– Senedd Cymru am 3:59 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—adroddiad cynnydd tlodi plant 2019. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y bore yma, cyflwynais gopi o adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r canlyniadau'n anodd ei darllen. Mae'r prif ffigur—a'r un yr wyf yn siŵr yr hoffai'r Aelodau heddiw i gyd ganolbwyntio arno—yn dangos bod tlodi plant yng Nghymru wedi codi. Mae'r ffaith anochel hon yn rhywbeth a ddylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni.
Mewn gwlad gyfoethog, ddatblygedig fel y DU, mae bron i draean o blant yn byw mewn tlodi. Mae'n ystadegyn sobreiddiol ac yn gondemniad trist o'r anghydraddoldeb sydd wedi cael cyfle i wreiddio ar draws y DU dros y degawd diwethaf. Nid oes amheuaeth bod tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU dros y degawd diwethaf. Degawd o doriadau cyni sydd wedi lleihau'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a degawd o doriadau lles creulon sydd wedi gweddnewid yr hyn a ddylai fod yn rhwyd ddiogelwch, i fod yn system i gosbi'r rhai sy'n dibynnu ar y wladwriaeth i'w helpu yn ystod adegau anodd. Diwygiadau sydd wedi eithrio'r trydydd plentyn rhag cael cymorth plant, sydd wedi barnu'n anghywir bod pobl anabl a phobl sy'n hirdymor wael yn ddigon iach i weithio, ac wedi creu cyfundrefn sancsiynau sydd wedi gwthio niferoedd anhysbys o bobl i gyflawni hunanladdiad. Diwygiadau sydd wedi gorfodi pobl i dalu am foethusrwydd ystafell wely sbâr a lle mae defnyddio banciau bwyd yn beth arferol i filiynau.
Dirprwy Lywydd, pan fyddwn yn edrych yn fanylach ar yr adroddiad hwn, mae'n dangos, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n uniongyrchol i ddylanwadu ar fywydau teuluoedd a phlant ledled Cymru, bod ein polisïau'n cael effaith gadarnhaol ar achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb. Mae ein cyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng pum pwynt canran—dwywaith y gyfradd yn y DU ers datganoli. Mae nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru wedi gostwng mwy na 18 y cant. Mae'r gyfradd gyflogaeth yma yng Nghymru bellach yn uwch na'r DU yn gyffredinol, ac mae canran yr oedolion sy'n gweithio heb unrhyw gymwysterau yn gostwng.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy liniaru effaith tlodi, helpu pobl i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith, ac yn darparu cymorth drwy'r cyflog cymdeithasol, gwerth £2,000 y flwyddyn i rai aelwydydd. Ond gyda 29 y cant o blant mewn tlodi yng Nghymru, ni all yr hyn y gallwn ei wneud dim ond lliniaru'r hyn sydd wedi dod yn amcan polisi bwriadol gan y Llywodraeth bresennol a chyn-lywodraethau Ceidwadol y DU i gynyddu anghydraddoldeb ledled y DU.
Mae'r Resolution Foundation, sefydliad annibynnol, wedi rhagamcanu y bydd 37 y cant o blant yn y DU yn byw mewn tlodi erbyn 2022 oherwydd polisïau Llywodraeth y DU. Mae hyn yn uwch nag mewn unrhyw gyfnod arall ers yr ail ryfel byd. Mae hwn yn warthnod ar enw Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ni fyddwn yn rhoi'r gorau i weithio i wella bywydau teuluoedd yng Nghymru, a byddwn yn gwneud popeth a allwn ni i feithrin mwy o gadernid i gefnogi pobl a chymunedau. Gallwn ni, Llywodraeth Cymru, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd hynny sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, ond ni allwn ni ddadwneud yr anghydraddoldeb sylfaenol hwn sy'n cael ei orfodi arnom o'r tu hwnt i'n ffiniau.
Byddwn yn edrych eto ar bopeth yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth—ein gweithgareddau, ein polisïau a'n blaenoriaethau—i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn y cyfnod hwn o ansicrwydd digynsail. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gloriannu'r ddadl dros ddatganoli agweddau ar y system fudd-daliadau. Wrth fwrw ymlaen â hyn, byddwn yn edrych ar waith diweddar Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch dyfodol budd-daliadau lles yng Nghymru. Rydym ni eisoes wedi dechrau amlinellu rhai egwyddorion craidd ar gyfer newid, gan gynnwys tosturi, tegwch, urddas a dealltwriaeth, gyda'r nod o fod yn drugarog a rhoi mwy o sylw i'r dinesydd.
Rwy'n arwain adolygiad o'r rhaglenni a'r gwasanaethau yr ydym yn eu hariannu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posib ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio sut yr ydym yn blaenoriaethu ein cyllid i gefnogi rhaglenni yn y dyfodol. Cynhelir yr adolygiad hwn ar y cyd â chynllunio blaenoriaethau ein cyllideb ar gyfer 2020-21 o safbwynt tlodi. Drwy gydol y broses adolygu, byddwn yn sicrhau y bydd lleisiau'r rhai sydd â phrofiad o beth yw byw mewn tlodi, yn cyfrannu at y dewisiadau wrth fwrw ymlaen. Bydd hefyd yn cael ei lywio gan ganfyddiadau ac argymhellion amrywiaeth o randdeiliaid, a thrwy weithio'n agos gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Sefydliad Bevan, y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant a Chwarae Teg.
Byddwn yn ystyried gwaith ymchwil a dadansoddi gan sefydliadau megis y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Oxfam a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys cynigion ar gyfer rhaglen o weithgareddau ar gyfer y dyfodol ac amserlen ar gyfer cyflawni hynny yn seiliedig ar yr argymhellion, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach unwaith y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau yn y gwanwyn.
Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod effaith ein pwerau datganoledig, gyda'i gilydd, yn cyflawni ein blaenoriaeth o fynd i'r afael â thlodi. Gwyddom na fydd hyn yn hawdd. Rwy'n croesawu'r adroddiad cynnydd hwn, er gwaethaf y negeseuon anodd y mae'n eu cynnwys. Mae'n nodi ein cyflawniadau yn ogystal â maint yr her sy'n ein hwynebu o hyd yng Nghymru, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth. Yn bwysig ddigon, bydd yn feincnod ar gyfer mesur ein hymdrechion o'r newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i fyw bywyd cyfoethocach a chyrraedd ei lawn botensial. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn i'r Cynulliad. Diolch.
Dylai'r ffaith fod tlodi plant yng Nghymru wedi cynyddu beri pryder i bob un ohonom ni, fel y dywed y Gweinidog. Ond tybed a all hi ddweud wrthyf pam ei bod hi'n dweud fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru bellach yn uwch na'r DU gyfan, pan fo'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Lloegr a'r DU gyfan, ac nid yw hi'n sôn bod yr un ffigurau'n dangos bod anweithgarwch economaidd wedi cynyddu 24,000 i 441,000, neu pam na soniodd bod gan Gymru, ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur, y cyflogau isaf o blith gwledydd Prydain Fawr.
Rydych yn cyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ddyfodol budd-daliadau lles yng Nghymru. Gan fy mod â rhan yn yr adroddiad hwnnw, ni fyddaf yn rhoi sylwadau. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb.
Rydych yn cyfeirio at doriadau cyni, wel, mae fy ngeiriadur yn disgrifio 'toriadau cyni' fel bod heb ddigon o arian, ac, o'r herwydd, gwaddol oedd hynny, nid dewis. Gwyddom, oherwydd yr hyn a wnaed ers 2010, y gall gwariant cyhoeddus ddechrau cynyddu'n sylweddol eto nawr. Pam ydych chi yn hytrach yn hyrwyddo'r polisïau economaidd sy'n cael eu ffafrio gan y gwledydd hynny sydd â diffyg mawr a geisiodd ddifrïo a gwrthod cyni ac yn y pen draw y gorfodwyd toriadau llawer, llawer uwch arnynt—yn union fel y mae eich plaid yn ei gynnig ar lefel y DU nawr, mewn cyfraddau llog a'r math o gyni na welsom ni yma ers yr ail ryfel byd?
Nawr, fel y dywedais, mae Cymru wedi cael Llywodraeth Lafur ers dros ddau ddegawd. Pam wnaethoch chi fethu â chrybwyll ffigurau cyn 2010? Hyd yn oed cyn y chwalfa ariannol, mae ffigurau swyddogol yn dangos mai Cymru oedd â'r lefelau tlodi plant uchaf yn y DU: 29 y cant yn 2007; 32 y cant yn 2008, hyd yn oed cyn y chwalfa. Yn 2012, mae cipluniau tlodi plant gan Achub y Plant yn dweud mai Cymru oedd â'r tlodi mwyaf a'r cyfraddau tlodi plant mwyaf difrifol o unrhyw wlad yn y DU, ac ym mis Mai eleni, dywedodd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant y llynedd i 29.3 y cant.
Mewn gwirionedd, mae polisi'r Deyrnas Unedig yn bwysig—. Ffigurau swyddogol yw'r rheini, os gwelwch yn dda gwiriwch nhw. Mae materion polisi'r DU yr ydych yn cyfeirio atynt yn berthnasol, wrth gwrs, ar draws y DU, ond dim ond Cymru sydd â Llywodraeth Lafur. Rydych yn dweud bod tystiolaeth yn dangos bod rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy liniaru effaith tlodi. A wnewch chi, felly, ymddiheuro, er enghraifft, am grynodeb ffeithiau'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant a gyhoeddwyd ym mis Mai, a ddywedodd fod gan Gymru'r gyfradd tlodi gyffredinol uchaf yn y DU yn 2018, neu am ganfyddiadau adroddiad Joseph Rowntree ar dlodi ym Mhrydain a gyhoeddwyd fis Rhagfyr y llynedd, a oedd yn dweud o blith pedair gwlad y DU, yr oedd yr un polisïau gan Lywodraeth y DU yn effeithio arnynt—mai Cymru oedd â'r gyfradd dlodi uchaf yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, nid naw yn unig?
Cyfeirir at Gymru, fel y gwyddom ni, mewn llawer o adroddiadau eraill. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru wedi bod yn galw ers amser ar i Lywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth tlodi plant newydd gyda thargedau mwy uchelgeisiol i ddileu tlodi plant. Ym mis Mai, mae Sefydliad Joseph Rowntree, Dr Steffan Evans, swyddog—. Mewn erthygl ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree, dadleuodd Dr Evans o Sefydliad Bevan fod tlodi plant yn dal i fod yn fater o bwys yng Nghymru ac y bu 'diffyg meddwl cydgysylltiedig', lle nad yw polisi Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi 'wedi bod yn gweithio mewn cytgord' â meysydd eraill fel tai. Ac, wrth gwrs, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu cynllun cyflawni newydd ynghylch tlodi plant, yn canolbwyntio ar 'gamau pendant' a 'mesuradwy'.
Pam mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chefnogi galwadau am unrhyw gynllun priodol, fel y trafodwyd mewn dadl gan unigolyn yn gynharach eleni? A sut mae hi'n ymateb i alwadau gan y sector, gan gydnabod bod yr ysgogiadau polisi Cymreig sydd gan Lywodraeth Cymru o fewn ei phŵer yr union faes yr hoffent ganolbwyntio arno, gan eu bod yn cytuno bod pwerau y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu defnyddio ac y gall ei defnyddio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi? Dywedwyd hynny yn y misoedd diwethaf, nid degawd yn ôl.
Dywedwch y byddwch yn sicrhau, drwy gydol y broses adolygu, y bydd lleisiau'r rheini sydd wedi byw mewn tlodi yn cyfrannu at y dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Saith mlynedd yn ôl, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad 'Cymunedau yn gyntaf—Y Ffordd Ymlaen' gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a ganfu y dylai cynnwys y gymuned yn y gwaith o gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen olynol a fyddai'n arwain ar drechu tlodi. Ac, ar ôl gwario £0.5 biliwn ar y rhaglen honno, aeth Llywodraeth Cymru ati i'w diddymu, ar ôl methu â lleihau'r brif gyfradd dlodi neu gynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru. Fel y dywedodd Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau'n gweithio, a dylid llunio rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfarwyddo o'r brig i lawr.
Sut, felly, ydych chi'n ymateb i ddatganiad Ymddiriedolaeth Carnegie yn eu hadroddiad diweddaraf ar drefi trawsnewid mai'r dull galluogi gwladol, megis symud o bennu targedau i ganlyniadau, o'r brig i lawr i'r gwaelod i fyny, cynrychioli i gyfrannu, yw'r ffordd o symud ymlaen o statws y darparwr lles tuag at ddull mwy galluogol o lywodraethu, gyda newid yn y berthynas rhwng dinasyddion, y gymuned a'r wladwriaeth, lle mae cymunedau yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni ar y cyd i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
Yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r dystiolaeth sydd ar gael gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fod angen inni fesur beth sy'n bwysig? Mae eu pecyn cymorth yn dweud ei fod o'r pwys mwyaf i'r bobl y mae eich gweithgarwch yn eu cefnogi bod y bobl yn cyd-ddylunio yn ogystal â chymryd rhan yn y gwerthusiad. Felly, sut fydd arweinydd yr adolygiad tlodi plant yr ydych yn ceisio ei gyflogi ar hyn o bryd yn ceisio cymhwyso'r gwersi newydd hynny, neu'r hen wersi, i sicrhau bod yr anghenion sy'n parhau ar ôl dau ddegawd yn cael eu trafod o'r diwedd mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â'r achosion ac nid yn unig yn talu am y symptomau?
Gofynnodd Mark Isherwood imi sut yr wyf yn ymateb i gyfres gyfan o ystadegau a ddarllenwyd ganddo. Ymatebaf fel hyn: y bobl a ddylai ymddiheuro am y ffigurau gwarthus hyn yw'r Llywodraeth Geidwadol, sydd wedi gweithredu'r gyfundrefn fwyaf didrugaredd, didostur, a chreulon o gredyd cynhwysol a welodd y byd erioed—[Torri ar draws.] Gadewch imi ddyfynnu rhai ystadegau ichi. [Torri ar draws.] Gadewch imi ddyfynnu rhai ystadegau ichi.
Ar hyn o bryd mae budd-daliadau yn 12.5 y cant o gyflog cyfartalog. Ym 1948, pan grëwyd y wladwriaeth les gan y Blaid Lafur, roedd yn 20 y cant. Yn yr oes Elisabethaidd, ym 1599, dan ddeddfau'r tlodion, roedd yn 16.5. Felly, llongyfarchiadau, rydych chi wedi gostwng—wedi gostwng—y safon byw i bobl dlawd yn y wlad hon o'r fan lle yr oedd yn yr oes Elisabethaidd. Chi yw'r bobl a ddylai fod yn ymddiheuro, nid y Llywodraeth hon.
Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn i liniaru effeithiau Llywodraeth Dorïaidd greulon a didostur sydd wedi gosod treth ystafell wely—treth ystafell wely. Ar ôl faint o amser ar ôl i'ch plentyn farw y mae'n rhaid i chi ddechrau talu mwy o dreth ar yr ystafell y mae wedi'i gadael? Faint o amser? Ydych chi'n gwybod? Na, rwy'n amau hynny. Faint o amser fydd hi'n cymryd cyn ichi dderbyn bod menyw sydd â thri phlentyn—tri phlentyn—yn gorfod profi ei bod wedi'i threisio i gael cymorth i'r trydydd plentyn hwnnw? Rhag eich cywilydd yn dweud wrthyf i ymddiheuro am unrhyw beth. Dylai fod cywilydd gennych.
Croesawaf y gonestrwydd yn y datganiad fod tlodi plant wedi cynyddu ac y rhagwelir y bydd yn parhau i gynyddu. Mae'n bendant yn wir y bu toriadau nawdd cymdeithasol ac agenda cyni ehangach y Torïaid yn ffactor mawr yn hyn. Does dim amheuaeth am hynny. Fodd bynnag, bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod ymchwil gan Brifysgol Loughborough wedi canfod mai Cymru yw'r unig wlad sydd wedi gweld cynnydd mewn tlodi plant yn y blynyddoedd diwethaf.
Nid ydym ni'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu. Yn wir, cafwyd enghreifftiau lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynigion a fyddai wedi gwneud pethau'n waeth petaent wedi'u gweithredu: y cynnig i dorri'r grant gwisg ysgol; gostwng y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Cymru, wrth gwrs, oedd yr unig wlad i beidio â chadw'r gronfa deuluol ar ei ffurf flaenorol, a welodd miloedd o deuluoedd â phlant anabl ar eu colled.
Gallwn hefyd gyfeirio at y nifer fawr o adroddiadau pwyllgor sydd wedi gwneud argymhellion difrifol ac arwyddocaol i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella pethau. Ond, nid wyf mewn gwirionedd eisiau pendroni ar hyn i gyd. Yn lle hynny, mae gennyf nifer o gwestiynau, gan edrych i'r dyfodol. O gofio bod llawer o'r toriadau lles wedi'u dechrau o dan Lafur yn San Steffan pan roddodd Tony Blair ei swydd weinidogol gyntaf i'r Arglwydd Freud, a ydych chi'n derbyn bod angen ichi gael rheolaeth weinyddol dros les os ydych chi eisiau mynd i'r afael o ddifrif ag anonestrwydd yr Adran Gwaith a Phensiynau pan ddaw hi'n fater o asesu pobl anabl, ac i roi terfyn ar gyflwyno sancsiynau rif y gwlith?
A ydych chi'n derbyn fod angen ichi gael strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant a'i ddileu sy'n cynnwys targedau campus a chyfrifoldeb penodol am bob cam gweithredu? Ac yn olaf, a ydych chi'n credu fod angen i chi efelychu rhywfaint o'r ddeddfwriaeth yn yr Alban a chynnwys dyletswyddau i fynd i'r afael â thlodi a thlodi plant yn y gyfraith—dyletswyddau a ddylai gael eu hymestyn drwy'r sector cyhoeddus ac a allai, er enghraifft, gael eu defnyddio i atal ysgolion rhag mynnu dim ond dillad drud fel gofynion ar gyfer gwisg ysgol, sydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, yn warthus?
O ran y rheolaeth weinyddol, mae gennym ni adroddiad yr ydym ni'n aros amdano gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rydym ni wedi cael yr adroddiad dros dro, ond rydym ni'n disgwyl yr adroddiad terfynol cyn bo hir. Felly, pan fydd yr adroddiad hwnnw gennym ni, byddwn, wrth gwrs, yn gweld beth mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddweud wrthym ni o ran cymryd rheolaeth weinyddol.
Rwy'n rhannu ei dymuniad i weinyddu budd-daliadau lles mewn modd mwy dyngarol. Dywedais hynny yn fy natganiad. Byddem yn awyddus iawn i weld pobl sydd â hawl i fudd-daliadau yn eu cael yn y lle cyntaf heb orfod dioddef apêl ac ati. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ofalus iawn nad ydym ni, wrth wneud hynny, yn gwneud y sefyllfa'n waeth a'n bod yn gallu lliniaru'r sancsiynau a'r system orfodi, sy'n peri cymaint o anobaith i bobl yn y wlad hon. Felly, rwyf eisiau bod yn glir iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni yn hynny o beth. A phan gawn yr adroddiad byddwn yn sicr yn ei rannu â'r Cynulliad a gweld a allwn ni ei weinyddu mewn ffordd fwy dyngarol.
O ran strategaeth, rwyf fi'n bersonol wedi cael trafodaethau gyda'r grŵp gweithredu ar dlodi plant a'r comisiynydd plant am yr hyn a olygwn wrth strategaeth. Does arnaf i ddim eisiau dargyfeirio adnoddau i ddod â rhywbeth at ei gilydd os nad yw'n gwneud rhywbeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod ein rhaglenni yn cyrraedd y bobl sydd eu hangen a'u bod mor effeithiol ag y gallan nhw fod. Felly, rwy'n arwain adolygiad gyda phob rhan o'r Llywodraeth ar ein holl raglenni er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, neu a oes angen eu newid, neu a oes angen targedau gwahanol iddynt. Oherwydd wrth i'r gyfundrefn credyd cynhwysol gael ei chyflwyno, mae angen inni ymwneud â charfan wahanol o bobl.
Y peth gwarthus arall—mae'n rhaid imi ddweud peth cwbl warthus—yw nifer y plant sydd mewn cartrefi sy'n gweithio ac sy'n dal i fod mewn tlodi. Yn amlwg, nid yw'r system credyd cynhwysol yn gweithio. Un o'r pethau nad yw pobl ar y meinciau gyferbyn byth yn dymuno ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb amdano yw lefel y lwfans tai lleol, yr ydym ni wedi'i drafod yn y Siambr hon o'r blaen, sydd heb ei gynyddu ers pedair blynedd, ac sy'n gwthio niferoedd mawr o bobl yn y sector rhentu preifat i dlodi yn sgil gorfod ychwanegu at eu taliadau rhent. Gallai'r meinciau gyferbyn ddatrys hynny bore yfory pe dymunent. Maen nhw'n dewis peidio. Felly, mae nifer o bethau o'r math hwnnw sy'n anodd iawn eu lliniaru.
Bydd Leanne Wood yn ymwybodol ein bod yn ceisio sicrhau bod pobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat yn cael tai sy'n addas i bobl fyw ynddynt, sy'n cyrraedd safonau penodol ac y cânt eu trin yn deg gan eu landlordiaid. Dyma'r effeithiau lliniaru y gallwn eu gwneud. Yn anffodus, ni allwn ni newid lefel y lwfans tai lleol.
Fodd bynnag, yr hyn y gallwn ei wneud yw adeiladu llawer mwy o dai cymdeithasol fel y gallwn ni gael pobl i mewn i'r math priodol o dai, a gorau po gyflymaf y gallwn ni wneud hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda chynghorau ledled Cymru i sicrhau bod y rhaglen honno'n cael ei rhedeg, a chap y Torïaid ar y cyfrifon refeniw tai bellach wedi ei ddileu.
Ac o ran model yr Alban, mae anawsterau gyda'r Alban. Rydym ni wrth gwrs yn hapus i ddysgu gan unrhyw un sy'n gallu gwneud hyn yn effeithiol, ond mae'r Alban yn wynebu anawsterau o ran yr hyn mae'n ei wneud. Rydym yn hapus iawn i ddysgu o unrhyw wlad sy'n gallu gwneud hyn yn fwy effeithiol. Y rhai sydd fwyaf effeithiol, wrth gwrs, yw'r rhai sydd â llywodraethau gwirioneddol flaengar, fel y rhai yn y Ffindir, lle mae'r system dreth yn cyfateb i angen yr agenda polisi cyhoeddus. A dyna beth yr hoffem ei weld pan fydd Llywodraeth Lafur yn dychwelyd i San Steffan ddydd Iau.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru am ei hymdrechion wrth geisio mynd i'r afael â'r mater hwn? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl rymoedd economaidd allweddol yn y sefyllfa hon, a'ch bod wedi gweithio yn erbyn y cefndir hwnnw o gyni'r Torïaid yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato, ac sydd, fel yr ydych yn gywir yn dweud, yn cynnwys diwygiadau lles didrugaredd sy'n gyfrifol am lawer o sgandal parhaus tlodi plant, ynghyd â, fel yr ydych chi eisoes wedi crybwyll, tlodi mewn gwaith llawer o rieni sy'n gweithio sydd wedi'u dal mewn swyddi ansicr â chyflogau bychain.
Nawr, o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, yn groes i'r hyn a glywsom ni gan Mark Isherwood yn gynharach, cafodd 600,000 o blant eu codi allan o dlodi cymharol, ond o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon, er mawr gywilydd iddynt, rhagwelir nawr y bydd tlodi plant yn codi i'w lefel uchaf mewn 60 mlynedd. Yn wir, yn fy etholaeth fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, mae tlodi plant yn dal i fod ymhlith yr uchaf yng Nghymru, er gwaethaf rhai gwelliannau sylweddol mewn ardaloedd fel y Gurnos.
Gweinidog, o ystyried mai menywod yw'r prif ofalwyr o hyd yn y rhan fwyaf o deuluoedd a chartrefi, mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â thlodi menywod er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant, a gwneud yn siŵr bod ein polisïau yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran achosion a chanlyniadau tlodi. Ac rwyf wedi sylwi ar ychydig o ystadegau sydd, yn fy marn i, yn helpu i greu darlun o'r sefyllfa honno: mae 46 y cant o aelwydydd un rhiant yn y DU yn byw mewn tlodi, ac mae 90 y cant o rieni sengl yn fenywod. Ac mae 27.8 y cant o fenywod yn economaidd anweithgar, o gymharu ag 19.6 y cant o ddynion, ac mae hyn bedair gwaith yn fwy tebygol o fod oherwydd eu bod yn gofalu am y teulu neu eu bod gartref.
Mae 58 y cant o'r rhai sydd o oedran gweithio ac yn hawlio budd-daliadau yn fenywod hefyd, felly mae unrhyw newidiadau neu doriadau i fudd-daliadau ac unrhyw gyfnodau hir o aros am daliadau yn fwy tebygol o effeithio ar fenywod. Felly, mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn gofyn i bob un ohonom ni yn y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU gydweithio. Ac os ydym ni'n mynd i wneud cynnydd gwirioneddol, mae angen dwy Lywodraeth sy'n cyd-dynnu ar achos cyffredin i fynd i'r afael â thlodi. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, mae'n teimlo fel bod Llywodraeth Cymru yn gwario er mwyn lliniaru effeithiau tlodi plant a achosir gan bolisïau Llywodraeth y DU nad yw'n rhannu'r un angerdd a blaenoriaethau yn amlwg. Ac rwy'n gobeithio, fel chi, Gweinidog, y bydd hynny'n dod i ben ddydd Iau yr wythnos hon. Wrth ddatblygu ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant, a allwch chi fy sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi sylw i rywedd, o gofio'r ystadegau y cyfeiriais atynt yn gynharach?
Ydw, rwy'n hapus iawn i sicrhau Dawn Bowden ein bod yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. Dyna un o'r rhesymau y comisiynodd y cyn Brif Weinidog yr adolygiad rhywedd, wrth gwrs, ac rydym yn bwrw ymlaen â cham 2 yr adolygiad rhywedd. Un o brif ganfyddiadau'r adolygiad rhywedd hwnnw, nad yw'n syndod i neb ohonom ni, yw bod anghydraddoldeb o ran incwm yn sbarduno anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, sy'n sbarduno trais yn y cartref a materion eraill. Hyd nes bo menywod yn cael cyflogau digonol, heb y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, bydd y problemau hynny'n parhau. Gadewch inni fod yn glir, rydym yn gwybod, ar draws y byd, beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gael pobl allan o dlodi, a hynny yw addysgu a thalu menywod yn briodol. Ac felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar hynny.
Gyda'r diwygiadau lles a gawsom ni gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs rydym ni wedi symud arian o'r pwrs, fel roedden nhw'n arfer ei ddweud, i'r waled. Felly, rydych chi wedi cymryd arian o bocedi menywod a'i roi ym mhocedi penteulu gwrywaidd yr aelwyd. Mae hynny hefyd yn sbarduno trais yn y cartref, mae hefyd yn sbarduno anallu menyw i adael sefyllfa sy'n annioddefol iddi, ac mae'n sbarduno'r cynnydd mewn teuluoedd un rhiant, gan fod y lefelau o ddyled bersonol o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon wedi cynyddu'n aruthrol fel na all pobl gael dau ben llinyn ynghyd. Ac mae dyled bersonol yn sbarduno iechyd meddwl ansicr ac iechyd meddwl ansicr yn sbarduno chwalfa perthynas. Ac felly nid yw'r pethau hyn yn ddamweiniol. Mae hwn yn bolisi bwriadol gan Lywodraeth sydd â'r nod o wneud pobl dosbarth gweithiol yn dlotach, gadewch i ni fod yn glir, a'r holl broblemau cysylltiedig sy'n rhan o hynny.
Felly, mae gennym ni Boris y Prif Weinidog, pan oedd yn faer etholedig Llundain, a gwtogodd nifer yr heddweision yn sylweddol iawn, ac mae bellach yn esgus ei fod yn mynd i ddadwneud hynny. Nid yw'r niferoedd yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd. Ac yna rydym ni i gyd yn rhyfeddu bod gennym ni gynnydd mewn troseddau cyllyll. Rydym ni'n torri gwasanaethau ieuenctid, ond rydym ni'n synnu na allwn ni gael plant i fynychu ysgolion yn iawn a'r holl agweddau eraill cysylltiedig. Rydym yn torri gwasanaethau ataliol cyhoeddus hanfodol ond rydym yn synnu bod y ddarpariaeth gwasanaethau aciwt yn cynyddu.
Mae gan Mark Isherwood yr haerllugrwydd i ddyfynnu ystadegau wrthyf am lefelau cyflog yng Nghymru gan gefnogi Llywodraeth sy'n torri hawliau undebau llafur ac yn gwrthod bargeinio ar y cyd i nifer fawr o weithwyr. Byddwn yn awgrymu'n gryf iawn bod nifer o bolisïau sy'n gweithio mewn llawer o wledydd ledled y byd nad ydynt yn sbarduno anghydraddoldeb, a byddwn yn argymell yn daer i'r cyhoedd ym Mhrydain bleidleisio dros Lafur ddydd Iau er mwyn i ni allu bod yn un o'u plith.
A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Mae llawer gormod o blant yn byw mewn cartrefi tlawd. Heno yn Abertawe bydd rhai plant yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Bydd hyd yn oed mwy o famau'n mynd i'r gwely'n llwglyd. Bydd rhai yn mynd i'r gwely mewn tŷ oer a llaith. Bydd rhai plant yn newid eu hysgol weithiau mor aml â phob blwyddyn wrth i'w rhieni symud o un tŷ a rentir yn breifat am gyfnod byr i dŷ arall. Erbyn hyn, mae mwy o blant yn byw mewn tlodi ar aelwydydd sy'n gweithio nag ar aelwydydd di-waith, yn bennaf oherwydd bod gwaith ansicr sy'n talu'n wael mor gyffredin. Yr hyn y gall gwaith ansicr ei olygu yw mai oriau wythnosol gwarantedig isel sydd gan rywun, megis saith neu 10 awr yr wythnos, o bosib mewn siop y byddwch yn ymweld â hi yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Y rhan fwyaf o wythnosau byddant yn gweithio rhwng 30 a 40 awr ar yr isafswm cyflog ac yn gallu goroesi. Os ânt yn ôl i'w lleiafswm oriau gwarantedig am un wythnos, yna mae ganddynt argyfwng ariannol. Bydd yn rhaid iddynt fynd i'r banc bwyd ac ni fyddant yn gallu fforddio'r rhent na'r tocynnau trydan.
Pwysaf eto ar y Llywodraeth am ddau beth a fydd, rwy'n credu, yn helpu i liniaru'r caledi hwn. Y cyntaf yw adeiladu nifer fawr o dai cyngor ynni effeithlon. Bydd hynny'n cael pobl allan o'r tai drud llaith ac oer iawn sy'n cael eu rhentu'n breifat, a fydd wedyn yn gallu mynd yn ôl i'r sector preifat a dod yn gartrefi i berchen-feddianwyr eto.
Mae gwyliau yn gyfnod o bryder mawr i rieni. Os siaradwch â rhieni yn rhai o ardaloedd tlotaf Abertawe, y peth maen nhw'n ei gasáu fwyaf yw gwyliau'r haf. Mae angen deg pryd ychwanegol y plentyn bob wythnos. Gofynnaf eto i Lywodraeth Cymru ariannu brecwast am ddim a pharhau â'r prydau ysgol am ddim drwy wyliau'r ysgol, gan ddechrau gyda gwyliau'r haf y flwyddyn nesaf. Dyma fyddai'r un cam a fyddai'n cael yr effaith fwyaf llesol ar bobl sy'n byw mewn tlodi, sef llawer gormod o'm hetholwyr i.
Diolch am y pwyntiau yna, Mike. Mae'n werth tynnu sylw at y ffaith bod lefel tlodi plant ledled y DU wedi cynyddu. Yn ôl adroddiad 2018 Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi plant, bu tlodi plant yn cynyddu ers 2011-12, sy'n gydberthynas ddiddorol â sefydlu Llywodraeth, ac mae cyfanswm o 4.1 miliwn o blant bellach yn byw mewn tlodi incwm cymharol—cynnydd o 500,000 yn y pum mlynedd diwethaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n glir bod polisïau penodol yn achosi hyn.
Yma yng Nghymru rydym ni'n gwneud sawl peth i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a ddaw yn sgil tlodi. Felly, er enghraifft, ers 2012 darparwyd mwy na £475 miliwn drwy'r grant datblygu disgyblion i gynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol wedi rhoi cyfleoedd i blant rhwng saith ac 11 oed o ardaloedd difreintiedig i fod yn fwy egnïol ac, yn bwysicach, fel y noda Mike, i fwyta'n iach drwy wyliau'r ysgol, datblygu cyfeillgarwch a defnyddio cyfleusterau ysgolion lleol yn ystod gwyliau'r haf.
Rydym yn sicr yn edrych ar sut y gallwn ni ymestyn y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol ledled Cymru, oherwydd fy mod yn derbyn yn llwyr pwynt Mike Hedges nad yw plentyn sy'n llwglyd yn blentyn sy'n cyrraedd ei lawn botensial. Rydym ni hefyd yn helpu pobl i gael hyfforddiant a gwaith, ac mae ein rhaglen £12 miliwn y flwyddyn, Cymunedau am Waith a Mwy, wedi helpu 2,227 o unigolion ychwanegol i gael gwaith. Ond nid cyflogaeth yw'r unig agwedd ar hyn, ai e? Mae'n rhaid iddi fod yn gyflogaeth dda. Rhaid iddi fod yn gyflogaeth sicr. Mae'n rhaid iddi fod yn gyflogaeth nad yw'n cynnig nifer bychan o oriau sicr, neu yn waeth fyth, contract dim oriau. Ac er mwyn cyflawni hynny mae angen deddfwriaeth gyflogaeth wahanol arnom ni yn y DU. Mae angen inni sicrhau na ellir manteisio ar bobl ac, yn lle ystyried y bobl a gaiff eu cefnogi gan gredyd cynhwysol fel y broblem, ein bod yn ystyried y busnesau nad ydynt yn eu talu'n ddigonol fel y broblem, a bod gennym ni system drethu sy'n adlewyrchu hynny'n briodol. Ac i wneud hynny, mae angen Llywodraeth Lafur flaengar iawn arnom ni mewn grym.
Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, nodwyd yn gynharach eleni mai Penrhiwceibr yn fy etholaeth i sydd â'r gyfradd uchaf o dlodi plant yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n dditiad cywilyddus o ddegawd o gyni gan y Torïaid. Yn y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd, does dim angen dioddefaint o'r fath, ond mae'n ddioddefaint a achoswyd gan ymosodiad y Torïaid ar ein system les.
Hoffwn ddiolch i chi am ddod i'r cyfarfod bord gron a drefnais yng nghymuned falch a chlos Penrhiwceibr yn ôl ym mis Medi, ac rwy'n gwybod ichi gael eich plesio gan y dystiolaeth a gyflwynwyd i chi yno gan grwpiau cymunedol sy'n gweithio mor galed, yn aml gydag arian Llywodraeth Cymru, i geisio lliniaru rhai o effeithiau gwaethaf tlodi plant. Rwy'n gwybod y bydd y rhai sy'n bresennol yn y cyfarfod hwnnw'n dilyn trafodion heddiw'n ofalus.
Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at yr adolygiad o raglenni a gwasanaethau Llywodraeth Cymru yr ydych yn ymgymryd ag ef i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posib ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi, gan gydnabod, wrth gwrs, fod y rhan fwyaf o'r grymoedd y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. A allwch chi roi rhagor o fanylion inni am hyn, Gweinidog, megis sut y bydd yr adolygiad yn sicrhau y caiff lleisiau plant eu clywed mewn modd clir iawn? Ac a fydd unrhyw bwyslais ar effaith tlodi plant ar iechyd meddwl plant? Byddwch yn cofio inni glywed tystiolaeth eithaf syfrdanol gan ysgolion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw am iechyd meddwl plant yn y gymuned honno, sydd â chysylltiad agos â thlodi plant yn fy nhyb i. Beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn y maes hwn?
Yn ail, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw'r cytuniad hawliau dynol rhyngwladol y bu'r cadarnhad mwyaf eang iddo mewn hanes. A ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, drwy barhau i gyflwyno diwygiadau lles megis credyd cynhwysol, y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn ar gredyd treth, diwygiadau y disgwylir iddynt wthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn iddynt gael eu llawn weithredu, y gallai'r Llywodraeth Dorïaidd annynol hon fod wedi torri sawl erthygl o'r Confensiwn hwnnw? A chyfeiriaf yn arbennig at erthygl 26, sy'n datgan bod gan bob plentyn yr hawl i elwa ar nawdd cymdeithasol, hawl sydd ar hyn o bryd yn cael ei warafun i drydydd neu bedwerydd plentyn teuluoedd o'r fath, neu i blant y teuluoedd hynny sy'n gorfod aros pedwar, chwech, wyth neu hyd yn oed 10 wythnos cyn cael eu rhandaliad cyntaf o gredyd cynhwysol, ac erthygl 27 hefyd, sy'n nodi bod gan bob plentyn yr hawl i safon byw ddigonol. Pa gyflwr ydym ni ynddo, Gweinidog, lle gellid gweld polisïau Llywodraeth y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd yn mynd yn groes i'r holl gytundebau hawliau dynol pwysig hyn, a pha waith ydych chi a'ch cyd-Aelodau yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud i bwysleisio difrifoldeb y sefyllfa hon, nid i Lywodraeth Dorïaidd y DU yn unig, ond i'r gymuned ryngwladol ehangach?
Yn olaf, Gweinidog, gan gydnabod bod y cynnydd mwyaf mewn tlodi plant ymhlith aelwydydd sy'n gweithio, y ffordd orau o godi plant allan o dlodi yw galluogi eu rhieni i gael swyddi sicr, sy'n talu'n dda. Mae gwaith rhagorol Cymunedau am Waith a Mwy a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn hysbys iawn yn fy nghymuned i, ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith arall yr ydych chi'n ei wneud gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Llywodraeth i geisio cynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn y cymunedau hyn y mae tlodi plant yn effeithio fwyaf arnynt, yn enwedig yng Nghymoedd y De?
Oedd. Roedd hi'n bleser gwirioneddol dod i'ch etholaeth a gwrando ar grŵp o bobl ymroddedig iawn yn trafod sut y gallwn ni ddod at ein gilydd a sicrhau bod pob un o'n polisïau yn effeithio ar y bobl briodol ar yr adeg briodol a sut y gallwn ni eu defnyddio, ac, mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, rydym ni wedi rhoi sawl peth ar waith drwy'r Llywodraeth gyfan i sicrhau bod ein polisïau yn cyd-fynd yn dda â'i gilydd, gan y tynnwyd sylw at y ffaith bod gennym ni bolisïau sy'n llawn bwriadau da nad ydynt bob amser yn cyd-fynd yn dda. Felly, dyna un o'r ffrydiau gwaith yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef i wneud yn siŵr nad yw pobl yn disgyn i'r bylchau rhwng polisïau.
Felly, o ran sut mae'r adolygiad yn digwydd, dros y chwe mis nesaf, rydym ni'n adolygu holl bolisïau Llywodraeth Cymru—mae'n beth eithaf cymhleth i'w wneud—i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod ble maen nhw, beth maen nhw'n ei wneud a beth maen nhw i fod i'w wneud i sicrhau nad oes gennym ni unrhyw grwpiau sy'n cael eu hepgor yn anfwriadol o ganlyniad i hynny ac yna siarad am yr hyn y dylem ni ei wneud i'w trawsnewid yn y dyfodol. Felly, bryd hynny byddwn eisiau ystyried lleisiau plant a phobl eraill, ond byddwn yn cydweithio'n agos â'r comisiynwyr a'r Comisiwn Hawliau Dynol, Chwarae Teg a nifer o sefydliadau eraill i'n helpu i ddod i'r casgliadau hynny, a hefyd, wrth gwrs, y Dirprwy Weinidog gyda'r adolygiad rhywedd, sy'n rhan bwysig iawn o'r darn hwn o waith. Felly, mae'n ymwneud â'u cysylltu â'i gilydd.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n gwneud nifer fawr iawn o bethau i gefnogi iechyd a lles teuluoedd sydd ar incwm isel. Mae gennym ni gynllun taleb Cychwyn Iach a llaeth i blant meithrin gwerth £6.9 miliwn, sy'n darparu talebau i fenywod beichiog, mamau newydd a phlant o dan bedair oed o gartrefi incwm isel i gael ffrwythau a llysiau, llaeth a fformiwla babanod, yn ogystal ag ychwanegion fitaminau am ddim. Rwyf eisiau pwysleisio hynny, oherwydd mae arwyddion sy'n peri pryder mawr ledled y DU o bwysau geni isel mewn menywod tlawd, a gwyddom fod pwysau geni isel yn cael effaith aruthrol arnoch chi am weddill eich bywyd. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau cywir i fenywod beichiog er mwyn sicrhau nad yw deiet gwael yn effeithio ar bwysau geni eu plentyn ac yna ar ei gyfleoedd mewn bywyd. Onid yw'n warthus dweud, yn y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd, fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno? Mae'n gwbl gywilyddus. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cyflwyno'r cynlluniau hynny i'r bobl y mae arnynt eu hangen fwyaf.
Caiff trigain mil o bobl gymorth bob blwyddyn drwy'r grant cymorth tai £126 miliwn i helpu atal digartrefedd, oherwydd, unwaith eto, mae symiau mawrion o ddyled bersonol a thai ansicr yn arwain at ddigartrefedd—digartrefedd cudd yn aml: nid pob un ohonynt sy'n cysgu allan, ond mae llawer o bobl sy'n mynd o soffa i soffa heb le diogel i fyw, neu, fel y dywedodd Mike Hedges, yn mynd o'r naill lety rhent preifat i'r llall yn gyflym iawn. Felly, mae gennym ni amrywiaeth eang o raglenni deddfwriaethol wedi'u cynllunio i roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl yn eu cartref rhent ac i wneud yn siŵr bod y cartref rhent yn addas i'w ddiben. Ac fe ddywedaf ar y pwynt hwn: er mwyn sicrhau bod y landlordiaid da sydd gennym ni ledled Cymru yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi, rwy'n awyddus i gyflwyno cynllun gwobrwyo i'r landlordiaid da iawn hynny er mwyn i bobl adnabod pwy ydynt, a'r asiantau rheoli sy'n gweithio gyda nhw, fel y gallwn ni wobrwyo'r landlordiaid da ac ynysu'r rhai nad ydynt yn ymddwyn yn y ffordd gywir, a bydd ein deddfwriaeth yn ein helpu i wneud hynny.
Mae gennym ni hefyd nifer enfawr o fentrau eraill sy'n ymwneud â chyflog cymdeithasol mwy hael. Felly, mae'r rhain yn wasanaethau sy'n gyfwerth ag arian parod ac yn golygu bod mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru. Felly, mae rhai teuluoedd yng Nghymru tua £2,000 y flwyddyn yn well eu byd o ganlyniad i bethau fel cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd wrth gwrs yn lleihau'r rhwymedigaeth treth gyngor ar gyfer rhai o'n cartrefi mwyaf bregus. Mae'n bwysig iawn deall ein bod yn wir yn helpu pobl gyda faint o arian sydd ganddyn nhw dros ben. Oherwydd dyna beth yr ydych chi eisiau: urddas, onid e, a medru rheoli eich cyllideb eich hun. Un o'r pethau sy'n fy nghythruddo i yw pan glywaf Weinidogion Torïaidd yn dweud nad yw pobl dlawd yn gwybod sut i gyllidebu. Maen nhw yn gwybod sut i gyllidebu. Roedd fy nheulu yn gwybod sut i gyllidebu. Os oedden nhw'n gorfod byw ar yr hyn oedd ganddyn nhw i fyw arno, fe fyddent yn gwybod beth yw cyllidebu mewn gwirionedd.
Rydym ni hefyd yn buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd rhwng mis Ebrill a mis Mawrth i gyflwyno system wresogi well mewn 25,000 o gartrefi i bobl ar incwm isel neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Oherwydd, fel y mae Mike Hedges wedi dweud hefyd, a chredaf ichi dynnu sylw at hyn yn eich cyflwyniad heddiw, ond fe grybwyllwyd hynny hefyd yn y cyfarfod bord gron, os ydych yn talu biliau mawr i gadw'ch cartref uwchben y rhewbwynt ac nad oes gennych chi ddigon i'w fwyta a'ch bod yn cael trafferth i brynu dillad i'ch teulu, dydych chi ddim yn y sefyllfa orau i wneud yn fawr o'ch potensial ac mae hynny'n golygu nad ydych chi yn y sefyllfa orau i chwilio am waith. Mae'r drefn hon mewn gwirionedd yn atal pobl rhag cael cyflogaeth dda drwy beidio â'u galluogi i wneud eu gorau. Mae'n gwbl groes i'r hyn y dylem fod yn ei wneud i gynorthwyo pobl i gael gwaith sy'n talu'n dda. Felly, byddaf wrth fy modd yn gweithio gyda chi, Vikki, ymhellach ar ganlyniadau'r cyfarfod bord gron a chydag unrhyw Aelodau eraill sydd eisiau cynnal sesiwn o'r fath yn eu hetholaethau hwythau hefyd.
Diolch yn fawr, Gweinidog.