1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Chwefror 2019.
Ac felly fe wnawn ni symud i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
Diolch, Lywydd. Mynegwyd pryderon fod buddsoddiad mewn sgiliau ac addysg oedolion ar hyn o bryd yn canolbwyntio gormod ar oedolion ifanc, ar draul pobl 25 oed a hŷn. Erbyn 2022, bydd traean o weithlu Cymru dros 50 oed, felly mae dysgu oedolion yn llawer pwysicach nag erioed yng Nghymru. Weinidog, beth rydych yn ei wneud i ymestyn modelau addysg rhan-amser a hyblyg, sy'n darparu llwybr hanfodol i lawer o oedolion na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at addysg yng Nghymru?
Wel, yn gyntaf, rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi awgrymu heb feddwl gwneud hynny nad yw blaenoriaethu anghenion dysgwyr iau mewn addysg bellach dros anghenion pobl eraill yn rhywbeth y mae'n ei gefnogi. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod am i ni barhau i sicrhau bod dysgwyr o oedran ôl-orfodol—17 a hŷn—yn parhau i elwa o'r ddarpariaeth. Ond mae'n gwneud pwynt gwerthfawr—fod angen inni sicrhau bod dysgwyr, drwy gydol eu hoes, yn cael cyfle i uwchsgilio, dysgu sgiliau newydd neu gael addysg i wella eu rhagolygon cyflogaeth. Dyna pam y byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o fy ymrwymiad gyda'r Prif Weinidog newydd i archwilio'r cysyniad o sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl ail gyfle a bod gan bob dysgwr gyfle i gael addysg ar wahanol adegau yn eu bywydau. Wrth gwrs, rwy'n falch, o ganlyniad i'n newidiadau i gymorth addysg uwch, er enghraifft, ein bod wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y dysgwyr rhan-amser sy'n cofrestru gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru eleni, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r niferoedd sy'n parhau i ostwng dros y ffin yn Lloegr.
Diolch, Weinidog. Ond mynegwyd pryderon ynghylch diffyg ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser a mwy o amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr hŷn fel ffactorau cyfrannol mewn unrhyw ostyngiad yn y galw am ddarpariaeth ran-amser. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi llawer o ffocws ar bobl ifanc, gan arwain at ddiffyg gwybodaeth bwysig, cyngor a chanllawiau ar gyfer myfyrwyr hŷn presennol a darpar fyfyrwyr hŷn. Beth rydych yn ei wneud, Weinidog, i sicrhau y caiff dysgwyr rhan-amser eu trin yn deg ac yn gyfartal fel fod opsiynau cyllid rhan-amser yn cael cyhoeddusrwydd mor amlwg â rhai amser llawn yng Nghymru?
Wel, Oscar, buaswn yn dadlau bod y canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Rydym wedi gweld cynnydd o 35 y cant eleni mewn cofrestriadau ar gyfer cyrsiau gradd rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored yn unig yma yng Nghymru. Y llynedd, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â chyfundrefn hysbysebu a gwybodaeth gyhoeddus hynod lwyddiannus. O ran cyrhaeddiad ac allbynnau, hon yw'r rhaglen hysbysebu fwyaf llwyddiannus a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed mewn gwirionedd—hyd yn oed yn fwy llwyddiannus na'r ymgyrch gyhoeddusrwydd rhoi organau. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn ceisio cefnogi dysgwyr rhan-amser mewn meysydd eraill, nid y rheini sy'n astudio ar lefel gradd yn unig. Rydym wedi cael effaith fawr ar lefel gradd. Bellach, mae angen inni sicrhau bod yr oedolion sydd am astudio ar lefel is na lefel gradd yn cael cyfle i wneud hynny hefyd. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog blaenorol ar Addysg Oedolion Cymru a byddwn yn ceisio archwilio gyda'n cymheiriaid ym maes addysg bellach beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod dysgu rhan-amser ar bob lefel yn dod yn realiti i lawer mwy o ddinasyddion Cymru sy'n awyddus i ymgymryd â hynny.
Diolch, Weinidog. Nid oes amheuaeth gennyf eich bod yn gwneud gwaith gwych yn eich rôl eich hun, ond mae data newydd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos bod nifer myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr nad ydynt o'r UE sy'n mynychu prifysgolion Prydain wedi codi. Yn 2017 a 2018, mynychodd dros 458,000 o fyfyrwyr brifysgolion ym Mhrydain—cynnydd o 16,000 ar y blynyddoedd blaenorol, ac 20,000 ers blwyddyn refferendwm yr UE. Ar nodyn cadarnhaol, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion hwn, sydd wedi'i gyflawni, fel y byddai'r BBC yn ei ddweud, 'er gwaethaf Brexit'?
Yn gyntaf, a gaf fi gymryd y cyfle hwn, Lywydd, i roi gwybod i bobl fod prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn agored i fusnes? Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau a wneir gan aelodau staff Ewropeaidd, a myfyrwyr Ewropeaidd, ac yn wir, myfyrwyr nad ydynt o Ewrop sy'n dod i astudio yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonynt yn parhau i wneud hynny.
Ond mae angen i'r Aelod wrando ar Prifysgolion Cymru a ColegauCymru mewn perthynas â'r bygythiadau gwirioneddol a achosir gan Brexit i'n sector AB ac AU. Mae'r Aelod, wrth eu hanwybyddu, yn bod yn ddi-hid gyda dyfodol y sector tra phwysig hwn. Heb amheuaeth—heb amheuaeth— bydd Brexit, ar ba ffurf bynnag y bydd yn digwydd, yn effeithio ar y sector, ac nid mewn ffordd gadarnhaol.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Dwi am ddechrau lle gorffennais i y tro diwethaf i mi gael sgwrs efo chi ar draws y Siambr, sef efo'r frawddeg anffodus a oedd yn eich Papur Gwyn yr wythnos diwethaf am ddysgu Saesneg mewn ysgolion a lleoliadau meithrin. Dwi ddim yn mynd i fynd dros yr un un tir eto, a dwi'n falch iawn eich bod chi wedi gwneud tro pedol ar y mater yma ac na fydd newid polisi fel yr awgrymodd Gweinidog y Gymraeg wrth ateb fy nghwestiynau i yma ddydd Mercher diwethaf ac fel cafodd ei gadarnhau mewn datganiad byr a ymddangosodd ar wefan y Llywodraeth ddydd Llun.
Ond mae yna gwestiynau pellach yn codi yn fy meddwl i yn sgil y ffiasgo yma. Mae'n amlwg mai camgymeriad oedd cynnwys y frawddeg, ond sut yn y byd y caniatawyd i frawddeg a fyddai wedi golygu newid polisi syfrdanol i ymddangos mewn Papur Gwyn yn y lle cyntaf? Onid ydy cyhoeddiadau pwysig fel Papurau Gwyn yn cael eu darllen a'u hailddarllen drosodd a throsodd er mwyn osgoi camgymeriadau sylfaenol? Onid oes proses i sicrhau cysondeb gyda pholisïau craidd y Llywodraeth?
A'r cwestiwn arall sy'n codi ydy: pam y byddai unrhyw un yn yr adran addysg yn ychwanegu'r fath frawddeg a sut ydych chi am wneud yn siŵr fod yr holl swyddogion addysg yn gyfarwydd â pholisïau sydd wedi cael eu cydnabod ers degawdau fel y rhai cywir ar gyfer dysgu Cymraeg i blant o dan saith oed? Dyna'i gyd y gallaf fi ei ddweud ydy bod y llanast yma'n tanseilio eich hygrededd chi fel Gweinidog, gweision sifil yr adran addysg a'r Llywodraeth yma.
Ni fu unrhyw newid yn y polisi. Dywedais hynny yn ystod y sesiwn gwestiynau yr wythnos diwethaf. Ailadroddwyd hynny gan Weinidog y Gymraeg y diwrnod wedyn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyhoeddi eglurhad manwl lle dywedais yn glir y bydd trochi'n parhau mewn gwahanol ysgolion a lleoliadau gwahanol.
Felly, os caf, Lywydd, ar gyfer y cofnod yma y prynhawn yma: bydd ein cynigion yn y cwricwlwm newydd yn dal i alluogi ysgolion a lleoliadau fel ysgolion meithrin i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg ac rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion ysgolion meithrin ac UCAC am eu cefnogaeth yn hyn o beth.
Diolch yn fawr am yr eglurder yna, ond dydych chi ddim yn ateb y cwestiwn ynglŷn â sut yn y byd gwnaeth y fath frawddeg ymddangos yn y lle cyntaf.
Dwi'n mynd i droi at agweddau eraill ar eich Papur Gwyn chi, os caf i. Mae o'n nodi y bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer rhai materion penodol, gan gynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Un o'r chwech hynny ydy'r dyniaethau, ac rydych chi'n rhestru'r dyniaethau fel hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, busnesau ac astudiaethau cymdeithasol. Rŵan, dwi wedi eich clywed chi sawl tro yn trafod pwysigrwydd dysgu hanes Cymru i'n plant ni, a dwi'n credu ein bod ni'n rhannu'r un weledigaeth o gwmpas hynny. A fyddwch chi, felly, yn ystyried ychwanegu hanes Cymru i'r rhestr o bynciau o dan y pennawd 'dyniaethau'? Byddai hanes Cymru wedyn yn ymddangos ar wyneb y Bil, ac fe fyddai'n golygu ei bod hi'n statudol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno hanes Cymru fel rhan o'r cwricwlwm newydd.
Gadewch imi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: mae'n ddisgwyliad ac yn fwriad gennyf y dylai pob plentyn ddysgu eu hanes lleol eu hunain, hanes eu cenedl, a lle eu cenedl yn hanes y byd a chyfraniad ein gwlad i hanes y byd a digwyddiadau'r byd. Y cysyniad sydd wrth wraidd y cwricwlwm, yn enwedig yn y dyniaethau, yw ffocws ar y lleol o'r oed ieuengaf, a thyfu allan o'r lleol, a fydd yn rhoi dealltwriaeth i'n plant nid yn unig o'u lle yn eu cymuned, ond o le eu cymuned yn ein cenedl, ac yn wir, yn y byd. Dyna'r ffocws. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn pryderu ynghylch y syniad hwn mai drwy'r cwricwlwm hanes yn unig y gellir darparu'r dimensiwn Cymreig—mae'n peri cryn bryder i mi, oherwydd mewn gwirionedd, hoffwn i blant ddysgu mwy na hanes Cymru yn unig o'r cwricwlwm hwn. Rwyf am i blant ddysgu am lenyddiaeth Cymru, rwyf am i blant ddysgu am gerddorion Cymru, rwyf am i bobl ddysgu am wyddonwyr Cymru. A bydd yr Aelod yn gwybod, o ddarllen y Papur Gwyn, y bydd dimensiwn Cymreig yn thema drawsbynciol mewn gwirionedd, nid yn unig ym maes dysgu'r dyniaethau—mae'n thema drawsbynciol ar gyfer ein cwricwlwm yn ei gyfanrwydd.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi, ond dydy hynny ddim yn ddadl dros beidio â chynnwys hanes Cymru fel pwnc penodol o dan y rhestr hir sydd gennych chi o dan y teitl 'dyniaethau'.
I droi hefyd at agwedd arall ar y cwricwlwm newydd—a dwi'n dyfynnu—mi fydd y cwricwlwm yn rhoi
'rhyddid i ymarferwyr ddefnyddio eu proffesiynoldeb a'u crebwyll i ddiwallu anghenion dysgwyr'.
Dyna ydy hanfod gweledigaeth Donaldson, mewn gwirionedd, yntê? Mae'r Papur Gwyn yn mynd ymlaen wedyn i ddweud y bydd yna lai o fanylder mewn deddfwriaeth o ran cynnwys y cwricwlwm na sydd yna ar hyn o bryd, ac y bydd cynnwys y meysydd dysgu a phrofiad yn cael ei amlinellu mewn canllawiau statudol.
Rŵan, rydym ni'n gwybod y bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill er mwyn cael adborth. Beth mae llawer o athrawon yn holi ydy: pryd bydd y canllawiau atodol ar gael a pha mor fanwl fydd y rheini? Mae llawer o athrawon yn dadlau bod angen arweiniad a chanllawiau clir a manwl ac maen nhw'n gofidio na fydd hynny ar gael.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle; bydd camau cynnydd unigol y Meysydd Dysgu a Phrofiad a'r datganiadau ynghylch 'beth sy'n bwysig' yn cael eu cyhoeddi dros y Pasg. Rydym yn gwneud hynny mewn fformat a fydd yn caniatáu i addysgwyr, ac yn wir, unrhyw un â diddordeb i roi adborth. Buaswn yn derbyn bod cydbwysedd i'w gael rhwng dod mor ragnodol yn y canllawiau hynny fel y byddai cystal inni aros lle rydym, gan na fydd natur y cwricwlwm wedi newid o gwbl pe baem yn darparu rhestrau hirfaith o bethau rydym yn disgwyl i athrawon eu gwneud.
Fe fyddwch yn gwybod o adroddiad gwreiddiol Graham Donaldson, fod y ffordd y mae ein cwricwlwm wedi'i strwythuro ar hyn o bryd yn rhwystro creadigrwydd athrawon rhag gallu diwallu anghenion eu myfyrwyr unigol. Nawr, yn amlwg, bydd yn rhaid inni ddarparu—mewn ffordd anghelfydd, efallai—sgaffaldiau ar gyfer y proffesiwn addysgu, ond ni allwn, ac ni fyddaf, yn syrthio i'r fagl o roi rhestrau hir i'n hathrawon o bethau rhagnodedig rwy'n disgwyl iddynt eu haddysgu, gan y byddai gwneud hynny'n gwneud cam â'r weledigaeth o'r hyn y ceisiwn ei wneud gyda'n cwricwlwm ar gyfer ein pobl ifanc.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi gyfundrefn addysg rhyw a chydberthynas newydd, a fydd yn orfodol i ysgolion heb fodd i rieni optio eu plentyn allan ohoni. A wnewch chi sicrhau bod y cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthynas newydd yn cynnwys nodi beth a olygir wrth gam-drin, pam ei fod yn anghywir, sut i'w atal, a beth i'w wneud os bydd yn digwydd?
Yn gyntaf, mae'r Aelod yn anghywir yn dweud fy mod yn gwrthod yr hawl i rieni eithrio'u plant. Os yw'r Aelod wedi darllen y Papur Gwyn, fe fydd yn gwybod bod y Papur Gwyn yn cynnwys cwestiynau penodol ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r hawl i eithrio plant o wersi o'r fath. Ond gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod, wrth sicrhau bod ein plant yn dysgu am rywioldeb a chydberthynas, y byddant yn dysgu am faterion fel cydsyniad, trais domestig, beth yw perthynas iach, a lle i gael cymorth os ydynt mewn sefyllfa lle maent yn pryderu am eu diogelwch.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld yr euogfarn gyntaf mewn perthynas â rhiant yn anffurfio neu'n caniatáu i organau cenhedlu eu plentyn gael eu hanffurfio. Er bod y math hwn o gam-drin wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ac er iddo gael ei wneud yn anghyfreithlon amser maith yn ôl, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a sefydliadau o dan eu rheolaeth wedi bod yn aneffeithiol o ran ei atal a mynd i'r afael ag ef pan fydd yn digwydd. A ydych yn cytuno â mi mai'r unig ffordd efallai y gallem helpu i atal anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru yw drwy ei amlygu fel problem benodol mewn perthynas ag addysg rhyw a chydberthynas? Ni fydd neges amwys am sicrhau bod pobl yn parchu eich corff yn effeithiol yn y senario hon. Mae angen ei hamlygu fel problem benodol, onid oes?
Yn amlwg, y gwir amdani yw bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf ar gam-drin, ac mae'n anghyfreithlon yn ein gwlad. Fel y dywedais, bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan y caiff y Meysydd Dysgu a Phrofiad unigol eu cyhoeddi, ond ni fyddwn mewn sefyllfa lle byddwn yn creu rhestrau hir o bynciau penodol unigol. Ond yn hollbwysig, mae gan ysgolion rôl i'w chwarae yn cefnogi, diogelu ac atal anffurfio organau cenhedlu benywod, a dyna pam, cyn toriad yr haf bob blwyddyn, rwy'n ysgrifennu at bob ysgol i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau a beth y gallant ei wneud wrth i wyliau'r haf agosáu—sy'n aml yn amser perygl i lawer o'n myfyrwyr benywaidd, pan allent fod mewn perygl o wynebu'r broses a'r driniaeth hon—i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau, beth i edrych amdano, yr arwyddion o berygl, ac yn hollbwysig, beth y dylent ei wneud ynglŷn â'r peth os ydynt yn poeni am unrhyw blentyn unigol yn eu hysgol.
Deallaf yr hyn a ddywedoch ynglŷn â pheidio â dymuno rhoi rhestr hir o eitemau i athrawon eu haddysgu—deallaf eich safbwynt yn hynny o beth, Weinidog—ond mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn enghraifft mor erchyll o gam-drin merch. Mae bellach yn digwydd i fabanod, oherwydd, a dyfynnaf,
Nid yw'r merched yn gallu rhoi gwybod i unrhyw un, mae'r clwyfau'n cau'n gynt ac mae erlyn yn llawer anos pan ddaw tystiolaeth i'r amlwg pan fo'r ferch yn hŷn.
Dyna ddiwedd y dyfyniad. Felly, nid yw dweud wrth ferched yn yr ysgol y dylent roi gwybod am unrhyw un sy'n ceisio ei wneud yn mynd i weithio. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhywbeth sy'n digwydd yn amlach yma yng Nghymru, yn y DU, felly nid yw cadw cofnod o'r merched sy'n debygol o fynd ar wyliau a'i gael wedi'i wneud dramor—efallai ei fod wedi digwydd iddynt pan oeddent yn fabanod. Buaswn yn awgrymu mai'r holl bwynt yw addysgu'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion yn y wlad hon, pob un ohonynt, yn y gwersi Addysg Rhyw a Chydberthynas, fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn erchyll ac na ddylid ei oddef. Gwneud hynny'n iawn o'r cychwyn cyntaf. Sicrhau nad yw'n cael ei dderbyn mewn rhan fach o'n cymuned. Dywed elusen Barnardo's fod ymgysylltiad cymunedol yn allweddol er mwyn rhoi diwedd ar drosedd anffurfio organau cenhedlu benywod. Felly, a wnewch chi helpu i ddatrys y broblem hon drwy addysgu cenedlaethau'r dyfodol fod anffurfio organau cenhedlu benywod yn bodoli ac na ddylid ei oddef?
Ni fydd yn cael ei oddef, ac mae gan addysg ran bwysig i'w chwarae yn hynny, ond mae gan lawer o asiantaethau eraill ran bwysig i'w chwarae hefyd. Mae'r Aelod yn codi mater anffurfio organau cenhedlu benywod mewn perthynas â babanod benywaidd. Yn amlwg, mae hwnnw'n fater i fydwragedd a'r gwasanaeth iechyd gwladol fynd i'r afael ag ef. Ond gadewch i mi ddweud yn gwbl glir unwaith eto: ar draws y Llywodraeth, ar draws pob adran, rydym yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn ffurf erchyll ar gam-drin a byddwn yn gweithio ar y cyd gyda'n gilydd i roi diwedd arno.
Cwestiwn 3, Hefin David.
Diolch, Lywydd. Deallaf eich bod wedi grwpio cwestiynau 3 a 5. A yw hynny'n gywir?
Ydi.