– Senedd Cymru am 4:56 pm ar 6 Mai 2020.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar y coronafeirws, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth i Gymru wynebu'r her fwyaf o ran iechyd y cyhoedd ers mwy na chanrif, rydyn ni wedi mynd ati gyda'n gilydd i weithredu er mwyn amddiffyn ein cymunedau, diogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac achub bywydau. Mae'r camau yr ydym yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni'n gwybod am yr aberth y mae pobl yn ei wneud wrth inni barhau i fyw o dan y cyfyngiadau i'n bywydau bob dydd. Mae'n bwysig ein bod yn dechrau edrych ymlaen, yn bwyllog ac yn ofalus, tua'r dyfodol, gan ragweld sut le fydd Cymru a gweddill y byd pan fydd y pandemig o dan reolaeth. Bydd rheoli'r gwaith o adfer ar ôl y pandemig yn her fawr i bawb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu fframwaith ar gyfer arwain Cymru allan o argyfwng y coronafeirws mewn ffordd sy'n cadw pawb yn ddiogel ac yn adfer ein heconomi cyn gynted â phosib. Mae'r fframwaith yn gosod y sylfaen ar gyfer llacio'r cyfyngiadau presennol, a bydd yn cael ei lywio ar sail y data gwyddonol gorau.
Yfory, bydd y Prif Weinidog yn adolygu'r dystiolaeth ddiweddaraf eto ac yn ystyried y cyfyngiadau presennol. Mae wedi dweud yn glir mai'r hyn fyddai orau ganddo ef, o ddigon, fyddai gallu cytuno ar gyfres o fesurau cyffredin ac amserlen gyffredin ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Rydyn ninnau, wrth reswm, yn gwneud ein paratoadau ein hunain i sicrhau mai buddiannau pobl Cymru yw'r flaenoriaeth o hyd.
Gan edrych ymhellach ymlaen, byddwn yn sicrhau y bydd ein gwaith adfer yn y dyfodol yn gyson â'n rhaglen lywodraethu, gan sicrhau bod egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ganolog i'n meddylfryd. Bydd hyn yn cynnwys dysgu o'r profiad o sut y mae Cymru wedi wynebu her yr wythnosau diwethaf.
Fel rhan o'n paratoadau adfer yn y dyfodol, cynhaliais gyfres gychwynnol o drafodaethau bwrdd crwn gydag arbenigwyr byd-eang—ffigyrau amlwg ym maes economeg, y farchnad lafur, newid hinsawdd, gwasanaethau cyhoeddus a busnes. Bydd eu cyfraniad yn ein helpu i ddod allan o'r argyfwng hwn yn gryfach ac yn fwy gwydn.
Mae pob un o'r trafodaethau bwrdd crwn hyn wedi canolbwyntio ar fater penodol: rydym wedi trafod effaith y pandemig ar wasanaethau cyhoeddus, ar yr economi ac ar bobl agored i niwed, ac wedi ystyried sut i sicrhau ein bod yn cael adferiad gwyrdd.
Rwyf wedi cyhoeddi enwau pob un o'r cyfranogwyr yn y cylch cyntaf o drafodaethau. Mae'r sesiynau i gyd wedi bod yn ysgogol ac wedi procio'r meddwl, gan gynnig mewnwelediad i'r her. Maent wedi rhoi hwb aruthrol inni allu symud ymlaen.
Mae'r drafodaeth ar adferiad gwyrdd yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr amgylchedd i economi Cymru. Byddwn yn chwilio am atebion blaengar ac arloesol i ymateb i heriau amgylcheddol ehangach ac i ateb yr argyfwng hinsawdd. Roedd hefyd yn cydnabod bod ymddygiad unigolion a busnesau wedi newid drwy'r argyfwng COVID-19 mewn ffyrdd sydd wedi arwain at fanteision amgylcheddol sylweddol. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i gynnal y newidiadau hyn yn y tymor hir, ac wrth weithio i ailadeiladu ein heconomi i fynd i'r afael ag effaith COVID-19, rhaid i'r penderfyniadau a wnawn adlewyrchu ein hymrwymiad fel Llywodraeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella bioamrywiaeth, ac fe fyddant yn gwneud hynny.
Bydd cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl hefyd yn ganolog i'r ffordd y ceisiwn gefnu ar effeithiau economaidd COVID-19. Yn ein trafodaeth ar hyn, cydnabuwyd bod angen trafodaeth gyhoeddus agored ar y math o Gymru rydym i gyd ei heisiau; cydnabyddiaeth fod newid wedi bod yn y gwerth y mae pobl yn ei roi ar wahanol sectorau'r economi, gyda gwerthfawrogiad o'r newydd o gyfraniad enfawr ein gweithwyr allweddol.
Deilliodd cyfleoedd newydd i'r gadwyn gyflenwi ac i arloesedd hefyd o'r heriau ofnadwy rydym i gyd wedi bod yn eu hwynebu. Roedd y drafodaeth ar wasanaethau cyhoeddus yn eang ac yn cwmpasu ehangder ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar dair thema drawsbynciol gyffredinol: cydnerthedd a diwygio gwasanaethau cyhoeddus; yr agenda ddigidol—ac o ran y rôl y gall ei chwarae'n trawsnewid a mynd i'r afael ag allgáu digidol; ac yna rôl gwasanaethau cyhoeddus yn y lleoedd, yn y cymunedau, y maent yn eu gwasanaethu.
Nid mater syml o ddychwelyd at fywyd fel arfer fydd bywyd gyda COVID-19 dan reolaeth. Bydd llawer wedi newid yn sylfaenol, ac mae cael persbectif eang gan arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw yn rhan bwysig o ddod â syniadau annibynnol a chreadigrwydd newydd i'n strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â'r realiti newydd hwnnw. Ond wrth gwrs, mae hi'r un mor bwysig ein bod yn clywed gan bobl yng Nghymru, ac yn ystod yr wythnosau nesaf byddaf yn cynnal cyfres arall o drafodaethau bwrdd crwn rhithwir gydag arbenigwyr o bob rhan o Gymru, a fydd yn cyfrannu eu harbenigedd eu hunain i'r trafodaethau. Byddwn hefyd yn clywed gan ein partneriaid cymdeithasol a chan randdeiliaid ledled Cymru, ac rydym hefyd yn annog pobl i anfon sylwadau at futurewales@gov.wales, ac mae'r syniadau eisoes yn dod i mewn.
Felly, er ein bod yn denu safbwyntiau allanol, bydd ein cynlluniau adfer wedi'u gwreiddio yng Nghymru ac yn adlewyrchu'r heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n ein hwynebu. Hoffwn gloi drwy ddiolch i'n holl bartneriaid am eu hymdrechion sylweddol yn ymateb yn gyflym iawn i'r heriau a'r problemau a achosir gan y clefyd dychrynllyd hwn. Bydd eu cymorth parhaus yn rhan hanfodol o'n cynlluniau adfer.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dymuno'n dda iddo wrth iddo ddechrau ar y swydd newydd hon. Mae'n debyg mai atgyweirio'r niwed y mae ein heconomi a'n cymdeithas yn mynd i'w wynebu yw'r her fwyaf sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i hwynebu ers iddi gael ei sefydlu gyntaf, felly rwy'n falch iawn o weld y rôl newydd hon yn cael ei chreu i gydgysylltu'r broses adfer.
Rwy'n cytuno â'r hyn rydych wedi'i ddweud, Weinidog, nad ydym eisiau dychwelyd at fusnes fel arfer ar ôl yr argyfwng hwn, ac wrth hynny, rwy'n golygu dychwelyd at ystyried ei bod hi'n dderbyniol talu'r fath gyfraddau truenus i weithwyr gofal, ac mewn ystyr ehangach, dychwelyd at oddef lefelau brawychus o dlodi mewn cymdeithas yr honnir ei bod yn gyfoethog.
Yn sicr, mae'r pwyslais ar gyfiawnder economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a nodwyd yn eich datganiad, Weinidog, i'w groesawu hefyd. Mae'n ffordd o wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o'r digwyddiad hwn sy'n newid y byd, a chreu dyfodol sy'n rhydd o gamgymeriadau'r gorffennol. O ran yr economi, mae'r wythnosau diwethaf wedi dangos pwy yw'r gweithwyr allweddol yn ein cymdeithas mewn gwirionedd. Nid y bobl sy'n ennill uwchlaw trothwy penodol fel y gwelwyd yng nghynlluniau mewnfudo gwreiddiol Llywodraeth y DU ond y bobl sy'n ein cadw'n ddiogel. Rydych chi wedi cyfeirio, Weinidog, at y ffaith bod y newid hwn yn ein gwerthfawrogiad o'r bobl hyn wedi digwydd, ond a allech chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyfuno gwerth cymdeithasol â thegwch economaidd yn y dyfodol? A oes gennych gynlluniau i weithredu bargen newydd ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gan roi cyflog a llwybrau gyrfa teg iddynt er enghraifft? A hoffwn wybod hefyd a oes gennych unrhyw gynlluniau i gynnig cymorth economaidd a chefnogaeth iechyd meddwl i'r gweithwyr allweddol sydd wedi ysgwyddo'r baich yn ystod yr argyfwng?
Diolch am y cwestiynau hynny, Delyth Jewell, ac rwy'n credu bod yr heriau a nodwch yn eich cwestiwn yn ganolog i'r drafodaeth a gawsom ddydd Llun, a oedd yn canolbwyntio'n fanwl ar yr effaith ar yr economi ac ar garfannau bregus o bobl yn yr economi. Un o'r materion a drafodasom yn faith, mewn gwirionedd, oedd y pwynt rydych newydd ei wneud ac y rhoddwyd sylw iddo gan y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau'n gynharach, sef cydnabod ein dibyniaeth, fel cymdeithas, ar bobl sy'n cyflawni swyddogaethau sydd wedi cael eu tanbrisio a'u hanwybyddu, fel y mae wedi'i ddweud mewn cyd-destunau eraill. Mae'r syniad ein bod yn dathlu o'r newydd rôl gweithwyr allweddol nad ydynt wedi cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu mewn sawl sector yn gwbl ganolog i'r math o bethau y bydd angen inni eu hystyried ac y byddwn yn dymuno eu hystyried fel rhan o'r broses o atgyweirio ac adfer ar ôl COVID. Rydych wedi siarad yn benodol am weithwyr cymdeithasol, a hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r angen i sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol, yn arbennig, yn cael eu gwobrwyo am y cyfraniad y maent bob amser wedi'i wneud, a chredaf fod amlygrwydd eu cyfraniad yn fwy byth yn yr amgylchiadau presennol.
Fe'm trawyd hefyd gan y ffordd y mae rhai o'r effeithiau gwahaniaethol y mae COVID wedi'u cael ar grwpiau penodol yn ein cymdeithas sydd wedi bod yn arbennig o agored i niwed yn y gwaith. Felly, ceir crynodiad uchel o bobl o dan 25 oed yn y sectorau yr effeithir arnynt gan COVID, yr effaith anghymesur yn y sectorau sydd ar ffyrlo ar fenywod yn fwy na dynion. Felly, rwy'n meddwl bod y pwysau a'r beichiau y mae COVID yn eu gosod ar yr economi yn amlygu peth o'r annhegwch gwaelodol hwnnw y byddwn i gyd am fynd i'r afael ag ef, ac mae'r broses hon yn ymdrech i ddeall sut y gallwn wneud hynny yn y ffordd orau wrth i ni oresgyn yr heriau newydd y mae COVID yn eu creu.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sy'n synhwyro diflastod cynyddol ymysg rhai aelodau o'r cyhoedd ynghylch y cyfyngiadau presennol, felly er fy mod yn derbyn yn llwyr y bydd ffocws eich gwaith ar faterion polisi ehangach, byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech hefyd ystyried sut y gellid cael map ffordd ar gyfer sut i ddod allan o'r cyfyngiadau symud. Rhai o'r pethau syml y mae pobl yn gweld eu colli fwyaf, fel cofleidio aelodau o'r teulu nad ydynt wedi gallu eu gweld ers peth amser—sut y gallai hynny gysylltu â'r materion pellgyrhaeddol ehangach, y materion pwysig rydych chi'n edrych arnynt. O ran yr agwedd gymdeithasol ar eich gwaith, a allech chi ddweud wrthym, yn y tymor canolig, sut y byddwch yn mynd i'r afael, fel Llywodraeth, â'r argyfwng iechyd meddwl a'r unigrwydd a waethygwyd gan yr argyfwng? Rydym hefyd wedi darganfod bod digartrefedd mewn sawl ffordd yn ddewis gwleidyddol gan Lywodraeth, felly a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd gyda'r argyfwng hwn a diddymu digartrefedd am byth, nid yn unig pan fo'n gyfan gwbl angenrheidiol o safbwynt meddygol fel y mae ar hyn o bryd?
O ran yr amgylchedd, sut y bwriadwch gydbwyso'r angen i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol ag ymateb i'r argyfyngau nad ydynt wedi diflannu, fel yr argyfwng hinsawdd a'r holl densiynau cynhenid rhwng y ddau? Sut y bwriadwch bwyso am newid enfawr tuag at ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar ddiwedd yr argyfwng hwn, pan fo'r amseru'n iawn, er enghraifft—ac rwy'n sylweddoli nad yw'n gydbwysedd hawdd i'w daro o gwbl? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod creu amgylchedd iach yn chwarae rhan allweddol yn ei chynlluniau ym mhob portffolio yn y dyfodol?
Yn olaf, Weinidog, rwyf am ofyn a ydych chi'n mynd i fod yn gweithio gydag economegwyr ymddygiadol i fynd i'r afael â rhai o'r arferion gwael y gallai pobl fod wedi'u meithrin yn ystod y cyfyngiadau symud, fel peidio ag ailgylchu cymaint mwyach, a hefyd sut y gallwn hyrwyddo rhai o'r arferion gwirioneddol dda, megis peidio â defnyddio ceir gymaint a defnyddio mwy ar dechnoleg ddigidol? A wnewch chi ystyried, er enghraifft, cael parthau di-gar mewn dinasoedd ar rai dyddiau o'r wythnos neu edrych ar fanteision posibl symud i wythnos pedwar diwrnod yn y sector cyhoeddus? Gwn na fydd gennych yr holl atebion i hyn yn awr, Weinidog—rwy'n derbyn hynny'n llwyr—ond hoffwn glywed rhai o'ch safbwyntiau cychwynnol ar rai o'r materion hyn.
Wel, rwy'n credu bod ehangder a dyfnder yr ystod o gwestiynau y mae Delyth Jewell wedi'u gofyn yn ddarlun o'r gyfres o heriau rydym i gyd yn eu hwynebu fel gwlad ac yn rhyngwladol yn wir wrth ymateb i COVID a'r realiti newydd y bydd yn ei greu. Rwy'n credu bod unrhyw un o'r cwestiynau hynny'n teilyngu ateb awr o hyd, ond nid wyf am brofi amynedd y Llywydd gyda hynny.
I roi rhai ymatebion thematig, os caf, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi'r fframwaith a fydd yn llywio ei benderfyniadau mewn perthynas â sut y gallwn gefnu ar y cyfyngiadau symud pan ddaw'r amser. Ar y pwynt a wnewch am hynny, rydym yn deall yr agweddau cydraddoldeb yn dda iawn, oherwydd nid yw profiad o'r cyfyngiadau symud, na'r profiad o gael COVID yn wir, yn cael ei deimlo yn yr un ffordd gan bobl ym mhob un o'n cymunedau, ac felly mae'r penderfyniadau hynny'n ystyriaethau pwysig o ran sut rydym yn rhoi'r camau ar waith, ac mae hynny'n rhan o'r fframwaith. Ac fe'm trawyd yn arbennig gan yr effaith ar blant mewn cartrefi difreintiedig nad ydynt â'r adnoddau sydd gan eraill at eu defnydd o bosibl, a'r effaith fawr y byddant yn ei theimlo'n barhaus ar ôl COVID, sy'n arwain at y pwynt ehangach ynglyn â'r math o wlad newydd yr hoffem ei gweld a'r agenda tegwch y mae hi wedi siarad amdani.
O ran gwasanaethau cyhoeddus, cawsom sesiwn gyfan yn trafod rhywfaint o hynny, ac rwy'n credu mai un o'r agweddau y mae ei chwestiwn yn cyfeirio ato yw ein gallu yn yr argyfwng presennol i ymateb, mewn rhai ffyrdd, yn gyflymach ac mewn ffordd fwy cydgysylltiedig nag y mae Llywodraethau ym mhobman wedi gallu ei wneud yn y gorffennol. Rwy'n credu'n arbennig fod yr ymdrechion a wnaed ar ddigartrefedd, yr ymyrraeth yno a pha mor gyflym y gwelwyd ei heffaith yn arbennig o drawiadol.
Yn fyr iawn, ar y pwynt olaf a wnaeth, ynglŷn â'r amgylchedd, credaf ei bod yn gwneud pwynt da iawn, os caf ddweud, ynghylch y newid ymddygiad a gyfrannodd at ansawdd aer gwell ac at werthfawrogi'r gallu i brynu bwyd yn lleol lle gall pobl wneud hynny, a'r mynediad i fannau gwyrdd, ac mae pob un o'r rheini'n gadarnhaol iawn, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio gweld hynny'n parhau. Ond rwy'n credu mai un o'r gwersi, yr arwyddion, a'r negeseuon llesol i ni, rwy'n meddwl, yw nad yw'n sicr pan ddown allan ar yr ochr arall i'r amser hwn y bydd pobl yn dymuno parhau â'r holl batrymau ymddygiad hynny. Mae'n rhan o'r her, yn fy marn i, i bob un ohonom mewn bywyd cyhoeddus, ac i lywodraethau yn arbennig, geisio meithrin y patrymau ymddygiad a all gyfrannu at rai o'r nodau ehangach hynny.
Rwy'n credu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn enghraifft dda iawn o hynny, ac mae hi'n tynnu sylw at hynny yn ei chwestiwn. Byddem yn gobeithio, rwy'n credu, y byddai pobl yn dymuno cadw'r math o ansawdd aer sydd gennym ac yn ei chael hi'n haws defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus nag yn y gorffennol, ond bydd pobl hefyd yn pwyso a mesur yn erbyn hynny y gorchmynion i gadw pellter cymdeithasol, oni fyddant? Felly, bydd yna gyfres gymhleth o benderfyniadau y byddai pobl am eu gwneud, ac mae angen inni geisio helpu pobl i adeiladu ar y patrymau ymddygiad cadarnhaol hynny, gan gydnabod nad yw hon bob amser yn mynd i fod yn daith syml. Ond yn sicr, bydd y dewisiadau a wnawn o ran y ffordd y down allan ar yr ochr arall i brofiad COVID yn effeithio ar yr amcanion newid hinsawdd rydym wedi'u gosod i ni ein hunain ac rydym yn dal yn ymrwymedig iawn i'w cyflawni.
A gaf fi ddiolch i chi, Weinidog, am eich datganiad, a hefyd am y wybodaeth a gefais gennych heddiw? Roedd yn ddefnyddiol iawn i gael eich safbwynt ar le eich rôl yn y Llywodraeth, oherwydd mae'n rôl mor eang ac yn effeithio ar gynifer o wahanol adrannau, felly rwy'n eich croesawu iddi. Mae'n mynd i fod yn her fawr, rwy'n credu, i bawb addasu i'r trefniadau gweithio newydd a allai godi ar ôl i'r pandemig hwn ddod dan reolaeth, ac yn sicr rwy'n dymuno pob hwyl i chi gyda'r gwaith o fwrw ymlaen â hyn.
Mae'n amlwg ein bod wedi dod i gyfnod rhyfedd yn ein hanes sy'n mynd i siapio'r ffordd rydym yn edrych ar bethau wrth symud ymlaen, i bawb sydd wedi bod drwy'r pandemig hwn, yn yr un ffordd ag y mae pobl sydd wedi bod trwy ryfeloedd a chlefydau pandemig blaenorol fel pandemig ffliw Sbaen wedi gwneud. Ac fel rydych wedi nodi, rydym wedi gweld newidiadau arwyddocaol yn ymddygiad pobl; mae llawer o bobl na fyddent byth wedi credu y byddai'n bosibl iddynt redeg eu busnesau o'u cartrefi neu gael y rhan fwyaf o'u staff yn gweithio y tu allan i'w pencadlys a'u swyddfeydd wedi canfod eu bod wedi gallu gwneud hynny, ac wrth gwrs, mae hynny wedi cyflwyno'i heriau ei hun hefyd, o ran iechyd meddwl a lles pobl, yn enwedig lle gallent fod yn unigolion sy'n byw ar eu pen eu hunain.
Ond yn amlwg, er ein bod wedi cymryd camau breision ymlaen, bydd rhai heriau'n parhau. Rydych chi eisoes wedi sôn am y broblem ddigidol i'n pobl ifanc yn ein hysgolion yn enwedig o ran gallu parhau gyda'u haddysg. Ond yn amlwg, mae llawer o bobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd parhau â'u patrwm gwaith oherwydd y bwlch digidol y maent yn ei wynebu. Felly, mae'r rhaniad digidol rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol, er enghraifft, yn dipyn o her yn fy marn i, o ystyried nad oes gan bawb fynediad at fand eang cyflym, ac yna, wrth gwrs, mae gennym raniad rhwng pobl hŷn a phobl iau, o bosibl. Felly, a allwch chi ddweud ychydig wrthyf a yw hon yn thema yn y ffrydiau gwaith rydych chi'n bwrw ymlaen â hwy? Credaf y bydd hynny'n arbennig yn rhywbeth y byddwn yn gobeithio y byddem oll am ei wreiddio yn y dyfodol, o ran digideiddio ein heconomi, wrth symud ymlaen, oherwydd os ydym ar y blaen yn y broses o adeiladu'r seilwaith cywir a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y pethau hyn, credaf y byddai hynny'n beth da i ni yn y tymor hwy.
A gaf fi gyffwrdd hefyd ar y trafodaethau bwrdd crwn rydych chi wedi'u cael? Rwy'n falch iawn o weld bod y rheini wedi digwydd a bod gennych fwy wedi'u cynllunio. Ar ôl edrych ar eu haelodaeth hyd yn hyn, mae'n ymddangos eu bod braidd yn ysgafn o safbwynt byd busnes. A allwch roi rhywfaint o hyder i mi y bydd rhagor o bobl o'r sector preifat, a'r sector busnes yn arbennig, wedi'u cynnwys ar y paneli ac yn y trafodaethau bwrdd crwn nesaf a gynlluniwyd gennych?
Diolch am hynny. Ar eich sylwadau cychwynnol—a diolch am y gefnogaeth a nodoch chi—o ran agweddau eang y rôl, un o'r pwyntiau allweddol rydym yn ceisio ei sicrhau yw bod gan y Llywodraeth yn ei holl agweddau ddealltwriaeth gyffredin o rai o'r heriau sydd o'n blaen ac y gellir bwydo hynny i mewn i waith Gweinidogion a gweision sifil a'i brif-ffrydio yn ein cyd-ddealltwriaeth, ar draws y portffolios, o beth yw rhai o'r effeithiau. Mae'n amlwg y bydd ymyriadau mewn un maes yn effeithio ar eraill, ac felly mae hynny'n rhan o'r rhesymeg.
Ar y pwynt digidol, sef prif bwynt ei gwestiwn, mae mater allgáu digidol yn gwbl ganolog i'r mathau o faterion y buom yn eu trafod, o ran yr ymateb uniongyrchol i COVID, gan gydnabod bod manteision, yn amlwg, yn y modd y mae awdurdodau lleol wedi gallu darparu llawer mwy o wybodaeth ar-lein am y cymorth y gallant ei roi i bobl sydd wedi'u hynysu, a chyflymder, mewn gwirionedd, ein gallu i gyflwyno apwyntiadau meddygon teulu ar-lein, dros fideo, a hynny ar raddfa fawr. Rwy'n credu mai rhan o'r her i bob llywodraeth yn y dyfodol, mewn gwirionedd, yw peidio â dad-ddysgu'r ymddygiad hwnnw ac i allu gwneud y math hwnnw o newid yn y dyfodol mewn cyd-destunau mwy diniwed, gobeithio, mewn amgylchiadau mwy diniwed.
Ond mae'r pwynt a wnewch yn gwbl ganolog i'r drafodaeth a gawsom ddoe, er enghraifft, ynglŷn â diwygio gwasanaethau cyhoeddus a phwysigrwydd parhau â'r broses o ddarparu gwasanaethau'n ddigidol, yn amlwg, am fod hynny'n rhyddhau cyfalaf dynol ar gyfer cymorth arall y gall y wladwriaeth ei roi, a hefyd i gynnwys yn hynny y syniad o sut yr awn i'r afael ag allgáu, fel eich bod yn cynnwys y defnyddiwr a'r defnyddiwr gwasanaeth wrth gynllunio'r gwasanaethau hynny er mwyn i chi allu mynd â phobl ar y daith honno gyda chi yn ogystal â mynd i'r afael â'r pwyntiau yn eich cwestiwn ynghylch cymhwysedd digidol, ond hefyd mynediad digidol. Ydy, mae'n ymwneud â band eang, ac mae dimensiwn gofodol i hynny. Mae hefyd yn ymwneud â mynediad at offer, onid yw? Nid oes gan bob cartref liniadur a dau neu dri o ffonau clyfar, ac ni all pobl fynd i lyfrgelloedd ar hyn o bryd. Nid yw caffis rhyngrwyd yn bodoli yn y ffordd yr arferent fodoli. Felly, mae'r rhain yn heriau o ran mynediad yn ogystal â heriau o ran cymhwysedd.
Bydd heriau'n codi hefyd yn y dyfodol o'r dewisiadau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Efallai y bydd pobl sy'n gallu gweithio gartref yn dewis gwneud hynny fwy yn y dyfodol nag sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Efallai y bydd hynny'n gwneud rhywbeth i'r mannau lle mae pobl yn dewis byw. Os nad yw pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod o fewn pellter cymudo agos, efallai y bydd dosbarthiad anheddau'n newid, a gallai hynny hefyd greu pwysau yn y dyfodol ar ddosbarthiad band eang. Felly, mae heriau go fawr yn y fan honno.
O ran cynrychiolaeth o'r byd busnes, roedd yna 21 o bobl, rwy'n credu, dros dair sesiwn, felly, mewn gwirionedd, credaf mai cynrychiolaeth ysgafn sydd gan bawb yn y cyd-destun hwnnw. Roedd gennym un neu ddau o bobl fusnes, rwy'n meddwl, yn un o'r sesiynau ddoe, yn siarad o safbwynt cyllid i raddau helaeth ac o safbwynt entrepreneuraidd, ac roedd yn gyfraniad pwysig a gwerthfawr iawn i'r drafodaeth yn fy marn i. Yn amlwg, pan fyddwn yn cynnal ein cyfres nesaf o gyfarfodydd bwrdd crwn, byddwn am wneud yn siŵr ein bod yn parhau'r lefel honno o gynrychiolaeth yn gyffredinol, er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau yn y cymysgedd.
Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. A gaf fi ofyn i chi hefyd sut rydych chi'n gweithio gyda Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig? Yn amlwg, rydym wedi clywed negeseuon gan y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill am yr awydd i godi'r cyfyngiadau presennol ar draws y DU gyfan, ac wrth gwrs, rydym i gyd yn cydnabod, o ran ein cysylltiadau economaidd er enghraifft, fod dimensiwn mawr dwyrain-gorllewin na allwn ei anwybyddu i economi Cymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru ac ar rannau o goridor yr M4. Felly, os caiff cyfyngiadau eu codi ar un ochr i'r ffin ac nid ar yr ochr arall, gallai hynny ychwanegu pob math o gymhlethdodau at y ffordd y down allan o'r pandemig ac ymadfer ohono.
Felly, a allwch ddweud wrthym pa fath o drafodaethau'n union rydych yn eu cael? Rwy'n gwybod ei bod yn amlwg yn bwysig ein bod yn sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hystyried mewn unrhyw fath o broses adfer sydd gennym a chodi cyfyngiadau, ond a allwch roi rhywfaint o sicrwydd i mi hefyd na fydd dulliau daearyddol gwahanol o weithredu yng Nghymru a allai gynyddu'r risg o gynnydd yn y gyfradd heintio mewn mannau lle mae twristiaeth yn bwysig er enghraifft? Os ailagorwch y clwydi ar dwristiaeth, efallai y gallai hynny fod o anfantais i leoedd fel gogledd Cymru a rhannau o ganolbarth a gorllewin Cymru hefyd. Un o'r pethau sydd i'w weld yn wir yw ei bod yn amlwg fod y pandemig yn lledaenu ar wahanol gyflymder mewn gwahanol rannau o'r wlad, felly gwn fod gogledd Cymru, er enghraifft, tua dwy neu dair wythnos y tu ôl i'r sefyllfa yn ne Cymru i bob golwg. Felly, dyma'r math o bethau y mae pobl yn mynegi pryder wrthyf amdanynt yn fy mag post ar hyn o bryd.
Diolch iddo am hynny. Ar y cwestiwn ynglŷn â'r dull o lacio'r cyfyngiadau, fel y bydd yn gwybod, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei fframwaith ar gyfer sut y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud. Mewn perthynas â thrafodaethau gyda Llywodraethau eraill ar y gwaith manwl yn y dyfodol, nid wyf wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Llywodraethau eraill ar hynny. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn gyflym iawn i symud ar hynny, ac rwy'n credu bod llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y trafodaethau bwrdd crwn wedi dweud, 'Mae'n glodwiw eich bod chi'n symud mor gyflym. Mae rhai pethau'n dal i ddod i'r amlwg, ond mae'n dda iawn eich bod wedi dechrau mor fuan'. Ond rwy'n credu y gwelwn Lywodraethau eraill yn gwneud hynny, yn amlwg; rwy'n siŵr eu bod yn ei wneud yn fewnol yn barod.
Yn amlwg, mae trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraethau ynglŷn â sut y caiff y cyfyngiadau eu codi. Fel y crybwyllais yn fy natganiad, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r modd y mae'n ffafrio dull o weithredu ar sail y pedair gwlad. Dyna'r ffordd orau o wneud hynny, os gallwn gyflawni hynny. Ond yn amlwg cafwyd adegau ar y ffordd pan fo Llywodraethau wedi gweithredu mewn ffyrdd sydd ychydig yn wahanol i'w gilydd. Mae Llywodraeth y DU wedi dewis symud yn gyntaf weithiau. Mae Llywodraeth Cymru ar adegau eraill wedi symud yn gyntaf, a hynny am fod yr amgylchiadau ac efallai'r cyngor a'r farn yn y gwledydd wedi bod ychydig yn wahanol. Ond mae'r pwynt y mae'n ei godi yn ei gwestiwn yn bwysig, ynglŷn â dosbarthiad daearyddol cyfradd drosglwyddo'r clefyd. Mae rhywfaint o amrywio yn hynny, ac mae'n amlwg fod hwnnw'n benderfyniad y bydd angen ei ystyried yn ei gyfanrwydd. Ond rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yw canolbwyntio ar y saith prawf y mae'r Prif Weinidog wedi'u gosod, ac fel y dywedais yn gynharach, un o'r agweddau ar hynny yw'r dimensiwn cydraddoldeb, a bydd hwnnw'n bwysig.
Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Roedd ffocws cychwynnol ar grŵp ymgynghorol, ac yn sylwadau'r cyfryngau, roedd a wnelo llawer o hynny â Gordon Brown ac ai ef oedd y person i'n helpu i adfer. Ond rwy'n gweld o'r rhestr hon fod gennych nifer lawer ehangach o bobl. A gaf fi egluro bod y trafodaethau bwrdd crwn hynny ar gyfer adfer yr un peth â'r grŵp ymgynghorol o'r tu allan i Gymru y cyfeiriwyd ato'n gynharach? Gwn fod Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi cymryd rhan yn y rhestr honno, felly a fu—? A yw y tu allan i Gymru yn awr, ac yna Cymru ar gyfer y rhai a gynhelir yn y dyfodol? Neu a yw—? Cyfeiriodd Darren Millar at y ffaith y dylem gael rhai pobl o'r sector preifat ynddo. Fe ddywedoch chi fod o leiaf ddau yno. Ni allaf weld unrhyw rai sy'n amlwg yn dod o gefndir busnes preifat, neu sydd o leiaf yn gweithio mewn cefndir felly o'r rhestr a ddarparwyd. Sylwaf fod y Sefydliad Economeg Newydd, Sefydliad Resolution a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i gyd wedi'u cynrychioli'n helaeth, ac rwy'n meddwl tybed: a yw hynny wedi'i dderbyn ac yn fwriadol, fel Llywodraeth y chwith, eich bod am gael cyngor allanol gydag o leiaf fwy o gynrychiolaeth o blith pobl gydag agwedd debyg?
Fe sonioch chi am y ddogfen adfer a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill, ac mae hynny'n ymddangos fel petai'n sbarduno llawer o'r hyn rydych chi'n ei wneud, o'r hyn a ddywedwch, ond wedyn rydych hefyd yn ailadrodd yr awydd cryf, awydd rwy'n ei ategu, i'n gweld yn dod allan ar sail gyffredin rhwng y pedair gwlad. Serch hynny, onid oes tensiwn rhwng yr awydd i wneud pethau gyda'r tair gwlad arall a'u Llywodraethau yn hyn o beth, a chael dogfen nad ydych wedi ymgynghori arni'n flaenorol sy'n gosod yr holl brofion cydraddoldeb hyn, yn pwysleisio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn dweud bod rhaid i'r broses o godi'r cyfyngiadau fod yn seiliedig ar werthoedd Cymreig penodol? Os mynnwch gael pob un o'r pethau hynny, onid yw'n ei gwneud yn anos, o leiaf mewn rhai ardaloedd, i godi cyfyngiadau ar yr un pryd â'r gwledydd eraill?
Rwy'n meddwl eich bod wedi dweud hefyd nad oedd neb am ddychwelyd at fusnes fel arfer. Rydych yn cyfeirio, er enghraifft, at gadw newidiadau amgylcheddol. A ydym am gadw'r newidiadau amgylcheddol sy'n dilyn o gael dim ond 40 y cant o'r defnydd arferol o geir preifat? Rwy'n credu eich bod wedi crybwyll hyn, ond yn Tsieina, gallwn weld bod llawer o bobl yn mynd allan ac yn prynu ceir newydd, ac mae defnydd o ffyrdd gan gerbydau preifat wedi adfer yn llawer cyflymach na thrafnidiaeth gyhoeddus. Ond does bosibl na fyddai llawer o bobl yn eithaf awyddus i fynd yn ôl at fusnes fel arfer ac y byddent yn gweld busnes fel arfer yn llawer gwell na bod yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, a byddant yn poeni y gallai eich profion cydraddoldeb a'ch amrywiol ofynion ideolegol—neu'r hyn y gallai rhai pobl eu dirnad fel gofynion ideolegol—ar gyfer sut y dylid codi cyfyngiadau arafu ein gallu i ddychwelyd at fywyd fel arfer a chael yr economi i symud, gadael i bobl fynd allan a chefnogi eu lles drwy wneud hynny.
Felly, rydym yn dioddef, rwy'n meddwl, yn enwedig yng Nghymru—. Mae un astudiaeth gan Sky yn cynnwys dadansoddiad fod 43 y cant o drefi Cymru yn y categorïau yr effeithir arnynt fwyaf, hen gymunedau diwydiannol a threfi arfordirol yn arbennig. Ac os ydych chi'n poeni cymaint am gydraddoldeb, o ystyried bod COVID-19 yn cynyddu'r anghydraddoldebau hynny, onid y peth pwysicaf yw codi'r cyfyngiadau hynny cyn gynted ag y bo modd. Gwelwn fod capasiti yn y GIG erbyn hyn. Mae'r gyfradd drosglwyddo'n is nag un. Roeddem i fod i lefelu'r gromlin, gan ei chadw o fewn gallu'r GIG i ymateb. Rydym wedi gwneud hynny. Pam eich bod yn cadw'r cyfyngiadau hyn ac yn cynyddu'r niwed i'r economi a'r effaith negyddol ar anghydraddoldeb?
Yn gyntaf, ar y cwestiwn ynglŷn â phroses, fel y nodais yn fy natganiad ddydd Mercher diwethaf i'r gynhadledd i'r wasg, cam cyntaf ymgysylltiad y grŵp cynghori allanol yw'r gyfres o drafodaethau bwrdd crwn, ac fel y nodais rwy'n credu, rwy'n gobeithio y bydd is-set o'r grŵp hwnnw'n nodwedd barhaus o'n gwaith. Felly, nid oes dim wedi newid ers imi wneud y datganiad ddydd Mercher diwethaf mewn perthynas â hynny.
Mae'n holi am y cymysgedd daearyddol—oes, mae yna bobl o Gymru, mae yna bobl o rannau eraill o'r DU, ac mae yna bobl o rannau eraill o'r byd, sef y math o gymysgedd y credaf imi ddweud fy mod yn gobeithio ei gyflawni, felly rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud hynny.
Mewn perthynas â busnes, mae yna entrepreneuriaid a phobl o gefndir cyllid ar y panel, ar y bwrdd crwn—cyfranwyr. Mae tueddiad tuag at amrywiaeth o bobl sy'n rhannu ein gwerthoedd mewn ystyr eang iawn, a hynny oherwydd ein bod eisiau gwneud yn siŵr y gallwn gymhwyso ein gwerthoedd mewn cyd-destun newydd. Ein dewis ni fel Llywodraeth yw hwnnw, i ddymuno parhau i gymhwyso'r gwerthoedd y cawsom ein hethol i'w cyflawni ac y credwn ynddynt yn gadarn iawn. Ond rydym hefyd wedi dod â lleisiau i mewn i'r cymysgedd hwnnw nad ydynt o bosibl yn rhannu'r gwerthoedd hynny'n llwyr, ac felly mae hynny'n bwysig. Mae gennym rywun yno sydd, yn y gorffennol, wedi gweithio i Lywodraeth Geidwadol. Felly, mae'r darlun yn fwy cymhleth nag y credaf y byddai ei sylwadau wedi ein harwain i gredu.
Yn yr ail set o gwestiynau ynglŷn â'r cyfyngiadau symud—wel, rwy'n meddwl fy mod am ailadrodd yr hyn mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am hyn ar sawl achlysur. Mae'r ddogfen yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i fod mor dryloyw ag y gallwn fod wrth esbonio i bobl Cymru y mathau o egwyddorion sy'n berthnasol i'r penderfyniad i godi'r cyfyngiadau symud pan ddaw'r amser, a'r fframwaith ar gyfer gwneud y penderfyniad hwnnw. Mae gennym farn wahanol am y gwerthoedd sy'n berthnasol i'r gyfres honno o ddewisiadau. Ond unwaith eto, fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, rwy'n credu bod cyhoeddi'r ddogfen honno'n ymgais i helpu i lunio'r norm hwnnw ledled y DU. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn awgrymu ymdeimlad fod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywbeth sy'n gwyro oddi wrth y norm, os mynnwch, lle rydych yn cymryd safbwynt y Llywodraeth yn Lloegr fel y pwynt sylfaenol. Nid dyna sut rwy'n gweld datganoli. Mae gan Lywodraethau ar draws y DU hawl i gyflwyno gweledigaeth ar gyfer sut y credant y gall pethau weithio, a lle rydym yn chwilio am sail ar gyfer y pedair gwlad, mae hwnnw'n gyfraniad at y drafodaeth ynghylch Llywodraethau cydradd, a chredaf mai dyna mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud wrth gyhoeddi'r ddogfen honno.
Mae'n iawn i ddweud bod effaith COVID ar ymddygiad wedi bod yn gymysg, onid yw, ac rwy'n rhannu ei farn, rwy'n credu, y gallai fod yn wir, wrth inni gefnu ar gyfyngiadau COVID, nad yw pobl yn dymuno parhau â rhai o'r patrymau ymddygiad hynny. A byddech yn deall pam y byddai rhai ohonynt yn teimlo felly, gan eu bod yn amlwg yn galw am wneud dewisiadau anodd. Y pwynt roeddwn yn ei wneud yn syml oedd, lle gallai rhai o'r patrymau ymddygiad gyfrannu at amcanion ehangach y byddem am eu gweld, dylem ni fel Llywodraeth geisio gweld a allwn barhau i gynorthwyo pobl i wneud y dewisiadau hynny lle gallant.
Ei neges sylfaenol yw: codwch y cyfyngiadau cyn gynted ag y bo modd. Rwy'n credu mai'r pwynt sydd wedi cael ei wneud dro ar ôl tro ar ran y Llywodraeth yw mai'r amser ar gyfer codi'r cyfyngiadau yw pan fydd hi'n bosibl dweud wrth bobl yng Nghymru ei bod yn ddiogel i wneud hynny. A bydd y Prif Weinidog, rwy'n siŵr, yn mynd i'r afael â'r dasg o ystyried y cwestiwn ynghylch codi'r cyfyngiadau gyda hynny'n bendant iawn mewn cof.
Weinidog, mae gennyf ddiddordeb ym mheirianwaith ymarferol Llywodraeth yma, a sut y mae'n mynd i gyflawni. Felly, a allech ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â sut y bydd y cyngor a ddarperir gan yr unigolion hyn y tu allan i'r Llywodraeth yn mynd i mewn i waith y Llywodraeth, ac yn cyrraedd yno'n gyflym? Ac yn ail, rwy'n gwybod bod llawer o siaradwyr wedi crybwyll y materion amgylcheddol, ac rwy'n nodi y cyhoeddwyd adroddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru heddiw. Sut y mae eich gwaith yn mynd i gysylltu â gwaith y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i sicrhau'r manteision amgylcheddol hyn yn arbennig, er mwyn sicrhau y bydd gweithio cydgysylltiedig yn digwydd, a dim dyblygu gwaith?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau hynny. Y pwynt cyntaf y mae'n ei wneud—mae'n mynd at wraidd y peth, onid yw? Felly, cynnull trafodaethau bwrdd crwn, ar un ystyr, yw—dyna beth ydyw, yn yr ystyr o'r broses o'i wneud. Yr allwedd yw cymryd yr allbwn a'r syniadau a gwneud yn siŵr fod hynny'n helpu i siapio ein dealltwriaeth. Felly, y trafodaethau bwrdd crwn, a'r broses allanol sy'n eu dilyn, yw un o'r elfennau hynny. Ceir ail elfen a luniwyd i ymgysylltu â'n partneriaid cymdeithasol—ac yn amlwg, mae gennym berthynas sydd wedi sefydlu'n dda iawn gyda hwy eisoes—ac yna mae trydedd elfen yn ymwneud â sicrhau bod y rhanddeiliaid amrywiol yn y gwahanol adrannau sydd gan y Llywodraeth yn gallu bwydo'n uniongyrchol i'n meddyliau, mewn ffordd debyg i'r gwaith a wnaethom mewn perthynas â pharatoi ar gyfer Brexit, er mwyn sicrhau bod yna rwydwaith y gall pobl deimlo y gallant ei ddefnyddio i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn uniongyrchol gan y Llywodraeth.
Ond law yn llaw â gwaith y grŵp allanol, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio grŵp mewnol, sy'n canolbwyntio ar adfer a'r dyfodol, er mwyn sicrhau bod y syniadau allanol hynny'n cael eu bwydo'n uniongyrchol i waith y Llywodraeth yn gyffredinol. A bydd ystod o gynrychiolwyr yn aelodau ohono yn y ffordd arferol. Felly, yr amcan yw gwneud yn siŵr fod gan ddatblygu polisi a chynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y soniais wrth Darren Millar yn gynharach, fath o gyd-ddealltwriaeth ar draws Llywodraethau, ein bod yn profi ein rhagdybiaethau yn erbyn y rhagamcan cyffredin hwnnw ynglŷn â sut y gallai pethau edrych.
O safbwynt yr ail set o gwestiynau, rwyf wedi dechrau darllen yr adroddiad; nid wyf wedi'i orffen eto. Mae oddeutu 800 o dudalennau, rwy'n meddwl, felly mae'n dipyn o waith, ond rwyf wedi dechrau ei ddarllen, ac rwy'n cyfarfod â'r comisiynydd, os nad yr wythnos hon, yna ddechrau'r wythnos nesaf—rwy'n meddwl mai'r wythnos hon y mae'r cyfarfod mewn gwirionedd—i sôn am yr union fathau o bethau y cyfeiriodd hi atynt yn ei chwestiwn. Yn amlwg, mae llawer o'r gwaith hwnnw, fel y bydd hi'n gwybod os yw hi wedi dechrau edrych ar yr adroddiad—. Mae'n dweud, onid yw, fod COVID wedi dod ar yr adeg pan oedd gwaith yn mynd rhagddo ar yr adroddiad, felly mae rhai sylwadau ynddo ar hynny, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Ond ydw, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi yn ystod y dyddiau nesaf i wneud yn union hynny.
Gwnsler Cyffredinol, rydych chi wedi nodi effaith yr argyfwng hwn ar bobl ifanc ac ar eu dyfodol nifer o weithiau. Ac rydych chi hefyd wedi sôn am y pwysau ar deuluoedd, yn enwedig teuluoedd a oedd eisoes yn dioddef amddifadedd cyn i'r argyfwng daro. A gaf fi ofyn dau gwestiwn i chi ynglŷn â hynny? Un: sut rydych chi'n bwriadu ymgynghori â phlant a phobl ifanc wrth i chi ddatblygu eich rhaglen adfer? Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n gwbl allweddol, oherwydd eu dyfodol hwy fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniadau a wnawn yn awr. Ac a fyddech yn cytuno mai dyma'r amser i ni fod yn uchelgeisiol ynghylch rhai o'r anghydraddoldebau strwythurol hynny? Ac oni ddylem osod targed i ni'n hunain erbyn diwedd tymor nesaf y Cynulliad, er enghraifft, na fydd unrhyw blentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi llwyr? Mae'n ymddangos i mi fod hon yn adeg pan fydd pobl yn barod i Lywodraethau wneud pethau mawr a bod yn uchelgeisiol. Ac rwy'n credu bod angen inni weld bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael blaenoriaeth wrth i ni gychwyn ar y broses adfer.
Wel, diolch am y gyfres bwysig iawn honno o gwestiynau. Ar y pwynt cyntaf, mae gwaith ar y gweill eisoes i annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn yr ymateb cyntaf i COVID. Ond ar y pwynt ehangach sy'n rhyw fath o edrych i'r dyfodol, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt da iawn, ac mae wedi bod yn glir yn y tair cyfres o drafodaethau—hyd yn oed pan nad ydynt wedi bod yn ymwneud yn bennaf â phrofiad pobl ifanc a phlant, mae wedi dod i'r amlwg yn gyflym iawn. Y mater sy'n codi o fod gartref, pan fydd yr ysgol efallai wedi darparu amgylchedd mwy cefnogol ym mywydau rhai plant, yw bod y cwestiwn o wella neu wreiddio'r anghydraddoldebau hynny yn amlwg yn un difrifol iawn.
Ond wrth i chi edrych tuag at blant iau hŷn, os mynnwch, mae pobl sy'n chwilio am lwybr galwedigaethol, addysg alwedigaethol—yn amlwg fe fydd yna heriau pan fydd gennych gyflogwyr yn wynebu pwysau eu hunain yn y dyfodol. Ac yna mae gennych yr her hefyd mewn perthynas â myfyrwyr anfoddog, os caf ddefnyddio'r term hwnnw—pobl nad ydynt yn siŵr ynglŷn â mynd i'r brifysgol yn awr, oherwydd y tarfu. Felly, mae yna amrywiaeth eang o ffyrdd y mae COVID yn parhau i gael effaith, yn amlwg. A bydd wedi gweld y cyhoeddiadau y mae'r Gweinidog addysg wedi'u gwneud, yn enwedig ynglŷn ag adnoddau digidol ac yn y blaen, a rhai o'r ymyriadau drwy'r ysgol, a phrydau ysgol am ddim, a fwriadwyd ar gyfer ceisio lliniaru'r effeithiau gwaethaf. Ond mae'n hollol wir y byddant yn cael effaith.
Ac rwy'n credu mai maint yr uchelgais y mae ei chwestiwn yn ei awgrymu yw'r prawf cywir i bob Llywodraeth ei osod iddynt eu hunain mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu mai un o'r gwersi y byddwn—un o'r pwyntiau i ni eu cofio yn y broses hon, fel Llywodraeth, yw bod rhai o'r dulliau ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd o'n blaen yn ein dwylo ni, ond fel y gwelsom yn yr ymyriadau cyllidol ar gyfer COVID, daeth swm sylweddol o hwnnw gan Lywodraeth y DU. Ac felly, mae gweithio gyda Llywodraethau eraill i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod yna ymagwedd wahanol tuag at fuddsoddi ar draws y DU mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ariannu tir cyhoeddus, ac i'r math hwnnw o ymyrraeth gyllidol fod yn bosibl, yn rhan o'r her hefyd, ac unwaith eto yn rhywbeth a gododd mewn nifer o'r trafodaethau. Ond ie, y lefel honno o uchelgais, o edrych ar fregusrwydd pobl ar draws y DU wrth fynd i mewn i argyfwng COVID, bregusrwydd y mae'r argyfwng wedi'i danlinellu a'i amlygu—rwy'n credu bod hynny'n bendant yn rhan o'r her, ydy.
Nick Ramsay. A oes modd agor meicroffon Nick Ramsay?
A yw'n gweithio?
Ydy. Parhewch.
Roeddwn yn siarad â mi fy hun am ychydig. Diolch, Lywydd. A diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n dda clywed datganiad—rydym mewn cyfnod mor anodd, mae'n braf clywed datganiad yn sôn am rai o'r cyfleoedd sy'n ein hwynebu y tu hwnt i'r pandemig COVID presennol, yn hytrach na dim ond yr heriau anferthol sy'n ein hwynebu.
Weinidog, fe sonioch chi am gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a chyhoeddi'r adroddiad hirddisgwyliedig ddoe. Mae Archwilio Cymru hefyd wedi gwneud cryn dipyn o waith ar yr adroddiad hwnnw; gwn eich bod wedi dweud eich bod yn dal i ddarllen trwyddo. A allech ddweud ychydig rhagor wrthym am y trafodaethau a gawsoch gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ynghylch rhai o'r cynigion yn yr adroddiad hwnnw a rhai o'r syniadau ar gyfer y dyfodol? Oherwydd rwy'n credu y byddant yn allweddol i'r Gymru newydd a'r byd wrth i ni gefnu ar bandemig COVID-19.
Fe sonioch chi am ddull o weithredu ar sail y pedair gwlad. Rydym wedi sôn yn aml am ddull gweithredu ar gyfer Cymru'n unig, ac yn ddiweddar mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallem amrywio amseroedd cymudo, er enghraifft, ac annog gweithio gartref i leihau tagfeydd pan ddown allan o argyfwng COVID. A yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno ar y cyd â Llywodraeth y DU, mewn trafodaethau, neu a yw'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno ei hun? Gwyddom fod cryn dipyn o arian yn y gorffennol wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau seilwaith ac o bosibl, gellid rhyddhau rhywfaint o'r arian hwnnw os bydd mwy o bobl yn gweithio gartref. Ac fel y dywedoch chi yn eich datganiad, mae hon yn un ffordd o allu dechrau mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Ac yn olaf, Lywydd, y dull o adfer wedi'r argyfwng COVID. Ni chefais gyfle i siarad â Gweinidog yr economi, ond er bod dull y Llywodraeth o weithredu ar yr economi wedi canolbwyntio yn y gorffennol ar y dull economaidd sectoraidd, nid yw'n ymddangos bod hynny'n ffactor yn y dull o adfer wedi'r COVID, a gallai fod rhesymau da iawn dros hynny, h.y. eisiau rhyddhau adnoddau gymaint ag sy'n bosibl. Ond a allech ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Gweinidog yr economi i wneud yn siŵr fod sectorau allweddol yn yr economi, fel gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg er enghraifft, yn mynd i fod yn bwysig iawn wrth inni ddod allan o'r pandemig hwn ac ailadeiladu'r economi—beth sy'n cael ei wneud yn benodol i gynorthwyo'r rhannau o'r economi sy'n mynd i'n gwthio yn ein blaenau a sicrhau bod economi Cymru yn y dyfodol yn gryfach nag y mae ar hyn o bryd? Diolch.
Diolch ichi am y set honno o gwestiynau. Wel, rwy'n credu bod y pwynt cyntaf a'r olaf yn mynd â ni i'r un cyfeiriad, onid ydynt, o ran nodi'r meysydd lle rydym yn chwilio am gyfleoedd, wrth ailadeiladu'r economi, gyda rhai ohonynt wedi'u dysgu gennym neu eu hailddysgu efallai yn yr ychydig wythnosau diwethaf, yn enwedig yn y gofod digidol, darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol, ac mae hynny'n cysylltu â'r rôl a fydd gan fusnesau a chyflogwyr technoleg yn nyfodol Cymru, fel y mae'n nodi, ond hefyd o ran sectorau mwy traddodiadol, felly, er enghraifft, ein gallu i ddatblygu capasiti i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, sydd hefyd wedi bod yn nodwedd o'r wythnosau diwethaf. Felly, mae pethau y gallwn eu dysgu a gobeithio adeiladu ar hynny. Ac rwy'n credu, yn yr ystyr honno, fod yna gyfleoedd. Rwy'n credu ei bod yn iaith anodd ei defnyddio yng nghyd-destun y sefyllfa bresennol sy'n wynebu pobl. Ond rwy'n credu, yn amlwg, lle mae pethau y gallwn ddysgu oddi wrthynt, mae'n ddyletswydd arnom i wneud hynny.
Fe sonioch chi am y gwaith gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Dyna'n union y math o beth rwy'n gobeithio gallu siarad â hi amdano yn y dyddiau nesaf, felly byddwn yn rhannu rhai syniadau ar hynny'n fuan iawn. Ac fe sonioch chi am y gwaith archwilio, nad wyf wedi edrych arno eto, ond byddaf yn gwneud hynny.
Ar y pwynt ehangach am y modd y mae byd gwaith yn newid, wel, rwy'n credu bod hynny'n rhan o hyn; mae'n rhan dra phwysig, ond rhan ohono ydyw. Rwy'n credu y bydd newid patrymau gwaith a sut y mae pobl yn ymateb i'r angen i barhau i berswadio a meithrin hyder yn y gweithlu eu bod mewn amgylchedd diogel yn sbarduno llawer o newid am gryn dipyn o amser, oni fydd? Felly, bydd gweithio gartref yn nodwedd o hynny, ac rydym yn amlwg yn deall hynny, ac fel y dywedwch, amrywio oriau diwrnodau gwaith a mentrau eraill. Ond mae hynny'n creu nifer o heriau eraill inni hefyd, onid yw? Felly, er enghraifft, yng Nghymru, mae gennym gyfran gymharol uwch o weithwyr allweddol a chyfran gymharol is o rai'n gweithio gartref yn y sefyllfa COVID bresennol, oherwydd cyfansoddiad ein heconomi. Felly, y dasg fydd cefnogi'r rheini sy'n gallu gwneud hynny ac sydd am barhau i wneud hynny. Ac nid ydym yn bychanu'r heriau y bydd cyflogwyr yn eu hwynebu wrth fynd i'r afael â nifer fawr o newidiadau. Rwy'n credu y bydd rôl bwysig i Lywodraethau ei chwarae wrth geisio cael cyd-ddealltwriaeth ynglŷn â sut y gall y dyfodol edrych ac rwy'n credu, yn sicr ar draws y DU, y bydd dull y pedair gwlad o weithredu'n parhau i chwarae rhan yn hynny yn ogystal ag yn yr ymateb uniongyrchol—o leiaf rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mewn atebion i gwestiynau, mae'r Gweinidog wedi canolbwyntio ar rai o'r themâu y mae'n bwriadu eu dilyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dilyn y themâu hynny. Roedd gennyf feddwl mawr o'r ffordd y diystyrodd y nonsens gan Mark Reckless am gydraddoldeb. Rwy'n credu bod rhaid iddo fod yn sylfaenol i lle rydym fel Llywodraeth ac fel gwlad. Ond o ran y themâu, hoffwn hefyd ei annog i edrych ar atebion yn seiliedig ar le yn ogystal. Mae'n ymwybodol iawn, ac rwy'n gwybod ei fod wedi darllen adroddiad Centre for Towns a nododd fy etholaeth fy hun ym Mlaenau Gwent, fy ngwlad enedigol yn wir, yn ogystal â chymunedau eraill ar draws Blaenau'r Cymoedd, fel rhai sydd mewn perygl o gael eu heffeithio'n arbennig o wael gan agweddau economaidd COVID. Ac felly, o ran mynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn a gwireddu'r hyn y credaf sy'n gyfleoedd cyffrous iawn a nodwyd ganddo yn ystod y sgwrs hon, fe fydd yn gwneud hynny o fewn fframwaith o atebion sy'n seiliedig ar le hefyd, ar gyfer y cymunedau sy'n wynebu heriau arbennig o ganlyniad i'r profiad hwn.
Ie, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, a darllenais yr adroddiad y mae'n cyfeirio ato, ac rwy'n credu ei fod yn ddeunydd darllen anghysurus, onid yw? A chyfeiriaf yn ôl hefyd at y pwynt a wnaeth Darren Millar am ba mor agored i niwed yw rhai o'n cymunedau arfordirol hefyd o ganlyniad. Rwy'n credu bod hynny'n dangos eto beth yw maint yr her, ond rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn i'w gadw mewn cof. Yr hyn na allwn ei ragweld bob tro, ac na all yr un Llywodraeth ei ragweld, yw'r effaith ar sectorau penodol o ddatblygiad penodol. Mae'r economi'n gweithio mewn ffordd fwy cymhleth na hynny. Ond yr hyn y byddwn i gyd yn ei wybod, yn uniongyrchol, yw sut beth yw effaith ofodol hynny yn ein cymunedau ein hunain. Ac felly, mae'n ymddangos i mi fod edrych arno drwy'r lens honno'n gwbl sylfaenol i hyn.
Un o'r pwyntiau trafod a gawsom yn y drafodaeth bwrdd crwn ar y gwasanaethau cyhoeddus ddoe oedd—. Fe ddechreuodd fel trafodaeth am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar sail lle, wyddoch chi, edrych ar ffocws mwy cydgysylltiedig ar le a sut y gellir eu darparu, ond yn fuan, trodd hynny'n drafodaeth ar rôl gwasanaethau cyhoeddus fel asiantau mewn cymuned. Felly, os oes gennych ysbyty neu goleg addysg bellach neu brifysgol, mae hynny'n arwyddocaol—. Mae rhyw fath o rôl i wasanaethau cyhoeddus fel rhyw fath o asiant yn yr economi honno, onid oes, ac yn y gymdeithas honno? Felly, rwyf am ei sicrhau bod y lens honno'n un rydym am ei chyflwyno i'r gwaith, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r un, mewn sawl ffordd, y mae pobl yn ei phrofi'n fwyaf uniongyrchol, onid e? Bydd pawb ohonom yn gwybod am yr effaith ar y stryd fawr a ragwelwn yn digwydd yn sgil COVID o ganlyniad i rai o'r gwasanaethau sydd wedi cau, yn fy etholaeth i ac yn etholaeth nifer o'r Aelodau. Mae hynny eisoes yn amlwg yn fater o bryder mawr.
Ymhen chwe wythnos, bydd pedair blynedd wedi mynd heibio ers i Brydain a Chymru bleidleisio i adael yr UE. Fel y Gweinidog pontio Ewropeaidd, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig nad yw'r pandemig coronafeirws yn cael ei ddefnyddio fel rheswm arall dros oedi rhag cyflawni'r hyn a ddewisodd y bobl bedair blynedd yn ôl? Oherwydd ceir cyfleoedd gwych ar ôl inni gael ein rhyddhau o rwyd gaethiwus y ddeddfwriaeth Ewropeaidd i wneud ein diwydiannau yn y dyfodol, yn arbennig, yn llawer mwy hyblyg—byd bancio, cyllid, diogelu data, er enghraifft. Heb beryglu diogelwch y cyhoedd mewn unrhyw ffordd, gallwn ddiogelu ein hunain drwy brosesau llawer llai biwrocrataidd na chyfarwyddebau a rheoliadau Ewropeaidd sy'n ein gorfodi i weithredu ar hyn o bryd. Felly, tybed, fel y Gweinidog pontio Ewropeaidd, a yw'n gallu rhoi sicrwydd imi, ar ôl pedair blynedd o wneud popeth yn ei allu i geisio atal neu ohirio gweithredu canlyniad y refferendwm, ei fod yn awr yn mynd i helpu'r Llywodraeth Brydeinig i gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn a pheidio â cheisio gohirio'r broses o adael ymhellach.
Wel, fy marn i yw bod mater COVID a'r ymateb i COVID yn anhraethol bwysicach ym mywydau'r rhan fwyaf o bobl na'r pwynt y mae ef, gyda phob parch, newydd ei godi. Nid wyf yn diystyru'r pwynt o gwbl, oherwydd mae'n codi pwynt pwysig am effaith Brexit yn y dyfodol. Yn fy marn i, dylid gofyn y cwestiwn mewn ffordd ychydig yn wahanol, sef: o ystyried yr heriau enfawr a'r niwed aruthrol y mae COVID a'r coronafeirws yn mynd i'w achosi i bob rhan o'r DU, pam y byddai rhywun o'i wirfodd yn dewis gosod ar ben hynny y difrod economaidd a achosir gan Brexit? Ymddengys hynny i mi—. Fy marn i yw y byddai hynny'n anghyfrifol.
Ond ar sail fwy pragmataidd, rwy'n meddwl bod yna ddau gwestiwn sylfaenol y dylai hyd yn oed rhywun sy'n rhannu ei farn ef, yn hytrach na fy un i, gael eu perswadio ganddynt, os caf ei roi felly. A'r cyntaf yw: mae pob Llywodraeth yn y DU yn canolbwyntio'n briodol ar y dasg o fynd i'r afael â chanlyniadau byw gyda COVID; mae'n amlwg mai dyna brif flaenoriaeth pob Llywodraeth yn y DU, fel y dylai fod. Beth y mae hynny'n ei olygu, o reidrwydd, a gyda llaw, yn Ewrop—. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw nad yw'r lled band a'r capasiti i fynd ar drywydd y negodiadau ynglŷn â chyfres gymhleth iawn o gysylltiadau yn y dyfodol ar gael i neb yn y ffordd y byddai angen iddynt fod er mwyn i'r negodiadau hynny arwain at y canlyniad gorau sydd ar gael, pa bersbectif bynnag sydd gennych ar Brexit. Felly, mae'n ymddangos i ni fel Llywodraeth mai'r peth synhwyrol i'w wneud er mwyn sicrhau llywodraethu da yw cael saib yn y negodiadau hynny ac estyniad hyd nes y bydd gan Lywodraethau fwy o gapasiti i allu cymryd rhan yn y trafodaethau hynny.
A'r pwynt olaf a wnaf—ac nid yw ar fy rhan fy hun, ond ar ran yr holl fusnesau sydd wedi gosod eu staff ar ffyrlo, neu sefydliadau ar draws y DU sydd wedi bod yn gosod eu staff ar ffyrlo—nid wyf yn siŵr sut y mae unrhyw Lywodraeth yn dweud wrth bobl yn y sefyllfa honno ei bod hi'n bryd dechrau paratoi ar gyfer beth bynnag a ddaw yn sgil Brexit. Yn amlwg, mae gennyf farn wahanol iawn i'w un ef am yr hyn a ddaw yn sgil Brexit, ond mae'n amlwg fod angen paratoi sylweddol, beth bynnag a ddaw, ac nid wyf yn siŵr sut y gallwn ddweud wrth bobl yn y sefyllfa honno ei bod yn bryd iddynt ddechrau paratoi, oherwydd bydd llawer ohonynt yn clywed hynny heb ddeall sut y gallant fynd i'r afael â hynny ar hyn o bryd. Felly, mae hynny'n awgrymu dull pragmataidd a synhwyrol iawn o weithredu, sef oedi a gohirio a datrys a mynd i'r afael â'r her sy'n fwyaf uniongyrchol o'n blaenau cyn inni ddod yn ôl a chwblhau'r negodiadau hynny.
Allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a chydnabod y gwaith aruthrol sy'n mynd ymlaen mewn sawl adran, wrth gwrs, yng nghanol yr her sylweddol iawn yma a'r dioddefaint y mae COVID wedi dod i'n cymdeithas?
Yn dilyn y cwestiwn diwethaf, dweud y gwir, wrth gwrs rydym wedi clywed yr wythnos yma fod trafodaethau cytundebau masnach rhwng Prydain ac Unol Daleithiau America wedi dechrau ac, wrth gwrs, mae yna nifer o bryderon wedi cael eu gwyntyllu dros y misoedd diwethaf am ddyfodol ein gwasanaeth iechyd ni yng nghanol unrhyw fath o drafodaethau rhwng Prydain ac Unol Daleithiau America. Gan gydnabod bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wahanol i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, allaf i ofyn i'r Gweinidog pa fewnbwn sydd gyda chi yn y trafodaethau yma i wneud yn siŵr bod llais Cymru yn y trafodaethau yma rhwng Prydain ac Unol Daleithiau America, yn enwedig ynghylch ein gwasanaeth iechyd, yn cael ei glywed yn glir?
Efallai dylwn i ddweud mai maes i Eluned Morgan i'w ateb fel blaenoriaeth yw hwn, ond gaf i jest dweud, o fy mhrofiad i o weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn y cyd-destun Ewropeaidd, nad yw'r trafodaethau wedi, fel mae e'n gwybod, ein galluogi ni fel Llywodraeth i ddweud bod gyda ni'r dylanwad rŷn ni ei eisiau ar ran pobl Cymru? Rwy'n credu, efallai, pe tasai'r Gweinidog yma, buasai hi'n dweud bod ei phrofiad hi o gydweithio yng nghyd-destun cytundebau masnach gyda gwledydd eraill wedi bod ychydig yn wahanol i hynny. Ond ar y pwynt pwysig mae e'n ei ddweud o'r effaith ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, rŷn ni fel Llywodraeth wedi bod yn gwbl glir—dyna yw ein safbwynt ni a dyna fydd ein safbwynt ni: fyddwn ni ddim yn barod i gymryd unrhyw gamau sydd yn agor ein gwasanaeth iechyd ni yma yng Nghymru i unrhyw ddylanwad masnachol o'r fath mae e'n ei ddisgrifio.
Jenny Rathbone. Jenny Rathbone, gallwch ofyn eich cwestiwn.
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Jeremy, am eich datganiad. Rwy'n edmygu eich uchelgais i barhau i gael llywodraeth hyblyg wrth symud ymlaen, ac rwy'n amlwg yn gobeithio y byddwn yn parhau i fod ag awydd i wneud penderfyniadau beiddgar ar gyfer gwneud pethau'n wahanol er mwyn diwallu anghenion pobl yn well.
Gan droi at gyflwr yr economi, a'r trafodaethau rydych wedi bod yn eu cael gyda'r trafodaethau bwrdd crwn hyn, yn amlwg ar hyn o bryd, mae gennym y mwyafrif helaeth o'n cwmnïau ar gynlluniau cynnal bywyd gyda benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth a chymorthdaliadau cyflog o 80 y cant. Mae'n amlwg na allwn fynd yn ôl i wneud pethau fel roeddem yn eu gwneud o'r blaen, felly rwy'n awyddus iawn i ddeall beth yw ein strategaeth ar gyfer cefnogi cwmnïau yn y dyfodol pan fydd cymaint o sefydliadau'n mynd i fod yn ddibynnol ar chwistrelliadau o gyfalaf i'w codi'n ôl ar eu traed. Ac mae'n amlwg na allwn fforddio rhoi benthyciadau i sefydliadau sydd wedyn yn penderfynu eu bod am symud o Gymru a throsglwyddo eu busnes i fannau eraill. Nid yw hynny'n mynd i fod yn fforddiadwy. Felly, roeddwn eisiau deall, pan fyddwn yn edrych ar sectorau gwirioneddol bwysig megis gweithgynhyrchu strategol, cynhyrchu bwyd a'r dechnoleg sy'n mynd i ddarparu'r Gymru lanach a mwy gwyrdd, yn ogystal â'i gwneud yn fwy cynhyrchiol, pa ystyriaethau rydych wedi'u rhoi, yn hytrach na darparu benthyciadau, i gael arian ecwiti mewn busnesau fel y gallwn ni, y trethdalwr, rannu yn y llwyddiant yn ogystal â'r risgiau wrth i'r cwmnïau hyn symud ymlaen yn y dyfodol.
Diolch ichi am y cwestiwn. Rwy'n credu mai'r her y bydd Llywodraethau ym mhobman yn ei hwynebu yw'r math o newid sylfaenol y mae'r argyfwng hwn yn ei greu o ran rhai o'r pwyntiau y mae wedi'u codi yn ei chwestiwn am gadernid busnesau ac yn y blaen, a beth yw rôl y Llywodraeth yn cefnogi busnesau yn y dyfodol; efallai y bydd angen i hynny edrych ychydig yn wahanol i'r persbectif y mae hi wedi'i ddisgrifio.
Yn amlwg, rwy'n credu bod hwn yn un o'r meysydd lle nad yw Llywodraethau, yn sicr yn y DU, wedi gwneud llawer ohono yn hanesyddol o ran buddsoddi'n uniongyrchol eu hunain mewn cwmnïau. Nid ydym wedi gwneud llawer iawn o hynny yng Nghymru, ond mae yna enghreifftiau o hynny. Mae'r ganolfan gynadledda yng Nghasnewydd yn enghraifft lle mae'n drefniant tebyg i fenter ar y cyd, felly mae wedi digwydd, ac yn amlwg—. A dweud y gwir, fe gododd hyn yn un o'r trafodaethau ynglŷn â sut y mae rhywun yn ymdrin â chwmnïau sydd, gyda'r ewyllys gorau yn y byd—maent yn gwmnïau sy'n cael eu rhedeg yn dda ac sy'n gyflogwyr da, ond maent yn mynd i gael eu llesteirio gan symiau anferthol o ddyled wrth ddod allan o'r argyfwng hwn heb fod unrhyw fai arnynt hwy, a sut y mae rhywun yn ymdrin â'r problemau gwytnwch a ddaw'n anochel yn sgil hynny a chanlyniadau hynny. Rwy'n credu bod y math hwnnw o feddwl mawr am y dyfodol yn un o'r dimensiynau y mae angen inni ei amgyffred yn y gwaith hwn.
Ar ryw fath o sail mwy uniongyrchol, fe fydd yn gwybod bod ceisiadau'r gronfa cadernid economaidd wedi'u rhewi, a gwn fod Gweinidog yr economi'n edrych drwy nifer o opsiynau ynglŷn â sut olwg allai fod ar y cam nesaf. Mae'r contract economaidd yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o'r cymysgedd hwn. Yn amlwg, mewn byd sy'n symud yn gyflym iawn lle mae cwmnïau'n gorfod gwneud ceisiadau'n gyflym a lle nad yw'r penderfyniadau hynny'n gweithredu yn yr un ffordd yn union—. Ond yn ganolog iddo, mae gennych gwestiynau sy'n ymwneud â gwaith teg a phwysigrwydd datgarboneiddio, ac rwy'n meddwl y bydd hi'n cydnabod bod y mathau o feysydd rydym wedi esbonio eu bod yn ffocws i'r trafodaethau bwrdd crwn hynny yn yr union ofod hwnnw. Felly, mae'r gwerthoedd hynny a'r blaenoriaethau hynny'n parhau i fod yn gwbl ganolog.
Diolch. Ac i gloi, Joyce Watson.
Diolch, Lywydd. Ydy, mae'n wych fod gennym yr holl drafodaethau bwrdd crwn hyn yn digwydd. Yn fy marn i, mae'n wych fod Gordon Brown, pensaer Cychwyn Cadarn, yn rhan o hynny. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o blaid sydd â dymuniad ideolegol ac ysgogiad i gyflawni contractau cymdeithasol a phartneriaethau cymdeithasol—pethau sy'n amlwg yn anathema i Mark Reckless.
Ond mae'r cwestiynau sydd gennyf i chi yn canolbwyntio'n fawr ar le menywod yn y cyfan a welsom. Mae'n weddol amlwg mai menywod yw prif ddarparwyr gofal cymdeithasol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd allan eto nos yfory ac yn cymeradwyo'r gwasanaeth hwnnw, ond yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw ategu'r ewyllys da sydd ar hyn o bryd yn bodoli gan ffordd o ddarparu gofal yn decach, ble bynnag y caiff ei ddarparu, ac mae hynny'n golygu talu amdano. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau cael sgwrs onest ynglŷn â sut rydym yn mynd i dalu am ofal wrth symud ymlaen, a sut rydym yn mynd i gynnal pobl gyda chyflogau da a thelerau ac amodau da o fewn y gweithlu hwnnw.
Rwy'n mynd i gadw at yr un thema o fod yn ystyriol o fenywod, felly fe symudaf ymlaen yn awr—
Mae'n ddrwg gennyf, Joyce, ond nid oes amser i symud ymlaen.
Un cwestiwn bach?
Bydd yn rhaid i chi ei gadw at adeg arall.
Iawn, o'r gorau, diolch.
Diolch, Joyce. Y Gweinidog i ymateb.
Diolch ichi am godi'r mater penodol hwn, Joyce. Gwyddom fod COVID yn cael mwy o effaith ar fenywod yn economaidd nag ar ddynion: mae 17 y cant o fenywod yn gweithio mewn sectorau sydd wedi'u cau, o'i gymharu â thua 13 y cant o ddynion. Mae bron i ddwy ran o dair o weithwyr yn y sectorau sy'n talu cyflogau isel yn fenywod. Mae gennym—. Mae menywod yn dueddol o fod â llai o ffynonellau cyfoeth wrth gefn i droi ato ar adegau anodd, fel y maent i lawer o fenywod yn awr, ac mae'r rhain yn ffactorau rydym wedi'u deall ers peth amser, ond maent wedi cael eu hamlygu'n glir iawn, onid ydynt, gan yr her sy'n ein hwynebu. Felly, yn bendant, un o brif elfennau'r trafodaethau a gawsom ddoe oedd sut y gallwn fynd i'r afael â hynny mewn economi ôl-COVID. Mae'r sector gofal cymdeithasol, yn amlwg, yn un y gwyddom ei fod dan straen. Rwy'n credu bod y taliad a wnaeth Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf i weithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, yn fath o flaendal i'r math o drefniant rydym am ei sefydlu yn y tymor hwy i gefnogi gweithwyr yn y sector hwnnw'n well.
Mae yna gwestiwn gwirioneddol i ni wrth wraidd hyn ynglŷn â'r ffordd rydym yn rhoi gwerth ar ofal; y gwerth a roddwn arno, a'r gwerth economaidd a roddwn arno, a chredaf mai un o'r heriau i bob un ohonom yw troi cefnogaeth pobl i weithwyr allweddol, y credaf fod llawer o bobl wedi sylweddoli am y tro cyntaf, mae'n debyg, pa mor ganolog yw'r cyfraniad hwnnw i gymdeithas sy'n gweithredu'n dda, manteisio ar hynny, adeiladu arno, priodi hynny â dealltwriaeth pobl o'r rôl wahanol sydd i Lywodraeth a rôl yr economi yn y dyfodol, a cheisio cael setliad gwell i'r union bobl hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. A dyna ni, felly. Dyna ddiwedd ein cyfarfod cyntaf fel Senedd. Diolch i bawb.