– Senedd Cymru am 5:40 pm ar 11 Mawrth 2020.
Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ddarllediadau o'r chwe gwlad. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig. Rhun.
Cynnig NDM7297 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon o bob math i hunaniaeth ddiwylliannol a sifig Cymru.
2. Yn credu y dylai’r gallu i fwynhau chwaraeon fod mor hygyrch â phosib i’r ystod ehangaf o boblogaeth ein cenedl.
3. Yn pryderu am yr adroddiadau y bydd y darllediadau o gemau rygbi’r chwe gwlad ond ar gael i’w gwylio ar sail talu-wrth-wylio yn y dyfodol.
4. Yn credu bod mynediad at ddarllediadau rygbi cenedlaethol yn allweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn cyfranogi mewn rygbi llawr gwlad.
5. Yn credu y dylai darllediadau gemau rygbi chwe gwlad Cymru barhau i fod ar gael i’w gwylio am ddim i bawb ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau hyn.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o allu gwneud y cynnig yma heddiw. Mae o wedi ei gyflwyno a'i ysgrifennu mewn ffordd yr oeddem ni'n gobeithio fuasai'n gallu denu cefnogaeth drawsbleidiol, yn ddigon tebyg i'r ddadl ddiwethaf, mewn difrif. Dwi'n deall bod y Llywodraeth yn bwriadu cefnogi ein cynnig ni hefyd, felly dyma ni heddiw â chyfle i wneud datganiad unedig fel Senedd yn nodi mor bwysig ydy gemau'r chwe gwlad i ni yng Nghymru.
Mae'r cynnig yn dweud y cyfan, mewn difrif: mae chwaraeon yn bwysig i'n hunaniaeth ni fel gwlad; mae angen gwneud chwaraeon mor hygyrch â phosibl; rydan ni wir yn bryderus am yr adroddiadau y gallai pobl Cymru orfod talu i wylio gemau'r chwe gwlad yn y dyfodol; ac yn ofni'r effaith y gallai hynny gael ar ddiddordeb ein pobl ifanc ni yn arbennig yn y gêm.
Mae rygbi yn bwysig iawn i fi yn bersonol, fel i lawer ohonom ni yma. Ar wahân i fod yn falch iawn o chwarae i dîm rygbi y Senedd—a ninnau yng nghanol ein twrnament chwe gwlad ein hunain ar hyn o bryd, ac yn ddi-guro—dwi'n dal i fod yn rhan o'r tîm hyfforddi yn adran iau Clwb Rygbi Llangefni, ac yn cael pleser mawr nid yn unig o dreulio amser yn dysgu'r gêm i fechgyn a merched ifanc, ond hefyd wir yn gwerthfawrogi y rôl mae'r clwb yn ei chwarae o fewn y gymuned. Rydym ni'n mynd drwy gyfnod arbennig o ffyniannus yn y clwb yn Llangefni ar hyn o bryd. Mae yna yn llythrennol gannoedd o chwaraewyr yn yr adran iau ar hyn o bryd, ac mae o'n hyfryd ei weld; does yna ddim digon o le i ni yn y clwb ar hyn o bryd. Mae'n dda gweld rygbi merched a dynion yn tyfu yng Nghaergybi hefyd. Mae'r clwb ym Mhorthaethwy yn dal yn un pwysig iawn.
Ond beth sydd yn creu y diddordeb yna, yn enwedig ymhlith pobl ifanc? Heb os, y gallu i wylio ac edrych i fyny a bod eisiau efelychu eu harwyr, boed hynny'n arwyr yn ddynion neu yn ferched. Yn digwydd bod, mi ofynnais i ar fore dydd Sul i'r hogiau faint o'r tîm dwi'n helpu i'w hyfforddi ar hyn o bryd—tîm o dan 16—faint ohonyn nhw sy'n gwylio rygbi rhyngwladol Cymru. Mi oedd bob un ohonyn nhw yn gwylio—y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gwisgo crysau Cymru, ac ati. Mi ofynnais i faint sy'n gwylio gemau clwb yn rheolaidd, un ai ar deledu neu'n gwylio ein tîm cyntaf ein hunain yn Llangefni. Ychydig iawn oedd yn gwneud. Doeddwn i ddim yn hapus iawn am hynny, ac mae hynny yn broblem arall, ond beth roedd eu hymateb nhw yn ddweud wrthym ni oedd mai drwy wylio'r tîm dynion cenedlaethol i'r hogiau yma—Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Leigh Halfpenny, yr arwyr yma, a George North, wrth gwrs, i ni yn Ynys Môn yn arbennig—dyna lle mae'r diddordeb yn cael ei greu, ac mae'r un peth yn wir, fel dwi'n dweud, am y ffordd mae sylw i'r tîm merched cenedlaethol yn creu diddordeb yn benodol ymhlith merched ifanc.
Dwi wir yn ofni felly beth fyddai'n digwydd os na fyddai'r gemau yn gallu bod yn rhan annatod a naturiol o'n bywyd diwylliannol ni drwy eu bod nhw'n cael eu darlledu ar deledu am ddim. Does yna erioed deledu Sky wedi bod yn fy nhŷ i—dewis personol ydy hynny—a llawer o bobl heb fodd o fforddio teledu Sky neu fforddio talu am wylio chwaraeon. Dydy mynd i dafarn neu rywle arall tebyg ddim yn gweithio i bawb. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i. Ie.
Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig y prynhawn yma, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â rhinweddau'r cynnig hwn. Fel chithau, nid wyf yn meddu ar deledu Sky o gwbl ac nid wyf erioed wedi ei gael, ond mae model ariannol Undeb Rygbi Cymru yn seiliedig ar rygbi rhyngwladol. Os nad ydynt yn gallu dod â'r refeniw i mewn, beth yw'r dewis arall i sicrhau y gall y gêm ar lawr gwlad a'r gêm broffesiynol yng Nghymru fod yn gystadleuol?
Mae'r rhain yn gwestiynau craidd. Mae criced wedi bod trwy gyfnod o edrych ar ei hun a sut y mae'n talu amdano'i hun, ac edrychwch beth sydd wedi digwydd i gynulleidfaoedd criced. Fe ddyfynnaf eiriau'r awdur Gideon Haigh, a ofynnodd,
A yw criced yn gwneud arian er mwyn bodoli, neu a yw'n bodoli er mwyn gwneud arian?
Mae bob amser yn ymwneud â dod o hyd i'r cydbwysedd.
Mi wnaf i barhau. Dydy mynd i dafarn ddim yn gweithio i bawb, yn sicr ddim i bobl ifanc, er enghraifft, ddim i bobl efo problemau symudedd, o bosibl, na phobl sydd ddim eisiau bod yng nghanol torfeydd mawr o bobl. Ydym, rydym ni fel clybiau rygbi ar hyd a lled Cymru yn dangos y gemau. Mi allwn ni gario ymlaen i wneud hynny, ond i bobl sydd â diddordeb yn y gêm yn barod mae hynny i raddau helaeth.
Rydym ni fel plaid wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Llywodraeth Prydain dros ddiwylliant, cyfryngau a chwaraeon yn dadlau'r achos ychwanegu'r chwe gwlad at y digwyddiadau grŵp A y mae'n rhaid eu dangos ar deledu am ddim. Mi oedd yna adolygiad yn ôl yn 2009. Dyna'r adolygiad diwethaf o hynny, ac mi ddaeth o i'r casgliad yma:
Dylai gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad gael eu rhestru yng Nghymru yn unig... Darbwyllwyd y Panel ynghylch "arwyddocâd cenedlaethol arbennig" rygbi'r undeb yng Nghymru.
A does dim ond angen edrych ar y ffigurau gwylio, nid ar gyfer gemau penodol, ond faint o bobl yn gyffredinol sy'n gwylio rhywfaint o'r gemau chwe gwlad—82 y cant o boblogaeth Cymru. Mae'r ffigur yn syfrdanol, ac mae'n dangos faint mae'r gêm yma yn treiddio i mewn i'n diwylliant penodol ni yng Nghymru.
Mi allwn i sôn am fater arall sy'n benodol Gymreig hefyd, sef y bygythiad i sylwebaeth darllediadau Cymraeg. Be fyddai'n digwydd i'r rheini yn y dyfodol? Mae darlledu wedi bod yn rhan o greu'r lexicon rygbi yng Nghymru dros y blynyddoedd. Allwn ni ddim fforddio colli hynny.
Fel y dywedais i'n gynharach, mae criced wedi bod drwy'r profiad yma, a gallwn ni ddim fforddio gweld ein hunain mewn sefyllfa lle y byddem ni'n colli'r access yna i bobl i'r gêm sydd mor bwysig i ni.
Rwy'n dwli ar chwaraeon. Rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a'u gwylio. Rwyf wrth fy modd yn dilyn ac yn gwylio ein timau pêl-droed a rygbi cenedlaethol. Rydym ni yng Nghymru yn dwli ar ein chwaraeon. Mae'n treiddio'n ddwfn i'n seicoleg genedlaethol, ein diwylliant. Pêl-droed—roedd Euro 2016 yn brofiad gwych, ac rwy'n edrych ymlaen at lawer o brofiadau tebyg drwy bêl-droed eto. Ond fel cystadleuaeth flynyddol, mae rhywbeth am y chwe gwlad sy'n ein clymu mewn ffordd nad oes unrhyw beth arall yn ei wneud—y ffigwr anhygoel hwnnw o 82 y cant o bobl yn ei wylio. Ac os ydych yn amddifadu'r boblogaeth o fynediad ato drwy deledu am ddim, nid dim ond rhaglen deledu rydych chi'n ei dwyn oddi wrthynt, ond rhan greiddiol o ddiwylliant ein cenedl, ac rydych yn bygwth iechyd rygbi yn uniongyrchol fel camp i gymryd rhan ynddi. Felly, gadewch inni bleidleisio gyda'n gilydd ar hyn heddiw, a gwneud datganiad clir a diamwys fel ein Senedd genedlaethol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes llawer o faterion sy'n ein huno ni gyda'n gwleidyddiaeth wahanol yn y lle hwn. Felly, mae hon yn ddadl bwysig i'r bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli yma yn Senedd Cymru. Ac fel y dywedwyd, yma yng Nghymru, mae rygbi yn gymaint mwy na dim ond gêm. Mae gemau'r chwe gwlad yn rhan annatod o'n seicoleg genedlaethol. Maent yn rhan o bwy ydym ni, ac yn rhan o'n Cymreictod cyffredin. Ac mewn clybiau, tafarndai ac ystafelloedd byw ar draws y wlad, mae pobl yn ymgynnull i wylio'r chwe gwlad mewn ffordd wahanol i bron unrhyw ddigwyddiad chwaraeon arall yng Nghymru. Ac mae'n fwy na'i gynnwys, felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cadw'r uchafbwynt hwn yng nghalendr chwaraeon Cymru yn hygyrch i'r mwyafrif.
Nid oes ond angen inni edrych ar griced fel enghraifft, fel y crybwyllwyd eisoes, camp lle gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan ac yn y nifer sy'n gwylio ers symud i wasanaethau talu-wrth-wylio yn 2005. Ac nid y bwriad yw difrïo sianeli sy'n gwneud elw fel Sky neu BT, sydd, dros nifer o flynyddoedd, wedi darparu darllediadau rygbi o safon uchel iawn. Ond y ffaith yw nad yw'r rhain yn hygyrch i'r un nifer o bobl yng Nghymru.
Pan enillodd Cymru fuddugoliaeth y gamp lawn dros Loegr y llynedd, roedd 8.9 miliwn o bobl yn gwylio ar BBC One. Mae hynny'n fwy na'r gêm bêl-droed fwyaf poblogaidd ar y BBC yn 2018-19. Dylai hyn ddangos pa mor bwysig yw cadw'r gemau hyn ar deledu am ddim. Mae hefyd yn arwydd pam y mae eraill am ei gael.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i hyrwyddo chwe gwlad y menywod, a fydd yn awr yn uno â phencampwriaeth y dynion o ran hawliau teledu. Wrth i'r gêm i fenywod barhau i dyfu, mae sicrhau mwy, nid llai, o sylw teledu yn gam nesaf hanfodol. Yn anffodus, mae gêm menywod Cymru y penwythnos hwn yn erbyn yr Alban wedi cael ei chanslo oherwydd bod coronafeirws wedi effeithio ar un o chwaraewyr yr Alban, ac rwy'n siŵr yr hoffai Aelodau ar draws y Siambr hon ymuno â mi i ddymuno gwellhad llwyr a buan iddi.
Ddirprwy Lywydd, os ydym am sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn cael ei hysbrydoli i chwarae a chefnogi rygbi, rhaid inni ei gadw'n hygyrch iddynt. Caiff y chwe gwlad eu mwynhau gan gefnogwyr rygbi brwd a sylwedyddion cymdeithasol fel ei gilydd. Ni fydd hyn yn digwydd os yw'n diflannu y tu ôl i wal dalu. Yng Nghymru mae rygbi wedi bod yn gamp i bawb erioed, nid dim ond yr ychydig breintiedig, a rhaid i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i'w chadw felly.
'I was there',
ddywedodd Max Boyce. Wel, allwn ni i gyd ddim bod yna, allwn ni? Ac felly mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cael y cyfle, drwy gyfrwng teledu, i rannu yn y profiad yna. Dwi'n cofio lle'r oeddwn i pan sgoriodd Ieuan Evans y cais gwych yna yn 1988 yn erbyn yr Alban. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio lle'r oedden ni pan sgoriodd Scott Gibbs yn Wembley yn 1999, neu pan giciodd Gavin Henson y gic odidog yna i guro Lloegr yn 2005. Mae e'n rhan o'n cof cenedlaethol ni, onid yw e, mae e'n rhan o'n treftadaeth ni, ac mae e'n rhan o'n diwylliant ni?
'O, ewch i'r dafarn i watsio'r gem. Os ŷn ni'n gorfod talu, allwch chi ei gweld hi yn y dafarn.' Ond fel rŷn ni wedi clywed, dyw hynny ddim yn gweithio i bawb. Fuasai fy mhlant i ddim wedi gallu gwylio Cymru yn chwarae Lloegr ddydd Sadwrn petasem ni wedi gorfod mynd i'r dafarn i'w gwylio hi. A buasen nhw ddim wedyn chwaith wedi treulio oriau yn yr ardd yn chwarae rygbi, yn dynwared Dan Biggar a Hadleigh Parkes, a finnau â thipyn bach o dâp gwyn ar fy nghlustiau yn trio edrych fel Alun Wyn Jones—a dwi'n syndod o debyg, a dweud y gwir, ond dyna fe. [Chwerthin.]
Ond mae gemau'r chwe gwlad yn drysorau cenedlaethol, ac mi ddylen nhw gael eu gwarchod. Os yw e'n ddigon da i'r Grand National, wel mae e'n ddigon da i gemau rygbi Cymru yn y chwe gwlad. Ac rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at griced, a'r profiad y mae criced wedi ei weld dros y blynyddoedd. Fe wnaeth 9 miliwn o bobl wylio Freddie Flintoff a'r tîm yng ngemau'r Lludw nôl yn 2005—9 miliwn. Ond yn fuan ar ôl hynny, wrth gwrs, mi aeth criced y tu ôl i deledu lloeren, a rhaid oedd talu i gael gwylio'r gemau yna. Erbyn cwpan y byd, wrth gwrs, prin filiwn—yn wir, 0.5 miliwn o bobl a oedd yn gwylio rhai o gemau Lloegr yng nghwpan y byd. Ac yn y pen draw, pan ddaeth hi i'r rownd derfynol, mi oedd yn rhaid i Sky benderfynu bod angen ei dangos hi am ddim ar Sianel 4 yn ogystal, a hyd yn oed wedyn dim ond 4.5 miliwn a oedd yn gwylio; felly, hanner, mewn 15 mlynedd, y gynulleidfa yn gwylio tîm criced Lloegr. Dyna ichi gyfaddefiad o fethiant—eu bod nhw wedi gorfod ei darlledu hi ar Sianel 4 yn y pen draw. Yr un haf, wrth gwrs, roedd yn dal i fod bron i 10 miliwn o bobl yn gwylio Wimbledon, am ddim, ar y teledu. Roedd dros 8 miliwn o bobl yn gwylio tîm pêl-droed merched Lloegr yng nghwpan y byd yr un adeg.
Nawr, rŷn ni wedi clywed yn barod, 'O, mae'r incwm o werthu hawliau darlledu i fuddsoddi yn y gêm ar lawr gwlad yn gwneud i fyny, efallai, am golli cynulleidfa.' Wel, mae ffigurau cyfranogiad mewn criced yn dangos erbyn hyn fod y rhai sy'n chwarae criced yn gyson wedi bron i haneru yn y ddau ddegawd diwethaf, sy'n cyd-fynd â'r cyfnod, wrth gwrs, i bob pwrpas, nad yw e wedi bod ar deledu am ddim. Nawr, nid dyna'r dyfodol rŷn ni ei eisiau i rygbi yng Nghymru, ac nid dyna'r dyfodol, yn sicr, y mae Plaid Cymru ei eisiau i rygbi yng Nghymru. A dyna pam rŷn ni'n awyddus i weld pawb yn cefnogi ein cynnig ni heddiw, i sicrhau bod pawb, pwy bynnag ydyn nhw, yng Nghymru yn cael mynediad i rannu yn y dathlu, gobeithio, bob tro y bydd Cymru'n chwarae gêm yng nghystadleuaeth y chwe gwlad.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig, a byddwn ni yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig yn frwd.
A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Peter Jackson, y newyddiadurwr uchel ei barch a ysgrifennodd am y stori hon gyntaf, yn The Rugby Paper—nid yw'n deitl gwreiddiol iawn, ond roedd yn stori bwysig iawn. [Torri ar draws.] Ac mae'n bapur da, yn wir. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yma yw eithrio ceisiadau ar y cyd. Ymddengys bod y BBC ac ITV yn paratoi i wneud cais arall ar y cyd, a chynnig gwerthfawr iawn; wrth gwrs, fe wnaethant gynnig uwch na neb arall yn y rownd ddiwethaf. Ond ni roddwyd unrhyw reswm gan Six Nations Rugby Ltd am y dull o weithredu sydd bellach yn eithrio ceisiadau ar y cyd. Ac mae'n ymddangos i mi fod hyn yn wrth-gystadleuol. Mae yna amserlen hynod o gyflym i'r trafodaethau hyn hefyd—maent yn dod i ben yr wythnos hon. Ac mae'n rhoi'r argraff fod yr holl broses yn cael ei gwthio a'i rheoli.
Rydym eisoes wedi clywed gan gwpl o siaradwyr fod perygl gwirioneddol o golli miliynau o wylwyr y tu ôl i wal dalu, er mwyn cynhyrchu miliynau o refeniw ychwanegol. Ond beth rydych chi'n ei ennill gyda'r refeniw ychwanegol hwnnw os ydych chi wedi colli'r bobl ar lawr gwlad, a'r cariad at y gêm sy'n cael ei rannu gan gynifer yn y boblogaeth? Ac mae hyn yn ymddangos i mi yn rhywbeth y mae gwir angen ei ystyried.
A gaf fi groesawu camau'r pwyllgor technoleg ddigidol, diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon yn San Steffan, a'u galwad ar Six Nations Rugby i esbonio'r sefyllfa hon? A dywedodd cadeirydd y pwyllgor hwnnw, Julian Knight, ac rwy'n dyfynnu:
Ni allwn ganiatáu i hyn fod yn gytundeb y deuir iddo y tu ôl i ddrysau caeedig. Mae hyn yn bwysig i gefnogwyr ac mae ganddynt hawl i wybod beth sy'n digwydd.
Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae rhywbeth o'i le yn hyn o ran y ffordd y caiff ei lywodraethu. Ac mae'r gêm yn hynod bwysig yn ddiwylliannol i ni yng Nghymru—mae'n gamp dorfol yng Nghymru; nid yw hynny mor wir yn Lloegr nac yn Ffrainc. Ac rwy'n credu mai Lloegr a Ffrainc sy'n gyrru'r broses hon a byddant yn difaru eu bod wedi gwneud hynny yn fy marn i.
Ond os bydd yr awdurdodau rygbi'n ymddwyn yn afresymol, rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth ystyried gwneud gemau rygbi'r chwe gwlad yn y DU yn ddigwyddiadau rhestredig. A hoffwn ddweud wrth Lywodraeth y DU fod yna rai camau sy'n rhaid i chi eu cymryd i gryfhau'r undeb, a bydd hwn yn un ohonynt, cydnabod cryfder rygbi yng Nghymru, ac felly mae'n rhaid inni gael ymagwedd genedlaethol, h.y. ymagwedd ar sail y DU tuag at y rheoliad hwn. Diolch.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, er nad am yn hir iawn—mae'n amlwg nad yw'r amser yn caniatáu i mi siarad yn frwd am fy ngyrfa rygbi lai na disglair ers talwm ar yr asgell—yr asgell chwith, yn amlwg. [Chwerthin.] Ond cyn datganoli wrth gwrs, tîm rygbi Cymru, tîm pêl-droed Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru—chwaraeon a diwylliant oedd yn rhoi hunaniaeth wleidyddol i ni yn absenoldeb gwleidyddiaeth yn y lle hwn. Felly, cyn datganoli, roedd tîm rygbi Cymru yn hynod o bwysig, yn enwedig yn y degawd gogoneddus yn y saithdegau pan oeddem yn llwyddiannus iawn hefyd—yn rhyfeddol o lwyddiannus ar y maes chwarae, heb fod mor llwyddiannus yn y maes gwleidyddol yn y ganrif honno. Ond mae wedi caniatáu i ni ddiffinio ein hunain fel cenedl, hyd yn oed cyn inni allu gwneud hynny'n wleidyddol yn y lle hwn. A champ lawr gwlad yw hi.
Rwy'n aelod o Glwb Rygbi'r Dynfant—waeth i mi eu henwi—ac mae ganddynt lwythi o dimau o wahanol oedrannau o'r rhai dan wyth oed i fyny: bechgyn a merched. Mae'n gweithredu fel clwb ieuenctid, yn y bôn. Mae'n seiliedig ar wirfoddolwyr. Nid yw'n cael llawer o arian gan Undeb Rygbi Cymru na neb arall. Mae gwirfoddolwyr yn lleol a theuluoedd gyda'i gilydd yn dod at ei gilydd—mae'n cadw plant yn brysur. Yn achlysurol mae'n ennill gemau rygbi hefyd ar y lefel uwch. Ond ydy, mae o dan fygythiad, os oes unrhyw beth fel hyn yn digwydd.
Mae teledu wedi rhoi sylw i rygbi; mae hefyd wedi rhoi sylw i'r gêm i fenywod. Mae rygbi menywod yng Nghymru bellach ar y teledu ac rydym wedi gweld rygbi menywod yn ffynnu ar lawr gwlad. Daw Siwan Lillicrap, capten rygbi Cymru, o Abertawe—rwy'n sicr o'i henwi hi.
Ond rwy'n gwisgo tei criced Morgannwg gan fy mod i'n dwli ar griced hefyd, ond yr hyn a welsom yn y 15 mlynedd diwethaf, fel y clywsom, yw gostyngiad o 30 y cant yn nifer y rhai sy'n chwarae criced ar lawr gwlad. Rydym wedi gweld timau criced pentrefi yma yn ne Cymru, sy'n draddodiadol yn darparu chwaraewyr ar gyfer tîm Clwb Criced Sir Forgannwg—rydym wedi gweld y cyflenwad hwnnw'n sych a'r timau criced hynny'n diflannu. Ac oes, mae'n debyg fod llawer o arian yn y pen uchaf—nid yw'n helpu ein timau criced pentref yma yn ne Cymru. Felly, oes, mae yna arwyddocâd cenedlaethol arbennig i rygbi yng Nghymru—dyna pam fod angen i ni ei gadw ar deledu daearol. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru yn ei gyfanrwydd.
Rygbi yw gêm genedlaethol Cymru ac yn wahanol i Loegr, lle mae llawer yn seiliedig ar ei system ysgolion preifat, camp y dosbarthiadau gweithiol ydyw ac mae'n gamp lawr gwlad yng Nghymru.
Os yw'r BBC i fod yn weithredwr gwasanaeth cyhoeddus gwirioneddol, mae'n ddyletswydd ar y sefydliad i gadw rhai digwyddiadau chwaraeon penodol ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Dylem nodi yma ei fod wedi cymryd camau i gadw Wimbledon, y ras gychod, cyfran gyda BT o Gwpan yr FA a digwyddiadau chwaraeon sefydliadol eraill. Mae ffi trwydded y BBC yn codi £3.7 biliwn bob blwyddyn, ond fe'i hategir gan £1.2 biliwn arall a godir o'i gweithrediadau masnachol. Felly, dyna gyfanswm o £5 biliwn yn flynyddol. Nodir mai tua £50 miliwn yw'r cynnig am hawliau pencampwriaeth y chwe gwlad, neu—os nad wyf yn anghywir, fel Diane Abbott o bosibl, dim ond 1 y cant o refeniw blynyddol y BBC yw hynny. Ond o hyn allan—. Roedd yn rhannu'r gost hon, wrth gwrs, gydag ITV. Ond fel y dywedodd David Melding, mae'n bosibl na fydd hynny'n cael ei ganiatáu yng ngham nesaf y broses gynnig.
Felly, er bod yn rhaid inni dderbyn bod llawer o raglenni eraill—a defnyddiaf hynny yn ystyr ehangaf y gair—mae'r ffaith bod 41 y cant o'r DU yn gwylio'r bencampwriaeth yn dyst i boblogrwydd y chwe gwlad, ac fel y nododd Rhun yn flaenorol, mae'r ffigur yn codi i rywbeth tebyg i 82 y cant yng Nghymru. Felly, pencampwriaeth y chwe gwlad yw un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yr edrychir ymlaen ato fwyaf yn y calendr chwaraeon. Yn wir, i Gymru, mae'n debyg mai dyma yw'r digwyddiad mwyaf poblogaidd. Yn ddiau, effeithiodd colli pencampwriaeth Pro14 i deledu talu-wrth-wylio ar faint o'r darllediadau o'r gystadleuaeth honno a wyliwyd.
Dod i gysylltiad â chwaraeon drwy bob cyfrwng, fel y nodwyd, yw'r ffordd orau o ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwarae'r gêm honno, ac fel y crybwyllodd Dai Lloyd, gallwn weld hynny yn niferoedd y menywod sydd bellach yn chwarae rygbi oherwydd y sylw ar y teledu. Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn galw ar y sefydliad hwn, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ddylanwadu ar y BBC i gadw pencampwriaeth y chwe gwlad ar gyfer teledu daearol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n dda gen i hefyd gadarnhau y byddwn ni, o ran y Llywodraeth, yn cefnogi'r cynnig hwn, ac felly rydw i'n disgwyl y bydd y gefnogaeth iddo fo yn unfrydol, fel y mae'r siarad wedi bod.
Byddwch chi'n cofio ein bod wedi cael cwestiwn amserol ac wedi ei ateb o mor gadarn ag y medrwn i'r wythnos diwethaf. Dwi ddim am ailadrodd unrhyw beth ddywedais i'r wythnos diwethaf, ond dwi am roi gwybod i chi beth dwi wedi'i wneud yn y cyfamser, sef ein bod ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid yn unig i gyfleu teimladau a barn y Siambr hon, ond hefyd wedi gyrru'n ddigidol fersiwn o'n Cofnod ni, fel bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu darllen rhywbeth o Senedd gwerth ei darllen—y Senedd hon o'i chymharu â'r Senedd y mae yntau'n aelod ohoni, efallai. Dwi hefyd wedi anfon copi i fy nghyfaill, Gareth Davies, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru. Dwi ddim wedi cael ymatebion eto.
Ond mae'r ffaith ein bod ni, unwaith eto heddiw, am yr ail wythnos yn olynol, yn trafod y mater yna—a dwi'n ddiolchgar iawn i fy nghyfeillion ym Mhlaid Cymru am drefnu'r ddadl yma, ac mi fyddaf i'n gwneud yr un modd ar ôl y ddadl yma i sicrhau, eto, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweld beth yw barn y Senedd hon, ac yn enwedig yn ystyried unwaith eto beth ddylai ddigwydd ynglŷn â'r rhestr. Mae'r ffaith ein bod ni wedi gweld cefnogaeth drawsbleidiol oddi wrth Blaid Cymru, oddi wrth y Ceidwadwyr ac, wrth gwrs, oddi wrth David Rowlands—diolch yn fawr, David, yn ogystal, o UKIP—a chyfraniad eithaf treiddgar fel arfer gan Andrew R.T. Davies hefyd, yn ogystal â David Melding o ochr y Ceidwadwyr—.
Yr unig rybudd dwi eisiau ei roi wrth gytuno â'r cyfan sydd wedi'i ddweud yn y ddadl yma ydy nad ydy'r cwestiwn yma ddim yn mynd i ffwrdd. Mae cyllido rygbi rhyngwladol, a gwneud hynny'n fasnachol, neu'n rannol fasnachol beth bynnag, yn mynd i fod yn gwestiwn y mae'n rhaid inni ganfod ateb iddo fo, yn rygbi Cymru ac yn rygbi rhyngwladol, ac mae'n ddyletswydd i ni sy'n anhapus ynglŷn â'r ateb sydd wedi dod hyd yn hyn i weld pa fath o ateb fyddai'n dderbyniol i ni. Felly, mae gen i un gwahoddiad arall i'w gynnig i'r Senedd hon, fel y gwnes i'r wythnos diwethaf: mi fyddai hi'n ddefnyddiol iawn pe byddai un o bwyllgorau'r Senedd hon yn fodlon ystyried y mater yma ymhellach, galw tystiolaeth a chynhyrchu—
Diolch yn fawr am gymryd yr ymyrraeth. Dŷn ni, yn y pwyllgor dwi'n cadeirio yn lle Bethan, yn bwriadu gwneud sylw ar y pwnc sydd o'n blaen ni heddiw, ond gwnawn ni ystyried yn bendant y pwyntiau dŷch chi'n eu gwneud ynglŷn ag edrych at y pwnc yn ei gyfanrwydd, os ydy hynny'n addas, gan—fel rŷch chi'n ei ddweud—nad yw'r broblem yma ddim yn mynd i ddiflannu hyd yn oed os dŷn ni'n llwyddiannus yn yr ymgyrch yma i gadw y chwe gwlad yn rhydd.
Diolch yn fawr am hwnna, a dwi'n credu—ar ôl yr addewid yna, dwi'n credu rydych chi'n gwybod gymaint dwi'n mwynhau dod o flaen eich pwyllgor chi, yn enwedig o dan dy gadeiryddiaeth di, efallai, felly, diolch yn fawr am y cynnig, ac mae'n dda gen i felly gadarnhau, a galw ar i bawb bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn i chi. Does dim llawer ar ôl i'w ddweud, mewn difrif: dim ond diolch i bawb am eu sylwadau, diolch am y gefnogaeth rydych chi wedi arwyddo rydych chi yn mynd i fod yn ei roi heddiw yma. Dwi'n ddiolchgar i'r ymrwymiad gan y Gweinidog bydd yn anfon Cofnod y cyfarfod hwn, a'r bleidlais unfrydol, gobeithio, at Lywodraeth Prydain, yn ogystal ag at Undeb Rygbi Cymru.
O ran y pwynt yma nad ydy'r broblem yn mynd i ffwrdd, mae yna, wrth gwrs, ateb yn fan hyn, sef i ganiatau, er enghraifft, i fwy nag un cwmni teledu-am-ddim wneud cais ar y cyd, fyddai'n dod ag arian cyfatebol, o bosib, er mwyn sicrhau bod y ffynhonell o arian yn parhau i lifo. Ond dwi innau hefyd yn croesawu'n fawr iawn yr ymrwymiad i edrych yn ddyfnach ar y mater hwn o fewn y Senedd.
Rydym ni wedi cael arbrawf yn fyr iawn o beth fyddai'n digwydd pan wnaeth gemau cartref Lloegr ar Sky nôl yn 2001-02. Hanner miliwn oedd yn gwylio Lloegr yn erbyn Cymru yn Twickenham. Y flwyddyn wedyn—teledu am ddim, Cymru yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm: 6 miliwn o bobl yn gwylio. Mi fyddai'n niweidiol i'r gêm pe baem ni'n colli'r ffigurau yna.
Dwi'n cloi efo dyfyniad gan Alun Ffred Jones, fel Gweinidog Treftadaeth Cymru yn 2009, wrth roi tystiolaeth i'r adolygiad ar pa gampau ddylai orfod bod ar deledu am ddim. Hyn ddywedodd o:
Y cyhoedd yw'r rhan bwysicaf o'r jig-so o safbwynt hawliau gwylio. Rhaid inni weithredu er budd gorau pobl Cymru.
Amen i hynny: gadewch i ni bleidleisio'n unfrydol heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu. Iawn. Diolch.