– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ddeisebau am addysgu hanes mewn ysgolion, a dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig—Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7450 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â dysgu hanes mewn ysgolion:
a) Deiseb ‘P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu’ a gasglodd 7,927 o lofnodion; a
b).Deiseb ‘P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru’ a gasglodd 34,736 o lofnodion.
Diolch, Lywydd. Y ddadl hon yw'r gyntaf o'i bath i'r Pwyllgor Deisebau gan ei bod mewn gwirionedd yn ymdrin â dwy ddeiseb, gyda'r ddwy ohonynt yn ymwneud ag addysgu hanes yn ein hysgolion. Rydym yn croesawu'r cyfle i drafod y deisebau hyn gyda'i gilydd a chredwn fod hon yn ddadl amserol, o gofio bod y cwricwlwm newydd i Gymru yn destun craffu ar hyn o bryd a'i fod i gael ei addysgu o 2022 ymlaen. Mae'r deisebau rydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud â'r hyn y mae myfyrwyr yn ei ddysgu am hanes Cymru a'i phobl. Mae'r ddwy wedi cael cefnogaeth gref gan y cyhoedd.
Rwyf am ddechrau drwy ddisgrifio'r ddwy ddeiseb a'u cyd-destun cyn symud at y tebygrwydd rhyngddynt. Mae'r rhain i'w gweld mewn sawl cwestiwn ynglŷn â sut y caiff ysgolion ac athrawon eu harwain a'u cefnogi i ddarparu'r wybodaeth a argymhellir gan y deisebau i'n pobl ifanc. Mae'r ddeiseb gyntaf a ddaeth i law, deiseb 992, yn ymwneud ag addysgu hanes Cymru. Fe'i cyflwynwyd gan Elfed Wyn Jones, a chasglwyd 7,927 o lofnodion arni. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru, i'w addysgu i bob disgybl yng Nghymru. Mae'n dadlau bod yr hanes a'r dreftadaeth hon yn hanfodol i ddealltwriaeth o'r Gymru fodern ac y dylid addysgu digwyddiadau a phynciau allweddol yn hanes y genedl i bawb.
Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at argymhelliad tebyg a wnaed gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fel rhan o'i ymchwiliad i addysgu hanes Cymru. Nododd y pwyllgor hwnnw y byddai mabwysiadu'r dull hwn o weithredu'n caniatáu i bob disgybl ddeall sut y mae digwyddiadau lleol a chenedlaethol wedi ffurfio eu gwlad yng nghyd-destun hanesion Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwnnw gan Lywodraeth Cymru ar y sail bod y cwricwlwm newydd wedi'i arwain gan ddibenion a'i fod yn symud yn fwriadol oddi wrth nodi rhestrau o bynciau a chynnwys i'w haddysgu. Yn hytrach, fel y mae'r Gweinidog wedi amlinellu ar adegau eraill, mae'r cwricwlwm newydd yn ceisio rhoi rhyddid i athrawon ac ysgolion wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â'r hyn a addysgir o fewn fframwaith cenedlaethol eang.
Nawr, os caf grwydro ychydig, mae'r tensiwn rhwng y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd a galwadau am addysgu pynciau a materion penodol fel rhan ohono wedi bod yn nodwedd reolaidd o gyfarfodydd y Pwyllgor Deisebau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n densiwn gwirioneddol, ac mae'n amlygu pwysigrwydd hanfodol cael y canllawiau a'r adnoddau a fydd yn cyd-fynd â'r cwricwlwm yn iawn. Dyna sydd wrth wraidd y ddwy ddeiseb.
I amlinellu'r ddadl a wnaed gan y ddeiseb hon ymhellach, mae'r deisebydd yn gofyn sut y gallwn ddeall y gymdeithas rydym yn byw ynddi os na allwn ddeall beth sydd wedi digwydd yn ein gorffennol. Mae'n dadlau bod y graddau y caiff disgyblion eu haddysgu am adegau allweddol yn yr hanes hwn yn amrywio ac mae am i'r cwricwlwm newydd fynd i'r afael â hyn. Yn ganolog i'r ddeiseb ceir galw am sefydlu cynnwys hanesyddol craidd ac i adnoddau gael eu datblygu i gynorthwyo ysgolion ac athrawon i ddarparu addysg gyson, pwynt y byddaf yn dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Gadawaf i'r Gweinidog amlinellu'r ffordd y mae wedi ymateb i'r dadleuon hyn. Fodd bynnag, rwyf am grybwyll bod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried tystiolaeth ysgrifenedig gan Estyn, sydd ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o addysgu hanes Cymru mewn ysgolion. Mae'n chwilio am enghreifftiau o arferion gorau ac efallai y bydd yn gwneud ei awgrymiadau ei hun yn y pen draw. Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddrwg ar y gwaith, wrth gwrs, ac erbyn hyn nid yw'n debygol o adrodd tan haf 2021.
Fe symudaf ymlaen yn awr at y ddeiseb arall yn y ddadl hon, sef y milfed deiseb i'w hystyried gan y Pwyllgor Deisebau, sy'n sicr yn garreg filltir bwysig i'n prosesau. Mae hefyd yn un o'r deisebau mwyaf a gawsom, ar ôl casglu—ac fe ddywedais un o'r deisebau mwyaf a gawsom—34,736 o lofnodion ar ôl iddi gael ei chyflwyno gan Angharad Owen ym mis Mehefin eleni. Cyflwynwyd y ddeiseb yn dilyn lladd George Floyd gan un o swyddogion yr heddlu yn UDA a'r protestiadau a ddilynodd ledled y byd, gyda llawer ohonynt, wrth gwrs, yn gysylltiedig â mudiad Black Lives Matter. Hon yw un o'r deisebau a dyfodd gyflymaf i'r Senedd, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y materion y mae'n eu codi a'r angen dybryd inni wneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymdeithas.
Ym Mhrydain, canolbwyntiodd llawer o'r protestiadau a ddilynodd farwolaeth George Floyd ar etifeddiaeth trefedigaethedd a chaethwasiaeth. Mae'r ddeiseb hon yn galw am i'r hanes hwnnw, ac yn benodol y rhan a chwaraeodd Cymru ynddo, gael ei gynrychioli yn y cwricwlwm. Mae'r ddeiseb yn dadlau bod yr ymerodraeth Brydeinig weithiau wedi cael ei glamoreiddio, tra bod effaith fyd-eang trefedigaethedd wedi'i bychanu, gydag effaith uniongyrchol ar fywydau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru heddiw.
Mae'r ddeiseb hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod digon o sylw'n cael ei roi i addysgu am etifeddiaeth yr agweddau hyn ar ein hanes yn ein hysgolion, gan gynnwys y rôl a chwaraeodd Cymru a'r effaith ar bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae'r deisebydd wedi cydnabod y gall addysgu'r materion hyn fod yn anodd i athrawon. Gall fod yn bwnc emosiynol gyda pherthnasedd personol uniongyrchol i brofiadau a safbwyntiau unigolion yn ogystal â digwyddiadau yn y byd heddiw. Felly, mae'r ddeiseb yn dadlau bod angen adnoddau a chymorth ychwanegol i roi gwybodaeth a hyder i athrawon allu mynd i'r afael â'r pynciau hyn yn briodol gyda'u myfyrwyr.
Wrth ymateb i'r ddeiseb, mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at weithgor a sefydlwyd i ystyried hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel rhan o stori Cymru dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams. Gadawaf i'r Gweinidog egluro mwy am y gwaith hwn, sydd â photensial i arwain at rywfaint o'r newid y mae'r ddeiseb hon yn gofyn amdano, ond hoffwn nodi ein cefnogaeth iddo ar y dechrau.
Wrth gloi fy sylwadau agoriadol, mae'n bwysig cydnabod bod yr hanesion a nodwyd gan y ddwy ddeiseb yn chwarae rhan gyfartal yn stori Cymru a'i phobl. Rhaid i addysgu ein hanes yn llawn, y da a'r drwg, a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru heddiw, ymdrechu i siarad â phawb, a datblygu cipolwg cyflawn a manwl i'n pobl ifanc ar yr hyn a fu. Nid her fach yw honno. Ond mae'n adeg amserol i gynnal y drafodaeth hon, oherwydd digwyddiadau'r byd a datblygu'r cwricwlwm newydd a'r adnoddau i'w gefnogi. Mae'r Pwyllgor Deisebau'n cydnabod y dull hyblyg sydd wrth wraidd y broses o gynllunio'r cwricwlwm hwnnw. Yr her, wrth gwrs, i'r Gweinidog a phawb sy'n ymwneud â'i ddatblygiad, yw sicrhau y gall pobl fod yn hyderus y bydd disgyblion yn cael gwybodaeth allweddol am y grymoedd sydd wedi llunio Cymru heddiw, ac y bydd ein hathrawon a'n myfyrwyr yn cael adnoddau a hyfforddiant i'w cefnogi yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill dros weddill y ddadl hon. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddweud 'da iawn' wrth yr holl bobl a lofnododd y ddwy ddeiseb? Bydd fy ngrŵp nid yn unig yn nodi'r rhain heddiw ond yn cefnogi'r hyn y mae'r deisebwyr yn gofyn amdano. Mae deisebau eu hunain yn rhan o'n hanes, ac anogwyd eu defnydd yn arbennig gan ffefryn mawr Plaid Cymru, Edward I. Roedd brenhinoedd a Llywodraethau ers degawdau wedi bod yn diystyru apeliadau am gymorth neu gyfiawnder gan rai a dramgwyddwyd, ac Edward a'u hanogodd i gyflwyno eu busnes yn uniongyrchol i'r Senedd i ddylanwadu ar y Llywodraeth a'r Brenin. Pa un a oedd hynny'n ymwneud â bod yn frenin da i'w bobl neu'n ddim ond stynt cysylltiadau cyhoeddus i wella ei enw da, pwy a ŵyr? Ond roedd y penderfyniad yn ddechrau ar esblygiad y cysyniad o Senedd fel man lle caiff llais pobl, pawb, ei glywed a'i barchu.
Hoffwn dynnu sylw at faterion sy'n codi yn y ddwy ddeiseb, a daw'r cyntaf o'r ddeiseb gyntaf. Beth sydd i mewn a beth sydd allan? Beth sy'n mynd i mewn i hyn? Pwy sy'n dal i boeni am Edward I, er enghraifft, a pham? Mae dros 700 mlynedd ers iddo fod yn rhan o'n stori, ac mae'n amser hir i ddal dig, felly pam sôn amdano hyd yn oed? Ac os yw gwneud addysgu hanes Cymru'n orfodol yn golygu mai'r cyfan y bydd ein plant yn ei glywed amdano yw ei fod yn ddyn drwg a drechodd Gymru a sicrhau bod plentyn cyfnewid yn dod i rôl Tywysog Cymru, ni fyddant yn cael y darlun llawn beth bynnag. Ond os caiff ei gyflwyno i ddisgyblion Cymru fel astudiaeth achos go iawn o'r hyn sy'n cymell ffigurau pwerus mewn hanes a sgil-effeithiau eu penderfyniadau, mae'n enghraifft ddiddorol iawn. Ai dim ond unigolyn narsisaidd treisgar ydoedd? Ai creadur hyperymwybodol o'i ddyletswydd ddwyfol ydoedd? A gafodd ei drochi mewn disgwyliadau cyfoes ynglŷn ag arweinyddiaeth? Wrth farnu pwy ydoedd a beth a wnaeth, beth a ddysgwn drwy ei gymharu â Stalin neu Mao Tse-tung, er enghraifft, drwy ddefnyddio moesau modern? Beth oedd ei effaith ar fywydau bob dydd pobl bob dydd a sut mae hynny'n cymharu â'n perthynas â phobl mewn grym y dyddiau hyn? Dyna dymor ysgol o wersi hanes, a bydd pob rhan ohono'n cyfrif fel hanes Cymru.
Mae hanes Cymru'n ymwneud â mwy na'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru yn unig, mae'n ymwneud hefyd â sut yr effeithiodd digwyddiadau a phenderfyniadau mewn mannau eraill ar Gymru. Beth pe bai perchnogion mwynfeydd a masnachwyr De America 300 mlynedd yn ôl wedi penderfynu cael eu copr wedi'i fwyndoddi ar aberoedd afonydd de-orllewin Lloegr? Pwy fyddai'n byw yn Abertawe heddiw? Felly ble ar y ddaear rydych chi'n dechrau os ydych chi'n arweinydd ysgol sydd wedi ymrwymo i roi profiad da o ddysgu am hanes Cymru i'ch disgyblion pan all y dernyn bach hwn sbarduno'r fath gadwyn o drafodaeth? Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod y ddeiseb hon yn galw am ddysgu corff cyffredin o hanes Cymru ym mhob ysgol, ond nid yw'n gofyn am ddylanwadu ar sut mae'n cael ei addysgu. Serch hynny, mae'n awgrymu awydd dwfn y dylai ein plant i gyd dyfu i fyny'n gwybod mwy ynglŷn â sut y daeth y genedl y maent yn cael eu magu ynddi i fod fel y mae. Ac efallai fod hon yn foment dda i gyflwyno'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan yr union blant hyn. Maent wedi dweud wrthym eu bod eisiau dysgu'r un pethau â'u cyfoedion, ac nid hanes yn unig yw hynny. Ac felly nid wyf yn meddwl bod hyn yn tanseilio rhyddid y cwricwlwm newydd. Mae cynllun y cwricwlwm, yn rhannol, i gael ei lywio gan yr hyn y mae disgyblion eisiau ei ddysgu, felly dyma gyfarwyddyd clir eu bod eisiau cael o leiaf rywfaint o dir cyffredin drwy Gymru.
Mae fy ail bwynt yn ymwneud â'r cwricwlwm lleol ac mae hyn yn berthnasol i'r ail ddeiseb. Efallai y bydd rhai cymunedau yng Nghymru'n meddwl na fydd lleiafrifoedd du ac ethnig fawr mwy perthnasol i'w cwricwlwm lleol nag Edward I. Nawr, mae hwnnw'n gasgliad anghywir, fel y mae'r ddeiseb ei hun yn datgelu. Ac mae hanes yn debyg i'r bydysawd—ni allwn weld mwy nag oddeutu 4 y cant ohono, ond nid yw'r 96 y cant arall yn llai real nac yn llai o ran o'r esboniad ynglŷn â pham ein bod yn bodoli, pwy ydym ni a ble rydym. Ac er y bydd cyfranwyr eraill i hanes Cymru'n cael eu hesgeuluso, y peth lleiaf y gallant ei wneud yw dechrau edrych, a dechrau edrych ar leiafrifoedd du ac ethnig sydd wedi bod yma ers canrifoedd, yn union fel yr edrychwn ar sut mae digwyddiadau a phenderfyniadau a wneir am bobl liw mewn rhannau eraill o'r byd wedi effeithio ar ein stori ni yma yng Nghymru.
Mae'n debyg y bydd stori'r Siartwyr yn cael ei chynnwys mewn unrhyw faes llafur cyffredin. Hwy, wrth gwrs, yw rhai o'n deisebwyr mwyaf enwog yn hanes y DU, heb sôn am Gymru. Ni ddigwyddodd pethau yn union fel roeddent yn ei ddisgwyl, ond ychydig a wyddent y gallai Edward I hawlio ychydig bach iawn o'u stori, neu straeon MI5 yn wir. Yn 2010, roedd mwy o raddedigion hanes canoloesol yn eu rhengoedd na graddedigion mewn unrhyw bwnc arall. Mae gwerth i'w sgiliau yn gweithio gydag ond ychydig o wybodaeth annibynadwy, sy'n dangos bod hanes bob amser yn ddefnyddiol, ac mae honno'n sgil-effaith eithriadol iawn. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddwy ddeiseb yma i sylw'r Senedd, a diolch am eu gosod nhw efo'i gilydd, sef y peth iawn a'r peth priodol i'w wneud. A diolch i drefnwyr y ddwy ddeiseb, Elfed Wyn Jones ac Angharad Owen, am fwrw ati mor ddygn i gasglu cymaint o enwau. Dwi'n gwybod yr oedd Elfed Wyn Jones wedi bwriadu cerdded o'r fferm lle mae o'n byw ym Meirionnydd i'r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn cyflwyno'r ddeiseb, a bod yn bresennol yn y ddadl, ond, wrth gwrs, oherwydd y cyfyngiadau, doedd hynny ddim yn bosib. Ond mae o wedi bod yn cerdded yr un pellter ar y fferm, yn ôl yn Nhrawsfynydd, ac wedi cael sylw i'r pwnc y mae o yn teimlo'n angerddol yn ei gylch yn sgil hynny.
Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rydyn ni wedi bod yn trafod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), wrth gwrs, gan dderbyn tystiolaeth o sawl cyfeiriad. A dwi wedi bod yn trio gwneud y pwynt yn gyson yn ystod y sesiynau trafod fod angen meddwl nid yn unig am gynnwys y Bil fel y mae o ar hyn o bryd, ond bod angen meddwl hefyd am unrhyw beth sydd ddim yn y Bil—unrhyw beth sydd angen bod ar wyneb y Bil ond sydd ddim yno ar hyn o bryd. A dwi yn credu bod y ddau fater sydd dan sylw heddiw ac sydd yn gweu i'w gilydd—maen nhw angen bod ar wyneb y Bil, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud hyn yn gyson.
Mae angen sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod am ein gorffennol fel pobl, am ein gorffennol fel gwlad, a hynny yn ei holl amrywiaeth cyfoethog. Mae'r cyfnod clo wedi tanlinellu pwysigrwydd ein hunaniaeth genedlaethol, ac mae o hefyd wedi tanlinellu'r angen i roi sylw arbennig a brys i ddileu anghydraddoldeb ar sail hil.
Mae angen newid strwythurol mawr, ac yn union fel y mae angen dysgu perthnasoedd iach fel thema drawsgwricwlaidd er mwyn creu newid o fewn ein cymdeithas ni, ac er mwyn creu y newid hynny yn y berthynas rhwng menywod a dynion, mae angen hefyd i ddyrchafu hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru i fod yn thema addysgol drawsgwricwlaidd sy'n haeddu'r un statws a chysondeb â pherthnasoedd iach ac addysg ryw. A'r unig ffordd i sicrhau hynny ydy dyrchafu'r maes, dyrchafu hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru, i fod ar wyneb y Bil, a'i gynnwys o fel elfen fandadol ymhob ysgol er mwyn sicrhau cysondeb i bob disgybl.
Wedi dweud hynny, dwi yn ymwybodol iawn, iawn fod yna nifer o heriau sylweddol ynghlwm â hyn, a dwi ddim yn mynd i osgoi'r heriau yna, a dwi'n meddwl ei bod hi yn bwysig inni eu gwyntyllu nhw a'u trafod nhw. Mae deiseb Elfed Wyn Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru. Rŵan, dwi am herio Elfed ychydig yn y fan hyn. Pwy sy'n mynd i benderfynu beth fydd cynnwys y corff cyffredin o wybodaeth yma? Dwi yn cytuno bod angen cael corff cyffredin, ond mae angen cydnabod hefyd fod eisiau gwaith trwyadl gan ein harbenigwyr hanesyddol ni a chryn drafod er mwyn cyrraedd y nod yma.
Mae'r ddeiseb arall yn galw am ei gwneud hi'n orfodol i hanesion pobl ddu a phobl o liw gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Dwi'n cytuno'n llwyr, ond dwi hefyd yn mynd i herio Angharad. Onid un agwedd yn unig ar hanes pobl ddu a phobl o liw ydy caethwasiaeth a gwladychiaeth, ac o ganolbwyntio ar yr agweddau hyn, ydyn ni ddim mewn peryg o anghofio cyfraniad cyfoethog cymunedau du Cymru a lleiafrifoedd ethnig Cymru i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth?
Dwi am dynnu'ch sylw chi at adroddiad pwysig gafodd ei wneud saith mlynedd yn ôl bellach gan banel dan gadeiryddiaeth yr hanesydd Dr Elin Jones. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig inni atgoffa ein hunain am beth ddywedwyd yn yr adroddiad yna, a oedd o dan y teitl, 'Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru'. Dyma eiriau'r panel:
'Mae llawer o'r drafodaeth ar y math o hanes a ddysgir mewn ysgolion yn tueddu i bwysleisio cynnwys ffeithiol y cwricwlwm. Ond mae llawer mwy i ddisgyblaeth hanes na chronoleg a gwybodaeth ffeithiol yn unig. Tra bod cronoleg a gwybodaeth ffeithiol yn cynnig fframwaith er deall y gorffennol a pherthnasedd gwahanol gyfnodau, datblygiadau a gweithredoedd unigolion', mae hanes yn rhoi cyfleoedd eraill hefyd. Ac yng ngeiriau'r adroddiad eto:
'Un o'r agweddau pwysicaf ar ddisgyblaeth hanes yw'r cyfle a rydd i ddod i ddeall bod pob naratif neu ddadl hanesyddol yn agored i feirniadaeth, ac mai barn amodol yw pob barn hanesyddol. Nid oes un hanes yn unig: mai gan bob unigolyn ei brofiad ei hun a'i berspectif unigryw ar y gorffennol…Mae derbyn hynny yn fodd i dderbyn a pharchu gwahanol fersiynau o hanes, a'u gwerthuso yn ôl meini prawf mwy gwrthrychol na'n gwybodaeth bersonol o'r gorffennol neu fersiwn cyfarwydd ohono.
'Mae dysgu hanes yn effeithiol yn fodd i ddatblygu dinasyddion gweithredol y dyfodol. Gall gynorthwyo dysgwyr i ddeall eu hanes eu hun, a'r ffordd y mae'r gorffennol wedi ffurfio'r presennol, ond yn bwysicach na hynny, gall eu cynorthwyo i ymholi i'r hanes hwnnw, a phwyso a mesur gwahanol fersiynau o hanes. Gall roi arf yn erbyn propaganda o bob math yn nwylo pob dinesydd.'
Mae hwn yn ddatganiad pwysig—ac rydw i yn dod i derfyn—ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig inni gofio'r cyd-destun yma yr oedd Dr Elin Jones yn ei roi i ni. Mae dysgu hanes yn effeithiol yn mireinio'n sgiliau ni i ddadansoddi, i gwestiynu, i beidio â derbyn bob dim rydym ni'n ei weld ar yr olwg gyntaf, ac i adnabod propaganda a newyddion ffug, sydd yn beth pwysig iawn yn y byd sydd ohoni.
Felly, mae yna ddadl gref dros gynnwys hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru, gan gynnwys hanes Cymru a hanes pobl ddu a phobl o liw, fel rhan fandadol o'r cwricwlwm, ond peidiwn ag anghofio bod yna lawer iawn mwy i ddysgu hanes a gwerth aruthrol iddo yn ein huchelgais ni o greu pobl ifanc wybodus i'r dyfodol. Diolch, Llywydd, a diolch am ganiatáu i mi ymhelaethu.
Roeddech chi'n trafod Dr Elin Jones, yna roeddwn i'n mynd i ganiatáu hynny. Mick Antoniw.
Mae angen agor eich meic. Arhoswch un eiliad. Rhowch gynnig arall arni. Ddim cweit. Dof yn ôl atoch, Mick. Jenny Rathbone. Dof yn ôl atoch, Mick. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr am fy ngalw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn ac mae'r defnydd o eiriau'n dra arwyddocaol. Yn yr iaith Saesneg, rydym yn sôn am 'history' fel pe bai'n ymwneud â dynion yn bennaf. Yn amlwg, mae 'herstory' yr un mor bwysig, boed ein bod yn sôn am hanes y bleidlais i fenywod yng Nghymru a'r ymdrech y bu'n rhaid inni ei gwneud i'w chael neu'n sôn am faterion llawer ehangach.
Yng nghyd-destun y ddeiseb benodol hon, credaf ei bod yn thema gyfoes ac mae'n sobreiddiol iawn deall bod gan y methiant i gael unrhyw fath o gymod ar ôl rhyfel cartref America oblygiadau enfawr o hyd i ddigwyddiadau yn yr Unol Daleithiau heddiw, sy'n caniatáu i rai dinasyddion anwybyddu'n llwyr neu beidio â phoeni dim am ddioddefaint dinasyddion eraill, rhywbeth rydym ni yn y wlad hon yn ei ystyried yn rhyfedd iawn.
Ond rwy'n credu na allwn feirniadu eraill heb edrych ar ein hanes ein hunain a'n methiant i edrych ar hanes yr ymerodraeth Brydeinig, sydd, yn fy marn i, yn tanio llawer o'r drwgdeimlad a deimlir, yn gwbl briodol, gan ddinasyddion du ein gwlad. Fe'i sefydlwyd ar gaethwasiaeth, ac eto rydym yn parhau i ramantu ynglŷn â'r ymerodraeth Brydeinig, a'i glamoreiddio. Rydym yn dal i roi medalau i bobl sydd wedi perfformio gwasanaethau eithriadol, gwasanaethau cyhoeddus, medalau sy'n cynnwys y geiriau 'aelod o'r ymerodraeth Brydeinig', 'cadlywydd yr ymerodraeth Brydeinig', 'medal yr ymerodraeth Brydeinig', sy'n anacroniaeth lwyr i gymdeithas heddiw ac yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef.
Mae'r un mor amhriodol ein bod, ar Sul y Cofio, yn canu, 'Send her victorious, happy and glorious' am ein brenhines yn anthem genedlaethol y DU, yn enwedig ar Sul y Cofio, pan fyddwn yn coffáu erchyllterau rhyfel. Ond credaf hefyd fod rhaid inni edrych yn fanwl iawn ar faterion mwy cyfoes, er enghraifft sgandal Windrush, nad yw wedi'i unioni eto. Mae pobl y gwrthodwyd gwaith a budd-daliadau iddynt, ac a alltudiwyd o'r wlad hon yn yr achosion gwaethaf, yn dal heb gael iawndal, ac mae llawer ohonynt bellach yn marw. Mae hynny mor warthus.
Mae gwir angen inni ailwerthuso ein hanes yng ngoleuni problemau cyfoes, ac mae hynny'n fwy amlwg nag erioed yn ystod yr wythnos hon o bob wythnos yng nghyswllt newid yn yr hinsawdd. Mae'r hyn a wnawn yn y wlad hon yn cael effaith ar bobl sy'n byw ar yr ochr arall i'r byd, ac mae'n bwysig iawn ein bod o ddifrif am y cyfrifoldebau hyn ac yn newid ein hymddygiad i gefnogi pobl nad ydym erioed wedi cyfarfod â hwy a byth yn debygol o wneud, ond sy'n dioddef oherwydd yr hyn a wnawn a'r ffordd rydym yn llosgi adnoddau'r byd. Felly, credaf fod y rhain yn ddeisebau rhagorol ac edrychaf ymlaen at weld eu canlyniad yn y ffordd rydym yn trin hanes yn y cwricwlwm newydd.
Mae addysgu ein hanes yn ysgolion Cymru yn bwysig. Mae'r gorffennol yn llywio'r dyfodol; byddai colli'r gorffennol yn golygu ein bod yn byw yn yr oes fwyaf ddi-hid. Mae hanes yn ein dysgu bod 'Cymreig' yn golygu Prydeinig. Enwyd 'England' a 'Scotland' ar ôl eu goresgynwyr. Fodd bynnag, fe wnaeth y Prydeinwyr, neu'r Brythoniaid, barhau. Enwyd 'Wales' ar ôl y term a ddefnyddiwyd gan y goresgynwyr—term a olygai 'estronwr' yn eu hiaith hwy—i ddisgrifio'r Brythoniaid ar draws ein hynysoedd, a gyfeirient at ei gilydd fel cyd-wladwyr, 'y Cymry'. Clywn am y cylch haearn o gestyll a adeiladwyd yng ngogledd Cymru ar ôl y goncwest Eingl-Normanaidd, ond ni chlywn fawr ddim am y 100,000 o gyd-Frythoniaid a fu farw yn ymdrech y Normaniaid i gyflawni hil-laddiad yng ngogledd Lloegr—anrheithio'r gogledd—ddwy ganrif cyn hynny.
Mae'r ddeiseb gyntaf rydym yn ei thrafod yn cyfeirio at wrthryfel Glyndŵr. Clywn am ei freuddwyd o gael Senedd Cymru, dwy brifysgol yng Nghymru ac eglwys rydd Gymreig. Fodd bynnag, mae hanes hefyd yn ein dysgu ei fod wedi gwasanaethu'r brenin Plantagenet olaf ac wedi ymuno â'r fyddin a arweiniodd y brenin hwnnw i mewn i'r Alban, cyn gwrthryfela yn erbyn y brenin cyntaf ers y goncwest Normanaidd nad oedd Ffrangeg yn famiaith iddo, mewn cynllwyn gyda Mortimer a Percy i hollti'r deyrnas yn dair rhan.
Mae'r ddeiseb gyntaf hefyd yn cyfeirio at foddi Capel Celyn, sy'n perthyn i bob cymuned yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hanes yn ein dysgu bod hyn hefyd yn rhan o brofiad Prydeinig ehangach, lle cafodd cymunedau eu boddi pan adeiladwyd cronfeydd dŵr Rivington i gyflenwi dŵr i Lerpwl ganrif ynghynt.
Mae mythau'n adrodd straeon am hanes cynnar pobl. Mae yna rai sy'n credu bod tynged y Brydain chwedlonol—Albion neu'r Ynys Wen—yn aros i gael ei deffro fel arweinydd ysbrydol y byd. Yn ôl Hanes Brenhinoedd Prydain gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, dywedodd y dduwies Diana wrth Brutus o Gaerdroea a oedd wedi'i alltudio,
Brutus! y tu hwnt i'r ffiniau Galaidd,
mae ynys gyda'r môr gorllewinol yn ei hamgylchynu,
ac o blith y cewri a feddai arni unwaith, nid oes llawer ohonynt ar ôl mwyach
i dy wahardd rhag mynd iddi, neu rwystro dy deyrnasiad.
Anela dy hwyliau i gyrraedd y lan hapus
lle mae ffawd yn gorchymyn codi ail Gaerdroea
a sefydlu ymerodraeth i dy linach frenhinol,
na fydd amser byth yn ei dinistrio nac yn cyfyngu arni.
Er nad oes fawr o goel arno bellach, ystyriwyd bod gwaith Sieffre o Fynwy yn ffaith tan ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae'r stori'n ymddangos yn yr hanesion cynharaf am Brydain. Mae addysgu hanesion du a phobl liw y DU yn ysgolion Cymru yn bwysig. O un o'r bobl dduon gyntaf i fod wedi byw yng Nghymru, dyn o'r enw John Ystumllyn a gludwyd i Gymru yn y ddeunawfed ganrif ac y credir ei fod wedi priodi dynes leol, i Shirley Bassey, Colin Jackson, maer presennol Caerdydd, a chyn faer Bae Colwyn, Dr Sibani Roy, mae poblogaeth ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol.
Mae'r rhan fwyaf o gymdeithasau wedi manteisio ar lafur caethweision ar ryw adeg yn eu hanes. Mae hyn hefyd yn wir am Gymru. Mae cadwyn caethweision a ddarganfuwyd ar Ynys Môn, cadwyn a luniwyd i ffitio pump o bobl, yn dyddio o Oes yr Haearn, tua 2,300 o flynyddoedd yn ôl. Pan ymosododd y Rhufeiniaid, daethant â'u caethweision eu hunain gyda hwy, caethweision o wledydd ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig yn Ewrop, Gogledd Affrica a'r dwyrain canol. Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael, gwnaeth y llwythi Brythonig gaethweision o'r rhai a drechwyd ganddynt mewn brwydr. Ffynnai'r gaethfasnach drawsatlantig rhwng dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg a 1807, pan basiodd Senedd Prydain Ddeddf i ddileu caethfasnachu yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd ymgyrchoedd i atal caethwasiaeth eu cychwyn gan bobl ddu a phobl wyn dros 30 mlynedd cyn i'r Ddeddf gael ei phasio o'r diwedd. Dechreuodd mudiad dileu caethwasiaeth Prydain o ddifrif yn 1787, pan sefydlodd Thomas Clarkson bwyllgor i ymladd caethfasnachu. Roedd un aelod, William Dillwyn, yn Grynwr Americanaidd a hanai o Gymru. Roedd ymgyrchwyr wedi bod yn gosod y sylfeini drwy gyhoeddi dogfennau am greulondeb caethwasiaeth. Un o'r rhain oedd William Williams, Pantycelyn, a ysgrifennodd yr emyn 'Arglwydd arwain trwy'r anialwch'. Yn y 1770au, cyhoeddodd nifer o gyn-gaethweision hanes eu bywydau, a Williams oedd y cyntaf i gyfieithu un o'r rhain i'r Gymraeg. Er mai Prydain oedd y wlad a oedd yn caethfasnachu fwyaf yn ystod y ddeunawfed ganrif, a bod caethfasnach anghyfreithlon wedi parhau ym Mhrydain am flynyddoedd lawer ar ôl pasio Deddf 1807, mae rôl y Llynges Frenhinol yn atal caethfasnach ar draws y cefnforoedd yn bennod ryfeddol o weithgarwch dyngarol cyson. Fodd bynnag, mae caethwasiaeth anghyfreithlon yn dal i barhau mewn sawl rhan o'r byd heddiw, hyd yn oed yng Nghymru. Fel y dywedodd Martin Luther King:
Mae gen i freuddwyd... boed i ryddid atseinio.
Rwy'n hoffi geiriad y ddeiseb gyntaf rŷn ni'n ei thrafod y prynhawn yma'n arbennig. Mae'r pwynt wedi cael ei wneud bod yr iaith yma yn gyfoethog ac yn bwysig. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac, wrth gwrs, mae'r ail ddeiseb yn gysylltiedig, gan ei bod yn gofyn i hanesion pobl dduon a phobl o liw gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.
Mae'r syniad o greu corff cyffredin yn hollbwysig. Mae'r ddeiseb, wrth gwrs, yn siarad yn llythrennol yma; mae'n sôn am yr angen i rai penawdau pwysig o hanes Cymru gael eu dysgu ym mhob cwr o'r wlad. Ond mae yna hefyd yma ystyr ddwysach: corff cyffredin, corpws, yn cael ei greu. Ie, casgliad o ffynonellau, o ddigwyddiadau, ond pethau sydd wedi llunio a ffurfio corpws y wlad, ffurfio'r bobl—corff cyffredin, ymwybyddiaeth, hunaniaeth y bobl. Oherwydd dydy'r naill ddeiseb na'r llall ddim yn sôn am yr angen i ddysgu plant am hanesion pobl eraill—na, dysgu am y Cymry, pobl sydd wedi byw a threulio bywyd yma, Cymry o ddiwylliannau gwahanol sydd eto yn rhan o'r corff cyffredin, hunaniaeth gyda haenau amryw, lle mae pob un haen yn rhan o'r un. Mae'r geiriad yn ein hatgoffa bod hanes yn ein cysylltu ni gyda'n gilydd, wrth gwrs, ond hefyd gyda'n gorffennol. Hanes sydd wedi ein ffurfio ni, er da ac er drwg. Hanes sydd yn cynnig gwreiddiau i ni. Mae'n dysgu gwersi, mae'n ein cyfoethogi ni bob un, ond dim ond os rydyn ni'n clywed ac yn dysgu am yr hanesion hynny.
Cyn y toriad dros yr haf, gwnaethom ni, fel Plaid Cymru, gynnal dadl ar y pwnc hwn, yn gosod mas pam ei bod hi mor bwysig i bobl ifanc ddysgu am hanesion eu cenedl. A dwi'n dweud 'hanesion' yn y lluosog, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod yn y ddadl yma, achos does dim un llinyn o hanes sy'n bwysicach na'r lleill. Yn wir, mae angen i blant Cymru ddysgu mwy am hanesion y bobl wnaeth ddim ysgrifennu'r llyfrau hanes. Fel y dywedais i yn ein dadl cyn yr haf, os nad yw pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am benawdau hynod bwysig hanes ein cenedl, gall hyn amddifadu cenedlaethau cyfan o synnwyr o'u hunaniaeth—fyddan nhw ddim yn gweld eu hunain yn y corpws. Ac mae hynny yr un mor wir am foddi Capel Celyn, hanes Glyndŵr a'r arwisgo, a pherthynas y Cymry gyda chaethwasiaeth, a hanes diwydiannol a diwylliannol ardaloedd fel Tiger Bay.
Ers yr haf bu datblygiadau sydd i'w croesawu ac sydd wedi cael eu trafod. Roedden ni'n trafod rhai o'r datblygiadau yma gyda Dr Elin Jones, sydd wedi cael ei chrybwyll yn barod, wnaeth gadeirio'r tasglu ar 'Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru' yn 2013. Rwy'n cytuno gyda hi bod lle i groesawu penodiad yr Athro Charlotte Williams i arwain adolygiad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi athrawon i'w helpu nhw wrth iddyn nhw gynllunio gwersi am hanesion pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gall y penodiad hwn arwain at wireddu argymhellion yr adroddiad hwnnw am ddatblygu ymwybyddiaeth disgyblion o'r Cymry aml-ethnig, amlddiwylliannol, a, thrwy hynny, gwarantu na fydd plant Cymru yn cael eu hamddifadu o wybodaeth o'u hanes eu hunain. Ac mae hyn yn bwysig, Llywydd, ar gyfer safiad ein cenedl yn genedlaethol. Os nad ydy hanesion Cymru yn cael eu dysgu yn ein hysgolion, bydd myfyrwyr ddim yn dysgu am y penodau hynny yn y brifysgol ychwaith, a gall hyn arwain at fwy o ddirywiad yn niferoedd y canolfannau hanes Cymru ac astudiaethau Celtaidd yn ein prifysgolion. Bydd hynny yn cael effaith anorfod ar wybodaeth genedlaethol a'r ffordd y mae'r wlad yn ei phortreadu ei hun ar lwyfan y byd.
Ar ôl diddymiad galarus Prifysgol Cymru, mae'n hollbwysig gwarchod y ganolfan astudiaethau uwch a Cheltaidd, Gwasg Prifysgol Cymru a chanolfan astudiaethau uwch Gregynog. Mae hyn oll yn gysylltiedig. Os does dim brwdfrydedd nac arbenigedd am hanes Cymru—yr hanesion Cymreig yna i gyd dŷn ni'n trafod—bydd yn gwanhau'r cysyniad o Gymru a'i chryfder academaidd. Mae angen gwarantu parhad ein cenedl a'n canolfannau arbenigol, a chreu canolfannau o ragoriaeth newydd ac adrannau astudiaethau Celtaidd, nid dim ond yng Nghymru ond dros y byd. Dyma beth dŷn ni'n ei drafod heno a dyma ydy dechrau'r broses yna: creu corff cyffredin a gwarantu ymwybyddiaeth ein pobl ifanc o'u hunaniaeth. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd ein corff deddfwriaethol yma, y Senedd, yn cytuno â phwysigrwydd hynny. Diolch.
Mick Antoniw. Rwy'n credu ein bod yn dal i'w chael hi'n anodd eich clywed, Mick. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio'r rheolydd sain ar eich clustffonau eich hun.
A allwch chi fy nghlywed nawr?
Rydych chi bron yno.
Sut mae hynny nawr?
O, ardderchog, gallwn eich clywed yn awr. Parhewch.
Dyna ni. Wel, diolch, Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud, pan ddechreuais gynnau, y byddem yn cael cyfraniadau rhagorol. Gwnaeth cyfraniad Siân Gwenllian argraff arbennig arnaf gan y credaf iddi nodi nid yn unig yr athroniaeth sy'n sail i addysgu hanes, ond hefyd yr heriau sylweddol sy'n bodoli.
Cadeiriais y pwyllgor a edrychodd ar y ddeddfwriaeth i roi pleidlais i rai 16 oed. Wrth gwrs, edrychasom yn fanwl ar addysg ddinesig, a chredaf fod addysgu hanes yn y cwricwlwm ac addysg ddinesig yn mynd law yn llaw mewn gwirionedd gan mai gwleidyddiaeth bur yw hanes yn y bôn—gwleidyddiaeth gydag 'g' fach—a dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn ein cymdeithas a'r ymgysylltiad â hynny.
Nawr, un o'r pryderon sydd gennyf mewn gwirionedd yw'r prinder deunydd ar lawer o'r digwyddiadau hanesyddol a'r unigolion yn ein cymunedau ar lefel leol. I mi, nid yw hanes yn ymwneud ag addysgu am frenhinoedd a breninesau fel y cyfryw—hyd yn oed tywysogion Cymru. Mae'n ymwneud â chymunedau mewn gwirionedd; mae hefyd yn ymwneud â hanes gweithwyr a chymunedau gweithwyr.
Felly, yn yr amser sydd gennyf, rwy'n mynd i fynd drwy rai o'r bobl sy'n haeddu fwyaf o sylw yn ein cwricwlwm hanes yn fy marn i, yn sicr yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, lle dylid cael deunyddiau a dylid eu hymgorffori. Pan af o gwmpas ysgolion, ychydig iawn o wybodaeth a gaf am unrhyw un o'r bobl hyn, er iddynt fod yn ffigurau mor amlwg yng Nghymru.
Dr William Price o Lantrisant, Siartydd a oedd yn ymwneud ag iechyd galwedigaethol ac a wnaeth yr amlosgiad modern cyntaf, rhywun sydd o bwys gwleidyddol arwyddocaol iawn. Arthur Horner, llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru; yn 1946, llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr a ffigwr pwysig yn hanes gwladoli'r diwydiant glo a oedd mor arwyddocaol. A.J. Cook, y ceir plac iddo ychydig y tu allan i fy etholaeth yng nglofa Tŷ Mawr Lewis Merthyr; ef oedd ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Glowyr Prydain ond ychydig iawn a addysgir am y ffigwr arwyddocaol hwn.
Beth am hanes datganoli yn mynd yn ôl i'r 1920au, hyd yn oed yn gynharach efallai, ond Kilbrandon ac yn y blaen hefyd? Hanes ffederasiwn y glowyr: sut y gallwch siarad am hanes modern de Cymru heb sôn am ddatblygiad Ffederasiwn Glowyr De Cymru? Pwysigrwydd dyfarniad Cwm Taf a goblygiadau hynny i hawliau democrataidd i undebau llafur. Cymru a'r gaethfasnach. Gareth Jones, y newyddiadurwr o Gymru y siaradais amdano droeon, ac sydd â stryd wedi'i henwi ar ei ôl bellach ym mhrifddinas Ukrain, Kyiv. Hughesovka—sefydlodd John Hughes un o'r ardaloedd cynhyrchu dur mwyaf yn y byd. Streic gyffredinol 1926, sut nad ydym yn sôn am effaith hynny ar gymunedau de Cymru. Cofiwn y gerdd gan Idris Davies, 1926, a sut y byddem yn cofio'r flwyddyn honno hyd oni sycho'n gwaed. Wel, rwy'n credu bod llawer o'n hysgolion a'n cwricwlwm hanes wedi anghofio amdani. Robert Owen, sylfaenydd y mudiad cydweithredol ac undebau llafur mewn sawl rhan o Gymru ac ym Mhrydain; streic glowyr 1984-85 a gafodd y fath effaith; ac Evan James, a ysgrifennodd anthem genedlaethol Cymru, a oedd yn dod o Bontypridd.
Dim ond rhai o'r bobl yw'r rhain. Dylid cael deunyddiau; dylent fod yn rhan o gorff ehangach o'r hanes sydd wedi ffurfio, ac wedi effeithio ar y cymunedau rydym yn eu cynrychioli. I mi, dyna'r rhan bwysig: hanes gweithwyr a chymunedau dosbarth gweithiol. Diolch.
Mae'n bleser mawr cael cymryd rhan yn y ddadl hon, dan gadeiryddiaeth hanesydd nodedig ei hun. I mi, mae hanes yn beth byw. Mae'r continwwm rydym yn byw ynddo yn rhan hanfodol bwysig o fy nychymyg, ac rwy'n myfyrio'n gyson ar ddigwyddiadau heddiw yn eu cyd-destun hanesyddol. Felly, mae addysgu hanes yn hanfodol bwysig. Fel y dywedodd Mick Antoniw funud yn ôl, gwleidyddiaeth farw yw hanes, ond mewn gwirionedd, mae hanes yn rhywbeth byw ac mae gwleidyddiaeth cenedlaethau blaenorol yn rhywbeth byw heddiw hefyd. Gwelwn hyn yn y ddadl sydd wedi codi o ganlyniad i brotestiadau Black Lives Matter a'r hyn a ddywedwyd am gaethwasiaeth a rôl yr ymerodraeth Brydeinig a hynny i gyd. Felly, mae'n hanfodol bwysig, pan addysgir hanes, ei fod yn cael ei addysgu mewn ffordd wrthrychol, neu mor wrthrychol ag sy'n bosibl.
Rwy'n cefnogi'n gryf y ddeiseb ar gorff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru. Astudiais hanes Cymru yn yr ysgol, a châi hanes ei addysgu mewn ffordd ychydig yn wahanol bryd hynny o bosibl i'r ffordd y caiff ei addysgu nawr, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddysgu am eu lle yn hanes eu cenedl. Nid wyf yn credu y gallwch ddeall digwyddiadau heddiw heb ddeall yn iawn sut y daethom yma. Fel y dywedodd yr athronydd Ffrengig Alexis de Tocqueville, pan fo'r gorffennol yn peidio â thaflu ei oleuni ar y dyfodol, bydd meddwl dyn yn crwydro yn y tywyllwch.
A chredaf fod hwnnw'n wirionedd sylfaenol. Ond mae addysgu hanes ei hun, mewn rhai ffyrdd, yn weithred wleidyddol, neu gallai fod yn weithred wleidyddol, a rhaid inni fod yn ofalus, felly, i beidio â chaniatáu i hanes gael ei ddefnyddio fel arf propaganda gwleidyddol, er y gallai hynny fod yn isymwybodol. Credaf fod yr ail ddeiseb ar yr ymerodraeth Brydeinig yn dangos diffyg dealltwriaeth yn ei hystyr lawnaf o'r rôl a chwaraeodd yr ymerodraeth Brydeinig. Mae'n hanfodol bwysig, felly, ein bod yn addysgu'r ddwy ochr i ddadleuon hanesyddol. Mae hanes fel bwrdd draffts; mae arno sgwariau du a gwyn. Er mwyn cael dealltwriaeth lawn o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, rhaid inni adfywio'r dadleuon ynghylch y digwyddiadau a'r mudiadau yr addysgwn amdanynt.
Roedd yr ymerodraeth Brydeinig, mewn sawl ffordd, yn rym er daioni, ac mae'r rôl a chwaraeodd Prydain, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn atal caethfasnach yn rhan hanfodol bwysig o hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credaf fod yr hyn a ddywed y ddeiseb, fod Prydain, gan gynnwys Cymru, wedi elwa o drefedigaethedd a chaethwasiaeth am ganrifoedd, yn gorbwysleisio pwysigrwydd economaidd caethwasiaeth. Mewn gwirionedd effaith ymylol oedd iddi yn natblygiad economaidd y Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs, ni welodd y rhan fwyaf o'r ymerodraeth Brydeinig erioed gaethwasiaeth o gwbl: Canada, Awstralia, Seland Newydd, India—rhannau mawr o'r byd. Masnach drawsatlantig oedd caethfasnach yn y bôn, ac mae caethwasiaeth, wrth gwrs, wedi bod yn endemig ym mhob gwareiddiad hyd at yr oes fodern, a hynny ym mhob rhan o'r byd. Felly, mae'r syniad fod yr ymerodraeth Brydeinig wedi dod i mewn a chaethiwo pobl a oedd fel arall yn byw mewn gwledydd rhydd, democrataidd, yn hurt wrth gwrs.
Felly, rhaid inni weld digwyddiadau'r gorffennol yng nghyd-destun eu hamser eu hunain, a rhaid inni ddeall meddyliau'r bobl a oedd yn gwneud hanes ar y pryd yng nghyd-destun y dyddiau hynny. Felly, mae llawer o unigolion yr ystyriwyd eu bod yn ddynion mawr yn eu dydd bellach yn cael eu hystyried yn ddiffygiol ar lawer ystyr, ond mae angen inni addysgu'r da gyda'r drwg a'r drwg gyda'r da, felly mae hynny'n hanfodol bwysig hefyd.
Drwy ei ymerodraeth, a oedd wrth gwrs yn cwmpasu chwarter y byd ar ei hanterth yn y 1920au, cyflwynodd Prydain reolaeth y gyfraith, gweinyddiaeth nad oedd yn llwgr, i'r gwledydd hynny. Rhoddodd yr iaith Saesneg i'r gwledydd hyn. Cafodd India ei huno o ganlyniad i'w hymgorffori yn yr ymerodraeth. Byddai'r India Fodern yn edrych yn wahanol iawn, mewn termau geowleidyddol, i'r hyn ydyw heddiw, oni bai am yr ymerodraeth Brydeinig. Fel y dywedais eiliad yn ôl, fe wnaethom atal caethwasiaeth a rhoesom ddemocratiaeth yn rhodd ddiwylliannol i'r gwledydd hyn yn sgil yr ymerodraeth Brydeinig. A hefyd, gwnaethom hyrwyddo datblygiad economaidd rhannau helaeth o'r byd, sy'n cyflenwi'r cyfoeth y mae'r poblogaethau yn ei fwynhau heddiw. Felly, fe wnaeth Prydain lawer o bethau da. Roedd caethwasiaeth yn amlwg yn fefl, ond fe wnaethom chwarae rhan anrhydeddus yn ei ddileu.
Mae hanes pobl dduon yn bwysig, ond credaf fod rhaid inni ei gadw yn ei gyd-destun ac yn gymesur hefyd, oherwydd ffenomen ddiweddar iawn yw mewnfudo torfol i'r wlad hon, wrth gwrs. A hyd yn oed heddiw, mae cyfrifiad 2011 yn dweud wrthym fod 96 y cant o boblogaeth Cymru yn wyn, 2.3 y cant o darddiad Asiaidd a 0.6 y cant yn ddu. Felly, wrth gwrs, mae pawb, o ba hil neu gyfansoddiad ethnig bynnag, am wybod hanes eu pobl eu hunain, eu hynafiaid eu hunain, a chredaf fod honno'n rhan bwysig ac angenrheidiol o unrhyw gwricwlwm hanes, ond nid wyf yn credu y dylai ddominyddu pob dim.
Mae angen inni ddysgu hanes Cymru, mae angen inni ddysgu hanes Prydain, ac mae angen inni ddysgu lle Cymru a Phrydain yn y byd. Ac os gwnawn hynny mewn ffordd adeiladol, wrthrychol, ac annog pobl i ddeall nad yw hanes yn ffaith, oherwydd yn y pen draw, myth yw pob hanes ar un ystyr; rydym yn ail-lunio digwyddiadau'r gorffennol yn barhaus. Yr hyn sydd angen inni ei ddysgu i bobl yw bod hanes ei hun yn broblem heb ateb hawdd a chyflym iddo, mae'n debyg. Mae'n eich dysgu sut i ddadansoddi digwyddiadau a chymhellion ac i ddeall mai hanes yw'r hyn a ysgrifennir gan haneswyr mewn gwirionedd, ac nid yr hyn a ddigwyddodd ar y pryd o reidrwydd.
Cyn i mi alw ar Mike Hedges, a gaf fi ddweud ar gyfer y cofnod nad fi yw'r Elin Jones y cyfeiriwyd ati sawl gwaith yn ystod y ddadl y prynhawn yma? Mae Dr Elin Jones yn hanesydd blaenllaw yng Nghymru ac nid wyf fi'n ddoctor o gwbl. Mike Hedges.
Yn fyr iawn, os ydym am ddysgu hanes Cymru, rwy'n credu bod angen inni ddysgu hanes teyrnasoedd yr hen Gymru. Maent yn golygu rhywbeth i lawer ohonom.
Ymddengys ein bod wedi mynd tuag yn ôl. Pan oeddwn yn gwneud hanes lefel O, roeddem yn gwneud hanes cymdeithasol ac economaidd. Nawr, yn eu TGAU, maent yn astudio America, De Affrica a'r Almaen. Rwy'n credu bod angen i ni fynd tuag yn ôl.
Yn olaf, mae angen i bobl ddeall eu hardal eu hunain, sut y digwyddodd a beth yw perthnasedd gwahanol leoedd. Os ydym yn mynd i lunio cwricwlwm, neu roi syniadau at ei gilydd, mae angen cynnwys y rheini i gyd. Diolch.
Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Mae nifer y llofnodion a dderbyniwyd ar y ddwy ddeiseb yn arwydd clir o gryfder y teimlad ynghylch addysgu hanes yng Nghymru. Rydym wedi mwynhau llawer o ddadleuon yn y Senedd ar y pwnc hwn ac nid yw heddiw wedi bod yn eithriad, gydag areithiau a chyfraniadau meddylgar iawn. Ac wrth gwrs, mae'r ddadl hon heddiw'n cael ei chynnal ar ddyddiad pwysig iawn yn ein hanes pan welsom wrthryfel Casnewydd ar 4 Tachwedd 1839, o dan arweiniad John Frost. Felly, nid wyf yn gwybod a yw'n gyd-ddigwyddiad fod y Pwyllgor Deisebau wedi gallu sicrhau'r slot heddiw, ond dyma ddiwrnod perthnasol iawn i fod yn trafod y pwnc hwn, unwaith eto.
Ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol o ran datblygu'r cwricwlwm. Fel y dywedais droeon o'r blaen, mae astudio hanes a hanesion Cymru yn elfen bwysig yn y gwaith o gyflawni pedwar diben ein cwricwlwm newydd. Mae fframwaith newydd y cwricwlwm yn adlewyrchu Cymru: ein treftadaeth ddiwylliannol a'n hamrywiaeth; ein hieithoedd a'n gwerthoedd; a hanesion a thraddodiadau pob un o'n cymunedau a'n holl bobl.
Lywydd, rwy'n hapus i nodi y bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys elfennau gorfodol, gan gynnwys datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i bob maes dysgu a phrofiad. Felly, bydd yn ofynnol drwy statud i gwricwlwm pob ysgol gynnwys dysgu ym mhob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Ac ym maes y dyniaethau, rhaid i hyn gynnwys meithrin ymdeimlad o 'gynefin'—lle ac ymdeimlad o berthyn—gwerthfawrogiad o hunaniaeth a threftadaeth; cysylltiad cyson â stori eu hardal a stori Cymru; datblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, luosog ac amrywiol cymdeithasau, yn y gorffennol a'r presennol; ac ymgysylltu â heriau a chyfleoedd yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol sy'n eu hwynebu hwy fel dinasyddion, a'u cymunedau a'u cenedl. Bydd y rhain yn elfennau gorfodol yng nghwricwlwm pob ysgol, ar gyfer pob dysgwr ar bob cam. Ni fydd yn bosibl anwybyddu rôl ganolog ac allweddol ein holl hanesion, ein straeon lleol a chenedlaethol, gan gynnwys hanes pobl dduon, yng nghwricwlwm ysgol.
Nawr, rydym i gyd wedi cytuno bod yn rhaid i ddysgu fod yn gynhwysol a manteisio ar brofiadau, safbwyntiau a threftadaeth ddiwylliannol y Gymru gyfoes. Mae hyder yn eu hunaniaeth yn helpu dysgwyr i werthfawrogi'r cyfraniad y gallant hwy ac eraill ei wneud yn eu gwahanol gymunedau, ac i ddatblygu ac archwilio eu hymateb i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang. Bydd hyn hefyd yn helpu dysgwyr i archwilio, gwneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth mewn cymdeithas amrywiol. Mae'r cwricwlwm yn cydnabod nad endid unffurf yw ein cymdeithas ond ei bod hi'n cwmpasu amrywiaeth o werthoedd, safbwyntiau, diwylliannau a hanesion sy'n cynnwys pawb sy'n byw yng Nghymru. A gadewch i mi fod yn glir: nid lleol yn unig yw 'cynefin', mae'n darparu sylfaen ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol. Fel rhan o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau, bydd rhaid i bob ysgol gynnwys dysgu gwerthfawrogi natur amrywiol cymdeithasau, yn ogystal â deall amrywiaeth ei hun.
Yn yr haf, penodais yr Athro Charlotte Williams i arwain gweithgor a fydd yn rhoi cyngor ac argymhellion ynghylch addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac rwy'n falch fod Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau wedi croesawu'r gwaith hwnnw. Nawr, mae'n hanfodol dweud nad yw hyn wedi'i gyfyngu i hanes; mae'n cwmpasu pob rhan o'r cwricwlwm ysgol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr, yn ddiweddarach y mis hwn, at gael yr adroddiad interim a fydd yn canolbwyntio ar adnoddau dysgu. Mae'r grŵp wedi datblygu'r gwaith yng nghyd-destun y fframwaith cwricwlwm newydd, sy'n osgoi rhagnodi rhestr lawn o bynciau neu weithgareddau penodol. Mae'r canllawiau'n nodi'r cysyniadau a ddylai fod yn sail i ystod o wahanol bynciau, gweithgareddau dysgu a chaffael gwybodaeth, a bydd dysgwyr o bob oed yn dysgu am ystod o gyfnodau hanesyddol ar lefel leol a chenedlaethol. Byddant yn ystyried sut mae hanes lleol, hanes Cymru a hanes byd-eang yn cysylltu â'i gilydd, ac yn cael eu ffurfio a'u deall, drwy ddigwyddiadau fel gwrthryfel Glyndŵr, rhyfel sifil Sbaen, a rhyfeloedd byd yr ugeinfed ganrif. Mae hyn eisoes wedi'i nodi yn y canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.
Rwy'n cydnabod bod angen inni barhau i gefnogi athrawon gyda'u dysgu proffesiynol i'w helpu i symud ymlaen i nodi adnoddau, pynciau a chysylltiadau. Er mwyn caniatáu amser a lle i addysgwyr gydweithio ar draws ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn dysgu proffesiynol, gydag oddeutu £31 miliwn eisoes wedi ei ddyfarnu'n uniongyrchol i ysgolion, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini dysgu proffesiynol cryf hyn wrth inni symud yn nes at weithredu'r cwricwlwm yn 2022. Felly, rwy'n hyderus y bydd yr adnoddau, y cymorth a'r arweiniad sy'n cael eu datblygu yn grymuso ysgolion i ddarparu addysg ystyrlon am hanesion Cymru a'i chymunedau amrywiol ym mhob maes dysgu a phrofiad ar draws y cwricwlwm.
Bydd ysgolion yn cael cymorth i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth, amgueddfeydd ac orielau, yn ogystal ag arweinwyr cymunedol a diwylliannol wrth gynllunio eu cwricwlwm er mwyn cyfoethogi dysgu a phrofiadau pob disgybl. Felly, o fewn y paramedrau a nodir yn y canllawiau, bydd gan athrawon hyblygrwydd i deilwra cynnwys gwersi i alluogi dysgwyr i archwilio eu 'cynefin'. Credwn mai dyna'r ffordd orau ymlaen iddynt ddeall sut mae eu hunaniaeth leol, eu tirweddau a'u hanesion yn cysylltu â'r rheini ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd rhyddid i athrawon addysgu hanesion niferus ac amrywiol Cymru a'r byd ehangach, ac fel y dywedais o'r blaen, ni ddylid cyfyngu archwilio straeon pobl a chymunedau Cymru i wersi hanes yn unig. Mae holl ddiben a chynllun y cwricwlwm i Gymru yn annog dysgwyr i archwilio themâu ar draws y cwricwlwm. Gellir addysgu hanesion amrywiol pobl Cymru nid yn unig ym meysydd y dyniaethau, ond hefyd mewn ieithoedd, llenyddiaeth a chyfathrebu, ac mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Byddwn yn creu adnoddau pellach a fydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanesion Cymru a'r byd wrth inni symud ymlaen at weithredu, a bydd yr adnoddau hyn yno i alluogi athrawon i ddatblygu eu cwricwla eu hunain.
Fel y soniais yn gynharach, mae'r gweithgor dan gadeiryddiaeth yr Athro Williams wedi adolygu'r adnoddau presennol i gefnogi addysgu themâu sy'n ymwneud â phrofiad a chyfraniadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws ein cwricwlwm, ac fel y nodwyd, bydd Estyn hefyd yn adrodd ar eu hadolygiad o addysgu hanes Cymru ac amrywiaeth mewn ysgolion y flwyddyn nesaf. Bydd ei ganfyddiadau yn ein helpu ymhellach i gomisiynu adnoddau i sicrhau bod athrawon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflwyno'r cwricwlwm yn llwyddiannus.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd mynediad at adnoddau dysgu o ansawdd da yn ddigon ar ei ben ei hun o reidrwydd ac y bydd angen i athrawon gael y dysgu a'r datblygiad proffesiynol perthnasol. Yn gynnar y flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl cael ail adroddiad gan weithgor yr Athro Williams, a fydd yn ystyried anghenion dysgu a datblygiad proffesiynol staff yn ein hysgolion yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y grŵp yn darparu argymhellion ar sut i sicrhau y gall athrawon ar draws y cwricwlwm fynd ati'n gymwys i gyflwyno dysgu sy'n gysylltiedig â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A maddeuwch i mi, Lywydd, ni allaf gofio pa un o fy nghyd-Aelodau a wnaeth y pwynt, ond mae'r Athro Williams yn glir iawn fod yn rhaid i addysgu am hanes pobl dduon fynd y tu hwnt i ddysgu am gysyniadau ynglŷn â chaethwasiaeth. Mae llawer iawn mwy i sôn amdano, a'r Aelod a siaradodd am gyfraniad cadarnhaol cymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i Gymru—gwnaed y pwynt hwnnw'n dda iawn.
Felly, i grynhoi, fel rhan o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau, bydd yn rhaid i bob ysgol gynnwys dysgu am natur amrywiol cymdeithasau a dealltwriaeth ohonynt,yn ogystal â deall y cysyniad o amrywiaeth ei hun, a'u 'cynefin'. Rydym yn parhau i weithio ar gynnwys y cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cwmpasu profiadau a hanesion sy'n cynrychioli natur amrywiol cymdeithasau sydd gennym yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Ond diolch i'r Aelodau unwaith eto. Rwyf bob amser yn ystyried bod y dadleuon hyn ymhlith y goreuon a gawn yn y Siambr, ac ni fu heddiw'n eithriad, fel y dywedais. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Desiebau nawr i ymateb i'r ddadl—Janet Finch-Saunders.
Weinidog, diolch am eich cyfraniad wrth ymateb i'r ddadl hon, a diolch o ddifrif i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan heddiw. Y cyfan rwyf am ei wneud mewn gwirionedd yw adleisio bod cyfraniadau gwirioneddol feddylgar a gwirioneddol dda wedi'u gwneud yma heddiw. Felly, wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr a phawb a gefnogodd y deisebau hynny er mwyn eu cael i'r pwynt hwn. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau a thîm clercio'r pwyllgor. Credaf fod y ffaith y gall deisebau arwain at drafod y materion hyn yn Senedd Cymru, er yn rhithwir yn yr achos hwn, yn profi ac yn dangos gwerth y broses ddeisebu. Mae'r ddadl hon wedi ei gwneud hi'n bosibl codi materion pwysig iawn, a bydd y ddwy ddeiseb hon yn arbennig yn cael eu hystyried ymhellach gan ein pwyllgor. Wrth fwrw ymlaen â'r deisebau, wrth gwrs, fe fyddwn yn ystyried y craffu a wneir ar y cwricwlwm mewn mannau eraill a'r bobl ifanc y bydd unrhyw ganlyniadau i'r deisebau hyn yn effeithio'n fawr arnynt. Mae'r gwaith sydd ar y gweill gan y gweithgor ac Estyn a'r Athro Charlotte Williams hefyd wedi'i grybwyll yma heddiw, ac rwy'n credu iddi fod yn ddadl wych, ac rwy'n siŵr y bydd y sawl a ddechreuodd neu a lofnododd y deisebau os ydynt yn gwylio wedi cael eu calonogi'n fawr gan y diddordeb a ddangoswyd yn y deisebau hyn heddiw. Diolch, Lywydd.
Y cynnig, felly, yw i nodi'r deisebau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld un gwrthwynebiad, ac felly byddaf yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn i ni gyrraedd y cyfnod pleidleisio, fe fyddwn ni'n cymryd egwyl o bum munud yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D. Pan fyddwn ni'n ailymgynnull, byddwn ni'n cynnal y cyfnod pleidleisio.