– Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffyrdd, a galwaf ar Russell George i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7274 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant.
2. Yn cydnabod yr effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a thagfeydd ffyrdd.
3. Yn gresynu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl;
b) datblygu cynigion ar gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i Abergwaun;
c) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'r cynnig ar gyfer ein dadl heddiw, a restrir yn enw Darren Millar, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddweud hefyd na fyddwn, wrth gwrs, yn cefnogi gwelliant 'Dileu popeth' arferol y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 7 gan Blaid Cymru.
Hoffwn feddwl y gall pob un ohonom yn y Siambr hon gytuno bod rhwydwaith ffyrdd addas i'r diben yn hanfodol i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd mwy hirdymor ein gwlad. Mae ein rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd yn hanfodol, wrth gwrs, ar gyfer cynhyrchiant yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ein bod yn gystadleuol. Mae'n cefnogi marchnadoedd llafur cynhyrchiol ac mae'n darparu rhydwelïau ar gyfer masnach yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. Credaf y gall pob un ohonom gytuno ar hynny.
Ond buaswn yn awgrymu bod economi Cymru bellach, yn fwy nag erioed o'r blaen, angen cefnogaeth rhwydwaith ffyrdd effeithiol a dibynadwy er mwyn cefnogi twf economaidd Cymru yn y tymor hir ac er mwyn lleihau effaith amgylcheddol cysylltedd ffyrdd gwael a thagfeydd. Mae cyflwr presennol y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru yn golygu nad yw Cymru'n gallu ysgogi na manteisio ar yr hyn sy'n sbarduno gweithgarwch economaidd. Mae tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn atal Cymru'n uniongyrchol rhag cyflawni newid sylweddol yn ei lefelau cynhyrchiant, sydd yn ei dro'n llesteirio twf yng nghyflogau ac allbwn Cymru. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom am honni nad ydym am weld hynny.
Nid oes gennym rwydwaith ffyrdd da ac effeithiol yng Nghymru, a phan gyflwynir cynlluniau, yn aml iawn ni chânt eu rheoli'n dda. Bydd yr Aelodau a oedd yn y Siambr hon yn gynharach heddiw wedi fy nghlywed yn holi'r Gweinidog ynghylch nifer o gynlluniau ffyrdd sydd ar ei hôl hi ac sydd dros gyllideb o ganlyniad i gaffael gwael a rheolaeth wael ar y cynlluniau cyflenwi ffyrdd hynny. Rydym mewn sefyllfa lle nad yw ein system drafnidiaeth ffyrdd bresennol yn gallu ymdopi â'r lefel bresennol o alw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch am ildio, Russell. Mae'n bleser gennyf fod, gyda chi, yn aelod o'r grŵp hollbleidiol ar deithio llesol, ac rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad i deithio cynaliadwy hefyd. Os yw ef, fel fi, yn cytuno â hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, hierarchaeth wirioneddol ynghylch pwy ddylai fod yn defnyddio ein ffyrdd, a soniodd am bwysigrwydd cludo nwyddau—cytunaf yn llwyr ag ef ynghylch cludo nwyddau—sut y dylai hynny fod yn berthnasol i'n rhwydwaith ffyrdd a'r penderfyniadau a wnawn?
Wel, nid oes raid i'r un ohonynt beidio ag ategu'r llall. Rwy’n cynrychioli etholaeth yng nghanolbarth Cymru, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n wahanol iawn i'ch etholaeth chi, gyda phob parch. Ni allwch—nid yw'r drafnidiaeth gyhoeddus yno. Yn anffodus, i gyrraedd eich ysgol agosaf, rydych 10 milltir i ffwrdd. Mae’n rhaid ichi gael seilwaith ffyrdd effeithiol. Ond nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl; credaf fod y ddau beth yn gydnaws â’i gilydd ac mae'r ddau'n bwysig. Clywsom gwestiwn yn gynharach heddiw gan Helen Mary Jones ynglŷn â phwyntiau gwefru cerbydau trydan a seilwaith hefyd, ac mae angen inni gael seilwaith ffyrdd ar gyfer cynyddu’r defnydd o gerbydau trydan hefyd.
Efallai y caf dynnu sylw at rai o'r materion a godais heddiw yn fy nghwestiynau i'r Gweinidog. Mae'r oedi a'r gorwario sy'n gysylltiedig â heol yr A465 Blaenau'r Cymoedd, mae arnaf ofn, yn amlygu hanes gwael Llywodraeth Cymru yn berffaith o ran rheoli a chyflawni cynlluniau penodol i wella ffyrdd. Soniais am ambell un arall hefyd. Efallai y bydd gan y Gweinidog fwy o amser yn yr ymateb hwn i fynd i’r afael, efallai, â sut y gall caffael a chytundebau contractiol newid fel nad ydym yn gweld y mathau hyn o gynlluniau a reolir yn wael yn y dyfodol.
Un o'r enghreifftiau gwaethaf sy’n peri’r gofid mwyaf, yn fy marn i, o reolaeth wael Llywodraeth Cymru ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r tagfeydd parhaus ar draffordd yr M4—ffordd strategol sydd wedi dioddef lefelau enfawr o dagfeydd traffig ers blynyddoedd lawer, ond serch hynny, ni all Llywodraeth Cymru roi ateb digonol i'r broblem honno. Tra bu Llywodraeth Cymru'n tin-droi ac yn cael gwared ar unrhyw gynlluniau ystyrlon, mae’r traffig ar yr M4 yn cynyddu.
Er mawr siom i mi, mae’r Prif Weinidog—ac rwy’n falch ei fod yma i wrando ar y ddadl hon y prynhawn yma; rwy'n ddiolchgar am hynny—wedi gwneud y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, er gwaethaf y gefnogaeth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU a chefnogaeth gan fusnesau ledled Cymru a chefnogaeth gan Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys o feinciau'r Llywodraeth hefyd, ac wrth gwrs, o ganlyniad i'r ymchwiliad annibynnol drud iawn, a ddaeth i'r casgliad y dylid adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Canfu adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio fod honiad Llywodraeth Cymru y byddai'n anghyson â'i datganiad o argyfwng hinsawdd yn anghywir. Canfu'r adroddiad
'y byddai’r cynllun yn arbed tua 4,324 o dunelli o garbon a allyrrir gan ddefnyddwyr ar rwydwaith ffyrdd Cymru bob blwyddyn, ac y byddai’r arbedion yn cynyddu yn y dyfodol.'
Yn ychwanegol at hynny, wrth gwrs, mae manteision economaidd ffordd liniaru'r M4 yn glir. Gyda manteision economaidd adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn gorbwyso'r costau, byddai'r cynllun wedi bod yn gynllun da o ran gwerth am arian. Yn lle hynny wrth gwrs, gwastraffodd Llywodraeth Cymru £144 miliwn ar yr ymchwiliad, dim ond i wrthod ei ganfyddiadau am nad oeddent yn plesio'r Prif Weinidog.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch, a chytunaf â rhai o'r pwyntiau a wnaethoch. Bydd y dadleuon o blaid ac yn erbyn ehangu ffyrdd yn parhau, nid yn unig mewn perthynas â'r M4, ond Llansawel fydd nesaf, oherwydd—. Y cwestiwn i ni fel cefnogwyr trafnidiaeth gynaliadwy yw: i ba raddau rydym yn dadlau dros gael gwared â theithiau diangen oddi ar y darn cyfan o ffordd? Felly, rydym yn caniatáu i faniau gwyn gludo'r nwyddau dros yr ychydig filltiroedd olaf. Felly, rydym yn caniatáu'r rheini nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall. Oherwydd nid am y Gymru wledig rydym yn sôn bellach; rydym yn sôn am y Gymru drefol.
Mae'n ddrwg gennyf, clywais y rhan fwyaf o'ch pwyntiau, ond ni allwn glywed rhai o'ch pwyntiau am fod fy ochr i'n siarad. [Chwerthin.]
Roedd yn eich heclo. [Chwerthin.]
Nid oeddent yn fy heclo. [Chwerthin.]
Credaf fod rhai o'ch pwyntiau a glywais yn bwyntiau teg; nid wyf yn anghytuno, Huw, dim o gwbl. Ond credaf mai fy ymateb fyddai—. Wel, dyfynnaf Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ei hun, a ddywedodd:
'dros y cyfnod arfarnu o 60 mlynedd, fod mwy na £2 o fudd am bob punt a werir ar y cynllun, heb gyffwrdd ar y manteision economaidd ehangach sy’n debygol o ddeillio o’r cynllun, megis canfyddiad cryfach o Gymru fel lle i fuddsoddi, rhywbeth na ellir ei fesur.'
Felly, buaswn yn dadlau yn erbyn yr hyn a ddywedwch drwy ddweud hynny, sef barn y Gweinidog. A bod yn deg, credaf ei fod, yn ôl pob tebyg, yn dal i gytuno â'r farn honno heddiw. Efallai y gall roi gwybod inni ar y diwedd.
Yn ychwanegol at hynny, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r dulliau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r prosiect, yn ogystal â sicrhau bod y gyllideb gyfalaf wedi cynyddu dros 45 y cant yn ystod cyfnod yr adolygiad presennol o wariant. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut i gryfhau economi Cymru yn ogystal â darparu mwy o gysylltedd. [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Prif Weinidog yn siarad hefyd, ond buaswn yn dweud wrth y Prif Weinidog heddiw, sydd fel pe bai'n cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, galwaf arno i ailfeddwl ei gynlluniau a darparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl, er na chredaf y bydd yn newid ei safbwynt o ganlyniad i'r ddadl heddiw, yn anffodus.
Mae cynlluniau ffyrdd mawr eraill yng Nghymru wedi methu cael y gwelliannau sydd eu hangen arnynt i sicrhau eu bod yn gallu bodloni gofynion defnyddwyr ffyrdd Cymru yn well: mae'r A55 yng ngogledd Cymru yn enghraifft sydd wedi dioddef yn hir yn sgil tanfuddsoddi ers amser maith; yr A40, sydd hefyd wedi dioddef yn sgil diffyg gwaith uwchraddio effeithiol dros yr 20 mlynedd diwethaf; ac rydym hefyd yn galw am ddatblygu cynigion ar gyfer gwaith uwchraddio sylweddol ar gefnffordd yr A55; ac wrth gwrs, mae'n rhaid i mi grybwyll—clywaf Paul Davies yn siarad ar y chwith i mi—ffordd yr A40 i Abergwaun, y mae Paul Davies yn sôn amdani mor aml.
Wrth gwrs, buaswn ar fai pe na bawn yn sôn am ffordd osgoi Pant-Llanymynech yn fy etholaeth i, yn ogystal â chanolbwyntio ar gysylltiadau gogledd a de eraill â Chymru. O ran ffordd osgoi Pant-Llanymynech, gallaf weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ar hynny yn y gorffennol, felly rwy'n gobeithio am gyfraniad cadarnhaol yn hynny o beth. Ond mae angen i ni gael —. Mae Huw Irranca wedi gwneud sylwadau ar sawl achlysur yn y ddadl hon heddiw; nid wyf yn anghytuno â'r hyn sydd ganddo i'w ddweud. Credaf fod hyn yn ymwneud â chael cynlluniau ffyrdd effeithiol yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a theithio llesol. Maent wedi'u cyfuno. Nid ydynt yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Mae angen inni gael rhwydwaith ffyrdd sy'n addas er mwyn sicrhau bod ffyniant economaidd Cymru'n tyfu. Er mwyn parhau i fod yn Gymru gystadleuol, mae angen i ni sefydlu strwythur rhwydwaith ffyrdd effeithlon. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon, a chymeradwyaf ein cynnig i'r Senedd.
Diolch. Rwyf wedi dethol saith gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau newid moddol.
2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.
3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.
4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;
b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd.
6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.
7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.
Cynigiwyd.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 6—Siân Gwenllian
Ym mhwynt 4, dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
'sicrhau datblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r trafferthion tagfeydd o amgylch Casnewydd.'
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar, mae'n rhaid i mi ddweud i gychwyn, i Russell George am gytuno i dderbyn, credaf iddo ddweud, ein gwelliant 2 a'n gwelliant 7, gan fod y cynnig fel y mae yn swnio braidd fel rhywbeth y gallai rhywun fod wedi'i weld yn y 1980au, sy'n awgrymu y gallwn ddatrys ein holl broblemau economaidd drwy adeiladu mwy o ffyrdd. Rwy'n siŵr, o'r hyn y mae Russell George wedi'i ddweud yn ei ymatebion i Huw Irranca-Davies, nad dyna a olygai. Ond mae'n rhaid i mi nodi, Ddirprwy Lywydd, mai dyna mae'r cynnig yn ei ddweud.
Nid oes unrhyw un yn gwadu am eiliad y bydd angen inni barhau i fuddsoddi yn ein rhwydweithiau ffyrdd. Credaf fod y pwyntiau a wnaed gan Russell George ynglŷn â phwysigrwydd hynny mewn cymunedau gwledig, lle mae'n ddigon posibl na all rhai ohonynt byth gael eu gwasanaethu'n effeithiol gan rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus—. Ac ar y meinciau hyn, mae'n bwysig iawn i ni fod y cymunedau hynny'n cael eu cefnogi a'u cynnal, oherwydd ymhlith pethau eraill, mae llawer o'r cymunedau hynny’n gymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith frodorol, lle mae'n dal i gael ei siarad yn ddyddiol. Ac felly, bydd angen i ni barhau i fuddsoddi yn ein ffyrdd. Nid oes unrhyw un ar y meinciau hyn yn gwadu hynny.
Ond nid dyna'r ateb cyfan. A chredaf fod hynny wedi cael ei gydnabod. A gwyddom—ac rwy'n cymeradwyo'r un neu ddwy o astudiaethau academaidd da iawn ar hyn, yn arbennig mewn perthynas â’r hyn a ddywedwyd heddiw am ffordd liniaru arfaethedig yr M4—mai’r gwir yw eich bod, dros amser, yn adeiladu ffordd ac yna mae'n llenwi. Rwyf am ddyfynnu dwy o'r astudiaethau. Ysgrifennwyd 'Demystifying Induced Travel Demand' gan Roger Gorham ar gyfer Gweinyddiaeth Cyllid yr Almaen, a 'The Fundamental Law of Road Congestion: Evidence from US Cities' gan Duranton a Turner ar gyfer yr 'American Economic Review'. A'r hyn y maent yn ei ddangos yw na allwch, yn y tymor hir, leddfu'r problemau hyn drwy orchuddio mwy o gefn gwlad â choncrit.
Nawr, nid yw hynny'n golygu am eiliad nad oes angen gwneud rhywbeth am y problemau o amgylch Casnewydd. Credaf fod pawb yn y Siambr hon—. Mae pob un ohonom, mae'n debyg, wedi gyrru ar hyd y ffordd honno neu wedi teithio ar y ffordd honno ar ryw adeg, a gŵyr pob un ohonom beth sy'n digwydd yn nhwneli Bryn-glas. Ond ni chredwn am eiliad y bydd gorchuddio safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gyda mwy o goncrit yn datrys y broblem honno yn y tymor hir. Mae'n wir dweud bod 43 y cant o'r siwrneiau ar y rhan honno o'r M4 yn deithiau o dan 20 milltir, ac mae llawer o'r rheini'n deithiau na fyddai pobl, gydag atebion trafnidiaeth gyhoeddus addas, yn dewis eu gwneud mewn car. Deg y cant o'r traffig ar y darn hwnnw o ffordd sy’n arwain at y tagfeydd. Felly, pe gallem fynd â hanner y 43 y cant hwnnw o bobl oddi ar y ffordd honno—a dywedaf 'pobl' yn fwriadol, gan mai pobl mewn cerbydau gwag ydynt, dim ond nhw ac un unigolyn arall lawer o'r amser—gallem ymdrin â phroblem y tagfeydd hynny.
Nawr, y mater arall, wrth gwrs, gyda ffordd liniaru’r M4 yw y byddai'n cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu. Hyd yn oed pe baem yn penderfynu ei hadeiladu, byddai'n cymryd saith mlynedd. Ac yn y cyfamser, byddai diflastod twneli Bryn-glas yn parhau i fod yn realiti o ddydd i ddydd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
Diolch am ildio, Helen Mary. Clywaf yr hyn a ddywedwch am dynnu mwy o geir oddi ar y ffyrdd, a gobeithiaf y bydd hynny'n helpu i leddfu'r tagfeydd, a chlywaf hefyd nad ydych yn cefnogi llwybr du'r M4 dros wastadeddau Gwent. Ond a ydych yn derbyn bod angen rhyw fath o welliant i'r seilwaith o ran y ffordd ei hun? Mae safon y ffordd bresennol wedi dyddio'n eithriadol; nid yw wedi bod yn addas i'r diben ers blynyddoedd. Mae angen rhyw welliant, beth bynnag fo'r ateb hwnnw.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed Nick Ramsay am hynny'n llwyr—y gallai rhywfaint o seilwaith ffyrdd ychwanegol fod yn rhan o'r ateb, ond nid dyna'r stori gyfan.
Nawr, ni chredaf ei bod yn deg cyhuddo Llywodraeth Cymru o ruthro i wneud penderfyniad ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Credaf fod rhai ohonom yn meddwl y byddem wedi ymddeol erbyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Ac fe wnaeth y Prif Weinidog ystyried, ac fe wnaeth, pan gyflwynodd y penderfyniad, ystyried bod yno ffactorau cytbwys. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru, wrth wneud y penderfyniad hwnnw, wedi dewis gwrando ar ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Nid oes unrhyw bwynt o gwbl i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol os byddwn yn dewis anwybyddu'r unigolyn sy'n gyfrifol am ei gweithredu bob tro y bydd yn dweud rhywbeth wrthym sy'n anghyfleus i ni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sydyn, ond rwy'n ymwybodol fod gennyf rai pwyntiau eraill y mae angen imi eu gwneud.
Yn yr un modd, onid yw'n bwysig, pan fyddwn yn cael adroddiad ac ymchwiliad gan arolygydd annibynnol, fod yr egwyddor hefyd yn berthnasol yn hynny o beth?
Wel, credaf fod hwnnw'n bwynt dadleuol, ac mae'n bwynt dilys, ond mae'n ymwneud hefyd â'r ffactorau y caiff yr arolygiaethau hynny eu sefydlu i edrych arnynt. Fy marn bersonol i—ac nid wyf yn siarad ar ran fy mhlaid—yw y credaf fod angen diweddaru rhai o'r meini prawf hynny yng ngoleuni Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Felly, nid wyf yn dadlau ynghylch yr hyn a ganfu'r arolygiaeth, ond efallai fy mod yn dadlau'n rhannol ynglŷn â'r hyn roedd yr arolygiaeth yn chwilio amdano.
Hoffwn droi—. Felly, nid ydym yn derbyn y pwyntiau am yr angen i adeiladu—[Anghlywadwy.] Ond hoffwn droi'n gyflym at ein gwelliannau, a'r cwestiwn ynglŷn â ble y dylid gwneud y penderfyniadau hyn. Mae rhai ohonom wedi bod yn dadlau ynghylch manylion datganoli ers amser maith, ac un peth sy'n gwbl glir i mi yw na ddylai unrhyw sefydliad gwleidyddol, unrhyw unigolyn sy'n dweud eu bod yn parchu datganoli ar ben arall coridor yr M4 ddweud wrth Lywodraeth Cymru, 'Gallwch gael y buddsoddiad hwn ar yr amod eich bod yn ei wario'n union fel y dywedwn ni.' Os felly, waeth i ni i gyd fynd adref.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os gwnaiff y Llywydd ganiatáu hynny.
Yn fyr. Rwy'n caniatáu'r ymyriad.
Mae'n ymwneud â'r pwynt ynglŷn â pheidio â bod eisiau cyfarwyddo Llywodraeth Cymru sut i wario arian. Rwyf wedi eich clywed yn dadlau ar sawl achlysur y dylem gyfarwyddo awdurdodau lleol sut i wario eu harian hwy. Felly, dylai'r hyn sy'n iawn mewn un achos fod yn iawn yn yr achos arall hefyd. Yn sicr, os oes prosiectau o bwysigrwydd cenedlaethol, fel ffordd liniaru'r M4, a bod Llywodraeth y DU am eu symud yn eu blaen—
Mae'n ddrwg gennyf, Darren, mae'n rhaid i mi dorri ar eich traws, gan fod amser yn brin. Credaf fy mod yn deall eich pwynt. Ond rwy'n anghytuno. Rwy'n credu yn egwyddor sybsidiaredd—[Torri ar draws.] Darren, rwyf wedi derbyn eich ymyriad, a fyddwch yn ddigon caredig i wrando ar fy ymateb? Rwy'n credu yn egwyddor sybsidiaredd, sy'n dweud y dylid gwneud penderfyniad ar y lefel fwyaf lleol sy'n briodol, ac mae adegau pan fydd yn briodol i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol ac adegau pan na fydd hynny'n briodol. Yr hyn sy'n gwbl glir i mi, mewn materion datganoledig, yw nad yw'n briodol i Lywodraeth y DU fod yn cyfarwyddo ac nad yw chwaith yn briodol i Lywodraeth y DU flacmelio Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas.
Nawr, ar bob cyfrif, buddsoddiad ychwanegol. Rwyf wrth fy modd â'r sôn a gawn gan Boris Johnson ynglŷn â chodi lefelau. Buaswn wrth fy modd yn gweld rhywfaint o godi lefelau, fel y byddai llawer o deuluoedd un rhiant yn fy etholaeth wrth eu boddau'n gweld rhywfaint o godi lefelau. Ond yr egwyddor yw bod y rhain yn faterion—mae'r rhain yn faterion datganoledig. Nawr, mae'n gwbl briodol i'r Blaid Geidwadol yma ac i'r Blaid Geidwadol yn San Steffan anghytuno â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei wneud. Ond nid lle—nid lle—Gweinidogion na chawsant eu hethol gan bobl y wlad hon yw cyfarwyddo Llywodraeth etholedig y wlad hon sut i wario ei hadnoddau mewn meysydd datganoledig.
Rwy'n cynnig ein gwelliannau, Ddirprwy Lywydd.
Mae'n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dwyrain De Cymru yw'r porth i Gymru. Diben y porth yw caniatáu i nwyddau a gwasanaethau fynd i mewn ac allan. Mae'n gwneud synnwyr, felly, fod cysylltiadau trafnidiaeth da yn hanfodol wrth ehangu economi sy'n tyfu ac yn ffynnu. Yr M4 yw porth strategol Cymru i weddill y Deyrnas Unedig ac i Ewrop. Dyma'r brif rydweli sy'n pwmpio gwaed economi Cymru, ond mae'r rhydweli hon, yn rhy aml, yn cael ei gorlenwi a’i thagu. Y gwir amdani yw ein bod yn cael ein gwasanaethu gan ffordd ddeuol is-safonol nad yw’n bodloni safonau traffordd fodern. Mae tagfeydd ar yr M4 yn effeithio’n andwyol ar ein trefi a'n dinasoedd mawr. Mae ein heconomi yn unig—. Mae Caerdydd ar ei cholled o £134 miliwn y flwyddyn; Abertawe, £62 miliwn; a Chasnewydd, £44 miliwn y flwyddyn.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gorfodwyd y darn hwn o ffordd i gau dros 100 o weithiau. Mae can mil o gerbydau yn teithio ar yr M4 o amgylch Casnewydd bob dydd. Mae hyn yn cynyddu pan fydd digwyddiadau mawr, fel cyngherddau, rygbi, pêl-droed neu griced yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Abertawe. Wedi'i gyfyngu gan y twneli traffordd hynaf yn y Deyrnas Unedig, mae'r darn hwn o ffordd yn achosi mwy o allyriadau gan gerbydau, ansawdd aer gwael a damweiniau.
Argymhellwyd ffordd liniaru’r M4 am y tro cyntaf yn ôl ym 1991. Mae'r achos dros ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd hyd yn oed yn gryfach nag erioed o'r blaen. Treuliodd arolygydd cynllunio’r Cynulliad Cenedlaethol fwy na blwyddyn yn ystyried yr achos dros lwybr M4 newydd i’r de o Gasnewydd. Mae'n rhoi cefnogaeth gyfan gwbl i'r cynnig. Yn ei adroddiad, mae'n manylu ar fuddion economaidd, amgylcheddol ac iechyd y prosiect. Dywedodd y byddai prosiect yr M4 yn darparu—a dyma’i ddyfyniad—
'cyfradd adennill iach ar gyfer y buddsoddiad o gyllid cyhoeddus.'
Am bob punt a fuddsoddir, byddai Cymru’n derbyn £1.50 yn ôl, ond serch hynny, gwrthodwyd ei argymhelliad gan y Prif Weinidog—penderfyniad a wnaed yn unochrog. Rwy'n gobeithio y bydd yn ateb rhyw ddydd beth oedd y gwir reswm dros wrthod y cyfle gwych hwn a fydd, o ddydd i ddydd, nid yn unig yn cynyddu cost y draffordd, ond mae rhesymau eraill hefyd, ac rwyf am sôn amdanynt yn awr. Arweiniodd y gwrthodiad hwn at siom, dicter a rhwystredigaeth ym myd diwydiant a grwpiau busnes yng Nghymru. Llofnododd 90 o fusnesau a sefydliadau, gan gynnwys Admiral, Tata ac SA Brain ddatganiad ar y cyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd liniaru’r M4. Dywedodd CBI Cymru,
Mae hwn yn ddiwrnod tywyll i economi Cymru...Ni all tagfeydd a llygredd ffyrdd o amgylch Casnewydd ond cynyddu. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.
Dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau hefyd,
Mae'r M4 yn ddarn hanfodol o seilwaith sydd â phwysigrwydd economaidd rhyngwladol, ond mae tagfeydd trwm yn ei ddifetha.
Y seilwaith a'r cyfle i ddarparu’r buddsoddiad hanfodol hwn yn ne Cymru sydd wedi eu colli. Ni all y sefyllfa hon ond gwaethygu, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn bod problemau gweithredol difrifol ar gyffyrdd o amgylch Casnewydd, yn enwedig rhwng cyffyrdd 23 a 28. Mae cael gwared ar dollau pont Hafren, er y bydd hynny’n darparu chwistrelliad o dros £100 miliwn o weithgarwch economaidd i Gymru, wedi cynyddu tagfeydd yn aruthrol. Rhwng 2011 a 2016, cynyddodd y traffig ar yr M4 dros 12 y cant. Mae rhagamcanion gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos y bydd traffig yn unig ar yr M4 yn cynyddu bron i 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Nid yw peidio â gweithredu yn opsiwn, Lywydd. Mae pobl Cymru wedi aros yn ddigon hir i'r broblem hon gael sylw. Tra bo Llywodraeth Cymru'n tin-droi ac yn oedi, mae'r traffig yn cynyddu ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae angen gweithredu ar unwaith. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ffordd liniaru’r M4 ar frys. Diolch.
Byddai hyn yn teimlo fel pe bai wedi digwydd droeon o'r blaen pe na bai’n digwydd yng nghyd-destun y stormydd a'r llifogydd trychinebus rydym wedi’u cael dros yr wythnosau diwethaf, sy'n gwneud i mi ryfeddu ein bod yn trafod a ddylid buddsoddi mewn rhagor o ffyrdd ai peidio, pan fo'n gwbl amlwg fod yr argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol inni ddod o hyd i atebion gwahanol i'r problemau tagfeydd sydd gennym.
O dystiolaeth y Llywodraeth ei hun i'r ymchwiliad cynllunio, gwyddom mai effaith buddsoddi £1.5 biliwn mewn 14 milltir o ffordd fyddai cynyddu'r traffig ar yr M4 a'i symud ymhellach ar hyd y ffordd honno. Nid yw hyn yn ddefnydd da o arian cyhoeddus o gwbl, ac fe wnaeth y Prif Weinidog y penderfyniad cywir.
Rwy’n rhyfeddu bod y Ceidwadwyr yn dadlau y byddai ateb sy’n symud y tagfeydd ymhellach i lawr y ffordd a dod â mwy o bobl i Gaerdydd a Chasnewydd mewn ceir yn ateb y dylem ei ystyried. Nid yw'n gyson â galwad y Ceidwadwyr Cymreig am Ddeddf aer glân, oherwydd yr argymhelliad yn y cynnig hwn fyddai gwneud y broblem yn waeth o lawer.
Mae datgan argyfwng hinsawdd yn arwain at ganlyniadau, a chredaf fod angen i'r Ceidwadwyr ddechrau dal i fyny â'r angen i wneud pethau'n wahanol yn hytrach na hyrwyddo mwy o'r polisïau sy'n canolbwyntio ar geir sydd wedi ein harwain at y sefyllfa druenus ac anghynaliadwy rydym ynddi ar hyn o bryd, lle rydym yn anrheithio adnoddau'r byd. Ni allwn barhau fel hyn. Hoffwn weld y Ceidwadwyr Cymreig yn canolbwyntio ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn unioni tangyllido hanesyddol ein system reilffyrdd, sef y rheswm pam fod 43 y cant o'r bobl sy'n defnyddio'r M4 yn cymudo i’r gwaith. Nid yw gyrru car i'r gwaith, ei barcio am wyth awr cyn ei yrru oddi yno wedyn yn ddefnydd da o gar. Mae’n rhaid inni gael gwell system drafnidiaeth gyhoeddus. Gallwn yn sicr gytuno ar hynny.
Ond fel y dywedodd Gweinidog yr economi mewn cwestiwn cynharach y prynhawn yma, rhaid inni ystyried bod gan Gymru 11 y cant o'r gorsafoedd a'r signalau ar draws Cymru a Lloegr, ond ni chaiff ond 2 y cant o'r cyllid. Felly, mae'n amlwg fod digon o arian o gwmpas pan wneir penderfyniadau ynglŷn â phrosiectau sy'n canolbwyntio ar Lundain. Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto y bydd HS2 yn arwain at unrhyw fudd i Gymru, ond gallaf weld y gallai, pe bai'n arwain at drydaneiddio ac ymestyn y rheilffordd gyflym i Gaergybi. Ond—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn, Jenny. O ran gwella'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, beth yw eich barn am yr ardaloedd y tu allan i ganolfannau trefol de Cymru a gogledd Cymru? Nid oes gan y rhan fwyaf o Gymru system reilffyrdd sy'n werth siarad amdani.
Rwy'n cytuno â chi. Rydym yn cael gwared ar ffyrdd yn gyson ac mae ardaloedd o Gymru lle nad oes gennym reilffyrdd bellach, ac felly gwyddom y bydd angen i bobl y mae'n rhaid iddynt fynd i weithio o bentrefi anghysbell ddefnyddio car, o leiaf er mwyn cyrraedd y bysiau a allai fynd â hwy i'r dref lle maent yn mynd i weithio. Felly, nid wyf yn dweud na ddylid cynnal unrhyw ffyrdd o gwbl, dim ond dweud mai'r hyn sy'n fy ngwylltio yw'r ffocws parhaus yn y cynnig hwn ar fynd yn ôl at y penderfyniad a wnaed ym mis Mehefin y llynedd ynglŷn â pheidio â bwrw ymlaen â chynigion hynod gostus ac aneffeithiol i wella ffyrdd. Mae gwir angen inni uwchraddio ein system reilffyrdd, yn ogystal â gwella'r system drafnidiaeth integredig y mae'n rhaid inni ei chael er mwyn cael economi fodern, fel y bydd y trenau a'r bysiau'n cael eu cydgysylltu'n eithaf cyflym, fel y gall pobl gyflawni pa daith bynnag y mae angen iddynt ei chyflawni.
Felly, credaf fod yn rhaid i ni gael newid moddol o ddefnyddio ceir ar gyfer pethau fel cymudo i'r gwaith a'r ysgol. Credaf y dylem ddadlau fod angen datganoli gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd, neu fod angen inni wneud rhywbeth am y fargen wael y mae Cymru'n ei chael ar hyn o bryd i gael gwasanaeth rheilffyrdd gwell i Gymru. Nid ydym yn mynd i gael unrhyw beth, hyd y gwelaf, o wario £16 biliwn ar HS2, ac nid ydym yn mynd i gael y rheilffordd i Abertawe wedi'i thrydaneiddio hyd yn oed oni bai fod rhywbeth yn y gyllideb nad ydym yn gwybod amdano eto, na hyd yn oed uwchraddio'r pedair rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt, y gellid defnyddio dwy ohonynt fel gwasanaethau rheilffyrdd maestrefol i gysylltu poblogaeth Sir Fynwy â Chaerdydd a Chasnewydd.
Dyma'r mathau o fuddsoddiadau sydd eu hangen arnom yn daer, ond buaswn yn cytuno â'r angen i fynd i'r afael â'r tagfeydd ar yr M4, gan y gall pob un ohonom gytuno eu bod yn anghynaliadwy, ac mae angen inni fynd ati ar frys i ryddhau Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i ddarparu atebion cynaliadwy ac effeithiol i ymdrin â thagfeydd yng Nghasnewydd a'r rhanbarth ehangach.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Mae gan y comisiwn flynyddoedd o arbenigedd ym maes trafnidiaeth ymhlith ei aelodau: faint o amser sydd ei angen arnynt i feddwl am yr atebion y mae'n rhaid eu bod ganddynt yn barod? Nid oes angen inni fod yn arbenigwyr ar drafnidiaeth i sylweddoli y bydd angen inni archebu bysiau yn y tymor byr fel ateb dros dro hyd nes y cawn y llwybrau metro, tram a threnau newydd y bydd angen amser i'w hadeiladu.
Diolch i Jenny am roi'r ymyriad hwnnw i mi hefyd. Mae'n rhaid i mi ddechrau, fodd bynnag, drwy ddweud pa mor siomedig rwyf fi wrth weld cynnig arall eto gan y gwrthbleidiau'n cael ei ddileu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru a'i ddisodli gan ei chynnig ei hun. Bob wythnos, mae gan y Llywodraeth ddiwrnod cyfan i gyflwyno dadleuon o'i dewis ei hun, ond gan fod hyn yn dod yn batrwm sefydlog gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i'n dadleuon ni yn arbennig, Ddirprwy Lywydd, tybed a fyddech chi neu'r Llywydd bellach yn ystyried adolygu defnydd y Llywodraeth o'r gwelliant 'dileu popeth'. Lle'r Llywodraeth yw ateb y Senedd hon, nid gweiddi drosti gyda gwelliannau fel hyn, neu'n wir, wrthod craffu am nad yw'n hoffi cywair yr hyn a ddywedwn.
Ac os mai eich blaenoriaeth chi, Weinidog, yw dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif fel yr ymddengys eich bod yn ei wneud yn eich gwelliant, peidiwch â defnyddio ein hamser ni fel gwrthblaid i wneud hynny: dewch yn AS a defnyddiwch amser eich gwrthblaid eich hun i wneud hynny yn y Senedd. A gawn ni ychydig mwy am Lywodraeth Cymru, ac ychydig llai o 'nid ni, syr'?
Credaf fod y pwyntiau ynghylch y newid yn yr hinsawdd a godwyd yn y ddadl hon eisoes yn ychwanegiadau defnyddiol iawn i'r cynnig hwn. Maent yn bwysig ac roeddent yn teimlo'n arbennig o fyw imi ddoe wrth imi eistedd, gyda llawer o bobl sy'n gweithio yn y sefydliad hwn, mewn tagfa o gyffordd 33 enwog yr M4. Cymerodd awr i mi gyrraedd Croes Cwrlwys, heb allu troi fy rheiddiadur ymlaen oherwydd mygdarth. Efallai ei bod yn ddiwrnod arbennig o wael ddoe, ond yn y naw mlynedd y bûm yma, mae fy nhaith o Abertawe yn y bore yn cymryd o leiaf hanner awr yn hirach nag yr arferai gymryd, a'r rheswm am hynny yw bod gennym ffyrdd na allant ymdopi â'r angen mwyfwy mynych i gau lonydd. Ac i ystyried pwynt Huw Irranca-Davies, ac yn wir, pwynt Jenny—ni allaf feicio o Abertawe i Gaerdydd i gyrraedd yma yn y bore, Jenny. [Torri ar draws.] Felly, pam na ddaliaf y trên? Wel, pe bai'n un o'r trenau newydd cyflym iawn hynny y mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi ynddynt, ac a fyddai'n cyflymu'r siwrneiau hynny'n llawer mwy nag y byddai trydaneiddio wedi'i wneud, buaswn yn ystyried hynny. Ond mewn gwirionedd, mae cyrraedd yma ar drên yn dal i gymryd mwy o amser na gyrru mewn tagfeydd traffig, a chyda pherfformiad Cymru ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld hynny ynddo'i hun yn ddewis cynaliadwy. [Torri ar draws.] Nid wyf yn dod o'r un lle â chi ar y trên hwn, Huw.
A gaf fi dynnu sylw at un peth amlwg, mewn gwirionedd, sef bod bysiau, sy'n rhan fawr o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried, yn defnyddio ffyrdd? Nid y car yn unig sydd dan sylw yma. Felly, oni bai eich bod yn meddwl am drên un gledren, Weinidog, credaf fod lladd y cynnig hwn yn rhywbeth arall sy'n tynnu sylw oddi wrth wirionedd anodd iawn, rydym wedi ceisio—
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
O'r gorau.
A cherbydau trydan hefyd, gan fod angen ffyrdd ar gerbydau trydan yn ogystal â bysiau, wrth gwrs.
Rydych yn achub y blaen ar fy mhwynt, Mr George. Roeddwn yn ceisio cyrraedd y pwynt fod hwn yn gwestiwn anodd. Nid yw'n ymwneud yn syml â cheir yn hytrach na threnau yn hytrach na beth bynnag. Mae gennym ffyrdd sydd mewn cyflwr peryglus, nad oes ganddynt ddigon o gapasiti ar hyn o bryd i ymdopi â'r tagfeydd rydym wedi'u creu am nifer o resymau, ac nid ydynt wedi'u cynllunio i flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus. Gyda ffyrdd newydd, pan fyddant yn newydd sbon, dylem ystyried eu cynllunio i gynnwys dewis amgen deniadol teithio llesol sy'n cysylltu cymunedau yn economaidd yn ogystal ag yn gymdeithasol, ond ni all hynny fod yn wir am bob ffordd, gan gynnwys yr un a ddefnyddiaf yn y bore.
O ran trafnidiaeth werdd—wel, mae tramiau'n rhannu lle ar y ffyrdd â cherbydau modur, a boed honno'n drafnidiaeth gyhoeddus werdd neu'n dacsis hydrogen—gadewch i ni gael y rheini hefyd—byddant yn dal i ddefnyddio ffyrdd. A dadl am hynny yw hon—codi cwestiwn difrifol ynglŷn â diben ffyrdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, fel y nodir yn nau bwynt cyntaf ein cynnig. Felly, nid yw'n dychwelyd i'r 1980au.
Mae ffyrdd mawr bron bob amser yn ddadleuol, er eu bod yn destun cyfaddawdu mor aml. Gall cyfaddawdu gael ei lywio gan arbedion cost nad ydynt bob amser yn cael eu gwireddu, ac ymddengys i mi nad oes gan yr un o'n Llywodraethau straeon gwych iawn i'w hadrodd am gost seilwaith strategol. Ond y gwahaniaeth rhwng y gwaith ar yr A465 a HS2 yw bod y cyntaf wedi bod yn rhan o fy mywyd, fwy neu lai, ers i mi adael y brifysgol. Dim ond basilica'r Sagrada Familia sy'n cymryd mwy o amser i'w gwblhau, ac mae cyflawniad gwael ar y seilwaith strategol hwn yn mynd yn groes i egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol lawn cymaint ag y byddai plastro'r wlad mewn concrit.
Gall cyfaddawdu fod yn gyfle a gollwyd hefyd. Mae rhesymau pam nad yw'r ffordd ddosbarthu i'r de o Bort Talbot yn cymryd lle'r darn uchel o'r M4—ni fyddai hwnnw byth wedi cael ei adeiladu heddiw—ond y cyfan y mae cyfyngiadau cyflymder is ar y darn hwn yn ei wneud yw symud tagfeydd i fyny'r ffordd i Llandarcy. Mae'r cynnydd mwyaf mewn traffig yn fy rhanbarth i ar y pum cyffordd i'r gorllewin o Bort Talbot. Arbrofion gyda chyffordd 41—nid yw'r rhain yn hysbysebion da i'r rheini rydym yn ceisio'u denu i'r dinas-ranbarth, yn enwedig Aberdaugleddau, na'r rheini rydym yn ceisio eu perswadio i gynnal pont dir yn ne Cymru ar gyfer masnach rhwng Iwerddon a gweddill yr UE.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni waeth faint y mae hyn yn ei gostio i'r economi, mae'n gwneud ein holl gynlluniau datblygu lleol yn destun sbort hefyd. Mae'r cynnydd mwyaf mewn traffig yn fy rhanbarth i ar gyffordd 47 ger Penlle'r-gaer, sydd wedi neidio 78 y cant yn y 17 mlynedd diwethaf, a dyfalwch ble mae'r CDLl yn bwriadu adeiladu'r rhan fwyaf o'i ystadau tai?
Weinidog, yn eich ymateb, rwy'n mawr obeithio y byddwch yn ymateb i'r ddadl hon am yr hyn yr ydyw—apêl ddiffuant am rywfaint o feddwl strategol am ein seilwaith y mae ei angen yn daer er mwyn codi lefel Cymru.
Hoffwn gyfyngu fy sylwadau i'r ddwy brif ffordd yng Nghymru, a'r broses o ariannu unrhyw welliannau a allai ddigwydd, pa fath bynnag o welliannau y penderfynir arnynt. Y ddwy brif ffordd yw'r A55 yn y gogledd a'r M4 yn y de. Dynodwyd statws traffyrdd E i'r ddwy ffordd gan yr Undeb Ewropeaidd—yn achos yr A55, E22, a'r M4, E30. Golyga hyn eu bod yn rhan o'r rhwydwaith ffyrdd pan-Ewropeaidd a luniwyd i gysylltu gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Fel y gŵyr pob un ohonom, nid ydym ni yn y DU yn perthyn i'r undeb hwnnw mwyach, ond mae ein cymydog, Iwerddon, yn perthyn iddo. Mae'r ddwy brif draffordd hon yn hanfodol i gysylltedd Iwerddon nid yn unig â rhannau o'r DU, ond hefyd â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae'n gwbl dderbyniol, os nad yn ddymunol, iddynt gyfrannu at wella'r traffyrdd hyn. Wrth gwrs, byddai'n fantais fawr i fusnesau cludo nwyddau Iwerddon pe bai tagfeydd ar ffyrdd—megis pont Menai a'r twnnel ym Mryn-glas—yn diflannu. Mae hefyd yn gwbl ddichonadwy y gallent geisio am arian gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi gwelliannau o'r fath, o gofio bod yr UE wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'i gwledydd yr un mor hygyrch. Felly, ailadroddaf fy ngalwad ar y cyn Brif Weinidog i sicrhau bod y Gweinidog presennol yn cychwyn trafodaethau gyda'i swyddog cyfatebol yn Iwerddon i drafod y posibilrwydd hwn.
Rwyf ond yn codi i wneud cyfraniad byr iawn yn y ddadl hon, dadl rwyf wedi'i mwynhau'n fawr iawn mewn gwirionedd. Yr hyn y mae wedi tynnu fy sylw ato, fel y rhagwelais, yw'r gwrthdaro gwirioneddol hwn rydym yn brwydro ag ef—nid yn unig fel Senedd yma, ond hefyd ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol—rhwng ein dyhead i fod yn eistedd mewn car cynnes, ar ein pen ein hunain, gyda'r radio ymlaen, gyda'r gwresogydd ymlaen, yn gyrru i ble bynnag y dymunwn, a'r sylweddoliad nad yw'r bobl dlotaf mewn cymdeithas yn dibynnu ar geir o gwbl. Yr hyn y maent yn dibynnu arno yw trafnidiaeth gyhoeddus dda. Nid yw cael car yn opsiwn iddynt, hyd yn oed i gyrraedd swydd sy'n talu'r lleiafswm cyflog. Felly, dyna ble mae'r pyramid trafnidiaeth gynaliadwy yn effeithiol iawn. Os derbyniwn yn y Senedd hon, fel y gwnaethom—[Torri ar draws.] Gwnaf mewn munud—mewn munud. Os derbyniwn, fel y gwnaethom pan gyflwynasom Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 hefyd, a oedd yn rhagweld Cymru'n dod yn genedl lle byddai'n naturiol cerdded a beicio'n gyntaf—a dyna frig y pyramid; y cerdded a'r beicio—ac yna rydych yn gweithio'ch ffordd i lawr, ac rydych yn gweithio'ch ffordd drwy drafnidiaeth gyhoeddus a systemau trafnidiaeth dorfol, drwy rannu ceir a rhannu tacsis, drwy bethau fel mentrau cludiant cymunedol ac ati. Ac yna rydych yn cyrraedd y cwestiwn digamsyniol y bydd rhai pobl na allant wneud unrhyw beth ond defnyddio eu car eu hunain gyda'r dechnoleg sydd gennym ar hyn o bryd. Ac mae'n rhaid inni dderbyn hynny. Ond does bosibl nad oes yn rhaid inni weithio drwy'r lleill yn gyntaf, a'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei fethu weithiau yw'r syniadau ehangach ynglŷn â sut y symudwn bethau i fyny'r pyramid hwnnw i'w gwneud yn haws, yn llawer mwy deniadol, yn llawer mwy fforddiadwy, fel bod Suzy hefyd, nid fi'n unig, gan y gallaf daro i'r orsaf drenau—[Torri ar draws.] Hoffwn ddweud wrthych, gyda llaw, ers imi deithio mwy a mwy ar y trên, er gwaethaf y problemau a gawsom yn ddiweddar drwy fis Rhagfyr gyda thrên 06:44 yn y bore—er gwaethaf hynny, pan oeddwn yn teithio mewn car, roeddwn yn sownd yn llawer amlach mewn tagfeydd, mewn traffig, mewn damweiniau, dro ar ôl tro ar ôl tro, na'r ambell drên achlysurol sy'n cael ei ganslo. Ond fe ildiaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn eich pwynt am dlodi yn llwyr, ond rwy'n adnabod pobl yn y rhanbarth a gynrychiolaf lle mae mam y teulu'n bwyta bara a the ar ddiwedd yr wythnos gan fod yn rhaid iddi roi petrol yn ei char i gyrraedd ei gwaith sy'n talu'r isafswm cyflog mewn ardal wledig. Felly, gadewch inni beidio â chymryd nad yw pobl o dan anfantais economaidd ond yn byw mewn cymunedau lle mae angen mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus dda arnynt, wrth gwrs, oherwydd ni fydd rhai o'r teuluoedd hynny, os ydynt yn mynd i aros yn eu cymunedau, byth yn gallu cael y rhwydwaith o fysiau a threnau, a bydd angen mynediad arnynt at ddulliau teithio preifat sy'n fforddiadwy.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae hynny'n gwbl wir ar hyn o bryd, ond ni chredaf y dylem roi'r gorau i geisio cael trafnidiaeth gyhoeddus dda, fforddiadwy, hygyrch, dibynadwy ac aml mewn ardaloedd gwledig hefyd. Mae'n fesur o ba mor bell y mae'n rhaid inni newid y patrwm hwn i ddweud y dylem fod yn buddsoddi yn hynny.
Un o’r ofnau mwyaf i seneddwyr San Steffan pan oedd gennym y cymal bondigrybwyll ar brisiau petrol—a gynlluniwyd i’ch annog i beidio â llenwi eich tanc yn rheolaidd ac ati—oedd bod gennym wrthwynebiad torfol i hynny, dan arweiniad Top Gear a chyflwynwyr eraill, a fyddai'n gorymdeithio i'r Senedd gan ddweud, 'Mae hyn yn warthus.' Rydych yn llygad eich lle, o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd, fod yn rhaid derbyn nad oes modd i rai pobl osgoi hynny.
Ond o ran peth o'r drafodaeth rydym wedi’i chael heddiw am rai o'r prif rwydweithiau trafnidiaeth, yn enwedig ar goridor de Cymru, yr holl ffordd o Gasnewydd, yr holl ffordd o Fryste, a dweud y gwir, yr holl ffordd i wasanaethau Pont Abraham—mae rheini bellach wedi dod, i bob pwrpas, yn rhwydwaith trafnidiaeth leol mewn ffaith hefyd, gyda phobl yn dod i mewn ac allan yno. Nawr, does bosibl, mae'n rhaid inni wneud, ar un ystyr, yr hyn y mae Caerdydd—rwy'n falch fod Caerdydd wedi lansio'r ddadl hon, nid yn unig ynghylch codi tâl am dagfeydd, sydd wedi achosi llawer o ddicter a dadlau ac yn y blaen, ond rwy'n falch eu bod wedi lansio'r ddadl honno, mae'n rhaid imi ddweud. Ond mae hefyd yn ymwneud â rhannu ceir, gan fod fy mrawd yng nghyfraith, sydd wedi gweithio yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd, yn rhannu car gyda phedwar o bobl eraill, ac maent yn casglu pobl ar y ffordd ac yn teithio i fanc Lloyd’s, ac maent wedi gwneud hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os gallant hwy wneud hynny, pam na all eraill? Gwn am gartref gofal yn fy etholaeth lle mae gweithwyr arlwyo’n gwneud yr un peth yn union. Mae hyn yn fy etholaeth i. Ac maent yn teithio ar hyd yr M4 ac maent wedi penderfynu na allant ddioddef yr hyn sy'n digwydd yno, felly maent wedi dod at ei gilydd—yn rhannol o ran y gost, i gadw'r costau i lawr, gan fod pob un ohonynt mewn swyddi sy’n talu’r isafswm cyflog, ond maent wedi dod at ei gilydd i rannu car. Nawr, mae’r opsiynau hynny ar goll yn y ddadl hon weithiau.
Fodd bynnag, mae’n rhaid inni dderbyn bod angen rhywfaint o fuddsoddi mewn ffyrdd. Ceir rhai ffyrdd nad ydynt yn addas at y diben; ceir rhai y mae angen eu gwella a'u cynnal. Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi—rwy'n credu—oddeutu £2 filiwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n gobeithio y byddant yn ei ddefnyddio i atgyweirio lleoedd fel Ffordd Tonna. Mae angen gwneud gwaith sylweddol i roi wyneb newydd arni, nid llenwi tyllau yn unig. Felly, bydd angen y math hwnnw o arian o hyd. Mae’n rhaid inni dderbyn na fydd gan rai pobl unrhyw ddewis ond defnyddio trafnidiaeth breifat, ond gadewch inni beidio ag esgus bod angen inni wneud unrhyw beth ond troi'r patrwm ar ei ben a dechrau buddsoddi mewn trafnidiaeth dorfol ac yna'r car fel ychwanegiad, nid y ffordd arall, fel rydym wedi'i wneud ers 50 mlynedd.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ystyried ymrwymiadau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen lywodraethu, sy'n ymrwymo'r Llywodraeth i wella'r A40 yng ngorllewin Cymru.
Nawr, bydd y Gweinidog yn gwybod mai un o fy hoff bynciau yw siarad am yr A40 yn Sir Benfro, ac ni fydd ef nac eraill yn synnu y byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth, a fyddai, yn fy marn i, yn cael effaith fuddiol iawn ar gymunedau lleol a byddai'n gweddnewid yr economi leol. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r porthladdoedd yn fy etholaeth yn borth pwysig ar gyfer masnach ryngwladol, ac mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol i sicrhau bod y porthladdoedd hyn yn parhau i fod yn gystadleuol yn y dyfodol. Yn wir, mae porthladdoedd Abergwaun ac Aberdaugleddau wedi galw am y datblygiad seilwaith hwn ers rhai blynyddoedd bellach, ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau, mewn egwyddor, fod Llywodraeth Cymru o blaid deuoli'r ffordd hon yn y tymor hir. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw deuoli'r ffordd erioed wedi bod yn fater gwleidyddol ac os gofynnwch i aelodau o bob plaid, rwy'n siŵr ei fod yn un o'r ychydig faterion seilwaith y gall gwleidyddion o bob plaid gytuno arno, ac felly mae'n hen bryd i'r prosiect hwn gael ei gymryd o ddifrif.
Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trafnidiaeth mewn rhannau eraill o Gymru, megis ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n eithriadol o bwysig, mae'n hanfodol hefyd fod anghenion seilwaith gorllewin Cymru yn cael eu diwallu. Rydym wedi clywed ymrwymiadau yn y gorffennol ynghylch astudiaethau dichonoldeb ac addewidion o welliannau drwy gydol y Cynulliad hwn, ond mewn gwirionedd, ychydig sy'n cael ei wneud i weddnewid y ffordd hon ac agor gorllewin Cymru i weddill y wlad. Yn wir, roedd yn siomedig darllen yn adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru nad oedd Cymru wedi manteisio'n llawn ar yr arian a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, dywedodd Ian Davies o borthladdoedd Stena Line wrth y pwyllgor mai ychydig o gyllid yn unig a gafwyd ond dim byd arwyddocaol iawn dros y 15 mlynedd diwethaf. Wel, nid yw hynny'n dderbyniol ac mae'n drist clywed bod cyfleoedd wedi'u colli yn y gorffennol i gael cyllid hanfodol ac o ganlyniad, nid ydym wedi gwneud unrhyw gynnydd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn ailedrych ar y prosiect hwn ac yn rhoi ymrwymiad ystyrlon i gymunedau yng ngorllewin Cymru i ddeuoli'r ffordd hon yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na phrosiectau ar raddfa fwy'n unig; mae heriau sylweddol yn wynebu'r rhwydwaith ffyrdd lleol ledled Cymru, ac mae hynny hefyd yn cael effaith ar gymunedau lleol. O fy ymgysylltiad fy hun â phobl leol yng Nghwm Abergwaun, er enghraifft, pa mor niweidiol y gall seilwaith ffyrdd gwael fod. Yn yr achos arbennig hwn, mae cerbydau mawr sy'n teithio drwy Gwm Abergwaun wedi mynd yn sownd, yn llythrennol, rhwng eiddo, gan achosi difrod a pherygl i gerddwyr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi galw am osod pont droed i gynorthwyo cerddwyr yn well ar yr A487 yng Nghwm Abergwaun, ond yn anffodus mae'r galwadau hynny'n dal i syrthio ar glustiau byddar. Nawr, rwy'n derbyn bod system rybuddio'n cael ei datblygu ar hyn o bryd i rybuddio cerbydau mwy sy'n teithio ar y ffordd hon, ac rwy'n croesawu hynny'n ofalus, ond mae'n gwbl hanfodol fod y system hon yn ymarferol ac yn dderbyniol i'r gymuned leol. Dyna pam rwyf wedi estyn gwahoddiad i'r Gweinidog ymweld â'r ardal iddo ef ei hun gael gweld y problemau yn uniongyrchol, ac felly efallai y gall gadarnhau, wrth ymateb i'r ddadl hon, a fydd yn derbyn y gwahoddiad hwnnw ai peidio.
Nawr, mae'r ffaith bod seilwaith da ar gael yn amlwg yn cael dylanwad uniongyrchol ar gynaliadwyedd busnesau ledled Cymru, a dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei pholisïau trafnidiaeth yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig a bod buddsoddiad yn cyrraedd pob rhan o'r wlad. Mae'n rhaid cofio bod cyfaint y traffig ar y ffyrdd yn cynyddu, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyflwr y ffyrdd hynny o safon weddus ac yn ddiogel i'w defnyddwyr. Yn 2018, teithiodd cerbydau modur yng Nghymru 29.4 biliwn cilomedr cerbyd. Mae'r ffigur hwn 4.63 biliwn cilomedr cerbyd yn fwy nag yn 2000. Fodd bynnag, yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod cyfaint y ceir a thacsis wedi cynyddu 2.74 biliwn cilomedr cerbyd ers 2000, mae nifer y bysiau a choetsys wedi gostwng 0.8 biliwn yn yr un cyfnod.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedwyd eisoes, inni gydnabod bod bysiau fel bysiau Sir Benfro yn wasanaethau gwerthfawr hollbwysig i gynifer o bobl allu cyrraedd eu gwaith a chyfleusterau cymunedol, a hyd yn oed yn y frwydr yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd. Felly, fan lleiaf, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i'r bobl hynny, i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus yn ddigonol ac yn gallu cludo pobl yn gyfforddus o un lle i'r llall, ac efallai y bydd Bil bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd yn edrych nid yn unig ar y math o wasanaethau sydd ar gael, ond ar sut y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu ar ein seilwaith ffyrdd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd Sir Benfro yn gartref i filoedd o ymwelwyr cyn bo hir, ac eto, er mwyn gallu manteisio'n llawn ar yr hyn sydd gan Sir Benfro i'w gynnig, bydd angen rhwydwaith trafnidiaeth cryf ar waith. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn yn wir am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Ni welaf unrhyw reswm pam y gallai Aelodau ar unrhyw ochr o'r Siambr hon fethu cefnogi'r datganiad o argyfwng hinsawdd, methu cefnogi na chydnabod gwasanaeth rheilffyrdd £5 biliwn Llywodraeth Cymru, methu gresynu at yr £1 biliwn o danariannu gan Lywodraeth y DU ar seilwaith trafnidiaeth Cymru yn y pum mlynedd diwethaf—pam na allai unrhyw Aelod yn y Siambr hon resynu at ddegawd o gyni neu gefnogi ein galwad am gyllid ar gyfer pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y gororau, Ddirprwy Lywydd. Ac ni allaf weld unrhyw reswm ychwaith pam y byddai unrhyw Aelod yn gwrthod galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi £1 biliwn yn seilwaith rheilffyrdd gogledd Cymru neu i nodi penderfyniad—dim ond nodi penderfyniad—y Prif Weinidog, neu wrth gwrs, i groesawu'r gwariant o £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar drafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Ni allaf ond casglu nad yw unrhyw Aelod sy'n gwrthod cefnogi ein gwelliant yn cefnogi'r pecyn £1 biliwn o welliannau yng ngogledd Cymru na'n galwad am £1 biliwn i unioni lladrad mawr trenau Cymru drwy—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio.
Roeddwn yn edrych ar ein cynnig, ac yn meddwl tybed pam nad oes rheswm i resynu na allwch gytuno eich bod yn cydnabod pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hollbwysig sy'n hyrwyddo ffyniant, neu gydnabod effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol cysylltedd ffyrdd gwael. Gallwn fynd ymlaen, ond nid ydych yn cydnabod yr un o'r pethau hynny. Os ydych yn cydnabod hynny, pam eich bod yn ei ddileu?
Ddirprwy Lywydd, ni allaf dderbyn y dylem weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi'i wneud. Ac os caf ddechrau gyda'r M4, yn gyntaf oll, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau dro ar ôl tro yn y Siambr hon ac wedi rhoi ei resymeg dros beidio â bwrw ymlaen â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. A gallaf sicrhau pob Aelod ein bod yn cydnabod bod tagfeydd ar yr M4 yn her y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi. Peidiwch â meddwl nad yw'n opsiwn, nid ar yr ochr hon i'r ffin nac ar ochr Lloegr i'r ffin.
Yma, rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Arglwydd Burns eisoes wedi'i gwblhau gyda Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn eu hadroddiad ym mis Rhagfyr. Dim ond dechrau gwaith y comisiwn yw'r adroddiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach eleni. Rydym hefyd wedi pwysleisio'n eglur fod y prosiect penodol hwn yn gwbl unigryw o ran y raddfa ac o ran yr effaith ar y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac felly bod yn rhaid ei ystyried yn ei hawl ei hun.
Nawr, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cwblhau nifer o brosiectau ffyrdd proffil uchel, gan gynnwys ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd, rwy'n credu, yn enghraifft wych o sut y mae buddsoddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru. Ac fe'i cyflawnwyd, fel y dywedais yn gynharach, yn gynt na'r disgwyl ac fe'i cwblhawyd, rwy'n credu, i'r safon uchaf un y gallai'r cynllun ei chyflawni. Mae'n cynnig newid gwirioneddol o ran sut y mae pobl yn teithio yn yr ardal, yn ogystal ag i'r Drenewydd a thu hwnt. Nawr, mewn cyferbyniad, erbyn mis Gorffennaf 2018, roedd cynlluniau ffyrdd Llywodraeth y DU tua £2.8 biliwn dros y gyllideb a bu oedi gyda 85 o'r 112 o gynlluniau ffyrdd, a gadewch i ni beidio ag anghofio ychwaith am y trasiedïau a achoswyd gan brosiect trychinebus y traffyrdd clyfar, fel y'u gelwid gan Lywodraeth y DU, wedi i Panorama eu disgrifio yn ddiweddar fel ffyrdd sy'n lladd. Nid oes cynlluniau o'r fath yma yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn ein gwelliant, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1 biliwn o welliannau i'r seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau mawr i'r A55 a'r A483, cynlluniau teithio llesol a metro gogledd Cymru, a hyn er bod Llywodraeth y DU yn galw am £200 miliwn o arian yn ôl gennym gyda chwe wythnos yn unig o'r flwyddyn ariannol i fynd.
Nawr, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cysylltedd trawsffiniol, ac yn ystod y misoedd diwethaf, bu swyddogion yn gweithio'n agos gyda swyddogion o Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i nodi cynlluniau posibl y gallwn eu datblygu, ac rwy'n ddiolchgar am y cydweithrediad hwnnw. Mae swyddogion wedi nodi dau brosiect mawr y gellid rhoi blaenoriaeth i'w datblygu a'u hadeiladu dros y blynyddoedd nesaf. Y cyntaf yw cynllun ffordd A483 y Pant i Lanymynech, a'r ail yw cynllun yr A5/A483 o'r Amwythig i Wrecsam. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision economaidd a ddaw yn sgil gwelliannau o'r fath i Gymru, bydd angen i'r ddwy Lywodraeth neilltuo adnoddau, ac mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddyrannu arian os gall Llywodraeth y DU wneud yr un peth drwy'r strategaeth fuddsoddi mewn ffyrdd.
Nawr, mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn tynnu sylw at ein hymrwymiadau i wella'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, er gwaethaf y degawd o gyni rydym wedi'i ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru, nad yw'n cael ei hariannu i wneud hynny, hefyd wedi buddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd, gan ddewis cysylltu cymunedau drwy ailagor rheilffyrdd a gorsafoedd newydd, gan roi blaenoriaeth i gynyddu capasiti i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr a phoblogaidd, a chau croesfannau i wella diogelwch ac amseroedd teithio. Roedd fy natganiad llafar ddoe yn hysbysu'r Aelodau ynglŷn â'r angen i berchnogaeth ar y seilwaith rheilffyrdd a'r gwaith o'i ariannu fod yn nwylo pobl Cymru. Rydym wedi bod yn isel ar restr blaenoriaethau San Steffan ar gyfer gwella'r rhwydwaith rheilffyrdd ers gormod o amser. Gallai hynny ddod i ben gyda datganoli cyfrifoldebau a chyllid.
Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn hefyd wedi cyflawni cyfran sylweddol o'r gwaith o drawsnewid metro de Cymru, gan ailgadarnhau ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon. Nawr, bydd datgarboneiddio trafnidiaeth yn thema allweddol yn strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, sydd i'w chyhoeddi eleni, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym wedi dyrannu £74 miliwn ychwanegol ar gyfer mesurau datgarboneiddio trafnidiaeth.
Nawr, fel y dywedais yn fy ateb i gwestiynau yn gynharach heddiw, mae £2 filiwn yn cael ei fuddsoddi i greu mannau gwefru cyflym ledled Cymru er mwyn galluogi teithiau hwy a hyrwyddo'r newid o geir petrol a diesel, ac mae hyn yn cefnogi ein huchelgais i sicrhau na fydd unrhyw allyriadau o bibellau mwg ein fflyd o dacsis a bysiau erbyn 2028.
Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i roi sicrwydd i Suzy Davies a Paul Davies ein bod, ym mhenderfyniad y Llywodraeth hon i godi lefelau yng Nghymru, yn datblygu prosiectau ledled y wlad, gan gynnwys lliniaru tagfeydd ar gyffordd 47 yr M4 a dau brosiect mawr ar yr A40. Er hynny, yn amlwg, pe bai Prif Weinidog y DU yn penderfynu rhoi'r gorau i'w syniad £15 biliwn o adeiladu pont rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid yn unig gallai wneud iawn am ladrad mawr y trenau gwerth £1 biliwn, gallai fod â digon o arian ar ôl hefyd i fuddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r A40.
Ddirprwy Lywydd, mae uchelgais y Llywodraeth hon i weld Cymru fwy ffyniannus, mwy gwyrdd a mwy cyfartal drwy gysylltedd trafnidiaeth gwell yn un y gobeithiaf y bydd pawb yn dyheu amdani yn y Siambr hon, ac fe all ac fe ddylai Llywodraeth y DU roi cyfran decach o gyllid i Gymru er mwyn i hynny allu digwydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cael crynhoi'r ddadl hon heddiw, ar bwnc sydd, gadewch inni wynebu'r peth, yn bwysig iawn i'r Siambr hon, i bobl Cymru. Roedd pobl yn arfer dweud bod y diweddar Arglwydd Wyn Roberts wedi adeiladu mwy o ffyrdd yng Nghymru na'r Rhufeiniaid, ac fe adeiladodd gryn dipyn ohonynt, mae'n wir, gan gynnwys, wrth gwrs, yr A470, prosiect seilwaith mawr, ac ni allwch ddychmygu Cymru heb y ffordd honno yn awr.
Nid ffyrdd yw'r ateb i'n problemau trafnidiaeth—i'n holl broblemau trafnidiaeth—ond maent yn rhan hanfodol bwysig o seilwaith trafnidiaeth cyffredinol y wlad hon. Ac wrth gwrs, hyd yn oed os ydych yn frwd eich cefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus—mae bysiau, wrth gwrs, yn allweddol i anghenion trafnidiaeth y wlad hon—mae bysiau angen ffyrdd i deithio arnynt, mae bysiau angen tarmac. Felly, mae hyd yn oed y bobl fwyaf brwd eu cefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus yn gorfod derbyn bod gan ffyrdd ran hanfodol i'w chwarae. Wrth gwrs, nid bysiau yn unig ydyw, mae'n cynnwys tramiau hefyd, neu hyd yn oed trolibysiau, fel yr arferai fod gennym. Gallaf weld Dave Rowlands yn gwenu wrth i mi grybwyll y trolibysiau a oedd gennym sawl blwyddyn yn ôl.
Felly, nid yw'n ymwneud â cheir yn unig, ond mae ceir yn parhau, fel y dywedodd Russ George yn gynharach, i fod yn fath pwysig o drafnidiaeth; a byddant yn parhau i fod yn bwysig yn y dyfodol, hyd yn oed os byddant yn geir trydanol. Rydym yn symud oddi wrth danwyddau ffosil, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu symud oddi wrth geir yn llwyr, o fath personol o drafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad yw gwasanaethau bysiau'n wych, wrth gwrs. Er gwaethaf yr holl sylwadau a wneir gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru am ymdrechion i wella trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, nid yw bysiau'n darparu gwasanaeth cyflawn fel yr hoffem ei weld.
Nawr, i droi at rai o'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl hon, ac fel y dywedodd Russ George wrth agor y ddadl, mae ein rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol. Fe sonioch chi hefyd am ffordd liniaru'r M4, Russ, a'r angen am ateb i'r problemau tagfeydd o amgylch Caerdydd. Fel y dywed ein cynnig, rydym yn ceisio datrys y rheini. Gwariwyd llawer iawn o arian ar yr ymchwiliad cyhoeddus, ond ni chafwyd unrhyw ateb i'r tagfeydd. Mae'n anodd gweld—. Fel y dywedais mewn ymateb i sylw Helen Mary Jones yn gynharach, er fy mod yn deall rhai o'r gwrthwynebiadau i darmacio cefn gwlad ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, nid yw'n bosibl ymdrin â phroblemau fel y rhai o gwmpas Casnewydd heb ryw fath o ateb seilwaith, ac mae ein cynnig yn mynd i'r afael â hynny.
Efallai y gallem gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am y comisiwn a sefydlwyd i edrych ar y problemau o gwmpas Casnewydd. Credaf y byddai hynny'n amserol. Gwyddom ei fod wedi bod yn gweithio ers cryn amser bellach, ac roedd camau gwahanol i'r comisiwn hwnnw.
Helen Mary Jones, roedd eich awgrym fod ein cynnig yn ceisio troi'r cloc yn ôl i'r 1980au yn un difyr. Wel, nid dyna'r bwriad yn sicr, Helen Mary, nid ydym ond yn dweud na allwch ddatrys yr holl broblemau hyn, yn sicr yn y tymor canolig, drwy geisio symud yr holl draffig ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid cael rhyw fath o gydbwysedd. Russ.
Roeddwn am ddweud, ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei ddweud ychydig o weithiau yn ystod y ddadl, ond nid yw ein cynnig yn dweud ein bod eisiau adeiladu mwy o ffyrdd, mae'n sôn am ddiweddaru'r seilwaith presennol sydd yno eisoes. Rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei egluro yn ein cynnig.
Pan fydd rhywun o'ch ochr chi eich hun yn ymyrryd, mae bob amser yn dda cytuno â hwy. Felly, rwy'n teimlo, Russ, eich bod wedi gwneud pwynt pwysig. Yn rhy aml heddiw, mae rhai Aelodau wedi dweud, 'Pam rydych chi'n sôn am ffyrdd?' Wel, mae'n rhaid siarad am ffyrdd; maent yn rhan hanfodol o'r cymysgedd cyffredinol, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn yma heddiw.
Fel y dywedodd Mohammad Asghar, mae'r M4 yn un o'r rhydwelïau hanfodol o amgylch Casnewydd; mae'n rhydweli hen ffasiwn sydd angen ei gwella. Ac fel y dywedodd Suzy Davies, mae'n ymddangos ein bod yn aros yn hir am y pethau hyn i gyd; ni allaf gofio'r union anecdot a ddefnyddioch chi, Suzy, ond roedd yn un cofiadwy iawn. Dave Rowlands, rydych chi, unwaith eto, wedi dweud y dylai Iwerddon, rwy'n credu, Gweriniaeth Iwerddon, gyfrannu tuag at wella ein rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru; mae'n eithaf eironig, mewn gwirionedd, o gofio ein bod wedi gadael Ewrop, ein bod yn disgwyl i wlad arall wneud hynny. Gwyddom fod cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU, a bod y cyllid hwnnw'n hollbwysig, a bod angen defnyddio'r cyllid hwnnw i wella ein rhwydwaith ffyrdd. Rwyf wedi anghofio rhif y llwybr Ewropeaidd roeddech yn sôn amdano, ond rwy'n credu bod yr M4 yn rhan o'r llwybr Ewropeaidd hwnnw, y llwybr traws-Ewropeaidd, fel yr A40 yn Sir Benfro, a grybwyllwyd gan Paul Davies—apêl dreuliedig am ddeuoli'r A40. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn yn rhan o'r pwyllgor SO25 a oedd yn edrych ar ffordd osgoi Robeston Wathen ac a ddylai honno gael ei deuoli neu a ddylai fod yn dair lôn; yn y diwedd, tair lôn ydoedd.
Ond i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r materion hyn yn rhai pwysig iawn ac rwy'n falch ein bod yn eu trafod yn y Siambr hon heddiw. Oes, mae angen gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Oes, mae angen i'r metro gael ei gyflawni. Oes, mae angen trydaneiddio, sy'n digwydd ar hyd rheilffordd y Great Western. Mae'r pethau hyn i gyd yn wir. Ond yn y pen draw, bydd angen buddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd hefyd, oherwydd yr unig reswm pam nad yw Cymru wedi dod i stop cyn hyn yw oherwydd ffyrdd fel yr A470 heddiw. Felly, gadewch i ni sicrhau, wrth symud ymlaen, fod pob agwedd ar y seilwaith trafnidiaeth yn cael eu hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, fe bleidleisiwn ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.