– Senedd Cymru ar 30 Medi 2020.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig am werth am arian i drethdalwyr, a dwi'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela Burns.
Cynnig NDM7404 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol.
2. Yn gresynu at y ffaith bod dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan Lywodraethau olynol Cymru ar bolisïau di-rym, prosiectau y cefnwyd arnynt a gorwario yn erbyn cyllidebau ers 2010.
3. Yn gresynu ymhellach at y ffaith y caniatawyd i bolisïau Cymreig a allai fod wedi bod yn rhai da edwino oherwydd diffyg cefnogaeth a phenderfyniadau a wnaed gan ganolbwyntio ar y tymor byr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y llywodraeth i sbarduno newid diwylliant, herio'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei ddarparu i drethdalwyr.
Diolch, Lywydd. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn glir iawn: peidiwch â gwastraffu arian y trethdalwyr. Ac mae'r cynnig yn glir oherwydd mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r blaid sy'n deall gwir werth arian y trethdalwyr—arian y mae pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi gweithio'n galed i'w ennill—y gwaith caled sydd y tu cefn iddo a'r gobaith y mae'n ei roi am ffordd o fyw sy'n weddus. Rydym am i'n trethi dalu am system iechyd a gofal cymdeithasol dda, system addysg drawsnewidiol a thai gweddus i'r rheini sydd angen lloches. Rydym am i'n trethi helpu i adeiladu economi ffyniannus, i gyflawni'r prosiectau seilwaith sydd eu hangen arnom ac i gefnogi twf diwylliannol a chymdeithasol. Mae punt y trethdalwr yn nwydd gwerthfawr, ac yn un na ddylai'r Llywodraeth ei chymryd yn ganiataol, ac eto mae'r Llywodraeth hon, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi mynd yn fwyfwy di-ofal gyda'r nwydd gwerthfawr hwnnw, sef punt y trethdalwr.
Mae'r dystiolaeth yn glir ac yn ddiamwys: mae dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth a ydynt ynghlwm wrth Blaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol—mae'r gwastraff yn parhau.
Fel y byddaf yn ei ddangos yn ystod y cyfraniad hwn, mae gormod o brosiectau, polisïau a chynlluniau'n ei chael hi'n anodd—ac rwy'n ei chael hi'n anodd gyda fy awtociw yma, mae'n ddrwg gennyf—diffinio amcanion clir neu gytuno ar ganlyniadau, ac anaml y bydd hyd yn oed y rhai sy'n gwneud hynny'n ddarostyngedig i'r gwaith craffu trwyadl y mae'r defnydd o bunt y trethdalwr yn galw amdano.
Yr hyn sy'n waeth byth, Lywydd—yn waeth byth—yw bod cynifer o'r prosiectau sydd â photensial—y rhai a ddechreuodd fel cynlluniau peilot—yn chwalu ac yn methu, oherwydd, ar ôl i'r cyllid cychwynnol ddod i ben, nid oes neb ag arian yn barod i fabwysiadu a bwrw ymlaen â'r prosiect. Felly, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn ailddyfeisio'r olwyn yn dragywydd, fel bochdew'n mynd rownd a rownd, yn brysurach nag erioed ond heb allu mynd i unman.
Rwyf wedi darllen adroddiadau pwyllgor diddiwedd, adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiadau byrddau iechyd, adroddiadau sefydliadau allanol, adroddiadau'r trydydd sector, adroddiadau melinau trafod ac adroddiadau ymchwil. Dro ar ôl tro, daw'r un themâu i'r amlwg: diffyg capasiti, diffyg gallu, diffyg cynaliadwyedd, diffyg cysondeb, diffyg ffocws, diffyg amcanion, diffyg craffu, diffyg gwerth am arian. Mae'r stori'n mynd ymlaen ac ymlaen ac ychydig fel y thema yn Titanic, mae'r Llywodraeth hon yn methu codi ei phen uwchben y dŵr, ac mae punt y trethdalwr yn suddo'n is.
Oherwydd yr angerdd sydd gennyf fi a fy nghyd-Aelodau i wella pethau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yna ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb ariannol, rwy'n gwrthod y rhan fwyaf o'r gwelliannau a gyflwynwyd; gwelliant y Llywodraeth am ei fod yn gwbl ddibwrpas ac yn ddigywilydd, dim cydnabyddiaeth o bunt y trethdalwr y maent wedi'i gwastraffu'n gyson, a dim ymdeimlad o gyfrifoldeb—bai rhywun arall bob amser—gwelliant Gareth Bennett am nad ydym am gladdu ein pennau yn y tywod—symudwch ymlaen, Gareth, mae'r oes wedi gwneud hynny. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â gwelliant Neil McEvoy, ond byddai angen i mi gael fy argyhoeddi mai gwthio popeth drwy awdurdodau lleol yw'r ateb.
Rwy'n derbyn gwelliant Caroline Jones. Ni cheir fawr o hyder, a chredaf fod y gwastraff arian y mae'r cyhoedd yn ei weld—y gorwariant, y diffyg cyfrifoldeb—wedi cyfrannu at y ffaith bod pobl Cymru'n rhoi'r ffidil yn y to ac yn gwrthod cymryd rhan. A fyddech chi'n ymddiried yn rhywun a wastraffodd £1 biliwn o'ch arian? Rydym i gyd wedi clywed am yr hen enghreifftiau: £221 miliwn ar ardaloedd menter anghystadleuol; dros £9 miliwn ar y cyllid cychwynnol diffygiol i Cylchffordd Cymru; bron i £100 miliwn ar oedi a gorwario ar ffordd Blaenau'r Cymoedd; £157 miliwn—mawredd, mae'r swm hwnnw wedi'i serio yn ein meddyliau, onid yw—ar ymchwiliad ffordd liniaru'r M4; dros £100 miliwn yn cynnal Maes Awyr Caerdydd.
Ond fel arfer, yn y manylion y ceir hyd i'r gwir. Ceir hyd i fethiannau llai hysbys lle na chafwyd unrhyw amcanion clir, lle nad oedd unrhyw allu gwirioneddol i ehangu llwyddiant, lle nad oedd unrhyw ymrwymiad i gynaliadwyedd hirdymor, lle na chafodd prosiectau a oedd yn methu eu dirwyn i ben yn ddigon buan, lle'r oedd gwaith craffu'n digwydd ar sail ad hoc neu lle nad oedd yn digwydd o gwbl, neu lle na châi ei adolygu gan bobl â'r awdurdod a'r dewrder i wneud y penderfyniadau anodd.
Gwelir un enghraifft o anallu cyllidol pur yn adroddiad Archwilio Cymru ym mis Mehefin 2020 ar gynllun grant datblygu gwledig Llafur. Canfu'r adroddiad fod £53 miliwn o grantiau wedi'u gwneud heb sicrhau gwerth am arian. Ac rwy'n dyfynnu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: o'r £598 miliwn a ddarparwyd eisoes o dan y cynllun, dyfarnodd Llywodraeth Cymru
'£68 miliwn o arian grant drwy broses ‘ceisiadau uniongyrchol’ lle bu i swyddogion wahodd ceisiadau i gael arian heb gystadleuaeth.'
Yn fyr, canfu'r archwilydd cyffredinol nad oedd agweddau allweddol ar gynllun, gweithrediad a throsolwg ar fesurau rheoli Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen yn ddigon effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Mewn geiriau eraill, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian heb gystadleuaeth, ni ddogfennodd pam y dewiswyd ymgeiswyr a dyfarnodd grantiau unigol heb ddangos digon o ystyriaeth i werth am arian. Os nad oedd hynny'n ddigon di-ofal â phunt y trethdalwr, rhoddodd y Llywodraeth Lafur arian i brosiectau a oedd yn bodoli'n barod heb edrych i weld a oeddent yn llwyddiannus. Ni chafwyd unrhyw drosolwg ystyrlon ar y rhaglenni a'r prosiectau.
Gadewch i mi droi oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru at enghreifftiau gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddau adroddiad yn ystod y tymor hwn yn tynnu sylw at bryderon ynghylch cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru. Saith mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd bod creu Cyfoeth Naturiol Cymru drwy uno asiantaeth yr amgylchedd, y cyngor cefn gwlad a'r comisiwn coedwigaeth yn ffordd o ddarparu dull mwy atebol, syml ac effeithlon o reoli a diogelu amgylchedd ac adnoddau naturiol y genedl. Ac eto, mae adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu cyflawni'r nodau hyn.
Roedd y pwyllgor yn ddamniol yn ei gondemniad o Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn contractau roedd wedi'u cytuno ar gyfer gwerthu pren. Tynnwyd sylw at ganfyddiadau'r archwilydd cyffredinol fod y contractau'n newydd, yn arwain at sgil-effeithiau ac yn ddadleuol, ac atgyfnerthodd y farn fod yna ansicrwydd a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rheolau cymorth gwladwriaethol.
Yr hyn sy'n gwneud y canfyddiadau'n waeth yw na ddysgwyd y gwersi, oherwydd 18 mis yn ddiweddarach ailadroddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei feirniadaeth. Canfu fod nifer o bryderon yn codi ynghylch dyfarnu'r contractau pren nad oedd esboniad iddynt, gan arwain y pwyllgor i ddod i'r casgliad y bu methiant diwylliannol o fewn y sefydliad mewn perthynas â llywodraethu a bod galw am ailwampio difrifol.
Weinidog, a ydych chi wedi sylwi ar y tebygrwydd i'r Titanic eto? Fel amryw o gyrff cyhoeddus a phrosiectau cyhoeddus eraill yng Nghymru, nid oedd digon o drosolwg ac atebolrwydd, dim ymrwymiad i ddefnyddio punt y trethdalwr yn ddoeth a cheisio gwerth am arian, ac anallu llwyr i ddysgu o fethiant. Roedd y camgymeriadau'n dal i ddigwydd dro ar ôl tro.
Tynnwyd sylw at ganfyddiadau tebyg pan archwiliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y rhaglen Cefnogi Pobl. Canfu arafwch i wneud cynnydd wrth fynd i'r afael â materion a godwyd gan adolygiadau blaenorol, er enghraifft mewn perthynas â'r fformiwla ariannu a monitro effaith y rhaglen. Roedd anghysondebau parhaus hefyd wrth reoli'r rhaglen ar lefel leol. Weinidog, roedd hon yn rhaglen a oedd wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, ac am 14 mlynedd, ni allodd eich rhaglen weithredu fel y dylai. Faint o amser ddylai hynny ei gymryd?
Ni wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymatal ychwaith yn ei waith craffu ar Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Gadewch i mi roi dyfyniad uniongyrchol arall i chi:
'Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a
chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru. Ac eto canfuwyd diwylliant o hunan-sensoriaeth a diarddeliad ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda'.
A dweud y gwir, nid yw hynny'n syndod. Rwyf wedi gweld diwylliant o hunansensoriaeth a gwadiad yn agos bob mis dros y degawd diwethaf neu fwy.
Mae pwyllgorau eraill yn gwneud yr un pwyntiau mewn ymchwiliadau i bortffolios penodol, gan gynnwys sawl un ar iechyd, yn amrywio o gartrefi gofal i glystyrau meddygon teulu, addysg a gwariant cymunedol. Weinidog, nid adroddiadau pleidiol yw'r rhain a ysgrifennwyd gan felinau trafod anghyfeillgar neu wleidyddion y gwrthbleidiau, ond canfyddiadau pwyllgorau craffu Senedd Cymru sydd â chynrychiolaeth drawsbleidiol, yn aml yn dilyn adroddiadau gan yr archwilydd cyffredinol.
Rwy'n dweud wrth bobl Cymru: peidiwch ag anobeithio, mae bad achub ar y gorwel. Oherwydd byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn sicrhau, o'r diwrnod cyntaf, ei bod yn atebol ac yn dryloyw. Byddwn yn rhoi swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth (OGRE) ar waith ar unwaith, a byddai ar wahân i'r Llywodraeth a chanddi gyfrifoldeb traws-bortffolio i sicrhau bod penderfyniadau polisi a gwariant yn dilyn amcanion cyffredinol y Llywodraeth ac yn cydblethu â'i gilydd. Wedi'r cyfan, gwelsom drychineb polisi newid hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru. Roedd yn croes-ddweud llanast ffordd liniaru'r M4 yn llwyr. Cymerodd £157 miliwn cyn i Lafur sylweddoli hynny.
Bydd y swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn newid y diwylliant o hunansensoriaeth a gwadiad. Ni fydd arnom ofn herio a newid. Dyna pam ein bod angen chwyldro datganoli. Bydd y swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth nid yn unig yn craffu ar wariant, bydd yn craffu ar ein holl bolisïau ac yn sicrhau cydlyniant, boed yn newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, hawliau dynol, codi safonau addysgol, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed ac yn dlawd, diogelu cyflenwad bwyd, darparu gofal cymdeithasol wedi'i ariannu'n briodol, neu ddiogelu'r GIG.
Byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cofio ein bod yma i wasanaethu dinasyddion Cymru. Byddwn yn gwario punt y trethdalwr yn ddoeth. Byddwn yn cael gwared ar yr haenau diangen o fiwrocratiaeth ac yn sicrhau ein bod yn darparu Llywodraeth fwy syml a thryloyw. Mae gan bolisïau'r Ceidwadwyr Cymreig amcanion clir, canlyniadau clir a rheolaeth drwyadl, lle rhoddir pob cyfle i bolisïau lwyddo, ond lle cânt eu gwerthuso a'u dirwyn i ben os nad ydynt yn gweithio. Dim mwy o bunnoedd trethdalwyr yn mynd i dwll diwaelod.
Gadewch imi orffen drwy ei gwneud yn glir fod pwynt olaf ein cynnig wedi ei seilio'n fwy ar obaith na phrofiad. Gobeithiwn y bydd Llafur yn camu i'r adwy ac yn atal y gwastraff, ond y realiti ar ôl oddeutu 20 mlynedd ac ymhell dros £1 biliwn o arian trethdalwyr wedi'i wastraffu dros y degawd diwethaf, yw nad wyf yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gallu sbarduno newid diwylliant, darparu gwerth am arian, herio'r broses o wneud penderfyniadau. Byddwn yn galw am hynny, ond nid wyf yn obeithiol iawn. Ond fe ddylech, Weinidog. Mae'r Titanic yn suddo.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, Rebecca Evans?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.
3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda.
Ie, yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei henw. Caroline Jones.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn credu bod methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei pholisïau wedi helpu i gyfrannu at y diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth sydd wedi golygu na chymerodd dros hanner etholwyr Cymru ran yn etholiadau'r Senedd.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar ei isaf erioed ac fe'i gwaethygir gan res o addewidion a dorrwyd. Mae pobl yn colli ffydd mewn datganoli am fod datganoli wedi methu sicrhau'r manteision a addawyd. Mae methiannau polisi a gwastraff Llywodraeth wedi cyflymu'r broses o erydu ymddiriedaeth yn ein sefydliad.
Fel y noda'r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cynnig, gwastraffwyd dros £1 biliwn o arian yn ystod y degawd diwethaf; arian a allai fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru. Faint o bobl sydd wedi marw o ganser am na ellid gwneud diagnosis cynnar o ganlyniad i ddiffyg adnoddau? Faint o gyn-filwyr digartref sydd wedi marw am nad oedd digon o lety fforddiadwy? Faint o blant y cyfyngwyd ar eu cyfleoedd bywyd am fod system addysg Cymru wedi gwneud cam â hwy? Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai £1 biliwn fod wedi'i wneud i'r holl fywydau hynny. Dychmygwch faint o feddygon neu nyrsys y gellid bod wedi'u cyflogi. Dychmygwch faint o dai fforddiadwy y gallem fod wedi'u hadeiladu. Yn hytrach, diflannodd yr arian hwnnw gyda gobeithion a breuddwydion llawer o bleidleiswyr Cymru.
Mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi addo llawer ond wedi methu cyflawni. Addawsant drawsnewid economi Cymru. Fe wnaethant osod targed i gyrraedd 80 y cant o gynnyrch domestig gros y DU, targed a gafodd ei anghofio pan ddaeth hi'n amlwg na ellid ei gyrraedd. Er gwaethaf miliynau o bunnoedd o gymorth gwladwriaethol, Cymru yw'r rhanbarth tlotaf yng ngorllewin Ewrop o hyd. Gwastraffwyd cronfeydd strwythurol yr UE a addawodd drawsnewid gorllewin Cymru a'r Cymoedd—addewid a dorrwyd ar ôl methu sicrhau ffyniant economaidd. Methiannau polisi a fethodd sicrhau swyddi mawr eu hangen yn fy rhanbarth i.
Mae Gorllewin De Cymru wedi colli swyddi dirifedi dros y degawd diwethaf a mwy na hynny. Gwelsom y cyflogwyr mwyaf yn lleihau eu gweithgarwch. Cawsom addewid y byddai cyflogwyr newydd yn dod yn lle'r swyddi gweithgynhyrchu ar gyflogau uchel a gollwyd yn Sony, Ford, Visteon, 3M, Tata a llu o weithgynhyrchwyr byd-eang eraill. Yr hyn a gawsom oedd ffrwd o gynlluniau aflwyddiannus, buddsoddiad a wastraffwyd a rhesi o swyddi ar gyflogau isel mewn canolfannau galwadau. Rhoddodd pobl Cymru y gorau i wrando ar yr addewidion a dorrwyd. A oes unrhyw ryfedd mai llai na thraean o etholwyr Gorllewin De Cymru a aeth i'r drafferth i bleidleisio yn 2016? Ledled Cymru, ailadroddir y darlun. Mae hyn wedi arwain at lefelau enfawr o ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, ac ni thrafferthodd dros hanner y pleidleiswyr cymwys i gymryd rhan yn etholiadau diwethaf y Senedd. A oes unrhyw ryfedd pan fo'r Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn treulio llawer mwy o amser yn trafod materion cyfansoddiadol haniaethol nag y maent yn ei dreulio'n trafod pethau sy'n effeithio ar fywydau pobl gyffredin yng Nghymru?
Ond mae'n rhaid i ni adfer ffydd mewn gwleidyddiaeth a ffydd yn y sefydliadau. A gallwn ddechrau gwneud hynny pan fyddwn yn cyflawni'r addewidion a roddwyd i bobl Cymru; pan fyddwn yn gwella bywydau pobl; pan fyddwn yn dileu gwastraff. Rwy'n cytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig fod angen inni sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y Llywodraeth i sicrhau gwerth am arian, dileu gwastraff a gwneud Llywodraeth Cymru'n agored ac yn dryloyw. Mae'r mwyafrif helaeth ohonom yma i sicrhau gwelliannau i fywydau pobl Cymru, ac yn anffodus nid yw llawer gormod o'r bobl hynny yn ymddiried ynom mwyach ac mae'n rhaid i ni ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno.
Credaf mewn datganoli a chredaf yn y Senedd y pleidleisiodd pobl Cymru drosti. A chredaf mewn gweithio gyda phob plaid i roi i bobl Cymru yr hyn y maent am ei gael i ailadeiladu eu bywydau ac i ddarparu'n well ar eu cyfer. Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant a chefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw. Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw, a thrwy hyn cyflwynaf y cynnig ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru.
Credaf fod Angela Burns wedi rhoi cyfrif diddorol inni o'r arian trethdalwyr a wastraffwyd dros yr 21 mlynedd diwethaf. Mae hyd yn oed yn fwy diddorol o gofio bod y Ceidwadwyr o blaid datganoli, ac eto mae'r dystiolaeth ynglŷn â methiannau datganoli yn amlwg iawn. Bydd y Ceidwadwyr yn dweud mai methiannau plaid wleidyddol benodol ydynt—Llafur Cymru—yn hytrach na methiannau sefydliad, ac eto y perygl yw eu bod, drwy gyflwyno'r cynnig hwn, yn ddiarwybod yn rhoi beirniadaeth lawn o ddatganoli ei hun i ni. Mae'n debyg ei fod yn dibynnu pa mor ddifrifol rydym yn cymryd ateb datganedig y Ceidwadwyr i'r broblem o wastraffu arian trethdalwyr, sef sefydlu'r hyn y maent yn ei alw'n swyddfa drawsadrannol. Wel, ni chawsom lawer o fanylion yn ei chylch, ac rwy'n meddwl tybed pwy fyddai ynddi. A yw'r Ceidwadwyr yn dychmygu o ddifrif y byddai'r bobl sy'n rhedeg y swyddfa hon yn wahanol o ran meddylfryd i'r bobl y maent yn craffu ar eu gwariant? Credaf i mi glywed Angela yn dweud y byddai'r swyddfa newydd yn cael ei galw'n OGRE, ac rwy'n ofni mai tipyn o fwgan fyddai hi. Mae'n debyg i'r hen jôc am wleidyddion yn ceisio datrys sut i leihau nifer y pwyllgorau drwy sefydlu pwyllgor i ymchwilio i'r mater. A dyna'r cyfan fyddai'r swyddfa drawsadrannol hon: pwyllgor arall. Mae gennym ormod o'r rheini yn barod.
Felly, a yw datganoli wedi cyflawni unrhyw beth? Wel, mae gwelliant y Llywodraeth Lafur yn rhoi rhestr o gyflawniadau i ni, rhestr nad yw'n hir iawn yn fy marn i. Mae eu gwelliant heddiw'n cyfeirio at bresgripsiynau am ddim, er enghraifft. Oes, mae gennym bresgripsiynau am ddim, ond mae gennym wasanaeth iechyd sydd prin yn weithredol. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru dan ryw fath o fesurau arbennig, gyda Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru wedi bod yn y sefyllfa honno ers pum mlynedd hir. Gwn fod problemau gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr hefyd, ond nid yw'n ymddangos eu bod ar yr un raddfa ag yma yng Nghymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod datganoli wedi rhoi gwasanaeth iechyd inni sy'n waeth o lawer na'r un a oedd gennym o'r blaen. Mewn un achos, roedd gennym gleifion na allent fynd i'w hysbyty lleol hyd yn oed, Ysbyty Iarlles Caer, oherwydd bod yr ysbyty'n gwrthod derbyn rhagor o gleifion o Gymru nes bod Llywodraeth Cymru wedi talu'r bil. Ni fyddai'r math hwnnw o beth wedi digwydd cyn i ni gael datganoli.
Beth am y manteision economaidd yr addawyd i bobl Cymru y byddai datganoli'n eu cynnig? Wel, yn 2003, dywedwyd wrthym gan Edwina Hart, Gweinidog Llafur blaenllaw ar y pryd, y byddai tlodi yng Nghymru yn cael ei ddileu drwy ei chynlluniau Cymunedau yn Gyntaf. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau hyn o'r diwedd. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu nodi unrhyw dystiolaeth fod yr ardaloedd a gafodd eu cynnwys yn y cynlluniau wedi cael unrhyw fantais economaidd ohonynt. Mae'n wastraff o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Ac ar ddileu tlodi, wel, beth am yr addewid i godi cynnyrch domestig gros Cymru i 90 y cant o gynnyrch domestig gros cyfartalog y DU erbyn 2010? Ni fuom erioed yn agos at gyflawni hyn, a bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn y mae'n ei wneud fel arfer gyda'i thargedau—mae'n rhoi'r gorau iddynt.
Un maes lle'r ydym yn bendant wedi mynd tuag yn ôl yw mewnfuddsoddi. Pan oedd gennym Awdurdod Datblygu Cymru, roedd Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl a denai fwy nag 20 y cant o holl fewnfuddsoddiad y DU. O dan ddatganoli, cafodd Awdurdod Datblygu Cymru ei ddiddymu er mwyn inni allu gael pwyllgor o fiwrocratiaid yn lle hynny sy'n uniongyrchol atebol i Lywodraeth Cymru. Y canlyniad yw bod mewnfuddsoddi wedi plymio a dim ond 2 y cant o fewnfuddsoddiad y DU mae'n ei ddenu erbyn hyn. Mae hon yn enghraifft berffaith o'r ffordd y mae datganoli wedi arwain at ddirywiad yng Nghymru yn hytrach nag atgyfodiad.
A gaf fi sôn hefyd am ffordd liniaru'r M4 y soniodd Angela amdani? Roedd dewis rhwng dau lwybr, ond ni ddewisodd Llywodraeth Cymru y naill na'r llall, a dewis peidio ag adeiladu'r ffordd o gwbl yn lle hynny. A hynny ar ôl gwastraffu mwy na £150 miliwn o arian trethdalwyr ar y prosiect. Yn rhyfedd iawn, un o'r rhesymau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros ddiddymu'r cynllun oedd ei gost, ac eto gyda Llywodraeth y DU bellach yn cynnig dod yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru mor obsesiynol ynglŷn â diogelu ei hawliau fel Llywodraeth ddatganoledig fel ei bod yn gwrthod y cynnig o gymorth. Yn y pen draw, yr hyn a gafodd pobl Cymru oedd £100 miliwn o arian wedi'i wastraffu a system ffordd sy'n dal i fethu dod â hwy allan o dwnelau Bryn-glas. Gofynnwch i chi'ch hun: a yw datganoli wedi gwneud unrhyw beth o gwbl i wella economi Cymru? Y cyfan y mae wedi'i wneud yw gwastraffu arian.
Na, er fy mod yn cytuno â llawer o'r teimladau yng nghynnig y Ceidwadwyr, teimlaf mai dull haws fyddai rhoi cyfle i'r cyhoedd yng Nghymru werthuso'r hyn sydd wedi digwydd dros yr 21 mlynedd diwethaf a phleidleisio dros roi'r gorau i holl brosiect aflwyddiannus datganoli. Yr hyn sydd ei angen yw refferendwm arall, gyda phobl Cymru'n cael dewis i ddiddymu Senedd a Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.
[Anghlywadwy.]—i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Gwelliant 4—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy:
a) cydnabod bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat, drwy ddyblygu a rheoli pendrwm;
b) democrateiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Ymgyrchais dros Senedd Cymru drwy gydol fy mywyd fel oedolyn oherwydd fy mod yn credu yn y sefydliad hwn, rwy'n credu yn y potensial sydd gennym yma. Rwyf newydd wrando ar Blaid Diddymu Cynulliad Cymru, ac ni chafwyd un syniad yn yr araith gyfan, dim ond beirniadaeth o'r sefydliad, pan ddylai'r feirniadaeth fod wedi'i chyfeirio at y Llywodraethau ers 1999. Rwy'n ei chael yn rhyfedd iawn y byddai'n well gan rai pobl gael eu llywodraethu gan wlad arall.
Fe ddywedaf wrth y bobl sy'n eistedd ar law dde'r Llywydd mai Margaret Thatcher a wnaeth i mi droi at fyd gwleidyddiaeth pan oeddwn yn iau, oherwydd fy mod yn anghytuno â bron bob peth a wnâi. Cwangos: roedd gennym wladwriaeth gwango yng Nghymru, ac roedd yn fater o bwy roeddech chi'n ei adnabod yn hytrach na'r hyn roeddech chi'n ei wybod. Roeddwn yn y Blaid Lafur yn y dyddiau hynny, yn ymgyrchu gyda chydweithwyr yn erbyn y system annemocrataidd o benodi pobl i swyddi y credai'r rhan fwyaf ohonom nad oeddent yn eu haeddu mewn gwirionedd. Ac yna cawsom Gynulliad Cymru yn 1999, Senedd Cymru erbyn hyn, ac mae rhai o'r bobl yr ymgyrchwn gyda hwy wedi cefnogi gwneud yr un peth yn union, lle mae gennych y cartel ym Mae Caerdydd dan arweiniad Llafur, wedi'i gynnal o bryd i'w gilydd gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel eu cynorthwywyr, ac maent wedi creu biwrocratiaeth hunanlesol.
Dyma bwynt ein gwelliant, oherwydd rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy gydnabod bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat—mae hwnnw'n air allweddol—drwy ddyblygu a rheoli pendrwm. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw democrateiddio gwasanaethau drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru.
Os edrychwch ar y trydydd sector tra chwyddedig, fe welwch brif weithredwr ar ôl prif weithredwr ar gyflogau enfawr. Os edrychwch ar y sector tai, y tro diwethaf i mi edrych, roedd 48 o wahanol sefydliadau'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, pobl sy'n honni eu bod yn ymladd digartrefedd, ac eto mae eu cyflogau £90,000 y flwyddyn yn dibynnu ar bobl ddigartref, felly a ydynt am ddatrys y broblem mewn gwirionedd? Byddwn yn dadlau nad ydynt, oherwydd yr hyn y mae Llafur wedi'i greu yng Nghymru yw diwydiant tlodi. Diwydiant tlodi. Os edrychwch ar ofal, y diwydiant gofal yn awr, lle mae'n ddiwydiant gofalu am blant, ac mae Llafur wedi bod yn eithaf clyfar yn wleidyddol, oherwydd maent wedi preifateiddio'r maes gwasanaeth hwnnw yn ei gyfanrwydd. Mae 80 y cant o blant bellach yn derbyn gofal gan gwmnïau preifat yng Nghymru.
Yr hyn sydd ei angen yw diwedd ar y diwylliant canapés yn y Senedd. Fe welwch y bobl yn dod i mewn, y bechgyn Llafur a'r merched Llafur—swyddi i'r bechgyn, swyddi i'r merched, haelioni a ffrindgarwch Llafur. Gwelwn yr union beth yr ymgyrchais yn ei erbyn fel plentyn yn y 1980au yn digwydd yn awr yn Senedd Cymru. A phan soniaf am y trydydd sector, gadewch i mi fod yn gwbl glir, nid wyf yn sôn am y gweithwyr rheng flaen, sy'n aml iawn ar gyflogau isel—tâl tlodi mewn rhai amgylchiadau—gyda llai o hawliau nag a fyddai ganddynt wrth weithio i awdurdod lleol.
Nid oes raid iddi fod fel hyn. Ym Mhlaid Genedlaethol Cymru, credwn mewn meritocratiaeth, credwn mewn cyfle cyfartal, pobl yn gweithio'n galed ac yn llwyddo. Rhaid inni ail-ddemocrateiddio ein gwlad a phleidleisio yn erbyn y consensws cysurus hwn. Mae angen inni roi adnoddau a chyllid i'n cymheiriaid llywodraeth leol a etholwyd yn ddemocrataidd i ddarparu gwasanaethau i'n pobl, a rhaid inni roi'r gorau i wneud elw yng Nghymru ar draul y rhai sy'n agored i niwed. Rwy'n meddwl am adrannau gwasanaethau plant, lle gwelwch weithwyr cymdeithasol wrthi fel lladd nadredd, gyda mynydd o waith, diffyg arian, ac yna fe welwch filiynau ar filiynau'n cael ei wastraffu ar reoli pendrwm, prif weithredwr ar ôl prif weithredwr, elusennau honedig sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac eto, yn rheng flaen llywodraeth leol, mae pobl yn ei chael hi'n anodd dros ben.
Mae'r bobl wedi cael eu twyllo gan y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae'n bryd rhoi stop ar y trên grefi. Dyna'n union yw nod Plaid Genedlaethol Cymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Wrth wraidd unrhyw Lywodraeth, rhaid cael ymrwymiad i adolygu ei strwythurau a'i phrosesau ei hun yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Rhaid i bob Llywodraeth allu edrych arni'i hun yn feirniadol a meddwl sut y gall ddarparu gwasanaethau'n effeithlon ac yn effeithiol. I weld y gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb ohonom am eu cael, rhaid inni gwestiynu sut y gwneir penderfyniadau, sut y dyrennir adnoddau, ac mae angen inni nodi gwastraff. Nawr, yn gynharach eleni, gwneuthum ymrwymiad i bobl Cymru, pe bawn yn arwain Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, fel y dywedodd Angela Burns, y byddwn yn sefydlu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth. Holl bwynt sefydlu'r swyddfa honno yw creu corff annibynnol hyd braich a allai nodi lle mae adnoddau'n cael eu gwastraffu a lle mae prosesau Llywodraeth yn methu sicrhau gwelliannau i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Gall yr Aelodau i gyd nodi enghreifftiau o brosiectau a chynlluniau Llywodraeth lle gwelwyd oedi a gorwario. Er enghraifft, eleni, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ar orwariant Llywodraeth Cymru ar brosiectau seilwaith, gan gynnwys ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd a'r gorwariant o £60 miliwn ar gael gwared ar asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r adroddiadau hyn unwaith eto'n tynnu sylw at ddiffyg mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru i gynllunio a chyflawni prosiectau hirdymor yn briodol. Nid oes neb yn anghytuno â rhinweddau darparu ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, er enghraifft. Yn wir, weithiau gallwn fethu gweld manteision cymdeithasol ehangach datblygu prosiectau seilwaith ledled Cymru, ac felly mae'n werth ailadrodd bod datblygu seilwaith da, pan gaiff ei gyflawni'n iawn, yn gallu trawsnewid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio mewn cynifer o ffyrdd. Gall seilwaith sydd wedi'i lunio a'i ddatblygu'n dda ein cysylltu'n well â nwyddau a gwasanaethau hanfodol, gall ddarparu gwell amodau byw, gwell ysgolion i'n plant, a gall hefyd ddarparu swyddi drwy gydol y cyfnod adeiladu ac ar hyd y gadwyn gyflenwi. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur manteision cymdeithasol pob prosiect unigol sydd ar y gweill, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur manteision cymdeithasol prosiect pan fo'n dyrannu'r cyllid hwnnw.
Mae fy nghyd-Aelod Angela Burns eisoes wedi sôn am filiynau a miliynau o bunnoedd y flwyddyn o arian a wastraffwyd y gellid bod wedi'i wario'n darparu seilwaith i gefnogi cymunedau'n well ledled y wlad. Mae hwnnw'n gyllid gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i ledu ffyrdd, gwella ysgolion neu adeiladu tai. Yn anffodus, cafwyd adroddiadau di-rif dros y blynyddoedd am brosiectau sydd wedi dangos gwastraff ar ffurf gorwario, colledion buddsoddi ac afreoleidd-dra ariannol. Un peth yw gwastraff ariannol, ond dim ond un darn o'r jig-so ydyw, ac mae angen inni archwilio ein systemau'n well hefyd. Mae caffael wedi bod yn her ers tro byd i ymgynghorwyr ac adeiladwyr, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r drafodaeth a gefais dros y blynyddoedd fod angen symleiddio'r broses honno, ac ar adegau fod y galw am wybodaeth wedi bod yn anghymesur â gwerth y cais. Felly, rhaid inni edrych o ddifrif ar ddatblygu dull cyfannol o sicrhau gwelliannau yn y broses gaffael fel y gallwn, fel Llywodraeth, wneud y mwyaf o'n gwariant. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod angen ymgysylltu a chyfathrebu rheolaidd rhwng partneriaid ar bob cam datblygu. A yw Llywodraeth Cymru yn gofyn iddi hi ei hun a yw'r broses dendro'n gweithio cystal ag y gall? Pa ôl-gymorth dilynol a thrafodaeth a geir i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed ar brosiectau'r Llywodraeth cyn i'r prosiect gael ei ddiddymu? Dyma'r math o faterion y mae angen i'r Llywodraeth eu deall yn well fel y gellir gwella'r system er gwell. Felly, rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei pholisïau caffael, a sut y mae'n gwerthuso'n feirniadol y ffordd y mae'n cyflawni prosiectau seilwaith.
Lywydd, credaf fod angen newid diwylliannol i sicrhau gwelliannau go iawn yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yma yng Nghymru. Rwyf wedi dweud yn glir fy mod wedi ymrwymo i ddiwygio'n sylweddol y modd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu a sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu darparu, ac yn y pen draw yr hyn y mae pobl Cymru am ei weld yw diwedd ar weithio mewn seilos, ymdrech lawer mwy ymwybodol i ddileu gwastraff, a gweld eu harian y maent wedi gweithio'n galed amdano'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol.
Nawr, ceir digon o enghreifftiau o drosolwg sector cyhoeddus ledled y byd, ac mae angen inni ddysgu o'r ffordd y mae Llywodraethau eraill wedi gweithredu a gweld ble y gallwn addasu'r arferion hynny yma. Er enghraifft, yn Seland Newydd, sefydlwyd y grŵp cynghori ar bolisi i roi cyngor gwleidyddol diduedd, di-dâl a gonest i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill. Yn yr un modd, byddai gan swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yr un rôl wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ond hefyd byddai ganddi ddannedd i weithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chyda rhanddeiliaid allweddol eraill i gael gwared ar aneffeithlonrwydd.
Felly, wrth gloi, Lywydd, er mwyn bwrw ymlaen â gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus a chyflawni prosiectau seilwaith llwyddiannus ledled Cymru, rhaid inni ymrwymo i ailedrych ar ein gwariant a'n prosesau. Credaf mai'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy greu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth—swyddfa a all helpu i drawsnewid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu darparu a sbarduno'r math o newid diwylliannol y mae pobl Cymru am ei weld. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Siaradaf yn y ddadl hon i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn benodol am bwynt 1, sy'n nodi'r gwerth gwael am arian a gynigir gan economeg cyni, fel yr amlygwyd ym meirniadaeth y Cenhedloedd Unedig o dlodi'r DU.
Byddai angen sgiliau Jackanory, nid rhai Job, ar Angela Burns a'i chyd-Aelodau Ceidwadol i egluro sut y mae prosiect cyni dinistriol Cameron ac Osborne, ochr yn ochr â choeden arian hud May, rywsut wedi troi'n Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benthyg ychydig o dan £174 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Awst. Ni fyddwn ni ar feinciau Llafur Cymru yn cymryd unrhyw wersi ar economeg gan y Ceidwadwyr. Mewn degawd, maent wedi symud o gynildeb economaidd Ebenezer Scrooge at bolisïau economaidd enillydd loteri cenedlaethol yn Las Vegas. Felly, gall y Torïaid roi'r gorau iddi—rhowch y gorau i'ch pregethu wrth bobl Cymru ac wrth yr Aelodau o'r Senedd hon am eich uwchraddoldeb a'ch ymrwymiad i werth am arian i drethdalwyr oherwydd—[Torri ar draws.]
Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at welliant 1, pwynt 3, sy'n croesawu'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru—presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu'r terfyn cyfalaf, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'r gronfa cadernid economaidd. Gallwn fynd ymlaen, ond gadewch i mi fod yn gryno: mae'r Torïaid yn deall pris popeth a gwerth dim byd, a Llafur Cymru yw'r blaid y mae pobl Cymru yn ymddiried ynddi gyda'r sector cyhoeddus a phriodoldeb cyllidol i ddiogelu, meithrin a thyfu Cymru oherwydd bod y ddisgyblaeth a'r weledigaeth ariannol gref i Gymru a gyflawnwn yn mynd yn groes i ddegawd cyfan o bolisi Llywodraethau Torïaidd y DU, wrth iddynt barhau i wasgu cyllideb gyhoeddus Cymru i'r eithaf. Mae Cymru bellach £4 biliwn yn waeth ei byd ers iddynt ddod i rym, a gweithiwn i wrthsefyll hyn bob dydd, a dyna pam y maent mor awyddus i wanhau datganoli a gwanhau'r lle hwn.
Hyd yma, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi gwario £57 miliwn a mwy mewn contractau ymgynghori—gormod i sôn amdanynt. Mae Deloitte yn gwneud yn dda iawn—£6.7 miliwn mewn contractau, £3 miliwn arall am ddarparu ar gyfer Swyddfa'r Cabinet, a £2.5 miliwn mewn contractau gan Drysorlys y Torïaid—a PricewaterhouseCoopers, £3 miliwn mewn ymgynghoriaeth. Gallwn fynd ymlaen. Felly, mae dull y Torïaid o oruchwylio arian trethdalwyr yn peri pryder mawr, ond nid yw'n wahanol i'r ffordd y mae Llywodraethau Torïaidd olynol bob amser wedi ymddwyn, gyda gwerthu ein diwydiannau cenedlaethol, chwalu ein sector cyhoeddus a'n gwasanaethau cyhoeddus, ac awydd i erydu llywodraeth leol a gwasgu arni i breifateiddio. Mewn cyferbyniad, yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghymru yn cryfhau ac yn cynnal ein hethos gwasanaeth cyhoeddus. Mae wrth wraidd ac yn ganolog i'n bodolaeth. Yng Nghymru, mae 'di-elw' yn golygu rhywbeth.
Yn olaf, gadewch imi ddychwelyd at fenthyciadau Llywodraeth Dorïaidd y DU o ychydig o dan £174 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Awst. Yn y pedwar mis byr hynny yn yr haf, benthycodd y Torïaid fwy nag a fenthycwyd gan Lywodraeth Lafur y DU drwy gydol y flwyddyn ariannol pan achubodd y Llywodraeth Lafur y banciau ac achub yr economi rhag dinistr. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd, a gofiwch chi, yn yr union le hwn, y gwawdio diddiwedd oddi ar feinciau'r Torïaid am drwsio'r to pan oedd yr haul yn gwenu, a'r ffordd roeddent yn dweud bod Llafur wedi gwario'r holl arian, ac mai dyma'r unig reswm, gyfeillion, a ddefnyddiwyd i gyflawni eu hawydd ideolegol dwfn i grebachu'r wladwriaeth â degawd o gyni, ac i beth? Ymhen pedwar mis, fe wnaethant fenthyg mwy nag y gwnaeth y Llywodraeth Lafur mewn blwyddyn gyfan. Unwaith eto, dyma ragrith nodweddiadol y Torïaid. Lywydd, maent yn ceisio hawlio'r monopoli ar gymhwysedd economaidd, ac eto mae pobl Cymru'n gwybod na fyddent yn ymddiried yn y Torïaid i werthu car ail law iddynt, heb sôn am ymddiried ynddynt i reoli ein harian cyhoeddus. Diolch.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud,wrth wrando ar y cyfraniad olaf gan Rhianon Passmore, rwy'n synnu at y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o arian i'r lle hwn a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar yr union adeg y cawsant £4 biliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Cawn gyfraniadau sy'n dweud wedyn bod y Blaid Geidwadol yn anfedrus yn economaidd. Ni allwch chi ei chael hi'r ddwy ffordd, Rhianon Passmore. Ni allwch alw ar y naill law am fwy o fenthyca a mwy o gymorth a beirniadu'r llaw sydd wedi rhoi'r arian hwnnw i chi pan gaiff ei ddarparu. Felly, yn bersonol, rwyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig ar yr ochr hon i'r Siambr, yn fwy na bodlon fod Llywodraeth y DU yn benthyca arian ar hyn o bryd. Mae'n cefnogi economi'r DU, ac mae'n cefnogi economi Cymru a phobl yng Nghymru, ac yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, credaf y bydd pobl Cymru'n gweld bod y cymorth hwnnw wedi'i gynnig.
Mae pwynt 1 y cynnig yn mynd at ddiben canolog y cynnig hwn: mae rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, canlyniadau cytûn a chraffu trwyadl. Pa mor aml yn y Siambr hon a dros y misoedd diwethaf bron yn llwyr y buom yn sôn am bwysigrwydd adeiladu'n ôl yn well ar ôl y pandemig, a datblygu economi a seilwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy? Wel, rhaid i'r broses honno o adeiladu'n ôl yn well olygu cael gwared ar wastraff, cynyddu effeithlonrwydd a sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. A gadewch i mi fod yn glir beth rwy'n ei olygu wrth 'werth am arian', oherwydd nid yw hynny'n golygu mynd am yr opsiwn rhataf bob amser a bodloni ar lai na'r gorau. Ond mae'n golygu ymgorffori a datblygu diwylliant gwrth-wastraff wrth wraidd y Llywodraeth, gan sicrhau bod trosolwg bob amser ar wariant y Llywodraeth ar draws adrannau, ac un sy'n tynnu sylw at wastraff y Llywodraeth cyn gynted â phosibl.
Yn sicr, nid wyf yn gweld ein cynigion ar gyfer adran newydd fel rhywbeth sy'n gwrthdaro yn erbyn y mecanweithiau craffu presennol—ymhell o fod. Credaf eu bod yn ategu'r mecanweithiau sydd gennym yn barod, gan gynnwys Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ei hun y cyfeiriodd Angela Burns ato, Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ym mis Mehefin 2020, cynhyrchodd Archwilio Cymru adroddiad ar gynllun grant datblygu gwledig Llywodraeth Cymru, a chanfu fod £53 miliwn o grantiau wedi'u gwneud heb sicrhau gwerth am arian na chystadleuaeth effeithiol. Canfu Archwilydd Cyffredinol Cymru nad oedd agweddau allweddol ar gynllun, gweithrediad a throsolwg ar fesurau rheoli Llywodraeth Cymru dros y rhaglen yn ddigon effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Roedd y methiannau a restrwyd yn cynnwys gwahodd ceisiadau am gyllid gan sefydliadau penodol heb ddogfennu pam, rhoi arian ychwanegol i brosiectau presennol heb wirio eu llwyddiant yn gyntaf, a dim digon o drosolwg ar brosiectau.
Wrth gwrs, cafwyd enghreifftiau cynharach o ddiffyg effeithlonrwydd y cyfeiriodd Aelodau eraill atynt—Cymunedau yn Gyntaf, er enghraifft. Roedd cryfderau Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys brand cryf a gweithwyr dibynadwy, yn beth da, ond yn anffodus, cawsant eu bwrw i'r cysgod gan ddiffyg cydgysylltiad a dyblygu gwaith. Nid oedd angor digonol i'r prosiect, a chafwyd rhaglenni tebyg ers hynny. Yn syml iawn, nid oedd yn rhoi gwerth am arian ac ni sylwyd ar hynny'n ddigon cyflym.
Nid problem i Lywodraeth Cymru'n unig yw hi; mae'n ymestyn i gynnwys cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd, fel y soniodd Angela Burns. Adroddodd Archwilio Cymru mai barn amodol a roddwyd ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i'w ffordd o drin contractau pren, fel y nodwyd yn gynharach unwaith eto, a dywedodd yr archwilwyr Grant Thornton fod hynny wedi eu gwneud yn fwy agored i'r risg o dwyll. Ac ym mis Ionawr 2020, rhoddodd yr archwilydd cyffredinol farn amodol ar gyfrifon y sefydliad am y bedwaredd flwyddyn yn olynol oherwydd amheuon ynglŷn ag a weithredodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â'u dyletswyddau statudol a'u hegwyddorion cyfraith gyhoeddus.
Mae angen inni feithrin mwy o gadernid yn y system, ac nid yw hynny'n golygu cadernid ariannol yn unig; mae'n golygu cadernid wrth ymdrin â data hefyd. Yn ddiweddar daeth diffygion i'r amlwg yn y modd y mae Llywodraeth Cymru'n ymdrin â data personol gyda'r tri digwyddiad mawr o dorri cyfrinachedd data yn arwain at osod manylion 18,000 o unigolion ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 24 awr. Fel y gwyddom, roedd hyn yn cynnwys manylion bron i 2,000 o breswylwyr cartrefi gofal.
Felly, nid cwestiwn o gadernid ariannol yn unig ydyw; mae'n fater o gadernid ar draws Llywodraeth Cymru, ac ar draws y sector cyhoeddus, a dyna pam ein bod yn cynnig rhai o'r newidiadau a gyflwynwyd gennym. Mae hwn yn gynnig sy'n ymwneud yn y bôn â rhoi hyder i bobl Cymru—hyder, pan fyddant yn pleidleisio, pa blaid neu bleidiau bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru y bydd cadernid a gwerth am arian yn cael eu hadeiladu'n rhan o'r broses honno a'r system honno o'r dechrau, ac na chânt eu hychwanegu fel ôl-ystyriaeth. Mae angen inni feithrin cadernid, sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, ac yn hollbwysig, hyrwyddo diwylliant newydd o effeithlonrwydd. Ymwneud â hynny y mae'r cynnig hwn: cynyddu gwaith craffu a bwrw goleuni ar rai o gorneli tywyllach y Llywodraeth, wrth inni ddechrau ar y daith hir o adeiladu'n ôl yn well.
Ac i gloi, Lywydd, dywedodd Neil McEvoy—ac rwy'n cytuno ag ef—fod angen inni ailadeiladu; rwy'n credu i chi ddweud bod angen inni newid diwylliant y Llywodraeth, drwy gael gwared ar y tywyllwch—. Rwy'n eich dyfynnu'n hollol anghywir yno, mewn gwirionedd, gyda llaw, Neil McEvoy; ni ddylwn byth geisio eich dyfynnu—rydych yn ei wneud yn llawer mwy huawdl eich hun. Ond fe ddywedoch chi na all pethau barhau fel roeddent o'r blaen, ac yn fy marn i, mae angen inni sicrhau nad ydym yn dileu'r union ddemocratiaeth sy'n rhoi'r cyfle i newid rydym yn ei geisio.
Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar yr economi a'r seilwaith a pham y mae creu swyddfa drawsadrannol ar gyfer cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn hanfodol os ydym am weld diwedd ar weithio mewn seilos fel sydd wedi nodweddu perfformiad Llywodraethau olynol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bydd sefydlu'r swyddfa wrth wraidd y Llywodraeth, fel yr amlinellwyd yn gynharach gan Angela Burns, yn sicrhau bod holl adrannau'r Llywodraeth ganolog yn canolbwyntio ar weithio mewn ffordd drawsadrannol, gan gyflawni prosiectau sy'n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth a seilwaith a hynny ar amser ac o fewn y gyllideb—rhywbeth sydd heb ddigwydd mor aml â hynny hyd yma. Does bosibl nad yw hwn yn uchelgais a all ennyn cefnogaeth drawsbleidiol.
Mae angen buddsoddiad sylweddol ar lawer o brosiectau, ac mae trafnidiaeth a seilwaith yn enwog fel y gwyddom i gyd am wario mwy na'r gyllideb, tra'n cymryd mwy a mwy o amser i'w cwblhau. Mae'r rhestr yn hir: Cylchffordd Cymru, Maes Awyr Caerdydd, ardaloedd menter, £157 miliwn wedi'i wastraffu ar ffordd yr M4 sy'n mynd i unman. Soniodd Angela Burns am y £157 miliwn hwnnw. Beth am y £15 miliwn a wariwyd ar eiddo ar hyd ffordd liniaru'r M4 a brynwyd yn orfodol? Maent yn parhau i fod yn asedau i Lywodraeth Cymru. Ond beth am y costau cyfreithiol a'r ffioedd proffesiynol sydd wedi'u gwastraffu ar brynu'r eiddo hwnnw? Ac rydym yn meddwl am y ddau eiddo a brynwyd y llynedd, ddau fis cyn i Lywodraeth Cymru ddileu'r prosiect cyfan. Felly mae un adran o'r Llywodraeth yn prynu dau eiddo; ddeufis yn ddiweddarach, mae adran arall o'r Llywodraeth—swyddfa'r Prif Weinidog—yn diddymu'r union brosiect y prynwyd yr eiddo ar ei gyfer. Onid yw hynny'n enghraifft o pam fod angen y swyddfa hon arnom?
Soniodd Paul Davies am nifer o adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru, neu Archwilio Cymru fel y'i gelwir bellach—y gorwariant ar ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, y gorwariant o £60 miliwn ar gael gwared ar asbestos yn ysbyty Glangwili—a thynnodd sylw at brinder mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru i gynllunio a chyflawni prosiectau hirdymor yn briodol. Geiriau Archwilio Cymru yw'r rheini, nid fy ngeiriau i: 'prinder mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru'. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr hon, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn euog o fethu cynllunio'n briodol ar gyfer darparu cynlluniau seilwaith ffyrdd a gwella ffyrdd yn y tymor hir, o fethu rheoli'r broses o gaffael a darparu cynlluniau ffyrdd yn briodol, ac o fethu cynnal rhwydwaith ffyrdd Cymru gyda lefelau priodol o gyllid.
Rwy'n dal yn bryderus ynghylch y diffyg cynllunio parhaus i gyflawni prosiectau seilwaith yn brydlon. Ac er gwaethaf digonedd o sicrwydd i'r gwrthwyneb, nid ydym yn gweld unrhyw newid yn y maes hwn o hyd. Mae angen inni ddechrau darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n ymatebol, yn effeithlon, yn hygyrch ac sy'n darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, drwy sefydlu swyddfa i sicrhau effeithlonrwydd trawslywodraethol a thrawsnewid o fewn y sector cyhoeddus, swyddfa sy'n gyfrifol am sicrhau gwerth cyhoeddus, cynllunio, perfformiad a chefnogi caffael. Yn fy marn i, Lywydd, byddai swyddfa newydd yn Llywodraeth Cymru ar gyfer cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn ffrind beirniadol. Byddai'n darparu'r trosolwg clir, trawsadrannol a'r gwaith craffu trylwyr sy'n ofynnol ac sy'n angenrheidiol i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario'n briodol ac nad yw'n cael ei wastraffu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw.
Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Lywydd, mae sicrhau gwerth am arian yn flaenoriaeth gyson i Lywodraeth Cymru. Roedd hynny'n wir cyn y pandemig ac mae ein hymateb a dargedwyd i ymdrin ag argyfwng COVID-19 wedi'i ysgogi gan yr un ymrwymiad. Mae ein hamcanion fel Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau Cymru sy'n fwy ffyniannus, yn fwy cyfartal ac yn fwy gwyrdd. Er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, rydym yn mabwysiadu dull hirdymor, wedi'i ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 oherwydd ein bod yn gwybod sut y gall ymagwedd tymor byr niweidio cyfleoedd bywyd, gan gynyddu costau gwastraffus y gellir eu hosgoi i bwrs y wlad. Wrth wneud penderfyniadau, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn gofynion llywodraethu a nodir yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'. Mae hyn yn sicrhau bod ystyriaethau gwerth am arian yn rhan annatod o'r gwaith o baratoi a chraffu ar yr holl gyngor gweinidogol ac o brosiectau mawr a gwaith rheoli rhaglenni Llywodraeth Cymru.
Mae tryloywder ac atebolrwydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r gwaith craffu sy'n profi'r defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus. Credaf fod hyn yn rhan annatod o'n dull o weithredu. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, cyflwynwyd cyllideb atodol gyntaf gennym ym mis Mai i ddarparu mwy o dryloywder ynghylch manylion yr addasiadau i'r gyllideb a wnaed ers dechrau pandemig COVID-19. Ac wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n cofio'r dryswch a grëwyd gan ddiweddariad economaidd y Canghellor yn yr haf, ac ar ôl hynny galwodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol ar Drysorlys y DU i ddilyn ein harfer ni drwy gyhoeddi addasiadau tebyg er mwyn darparu mwy o dryloywder. Ein bwriad yw bod mor dryloyw ag y gallwn fod ynglŷn â'r adnoddau sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i'r addasiadau canlyniadol i grant bloc Cymru ac ynglŷn â dyraniadau o gronfeydd wrth gefn.
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol gyntaf, ysgrifennais at y pwyllgor i roi rhagor o fanylion am gyllid canlyniadol. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi cyllideb atodol arall maes o law yn manylu ar ddyraniadau pellach, a byddwn yn defnyddio datganiadau llafar ac ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn wrth iddi ddatblygu. Rydym bob amser wedi bod o ddifrif ynglŷn â defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus oherwydd y rôl bwerus y gwyddom y gall ei chwarae yn trawsnewid bywydau. Rwy'n falch fod rheolaeth gadarn ar gyllidebau wedi cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau yng Nghymru sy'n ein gosod ar wahân, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu'r terfyn cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn talu am ofal cymdeithasol a datblygiad parhaus ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain ledled Cymru.
Yn ystod yr argyfwng, rydym wedi symud yn gyflym i sefydlu cronfa ymladd, a gedwir mewn cronfa wrth gefn ganolog a'i neilltuo ar gyfer ein hymateb i COVID. Yn ogystal â defnyddio symiau canlyniadol newydd, cafodd y gronfa wrth gefn hwb gan gyllidebau a addaswyd at ddibenion gwahanol, fel y nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf. A diolch i'r dull strategol hwn o weithredu, rydym wedi bod mewn sefyllfa i gadarnhau dyraniadau, gan gynnwys bron i £0.5 biliwn i awdurdodau lleol, £800 miliwn i gronfa sefydlogi'r GIG a thros £800 miliwn mewn grantiau i fusnesau. Creffir yn drylwyr ar ddyraniadau o'r gronfa wrth gefn drwy broses a sefydlwyd yn gynnar yn y pandemig. Rwy'n ystyried materion cyllid sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn rheolaidd, gan gynnwys dyraniadau o'r gronfa wrth gefn, gyda chymorth gan Weinidogion eraill ac amrywiaeth o swyddogion. Ac ers mis Mawrth, mae bron i 100 o'r cyfarfodydd hyn wedi'u cynnal, gan gefnogi ein gallu i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau i gydnabod y pwysau dwys sy'n ein hwynebu.
Gwn fod yr Ysgrifennydd Parhaol hefyd o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldebau personol fel prif swyddog cyfrifyddu. Gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, rwy'n cadeirio bwrdd effeithlonrwydd, sy'n ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hadnoddau ei hun yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'r broses hon wedi ailddiffinio ein perthynas â chyrff a noddir yn sylweddol, gan sicrhau dull mwy effeithiol a strategol o weithredu, ac arbedion effeithlonrwydd. Rydym hefyd wedi sefydlu canolfan lywodraethu i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru i gyd gael cyngor a her profiadol a phroffesiynol. Mae gwaith craffu gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, yn ffynhonnell ddefnyddiol o her ac arolwg allanol. Caiff yr argymhellion a gynhyrchir eu monitro i'w gweithredu gan bwyllgorau archwilio a sicrwydd risg Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod camau'n cael eu cymryd. Mae Archwilio Cymru yn aelod sefydlog o'r pwyllgor hwn.
Mae'n bwysig nodi bod y gyfran o weithgarwch y Llywodraeth a gynrychiolir gan yr achosion a godwyd yn ystod y ddadl hon—. Ac mae'n iawn, wrth gwrs, i'r rheini gael eu harchwilio a bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu. Ac fel y nodais yn fanwl, mae gennym broses ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd. Fodd bynnag, bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi tua 11,000 o lythyrau dyfarnu grantiau i drydydd partïon o tua 400 o gynlluniau grant gwahanol. Ychydig iawn o'r dyfarniadau grant hynny sy'n arwain at faterion sy'n galw am graffu gan yr archwilydd cyffredinol ac adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Felly, mae'n iawn ein bod yn cydnabod yr achosion y cyfeiriwyd atynt heddiw, ond eithriadau yw'r rhain, yn hytrach na'r rheol. Nid wyf yn credu ei bod yn gredadwy i awgrymu bod yr adroddiadau, sy'n nodi adborth heriol a beirniadol, a hynny'n briodol, yn cefnogi casgliad cyffredinol nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian cyhoeddus yn gyfrifol. Mae sicrhau gwerth am arian yn dibynnu yn y pen draw ar reoli cyllidebau'n gadarn, rhywbeth a danseilir fwyfwy gan wrthodiad Llywodraeth y DU i fod o ddifrif ynglŷn â'r pryderon a godir gan y gweinyddiaethau datganoledig. Disgrifiais nifer o enghreifftiau i fy nghyd-Aelodau o fethiant Llywodraeth y DU i gydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu, sydd wedi gwneud Llywodraeth Cymru yn waeth ei byd—o ostyngiadau cyfalaf ar yr unfed awr ar ddeg i ddiffygion cyllid pensiwn.
Mae'n destun pryder fod Llywodraeth y DU yn dal i wrthod gweithredu o fewn y fframwaith cyllidol i ganiatáu mwy o fynediad at, a rheolaeth ar gronfa wrth gefn Cymru er mwyn cynllunio'n well ar gyfer ein hymateb i'r pandemig eleni. Yn hytrach na chwilio am haelioni newydd o Whitehall, mae'r cais hwn yn ymwneud yn syml â chaniatáu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r cyllid rydym wedi'i neilltuo i allu ymdopi yn ystod cyfnodau ansicr. Byddwn yn parhau i dargedu ein hadnoddau mewn modd sy'n hyrwyddo gwerth am arian i bobl Cymru a byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyblygrwydd ariannol sydd ei angen i gefnogi'r nod hwnnw.
Galwaf ar Darren Millar nawr i ymateb i'r ddadl. Darren Millar.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn a fu'n ddadl bwysig iawn yn fy marn i am yr angen i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, oherwydd, fel y dywedodd un fenyw wych, Margaret Thatcher, unwaith,
Nid oes y fath beth ag arian cyhoeddus, dim ond arian trethdalwyr.
Ac rydym ni yn y lle hwn yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei wario'n ddoeth iawn. Mae'n ddrwg gennyf glywed nad yw'r Gweinidog yn derbyn yr angen am welliannau o ran craffu ar y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario, oherwydd clywsom restrau hir gan siaradwr ar ôl siaradwr yn nadl y Senedd heddiw am fethiannau ym mhrosesau Llywodraeth Cymru ei hun, sydd wedi arwain at wastraffu gwerth dros £1 biliwn o arian trethdalwyr.
Wrth gwrs, rhaid inni gofio, pan gaiff arian trethdalwyr ei wastraffu, ceir costau cyfle, fel y dywedodd Caroline Jones yn gwbl briodol. Mae'n arian na allwch ei fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, na allwch ei fuddsoddi yn ein system addysg ac na allwch ei fuddsoddi yn seilwaith Cymru. Felly, mae'n hollol iawn, pan ddywedodd fod angen inni ailadeiladu ymddiriedaeth; mae angen inni ailadeiladu ymddiriedaeth mewn Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i reoli'r pethau hyn yn iawn.
Rwy'n anghytuno'n llwyr â Gareth Bennett pan ddywedodd fod hyn yn dystiolaeth o fethiant datganoli. Nid yw hynny'n wir. Mae'n dystiolaeth fod angen i weinyddiaeth sy'n methu dan arweiniad Llafur Cymru, a'i phartneriaid iau hefyd, ysgwyddo rhywfaint o'r bai hwnnw. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn anarferol o absennol yn y ddadl ar y mater hwn yn y Siambr heddiw, sy'n eithaf rhyfeddol.
Dechreuodd cyfraniad Neil McEvoy mor dda gyda chyfeiriad at Margaret Thatcher, ond dirywiodd yn gyflym, a gorau po leiaf a ddywedaf am y diwedd. Ond fe ddywedaf hyn, mewn ymateb i gyfraniad Neil: mae'n llygad ei le i nodi'r ffrindgarwch sydd ond yn rhy amlwg yma yng Nghymru. Ond rwyf am ddweud mewn ymateb iddo, ar ei sylwadau am y trydydd sector: nid ydym yn brwydro yn erbyn y trydydd sector fel Plaid Geidwadol yma yng Nghymru, rydym yn brwydro yn erbyn gwastraff ac aneffeithlonrwydd, a dyna pam y mae arnom angen chwyldro datganoli, fel y mae Paul Davies wedi dweud droeon—chwyldro sy'n diwygio ac yn ail-lunio ac yn ailfywiogi Llywodraeth Cymru yn sylweddol i greu'r system wydn ac effeithiol y mae pobl Cymru yn ei disgwyl.
Mae angen inni allu cael system nad yw'n araf i dynnu'r plwg ar brosiectau nad ydynt yn gweithio, ac sy'n gyflym i fuddsoddi mewn prosiectau sy'n gweithio, fel nad oes gennym y broses ddiddiwedd o beilot i brosiect sydd gennym yng Nghymru lle ceir gwelliannau gweladwy, fel y dywedodd Angela Burns ar ddechrau ei chyfraniad agoriadol, lle mae gennym brosiectau y profwyd eu bod yn gweithio, ond nad yw Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ymhellach. Mae yna lawer o enghreifftiau rhyngwladol. Cyfeiriodd Paul Davies at un yn Seland Newydd. Gwyddom fod gan Lywodraeth y DU y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd, sy'n cyfrannu at brosesau craffu Llywodraeth y DU a'r ffordd y mae'n trefnu ei chyllid.
Cefais fy siomi'n fawr gan gyfraniad Rhianon Passmore—dallbleidiol a ddiangen. Wrth gwrs, daeth o dan lach Nick Ramsay yn ei ymateb, a chafodd Rhianon Passmore ei cheryddu ganddo'n gynnil a dweud y gwir.
Canolbwyntiodd Russell George ei sylwadau ar ffyrdd a seilwaith, a'r gorwariant sylweddol a gawsom ar y rheini, a chredaf ei bod yn gwbl briodol iddo sôn am y sefyllfa hurt lle'r oedd gennym nifer o gartrefi ac eiddo wedi'u prynu o fewn ychydig wythnosau i gyhoeddiad y Prif Weinidog. Mwy o arian trethdalwyr i'r twll diwaelod. Wrth gwrs, nid dyna'r unig enghraifft, o hynny—gwelsom hynny hefyd gyda safle prosiect Pinewood.
Felly, erfyniaf ar yr Aelodau o'r Senedd i gefnogi ein cynnig ar y papur trefn heddiw. Mae arnom angen swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol annibynnol hyd braich, un drawsadrannol ac annibynnol, neu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn hytrach, i sicrhau y gall trethdalwyr gael gwerth am arian yma yng Nghymru. Bydd yn ategu'r systemau eraill sydd gennym ar waith gydag Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gwaith y Senedd hon yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Aelodau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes yna wrthwynebiad i'r cynnig heb ei ddiwygio? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n clywed gwrthwynebiad, ac felly rŷn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yn unol â'r Rheolau Sefydlog, bydd yna egwyl nawr o bum munud cyn cynnal y cyfnod pleidleisio hynny. Felly, egwyl.