Shelter yn cyfrifo ar gyfer rhaglen 20 mlynedd, ac mae ein strategaeth dai ein hunain yn edrych ar raglen 10 mlynedd. Beth bynnag, os edrychwch ar Shelter, fe wnaethant ofyn i Capital Economics amcangyfrif y math o lefel o wariant a fyddai'n ofynnol—hyn ar gyfer Lloegr. Cyfrifwyd y byddai cyfartaledd y benthyciad ychwanegol y flwyddyn ar gyfer y rhaglen honno yn £3.8 biliwn. Os troswch hyn ar gyfer Cymru, byddai'n £190 miliwn. Mae'n swm sylweddol o arian, ond yn y ddadl flaenorol clywsom am seilwaith trafnidiaeth a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. Cyfrifir y bydd uchafswm y benthyciad yn y rhaglen ar gyfer Lloegr yn £5.4 biliwn. Os troswch hyn ar gyfer Cymru, byddai hynny'n rhywbeth fel £270 miliwn.
Mae hyn yn rhan o'r consensws newydd sydd ei angen arnom—fod angen inni fenthyca. Credaf fod gan bawb ohonom safbwyntiau amrywiol ynglŷn â sut i reoli cyni, ond mae benthyca ar gyfer seilwaith sy'n talu nôl—nid yw tai'n rhedeg i ffwrdd ac mae pobl yn talu rhent—yn rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno yn awr. Byddai Llywodraeth Cymru yn cael ein cefnogaeth i hyrwyddo'r dadleuon hyn yn ogystal, oherwydd mae benthyca ar gyfer buddsoddiad sy'n amlwg yn angenrheidiol yn beth deallus i'w wneud.
Felly, Lywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n gynnig diffuant, a gwn fod angen inni ailadrodd y llwyddiant a gawsom ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, gadewch inni roi diwedd ar wleidydda pitw, a gadewch inni weithio gyda'n gilydd i oresgyn yr heriau mawr sy'n wynebu Cymru ym maes tai. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1 caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru.
b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.
2. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.
b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref.
3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr.
4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy.
Yn ffurfiol.
Galwaf nawr ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne Wood.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 1, ar ôl 'sy'n cael eu hadeiladu', mewnosoder 'yn y sector tai cymdeithasol'.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:
bod cyflogau isel, cyflogaeth ansicr a rhenti uchel yn rhwystrau sylweddol i berchnogaeth cartrefi.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol, a bod hyn wedi costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus nag y byddai wedi ei gostio i atal digartrefedd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol drwy wneud y gorau o’u gallu i gael mynediad at gyllid at y diben hwn, gan gynnwys drwy bwerau benthyca Llywodraeth Cymru;
b) gweithredu argymhellion adroddaid Crisis, 'Everybody In: How to end homelessness in Great Britain';
c) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys gofyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall datblygiadau newydd ddod yn gymunedau cynaliadwy; a
d) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys cyfran sylweddol fwy o dai cymdeithasol.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau.
Mae hon yn ddadl bwysig iawn wrth gwrs, ac rwy'n cytuno bod angen inni ddod o hyd i gonsensws ar y cwestiwn hwn os yw'n bosibl, ond mae angen inni fod yn glir hefyd ynglŷn â beth yn union yw'r problemau rydym yn ceisio'u datrys, a dyna mae ein gwelliannau'n ceisio ei wneud. A byddwn yn cyfrannu ymhellach at y ddadl hon drwy gyhoeddi ymgynghoriad Plaid Cymru ar dai maes o law.
Felly, i fod yn glir ynglŷn â gwir natur y prinder tai, gadewch i ni gymryd un amcanestyniad o'r galw am dai yn y dyfodol i ddangos y pwynt yr hoffwn ei wneud. Mae adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar angen a galw am dai yn y dyfodol yn amcangyfrif y bydd angen 8,700 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn rhwng 2011 a 2031. O'r rhain, byddai 63 y cant yn y sector marchnad—sef 5,500 y flwyddyn—a 37 y cant yn y sector cymdeithasol—sef 3,300 flwyddyn. Ond os bydd y twf yn y boblogaeth yn fwy, mae'r adroddiad yn amcangyfrif y byddwn angen 12,000 o unedau y flwyddyn, a byddai angen i 35 y cant ohonynt fod yn y sector tai cymdeithasol—sef 4,200 y flwyddyn.
Nawr, gadewch i ni edrych ar adeiladu tai dros yr 20 mlynedd diwethaf a sut y mae'n berthnasol i'r ffigurau rwyf newydd eu rhoi. Rhwng 1997 a 2007, cafodd cyfartaledd o 7,591 o unedau eu cwblhau yn sector marchnad bob blwyddyn. Rhwng 2007 a 2017, gostyngodd y ffigur hwnnw i gyfartaledd o 5,573 o unedau. Yn y ddau ddegawd, bydd lefel y perfformiad yn ddigon i ateb prif ragfynegiadau o angen y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ond os yw'r perfformiad yn parhau'n debyg i'r degawd diwethaf, byddai'n achosi problemau o ran y cyflenwad os yw'r amcangyfrifon uwch ar gyfer y boblogaeth yn gywir.
Gallwn weld o'r ffigurau hyn fod y cyflenwad tai o'r sector marchnad yn ddigonol felly. Ond os edrychwn ar y perfformiad mewn tai cymdeithasol, gwelwn ddarlun gwahanol iawn. Rhwng 1997 a 2007, 825 yn unig o unedau newydd o dai cymdeithasol a adeiladwyd bob blwyddyn, ac nid yw ond wedi codi i 850 bob blwyddyn yn y 10 mlynedd diwethaf. Ond mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn amcangyfrif bod angen rhwng 3,300 a 4,200 o unedau ychwanegol o dai cymdeithasol arnom bob blwyddyn, ac eto 850 yn unig o gartrefi, pan fo angen dros 4,000 arnom. Mae'r bwlch hwnnw'n gwbl syfrdanol.
Felly, rhaid inni fod yn glir mai ym maes tai cymdeithasol y mae'r prinder mwyaf yn y cyflenwad. Yn rhy aml, defnyddir y farn fod arnom angen rhagor o dai fel arf lobïo ar gyfer glastwreiddio deddfau cynllunio a rheoliadau adeiladu, ac ar gyfer gwthio cynlluniau datblygu lleol drwodd yn erbyn gwrthwynebiad lleol, cynlluniau nad ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth i sut i greu cymunedau cynaliadwy. Ni fydd unrhyw un o'r atebion hynny'n datrys ein problemau tai mewn gwirionedd. Nid ydynt yn dweud dim am ddigartrefedd, a bod datrys digartrefedd yn golygu ffocws diwyro ar gynyddu tai cymdeithasol. Felly, rhaid inni ymwrthod â'r buddiannau breintiedig hynny drwy wneud yn siŵr fod y cynnig ger ein bron yn gliriach ar y pwynt hwn, ac yn nodi'n amlwg fod yn rhaid i'r cyflenwad tai ymwneud â chreu cymunedau, nid unedau mewn jyngl goncrit heb eu cynnal gan wasanaethau cyhoeddus.
Rhaid inni hefyd gydnabod mai'r rhwystr pennaf i berchentyaeth yw cyflogau isel, cyflogaeth ansicr a rhenti uchel sy'n atal llawer o bobl ifanc rhag cynilo ar gyfer blaendal. Ni fydd rhagor o gartrefi chwe ystafell wely yn y maestrefi yn gwneud dim i helpu'r bobl hynny i gael troed ar yr ysgol dai.
Cyflwynwyd y ddadl heddiw gan y Ceidwadwyr yn sgil cyhoeddi eu papur polisi ar dai, papur nad yw'n cydnabod y ffactorau sylfaenol sy'n achosi'r argyfwng rydym yn ei wynebu: hynny yw, penderfyniadau Llywodraethau olynol i danfuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac i roi'r cyfrifoldeb am ddarparu lloches—hawl ddynol sylfaenol—yn nwylo cwmnïau preifat sy'n ceisio gwneud elw. Mae'r blaid Dorïaidd yn gyfrifol am ddinistrio ein stoc dai, gan gyflwyno'r dreth ystafell wely a gweithredu newidiadau i'r system les sydd wedi peri i filoedd o bobl fod yn ddigartref, felly maddeuwch imi os wyf yn amheus eu bod yn sydyn wedi dod o hyd i'w cydwybod ar y mater hwn. Wrth egluro'r problemau yn y cyflenwad tai, gobeithio y gallwn ddechrau dod o hyd i atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yma yng Nghymru yn hytrach nag i elw datblygwyr tai. Mae angen rhaglen ar gyfer adeiladu nifer fawr o dai cymdeithasol er mwyn datrys yr argyfwng hwn ac mae ei hangen ar frys.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ac o gefnogi'r cynnig hwn—cynnig a wnaed yn huawdl iawn, fel arfer, gan David Melding ar ddechrau'r ddadl hon, ac fe wnaeth bwyntiau pwysig iawn.
Credaf ein bod i gyd yn gwybod fod gennym broblem mewn perthynas â thai yng Nghymru. Gadewch inni wynebu'r ffaith, fel y mae Leanne Wood newydd ei ddweud, mae'r broblem honno wedi bod gyda ni ers cryn dipyn o amser, felly nid ydym yn mynd i weld unrhyw atebion cyflym o ran darparu cartrefi. Yn syml iawn, pa ffordd bynnag yr edrychwch ar y mater, nid oes gennym ddigon o gartrefi i ateb y galw. Neu, i fod yn fwy cywir mae'n debyg, nid oes gennym ddigon o'r math cywir o dai i ateb y galw ar adegau priodol ym mywydau pobl, gan fod y galwadau hynny'n newid drwy gydol bywydau pobl. Fan lleiaf, nid oes gennym ddigon o gartrefi y gellir eu haddasu. Y llynedd, roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i agor datblygiad tai newydd bach yn y pentref lle rwy'n byw, sef Rhaglan, datblygiad gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy o oddeutu pump neu chwech o dai—cartrefi poblogaidd iawn. Fe'm trawyd gan ansawdd y gwaith adeiladu, a hefyd gan ba mor addasadwy oedd y cartrefi fel bod pobl, boed yn eu 20au cynnar, yn sengl, yn cael plant neu'n hŷn, yn eu 60au, eu 70au neu eu 80au, yn gallu aros yn y cartrefi hynny drwy gydol eu bywydau ac na fyddent yn symud os nad oeddent eisiau gwneud hynny. Roeddwn yn credu bod hwnnw'n gysyniad gwych ac yn un y mae angen ei ddatblygu.
Wrth gwrs, mae cymdeithasau tai yn gwneud eu gorau i ateb y galw, yn sgil y gost, yn anad dim, o brynu eich cartref eich hun y dyddiau hyn. Fel y dywedodd David Melding, mae prisiau tai bellach o gwmpas chwe gwaith y cyflog cyfartalog—mwy mewn rhai achosion—o ganlyniad i'r prinder a wynebwn. Felly, mae angen inni adeiladu rhagor, ond nid rhagor yn unig. Mae angen inni roi sylw i'r ffaith hefyd—gadewch inni beidio ag anghofio—fod 27,000 amcangyfrifedig o gartrefi gwag yng Nghymru wrth imi sefyll yma'n siarad am yr ystadegau hyn. Gadewch inni wneud yr hyn a allwn i ddefnyddio'r rheini unwaith eto, oherwydd rhaid bod honno'n ffordd effeithlon o symud ymlaen. Os gallwn fodloni'r cyhoedd fod y capasiti dros ben—cymaint o gapasiti dros ben ag sy'n bodoli—yn cael ei ddefnyddio, yna bydd llai o wrthwynebiadau i ddatblygiadau. A gadewch i ni wynebu'r ffaith bod yna rai datblygiadau, oes, rwy'n siŵr, yn ein hetholaethau, sy'n fwy dadleuol nag eraill. Bydd y datblygiadau hynny'n fwy derbyniol os yw pobl yn teimlo bod y stoc dai dros ben yn cael ei defnyddio. Nid yw hyn yn golygu, er hynny, y dylid troi cefn ar gynllunio. Ac nid wyf yn credu y dylem fod yn adeiladu ar unrhyw gost—dim o gwbl. Mae angen proses gynllunio sy'n llyfn a chadarn ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd ac yn cyflawni mewn ffordd sy'n dderbyniol i awdurdodau lleol ond hefyd yn dderbyniol i'r cyhoedd. Gadewch i ni ymdrechu i gael y broses gynllunio orau, y broses gynllunio fwyaf llyfn y gallwn ei chael yma yng Nghymru.
Roeddwn yn meddwl bod Leanne Wood wedi gwneud pwynt ardderchog, pan ddywedasoch, Leanne, fod angen inni adeiladu cymunedau cynaliadwy, nid tai cynaliadwy yn unig. Credaf ein bod yn rhy aml yn sôn am y pethau hynny fel pe baent yn annibynnol ar ei gilydd. Rydym yn cael dadleuon am gymunedau yn y Siambr hon, a heddiw rydym yn cael dadl ar dai, ac weithiau mae'n ymddangos fel pe baem yn gweithredu fel pe baent yn gwbl annibynnol ar ei gilydd ac ni ddylent fod. Yn y pen draw, dylai datblygiadau tai a adeiladir gael eu gwasanaethu'n dda. Dylai fod cynaliadwyedd yn ganolog iddynt. Dylent gydymffurfio â deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Dyna ddeddfwriaeth arall y soniwn amdani'n aml yn y Siambr hon, ond awn ati wedyn i siarad am bynciau eraill heb sylweddoli y dylai'r ddeddfwriaeth honno fod yn ganolog i adeiladu. Felly, os ydym yn mynd i adeiladu datblygiad mewn pentref neu ardal yng nghefn gwlad, wrth gwrs y bydd yn ddadleuol os nad yw'n cael ei gynnal yn dda gan drafnidiaeth gynaliadwy, os ydym yn caniatáu i'r tai hynny gael eu hadeiladu a disgwyl i bobl ddibynnu ar y car, dau neu dri mewn teulu weithiau, neu i ddibynnu ar dacsis neu i ddibynnu ar beth bynnag y mae'n ei olygu. Nid wyf yn dweud bod yn rhaid cael cyswllt rheilffordd i bob pentref, ond rhaid cydnabod bod cartrefi newydd angen seilwaith cynaliadwy, gwasanaethau lleol cynaliadwy, ysgolion cynaliadwy. Pa mor aml y caiff datblygiadau eu hadeiladu heb ystyriaeth briodol i ysgolion lleol a gwasanaethau o'r fath?
Felly, mae llawer i'w wneud, ond wrth wraidd hyn, rwy'n credu bod rhaid dweud: oes, mae angen mwy o dai, ond mae angen mwy o dai o safon hefyd. Ac fe orffennaf, Lywydd, drwy sôn am Electrical Safety First, elusen y cyfarfûm â hi yn ddiweddar dros gyfnod y Nadolig. Roeddent yn pwysleisio'r angen i wneud yn siŵr fod tai modern yn cael eu hadeiladu i safon uchel sy'n osgoi lefelau uchel o danau trydan, a rhoddasant un ystadegyn i mi, ac rwyf am orffen gyda hyn, sef bod pobl dros 80 oed bedair gwaith yn fwy tebygol o farw mewn tân trydan na neb arall. Ar hyn o bryd nid oes gennym archwiliadau diogelwch trydanol gorfodol yn ein stoc dai yng Nghymru. Efallai y dylem eu cael. Ceir digonedd o feysydd lle y gallem symud pethau yn eu blaenau mewn gwirionedd, yn enwedig, fel y dywedais, gyda'r broses gynllunio.
Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r ddadl hon a chroesawu hefyd y Papur Gwyn 'Cartrefu Cenedl' gan y Ceidwadwyr? Nid wyf yn cytuno â'r cyfan ohono, ond credaf ei fod yn lle da i ni ddechrau siarad. Nid wyf yn credu ein bod yn trafod agos digon ar dai yn y Cynulliad, ac mae llawer gormod o siarad cyffredinol am dai yn seiliedig ar fod cynnydd mewn prisiau tai yn dda i berchnogion tai a thalwyr morgeisi yn hytrach na'i fod yn ddrwg i brynwyr tro cyntaf, pobl sy'n rhentu a phobl heb gartrefi digon da, sy'n cynnwys llawer o fy etholwyr.
Tai yw'r her fawr sy'n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod mewn perthynas â thai: yn gyntaf, y cyfnod rhwng 1945 a 1980. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd twf aruthrol yn niferoedd tai cyngor, adeiladu nifer fawr o ystadau newydd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol mwy o faint. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, unwaith eto yn yr ardaloedd trefol mwy o faint yn bennaf.
Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr adeiladau gwag. Clywais bob math o ffigurau, rhwng 16,000 a 27,000. Os defnyddiaf y term 'dros 20,000', i mi, mae hynny'n golygu dros 20,000 yn ormod. Mae nifer o'r rhain, gan gynnwys rhai yn fy etholaeth i, mewn lleoedd y mae pobl eisiau byw ynddynt mewn gwirionedd. Nid ydynt allan mewn mannau 'pwy fyddai am fyw yno?' math o beth. Yn aml mae pobl eisiau byw yno, ond maent wedi cael eu gadael yn wag, dyna i gyd. Rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Gwelwyd cynnydd hefyd mewn—. Deiliadaeth tai, gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person, gan fod pobl wedi tyfu'n hŷn ac mae mwy o bobl ifanc yn byw ar eu pen eu hunain, cynnydd yn nifer yr aelwydydd pensiynwyr, cynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn tai amlfeddiant, yn enwedig myfyrwyr, er nad myfyrwyr yn unig. Mae niferoedd tai cyngor wedi gostwng yn sgil gwerthu nifer fawr o dai a methiant i adeiladu rhai newydd. Cynyddodd eiddo cymdeithasau tai yn sylweddol ond nid yw'n hanner digon i wneud iawn am y gostyngiad yn nifer y tai cyngor a adeiladwyd.
Mae'r dirywiad yn y sector rhentu preifat yn y 1960au a'r 1970au wedi'i wrthdroi, gyda chynnydd enfawr yn nifer y landlordiaid preifat, yn berchnogion ar raddfa fawr a rhai sy'n defnyddio eiddo ychwanegol fel dewis arall yn lle pensiwn. O ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau, mae'r galw wedi cynyddu am lety llai o faint. Ers 1980, rydym wedi gweld diwedd bron yn llwyr ar adeiladu tai cyngor, twf perchen-feddiannaeth, sydd wedi arafu, ac mae twf cymdeithasau tai yn landlordiaid mawr wedi digwydd, ond nid yw hyn yn mynd yn agos at wneud iawn am y tai cyngor a gollwyd.
Yn ystod yr holl gyfnod hwn, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer gyfartalog yr oedolion sy'n byw ym mhob eiddo, ac mae gwerthu tai cyngor wedi cael effaith ddifrifol ar y farchnad dai. Mae wedi lleihau'r cyflenwad o dai cyngor, ac mae hynny wedi cynyddu'r galw am eiddo cymdeithasau tai ac eiddo rhent preifat. Bydd unrhyw un sydd wedi bod o gwmpas ystadau cyngor yn ymgyrchu wedi nodi nifer yr arwyddion 'ar rent'—rhent preifat—ar eiddo a adeiladwyd gan gynghorau yn y gorffennol. Ac a gaf fi ddweud wrthych fod y rhenti gryn dipyn yn uwch na'r hyn y mae'r cyngor yn ei ofyn?
Roedd dau gyfnod yn ystod yr ugeinfed ganrif pan lwyddodd y cyflenwad tai i fodloni'r galw a'r angen am dai yn eithaf da. Y cyfnod cyntaf oedd rhwng y ddau ryfel byd, pan ehangodd dinasoedd yn llorweddol i ddatblygu caeau gwyrdd maestrefol, gyda chymorth mentrau llywodraeth, a gallai adeiladwyr gynnig perchentyaeth fforddiadwy i bobl ar incwm canolig i isel. Ac roedd hynny oherwydd nad oedd gennym Ddeddf cynllunio. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un eisiau cael gwared ar Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947, fel y'i diwygiwyd, felly y dewis arall, ar ôl yr ail ryfel byd, oedd tai cyngor, ac ar un adeg, dyna oedd oddeutu hanner y nifer o dai a adeiladwyd. Bydd unrhyw un sy'n astudio etholiadau—os edrychwch ar yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain yn 1974, ar y llyfr sy'n cael ei gynhyrchu ar ôl pob etholiad, fe welwch nifer yr etholaethau, yn bennaf yn yr Alban, lle'r oedd dros 50 y cant o'r tai yn dai cyngor, ond mewn rhan fawr o Gymru, gan gynnwys fy etholaeth i, roedd dros 40 y cant o'r tai yn dai cyngor.
Felly, rydym mewn sefyllfa bellach lle y mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Mae nifer y tai preifat a adeiladir bob amser wedi aros yn eithaf tebyg—mae wedi codi a disgyn ychydig, ond mae wedi bod yn weddol debyg. Oherwydd, gadewch inni fod yn onest, os oeddech yn gwmni adeiladu tai mawr, pam y byddech eisiau adeiladu gormod o dai? Os adeiladwch ormod o dai, bydd prisiau tai yn disgyn; bydd gennych eiddo gwag. Rydych eisiau cadw'r galw'n uchel. Ac nid wyf yn beio'r cwmnïau adeiladu tai am hynny; byddent yn gwneud anghymwynas â'u cyfranddalwyr. Felly, rhaid i rywbeth ddal y slac yn dynn. Yr unig beth sy'n dal y slac yn dynn yn effeithiol yw tai cyngor, felly dyna lle y mae'n rhaid inni fynd.
Rydym wedi gweld rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys fy awdurdod fy hun yn Abertawe, yn dechrau adeiladu tai cyngor, ond mae angen iddynt gael eu hadeiladu ar raddfa fawr. Hynny yw, os edrychwch—. Mae Prif Weinidog Cymru yn cynrychioli'r ystâd o dai cyngor fwyaf yng Nghymru, yn Nhrelái. Rwy'n cynrychioli un o'r ardaloedd mwyaf o ystadau tai cyngor, sy'n nifer o enwau gwahanol mewn gwirionedd, ond mae'n ymestyn o'r Clâs i Flaen-y-maes, ar draws gogledd Abertawe. Roedd y rhain yn darparu tai ar gyfer pobl. Ceir rhwystrau mawr i ddadeni mewn adeiladu tai cyngor, gan gynnwys yr un amlwg, sef arian, er nad hynny'n unig. Sut y gallwn ei oresgyn? Wel, caniatáu i gynghorau fenthyca yn erbyn gwerth eu stoc. Credaf fod—.
A gaf fi orffen gyda dau bwynt? Mae angen inni adeiladu nifer sylweddol o dai cyngor ac mae angen inni ailddechrau defnyddio mwy o eiddo gwag unwaith eto. Ailddechreuwch ddefnyddio'r 20,000 o adeiladau gwag, adeiladwch dai cyngor. A phe bai gennyf amser, buaswn wedi dweud pa mor bwysig oedd tai cydweithredol.
Mae'n bleser cael dilyn Mike Hedges, a chredaf fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaeth am dai cyngor a phwysigrwydd adeiladu ar gyfer rhentu cymdeithasol yn rhai da. Fodd bynnag, buaswn yn pwysleisio, beth bynnag yw'r union darged sydd gennym—ac yn ein cynnig, galwn am 10,000 o dai y flwyddyn, rwy'n credu; mae gan y Llywodraeth darged gwahanol a chyfrannau gwahanol efallai, ond yn y rheini i gyd, mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o'r tai hynny ddod o'r sector preifat, ac fel y mae Mike yn ei nodi'n briodol, mae cwmnïau adeiladu tai yno'n bennaf i wneud elw i'w cyfranddalwyr.
Nawr, un peth a welsom yn ne-ddwyrain Cymru, lle rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau, yw cynnydd sylweddol ym mhrisiau tai, mewn rhai ardaloedd yn enwedig. Ar rifau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol o fis Medi i fis Tachwedd, y tri mis diwethaf sydd ar gael, roedd y cynnydd o un flwyddyn i'r llall yn 13 y cant a rhagor yng Nghasnewydd a Thorfaen ac yn agos at 11 y cant yn Sir Fynwy. Nawr, clywaf gryn bwyslais gan sawl un ym Mhlaid Cymru, ond o fewn y Blaid Lafur hefyd i raddau, ar y posibilrwydd fod pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai o ganlyniad, a rhai efallai a allai fod yn fwy croesawgar tuag at bobl sy'n dod i mewn i Gymru—cwynion fel, 'Pam y dylem ymdopi â gorlif Bryste?', er enghraifft. A hoffwn bwysleisio elfennau cadarnhaol hyn. Mae gennym bobl ar gyflogau cryn dipyn yn uwch ym Mryste sy'n dod i fyw yng Nghymru ac yn gwario arian yn lleol, ac o fis Ebrill ymlaen, byddant yn talu cyfraddau Cymru o dreth incwm, gan roi mwy o arian o bosibl i ni ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.
A'r cynnydd hwn ym mhrisiau tai sydd, yn ei dro, yn ailgyflwyno cynnydd gwirioneddol sylweddol yn nifer y tai a adeiladir. Cyfeiriodd David Melding at bwysigrwydd hynny i'r economi yn ei chyfanrwydd: mae 8 y cant o'n heconomi, 8 y cant o'n cyflogaeth, yn y diwydiant adeiladu ac mae'n un o'r meysydd lle y gwelwch economïau'n tyfu'n gyflym, ac rydym eisiau i economi Cymru dyfu'n gyflym. Adeiladu, bron yn ddieithriad, sy'n cyflymu'n llawer cyflymach na'r economi yn ei chyfanrwydd, ac mae hynny'n beth da ac yn rhywbeth y dylem fod eisiau ei weld, ac rydym yn dechrau ei weld mewn rhannau o dde-ddwyrain Cymru. I raddau, fe'i cefnogir gan bolisi Llywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth i Brynu a chyfran yr arian hwnnw sy'n mynd i'r ardaloedd hyn sy'n tyfu'n gyflym. Yn Nhorfaen, mor ddiweddar â 2015-16, dim ond 130 o dai a gafodd eu dechrau. Yn 2016-17, cododd i 215—cynnydd o 50 y cant—a chynnydd tebyg y flwyddyn wedyn i 284, yn 2017-18. Ac yn ystod chwe mis cyntaf 2018-19 yn unig, maent wedi rhagori ar y ffigur blynyddol hwnnw: 299 o dai wedi'u dechrau—felly, cyfradd adeiladu tai sy'n dyblu o un flwyddyn i'r llall ar ôl tair blynedd o gynnydd sylweddol cynt. Ac os edrychwn ar Gasnewydd, yn 2017-18, dechreuwyd dros 1,000 o dai newydd yn ardal cyngor Casnewydd, ac mae hynny'n cymharu â 6,000 yng Nghymru yn ei chyfanrwydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Gwn fod tai yn rhan fawr o'r ymgyrch yng Nghaerffili, ac fel ymgeisydd UKIP, roedd yn ymgyrchu gyda'r tîm hwnnw yng Nghaerffili. Roedd eu safbwynt yn gwbl groes i bopeth y mae'n ei ddweud yn awr, felly a yw'n mynd i wadu'r hyn a ddywedodd yn ystod ymgyrch yr etholiad yn 2016?
Wel, roeddwn yn meddwl fy mod yn cytuno i ryw raddau gyda'r Aelod ar hyn, ac yn benodol, cynllun datblygu lleol Caerffili a rhwygo hwnnw a cheisio dechrau eto, a rhai o'r cynigion ar gyfer adeiladu ar fynydd Caerffili a sut y byddai'r rheini'n ddibynnol ar y defnydd o gar a'r angen i gysylltu â'r hyn a oedd yn digwydd yng nghynllun datblygu lleol Caerdydd. Roeddwn yn meddwl bod hynny i gyd yn synhwyrol ac roeddwn yn meddwl ein bod yn cytuno ar hynny i ryw raddau.
Ond yn sicr, o ran y niferoedd yng Nghaerffili, mae'r adeiladu wedi bod yn llai na'r cynnydd mawr a welsom yn Nhorfaen a Chasnewydd, ac roeddwn yn awyddus i bwysleisio hynny. Ac rwy'n credu eu bod yn ymwneud â rhoi diwedd ar dollau Hafren. Byddwn yn gweld twf economaidd oherwydd bod tollau'r Hafren wedi mynd, ond yn ei dro, mae adeiladu tai hefyd yn helpu i sbarduno'r twf economaidd hwnnw. Rydych yn mynd i ddweud, 'O, ond roedd mwy o ecwiti tai', ond mewn gwirionedd, mae hynny'n wirioneddol bwysig. Os yw gwerth tai pobl yn codi, un o'r pethau y mae hynny'n arwain ato yw creu cryn dipyn yn fwy o fusnesau a thwf busnesau. A phan edrychaf ar y lefelau o fusnesau newydd sy'n cael eu ffurfio neu entrepreneuriaeth yn ne-ddwyrain Cymru a chymharu hynny â'r hyn a welais yn flaenorol yn ne-ddwyrain Lloegr, nid wyf yn credu bod gwahaniaeth o ran entrepreneuriaeth yr unigolion na chymaint â hynny hyd yn oed yn y sgiliau y mae pobl yn eu dwyn i'r busnesau hynny o reidrwydd. Y gwahaniaeth mawr yw argaeledd ecwiti tai, ac mae gennym bethau da gan Fanc Datblygu Cymru, ond yn gyffredinol, mae banciau sector preifat yn ei chael hi'n anodd iawn rhoi benthyg i fusnesau bach sy'n dechrau pan nad oes ganddynt warantau. Eto, os yw'r cyfarwyddwyr mewn sefyllfa i roi gwarant bersonol o ecwiti tai, ceir llawer mwy o fenthyca i fusnesau, sy'n gyrru llawer mwy o dwf economaidd drwy fusnesau bach, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylem ei groesawu a chefnogi'r adeiladu hwnnw a'r hyn y mae'n ei wneud i'r economi yn gyffredinol, wedi ei yrru gan dde-ddwyrain Cymru. Gadewch i ni ei annog.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar dai. Rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw; rydym yn credu ei fod yn eithaf clir ac yn canolbwyntio ar yr angen i gynyddu'r cyflenwad tai. Mae'n weddol hyblyg mewn gwirionedd o ran yr awgrymiadau y mae'n eu gwneud ynglŷn â sut i gynyddu'r cyflenwad hwnnw.
Mae gwelliant Llafur yn dilyn patrwm penodol rydym yn dod yn gwbl gyfarwydd ag ef yn y Cynulliad, yn yr ystyr ei fod yn datgan yn y bôn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Yn aml, dyma a gawn gan welliannau'r Llywodraeth. Ac wrth gwrs, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ym maes tai, ond y perygl, wrth gwrs, yw hunanfodlonrwydd. Os edrychwn ar gynnig y Ceidwadwyr a gwelliant y Blaid Lafur gyda'i gilydd, mae'n amlwg fod anghysondeb rhwng y ddau darged gwahanol ar gyfer adeiladu tai. Rwy'n credu bod targed y Blaid Lafur yn weddol fach a hyd yn oed os caiff ei gyrraedd, ni fydd yn ateb y galw am dai fforddiadwy yng Nghymru yn llawn. Felly, nid ydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno'n llwyr â'r gwelliant Llafur, a byddwn yn ei wrthwynebu heddiw.
Roeddwn yn mynd i ddweud bod gwelliannau Plaid Cymru'n codi materion rydym yn cytuno â hwy'n rhannol, ond wedyn gwnaeth Leanne Wood achos da iawn dros yr angen i ganolbwyntio ar dai cymdeithasol, a chafodd hynny ei ategu gan ystadegau. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ba lefel o dai cymdeithasol y mae angen inni ei hystyried. Yn bendant, rwy'n credu bod angen canolbwyntio ar dai cymdeithasol i raddau helaeth, ond ni chredaf y dylem o reidrwydd ganolbwyntio ar dai cymdeithasol ac eithrio popeth arall. Credaf fod angen cymysgedd o dai newydd fforddiadwy. Mae rhan o welliannau Plaid Cymru yn ymdrin yn drylwyr â mater digartrefedd, sydd, wrth gwrs, yn destun pryder enfawr. Credaf fod cymaint o elfennau'n perthyn i'r mater er hynny, ac efallai fod angen dadl arall ar gyfer ymdrin â'r pwyntiau hynny.
Nawr, mae gan Lafur darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd dros gyfnod o bum mlynedd, sy'n cyfateb i 4,000 o gartrefi y flwyddyn. Heddiw, mae'r Ceidwadwyr yn datgan targed, gan gyfeirio at eu hadroddiad cynharach, o 100,000 mewn cyfnod o 10 mlynedd, sy'n cyfateb i 10,000 o gartrefi'r flwyddyn. Mae gennym ffigurau gan Dr Alan Holmans hefyd a oedd yn awgrymu y gallai Cymru fod angen 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn. Felly, os yw Dr Holmans yn gywir, mae targed y Ceidwadwyr i'w weld yn fwy ystyrlon nag un Llafur. Heddiw bydd y Gweinidog tai yma'n cytuno yn ôl pob tebyg nad oes unrhyw darged yn ystyrlon mewn gwirionedd oni bai ei fod yn gyraeddadwy, ond mae'n well gennym uchelgais ehangach y targed Ceidwadol.
Problem arall yw sut i sicrhau bod y cartrefi a adeiladir yn fforddiadwy mewn gwirionedd, ac mae hon yn broblem fawr gyda llawer o ddatblygiadau preifat; pan fyddant yn dod ar y farchnad, nid ydynt yn fforddiadwy i lawer o bobl a cheir problemau hefyd o ran faint o dai fforddiadwy sy'n rhan o'r cytundebau cynllunio ar y cychwyn. Weithiau, ymddengys bod hyn yn cael ei ddiystyru pan fydd cwmnïau adeiladu tai'n datblygu eu cynlluniau. Felly, credaf fod angen edrych ar hynny. Mater cynllunio yw hynny.
Rwy'n credu y gallai fod ffyrdd eraill o gael mwy o dai fforddiadwy drwy ddefnyddio'r sector preifat. Er enghraifft, mae angen inni edrych yn fanylach ar dai modiwlar, sy'n gymharol rhad i'w hadeiladu, yn bosibl eu codi'n gyflym, ac yn gallu helpu i greu swyddi. Ond mae adeiladu'r mathau hyn o dai yn galw am sgiliau gwahanol yn lle dulliau traddodiadol o adeiladu tai, felly mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o bobl fedrus i weithio ar y cynlluniau hyn. Gwn fod y Gweinidog tai blaenorol, Rebecca Evans, yn gweithio i ddatblygu'r sector hwn, a gobeithiaf y bydd ei holynydd galluog iawn yn parhau gyda'r gwaith hwn. Mae'n galw am ddull rhyngweithiol rhwng Llywodraeth Cymru, y sector preifat a cholegau addysg bellach.
Hefyd, mae angen inni annog mwy o ddatblygiadau mewnlenwi a datblygiadau tai ar raddfa fach, sy'n tueddu i fod yn ddeniadol, nid i'r cwmnïau adeiladu mawr ond yn hytrach i'r busnesau bach a chanolig y credaf fod angen iddynt chwarae rhan fwy yn y diwydiant adeiladu tai yng Nghymru. Hefyd gallem wneud mwy i annog datblygu safleoedd tir llwyd. Ceir cryn dipyn o alw hefyd gan bobl sy'n awyddus i adeiladu eu cartrefi eu hunain. Yn ôl arolygon barn, mae oddeutu 53 y cant o bobl wedi mynegi diddordeb yn hyn, ac mae cyfraddau hunanadeiladu yn llawer uwch yn rhai o'r gwledydd Ewropeaidd gorllewinol nag yma yng Nghymru—yn arbennig Awstria, lle y mae 80 y cant o dai wedi'u hunanadeiladu. Yn y DU, y ffigur yw 7 y cant i 10 y cant yn unig. Felly, nid wyf yn gwybod a allwn wneud rhywbeth yng Nghymru i annog y rhan hon o'r sector tai.
Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud i liniaru'r—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, iawn.
Y broblem yw tir a chael mynediad at dir, a dyna pam y mae gennych anhawster gyda'r sector hunanadeiladu.
Ie, rwy'n derbyn bod anawsterau gyda mynediad at dir mae'n debyg. Credaf ei bod hi'n werth edrych ar hynny, ond deallaf ei bod yn her fawr.
Mae cartrefi gwag yn fater arall, ac mae mesur y gall cynghorau lleol ei gyflwyno a elwir yn 'Orchmynion rheoli anheddau gwag', a gallai greu gorfodaeth ar ddatblygwyr sy'n gadael adeiladau'n wag am gyfnodau hir. Felly, gellir defnyddio'r rhain, efallai, mewn rhai amgylchiadau. Ceir y dreth ar dir gwag hefyd, a gwn fod honno ar y gweill, ac rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth ddod â manylion hynny i'r Siambr. Yn sicr, dyna'r mesur y byddai UKIP yn ei ffafrio mae'n debyg. Felly, ceir amrywiaeth o fesurau y gellid eu defnyddio. Y ffactor allweddol yw sicrhau y bydd gennym nifer gryn dipyn yn fwy yn y pen draw o gartrefi yng Nghymru sy'n fforddiadwy. Diolch yn fawr.
Pan soniwn am dai mewn modd generig mewn dadleuon fel hon, credaf ei bod yn eithaf hawdd osgoi manylion y mathau o dai sydd eu hangen arnom, lle y mae eu hangen, a meddwl hyd yn oed lle nad oes arnom eu hangen bellach o bosibl; gallem fod eisiau newid defnydd peth o'n stoc bresennol.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn ddefnyddiol inni symud oddi wrth y math hwn o feddwl yn nhermau da a drwg sydd weithiau'n cael sylw yn rhai o'n dadleuon ar dai, oherwydd yr hyn rydym ei eisiau yma, fel y dywedodd David Melding ar y dechrau un, yw consensws ar gyfeiriad y gallwn ei gymryd. Oherwydd, er gwaethaf y tai cyhoeddus o ansawdd yr oedd Mike Hedges yn siarad amdanynt yn gynharach, tai a adeiladwyd rhwng y rhyfeloedd yn Abertawe, mae rhai ohonynt yn dal i fod mewn mannau lle y ceir amddifadedd parhaus, a chredaf y gall pawb ohonom gyfeirio at ystadau tai eraill, ystadau cyngor—a adeiladwyd mewn mannau amrywiol rwyf fi wedi byw ac wedi gweithio ynddynt beth bynnag—a adeiladwyd yn y 1960au a'r 1970au, y credaf y byddent yn ysgytwad inni yn awr er gwaethaf y safonau ansawdd ac ati, ac er iddynt gael eu prynu gan gymdeithasau tai, yn syml iawn oherwydd y ffordd y cawsant eu cynllunio yn y lle cyntaf. Mae'r rhain yn bethau y mae angen inni eu hosgoi o hyn ymlaen.
Roedd fy rhieni'n blant yn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, yn fyr iawn, os yw hynny'n iawn.
Caf fy nghalonogi'n fawr gan y syniad hwn o greu consensws ynghylch polisi tai, ac rydych yn sôn am dai cyngor. Cafodd rhai o'r tai cyngor gorau—yr eiddo teuluol mwy o faint—eu gwerthu o dan yr hawl i brynu. Er mwyn cyrraedd y consensws hwn, a fyddech yn barod i droi cefn ar eich obsesiwn ideolegol gyda'r polisi hwnnw?
Wyddoch chi beth, Leanne? Nid oes gennyf obsesiynau ideolegol, ond credaf y dylai ein cynghorau gael y gallu i ddefnyddio'r arian y maent yn ei godi o Hawl i Brynu i adeiladu tai newydd, neu'n wir ei fuddsoddi mewn stoc dai hŷn sydd angen ei datblygu.
Ond nid dyna a ddigwyddodd, nage?
Ond nid oes gennyf ddiddordeb yn y gorffennol; yn y dyfodol y mae gennyf fi ddiddordeb. Gyda llaw, a gaf fi ddweud hefyd fod Penyrenglyn yn enghraifft dda iawn o gymuned yn cymryd rheolaeth ar ddefnydd tai yno? Hynny yw, rydych yn adnabod yr ystâd rwy'n sôn amdani; mae Plant y Cymoedd a'u cyfeillion wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i dai cymunedol yno. Felly, dyna'r math o beth y byddai'n well gennyf inni ei drafod na'r pethau gwirion a disynnwyr y mae Leanne Wood yn barod i siarad amdanynt.
Roeddwn am ddweud mai rhywfaint o gyd-destun i hyn yw fod fy rhieni wedi'u magu fel plant yn ystod yr ail ryfel byd, felly cefais fy magu ar aelwyd lle'r oeddent wedi profi'r ffrwydrad mawr o dai yr oedd Mike yn sôn amdano, ond roedd hefyd yn gyfnod pan oeddent yn gwgu ar wastraff a byddent yn cynllunio ar gyfer prynu pethau drud, yn rhannol oherwydd yr angen i gynilo, ac yn rhannol er mwyn osgoi sefyllfa lle—nid oedd raid i bobl brynu rhywbeth mewn panig oherwydd nid oedd ganddynt ddewis.
Nawr, bydd Lee Waters yn gyfarwydd ag ystâd Brynmefys yn Ffwrnais, a dyna lle'r oedd cartref fy nhad-cu a fy mam-gu am y rhan fwyaf o'u bywydau. Efallai, mewn gwirionedd, ei bod hi'n stori rybuddiol hefyd yn erbyn gorddefnyddio dulliau adeiladu nad ydynt yn draddodiadol, ond yn bwysicach, credaf ei fod yn gyfle a gollwyd ar gyfer cartrefu pobl, gan fod yr ystâd honno mor faluriedig bellach, mae bron â bod angen ei hailadeiladu. Credaf fod rhesymau lleol penodol am hynny, a bod yn deg, ond nid afradlonedd yw'r rheswm am y 27,000 o gartrefi gwag. Ni all y rheswm fod yn lleol ym mhob achos unigol.
Felly, rwyf wedi annog Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ystyried ein polisi o ymestyn Cymorth i Brynu i ailddechrau defnyddio eiddo gwag addas oherwydd ar hyn o bryd mae Cymorth i Brynu yn ffafrio cwmnïau adeiladu mwy o faint, er eu bod yn is-gontractio, wrth gwrs. Mae'n amrywiad a fyddai'n cynnig mwy o gymorth uniongyrchol i'r busnesau bach sy'n nodweddu ein heconomi, gan mai hwy sydd â diddordeb mewn gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ac adnewyddu. Felly, er fy mod yn credu, wrth gwrs, fel pawb ohonom, y dylid adeiladu mwy, yn hytrach na rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged adeiladu o'r newydd, beth am ffocws newydd ar gadw eiddo presennol sy'n sylfaenol gadarn mewn cylchrediad fel cartrefi mewn cymunedau lle y mae cydlyniant o dan fygythiad o bosibl, a lle y mae eiddo'n parhau i fod yn gymharol rhad, a lle y dylai cysylltedd, ffisegol a digidol, sbarduno cynaliadwyedd y cymunedau hynny?
Nawr, do, rydym wedi cael cynlluniau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cael Troi Tai'n Gartrefi—addawyd £30 miliwn ers 2012 ar gyfer benthyciadau tymor byr, di-log i berchnogion eiddo gwag i'w helpu i adnewyddu. Nid oes gennyf ffigurau ar ôl 2015, mae'n ddrwg gennyf, ond erbyn hynny, dim ond 360 o fenthyciadau a gymeradwywyd a dim ond 40 y cant o'r gwaith a gwblhawyd. Credaf ei bod hi'n system ddrud, nad yw wedi'i hysbysebu'n dda, ar gyfer cyflawni diben y gellir yn hawdd ei gefnogi, sy'n syndod braidd gan y Llywodraeth hon, ac wedi'i hanelu at berchnogion preifat yn y farchnad rentu.
Nawr, mae landlordiaid preifat egwyddorol yn ddarparwyr cartrefi pwysig, a chymeradwyaf waith y Wallich a Crisis, sydd wedi bod yn gweithio gyda landlordiaid preifat i fynd i'r afael â digartrefedd. Nid yw'r rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn ddiofal o'u tenantiaid, neu'n farus, ac fel cyfreithiwr eiddo yn y ddau gyfnod o ffyniant ym maes tai a ragflaenodd y cwymp ariannol, gallaf ddweud nad oedd pob achos o brynu i osod yn ymwneud â'r swigen arian ofnadwy honno. Roedd yna bobl gyffredin, etholwyr a oedd wedi etifeddu neu wedi prynu eiddo i fod yn bot pensiwn iddynt. Credaf fod Mike wedi crybwyll hyn. Wrth gwrs, roedd Gordon Brown wedi gwerthu'r aur i gyd, roedd cyfraddau buddsoddi yn isel iawn, ac ar fin gwaethygu, felly wrth gwrs fod pobl yn poeni am eu diogelwch ariannol yn y dyfodol, a dyna yw llawer o landlordiaid preifat heddiw.
I orffen, Lywydd, os nad oes ots gennych: un peth yw fod hyn yn wastraffus; peth arall yw prynu mewn panig. Buaswn yn tybio bod y rhan fwyaf o gynlluniau datblygu lleol yn adlewyrchu elfen o'r panig hwn. Ar ôl blynyddoedd o adeiladu cyfyngedig, mae cynghorau bellach yn cael eu gwthio i'r safleoedd mawr posibl hyn ar gyrion cymunedau sefydledig, gyda'r holl broblemau gyda gwasanaethau, weithiau gyda chyngor datblygwyr sydd â gwybodaeth bersonol, ond heb y dewrder i fynnu taliadau adran 106 neu ardoll gymunedol ystyrlon i dalu am seilwaith cysylltiedig. Mae hynny'n creu llond trol o drwbwl i lesddeiliaid a hyd yn oed i rai rhydd-ddeiliaid, fel y crybwyllodd Hefin David yn weddol ddiweddar, mewn lleoliadau heb gysylltiadau da ag unman.
Mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ond nid wyf yn meddwl bod gennyf amser, Lywydd. Ond diolch yn fawr iawn.
Mae'n anhygoel o anodd cael sgwrs resymol fel hyn allan yno, yn enwedig, fel y gwelais, yn ystod ymgyrch etholiadol. Safodd Lindsey Whittle mewn cae gwyrdd yn dal bwcedaid o fwd, a dywedodd, 'Nid wyf am roi'r bwced hwn o fwd i lawr, oherwydd cyn gynted ag y gwnaf, bydd y Blaid Lafur yn adeiladu tŷ arno'. Cafodd hyn ei ddweud mewn fideo ar Facebook yn ystod ymgyrch etholiadol, a'i rannu gyda 20,000 o bobl, credwch neu beidio. Roeddwn yn ei gyfrif wrth i'r niferoedd godi. Felly, pan fyddwn yn sôn am gonsensws gwleidyddol, credaf ei bod hi'n anhygoel o anodd ei gyrraedd, a buaswn yn dweud wrth Mark Reckless, ydym, rydym wedi cyrraedd y cytundeb hwn fod angen inni gael cynllun datblygu strategol, nad yw cysylltu i mewn i Gaerdydd yn digwydd gyda chynllun datblygu lleol Caerffili, ac mae'n anghywir i adeiladu ar fynydd Caerffili, ond rhywbeth y deuthum ato drwy drafodaeth â Carl Sargeant yn ystod ymgyrch yr etholiad oedd hynny. Credwch fi, nid oedd UKIP a Phlaid Cymru'n gwthio'r ddadl honno mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Y cyfan yr oeddent yn ei ddweud oedd, 'Mae Llafur eisiau adeiladu ar eich tir gwyrdd', a dyna oedd diwedd y mater yn syml iawn.
A gaf fi longyfarch yr Aelod? Ond roeddwn am ofyn iddo: gyda phrisiau tai uwch yn ein rhanbarth, a yw honno'n ffordd o gael mwy o'r datblygu i ogledd bwrdeistref Caerffili ac yn yr un modd, yng nghynghorau Blaenau Gwent a Merthyr Tudful lle na welwn, weithiau, fwy na 50 o dai yn cael eu dechrau mewn blwyddyn?
Os gallwch gael cwmni adeiladu tai sy'n fach i adeiladu, yna mae'n bosibl, ond y broblem sydd gennym yw fod gennym oligopoli yma yng Nghymru, cartél o bum cwmni adeiladu tai mawr sy'n adeiladu 75 y cant o'r cartrefi a chyn belled â'u bod—
[Anghlywadwy.]
Boed yn dai cyngor ai peidio, neu'n dai cymdeithasol ai peidio, mae gennych oruchafiaeth y cwmnïau adeiladu tai mawr hyn ar y farchnad, cwmnïau, fel y dywedodd Mike Hedges, sydd heb unrhyw gymhelliant i ateb y galw'n llawn ac sy'n adeiladu mewn ardaloedd lle y mae'r galw'n uchel iawn ac nid ydynt yn adeiladu tai sy'n fforddiadwy i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny eisoes neu'n byw mewn ardaloedd ychydig y tu allan, i'r gogledd, sy'n ardaloedd incwm is. Felly, cyn belled â bod gennych gartél yn dominyddu'r farchnad, ni fyddwch yn gallu datrys y broblem tai cymdeithasol chwaith.
Yn 2013 y dywedodd Persimmon na fyddant yn adeiladu cartrefi i'r gogledd o Bontypridd mwyach. Maent wedi dweud hynny'n gyhoeddus. Dywedodd yr Athro John Punter, athro mewn dylunio trefol ym Mhrifysgol Caerdydd, nad oes unrhyw reswm pam y dylem fod yn neilltuo ardaloedd penodol yng Nghymru ar gyfer peidio ag adeiladu ynddynt. Gwnaeth Mike Hedges y pwyntiau eisoes: mae a wnelo â'r ffaith, pan fyddwch yn dechrau ateb y galw, nid oes unrhyw reswm i wneud elw, mae llai o allu i wneud elw, ond hefyd, ni fydd yr angen byth yn cael ei ddiwallu—ni fydd yr angen byth yn cael ei ddiwallu. Felly, gallaf weld pam y byddai'n synhwyrol i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, oherwydd mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar dai cymdeithasol mewn ardaloedd na chânt eu diwallu gan y cromlin galw, ardaloedd nad ydynt yn cyrraedd yr angen am dai, ac felly gallaf weld yn berffaith fod angen i dai cymdeithasol fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi hynny hefyd.
Nid mater o dai yn unig yw hyn, fel y dywedwyd eisoes, mae hefyd yn fater o economi a thyfu'r economi yn ardaloedd y Cymoedd gogleddol rwy'n eu cynrychioli, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig o Gymru yn ogystal. Mae'r ddogfen dai a lluniodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiddorol, ond nid yw'r adran ar gyflenwad tir yn sôn am y gost o adfer. Nid yw'n ddogfen wedi'i chostio. Ni all y sector preifat fforddio talu'r gost o adfer mewn llawer o achosion. Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar fin dechrau ymchwiliad i fusnesau bach a chanolig ac adeiladu tai, ac rwy'n eithaf sicr y bydd adfer tir yn fater enfawr ac mae'n ffaith nad yw'r cyllid hwnnw gan awdurdodau lleol chwaith. Nid wyf yn berson arbennig o ddallbleidiol, ond mae cyni yn sicr wedi chwarae rhan yn y diffyg adfer tir, a rhaid i'r Ceidwadwyr wynebu hynny ac ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny.
Un o'r materion eraill a godais yw'r angen am gynllun datblygu strategol. Soniodd y Prif Weinidog—credaf mai yn ystod ei gwestiynau cyntaf i'r Prif Weinidog y gwnaeth hynny—fod prifddinas-ranbarth Caerdydd bellach yn gweithio ar gynllun datblygu strategol ac mae'n awyddus i'w weld yn cael ei weithredu. Felly, dywedaf wrth y Prif Weinidog, 'Pwyswch am hynny gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd', ac wrth y Gweinidog tai, 'Pwyswch am hynny gyda'r prifddinas-ranbarth'; mae angen inni weld cynnydd ar hynny, ac mae angen inni weld cynnydd ar hynny'n gyflym.
Ond y ffaith amdani yw fod y ddadl a gawsom heddiw, mewn llawer o ffyrdd, yn synhwyrol, yn aeddfed, ac ychydig yn ddallbleidiol hefyd, fel y bydd unrhyw ddadl y bydd Leanne Wood yn rhan ohoni, ond nid dyma'r math o ddadl y byddem yn ei chael allan gyda'r cyhoedd. Nid dyma'r math o ddadl a gawn ar adeg etholiad. Gadewch inni fod yn synhwyrol ynglŷn â hyn. Os ydym am sicrhau consensws, rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio'r math o iaith a ddefnyddiwn yn ystod cyfnodau gorffwyll ymgyrchoedd etholiadol.
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon a'r cyfle i siarad am y tro cyntaf yn fy mhortffolio newydd am fod tai yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac am fod y Prif Weinidog wedi gweld gwerth dwyn ynghyd nifer o faterion cysylltiedig yn fy mhortffolio gyda'r nod o allu symleiddio a chyflymu'r broses o gyflenwi tai.
Ac fel y cydnabu David Melding, mae gwir angen inni flaenoriaethu a gweithio gyda'n gilydd cymaint â phosibl. I aralleirio'r Prif Weinidog yn ystod ei sesiwn gwestiynau gyntaf ddoe, mae pawb ohonom angen, eisiau ac yn deisyfu'r un canlyniad; y broblem yw nad ydym bob amser yn gweld yr un llwybr tuag at y canlyniad hwnnw. Felly, gan ganolbwyntio ar y ffaith bod pob un ohonom eisiau'r un canlyniad, sef i holl ddinasyddion Cymru gael lle diogel a gweddus i fyw ynddo, gyda'r llwybr hawsaf posibl at y lle diogel a gweddus hwnnw i fyw ynddo, rwy'n credu y byddem oll yn cytuno â hynny. Y broblem mewn gwirionedd yw nad ydym bob amser yn cytuno ar y fethodoleg ar gyfer cyrraedd yno, ond rydym yn derbyn llawer o'r hyn a nodwyd yn nogfen y Ceidwadwyr oherwydd rydym eisoes yn gweithio ar rai rhannau ohoni. Mae yno feysydd yr anghytunir yn eu cylch hefyd, ond credaf y gallwn adeiladu rhywbeth y gallwn gytuno arno'n fras. Rydym yn cydnabod bod darparu nifer y cartrefi sydd eu hangen yn y farchnad a'r sectorau fforddiadwy yn her barhaus ar draws y DU gyfan. Fel y cydnabu David Melding a sawl un arall, mae Cymru'n wynebu'r un problemau â gweddill y wlad. Rydym yn rhoi camau sylweddol ar waith i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom.
Byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru oherwydd rwy'n cydnabod yn llwyr sylwadau Leanne Wood ynglŷn â thai cymdeithasol a'r angen am gymunedau cynaliadwy. Ni allaf ddod o hyd i unrhyw beth i anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd am yr anghenion hynny a byddwn yn edrych yn galed iawn i weld sut y gallwn gyflymu gallu ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau i ddatblygu tai cymdeithasol yn gyflymach o lawer ac ar raddfa fawr, os yn bosibl, gan ddefnyddio pwerau benthyca. Roedd yn wych clywed pobl ar feinciau'r Ceidwadwyr yn cydnabod yr angen i fenthyca ar gyfer buddsoddi'n gynaliadwy yn y stoc dai. Gwn fod David Melding yn cytuno'n llwyr â hynny. Byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo ein hawdurdodau lleol i fenthyca'n sylweddol er mwyn buddsoddi mewn tai cymdeithasol o'r fath. Buom yn gweithio ar bartneriaeth dda yn dilyn y trafodaethau cychwynnol llwyddiannus iawn a gafodd fy rhagflaenydd yn y swydd gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Byddwn yn anelu i ddatblygu hynny'n gyflym er mwyn sicrhau'r raddfa y gwyddom y bydd ei hangen.
Ac yna o ran—.
Diolch i'r Gweinidog am ildio. Fel Aelod Llafur a Chydweithredol, ni allwn adael i'r ddadl fynd heb godi llais dros atebion tai cydweithredol a modelau ymddiriedolaethau tir cymunedol. Os edrychwch yn ôl i'r 1980au, cyflwynodd Bernie Sanders—credaf ei fod yn disgrifio'i hun fel sosialydd democrataidd; yn America, rwy'n credu eu bod wedi'i alw'n gomiwnydd—un o'r ardaloedd canol dinas mwyaf arloesol, ac un o'r rhai mwyaf o ran maint bellach—dros 500 o gartrefi—a ddyfeisiwyd ar fodel ymddiriedolaethau tir cymunedol. Maent yno ar ymyl ein meddyliau o hyd ac rwy'n meddwl tybed a allwn ddatblygu'r rheini ar hyd yr M4, yng nghanol dinasoedd, fel y maent yn ei wneud ym Mryste a Llundain ac ati, fel rhan o'r ateb hwn. Felly, os gwelwch yn dda cefnogwch y rhain hefyd.
Ie, fe fyddaf yn dod at fathau arloesol o ddeiliadaeth a modelau gwahanol o ddatblygu'r cyflenwad tai. Mae nifer fawr ohonynt, pob un o'r pethau y mae Huw Irranca-Davies newydd eu crybwyll mae'n debyg, ar y rhestr honno.
Er hynny, mae'n bwysig ailadrodd mai ein polisi sylfaenol ar yr ochr hon o hyd yw darparu tai cymdeithasol ychwanegol. Felly, er nad wyf yn dibrisio unrhyw beth a ddywedwyd ynghylch cyflenwi tai yn y sector preifat a'r farchnad ac ati, ein blaenoriaeth yw darparu tai cymdeithasol ychwanegol a diogelu ein stoc bresennol. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym erioed wedi colli golwg ar yr angen i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed a'r bobl fwyaf anghenus, a dyna pam mai cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf o'n targed o 20,000. Hefyd, dyna pam y rhoesom gamau ar waith i roi diwedd ar yr hawl i brynu, sydd wedi arwain at golli cymaint o gartrefi ym mhob rhan o Gymru o'r sector tai fforddiadwy. Nid wyf am oedi gyda hyn eto, ond rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd ar y meinciau Ceidwadol ynglŷn â hyn.
Roedd y rhan fwyaf o fy nheulu innau hefyd yn byw ar yr ystâd tai cyngor fwyaf yng ngogledd Abertawe, sef ystâd tai cyngor Gendros, y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi. Nid oes ond angen i chi gerdded drwyddi ac fe welwch y tai hawl i brynu. Nid y bobl a'u prynodd sy'n eu meddiannu, landlordiaid sector preifat sy'n eu meddiannu ac nid ydynt wedi uwchraddio'r tai hynny. Ni osodwyd cladin arnynt yn yr un ffordd ag y gwnaed hynny ar dai'r awdurdod lleol, nid yw'r ffenestri a'r drysau'n rhai safonol fel rhai'r awdurdod lleol, mae'r gerddi mewn cyflwr gwael, ac nid yw'n dda o gwbl. Nid wyf yn credu bod hynny wedi helpu'n arbennig—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Rwy'n derbyn eich pwynt, ac mae'n bwynt dilys iawn, ond a fyddech yn cyfaddef, gyda gwerthiant, y gellir gosod amodau fel nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol? Gellid gwneud hynny'n hawdd.
Credaf y byddai wedi bod yn gynllun gwell pe bai cynghorau bob amser wedi cael caniatâd i ailfuddsoddi'r arian a gawsant o'r gwerthiant mewn stoc ychwanegol. Wrth gwrs, rhwystrwyd hynny am y rhan helaeth o'r amser y bu'r hawl i brynu ar waith. Roedd yn rhaid ei osod yn erbyn talu dyled ac ati mewn ffordd hynod o ddi-fudd. Credaf fod hynny'n gamgymeriad. Ond mewn gwirionedd, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r egwyddor yn y lle cyntaf, oherwydd nid wyf yn credu bod unrhyw beth o'i le mewn cael tai cymdeithasol da, cael deiliadaeth lle rydych yn rhentu. Nid oedd y rhan fwyaf o fy nheulu erioed eisiau bod yn berchen ar eu tŷ eu hunain, yr hyn yr oeddent ei eisiau oedd lle gweddus gyda deiliadaeth ddiogel, lle i fagu eu teuluoedd, lle y gallai eu teuluoedd fyw hefyd. Felly, os ydych am brynu, gwych, ond ni chredaf y dylem adeiladu tai cymdeithasol gyda golwg ar eu gwerthu i'r sector preifat, a dyna pam y rhoesom ddiwedd ar yr hawl i brynu.
Rydym wedi cael y ddadl am yr hawl i brynu a gwnaeth y Cynulliad ei benderfyniad. Yr hyn sy'n hollbwysig yn fy marn i yw cael deiliadaeth gymysg. Mae llawer o sylw wedi ei roi i hyn—mai dyna sydd wrth wraidd cymunedau cynaliadwy. Yn union fel y byddem o blaid gwerthu tai cyngor dan amodau, byddem o blaid gweld cynghorau'n prynu'r hyn sydd yn y stoc breifat ar hyn o bryd a'i osod wedyn ar rent cymdeithasol, ac mae hyn wedi'i wneud gryn dipyn yn y gorffennol—y dull cymysg hwn sydd ei angen arnom, a bod yn hyblyg.
Rwy'n cytuno â'r rhan honno. Nid wyf yn siŵr y byddai ein llwybrau tuag ato yr un fath yn union, ond yn hollol, cymdeithas gynaliadwy o ddeiliadaethau cymysg neu gyfansoddiad cymdeithasol cymysg sydd ei angen arnom. Un o'r pethau rwy'n gresynu’n fawr atynt ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr ystadau tai cyngor lle y mae fy nheulu'n byw gan mwyaf yw nad yw'n economi gymysg o gwbl bellach—maent wedi troi'n ystadau geto, mewn gwirionedd, gyda phobl benodol sydd â mathau penodol o broblemau yn cael eu gwthio i'r ystadau. Dyna sydd wedi achosi llawer o anawsterau cymdeithasol, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno—y cyflenwad tai sydd dan sylw yma'n bennaf.
Felly, fel y dywedais eisoes, mae'r portffolio tai a llywodraeth leol newydd yn dwyn ynghyd y meysydd polisi allweddol sy'n cyfrannu fwyaf at adeiladu mwy o gartrefi. Rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r holl ddulliau polisi perthnasol i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y rôl hollbwysig a chwaraeir gan y system gynllunio, a byddwn yn parhau i archwilio beth y gallem ei wneud i gryfhau cynllunio fel y gallwn ddarparu mwy o gartrefi.
Mae cyhoeddiad y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig cyn y Nadolig, unwaith eto gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, yn nodi'n glir ymagwedd fwy cadarn tuag at ddarparu cartrefi newydd drwy osod ystyriaethau hyfywedd yn flaenllaw yn y broses gynllunio. Y nod yw annog busnesau adeiladu bach a chanolig a phobl sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain yn ogystal, gan ein bod yn cydnabod yn llwyr y pwynt a wnaed gan nifer o bobl o gwmpas y Siambr am yr angen i ryddhau cymaint o dir â phosibl a hwyluso hunanadeiladu mewn rhannau mawr iawn o Gymru.
Mae'n werth crybwyll o ran hynny fy mod wedi cael y fraint fel rhan o dasglu'r Cymoedd o fod wedi cael cyflwyniadau da iawn gan swyddogion ac eraill ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu cynlluniau parod ar gyfer hunanadeiladu, os mynnwch, i helpu pawb yn ein cymdeithas i weld y gallent hwythau hefyd ddatblygu eu cartref eu hunain yn y ffordd honno. Rwy'n falch iawn o allu symud ymlaen ar hynny hefyd.
Rydym yn llwyr gydnabod rôl y Llywodraeth i fuddsoddi mewn tai ychwanegol, fel y dywedwyd ar draws y Siambr. Mae ein buddsoddiad mwyaf erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn 2017-18, cafodd dros hanner y cartrefi fforddiadwy newydd a adeiladwyd yng Nghymru eu darparu drwy grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, felly dyna un arwydd yn unig o faint yr ymrwymiad. Fel y dywedais, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd yn nogfen strategaeth y Blaid Geidwadol yn hynny o beth.
Fel y dywedais, rydym yn cytuno â'r cynigion ynghylch hunanadeiladu. Rydym hefyd yn cytuno bod gan dai modiwlar a gweithgynhyrchu oddi ar y safle ran bwysig a chynyddol i'w chwarae. Bydd sefydliadau tai yn gallu dysgu o'r prosiectau cyffrous sy'n dechrau dod i'r amlwg drwy'r rhaglen tai arloesol, ac edrychaf ymlaen at ymweld â datblygiad cyfleuster tai modiwlar yng ngogledd Cymru cyn bo hir i weld beth y gallwn ei wneud i annog pob un o'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i fanteisio ar y rhaglen adeiladu tai modiwlar, a fydd yn cyflymu'r broses adeiladu pan fyddwch wedi dechrau arni yn y lle cyntaf.
Rydym hefyd yn cynorthwyo bron i 8,000 o bobl i brynu cartref drwy Cymorth i Brynu—Cymru. Er mwyn dylanwadu ar ymddygiad adeiladwyr, mae gwahardd y defnydd o'r cynllun ar gyfer tai lesddaliadol newydd wedi dileu'r arfer fwy neu lai yn llwyr yng Nghymru. Y mesurau hyn oedd y cyntaf o'u bath yn y DU. Maent wedi helpu i sicrhau cytundeb y pum cwmni adeiladu tai mwyaf yng Nghymru na fyddent mwyach yn gwerthu eu tai ar sail lesddaliadol. Credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwyf am edrych i weld a oedd hynny'n ddigonol neu a oes angen inni roi camau ychwanegol ar waith.
Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed i ailddechrau defnyddio 5,000 o gartrefi gwag yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Ceir llawer o eiddo gwag, fodd bynnag, na wneir unrhyw beth yn ei gylch, fel y nododd Mike Hedges a nifer o bobl eraill. Byddwn yn edrych i weld pa gamau pellach y gellid eu rhoi ar waith i helpu i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys gwneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt i annog camau i ailddechrau defnyddio tai gwag, gan gynnwys rhai o'r darpariaethau treth gyngor a roddwyd ar waith gennym ac ysgogiadau treth eraill—y dreth ar dir gwag ac yn y blaen. Credaf ein bod yn edrych ar dreth eiddo gwag hefyd fel rhywbeth y gallem ei ddatblygu yn y dyfodol i geisio annog camau i ailddechrau defnyddio'r tai hyn.
Maddeuwch imi, ni allaf gofio pa Aelod a'i dywedodd, ond byddaf yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud am y fenter Troi Tai'n Gartrefi—rwy'n credu efallai mai Suzy Davies a wnaeth. Rwy'n cytuno nad yw wedi'i deall yn dda gan bawb, a chredaf y gallem wneud llawer mwy â'r fenter honno, yn enwedig mewn ardaloedd lle y cafwyd crynodiadau mawr o dai amlfeddiannaeth a fyddai'n elwa'n fawr o gael eu troi'n ôl yn gartrefi at ddefnydd teuluoedd.
Weinidog, mae angen i chi ddirwyn—
Rwy'n dod â fy sylwadau i ben—diolch ichi, Lywydd.
Mae hon yn ddadl i'w chroesawu'n fawr iawn. Gallwch weld o gymhlethdod y sylwadau o amgylch y Siambr cymaint y gallwn ei gynnig yn y lle hwn. Felly, rwyf am gloi—mae gennyf lawer mwy y gallwn ei ddweud o ran yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, ond rwyf am gloi'r ddadl yn y modd hwn. Rwy'n croesawu'n fawr unrhyw gyfraniad gan unrhyw Aelod o gwmpas y Siambr sydd o'r farn fod ganddynt rywbeth a fyddai'n ein helpu i gynyddu'r cyflenwad tai. Dyna yw nod pawb yma—ein nod cyffredin—ac rwy'n hapus iawn i gael cyfarfodydd ychwanegol ag unrhyw un neu grwpiau o bobl, neu grwpiau pleidiol, neu unrhyw beth arall i weld sut y gallwn fwrw ymlaen â rhai o'r awgrymiadau y mae pawb ohonom yn cytuno â hwy, a sut y gallwn leihau'r gwahaniaethau a manteisio i'r eithaf ar y tir cyffredin rhyngom er mwyn cael y cyflenwad o dai sydd ei angen ar Gymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd.
Dechreuodd David Melding y ddadl hon drwy ddyfynnu o araith yn 2004 yn rhybuddio am argyfwng tai, ac eto dyma ni yn mynd i'r afael â marchnad dai doredig gydag anghyfiawnder cymdeithasol o ganlyniad i hynny. Mae'n fy atgoffa o fod yn rhan o'r dadleuon hynny yn 2004, yn cefnogi ymgyrch a unai'r sector elusennol a'r sector masnachol ym maes tai ar draws Cymru, ac a rybuddiai ynghylch argyfwng tai os na châi camau eu rhoi ar waith ar frys. Fel y dywedais ar y pryd, mae tai yn gyfrwng allweddol ar gyfer adfywio cymdeithasau a chymunedau. Mae'n ofid fod pobl, yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, bellach yn cydnabod hynny ar ôl colli cymaint o gyfle.
Cyfeiriodd at yr effaith ddinistriol ar deuluoedd ifanc, pobl hŷn a digartrefedd, yr angen am gonsensws gwleidyddol newydd i ddatrys yr argyfwng, a chyfeiriodd at y cynsail a osodwyd ar ôl yr ail ryfel byd, at darged Llywodraeth y DU o 300,000 o gartrefi bob blwyddyn, at y galw am dai neu, yn benodol, at y cynnydd yn y galw am dai, lansiad strategaeth dai y Ceidwadwyr Cymreig, 'Cartrefu Cenedl', y mis diwethaf, ac mae David yn haeddu clod aruthrol amdani—diolch ichi, David—a'r gydnabyddiaeth fod angen buddsoddi a benthyca cyfalaf os ydym yn mynd i fwrw ymlaen â hyn, gan adlewyrchu'r adroddiad a lywiwyd gan David ond hefyd yr adroddiad gan Shelter wrth gyfeirio at Loegr.
Cyfeiriodd Leanne Wood at adroddiad yn dangos yr angen am hyd at 12,000 o gartrefi y flwyddyn, gyda 37 y cant ohonynt yn y sector cymdeithasol. Mae hynny mewn gwirionedd yn adlewyrchu nifer o adroddiadau dros nifer o flynyddoedd, a phob un yn nodi lefelau tebyg o angen. Ond mewn gwirionedd, fel y nodwyd gennych, rydym wedi bod yn adeiladu llai na hanner y lefel honno.
Cyfeiriodd Nick Ramsay at brinder cartrefi hyblyg a gydol oes, a hefyd at y rôl allweddol y mae cymdeithasau tai di-elw yn eu chwarae yn hynny fel mewn cymaint o bethau eraill, at y modd y mae prisiau tai chwe gwaith y cyflog cyfartalog, at y capasiti a wastreffir yn y 27,000 amcangyfrifedig o gartrefi gwag yng Nghymru, a'r angen i dai cynaliadwy fod o fewn cymunedau cynaliadwy.
Cyfeiriodd Mike Hedges at y rhwystrau i brynwyr tro cyntaf ac i rentu—y cynnydd mewn aelwydydd un person a phensiynwyr. Dywedodd nad oedd cymdeithasau tai yn adennill y nifer o dai cyngor a gollwyd, er i hynny ddigwydd erbyn 1997 wrth gwrs, a soniodd am yr angen am ragor o dai cyngor, rhywbeth sy'n bosibl bellach wrth i Lywodraeth y DU godi'r cap ar fenthyca a rhoi caniatâd i adael y cyfrif refeniw tai sy'n golygu y gellir defnyddio elw gan denantiaid hefyd bellach i adeiladu tai cyngor newydd. Ond fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthyf ddoe mewn ymateb i fy nghwestiynau, rhaid i hynny fod mewn partneriaeth â chymdeithasau tai er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a hefyd yr effaith orau o ran adfywio cymunedol. Nid brics a morter yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â bywydau a chymunedau.
Soniodd Mark Reckless am effaith cynnydd ym mhrisiau tai, a'r angen i annog gwaith adeiladu a thwf.
Dywedodd Gareth Bennett na fyddai targed Llywodraeth Cymru yn ateb y galw a bod angen cymysgedd o dai sy'n wirioneddol fforddiadwy.
Soniodd Suzy Davies am yr angen i edrych ar y math o dai a lleoliad tai, yr angen i alluogi hawl i brynu, a bellach, diolch i Lywodraeth y DU, i allu buddsoddi'r elw ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol newydd, y defnydd o'r cynllun Cymorth i Brynu ar gyfer ailddechrau defnyddio eiddo gwag yn ogystal ag ar gyfer adeiladu tai newydd, a gwaith yr elusen ddigartrefedd Wallich gyda landlordiaid preifat i fynd i'r afael â digartrefedd.
Soniodd Hefin David am yr angen i gymell datblygu mewn ardaloedd nad ydynt yn ateb y galw, ac mae hynny'n allweddol wrth gwrs.
A soniodd y Gweinidog, Julie James—rwyf innau hefyd yn ei chroesawu i'w rôl newydd ac i siarad am hyn am y tro cyntaf yn ei phortffolio newydd—am yr angen i flaenoriaethu a gweithio gyda'n gilydd, a'r angen i dderbyn llawer, fel y mae hi'n ei wneud, o ddogfen y Ceidwadwyr Cymreig. Cyfeiriwyd at rôl y model ymddiriedolaethau tir cydweithredol a chymunedol. Yn wir, os edrychwch yn ôl, mewn gwirionedd, ar Gynulliadau blaenorol, mae hynny wedi'i ddatblygu, ac efallai yr hoffech edrych ar beth oedd canlyniadau hynny. A'r angen i annog mentrau bach a chanolig, adeiladwyr bach, hunanadeiladu, tai modiwlar, a'r flaenoriaeth yw darparu tai cymdeithasol, a dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi colli golwg ar hynny. Yn anffodus, yn negawd cyntaf y ganrif hon, gostyngodd y cyflenwad o dai fforddiadwy newydd gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru 73 y cant dros y degawd blaenorol, sy'n dangos, yn anffodus, fod Llywodraethau Cymru blaenorol wedi colli golwg ar hynny. Felly, fel y dywedais lawer blwyddyn yn ôl yn y Siambr hon yng nghyd-destun y rhybuddion ynglŷn â'r argyfwng tai sydd bellach gyda ni, gadewch inni roi cartref i dai yng Nghymru unwaith eto, gan gydnabod, fel y dywedais yn gynharach, nad yw'n fater o frics a morter yn unig; mae hyn yn ymwneud â gwell bywydau, bywydau iachach ac ailadeiladu cymunedau cynaliadwy.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rwy'n mynd i symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen. Nac oes. Iawn. O'r gorau.