– Senedd Cymru am 4:26 pm ar 11 Mawrth 2020.
Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r ddadl aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ddiagnosis cynnar o ganser. Galwaf ar David Rees i gyflwyno'r cynnig. David.
Cynnig NDM7238 David Rees, Angela Burns, Dai Lloyd, Mike Hedges, Jayne Bryant, Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod diagnosis cynnar o ganser yn gwella cyfleoedd goroesi.
2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob cenedl gael strategaeth ar ganser.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer canser yn cynnwys mwy o bwyslais ar ddiagnosis cynharach i gleifion ac iddo fod ar waith pan ddaw'r cynllun presennol i ben yn 2020.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig, a gyflwynwyd yn fy enw i y prynhawn yma. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi’r ddadl hon, ac yn arbennig i Angela Burns, a fydd yn cloi’r ddadl y prynhawn yma.
Mae Cancer Research UK wedi nodi y bydd un o bob dau o bobl yn y DU a anwyd ar ôl 1960 yn cael diagnosis o ryw fath o ganser yn ystod eu hoes. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 19,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi cael diagnosis o ganser. Bydd rhai yn goroesi canser, ond yn anffodus, ceir eraill nad ydynt gyda ni mwyach, ar ôl brwydro’n gadarn a chydag urddas yn erbyn canser.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd ystyrlon mewn cyfraddau goroesi, triniaeth a diagnosis, gydag ychydig dros hanner y bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yn byw am 10 mlynedd neu fwy, o gymharu ag un o bob pedwar ym 1970. Fodd bynnag, mae Cymru ar ei hôl hi’n gyson o gymharu â gwledydd tebyg mewn perthynas â chyfraddau goroesi canser.
Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng y gobaith o oroesi a chamau diagnosis mewn perthynas â chyfraddau goroesi 1 flwyddyn a phum mlynedd. Mae cyfraddau goroesi canser yn gostwng pan nad oes diagnosis cynnar ar gael. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofio: mae cyfraddau goroesi canser yn gostwng pan nad ydym yn cael diagnosis cynnar.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld cyfraddau goroesi un flwyddyn yn cynyddu, ynghyd â chyfraddau goroesi pum mlynedd. Mae'n amlwg fod diagnosis cynnar yn hollbwysig. Daw hyn yn fwy amlwg byth wrth edrych ar ganserau sy'n anos gwneud diagnosis ohonynt, fel canser yr ysgyfaint neu ganser y pancreas. Ychydig iawn o symptomau cam 1 os o gwbl sydd i ganserau fel hyn, neu symptomau sy'n amhenodol. Mae'n bwysig felly fod unrhyw strategaeth ar gyfer trin canser yn cynnwys pwyslais cryf ar ddiagnosis cynnar.
Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer canser, a gyhoeddwyd yn y pedwerydd Cynulliad, yn dod i ben. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai fod gan bob gwlad strategaeth ganser, ni waeth pa gyfyngiadau ariannol y maent yn eu hwynebu. Wrth i'r cynllun cyfredol ddod i ben, mae angen inni sicrhau bod gan Gymru strategaeth ganser gynhwysfawr newydd sy'n addas i'r diben mewn byd sy'n newid, a fydd ar waith pan ddaw'r cynllun cyflawni cyfredol hwn i ben ar ddiwedd y flwyddyn. Strategaeth ganser gynhwysfawr newydd sy'n diwallu angen cleifion, ac yn bwysicaf oll, yn gwella canlyniadau i gleifion.
Mae llawer o'r elusennau canser y siaradaf â hwy’n rheolaidd yn teimlo bod hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru, ac i'r Senedd hon, sefydlu gweledigaeth newydd i wella canlyniadau i gleifion, gan gynnwys atal, diagnosis cynnar, mynediad at driniaeth ac ymchwil canser sydd o fudd i gleifion. Ac maent yn credu fel finnau fod yn rhaid i'r strategaeth ganser newydd gael ei hategu gan gynnydd yn y capasiti diagnostig, fel y gellir cael diagnosis a thriniaeth gyflymach i wella canlyniadau i gleifion.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ganmol y ganolfan ddiagnosteg gyflym yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Mae'n enghraifft wych o sut i ddefnyddio diagnosteg yn gynnar, ac mae'n gweithio'n dda, gyda chleifion yn cael eu hatgyfeirio gan feddygon teulu os amheuir y gallai fod ganddynt ganser, pan fo symptomau amhenodol yn nodi arwyddion o ganser. Ymwelais â'r ganolfan yr wythnos diwethaf i weld y gwaith gwych y mae'r tîm yn ei wneud ar ddiagnosis cynnar o ganser. Ond mae'n cyflawni dwy swyddogaeth. Er y gall wneud diagnosis cynnar o ganser, gall hefyd dawelu meddwl y rheini nad oes canser arnynt yn gynnar hefyd. Ac rydym wedi gweld gostyngiad gan y tîm hwnnw o gyfnod aros o 84 diwrnod ar gyfartaledd i chwe diwrnod ar gyfartaledd. Am newid dramatig. Ac mae'n swyddogaeth a arweinir gan ofal sylfaenol.
Nawr, fel y mae’r cynnig yn ei nodi, mae diagnosis cynnar yn allweddol i wella cyfraddau goroesi canser, a gwyddom ei bod yn anos gwneud diagnosis o rai mathau o ganser. Rydym wedi sôn amdanynt yn barod: mae canser yr ofari a chanser y pancreas yn ddwy enghraifft o’r rheini sy’n cael diagnosis hwyrach. Ar gyfer yr wyth math mwyaf cyffredin o ganser gyda'i gilydd, mae cyfraddau goroesi fwy na theirgwaith yn uwch i'r rhai a gafodd ddiagnosis cynnar o gymharu â diagnosis ar gam diweddarach. Mae gwneud diagnosis i bobl ar y cam cynharaf yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfle gorau i gleifion oroesi. Un o'r prif ffactorau sy’n effeithio ar ba mor debygol yw rhywun o oroesi canser yr ysgyfaint, er enghraifft, yw pa mor gynnar y gwneir diagnosis—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch am ildio. Fe sonioch chi fod rhai mathau o ganser sy’n anos gwneud diagnosis ohonynt nag eraill, ac mae hynny wedi fy atgoffa o achos etholwr y mae Angela Burns, ein llefarydd iechyd, wedi bod yn ymwneud ag ef gyda mi hefyd. Bu farw gwraig yr etholwr a welsom, yn anffodus, o ganser yr ofari; ni chredaf i ddiagnosis gael ei wneud tan gam 4. Mae'n anodd iawn gwneud diagnosis o rai mathau o ganser fel canser yr ofari gan eu bod yn edrych fel cyflyrau eraill yn ystod y camau cynnar, beth bynnag fo'r cyflyrau hynny. Felly, a fyddech yn dweud—rwy’n falch iawn eich bod yn cyflwyno'r ddadl hon—fod rhan o hyn yn golygu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar rai o'r canserau sy'n anos gwneud diagnosis ohonynt ac efallai edrych ar beth o'r dystiolaeth sydd i’w chael, yn enwedig algorithmau, er enghraifft, y bu fy etholwr yn edrych arnynt gydag arbenigwr ym Mhrifysgol Caerdydd, a all wneud y broses ddiagnosis honno'n llawer haws fel y gallwch ganfod y canserau hyn yn llawer cynt?
Cytunaf yn llwyr â Nick. Mae canser yr ofari yn enghraifft o ble mae hynny’n anodd, ac yn aml iawn, rydym yn gweld bod cleifion â chanser yr ofari yn cael diagnosis yng ngham 4. Roedd ffrindiau i ni yn yr un sefyllfa, ac yn anffodus, fe fu farw'r wraig. Mae'n sefyllfa lle mae'n rhaid i ni ystyried y ffordd rydym yn mynd i'r afael â'r canserau anodd eu canfod. Ac roeddwn ar fin tynnu sylw at un enghraifft o ganser anodd ei ganfod, ond mae'n bwysig ein bod yn rhoi'r pwyslais ar hynny hefyd i sicrhau ein bod yn edrych ar fesurau a thechnegau newydd ac arloesol a fydd yn gwneud hynny. Rhoddaf un enghraifft, gan mai un o'r prif ffactorau am ganser yr ysgyfaint yw bod 27 y cant o'r achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu gwneud ar y cyfle cynharaf—27 y cant—felly nid yw hynny’n digwydd yn nhri chwarter yr achosion, sy'n golygu bod tri chwarter yr achosion yn cael eu diagnosis yng nghamau 3 neu 4.
Nawr, cadarnhaodd astudiaeth NELSON eleni, ym mis Ionawr 2020—astudiaeth a gyflawnwyd gan ymchwilwyr yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg—fod tystiolaeth yn cefnogi’r syniad y gall sgrinio wedi'i dargedu ar gyfer canser yr ysgyfaint helpu i'w ganfod yn gynharach. Nawr, mae'n newydd ac mae'n gynllun peilot, ond efallai y gallem ni yng Nghymru gyflawni cynlluniau newydd, arloesol fel hwn lle bu ymchwil sydd wedi dangos bod hwn yn ddull a all weithio. A'r dull yw sgrinio'n gynnar drwy sganiau tomograffeg gyfrifiadurol. Dyna un o'r ffyrdd yr awgrymir eu bod yn well; roeddem yn arfer ei wneud drwy belydr-x, ond gall sganiau tomograffeg gyfrifiadurol wneud hyn yn well bellach. A allem edrych ar gynllun peilot ac ar yr enghraifft honno a gwneud hynny yng Nghymru, ac arwain ar fynd i’r afael â’r sefyllfa, arwain yn y DU ac arwain yn Ewrop, o ran edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technegau arloesol a thechnoleg fodern i’n helpu i wneud diagnosis cynnar? Rwy'n siŵr y down o hyd i feysydd tebyg hefyd, boed yn ganser yr ofari, y pancreas neu ganserau eraill y gwneir diagnosis hwyr iawn ohonynt.
Felly, ers cyflwyno'r cynllun cyflawni ar gyfer canser, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei phenderfyniad yn 2018 i weithredu’r llwybr canser sengl a ddaeth yn weithredol ym mis Mehefin y llynedd. O ganlyniad, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn datblygu cynllun i sicrhau bod y rhan fwyaf o’u cleifion, o'r pwynt cyntaf yr amheuir bod canser arnynt, yn cael profion diagnostig ar gyfer canser ac yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod. Yn yr un modd, ar gyfer cleifion nad oes canser arnynt, bydd eu meddyliau’n cael eu tawelu'n gyflym, gan leihau straen a phryder diangen i'r unigolion hynny a'u teuluoedd. Y llwybr canser sengl yw canlyniad mwy na thair blynedd o waith i newid y ffordd y mae ein byrddau iechyd yn canfod ac yn adrodd am ganserau, ac i wella profiadau cleifion â chanser. Am y tro cyntaf, mae byrddau iechyd yn cofnodi pa mor hir y mae cleifion yn aros o'r pwynt cyntaf yr amheuir bod canser arnynt, ni waeth sut y daethant i mewn i'r system gofal iechyd. Mae’n rhaid i'r strategaeth ganser nesaf adeiladu ar hyn i nodi meysydd i'w gwella o dan y llwybr canser sengl er mwyn gwneud diagnosis a thrin cymaint o gleifion mor gynnar â phosibl. Felly, rydym wedi dechrau, ond mae angen i ni wneud mwy.
Hefyd, mae angen inni sicrhau bod y nifer sy'n cael eu sgrinio yn gwella. Nawr, yn amlwg, mae canser ceg y groth yn un rydym yn sôn amdano yn aml, neu efallai nad ydym yn yr achos hwn, a dylem wneud mwy. Ond pan ddigwyddodd effaith Jade Goody, gwelsom ymchwydd yn y gofynion sgrinio yn dilyn ei marwolaeth. Yn anffodus, mae’r effaith honno bellach wedi pylu, er gwaethaf gwaith aruthrol elusennau canser, fel Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo. Mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cael y profion hanfodol hyn. Mae sgrinio am ganser ceg y groth bob pum mlynedd wedi arwain at ostyngiad o 70 y cant yn y marwolaethau o ganser. Felly, mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu sgrinio a'i wneud yn dderbyniol i bobl. Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am sgrinio am ganser y coluddyn a'r nifer isel sy'n manteisio ar hynny a'r nifer uchel sy'n manteisio ar sgrinio am ganser y fron. Mae angen inni roi llawer mwy o bwyslais ar hyn ac ar strategaeth i fynd i'r afael â hyn.
Ond gallwn wneud mwy drwy symud gyda'r oes a defnyddio datblygiadau technolegol er budd cleifion, a sicrhau bod gan bawb fynediad at y prawf mwyaf diweddar a mwyaf cywir i sicrhau bod pobl â chanser yn cael eu trin yn gyflym ac yn y modd gorau ar gyfer eu diagnosis.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwylio fy amser a byddaf yn sicrhau bod gan Angela ddigon o amser i ymateb. Felly, rwyf am gloi ychydig yn gynt nag y byddwn wedi ei wneud, ond rwyf am gloi drwy atgoffa’r Aelodau am y gweithlu gwych sydd gennym yn y GIG yma yng Nghymru. Mae'n weithlu sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob claf yn cael y profiad gorau, ni waeth beth yw eu diagnosis. Ond mae'n rhaid inni gydnabod y pwysau sydd arnynt. Un o'r pethau a glywsom yn aml mewn cwestiynau blaenorol ar y cynllun cyflawni cyfredol ar gyfer canser oedd nodi'r gweithiwr allweddol yn hyn o beth, gan fod y gweithiwr allweddol yn hollbwysig i'r claf ac i ganlyniadau'r claf hwnnw. Unwaith eto, mae'n rhaid inni gefnogi'r claf yn ogystal â’r gweithlu gan eu bod yn cefnogi'r claf, ac mae’n rhaid inni gefnogi'r claf yn ystod y diagnosis, yn ystod y driniaeth ac ar ôl y driniaeth. Ni ddylem anghofio pan fyddant yn goroesi hefyd. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn.
Hoffwn sôn am y syniad o arloesedd yn hyn oll a chrybwyll y ganolfan ddiagnosteg gyflym yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, y bûm yn ymweld â hi ychydig wythnosau yn ôl—gwn fod David wedi bod yno hefyd—a diolch i Helen Gray a Dr Heather Wilkes am yr amser a roesant i ni yno. Maent yn fenywod ysbrydoledig iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Mae'r cyfleuster hwn yn dangos beth y gallwch ei wneud os oes gennych benderfyniad i wneud rhywbeth yn hytrach na bod disgwyl i chi wneud rhywbeth yn unig. Credaf ei bod yn werth sôn hefyd ein bod wedi cyfarfod â meddyg Macmillan, pan oeddwn i yno'n sicr, ac ymddengys mai cael yr holl feddygon gyda’i gilydd mewn un ystafell ar ddechrau taith y claf oedd y ffactor allweddol mewn gwasanaeth a oedd yn syndod mawr i mi.
Rwy'n ei alw'n syndod oherwydd ei fod yn wasanaeth gofal sylfaenol lle mae'n cymryd pump i chwe diwrnod yn unig i wneud diagnosis a chychwyn y camau cyntaf tuag at driniaeth briodol. Ac mae hynny o gymharu â'r hyn a oedd i’w gael cyn hynny, sef proses a oedd yn cymryd dros 80 diwrnod i wneud diagnosis a'i chychwyn. Meddyliwch am yr ansicrwydd a'r pryder i'r unigolion hynny wrth iddynt aros am 80 diwrnod, heb sôn am ddatblygiad y clefyd, sy'n ymwneud â diagnosis cynnar, wrth gwrs. Mae hynny oll yn diflannu os gallwch ddatrys hyn o fewn wythnos. Hyd yn oed os yw'r diagnosis yn un rydych yn ei ofni, rydych yn cael sicrwydd yn gynnar iawn yn y broses y gallai fod yn bosibl goroesi hyn hyd yn oed, a chredu hynny'n gynnar.
Agorwyd y ganolfan ddwy flynedd a hanner yn ôl i gymryd camau i leihau'r hanes eithaf gwael sydd gan Gymru o ran canlyniadau. Hyd yn oed yn y byd datblygedig, mae'r DU gyfan mewn gwirionedd, ond Cymru yn enwedig, yn bell ar ei hôl hi o gymharu â rhai o wledydd llawer tlotach dwyrain Ewrop. Gwnaeth rhwydwaith canser Cymru gais am gynllun peilot ar ôl gweld syniad da iawn ar waith yn Nenmarc, a oedd yn ymwneud â symptomau amhendant, y buom yn sôn amdanynt yn gynharach, a sut y caent eu trin yno, ac roedd hynny wedi arwain at ddiagnosis cynnar a chanlyniadau da iawn o ran gostwng nifer y marwolaethau hefyd.
Yr hyn a fu’n allweddol i lwyddiant Denmarc oedd eu hymagwedd wahanol tuag at symptomau amhendant. Felly, i gymharu, yng Nghymru, pan fo meddygon teulu yn atgyfeirio claf ag arwyddion cyffredin iawn o ganser, byddant yn dechrau ar y llwybr canser cyfarwydd y gwyddom amdano. Fodd bynnag, pan nad yw'r symptomau hynny mor amlwg—mae David Rees wedi crybwyll cryn dipyn ohonynt—pan nad ydynt yn bendant, mae'r achosion hynny'n cael eu hisraddio yn y system sy’n golygu, hyd yn oed pan fydd meddyg teulu yn credu’n reddfol fod gan unigolyn ganser ond heb symptomau pendant, maent yn mynd ar goll yn y system yn gynt o lawer. Yn Nenmarc, drwy sefydlu—fe’i galwaf yn glinig symptomau amhendant, os mynnwch. Roedd 30 y cant o'r bobl a ddeuai drwy'r drysau hynny yno oherwydd greddf meddyg teulu, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy’n werth ei ystyried wrth inni symud yn agosach tuag at dechnoleg ym maes gofal iechyd. Oherwydd efallai y gall deallusrwydd artiffisial wneud llawer iawn o waith i ddarganfod y 50 y cant o ganserau nad oes ganddynt symptomau amlwg, ond mae angen i gleifion fynd i mewn i'r system yn y lle cyntaf. Mae angen iddynt gael eu hatgyfeirio yn y lle cyntaf gan feddyg teulu, hyd yn oed i gael—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf. Rwy’n credu bod amser gennyf.
Diolch. Credaf fod yr hyn y soniwch amdano’n bwysig iawn, gan fod pobl sydd fel arfer yn iach ymhlith y gwaethaf. Rwy'n meddwl am ein cyd-Aelod Steffan Lewis, a oedd yn unigolyn heini ac iach iawn. Ni chafodd ddiagnosis tan ei fod yn ddifrifol wael, yng ngham 4. Mae cael diagnosis cynnar mor bwysig.
Wel, gallaf—. Rydych yn dewis un o'r enghreifftiau tristaf o bosibl o’r union bwynt hwnnw, Mike, gan y bydd pobl yn teimlo'n sâl ar brydiau amrywiol, a dim ond meddwl, 'O, mae’n rhaid mai feirws sy'n pasio yw hwn' neu beth bynnag, yn hytrach na manteisio ar y cyfle i fynd i mewn i system a allai achub eu bywydau.
Un peth da hefyd am y system sydd ganddynt yng Nghastell-nedd Port Talbot, ar wahân i'r ffaith eich bod yn cael eich galw i mewn, yw eich bod yn cael profion a'ch canlyniadau’n cael eu dehongli ac rydych yn cael diagnosis o fewn wythnos—wythnos, dychmygwch hynny—ac mae hynny'n digwydd am fod gennym radiolegwyr a nyrsys a meddygon teulu, meddygon perthnasol eraill efallai, yn yr ystafell yn gynnar yn y broses. Dyna sy'n allweddol, yn ôl pob golwg, i ddatrys y problemau oedi, fel rwy'n dweud. Y ffaith eu bod yn digwydd mor gyflym ym Maglan—pam ar y ddaear na ellir gwneud hynny mewn mannau eraill? Oherwydd, unwaith eto, nodaf y gwahaniaeth hwnnw rhwng saith—wel, chwe diwrnod mewn gwirionedd—ac 80 diwrnod. Os gellir gwneud hyn yno, pam ar y ddaear na ellir ei wneud yn unman arall?
O'r rheini y darganfyddir fod canser arnynt ar ba bynnag gam, bydd canser sylfaenol 85 y cant ohonynt yn cael ei ganfod o fewn y chwe diwrnod hwnnw. Mae hynny'n anhygoel. Nid yw pawb sydd â symptomau amhendant, wrth gwrs, yn cael diagnosis o ganser. Ar hyn o bryd, mae'r ffigur oddeutu 11 y cant yn ogystal â'r achosion mwy amlwg. Ond i bob un o'r bobl hynny, mae'n ddiagnosis cynharach ac yn llwybr at driniaeth—llwybr cyflymach, dylwn ddweud—nag unrhyw le arall yng Nghymru.
Hoffwn orffen—. A wnewch chi roi ychydig mwy o amser i mi?
Parhewch, ac fe ddywedaf wrthych pan fyddwch—.
Gwych. Diolch.
Mae hyn yn darganfod clefydau eraill hefyd, sydd wedyn yn cael eu trin yn wahanol, ond gyda mwy o frys. Ond yr un peth roeddwn am ei bwysleisio i'r Dirprwy Weinidog yw bod y llwybr byr hwn at ddiagnosis yn rhatach o lawer na'r un hir. Mae'n costio £500 i gael y diagnosis chwe diwrnod hwn a chael eich atgyfeirio at driniaeth, a phum gwaith cymaint â hynny ar y llwybr 80 diwrnod. Felly, os yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i'ch perswadio i ddechrau cyflwyno hyn ledled Cymru, rwy'n gobeithio y bydd wedi gwneud ei waith. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. A gaf fi gymeradwyo David Rees, am gychwyn y ddadl hon—mater pwysig iawn, a chytunaf â phob rhan o'r cynnig—a hoffwn wneud tri phwynt sylfaenol oherwydd, yn amlwg, fel yr amlinellodd David, mae arnom angen strategaeth newydd ar gyfer canser eleni bellach yn lle'r cynllun presennol ar gyfer canser sy'n dod i ben? Mae hynny'n amlwg, buaswn wedi meddwl, er yr hoffem weld cadarnhad o hynny. Mae profiadau byd-eang yn cydnabod bod yn rhaid i wledydd gael cynllun ar gyfer canser, felly gadewch inni sicrhau bod gennym un wrth symud ymlaen, gan fod yr un presennol yn dod i ben eleni.
Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud yw bod llawer o hyn yn ymwneud â diagnosteg—y datblygiadau mwyaf diweddar, maent yn tueddu i fod yn ddrud ond maent yn dda—ac elfennau o'r gweithlu hefyd. Yn amlwg, gyda'r pwyllgor iechyd, rydym wedi cyflawni sawl adolygiad dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi amlygu pryderon ynglŷn â'r gweithlu. Nid yw'n ymddangos bod gennym ddigon o staff ym mha arbenigedd bynnag, o feddygon teulu i fyny, ond yn enwedig staff diagnostig hefyd—nid diffyg offer yn unig bellach, ond diffyg staff diagnostig. Gwelsom hynny gyda'r adolygiad o endosgopi a gynhaliwyd gennym. Nid oes digon o endosgopyddion arbenigol. Nid oes yn rhaid i bob un ohonynt fod yn feddygon; gall nyrsys arbenigol ei wneud. Ond pwy bynnag sydd â'r endosgop yn eu llaw, mae angen mwy ohonynt er mwyn gallu gwneud diagnosis o ganserau, yn gynnar neu'n hwyr.
Ac yn amlwg, mae'n bwysig—. Mae'n ddrwg gennyf, Huw.
Dai, diolch am godi'r mater pwysig hwnnw. A wnewch chi nodi, yn hyn o beth, y ffaith ei bod yn debygol y bydd un o bob wyth o'r boblogaeth bellach yn cael diagnosis, yn enwedig wrth iddynt heneiddio, o ganser y prostad, a gwaith Prostate Cymru, sy'n gweithio ar fater diagnosis gyda gweithwyr meddygol proffesiynol o bob math ar bob cam o'u gyrfa, i sicrhau nid yn unig eu bod yn ymwybodol ond eu bod yn ymwybodol o sut i wneud y diagnosis yn gywir—felly, gweithio gyda myfyrwyr a meddygon ymgynghorol i uwchraddio eu gwybodaeth wrolegol fel y gallant wneud y diagnosis? Mae pethau ymarferol o'r fath yn wirioneddol bwysig.
Yn sicr. Ac mae rhai pethau cyffrous yn digwydd. Mae'n amser cyffrous i fod yn feddyg arbenigol, ac yn nyrs hefyd, y dyddiau hyn. Mae'n faes cyffrous iawn, o ran diagnosis, rheoli a thrin canser. Ond yn amlwg, mae llawer o heriau, a dyna pam fod angen strategaeth newydd ar gyfer canser wrth symud ymlaen, gan mai un o'r materion pwysig o ran diagnosis cynnar yw ansicrwydd. Mae'r ganolfan ddiagnosteg gyflym newydd hon yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gwbl drawsnewidiol, oherwydd cyn hynny, fel meddygon teulu, roedd angen o leiaf un symptom a oedd yn faner goch. Byddech yn dod i fy ngweld, byddai'n rhaid eich bod wedi colli cryn dipyn o bwysau neu fod gennych waedu rhefrol, anaemia neu boen penodol i dicio blwch—mae'r rheini'n faneri coch—i gyfiawnhau atgyfeiriad pythefnos. Hyd yn oed pe bawn yn teimlo'n reddfol fod rhywbeth mawr o'i le gyda chi, ond nad oeddech yn ticio un o'r blychau, ni fyddai modd i mi eich atgyfeirio o fewn pythefnos. Yn amlwg, byddech yn cael canser yn y pen draw, a byddai pobl yn edrych yn ôl a dweud, 'A, y meddygon teulu hynny—da i ddim.' Penawdau'r Daily Mail: 'Ni allant wneud diagnosis i bobl mewn pryd'. Ond nid oeddem yn cael atgyfeirio, nid oedd caniatâd i ni atgyfeirio o fewn pythefnos oni bai fod gennych symptom baner goch.
Pe bawn yn meddwl eich bod yn sâl, ond nad oedd gennych symptom baner goch, ni allwn wneud unrhyw beth yn ei gylch. Gallaf wneud hynny bellach. Dyna ogoniant y ganolfan ddiagnosteg gyflym hon. Mae'n sylweddoli ac yn gwneud llawer mwy o'r teimlad greddfol hwnnw rydym bob amser wedi'i gael fel meddygon teulu. Yn gyffredinol, ar ôl i ni fod ym maes ymarfer cyffredinol am beth amser, gallwn ddweud a oes rhywbeth o'i le arnoch, gan ein bod wedi eich adnabod ers blynyddoedd, yn y bôn—Rhif 1—ac er efallai na fydd eich symptom yn ymddangos ar ryw siart fel baner goch neu am nad yw'r profion gwaed wedi newid eto, 'Nid ydych yn edrych yn iawn', ac mae hynny'n cyfiawnhau—. Mae'r teimlad greddfol hwnnw, am y tro cyntaf, wedi ein galluogi i wneud diagnosis brys. Dyna'r naid ymlaen rydym wedi bod yn gofyn amdani ers blynyddoedd fel meddygon teulu, i gael diagnosis cynnar. Mae'n gwbl drawsnewidiol.
Oherwydd gyda chanser yr ofari—rydym yn sôn yn aml am ganser yr ofari—un o'r symptomau cynharaf ar gyfer hynny yw stumog chwyddedig—stumog chwyddedig. Wel, ar unrhyw adeg, bydd y rhan fwyaf o'r boblogaeth ganol oed ac oedrannus â stumogau chwyddedig. Gallwn atgyfeirio pob un ohonoch, ond ni fyddai hynny'n helpu'r cyfraddau diagnosis cynnar o ran canser yr ofari. Ond mae rhywbeth arall gyda chanser yr ofari—nid ydych yn edrych yn dda i mi, mewn ffordd amhenodol, a buaswn yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld. A dim ond yn ddiweddar rydym ni fel meddygon teulu yn ardal Castell-nedd Port Talbot wedi cael y gallu hwnnw. Mae ei angen arnom ledled Cymru, oherwydd mewn mannau eraill, rydym yn dal i ddisgwyl i'r blychau baner goch gael eu ticio. Mae angen i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno ar unwaith ac mae angen strategaeth newydd ar gyfer canser. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i David am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon. Fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf dystio i'r ffaith bod diagnosis cynnar yn achub bywydau, oherwydd heb feddyg ymgynghorol anhygoel, gyda chefnogaeth tîm o nyrsys a staff diagnostig yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ni fuaswn yma heddiw. Oherwydd ar ôl cael mamogram, pan oeddwn yn dawnsio allan drwy'r drws am eu bod wedi dweud nad oedd unrhyw beth i'w weld arno, cefais fy ngalw yn ôl gan feddyg ymgynghorol craff, a ddywedodd, 'A allwch ddod yn ôl, oherwydd ymddengys bod rhywbeth o'i le, er ei fod yn glir?' Ac roedd hyn oherwydd bod y tiwmor a oedd gennyf yn y fron yn diwmor tryleu ac nid oedd modd ei weld ar yr adeg honno.
Felly, hoffwn ddiolch i'r meddyg ymgynghorol hwnnw am achub fy mywyd, yn ogystal â fy holl ffrindiau, fy nheulu a fy nyweddi ar y pryd, sydd bellach yn ŵr i mi—cawsom briodas hyfryd i ddathlu hynny, a gall Suzy Davies gadarnhau pa mor hapus a rhyfeddol oedd yr achlysur hwnnw, ac roedd yn ddathliad o oroesi canser, Suzy, fel y gallwch chi ddweud. Felly, diolch i bawb a'm helpodd i wella, ac mae 13 mlynedd wedi bod ers hynny, felly credaf y dylai hyn roi hyder i lawer iawn o bobl symud ymlaen yn y camau cynnar.
Yn anffodus, nid yw pawb mor lwcus â mi, ac nid wyf yn cymryd unrhyw ddiwrnod yn ganiataol. Yng Nghymru, rydym yn gweld bron i 20,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn, ac yn anffodus, dim ond 50 y cant o'r rheini sy'n cael diagnosis o ganser sy'n goroesi am fwy na 10 mlynedd. Rydym yn perfformio'n wael o ran cyfraddau goroesi canser o gymharu â gwledydd eraill, a dyna pam ei bod yn hanfodol fod gennym strategaeth ganser gynhwysfawr ac uchelgeisiol sy'n mynd i'r afael â'n diffygion yn y llwybr at ddiagnosis cynnar.
Mae diagnosis cynnar yn hanfodol ar gyfer goroesi yn y tymor hir, ac mae canfod canser yn ddigon cynnar yn golygu bod cyfraddau goroesi oddeutu 90 y cant. Mae diagnosis hwyr yn arwain at ostyngiad yn y cyfraddau hynny i lai na 10 y cant. Mae gennym gyfle anhygoel i wneud rhywbeth am hynny, ond ni fydd newidiadau'n digwydd dros nos. Daw'r cynllun cyflawni cyfredol ar gyfer canser i ben eleni, ac felly gallwn sicrhau bod yr un a ddaw yn ei le yn fwy uchelgeisiol, yn diwallu anghenion mwy o gleifion ac yn gwella cyfraddau goroesi. Cafwyd datblygiadau anhygoel yn niagnosteg canser, fel MRI amlbaramedr ar gyfer canser y prostad a'r prawf imiwnogemegol ysgarthion ar gyfer canser y coluddyn. Mae'r ddau beth yn gwella cyfraddau canfod, ac felly'n cynorthwyo i wneud diagnosis cynnar, ond oherwydd prinder staff ac amrywio rhanbarthol, nid ydynt mor effeithiol ag y gallent fod. Yn achos MRI amlbaramedr, nid yw pob bwrdd iechyd yn ei ddarparu gyda chyferbyneddau deinamig estynedig.
Aeth fy ngŵr drwy ddau biopsi ymyrrol a phoenus, cafodd sepsis ddwywaith, a ddwywaith aeth drwy wythnosau o adferiad poenus i geisio cyfyngu ar y diagnosis o gynnydd yn y sepsis, os mynnwch. Dywedwyd wrth fy ngŵr fod ganddo ganser y prostad. Y geiriau a ddefnyddiwyd oedd, 'Mae'n bendant yn falaen', ar ôl y sgan MRI amlbaramedr, 'ac mae wedi'i leoli yn ochr dde'r prostad'. Nawr, bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal yn ansicr a oes canser arno oherwydd, ar ôl biopsi arall, cawsom newyddion da—nid canser mohono wedi'r cyfan. Felly, mae'n dal i fynd drwy'r cam diagnostig, sydd—. Mae hyn bron—credaf fod 18 mis i ddwy flynedd wedi bod bellach. Yn anffodus, mae ei achos ymhell o fod yn unigryw.
Felly, rydym wedi cael ychydig o gynnydd araf, ond mae ymdrechion yn cael eu rhwystro oherwydd diffyg radiolegwyr hyfforddedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o arian tuag at wella darpariaeth MRI, ac wedi creu academi ddelweddu ar gyfer Cymru a fydd yn arwain at welliannau, ond nid yw hynny'n gwneud llawer i wella cyfraddau goroesi yn y tymor byr i'r tymor canolig. Mae diffyg cynlluniau strategol ar gyfer y gweithlu hefyd wedi effeithio ar gyfraddau goroesi canser y coluddyn. Mae gan y prawf imiwnogemegol ysgarthion newydd botensial i chwyldroi gofal canser y coluddyn, ond oherwydd prinder staff yn y gweithlu, rydym wedi gosod y trothwy profi yn llawer is na rhannau eraill o'r byd datblygedig. Nid yw'n syndod felly ein bod, ar gyfer canser y coluddyn, yn safle rhif 25 allan o 29 yn Ewrop, y tu ôl i lawer o wledydd tlotach yr hen floc Sofietaidd.
Mae'n rhaid inni sicrhau bod gan ein strategaeth ganser newydd dargedau mwy uchelgeisiol, gwell cynlluniau ar gyfer y gweithlu, a bod ganddi strategaethau i wella sgrinio, cyfraddau sgrinio a'i bod yn dod â'r loteri cod post hwn i ben. Wedi'r cyfan, nid cofnodion ar daenlen yw'r ystadegau a ddyfynnais—maent yn bobl go iawn: ein gwŷr, ein gwragedd, meibion, merched, mamau a thadau, ffrindiau a chydweithwyr. Felly, ein dyletswydd iddynt, i bob unigolyn â chanser, yw gwneud yn well, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Rwyf innau'n croesawu'r ddadl hon a gyflwynwyd gan David Rees AC. Mae'n wir ein bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn y wlad hon, ond mae'n wir o hyd, fel y mae llawer wedi'i nodi, fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd tebyg o ran cyfraddau goroesi canser, er gwaethaf y gostyngiad yn y cyfraddau marwolaeth. Credir mai'r prif ffactor sy'n gyfrifol am yr oedi hwn yw'r ffaith bod llawer o ganserau'n cael eu canfod yn hwyr, ac mae Ymchwil Canser Cymru wedi dweud bod diagnosis hwyr yn gymhleth ac yn aml-ffactor, ac y gall ddeillio o ddiffyg ymwybyddiaeth o symptomau, cleifion yn teimlo gormod o embaras i weld eu meddyg teulu, neu fel arfer, yn gorfod gwneud sawl ymweliad dros gyfnod hir o amser cyn bod y meddyg teulu'n atgyfeirio'r claf i gael archwiliad arbenigol. Bydd system y faner goch, fel y nodwyd gan Dai gyferbyn, yn cynorthwyo'r proffesiwn meddygol i wneud y dasg benodol honno.
Mae Llywodraeth Cymru a'i Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wedi deall pwysigrwydd yr oedi hwn, a bydd hefyd yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r her real hon. Bydd y llwybr canser sengl pwysig a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2019 fel dull newydd o fesur amseroedd aros canser yn ffactor ychwanegol hefyd. Ond mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu diagnosteg a systemau sylfaenol o fewn y llwybr canser sengl i neud diagnosis a thrin cynifer o gleifion cyn gynted â phosibl, a bydd strategaeth ganser newydd, fel y nododd llawer ohonoch, yn disodli'r cynllun cyflawni presennol—mae'n adeg lle gallem ganolbwyntio ar y diagnosis cynnar critigol hwn a'i bwysleisio, ac yn yr un modd, gwneud gwaith ar gynllunio'r gweithlu arbenigol a hyfforddiant ar lwybrau canser arbenigol, er enghraifft, endosgopi a llawer o rai eraill.
Bydd y ffocws newydd ar atal a diagnosis cynnar yn allweddol er mwyn nodi symptomau clefyd yn gynnar, eu trin yn gynnar a gwella cyfraddau goroesi, a bydd y gronfa triniaethau newydd a gweithredu'r gweithiwr allweddol arbenigol i gynorthwyo cleifion canser yn helpu ac yn gwella, unwaith eto, y cyfraddau goroesi fel y maent ar hyn o bryd. Ond nid ar ystadegau y mae sylw'r ddadl hon heddiw. Fel y mae eraill wedi dweud, mae'n ymwneud â phobl go iawn, fel fy nhad, a gafodd ddiagnosis cam cynnar o ganser y coluddyn yn ddiweddar. Oherwydd y diagnosis cynnar a chynllun gofal rhagorol sy'n canolbwyntio ar y claf, mae bellach yn gwella. Mae'n lwcus, ac mae'n rhaid i'w daith gael ei hailadrodd yn awr drwy bob dull newydd ledled Cymru.
Y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch, a diolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Credaf mai un peth y gall pob un ohonom gytuno arno yw bod angen i ganser fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth, o ystyried nifer y bobl yr effeithir arnynt gan ganser, fel y dywedodd David Rees yn ei gyflwyniad, ac wrth gwrs, effaith ddinistriol diagnosis yn aml, a'r effaith ehangach ar ein GIG.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi cael cynllun cyflawni ar gyfer canser ar waith ers 2014. Mae hwn yn canolbwyntio'n sylweddol ar ganfod canser yn gynharach, ac rydym wedi bodloni galwad Sefydliad Iechyd y Byd i'w aelodau fod â rhaglen reoli canser ar waith ers cryn amser. Ond fe fyddwch yn gwybod, ac mae sawl un ohonoch wedi cyfeirio at hyn heddiw, y bydd nifer o gynlluniau cenedlaethol ar glefydau penodol yn dod i ben ym mis Rhagfyr eleni, ac rydym wedi bod yn rhoi cryn dipyn o sylw i'r hyn a ddylai ddod yn eu lle. Felly, rwy’n falch o gadarnhau heddiw, efallai ychydig yn gynharach na’r bwriad, fod y Gweinidog wedi gofyn i swyddogion fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu dull i olynu’r cynllun cyflawni ar gyfer canser. Mae'r Gweinidog hefyd wedi gofyn am ddatblygu dull olynol ar gyfer clefyd y galon a strôc, ac ar gyfer y cynlluniau eraill a ddaw i ben ym mis Rhagfyr, am roi estyniad o flwyddyn fel y gallwn gyflwyno trefniadau olynol yn raddol. Felly, rwy'n falch o allu ymateb i chi gyda'r wybodaeth honno heddiw.
Un ystyriaeth bwysig fu'r gwaith o ddatblygu nifer o ymrwymiadau yn 'Cymru Iachach' sydd â goblygiadau i'r ffordd rydym yn mynd ati i wella canlyniadau ar gyfer cyflyrau difrifol fel canser. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu gweithrediaeth y GIG, y fframwaith clinigol cenedlaethol, y cynllun ansawdd a chyflwyno datganiadau ansawdd. Mae'n bwysig iawn fod yr ymrwymiadau hyn yn cysylltu â'i gilydd yn gadarn yng nghyd-destun canser fel y gallwn gyflawni gwelliannau mewn gwasanaethau a chanlyniadau yn gynt ac yn fwy effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'n wir y bydd y dull i olynu'r cynllun cyflawni ar gyfer canser yn canolbwyntio mwy ar ganfod canser yn gynharach. Mae'r cynllun cyfredol yn cydnabod bod canfod canser yn gynt yn debygol o wella cyfraddau goroesi—ac mae llawer o Aelodau wedi gwneud y pwynt hwnnw heddiw. Dwy gydran allweddol o ymarfer atgyfeirio a mynediad mewn gofal sylfaenol yw mynediad at ofal diagnostig. Mae gennym lawer iawn o weithgarwch wedi'i dargedu at y ddwy gydran hyn, ond rydym am wneud mwy a'i wneud yn gyflymach yn y blynyddoedd i ddod. Mae wedi bod yn braf iawn clywed y ganmoliaeth i ganolfan ddiagnosteg gyflym Castell-nedd Port Talbot yma heddiw, a'r gostyngiad dramatig yn hyd yr amser aros.
Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod ein rhaglenni sgrinio—
O ran y pwynt penodol hwnnw, rydym wedi clywed pa mor llwyddiannus yw'r ganolfan ddiagnosteg benodol honno. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y byddai'n wych cael mwy ohonynt, yn enwedig yng ngogledd Cymru. A fydd y cynllun gofal canser—a fydd yn edrych ar yr agwedd benodol honno hefyd?
Bydd mwy o bwyslais ar ganfod canser yn gynharach. Mae hynny'n mynd i fod yn rhan o'r cynllun newydd.
Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod ein rhaglenni sgrinio yn cael eu hoptimeiddio. Mae llawer o bobl wedi sôn am y rhaglenni sgrinio yma heddiw. Rwy'n derbyn bod angen gwneud mwy i annog y rheini sy'n gymwys i gael eu sgrinio i fanteisio ar y cyfle. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dîm ymgysylltu penodol ar gyfer sgrinio sy'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o sgrinio a hybu dewisiadau gwybodus.
Credaf ei bod yn bwysig cofio nad yw'r targed ar gyfer pob rhaglen sgrinio yn darged ar gyfer nifer y bobl yr hoffem eu gweld yn cael eu sgrinio; safonau yw'r rhain y mae'n rhaid i'r rhaglen eu cyflawni er mwyn bod yn hyfyw a darparu budd cyffredinol i iechyd y cyhoedd ar lefel y boblogaeth. Yn amlwg, mater o ddewis personol yw manteisio ar sgrinio, gan fod sgrinio'n rhywbeth i bobl nad oes ganddynt symptomau o'r afiechyd, ac ni fydd canser gan fawr neb sy'n cael eu sgrinio. Felly, mae'n bwysig i bob unigolyn ystyried y cydbwysedd rhwng y manteision a'r niwed posibl o gael prawf sgrinio ac unrhyw archwiliadau a thriniaethau dilynol. Mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol bob amser o'r posibilrwydd o niwed, ac yn enwedig yr angen am dystiolaeth gadarn o'r budd cyffredinol wrth ystyried cyflwyno unrhyw raglenni sgrinio newydd, ond rydym wedi cael llwyddiannau sylweddol o ran sgrinio yng Nghymru.
Sgrinio'r Fron Cymru oedd gwasanaeth mamograffeg cwbl ddigidol cyntaf y DU. Ni hefyd yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno prawf mwy cywir ar gyfer y feirws papiloma dynol yn y rhaglen sgrinio serfigol, ac mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi codi ers hynny i 73 y cant. Rydym hefyd wedi cyflwyno prawf mwy cywir, fel y nododd Caroline Jones, ar gyfer sgrinio coluddion, ac eleni, byddwn yn cymryd y cam cyntaf mewn cyfres o gamau i optimeiddio'r rhaglen yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mae nifer y bobl sy'n manteisio ar y prawf wedi codi i 57 y cant, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cyrraedd y safon o 60 y cant ar gyfer y cohort oedran presennol.
Ein huchelgais o hyd yw cyflawni canlyniadau canser y gellir eu cymharu â'r gorau yn Ewrop. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf o ran canlyniadau ac o ran darparu gwasanaethau, a hoffwn dynnu sylw at y—[Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.
Rydych yn garedig iawn. Cyfeiriodd Caroline Jones hefyd at ganser y prostad, ac yn ystod y datganiad busnes ddoe, wrth alw am ddatganiad, awgrymwyd y dylwn godi hyn gyda chi yn ystod y ddadl hon heddiw gan y Trefnydd.
Mae Prostate Cancer UK wedi defnyddio rhyddid gwybodaeth i gael gafael ar ddata ar y sefyllfa bresennol. Nid yw tri o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cyflwyno gwasanaethau eto sy'n cyfateb i'r safon a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbaramedr. Mae yna gynllun i gael hynny ar waith ledled Cymru erbyn 1 Ebrill, ond dywedant y bydd angen adnoddau ar unedau radioleg i'w galluogi i wneud hynny. Tybed a allech chi roi sylwadau yng ngoleuni sylwadau Caroline a'r data hwnnw gan Prostate Cancer UK.
Diolch i Mark Isherwood am godi'r pwynt pwysig hwnnw ac yn sicr, byddaf yn mynd oddi yma ac yn edrych ar yr hyn sy'n achosi'r oedi yn y byrddau iechyd hynny. Felly, diolch am godi hynny.
Hoffwn gyfeirio, fel y dywedodd David Rees rwy'n credu, at y ffaith mai'r llwybr canser sengl yw'r cyflawniad sy'n sefyll allan, llwyfan ar gyfer gwella sy'n unigryw yn y DU. Ond hoffwn gyfeirio hefyd at ddatblygiad system gwybodeg canser newydd, at ein buddsoddiad mewn offer radiotherapi newydd, effaith y gronfa triniaethau newydd, a llawer mwy o bethau eraill hefyd. Yn anad dim efallai, dylwn nodi ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff rheoli a'n staff clinigol, sy'n gweithio ddydd ar ôl dydd i ddarparu gofal rhagorol i gleifion.
Credaf mai'r pwynt pwysig o ran y ddadl heddiw yw ein bod yn sicrhau ein bod yn adeiladu ar y llwyddiant a'r momentwm a ddatblygwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—mae llawer wedi'i wneud, ond mae llawer mwy i'w wneud—a'n bod yn gwireddu potensial yr hyn sydd wedi'i ddatblygu drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer canser, ac rydym yn gweithio'n galetach byth ar y problemau systemig sy'n dal ein canlyniadau canser yn ôl. Mae hyn yn golygu, fel sydd wedi cael ei ailadrodd yn y ddadl hon: atal, canfod yn gynharach, gofal o ansawdd uchel, gwell cynllunio gwasanaethau a darparu gweithlu, yn ogystal â modelau gwasanaeth newydd a harneisio potensial geonomeg, technoleg ddigidol ac ymchwil.
Felly, mae'r Gweinidog a minnau'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ond unwaith eto diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon er mwyn rhoi cyfle inni drafod y materion pwysig hyn.
Angela Burns i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw, a hoffwn ddiolch yn arbennig i David am ddod â phawb ohonom ynghyd, ar draws y pleidiau, i gyflwyno sylwadau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn hollol glir ynglŷn â'r gair 'canser', mae'n rhywbeth sy'n dal i greu ofn a phanig yng nghalonnau'r rhan fwyaf o bobl. Rydym yn dal i'w weld fel 'yr C fawr', y peth a all ddod allan i'n dal. Ac eto, fel y dangosodd Caroline a Rhianon yn glir iawn, mae cyfleoedd ar gael, mae yna straeon llwyddiant, mae yna lwybrau sy'n arwain at well canlyniadau nag y byddem yn arfer eu gweld. Felly, nid stori dywyll yn unig yw hi; mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud.
Hoffwn roi sylw sydyn i rai o'r ymchwilwyr sydd gennym ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn arbennig, hoffwn enwi'r Athro Andrew Sewell a thîm Prifysgol Caerdydd, oherwydd eu bod wedi darganfod cell mewn gwaed sydd â'r gallu i symud o amgylch eich corff a dweud, 'Aha, nid yw'r gell honno sy'n anelu'r ffordd hon yn un dda.' Ac os gallant ei harneisio—ac maent yn meddwl y gallant—bydd modd iddynt ei defnyddio i dargedu nifer fawr o ganserau mewn ffordd benodol iawn, mewn ffordd nad yw imiwnotherapi presennol yn gallu ei wneud. Ac felly, mae gennym wyddonwyr gwych yma yng Nghymru sy'n gweithio ar ganlyniadau cadarnhaol i ddinasyddion Cymru, ac rwy'n credu bod angen i ni geisio cefnogi'r bobl hyn, Weinidog, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael cyllid.
Hoffwn sôn yn fyr hefyd am imiwnotherapi, oherwydd mae'n un o'r meddyginiaethau modern. Dai, yn eich cyfraniad, fe gyfeirioch chi at dechnegau modern, meddyginiaethau modern, ond yn anffodus, gallwch gael sefyllfaoedd o hyd lle bydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn dweud mai dim ond ar ôl ichi fynd drwy cemotherapi y gallwch fanteisio ar imiwnotherapi. Yna, bydd eich meddyg ymgynghorol yn dweud pethau tebyg i, 'Ond gallaf ddweud wrthych chi nawr, oherwydd bod gennych chi ganser y bledren cas iawn ac nid ydym ond newydd ei ganfod ac rydych chi'n T4, mae'n rhaid i chi fynd drwy'r cemotherapi i gyrraedd yr imiwnotherapi, sy'n gallu ymestyn eich bywyd mwy na thebyg, ond nid yw'r cemotherapi yn mynd i wneud dim i chi.' Mae hynny'n nonsens. Mae gwir angen inni weithio ar hynny, felly, os oes rhywbeth a all helpu rhywun, eu bod yn ei gael heb orfod neidio drwy gylchoedd diangen a phoenus o gemotherapi. Felly, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi edrych ar hynny hefyd a siarad am y peth.
Roeddwn wrth fy modd gyda'ch ymateb am y cynllun cyflawni ar gyfer canser. Mae hyn yn wych oherwydd, mewn gwirionedd, roedd y cwestiynau roeddwn yn bwriadu eu gofyn i chi yn ymwneud â'r ffaith nad oedd gweithrediaeth y GIG wedi'i ffurfio; a fyddai'n rhaid i ni aros; beth oedd y bwlch; ac wrth gwrs y coronafeirws yn tynnu sylw swyddogion rhag gallu canolbwyntio ar hyn. Felly, mae'n newyddion da iawn, nid yn unig fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'w gychwyn, ond ei fod hefyd yn berthnasol i'r cynlluniau cyflawni eraill. A bydd y rhai nad ydych wedi llwyddo i weithio arnynt eto yn cael eu hestyn am flwyddyn arall. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi cysur go iawn i bobl.
Cafwyd cyfraniadau gwych. Dai, unwaith eto, fe wnaethoch y pwynt am y ganolfan ddiagnosteg gyflym, ac am y ffaith nad yw meddygon teulu sydd wedi hyfforddi am flynyddoedd a blynyddoedd, ac sydd wedi cael llwythi o brofiad wedyn yn eu clinigau, yn cael y bri hwnnw; nid ydynt yn cael, 'Iawn, Dai Lloyd, os ydych chi'n dweud bod angen edrych ar y person hwn, fe wnaf fi gael golwg arnynt.' Llenwi ffurflenni, ticio blychau. Ond canolfan ddiagnosteg gyflym: chwe diwrnod, fel y dywedodd Suzy, o'i gymharu ag 84 diwrnod—am wahaniaeth.
Ac wrth gwrs, aeth Suzy ymlaen i edrych ar yr arferion gorau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Ac fe wnaeth y pwynt fod yr arferion gorau hynny'n achub bywydau oherwydd gallwch fynd i mewn yn gyflymach; gallwch gael eich canlyniad yn gynt; gallwch ddechrau eich triniaeth yn gyflymach; ond, wrth gwrs, pan fydd gennych chi'r math hwnnw o gynnig gan y gwasanaeth GIG, mae gennych chi fwy o staff sydd am ddod i weithio i chi. Credaf eich bod yn dweud, yn Nenmarc, a oedd yn un o'r ardaloedd roeddent yn edrych arni, fod ganddynt staff yn aros eu tro am eu bod eisiau gweithio, ac eisiau cyflawni'r ymarfer gorau. Felly, gallwn wneud hynny. Rydym yn ddigon bach ac yn ddigon hyblyg.
A diolch i ysgrifennydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, yn ei ddatganiad ar y gyllideb heddiw, bydd mwy o arian yn dod i Gymru. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn i chi ystyried o ddifrif defnyddio'r arian ychwanegol hwnnw mewn pethau fel triniaeth gyflym. Oherwydd, eto, fe wnaeth Suzy y pwynt—os gallwn ni helpu rhywun, eu gwneud yn iach, rhoi canlyniad da iddynt—yn y tymor hwy, mae'n mynd i arbed cymaint mwy o arian i'r wladwriaeth, a bydd ansawdd eu bywyd yn llawer gwell.
Y pryder mawr arall oedd nad oes digon o staff diagnostig i'w cael, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn bendant: prinder yn ein gweithlu. David, fe wnaethoch y pwynt gydag angerdd ac argyhoeddiad, ac mae'n allweddol iawn. Felly, unwaith eto, Weinidog, pan ewch yn ôl o'r ddadl hon, rwy'n eich annog i weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'u bod yn cynllunio ar gyfer y prinder sydd gennym.
Rwy'n awyddus iawn i orffen, oherwydd rwy'n siŵr fod y Llywydd yn awyddus iawn imi orffen, ond roeddwn am ddweud un peth, i'w roi yn ei gyd-destun. Gweithlu'r llwybr cellog: bydd 36 y cant o'r meddygon ymgynghorol yng Nghymru yn ymddeol yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae'n rhaid i ni gael meddygon ymgynghorol yn eu lle. Mae'n rhaid i ni wneud y cynlluniau, rhoi'r cynlluniau ar waith, a sicrhau bod gwaed newydd yn dod trwodd.
Felly, Weinidog, diolch am eich ymateb cadarnhaol iawn. David, diolch yn fawr iawn, fel y dywedaf, am ddod â ni at ein gilydd i drafod hyn. Ond rwy'n edrych ymlaen, Weinidog, i'ch clywed yn cadarnhau o bosibl—a'r hyn rwy'n credu yr hoffem ei gael yw dadl Llywodraeth ar y mater hwn, ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â rhywbeth fel y gweithlu diagnostig. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig.? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.