– Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
Symudaf ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar wasanaethau iechyd meddwl. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7289 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.
2. Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u teulu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n raddol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;
b) bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;
c) gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;
d) sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mae'r ddadl fer yma rŵan yn plethu mewn i'r ddadl rydym ni newydd ei chael—mi wnaf i egluro mwy am hynny am y man. Ond, dadl ydy hi ynglŷn â rhywbeth penodol iawn sydd o bryder mawr i ni ar y meinciau yma, dwi'n gobeithio i ni fel Senedd, ac i lawer gormod o'n hetholwyr ni. Sôn ydym ni am y nifer uchel o gleifion o Gymru sy'n cael eu hanfon i unedau iechyd meddwl ymhell, bell o gartref, yn aml iawn dros y ffin yn Lloegr. Ac mae yna bryderon difrifol ynglŷn â'r egwyddor sydd ynghlwm â gyrru pobl ymhell o gartref. Mae yna bryderon penodol ynglŷn â safon y gofal sy'n cael ei ddarparu i lawer ohonyn nhw.
Mae enghraifft yn y fan hyn: Wayne Erasmus yn honni ei fod o ddim hyd yn oed wedi gallu siarad efo na gweld ei fab awtistig ers dros dair blynedd. Mae ei fab o'n byw mewn uned sydd wedi bod yn destun adroddiad syfrdanol gan y Comisiwn Ansawdd Gofal, uned sydd wedi gweld ataliaeth gorfforol yn cynyddu. Mae claf arall o Gymru efo anorecsia yn yr uned. Dim ond tair galwad ffôn 10 munud yr wythnos sy'n cael eu caniatáu iddi hi efo'i pherthnasau gartref, a hynny efo cyfyngiadau ar yr hyn maen nhw'n cael siarad amdano fo. Ydy hynny'n swnio'n dderbyniol i chi? Mae yna lawer iawn o achosion tebyg wedi bod.
Ond hyd yn oed pe na bai yna bryder am safon ac ansawdd y gofal, mae yna bwynt pwysig iawn o egwyddor ynglŷn â'r effaith ar les claf o fod oriau a channoedd o filltiroedd i ffwrdd o gartref, yn methu siarad efo'u perthnasau o bosib, yn aml ddim yn gwybod pa mor hir fyddan nhw yna, ac yn sicr yn teimlo'n bell iawn o'r rhwydweithiau gofal yna sydd mor bwysig i bobl. Dwi'n cofio etholwr yn dweud wrthyf fi sut y cafodd o ei gludo o'i gartref yng nghanol nos, ag yntau yn wynebu problem iechyd meddwl aciwt, a'i gludo mewn cerbyd i gyffiniau Llundain, a sut yr oedd hynny wedi gwaethygu cymaint yr angst meddyliol yr oedd o'n mynd drwyddo fo ar y pryd. Gall hynny ddim bod yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau.
Mi fyddai'n un peth pe bai'r math yma o achosion yn rhai prin, ond dydy o ddim—dydy'r rhain ddim yn achosion prin. Mae Hafal, grŵp sy'n gwneud gwaith mor dda ym maes iechyd meddwl, yn sôn am arolwg o gyfnod lle nad oedden nhw'n gallu llenwi'r gwlâu yn eu huned nhw ym Mhontardawe, a lle oedd 30 y cant allan o 1,000 o gleifion iechyd meddwl ag anableddau dysgu a oedd yn rhan o'r astudiaeth yma wedi cael eu rhoi mewn ysbytai yn Lloegr. Does dim synnwyr yn y peth.
O'i glymu yn ôl at y ddadl flaenorol, mae'n bwysig tynnu sylw hefyd at y ffaith bod gan Gymru ddim uned breswyl anhwylderau bwyta. Mi oedd hi'n bleser cael sgwrs efo merch ifanc sy'n etholwraig i mi yn y cyfarfod heddiw yma. Roedd hi'n hyfryd siarad efo Sara am ei phrofiadau hi, ac yn torri calon rhywun o glywed profiadau Sara. Mi oedd Sara wedi gorfod teithio ymhell bell o gartref ac i Loegr er mwyn cael gofal, a hithau dim ond yn ei harddegau. Mae hynny'n annerbyniol.
Gadewch i ni ystyried hefyd achos cau'r uned mamau a babanod yng Nghaerdydd ar gyfer mamau sy'n profi seicosis postpartum—penderfyniad a wnaeth niwed difrifol, fel cafodd ei ddweud yn glir iawn wrth ymholiad y pwyllgor yma yn y Senedd. Dyma chi ddyfyniad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion:
Nid yw pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n cael eu hanfon allan o'r ardal, allan o'r wlad hyd yn oed, yn bobl â chyflyrau anghyffredin neu anarferol iawn. Maent yn bobl y gallem ofalu amdanynt yn agos at eu teuluoedd ac yn agos at eu ffrindiau.
Mi glywoch chi'r ddadl yn cael ei gwneud weithiau bod y mas critigol o ran poblogaeth ddim gennym ni yma yng Nghymru, ond ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, mae gennym ni yn sicr y boblogaeth sydd ag angen dwys i gael y gofal yn agos at gartref, a diogi a phatrymau hanesyddol gwael o ran comisiynu gofal sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa yma. Felly, dyna ddigon o esgusodion; gadewch i ni anfon neges glir iawn bod yn rhaid i hyn ddod i ben, a bod yn rhaid i ni ddatblygu gwasanaeth iechyd sydd wir yn siwtio ein hanghenion ni fel gwlad.
Rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol
b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod holl gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol;
b) sicrhau digon o gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar gyfer contractio gofal yn raddol;
c) sicrhau bod Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru gydymffurfio â gofynion arolygu;
d) cyflwyno Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac
e) sicrhau bod yn rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n mynd i siarad yn gyflym oherwydd mae gennyf lawer i'w ddweud ar y pwnc hwn a dim ond tri munud sydd gennyf. Yn gyntaf oll, nid wyf am adael i chi osgoi cerydd am eich sylw bach digywilydd yno, Rhun ap Iorwerth. Fe wyddoch fod y meinciau hyn yn pryderu’n fawr am y mater, gan i mi ei godi ar sawl achlysur, ac rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd i edrych arno.
Y rheswm pam ein bod wedi cyflwyno ein gwelliant yw oherwydd ein bod wedi gwneud digon o waith i allu ymchwilio i rywfaint o'r manylion sydd eu hangen arnom yma, Weinidog. Ond cyn i mi ddechrau ar yr elfen arbennig honno o'r gwelliant, rwyf am ddweud rhywbeth wrth bawb yn y Siambr. Yn llythrennol ddeufis yn ôl ymwelais ag un o fy etholwyr mewn uned diogelwch canolig yn Lloegr. Mae'n un sydd â marciau du difrifol gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn ei erbyn, a ph'un a yw'n dda neu'n ddrwg ai peidio, fel bod dynol arall yn cerdded i mewn i uned diogelwch canolig, gallaf ddweud wrthych yn awr fod fy nghalon bron â stopio curo. Mae'n erchyll. Rwyf wedi ymweld â charchardai hefyd. Ble byddai'n well gennyf fod—carchar neu uned diogelwch canolig? Byddai'n well gennyf fod mewn carchar. Os ydych chi mewn carchar fe gewch wneud pethau. Os ydych chi mewn carchar, caniateir i chi ddod i gysylltiad â phobl. Os ydych chi mewn carchar, mae'n hawdd i chi weld eich teulu a'ch ffrindiau mewn ystafelloedd aros arbenigol. Os ydych chi mewn carchar, yn anad dim, rydych chi'n gwybod pa bryd y byddwch yn cael eich rhyddhau. Gallai fod yn dri mis, tair blynedd, 30 mlynedd, ond mae gennych nod terfynol. Nid oes gennych ddim o'r optimistiaeth honno, dim dyhead felly, na sicrwydd o’r fath pan fyddwch mewn carchar diogelwch canolig. A phan fyddwch mewn carchar diogelwch canolig sydd 200 milltir i ffwrdd oddi wrth eich teulu, mae'r torcalon gymaint yn fwy am ei bod hi’n anodd iawn dal ati i gyfathrebu.
Un o'r pethau sy'n cael eu dweud yn aml, cyn gynted ag y byddwch yn un o'r mathau hynny o leoedd—a pheidiwch ag anghofio, os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl a'ch bod chi mewn uned diogelwch canolig, rydych chi’n aml iawn gyda phobl sydd yno trwy system y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae hynny'n anodd. Gwelais weithgareddau caled yn digwydd. Ni hoffwn fod yno.
Felly rydych chi'n berson agored i niwed yn barod ac rydych chi'n cael eich rhoi mewn lle sy'n eich gwneud chi'n fwy agored byth i niwed. Mae llawer yn cael ei wneud o'r ffaith nad oes gennym gapasiti yma yng Nghymru, ac mae hynny'n wir, ond pan fyddwch i ffwrdd, mae pawb angen teulu neu ffrindiau, neu angor. Mae'r angor mor bwysig. Dyna sut y dowch o hyd i'ch ffordd yn ôl i iechyd da. Os yw eich angor 200 milltir i ffwrdd neu 300 milltir i ffwrdd ac ni allwch gael mynediad at yr angor hwnnw'n hawdd, mae'n anodd iawn dod o hyd i'ch llwybr adref. Felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i edrych ar hyn ac i edrych ar sut rydym yn darparu unedau diogelwch canolig yng Nghymru.
Gyda'ch caniatâd chi, hoffwn roi sylw i bwyntiau (d) ac (e), oherwydd mae uwch-swyddog cyfrifol yn gwbl allweddol, Ddirprwy Weinidog. Un o'r problemau mawr sydd gennych yw y bydd bwrdd iechyd yn dweud, 'Mae'r person hwn angen darpariaeth uned diogelwch canolig.' Yna, bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn mynd ati i'w gomisiynu ac yna, rhwng y ddau, collir golwg ar y person hwnnw, ar ei gynnydd neu ei gynllun triniaeth. Ac wrth gwrs, mae pobl yn cael eu symud o gwmpas. Bob tro y cewch eich symud o A i B, byddwch yn cael eich ailadolygu, eich ailddadansoddi a gweithredir cynllun triniaeth newydd. Mae'n anodd iawn gwneud y camau hynny wrth symud ymlaen; mae bob amser yn ddau gam ymlaen, un cam yn ôl.
Yn olaf, cynllun cyfathrebu. Mae hwnnw'n gwbl allweddol, oherwydd mae llawer o'r gwrthdaro a welwn yn ymwneud â'r ffaith na chyfathrebir yn glir â theulu a ffrindiau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, beth yw'r camau nesaf a pha ran y gallant ei chwarae i helpu'r unigolyn dan sylw i wella. Ac nid oes gan y person sydd i mewn yno gynllun cyfathrebu clir. Teimlant ar unwaith eu bod ar drugaredd y bobl sy'n gyfrifol amdanynt, a dyna fu un o'r achosion gwrthdaro mwyaf yn fy mhrofiad i ac i'r holl bobl a welais. Felly, hoffwn weld uwch-swyddog cyfrifol a hoffwn weld cynlluniau cyfathrebu clir yn cael eu gosod gyda'r bobl agosaf a cheraint ochr yn ochr â'r cynllun triniaeth, ac wrth gwrs rwyf am weld unedau diogelwch canolig yma yng Nghymru. Mae'n hurt fod rhaid teithio mor bell i gael triniaeth a ddylai fod yn normal yn ein GIG.
Diolch. Galwaf ar Mark Reckless.
Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed gan Angela eto. Cofiaf iddi gyflwyno dadl argyhoeddiadol iawn yn y Siambr o'r blaen ar hyn a gwn am yr achos penodol a gafodd a'r gwaith anhygoel y mae wedi'i wneud fel AC i gefnogi'r teulu hwnnw. Fe'm trawyd hefyd gan raglen ddogfen ar y teledu yn ddiweddar yn yr un maes. Wrth edrych ar y cyfleuster hwnnw, roedd yn llawer tebycach i garchar nag y dychmygais. Mae hi'n dweud y dylai fod gennym uned diogelwch canolig yng Nghymru—dylem yn wir. Gobeithio y bydd yn well na'r hyn a welsom, o leiaf rai o'r unedau hynny yn Lloegr. Ond nid wyf yn meddwl y bydd o reidrwydd yn golygu y byddai'n trin pob claf yng Nghymru lle mae angen y driniaeth iechyd meddwl hon ar gyfer cleifion mewnol. Rwy'n credu bod perygl mewn symud o bryderon penodol am achosion rydym yn ymwybodol ohonynt i'r gofynion cyffredinol ond rhagnodol iawn a welwn yn y cynnig hwn.
Rwy'n poeni braidd ynglŷn â dweud hefyd na ddylai'r un claf fod yn bell oddi wrth ei deulu. Efallai fod rhai cyflyrau iechyd meddwl mor arbenigol fel mai dim ond un neu ddau o leoedd sydd ar gael yn y DU lle gallwch roi triniaeth ar raddfa ddigon mawr gyda digon o arbenigwyr i wneud hynny. Mewn rhai achosion, efallai mai dyna'r lle iawn i glaf penodol yng Nghymru fod. Rwyf hefyd o'r farn fod gwrthddweud posibl rhwng dweud na ddylai'r un claf fod yn bell oddi wrth ei deulu a dod â'r holl gleifion o Gymru—nid yw hynny wedi'i ddiffinio'n glir—sydd mewn unedau yn Lloegr ar hyn o bryd yn ôl i Gymru. Efallai fod gan rai o'r rheini deulu neu gefnogaeth yn Lloegr, ac mae gennym lawer o bobl sy'n byw ger y ffin, ac sy'n gallu symud o Loegr i Gymru. A gall fod achosion arbennig i gleifion unigol, a rhaid inni ystyried y rheini hefyd.
Rwy'n credu bod 3(c) yn rhy gryf o ran gwahardd unedau yng Nghymru rhag defnyddio rhai yn Lloegr sydd wedi cael arolwg gwael. Efallai eu bod yn ymdrin â'r arolwg gwael, neu efallai fod yr arolwg gwael yn ymwneud yn benodol ag un agwedd ar y cyfleuster hwnnw. Yn 3(c), mae cynnig Plaid Cymru yn rhoi llawer o bwyslais ar y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr, ac eto, yn (d) mae'n dweud y dylem anwybyddu hwnnw'n llwyr ac y dylent orfod glynu at ofynion arolygu Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n afrealistig mewn cyd-destun arall. Ni allwn gael trefn reoleiddio sy'n croesi tiriogaethau. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am adael i'r Siambr wybod fy mod wedi cael cyfarfod ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y mater hwn, gyda'r pennaeth, ac roedd hi'n eithaf clir ynglŷn â'r anawsterau—yr anawsterau deddfwriaethol ac ymarferol—a fyddai'n codi pe bai sefydliad yng Nghymru yn monitro lleoliad yn Lloegr.
Ceir anawsterau o ran monitro, a dylem ystyried y rheini, ond nid wyf yn credu mai'r ffordd o fynd i'r afael â hynny yw ymestyn trefn reoleiddio Cymru i gynnwys cyfleusterau yn Lloegr, neu feddwl bod honno'n ffordd realistig o ymdrin â hynny. Credaf fod angen inni sicrhau cydnabyddiaeth ar y ddwy ochr neu rywbeth tebyg i hynny, a chael perthynas y gellir ymddiried ynddi gyda'r cyrff rheoleiddio.
Nid wyf wedi fy narbwyllo ynglŷn â'r cynnig ar gyfer cynllun cyfathrebu, ond rwy'n credu y dylai'r cynllun triniaeth ystyried sut i gyfathrebu â theulu ac eraill. Pan fydd gennym gleifion yn Lloegr, credaf fod angen i'r cyfleusterau yn Lloegr wybod pwy maent yn ymwneud â hwy yng Nghymru. Rwy'n credu bod problem ofnadwy wedi bod gyda'r bwrdd iechyd, a chyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedyn, a diffyg eglurder ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth. Mae angen inni fod yn glir, ac mae angen inni sicrhau bod y cyfleuster rydym yn ei gomisiynu yn Lloegr hefyd yn glir. Credaf fod gan Lywodraeth Cymru welliant da ar hyn gyda'r cydbwysedd cywir yn eu pwyntiau (a) a (b), a bwriadwn gefnogi eu gwelliant, ond byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig a'r gwelliannau eraill. Diolch.
Hoffwn siarad am brofiadau grŵp penodol o bobl sy'n dioddef o orfod mynd i Loegr i gael gofal iechyd meddwl, sef mamau newydd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Yn ôl Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau, mae'r menywod hyn yn cael eu hamddifadu o ofal a allai achub bywydau oherwydd diffyg uned gymorth arbenigol yng Nghymru. Credaf mai fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, oedd y person cyntaf i alw am ddatblygu uned arbenigol. Llwyddodd i chwarae ei ran yn cyflawni ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu uned barhaol erbyn 2021, fel rhan o gytundeb cyllideb 2018-19 rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Nawr, fe wyddom nad yw'n edrych debyg y bydd hyn yn digwydd, gyda Llafur ar fin torri addewid cytundeb cyllideb drwy agor uned dros dro mewn ysbyty seicolegol yn lle hynny. Nid dyma a gytunwyd, ac nid dyma sydd ei angen. Mae torri ymrwymiad cytundeb cyllideb yn fater difrifol iawn, nid yn unig o ran ymddiriedaeth wleidyddol ond yn bwysicach yn yr achos hwn, mae'n golygu y bydd mamau newydd yn dal i gael eu hamddifadu o'r driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Hoffwn gofnodi fy niolch i BBC Cymru Wales am y newyddiaduraeth ragorol y maent wedi'i chyflawni dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi llwyfan i rai o'r menywod y mae hyn wedi effeithio arnynt. Dywedodd un fam newydd a gafodd ei thrin mewn uned seiciatrig—lleoliad a gâi ei ystyried yn amhriodol ar gyfer y cyflwr, yn ôl arbenigwyr—wrth ohebydd y BBC:
Nid oeddwn mewn amgylchedd priodol... nid oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl i fy mhartner a fy mab ymweld â mi yn ystod y dydd.
Unwaith eto, rydym yn sôn am fenywod mewn cyflwr bregus iawn, pan fyddant angen eu teuluoedd yn fwy nag erioed.
Seicosis postpartum, ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—. Pan edrychasom ar hyn, buom yn siarad ag un ddynes a oedd wedi dod i lawr i Gaerdydd pan oedd y cyfleuster yno, a byddai'n well ganddi fod wedi mynd i Fanceinion. I lawer yng ngogledd Cymru, mae'n gweithio i fynd i uned mam a'i baban ac ysbyty ym Manceinion, a bydd hynny'n well na chael eu gorfodi i ddod i lawr i Gaerdydd, ymhellach oddi wrth eu teuluoedd.
Rwy'n derbyn y bydd hynny'n wir mewn rhai achosion, ond bydd llawer o achosion lle mae angen hyn. Unwaith eto, dychwelaf at y ffaith mai ymrwymiad cyllideb oedd hwn, ac roedd yn rhywbeth y cytunwyd arno rhwng y ddwy blaid. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch mewn rhai achosion.
Dywedodd mam arall ei bod wedi mynd o fod yn hapus iawn i gael babi i beidio â gwybod yn iawn ble roedd hi, ac nad oedd hi'n gwybod beth roedd hi'n ei wneud a'i bod yn teimlo'n ofnus iawn a heb wybod ble y gallai fynd am gymorth. Dywedodd am ei theulu:
Nid oeddent yn cael dod i fy ystafell, byddem yn treulio'r amser yn crwydro coridorau'r ysbyty.
Eglurodd nyrs amenedigol yr effaith roedd teithio i uned arbenigol wedi'i chael ar ddynes arall:
Fe gymerodd 10 awr iddynt gyrraedd yno... Roedd yn erchyll oherwydd mae'n rhaid i chi stopio gyda'r babi bob dwy awr am ei fod yn newydd-anedig... fe gyraeddasant am 10 p.m.... am beth ofnadwy i'w wneud i'r ddynes honno a oedd yn seicotig.
Mae arbenigwyr yn gytûn fod agor uned yng Nghymru yn hanfodol. Dywedodd Dr Witcombe-Hayes o NSPCC Cymru:
Mae'n hanfodol fod gan Gymru ddarpariaeth uned i famau a'u babanod ar gyfer menywod sy'n dioddef y cyflyrau mwyaf difrifol.
Yn ôl Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, mae menywod bellach yn wynebu dewis rhwng cael gofal fel cleifion mewnol yn fwy lleol, ond cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod, neu aros gyda'u babanod mewn uned arbenigol, ond bod angen iddynt deithio i ffwrdd oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth. Ychwanegant fod menywod mewn llawer o achosion yn dewis cael gwasanaethau seiciatrig acíwt lleol nad ydynt yn addas at y diben a heb wybodaeth arbenigol. Nid yw'n ddewis y dylai unrhyw un orfod ei wynebu, yn enwedig mamau mewn argyfwng.
Felly, i gloi, dyma'r neges i Lywodraeth Cymru: mae angen yr uned gymorth arbenigol hon ar y menywod hyn. Mae'r arbenigwyr yn cytuno. Fe addawoch chi ei darparu. Gwnewch hyn cyn i unrhyw famau newydd orfod dioddef oherwydd y diffyg gweithredu gwarthus hwn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, a chredaf fod yr enghreifftiau a ddefnyddiwyd yn y ddadl wedi bod yn rymus iawn ac yn dangos y broblem rydym yn mynd i'r afael â hi yma heddiw. Ac rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hi i gleifion a'u teuluoedd pan fo'n rhaid cael gofal oddi cartref, ac mae'n amlwg yn llawer anos os oes gan deuluoedd bryderon ynglŷn ag ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu. Felly, rwy'n falch o'r cyfle i ailddatgan cydnabyddiaeth y Llywodraeth i bwysigrwydd parhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys darpariaeth iechyd meddwl i gleifion mewnol. Ac rwyf hefyd am roi sicrwydd ynglŷn â'r trefniadau sydd gennym ar waith i sicrhau ansawdd a diogelwch y gofal a gaiff cleifion o Gymru sy'n cael gofal ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl y tu allan i Cymru.
Ein nod yw darparu gofal iechyd meddwl yn agosach at adref i bobl a lleihau'r angen am gymorth cleifion mewnol. Mae ein buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a fydd yn codi yn 2020-21 i £712 miliwn, yn gwella canlyniadau. Er enghraifft, mae'r buddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol wedi arwain at leihad yn nifer y derbyniadau iechyd meddwl i'r ysbyty dros amser. Ac rydym hefyd yn parhau i weld gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n cael eu gosod mewn unedau yn Lloegr. Yn 2018, roedd yn 130 ac yn 2019, roedd wedi gostwng i 96, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau, y duedd hon ar i lawr.
Ond er ein bod yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o gymorth yn y gymuned, bydd angen darpariaeth arbenigol i gleifion mewnol bob amser i gynorthwyo pobl ag anghenion dwys. Ac er ein bod yn darparu cymorth i gleifion mewnol yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, mae gennym ddwy uned diogelwch canolig o fewn y GIG yng Nghymru, Tŷ Llywelyn yn y gogledd a Caswell yn y de, ac rydym hefyd yn darparu mynediad i unedau cymorth yn Lloegr. Mae hyn yn caniatáu i gleifion yng Nghymru gael cymorth arbenigol iawn a ddarperir mewn unedau ar gyfer y DU gyfan. Ond rydym yn cydnabod ei bod yn anodd i gleifion a theuluoedd pan gânt eu lleoli ymhell i ffwrdd.
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Mae'n ddrwg gennyf, dim ond i egluro eich pwynt oherwydd, ydy, mae Clinig Caswell yn bodoli ond mewn gwirionedd, maent yn llawn o bobl eisoes. Mae gennym 61 o bobl yn ôl fy nghyfrif diwethaf, nad oedd yn bell iawn yn ôl, yn Lloegr. Er enghraifft, mae perygl y bydd yn rhaid i un o fy etholwyr symud i Stevenage am fod y ward y mae'r unigolyn arni dan fygythiad i gau. I fod yn onest, nid wyf yn siŵr mewn gwirionedd fy mod yn gwybod ble mae Stevenage, ond ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o Gymru, ac nid ydynt yn gallu cyrraedd yr ychydig leoedd sydd gennym sy'n unedau diogelwch canolig. Mae gennym o leiaf 61 yn fwy o bobl sydd angen y math hwnnw o gymorth.
Oes, ac roeddwn am wneud y pwynt fod gennym yr unedau yng Nghymru; dyna'r pwynt roeddwn yn ei wneud.
A phan fo anghenion iechyd meddwl claf yn cael eu diwallu orau mewn uned arbenigol, mae byrddau iechyd yn edrych ar yr ansawdd. Yn gyntaf, gwneir penderfyniadau ynghylch yr ansawdd a'r math o ofal arbenigol a ddarperir i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion yr unigolyn. Yn ail, mae'r comisiynydd yn ystyried y pellter o adref ac unrhyw effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar y canlyniadau i'r unigolyn. A'r ystyriaeth derfynol fydd gwerth neu gost gyffredinol yr uned. Felly, ansawdd, pellter a gwerth yn y drefn honno yw'r ffactorau allweddol sy'n cael eu hystyried wrth leoli pobl y tu allan i Gymru ar gyfer gofal iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol.
A phan fydd cleifion yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru, rhoddir ystyriaeth hefyd i sicrhau y gall teuluoedd a pherthnasau gadw mewn cysylltiad tra bod eu hanwyliaid yn derbyn gofal oddi cartref. Gwn fod sylwadau wedi'u gwneud am achosion unigol, ac yn amlwg, ni allaf roi sylwadau arnynt, ond dyna'r gweithdrefnau sydd ar waith. Edrychir ar y mater pan wneir y lleoliadau.
Mae gennym drefniadau i sicrhau ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir yn yr unedau arbenigol y tu allan i Gymru. Mae fframwaith cydweithredol cenedlaethol GIG Cymru yn gytundeb a mecanwaith ffurfiol a ddatblygwyd gan uned comisiynu cydweithredol GIG Cymru a GIG Cymru. Mae'n galluogi pob rhan o GIG Cymru i gaffael a rheoli perfformiad gwasanaethau o dan safonau, costau, telerau ac amodau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Goruchwylir lleoliadau o dan y fframwaith cydweithredol cenedlaethol mewn lleoliadau gofal iechyd y tu allan i Gymru gan dîm gwella sicrwydd ansawdd GIG Cymru. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i fyrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru fod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn amgylchedd diogel o ansawdd uchel.
Mae tîm gwella sicrwydd ansawdd GIG Cymru hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda chyrff rheoleiddio yn Lloegr, gan gynnwys y Comisiwn Ansawdd Gofal. Roedd hyn yn wir yn sgil cau rhai o'r unedau yn Ysbyty St Andrew yn Northampton dros dro. Mae cyfarfodydd teirochrog rhwng y Comisiwn Ansawdd Gofal, GIG Lloegr a GIG Cymru yn parhau ar sail fisol ynglŷn â'r darparwr.
Cyhoeddasom y trydydd cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', sef yr un terfynol, ym mis Ionawr, ac roedd hwnnw'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd gyda'n partneriaid dros y tair blynedd nesaf i barhau i wella iechyd meddwl a lles meddyliol. Mae'r cynllun cyflawni newydd yn ymrwymo i gynnal archwiliad o'r ddarpariaeth bresennol o unedau diogelwch i gleifion mewnol, ac i ddatblygu strategaeth gadarn ar gyfer cleifion mewnol iechyd meddwl. Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n bodoli. Rydym wedi ymrwymo i gomisiynu gwerthusiad annibynnol i edrych ar ein cynnydd ers cyhoeddi'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2012, a fydd yn llywio ein cyfeiriad yn y dyfodol.
Ac i ateb y pwynt a wnaethpwyd mor rymus gan Delyth Jewell—ac roeddwn ar y pwyllgor pan edrychasom ar y mater hwn, ac rydym yn ymwybodol o'r materion emosiynol enfawr sy'n effeithio ar famau a babanod newydd-anedig—gofynnwyd i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sefydlu darpariaeth i famau a babanod yng Nghymru i alluogi mamau i gael cymorth mwy dwys pan fo'i angen. Yn ddiweddar, gofynasom iddynt archwilio'r ddarpariaeth dros dro ar frys tra rhoddir trefniadau mwy hirdymor ar waith ar safle Ysbyty Tonna, a disgwylir iddynt fod yn eu lle erbyn gwanwyn 2021. Felly, unwaith eto, mae yna gynllun. Byddwn yn darparu hynny. Ac rwyf am ailadrodd eto sut rydym—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Ddirprwy Weinidog, neu a yw eich amser ar ben?
Gwnaf, yn sicr. Wel, rwyf ar fin gorffen.
Ewch amdani, fe wnaf adael i chi—. Mae ei hamser ar ben.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am wneud y pwynt, er fy mod yn croesawu'r uned dros dro ar gyfer mamau a babanod yn Ysbyty Tonna wrth gwrs, mae Tonna bedair awr a hanner i ffwrdd oddi wrth famau yng ngogledd Cymru. A fyddech yn cytuno fod arnom angen ateb pwrpasol ar gyfer y broblem yn y gogledd-orllewin yn arbennig? Rwy'n credu bod y bwrdd iechyd yn barod i ddechrau trafodaethau ynglŷn â hynny gyda'r bwriad o gael darpariaeth yn y gogledd yn ogystal ag yn Ysbyty Tonna.
Yn sicr, ni fydd safle Ysbyty Tonna yn addas i fenywod sy'n dod o'r gogledd, felly yn bendant, mae'n rhaid edrych ar hynny.
Felly, beth bynnag, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd fod gennym gynlluniau i edrych ar yr holl faes anodd hwn, ond mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth absoliwt inni, ac mae gennym drefniadau ar waith i edrych ar ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr.
Diolch. A gaf fi alw ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl werthfawr yma ac wedi codi materion cwbl ddilys ac o bwys, ac yn enwedig y cyfeiriadau at rai o'r enghreifftiau echrydus rŷn ni, dwi'n ofni, yn dod yn rhy gyfarwydd o lawer â nhw.
Mi wnaf i ychwanegu un elfen arall at y drafodaeth yma hefyd, wrth gloi, oherwydd y flwyddyn ddiwethaf fe holais i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr faint o gleifion iechyd meddwl oedd yn cael eu danfon i ysbytai yn Lloegr ac, wrth gwrs, mae yna ddwsinau sy'n gadael y gogledd i gartrefi ac ysbytai iechyd meddwl ar hyd a lled Lloegr. Mewn llawer o'r rhain, wrth gwrs, mae'r gofal sy'n cael ei ddarparu yn addas, er, wrth gwrs, ei fod e yn bellach o adref nag y byddai unrhyw un ohonom ni yn ei ddymuno. Ond yn ôl y Care Quality Commission, sy'n asesu safonau gofal yn Lloegr, roedd llawer o'r sefydliadau lle danfonwyd cleifion o ogledd Cymru unai'n inadequate neu'n requiring improvement. Nawr, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwario miliynau lawer ar wasanaethau iechyd meddwl, a llawer o'r pres yna, wrth gwrs, yn mynd i'r sefydliadau yma yn Lloegr. Mae gen i bryder mawr am lefel y gofal yn yr ychydig sefydliadau yma. Mae yn gofyn cwestiwn o ba oruchwyliaeth sydd yno o'r cleifion mwyaf bregus yna os ydyn nhw gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'u teuluoedd, ac yn wir, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r bwrdd iechyd sydd yn eu gosod nhw yn y llefydd yna.
Cafodd dau gartref gofal yn benodol—cartref Wyke Cygnet Health Care yn Bradford, a safle Kneesworth Partnerships in Care—eu rhestru fel rhai annigonol gan y Comisiwn Ansawdd Gofal ar ôl ei arolwg. Casglwyd bod angen gwella tri arall. Ac mae'r rhain yn fethiannau difrifol. Barnwyd bod Wyke yn annigonol o ran diogelwch, effeithiolrwydd, gofal ac arweinyddiaeth dda. Ac o ran diogelwch, roedd hynny'n golygu bod cleifion yn wynebu risg o ran monitro a rheoli meddyginiaethau. Nawr, rwy'n cwestiynu a oedd y bwrdd iechyd yn ymwybodol o hynny, ac os oedd yn ymwybodol, wel, yn amlwg, mae cwestiwn i'w ofyn ynglŷn â pham yr anfonwyd y cleifion hynny yno. Nawr, fel y dywedais yn gynharach, hyd yn oed os yw, neu os oedd y gwasanaethau'n ddigonol—
Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, iawn, er bod fy amser eisoes wedi dod i ben.
Wel, roeddwn am ddweud y gallaf ateb hynny'n rhannol i chi, oherwydd bernir mai dinasyddiaeth eilradd ydyw, a bod yn onest, oherwydd nid oes dewis arall. Nid oes dim byd yn Lloegr y gallant droi ato, ac rwyf wedi cyfarfod â phobl wych sy'n ymwybodol iawn nad yw'r lleoliadau'n briodol, fel y rhai rydych newydd sôn amdanynt, ond nid oes dewis arall ganddynt, gan nad oes gennym ddim yng Nghymru ac nid oes unrhyw beth arall yn Lloegr, ar wahân i leoedd hyd yn oed yn bellach i ffwrdd. Ac mae'n drueni gan na fyddem yn trin pobl â chanser neu gyflyrau'r galon yn y ffordd rydym yn trin pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Diolch am hynny. A hefyd, wrth gwrs, mae'n fy atgoffa o bwynt arall, sef pam y mae bob amser yn draffig un ffordd? Pan fyddwn eisiau manteisio ar wasanaethau, rhaid inni fynd i Loegr. Pam nad oes gennym uchelgais i ddatblygu rhai o'r arbenigeddau hynny yma yng Nghymru, fel bod pobl yn Lloegr yn dod atom ni? Nid oes raid iddo fod yn draffig un ffordd. Nawr, rwy'n derbyn fod yn rhaid iddo fod o bryd i'w gilydd, ond nid bob amser, nid bob amser. A'r cynnig hwn yw ein cyfle i anfon neges glir yn hynny o beth, a hoffwn annog pob Aelod i gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.