– Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef y ddadl gan Blaid Brexit ar godi—. Mae'n ddrwg gennyf, mae fy sgrin newydd rewi arna i; fe wnaf ganiatáu i David Rowlands ddweud wrthym beth yw'r cynnig, oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn mynd i'w gynnig. David Rowlands.
Cynnig NDM7334 Caroline Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gyflymu'r gwaith o godi mesurau'r cyfyngiadau symud;
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan;
c) hwyluso ail-agor economi Cymru yn gyflymach;
d) diystyru codi cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud.
Iawn. Mae'n ymwneud â chodi'r cyfyngiadau symud, mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Nid oes amheuaeth nad yw diogelu iechyd y cyhoedd mewn ymateb i COVID-19 yn creu heriau economaidd eithriadol. Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio rhewi'r economi drwy ddefnyddio'r cynllun cadw swyddi, benthyciadau busnes hael a mathau amrywiol o gymorth. Ond rhewi'r economi yw'r rhan hawdd. Yn union fel nad ydym wedi meistroli'r ail gam mewn cryogeneg—y rhan ddadrewi—ni wyddom sut i ddadrewi economi'n llwyddiannus. Mae'r ddwy'n systemau cymhleth na ellir eu diffodd a'u hailgynnau'n syml. Mae'r creithio economaidd eisoes wedi dechrau. Mae miloedd o fusnesau'n cau, gan danseilio capasiti cynhyrchu economi Cymru. Collwyd llawer o swyddi eisoes. Ni fydd nifer o'r rhai sy'n colli eu swyddi yn ystod dirwasgiad byth yn dod o hyd i waith eto. Gallai pobl ifanc sy'n ceisio dod yn rhan o'r gweithlu golli enillion yn hirdymor.
Deilliodd costau cyllidol eithriadol o gloi'r economi hefyd, gan arwain at ychwanegu biliynau at ddyled Llywodraeth y DU. Er bod cyfiawnhad dros hyn i atal cwymp economaidd llwyr, nid yw cynnal lefelau o'r fath o wariant Llywodraeth yn hirdymor yn gynaliadwy o gwbl. Nid oes amheuaeth fod cydbwyso iechyd y cyhoedd yn erbyn yr angen dybryd bellach i ddatgloi'r economi yn orchwyl anodd a bregus iawn. Ond rydym ni ym mhlaid Brexit bellach yn credu bod rhaid ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Rydym yn nesáu'n gyflym at sefyllfa lle na fydd llawer o fusnesau a mentrau a fu'n llewyrchus yn gallu cynnal eu hunain mwyach. Bydd colli busnesau ar raddfa fawr yn y modd hwn yn sicr o arwain at ganlyniadau iechyd a allai fod yn waeth na'r rhai a gyflwynir gan COVID-19. Arweiniodd cwymp economaidd 2008 at 10,000 hunanladdiad. Nid oes gennyf ffigurau'n ymwneud â materion iechyd meddwl ar gyfer y pandemig penodol hwn, ond rhagwelir yn gyffredinol, hyd yn oed pe baem yn agor yr economi ar unwaith, y bydd cynnydd sylweddol eisoes mewn problemau iechyd meddwl.
Mae'r Prif Weinidog yn bendant na welwn unrhyw lacio ar y cyfyngiadau hyd nes ei fod yn sicr na fyddwn yn dychwelyd at y cyfraddau marwolaethau blaenorol o'r coronafeirws. Felly, rwy'n teimlo y dylem ddadansoddi rhai o'r ystadegau y mae'r Prif Weinidog yn dibynnu arnynt. Cofnodwyd 1,483 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â'r coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r epidemig. Fodd bynnag, mae llawer o dystiolaeth anecdotaidd yn dod i'r amlwg sy'n awgrymu, lle cofnodwyd coronafeirws fel achos marwolaeth, mai'r achos gwirioneddol oedd salwch hirdymor sy'n peryglu bywyd megis canser a chlefyd y galon, ac er bod coronafeirws yn bresennol, ni ellid dweud mai dyna oedd gwir achos y farwolaeth.
Mae pob marwolaeth, wrth gwrs, yn drasiedi i'r rhai a oedd yn adnabod ac yn caru'r rhai a fu farw. Ond mae'n rhaid inni gofio bod miloedd o farwolaethau yn digwydd dros yr un cyfnod bob blwyddyn, ac y byddai modd osgoi rhai ohonynt pe bai'r camau cywir wedi cael eu cymryd ar yr adeg iawn. Yn wir, faint o bobl fydd yn marw am eu bod yn ofni gofyn am help meddygol tra bu'r pandemig hwn yn bresennol?
Rhaid inni dderbyn mai dyma natur pethau. Rhaid inni hefyd ystyried faint o bobl ifanc, heini ac iach sydd wedi marw yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19. Y gwir yw mai ychydig iawn o farwolaethau o'r fath a gafwyd. Eto, er bod pob un yn drychineb ynddo'i hun, rhaid inni fod yn ddigon dewr i ofyn y cwestiwn: 'A yw'n cyfiawnhau cau'r economi gyfan a rhoi miloedd o bobl ifanc allan o waith, a hynny am gyfnod hir o bosibl?' Gellir dadlau y dylem gadw'r un cyfyngiadau ar gyfer y rheini y nodwyd eu bod yn fregus am beth amser yn hwy, ond mae'r ddadl dros orfodi cyfyngiadau symud ar bawb yn prysur golli ei hygrededd.
Gadewch imi droi'n fyr at y busnesau sy'n dioddef fwyaf o'r cyfyngiadau—y sector gwasanaeth, ac yn enwedig tafarndai, bwytai a'r diwydiant hamdden yn gyffredinol, gan gynnwys gwestai, gwersylloedd a pharciau gwyliau. O gael mesurau rheoli da a threfniadau cadw pellter cymdeithasol ar waith, rwy'n siŵr y gellid agor llawer o'r sector hwn, fel sydd wedi digwydd yn y fasnach fodurol. Gwnaeth fideo a anfonwyd ataf gan Andy Sinclair, o Sinclair Group, argraff arbennig arnaf: roedd yn amlinellu eu strategaeth ar gyfer ailagor, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o werthwyr ceir eraill yn cyflwyno mesurau tebyg. Byddai'r risg o heintio gyda strategaethau o'r fath ar waith yn fach iawn. Gallai llawer o fusnesau eraill sy'n parhau o dan gyfyngiadau weithredu'r un math o fesurau â'r fasnach fodurol.
Yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn difrïo nac yn beirniadu'r Prif Weinidog na'i Lywodraeth am eu gweithredoedd yn ystod yr epidemig coronafeirws hwn. Yn wir, hoffem eu llongyfarch ar eu hymyriadau economaidd cadarn, ac at ei gilydd, am y ffordd y mae'r ymyriadau hyn wedi'u cyflawni. Oni bai am eu gweithredoedd, a gweithredoedd Llywodraeth y DU, nid oes amheuaeth y byddai'r mwyafrif helaeth o fusnesau Cymru mewn sefyllfa fregus iawn. Pwrpas y ddadl hon yw gofyn i'r Llywodraeth gyflymu'r broses o agor yr economi. Os na wnawn ni weithredu, mae'r amser yn prysur agosáu pan allai gymryd llawer iawn o flynyddoedd i'r economi ymadfer—yn wir, efallai na fyddai byth yn ymadfer. Clywsom mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig sy'n cael eu taro waethaf gan y cyfyngiadau. Efallai y bydd trefi'r Cymoedd, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, yn colli llawer mwy o siopau os yw'n parhau. Rydym ni ym Mhont-y-pŵl newydd glywed na fydd un manwerthwr mawr yn ailagor. Mae hyd yn oed un golled o'r fath yn allweddol i ganol ein trefi. Pa mor aml y caiff hyn ei ailadrodd ar draws ein trefi yn y Cymoedd os bydd y cyfyngiadau'n parhau?
Oes, Brif Weinidog, mae yna risgiau, ond rydym yn peryglu ein bywydau bob tro y byddwn yn gyrru car, felly rydym yn cymryd gofal i osgoi damweiniau, ac rydym yn dibynnu ar filoedd, miliynau yn wir, i wneud yr un peth. Yn drasig, mae pobl yn marw ar ein ffyrdd bob blwyddyn, ond nid ydym yn atal pobl rhag gyrru oherwydd hyn. Yn y pen draw, Brif Weinidog, ymarfer asesu risg yw'r ffordd y down allan o'r cyfyngiadau. Credwn fod yr elfen risg bellach yn cael ei gwrthbwyso gan yr anghenraid i sicrhau bod yr economi'n gweithio eto. Mae llawer o bobl yn y gymuned fusnes yn daer am gael ailagor—mae eu harian wedi dod i ben, mae perygl i'w hiechyd a'u lles. Brif Weinidog, mae'r Cymry wedi dioddef digon. Galwn arnoch i gyflymu'r broses o lacio'r cyfyngiadau. Mae canlyniadau peidio â gwneud hynny'n enbyd, a gallant fod yn waeth na COVID-19 ei hun.
Diolch. Rwyf wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Nid yw'r Aelod yn bresennol i gynnig y gwelliant. A oes unrhyw Aelod yn dymuno cynnig y gwelliant hwnnw'n ffurfiol? Na. Felly, mae'r gwelliant yn methu. Galwaf ar Darren Millar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, byddwn yn cefnogi'r cynnig penodol hwn gan alw am lacio'r cyfyngiadau symud ymhellach, fel y gallwn gynorthwyo pobl Cymru i adfer mwy o'u rhyddid personol. Mae pobl ledled y wlad, wrth gwrs, wedi aberthu'n fawr yn ystod y cyfyngiadau er mwyn helpu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, i alluogi gweithwyr allweddol i helpu ein gwlad i ymateb i'r pandemig, ac i leihau trosglwyddiad y feirws—aberth fel colli angladd aelod o'r teulu, methu gweld anwyliaid, neu hyd yn oed bartner, am fisoedd lawer, a byw dan y tramgwydd mwyaf gormesol ar ryddid sifil yn hanes y wlad hon a bod yn onest.
Nawr, rydym yn derbyn y bu'n rhaid eu cyflwyno er mwyn diogelu bywydau pobl. Ond ni wnaeth pobl aberthu yn y fath fodd i achub bywydau er mwyn dioddef rhagor o golli bywydau drwy ganlyniadau hirdymor anfwriadol posibl yn sgil ymestyn y cyfyngiadau am gyfnod estynedig. Gwyddom fod cysylltiadau rhwng tlodi a disgwyliad oes gwael a chlefydau cronig. Ac wrth gwrs, os na fyddwn yn codi'r cyfyngiadau'n ddigon cyflym, mae'n bosibl iawn y byddwn yn dioddef effeithiau hirdymor i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i hynny.
Mae diffyg rhyngweithio cymdeithasol ac unigrwydd yn ystod y misoedd diwethaf bellach yn dechrau effeithio ar iechyd meddwl pobl. Mae Andrew Goodall, Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, wedi nodi cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dangos arwyddion o orbryder a thrallod emosiynol, ac sy'n dod i ysbytai yn hwyrach nag y dylent cyn gofyn am y cymorth sydd ei hangen arnynt. A dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiadau sylweddol, wrth gwrs, yn y nifer sy'n mynychu ein hadrannau achosion brys ledled y wlad. Nawr, er y gallech ddisgwyl llai o anafiadau wedi'u hachosi gan alcohol ar benwythnosau, mae'r math hwn o ostyngiad i'w weld yn awgrymu bod llawer o gleifion yn ofni mynd i'r ysbyty oherwydd y canfyddiad o risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Nawr, mae pawb ohonom eisiau i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus wrth gwrs, ond rwy'n credu bod gormod o ofal wrth lacio'r rheolau yn creu perygl o golli mwy o fywydau. Rydym yn cydnabod nad oes atebion di-risg yma, ond er y bwriadau gorau, rydym yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o weithredu ar ei hôl hi bellach o gymharu â'r hyn sy'n ymddangos fel dull cyffredin o fynd ati, neu ddull tebyg iawn, yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn wir yn Lloegr gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar geisio mabwysiadu dull ar gyfer y pedair gwlad wrth symud ymlaen.
Rydym wedi trafod yn faith yn y sesiynau hyn dros yr wythnosau diwethaf y rheol 5 milltir greulon, y credwn fod angen cael gwared arni ar unwaith. Ac rwy'n credu ei bod yn drueni mawr na chafodd y rheol honno ei llacio ar sail dosturiol mewn pryd ar gyfer Sul y Tadau, a ddathlwyd dros y penwythnos. Nawr, roeddem yn croesawu'r cyhoeddiad am ailagor siopau nwyddau dianghenraid ddydd Llun, ond wrth gwrs, mae terfynau i'r hyn y gall cwsmeriaid lleol ei wneud i gefnogi busnesau lleol, ac yn aml iawn, mae llawer o fusnesau yn ein trefi ar draws y wlad a phentrefi ar draws y wlad yn dibynnu ar lawer mwy na chwsmeriaid lleol i allu goroesi.
Nawr, rhan o'r allwedd i ailagor ein heconomi yw ailagor ein hysgolion. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad y byddai pob ysgol ar agor am bedair wythnos o 29 Mehefin ymlaen. Wrth gwrs, maent wedi rhoi awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd drwy ofyn iddynt benderfynu a ddylent ymestyn y tymor am un wythnos, a chredaf mai camgymeriad oedd hynny, ac yn fy marn i, mae'n codi cwestiwn ynglŷn â phwy sy'n rheoli'r system addysg yng Nghymru—ai'r undebau ynteu'r Gweinidog addysg? Ac yn sicr, mae'n edrych, o'n safbwynt ni ar hyn o bryd, fel pe bai'r undebau yn drech na'r Gweinidog yn hyn o beth.
Rydym yn pryderu'n fawr, wrth gwrs, oherwydd bod astudiaethau annibynnol o addysg wedi dod i'r casgliad bod llai o addysg yn y cartref yn digwydd yng Nghymru nag sy'n digwydd yng ngwledydd eraill y DU, ac mae'n debyg fod hynny'n deillio o'r diffyg cysondeb ar draws y wlad. Felly, mae'r diffyg cysondeb diweddaraf hwn o ran faint o wythnosau y bydd ein plant yn cael eu haddysgu yn ystod yr wythnosau nesaf yn peri llawer iawn o bryder.
Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud ein bod yn cefnogi'r galwadau am ddull pedair gwlad o weithredu. Credwn ei bod hi'n ddryslyd cael dulliau gwahanol yng ngwledydd y DU. Mae Cymru bellach ar ei hôl hi—rwy'n credu bod hynny'n glir iawn, yn enwedig o ystyried y cyhoeddiadau yn yr Alban heddiw. Gwyddom fod yr epidemig hwn yn mynd i fod gyda ni am beth amser, ond rhaid inni sicrhau yn awr fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu polisi 'bywydau a bywoliaeth' fel y gallwn warchod bywydau pobl yn y tymor hwy a galluogi pobl i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin, gan eu hysbysu am y peryglon, wrth inni ailagor ein heconomi a symud ymlaen.
Nid yw'r byd wedi profi bygythiad o'r fath gan elfen fiolegol ers 1918. Ysgubodd ffliw Sbaen drwy'r byd, gan adael marwolaeth a dinistr yn ei sgil, ac ymhell ar ôl i'r meirw gael eu claddu, teimlwyd yr effeithiau economaidd. Credai llawer fod ffliw Sbaen wedi arwain at y Dirwasgiad Mawr. Roedd lledaeniad coronafeirws anadlol aciwt difrifol hefyd yn bygwth bod yn argyfwng tebyg i ffliw 1918, ond am fod y byd wedi gweithredu'n bendant, nid ydym wedi gweld degau o filiynau o bobl yn marw. Mae'n wir fod y ffigurau marwolaeth yn dal yn erchyll—mae dros 2,000 o bobl wedi marw yng Nghymru, a miloedd ledled y DU a bron 500,000 o bobl ledled y byd.
Mae cyfradd marwolaethau'r clefyd hwn yn uchel ymhlith pobl sâl a'r henoed. Ac er mwyn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fe wnaethom roi ein gwlad gyfan mewn cwarantin, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Roeddem yn druenus o amharod ar gyfer y feirws hwn, felly er mwyn sicrhau nad oedd ein system gofal iechyd yn cael ei threchu, fe wnaethom osod cyfyngiadau symud ar bawb—pobl sâl a'r rhai iach, yr ifanc a'r hen. A diolch byth, fe wnaeth ein GIG ymdopi, ac mae aberth pawb, ynghyd â gwaith caled ac ymroddiad ein gweithwyr allweddol, wedi golygu ein bod wedi gwastatáu'r gromlin yn llwyddiannus. Ond mae'n rhaid i ni gydbwyso ochr arall y glorian yn awr.
Mae brechlyn posibl o leiaf un i ddwy flynedd i ffwrdd. Ni allwn gadw pawb dan gyfyngiadau symud cyhyd â hynny. Mae'n rhaid i ni adfer rhyddid pobl er mwyn atal niwed anuniongyrchol. Mae'r cyfyngiadau eisoes wedi cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl ac rydym wedi gweld cynnydd aruthrol mewn unigrwydd ac arwahanrwydd: parau sydd wedi bod ar wahân ers canol mis Mawrth, teuluoedd sy'n methu ymweld â'i gilydd a ffrindiau sy'n cael eu hatal rhag dod at ei gilydd, oni bai eu bod yn ffodus i fyw'n agos at ei gilydd. Mae cadw pellter cymdeithasol wedi arwain at arwahanrwydd cymdeithasol, ac mae ei effeithiau wedi cael eu teimlo'n fawr gan y rhai sydd eisoes yn dioddef o afiechyd meddwl.
Mae rhai o brif seicolegwyr y DU wedi rhybuddio bod cyfyngiadau'n effeithio'n fawr ar iechyd meddwl pobl ifanc. Eto i gyd, nid yw rhai cynghorau yng Nghymru ond yn caniatáu iddynt fynd i'r ysgol am ychydig o oriau bob ychydig wythnosau. Mae risg enfawr y bydd hyn yn niweidio eu datblygiad, heb sôn am yr effaith y mae'n ei chael ar eu haddysg.
Nid iechyd meddwl yn unig sy'n cael ei effeithio, mae ein GIG wedi rhoi'r gorau i gynnig llawdriniaethau ar gyfer popeth heblaw rhai gwasanaethau hanfodol. Gennym ni y mae'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn hemisffer y gorllewin yn barod, ac eto rydym wedi atal pob gwasanaeth sgrinio. Nid yw pobl wedi stopio mynd yn sâl oherwydd COVID-19, a fy mhryder yw y bydd atal gwasanaethau iechyd yn gwneud niwed parhaol i lawer o bobl. Prin y gallai ein GIG ymdopi cyn y pandemig hwn. Pwy a ŵyr pa effaith a gaiff yr oedi hwn ar gleifion.
Yr hyn a wyddom am y feirws yw'r effaith y mae'n ei chael ar ein cymunedau tlotaf. Mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar Gasnewydd a Rhondda Cynon Taf. Mae cyfraddau heintio yn y cymunedau hyn ymhlith yr uchaf yn y DU. Roedd newyddion yr wythnos diwethaf hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru, o blith gwledydd y DU, sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch economaidd. Gallai canlyniadau economaidd ein hymateb i'r pandemig gael eu teimlo am genedlaethau.
Rydym yn nesáu at y pwynt lle mae'r iachâd yn waeth na'r clefyd. Nid yw coronafeirws wedi diflannu, ond rydym yn barod amdano erbyn hyn. Mae angen inni roi'r gorau i roi pobl iach mewn cwarantin a symud tuag at ynysu'r rhai sy'n sâl neu'n agored i niwed. Mae COVID-19 yma i aros, ond ni ddylem ladd y claf er mwyn gwella'r clefyd. Ni allwn atal pobl rhag dal y feirws, ond gallwn atal rhag ei ledaenu'n ddigyfyngiad drwy eu hynysu hwy ac nid pawb arall. Oni chyflymwn y broses o godi'r cyfyngiadau symud, byddwn yn gwneud mwy a mwy o niwed parhaol yn y pen draw, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Does yna ddim byd yn fy synnu, dwi ddim yn meddwl, am y cynnig yma gan y Brexit Party. Mae'n blaid sydd wedi bod ag Aelodau yn gwadu pob math o bethau yn y gorffennol: effaith dyn ar newid amgylcheddol; effaith ysmygu ar ganser, hyd yn oed. Felly, er dwi'n siŵr nad dyma'u bwriad, mae yna beryg iddyn nhw gael eu gweld yn fan hyn fel petaent yn gwadu'r peryg gwirioneddol sydd yna o hyd yn deillio o'r feirws yma.
Mi ddechreuaf efo lle dwi yn cytuno efo nhw—dwi yn reit hyderus bod pawb yn cytuno mewn gwirionedd—sef ein bod ni eisiau symud allan o'r cyfyngiadau presennol. Dyna le rydyn ni gyd yn dymuno mynd. Ac, yn wir, dwi fy hun wedi galw ar y Llywodraeth i wthio a herio eu tystiolaeth eu hunain drwy'r amser i wneud yn siŵr nad oes yna ddim pethau y gallem ni fod yn eu gwneud yn ddiogel i roi rhyddid yn ôl i bobl, caniatáu gweithgaredd economaidd sydd ddim yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd—ond y gair 'diogel' ydy'r un allweddol yn y fan yna. A beth sy'n gyfan gwbl ar goll o'r cynnig yma ydy unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ac iechyd y cyhoedd.
Fel dywedais i, rydyn ni ym Mhlaid Cymru eisiau codi cyfyngiadau hefyd. Rydyn ni'n sylweddoli faint o straen ar lesiant pobl mae hyn wedi bod ac yn parhau i fod, faint o straen economaidd, a ddylai cyfyngiadau ddim aros yn hirach na sy'n rhaid iddyn nhw. Ond mae galw am gyflymu heb gyfeirio at y cwestiwn o, 'A ydy hynny'n ddiogel?' yn hollol anghyfrifol. Beth fuaswn i'n ei ddweud ydy bod eisiau symud mor gyflym ag sy'n bosib, cyn belled â bod hynny yn ddiogel.
Beth dwi'n sicr yn meddwl sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru ydy llawer mwy o gynllunio ymlaen a llawer mwy o dryloywder ynglŷn â beth ydy eu gweledigaeth nhw a'r map o'n blaenau ni. Rydym ni'n dilyn patrwm tair wythnos, a dwi ddim yn credu bod hynny'n ddigon. Dwi'n meddwl dylai y Llywodraeth fod wedi cynnig rhaglen mwy phased, fel mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi'i wneud, er enghraifft, yn nodi beth fyddai'r Llywodraeth yn gobeithio gallu ei wneud o ran codi cyfyngiadau a chaniatáu ailgydio mewn gweithgarwch economaidd dros gyfnod o fisoedd, efo cafeat mawr y gallai pethau newid.
Dwi'n siarad efo busnesau yn fy etholaeth i drwy'r amser, a'r ansicrwydd sydd efallai wedi bod fwyaf anodd iddyn nhw mewn llawer ffordd. Enghraifft i chi o heddiw: mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi heddiw y bydd tafarndai a bwytai yn cael agor—y tu allan yn gyntaf—ar 3 Orffennaf, os dwi'n cofio'n iawn, ac yna i agor o dan do rhyw 10 diwrnod wedyn. Mi fuaswn i wrth fy modd pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried amserlen debyg hefyd, a chyhoeddi hynny cyn gynted â phosib. Ond y gwahaniaeth rhwng fy safbwynt i a safbwynt y Brexit Party ydy dwi dim ond eisiau iddo fo ddigwydd os ydy'r Llywodraeth yn gallu cael ei hargyhoeddi bod o'n ddiogel, a hefyd i egluro os dydyn nhw ddim yn credu ei bod nhw'n gallu cymryd y cam hwnnw, ac i osod amserlen amgen cyn gynted â phosib. Mae eglurder o'r math yna yn allweddol.
Wrth i ni, gobeithio, symud at godi cyfyngiadau, mae yna nifer o bethau sy'n rhaid eu rhoi mewn lle. Eto, dwi'n meddwl bod y Brexit Party yn anghyfrifol wrth beidio â chyfeirio atyn nhw. Y mesur mwyaf allweddol ydy cael cyfundrefn profi ac olrhain cadarn er mwyn gwarchod y cyhoedd a gosod seiliau ar gyfer codi cyfyngiadau. Dwi'n bryderus mai yn nyddiau cynnar y profi ac olrhain ydym ni. Mi ddylai hyn wedi bod yn rhan ganolog o'r strategaeth i frwydo yn erbyn COVID-19 drwy gydol yr amser, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd.
Dwi am orffen drwy gyfeirio at y gymhariaeth wnaeth David Rowlands wrth agor y ddadl yma. Rydym ni'n cymryd risg wrth yrru car, meddai fo, ond dydym ni ddim yn stopio pobl rhag gyrru. Nac ydym, ond mi ydych chi'n trio gwneud ceir yn fwy diogel, rydych chi'n gosod cyfyngiadau ar gyflymder, rydych chi'n gosod rheolau ffordd fawr, ac rydych chi'n gorfod pasio'ch prawf cyn gallu mynd tu ôl i'r llyw. Ac, ar hyn o bryd, rydym ni i gyd yn dal i ddysgu. Dwi'n meddwl bod y math yna o agwedd gan y Blaid Brexit yn crynhoi mor ffwrdd-â-hi ydyn nhw efo'r cynnig yma.
Dwi'n feirniadol o'r Llywodraeth mewn sawl ffordd—am ddiffyg eglurder ac am symud yn rhy araf mewn rhai meysydd, yn cynnwys bod yn rhy araf yn mynd i mewn i lockdown yn y lle cyntaf. Ond dwi hefyd yn feirniadol ryfeddol o Lywodraeth Lloegr am deyrnasu dros drychineb o ran cyfraddau marwolaethau uchel, a sut y buasai Aelodau o'r Brexit Party a'r Ceidwadwyr eisiau dweud mai'r flaenoriaeth rywsut ydy i fod yr un fath â Lloegr—dwi'n methu cweit â deall hynny, ac mae'n awgrymu i fi bod ideoleg unoliaethol, o bosib, yn bwysicach nag iechyd y cyhoedd iddyn nhw.
Rhun, rydych chi a minnau yn smygu, felly rydym ein dau'n euog yn hynny o beth.
Rydym wedi bod o dan gyfyngiadau symud yn awr ers dros 13 wythnos. Dywedwyd wrthym mai er mwyn diogelu'r GIG a gwastatáu'r gromlin y gwnaed hyn. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi deall bod amseriad y cyfyngiadau'n gorfod bod yn berffaith, ond rwy'n amheus a wnaeth unrhyw un gydsynio i gael eu rhyddid wedi ei gwtogi am gymaint o amser. Ac yn awr dyma ni 13 wythnos yn ddiweddarach. Mae'r gromlin wedi'i gwastatáu, mae'r GIG wedi ymdopi—gyda COVID o leiaf. Pam ein bod ni'n dal o dan gyfyngiadau symud? Pryd yn union oedd dyddiad y newid i iachâd neu frechlyn neu ddiddymu? Pryd y digwyddodd hynny? A dyma fi yma yn ailadrodd yr un cwestiynau a ofynnais ychydig wythnosau'n ôl na chafodd eu cydnabod hyd yn oed gan y Prif Weinidog, heb sôn am eu hateb, felly byddwn yn gwerthfawrogi atebion heddiw, os gwelwch yn dda.
Mae Cymru'n dal i fod dan gyfyngiadau symud mewn ffyrdd sy'n greulon, yn niweidiol iawn o ran enw da a risgiau, ac yn fy marn i, rydych yn crynhoi llawer o broblemau amrywiol nad ydynt yn ymwneud â COVID a fydd yn bwysau ar y GIG eto ac yn peryglu bywydau a bywoliaeth pobl dro ar ôl tro. Mae eich negeseuon wedi bod yn annealladwy. Ni wnaethoch fynegi barn am brotestiadau torfol tan ar ôl iddynt ddigwydd, ac oedd, roedd llawer o fy etholwyr yn cytuno â mi ei fod yn slap yn wyneb pawb a oedd yn dilyn eich rheolau'n ffyddlon.
Erbyn hyn mae gennym reol 5 milltir sy'n rheol, a hefyd yn synnwyr cyffredin, a hefyd yn arweiniad ac yn fater o farn. Ni all fod yn bob un o'r rhain ac yn orfodadwy yn y llysoedd neu mewn cyfraith. Ein hetholwyr yw ein llygaid a'n clustiau, ac maent yn dweud wrthyf fod canolfannau profi o'u hamgylch yn wag i raddau helaeth. Felly, ble rydych chi arni gyda phrofi? A ydych chi'n cyrraedd eich targedau?
Ac i ddilyn hynny, mae'r gyfradd R yng Nghymru yn isel, sef 0.5 yr wythnos diwethaf, ac rwy'n meddwl bod angen i mi eich llongyfarch ar hynny, ond does bosibl nad yw'r ffigur hwnnw'n ddibynnol ar brofi. Os nad ydym yn gwybod faint sydd â COVID neu wedi cael COVID, onid yw'r gyfradd R yn gwbl ddiystyr? Hoffwn nodi hefyd, er bod cyfyngiadau symud wedi bod ar waith, ceir dau glwstwr COVID sy'n peri pryder mawr, ar Ynys Môn ac yn Wrecsam.
Rwy'n wirioneddol falch fod ysbytai maes wedi'u creu'n gyflym eithriadol ac nad oedd mo'u hangen. Mae hyn yn beth da. Fodd bynnag, rwy'n pryderu'n fawr am nifer y marwolaethau a gofnodwyd yn swyddogol fel rhai COVID. Rwy'n clywed gan rai etholwyr fod marwolaethau eu hanwyliaid wedi'u cofnodi fel rhai'n deillio o COVID pan na chynhaliwyd unrhyw brofion mewn gwirionedd ac nid oedd unrhyw symptomau'n bresennol. Mae eraill yn sôn am gyflyrau difrifol sy'n bodoli eisoes fel canser, lle mae'r farwolaeth wedi'i chofnodi fel COVID. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng 'marw o COVID' a 'marw gyda COVID': mae hyd yn oed y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio'r ymadrodd 'cysylltiedig â COVID'. Sut y gall y cyhoedd yng Nghymru fod yn hyderus fod cyfanswm y nifer o farwolaethau a gofnodwyd yn gywir mewn gwirionedd?
Yr wythnos diwethaf, llofnododd eich dirprwy brif swyddog meddygol ostyngiad yn lefel y rhybudd i 3, datblygiad a oedd i'w groesawu'n fawr, ac eto ar hyn o bryd, cyfyngiadau symud Cymru yw'r rhai mwyaf caeth yn y DU gyfan. Pam? Mae'r adolygiadau tair wythnos wedi bod yn ddiddiwedd i'r rhai sy'n ymladd yn llythrennol i gadw eu busnesau'n fyw, ac er fy mod yn croesawu rhywfaint o eglurder i fusnesau twristiaeth, beth y credwch y mae perchnogion busnesau'n ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn? Nid ydynt yn aros i chi ddweud, 'Treuliwch y tair wythnos nesaf yn paratoi' fel y gwnaethoch chi gyda siopau nwyddau dianghenraid, a'r tro diwethaf, siopau trin gwallt: maent wedi paratoi ac maent yn barod. Maent wedi bod yn barod ers wythnosau. Efallai y bydd yn syndod i chi, ond gellir ymddiried mewn busnesau i wneud yr hyn sy'n iawn i gadw eu hunain, eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel, a gall y rhan fwyaf o unigolion gymryd y camau sydd eu hangen i gadw eu hunain a'u ffrindiau a'u hanwyliaid yn ddiogel hefyd. Nid oes angen i'n bywydau na'n busnesau gael eu microreoli gan Lywodraeth Cymru.
O'r hyn a welaf yn fy mewnflwch, roedd Cymru'n hapus i ymddiried yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y dechrau, ond mae'r ymddiriedaeth honno bellach yn lleihau, ac mewn llawer achos mae wedi diflannu. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bryd rhoi diwedd ar y cyfyngiadau symud. Dangoswch ymddiriedaeth ynom ni, y cyhoedd yng Nghymru, i ddefnyddio ein crebwyll ac i fyw ein bywydau a gofalu amdanom ein hunain a'n gilydd. Diolch.
Diolch i Blaid Brexit am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rwy'n credu ei bod yn un amserol, oherwydd unwaith eto rydym yn gweld gwahaniaethau pwysig rhwng ymateb Llywodraeth y DU i'r argyfwng ar y naill law ac ymateb Llywodraeth Cymru ar y llaw arall. Pam y mae gennym y gwahaniaethau hyn? Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog iechyd, yn dal i ddweud wrthym eu bod yn 'dilyn y wyddoniaeth'. Beth ar y ddaear y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Nonsens ffuantus ydyw. Nid yw eu gwyddoniaeth yn wahanol i wyddoniaeth Llywodraeth y DU, ond maent yn dod i gasgliadau cwbl wahanol. A gaf fi ddweud wrth Mark Drakeford: peidiwch â'n twyllo bod hyn i gyd yn ymwneud â gwyddoniaeth? Nid plant yw'r Cymry, felly beth am fod yn onest gyda ni? Penderfyniad gwleidyddol yw hwn, oherwydd eich bod eisiau i Gymru aros dan gyfyngiadau'n hwy na Lloegr. Mae Mark Drakeford eisiau mynd at y cyhoedd yng Nghymru a dweud, 'Edrychwch beth y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn Lloegr; maent yn peryglu bywydau pobl.' Yn anffodus, mae'r ddadl hon yn methu pan ystyriwn fod Mark Drakeford a Vaughan Gething eu hunain wedi bod yn euog o greu argyfyngau iechyd y cyhoedd drwy eu rheolaeth gwbl anfedrus ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dywedant eu bod mor benderfynol o ddiogelu iechyd y cyhoedd, ond mae Vaughan Gething yn mynd allan am bicnic teuluol ar fainc yn y parc gan herio'r rheolau y mae ef ei hun wedi'u cyflwyno. Mae Mark Drakeford yn gwneud datganiadau sy'n aml fel pe baent yn dangos nad yw hyd yn oed yn gwybod beth yw rheolau ei Lywodraeth ei hun. Mae angen mwy o gydgysylltu â Llywodraeth y DU. Mae Mark Drakeford yn gwrthod gwneud hyn. Dywedodd heddiw ei fod yn aros am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU, fel pe bai San Steffan wedi bod yn esgeulus rywsut drwy beidio â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo. Ond rydym yn gwybod na wnaeth Mark Drakeford fynychu cyfarfodydd COBRA am sawl wythnos, pan oedd yn gallu gwneud hynny.
Ymddengys i mi fod y diffyg hwn yn rhan o strategaeth fwriadol: mae'r Prif Weinidog am aros y tu allan i gylch San Steffan fel y gall wthio ei bolisïau ei hun a mynnu nad yw'n gwybod beth y mae Llywodraeth y DU yn ei feddwl. Mae hyn yn caniatáu iddo barhau i ddilyn ei bolisïau ei hun yng Nghymru a fydd yn drychinebus yn economaidd. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog: pwy sy'n mynd i dalu am y cyfyngiadau estynedig hyn yma yng Nghymru? Mae'n awyddus i fusnesau aros ar gau am gyfnod hwy, gan gostio mwy mewn swyddi a bywoliaeth. Yna, mewn byr amser, bydd yn mynd i San Steffan gyda'i gap cardota yn ei law i ofyn am fwy o arian i Gymru. Brif Weinidog, beth y credwch y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud gyda'ch cap pan fyddwch wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru? Yn ôl pob tebyg, byddant yn taflu'r cap yn ôl i'ch wyneb, a bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn y pen draw yn gorfod defnyddio'i phwerau treth incwm y flwyddyn nesaf i geisio mantoli'r cyfrifon, sy'n golygu y bydd y Cymry'n talu mwy o drethi na'r Saeson. Onid yw cael Cynulliad Cymru'n wirioneddol wych i bobl Cymru? Mae mwy a mwy o bobl yn dod i'r casgliad y bydd angen inni ddiddymu'r Cynulliad yn y pen draw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn fawr, oherwydd yr hyn sydd fwyaf amlwg am ein profiad o coronafeirws yw'r diffyg tystiolaeth fod unrhyw ddiben defnyddiol i'r cyfyngiadau didrugaredd o gwbl. Roedd yn seiliedig yn wreiddiol ar ragfynegiadau gan yr Athro Neil Ferguson o Goleg Imperial yn Llundain y profwyd eu bod yn gwbl hurt fel mae'n digwydd, a chafodd Llywodraeth Sweden astudiaethau yn seiliedig ar fodel yr Athro Ferguson pe na baent yn cyflwyno cyfyngiadau, ac roedd y model hwnnw'n rhagweld y byddai eu galw am ofal critigol yn Sweden yn cyrraedd uchafbwynt o fwy na 16,000 neu hyd yn oed 20,000 y dydd, ond mewn gwirionedd, y realiti fel digwyddodd hi oedd 500 y dydd. Nid gwyddoniaeth yw gwahaniaeth o'r fath. Ystumio ystadegau ydyw; gwyddoniaeth sothach.
Yr hyn a wyddom am y coronafeirws yw nad oes gan 98 y cant o'r bobl sy'n ei ddal unrhyw symptomau o gwbl, neu'n sicr nid oes ganddynt symptomau difrifol neu gritigol. Mae'n effeithio'n ddifrifol ar 2 y cant o'r rhai sy'n ei ddal, a'r hyn a wyddom hefyd am y marwolaethau o coronafeirws yw bod 80 y cant ohonynt wedi bod yn bobl dros 80 oed. Nid yw'r feirws yn ymosod ar bobl sy'n rhan o'r boblogaeth sy'n gweithio ar y cyfan. Nid oes neb sy'n economaidd weithgar yng Nghymru, y tu hwnt i nifer fach iawn, yn debygol o fod mewn perygl wrth lacio'r cyfyngiadau. Mae llawer mwy o berygl o'i barhau nag sydd o'i lacio.
Ni all neb brofi'r proffwydoliaethau hyn wrth gwrs; ni allwch brofi'r dyfodol. Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw edrych ar y gorffennol, gweld beth sydd wedi digwydd, a gweld sut y mae'n cymharu â'r hyn a ragwelwyd cyn cyflwyno'r mesurau hyn, a'r realiti yw nad yw'r mesurau'n rhai y gellid dweud eu bod yn werth chweil; a dweud y gwir, maent wedi bod yn gwbl wrthgynhyrchiol. Pan edrychwch ar brofiad gwledydd sydd wedi llacio eu cyfyngiadau neu heb eu cael o gwbl, fel Sweden, gwelwn fod y gyfradd heintio yn y Deyrnas Unedig yn llawer uwch yn y lle cyntaf, a hefyd roedd cyfradd marwolaeth y Deyrnas Unedig yn llawer uwch. Am bob 1 filiwn o bobl yn y DU, mae 4,500 ohonynt wedi cael coronafeirws, ac mae'r gyfradd farwolaethau wedi bod yn 632 y filiwn. Yn Sweden, ceir cyfradd heintio uwch sef 6,000 y miliwn, ond cyfradd farwolaethau is o ddim ond 500 y filiwn. Yn Awstria, cyfradd heintio lawer is o dan 2,000, a bron ddim marwolaethau o gwbl—dim ond 77 yn yr holl wlad, yn ôl gwefan Worldometer heddiw. Yr Almaen, yn yr un modd: hanner y gyfradd heintio a gawsom yn y wlad hon gyda dim ond 100 o farwolaethau, yn hytrach na'r 632 o farwolaethau y filiwn sydd gennym ni.
Felly, o'r bobl sy'n marw o'r feirws, gwyddom hefyd fod 90 y cant ohonynt â chyflwr sy'n bodoli eisoes—90 y cant o'r achosion. Roedd gan 20 y cant o'r bobl a fu farw o coronafeirws ddementia neu glefyd Alzheimer; nid yw'r rhain yn bobl sy'n rhan o'r boblogaeth sy'n gweithio ac mae angen eu diogelu rhag eu hanghyfgyfrifoldebau personol eu hunain. Trasiedi fawr y coronafeirws yw bod y Llywodraeth wedi dilyn y trywydd cwbl anghywir o'r cychwyn cyntaf ar gyfer datrys yr argyfwng. Mae wedi canolbwyntio ar osod cyfyngiadau symud ar yr economi gyfan, heb ddiogelu'r bobl a oedd yn wynebu'r perygl mwyaf mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal. Mae fel mynd i'r ysbyty i gael llawdriniaeth ar y galon i ganfod bod eich llawfeddyg wedi dod i mewn i'r theatr lawdriniaethau'n cario llif gadwyn yn hytrach na chasgliad o gyllyll llawfeddygol.
Nawr, nid yw'r feirws—. Mae'n ddrwg gennyf. Nid yw'r gyfradd R, sef cyfradd trosglwyddo'r feirws, y mae'r Llywodraeth yn seilio ei pholisi arni, ond yn gyfartaledd o'r hyn y credant y gallai fod, ac mewn gwirionedd mae'n celu realiti coronafeirws, sef mai'r hyn a wyddom yw bod cyfran helaeth o'r achosion difrifol a ddatblygodd, ac nid ym Mhrydain yn unig, mae hyn drwy'r byd i gyd, wedi dod o nifer fach iawn o uwch-ledaenwyr. Mae 80 y cant o'r achosion yn Hong Kong wedi dod o 20 y cant o'r achosion cychwynnol. Felly, mae'r gyfradd R yn ffigur chwedlonol na ellir ei gyfrifo beth bynnag gan nad ydym yn gwybod pa gyfran o'r boblogaeth sydd ag unrhyw fath o imiwnedd naturiol. Rydym i gyd wedi caffael rhyw fath o imiwnedd rhag coronafeirws gan ein bod ni i gyd wedi cael annwyd cyffredin. Nid oes neb yn gwybod, mewn gwirionedd, pa mor amddiffynnol yw'r imiwneddau hyn, ond gwyddom o amgylchiadau eraill fod trawsimiwnedd o'r fath yn bodoli.
A ydych chi'n cofio'r llong fordeithiau Diamond Princess ar ddechrau'r argyfwng? Amgylchedd bychan, cyfyng, lle caniatawyd i'r clefyd redeg yn rhemp am wythnosau cyn iddo gael ei gydnabod fel problem fawr. Dim ond 19 y cant o'r teithwyr ar y llong honno a ddaliodd y coronafeirws mewn gwirionedd. Mae'r athro Sunetra Gupta, athro epidemioleg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Rhydychen, yn dweud bod y coronafeirws wedi dilyn yr un patrwm ledled y byd, ni waeth beth fo polisïau cyfyngiadau symud y gwahanol Lywodraethau. Mae'r athro Yonathan Freund, athro meddygaeth frys ym Mhrifysgol Sorbonne, yn dweud y gallwn ddiystyru ail don yn llwyr o'r hyn a wyddom am epidemioleg y clefyd. Felly, pan fydd Rhup ap Iorwerth yn dweud bod angen inni brofi ein hachos, rwy'n seilio'r hyn a ddywedaf ar y wyddoniaeth ac ar y gwyddonwyr, nid ar fodelwyr ystadegol, oherwydd nid gwyddoniaeth yw modelu ystadegol.
Ffactor arall sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws hefyd, a phob feirws mewn gwirionedd, yw nad ydym yn gwybod digon amdanynt i wybod am ddatblygiad clefydau a pham y maent yn ymddwyn yn y ffordd y maent yn ei wneud. Mae llawer o feirysau'n diflannu fel y gwnaeth SARS, am reswm nad yw'n amlwg o gwbl. Chwe mis ar ôl i SARS ymddangos ar y blaned, fe ddiflannodd. Mae'r Athro David Heymann, athro mewn epidemioleg clefydau heintus yn ysgol iechyd trofannol a meddygaeth drofannol Llundain, a arweiniodd yr ymateb byd-eang i SARS yn Sefydliad Iechyd y Byd, wedi tynnu sylw at y ffaith bod SARS wedi ymledu'n hawdd ac wedi lladd un o bob deg o'r rhai a heintiwyd, ond ei fod wedi diflannu o fewn chwe mis.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—mae'n ddrwg gennyf, i'r Aelod—ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn, rwyf wedi dod at ddiwedd yr hyn rwy'n bwriadu ei ddweud. Felly, ar sail yr hyn a wyddom am y wyddoniaeth, a ffeithiau'r hyn a wyddom am y ffordd y mae'r epidemig hwn wedi datblygu dros yr ychydig fisoedd diwethaf, credaf fod achos anorchfygol dros lacio'r cyfyngiadau mor gyflym â phosibl.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod y cynnig hwn, a byddaf yn rhoi sylw i bob un o bedair elfen y cynnig gwreiddiol yn eu tro.
Yn gyntaf, yng Nghymru, rydym wedi mynd ati'n fwriadol i edrych yn ofalus ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar lacio'r cyfyngiadau, a'n prif nod bob amser yw cadw Cymru'n ddiogel. Rydym wedi esbonio sut rydym yn gwneud hyn yn 'Arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad', ac yn 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod'. Rydym yn llacio cyfyngiadau pan fyddwn yn fodlon na fydd newidiadau'n bygwth iechyd y cyhoedd. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn mynnu bod y cyfyngiadau hynny'n cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur.
Daeth yr adolygiad diweddaraf i ben ar 18 Mehefin, ac roedd cyngor gwyddonol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru geisio lleihau cyfyngiadau yn sylweddol dros y tair wythnos nesaf. Mae hyn yn cynnwys galluogi busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid i ailagor yr wythnos hon lle gallant roi camau rhesymol ar waith i gydymffurfio â dyletswyddau cadw pellter corfforol. Gall gofal plant ailgychwyn a bydd ysgolion yn cynyddu eu gweithgarwch o'r wythnos nesaf. Mae angen parhau i ofyn i bobl aros yn eu hardal leol oni bai fod ganddynt esgus rhesymol dros deithio ymhellach, ond byddwn yn ceisio codi'r cyfyngiad hwn ar 6 Gorffennaf os yw'r amodau'n caniatáu hynny.
Yn ail, rydym yn parhau i ddadlau dros gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU drwy ddull pedair gwlad o weithredu. Ond gadewch i mi fod yn glir: mae angen i'r pedair Llywodraeth weithredu fel partneriaid cyfartal, gyda pharch tuag at gyfrifoldebau ei gilydd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau a'r gofynion yng Nghymru. Ac fel y mae'r Prif Weinidog yn ei roi, nid Lloegr yw'r templed ar gyfer gweddill y DU.
Yn nyddiau cynnar y pandemig, bu'n rhaid inni ddibynnu ar beirianwaith ymateb mewn argyfwng dan COBRA. Roedd yr ymgysylltiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan. Er enghraifft, fe wnaethom weithio'n agos ac yn gyflym eithriadol i gynhyrchu Deddf Coronafeirws 2020 a rhoi'r cyfyngiadau ar waith. Fodd bynnag, ymddengys bod Llywodraeth y DU bellach, yn anffodus, yn tynnu'n ôl o'r dull pedair gwlad o weithredu. Mae angen inni gytuno ar y cyd ar fecanweithiau rhynglywodraethol sy'n sicrhau y gallwn weithio gyda'n gilydd yn effeithiol yng ngham nesaf yr adferiad yn sgil COVID-19.
Mewn perthynas â thrydedd elfen y cynnig, rydym yn cydnabod bod angen cael economi Cymru i symud, ond dim ond lle mae gweithleoedd mor ddiogel ag y gellir gwneud hynny'n rhesymol. O'r herwydd, Cymru yw'r unig ran o'r DU i gynnwys gofynion i gadw pellter cymdeithasol o 2m ar gyfer gweithleoedd mewn rheoliadau. Rydym wedi rhoi pecyn cymorth ar waith i fusnesau sy'n fwy hael nag unrhyw le arall yn y DU: cyfanswm o £1.7 biliwn o gymorth sy'n cyfateb i 2.7 y cant o'n cynnyrch mewnwladol crynswth. Mae hyn yn cynnwys mwy na 56,000 o ddyfarniadau grant ledled Cymru drwy ein pecyn ar gyfer ardrethi, gyda £680 miliwn o gymorth. At hynny, mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn wedi helpu bron 8,000 o fusnesau hyd yma gyda mwy na £200 miliwn o gymorth.
Fel y nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a drafodwyd yn gynharach heddiw, gwnaethom symud yn gyflym i addasu cyllid yr UE at ddibenion gwahanol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cymorth a gynigir i fusnesau yn seiliedig ar yr anghenion sy'n bodoli yng Nghymru. Ac ni fydd yn bosibl darparu'r lefel hon o gymorth cyflym yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar ein pwerau mewn perthynas â chronfeydd i olynu rhai'r UE.
Nododd arolwg barn a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Survation y byddai pobl yng Nghymru yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru'n datblygu ei strategaeth economaidd ei hun ar gyfer adferiad, ac rwy'n credu bod hyn yn adlewyrchiad o'r ymddiriedaeth sydd gan bobl yn y Llywodraeth hon i sicrhau adferiad sy'n gweithio i Gymru.
Yn olaf, roedd ein maniffesto'n cadarnhau'r bwriad i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a bwriadaf gadw at y penderfyniad hwnnw. Cytunodd y Senedd ar y cyfraddau ar gyfer eleni ar 3 Mawrth wrth gwrs, a mater i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fydd ystyried cyfraddau treth Cymru yn y dyfodol, a mater i'r Senedd fydd pleidleisio arnynt, ac nid dadl gan yr wrthblaid yw'r lle i fod yn gosod polisi treth ar gyfer y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, bydd canlyniadau da o ran iechyd y cyhoedd yn sylfaen ar gyfer adferiad economaidd sy'n para. Dyna pam y byddwn yn parhau i seilio ein dull o weithredu ar y dystiolaeth ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn llacio'r cyfyngiadau ac ailadeiladu. Diolch.
Diolch. Cyn i mi alw ar Mark Reckless i ymateb i'r ddadl, a oes un o'r Aelodau angen ymyriad? Na. Felly, galwaf ar Mark Reckless i ymateb i'r ddadl. Mark.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn bendant yn cael llai o ymyriadau gyda'r dull hwn o weithredu. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n gwella ansawdd y ddadl ai peidio.
Ond a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i David Rowlands am ei gyflwyniad ardderchog i'n cynnig? Pwysleisiodd David effaith hirdymor y cyfyngiadau hyn ar yr economi, y canlyniadau iechyd nad ydynt yn rhai COVID, a'r effaith benodol y mae'r cyfyngiadau yn ei chael ar bobl ifanc, a dyna oedd y sail i'w gasgliad fod angen llacio'r cyfyngiadau yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Yna cawsom gyfraniad gan Darren Millar, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr am gefnogi ein cynnig, a diolch yn arbennig i Darren am beidio â chynnig gwelliant hyd yn oed i wneud newidiadau bach i'n cynnig y tro hwn. Mae'n dda ein bod ni'n unfryd ar hyn.
Cyfeiriodd, hefyd, at yr effaith nad yw'n effaith COVID ar iechyd a'r risg y byddai hynny'n arwain at golli rhagor o fywydau nag unrhyw fywydau a fyddai'n cael eu hachub drwy barhau'r cyfyngiadau. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt cryf iawn, a phan fydd y Gweinidog ac eraill yn annog pwyll, byddwn yn ymateb bod pwyll yn gweithio'r ddwy ffordd ac fel y credaf fod rhai o'r Aelodau'n cydnabod, nid oes modd osgoi risg yn y penderfyniadau a wnawn.
Rwy'n credu bod Darren wedi gwneud y pwynt hefyd, rwy'n credu, yn gwbl briodol, nad cymhariaeth â Lloegr yn unig oedd Cymru, ond ein bod yn llusgo ar ôl yr Alban a Gogledd Iwerddon a'r DU yn gyffredinol mewn dull pedair gwlad o weithredu, neu ddiffyg un. Hynny yw, efallai ei fod ychydig yn llai cadarn, gyda'r pwyslais ar roi diwedd ar y rheol bum milltir greulon y clywsom gymaint amdani gan y Ceidwadwyr. Clywsom amdani yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fel dadl ychydig yn ddryslyd, oherwydd roedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'n hallt fod Paul Davies wedi ei disgrifio fel rheol, ond dywedodd wrthym wedyn y byddai'n cadw'r rheol am bythefnos arall.
Wedyn cawsom Caroline Jones o grŵp Plaid Brexit yn rhoi cyfraniad ardderchog i ni. Ac ar y dechrau, pan na chawsom gyfle i bleidleisio ar y rheoliadau tan yn llawer diweddarach, roedd yn gwneud synnwyr i roi'r wlad i gyd mewn cwarantin er mwyn amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed, am fod y wlad mor druenus o amharod fel nad oedd profi nac olrhain, na'r hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd fel 'lapio'r rhai agored i niwed mewn cocŵn', yn debygol o weithio. Ond pwrpas yr hyn a wnaethom oedd gwastatáu'r gromlin, a buom yn llwyddiannus o fewn hynny, ac eto mae'r cyfyngiadau wedi parhau. Gall cadw pellter cymdeithasol droi'n arwahanrwydd cymdeithasol yn gyflym, meddai wrthym, ac mae hynny'n cael effaith benodol ar iechyd meddwl pobl. Rwy'n credu mai'r gorau y gallwn ei wneud yn awr yw rhoi diwedd ar gynnydd digyfyngiad y feirws yn hytrach na disgwyl i'r feirws gael ei ddileu, er, wrth gwrs, byddai hynny'n dda iawn, a gallai ddigwydd am resymau heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw ymyrraeth y gallem ni ei rhoi ar waith.
Clywsom wedyn gan Rhun ap Iorwerth. Cefais fy nrysu braidd gan ei sylwadau cychwynnol ynglŷn ag a oedd cysylltiadau rhwng smygu a chanser. Hynny yw, mae hynny wedi bod yn glir ers astudiaethau Doll ar ddechrau'r 1950au fan lleiaf. Roedd yn pwysleisio diogelwch, ond eto, mae hynny'n gweithio'r ddwy ffordd. Unwaith eto, roedd ei ymosodiad olaf ar Blaid Brexit am beidio â chynnwys cyfeiriad at brofi ac olrhain cadarn yn ein cynnig yn peri penbleth i mi. Yn wir, dyna pam y byddem wedi bod yn hapus i bleidleisio dros welliant Neil McEvoy. Os oedd Rhun mor awyddus i'w gael yn y cynnig, y cyfan oedd angen iddo ei wneud oedd cyflwyno'r cynnig gan Neil McEvoy. Ond oherwydd yr her y gallai'r Welsh National Party fod yn ei chreu i Blaid Cymru, gwn nad oedd hynny'n rhywbeth y dymunai ei wneud.
Clywsom wedyn gan Mandy Jones, a siaradodd, unwaith eto, am yr angen i wastatáu'r gromlin, fel y dywedwyd wrthym y byddai hyn yn ei wneud, a pha bryd y newidiwyd hynny? Nid ydym wedi cael ateb i hynny. A heb ateb i hynny, bydd y cyfyngiadau'n gohirio marwolaethau COVID o bosibl, ond ni fydd yn eu dileu, neu ddim yn sylweddol, a bydd yn creu llawer mwy o farwolaethau nad ydynt yn rhai COVID yn ogystal â dinistrio'r economi a lles pobl. Felly, dyna pam ein bod yn dweud ei bod hi'n bryd codi'r cyfyngiadau hyn.
Yna cyfeiriodd Gareth Bennett at wahaniaethau rhwng y DU a Chymru a sut roedd y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i'w gweld fel pe baent yn creu gwahaniaethau er eu mwyn eu hunain yn hytrach nag adlewyrchu'r wyddoniaeth. Dywedodd wedyn, yn debyg iawn, unwaith eto, i gwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog yn gynharach: pwy sy'n mynd i dalu am hyn yn y pen draw? Byddant yn ceisio beio Llywodraeth y DU, ond pan fo gennym bethau'n wahanol yng Nghymru am ein bod yn mynnu hynny, pam y byddai Llywodraeth y DU yn camu i mewn a thalu am ganlyniadau hynny? Felly, yn y pen draw, mae cyfraddau treth incwm Cymru'n mynd i godi. Ac eto, fel y mae Gareth efallai wedi'i weld yn gynharach, os codwch chi hynny gyda'r Prif Weinidog, fe'ch cyhuddir o fod eisiau byw mewn gwlad arall, fel pe na bai pobl yn gallu gwrthwynebu'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, heb i bobl gwestiynu eu presenoldeb yn y wladwriaeth Gymreig. Ac yn y casgliad y daeth Gareth iddo, fe ddaeth i ben, rwy'n meddwl, drwy ddweud bod mwy a mwy o bobl yn dod i'r casgliad, 'Diddymwch y Cynulliad', ac rwy'n cymryd mai cyfeiriad oedd hwnnw at ei gyhoeddiad cyffrous yn gynharach heddiw, er na chyfeiriodd ato'n benodol.
Yna cawsom Neil Hamilton, a ddywedodd mai cyfyngiadau oedd yr ateb anghywir ac mewn gwirionedd, dylem fod yn diogelu'r rhai sy'n agored i niwed. Ac unwaith eto, dylai'r baich prawf ar hyn fod ar gyfer y rhai sy'n cefnogi cyfyngu ar ryddid pobl a cheisio cadw pobl dan gyfyngiadau symud. Pan gaiff y mesurau hyn eu codi mewn gwahanol wledydd, ni fu cysylltiad clir iawn rhwng graddau'r cyfyngiadau a nifer yr achosion o'r clefyd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei sylwadau. Mae hi'n cyfeirio at y ffaith ei bod hi'n ochelgar, ond mewn gwirionedd, ochr arall y geiniog i hynny yw'r gwrthwyneb i'r economi, a hefyd i iechyd pobl, o bosibl, o safbwynt ffactorau heblaw COVID. Rwyf mewn penbleth braidd ei bod wedi dweud wedyn fod hyn i gyd yn broblem gyda Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl a ddim yn cynnal cyfarfodydd nac yn cydweithredu â Llywodraeth Cymru. Rwy'n cofio mai'r Prif Weinidog a wnaeth foicotio cyfarfod â Michael Gove, rwy'n credu, a'u bod wedi achub y blaen arno ar Brexit neu rywbeth tebyg. Ond mae'n amlwg ein bod yn mynd i anghytuno â'r Llywodraeth ar hyn.
Rydym yn falch o gael cefnogaeth y Ceidwadwyr, er eu bod wedi pleidleisio dros roi pellter cymdeithasol o 2m mewn cyfraith, a dyna un o'r pethau sy'n dal yr economi yn ôl. Ond mae angen inni ddechrau arni, mae angen inni ddatrys hyn, mae angen inni sicrhau bod yr economi yn ailddechrau ac mae'r cydbwysedd risg y ffordd arall bellach mewn perthynas â'r cyfyngiadau hyn, fel bod angen inni eu codi cyn gynted ag sy'n bosibl nid yn unig i gael yr economi i symud, ond hefyd i ddiogelu ein hiechyd yn gyffredinol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Diolch. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.