– Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar fyrddau iechyd, a galwaf ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7046 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill 2019.
2. Yn nodi bod pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a threfniadau llywodraethu byrddau iechyd hefyd wedi cael eu codi yn yr adroddiadau canlynol:
a) Ymddiried mewn Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 2014;
b) Ymchwiliad allanol Donna Ockenden i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth cleifion ar ward Tawel Fan, 2014; ac
c) Adolygiad Donna Ockenden o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofalu am gleifion ar ward Tawel Fan, 2018.
3. Wedi colli hyder bellach yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau systemig a godwyd yn yr adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill.
Ddirprwy Lywydd, codaf heddiw i wneud y cynnig hwn yn yr ysbryd mwyaf difrifol. Nid mater ysgafn yw gofyn i unrhyw senedd fynegi diffyg hyder mewn Gweinidog a benodwyd. Mae'r trothwy ar gyfer gwneud galwad o'r fath yn uchel, ac yn briodol felly. Plaid y Gweinidog sydd â'r nifer uchaf o Aelodau yn y lle hwn a thrwy drefniadau gydag eraill, mae'r Prif Weinidog wedi sicrhau mwyafrif. Mae hyn yn rhoi mandad iddo lywodraethu ac i ddewis ei Weinidogion ei hun.
Fodd bynnag, yn wyneb patrwm systematig y methiannau yn ein gwasanaeth iechyd a'r ffaith bod y Gweinidog, i bob golwg, yn amharod neu'n analluog i ddwyn uwch-reolwyr i gyfrif am y methiannau hynny neu i gymryd cyfrifoldeb drostynt ei hun, roeddem ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn teimlo nad oedd gennym ddewis ond cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Yn y bôn, mae'n fater o atebolrwydd, ac yn y cyd-destun hwn, mae'n teimlo'n iawn inni atgoffa'r Siambr hon lle mae'r atebolrwydd am ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ailstrwythurwyd y gwasanaeth gan ddeddfwriaeth a basiwyd yn y lle hwn yn 2009, gan ddileu mecanweithiau'r farchnad a gwneud y gwasanaeth iechyd yn amlwg atebol i'r Gweinidog iechyd, a thrwyddo ef neu hi i'r Cynulliad hwn, a thrwy'r Cynulliad hwn i'r bobl. Nid oes amwysedd yma. Nid yw cyrff iechyd bellach yn gyrff lled-ymreolaethol, ac nid ydynt wedi bod felly ers blynyddoedd lawer.
Cynhyrchodd Swyddfa Archwilio Cymru femorandwm yn 2015 yn nodi'n glir y trefniadau atebolrwydd ar gyfer y GIG. Mae'r rolau hyn yn y memorandwm, yn unol â'r ddeddfwriaeth, a'r rhain yw'r rolau a briodolir gan y memorandwm hwnnw i'r Gweinidog, sy'n pennu cyfeiriad polisi a fframwaith strategol, gan gytuno yn y Cabinet fel rhan o drafodaeth ar y cyd ar adnoddau cyffredinol i'r GIG, penderfynu sut i ddosbarthu adnoddau cyffredinol yn strategol, gosod y safonau a'r fframwaith perfformiad, ac yn hollbwysig, Lywydd, dwyn arweinwyr y GIG i gyfrif. Rydym yn cynnig, Lywydd, fod y Gweinidog, ar yr ystyriaeth olaf hon, wedi methu yn ei ddyletswyddau, ac mae i'w fethiannau ganlyniadau difrifol i'r bobl. Mae'n ddyletswydd arnom fel Cynulliad i'w ddwyn i gyfrif am hyn.
Trafodasom adroddiad Cwm Taf yn bur faith yma yr wythnos diwethaf, ond teimlaf fod yn rhaid imi ddychwelyd at rai o'r materion a godwyd. Mae profiadau teuluoedd a gafodd eu dal yn y sefyllfa hon wedi bod yn wirioneddol ofnadwy, ac mae plant wedi colli eu bywydau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw, ymhlith pethau eraill, at y diffyg meddygon ymgynghorol, y defnydd o staff locwm heb raglenni sefydlu effeithiol, diffyg ymwybyddiaeth o'r camau priodol i'w cymryd mewn ymateb i ddigwyddiadau difrifol, ac yn hollbwysig, system lywodraethu nad yw'n cefnogi arferion diogel, a diwylliant o fewn y gwasanaeth sy'n dal i gael ei ystyried yn un cosbol. Mae'n amlwg hefyd i lawer o deuluoedd gael eu trin ag amarch a dirmyg dychrynllyd, a bod diwylliant mewn rhai wardiau ac mewn rhai amgylchiadau lle'r oedd yr urddas a'r parch a ddylai fod wedi cael eu rhoi i famau a'u teuluoedd yn frawychus ac yn gwbl absennol. Gwelwyd methiant trychinebus yn y gwasanaeth hwn—nid oes amheuaeth am hynny. Y cwestiwn i ni heddiw yw: a allai ac a ddylai'r Gweinidog fod wedi bod yn ymwybodol ohono a bod wedi gweithredu ynghynt?
Mae'r adroddiad yn rhestru wyth adroddiad gwahanol rhwng 2012 a 2018, a dylai unrhyw un ohonynt fod wedi bod yn ddigon o leiaf i sbarduno golwg fanwl, os nad ymyrraeth, gan Weinidog a'i swyddogion. Nid wyf am fanylu arnynt i gyd yma. Maent oll ar gael yn gyhoeddus ac rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau wedi darllen yr adroddiad. Nawr, bydd amddiffynwyr y Gweinidog yn ddiau yn dweud bod rhai o'r adroddiadau hyn yn rhai mewnol, a bod yr adroddiad ei hun yn tynnu sylw at ddiffyg tryloywder ar ran y bwrdd, ac mae hyn yn wir. Ond roedd y rhan fwyaf o'r adroddiadau hyn ar gael i'r Gweinidog a'i swyddogion. Yn 2012, mynegodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bryderon difrifol ynglŷn ag ansawdd profiad cleifion, darparu gofal diogel ac effeithiol, ac ansawdd rheolaeth ac arweinyddiaeth. Dylid bod wedi gofyn cwestiynau bryd hynny.
Nododd ymweliad Deoniaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2007 chwe maes pryder ynghylch methiannau yn y contract addysgol, gan gynnwys ymsefydlu. Yn arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2018 mynegwyd pryderon ynghylch ymsefydlu a goruchwyliaeth glinigol. Dylai'r adroddiadau hyn, ynghyd â phryderon a fynegwyd ar y pryd gan Aelodau Cynulliad unigol o ganlyniad i faterion a ddygwyd i'w sylw gan eu hetholwyr, fod wedi dangos patrwm i'r Gweinidog a'i swyddogion. Dylai fod wedi camu i mewn yn gynt, a phe bai wedi gwneud hynny, gellid bod wedi achub llawer o deuluoedd rhag y trawma a'r golled a gawsant yn y gwasanaeth diffygiol hwn. Felly, o'r diwedd, yn yr hydref y llynedd, fe wnaeth y Gweinidog weithredu. Comisiynwyd adroddiadau, ac yn y pen draw, aeth y gwaith yn ei flaen, er, o gofio difrifoldeb y pryderon, mae'n ymddangos yn berthnasol inni ofyn pam na chynhaliwyd adolygiad a gomisiynwyd yn yr hydref tan fis Ionawr. Gwyddom, wrth gwrs, beth a ganfu'r adolygiad hwnnw.
Felly, sut y mae'r Gweinidog wedi ymateb i hyn? Wel, mae wedi ymddiheuro. Mae wedi rhoi'r gwasanaeth mewn mesurau arbennig. Mae wedi anfon bwrdd i mewn i ddarparu cyngor a her ac mae wedi siarad am yr angen i newid y diwylliant. Ond gadawodd yr holl unigolion uwch hynny a fu'n llywyddu dros ddatblygiad y diwylliant trychinebus hwn. Mae'r prif weithredwr, sydd wedi cadw ei swydd ers 2011, wedi cael aros yn ei swydd. Hyd y gwyddom, ac yn bwysicach na hynny, hyd y gŵyr y teuluoedd, nid oes neb wedi'i ddisgyblu am ganiatáu i'r sefyllfa hon ddatblygu a pharhau. Nid oes neb wedi cael ei ddwyn i gyfrif am y trawma i'r mamau a marwolaethau 26 o blant.
Mae'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod ymchwil helaeth ar y gweill ynglŷn â sut i sicrhau newid diwylliannol effeithiol o fewn sefydliadau. Dylai wybod mai un o'r ffactorau allweddol ar gyfer cyflawni newid diwylliannol effeithiol yw arweinyddiaeth newydd—newid ar y brig. A yw o ddifrif yn disgwyl i'r staff a oedd yn gweithio mewn amgylchiadau lle'r oedd yn amhosibl iddynt fynegi pryderon gredu bod eu rheolwyr yn dymuno bod yn agored yn awr, y byddant yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn agored am fethiannau yn y gwasanaeth, gan yr un rheolwyr a oedd yn eu tawelu cyn hynny? A yw'n disgwyl i'r teuluoedd a fynegodd bryderon ac sy'n dal i deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gredu bod yr un rheolwyr a wnaeth eu trin yn nawddoglyd, eu bychanu, ac mewn o leiaf un achos a wnaeth fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn, yn sydyn yn mynd i ddechrau eu trin gyda pharch a bod o ddifrif ynglŷn â'u pryderon? A oes disgwyl inni gredu bod yr arweinwyr hyn, a barhaodd y diwylliant o dawelwch a chaniatáu i fenywod a'u babanod barhau i gael eu cam-drin yn ofnadwy, a ydym i fod i gredu bod y bobl hyn wedi dod i'r casgliad yn sydyn mai bod yn agored a gonest sydd orau? Rwy'n amau hynny. Felly, er bod y pethau cywir wedi cael eu dweud, nid oes unrhyw beth wedi cael ei wneud i bob pwrpas ac mae'r teuluoedd yn haeddu gwell.
Nawr, canolbwyntiais fy sylwadau ar sefyllfa Cwm Taf gan mai hwn yw'r methiant diweddaraf a mwyaf difrifol o'r methiannau y mae'r cynnig yn tynnu sylw atynt. Bydd cydweithwyr yn siarad am y sefyllfa yn y gogledd lle mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig ers pedair blynedd heb fod y gwelliannau angenrheidiol wedi'u cyflawni. Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio'r adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn 2014 a oedd hefyd yn tynnu sylw at fethiannau difrifol.
Yr hyn sy'n gyffredin yn yr holl sefyllfaoedd hyn yw methiant ar ran y Llywodraeth i ddwyn uwch-reolwyr i gyfrif. Tra bo modd diswyddo staff rheng flaen a'u hatal rhag ymarfer, mae'n ymddangos bod rheolwyr yn gallu symud o un rhan o'r gwasanaeth i ran arall yn ddi-gosb, heb unrhyw sancsiwn, waeth pa mor wael y maent wedi perfformio. Sut y gall teuluoedd Cwm Taf a'r staff rheng flaen gredu y bydd newid go iawn pan fo Betsi Cadwaladr yn dal i fod angen ymyrraeth ar ôl pedair blynedd o fesurau arbennig? Nid yw hyn yn gwneud y tro.
Mae arnom angen corff proffesiynol ar gyfer rheolwyr y GIG gyda'r gallu i ddiswyddo rheolwyr am berfformiad gwael. Mae angen inni sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae angen dyletswydd gyfreithiol o ddidwylledd ar gyfer pob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr, a system gwyno ddidwyll, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd. Addawyd rhywfaint o hyn, ni chyflawnwyd dim ohono. Mae diwylliant yn parhau lle mae'n ymddangos nad yw rheolwyr byth yn cael eu dwyn i gyfrif. Nid yw hyn yn newydd a rhaid iddo newid.
Mae'r Gweinidog wedi llywyddu dros y gwasanaeth hwn yn gyntaf fel Dirprwy Weinidog ac yna fel Gweinidog ers 2014 ac nid yw'r diwylliant wedi cael ei herio, heb sôn am ei drawsnewid. Rhaid i'r Gweinidog gymryd cyfrifoldeb, ac os na wnaiff hynny, rhaid inni ei ddwyn ef i gyfrif. Lywydd, nid oes neb yn amau nad oes gan unrhyw Weinidog iechyd sy'n gwasanaethu ein gwlad waith anodd iawn i'w wneud. Mae hi neu ef yn atebol am wasanaeth eang a chymhleth, gwasanaeth sy'n gwario'r rhan helaethaf o gyllideb y Llywodraeth hon, a gwasanaeth sy'n hanfodol i bob un ohonom fel dinasyddion a phob unigolyn a gynrychiolir gennym.
Mae'n rhaid i ni allu dibynnu ar Weinidog iechyd i ddarparu her wirioneddol gadarn i'r gwasanaeth, er mwyn sicrhau, lle bo methiant, ei fod yn cael sylw, ac arferion gorau yn cael eu rhannu. Yn hytrach, mae gennym gyfres o fethiannau difrifol ac nid oes neb yn atebol. Rhaid cael atebolrwydd am y gyfres hon o fethiannau ac am yr ymateb annigonol iddynt. Felly, Lywydd, gyda'r difrifoldeb mwyaf, rhaid imi gymeradwyo'r cynnig hwn, heb ei ddiwygio, i'r Cynulliad hwn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig ac rwy'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd i deuluoedd;
Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac
Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG Cymru.
Yn ffurfiol.
Rwy'n codi â chalon drom iawn heddiw. Darllenasom yr wythnos diwethaf—gallaf glywed yr ebychiadau ar y meinciau gyferbyn, ac rwy'n siomedig iawn am hynny. Rwy'n ddiffuant pan ddywedaf fy mod yn codi â chalon drom iawn. Yr wythnos diwethaf, gwelsom adroddiad arall a gorddai'r stumog yn cael ei gyhoeddi ar fethiannau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol gwerthfawr. Yn yr adroddiad hwnnw, darllenasom am staff rheng flaen dan ormod o bwysau a heb adnoddau digonol. Darllenasom am ddiffyg urddas yng ngofal cleifion, cleifion sy'n agored i niwed. Darllenasom am bryderon cleifion a theuluoedd yn cael eu diystyru, a rhai unigolion yn cael eu hystyried gan y staff fel rhai a oedd â'u bryd ar achosi trwbl pan wnaethant y cwynion hynny. Darllenasom am system gwyno a fethodd ddysgu o gamgymeriadau; cofnodion cleifion a oedd yn annigonol neu ar goll; diwylliant afiach ymhlith y staff; ymddygiad amhroffesiynol a oedd yn torri codau ymarfer proffesiynol; sicrwydd ffug a roddwyd i gynrychiolwyr etholedig a oedd yn tynnu sylw at broblemau yn eu hetholaethau ar ran unigolion; llawer o gyfleoedd i ymyrryd wedi'u colli; methiannau o ran gofynion llywodraethu sylfaenol; gwybodaeth heb ei datgelu i unigolion lle dylid bod wedi'i datgelu ac o ganlyniad, cleifion yn cael niwed—marwolaethau, marwolaethau diangen babanod agored i niwed, a'r trallod a'r gofid a ddaw yn sgil hynny. Ac roedd pob un o'r pethau hynny bron yn union yr un fath â'r adroddiad a ddatgelodd y methiannau a'r sgandalau erchyll yn uned Tawel Fan yng ngogledd Cymru.
Gallwn fod wedi rhestru unrhyw un o'r rheini a byddai wedi bod yn union yr un fath. Ac fe'n sicrhawyd yng ngogledd Cymru, pan gyhoeddwyd yr adroddiad ar fethiannau Tawel Fan, mai hwnnw fyddai'r olaf o'i fath oherwydd y byddech yn mynd i'r afael â'r problemau hynny. Gwnaethoch ddatganiad ar ôl datganiad yn sgil cyhoeddi adroddiad Tawel Fan y byddai pethau'n newid, na fyddem byth yn gweld y fath beth eto, ac eto dyma ni, bedair blynedd yn ddiweddarach, gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i fod mewn mesurau arbennig, yn dal i fethu darparu gwasanaethau o ansawdd priodol, o ran ei ofal iechyd meddwl yn bendant, a sefyllfa lle nodwyd methiannau bron yn union yr un fath mewn gwasanaethau eraill, y tro hwn ar gyfer babanod ifanc a'u mamau yng Nghwm Taf.
Beth sydd ei angen i'n gwasanaeth iechyd gwladol ddysgu gwersi, i newid arferion a chyflawni'r gwelliannau sydd angen inni eu gweld? Nid yw'n mynd i newid heblaw ein bod yn newid y rheini sydd ar frig y sefydliad. Ac mae Helen Mary Jones, yn ddigon priodol, wedi tynnu sylw at y ffaith mai chi, fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yma yng Nghymru sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw. Cawsoch gyfrifoldeb dros y sefyllfa mesurau arbennig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Fe ysgwyddoch chi'r cyfrifoldeb hwnnw, a phob tro y byddem yn mynegi pryderon ynglŷn â'r diffyg cynnydd, roeddech yn canu'r un hen gân eich bod wedi egluro eich bod am weld gwelliant. Wel, nid yw geiriau ar eu pen eu hunain yn sicrhau'r math o welliant sydd angen i ni ei weld. Mae pobl am gael gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n atebol am ei fethiannau, lle mae pobl yn cyfaddef ac yn derbyn cyfrifoldeb pan fydd pethau'n mynd o chwith. Ond mae arnaf ofn ein bod yn eich gweld chi, Weinidog, yn cymryd y clod yn rhy aml yn y Siambr hon pan fydd pethau'n mynd yn iawn ac yn golchi'ch dwylo pan fydd pethau'n mynd o chwith yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna beth a welsom, ac nid oes amheuaeth mai dyna y byddwch yn ceisio ei wneud heddiw. Os nad ydych yn derbyn eich cyfrifoldeb am y methiannau hyn a'ch cyfrifoldeb am fethu datrys y sefyllfa yng ngogledd Cymru, mae arnaf ofn nad ydym byth yn mynd i weld y newid sydd ei angen arnom, a dyna pam nad oes gennyf unrhyw hyder ynoch i gyflawni'r gwelliannau sydd angen inni eu gweld yn ein gwasanaeth iechyd.
Nid wyf yn amau nad oes nifer yn y Siambr hon a fyddai am eich gweld yn parhau yn eich rôl, ond mae arnaf ofn fy mod wedi colli hyder yn eich gallu i wneud y swydd benodol hon, a chredaf fod pobl yng ngogledd Cymru, pobl yng Nghwm Taf a phobl mewn mannau eraill yn y wlad yn haeddu gwell. Ac os caf ddweud hefyd, lle mae gennych uwch-arweinwyr mewn sefydliad sydd â methiannau ofnadwy, credaf y dylai prif weithredwyr a chadeiryddion ymddiswyddo, ac os na fyddant yn ymddiswyddo, dylent gael eu diswyddo, heb unrhyw daliadau, heb unrhyw becynnau ymddeol mawr, dylent fynd. Pan fydd bwrdd yn methu yn ei drefniadau llywodraethu sylfaenol, dylai'r person sy'n gyfrifol am y trefniadau llywodraethu hynny yn y bwrdd, y cadeirydd, adael. Pan fydd prif weithredwr yn methu dangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i bennu'r diwylliant mewn sefydliad, i'w wneud yn agored ac yn dryloyw ac i ddysgu o gamgymeriadau, dylai fynd. Nid ydym wedi gweld unrhyw ymddiswyddiadau am y mathau hyn o fethiannau, a hoffwn weld pobl yn derbyn cyfrifoldeb. Mae'n hen bryd i ni weld gwasanaeth iechyd atebol yng Nghymru. Nid oes gennym un ar hyn o bryd o dan eich arweinyddiaeth chi.
Heddiw, hoffwn ddiolch i chi, Weinidog, am gymryd y cam cywir yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, adolygiad y mae'n rhaid iddo fod yn sylfaen newydd i ailadeiladu mwy o ffydd yn y gwasanaethau pwysig hyn. Mae'r ffaith fod y Gweinidog ei hun wedi comisiynu'r adolygiad annibynnol yn dweud wrthyf beth sydd angen imi ei wybod ar y pwynt hwn.
Credaf fod y Gweinidog, fis Hydref diwethaf, wedi cymryd y camau angenrheidiol i ddeall y problemau yn y gwasanaethau mamolaeth hyn, nid adroddiad mewnol mewnblyg, ond adroddiad cwbl annibynnol ar y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd a roddodd gamau pendant ar waith i ddilyn hynny a gosod y gwasanaeth hwnnw mewn mesurau arbennig.
Y neges a glywais gliriaf yw bod yn rhaid i'r gwasanaeth wella, fel nad yw menywod eraill yn profi'r hyn a ddaeth i'r amlwg yn sgil yr adolygiad annibynnol, a buaswn yn sicr am ychwanegu fy llais at hynny. A byddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd, gan gynnwys ymdrin y gadarn ag unrhyw unigolion y canfyddir eu bod yn gyfrifol am fethiannau.
Ac oherwydd fy mhryderon, rwyf wedi rhoi amser fy hun dros yr wythnos ddiwethaf i adolygu a dysgu o'r profiad diweddar hwn. Gobeithio ein bod i gyd wedi gwneud yr un peth. Mae'n bwysig, gan fod adolygiad fel hwn yn arwain at gwestiynau sylfaenol. Er fy mod yn derbyn yn llwyr ac yn llawn yr holl fethiannau a nodwyd gan deuluoedd, gallaf ddweud yn onest nad oes neb wedi dod ag unrhyw waith achos unigol yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf i fy sylw ers fy ethol ym mis Mai 2016. Mae hynny'n wir tan y misoedd diwethaf hyn, pan gyhoeddwyd y byddai'r adolygiad yn digwydd a phan ddechreuodd ar ei waith.
Fodd bynnag, ers i'r adolygiad ddechrau ym mis Hydref 2018, rwyf wedi cael cyswllt uniongyrchol â dau etholwr, a'r farn a glywais ganddynt yn glir oedd yr angen i wella profiad y menywod sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Yna, ym mis Ionawr, wrth i'r adolygiad annibynnol fynd rhagddo, roeddwn yn un o nifer o Aelodau Cynulliad a gafodd lythyr dienw gan aelodau o staff yn mynegi eu pryderon, yn bennaf ynghylch rheoli'r gwasanaeth. Ynghyd ag o leiaf un AC arall, gwneuthum gynnwys y llythyr hwnnw yn hysbys i'r bwrdd iechyd. A chan fod yr adolygiad annibynnol wedi'i gwblhau bellach, byddaf yn mynd ar drywydd y pryderon hynny er mwyn sicrhau bod sylw digonol wedi'i roi i'r materion a godwyd ynddo, a disgwyliaf i hynny gynnwys gwybodaeth am gamau a gymerir yn erbyn unrhyw un y canfyddir ei fod yn gyfrifol.
Y llynedd, ysgrifennais adroddiad cwbl ddigyswllt am wasanaethau iechyd a gofal lleol yn fy etholaeth i, y mae rhan helaeth ohoni, wrth gwrs, yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n cynnwys adran ar yr hyn a wnawn pan fydd pethau'n mynd o chwith. Yng nghyd-destun ein gwasanaethau iechyd, fy marn ar y pwynt hwnnw oedd bod angen inni fod yn agored ynghylch y camgymeriadau, mae angen inni adolygu a dysgu'r gwersi, ymddiheuro a gwneud iawn lle mae hynny'n angenrheidiol, cywiro materion yn y dyfodol, a sicrhau camau dilynol cadarn.
Gan ddefnyddio fy ngeiriau fy hun yn ffon fesur felly, mae'n ymddangos i mi mai'r tamaid pwysig iawn y mae angen inni barhau i'w wella yw'r angen i fod yn yn agored ynglŷn â chamgymeriadau. Fel y dywed yr adroddiad annibynnol, mae materion yn codi ynglŷn â diwylliant sy'n galw am sylw o hyd, ond fel yr ysgrifennais ynglŷn â phwysigrwydd camau dilynol cadarn, mae angen inni ailedrych ar hynny. Ac wrth i ni adolygu a dysgu, gwn y bydd y cyhoedd rwy'n eu cynrychioli yng Nghwm Taf a thu hwnt yn mynnu cael gwybod yn llawn am y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd hwn.
Yn olaf, byddwn angen sicrwydd gan y Gweinidog y ceir gwybod yn gyflym am y cynnydd sy'n cael ei wneud, a chredaf y cawn y sicrwydd hwnnw. Dyna yw cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd, a dyna pam rwy'n parhau i fod â hyder yn ei arweinyddiaeth.
Roeddwn i'n edrych ar un o'r adroddiadau sy'n cael ei gyfeirio ato yn y cynnig wrth baratoi ar gyfer y ddadl yma heddiw, ac roedd hwnnw yn sôn am sut bod yna ddiffyg yn y modd mae'r uwch arweinyddiaeth wedi gweithredu ar amser er mwyn delio â'r risgiau sy'n bodoli o fewn y gwasanaeth. Roedd yr adroddiad yn sôn am ddiffyg enfawr o ran adrodd digwyddiadau difrifol, bod oedi o ran ymateb i gwynion ac, mewn rhai achosion, fod y cwynion hynny ddim yn cael unrhyw fath o ymateb o gwbl. Pa adroddiad oedd hwnnw, meddech chi? Wel, adroddiad Ockenden, neu un o adroddiadau Ockenden ar Tawel Fan. Fe edrychais i ar adroddiad arall wedyn, a oedd yn ategu llawer o’r un negeseuon: system gwyno adversarial gyda rheolaeth araf, problemau gyda’r strategaethau sefydliadol ar ddiogelwch cleifion, ar ddatblygu capasiti, ar gynllunio’r gweithlu, a rhai enghreifftiau o ofal claf cwbl erchyll ac ysgytwol. Adroddiad Andrews oedd hwnnw, yn cyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o 2014. A nawr, wrth gwrs, mae gennym ni adroddiad y coleg brenhinol, sy’n dangos eto fod staff yn cael eu gorweithio, yn gweithio o dan arweiniad rheolwyr sydd ddim yn cyflawni eu rôl yn effeithiol, bod yna dan-adrodd digwyddiadau difrifol yn digwydd. Mae’r adroddiad yn dangos nad yw diogelwch cleifion yn flaenoriaeth o ran y broses o wneud penderfyniadau a bod staff yn gyndyn i adrodd pryderon am ddiogelwch cleifion oherwydd ofn cael eu cam-feio neu eu hatal o’r gwaith dros dro, neu wynebu gweithredu disgyblu am adrodd eu pryderon. Ac mae pryderon hefyd am y broses gwyno eto yn cael eu hamlygu yn fan hyn.
Mae’r Gweinidog presennol, wrth gwrs, wedi bod yn gyfrifol am redeg yr NHS o ddydd i ddydd ers Medi 2014, oherwydd dyna oedd ei rôl e fel Dirprwy Weinidog bryd hynny. A mater o fisoedd yn unig yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Andrews i ABMU, ac o gwmpas yr un amser yr oedd adroddiad Ockenden cyntaf yn cael ei ysgrifennu yr oedd e’n dod i’w rôl, wrth gwrs. Ac mi fyddai’n rhesymol, wrth gwrs, inni beidio â beio’r Gweinidog am fethu ag atal y sgandalau hyn, ond mae ganddo fe gyfrifoldeb dros ei ymateb e iddyn nhw.
Yn fy rhanbarth i yn y gogledd, wrth gwrs, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel rŷm ni wedi clywed, wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig, a hynny, wrth gwrs, pan oedd y Prif Weinidog yn Ysgrifennydd Cabinet iechyd ar y pryd. Roedd hynny i fod yn rhywbeth dros dro. Pedair blynedd o reolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach, wrth gwrs, rŷm ni’n dal ddim wedi gweld y gwelliannau y byddem ni oll wedi gobeithio eu gweld pan aethon nhw i mewn i fesurau arbennig. Ac yn wir, mae yna derminoleg nid annhebyg i 'fesurau arbennig, arbennig' wedi bod yn cael ei defnyddio ers hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, yn peri gofid i ni i gyd. Ac mae'r bwrdd wedi cael ei lethu gan nifer o sgandalau, wrth gwrs, dros y blynyddoedd. Un o'r materion cyntaf ar ôl i fi gael fy ethol oedd y sgandal C. difficile yn Ysbyty Glan Clwyd, os cofiwch chi, nifer o flynyddoedd yn ôl. Ond dim un aelod o'r bwrdd nac o’r uwch-reolwyr yn cael ei ddisgyblu am y methiant yna.
Rydym wedi gweld methiannau o ran cynllunio'r gweithlu hefyd, ac un enghraifft ddiweddar y tynnais sylw ati yma yn y gorffennol, wrth gwrs, oedd sefyllfa chwerthinllyd nyrsys yn hyfforddi ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ond yn methu cael lleoliadau gwaith i lawr y lôn yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac o ganlyniad, wrth gwrs, yn gorfod mynd i'r GIG yn Lloegr ac i ymarfer preifat a'r nyrsys hynny'n cael eu colli i'r GIG yng Nghymru. Ddoe, gofynnais gwestiwn ynglŷn â chau ysbytai cymunedol, gan gynnwys Llangollen, y Fflint, Prestatyn, Blaenau Ffestiniog, a'r modd y mae'r sector preifat yn camu i mewn yn awr i lenwi bwlch y gwelyau a gollwyd.
Bu bron inni weld y staff GIG cyntaf yng Nghymru yn trosglwyddo i'r sector preifat dan gontract dialysis newydd wedi'i lunio gan adran y Gweinidog yn ddiweddar. Oherwydd bod y staff wedi cysylltu â ni, llwyddasom yn y pen draw i sicrhau na chawsant eu trosglwyddo, ond mae hynny'n dal i adael talpiau mawr o'r gwasanaeth arennol yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, dan reolaeth uniongyrchol cwmnïau preifat. Clywsom am uned Tawel Fan, ac nid oes angen i mi ailedrych ar yr enghraifft benodol honno oherwydd, fel y cawsom ein hatgoffa, dywedwyd wrthym na fyddem byth yn gweld adroddiad o'r fath yn y dyfodol am fod y gwersi wedi cael eu dysgu
Wel, wyddoch chi, cawsom ddau uwch-adroddiad, fel y crybwyllais ar y dechrau, a oedd yn tynnu sylw at y graddau y mae angen i ddiwylliant y byrddau a'r ffordd y maent yn gweithredu newid, ac mae angen inni weld camau'n cael eu cymryd i newid y diwylliannau hynny. Ond yr hyn a welwn, wrth gwrs, yw bod gennym drydedd enghraifft ac adroddiad y coleg brenhinol yr wythnos diwethaf, sy'n tynnu sylw at yr un methiannau, a rhaid inni ofyn: beth a wnaed i newid y diwylliant pwdr sy'n bodoli yn rhai o'r byrddau hyn?
Mae'r symptomau yr un fath, wrth gwrs, fel rwyf wedi'u rhestru, ond nid wyf yn ymwybodol o un rheolwr a ddisgyblwyd am gyfrannu at y diwylliant hwn neu am ei gynnal. Yn wir, gwyddom am un rheolwr mewn swydd uwch gyda chyfrifoldeb am ofal cleifion yng Nghwm Taf a Betsi Cadwaladr yn ystod y cyfnodau dan sylw, ac a gafodd ei gyflogi mewn swydd debyg ar ôl sgandal Tawel Fan. Wrth gwrs, ar yr un pryd, cafodd meddygon a nyrsys eu diswyddo a bu'n rhaid iddynt wynebu ymchwiliadau troseddol am y sgandalau hynny, ond gall rheolwyr sy'n methu barhau i weithio.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, ef sy'n gyfrifol am berfformiad y byrddau hynny a'r prif weithredwyr hynny. Gwnaeth y Gweinidog benderfyniad clir yr wythnos diwethaf i ochri gyda hwy ac nid gyda chleifion, ac ni allwn ymddiried ynddo mwyach.
Ugain mlynedd i mewn i lywodraethu datganoledig, byddech yn disgwyl y dylai Cymru a'i phoblogaeth fod yn derbyn gwasanaethau hanfodol o safon uchel. Wel, gallaf ddweud wrthych nad oes enghraifft fwy o gamreoli'r broses ddatganoli na'r enghreifftiau o wasanaethau iechyd sy'n methu. Nid datganoli sy'n gwneud cam â'r gweithwyr meddygol proffesiynol gweithgar yn ein cymunedau, ond y ffordd y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn trin ac yn camreoli GIG Cymru.
Nawr, nid oes angen inni edrych ymhellach na'r bwrdd iechyd ar gyfer yr etholaeth y mae'n anrhydedd fawr imi ei chynrychioli i weld y bwrdd iechyd a'r methiannau o ganlyniad i'r Llywodraeth hon. Er bod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015, mae newydd gofnodi'r amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yng Nghymru. Gwelwyd llai na 60 y cant o gleifion o fewn pedair awr yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. Er gwaethaf y mesurau hyn, dyma'r bwrdd a welodd y nifer uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o holl ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, ac er gwaethaf mesurau arbennig, dyma'r bwrdd iechyd a oedd yn gyfrifol am drin y ganran isaf o bobl a oedd yn aros am ofal wedi'i gynllunio o fewn 26 wythnos i gael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu ym mis Chwefror. Y bwrdd iechyd hwn oedd â dros hanner o'r 13,000 o bobl yng Nghymru a oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth ym mis Chwefror ac mae newydd gofnodi'r diffyg mwyaf o blith saith bwrdd iechyd GIG Cymru, sef £42 miliwn.
Pedair blynedd o fesurau arbennig, a methiant a rhwystredigaeth o hyd ynghylch gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod hyn a'r Gweinidog, mewn gwirionedd, wedi cyfaddef ar 6 Tachwedd 2018 fod anawsterau sylweddol yn parhau. A yw hyn yn dderbyniol wrth ystyried bod y bwrdd iechyd wedi bod o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, ein Gweinidog iechyd, am y cyfnod hwyaf o gymharu ag unrhyw un o gyrff y GIG ym Mhrydain? Nid yw fy etholwyr a minnau'n credu ei fod. Yn wir, mae Aberconwy'n dweud 'na'. Nodwyd diffyg cynnydd gan Donna Ockenden, a chanfu ei hadolygiad fod y bwrdd wedi methu cyrraedd targedau allweddol ers 2017, gan gynnwys arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn ei drefniadau llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, ac ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Mae hynny'n dweud 'adennill hyder y cyhoedd'—nid yw'r hyder hwnnw yno, Weinidog. Yn fwy na hynny, llythyr mwy diweddar Mrs Ockenden am gynnydd annigonol o ran gwella'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny—rwy'n synnu clywed bod ei chynnig i helpu wedi'i wrthod mewn gwirionedd.
Mae'n fy nhristáu bod nifer o feysydd y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd cyn y gellir ystyried isgyfeirio o fesurau arbennig. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa er lles gorau fy etholwyr i. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y problemau'n mynd yn waeth ar draws Cymru, gyda phump yn awr o'r saith bwrdd iechyd mewn rhyw fath o fesurau arbennig. Mae'r mesurau hyn yn dangos methiant. Er enghraifft, yr heriau a wynebir yng Nghwm Taf. Canfu'r adolygiad o wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf ddiffyg ymagwedd gydlynol tuag at ddiogelwch cleifion neu ddealltwriaeth o'u rolau a'u cyfrifoldebau tuag at ddiogelwch cleifion y tu hwnt i'r gofal a ddarparwyd ganddynt ar gyfer menyw benodol neu grŵp o fenywod, fod aseswyr wedi eu hysbysu'n gyson gan staff ynglŷn ag amharodrwydd i roi gwybod am faterion yn ymwneud â diogelwch cleifion am eu bod ofn cael eu beio, eu hatal o'u gwaith dros dro neu wynebu camau disgyblu, a phrin iawn oedd y dystiolaeth o arweiniad clinigol effeithiol ar unrhyw lefel. Mae angen adolygiad mawr o bob agwedd ar wasanaethau mamolaeth yno er mwyn diogelu teuluoedd yn y dyfodol rhag wynebu'r colledion a welsom ac y clywsom amdanynt. Fel y dywedodd eich AS Llafur Cymru eich hun, Owen Smith, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch ad-drefnu i'w weld fel pe bai wedi dwysáu'r problemau sy'n wynebu Cymru. Rwy'n ymwybodol ei bod wedi cymryd llawer gormod o amser hefyd i roi'r mesurau arbennig ar waith—bron i saith mlynedd ar ôl i bryderon gael eu codi'n ffurfiol am y tro cyntaf. Nid yw hynny'n rhagweithiol. Rydych yn gweithio ar sail adweithiol, Weinidog.
Heddiw rydym yn wynebu oedi gan Lywodraeth Cymru rhag gweithredu yng Nghwm Taf, methiannau parhaus i reoli Betsi Cadwaladr. Yn sicr, nid oes gennyf hyder y gall y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r methiannau systemig a nodwyd yma heddiw. Aeth pedair blynedd heibio ers i ogledd Cymru ddod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Felly, sut ar y ddaear y gellir disgwyl i ni gredu unrhyw beth a ddywedwch wrthym mwyach, Weinidog? Nawr, rwy'n cefnogi'n llwyr y cynnig heddiw gan Blaid Cymru, a hoffwn ofyn i chi ystyried eich sefyllfa o ddifrif. Pe bawn i yn eich esgidiau chi, buaswn yn ymddiswyddo. Buaswn yn mynd gam ymhellach: os nad ydych yn barod i wneud y peth anrhydeddus er mwyn i fy etholwyr i a chleifion eraill ledled Cymru gael gofal iechyd digonol, buaswn yn gofyn i'r Prif Weinidog eich diswyddo. Diolch.
Mae wedi bod yn wythnos drist iawn i unrhyw un sydd wedi darllen neu wedi bod yn rhan o adolygiad y coleg brenhinol o wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Mae tystiolaethau'r mamau y bu eu babanod farw yn cyffwrdd â phob un ohonom, ac mae'r ffordd y cawsant eu trin yn ddigon i wneud unrhyw un yn ddig. Nawr, gofynnais y cwestiwn yr wythnos diwethaf ynglŷn ag a fyddai hyn wedi digwydd mewn ardal arall—er enghraifft, gwasanaeth ysbyty mewn dalgylch cyfoethocach, dyweder, lle byddai'r cleifion yn fwy tebygol o fod yn perthyn i'r dosbarth canol. A fyddem yn gweld adroddiad yn amlygu agweddau diystyriol a methiant i ymddiheuro, ac ymatebion a oedd yn fformiwläig ac a oedd i'w gweld â mwy o ddiddordeb mewn amddiffyn enw da unigolion a'r bwrdd iechyd mewn ardal gyfoethocach? Rwy'n amau hynny'n fawr. Ac nid pwynt dadleugar yw hwn; mae'n ffurfio rhan o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i chydnabod mewn digon o amgylchiadau eraill. Nid yw'r oslef ddiystyriol a ddefnyddiodd y Gweinidog i ddiystyru’r pryderon hyn yr wythnos diwethaf yn ennyn hyder ynof y caiff pethau eu hunioni. Wedi'r cyfan, craidd y broblem yma yw bod pobl, menywod dosbarth gweithiol yn bennaf, wedi cael eu diystyru, a dyma'r Gweinidog iechyd yn gwneud hynny wedyn. Ond nid yw dwyn y Gweinidog i gyfrif yn golygu na ddylai'r rhai sy'n gyfrifol yn y bwrdd iechyd gael eu dwyn i gyfrif hefyd—wrth gwrs y dylent—a hyd at yr wythnos diwethaf, roedd cwestiynau'n codi ynglŷn â'u gweithredoedd.
Ym mis Hydref y llynedd, cyn comisiynu'r adolygiad allanol, dywedodd llefarydd ar ran Cwm Taf wrth y cyfryngau fod eu hadolygiad mewnol yn ymarfer rheolaidd ynglŷn ag a ddylid gwneud pethau'n wahanol. Ar yr un pryd, roedd gan y bwrdd iechyd adroddiad mewnol yn ei feddiant a oedd yn dweud bod pethau'n llawer gwaeth. Ble mae'r tryloywder yma? Roedd cuddio'r adroddiad hwnnw yn ein camarwain: tystiolaeth fod gan y bwrdd fwy o ddiddordeb mewn amddiffyn ei enw da na chywiro'r problemau o fewn y gwasanaeth. Mae'n dal i fod yn anghyfiawnder difrifol, yn fy marn i, y gellir diswyddo meddygon, nyrsys a bydwragedd ac y gallant wynebu ymchwiliadau troseddol—yn briodol, wrth gwrs—am fethiannau ym maes gofal cleifion, ond nid oes yr un rheolwr hyd y gwyddom wedi wynebu sancsiynau cyfatebol erioed. Nid yw hynny'n iawn ac mae'n nodweddiadol o'r diwylliant seiliedig ar ddosbarth sy'n heintio bywyd cyhoeddus. Mae prif weithredwyr ein byrddau iechyd yn cael llawer mwy o gyflog na'r Prif Weinidog, ac nid ydynt yn wynebu atebolrwydd cyfatebol, er bod pawb ohonom yn gwybod, pe bai gweithiwr ar gyflog isel neu ar raddfa isel yn gwneud rhywbeth a fyddai chwarter mor ddifrifol yn eu gweithle, byddent yn wynebu canlyniad hollol wahanol.
Nid yw'r Gweinidog ei hun wedi cydnabod mai ef sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol; mae'r cyfrifoldeb i fod arno ef, ond hyd yma, nid yw hyn wedi golygu fawr ddim. Ond yma heddiw, gallwn o leiaf anfon neges y gellir diswyddo Gweinidogion. Wedi'r cyfan, mae hwn yn fater mwy o faint na'r diswyddiadau diweddar yn San Steffan. Ymddiswyddodd Liam Fox am wahodd cyn gynghorydd arbennig dramor i gyfarfodydd. Fe wnaeth Amber Rudd gamarwain pwyllgor, a'r honiad yw bod Gavin Williamson wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Nawr, buaswn yn dadlau bod methiannau gwasanaethau a arweiniodd at yr adroddiad damniol hwn yr wythnos diwethaf yn llawer mwy difrifol na'r materion a arweiniodd at ymddiswyddiad y Gweinidogion yn San Steffan.
Beth am gyferbynnu ymddygiad y Gweinidog iechyd yma dros yr wythnos ddiwethaf â'r gweinidog iechyd blaenorol yn Tunisia. Ym mis Mawrth eleni, bu farw 11 o fabanod yn drasig mewn ysbyty yn Tunis, yn dilyn achosion o haint a briodolwyd i arferion gwael ar y ward. Gweithredodd y gweinidog iechyd yn Tunisia yn ôl ei gydwybod, cymerodd gyfrifoldeb ac ymddiswyddodd, er mai dim ond ers pedwar mis y bu yn y swydd. Rwy'n bendant iawn ei bod hi'n bryd i ni arfer yr un safonau o atebolrwydd a chyfrifoldeb yma.
Clywsom yr wythnos diwethaf gan Lynne Neagle fod problemau yng Nghwm Taf dros 16 mlynedd yn ôl, ac yn amlwg, rhaid inni sicrhau bod y problemau a ganfuwyd bryd hynny wedi cael eu cywiro wedyn, ond yn amlwg, nid yw'n ymddangos mai dyna'r sefyllfa yn yr ystyr fod pobl yn dweud bod problemau wedi parhau drwy gydol yr amser hwn. Y cwestiwn a ofynnais i mi fy hun wrth ddarllen yr adroddiad hwn oedd, 'Ble'r oedd goruchwyliwr y bydwragedd yn hyn oll?' Oherwydd eu dyletswydd hwy oedd sicrhau bod uned yn ddiogel, ac os nad oedd yn ddiogel, roedd ganddynt bwerau i'w chau. Felly, dyna farc cwestiwn mawr yr hoffwn fod wedi'i weld yn cael ei ateb, gan nad yw—. Newidiwyd eu rôl wedyn yn 2017, fel na fyddai ganddynt bwerau ymchwilio o'r fath mwyach, ond yn hytrach, y byddent yno mewn rôl gefnogol, sef yr hyn a ddymunai bydwragedd yn wir. Ac roedd Cymru, i ryw raddau, ar y blaen o ran egluro rôl newydd y goruchwylwyr clinigol bydwragedd. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, yng Nghwm Taf, ni newidiwyd y rôl yn unol â'r ddeddfwriaeth, a'u bod wedi parhau i gael eu galw i ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol yn hytrach na chyflawni'r gwaith o gefnogi a datblygu arferion da ym maes bydwreigiaeth. Roedd yn amlwg fod yna lawer o enghreifftiau o'r rheswm pam fod yna bryderon ynghylch arferion bydwreigiaeth, oherwydd y niferoedd o farw-enedigaethau, nifer y genedigaethau Cesaraidd, a ddylai fod wedi bod yn amlwg i'r bwrdd ar y pryd.
Ac yn amlwg, os nad oedd yr—. Nid yw'n deg â bydwragedd, sydd yno i gynorthwyo genedigaethau normal, os nad oes ganddynt arbenigwyr i alw arnynt pan fydd cymhlethdodau'n dechrau ymddangos. Mae'r ffaith bod yr obstetregydd ymgynghorol yn aml yn absennol ac nad oedd ar gael am hyd at awr, sy'n llawer iawn o amser pan fo beichiogrwydd yn mynd o'i le—. Roedd hi'n amlwg fod y gwasanaeth—. Dylai fod wedi bod yn glir, yn gwbl amlwg, i'r holl staff uwch—yr obstetregydd ymgynghorol, y paediatregydd ymgynghorol—nad oedd hwn yn wasanaeth a oedd wedi'i gyfarparu ar gyfer gofalu am y babanod a gâi eu geni'n gynnar iawn ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd yn unig. A dylent fod wedi chwythu'r chwiban.
Rwy'n credu bod y foment allweddol wedi digwydd pan gyflwynodd y fydwraig ymgynghorol ei hadroddiad ym mis Medi 2018, ac roedd yn amlwg ei fod wedi'i guddio o olwg pawb, oherwydd nid oedd yr aseswyr a aeth i fyny yno ym mis Ionawr yn ymwybodol ohono hyd yn oed tan y diwrnod y cyraeddasant. Ond a yw'n wir nad oedd y bwrdd yn gwybod amdano, neu eu bod yn gwybod amdano ac na wnaethant ddim yn ei gylch? Yn amlwg, nid oedd y Gweinidog yn gwybod am y peth, oherwydd wedyn comisiynodd ymchwiliadau ychwanegol ym mis Hydref y llynedd. Felly, cymerodd gamau priodol, yn fy marn i. Ond rwy'n credu bod rhai materion difrifol iawn na ddylid colli golwg arnynt drwy geisio rhoi'r Gweinidog iechyd ar brawf. Mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn ein dyletswydd gyfunol i sicrhau bod gan fyrddau iechyd bwerau, cylch gwaith a chyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaeth i'r gymuned y maent yn gyfrifol am ei gwasanaethu.
Felly, pa newidiadau, os o gwbl, sydd angen eu gwneud o ran trefniadau llywodraethu byrddau iechyd, a sut y gallwn sicrhau bod y diwylliant o fewn y byrddau iechyd yn un sy'n ceisio gwella'n barhaus a diwallu anghenion poblogaethau'n well? Rhaid inni sicrhau bod staff ar y wardiau mewn amgylchedd lle gallant chwythu'r chwiban os nad ydynt yn credu bod y gwasanaeth yn gweithredu'n ddiogel, ac yn amlwg nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd yng Nghwm Taf. Felly, credaf mai dyna'r problemau sydd ger ein bron. Rwy'n credu bod galw am ymddiswyddiad y Gweinidog iechyd, a siarad yn blaen, yn dacteg ddargyfeirio. Mae'n rhaid inni gael y gwasanaeth yn iawn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf.
—y gwasanaeth sydd gennym yng Nghwm Taf ac yn ein holl wasanaethau mamolaeth i sicrhau eu bod yn addas at y diben, yn unol â 'Genedigaethau Gwell'. Felly, credaf mai dyna'r mater sydd ger ein bron a dyna'r un y dylem fod yn craffu arno'n fanwl.
Ddoe, gwelsom gynnig arall gan y Llywodraeth Lafur hon nad oedd yn gwneud fawr mwy na llongyfarch ei hun, fel pe bai popeth yn GIG Cymru'n fendigedig, ac rydym yn ei weld yn rheolaidd. Mae'r Gweinidog wedi bod yn eistedd yno dros y rhan fwyaf o'r ddadl hon, yn cilwenu—nid wyf yn gwybod sut y gallwch, Weinidog. O ddifrif, nid wyf yn gwybod sut y gallwch wneud hynny.
Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd—[Torri ar draws.] Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur heddiw'n dangos y gwadu a'r hunanfodlonrwydd, nid bod arnom angen mwy o dystiolaeth o hynny. Ydw, rwy'n nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â Chwm Taf, ond nid yw'n fawr o gysur. A ydw i'n meddwl y byddant yn gallu mynd i'r afael â'r broblem go iawn a gwneud y penderfyniadau anodd y mae angen iddynt eu gwneud er mwyn datrys methiannau Betsi Cadwaladr, Cwm Taf ac eraill? Nac ydw. Mae'n eithaf clir, yn enwedig yn ôl yr adroddiadau trasig ar farwolaethau babanod yr wythnos diwethaf, mai'r peth olaf y mae gan Lafur hawl i'w wneud yw llongyfarch ei hun, fel y mae'n ei wneud mor aml, neu eistedd a gwadu pethau fel y mae'n ei wneud heddiw. Yn hytrach, dylai ostwng ei ben cyfunol mewn cywilydd a chyflwyno cynnig a fyddai'n ymddiheuro'n llaes i deuluoedd sy'n galaru ac yn darparu'r camau gweithredu cadarn y bwriadant eu rhoi ar waith i unioni'r sefyllfa.
Mae Llafur wedi bod yn rhedeg y GIG ers 20 mlynedd yng Nghymru, a phob etholiad dywedant y byddant yn trawsnewid y GIG a'i fod yn ddiogel yn eu dwylo hwy. Ac eto, ym mhob tymor Cynulliad, maent yn gwneud pethau'n waeth. Pam y dylem ni neu'r cyhoedd gredu, yn sydyn iawn, y bydd y gwasanaethau'n gwella pan nad ydynt wedi gwneud hynny ers degawdau?
Mae'r Llywodraeth hon yn cwyno bod ein GIG yn dibynnu ar ymfudwyr ac yn defnyddio argyfwng recriwtio i guddio y tu ôl iddo—hynny yw, pan nad yw'r Gweinidog yn cuddio y tu ôl i'r staff. Ond mae Llywodraethau olynol, wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, wedi creu'r broblem recriwtio yn y GIG. Mae'n costio llawer iawn o arian i hyfforddi i fod yn feddyg, sy'n golygu ei fod yn broffesiwn llawer mwy brawychus i ymuno ag ef, fel pe na bai'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y gwaith yn ddigon brawychus. Ond ar yr un pryd, nid yw nifer y lleoedd hyfforddi wedi cynyddu ochr yn ochr â'r boblogaeth. I bob pwrpas, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi hyfforddiant meddygol ar gontract allanol i leoedd fel y trydydd byd, lle'r ydym yn dwyn llawer o'n meddygon o gymunedau sydd eu hangen yn ddybryd eu hunain.
Ac wrth gwrs, gwaethygir y broblem recriwtio gan yr enw sydd gan rai o'r byrddau iechyd yng Nghymru. Sut y gallwn obeithio recriwtio staff pan fydd nodi rhai o'r byrddau iechyd yng Nghymru ar eu curriculum vitae yn gallu amharu ar eu rhagolygon gyrfa hirdymor? Diben cael y GIG wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru oedd y byddai'n gallu ymateb i anghenion lleol a pherfformio'n well i bobl Cymru nag a wnâi'n flaenorol. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi niweidio'r GIG fel bod ganddo broblemau, yn hytrach na manteision, sy'n unigryw i Gymru. Mae gwasanaeth iechyd sydd â phob rheswm i fod yn fwy ymatebol i anghenion lleol yn llai ymatebol mewn gwirionedd. Ceir rhestri aros hwy a chanlyniadau gwaeth na'r rhai cyfatebol yn Lloegr nad yw Llafur yn eu rheoli, lefelau anghymhwyster sy'n lladd babanod, rhestrau aros o filoedd y cant, pobl ifanc yn cael eu bywydau wedi'u difetha'n disgwyl am driniaeth iechyd meddwl. Sut y gall pobl yn y byd go iawn fod ag unrhyw hyder y gall y Llywodraeth hon naill ai gynnig y syniadau sydd eu hangen i ddatrys anrhefn y GIG yng Nghymru neu weithredu'r camau y maent yn eu haddo?
Wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw syniadau a chamau gweithredu sy'n gwella'r GIG, ond fel llawer o rai eraill yma ac allan ledled Cymru, nid oes gennyf unrhyw ffydd y gall y Llywodraeth hon gyflawni dim heblaw argyfwng parhaus i wasanaeth iechyd gwladol ein gwlad. Fe wnaeth y bobl a bleidleisiodd dros y Llywodraeth hon eu rhoi yn eu lle i lywodraethu, nid i geisio osgoi atebolrwydd. Roedd yr un bobl yn ymddiried yn y Blaid Lafur ac yn gosod eu system GIG yn ei dwylo ac yn nwylo'r Gweinidog. Bellach, rhaid i'r Gweinidog ysgwyddo'r cyfrifoldeb eithaf am y methiannau yn y GIG, a byddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, ond mae'n siŵr y bydd y grŵp Llafur yn trechu cynnig Plaid Cymru, a bydd hynny'n dangos yn dra effeithiol pa mor anghywir oedd pleidleiswyr Llafur i roi eu hyder yn y Blaid Lafur. Diolch.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ymuno â fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, i ddiolch yn ddiffuant iawn i'r Gweinidog am roi camau mor bendant ar waith cyn gynted ag y daeth y problemau yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf i'r amlwg, gan gomisiynu'r adolygiad annibynnol hwn sydd wedi ein galluogi i dynnu sylw at fethiannau yn y gwasanaeth ac i ddechrau unioni pethau. Felly, ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn grybwyll dwy thema bwysig y soniais amdanynt yn y Siambr yr wythnos diwethaf, a chanolbwyntiaf fy sylwadau ar adroddiad Cwm Taf, gan mai dyna'r un sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fy etholwyr yng Nghwm Cynon.
Fel y dywedais yn y fan hon yr wythnos diwethaf, ers imi gael fy ethol i'r lle hwn dair blynedd yn ôl, nid oes amheuaeth mai'r adroddiad hwnnw yw'r peth mwyaf gofidus y bu'n rhaid imi ei ddarllen, ac mae fy meddyliau'n dal yn gadarn iawn gyda'r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Yn gyntaf, i'r holl fenywod y siaradais â hwy o fy etholaeth a hefyd y menywod o Gwm Cynon y mynegir eu barn yn yr adroddiad hwnnw, mae un thema'n amlwg iawn, ac mae'n ymwneud â nodiadau'n diflannu neu ddim yn cael eu gwneud, o gofnodion nad oedd yn fanwl gywir, o fenywod yn mynd drwy gyfnod anodd iawn wrth esgor a'r honiad yw bod aelodau gwahanol o staff yn gofyn iddynt dro ar ôl tro i drosglwyddo gwybodaeth ar lafar, yn hytrach na bod y wybodaeth yno wrth law. Un enghraifft yw Joann Edwards sy'n byw yn Aberpennar. Mae Joann wedi sôn sut y gofynnwyd iddi'n gyson i ailadrodd rhesymau dros gymell geni a'r math o enedigaeth, a nododd y cyfathrebu gwael rhwng staff a sifftiau. Fel y dywedodd,
Nid oedd un person i'w weld fel pe bai'n cyfeirio at fy nodiadau a oedd hyd yn oed yn cynnwys lluniau sgan gan y meddyg ymgynghorol gyda manylion mesuriadau hylif.
Neu Chloe Williams o Ynysybwl—nawr, roedd Chloe wedi dal E. coli yn ystod ei beichiogrwydd, ond ni chafodd hynny ei gofnodi yn ei nodiadau. Dioddefodd boen aruthrol ac yn drasig, roedd ei mab yn farw-anedig. Nawr, y rheswm pam rwy'n rhoi'r enghreifftiau hyn mor fanwl—fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, bu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried gwybodeg y GIG yn ddiweddar ac roedd ganddo ganfyddiadau go glir ar hynny, ac yn yr un modd, rwyf wedi cael trafodaethau defnyddiol yn ystod yr wythnos ddiwethaf gyda sefydliadau fel y Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod hyn, ac mae'n amlwg i mi fod yn rhaid defnyddio gwybodeg yn fwy effeithiol i sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar fydwragedd a meddygon wrth law er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir i famau a babanod.
Yn ail, pwynt a wneuthum oedd bod gan Gwm Taf broblemau penodol o ran ei gyfansoddiad economaidd-gymdeithasol. Ceir problemau iechyd sy'n deillio o hyn, ac er nad yw'n esgus, maent yn amlwg yn effeithio ar ganlyniadau. Ond mae gan ardaloedd eraill yng Nghymru yr un heriau, ac mae'r ardaloedd eraill hynny hefyd yn gweld llai o ymyriadau a chanlyniadau diogelach i famau a babanod. Felly, mae'n bwysig iawn fod bwrdd iechyd Cwm Taf yn defnyddio'r profiadau hyn gan fyrddau iechyd tebyg ac yn dysgu oddi wrthynt er mwyn i bethau fod yn wahanol wrth symud ymlaen. Rwy'n croesawu'n fawr y sicrwydd a roddodd y Gweinidog i mi'n bersonol yn y Siambr yr wythnos diwethaf ynghylch y cydweithio hwn.
Rwyf hefyd am dreulio ychydig o amser yn mynd i'r afael â chanfyddiadau'r adroddiad ynghylch llywodraethu. Mae'r adroddiad yn sôn am ddiffygion mewn arweinyddiaeth glinigol, dim hyfforddiant a dim tystiolaeth o gynlluniau ar lefel y bwrdd i ddatblygu sgiliau neu gefnogi arweinwyr, diffyg atebolrwydd gweladwy, a'r hyn sy'n waeth, darparu sicrwydd ffug i'r bwrdd. A hyd yn oed pan fynegwyd pryderon yn sgil ymweliadau dirybudd â'r bwrdd y dylid bod wedi cael ymateb iddynt, sonnir am ddiffyg gweithredu. Gan symud i'r pedwerydd cylch gorchwyl, mae'n ymddangos i mi'n anhygoel fod adolygiadau o drefniadau llywodraethu wedi'u comisiynu ac yna wedi'u gadael ar y silff. At hynny, roedd yna ddiffyg cyfranogiad clinigol. Nid oedd systemau safonol ar waith ar gyfer casglu, dilysu ac archwilio data. Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran arweinyddiaeth ar gyfer y swyddogaethau hyn, felly daethant i fod yn fusnes i neb.
Hoffwn gyfeirio'n fyr at bwynt olaf cynnig Plaid Cymru, ac egluro pam y credaf nad dyma'r dull cywir o weithredu. Pan roddodd y Gweinidog ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, amlinellodd ystod o ymyriadau i wneud pethau'n iawn. Mae ei ffocws ar sefydlu panel goruchwylio mamolaeth annibynnol, cryfhau arweinyddiaeth y bwrdd a darparu craffu a chymorth allanol yn ddull gweithredu cywir, yn fy marn i, a disgwyliaf i hyn arwain at ddatrys yr heriau yn y systemau llywodraethu a ddisgrifiais yn awr—systemau llywodraethu a all gael effaith mor ddinistriol ar fywydau pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau.
Yn yr un modd, mewn ymateb i'r pryderon a nodais ar ôl ei ddatganiad, rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â gwell defnydd o dechnoleg i ddarparu gwell cadernid a sicrwydd ynghylch trosglwyddo cofnodion. Gadewch inni beidio ag anghofio na fyddai'r problemau hyn wedi'u hamlygu heb ymyrraeth y Gweinidog. Felly, yn hytrach na chreu bwch dihangol ac edrych am benawdau hawdd, gadewch inni ganolbwyntio ar wneud pethau'n iawn i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, ac mae hynny'n cynnwys y staff eu hunain.
Galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf yr wythnos diwethaf. Roedd yn ysgytwad i bawb yn y Siambr hon, fel y dylai fod. Roedd adolygiad annibynnol y colegau brenhinol a gomisiynwyd gennyf yn nodi nifer o fethiannau ac yn amlygu gofal gwael a phrofiadau gofidus i fenywod a'u teuluoedd. Rwy'n llwyr gydnabod difrifoldeb canfyddiadau'r adolygiad mamolaeth. Rwy'n eu derbyn yn llawn. Ac fe ailadroddaf eto yr ymddiheuriad a roddais i deuluoedd a gafodd gam.
Fodd bynnag, hoffwn nodi'r hyn nad wyf yn mynd i'w wneud heddiw. Ni chaf fy nhynnu i mewn i geisio dadansoddi detholiad o adroddiadau dros bum mlynedd diwethaf ein GIG. Roedd pob un o'r adroddiadau hynny'n peri gofid ynddo'i hun. Roedd pob un yn eithriadol o anodd i'r bobl yr effeithiwyd arnynt. Roedd gwersi i'w dysgu o bob un ohonynt: gwersi ar gyfer ein GIG; gwersi o ran ein hymagwedd tuag at ymyrraeth ac uwchgyfeirio. Felly, nid wyf am ddefnyddio enghreifftiau o berfformiad y GIG er mwyn pwyntio bys at bobl eraill neu rannau eraill o'r GIG yn y DU. Rwy'n glir fod gornest gwleidyddiaeth plaid, wythnos yn unig ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, yn tynnu sylw pawb ohonom oddi wrth yr hyn y mae teuluoedd wedi dweud wrthym sy'n bwysig mewn gwirionedd. Ein gwaith ni yw gwrando arnynt ac unioni'r hyn na ddylai fod wedi mynd o'i le, a dyna pam y cyflwynasom ein gwelliant.
Ni all yr un ohonom ddeall yn iawn pa mor ofidus y mae hyn wedi bod, ac yn parhau i fod, i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Ond mae'r ffordd urddasol y maent wedi ymateb yn creu argraff arnaf. Mae lefel yr ymrwymiad y maent wedi'i ddangos wrth fynegi eu dymuniad i weithio gyda ni, i lywio a llunio'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwasanaethau mamolaeth, yn dyst i hynny. Fy mlaenoriaeth yn awr yw cymryd pob cam angenrheidiol i fodloni eu disgwyliad na fydd hyn yn digwydd i deuluoedd eraill.
Bydd y panel goruchwylio annibynnol yn allweddol i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae Mick Giannasi, fel cadeirydd y panel, wedi dechrau ar ei waith ar unwaith. Siaradais ag ef ddoe, ac mae'n llwyr ddeall cyfrifoldeb ei rôl. Bydd Mick Giannasi a Cath Broderick, awdur yr adroddiad teuluoedd, yn ymuno â mi yr wythnos nesaf pan fyddaf yn cyfarfod â'r teuluoedd. Rwyf am i'r teuluoedd hynny gael dweud eu barn wrth lunio gwaith y panel, ond rwyf hefyd am ddiolch iddynt yn bersonol am y ffordd y maent wedi cymryd rhan yn yr adolygiad ac am fod yn barod i rannu eu profiadau. Gobeithio y gallant gael rhyw gysur o wybod bod rhywun yn gwrando arnynt, ac y bydd camau'n dilyn.
Ni ellir gwadu bod y safonau a ddaeth yn norm mewn rhannau o'r gwasanaethau mamolaeth hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r methiannau yn y prosesau llywodraethu a olygai nad oedd canlyniadau'n cael eu huwchgyfeirio i'r bwrdd yr un mor annerbyniol. Rwyf wedi dweud yn glir wrth Gadeirydd y bwrdd iechyd fy mod yn disgwyl iddo ef a'r bwrdd ystyried yn llawn sut y digwyddodd hyn, gan fod hynny'n rhan hanfodol o sicrhau na welwn fethiant tebyg yn y system yn y dyfodol. Rwy'n disgwyl i fwrdd Cwm Taf Morgannwg wneud popeth sydd ei angen i sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith o'r ward i'r bwrdd, a rôl David Jenkins yw eu helpu i gyflawni hyn.
Y prif ofyniad yw sicrhau diogelwch, gofal a lles mamau a babanod sy'n derbyn gwasanaethau mamolaeth. Rhaid i hynny gynnwys y diwylliant a'r arferion mwy agored a nodwyd gan Dawn Bowden, i ddisodli'r diwylliant cosbol a ddisgrifir yn yr adroddiad. Yn yr un modd, rhaid iddo hefyd gynnwys y gwelliannau o ran ymarfer, profiadau a chanlyniadau y cyfeiriodd Vikki Howells atynt. Rhaid i'r gwelliant y mae pawb ohonom yn ei geisio fod yn gyflym ac yn barhaus, a dyna fydd y sbardun sy'n llywio fy ngweithredoedd wrth imi gyflawni fy nghyfrifoldebau. Rwy'n benderfynol fod GIG Cymru yn ei gyfanrwydd yn dysgu o'r methiannau hyn yn y system. Byddaf yn gwneud hynny'n glir i gadeiryddion y byrddau iechyd pan fyddaf yn cyfarfod â hwy yfory. Rhoddwyd pythefnos iddynt adolygu canfyddiadau'r adroddiad a chyflwyno adroddiad ar eu gwasanaethau eu hunain. Felly, byddaf yn cael yr adroddiadau hynny yr wythnos nesaf.
Gwyddom i gyd fod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael gofal rhagorol gan ein gwasanaethau iechyd, ond ceir adegau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae hynny'n wir yn anffodus am bob system gofal iechyd. Rydym wedi dangos y byddwn yn rhoi camau pendant ar waith i nodi ac ymateb i fethiannau pan fyddant yn codi. Rydym wedi dysgu gwersi, wedi datblygu ac yna wedi addasu ein dull o ymdrin ag uwchgyfeirio ac ymyrraeth o ganlyniad i hynny. Rydym wedi comisiynu ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i helpu i lywio ein dull o weithredu, gan ddefnyddio cymaryddion rhyngwladol, ac rydym yn ystyried ein profiad ein hunain. Felly, rwyf ymhell o fod yn hunanfodlon. Byddaf yn parhau i gymryd cyngor rheoleiddwyr, y panel annibynnol, fy swyddogion ac fel y dywedais, i geisio barn teuluoedd wrth inni ymateb i'r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Felly, byddaf yn parhau i weithredu.
Rwy'n cydnabod y bydd menywod a theuluoedd, Aelodau yn y Siambr hon, a'r cyhoedd yn gyffredinol yn parhau i ddisgwyl tryloywder, gweld y camau a nodwyd gan adolygiad annibynnol y colegau brenhinol yn cael eu gweithredu'n llawn, clywed bod gofal mamolaeth yn hen ardal Cwm Taf yn ddiogel, yn urddasol, ac yn diwallu anghenion menywod a'u teuluoedd, a gweld tystiolaeth o hynny gan y panel annibynnol a chan y rhai sy'n derbyn gofal. Gweld a chlywed canlyniad y panel annibynnol a benodais. Bydd y panel annibynnol hwnnw'n adrodd yn rheolaidd felly, a chadarnhaf y byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach am eu gwaith a'u hargymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd y gwaith a wneir gan y panel annibynnol a David Jenkins yn cael ei ategu gan waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r cyrff hynny'n annibynnol ar y Llywodraeth. Byddant yn gosod telerau eu gweithgaredd eu hunain iddynt eu hunain yn seiliedig ar eu dadansoddiad o'r problemau. A bydd eu canfyddiadau, yn ôl yr arfer, yn cael eu cyhoeddi.
Dros yr wythnos ddiwethaf, cafwyd galwadau gan amryw o Aelodau'r gwrthbleidiau i rywun gael ei ddiswyddo. O ganlyniad i'r camau a gymerais, gallai'r panel annibynnol neu'r bwrdd ddod o hyd i dystiolaeth o ymddygiad sy'n galw ar y cyflogwr neu reoleiddiwr proffesiynol i weithredu. O dan yr amgylchiadau hynny, rwy'n disgwyl iddynt weithredu'n briodol, ond nid wyf wedi—ac ni fyddaf yn gofyn iddynt gymryd camau er fy lles i. Eu cylch gwaith yw helpu i wella ein gwasanaeth, er mwyn helpu i wasanaethu ein cyhoedd yn well. Nid oes bwledi arian ar gael. Dyna pam y dewisais y dull o weithredu a gyhoeddais. Gwneuthum ddewis, ac nid wyf am fynd ar ôl gwaed neb arall er fy lles i, i roi sicrwydd ffug, i roi camargraff o ateb sydyn na fyddai'n gwneud fawr ddim i sicrhau'r gwelliannau y mae menywod a'u teuluoedd yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.
Wythnos yn ôl, cyhoeddais adroddiad annibynnol llawn y colegau brenhinol a gomisiynwyd gennyf. Amlinellais y camau rwy'n eu cymryd. Credaf fod yn rhaid inni roi'r ffocws ar fenywod a'u teuluoedd sydd wedi cael cam, menywod a theuluoedd sy'n dal i fod angen gwasanaethau mamolaeth. Yn sicr, dyna yw fy ffocws i.
Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddoe, roeddem yn dathlu 20 mlynedd o'r lle hwn fel senedd. Swyddogaeth senedd yw dwyn llywodraeth i gyfrif, ac rwy'n hynod siomedig felly fy mod newydd glywed y Gweinidog yn disgrifio'r mater difrifol hwn a'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddadl urddasol iawn, fel gornest wleidyddol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog pe baem eisiau gornest wleidyddol y gallem gael un yn wythnosol. Nid ydym wedi dewis gwneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhan fwyaf o'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ni allaf gyfeirio at eu holl gyfraniadau, ond yr hyn a welsom drwy drwch y cyfraniadau hynny yw patrwm, ac rwy'n siomedig iawn na all y Gweinidog weld y patrwm hwnnw. Dywed ei fod wedi ymrwymo i sicrhau na fydd yr hyn a ddigwyddodd i deuluoedd Cwm Taf yn digwydd i deuluoedd eraill. Wel, fel y clywsom gan Darren Millar, mae'n debyg iawn i'r hyn a ddigwyddodd i deuluoedd Tawel Fan.
Dywedodd y Gweinidog na fyddai'n cael ei ddenu i wneud cymariaethau. Mae'n peri pryder difrifol nad yw'n gweld yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau beth. Ei fethiant ef i weld yr elfennau cyffredin hynny, a'i fethiant i fynd i'r afael â'r pethau sy'n gyffredin—methiant rheolwyr ym mhob rhan o'r system, y methiant i ddwyn pobl i gyfrif—sydd wedi golygu ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw.
Nawr, mae Dawn Bowden yn tynnu sylw'n briodol at rai o'r pethau sy'n codi. Dywed fod yn rhaid i'r gwaith o wella gwasanaethau ymdrin yn gadarn ag unigolion. Ar dystiolaeth y ddadl heddiw neu ddatganiad yr wythnos diwethaf, nid wyf yn deall sut y gall fod â'r hyder hwnnw. Ac fe'm cyffyrddwyd gan gyfraniad Vikki Howells. Mae'n amlwg ei bod yn teimlo'n ddwfn iawn ynglŷn â beth sydd wedi digwydd i'w hetholwyr. Mae'n gwybod am yr effaith a gafodd hynny ar ei bywyd. Ac eto, mae hi'n diolch i'r Gweinidog. Mae'n llygad ei lle'n tynnu sylw at fethiannau. Mae'n sôn am ddiffyg gweithredu ar ran y bwrdd. Mae'n sôn am ddull gweithredu anghywir. Yn sicr, mae angen i'r aelodau hynny o'r bwrdd gael eu dwyn i gyfrif.
Nawr, Lywydd, rwyf wedi adnabod llawer o Aelodau ar y meinciau Llafur ers blynyddoedd lawer, a gwn eu bod yn bobl anrhydeddus. A gwn eu bod yn bobl deyrngar. Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi ofyn iddynt heddiw i bwy y dylent ddangos teyrngarwch. A ddylent ei ddangos i Weinidog—a dylwn bwysleisio nad yw hyn yn bersonol mewn unrhyw ffordd—sydd wedi methu deall yr elfennau cyffredin yn y problemau sy'n ei wynebu, ac sydd wedi methu ag ymateb yn briodol? Neu a ddylent ei ddangos i'w hetholwyr, pobl Cymru? Nid wyf yn tanbrisio pa mor anodd yw hyn i rai ohonynt, ond ein dyletswydd ni, fel gwrthblaid sy'n deyrngar i bobl Cymru, yw galw arnynt i ystyried.
Ddoe, cyfarfûm—rwyf wedi siarad â nifer o deuluoedd dros y ffôn a thrwy e-bost, ond ddoe cyfarfûm â thad ifanc. Mae'n credu y byddai ei wraig a'i blentyn wedi marw pe na bai'n digwydd bod yn weithiwr proffesiynol meddygol ei hun, ac wedi gallu sylwi ar rai o'r problemau yr oedd y gwasanaeth yn methu gwneud rhywbeth yn eu cylch. Cafodd gefnogaeth o'r radd flaenaf gan un o'i Aelodau Cynulliad lleol. Mae hi'n gwybod pwy yw hi. Ni wnaf ei henwi. Dywedodd wrthyf ei fod yn ddiolchgar inni am godi llais am nad yw'n credu y gall y gwasanaeth newid tra bo'r un bobl a ddiystyrodd ei bryderon, a fychanodd ei wraig, a wnaeth hwyl am ei phen tra oedd yn esgor, ac a'i bygythiodd yn y pen draw y byddent yn dwyn camau cyfreithiol yn ei erbyn pan fynegodd ei bryderon—nid yw'n credu y byddai'r gwasanaeth hwnnw'n newid tra bo'r un bobl yn dal i fod yn gyfrifol. Mae'r fam ifanc honno'n disgwyl plentyn arall. Ni fydd yn rhoi genedigaeth i'r plentyn hwnnw yng Nghwm Taf.
Dyletswydd y Cynulliad hwn yw craffu ar waith Gweinidogion a'u dwyn i gyfrif. Yma i wneud hynny rydym ni. Dyma oedd diben creu'r Cynulliad hwn. Dyma yw ystyr democratiaeth. Nawr, Lywydd, rwy'n credu ein bod yn gwybod pa ffordd y mae'r bleidlais yn debygol o fynd heddiw. Ond gallaf ddweud hyn wrth y teuluoedd, wrth deuluoedd Cwm Taf: ar y meinciau hyn, ni fyddwn yn eich anghofio. Dyna oedd neges y tad ifanc wrthyf ddoe—peidiwch ag anghofio amdanom. Peidiwch ag anghofio beth sydd wedi digwydd. Ar y meinciau hyn, ni fyddwn yn eich anghofio, ac os na fydd y Gweinidog yn ysgwyddo'i gyfrifoldeb, yna drwy'r strwythurau pwyllgor, drwy ddadleuon ar lawr y Siambr hon, drwy gwestiynau, byddwn yn parhau i ddwyn y Gweinidog i gyfrif am brofiadau brawychus y teuluoedd a'r plant sydd wedi mynd.
Bydd y pwyllgor iechyd yn craffu ar Gwm Taf yn fuan mewn perthynas â'r materion hyn, ac rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan y Cadeirydd y bydd lleisiau'r teuluoedd hyn wrth wraidd y gwaith craffu hwnnw. Ni fyddwn yn gwrando ar nonsens gan fiwrocratiaid nad ydynt yn atebol. Byddwn yn mynd â lleisiau'r teuluoedd at y Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar ei fod yn bwriadu eu cyfarfod, ond tybed pa mor ddiogel y byddant yn teimlo i fod yn wirioneddol agored a gonest gydag ef, yn wyneb yr hunanfodlonrwydd a ddangosodd yr wythnos diwethaf a'r wythnos hon.
Gyda chryn ofid, Lywydd, y teimlais yr angen i gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr. Byddai'n llawer iawn gwell gennyf pe gallai'r Gweinidog weld y methiannau systematig yn y modd y rheolir y system a bod yn barod i fynd i'r afael â hwy. Mae wedi dweud wrthym heddiw na fydd yn gwneud hynny. Felly, mater i ni, yr wrthblaid yn y lle hwn, yw bod yn llais i'r teuluoedd hynny—[Torri ar draws.]—ac fe dderbyniaf ymyriad yn llawen os oes rhywun yn dymuno gwneud un. Nac oes? Dyna a feddyliais.
Rwyf am orffen—
O, peidiwch â cholli arnoch.
Mae gennyf reolaeth lwyr arnaf fy hun, Mr Waters. Mae'n ymddangos i mi efallai nad oes gennych chi.
Gadewch i Helen Mary orffen ei haraith, os gwelwch yn dda.
Mae'n rhaid i mi ddod â fy nghyfraniad i ben, Lywydd, drwy ofyn pa lefel o fethiant gan wasanaeth cyhoeddus yn ein gwlad y mae'n mynd i gymryd i Weinidog Llafur—a dyna fy unig bwynt gwleidyddol bleidiol heddiw—pa lefel o fethiant y mae'n mynd i gymryd i Weinidog Llafur wneud y peth anrhydeddus?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.