7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfraddau Treth Imcwm Cymru

– Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:35, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfraddau treth incwm Cymru, a galwaf ar Nick Ramsay i wneud y cynnig—Nick Ramsay.

Cynnig NDM6921 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad. 

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:35, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig. I ddyfynnu'r Seneddwr Bobby Kennedy yn 1966:

Hoffi'r peth neu beidio, rydym yn byw mewn cyfnod diddorol. 

Wel, hoffi'r peth neu beidio, rydym eto heddiw'n byw mewn cyfnod diddorol, ac mae trethi datganoledig gyda ni, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio. Fel y gwyddom, o Ebrill 2019, bydd gan y sefydliad hwn bŵer i amrywio cyfraddau treth incwm, sy'n arf pwerus yn ogystal â threthi Cymreig newydd eraill—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hyn yn ychwanegol at bwerau sydd eisoes yn bodoli i godi ac i bennu ardrethi busnes. Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gael oddeutu £5 biliwn mewn refeniw treth o fis Ebrill ymlaen.

Felly, sut y mae gwneud i hyn weithio yn y ffordd orau er budd bobl Cymru? Yn bwysicach, sut y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau treth newydd hyn i gynhyrchu twf yn ein heconomi? Wrth gwrs, mae'r rhain yn gwestiynau na fu angen inni eu gofyn yng Nghymru hyd yma. Maent yn gwestiynau mawr ynglŷn â sut y rheolwn arian cyhoeddus, sut yr awn â'r bobl gyda ni ar y daith hon, sut y datblygwn berthynas well rhwng y Llywodraeth a'r bobl, perthynas sy'n briodol ar gyfer yr oes fodern, perthynas sy'n briodol ar gyfer oes newydd o atebolrwydd i'r Cynulliad hwn.

Bu'n fraint cael bod ar Bwyllgor Cyllid y Cynulliad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i'r materion hyn gael eu trafod yn fanwl. Daeth llawer o syniadau da gan Aelodau o bob plaid. Dyna sut y dylai fod. Nid yw datganoli trethi'n fater sy'n perthyn i un blaid, un grŵp yn unig, mae'n perthyn i bob un ohonom. Ein cyfrifoldeb ni yw cael hyn yn iawn, yn y meysydd lle y mae trethi eisoes wedi'u datganoli ac ym maes treth incwm yn ogystal, er mwyn i'r pwerau newydd allu llwyddo, ac fel y dywedwn mor aml yn y Pwyllgor Cyllid, nid yn unig er mwyn iddo lwyddo ond er mwyn gwneud Cymru'n batrwm o arferion gorau.

Sut y gallwn ddenu rhai sy'n creu swyddi, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid i Gymru i sefydlu busnesau newydd, creu swyddi newydd a chyfoethogi ein heconomi? Gall trethi ein helpu i wneud hyn oll, ond rhaid defnyddio'r pwerau newydd hyn yn y ffordd iawn er mwyn denu cefnogaeth a meithrin buddsoddiad, yn hytrach na mygu uchelgais a dyhead. Dengys tystiolaeth fod economïau trethiant isel yn fwy ffafriol i fusnesau newydd, gallant ddenu'r rhai sy'n creu swyddi, a gallant gynyddu refeniw mewn gwirionedd am eich bod yn annog mwy o weithgarwch economaidd.

Yn y pen draw, golyga hyn fod gennym fwy o arian i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf. Gadewch inni fod yn onest, mae angen buddsoddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ni allwn ganiatáu i Gymru lusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU o ran faint o arian sydd gennym i'w wario ar ei fuddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai. Felly, rwyf eisiau i economi Cymru fod yn fwy cystadleuol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i'r economi fod yn fwy cystadleuol. Credaf y byddai pob plaid a gynrychiolir yn y Siambr hon yn dymuno gweld hynny'n digwydd. Mae angen inni annog pobl i ddod yma i sefydlu busnesau newydd a chreu'r swyddi medrus newydd sydd eu hangen arnom.

Yr Athro Gerry Holtham oedd un o'r academyddion cyntaf i ystyried y manteision y gallai trethi datganoledig eu creu i Gymru. Tynnodd sylw at y ffaith mai ychydig iawn o effaith a gâi gwneud mân addasiadau i gyfradd sylfaenol y dreth incwm ar y sylfaen drethu, ar wahân i beidio â chodi symiau enfawr o arian, am fod y rhai sy'n talu treth incwm ar y gyfradd sylfaenol yn tueddu i fod yn llai symudol na threthdalwyr ar y gyfradd uwch. Yn wir, daeth i'r casgliad mai'r newid mwyaf cynhyrchiol i drethiant fyddai gostyngiad o 10c yn y bunt i'r cyfraddau uwch gan y gallai arwain at ddenu trethdalwyr ar y gyfradd uwch o'r ochr arall i'r ffin, yn ogystal ag annog entrepreneuriaeth a dyhead yng Nghymru.

Un peth sy'n glir yw bod angen inni dyfu sylfaen drethu Cymru'n sylfaenol a gwella ei strwythur. Ar hyn o bryd, dwy ran o dair yn unig o'r gyfran o drethdalwyr ar y gyfradd uwch sydd gennym yng Nghymru o gymharu â Lloegr, a chwarter yn unig o'r gyfran o drethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:39, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol y gwaith a wnaeth Steffan Lewis ar drethiant yn ystod ei amser yma. Y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud, fodd bynnag, yw ein bod wedi cymharu â Lloegr, ond o hepgor Llundain a de-ddwyrain Lloegr, yn sydyn iawn nid ydym mor wahanol â hynny. O ran y trethi a godir, gwyddom mai de-ddwyrain Lloegr a de Lloegr yw'r unig ddwy ardal sy'n talu mwy o dreth nag a gânt yn ôl.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch yn y fan honno, Mike. Yn gyntaf, ar Steffan Lewis, roedd yn aelod gwerthfawr o'r Pwyllgor Cyllid ers iddo ddod yn aelod ohono yn 2016. Gwn ein bod i gyd yn teimlo, nid yn unig y tristwch o'i golli yn y Siambr hon, ond hefyd y tristwch o golli'r ysbryd a gyfrannodd yn y pwyllgor. Roedd ganddo bob amser safbwynt gwahanol, ac mewn materion fel datganoli trethiant, pan ddatganolir treth incwm fe welwn golli ei lais wrth ddadansoddi'r ddadl honno, ac mae hynny'n drasig, ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg hon.

Yn ail, rydych yn gywir: os edrychwch ar dde-ddwyrain Lloegr ar wahân i Loegr, ydy, mae'n ystumio'r sylfaen drethu ar draws y DU gyfan. Roedd gwahaniaeth rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU yn ogystal, felly dyna oedd y pwynt y ceisiwn ei wneud, ond rydych yn gywir, nid yw mor fawr os nad ydych yn cynnwys de-ddwyrain Lloegr, ac nid ydym yn mynd i gael economi fel de-ddwyrain Lloegr—ni fyddem ei heisiau, chwaith—nid yn y blynyddoedd nesaf yn sicr. Dau bwynt dilys.

Felly, mae'n bwysig ein bod yn cadw trethdalwyr a'n bod yn tyfu'r sylfaen drethu. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy, ac nid wyf yn dweud 'anghynaliadwy' yn y ffordd y byddem fel arfer yn ei ddefnyddio yn y dadleuon hyn, oherwydd yn amlwg bydd yr hyn a dderbynnir mewn trethi yno, ond os ydym am gael derbyniadau treth sy'n bodloni ein dyheadau, sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau, credaf y byddem oll yn cytuno fod angen inni ei gynyddu, ac mae hynny'n golygu cael cyfraddau treth cystadleuol.

Os ydym am fod yn wlad fwy ffyniannus, mae angen system dreth sy'n annog twf cyflogau. Nid wyf yn ymddiheuro am fod eisiau i bobl yng Nghymru ennill mwy, oherwydd os yw pobl yn ennill mwy, mae'r derbyniad treth yn fwy a cheir mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Nawr, clywsom lawer o sôn heddiw am godi treth incwm. Ymddengys mai dyna lle y canolbwyntiodd y rhan fwyaf o'r drafodaeth. Ond ni chlywsom lawer am amrywio cyfraddau treth mwyach, cyfraddau treth incwm, na gostwng cyfraddau treth yn wir. Credaf fod angen inni glywed ychydig mwy am fanteision hynny gan Lywodraeth Cymru, ynglŷn â sut y gallwn gynhyrchu mwy o refeniw drwy gynnig cyfraddau treth deniadol fel bod pobl yn dymuno dod i fyw yng Nghymru, a bod y bobl yma sy'n awyddus i fuddsoddi yn ein heconomi ag arian i wneud hynny.

Er fy mod yn cydnabod bod cyfraddau treth incwm yn aros yn sefydlog eleni, ac mae hynny i'w groesawu, cafwyd cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i hyn, er gwaethaf addewid yn 2016 i beidio â chodi treth incwm tan 2021 ar y cynharaf. Mae'r hen ddadleuon ynglŷn â chodi trethi i gynyddu refeniw i'w wario yn rhy syml ac wedi dyddio wrth gwrs. Mae unrhyw beth sy'n mygu entrepreneuriaeth yn niweidio'r economi yn y pen draw ac yn lleihau derbyniadau treth.

Mae gennym ffin hir a thyllog iawn â Lloegr, ac os oes gan Gymru gyfradd uwch o dreth incwm, dros amser byddech yn gweld cynnydd yn y bobl sy'n symud ar draws y ffin, oddi yma, gan fynd â busnesau, swyddi a photensial economaidd i Loegr, a byddai'r dreth yn mynd i Drysorlys y DU, nid i Drysorlys Cymru. Cyn i Mike Hedges ymyrryd, os yw'n meddwl gwneud hynny, rwy'n sylweddoli nad yw mor syml â dweud y byddai hynny'n digwydd dros nos, ond dyna fyddai'r perygl dros y tymor canolig, sefyllfa hirdymor. Nid oes neb ohonom am i hynny ddigwydd.

Pan gynyddodd yr Alban gyfraddau treth yn 2017 ar gyfer y cyfraddau uwch ac ychwanegol o geiniog yn y bunt, gwelwyd miloedd o drethdalwyr y gyfradd uwch ac ychwanegol yn gadael. Cafwyd twll du yng nghyllid y wlad. Mae angen inni osgoi hynny yma, ac rwy'n sylweddoli nad yr Alban yw Cymru—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud y pwynt hwnnw. Yn aml, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dweud nad Cymru yw Lloegr, felly buaswn yn derbyn y sail dros y pwynt hwnnw. Ond serch hynny, mae'r Alban wedi mynd beth o'r ffordd i lawr y llwybr hwn. Maent ar y blaen inni o rai blynyddoedd o safbwynt datganoli treth incwm, felly mae gwersi gwerthfawr y gellir eu dysgu ac y dylid eu dysgu.

Wrth gwrs, mae datganoli treth incwm yn ffitio i dirlun ehangach datganoli trethi a mwy o atebolrwydd. Mae'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi eisoes gyda ni, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried trethi newydd. Gwyddom fod treth ar dir gwag ar y gweill i roi prawf ar y system; cafodd treth twristiaeth ei gwrthod, ond mae'r drws yn dal ar agor i awdurdodau lleol wneud hynny; treth gofal cymdeithasol, cawsom rywfaint o drafodaeth ynglŷn â hynny. Felly, mae pob math o drethi ar y ffordd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni edrych ar fanteision trethiant isel yn ogystal â threthi newydd megis treth gofal cymdeithasol, a gallai fod rhai manteision i hynny yn y tymor hwy.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan bob Aelod i'w gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Rydym wedi edrych ar y gwelliannau, felly, gan droi'n fyr at y ddau welliant, byddwn yn cefnogi gwelliant 1 am ein bod yn teimlo ei fod yn gwella'r cynnig. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, er y buaswn yn sicr yn cefnogi dadl aeddfed ar y materion sy'n codi. Ond rydym yn teimlo, ar hyn o bryd, fod y gwelliant yn glastwreiddio ein cynnig gwreiddiol, sy'n sôn am fanteision economi treth isel. Felly, er ein bod yn cefnogi ysbryd y gwelliant hwnnw, ni fyddwn yn ei gefnogi ar ddiwedd y ddadl hon.

Felly, gadewch inni gael dadl aeddfed ynglyn â sut y gallwn ddefnyddio ysgogiadau treth i wneud economi Cymru yn fwy deinamig a ffyniannus, a gadewch inni gael gwared ar unrhyw ddryswch ynghylch cynlluniau treth Llywodraeth Cymru am weddill y tymor Cynulliad hwn. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud o ran cadw at yr ymrwymiad hwnnw i beidio â chodi cyfraddau treth, cyfradd treth incwm Cymru, hyd nes 2021, a chadw economi dreth isel a chystadleuol y tu hwnt i hynny, gobeithio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:44, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn ei enw. Rhun.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ond yn pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:

Yn annog trafodaeth sifig aeddfed ynglyn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:45, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I daflu dyfyniad Bobby Kennedy yn syth yn ôl atoch, Nick Ramsay—pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, rydym yn byw mewn cyfnod diddorol. O ran datganoli trethi, rydym yn hoffi hynny'n fawr iawn ar yr ochr hon i'r Cynulliad Cenedlaethol, oherwydd mae hwn yn gyfnod hanesyddol.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Mae'r rhain yn ddyddiau hanesyddol i ni fel cenedl. Maen nhw'n ddyddiau hanesyddol i ni fel corff democrataidd newydd. Mae yna drethi neilltuol Cymreig yn cael eu codi am y tro cyntaf yn yr oes fodern, ac mae o'n gam pwysig i ni o ran aeddfedrwydd y Cynulliad, aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru a'r angen am newid diwylliant—am feddwl mewn ffordd wahanol ynglŷn â gwaith y Llywodraeth.

Mae'r Llywodraeth yn cael ei gorfodi i feddwl mewn ffordd fwy creadigol. Yn hynny o beth, wrth gwrs, does dim rhaid newid cyfraddau trethiant er mwyn i bwerau trethiant fod yn werthfawr. Fel y clywsom ni gan lefarydd y Ceidwadwyr: cynyddu sail y trethiant sydd yn bwysig. Dyna'r her rŵan: gwneud yn siŵr bod cyfleon economaidd yn cael eu creu sydd yn creu rhagor o dreth i gael ei thalu i wario ar wasanaethau yng Nghymru. Dyna pam, yn sicr, rydym ni'n cyd-fynd â chymal 1 yn y cynnig heddiw—

'cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru'— ond yn wir am ychwanegu ato fo, oherwydd mae yna lawer fwy na hynny iddi hi. Beth y mae ein gwelliant ni yn ei ddweud ydy bod ishio ychwanegu at hynny fod angen

'pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'

Mae hynny'n gwbl allweddol, wrth gwrs, a dwi'n gobeithio cael cefnogaeth i'r gwelliant hwnnw.

Er nad oes angen, yn angenrheidiol, newid cyfraddau treth, mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, fod yn barod i feddwl yn greadigol ynglŷn â sut i ddefnyddio pwerau i amrywio cyfraddau, a dyna pam na allwn ni gytuno i gefnogi cymal 2—nid oherwydd ein bod ni, fel plaid, ar hyn o bryd eisiau cynyddu treth incwm—dŷn ni ddim wedi dod i benderfyniadau ar hynny eto—ond am ein bod ni'n meddwl bod, rywsut, mynnu nad ydy'r Llywodraeth yn defnyddio'r pwerau yn gosod cynsail braidd yn anffodus ar ddechrau'r cyfnod yma o fabwysiadu pwerau trethiant am y tro cyntaf.

Mae'n rhaid inni fod yn barod i feddwl yn greadigol. Mi gawsom ni ein sefydlu fel corff a oedd yn gwario yn unig. Mae dod yn gorff sydd yn trethu yn rhan o aeddfedrwydd sydd yn rhan o'r daith genedlaethol rydym ni'n mynd arni hi fel gwlad. Doedden ni ddim yn deddfu ar y dechrau. Rydyn ni'n deddfu erbyn hyn, ac mae hynny, dwi'n gobeithio, yn mynd i'n galluogi ni i ddatblygu dros amser ffordd Gymreig o ddeddfu. Mi oedd gennym ni yn hanesyddol, wrth gwrs, ffordd wahanol neilltuol Gymreig o ddeddfu, ac rydw i'n meddwl am ddeddfau Hywel Dda, a oedd yn drawiadol o wahanol i'r math o ddeddfu sydd wedi dod yn nodwedd o'r Deyrnas Unedig fodern. Does yna ddim byd a ddylai ein hatal ni rhag datblygu model trethu sy'n wahanol ac sy'n neilltuol Gymreig, a dyna pam fynnwn ni ddim gweld cyfyngu ar bŵer unrhyw Lywodraeth i wneud penderfyniadau a all fod o les i bobl Cymru. Beth rydym ni'n ei ddweud yn ein hail welliant ni, sydd yn dileu pwynt 2 y Ceidwadwyr, ydy ein bod ni am

'annog trafodaeth sifig aeddfed ynglŷn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.'

A beth rydym ni'n ei feddwl wrth hynny ydy ein bod ni'n mynd ar daith tuag at greu model Cymreig o drethiant, ac rydw i'n gwahodd y Ceidwadwyr hefyd i wneud hynny.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:49, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Os caf gyfeirio at fater codi trethi, a grybwyllwyd gennych. Golyga codi trethi ddod â threthi i mewn, wrth gwrs, ond yn rhy aml meddylir amdano fel 'codi'—eu gwneud yn uwch. Nawr, ceir dadleuon dros godi trethi, a cheir dadleuon, fel y clywsom gan Nick Ramsay, dros ostwng trethi. Yr hyn rwyf am i bobl ei weld yng Nghymru yn y dyfodol, wrth inni ddatblygu system dreth, yw bod pobl yn gweld ein bod yn datblygu rhywbeth sy'n deg. Nawr, mae gennym bwerau treth cyfyngedig ar hyn o bryd. Dros amser, rwy'n gobeithio, ac rwy'n hyderus y bydd hynny'n newid. Mewn sefyllfa lle y mae gennych lu o ysgogiadau treth ac ysgogiadau ariannol ar gael at eich defnydd, gallwch godi rhai a gostwng rhai eraill. Mae'n ymwneud â sicrhau cydbwysedd a gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu gweld bod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau system sy'n deg o ran yr hyn a ddaw i mewn, fod pwysau'r cyfrifoldeb ar y sawl sy'n talu fwyaf yn deg, a'n bod yn gallu gwneud cyfraniad teg, oherwydd y system dreth honno, i'r modd y gwariwn arian ar wasanaethau cyhoeddus. Dechrau'r daith yw hyn, ac nid wyf am gyfyngu'r Llywodraeth hon nac unrhyw Lywodraeth wrth inni geisio ffurfio'r system dreth Gymreig honno ar gyfer y dyfodol.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:50, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Bwriadwyd i ddatganoli wella perfformiad economaidd Cymru yn sylweddol. Un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ar ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Dywedwyd wrthym na ellid datrys problemau economi Cymru heblaw drwy atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru. Ac eto, gan Gymru y mae'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig, mae Cymru'n parhau i fod ar waelod tabl cynghrair gwledydd y DU o ran gwerth ychwanegol gros, ac mae gwerth ychwanegol gros yng Nghymru yn parhau gryn dipyn yn is na'r targed gwreiddiol o 90 y cant o gyfartaledd y DU. Enillion Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig o hyd, a Chymru, ynghyd â Gogledd Iwerddon, a gofnododd y gyfradd twf isaf o incwm gwario gros aelwydydd y pen yn y 10 mlynedd diwethaf.

Mae datganoli pwerau i amrywio treth incwm yng Nghymru o fis Ebrill eleni yn garreg filltir bwysig yn y broses ddatganoli. Mae hefyd yn gyfle enfawr i weddnewid datblygiad ac amgylchedd ein heconomi yn radical. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw arian ei hun. Mewn gwirionedd, trethiant yw'r arian a godir gan y Llywodraeth i redeg y Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth yn ariannu ei gwariant drwy osod taliadau ar ddinasyddion ac endidau corfforaethol ar gyfer y wlad, i Lywodraeth weithredu drwy drethiant ac annog neu atal penderfyniadau economaidd penodol.

Nid oes arian gan y Llywodraeth, fel rydym wedi dweud. Daw pob ceiniog y mae'r Llywodraeth yn ei wario oddi wrth y trethdalwr. Drwy alluogi pobl i gadw mwy o'r arian a enillant, rydych yn caniatáu iddynt wneud eu penderfyniadau gwario eu hunain. Economïau treth isel yw'r economïau mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae torri trethi'n hwb i'r economi, yn cynyddu twf economaidd, ac yn sicrhau safonau byw uwch. Ni all Cymru fforddio system dreth sy'n gweithredu fel rhwystr i dwf a dyhead economaidd. Ac mae'r baich treth ychwanegol ar drethdalwyr Cymru yn cynyddu'r risg y bydd yn rhwystro twf economaidd ac yn talu'r pris mewn swyddi.

Yn ei maniffesto ar gyfer etholiad 2016, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod eu tymor Cynulliad. Fodd bynnag, maent wedi dweud y byddant yn ystyried y gyfradd dreth yn ofalus, er mwyn, ac rwy'n dyfynnu, sicrhau eu bod yn parhau i gynhyrchu refeniw digonol.

Dri mis yn ôl yn unig, dywedodd y Prif Weinidog newydd, ac rwy'n dyfynnu:

Nid wyf yn mynd i symud oddi wrth ymrwymiad ein maniffesto oni bai fy mod yn cael fy nghymell i wneud hynny, ond nid wyf yn diystyru'r posibilrwydd y gallai amgylchiadau newid mewn ffordd a allai fod yn gymhellgar o ran eu heffaith.

Cau'r dyfyniad.

Mae'n amlwg na ellir ymddiried yn Llywodraeth Cymru i gadw ei haddewidion maniffesto. Peidiwch â chamgymryd, byddai unrhyw gynnydd yn y dreth yn cael ei hanelu at, ac yn taro'r rhai sy'n talu'r gyfradd dreth sylfaenol. Byddai'r rhan fwyaf o drethdalwyr yn y sefyllfa hon yn gorfod ysgwyddo baich trethi uwch. Fodd bynnag, ni ddylem danbrisio'r effaith a gaiff cynyddu'r dreth ar allfudo. Mae'r adroddiad a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Sylfaen Dreth Cymru', wedi cydnabod ei bod yn debygol y byddai ymateb i'w weld yn ymddygiad trethdalwyr. Byddai'n cynnwys unigolion yn chwilio am swyddi eraill, a newid nifer yr oriau y byddent yn ei weithio, ac allfudo o Gymru. Nid ni ar yr ochr hon i'r Cynulliad yw'r unig rai sy'n pryderu yn y fath fodd. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi cydnabod yn briodol yn y cod y dylai codi treth incwm Cymru fod yn gam olaf ac nid yn ymateb cyntaf, ac mewn Cyfarfod Llawn y mis diwethaf, dywedodd Lynne Neagle ei bod yn gorfod tawelu meddyliau etholwyr a oedd wedi cael llythyr gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'u bod yn bryderus ynglŷn â'r posibilrwydd o gynyddu'r dreth yng Nghymru. Weinidog, mae gennych bŵer i dawelu meddyliau pobl. Rwy'n gofyn i chi yn awr: manteisiwch ar y cyfle hwn i ailddatgan eich addewid ym maniffesto'r etholiad i ddatgan yn glir na fydd y dreth incwm yn codi yn ystod y tymor Cynulliad hwn. O fis Ebrill eleni, gwn fod y gyfradd sylfaenol yn gostwng o 20 i 10 y cant, a'r gyfradd uwch o 40 i 30 y cant, a'r gyfradd ychwanegol o 45 i 35 y cant. Mae hyn yn mynd i gael effaith fawr, a gwerthfawrogir rhai meysydd o fewn trethiant yn fawr, Weinidog—sef eiriolaeth, sylfaen eang, cysondeb, cyfleustra, effeithlonrwydd, gwariant cyfyngedig, eithriadau a symlrwydd. Edrychaf ymlaen at eich ymateb ar y materion hyn. Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:56, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud cymaint rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r ddadl hon? Mae'r newid a'r twf yn y Cynulliad Cenedlaethol o gorff a oedd, i raddau helaeth, ond yn gweinyddu'r sector cyhoeddus pan y'i sefydlwyd yn 1999 i Senedd sy'n llywodraethu ein gwlad yn un a fydd yn profi pob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd. Ac mae'r Ceidwadwyr i'w canmol am gychwyn y prawf hwnnw y prynhawn yma.

Nid wyf yn credu bod y cynnig a gyflwynwyd ganddynt yn ateb her yr holl gyfraniadau a glywsom y prynhawn yma. Credaf ei bod hi'n bwysig inni gael dadl resymegol ac aeddfed ar drethiant. Rydym newydd fod drwy gylch cyllidebol ac wedi pleidleisio ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a'r hyn a glywsom ar bob ochr i'r Siambr, gan gynnwys fy ochr fy hun i'r Siambr, oedd galwadau am wariant ychwanegol. Ni allaf feddwl am un cyfraniad a wnaed, ar unrhyw bwynt yn y ddadl ar y gyllideb, lle y gofynnodd unrhyw Aelod yma am ostyngiad mewn gwariant. Roedd pawb yn gwario arian gyda phob araith a phob ynganiad.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Fe gymeraf ymyriad.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn meddwl efallai y byddai eich cyflog yn lle da i ddechrau.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y ddadl hon, Darren, a chan fy mod yn siarad am sgwrs aeddfed, mae Darren yn dangos yn union yr hyn nad oeddwn yn ei olygu. [Chwerthin.]

Felly, rydym wedi gwario arian a llwyddodd y Ceidwadwyr yn y cylch cyllidebol hwn i wneud rhywbeth na lwyddodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hyd yn oed i'w wneud—rwyf wedi digio Kirsty yn awr—sef gwario pob punt ddwywaith a theirgwaith. Ym mhob dadl a gawsom yma ar y gyllideb, ymateb y Ceidwadwyr i bob her sy'n ein hwynebu oedd gwario arian, nid diwygio. Rhaid taflu arian at bopeth, ond ni wnawn ddiwygio. A dyna'r prawf sylfaenol o'r cymeriad Ceidwadol. Mae'r Ceidwadwyr yn gwybod beth nad ydynt ei eisiau, ond nid ydynt yn gwybod beth y maent ei eisiau. Mae yno gysondeb o leiaf.

Ac mae hynny'n golygu bod angen inni gael y ddadl hon. Nid wyf yn rhannu'r ffetis am gael treth isel er mwyn cael treth isel yn unig. Nid wyf yn rhannu hynny. Credaf y dylem gael trethiant teg a rhesymol. Trethiant teg a rhesymol sy'n caniatáu i ni fuddsoddi yn ein pobl ac yn ein gwlad. System drethu sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau a'n gweledigaethau ar gyfer Cymru.

Os mai ein hunig uchelgais yw perswadio pobl sy'n dymuno arbed punnoedd treth i symud yma a thalu llai o dreth, beth y mae hynny'n ei ddweud wrth blentyn sy'n tyfu fyny ym Mlaenau Gwent? Beth y mae hynny'n ei ddweud wrth rywun—cawsom ddadl yn gynharach heddiw ar hawliau pobl hŷn—y wlad rydym eisiau i chi dyfu'n hen ynddi—? [Torri ar draws.] Gallaf eich gweld—mewn eiliad. Rhowch gyfle i mi orffen fy mrawddeg. Nid oes gan y wlad rydym eisiau i chi dyfu'n hen ynddi ddiddordeb mewn dim heblaw gostwng trethi. Nid oes gennym ddiddordeb yn y gwasanaethau a fydd yn eich cynnal ac yn cynnal eich teulu.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:59, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ildio—rwy'n crymu fy ysgwyddau, ond diolch ichi. Tybed efallai ein bod yn dweud wrthynt, drwy gael cyfraddau is ac efallai annog mwy o bobl i ddod i fyw a thalu treth yng Nghymru, y gallai fod mwy o refeniw i gynnal eu gwasanaethau?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Efallai eich bod yn dweud hynny, ond nid wyf yn siŵr ei bod hi'n ddadl sy'n argyhoeddi'n llwyr, ond fe gawn y ddadl honno.

Felly, beth a wnawn fel ymateb? Ni chredaf ei bod hi'n ddigon da, a bod yn onest, i Lywodraeth Lafur fodloni ar wneud wynebau ar y Ceidwadwyr a rhoi'r bai ar gyni am ein holl broblemau. Un o'r problemau sy'n rhaid inni eu hwynebu ac un o'r profion sy'n rhaid inni eu hwynebu yw cymryd cyfrifoldeb am rai o'r materion a wynebwn yma heddiw. Nid yw'n ddigon da dweud, 'Fel Llywodraeth Cymru, rydym am wario mwy o arian ar y gwasanaeth iechyd, ar lywodraeth leol, ar addysg neu beth bynnag. Mae gennym bŵer i godi'r arian hwnnw, ond rydym wedi gwrthod defnyddio'r pŵer hwnnw, ond rydym yn dal eisiau gwario mwy.' Nid yw hwnnw'n ymateb digonol bellach i'r heriau a wynebwn, ac mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn fwy nag y mae rhai pobl yn deall ac yn sylweddoli yn fy marn i.

Pan safodd Theresa May o flaen y gynhadledd Geidwadol yn yr hydref a dweud bod 'Cyni wedi dod i ben', roedd hi'n gyfan gwbl anghywir, ac roedd hi'n camarwain pobl yn sylfaenol, oherwydd os cymerwn wariant ar iechyd ar y lefelau presennol a'n bod yn cymryd yn ganiataol na fyddwn yn torri'r gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, byddwn yn gweld gostyngiadau yng ngwariant pob gwasanaeth arall er mwyn talu am hynny—pob gwasanaeth arall. Ac yng Nghymru, fel y mae Nick Ramsay wedi nodi ac fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, byddwn yn gweld gostyngiad yn y sylfaen drethu, a fydd yn cyfyngu ymhellach ar ein gallu i drethu yn y wlad hon. Felly, rhaid inni gael sgwrs sylfaenol am hynny a sgwrs aeddfed am hynny.

Hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn derbyn y ddau welliant gan Blaid Cymru y prynhawn yma, oherwydd credaf eu bod yn dangos ein bod yn fodlon cael y ddadl fwy aeddfed honno, ein bod yn barod i gymryd cyfrifoldeb, nid yn unig i basio penderfyniadau a gwneud areithiau, ond i weithredu fel Senedd mewn gwirionedd, i ddweud, os ydym am weld gwell gwasanaethau, y byddwn yn talu am y gwasanaethau gwell hynny, i fuddsoddi yn ein heconomi, i fuddsoddi yn ein seilwaith, i wneud y pethau y mae Senedd a Llywodraeth yn gorfod eu gwneud ac i wneud hynny'n seiliedig ar ein gwerthoedd.

A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, gyda'ch amynedd, Ddirprwy Lywydd, yw hwn: rwy'n gobeithio y bydd tegwch a chynaliadwyedd wrth wraidd y gwerthoedd hynny, oherwydd mae gennym gyfle drwy rannau o'r ddeddfwriaeth hon nid yn unig i symud cyfraddau treth incwm i fyny neu i lawr, ond i edrych ar dreth mewn ffordd wahanol ac i fabwysiadu a datblygu mathau newydd o drethiant ac i newid y model trethiant. A chredaf fod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn i ni hefyd, nid yn unig i fuddsoddi yn ein pobl a'n lle, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein dyheadau a'n gwerthoedd.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:02, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae rhywbeth ynglŷn â threthi'n codi ac yn gostwng sy'n bachu sylw'r genedl—TAW, prisiau petrol, toll ar alcohol, treth gyngor, treth incwm, yswiriant cenedlaethol. At eii gilydd, nid ydynt wedi'u datganoli, wrth gwrs, ond maent yn serennu'n rheolaidd ym mhenawdau cyllideb y DU. A dyna'r un adeg yn y flwyddyn pan fyddwn yn canolbwyntio ar sut y bydd y Llywodraeth yn rhoi ein harian yn ôl i ni gydag un llaw ac yna'n ei dynnu'n ôl gyda'r llall. Mae Llywodraethau angen derbyniad treth ac yn wleidyddol, wrth gwrs, mae gennym safbwyntiau gwahanol iawn ar ddiben trethiant, ond y safbwynt pragmataidd yw bod Llywodraethau angen arian er mwyn i'r wladwriaeth allu gweithredu, ond mae faint y mae'n ei gymryd a phwy yw'r enillwyr a'r collwyr yn effeithio ar y ffordd y mae'r gymdeithas yn gweithredu.

Mae penawdau cyllidebau treth yn bachu sylw'r cyhoedd mewn ffordd na all sôn am filiynau o bunnoedd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ei wneud, ac rwy'n credu bod yr un peth yn wir, mae'n debyg, am daliadau budd-daliadau yn ogystal, oherwydd mae'r rhan fwyaf o daliadau treth neu fudd-daliadau'n effeithio arnom yn uniongyrchol ac yn bersonol iawn. Er mor gymhleth yw'r manylion, gwyddom beth yw'r effaith ar ein slipiau cyflog neu ein biliau, ac rydym yn teimlo, Alun, pa mor deg yw hynny yn ein hamgylchiadau personol. Mae'n ein cymell i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'r arian a roesom i'r Llywodraeth er y lles cyhoeddus wedi'i wastraffu neu beidio, ac efallai mai defnydd Llywodraeth Cymru o'i phwerau trethu newydd fydd y cam a fydd yn gwneud i bobl Cymru edrych yn agos ac yn gyson o'r diwedd ar sut y mae'r Llywodraeth Lafur yn gwario eu harian, oherwydd dyna rydym yn sôn amdano wedi'r cyfan, fel y dywedodd Oscar: eu harian hwy.

Nawr, yn wahanol i mi, mae rhai o aelodau lleol fy mhlaid yn anghytuno ynglŷn â'r pwerau treth incwm sy'n dod i'r Cynulliad am nad ydynt yn ymddiried mewn Llywodraeth Lafur i wneud defnydd da ohonynt. Ac rwy'n ceisio eu darbwyllo mai dyma'r graig y bydd llong fawr Llafur yn cael ei dryllio arni yn y pen draw ac fe agorir llygaid y genedl, ond ymatebant drwy ddweud y bydd yn suddo Cymru gyfan yn y broses, ac oherwydd nad yw pobl yn gwahaniaethu rhwng y Weithrediaeth a ninnau, caiff enw da'r Cynulliad ei suddo hefyd. Ond nid risgiau i enw da yn unig yw hyn. Maent yn risgiau i allu'r genedl hon i greu mwy o gyfoeth, sydd ynddo'i hun yn gallu creu mwy o dderbyniadau treth, pwnc y ddadl hon. Mae'n well gan y Ceidwadwyr, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, amgylchedd treth is, felly rwyf am ailedrych ar y wireb nad yw gwneud treth yn fater sy'n ymwneud â'r bobl gyfoethocaf yn unig yn cynyddu derbyniadau treth. Nid yw'r ffaith fod y 10 y cant uchaf o drethdalwyr yn talu 60 y cant o'r dreth sy'n ddyledus i CThEM yn profi'r gwrthwyneb. Mae'n profi bod mwy o drethdalwyr ar y gyfradd uchaf ar gael—a dylem anelu at gael mwy ohonynt yng Nghymru—a bod y modd y mae'r Ceidwadwyr yn gostwng y trothwyon yn golygu bod trethdalwyr y gyfradd sylfaenol yn cyfrannu llai fel unigolion ac yn gyfunol.

Ni wrandawyd ar ein rhybuddion y llynedd ynglŷn â'r dreth uwch ar werthiannau eiddo masnachol ym mhen uchaf y farchnad, a bellach mae nifer gwerthiannau o'r fath wedi gostwng. Gwn nad yw'n cyd-fynd â barn rhai am y byd yn y fan hon, ond mae'r gwrthwyneb wedi bod yn wir yn yr Alban, lle mae ganddynt gyfradd is ar eiddo o'r fath. Ond cymharwch hynny â'r cynnydd yn yr Alban i rai sy'n talu'r gyfradd uwch o dreth incwm. Maent £0.5 biliwn allan ohoni yn eu mathemateg oherwydd bod y trethdalwyr hyn yn gadael neu'n addasu faint a enillant. Mae gennym lawer mwy o bobl yn teithio i'r gwaith ar draws y ffin na'r Alban, a bydd yn fwy na bod perchnogion busnes eisiau adleoli; gallai'r penderfyniadau a wnawn ynglŷn â threthi effeithio ar ble y bydd rhai o'n gweithwyr cyhoeddus ar gyflogau gwell yn dewis byw hefyd.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai o'r gyfradd sylfaenol y byddai'r adenillion posibl mwyaf yn dod yng Nghymru, ac mae'n werth cofio nad ymwneud ag enillion gweithwyr yn unig y mae hyn. Mae gennym sector microfusnesau anghorfforedig sylweddol iawn. Mae rhai o'r gweithredwyr mwy yn fusnesau yn hytrach na chwmnïau hyd yn oed, nid yn lleiaf mewn amaethyddiaeth, a rhaid i unrhyw benderfyniadau treth ystyried yr effaith a gaent ar fusnesau presennol yn ogystal â sut y gallent ddenu rhai newydd. Ni all pob busnes newydd sicrhau benthyciad fel cwmnïau newydd chwaith, felly gadewch i ni wrthsefyll y trethiant sy'n anffrwythloni'r pridd y gallem fod yn tyfu ein busnesau newydd ynddo.

Gair byr i gloi ar dreth ar dir pe bai'n temtio unrhyw un yn y dyfodol. Gwn fod hon wedi bod o ddiddordeb i'r Prif Weinidog presennol. Hoffwn ddweud nad braint yw perchnogaeth, sef y geiriau y mae'n eu dewis i'w ddisgrifio. Cyfrifoldeb ydyw; mae'n lleihau'r galw am dai cyhoeddus wedi'u tanysgrifennu gan drethdalwyr, ac mae'n sefyllfa sydd eisoes wedi'i threthi'n drwm yn barod: treth incwm ar enillion wrth i chi gynilo eich blaendal, gyda'r llog arno wedi'i drethu hefyd, y dreth trafodiadau tir cyn i chi brynu, yna'r dreth gyngor, wedyn TAW ar ffioedd proffesiynol, deunyddiau a llafur ar gyfer cynnal a chadw. Ac yna, o bosibl, yn dibynnu ar sut y gwnewch hyn, y dreth etifeddiant a threth ar enillion cyfalaf hyd yn oed. Ac os oes gennych ail eiddo fel buddsoddiad cyfrifol ar gyfer eich dyfodol, i dalu am eich costau gofal pan fyddwch yn hŷn efallai, caiff incwm o hwnnw ei drethu eto, ac wrth gwrs, gallech orfod talu treth gyngor ychwanegol, yn dibynnu ar statws yr eiddo hwnnw. Daw treth sy'n gostwng gwerth tir ac yn cyfyngu ar nifer gwerthiannau a phryniannau ag enillion lleihaol ac ecwiti negyddol yn ei sgil, ac nid wyf yn siŵr y byddech eisiau profi bod aelodau lleol fy mhlaid yn gywir os ydych yn ystyried treth ar dir. Diolch.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:07, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Pleser o'r mwyaf yw cymryd rhan yn y ddadl hon ac i ddweud ar y cyfan ein bod yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr oherwydd ein bod ninnau'n blaid treth isel hefyd, ac er ein bod yn derbyn bod yn rhaid talu am wasanaethau cyhoeddus, yr hyn sy'n bwysig yw maint y gacen yn fwy na'r ffordd y caiff ei thorri. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw tyfu economi Cymru os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus gwell, ac fel y gwyddom, mae galwadau cynyddol yn mynd i fod am wariant ar iechyd, fel y dywedodd Alun Davies yn gynharach. Rwy'n ei groesawu i ryddid y meinciau cefn. Roedd ei ragflaenydd gwych, Aneurin Bevan, fel yr Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy, yn arfer dweud ei fod yn hoffi siarad ar adain rydd, ac rwy'n siŵr fod Alun Davies yn debyg iddo yn hynny o beth, ac edrychwn ymlaen at lawer o'i gyfraniadau gwefreiddiol yn y blynyddoedd i ddod.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael amrywiaeth enfawr o gyfraddau treth yn y wlad hon. Gallaf gofio yn ôl yn y 1960au pan oedd gennym gyfraddau treth incwm a ai i fyny i 83c yn y £1, a 15 y cant arall ar ben hynny ar incwm buddsoddi. Ac yn y flwyddyn 1966-67, gosododd James Callaghan—rwy'n credu mai ef oedd Canghellor y Trysorlys ar y pryd—10 y cant ychwanegol o ordal. Felly, mewn gwirionedd 107 y cant oedd y gyfradd uchaf o dreth incwm. Nid yw'n syndod na chododd hynny fwy o refeniw. Yn wir, gwnaeth yn union i'r gwrthwyneb. Mewn gwirionedd, dengys pob tystiolaeth hanesyddol at ei gilydd ei bod hi'n amhosibl gwasgu mwy nag oddeutu 35 y cant o'r incwm cenedlaethol o drethi o bob math allan o bobl Prydain. Dangosir hynny gan y ffigurau a gyhoeddir ac sydd ar gael ar wefan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer yr 20 mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn 2000, roeddem yn cymryd 33.8 y cant o'r cynnyrch domestig gros mewn trethi, eleni mae'n 34 y cant. Aeth i lawr i 32.2 y cant yn y cyfamser, yn 2009, ond yn gyffredinol mae wedi rhygnu yn ei flaen ar y lefel honno, pa un a oes Llywodraeth Lafur, Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraethau clymbleidiol, Llywodraethau lleiafrifol neu Lywodraethau mwyafrifol. Mae lefel derbyniadau treth wedi gostwng mor isel â 31.6 y cant, ac ar ei uchaf roedd yn 37 y cant, ond ar gyfartaledd ni allwch fynd y tu hwnt i 35 y cant. Ac mae'r rheswm yn amlwg: mae pobl yn newid eu hymddygiad i adlewyrchu'r cefndir treth y maent yn byw ynddo.

Os awn yn ôl i'r ddeunawfed ganrif, efallai mai'r ffurf fwyaf enwog ar osgoi trethi oedd y dreth ffenestri; byddai pobl yn llenwi eu ffenestri â brics er mwyn lleihau'r dreth yr oedd yn rhaid iddynt ei thalu. Heddiw, mae gennym ffurfiau mwy modern na hynny o osgoi trethi, a rhaid i bob gwlad fod yn gystadleuol yn y byd os yw'n mynd i fanteisio i'r eithaf ar faint o dreth y gellir ei chodi ar gyfer cyfradd benodol, oherwydd nid yw trethdalwyr erioed wedi bod yn fwy symudol nag y maent heddiw; ni allai dim fod yn haws na symud i ran arall o'r byd. Ac wrth gwrs, o fewn yr UE, mae osgoi trethi yn waeth byth yn sgil rheolau treth Ewrop gyfan yr UE, a all alluogi cwmnïau i leoli yn Lwcsembwrg yn dechnegol, a thalu cyfraddau isel iawn o dreth yno, yn hytrach na'r cyfraddau treth a geir yn y gwledydd lle y byddant yn gwneud y rhan fwyaf o'u busnes. Felly, fel cyn-gyfreithiwr treth fy hun, a oedd yn ymwneud â dyfeisio cynlluniau i leihau trethi ar ran ein cleientiaid, gallaf ddweud bod diwydiant enfawr yn bodoli yn y 1970au, a phan fyddem yn gostwng y cyfraddau treth yn ddramatig, roedd yn beth da fod y diwydiant hwnnw'n gallu gwneud llai o arian am fod llai o waith i'w wneud. A defnyddiwyd galluoedd rhai fel fi yn fwy cynhyrchiol drwy wneud pethau eraill.

Wrth gwrs, gallwn fenthyca mwy o arian i dalu am wasanaethau cyhoeddus, ond nid yw hynny ond yn gwthio'r cyfrifoldeb am dalu am yr hyn a ddefnyddiwn heddiw ar ysgwyddau ein plant a'n hwyrion yfory, ac mae yna anfoesoldeb sylfaenol ynglŷn â hynny, yn enwedig os ydym yn gostwng gwerth arian er mwyn lleihau'r risg honno. Yn wir, ym Mhrydain, mae gennym sefyllfa, fel y dywedodd Suzy Davies, lle mae'r rheini sydd â'r incwm uchaf yn talu cyfran sylweddol iawn o'r derbyniadau treth incwm—mae'r 1 y cant uchaf yn talu 28 y cant o'r holl dderbyniadau treth incwm mewn gwirionedd, ac mae hynny wedi codi yn ystod y 19 mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn 2000, nid oedd ond yn 21 y cant. Mae'r 10 y cant uchaf, fel y nododd Suzy, yn talu 60 y cant o'r holl drethi ac nid yw'r 50 y cant isaf o drethdalwyr ond yn talu—wel, llai na 10 y cant o'r cyfanswm. Felly, mewn gwirionedd, mae'r cyfoethog yn ysgwyddo baich trethi, ond os ydych yn gwthio'r cyfraddau uwch o dreth incwm yn uwch eto, nid yw'n golygu y byddech yn codi rhagor o refeniw.

Nawr, mae gennyf farn wahanol ar ddatganoli trethi i'r un sydd gan lawer yn fy mhlaid; at ei gilydd roeddwn yn croesawu gallu Llywodraeth Cymru i godi rhan o'i refeniw o drethi, oherwydd credaf fod hynny'n cadarnhau'r naid rhwng gwariant a chodi refeniw, sy'n ein galluogi i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ni allant ddargyfeirio'r bai ar San Steffan am beth bynnag yw eu methiannau. Ond os yw Cymru i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n credu bod yn rhaid iddi gystadlu, â Lloegr wrth gwrs, ond â systemau treth mwy rhyngwladol yn ogystal. Fel rwy'n dweud yn gyson yn y mathau hyn o ddadleuon, rhaid inni ddyfeisio system dreth a all godi'r potensial i greu cyfoeth yng Nghymru, ac uchafu ein hincwm cenedlaethol yng Nghymru. Dyna sut y talwn am y galwadau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 5:13, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf a gaf fi ymddiheuro i gyd-Aelodau am gyrraedd yn hwyr i'r ddadl, ac yn arbennig i fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, y mae ei gyflwyniadau'n aml mor danbaid a'i berorasiynau? Felly, mae'n ddrwg gennyf fod wedi colli hynny. Clywais araith Neil Hamilton yn awr. Roeddwn yn ymwybodol ei fod yn arfer bod yn gyfreithiwr, ond nid oeddwn wedi sylweddoli ei fod yn arbenigwr ar osgoi trethi hyd nes y datgelodd hynny yn awr, a'i fod yn ystyried ei fod wedi gwneud defnydd mwy cynhyrchiol o'i fywyd ers hynny.

Clywais sylwadau Alun Davies yn gynharach a'i amheuon na allech byth gynyddu refeniw drwy gael cyfradd dreth is neu'r gwrthwyneb. Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn hoffi trethi newydd—y syniad o brofi'r system—ac mae gennym fan prawf yma. Ac mae'r cynnydd yn y dreth a gyflwynwyd ganddynt ar eiddo masnachol dros £1 miliwn; maent bellach yn codi 6 y cant yn hytrach na 5 y cant. Trafodais hyn gyda'r Prif Weinidog, bellach, cyn iddo ddigwydd a rhennais fy ofnau a chefais sicrwydd y byddai'n gwneud mwy nag ychydig o filoedd o wahaniaeth—neu ddim o gwbl, byddem yn ei glywed gan y meinciau cefn. Ond mewn gwirionedd mae gennym rai ffigurau ar hyn yn awr ac rwyf wedi dyfynnu arolwg gan gwmni o'r enw CoStar o'r blaen, cwmni sy'n monitro trafodiadau masnachol. Yn ail chwarter y flwyddyn, sef chwarter cyntaf y dreth trafodiadau tir, gwelsant fod swm trafodiadau masnachol yng Nghymru wedi disgyn i £40 miliwn yn unig. Mae hynny'n cymharu â chyfartaledd chwarterol blaenorol, dros y pum mlynedd diwethaf, o £180 miliwn.

Nawr, cefais fy meirniadu gan y Prif Weinidog am roi gormod o bwyslais ar ffigurau un chwarter, a dywedodd wrthyf fod un trafodiad mawr wedi dod drwodd yn y chwarter nesaf, a bellach mae gennym y ffigurau hynny—o'r arolwg hwn, o leiaf—ar gyfer chwarter tri, sef ail chwarter y dreth trafodiadau tir, a bu ychydig o gynnydd i £54 miliwn, felly nid ydym ond 70 y cant yn hytrach na 78 y cant yn is na'r hyn a welem cyn hynny. A phe baem yn cynyddu'r cyfraddau hynny i—[Anghlywadwy.]—gyda'i sylw yn gynharach, dros chwe mis arferol o'r hyn a oedd yn arfer bod yn dreth dir y dreth stamp, fe welwn y byddem wedi cael 5 y cant o dderbyniadau ar £180 miliwn y chwarter. Byddai hynny'n £18 miliwn dros chwe mis. Ers hynny, ar y rhifau hyn, gwelsom £40 miliwn a £54 miliwn—£94 miliwn—ac o gymryd 6 y cant o hwnnw, cawn £5.64 miliwn. Felly, os yw fy mathemateg yn gywir, dyna £12.36 miliwn o refeniw a gollwyd diolch i'r cynnydd o 1 y cant yn y dreth. A—[Torri ar draws.] Buaswn yn falch o dderbyn ymyriad.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:16, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Sut y gallwch brofi hynny? Mae'n anodd iawn, oherwydd nid ydych yn gwybod beth fyddai wedi digwydd fel arall. Ac rydych wedi ei gymharu â'r hyn sydd wedi digwydd mewn trafodiadau treth yng ngweddill Prydain? [Torri ar draws.] Na, gweddill Prydain, sy'n wahanol.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes gennym rifau gan yr awdurdodau treth eto—rhai dibynadwy o leiaf— oherwydd gall y trafodiadau ddod i mewn yn nes ymlaen. Felly, mae gennym arolwg ar sail gyson, a chredaf ei fod yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol. Yn y chwarter blaenorol, yn ystod y chwarter olaf cyn i hyn ddigwydd, credaf inni gael oddeutu £390 miliwn o drafodiadau, wrth i bobl ruthro i gael eu trafodiadau drwodd o dan hen drefn treth dir y dreth stamp yn hytrach na talu'r dreth trafodiadau tir i Lywodraeth Cymru, a dyna yw'r gwahaniaethau y gallwn eu gweld oherwydd trethi. Rwy'n cytuno bod y dreth trafodiadau tir ar gyfer eiddo masnachol mawr yn debygol o fod yn fwy sensitif i'r newidiadau hyn yn y cyfraddau nag y bydd llawer o drethi eraill, ond credaf fod hynny'n ymwneud â'r egwyddor, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus tu hwnt ynglŷn â'r hyn a wnawn gyda'r dreth incwm. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw, gan ei fod yn cyd-fynd â'u maniffesto, a beth bynnag yw ein barn am rinweddau'r ddadl, hyderaf fod gwleidyddion yn credu mewn cadw addewidion a chadw at eu maniffesto.

Ond os yw cyfraddau treth incwm yn newid yn y dyfodol, beth fydd effaith hynny? Oherwydd, dim ond y bandiau 10 y cant hyn sydd gennym, felly, i'r graddau bod y rheini'n codi, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn gweld colli refeniw ar y gyfran y mae'n parhau i'w chymryd. Ond ar yr ochr arall, mae yna bryderon y dylem bwyso o leiaf yr un mor drwm, oherwydd pan fydd pobl yn talu llai o dreth incwm ac yn dod o hyd i ffyrdd o ddatgan yr hyn a gâi ei ddatgan o'r blaen fel incwm naill ai fel enillion cyfalaf, neu gorffori a thalu treth gorfforaeth a threth ar ddifidend pan fyddant yn tynnu arian allan o gwmnïau yn unig, bydd y trethi hynny'n mynd i Lywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Felly, pe bai gennym gyfradd ychydig yn is o dreth, ac i rywun a oedd yn talu 40 y cant o dreth yn Lloegr, pe baent yn talu 38 y cant yng Nghymru, efallai y byddant yn ymateb drwy dalu'r gyfradd dreth honno, yn hytrach nag ymgorffori a thalu treth ar ddifidend neu dalu treth ar enillion cyfalaf. A byddai'r budd i ni o hynny yn ddeublyg, oherwydd ni fyddai'r refeniw o'r ddwy dreth arall honno yn mynd i Lywodraeth y DU, a byddai'r refeniw hwnnw'n dod i mewn fel treth incwm—sylfaen dreth incwm newydd—i gael y gyfradd honno i gyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried y cynnig hwn, yn cefnogi'r cynnig hwn, ac yn cadw trethi'n isel yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:18, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, a chredaf iddi fod yn ddiddorol iawn. Mae datganoli pwerau treth yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ddatblygu ymagwedd flaengar at drethiant wedi'i deilwra i anghenion Cymru. Mae'r fframwaith polisi treth a gyhoeddwyd yn 2017 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd, a'r cynlluniau gwaith ar drethu a gyhoeddwyd ers hynny, wedi pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth hon i fabwysiadu ymagwedd strategol tuag at bolisi treth. Cyflawnir hyn bellach drwy ein gwaith ar reoli trethi presennol a threthi a ddatganolir o'r newydd, yn ogystal â'n dull sy'n esblygu o ddatblygu trethi newydd. Bydd cynllun gwaith polisi treth 2019, y bwriadaf ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, yn rhoi manylion pellach ynglŷn â'n blaenoriaethau eleni. Ond i roi blas ohonynt, byddwn yn ystyried y polisi ehangach mewn perthynas â threthu eiddo preswyl, yn hyrwyddo tegwch a blaengaredd mewn polisi treth drwy ein gwaith ar drethiant lleol, yn datblygu gwaith ar ddatganoli pwerau dros dreth ar dir gwag, yn ogystal ag archwilio sut i wneud y defnydd gorau o wasanaethau digidol a thechnoleg ddigidol i wella'r broses o weinyddu trethi Cymru.

Trethi yw'r tâl mynediad a dalwn i fyw mewn cymdeithas wâr. Dyna yw'r buddsoddiad y mae dinasyddion a busnesau yn ei wneud i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus rydym yn eu darparu ac yn eu mwynhau gyda'i gilydd, o ffyrdd a phontydd i ysbytai ac ysgolion, talu cyflogau'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hyn, yn ogystal â'r seilwaith angenrheidiol, a'r offer a'r adnoddau sydd eu hangen i'w cynnal. Mae trethi'n galluogi pobl yng Nghymru i gyflawni pethau gyda'n gilydd na allwn eu gwneud ar ein pen ein hunain. Bydd y penderfyniadau a wnawn ar drethi Cymru yn effeithio'n uniongyrchol ar economi Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ystyried effaith trethiant ar gystadleurwydd cyffredinol economi Cymru. Dyna pam y mae ein fframwaith polisi treth yn cynnwys egwyddor y dylai trethi helpu i gyflawni amcanion strategol ac yn benodol, y dylai trethi Cymru ysgogi swyddi a thwf economaidd. Dyna pam rydym wedi cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol ar gyfer y stryd fawr a pham rydym wedi gosod y cyfraddau cychwyn isaf ar drethi ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl a dibreswyl. Yn yr un modd, mae ein hegwyddorion polisi treth yn ein hymrwymo i ymgysylltu â threthdalwyr i helpu i lywio ein dull o ddatblygu polisi treth. Soniodd Nick Ramsay am bwysigrwydd dod â phobl gyda ni, a dyna'n bendant iawn yw'r dull rydym yn ei fabwysiadu o ran ceisio sefydlu perthynas newydd â phobl yng Nghymru.

Rydym yn cytuno â'r hyn a nodwyd yn yr ail welliant a gyflwynwyd i'r cynnig hwn gan Blaid Cymru, a byddem yn ei gefnogi fel arall oni bai ei fod wedi cael yr effaith o ddileu a disodli rhan o'r cynnig gwreiddiol rydym hefyd yn cytuno ag ef, ond yn bendant, nid ydym yn gweld na all y ddwy ran i'r cynnig gydfodoli.

Yr wythnos diwethaf, cymerodd y Cynulliad hwn y cam hanesyddol o bennu cyfraddau treth incwm cyntaf Cymru. I helpu i sicrhau pontio llyfn a threfnus i ddatganoli treth incwm yn rhannol, bydd trethdalwyr Cymru yn talu yr un cyfraddau â threthdalwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2019-20. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid y dreth incwm yn ystod y Cynulliad hwn. Byddai'n naïf, fodd bynnag, i ddweud na fyddem byth yn codi trethi yng Nghymru. Efallai y bydd yna amgylchiadau yn y dyfodol lle y ceir achos cryf dros newid teg a blaengar yn nhrethi Cymru i ddarparu'r cyllid sydd ei angen i barhau i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yng Nghymru eu heisiau.

Rwy'n ymwybodol, fodd bynnag, fod Cymru a'r DU yn wynebu'r newid mwyaf sylweddol yn y cyfnod modern wrth inni edrych tuag at ymadawiad y DU â'r UE. Wynebwn y posibilrwydd real iawn o senario 'dim bargen', ac o gofio hyn, ynghyd ag effaith barhaus cyni parhaol, mae'n iawn inni ddal ati i fonitro'r datblygiadau'n ofalus ac asesu eu heffaith ar ein sefyllfa ariannol. Felly, rydym yn hapus i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, ac rydym yn diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:23, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n dal i sgriblo nodiadau'n gyflym, gan eich bod i gyd wedi dweud cymaint, a diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd. Dechreuodd Nick Ramsay drwy ein hatgoffa am Bobby Kennedy. Rhaid inni gofio bod ei frawd, JFK, pan oedd yn Arlywydd, wedi dadlau bod twf economaidd cryf yn galw am drethi is. Roedd llawer yn ei blaid ei hun yn anghytuno ag ef, ond ar y pryd, yn ôl yn 1963, fe'i profwyd yn gywir.

Soniodd ynglŷn â sut y mae angen inni wneud i hyn weithio yn y ffordd orau ar gyfer pobl Cymru a defnyddio'r ysgogiadau treth newydd hyn i feithrin buddsoddiad ac ysgogi twf economaidd yng Nghymru mewn oes newydd o atebolrwydd i'r Cynulliad hwn ac wrth gwrs, i'r Llywodraeth hon allu gwneud yr economi yn fwy cystadleuol, er mwyn annog mwy o fuddsoddwyr i ddod i Gymru a chreu'r swyddi cyflog gwell sydd eu hangen arnom. A soniodd am bryderon ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu treth incwm ddatganoledig yn ystod tymor y Cynulliad hwn, o ystyried y dyfyniadau, y cyfeiriodd ef ac eraill atynt, a wnaethpwyd wedyn gan rai o aelodau Llywodraeth Cymru.

Siaradodd Rhun ap Iorwerth am y flaenoriaeth o sicrhau twf economaidd a mwy o refeniw drwy gefnogi busnesau cynhenid. Hollol gywir: rydym yn cytuno â chi, a byddwn yn cefnogi eich gwelliant. Fodd bynnag, rydych yn gwrthwynebu mynnu na ddylai Llywodraeth Cymru gynyddu'r dreth yn ystod tymor y Cynulliad hwn—rhyfedd braidd, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru eu hunain yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn. Efallai y gallai'r cyhoedd nodi mai Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n argymell trethi uwch yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:24, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi gymryd gwelliant—ymyriad?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Yn gyflym iawn, gwnaf.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:25, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Dim ond i ddweud eto beth a ddywedais yn fy araith yn gynharach—nad oeddem yn gwrthwynebu hyn am ein bod eisiau codi trethi, ond ein bod am i Lywodraethau gael hyblygrwydd i fod yn greadigol er lles pobl Cymru, ym mha ffordd bynnag y gall hynny fod. Ni wyddoch byth pa argyfwng a allai ein hwynebu oherwydd Brexit, er enghraifft, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n siŵr fod hynny wedi helpu i wella dealltwriaeth pobl yng Nghymru.

Dywedodd Mohammad Asghar, ar adeg y refferendwm—y refferendwm datganoli—wrth bobl Cymru na ellid datrys ein problemau economaidd heblaw drwy ddatganoli, ond mae Cymru'n parhau i hofran ar waelod tabl cynghrair economaidd y DU. Dywedodd y byddai baich treth ychwanegol ar drethdalwyr Cymru yn atal twf economaidd a niweidio swyddi, a gofynnodd i'r Gweinidog ailddatgan addewid maniffesto'r Blaid Lafur i beidio â chodi'r dreth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Credaf ein bod wedi cael y cadarnhad hwnnw ar y diwedd.

Alun Davies, wel fe fustachodd yn ei flaen yn ei ffordd arferol. [Chwerthin.] Drwy ddweud na alwodd neb—[Torri ar draws.] Drwy ddweud na alwodd neb am leihau gwariant yn ystod y dadleuon ar y gyllideb, efallai ei fod wedi portreadu'r dryswch rhwng cyfraddau treth a refeniw trethi. Ond roedd yn iawn pan alwodd am drethiant teg a rhesymol sy'n caniatáu i ni fuddsoddi ac sy'n adlewyrchu ein huchelgais, sef yn union yr hyn rydym ni'n galw amdano yn y ddadl hon hefyd.

Dywedodd Suzy Davies yn hollol gywir fod Llywodraethau angen derbyniadau treth, ond ein bod yn sôn am arian y bobl, nad yw gwneud treth yn rhywbeth sy'n ymwneud yn llwyr â'r mwyaf cyfoethog yn cynyddu derbyniadau treth, a'r angen i ystyried bod gan Gymru fwy o lawer o boblogaeth yn teithio i'r gwaith yn drawsffiniol na'r Alban, er enghraifft.

Cawsom ein hatgoffa gan Neil Hamilton am effaith y dreth ffenestri a barodd i bobl chwalu'r gwydr a gosod brics yn eu lle. Atgoffodd ni fod pobl yn newid ymddygiad i adlewyrchu cefndir treth y fan lle maent yn byw a bod yn rhaid i Gymru fod yn gystadleuol os yw'n mynd i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.

Cyfeiriodd Mark Reckless at ostyngiad mewn refeniw ers cyflwyno treth trafodiadau tir Llywodraeth Cymru a rhybuddiodd fod angen inni fod yn ofalus iawn beth a wnawn gyda'r dreth incwm yn y cyd-destun hwn.

Defnyddiodd y Gweinidog Cyllid yr ymadrodd dal popeth 'dull blaengar'. Gall hynny olygu llawer o wahanol bethau pan gaiff ei gymhwyso i drethiant, ond mae hi'n iawn i ddweud bod angen inni gydnabod yr effaith ar economi Cymru, twf swyddi a'r sefyllfa gyllidol wrth edrych ar drethi teg yn y dyfodol, ac y byddai'n cefnogi'r cynnig a diolch yn fawr iawn iddi am hynny.

Gadewch inni gofio, ers 2010, fod Cangellorion ar lefel y DU wedi cael mwy o dreth allan o'r cyfoethog nag unrhyw rai o'u rhagflaenwyr. Gadewch inni gofio bod 58 y cant o dreth ar draws y DU yn cael ei thalu gan y 10 y cant uchaf o drethdalwyr. Yng Nghymru, nid yw'r 10 y cant uchaf ond yn cyfrannu 44 y cant am fod cymaint yn llai ohonynt. Gadewch inni gofio'r ymchwil yn 2016 gan Ysgol Fusnes Caerdydd, a ddywedai y byddai gostwng y gyfradd uwch o dreth incwm yng Nghymru yn codi refeniw ychwanegol drwy ddenu rhai ar gyflogau mawr. Gadewch inni gofio bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi cyfaddef mai'r mwyaf y byddai'n gallu ei gael o'r dreth incwm fyddai codi ar drethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol, a'r rhybudd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain y dylai codi'r dreth incwm yng Nghymru fod yn ddewis olaf, nid yn ymateb cyntaf. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:28, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydym felly'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:28, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio.