8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd

– Senedd Cymru ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 7 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:31, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yw dadl ar dasglu'r Cymoedd, a galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Lee Waters.

Cynnig NDM7129 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De o ran cefnogi datblygu economaidd ar draws y rhanbarth.

2. Yn nodi’r diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf.

3. Yn croesawu’r saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.

4. Yn croesawu’r cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:31, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith tasglu'r Cymoedd ac amlinellu ei gyfeiriad ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. Dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar am y gwaith aruthrol a wnaethpwyd gan fy rhagflaenydd, Alun Davies, wrth sefydlu'r tasglu, ac i'r rhai a wnaeth gyfraniadau sylweddol fel ei aelodau.

Rwyf wedi bod yn awyddus i achub ar y cyfle i bwyso a mesur, ac fe wnes i nodi mewn datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ar 18 Gorffennaf sut y mae'r tasglu bellach wedi cytuno i ganolbwyntio ar saith maes blaenoriaeth, pob un ag is-grŵp ei hun o'r tasglu i fwrw ymlaen â'u maes gwaith. Mae rhai o'r aelodau gwreiddiol wedi manteisio ar y cyfle i gamu o'r neilltu a chaniatáu i aelodau newydd ymuno—rwy'n ddiolchgar am eu holl waith, ac rwy'n falch y bydd gan y prif grŵp nawr gytbwysedd rhwng y rhywiau.

Rwyf hefyd yn awyddus y creffir ar ein cynlluniau, ac mae'n bwysig ein bod heddiw yn cael dadl drwyadl i helpu i lywio ein camau nesaf. Rwyf eisoes wedi ymgysylltu ag Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau'r Cymoedd ac rwyf wedi cwrdd â phob arweinydd cyngor yn yr ardal i brofi syniadau sy'n datblygu a gofyn am enghreifftiau o arferion gorau y gallem eu rhannu drwy'r ardal gyfan. Yn hytrach na gosod syniadau ar gymunedau, mae'n llawer gwell nodi arferion da lleol a cheisio'u lledaenu i gymoedd cyfagos.

Yn fy nghyfarfod cyntaf gyda'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, esboniodd wrthyf y llwyddiant a gafodd ei gyngor wrth sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae eu cynllun nhw eu hunain o roi grantiau i bobl sy'n cymryd cyfrifoldeb am eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yn gynllun y mae arweinwyr cynghorau eraill yn gytûn y byddai o fudd iddyn nhw hefyd, ac maen nhw wedi cymeradwyo ein bwriad i dai fod y cyntaf o'n blaenoriaethau strategol newydd. Rydym yn neilltuo £10 miliwn ar gyfer y cynllun dros y ddwy flynedd nesaf ac, yn hollbwysig, dyma gyllid a fydd yn llifo ar draws y Cymoedd, nid yn unig i'r canolfannau strategol fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ond yn y Cymoedd gogleddol hefyd. Byddwn yn efelychu cynllun RhCT ac yn ceisio ychwanegu ato lle gallwn. Er enghraifft, rydym yn ystyried sut y gallwn ni addasu mesurau arbed ynni wrth i ni adfywio'r stoc dai.

Yn fy nghyfarfod gydag arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, fe'm perswadiwyd gan y ddadl dros ganiatáu i awdurdodau lleol gael yr arian hwn i ddod â chartrefi gwag i berchnogaeth y cyngor hefyd, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i bobl sy'n aros am dai fforddiadwy i’w rhentu. Rwy'n falch bod fy nghydweithiwr, Julie James, y Gweinidog tai, wedi croesawu'r awgrym hwn yn frwd.

Fe'm darbwyllwyd gan brif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin i fabwysiadu'r model o arian cyfatebol a ddefnyddir ym mhrosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i wneud y gronfa arian hyd yn oed yn fwy gan roi cyfle i gynghorau fuddsoddi yn y cynllun i gyflawni'r nod hwnnw. Bwriadwn fabwysiadu'r syniadau hyn wrth i ni nesáu at ail flwyddyn y cynllun. Ein blaenoriaeth nawr yw mynd ati i gyflwyno'r prosiect. Ac fel enghraifft ragorol o gydweithredu rhanbarthol, mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgymryd â swyddogaeth yr awdurdod arweiniol, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u profiad i helpu i gyflawni hyn ar gyfer pob cyngor yn ardal y tasglu. Ac rwyf wrth fy modd y bydd y bobl yng nghymoedd Aman a Gwendraeth yn gallu elwa ar hyn hefyd, gan ein bod bellach wedi ymestyn ffin y tasglu i gwmpasu ymyl orllewinol yr hen faes glo.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:35, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n obeithiol y bydd y cynllun yn dod â manteision amlwg i'n holl gymunedau yn y Cymoedd. Llywydd, mae eiddo gwag nid yn unig yn gartref sy'n cael ei wastraffu, mae hefyd yn falltod ar ardal: mae gerddi sydd wedi tyfu'n wyllt yn denu plâu ac mae ffenestri wedi eu torri fel craith ar stryd. Drwy fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag, byddwn yn meithrin gwead ein cymunedau a byddwn hefyd yn helpu'r ail o'n blaenoriaethau strategol: sef tyfu'r economi sylfaenol.

Y profiad yn RhCT yw hyn; wrth i gartrefi gael eu hadnewyddu defnyddir adeiladwyr a chrefftau lleol—mentrau bach a chanolig eu maint—sy'n ailgylchredeg gwariant yn eu hardal. Rydym hefyd yn defnyddio rhywfaint o ddyraniad y tasglu i gynyddu maint cronfa arbrofol yr economi sylfaenol, sy'n ein galluogi i ddyblu'r £1.5 miliwn y gwnaethom gytuno'n wreiddiol arno â Phlaid Cymru yn rhan o'n trafodaethau ar y gyllideb. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau ynghylch pa gynlluniau yr ydym yn eu cefnogi yn yr wythnosau nesaf.

Trydydd maes blaenoriaeth strategol yw entrepreneuriaeth a chymorth i fusnesau. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith yr angel buddsoddi Andrew Diplock—y gwaith y mae wedi'i wneud fel aelod o'r tasglu yn y maes hwn. Mae wedi ein helpu i gynnal digwyddiad #PitchItCymoedd, lle ymgeisiodd 43 o entrepreneuriaid yn y Cymoedd i gymryd rhan. Mae chwech wedi cyrraedd y rownd derfynol erbyn hyn ac yn gweithio gyda mentoriaid cyn y sesiwn syniadau derfynol ddiwedd Tachwedd, lle bydd pob un yn gwneud cais am hyd at £75,000 o fuddsoddiad ecwiti.

Rydym hefyd yn treialu rhwydwaith o gymheiriaid i helpu busnesau sy'n bodoli eisoes i dyfu. Mae hwn yn syniad addawol iawn, rwy'n credu, i ddod â 10 o sylfaenwyr hyd yn hyn o gwmnïau lleol at ei gilydd i gynghori ei gilydd drwy ddefnyddio heriau twf busnes y byd go iawn, y gallant wedyn eu defnyddio yn eu busnesau eu hunain. Rydym yn gobeithio y gall hyn gynnig templed o ran sut y gallwn ni gefnogi cwmnïau sydd wedi'u sefydlu yng ngweddill Cymru.

Rydym hefyd yn gweithredu syniad a gyflwynwyd mewn gweithdy entrepreneuriaeth, a gynhaliais ym Medwas, o gymorthfeydd cyngor busnes lleol. Treialodd Aelod Cynulliad Caerffili, Hefin David, y syniad ym Margoed ym mis Mehefin, ac ers hynny rwyf wedi ysgrifennu at holl Aelodau Cynulliad etholaethau'r Cymoedd ac wedi cynnig gweithio gyda'n gilydd i gyflwyno model tebyg yn eu hardal, a bydd yr un nesaf yn cael ei gynnal yn Rhymni ddiwedd mis Tachwedd.

Dirprwy Lywydd, nid oes gennyf yr amser i sôn am yr holl weithgareddau ym mhob un o'r saith maes blaenoriaeth. Mae llawer yn digwydd, a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cyflenwi blynyddol ym mis Tachwedd, a fydd yn rhoi mwy o fanylion. Ond tynnaf sylw at ddau faes arall yn fy nghyfraniad agoriadol, os caf.

Gallu defnyddio trafnidiaeth reolaidd, ddibynadwy a fforddiadwy oedd y prif fater a amlygwyd yn ystod y cylch cychwynnol o ymgysylltu â'r tasglu. Buom yn cyd-gynnal ein digwyddiad cyntaf â Trafnidiaeth Cymru ym Merthyr yr wythnos diwethaf, dan gadeiryddiaeth Dawn Bowden, yr AC lleol, wrth gwrs, ac sydd erbyn hyn yn aelod llawn o'r tasglu. Byddwn yn cynnal digwyddiadau eraill ar draws y Cymoedd tan ddiwedd mis Hydref i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl leol am y datblygiadau yn eu hardal. Mae'n bwysig, ar ôl gofyn iddyn nhw am adborth, ein bod nawr yn adrodd yn ôl iddyn nhw ar yr hyn yr ydym yn ei wneud o ganlyniad i hynny.

Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n datblygu prosiect treialu i brofi gwasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw yn ardal Glynebwy. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel math o Uber ar gyfer bysiau—nid i efelychu pob agwedd ar y gwasanaeth sy'n seiliedig ar ap ond i roi darlun o sut y credwn y gallwn arloesi o ran y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn gweithio. Rydym hefyd yn datblygu cynigion ar gyfer cynlluniau treialu trafnidiaeth gymunedol yng Nghastell-nedd.

Rydym wedi gwrando ar yr adborth am y tasglu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n dweud bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd derbyn cynigion am waith ar stadau diwydiannol gan nad yw bysiau'n cydredeg â phatrymau shifft. Rydym felly'n ariannu cynllun treialu yn y Rhondda Fach uchaf i gael gweithwyr i ystadau diwydiannol Trefforest a Llantrisant mewn pryd i ddechrau gwaith. Mae hwn wedi bod yn rhedeg ers mis Mai, ac, hyd yn hyn, ceir arwyddion o lwyddiant, felly byddwn yn edrych ar sut y gellir cyflwyno hyn ar ol iddo gael ei werthuso.

Wrth gwrs, ar ben hyn i gyd mae'r gwaith sy'n digwydd ar y cynlluniau metro cyffrous—mae trenau newydd, gwasanaethau amlach a gorsafoedd gwell i ddod. Mae ymdrechion y tasglu i nodi canolbwyntiau strategol ar draws y Cymoedd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ychwanegu gwerth i'r gwaith a gynlluniwyd. Rydym ni wedi darparu dros £600,000 o arian ychwanegol o'r tasglu i gynghorau Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i gomisiynu astudiaethau dichonoldeb a chynllunio i ddatblygu canolfannau trafnidiaeth integredig uchelgeisiol ar draws y Cymoedd. Disgwylir i'r rhain gael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y tasglu ym mis Hydref.

Rydym yn sefydlu is-grŵp o'r tasglu i weld sut y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau yn ffordd Blaenau'r Cymoedd. Nid ydym eisiau i'r A465 fod yn ffordd osgoi o amgylch rhai o'n cymunedau sy'n wynebu'r heriau mwyaf, ond yn ffordd o ddod â swyddi a buddsoddiadau iddyn nhw. Mae fy nghydweithwyr sy'n cynrychioli'r etholaethau hyn wedi bod yn fy holi ynghylch hyn, ac rwyf yn falch bod Dawn Bowden wedi cytuno i arwain is-grŵp o'r tasglu i ganolbwyntio arno.

Yn olaf, Llywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog a minnau bron i £7 miliwn o gyllid ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd. Bydd 11 o brosiectau da yn elwa. Ym Mharc Penallta, ger Ystrad Mynach ac Amgueddfa Lofaol Cefn Coed yng Nghwm Dulais, rydym yn ariannu cyfleusterau cwbl newydd yn llawn. Mae gan bob un o'r prosiectau bwyslais cymunedol cryf a byddant yn gweithredu fel pyrth i barc rhanbarthol y Cymoedd, cysyniad a hyrwyddwyd yn gryf gan fy rhagflaenydd, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:40, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs.

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Un cwestiwn y mae etholwyr wedi'i godi ynglŷn â Pharc Penallta a'r hyn sy'n cael ei gynnig yno yw faint o arian sy'n cael ei wario a beth yn union sy'n mynd i gael ei leoli yno. Sut y bydd yn ymgysylltu â phobl yn yr ardal gyfagos a'r gymuned gyfagos? Beth yn union sydd wedi ei gynllunio?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:41, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n fodlon ysgrifennu at yr Aelod gydag union fanylion y cynllun. Y prif ganolbwynt fydd adeilad ffrâm bren newydd a fydd yn safle ar gyfer allgymorth a chyfranogiad gan y gymuned, yn ogystal â chynlluniau amgylcheddol sylweddol hefyd, ond rwy'n fodlon rhoi'r manylion llawn iddo am hynny. Mae'n safle a oedd yn gais hwyr. Ail-agorwyd y cynigion i ganiatáu ceisiadau newydd. Roeddwn yn amheus ar y cychwyn ynghylch gwneud hynny, ond roedd ansawdd y cais a dyfnder ymgysylltiad y gymuned wrth lunio'r cais yn ddigon i'm perswadio, yn hytrach na rhannu'r holl arian yn gyfartal i wneud yn siŵr bod pawb yn cael rhywbeth, i ariannu cynlluniau o ansawdd da yn llawn, ac roeddwn yn falch mai hwnnw oedd yr un y cytunais i'w ariannu'n llawn. A holl ddiben y safleoedd hyn yw y byddan nhw'n ysgogiad i annog pobl leol ac ymwelwyr i archwilio'r ardaloedd cyfagos, i greu mwclis o barciau. Ac yn rhan o hynny, byddwn yn dychwelyd at y syniad gwreiddiol y tu ôl i barc rhanbarthol y Cymoedd a ddaeth o'r datblygiad dinas-ranbarth yn Stuttgart lle mae ganddyn nhw barciau wedi eu tirlunio, lle maen nhw'n gosod hyrwyddo'r dirwedd ochr yn ochr â datblygu economaidd traddodiadol i wella'r lle i gyd. Rwy'n falch iawn bod prifddinas-ranbarth Caerdydd, wrth ddatblygu'r cysyniad hwnnw, wedi cytuno i ymgorffori trefniadau llywodraethu parc rhanbarthol y Cymoedd yn eu strwythurau eu hunain. Felly, nid ydym yn creu strwythurau newydd o'r dechrau er mwyn gwneud hynny, ond rydym ni'n rhoi perchenogaeth i awdurdodau lleol ac yn trosglwyddo hyn iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu bwrw ymlaen â hyn y tu hwnt i gyfnod y grant, oherwydd rwy'n ymwybodol y tro diwethaf i barc rhanbarthol y Cymoedd fodoli, roedd yn rhan o gyllid Amcan 1, a phan ddaeth yr arian hwnnw i ben, arafodd y cysyniad. Felly, nid wyf eisiau i ni wneud hynny eto, a dyna pam rwy'n awyddus, ar ôl cyhoeddi'r cyllid, ein bod bellach yn trosglwyddo’r prosiect i awdurdodau lleol.

Ac yna enghraifft olaf o fabwysiadu arferion da: cafodd y gwaith y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei wneud yn ei ardal leol o ran cysylltwyr cymunedol argraff fawr arnaf. Felly, yn hytrach na chael parcmyn traddodiadol drwy barc rhanbarthol y Cymoedd, byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu Pen-y-bont ar Ogwr, sef cael cysylltwyr cymunedol i gyfeirio pobl i'w hardal leol. Dywedodd Huw David, arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, wrthyf sut roedd y dull gweithredu hwn yn cynnwys gweithio gyda meddygon teulu lleol i annog pobl i wneud ymarfer corff gwyrdd, ac mae'r model presgripsiynu cymdeithasol hwn yn annog pobl i fynd allan a chwrdd â phobl, gwella eu lles a'u cydnerthedd. Ac rwy'n falch y bydd Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn cymryd yr awenau drwy ledaenu'r model hwn ar draws parc rhanbarthol y Cymoedd yn gyfan gwbl.

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd Tor-faen, y Cynghorydd Anthony Hunt, am gytuno i arwain y gwaith hwn ar ran y ddinas-ranbarth, ac am gynnwys Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a sir Gaerfyrddin yn y gwaith hwnnw, er nad ydyn nhw'n rhan o'r brifddinas-ranbarth. A hoffwn hefyd, yn olaf, nodi'r cyfraniad y mae Jocelyn Davies wedi'i wneud yn y maes hwn yn benodol, y cyn AC dros dde-ddwyrain Cymru. Mae hi wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad meddwl ynghylch y Parc.

Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, lledaenu arferion da, ymgysylltu, gwrando a gweithredu ar syniadau da yw'r ffyrdd yr ydym ni'n gweithio i greu newid parhaol yn ein cymunedau. Nid yw hyn yn ateb pob problem, ond rydym yn gwneud cynnydd, ac rwyf yn edrych ymlaen at drafod beth arall y gallwn ei wneud. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:44, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 7 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai'r ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn gresynu nad oes gan gynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ddigon o uchelgais i helpu i gefnogi cymunedau'r Cymoedd.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r cynnydd o 40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru ers 2009 a'r angen am atebion cyllido a gorfodi i sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto er mwyn mynd i'r afael â'r problemau tai yn ardal y tasglu.

Gwelliant 7—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyfleoedd i wella Ein Cymoedd, Ein Dyfodol o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllido gan Lywodraeth y DU a fydd yn darparu £600 miliwn yn ychwanegol yn 2019-2020 i grant bloc Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 7.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:44, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau hynny yn enw Darren Millar.

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y newyddion diweddaraf am gynnydd tasglu'r Cymoedd a hefyd am ei ddiweddariad cynharach a anfonwyd drwy e-bost at yr Aelodau y prynhawn yma; nid wyf wedi cael amser i edrych ar hwnnw'n fanwl iawn. Hoffwn ailadrodd cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i dasglu'r Cymoedd. Credaf fod—. Mae'n gywir dweud fy mod yn credu bod ardal y tasglu yn cynnwys bron i 30 y cant o boblogaeth Cymru, ac ers cannoedd o flynyddoedd mae'r ardal hon wedi bod yn galon i economi Cymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol felly nad ydym yn siomi disgynyddion y rheini a oedd mor hanfodol wrth bweru'r chwyldro diwydiannol a gwneud Cymru'n gartref i'r contract £1 miliwn cyntaf. Mae llawer wedi newid, ysywaeth, ac nid yw ardaloedd y Cymoedd wedi gallu addasu i'r byd sy'n newid. Credaf fod gwleidyddion o bob plaid wedi gwneud tro gwael â'r Cymoedd ar adegau a rhaid inni wneud iawn am hynny er mwyn sicrhau bod y bobl sy'n byw yn y Cymoedd yn cael yr un cyfleoedd, yr un safon o fyw, tai gweddus a'r gallu i gyflawni mwy nag y creden nhw fyddai'n bosibl. Dyna pam y dylem ni, yn y ddadl heddiw, fod yn feirniadol o'r ymateb hyd yn hyn ond hefyd gefnogi'r cynigion ar yr amod eu bod yn gwella bywydau pobl yn y Cymoedd a'u plant, gan mai nhw yw ac a fydd dyfodol Cymru.

Ein gwelliant cyntaf heddiw yw ei gwneud hi'n glir mai'r ffordd orau i wella bywydau pobl, nid yn unig yn y Cymoedd ond, wrth gwrs, ledled Cymru, yw drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth tymor hir. Mae'n destun pryder, ers i'r tasglu gael ei greu, bod llai na 2,000 o bobl economaidd anweithgar wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglenni cyflogaeth dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Y targed, wrth gwrs, yw 7,000 erbyn 2021. Bydd diddordeb gennyf glywed os gall y Gweinidog yn ei sylwadau terfynol gadarnhau bod hwnnw'n darged y mae'n dal i gredu y gellir ei gyrraedd.

Mae ein gwelliant arall hefyd yn ymwneud â chael mwy o uchelgais. Rydym yn credu y dylai fod mwy o uchelgais yn y cynllun 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Credaf fod angen i'r Llywodraeth gyflawni'n well o lawer o ran cludiant cyhoeddus cydgysylltiedig y gall pobl ei fforddio. Rwy'n siŵr y byddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwnnw; bu'n siarad am hynny yn ei sylwadau agoriadol. Ond rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig inni edrych ar sut y caiff prisiau eu cyfrifo o ran teithiau bws, oherwydd mae'n ymddangos bod rhai cyfraddau annheg a rhai na ellir eu cymharu efallai pan edrychwch chi ar yr amserlenni bysiau a'r pellteroedd sy'n cael eu teithio mewn rhannau o Gymru.

A gadewch i ni beidio, wrth gwrs, ag anghofio—ni allaf fynd heb ddweud hyn; mae'n siom i mi fy mod yn gorfod dweud hyn, ond rydym yn edrych ar yr haf hefyd, a'r trenau o Gaerdydd yn ôl adref i'r Cymoedd. Os nad yw'r trenau'n llawn i'r ymylon o bobl wedi'u gwasgu fel sardîns mewn tun, maen nhw wedi eu gohirio. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw: sut gall pobl lwyddo mewn bywyd fel yr hoffen nhw a darparu ar gyfer eu teuluoedd—sut gall hynny ddigwydd? Sut gellir cyflawni hynny pan fydd rhwystrau fel y rhain yn cael eu rhoi o'u blaen?

Gyda chynnydd o 40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru, rwy'n awyddus i weld llwyddiant wrth i gartrefi gwag gael eu defnyddio unwaith eto. Cytunaf â sylwadau'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r effaith negyddol a geir pan fydd gennych eiddo gwag mewn cymuned a'r malltod sy'n gysylltiedig â hynny. Rwy'n bryderus ynghylch y graddau y bydd y £10 miliwn y soniodd y Dirprwy Weinidog amdano yn ei sylwadau agoriadol yn sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant i fusnesau a chartrefi.

Ac fe wnaf i gloi, Dirprwy Lywydd, drwy groesawu, wrth gwrs, y £600 miliwn ar gyfer grant bloc Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf a byddwn, wrth gwrs, yn annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian ychwanegol hwn ar GIG Cymru, ond yn bwysicach na hynny yn sicrhau y caiff y £195 miliwn ar gyfer ysgolion eleni ei wario'n uniongyrchol ar ysgolion fel y gall y bwlch cyllido sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng Cymru a Lloegr ddiflannu.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:49, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y canlyniadau diriaethol disgwyliedig a chyflwyno cynllun manwl sy'n amlinellu manteision y tasglu fesul cwm, a chynnydd o ran cyflawni'r canlyniadau hynny.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i lunio llinell gyllideb benodol ar gyfer tasglu'r Cymoedd a fydd yn cael ei chynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar fin ymddangos.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu pwyllgor arbennig dros dro gyda chylch gwaith penodol i ddwyn y Gweinidog i gyfrif am waith Tasglu'r Cymoedd ac i aelodaeth y pwyllgor gynnwys Aelodau'r Cynulliad sy'n cynrychioli etholaethau'r cymoedd.

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 a 6.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:49, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Cynigiaf y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mae'r etholaeth yr wyf fi'n ei chynrychioli, y Rhondda, o bosibl yn un o'r Cymoedd mwyaf adnabyddus ar draws y byd. Nawr, ar ôl cyflawni ei diben cyn belled ag y bo'r wladwriaeth Brydeinig yn y cwestiwn, gadawyd y Rhondda, fel llawer o gymoedd eraill, yn ogystal â chymunedau ledled y wlad nad ydyn nhw yn y Cymoedd, gan Lywodraethau olynol ar ddau ben yr M4 i bydru. Yn wahanol i rannau o'r DU a gafodd eu dad-ddiwydiannu'n fwriadol, ni chafodd y maes glo blaenorol yng Nghymru yr un gefnogaeth economaidd, ac, o ganlyniad, rydym ni ymhell y tu ôl i leoedd fel Sheffield, Caeredin, Nottingham, swydd Efrog o ran datblygu economaidd a chyfoeth. Mae gormod o lawer o bobl mewn gormod o'n cymunedau'n cael eu gorfodi i fyw gyda melltith tlodi, ac mae'n siomedig a dweud y lleiaf, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, fod y Cymoedd ac yn benodol y cwm yr wyf i'n byw ynddo, y Rhondda—wedi gweld lefelau truenus o sylw a buddsoddiad.

Wrth gwrs, mae polisïau Llywodraethau yn San Steffan—yn bennaf cyni dros y degawd diwethaf neu fwy—wedi gwneud ein sefyllfa'n llawer iawn gwaeth. Mae rhai pobl ryfeddol yn cyflawni pethau rhyfeddol yn y Cymoedd, ond yn rhy aml mae hynny er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd. Pe bai'n rhaid i chi dalu am y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr, byddai'n gwneud y Llywodraeth hon yn fethdalwr. Mae gweithwyr cymunedol ym mhobman yn rhedeg gorsafoedd radio, banciau bwyd, cynlluniau rhannu bwyd, canolfannau cymunedol a chlybiau ieuenctid, Sgowtiaid, Geidiaid, clybiau chwaraeon, pyllau padlo, cymorth i bobl hŷn ac anabl ac yn y blaen, i gyd am ddim, ond mae eu hymdrechion wedi'u llesteirio gan doriadau a chostau uwch—costau'r Llywodraeth yn aml.

Yr wythnos hon cefais gyfarfod â Chymdeithas Twnnel y Rhondda, grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwaith rhagorol ers blynyddoedd lawer. Mae eu gwaith yn cael ei lesteirio gan ddiffyg gweithredu o ran y Llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol: methu datrys y problemau perchenogaeth, methu dynodi'r ardal yn llwybr teithio llesol—rhwystrau, rhwystrau, drwy'r amser. Am symiau cymharol fach o arian, gallai llawer o'r prosiectau hyn a gweithredwyr cymunedol gyrraedd cymaint mwy o bobl ond, wrth gwrs, yr hyn y mae arnom ni ei angen mewn gwirionedd yw datblygu economaidd a swyddi. A dyna pam roeddwn i mor gyffrous pan glywais am gwmni cydweithredol a oedd wedi'i ffurfio yn y Rhondda a oedd yn cynnwys cyn-weithwyr Burberry. Ni wnaeth y cyffro hwnnw bara'n hir. Roedd y cwmni dillad cydweithredol hwn ar ddeall, pe baen nhw'n fusnes priodol, y byddai'r Llywodraeth yn eu hystyried ar gyfer contract i wneud gwisgoedd gweithwyr yn y sector cyhoeddus—gwisgoedd newydd i weithwyr trên, gwisgoedd y GIG ac yn y blaen. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn sydd wedi arfer darparu cynnyrch o safon uchel. Mae ganddyn nhw safle yn yr hen ffatri Burberry a'u cynllun oedd defnyddio'r hanes eiconig hwnnw i adeiladu busnes i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf. Dychmygwch pa mor dorcalonnus yr oedden nhw o glywed bod y contract yn mynd i gwmni hyfforddi sy'n gweithio mewn cwm arall, gyda chefnogaeth menter tasglu'r Cymoedd, a hwythau heb ddim syniad eu bod yn cystadlu yn erbyn eraill. Oes, efallai fod posibilrwydd y gall y cwmni hwn fod yn llwyddiannus—nid ydynt wedi anobeithio—ond mae cwestiynau i'w hateb, ac nid wyf wedi cael atebion credadwy hyd yn hyn.

Er gwaethaf ymdrechion lu, rwyf wedi methu â chael syniad o ba gymorth ariannol neu gefnogaeth arall a allai fod ar gael ar gyfer y math hwn o ddatblygu neu unrhyw fath arall. Pan fyddaf yn gwneud ymholiadau am symiau penodol o arian ar gyfer y Cymoedd, caf wybod nad oes unrhyw ffigur i'w roi. Pan ofynnaf beth allwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda, caf wybod pa fuddsoddiad sydd ar gael mewn lleoedd eraill. Yr wythnos hon, mae ymgynghoriad Trafnidiaeth Cymru'n esgeuluso'r Rhondda, a phan ofynnir iddyn nhw ar Twitter am hynny, dywedir wrthym ni fod cyfarfodydd ym Mhontypridd ac yn Aberdâr. Rwy'n holi am y Rhondda—a gaf i bwysleisio nad yw'r Rhondda ym Mhontypridd nac yn Aberdâr? Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y cyfarfodydd yr wyf wedi'u cael gyda'r cyn-Weinidog a sawl gwaith rwyf wedi gofyn cwestiynau yr ydym yn gobeithio yr ymdrinir â nhw drwy'r gwelliannau hyn, ac rwy'n dal i aros am atebion.

Faint o gyllideb a ddyrennir i dasglu'r Cymoedd? Faint, a beth yn union y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda? Dydw i ddim eisiau gwybod am leoedd eraill; rwyf eisiau gwybod am eich cynlluniau ar gyfer y Rhondda, ac o gofio nad wyf wedi gallu cael atebion i'r cwestiynau hyn hyd yma, ceir pwyllgor dros dro lle gall y rhai ohonom ni sy'n poeni am hyn graffu ar y penderfyniadau, y gwariant, datganiadau'r Gweinidogion. Mae angen i'r Llywodraeth hon ddangos i mi fod tasglu'r Cymoedd yn werth rhywbeth; dydw i ddim yn ei weld hyd yn hyn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:54, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ddiau, gwnaeth Lywodraeth Cymru gamgymeriad strategol wrth gefnu ar Awdurdod Datblygu Cymru a'i lwyddiant. Roedd ganddo'r sgiliau, yr arbenigedd a'r cysylltiadau i wasanaethu Cymru ar sail hirdymor. Cafodd yr holl arbenigedd, sgiliau a chysylltiadau a ddatblygwyd gan staff cymwys a phrofiadol eu hanwybyddu a'u colli am byth, a gellid dweud nad yw Cymru erioed wedi dod ati ei hun ar ôl y penderfyniad trychinebus hwnnw. Mae mentrau Llywodraeth Cymru, megis tasglu'r Cymoedd, wedi disodli'r holl fentrau eraill yn y gorffennol: mae'n methu prawf cyntaf unrhyw gynllun—mesuradwyedd. Mae'r arwyddbyst ar goll, sydd, wrth gwrs, yn atal asesiad cyffredinol o'i gynnydd. Ar ôl darllen y ddwy set o gofnodion y tasglu, rydych yn dechrau sylweddoli nad oes unrhyw gynllun cydgysylltiedig manwl, ond yn hytrach cawdel digyswllt sy'n ymddangos fel petai'n dynwared y diweddar raglen, Cymunedau yn Gyntaf.

Ddwy flynedd ar ôl cynhyrchu llyfryn sgleiniog arall, nid oes pwyslais clir o hyd ac mae'n ymddangos bod ymdrechion yn cael eu rhannu dros ardal sy'n rhy fawr. Mae Sefydliad Bevan hefyd yn dweud bod atebion i'r diffyg sgiliau a chymwysterau yn amlwg absennol.

Rwy'n croesawu'r cynlluniau a amlinellwyd yn gynharach gan Ddirprwy Weinidog yr economi, ac rwy'n siŵr bod ei frwdfrydedd a'i ymrwymiad yn ddiffuant, ond nid yw wedi nodi eto sut y mesurir holl effeithiolrwydd y mentrau hyn. Os cymerwn un enghraifft o aneffeithiolrwydd y tasglu, mae Glynebwy wedi gweld gostyngiad o 50 y cant mewn gwasanaethau bysiau i ganol y dref, a chafodd Stagecoach 50 o achosion o fysys yn torri mewn un mis yn unig, gan gynnwys tân mewn bws yn ardal Blaenau Gwent. Siawns na ddylai'r tasglu fod yn ymchwilio i faterion o'r fath o gofio ei effaith ar fusnesau lleol a chysylltedd yn y Cymoedd yn gyffredinol, fel arall, ble mae ei gylch gwaith? Dylem hefyd godi'r cwestiwn ynglŷn â chyfansoddiad y tasglu. A yw cyfansoddiad y tasglu yn briodol ar gyfer y fenter hon? Dywedir y dylai'r cyfansoddiad cywir arwain at gynllunio cydlynol a goddrychol er mwyn cyflawni'r camau angenrheidiol. A yw'r sgiliau a'r cymwyseddau yn bresennol yn y strwythur llywodraethu presennol? Mae'r rhan fwyaf o'r mentrau yn llawer rhy fach i wneud gwahaniaeth ac, yn wir, prin y gellir galw'r gwaith o symud swyddi o un lle i'r llall yn greadigol.

Yng Nghymru, mae angen ailddyfeisio'r economi'n llwyr gyda phawb wedi ei gynnwys ac yn canolbwyntio ar gydweithio. Mae'n bryd rhoi terfyn ar y busnes o chwarae gwleidyddiaeth bleidiol a chanolbwyntio ar unioni pethau yng Nghymru, oherwydd mae'n rhaid i bawb ohonom ni gytuno bod gormod o bethau wedi mynd o chwith yng Nghymru. Fel y dywedodd cyn-gyfarwyddwr Awdurdod Datblygu Cymru rai blynyddoedd yn ôl, agweddau allweddol y broblem yw gwleidyddiaeth arwynebol, diffyg dadansoddi technegol a chanolbwyntio a diwylliant gwasanaeth sifil nad yw'n canolbwyntio ar dasgau.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:57, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar waith tasglu'r Cymoedd? Yr hyn y credaf y gallwn ei weld nawr yw'r newid hanfodol sy'n digwydd yng ngwaith y tasglu wrth iddo symud tuag at gyllido a chyflawni prosiectau. A, chyn imi fynd ymlaen, a gaf fi ychwanegu fy niolch innau at ddiolchiadau'r Dirprwy Weinidog i'm cyd-Aelod Alun Davies, a dreuliodd lawer iawn o amser ac egni ar gam cyntaf gwaith tasglu'r Cymoedd? Pan ymunais â'r tasglu'n gynharach eleni, roedd yn amlwg iawn bod sylfaen sylweddol o waith a syniadau ar gyfer prosiectau, felly diolch, Alun, am eich rhan yn hynny.

Mae sefydlu'r sylfaen gref honno wedi galluogi'r tasglu i symud i'r broses o weithredu a welwn yn awr o ran cyflawni prosiectau. Yn wir, mae'r cyhoeddiad yn y dyddiau diwethaf am becyn cyllid ar gyfer parciau a safleoedd treftadaeth yn rhan bwysig o droi rhywfaint o'r weledigaeth honno yn realiti. Y safleoedd hyn yw'r pyrth cychwynnol i weledigaeth strategol ehangach ar gyfer tirwedd ac amgylchedd cymunedau'r Cymoedd, ac mae llawer ohonyn nhw, fel Parc Cyfarthfa yn fy etholaeth i, wrth gwrs, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y gymuned leol. Ac, er y gallai hyn fod yn ystyriaeth blwyfol, yn sicr, fy ngobaith i yw bod y cylch hwn o fuddsoddi ym Mharc Cyfarthfa yn gam tuag at yr uchelgais fwy o lawer sydd gennym ni i adrodd hanes y safle hwn a'r gymuned hon a'i hamgylchedd ehangach, wrth ddatblygu'r prosiect Crucible.

Mewn ffordd, y gair 'uchelgais' hwnnw sy'n cyflwyno fy ngobaith o ran gwaith parhaus y tasglu, oherwydd mae'r heriau dwfn yr ydym yn eu hwynebu mewn llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol inni fod ag uchelgais ar gyfer trawsnewid. Rydym ni'n gwybod nad oes un ateb i'r amrywiaeth o heriau yr ydym yn eu hwynebu, felly mae'n rhaid dod o hyd i ran allweddol o'n datrysiad yn ein huchelgais—ein huchelgais i fynd i'r afael â stereoteipiau negyddol a hen ffasiwn, ein huchelgais i barhau i gynyddu ein hymatebion yn seiliedig ar ymrwymiad hirdymor i'r Cymoedd, ymrwymiad hirdymor a fydd, yn fy marn i, yn allweddol i'w lwyddiant. Ac er mwyn yr uchelgais hwnnw nawr mae'n rhaid cyflawni cam olaf y gwelliannau i ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd i sicrhau bod gennym y strategaeth economaidd sy'n cydlynu potensial y llwybr newydd. Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau nad ydym wedi gwario biliynau o bunnoedd i ariannu ffordd osgoi yn unig, ond ein bod wedi buddsoddi mewn modd i ddatgloi potensial newydd yn y cymunedau ar hyd y llwybr hwnnw, ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o'r grŵp a fydd yn edrych i weld sut y gallwn wneud hynny.

Ac wrth gwrs mae'n rhaid ystyried llwybr Blaenau'r Cymoedd hefyd fel rhan o'r atebion trafnidiaeth ac economaidd ehangach i bwysau mewn rhannau eraill o ranbarth de Cymru. Felly, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn parhau i chwarae eu rhan yn hynny o beth. Er enghraifft, mae'r buddsoddiad yn y system metro, y trenau, y bysiau a'r mathau eraill o drafnidiaeth a drafodwyd gennym yn y digwyddiad ym Merthyr yr wythnos diwethaf yn golygu y gallwn gyflymu amseroedd teithio a defnyddio grym y Llywodraeth i leoli swyddi yn y Cymoedd—sy'n hanfodol os ydym i gyflawni ein hamcanion o gael nifer o swyddi gwell yn nes at adref, ac mae Pontypridd yn enghraifft dda o hynny ar hyn o bryd. Ond pan glywaf bobl yn dweud wrthyf pa mor dda fydd cael amseroedd teithio cyflymach i Gaerdydd, fy ymateb bob amser yw y bydd hefyd yn dda i bobl yng Nghaerdydd orfod teithio 45 munud yn unig i weithio ym Merthyr Tudful neu Rymni. Mae'n rhaid i'n huchelgais ni newid y meddylfryd hwnnw.

Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn ogystal â'r gwaith yr ydych wedi'i amlinellu eisoes yn y ddadl heddiw, a allwn ni sicrhau yn ystod y 12 mis nesaf mai'r ymrwymiad i dasglu'r Cymoedd yw'r ymrwymiad i'n huchelgais a'i fod wedi'i wreiddio yn y cynlluniau hirdymor ar gyfer ein Llywodraeth? Mae angen ymrwymiad o'r fath i sicrhau y bydd y prosiectau a gyflawnwn ni yn 2019, 2020 a 2021 yn fodd o gyflawni uchelgeisiau ehangach sydd gennym ar gyfer y Cymoedd, gyda chymunedau, economïau ac amgylchedd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddyn nhw oherwydd ein bod ni wedi helpu i sicrhau dyfodol mwy disglair iddynt.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:02, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon y prynhawn yma, doeddwn i ddim yn siŵr fy mod wedi cael y cyfle i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn arwain tasglu'r Cymoedd, felly hoffwn gofnodi fy mod yn croesawu ei benodiad, ond rwyf hefyd yn croesawu'r meddylfryd newydd a ffres y mae'n ei gyflwyno i'r swydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o bryd i'w gilydd, bod angen adnewyddu holl swyddogaethau gweinidogion a bod syniadau newydd bob amser yn bwysig wrth fwrw ymlaen â'r prosiectau a'r tasgau hyn, fel y rhai y mae'r tasglu wedi'u gosod ar ei gyfer.

Rwyf hefyd wedi gwrando ar gyfraniad gan Weinidog sy'n gwrthgyferbynnu’n llwyr â'r cyfraniadau a glywsom gan bleidiau gwleidyddol eraill a gynrychiolir yma. Gwrandewais ar y rhestr o gwynion gan y Blaid Brexit a sylwais yn y papur trefn nad oeddynt hyd yn oed wedi trafferthu cyflwyno un gwelliant i'r ddadl hon heddiw. Dyna werth eu syniadau nhw. Dyna werth eu hymrwymiad i'r Cymoedd. Ni allent hyd yn oed ysgrifennu gwelliant i'r cynnig hwn y prynhawn yma.

Byddwn i hefyd yn dweud hyn: pan welaf fuddsoddiad yn digwydd mewn unrhyw ran o'r Cymoedd, rwy'n ei ddathlu ac rwy'n ei groesawu. Rwyf eisiau gweld y Cymoedd i gyd yn llwyddo. Rwyf eisiau gweld buddsoddi ar draws holl ranbarth Cymoedd y de. A dywedaf hyn wrth Blaid Cymru: yr unig dro imi weld buddsoddiad yn cael ei dynnu o'r Cymoedd oedd pan oedd Plaid Cymru yn gyfrifol am y brîff datblygu economaidd a gohiriwyd y gwaith o ddeuoli'r A465 er mwyn symud yr adnoddau hynny i rywle arall. Felly, gadewch i ni gael rhywfaint o realaeth ynghylch hyn.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 6:03, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Derbyniaf ymyriad.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gofynnais ichi nifer o weithiau pan oeddech yn Weinidog faint o fuddsoddiad a fyddai ar gael i'r Rhondda. Rydym wedi clywed y prynhawn yma y bydd buddsoddi mewn bysiau a thai. Wel, dylai hynny fod yno eisoes. A wnewch chi fy ateb nawr: pa arian a roddwyd i'r Rhondda gan dasglu'r Cymoedd? Ac os nad oes arian wedi mynd hyd yn hyn, pa arian penodol sydd yna ar gyfer y Rhondda, nid Rhondda Cynon Taf, nid Glynebwy—pa arian sy'n dod o dasglu'r Cymoedd i'w fuddsoddi yn y Rhondda? Oherwydd rydych chi wedi methu ateb y cwestiwn hwnnw hyd yn hyn.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:04, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn eich gwelliant 5, rydych yn gofyn am y gyllideb honno.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ofyn ichi dynnu'r gwelliant hwnnw yn ei ôl, a dweud y gwir—

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Atebwch y cwestiwn yn gyntaf.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

—oherwydd yn fy marn i, dylai pob un o'r Gweinidogion sydd yma fod yn Weinidog y Cymoedd a dylai pob un o'r Gweinidogion—

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ond dydyn nhw ddim, nac ydyn nhw?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

—fod yn Weinidog dros bob rhan o gymuned Cymru. [Torri ar draws.] Dydw i ddim yn credu mewn cael Gweinidog dros wahanol rannau o'r wlad. [Torri ar draws.] Rwyf eisiau cael Llywodraeth a Gweinidogion yn gweithredu dros y wlad i gyd—[Torri ar draws.]—a dyna pam fy mod i'n gwrthod y dadleuon bod arnom ni angen cyllideb wedi'i phennu ar gyfer tasglu'r Cymoedd.

A gaf fi ddweud, Llywydd, cafwyd croeso cyffredinol yr wythnos diwethaf i'r cyhoeddiad cyllid i fuddsoddi mewn creu parc rhanbarthol yn y Cymoedd? Rwy'n credu bod hwn yn un o'r gweledigaethau mwyaf cyffrous, a mwyaf trawsnewidiol o bosibl, sydd gennym yng Nghymru heddiw. Mae'r cysyniad yn dwyn ynghyd ein huchelgeisiau economaidd a'n huchelgeisiau amgylcheddol a chymdeithasol i greu fframwaith cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn cyhoeddi ei fod wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r strwythur a'r llywodraethu y mae eu hangen i gyflawni'r potensial hwn. Byddwn i'n gofyn iddo hefyd ystyried dynodiad ffurfiol sydd wedi'i wreiddio mewn statud. Dyma'n sicr y cyfeiriad yr oeddem yn ei ystyried yn y Llywodraeth yn ystod fy amser i, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gwneud hynny eto.

Nid wyf yn siŵr, ond rwy'n barod i gael fy argyhoeddi o ran ei gynigion i'r ddinas-ranbarth ymgymryd â llywodraethu'r parc hwn. Rwy'n credu bod y Parc angen diffiniad a gweledigaeth glir, gytûn ac uchelgeisiol, gyda'r gallu i gyflawni'r weledigaeth honno. Mae'n fwy na chyfres o brosiectau a grantiau unigol, a mwy na chasgliad o barciau trefol neu led-drefol yn unig. Rwy'n gobeithio y bydd y ddinas-ranbarth yn gallu cyflawni hynny, ac rwy'n barod i gael fy argyhoeddi ganddo, ond ofnaf fod angen strwythur arnom a fydd yn sicrhau mwy o ganolbwyntio.

Diben y canolfannau strategol oedd canolbwyntio buddsoddiad cyhoeddus mewn saith rhan o'r Cymoedd, a fyddai yn ei rinwedd ei hun yn gatalydd i ddenu buddsoddiad preifat ychwanegol. Gallaf weld bod y dull hwn yn cael effaith, ac mae'r Gweinidog wedi cytuno ar hynny y prynhawn yma. Ond rydym i gyd hefyd yn nodi bod y cynnydd yn anwastad. Byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn gosod amcanion clir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod er mwyn inni allu bod yn sicr bod cynnydd yn digwydd ar draws y rhanbarth cyfan ac y bydd y targed o greu swyddi yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd mandad y Llywodraeth hon yn 2021.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed gan y Gweinidog ei fod wedi penodi Dawn Bowden i weithio ar ddatblygu cynllun economaidd ar gyfer rhanbarth Blaenau'r Cymoedd. Hwn, i mi, yw'r un maes gwaith anorffenedig y credaf fod gwir angen inni ei flaenoriaethu. Nodwyd ers amser maith fod Blaenau'r Cymoedd yn rhanbarth lle mae angen y gefnogaeth gyhoeddus fwyaf a dwysaf. Mae'r gwaith o ddeuoli'r A465 yn parhau a chaiff ei gwblhau, ond mae'n rhaid i'r buddsoddiad hwn gael ei weld fel dull o ddatblygu economaidd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cyflwyno cynllun swyddi a fydd yn rhoi pwyslais i'n gwaith dros y blynyddoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gosod targedau clir eto i gyflawni hynny. Credaf fod hwn yn un maes lle y gall y strwythur dinas-ranbarth helpu i'w gyflawni.

Rwyf am gloi fy sylwadau, Llywydd, gyda nodyn sy'n nes at adref. Mae cynllun y Cymoedd Technoleg yn fuddsoddiad o £100 miliwn yn nyfodol Blaenau Gwent. Mae dros ddwy flynedd ers ei gyhoeddi, gydag ymrwymiad i wario £25 miliwn mewn buddsoddiadau erbyn 2021. Hoffwn nodi'n garedig nad cynllun tai yn unig yw hwn, ond prosiect i sbarduno gweithgarwch economaidd a darparu swyddi a chyfleoedd newydd yn y fwrdeistref. Nid yw hynny'n bychanu'r ymrwymiadau y mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud i gefnogi datblygiadau tai y mae eu hangen yn amlwg yn y fwrdeistref, ond ni ddylai'r rhaglen fuddsoddi hon fod yn ganolbwynt i hynny. Rwyf yn cydnabod yn llwyr y gallai Brexit gael effaith negyddol ar allu'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiadau, ond rwyf eisiau gweld a deall yn llawnach yr uchelgais a'r weledigaeth sydd gan y Llywodraeth ar gyfer y Cymoedd Technoleg. Hoffwn weld y Llywodraeth yn cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu'r rhaglen fuddsoddi hon i 2021 a thu hwnt.

Llywydd, fe gredaf, yn y rhan fwyaf o'r Cymoedd ac yn y rhan fwyaf o'r Siambr hon, bydd croeso cynnes i ddatganiadau'r Llywodraeth y prynhawn yma, a chroeso cynnes i ymagwedd y Gweinidog a'r syniadau a'r egni newydd y mae wedi eu cyflwyno i'r tasglu hwn.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 6:09, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r ddadl hon yn amser Llywodraeth Cymru a rhoi cyfle i bob un ohonom ni graffu ar waith tasglu'r Cymoedd ac, yn benodol, ar y newidiadau a wnaed dros y misoedd diwethaf—

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Fe wnaethoch chi sôn am graffu; rwy'n credu bod craffu'n bwysig iawn. A ydych yn rhannu fy mhryderon nad oes swm o arian wedi'i ddyrannu i gwm Cynon? Mae'r cwestiynau yr wyf wedi bod yn eu gofyn ynghylch y Rhondda yr un mor berthnasol i gwm Cynon. A ydych yn pryderu nad ydym yn cael atebion i'r cwestiynau hynny o safbwynt craffu?

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Dydw i ddim yn rhannu eich pryderon ynghylch hynny, nac ydw, oherwydd nid arian yw'r ateb i bopeth yma—[Torri ar draws.]—o ran cyllidebau dyranedig. Mae Gweinidogion â chyfrifoldeb ym mhob rhan o'r Llywodraeth; er enghraifft, mae iechyd yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae angen inni edrych ymlaen gyda'r Cymoedd, hefyd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddull rhy syml o geisio cael pot o arian y gellir ei wario. Mae'n well gennyf edrych ar y modd y mae tasglu'r Cymoedd yn rhyngweithio â Gweinidogion ar draws y Llywodraeth, a chredaf, os edrychwch yn fanwl, bod hynny'n eithaf hawdd ei weld.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Beth bynnag, roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau, gan ddechrau gyda chludiant, a gwn fod pob un ohonom ni, yn Aelodau Cynulliad yn y Cymoedd, wedi codi hwn ar un adeg neu'i gilydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell o ran ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol, ac rwy'n falch iawn o weld bod hwn yn un o'r meysydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arno.

Dechreuaf drwy sôn am ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd hefyd. Mae cymaint o angen manteisio i'r eithaf ar y budd y mae'r ffordd yn ei gynnig i gymunedau lleol. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i godi sawl gwaith ac rwy'n gwybod bod Aelodau Cynulliad eraill hefyd wedi ei godi, felly mae wedi bod yn dda iawn gweld bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn hynny drwy sefydlu'r is-grŵp hwn i weld sut y gallwn ni sicrhau'r manteision mwyaf posibl a ddaw yn sgil y ffordd honno ac edrych nid yn unig ar ofynion cytundebol o fewn y broses gaffael, ond hefyd ar bethau megis cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth, prentisiaethau a chyfleoedd lleol i gwmnïau o fewn y broses honno hefyd, a'r gydnabyddiaeth bod yn rhaid i'r cyfleoedd hyn barhau pan fydd y ffordd ar agor drwy gysyniadau fel y gadwyn arloesi. Fel y bu i Sefydliad Bevan ein hatgoffa ni'n ddiweddar:

Mae'r A465 yn trawsnewid y berthynas rhwng lleoedd yn y Cymoedd a gweddill y DU.

Ond gadewch i ni hefyd wneud yn siŵr ei bod yn trawsnewid economïau lleol y Cymoedd hefyd.

Yn yr un modd, gallai cyflawni metro de Cymru fod yr un mor drawsnewidiol. Ond mae cymaint o bwyslais wedi bod ar y rhan y mae gwasanaethau rheilffyrdd yn ei chwarae o fewn hynny. Er mwyn gwireddu gwir weledigaeth y metro, rhaid i ni gofio'r rhan sylfaenol y mae bysiau'n ei chwarae. Yn aml, nhw yw'r unig wasanaeth cludiant cyhoeddus sy'n cwmpasu'r cymunedau mwyaf ynysig a difreintiedig, ac yn sicr mae ardal Blaenau'r Cymoedd yn enghraifft wych. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog a fyddai'n ystyried cael rhywfaint o gynrychiolaeth gan gwmnïau bysiau o fewn ei is-grŵp yno, yn edrych ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, a hefyd trafnidiaeth gymunedol. Ymddengys mai nhw yw'r rhai sy'n fodlon ac sydd â'r cwmpawd moesol i ddal y slac yn dynn pan fo gweithredwyr bysiau masnachol yn ein siomi'n aml.

Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod Cynulliad sydd wedi cael llwyth o waith achos dros yr haf a achoswyd gan gwmnïau bysiau fel Stagecoach yn newid eu llwybrau, ac yn gwneud hynny heb unrhyw ymgynghori nac ystyriaeth go iawn o anghenion cymdeithasol ac economaidd ein hetholwyr. Yn wir, ymddengys mai eu hunig egwyddor yw maint yr elw. Felly, rwy'n croesawu'r ffordd y gall tasglu'r Cymoedd gysylltu â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gan Weinidog yr economi ar ddiwygio bysiau. Rwy'n credu bod honno'n enghraifft glir o le y mae angen i ni edrych y tu hwnt i ddim ond gweiddi pa un a oes pot o arian ai peidio, a sut y mae gwaith Gweinidogion eraill o fewn y Llywodraeth yn gwbl allweddol i waith tasglu'r Cymoedd.

Rwyf wedi dilyn gyda diddordeb gynllun treialu bws y Rhondda Llywodraeth Cymru—cynllun cyffrous iawn. Gobeithio y gallwn ddysgu gwersi o hwnnw a gweld lle y gellid ei gyflwyno i ardaloedd eraill yn y Cymoedd hefyd i alluogi'r rheini y mae angen iddynt gyrraedd y gwaith ar ystadau diwydiannol ac ar wahanol adegau i gyd-daro â'u sifftiau, i gael mynediad i'r farchnad swyddi.

Roeddwn yn falch iawn o glywed am y buddsoddiad ym mharc rhanbarthol y Cymoedd hefyd, gyda Pharc Gwledig Cwm Dâr yn elwa ar fuddsoddiad o £800,000, a rhannaf ag aelodau eraill o'r Cynulliad sydd wedi siarad, y brwdfrydedd dros barc rhanbarthol y Cymoedd fel cysyniad. Nodaf fod y Dirprwy Weinidog yn canolbwyntio'n sylweddol ar y manteision economaidd a all ddod yn sgil parc rhanbarthol y Cymoedd, ac, yn wir, fe all, yn enwedig o ran twristiaeth. Ond, hoffwn erfyn, mewn gwirionedd, inni beidio â symud oddi wrth y cysyniad gwreiddiol, a oedd yn canolbwyntio ar les corfforol a meddyliol hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Os edrychwn ar ansawdd bywyd cyfan y bobl sy'n byw yn y Cymoedd, yna mae angen i wella eu lles corfforol a meddyliol fod wrth wraidd y weledigaeth honno. Mae hefyd yn cyd-fynd â syniadau fel prosiect Valleys Skyline, a oedd yn destun digwyddiad diddorol a gynhaliwyd gan yr Aelod dros Ogwr ychydig fisoedd yn ôl.

Yn olaf, hoffwn gyfeirio at bwynt olaf y cynnig. Roedd yn anrhydedd yn wir cael ymuno â Dirprwy Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Tai yn Ynysybwl ym mis Gorffennaf i gyhoeddi y caiff y grant ar gyfer eiddo gwag ei gyflwyno. Rwy'n falch iawn o'r gwaith sydd wedi'i wneud gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi adnewyddu tua 130 o dai gwag yn yr ardal, sy'n golygu bod gan 130 o deuluoedd bellach gartrefi modern, effeithlon o ran ynni, ac mae 130 llai o dai gwag a oedd yn peri dolur i'r llygad. Cael siarad â pherchnogion y tai hynny am y manteision a ddaeth yn sgil hyn, ynglŷn â defnyddio adeiladwyr lleol er mwyn cyflawni'r contractau hynny—. Edrychaf ymlaen at weld sut y gall cymunedau eraill y Cymoedd ddysgu o waith cyngor Rhondda Cynon Taf a lledaenu'r arferion da hynny ar draws yr ardal.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 6:15, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei gyfeiriad at Barc Penallta. Nid wyf yn credu y dylem amau o gwbl y diddordeb cenedlaethol sydd yn rhai o barciau a thirnodau'r Cymoedd. Yn wir, cymerais ran yng ngaeaf 2015 mewn rhaglen genedlaethol y BBC lle cefais fy ngwahodd i gael fy nghyfweld ynghylch y 'Merlyn Pwll Glo', sef y twmpath ym Mharc Penallta a gerflunwyd i gofio am Sultan y merlyn pwll glo. Gwisgais fy siwt orau a dringais i ben tomen y merlyn pwll glo. Roedd hi'n bwrw glaw, roedd hi'n ganol gaeaf ac roedd fy nghoesau'n fwd i gyd, bron iawn at fy ngluniau, ond roeddwn i'n meddwl, 'o wel, bydd y darllediad yn fy nangos o fy nghanol i fyny' ond canfyddai wedyn fod y rhaglen ar BBC Radio 4. Felly dyna wers ynghylch paratoi ar gyfer unrhyw ddigwyddiad i'r cyfryngau yr wyf wedi ei dysgu, ond ni fyddaf yn ymddangos ar y rhaglen Sharp End mewn côt law a welingtons.

Rwy'n credu bod yr arian ar gyfer Parc Penallta yn cael ei groesawu'n fawr. Rydych chi wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi am yr hyn sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ymgysylltu â'r gymuned yno. Gallaf weld y meddylfryd, ac mae wedi cael ei groesawu i raddau helaeth pan wyf wedi ei grybwyll ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rhai o'r cwestiynau sydd wedi'u codi hefyd yw, 'Wel, beth am yr olwyn weindio a baddonau'r pwll yng Nglofa Penallta, sydd dim ond dros y ffordd?' Y broblem yw bod hon yn eiddo preifat, a'i bod yn cysylltu' n uniongyrchol â Pharc Penallta, ac rwy'n credu bod angen ystyried sut y gellir defnyddio rhywfaint o ddylanwad y sector cyhoeddus i wneud rhywbeth gyda baddonau'r pwll a'r olwyn weindio yno.

Ac wrth gwrs, castell Caerffili—ni allwch fod yn ymgeisydd ysbrydoledig ar gyfer unrhyw swydd yng Nghaerffili heb gael eich llun wedi ei dynnu o flaen y castell. Mae'n cael llawer o sylw gan y Dirprwy Weinidog diwylliant. Mae'n dda gweld—mewn gwirionedd, dyma ei ail gartref bron, castell Caerffili, y nifer o weithiau rwyf wedi ei weld yno—ond mae'n braf gweld hefyd bod y dirwedd o amgylch y Castell yn cael ei hariannu nawr. Oherwydd un o'r pethau—. Roedd y Dirprwy Weinidog a minnau'n edrych allan tuag at dref Caerffili, ac un o'r pethau a deimlasom oedd bod angen gwaith ar y treflun, a chredaf mai dyna yw canolbwynt y cyllid ychwanegol hwn hefyd.

Ond gadewch i ni beidio ag anghofio ychwaith bod gennym ni gofeb lofaol genedlaethol Cymru yng Nghaerffili hefyd, a chredaf fod angen rhoi sylw i honno. Credaf i Alun Davies wneud y pwynt bod angen bwriad strategol i'r ariannu hwn, ac os yw'r bwriad strategol hwnnw i olygu unrhyw beth, yna mae'n rhaid i gofeb lofaol genedlaethol Cymru fod yn rhan o'r parth darganfod hwnnw, gan ei fod yn allweddol i dirlun diwylliannol etholaeth Caerffili.

Soniodd y cyn-Weinidog am y canolfannau strategol hefyd, a soniodd am y ffaith bod y ddarpariaeth yn anwastad mewn rhai mannau. Byddwn i'n dweud bod y canolfannau strategol wedi colli cyfle i ryw raddau yng Nghaerffili, oherwydd fy mod yn credu bod ardaloedd—. Roedd yn canolbwyntio ar Ystrad Mynach a de Caerffili; rwy'n credu bod ardaloedd yn etholaeth Caerffili sydd angen pwyslais strategol, ac rwy'n credu bod y rheini yn rhai o'r ardaloedd yr wyf eisoes wedi'u crybwyll: Senghennydd a chwm Aber, Nelson, a'r dref sydd agosaf at fy nghalon oherwydd dyma lle'r euthum i'r ysgol, Bargoed. Mae angen y sylw strategol hwnnw ar yr ardaloedd hyn, a gwn fod y Gweinidog wedi gwrando arnaf i raddau ynghylch hyn, ac rydym wedi cael y gweithdy busnes a gynhaliwyd ym Margoed, a oedd yn llwyddiannus ac yn gyfle dysgu da. Byddwn i'n dweud wrth yr Aelodau sy'n bwriadu gwneud hyn yn eu cymunedau bod yna bethau rydym ni wedi'u dysgu yno, yn enwedig ynglŷn â chael busnesau i wybod am yr hyn sy'n digwydd. Ond hefyd rwy'n credu bod angen i ni feddwl ynghylch sut y gall trefi fel Bargoed fod yn rhan o strategaeth fwy, ac rwy'n credu bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd o ran hynny, cysylltu'r Cymoedd gogleddol hynny. Ac efallai y byddwn i'n adleisio rhai o'r pethau yr oedd Leanne Wood yn cyfeirio atynt, bod angen rhywfaint o waith ar y cysylltiadau strategol hynny ar draws y Cymoedd o hyd.

Mae'r mater o dai a'r gwaith sydd i'w wneud yn y maes tai i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi galw ers amser am gynlluniau datblygu strategol, ac mae tasglu'r Cymoedd yn canfod patrwm da ar gyfer cynllun datblygu strategol, yn rhannol o leiaf, ar draws y rhanbarth hwnnw. A'r hyn yr oedd yn sôn amdano, drwy ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto, rydym yn sôn am symud tai ymhellach i'r gogledd a pheidio ag adeiladu yn yr ardaloedd hynny a or-ddatblygwyd eisoes yn ne etholaeth Caerffili. Mae gwneud defnydd o'r tai hynny sy'n bodoli eisoes a'u defnyddio unwaith eto yn faes allweddol.

Credaf y daw cyfleoedd gwirioneddol gyda thasglu'r Cymoedd, ond i adleisio'i ragflaenydd, rwy'n dal i gredu bod cyfleoedd i ddysgu hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn a ddywed y Gweinidog yn ei ymateb. Un peth y byddwn i'n ei ddweud, yn olaf, yw y gallwch chi weld ôl ei bersonoliaeth ar hyn, ac mae hynny'n eithaf trawiadol.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 6:20, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Islwyn yn etholaeth amrywiol, sy'n cynnwys cyfres o gymunedau Cymreig prydferth yng Nghymoedd Gwent, ac mae'n cynnwys rhyfeddodau tirluniau ffrwythlon naturiol Cymru ochr yn ochr â realiti llym cymdeithas sy'n parhau i ymrafael â heriau dad-ddiwydiannu: colli ei chymunedau mwyngloddio a dur a'r tebygolrwydd o ddatblygu afiechyd anadlol, gyda data mynegeion amddifadedd lluosog Cymru yn ategu ac yn cyd-fynd ag amrywiaeth economaidd-gymdeithasol mor erwin. Felly, fel un o blant Islwyn, rwy'n hynod falch o gael cynrychioli'r etholaeth hon yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sef Senedd Cymru.

Rwyf wedi hyrwyddo achosion lu, fel mae llawer o bobl wedi, ond un o'r rhai pwysicaf i mi yw gwaith tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Lafur Cymru, ac mae hyn oherwydd bod ganddo gyfle a photensial i weddnewid bywydau rhai o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru. Felly hoffwn ddiolch i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, am y flaenoriaeth uchel y maent wedi parhau i'w rhoi i sicrhau bod tasglu'r Cymoedd yn parhau i fod yn un o brosiectau parhaus pwysicaf Llywodraeth Lafur Cymru.

Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru fod ffordd goedwig Cwmcarn yn un o'r pum safle yng Ngwent a enwyd yn byrth darganfod a fydd yn rhannu mwy na £2 miliwn o gyllid tasglu'r Cymoedd. Rwyf wedi pwyso yn gyson yma ac yn breifat i ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llwyr a'i hadfer i'w hen ogoniant, ac mae hyn yn dal yn flaenoriaeth i mi ac i'm hetholwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi ymrwymo i ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llawn erbyn Pasg 2020 oherwydd ei bod yn un o'r perlau byd natur a roddwyd i Gymru. A gwn fod y Gweinidog diwylliant wedi ymweld â'r fan honno'n ddiweddar, ac mae'n gwybod ei bod yn hollbwysig agor ffordd goedwig Cwmcarn ar gyfer Cymru a'r byd eto fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi.

Yn ein hoes o argyfwng hinsawdd, lle nad yw gwerthfawrogiad a gwerth ein tirwedd naturiol erioed wedi bod yn fwy, rydym yn gwybod bod teuluoedd a ffrindiau eisiau treulio dyddiau yn yr awyr agored. Gwyddom yn fwy nag erioed am werth yr awyr agored i'n hiechyd meddwl. Bydd diwrnodau a dreulir yn archwilio tirweddau naturiol Islwyn o fudd i'n cymunedau lleol ac i bawb sy'n ymweld. Felly, dywedaf wrth yr Aelodau sy'n bresennol yn y Siambr: dewch i ymweld â'n safleoedd ar draws Islwyn. O ran twmpath Twmbarlwm, safleoedd hynafol fel y rhodfa olygfaol, cymoedd Gwyddon a Sirhywi—maen nhw o bwys mawr.

Bwriad bron i £500,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru yw cael y gymuned i fanteisio i'r eithaf, gyda'r addewid o le i'w rannu ar daith olygfaol Cwmcarn, gofod swyddfa dysgu gydol oes gyda wi-fi ar gyfer defnydd cymunedol, datblygu mannau dehongli tirwedd a llwybrau darganfod, ac mae'n hanfodol bod harddwch naturiol godidog ffordd goedwig Cwmcarn yn cael ei ddefnyddio'n llawn drwy ymgysylltiad aml ac ystyrlon gan y cyhoedd gyda'r mynediad sydd ei angen i wneud hynny. Felly, mae hyn yn dystiolaeth bellach o raglen uchelgeisiol o adnewyddu i'r Cymoedd ac i Islwyn gan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n benderfynol o adfywio'r dirwedd a'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.  

Yn olaf, Llywydd, nos yfory, byddaf yn mynd i gyfarfod o Gyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn yn Sefydliad a Chlwb Gweithwyr nodedig Cwmcarn, a bydd rhywfaint o drafod a sgwrsio parhaus â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd yn holl bwysig er mwyn sicrhau y caiff amcanion clodwiw y tasglu eu cyflawni a'u holynu. Ac felly byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda phobl Islwyn a Llywodraeth Lafur Cymru a'r Gweinidog i sicrhau ein bod, gyda'n gilydd, yn manteisio i'r eithaf ar ffyniant ein tirluniau a'n trefi yn y Cymoedd, nid yn unig ar gyfer pob un unigolyn yma, ond i bob un o genedlaethau'r dyfodol.  

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o amser i ymateb, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bob un o'r sylwadau, ond rwy'n hapus i gael rhagor o drafodaethau gydag unrhyw un sy'n dymuno.

Fe wnaf geisio mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau sydd wedi aros gyda mi. I ddechrau, her Russell George ar y targed o gael 7,000 o bobl i mewn i waith. Nid wyf yn siŵr o ble y caiff ei ffigurau. Dyfynnodd mai dim ond 2,000 o bobl oedd wedi symud o fod yn ddi-waith i fod mewn gwaith. Mae ein ffigurau ni'n dangos bod 4,500 wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglenni cyflogaeth gymunedol ers Gorffennaf 2017. Felly, rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r 7,000 o swyddi yr ydym ni wedi ymrwymo iddynt, os bydd popeth arall yn gyfartal. Wrth gwrs, dydym ni ddim yn gwybod beth fydd effaith y dirwasgiad a Brexit ar ein heconomi yn ystod y 18 mis nesaf ac mae'n ddigon posibl y bydd yr ansicrwydd y mae ei Lywodraeth wedi ei orfodi arnom ni oherwydd Brexit yn effeithio ar hynny. Heddiw, rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiadau ym myd cyflogaeth.

Galwodd Vikki Howells ar i gynrychiolwyr cwmnïau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol gael eu cynnwys yn y tasglu, ac fel y dywedais, bydd gennym ni is-grŵp ar wahân ar drafnidiaeth, a byddaf yn sicr yn gwneud fy ngorau i sicrhau y caiff y grwpiau hynny eu cynrychioli yn hynny o beth. Ac roedd yn llygad ei lle yn tynnu sylw at effaith bersonol ein hymweliad â menter cartrefi gwag Ynysybwl, lle gwelsom yr effaith ar y stryd o ddod â chartref adfeiliedig yn ôl i ddefnydd a rhoi cyfle i deulu a oedd yn gweithio yn y pentref gael cartref yn y pentref—cafodd hynny effaith wirioneddol a phendant.

Cyfeiriodd Hefin David ac Alun Davies at gwestiwn y canolfannau strategol. Roedd hwn yn benderfyniad a wnaed gennyf i. Roedd gennym ni £15 miliwn, rwy'n credu, a ddyrannwyd i'w wario yn y canolfannau strategol ac edrychais ar ansawdd y cynnig a gyflwynwyd gan yr awdurdodau lleol a chredais, pe byddem yn ariannu pob un o'r rheini, nad oeddwn yn teimlo y byddai gennym ni fwy na chyfanswm y rhannau i'w dangos ar y diwedd o effaith tasglu'r Cymoedd yr oeddwn eisiau ei weld. Felly, penderfynais beidio â gwneud hynny a defnyddio'r arian yn fwy strategol ac yn fwy creadigol fel bod y Cymoedd gogleddol yn elwa. A bydd y prosiect cartrefi gwag yn ymledu i bob cymuned yn hytrach nag yn aros mewn un ardal.

Ond i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r beirniadaethau a wnaeth Leanne Wood, byddwn yn dweud nad yw'r tasglu hwn yn ateb i bob problem. Mae cyflwr economaidd-gymdeithasol yr holl gymoedd yn deillio o 100 mlynedd o galedi economaidd ac nid ydym ni'n mynd i drawsnewid hynny yn y tymor byr. Rydym ni, serch hynny, yn gwneud pethau ymarferol, adeiladol. Ac mae'r gwahoddiad yn agored i Leanne Wood, fel yr Aelod Cynulliad dros y Rhondda, i ymgysylltu â ni mewn ffordd ymarferol ac adeiladol. Mae'n hawdd cwyno am yr holl bethau sydd o'i le yn y Rhondda. Rwy'n agored i gael sgwrs gyda hi am y pethau yr ydym ni'n eu gwneud—[Torri ar draws.] Mae arna'i ofn nad oes gen i amser.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 6:27, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Na wnaf, mae gen i ofn. Ond gadewch i mi sôn wrthych chi am rai o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud yn y Rhondda—[Torri ar draws.] Mae gen i 30 eiliad ar ôl, Leanne Wood, ac rwyf wedi cytuno i gwrdd â chi yfory i drafod yn fanwl rai o'r materion yr ydych chi wedi'u codi. Nid oes amser gen i, mae arna'i ofn, ond rydym ni'n gwario £27 miliwn ar y Rhondda—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd rhaid i chi eistedd i lawr, Leanne Wood. Nid yw'n ildio.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

—£27 miliwn yn etholaeth y Rhondda yn unig o'r metro, na wnaethoch chi ei gydnabod. Bydd gan gronfa'r economi sylfaenol, rwy'n hyderus, brosiectau yn y Rhondda. Mae'r cynllun treialu teithio i'r gwaith yn y Rhondda Fach yn benodol, ac mae'r gronfa cartrefi gwag hefyd yn agored i'r Rhondda. Felly, ni chredaf ei fod yn gynrychiolaeth deg o'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud yn eich etholaeth.

Ac o ran yr enghraifft benodol a ddyfynnwyd gennych o'r gydweithfa wnïo yn Nhreorci, mae'n bwynt yr ydych chi wedi ei wneud yn y Siambr hon o'r blaen. Rydym ni wedi ysgrifennu atoch chi'n nodi'r achos ers hynny. Rydych chi'n parhau i wneud y pwynt gwreiddiol a wnaethoch, nad yw, mae arna'i ofn, yn ddisgrifiad cywir o'r hyn sydd wedi digwydd, ond rwy'n cwrdd â chi yfory—[Torri ar draws.] Pe byddai amser gen i, Llywydd, byddwn yn falch o roi sylw i'r pwyntiau y mae'r Aelod dros y Rhondda yn eu gwneud ar ei heistedd, ond mae hi'n camddeall y sefyllfa ac rwyf eisiau ymgysylltu â hi mewn modd adeiladol a chwrtais yfory i geisio esbonio iddi y sefyllfa sydd gennym ni, i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau ein bod yn gallu dod â buddsoddiad i Dreorci hefyd. Nid yw'n fater o un cwm yn erbyn y llall. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd i roi hwb i'r Cymoedd i gyd ac rydym ni'n gwneud ein gorau glas, drwy'r prosiect hwn, i wneud hynny ac mae'r gwahoddiad yn agored i holl Aelodau'r Cynulliad gymryd rhan adeiladol yn y broses honno. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 17 Medi 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.