– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 4 Mawrth 2020.
Y ddadl nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Nid yw’r angen i Gymru sicrhau ei bod yn sefyll allan yn rhyngwladol, a datblygu a thyfu ei chysylltiadau rhyngwladol, erioed wedi bod mor fawr. Dyna pam fy mod yn falch iawn o agor dadl heddiw ar strategaeth ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch ein bod wedi cael datganiadau gan y Gweinidog, ar ôl i’r strategaeth ryngwladol gael ei chyhoeddi, ond credaf mai hwn yw'r cyfle cyntaf a gawsom i'w thrafod yn y Senedd ac i'r Aelodau, efallai, gael nodi eu gweledigaeth ar gyfer Cymru yn y byd.
Yn gyntaf, mae'n bwysig croesawu'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy byd-eang, a sut y mae Cymru’n symud ymlaen mewn marchnad fyd-eang sy'n tyfu'n barhaus—mae hynny’n hanfodol i gyflawni uchelgais i hybu economi Cymru. Mae ein hadroddiad yn benllanw ar bron i flwyddyn o waith yn edrych ar ymagwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit. Ac rydym yn diolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith. A hoffwn gofnodi fy niolch eto i’r tîm, a'r staff clercio, a'r staff ymchwil, ar y pwyllgor, a wnaeth waith aruthrol i'n helpu i gynhyrchu'r adroddiad hwnnw.
Nawr, yn ein hadroddiad, rydym yn gwneud cyfanswm o 10 argymhelliad, ac mae pob un ohonynt yn mynd i'r afael â meysydd penodol sy'n ymwneud â'r hyn a oedd, pan gyhoeddwyd yr adroddiad, yn strategaeth ryngwladol ddrafft. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes cyffredinol: blaenoriaethau a chyflawniad y strategaeth; cydgysylltu gweithgareddau rhyngwladol ar draws y Llywodraeth; a'r berthynas rhwng y cysylltiadau blaenoriaethol a'r swyddfeydd tramor ar ôl Brexit.
Ar gyfer y cyntaf o'r meysydd hyn, rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cytuno â ni ynghylch yr angen i gynnwys datganiad cryfach o’r weledigaeth yn y strategaeth derfynol. Yn ychwanegol at hynny, dylai'r blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth roi sylfaen i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar gyfer mwy o gydweithredu ac ymgysylltu ar y llwyfan rhyngwladol. Yn ein barn ni, mae'r strategaeth yn ddiffygiol o ran cyflawni. Mae'n rhwystredig mai tri tharged mesuradwy yn unig sydd yn y strategaeth. I atgoffa'r Aelodau beth yw'r targedau hyn: (1) codi proffil Cymru yn rhyngwladol drwy sicrhau 500,000 o gysylltiadau rhyngwladol dros y pum mlynedd nesaf—mae’n ddiddorol sut y byddwn yn mesur hynny a sut rydych yn nodi rhai o'r cysylltiadau hyn; (2) tyfu'r cyfraniad a wneir gan allforion i'r economi 5 y cant, er nad ydym yn siŵr at ba gyfnod o amser y mae hynny’n cyfeirio; a (3) plannu 15 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025.
Nawr, mae'r targedau hyn ynddynt eu hunain yn rhesymol ac o fewn cyd-destun y strategaeth. Fodd bynnag, mae gennym bryderon ehangach am y nifer cyfyngedig o dargedau, a'r goblygiadau y gallai hyn eu cael ar gyflawni'r strategaeth. Er ein bod yn deall y ddadl efallai nad y ddogfen strategaeth yw'r lle mwyaf priodol ar gyfer cynnwys cyfres o dargedau, rydym yn sicr y dylai'r strategaeth gael ei chefnogi gan gynllun cyflawni y gallwn ni, fel pwyllgor, graffu arno. Mae'n siomedig iawn, felly, ei bod yn ymddangos bod ein galwadau'n disgyn ar glustiau byddar yn hyn o beth.
Ac ar ben hynny, mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’n hadroddiad yn honni ei fod yn derbyn argymhellion 5 a 6, sy’n galw am gyhoeddi cyfres fanwl o dargedau mesuradwy a chynlluniau cyflawni, ac yna’n nodi yn naratif y strategaeth nad y bwriad yw cyhoeddi cynlluniau manwl pellach yn ychwanegol at y rheini a geir yn y strategaeth. Mae hawl gan y Llywodraeth i arddel y farn hon wrth gwrs, er mor siomedig ydyw, ond mae ceisio honni ei bod, wrth wneud hynny, yn derbyn ein hargymhellion, yn codi cwestiynau ynglŷn â pha mor gredadwy yw rhai o'r datganiadau.
Mae'r ail faes diddordeb yn ymwneud â chydgysylltu gweithgareddau Llywodraeth Cymru a sut y maent yn berthnasol i'r strategaeth newydd. O’r blaen yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu creu swydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol. A dylai penodiad o'r fath helpu i gynyddu gwelededd materion sy’n ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol ar draws y Llywodraeth—tasg sy’n bwysicach fyth wrth inni greu dyfodol newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Yn yr adroddiad hwn ac yn ein hadroddiad blaenorol ar berthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol, gwnaethom dynnu sylw at bwysigrwydd cydgysylltu effeithiol â phortffolios allweddol eraill, yn enwedig portffolios yr economi, yr amgylchedd ac addysg. I'r perwyl hwnnw, gwnaethom ailadrodd ein barn y dylai'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol sefydlu mecanwaith ffurfiol ar gyfer cydgysylltu gwaith Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhyngwladol drwy greu is-bwyllgor Cabinet. Mae ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hyn yn siomedig. Er gwaethaf y pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth yr angen am fecanwaith ffurfiol ar gyfer cydgysylltu, fel y nodwyd mewn dau adroddiad pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi penderfynu peidio â rhoi unrhyw un ohonynt ar waith mewn unrhyw fodd ystyrlon, a buaswn yn ei hannog i ailystyried hynny.
Mae'r maes olaf yn ymwneud â'r cysylltiadau blaenoriaethol a nodwyd yn y strategaeth a dyfodol swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru. Nawr, rydym yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn y strategaeth derfynol i adeiladu ein cysylltiadau rhyngwladol â nifer o wledydd a rhanbarthau a chenhedloedd is-wladwriaethol ledled y byd. Dylid rhoi pwysigrwydd newydd i’r gwaith hwn yng ngoleuni ymadawiad y DU â'r UE a'r berthynas newydd a ddaw i rym ar ddiwedd y flwyddyn hon, beth bynnag y bo, gan ein bod yn ansicr ar hyn o bryd. Bydd y ffordd y mae'r cysylltiadau blaenoriaethol yn cyd-blethu â gwaith y swyddfeydd tramor yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol. Rwy'n croesawu'r adolygiad y mae’r Gweinidog yn ei amlinellu yn ei hymateb. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â chynnwys yr adolygiad hwn a'r amserlenni ar gyfer ei gwblhau.
O ran y ddwy berthynas flaenoriaethol â gwledydd eraill, sef Iwerddon a'r Almaen, mae'r strategaeth yn nodi’n briodol y cysylltiadau economaidd a chymdeithasol agos sy'n bodoli ar hyn o bryd. Yn ychwanegol at hynny, mae'r strategaeth yn tynnu sylw at y ffaith mai gwladolion o'r Almaen ac Iwerddon yw dwy o'n cymunedau rhyngwladol mwyaf. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn achub ar y cyfle hwn, a phob cyfle, i ailadrodd ein neges o gefnogaeth i'r cymunedau hyn a chymunedau eraill sy'n byw yng Nghymru o bob rhan o'r UE. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog a'r Aelodau eraill yn ategu fy nghefnogaeth iddynt.
Yn y dyfodol, byddai'n ddefnyddiol i ni pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran y trafodaethau ynghylch unrhyw berthynas benodol rhwng Iwerddon a'r DU yn y dyfodol a'r negodiadau ynghylch parhau i gyfranogi yn rhaglenni'r UE ar ddiwedd y cyfnod pontio. Mae pryder o hyd y gallai’r rhain gael eu colli os na ellir dod i gytundeb ar y berthynas yn y dyfodol a chytundeb masnach rydd, ac maent yn rhoi hwb i statws rhyngwladol Cymru. Yn bersonol, credaf na ddylent byth fod wedi bod yn gysylltiedig â chytundeb masnach. Maent ar wahân, maent yn rhaglenni sy'n ein helpu i ddatblygu ein gwlad ac ni ddylent fod wedi bod yn rhan o'r safbwynt negodi.
Fel pwyllgor, rydym wedi nodi'r gwerth ychwanegol i feysydd cyfrifoldeb datganoledig, megis addysg, ymchwil a datblygu economaidd, a gafwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn llu o raglenni'r UE. Rwy’n falch fod y datganiad gwleidyddol a’r mandadau negodi yn dal i adael y drws ar agor ar gyfer negodi setliad yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, credaf y bydd angen lobïo parhaus ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y negodiadau rhwng y DU a'r UE. Y prynhawn yma'n unig, yn y cwestiwn i'r Gweinidog pontio Ewropeaidd newydd, y clywsom am y pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r ffaith nad ydym wedi gweld y llais hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y mandadau eto.
Nawr, wrth inni fwrw ymlaen â chytundebau masnach a thrafodaethau ynglŷn â sut y bydd cysylltiadau â'r UE a chenhedloedd eraill yn y dyfodol yn datblygu, mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn i gryfhau llais Cymru, yn ystod y negodiadau ac wedi hynny, pan fydd y cysylltiadau wedi'u sefydlu, a gwn fod y Llywodraeth yn rhannu'r safbwyntiau hynny.
Lywydd dros dro, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad. Rwy'n gobeithio y byddant yn ei gefnogi, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau ac ymateb y Gweinidog y prynhawn yma.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon. Credaf ei fod yn bwnc pwysig ac rwy'n canmol y Llywodraeth am ddatblygu strategaeth ryngwladol, o leiaf. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser, ond credaf y dylai fod yn rhan greiddiol iawn o weithgareddau Llywodraeth Cymru, a dylem dreulio amser yn myfyrio arni ac yn awgrymu mannau lle gellir ei gwella.
Hoffwn sôn am ychydig o bethau y credaf fod angen gweithio arnynt a'u pwysleisio, ac mae’r Cymry alltud ledled y byd yn rhywbeth rwy'n falch o'i weld yn cael ei gydnabod yn y strategaeth ryngwladol. Rwy'n credu ei bod yn hen bryd i hynny ddigwydd. Oddeutu 10 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn aelod o’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, rwy'n cofio inni gyfarfod yn Glasgow ac roedd yr Albanwyr yn gwneud llawer o gynnydd yn eu hymgyrch 'Alban dramor' ac yn defnyddio eu rhwydwaith o ffrindiau a'r holl bobl a chanddynt ryw fath o linach Albanaidd ledled y byd. Ac wrth gwrs, cawsant eu hysbrydoli gan yr hyn y mae Iwerddon wedi'i wneud yn naturiol mewn gwirionedd, am wn i, yn y ganrif a hanner ddiwethaf—nid rhywbeth y gellid ei ailadrodd, o reidrwydd. Ond ni ddylai hynny ein hatal rhag datblygu ymagwedd o'r fath chwaith, a chredaf eu bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant ar hynny yn yr Alban. A dylem wneud yr un peth. Mae cryn dipyn o ewyllys da i’w gael; mae llawer o bobl a chanddynt gysylltiadau â Chymru, yn ogystal â phobl a anwyd yng Nghymru ac sydd wedi cael gyrfaoedd hynod lwyddiannus ledled y byd. Ac rwy'n credu eu bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl, a chredaf fod hynny'n bwysig tu hwnt.
Rwy'n meddwl hefyd mai’r hyn sy’n allweddol i'r hyn y dymunwn ei wneud, ac mae'n gysylltiedig â'r pwynt cyntaf hwn, yw hyrwyddo dealltwriaeth gyhoeddus a rhyngwladol o hanes a diwylliant Cymru. Mae gennym hanes a diwylliant gwych. Mae'n un o gerrig sylfaen diwylliant Ewropeaidd, yn enwedig yr iaith, ac mae'n ffynnu hyd heddiw. Cofiaf ymweld ag arddangosfa’r Amgueddfa Brydeinig ar y gwareiddiad Celtaidd, ac roedd yn ymddangos i mi ei fod wedi dod i ben 200 neu 300 mlynedd yn rhy gynnar, gan fod y gwareiddiad Celtaidd yn dal i ffynnu: rydym yn ei weld yn yr eisteddfod; rydym yn ei weld yn ein polisi ysgolion i annog addysg cyfrwng Cymraeg; rydym yn ei weld yn y nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg ac rydym yn ei weld yn y Mabinogi—cafwyd cyfieithiad godidog arall eto i’r Saesneg yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, mae gennym lawer iawn o bethau. Felly, os ydym yn edrych ar yr Alban ac Iwerddon, nid ydym yn brin o’r math o gynnig y gallwn ei wneud.
A buaswn yn dweud yma hefyd: rwy'n credu bod yn rhaid inni atgoffa pobl y byd mai ein hamgylchedd adeiledig, sy'n ymestyn yn ôl i gestyll oes Edward, er gwell neu er gwaeth, yw’r enghraifft orau o dechnoleg filwrol y drydedd ganrif ar ddeg. Ac rwy'n credu ei bod yr un mor arwyddocaol ar y pryd â dyfeisio'r llong awyrennau neu'r awyren fomio gudd ac ati. Roedd y ceyrydd hyn yn ddatblygiad gwirioneddol syfrdanol, gan y gallent ddominyddu'r ardal o'u cwmpas gydag oddeutu 40 o bobl yn unig yn eu gwarchod. Gwyddom bellach pa effaith a gafodd hynny ar ein datblygiad gwleidyddol a'n hopsiynau, ond mae’n ymwneud â’r etifeddiaeth rydym wedi'i chael, ac mae'n enghraifft bwysig o'r hyn sydd wedi digwydd a phrofiad dynolryw a'i datblygiad, a ddigwyddodd yn y cestyll milwrol hynny yma. Ac nid oes enghraifft well o hynny yn unman arall—nid oes unman yn y byd cystal â ni.
Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn: ceir ffigyrau gwych yn hanes Cymru sy'n aml yn cael eu gwerthfawrogi fwy dramor nag yma. Ac yn hyn o beth, mae'n bleser gennyf sôn am Evan Roberts, efengylydd y diwygiad mawr ym 1904. Ac a gaf fi ganmol fy nghyd-Aelod Darren Millar, sydd wedi gwneud cymaint gyda Sefydliad Evan Roberts i atgoffa pobl Cymru o'r cyfraniad gwych hwn i syniadaeth Gristnogol? Ac mae'n aml yn fwy adnabyddus yng Ngogledd America neu mewn sawl rhan o Asia: Korea, Singapôr—y lleoedd hyn. Ac rwy'n arbennig o falch fod argraffiad newydd o eiriau Evan Roberts, wedi'i ddiweddaru a'i gasglu, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gan ein cyd-Aelod Darren yma, ac maent yn llawn o ddiarhebion anhygoel a chrebwyll gwych a duwioldeb Cristnogol, ac rwyf am ddarllen un ohonynt:
'Nid bedd yw byd y Cristion, ond gardd, er fod ynddi chwyn lawer.'
A chredaf fod Evan Roberts, a llawer o rai eraill, yn ffigyrau gwych yn hanes Cymru sy'n dal i fod â chenhadaeth ledled y byd, a dylem ei defnyddio i hyrwyddo ein strategaeth ryngwladol.
Rwy'n falch iawn i gymryd rhan yn y drafodaeth yma. Gaf i longyfarch y Cadeirydd yn y lle cyntaf ar ei araith agoriadol, yn fendigedig yn cyfleu beth sydd angen ei ddweud ynglŷn â'r adroddiad yma ac ymateb y Llywodraeth? Yn naturiol, rydyn ni i gyd yn cydnabod bod yna waith da yn mynd ymlaen, ac hefyd rydyn ni'n deall nad oes llond trol o arian ar gael i'r Gweinidog. Yn yr amser byr sydd ar gael, roeddwn i jest yn mynd i fynegi rhai syniadau—rhai dwi wedi crybwyll eisoes efo'r Gweinidog—ynglŷn â sut y gallwn ni gamu ymlaen. Dwi'n credu bod yn rhaid gweithio i greu mwy o gysylltiadau naturiol efo gwledydd fuasai'n gallu cael cysylltiad naturiol efo Cymru, megis—fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato eisoes—y gwledydd eraill gyda ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd nad ydynt yn brif iaith llefydd. Ie, dwi'n deall Gwlad y Basg, yn naturiol, Catalunya, Llydaw, Occitan, Alsace. Pan ydych chi'n mynd i'r Ffindir, mae Karelia a Sámi hefyd. Pan ŷch chi'n mynd i'r Almaen, mae Sorbian a Frisian. Mae lot o ieithoedd lleiafrifol eraill nad ydynt yn y brif ffrwd, a dwi'n credu buasai'r bobl yma jest yn adeiladu ar y cysylltiad.
Mae yna gysylltiad naturiol efo gwledydd eraill sydd yn wledydd bychain dros y byd: Slofenia, Cyprus, Melita, a 62 o wledydd annibynnol dros y byd sydd yn llai o faint na Chymru. Dwi'n credu y buasai yna atyniad naturiol wrth adeiladu pontydd yn fanna hefyd. A hefyd, cysylltiadau eraill efo gwledydd Celtaidd eraill, yn naturiol: Iwerddon, Alban, Cernyw, ac ati. Ond hefyd, Llydaw, Galicia, Asturias; gwledydd Celtaidd eraill hefyd.
Hefyd cysylltiadau y gallem ni adeiladu arnyn nhw, achos mae yna ffordd naturiol i gysylltu efo nhw, ydy gwledydd eraill sy'n chwarae rygbi. Rydyn ni wedi clywed y drafodaeth eisoes. Seland Newydd: maen nhw'n gwybod am Gymru achos y gêm rygbi. Awstralia, Ffrainc, De Affrica, ac ati. Mae yna ffordd i adeiladu cysylltiadau naturiol, achos beth sydd gyda ni yn gyffredin. Ac hefyd, mae yna wledydd lle mae llawer iawn o Gymry dros y blynyddoedd wedi symud i fyw yn y ddwy ganrif ddiwethaf, fel Awstralia, wrth gwrs, yn naturiol; Patagonia yn yr Ariannin, ac ati. Mae yno filoedd ar filoedd o bobl o dras Gymreig yn byw ym Mhatagonia heddiw ac yn siarad y Gymraeg ym Mhatagonia heddiw, ac wrth gwrs, Unol Daleithiau America. Mae yna 1.8 miliwn o drigolion Unol Daleithiau America sydd o dras Gymreig. Yn nhalaith Wisconsin, mae yna bron i 30,000 o bobl o dras Gymreig. Yn nhalaith Efrog Newydd, mae yna 74,000 o bobl o dras Gymreig. Yn nhalaith Ohio, mae yna 117,000 o bobl o dras Gymreig, ac yn Pennsylvania, mae yna 155,000 o bobl o dras Gymreig. Felly, mae yna gysylltiadau naturiol yn fanna, yn ogystal â'r categori olaf: gwledydd sydd efo cysylltiadau crefyddol naturiol efo Cymru, fel mae David Melding newydd ei fynegi—Madagascar, er enghraifft, cenhadon o Gymru yn fanna; a Mizoram yn ne-ddwyrain India: cysylltiad naturiol Cristnogol yn fanna, yn seiliedig ar ein hanes crefyddol ni. Felly cysylltiadau naturiol.
A'r ail beth ydy adeiladu ar y tueddiad sydd wedi bod ers degawdau rŵan i'n trefi a'n pentrefi a'n dinasoedd i fod yn gefeillio efo dinasoedd a threfi eraill rownd y byd, fel dwi wedi crybwyll o'r blaen i chi, Weinidog. Rŷch chi'n gwybod bod Abertawe wedi gefeillio efo Mannheim, a Cork, ac ati; Caerdydd wedi ei gefeillio efo Stuttgart. Mae hyd yn oed Mwmbwls wedi gefeillio efo Hennebont yn Llydaw a Havre de Grace yn Unol Daleithiau America, yn ogystal â Kinsale, Iwerddon. Dwi'n siŵr bod yna fodd i adeiladau ar y cysylltiadau anffurfiol yma o efeillio sydd wedi digwydd ers degawdau, ac fel dwi wedi crybwyll o'r blaen, efallai dechrau gefeillio o'r newydd, fel efo talaith Oklahoma, fel dwi wedi crybwyll o'r blaen. Oklahoma City, maen nhw eisiau gefeillio efo Caerdydd. Tulsa, yr ail ddinas, eisiau gefeillio efo Abertawe. Ac mi allen ni gael y cysylltidau is-wladwriaethol yna efo y gwahanol daleithiau yna, yn enwedig taleithiau America y gwnes i eu rhestru: Wisconsin, Efrog Newydd, Ohio, Pennsylvania, sydd efo cefndir cryf Cymreig. Mi allai yna ryw fath o efeillio naturiol ddigwydd efo'r taleithiau yna.
A ddim jest stopio yn fanna: gan ein bod ni yn is-wladwriaeth, felly, mae yna is-wladwriaethau eraill dros y lle i gyd sydd efo cysylltiad naturiol, megis Bavaria, Baden-Württemberg, Hessen, Saxony, ac ati, Friesland, ac ati. Mae yna ddigon o bosibiliadau yn fan hyn, o gofio'ch daearyddiaeth. Diolch yn fawr.
Roeddwn wedi bwriadu siarad ac roedd am fod yn araith eithaf sych, ond rwyf wedi fy ysbrydoli gan rai o'r Aelodau eraill bellach. Trof at y darn sych yn y man, ond os ydym am rannu profiadau ynglŷn â sut y gallwn estyn allan at ein cymuned fyd-eang, a gaf fi awgrymu ein bod yn meddwl am bobl fel Richard Price o Fferm Ty'n-Ton yn Llangeinwyr, a'i syniadau a'i athroniaeth egalitaraidd, a gredai y dylai pob unigolyn gael pleidlais, ac y dylai pawb gael y bleidlais honno a bod pob dyn a menyw'n gyfartal, ac roedd hynny'n ategu ei gefnogaeth i sefydlwyr America ac i'r chwyldro Americanaidd ei hun, a bod y 13 o drefedigaethau yn cael eu rheoli'n anghyfiawn. Felly, cafodd ei anrhydeddu a thalwyd teyrnged iddo am ategu hanfodion cyfansoddiad America ac athroniaethau sefydlwyr America, ond fe wnaeth eu hymestyn hefyd.
Ystyrid ef yn godwr twrw yn ôl adref. Credaf fod hynny'n draddodiad clodwiw: cael eich ystyried yn godwr twrw yn eich ardal eich hun a chael eich canmol dramor. Cafodd glod hefyd am ymestyn yr un egwyddorion hynny i gefnogi'r chwyldro Ffrengig hefyd. Felly gallwch ddychmygu pam fod y sefydliad yn ei ystyried yn godwr twrw rhonc. Ond mewn gwirionedd, byddai ei ymagwedd academaidd tuag at syniadau economaidd hefyd, yn fy marn i, yn ennyn cefnogaeth ar y meinciau gyferbyn, oherwydd y syniad rydym yn sôn amdano'n eithaf rheolaidd bellach, sef mantoli'r gyllideb gyhoeddus a chynnal y cydbwysedd cywir rhwng dyled gyhoeddus a'r economi ehangach, ef oedd y cyntaf i gyflwyno'r syniadau hynny a'u rhoi ar bapur. Felly, cafodd glod am hynny.
Felly mae ei gyrhaeddiad yn America, Weinidog, yn helaeth. Gŵyr pob un am Richard Price yn America, ond pan fyddaf yn crwydro'r cwm lle rwy'n byw ac yn dweud, 'O, dacw fferm Fferm Ty'n-Ton. Dyna lle roedd Richard Price yn byw, un o feibion niferus y byd amaeth, a gerddodd i Lundain i fod yn bregethwr Undodaidd, yn anghydffurfiwr radicalaidd, o'r fan yna roedd yn dod.' 'Pwy yw Richard Price?' Wel, dyna'r math o beth y mae gwir angen inni ei ddefnyddio er mantais i ni. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn wir.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio i un o gefnogwyr Burke—gelyn mawr Dr Price, wrth gwrs. [Chwerthin.] Cofiaf Brian Groom yn ysgrifennu darn ar y 10 Cymro uchaf yn y Financial Times, ac ysgrifennais at yr FT, gan ddweud, 'Ble mae Dr Richard Price, dyfeisiwr y cynllun actiwaraidd, yr un a gynghorai Alexander Hamilton sut i gynnal dyled genedlaethol? Nid yw ar y rhestr.' Ac er tegwch i'r FT, fe wnaethant gyhoeddi'r llythyr. [Chwerthin.]
Llongyfarchiadau i'r dyn hwnnw. Ond credaf y byddai'r gynulleidfa a fyddai gennym, yn rhyfedd iawn, ar yr ochr draw i fôr Iwerydd yn llwyr gydnabod ei gyfraniad. Felly, mae asedau gwirioneddol yma y gallwn eu defnyddio, a Weinidog, os nad ydych wedi'i weld, rwy'n fwy na pharod i ddangos i chi, yn fy etholaeth i, y man lle cafodd ei eni a gweld sut y gallwn ddefnyddio hanes o'r fath.
Ond gan symud ymlaen o hynny, yn y funud a hanner sydd gennyf ar ôl, yr hyn roeddwn am ei ddweud oedd ei bod yn wych gweld bod y Llywodraeth wedi ymateb i adroddiad y pwyllgor, a gafodd ei gadeirio'n dda iawn, a'r dystiolaeth a gawsom drwy dderbyn y cyfan ohono. Mae'n rhaid imi ddweud bod rhywfaint o'r adborth a gefais gan y gymuned fusnes hefyd wedi bod yn galonogol iawn, o ran y ffocws y mae'r strategaeth ryngwladol hon bellach yn ei roi ar Gymru fel brand, fel endid, a'r hyn y gallwn ei wneud a rhai agweddau ohoni, a'r teimlad gobeithiol yn ei chylch. Ond—ac mae'n rhaid cael 'ond'—un o'r pethau wrth dderbyn yr holl argymhellion yma, ac roedd hon yn thema yn y pwyllgor a fu'n edrych ar y mater, yw ein bod yn awyddus i weld mwy o fanylion. Rydym am weld y gronynnau. Ceir pethau lefel uchel yma y byddem yn eu cymeradwyo, ond ceir rhai sectorau nad ydynt yn cael eu crybwyll, ond sydd, fel y dengys yr adroddiad, yn cael eu crybwyll yn y strategaeth ffyniant economaidd ac ati, ond mae angen inni weld rhywfaint o dystiolaeth o'r hyn sy'n sail iddi. Oherwydd os nad yw'r cyfan yn mynd i fod yn y strategaeth, mae angen inni weld sut rydym yn mesur llwyddiant.
Y tu hwnt i'r tri maes y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt, ym maes ehangach datblygu effaith Cymru yn rhyngwladol, sut rydym yn mesur llwyddiant? Fel arall, bydd y Gweinidog yn sefyll o'n blaenau yn y Llywodraeth Lafur nesaf ymhen pedair neu bum mlynedd ac yn dweud wrthym, 'Wel, rwyf wedi gwneud yr holl bethau hynny', a byddwn yn dweud, 'Am funud bach, ni ddywedoch wrthym beth roeddem yn ei fesur.' Felly dyna sydd ei angen arnom. Dyna fyddai'r brif feirniadaeth: er ein bod yn croesawu'r ffaith eich bod yn derbyn popeth a ddywedasom yn yr adroddiad hwn, ein cwyn fawr oedd fod angen rhagor o fanylion arnom. Nawr, efallai fod hon yn ddogfen fyw, efallai fod llu o gynlluniau gan wahanol adrannau yn sail iddi, ac os felly, mae angen gwneud y cysylltiadau hynny'n glir fel y gallwn fesur llwyddiant y Llywodraeth hon. Ond ceir ymdeimlad o optimistiaeth yn ei chylch, mae'n rhaid i mi ddweud. Dyna rwy'n ei synhwyro gan bobl y siaradaf â hwy y tu allan, felly daliwch ati i yrru hynny yn ei flaen, Weinidog, ond rhowch y manylion i ni hefyd.
Roeddwn yn disgwyl ychydig mwy o drafferth na hynny, mewn gwirionedd. Darren Millar.
Diolch, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith, sy'n waith rhagorol yn fy marn i? Wrth gwrs, rydym wedi gweld y strategaeth ryngwladol bellach ac mae llawer o'r argymhellion yn cael eu trafod yn y ddogfen newydd honno. Ac a gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am y gwaith y mae wedi'i wneud hyd yma ar wella ei hymgysylltiad â'r gymuned ryngwladol, yma yng Nghymru a thramor? Credaf fod yr ymgysylltiad hwnnw wedi gwella’n sylweddol, a chredaf ei bod ond yn deg fod gennym bresenoldeb ar lwyfan rhyngwladol. Dylwn sôn hefyd, wrth gwrs, am waith y grŵp trawsbleidiol a gadeirir gan Rhun ap Iorwerth yn hyn o beth. Credaf fod hwnnw hefyd wedi bod yn gyfrwng rhagorol ar gyfer sicrhau ein bod yn trafod y materion hyn mewn perthynas â'r agenda ryngwladol a'r rhagolygon y mae pob un ohonom yn dymuno’u cael, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Siambr hon yn y dyfodol.
Mae rhai meysydd, wrth gwrs, lle credaf fod angen gwneud rhywfaint o waith ychwanegol, ac mae'n drueni na chyfeiriwyd at y rhain bob amser yn y strategaeth ryngwladol hyd yma. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw'r cyfraniad aruthrol y gall ein cymunedau ffydd ei wneud i'n helpu gyda'r ymgysylltiad rhyngwladol hwnnw. Rydym eisoes wedi clywed gan ddau siaradwr heddiw am enw da llawer o arweinwyr Cristnogol Cymru yn y gorffennol, yn enwedig ein harweinwyr anghydffurfiol, a’r ffaith bod eu henwau’n aml yn cael eu hadrodd dramor ond yn llai adnabyddus yma. Ac wrth gwrs, gwyddom fod hanes Cymru wedi arwain at gysylltiadau aruthrol sydd gennym o hyd mewn llawer o'r gwahanol rannau hyn o'r byd, drwy gysylltiadau eglwysi unigol, gyda phrosiectau dramor mewn lleoedd fel Affrica, Asia ac America Ladin.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gan y gymuned Fwslimaidd gysylltiadau cryf yn y dwyrain canol ac yn y dwyrain pell yn enwedig. A chredaf fod angen inni arfer y cyfleoedd hynny ychydig yn fwy, ac roedd yn siom i mi’n bersonol—ac i gymunedau ffydd yn fwy cyffredinol, rwy’n credu—na chyfeiriwyd at y rhain yn amlach yn y strategaeth ryngwladol pan gafodd ei chyhoeddi. Gwn ichi ymgysylltu â'r cymunedau ffydd hynny wrth ddatblygu’r strategaeth, a chredaf ei bod ychydig yn siomedig na roddwyd mwy o bwyslais arnynt.
Cafwyd cyfeiriadau, wrth gwrs, at chwaraeon fel ffordd o ymgysylltu â chymunedau dramor, a bu’n wych cael y cyfle ardderchog i ymgysylltu â Japan drwy Gwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar, ac y bydd y cysylltiadau hynny'n parhau i gael eu meithrin drwy ymweliad gan lysgennad Japan â Chaerdydd cyn bo hir. Credaf ei bod yn dda ein bod yn edrych ar dimau chwaraeon Cymru wrth iddynt fynd dramor er mwyn estyn allan i ymgysylltu â'r gymuned ryngwladol. Ond mae angen inni hefyd wahodd llygaid y byd i edrych ar Gymru drwy ein chwaraeon, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddenu digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr a phwysig i'n gwlad yn y dyfodol. Gwn ein bod, yn hanesyddol, wedi gweithio'n galed iawn gyda gwledydd Celtaidd eraill i gyflwyno cais ar y cyd am gwpan Ewropeaidd. Felly, gadewch inni estyn am y sêr unwaith eto a dechrau tynnu’r mathau hynny o gynigion at ei gilydd yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod y sylw’n cael ei hoelio ar Gymru, a’n bod yn cael cyfle i ddenu ymwelwyr rhyngwladol na fyddent, a bod yn onest, yn manteisio ar y cyfle i ddod i ymweld â ni fel arall.
Y pwynt olaf y buaswn yn ei wneud yw bod angen y dull tîm Cymru hwn arnom i adeiladu ein henw da dramor. Roeddwn yn falch o weld bod hyn yn rhywbeth a gydnabuwyd yn y strategaeth ryngwladol, ac yn wir, mae'n wych ein bod wedi cael ymweliadau gan Aelodau'r Cynulliad â Seneddau yng Nghanada a mannau eraill dros y misoedd diwethaf, a gwn fod y Llywydd, er enghraifft, yn cynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mrwsel yr wythnos hon, yn ogystal â’r Prif Weinidog. A chredaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom, ni waeth beth fo'n plaid wleidyddol, i wneud yr hyn a allwn i weithredu fel llysgenhadon dros ein cenedl, ni waeth i ble yn y byd yr awn, pa bryd bynnag y teithiwn, a'n bod yn ymgysylltu, yn enwedig yn y byd gwleidyddol. Byddai'n wych clywed gan y Gweinidog, mewn ymateb i'r ddadl hon, a yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth wedi meddwl mwy amdano o ran sut y gallai helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd.
Ond a gaf fi ganmol yr adroddiad, cymeradwyo ymateb cadarnhaol y Gweinidog, a dweud ein bod yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar y meinciau hyn, fel yr wrthblaid, i hyrwyddo Cymru gartref a thramor?
Mi hoffwn i wneud ychydig o sylwadau yn gwisgo sawl het wahanol. Rydw i'n meddwl, yn gyntaf, rydw i'n rhyngwladolwr. Hynny ydy, rydw i'n gweld Cymru a'i lle yn y byd ac yn credu'n gryf mewn ymestyn ein rhwydwaith ni fel gwlad i bedwar ban byd, er mwyn y budd mae hynny'n dod i ni fel gwlad ond hefyd y lles sy'n dod o weld gwledydd yn gweithio'n agos efo'i gilydd wastad.
Rydw i hefyd yn siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion rhyngwladol. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod gennym ni grŵp o'r math yna ac mae'n dda cael cefnogaeth o ar draws y pleidiau i'r grŵp hwnnw. Rydym ni'n trafod bob mathau o feysydd gwahanol o ran y math o ymgysylltu rhyngwladol mae Cymru yn ei wneud. Ac yn digwydd bod, mae'r cyfarfod nesaf rydym ni'n ei gynnal, ar 25 Mawrth, os ydw i'n cofio'n iawn, yn ymwneud â'r strategaeth ryngwladol yma, lle mae'r Gweinidog yn mynd i fod efo ni a chyfle i edrych yn ddyfnach eto ar y strategaeth.
Rydw i'n siarad fel cadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghymru—rhwydwaith ddefnyddiol iawn eto i ni fel Senedd i ymestyn allan at Seneddau eraill mewn rhannau eraill o'r byd, nid yn unig er mwyn dysgu oddi wrth ein gilydd o ran ymarferion democrataidd, sydd yn bwysig iawn, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn gwneud y mathau yna o gysylltiadau sy'n dod yn sgil hynny, sy'n gallu dod â budd diwylliannol ac economaidd i ni fel gwlad.
Rydw i hefyd, am wn i, yn siarad fel aelod o dîm rygbi'r Cynulliad Cenedlaethol, sydd, wrth gwrs, yn elfen arall o'r gwaith ymgysylltu rydym ni'n ei wneud fel Senedd. Ac, ydy, mae o'n dod â gwên i'r wyneb, ond mae o'n ddifrifol, wrth gwrs, achos wrth chwarae fel Senedd yn erbyn yr Assemblée Nationale o Ffrainc—a'u curo nhw, gyda llaw, rhyw bythefnos yn ôl—eto, rydym ni'n ymestyn allan, onid ydym, at ein partneriaid mewn gwledydd eraill? Ac rydw i yn edrych ymlaen at chwarae a churo Senedd Prydain a Senedd yr Alban yn yr wythnosau nesaf hefyd.
Ond o ddifrif, i fi, beth sy'n bwysig ar y cyfnod yma o ddatblygu strategaeth ryngwladol gan Lywodraeth Cymru ydy ei fod o'n digwydd. Mi allwn ni siarad am y gwendidau, dwi'n credu, sydd ynddo fo. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll gan Aelodau eraill yn barod. Dwi'n meddwl bod yr argymhellion, o bosib, ychydig bach yn gyfyng yn eu sgôp. Rydym ni wedi clywed pryderon, o bosib, fod yna dargedau yma sy'n anodd eu cyrraedd. Ond dim ond dechrau'r gwaith ydy hyn, a dwi'n cydnabod hynny. Beth dwi'n gobeithio ei weld ydy y bydd y strategaeth yn dod yn rhywbeth deinamig ac yn rhywbeth sydd yn cyffwrdd â holl waith y Llywodraeth mewn blynyddoedd i ddod.
Fel rydym ni wedi clywed yn barod gan gymaint o gyfranwyr â chyfraniadau difyr iawn, iawn, iawn ynglŷn â chysylltiadau Cymreig ymhob rhan o'r byd, mae Cymru yn wlad sydd yn rhyngwladol, ac wedi estyn allan ac wedi gadael ei marc mewn cymaint o lefydd ar hyd a lled y byd, mewn amgylchiadau anodd. Dwi'n meddwl mai'r diweddaraf i ni fod yn ei drafod ydy'r ysbyty yn Wuhan yn Tsieina—wrth gwrs, un o ysbytai mwyaf Tsieina oedd yng nghanol y pryderon am coronafeirws yn gynharach eleni ac yn parhau felly, ac ysbyty wedi cael ei sefydlu gan Gymro—Griffith John o Abertawe.
Ond beth sydd gennym ni yn y rhwydwaith yma sydd wedi ymestyn i bob cwr o'r byd ydy'r potensial i dyfu'r cysylltiadau hynny, i fanteisio ar y cysylltiadau hynny. A phan mae rhywun yn edrych ar y gwaith rhagorol mae GlobalWelsh wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn, y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Undeb Cymru a'r Byd dros lawer hirach o amser, mae'r rhwydweithiau gennym ni. A beth rydym ni'n gallu ei wneud drwy gael strategaeth ryngwladol a gobeithio gweld Llywodraeth yn parhau'n ddifrifol ynglŷn â datblygu'r strategaeth honno ydy'r gobaith o weld adeiladu ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros flynyddoedd yn barod i ddatblygu'r diaspora.
Credaf y dylem gydnabod y cysylltiadau sydd gennym â'r Eidal drwy'r bobl yn yr Eidal a ddaeth i Gymru, yn amlwg, yn y ganrif ddiwethaf, a phoblogi ein Cymoedd, a'r ffaith bod mwy o Gymraeg nag Eidaleg yn cael ei siarad yn Bardi ar un adeg yn ôl y sôn.
Mae'n uchelgais gennyf i ymweld â Bardi yn ystod yr haf ryw bryd yn y dyfodol. Roeddwn yn byw am gyfnod byr yn Parma, i lawr y ffordd, ac ni lwyddais i ymweld â Bardi i glywed am y cynulliad Cymreig chwedlonol hwn yn Bardi, yng ngogledd yr Eidal, yn yr haf.
Beth rydw i eisio gweld ydy Cymru'n tyfu yn ei hyder, ac mae tyfu mewn hyder yn rhyngwladol yn golygu'r angen i gael strategaeth gan Lywodraeth a phenderfynoldeb bob amser i chwilio am gyfleon. Ac er bod yna le i wella, wrth gwrs, ar y strategaeth yma, mae'n fan cychwyn, ac mi fyddwn ni'n gallu dychwelyd at y strategaeth dro ar ôl tro, yn cynnwys, fel dwi'n dweud, yn y cyfarfod yna o'r grŵp trawsbleidiol ymhen rhyw wythnos neu ddwy.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau dechrau trwy ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith nhw i’n helpu ni i siapio ein strategaeth ryngwladol. Ynghyd â llawer o randdeiliaid eraill yng Nghymru a rhanddeiliaid mewn gwledydd eraill ar draws y byd, mae’r pwyllgor wedi ein helpu ni i ddatblygu’r strategaeth. Nawr, dwi’n ymwybodol na fydd y pwyllgor yn fodlon aros am bum mlynedd i weld beth fydd yn cael ei gyflawni, a dwi’n ymwybodol hefyd fod aelodau o’r pwyllgor yn dymuno cymryd rhan yn barhaus i fonitro’r portffolio. Felly, dros y misoedd nesaf, byddaf i’n rhyddhau datganiadau a dangos cynlluniau a fydd yn rhoi darlun cliriach o sut byddwn ni’n mynd ati i gyflawni’r strategaeth, a dwi yn gobeithio y bydd hwn yn tawelu meddyliau’r pwyllgor. Dwi eisiau diolch i’r Cadeirydd ac i aelodau’r pwyllgor am eu hadroddiadau ac am eu rhaglen waith sy’n parhau.
Nawr, mae’r ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi ar adeg bwysig iawn. Dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach i Gymru gael presenoldeb cryf yn rhyngwladol, a dwi’n gobeithio bydd y blaenoriaethau yn ein strategaeth ni yn glir. A dwi’n cymryd y pwynt mae Dai Lloyd yn ei ddweud—bod yna gymaint o bethau y gallem ni wneud, ond mae adnoddau’n brin, ac felly dyna pam mae’n rhaid inni gael ffocws, a dyna beth rŷn ni wedi ceisio ei wneud. Ac mae hwnna yn hollbwysig, yn sicr wrth inni ymgymryd â pherthynas newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill yn y byd. Ac er ein bod ni nawr y tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, mae llawer iawn o ansicrwydd o hyd ynglŷn â chytundeb masnach a’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn nodi pa drywydd rŷn ni eisiau ei ddilyn. Rŷn ni eisiau hyrwyddo’r wlad yma fel un sy’n groesawgar, ac rŷn ni eisiau trosglwyddo’r neges ein bod ni am barhau i weithio a masnachu gyda gwledydd eraill yn y byd. Dyna sy’n bwysig. Dyna pam cafodd y swydd yma ei chreu.
Ar yr union bwynt hwnnw, un o'r pethau diddorol a glywodd y pwyllgor yn y dystiolaeth—ac mae wedi bod yn thema, mewn gwirionedd, yn y pwyllgor a'r tu allan iddo—yw'r angen i gryfhau ein presenoldeb bellach ym Mrwsel, yn rhyfedd iawn, ar ôl ymadael â'r UE, oherwydd yr angen, yr anghenraid pragmatig, i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. A chan ein bod wedi torri rhai o'r cysylltiadau swyddogol a'r presenoldeb yn Senedd Ewrop, Cyngor y Gweinidogion ac ati, mae angen inni ddyblu'r ymdrech yn awr er mwyn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed nid yn unig yn y farchnad bwysig hon, ond hefyd rhai o'r newidiadau cymdeithasol y gallent fod yn eu cyflwyno hefyd.
Mae hynny'n gywir, a dyna pam mai un o'r blaenoriaethau a nodwyd gennym yw cryfhau ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, mae hynny'n gwbl glir yn y strategaeth, ynghyd â'r ffaith ein bod am godi ein proffil yn rhyngwladol. Rydym yn awyddus i dyfu'r economi drwy allforio a thrwy ddenu mewnfuddsoddiad, ac rydym am sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.
Nawr, yn sicr, un o’r heriau amlwg i gyflawni ein nodau yw'r ansicrwydd ynghylch ein perthynas yn y dyfodol â'r farchnad bwysig honno a'r UE, a chyda phwerau economaidd mawr ledled y byd. Rwy'n cytuno â Chadeirydd y pwyllgor y buaswn wedi hoffi gweld targedau mwy cadarn mewn gwirionedd; ond credaf ei bod yn adeg afrealistig i roi’r targedau hynny ar waith pan nad oes gennym unrhyw syniad beth yw ein perthynas â'n marchnad darged agosaf.
Nawr, gwn fod y pwyllgor wedi cynnig llawer o argymhellion defnyddiol, a datblygwyd nifer ohonynt yn ein strategaeth derfynol. Pan edrychwn ar y blaenoriaethau yn y strategaeth, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd rhagorol yn barod. Felly, os ydym yn edrych er enghraifft ar sefydlu Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang, mae'n werth nodi bod rhaglen goed Mbale ar y trywydd iawn i gyflawni ei blwyddyn orau erioed yn 2019-20, gan ddod â chyfanswm cronnus y rhaglen i 12 miliwn o eginblanhigion—ymhell ar y ffordd i gyflawni ein hymrwymiad i blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025. A heddiw, ar gyfer Pythefnos Masnach Deg, rydym wedi cyhoeddi partneriaeth ag Uganda sy’n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu 3,000 o ffermwyr i gael pris teg am eu coffi. Pobl yw'r rhain sydd wedi wynebu dinistr yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a gallwn eu cefnogi yn awr.
Rwy'n cydnabod bod llawer o waith i'w wneud mewn perthynas â'r boblogaeth alltud. Mae llawer o bobl yn y maes hwn eisoes, fel y mae nifer wedi’i ddweud, ac mae rhan o'r hyn sydd angen inni ei gyflawni'n ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod y bobl hyn yn gweithio gyda'i gilydd. Dyma Gymru, wedi'r cyfan—rydym yn hoff o gweryla gyda'n gilydd—ond mae ceisio dod â phobl at ei gilydd—. Felly, heddiw, cyfarfûm â grŵp o bobl rydym wedi'u comisiynu i ddarparu platfform lle gall yr holl sefydliadau hyn weithio a chydweithredu. Felly, efallai y gallaf roi mwy o fanylion ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny ac—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf.
Ni fyddai'n ddadl ar y strategaeth ryngwladol heb i mi roi hysbysrwydd i Love Zimbabwe wrth gwrs, ac rwy'n siŵr eich bod yn disgwyl hynny. Fe wyddoch am y gwaith caled y mae'r elusen honno'n ei wneud yn Sir Fynwy, ac rydych wedi cael cyfarfodydd â hwy eich hun. Felly, a allwch roi sicrwydd y bydd Zimbabwe ac Affrica gyfan, fel rhan o'r byd sy'n datblygu, yn cael lle blaenllaw yn strategaeth ryngwladol derfynol Llywodraeth Cymru fel y gallwn chwarae ein rhan wrth feithrin cysylltiadau rhwng trefi fel y Fenni a threfi eraill yng Nghymru a threfi yng ngwledydd Affrica?
Wel, mae Cymru ac Affrica yn sicr yn rhan allweddol o'n rhaglen, ac felly bydd cyfleoedd i Love Zimbabwe gymryd rhan yn y rhaglen honno drwy'r mecanwaith hwnnw. Yn sicr, rydym yn gobeithio y bydd y platfform hwnnw, y platfform alltud hwnnw y byddwn yn ei greu, yn lle i ni allu siarad am rai o'r cymeriadau gwych o’r gorffennol y soniodd cymaint ohonoch amdanynt—am Evan Roberts, am Richard Price. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn cydnabod bod cyfle yno inni adrodd ein stori wrth y byd, a gobeithio y bydd cyfle yno i sôn am rai o'r arweinwyr crefyddol hefyd.
O ran allforion, byddwn yn cael cynllun allforio o'r newydd, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion am hyn yn yr ychydig fisoedd nesaf hefyd. Credaf ei bod yn werth nodi ar y pwynt hwn y gallai lledaeniad y coronafeirws effeithio ar yr effaith bosibl y gallai cyflawni ein cynlluniau ei chael. Rydym eisoes wedi gorfod canslo taith fasnach i Tsieina a thaith fasnach i ffair gemau yn San Francisco. Felly, dyma'r broblem gyda gosod targedau, ac mae gennym darged yn hynny o beth, a byddwn yn ceisio unioni hynny a cheisio gwneud iawn am y gwahaniaeth yn ystod y pum mlynedd. Ond mae rhai pethau'n gallu bwrw pethau eraill oddi ar eu hechel.
Nawr, er bod y strategaeth yn canolbwyntio ar dri sector lle gallwn ddangos rhagoriaeth—seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol—hoffwn roi sicrwydd i’r pwyllgor nad ar y tri sector hyn yn unig y mae ein ffocws. Wrth gwrs, byddwn yn hyrwyddo sectorau eraill, ond ein nod yma yw denu sylw byd-eang drwy ein gallu i ddarparu rhagoriaeth fyd-eang. Mae hynny'n agor y drws inni siarad am gynifer o feysydd eraill. Felly, er enghraifft, rwyf newydd ddychwelyd o ymweliad â gogledd America, ac yn ystod fy ymweliad, llofnodais ddatganiad o fwriad gyda Llywodraeth Quebec. Gyda llaw, roeddent yn datblygu eu strategaeth ryngwladol ar yr un pryd â ni, a chymerodd flwyddyn iddynt ddatblygu eu strategaeth ryngwladol, ac nid oedd ganddynt Brexit, felly ni chredaf ein bod yn gwneud yn rhy wael. Ond rhan o'n cynllun yno yw canolbwyntio ar awyrofod a chydweithredu ar awyrofod. Felly, nid yw’n gyfyngedig i'r tri sector o gwbl.
Nawr, gan nodi pwynt y pwyllgor ynglŷn â chysylltiadau a chydweithrediad Llywodraeth y DU, roeddwn yn awyddus, yn ystod fy ymweliad, i sicrhau bod teithiau masnach y DU dramor, yn gyntaf oll, yn ymwybodol o'n cynnig a'n blaenoriaethau, ac i sicrhau eu bod yn sylweddoli bod ganddynt gyfrifoldeb i hyrwyddo Cymru, ein gallu a'n cynnig. Felly, mae gwell cydweithredu â Llywodraeth y DU, yn fy marn i, yn gwbl allweddol i lwyddiant yn y byd rhyngwladol, a byddaf yn cyfarfod â swyddogion y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yr wythnos hon i ganfod faint yn fwy y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw. Mae hynny’n ychwanegol at y cyfarfodydd rwyf wedi'u cael yn y gorffennol. Mae copïau o'r strategaeth wedi'u hanfon at swyddogion y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ledled y byd fel eu bod yn ymwybodol o'n ffocws.
Ond mae'n rhaid i beth bynnag a wnawn gael ei weld yn ychwanegol at yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig. Gwyddom na allwn gyflawni'r agenda ryngwladol ar ein pen ein hunain. Dyna pam fod tîm Cymru mor bwysig. Felly, yn ogystal â gweithio trawslywodraethol—ac rwyf eisoes yn cael cyfarfodydd misol gyda'r Gweinidog addysg, cyfarfodydd rheolaidd iawn gyda Gweinidog yr economi, a dros y flwyddyn, byddaf yn sicrhau fy mod yn cael cyfarfodydd dwyochrog â Gweinidogion eraill, fel y gallwn archwilio rhai o'r meysydd hynny lle gallant flaenoriaethu—rydym hefyd wedi gosod dyddiad ar gyfer ein cyfarfod cyntaf â'r gymdeithas sifil cyn yr haf. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â maes y celfyddydau a chwaraeon, ac mae amgueddfeydd, er enghraifft, yn awyddus i sicrhau eu bod yn cydgysylltu eu gweithgareddau gyda ni. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r pwyllgor ynglŷn â sut rydym yn cydgysylltu'r gweithgarwch hwn cyn yr haf. Mae cymell tawel yn hollbwysig. Mae'n bwysig iawn. Ond mae'n anodd iawn ei fesur hefyd, felly rydym yn ôl at yr anhawster ynglŷn â sut i fesur ein llwyddiant. Byddwn yn defnyddio ein digwyddiadau mawr i sicrhau’r proffil Cymreig hwnnw fel yr awgrymwyd.
Yn y strategaeth, rwyf wedi nodi nifer o ranbarthau penodol lle byddwn yn canolbwyntio, lle byddwn yn ffurfioli neu'n adeiladu ar y cysylltiadau ffurfiol sydd gennym eisoes. Fe wyddoch fod Gwlad y Basg eisoes yn un o'r ardaloedd lle rydym wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth Gwlad y Basg, ac rydym wedi canolbwyntio ar arloesi, iechyd ac iaith yn yr ardal honno. Wrth gwrs, yr wythnos hon, gwnaethom groesawu Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw i Gymru, a dirprwyaeth o'r sector diwylliannol, i ailddatgan ein hymrwymiad i femorandwm cyd-ddealltwriaeth a chynllun gweithredu ar ôl Brexit.
Yn sicr, o ran ieithoedd lleiafrifol, rydym wedi bod mewn cysylltiad ag UNESCO i weld sut y gallwn gydgysylltu ein gweithgarwch, ac ar hyn o bryd, rydym yn arwain y rhwydwaith o grwpiau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop. Felly, byddwn yn edrych ymlaen at groesawu'r rheini i Gymru yn yr ychydig fisoedd nesaf. Nawr, rwyf wedi ymrwymo i adolygu effeithiolrwydd a pherfformiad holl weithgarwch yr adran cysylltiadau rhyngwladol yn rheolaidd, gan gynnwys y gwaith a wneir gan ein swyddfeydd tramor. Mae cylch gwaith y swyddfeydd hynny’n cael ei adolygu, a dylai gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ebrill.
Y pythefnos hwn yw amser prysuraf y calendr, wrth gwrs, o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, gan fod gennym y ffocws hwnnw. Roedd yn wych cael dathliadau cynnar yn Ottawa, San Francisco a Los Angeles yr wythnos diwethaf, a byddaf yn dathlu gyda'r gymuned ryngwladol yn Llundain ddydd Iau ac yn Iwerddon yr wythnos nesaf. Yr wythnos hon yn Llundain, bydd nifer o weithgareddau’n cael eu cydgysylltu gan Cymru yn Llundain.
Felly, i gloi, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn eto am y gwaith rydych wedi'i wneud fel pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar iawn. Credaf ei bod yn bwysig iawn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl eraill i'w gynnig ynglŷn â sut y gallwn fanteisio ar ein cysylltiadau rhyngwladol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros yr ychydig fisoedd nesaf. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar David Rees i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma, ac yn amlwg i’r Gweinidog am ei hymateb hefyd? Rwy'n hapus iawn gyda hynny. Hoffwn dynnu sylw at ychydig o bethau, gan ei bod yn ddiddorol iawn—mae cryn dipyn o bobl wedi nodi eu gweledigaeth ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio pethau i hybu agenda Cymru, boed hynny, fel y nododd David, drwy Gymry alltud a gwthio hynny ychydig ymhellach. Ond fe wnaeth ein hatgoffa wedyn o'n treftadaeth ddiwylliannol wych hefyd, gan gynnwys elfen grefyddol y dreftadaeth ddiwylliannol honno. Ac fel y gwelwyd—ymunodd Huw Irranca ag ef hefyd i gydnabod y dreftadaeth grefyddol.
Ond credaf fod hynny'n tynnu sylw at y ffaith bod cymaint yn digwydd yng Nghymru y gallwn ei ddefnyddio i hyrwyddo Cymru a'i hanes a sut rydym wedi gallu dylanwadu ar agweddau eraill ar y byd, a gadewch inni adeiladu ar hynny. Cawsom ein hatgoffa gan Dai Lloyd am yr ieithoedd lleiafrifol. Bûm yn trafod gyda Dafydd Trystan yr wythnos hon, a ddywedodd ei fod wedi bod yn, neu wedi trafod â Phrifysgol Hawaii, a sut roeddent yn meddwl bod Cymru’n gwneud gwaith gwych ar ieithoedd lleiafrifol ac ar ddatblygu’r maes, ac y dylem ddefnyddio hynny fel enghraifft o ymarfer da ledled y byd ar ieithoedd lleiafrifol, ac y dylem arwain ar hynny.
Unwaith eto, do, fe dynnodd sylw at bwynt arall. Fe wnaethom godi hyn yn y pwyllgor—y cysylltiadau gefeillio rhwng dinasoedd a threfi ledled y wlad hon â chenhedloedd a gwledydd a dinasoedd mewn mannau eraill. Gadewch inni beidio â gwastraffu hynny. Gadewch inni adeiladu ar y berthynas honno. Mae'r rhain yn ffyrdd y gallwn greu ac adeiladu'r cysylltiadau hynny a'u datblygu hyd yn oed yn ymhellach. Credaf i Huw dynnu sylw ar un pwynt, serch hynny, at yr angen i fanylu. Bydd angen inni edrych ar sut y gallwn graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru. Weinidog, yn eich ymateb, fe ddywedoch chi na fyddem yn aros pum mlynedd. Wel, mae'n ddrwg gennyf, efallai na fyddwn yma ymhen pum mlynedd. Mae gan y Cynulliad 14 mis ar ôl, a chyn diwedd y Cynulliad hwn, rydym am allu gweld pa gynnydd a wneir ar hynny. Felly, rwy'n falch iawn y byddwch yn edrych ar rai o'r pwyntiau a godwyd, a byddwn yn craffu ar hynny.
Darren, ydy, mae'r gymuned ffydd, unwaith eto, yn agwedd bwysig iawn. Mae cymaint ohonynt yng Nghymru y dylem fod yn edrych arnynt o ran sut y gallwn ddefnyddio eu cysylltiadau yn rhyngwladol hefyd—nid y ffydd Gristnogol yn unig, ond pob ffydd, o ran hynny. Rhun, ie—. Gyda llaw, pob lwc dros y penwythnos yn erbyn Senedd y DU; dymunwn yn dda i chi. Ond tynnodd sylw at y pwynt fod pethau gyda'r sefydliad hwn, Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, lle gellir clywed llais Cymru’n glir iawn, a dylem ddefnyddio'r llais hwnnw cystal ag y gallwn. Gwn am Aelodau sy'n mynd drwy Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, neu drwy’r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig neu drwy ddulliau eraill; maent yn defnyddio'r cyfle hwnnw i sicrhau bod rhywun yn gwrando ar lais Cymru a'i fod yn cael ei adnabod. Ond credaf iddo gytuno â Rhun hefyd y dylai'r ddogfen fod yn ddogfen ddynamig—ni ddylai fod yn rhywbeth lle gallwn ddweud, 'Dyna ni; gadewch inni edrych arni eto ymhen pum mlynedd.' Dylai fod yn ddynamig, dylai esblygu wrth inni fwrw ymlaen â hyn, ac ni ddylem ofni esblygiad y ddogfen honno.
Weinidog, rwy'n cytuno â chi—rydym yn wynebu llawer o heriau. Rydym mewn cyfnod ansicr. Nid ydym yn gwybod beth fydd y berthynas, ac rydych yn nodi mai dyna'r rheswm, o bosibl, pam nad ydych wedi rhoi targedau manwl i ni. Ond credaf y dylem fod yn paratoi'r targedau hynny o hyd, gan fod dau ganlyniad, mae’n debyg, o ran yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn—un canlyniad yw na fydd gennym berthynas â'r UE; y llall yw y bydd gennym berthynas—a chredaf, o ran y ddau ganlyniad, y gallem ddechrau paratoi ar gyfer y llwybr hwnnw.
A gyda llaw, Quebec—rwy’n falch iawn fod gennych berthynas â Quebec, oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio bod Quebec yn un o ysgogwyr CETA, y cytundeb economaidd a masnach cynhwysfawr. Oherwydd hwy yw'r rhai a oedd am lywio perthynas Canada â'r UE. Ac fel talaith yng Nghanada, roeddent yn y cefndir, yn dechnegol, yn gyfreithiol, oherwydd y broses, ond roeddent ar flaen y gad, yn ei llywio. Felly, mae ganddynt yr hanes hwnnw, ac mae ganddynt y profiad hwnnw o gysylltiadau rhyngwladol yno. Felly, rwy'n siŵr y byddai’n eithaf diddorol cymharu ein strategaeth gysylltiadau a'u strategaeth gysylltiadau hwy, i weld sut y mae hynny’n gweithio.
Weinidog, fe sonioch chi am y peth pwysig arall—soniodd pawb arall amdano—sef cymell tawel. Dyna'r elfen hanfodol, a dyna pam y gofynnodd Huw y cwestiwn ynglŷn â swyddfa Brwsel, gan y cydnabyddir fod cymell tawel swyddfa Brwsel yn rhagorol, a dylem adeiladu ar yr arbenigedd hwnnw. Mae gan Gymru gyfle gwych i wneud llawer mwy o ddefnydd o gymell tawel, boed drwy weithgareddau diwylliannol, chwaraeon neu fathau eraill o weithgareddau, a gadewch inni beidio â cholli'r cyfleoedd.
Nawr, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae pob un ohonom yn gwybod hynny—ond rydym yn bwrw ymlaen â'r arena ryngwladol. P'un a yw'r dyfodol hwnnw'n ansicr, nid ydym yn gwybod, ond gwyddom fod dyfodol i ni, ac mae hynny'n bwysig, ac rydym yn bwrw ymlaen tuag at hynny. Ac mae'n ymdrech ar y cyd i fusnesau, cymdeithas sifil a'r Llywodraeth weiddi'n uwch a gweiddi'n falch ynglŷn â phwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, a'r hyn y gall Cymru ei gynnig i eraill. Dylai hynny roi sylfaen gref inni allu hwylio’r dyfroedd. A chredaf y gall fod dyfroedd garw o'n blaenau. Ond edrychaf ymlaen at eich dwyn i gyfrif yn y blynyddoedd i ddod—neu’r 14 mis i ddod, beth bynnag. Felly, diolch i bawb am eich cyfraniadau. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gefnogi’r cynnig y prynhawn yma.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.