– Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2021.
Y ddadl nesaf yw'r ddadl ar y gronfa codi’r gwastad a chronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw ar Weinidog yr Economi i wneud y cynnig. Vaughan Gething.
Cynnig NDM7708 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno nad yw ymateb Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid olynol yr UE yn ehangach yn gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai a’i fod yn ymosodiad amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.
2. Yn cytuno bod peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn cynrychioli toriad cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.
3. Yn nodi bod y toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a gwasanaethau yng Nghymru.
4. Yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion Llywodraeth y DU.
5. Yn nodi disgrifiad y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled funding pots thinly spread across a range of initiatives’.
6. Yn cytuno nad yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri cronfeydd olynol yr UE i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.
7. Yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i Lywodraeth y DU roi’r gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd ag sy’n golygu bod llai o lais gan Gymru.
Diolch, Llywydd. Ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i gyflwyno'r ddadl heddiw ar gronfa codi'r gwastad a chronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU yn y dyfodol. Mae'r cynigion hyn yn y DU yn cynrychioli cyfnod newydd o ganoli ymosodol, un sy'n cyflwyno neges glir iawn i Gymru: 'Fe gewch chi yr hyn a roddir i chi.' Mae'n ddull sy'n ysgogi rhaniad yn seiliedig ar resymeg economaidd sy'n anodd ei nodi heb sôn am ei gymeradwyo. Yn waeth byth, mae'n mynd yn ôl at bolisi economaidd o'r brig i lawr a fu gennym cyn datganoli sy'n ymosodiad bwriadol ar ddatganoli yng Nghymru. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd gan Gymru lai o lais dros lai o arian. Llywydd, mae heddiw'n gyfle pwysig i'r Senedd hon wneud ei safbwynt yn glir ar y materion hyn.
Ym mis Mawrth eleni, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau i anwybyddu'r setliad datganoli. Mae'n cynnig dyrannu cyllid yn uniongyrchol ar gyfer datblygu rhanbarthol a lleol yng Nghymru drwy dair cronfa gystadleuol ledled y DU: y gronfa codi'r gwastad honedig o £4.8 biliwn; cynllun treialu gwerth £220 miliwn ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin, a elwir y gronfa adnewyddu cymunedol; a'r gronfa perchnogaeth gymunedol gwerth £150 miliwn. Mae hyn yn cynnwys defnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, pwerau sydd wedi'u cynllunio ac sy'n cael eu defnyddio i ddisodli swyddogaethau sy'n rhan o gymhwysedd y Senedd hon a Llywodraeth Cymru. Gwnaeth Llywodraeth Cymru nodi yn glir ein gwrthwynebiad i Ddeddf y farchnad fewnol, gan ddadlau mai dim ond mewn ffordd y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd y dylid defnyddio'r pwerau hynny. Mae'r cronfeydd arfaethedig wedi'u cynllunio'n glir ac yn fwriadol i eithrio Llywodraeth Cymru yn systematig. Fel ymgais i fachu pŵer, Llywydd, mae hon mor gynnil â daeargryn.
Nid yw effaith yr ymosodiad bwriadol, brwnt hwn ar ddatganoli yng Nghymru hyd yn oed yn cael ei liniaru gan gynnig o arian ychwanegol newydd i Gymru. Fis diwethaf, dywedodd Gweinidog y DU dros Dwf Rhanbarthol a Llywodraeth Leol yn Lloegr, Luke Hall, y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn unig yn disodli cronfeydd strwythurol yr UE ar lefelau blaenorol i Gymru. Fodd bynnag, dim ond £220 miliwn yw gwerth y gronfa adnewyddu cymunedol ledled y DU gyfan yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny'n doriad enfawr o'i gymharu â'r hyn y byddai Cymru wedi gallu ei gael yn yr UE.
Byddem wedi disgwyl o leiaf £375 miliwn bob blwyddyn ar gyfer rhaglenni newydd dros saith mlynedd o fis Ionawr eleni. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi methu ar addewidion niferus a wnaed na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Bydd hyn yn golygu diffyg buddsoddiad i Gymru, a'r swyddi a fyddai wedi'u creu pe byddai'r addewid hwnnw'n cael ei gadw, nid yn unig yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd, ar adeg pan ydym yn dal i reoli ein llwybr allan o'r argyfwng iechyd ac economaidd gwaethaf yr ydym wedi'i brofi yn ystod cyfnod o heddwch.
Llywydd, mae annigonolrwydd y cynigion hyn yn cyd-fynd yn gadarn â'r diffygion yng nghronfa codi'r gwastad y DU. Neilltuwyd cyfanswm o £800 miliwn ar gyfer gwledydd datganoledig dros bedair blynedd, a Chymru'n debygol o gael tua £10 miliwn bob blwyddyn. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae hynny'n llai na £450,000 fesul awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n cadarnhau nad oes unrhyw sylwedd y tu ôl i'r brand codi'r gwastad. A'r diffyg sylwedd hwn sy'n egluro'n rhannol pam y mae cynifer o bobl eraill yn rhannu ein pryderon am gronfeydd olynol arfaethedig yr UE.
Mae'r Llywodraethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dau grŵp seneddol hollbleidiol a rhanddeiliaid ledled Cymru i gyd wedi codi pryderon tebyg. Yn ystod eu tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ychydig wythnosau'n ôl, cododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru restr o bryderon, gan gynnwys y bygythiad i ddatganoli, y lefel annigonol o gyllid sydd ar gael, y gystadleuaeth ddiangen a chostus, a diffyg tryloywder gwirioneddol yn y broses. Gwnaeth y gymdeithas hefyd gwestiynu y ffaith bod ardaloedd difreintiedig fel Gwynedd, Caerffili, Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr wedi'u hepgor o'r rhestr flaenoriaeth, pan fo ardaloedd eraill sy'n amlwg yn fwy llewyrchus yn Lloegr wedi'u cynnwys. Pwysleisiodd bryderon hefyd am y risg i ansawdd y ceisiadau oherwydd y terfynau amser tynn ar gyfer gwneud cais a therfynau amser anymarferol ar wario. Llywydd, methodd y cynlluniau hyn â chreu argraff ar gyngor strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ei hun, a rybuddiodd yn erbyn
'cronfeydd ariannu a reolir yn ganolog wedi'u gwasgaru'n denau ar draws ystod o fentrau'.
Yn hytrach na gwrando ar y rhybuddion hynny a'u cyngor gonest, dewisodd Llywodraeth y DU ddiswyddo'r cyngor strategaeth ddiwydiannol yn gyfan gwbl.
Llywydd, ar y sail y cânt eu rhoi, rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru ynghylch meini prawf blaenoriaethu Llywodraeth y DU, gan nad yw'r meini prawf yn bodloni ein dealltwriaeth ni nac unrhyw ddealltwriaeth wrthrychol o angen economaidd nac amddifadedd.
O ystyried y dadleuon rwyf eisoes wedi'u nodi, nid wyf i'n credu bod unrhyw sylwedd sy'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac ni fyddwn yn eu cefnogi. Bydd cronfeydd y DU yn golygu bylchau ariannu i lawer o sectorau, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach, y trydydd sector a busnes. Mae'r rhain yn bartneriaid sydd wedi buddsoddi yn flaenorol i helpu i gau bylchau hanesyddol mewn ymchwil a datblygu, i roi cymorth i'n pobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac i helpu i hybu ein cystadleurwydd.
Mae gennym bryderon gwirioneddol hefyd am effaith cynlluniau Llywodraeth y DU ar ymyriadau strategol allweddol, gan gynnwys gwasanaeth Busnes Cymru, sydd wedi bod yn hollbwysig i gynifer yn ystod yr argyfwng. Rwy'n gwybod bod hwn yn bryder penodol sydd wedi'i godi gyda'r holl Aelodau gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru cyn y ddadl hon. Roedd prentisiaethau, cronfa fusnes Cymru a buddsoddi mewn seilwaith i gyd yn dibynnu ar gyllid yr UE sydd bellach yn dod i ben, ac sy'n cael eu bygwth yn uniongyrchol gan gynigion Llywodraeth y DU. Mae'r rheini i gyd yn hanfodol i'n hadferiad o COVID, a heb gyllid olynol digonol, mae swyddi a gwasanaethau hanfodol yn cael eu peryglu'n ddi-angen.
I roi hyn yn ei gyd-destun, mae bron i draean o'r cyllid prentisiaeth yn llifo o gyllid strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Mae colli tua £30 miliwn y flwyddyn yn golygu bod bron i 5,300 yn llai o gyfranogwyr yn cael eu cefnogi bob blwyddyn. Cefnogir bron i hanner cronfa fusnes Cymru dan arweiniad Banc Datblygu Cymru gan gronfeydd yr UE. Mae hynny'n golygu nad yw cannoedd o fusnesau ledled y wlad yn gallu cael gafael ar y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw i dyfu a chreu swyddi. Mae bygwth y gwasanaethau hyn yn gyfystyr â gostwng y gwastad i Gymru. Mae dull gweithredu cyfan Llywodraeth y DU wedi profi'n anhrefnus, yn anrhagweladwy ac yn wrthdrawiadol a hynny'n ddiangen.
I'r gwrthwyneb, cafodd ein fframwaith ni ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ei gyd-gynhyrchu â rhanddeiliaid o fusnesau, llywodraeth leol, addysg uwch ac addysg bellach, a'r trydydd sector. Cafodd ei lywio hefyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac fe'i cefnogwyd gan ymgynghoriad cyhoeddus. Gyda dull cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, roedd ein fframwaith ni yn amlinellu blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru. Mae'n trosglwyddo cyllid a chyfrifoldebau'n ystyrlon i'r cydbwyllgorau corfforedig statudol newydd, gan ddod â phŵer a chyllid yn nes at gymunedau.
Llywydd, ein barn ni o hyd yw y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru. Dyna sail ein safbwynt ni, sydd wedi'i gefnogi gan bobl Cymru yn gyson, gan gynnwys yn etholiadau Senedd 2021. Rwy'n gobeithio heddiw y gallwn fod yn unedig ynghylch yr egwyddor honno ar draws y Senedd.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Paul Davies felly i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cronfa ffyniant gyffredin y DU a'i bwriad i leihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau ledled y DU.
2. Yn cytuno na ddylai cyllideb flynyddol cronfa ffyniant gyffredin y DU fod yn llai na ffrydiau ariannu'r UE a'r DU y mae'n eu disodli.
3. Yn croesawu rôl llywodraeth leol yn y broses o ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu system i olrhain a mesur effaith a chanlyniadau dymunol y gronfa.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Rwy'n siŵr bod pob Aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r uchelgais i ddod o hyd i ffordd o leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau, ac felly mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gydweithio i ddod o hyd i'r ffordd orau bosibl o sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf. Mae Llywodraeth y DU wedi'i gwneud yn glir ei bod wedi ymrwymo i godi'r gwastad ledled y Deyrnas Unedig gyfan er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, yn enwedig wrth i ni wella o bandemig COVID-19. Ac i gefnogi'r amcanion hyn, fel y gwyddom ni i gyd, mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglenni buddsoddi newydd, fel y gronfa codi'r gwastad a'r gronfa adnewyddu cymunedol, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau ledled Cymru. Roeddwn yn falch o glywed Gweinidog Gwladol y DU dros Dwf Rhanbarthol a Llywodraeth Leol yn cadarnhau'n ddiweddar i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y bydd o leiaf 5 y cant yng nghylch cyntaf y gronfa codi'r gwastad yn cael ei dyrannu i Gymru.
Nawr, wrth gwrs, cronfa ffyniant gyffredin y DU yw'r cyfrwng y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei ddefnyddio i ddarparu cyllid rhanbarthol. Fel yr ydym yn ei gwneud yn glir yn ein gwelliant, rydym ni'n credu na ddylai cyllideb flynyddol y gronfa fod yn llai na'r ffrydiau ariannu y mae'n eu disodli. Cyhoeddir rhagor o fanylion mewn fframwaith yn ddiweddarach eleni cyn lansio'r gronfa yn 2022, ond yr hyn a wyddom yw y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan gyflwynir y gronfa ffyniant gyffredin yn union yr un fath â'r swm o arian a oedd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd neu'n uwch na hynny, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i gynnal y lefelau hynny o gyllid. Ac o ystyried yr ymrwymiadau niferus gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mae'n anonest parhau â myth y bydd Cymru rywsut ar ei cholled yn ariannol yn sgil y gronfa ffyniant gyffredin.
Nawr, i symud ymlaen, mae'n bwysig bod dulliau'n cael eu datblygu i sicrhau bod buddsoddiadau'n parhau i gael eu gwneud yn y tymor hwy, a bod system gadarn ar waith i fonitro effeithiolrwydd prosiectau sy'n derbyn cyllid. Yn anffodus, yn ystod y cylch blaenorol o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, cafodd Cymru fwy na dwbl y swm y pen nag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr, ac felly gallaf werthfawrogi pam y mae'r cronfeydd hyn mor arbennig o bwysig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn gwella ar ddarpariaeth y cronfeydd strwythurol mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft darparu cyllid yn gyflymach, targedu lleoedd a phobl mewn angen yn well a, gobeithio, llai o faich gweinyddol drwy lai o ffurflenni a thargedau.
Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod yna ymgysylltu â gweinyddiaethau datganoledig, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu grŵp rhyng-weinidogol er mwyn i Weinidogion y DU gael sgyrsiau rheolaidd â Gweinidogion Cymru, ac rwy'n croesawu'r ymgysylltu hwnnw'n fawr iawn. Rwy'n deall hefyd, yn rhan o broses y gronfa codi'r gwastad, fod yna gam rhestr fer pan fydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar eu barn am brosiectau unigol, ac a ydyn nhw'n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth hanfodol wrth asesu ceisiadau ar y rhestr fer, a chael dweud ei dweud wrth sicrhau bod y ceisiadau cywir yn cael y cyllid cywir.
Llywydd, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drosglwyddo cyllid yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Rydym yn dymuno gweld arian yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth. Nid oes angen rhagor o fiwrocratiaeth arnom ac oedi yn y broses o gael arian allan yno i gymunedau a phrosiectau sydd ei angen. Ni ddylem golli golwg ar yr hyn sy'n bwysig yma. Rwy'n credu bod yr Aelod dros Ogwr yn amlwg yn colli golwg ar hynny. Y gwir amdani yw y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn cefnogi gwell canlyniadau cyflogaeth ac yn cefnogi ac yn datblygu economïau lleol. Mae gennym gyfle i ddisodli system gymhleth a biwrocrataidd gyda dull llawer mwy syml o ariannu twf lleol. Heb os—heb os nac oni bai—fod hynny'n rhywbeth y dylai Aelodau yma fod yn ei groesawu.
Ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi treulio amser ac ymdrech yn gwrthwynebu'r sianel ariannu uniongyrchol i awdurdodau lleol. Os yw Llywodraeth Cymru wir yn credu mewn datganoli, yna datganoli'r cyfrifoldebau a'r penderfyniadau hyn i awdurdodau lleol yw datganoli gwirioneddol ac mae'n sicr mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwyf wedi clywed llawer o rethreg y prynhawn yma gan y Gweinidog, ond hoffwn ei atgoffa bod gan Gymru ddwy Lywodraeth. Fel rhywun sy'n credu yn y Deyrnas Unedig, byddwn i wedi meddwl y byddai e'n croesawu hynny, ond mae'n amlwg y dylai fod yn eistedd ar y meinciau yna gyda'r cenedlaetholwyr, rwy'n credu.
Mae pwynt 4 o gynnig Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryderon rhai arweinwyr awdurdodau lleol. Fodd bynnag, yn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig, gwnaeth arweinydd Cyngor Sir Powys groesawu'r agendâu codi'r gwastad, gan ddadlau, ac rwy'n dyfynnu:
'Mewn sawl ffordd mae hyn yn gadarnhaol i Bowys gan ein bod ni'n un o'r siroedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn y gorffennol, nid ydym wedi elwa ar gronfeydd strwythurol yr UE gymaint ag ardaloedd eraill o Gymru—rydym wedi cael swm bach iawn yn unig—felly yn yr ystyr hwnnw rydym yn hynod ddiolchgar am hyn.'
Yn wir, yn ddiweddarach yn y sesiwn bwyllgor honno, gwnaeth Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru hi'n glir fod arweinwyr awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn yn y trafodaethau y mae e' wedi'u cael gyda nhw, ac rwy'n credu y dylem groesawu hynny ac adeiladu ar y dull cadarnhaol hwnnw.
Byddwn yn gobeithio y byddai Gweinidogion yn croesawu'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gyflymu'r broses o ddarparu'r cyllid hwnnw fel y gall yr arian gyrraedd ein cymunedau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fodd bynnag, yn fy marn i, o leiaf, mae'n ymddangos bod y pwyslais wedi'i golli, ac yn hytrach na chanolbwyntio ar y manteision cadarnhaol enfawr y gall y gronfa hon eu cynnig i Gymru, mae Gweinidogion yn pryderu yn fwy am eu swyddogaeth nhw eu hunain mewn prosiectau cymeradwyo. Felly, rwy'n annog y Gweinidog a'r Aelodau yma heddiw i gofio'r hyn sy'n bwysig yma, sef mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ein cymunedau a chael cyllid a buddsoddiad hanfodol i'r ardaloedd hynny. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
Galwaf nawr ar Luke Fletcher i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Luke Fletcher.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Cynnwys pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn yn anghyson â'r dull o ymdrin â chyllid a ddarparwyd gan yr UE yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.
Yn galw am dryloywder gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli allan ar gyllid.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Rydym yn croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn yn amser y Llywodraeth. Mae Llywodraeth y DU wedi camarwain pobl Cymru yn gyson ynghylch y gronfa codi'r gwastad; o HS2 i'r gronfa ffyniant gyffredin, a bellach y gronfa codi'r gwastad, mae Cymru mewn sefyllfa lle bydd yn colli arian, neu byddwn yn cael llai nag yr oeddem ni pan oeddem yn rhan o'r UE. Hyd yma, mae agenda codi'r gwastad San Steffan wedi golygu mwy o bwerau i San Steffan, mwy o arian ar gyfer seddi'r Torïaid, a llai o gyllid a chynrychiolaeth i Gymru. Rydym ni'n haeddu gwell.
Ond beth mae 'codi'r gwastad' yn ei olygu mewn gwirionedd? Hyd yn hyn, y cyfan a gyflwynwyd i ni yw amrywiaeth o gronfeydd cystadleuol ac anhryloyw sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn cael eu rheoli gan San Steffan, sy'n tanseilio yn hytrach na gwella strategaeth economaidd Cymru. Mewn tystiolaeth i bwyllgor dethol Materion Cymreig San Steffan, dywedodd Sefydliad Bevan fod
'rowndiau olynol o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol a hirsefydlog i Gymru ac economi Cymru.'
Mae hyn wedi cynnwys mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd, adfywio, uwchraddio cyfleusterau a seilwaith trafnidiaeth allweddol, yn ogystal â buddsoddi mewn sgiliau, swyddi, prentisiaethau, cyfleusterau busnes, a chymorth i sectorau a diwydiannau allweddol. Os na chaiff y cronfeydd hyn eu disodli'n llawn a'u gweithredu gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau datganoledig, yna bydd Cymru'n cael ei gadael yn brin ac yn waeth ei byd. Os gall Cymru reoli ei hymateb i'r pandemig, dylem ni allu rheoli ysgogiadau ein heconomi'n llawn. Dylid gwneud penderfyniadau am gyllid yng Nghymru yng Nghymru. Mae'r UE yn cydnabod yr egwyddor hon; pam na all San Steffan?
Cyhoeddwyd y gronfa codi'r gwastad gan San Steffan y llynedd—cronfa y dywedwyd ei bod yn agored i bob ardal leol yn Lloegr. Byddai Cymru'n cael ein cyfran ni o £800 miliwn drwy fformiwla Barnett, a byddem ni yn ei wario yn unol â'n blaenoriaethau. Fodd bynnag, mae'r Trysorlys, ers hynny, wedi cyhoeddi y byddan nhw'n penderfynu sut y caiff yr £800 miliwn hwnnw ei wario yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac nid oes cronfa wedi'i neilltuo ar gyfer Cymru. Yn hytrach na chodi'r gwastad, mae'r cynigion diweddaraf hyn yn lledaenu adnoddau'n deneuach ac yn tynnu ein harian ni oddi wrthym lle mae ei angen arnom fwyaf. Mae ein gwelliannau'n ceisio cryfhau cynnig y Llywodraeth, gan wneud pwyntiau penodol ynglŷn â'r broses sy'n sail i'r meini prawf dethol ar gyfer y cronfeydd hyn, a galw am asesiadau manwl o'r effaith y bydd yr arian hwn yn ei chael ar Gymru.
Os caf droi yn gyntaf at ein gwelliant cyntaf, mae ardaloedd awdurdodau lleol Cymru fel Gwynedd wedi'u rhoi yn y categori angen blaenoriaeth isaf ar gyfer y gronfa codi'r gwastad i ariannu prosiectau seilwaith mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru, gan gofio, wrth gwrs, fod y Canghellor wedi cynnwys ei etholaeth ei hun yn y categori uchaf o angen. O dan feini prawf ariannu blaenorol yr UE, cafodd Gwynedd ei blaenoriaethu fel un o'r ardaloedd lleiaf datblygedig yn Ewrop, ynghyd â gweddill gorllewin Cymru a'r Cymoedd. O ran y gronfa adnewyddu cymunedol, mae Caerffili wedi'i gadael allan. Dylai Caerffili sgorio'n uchel ar y dangosyddion eraill yr oedd Llywodraeth y DU yn hawlio—
Fy araith i yw hon.
—eu bod wedi'u defnyddio yn rhan o'r metrigau ar gyfer y gronfa hon, fel incwm aelwydydd. Incwm blynyddol cyfartalog aelwydydd yng Nghaerffili yw tua £15,000 y pen, sy'n sylweddol is na chyfartaledd y DU o £21,000, ac yn is na phob un rhanbarth yn Lloegr. Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell yn manylu mwy ar hyn yn nes ymlaen, ac fel y mae Hefin David newydd ei ddweud, bydd e' hefyd yn manylu ar hyn hefyd.
O gofio bod y Torïaid hyd yma wedi gwrthod cyhoeddi eu cyfrifiadau ar gyfer cyfrifo'r ardaloedd blaenoriaeth i dargedu'r cyllid hwn, y casgliad y byddai llawer o bobl yn dod iddo yw bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan ddefnyddio cyfrifiadau gwleidyddol yn hytrach na chyfrifiadau mathemategol, gan adael lleoedd fel Caerffili heb ddim. Sut y gall unrhyw un ymddiried yn y Torïaid i weithredu'r cronfeydd hyn yn deg ac yn dryloyw? Edrychwch ar gronfa trefi Lloegr yn unig yn y DU: mae 83 y cant o'r £610 miliwn yn y gronfa hon yn mynd i seddi gydag ASau Torïaidd, a 22 o 26 o leoedd a gafodd yr arian yn y gyfran ddiweddaraf yn cael eu cynrychioli gan ASau Ceidwadol. Roedd hyn wedi arwain at feirniadu Llywodraeth y DU gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ei diffyg tryloywder, ac mae hyd yn oed y Good Law Project wedi mynd â Llywodraeth y DU i'r llys dros hyn. Nid codi'r gwastad yw hyn; mae'n dwyll.
Yn olaf, o ran ein hail welliant, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd fframwaith newydd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru i ddechrau ar ôl i gronfeydd strwythurol yr UE ddod i ben. Daeth y Gweinidog dros bontio Ewropeaidd ar y pryd i'r casgliad bod cyflawni'r fframwaith hwn yn dibynnu ar ymgysylltu cadarnhaol â Llywodraeth y DU, sydd wedi'i atal hyd yma. Mae'n rhaid i Gymru dderbyn cyllid yn llawn, ac mae angen i hyn barchu ein setliad datganoli. O gwestiynau a godwyd gan fy rhagflaenydd Dr Dai Lloyd ym mis Ionawr 2021, pwysleisiodd y Gweinidog dros bontio Ewropeaidd ar y pryd nad oedd y cynllun hwn wedi diflannu, a hyd yn oed ar ddiwedd y cyfnod, roedd amser i Lywodraeth y DU wneud gwaith gyda Llywodraeth Cymru a pheidio â'i osgoi. Nid yw hynny wedi digwydd, ac felly byddai'r gwelliant hwn yn sicrhau y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos i'r Senedd sut yr effeithiwyd ar ei fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, yn ogystal â'u trefniadau ariannu mwy cyffredinol a lle mae hyn yn gadael y rhai sy'n gwneud penderfyniadau datganoledig yng Nghymru, pan fyddan nhw, yn ôl pob tebyg, yn cael eu cadw allan o'r trafodaethau gan San Steffan.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei gefnogaeth i'n gwelliannau ni hefyd. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno dadl ar y mater pwysig hwn mor gynnar ar ôl yr etholiad. Mae'n gwbl hanfodol, os yw'r DU am olygu unrhyw beth o gwbl, bod cyfoeth y Deyrnas Unedig yn cael ei rannu'n deg rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, ar draws gwledydd y DU, ond hefyd o fewn gwledydd y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn bwysig bod y cyfoeth hwnnw'n cael ei rannu â phwrpas, ac y gwneir hynny yn dryloyw a gydag atebolrwydd.
Y broblem gyda'r polisi rhanbarthol sy'n cael ei ddyfeisio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Whitehall yw nad yw'n ymddangos bod yr un o'r pethau hynny o bwys i weinyddiaeth bresennol y DU. Yr hyn sy'n ymddangos yn bwysig iddyn nhw yw sianelu arian cyhoeddus i etholaethau a rhanbarthau Lloegr lle maen nhw wedi ennill etholiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac mae hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd mawr ohono.
Pan mai fi oedd y Gweinidog, Paul—a bydd Paul Davies yn cofio hyn; mae'n ymddangos ei fod wedi anghofio llawer o bethau eraill a ddywedodd o'r blaen yma, ond fe rown ni ychydig o amser iddo y prynhawn yma—a gyhoeddodd yr adroddiad ar Amcan 1, pan oeddwn i'n Weinidog rhaglenni Ewropeaidd yn ôl yn 2011, amlinellodd yr adroddiad hwnnw'r holl wersi a ddysgwyd o Amcan 1. Roedd yn adroddiad cadarnhaol iawn ym mhob math o wahanol ffyrdd, ond roedd yn dweud hefyd fod gwersi i'w dysgu, bod angen inni wella'r ffordd yr ydym yn darparu cronfeydd rhanbarthol a buddsoddiad cyhoeddus. Cafodd y gwelliannau hynny, bryd hynny, eu cynnwys yn y system a ddefnyddiwyd hyd nes i'n cyfaill Huw Irranca-Davies gadeirio'r pwyllgor a arweiniodd hynny yn y Senedd flaenorol.
Dysgu gwersi o'r hyn a wnaethpwyd oedd hynny. Yr hyn y mae hwn a'r cynlluniau hyn yn ei wneud, mae'n ymddangos, yw ailadrodd camgymeriadau'r adeg honno. Ond gwnaed y camgymeriadau a wnaethpwyd 20 mlynedd yn ôl ar Amcan 1—gan weinyddiaeth Lafur, rwy'n derbyn hynny—wrth i system newydd gael ei chyflwyno er mwyn gwaredu rhai o'r strwythurau y gellid eu cyflwyno, i ddarparu'r arian yn uniongyrchol i'r cymunedau a dargedwyd gan hynny. Gwnaed hynny gydag ewyllys da a gwnaed hynny gyda'r bwriadau gorau. Y broblem sydd gennych yma yw nad yw'r strwythurau hyn wedi'u sefydlu er mwyn cyrraedd y cymunedau a'r bobl fwyaf anghenus, nid er mwyn cyflawni amcanion, oherwydd nid oes ganddyn nhw unrhyw amcanion.
Mae wedi'i wneud heb unrhyw ymgynghori. Ni fu unrhyw ymgynghori, nid â llywodraeth leol. Pe baech wedi parhau i ddarllen o'r hyn a ddywedodd Rosemarie Harris, byddai hi wedi dweud yn y paragraff ar ôl yr un a ddyfynnwyd gennych chi nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymgynghori â nhw ar y materion hyn, nad oedden nhw'n gwybod sut yr oedd yn mynd i weithio. Felly, ni chafwyd ymgynghoriad. Gwyddom na fu tryloywder, oherwydd rwyf wedi eistedd ar y pwyllgorau, a daethom â'r Gweinidogion i mewn i egluro wrthym beth y maen nhw'n ei wneud, ac nid oedden nhw'n gwybod beth yr oedden nhw'n mynd i fod yn ei wneud, oherwydd nid oedden nhw wedi gwneud hynny eto. Nid oedd yn berfformiad trawiadol iawn, gadewch i mi ddweud hynny wrthych chi. Ac felly ni fu tryloywder.
Nid oes atebolrwydd, ni chafwyd dadl, ni chafwyd ymgynghoriad. Yr hyn sydd wedi bod yw penderfyniad i danseilio democratiaeth Cymru, oherwydd ni allan nhw ennill etholiadau. Pe baech chi i gyd yn eistedd yma a'n bod ni yn eistedd fan yna, gallaf ddweud wrthych chi yn awr y byddai Gweinidogion Cymru o amgylch y bwrdd yna. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer amcanion gwleidyddol, newid cydbwysedd grym o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd mawr yn ei gylch—cywilydd mawr.
Yr hyn yr hoffwn i ein gweld yn gallu ei wneud, Llywydd, yw sefydlu perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfartal, lle yr ydym yn gweithio gyda'n gilydd, yn cyflwyno'r strwythurau sy'n cynnwys llywodraeth leol. Rydych chi'n sôn am ddatganoli yng Nghymru; wel, rwy'n cefnogi hynny. Fe wnes i gyflwyno cynigion i ymwreiddio hynny yn y Senedd ddiwethaf, ac fe wnaethoch chi bleidleisio a dadlau yn ei erbyn—
I gael gwared arnom ni.
Na, nid i gael gwared arnoch chi. Wnaethoch chi ddim ei ddeall; dyna'r broblem, Peter. Pan ofynnais i chi pa bwerau yr oeddech chi yn dymuno eu cael, wnaethoch chi ddim ateb. Yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw darparu'r cyllid a'r ffrydiau ariannu'n agored, yn dryloyw, yn deg, yn ôl yr angen, ac yna ei ddarparu i'r bobl hynny. Dyna oedd yn cael ei wneud, a'r hyn sy'n cael ei wneud yn y fan yma yw datgymalu'r system honno. Mae'n cael ei datgymalu nid am nad oedd yn gweithio, ond oherwydd na allai'r Blaid Geidwadol ei rheoli.
Wyddoch chi? Bydd llawer o bobl, nid yn unig yn fy etholaeth i ac nid yn unig yng Nghaerffili ac nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr a fydd ar eu colled o ganlyniad i hynny, ond y collwr mwyaf yw'r ymdeimlad o'r Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth sy'n gallu trin pob rhan yn deg. A wyddoch chi beth? O ran lle yr ydym yn mynd ar hyn o bryd gyda thanseilio democratiaeth, Deddf y farchnad fewnol, yn fy marn i daeth â'r cyfnod datganoli i ben yng Nghymru. Roedd yn dod â datganoli i ben. Nid yw datganoli'n bodoli—nid yw'n bodoli. Yr hyn sy'n bodoli yw cysgod y gall Gweinidog yn Llundain ei danseilio, yn anatebol, heb ei ethol gan bobl Cymru. Nid dyna yw datganoli yn ôl yr hyn a ddeallaf i. Dyna pam y darllenais yn y rhaglen lywodraethu yn gynharach y prynhawn yma y bydd angen i bethau newid os yw'r Deyrnas Unedig i barhau.
Llywydd, rwy'n trethu eich amynedd eto. Gadewch imi gloi fy nghyfraniad drwy ddweud hyn: rwyf i yn credu bod y broses dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn un o'r profiadau mwyaf digalon a gofidus yr wyf wedi bod yn ymwneud ag ef mewn gwleidyddiaeth, oherwydd fel aelod o bwyllgorau yn y lle hwn, rydym wedi ceisio ewyllys da a chyda chefnogaeth drawsbleidiol i ddod â Gweinidogion y DU i mewn i gael y sgwrs honno ac i greu'r tryloywder hwnnw ac i drafod yr hyn sydd orau i Gymru. Wnaeth y Gweinidogion hynny ddim ymddangos, ac nid oedden nhw'n gallu ateb cwestiynau, ac roedden nhw'n gwybod eu bod wedi cael eu dal. Y mater y mae'n rhaid i ni ei wynebu nawr yw sut mae ailadeiladu polisi rhanbarthol sydd wedi'i ddatgymalu'n systematig gan Lywodraeth y DU nad yw'n poeni dim.
Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw, gyda chyfraniadau hyd yn hyn yn sicr yn angerddol ynghylch mater pwysig iawn, o ran y gronfa codi'r gwastad a chronfa ffyniant gyffredin y DU.
Yr ensyniad, wrth gwrs, yn y ddadl hon heddiw gan Lywodraeth Cymru yw nad yw dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r gronfa hon yn gwarantu na fydd Cymru'n waeth ei byd a bod hyn yn cynrychioli ymosodiad clir ar ddatganoli yng Nghymru. Fel y dywedodd fy nghyfaill Mr Davies, nid yw hyn yn wir. Nododd maniffesto'r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad cyffredinol 2019 y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cyfateb neu'n fwy na swm y cronfeydd strwythurol a dderbynnir ym mhob un o bedair gwlad y DU, a dyna'n union sy'n digwydd. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cyfateb i'r cyfraniadau blaenorol hyn. Ac, unwaith eto, soniodd Llywodraeth Cymru yn benodol am ymosodiad ar ddatganoli, ac fel y trafodwyd yr wythnos diwethaf, yr un mor angerddol, yn y Siambr hon, mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wedi gwarantu mwy o bwerau i Gymru, nid llai o bwerau.
Nawr, yr hyn y dylem ni fod yn ei ddathlu, gan ein bod ni bellach allan o'r Undeb Ewropeaidd, yw y gallwn fynd y tu hwnt i derfynau cynlluniau blaenorol a gallwn helpu pobl leol a materion lleol. Yn wir, gall y cyllid strwythurol bellach weld cyllid yn cael ei ddarparu'n gyflymach, targedu lleoedd a phobl mewn angen yn well, a gwell aliniad â blaenoriaethau domestig, yn hytrach na'r meysydd blaenoriaeth ledled yr UE ar gyfer ariannu.
Rwyf eisiau cymryd eiliad i ganolbwyntio ar swyddogaeth awdurdodau lleol a'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw i wneud gwahaniaeth drwy'r cyllid hwn. Yn fy nghwestiwn i y bore yma i'r Prif Weinidog, canmolodd y Prif Weinidog swyddogaeth awdurdodau lleol a'r gwaith y gwnaethon nhw yn ystod y pandemig. Ac rwy'n gwybod o'm profiad i a phrofiad Aelodau eraill yn yr ystafell hon heddiw fod y gwaith caled, yr ymroddiad a'r aberth y mae staff y cynghorau wedi'u dangos drwy'r pandemig, ac y mae aelodau etholedig wedi ymgymryd â nhw, wedi dangos yr hyn y gall awdurdodau lleol ei gyflawni, a dylem ni fod yn croesawu'r cynigion hyn ar gyfer awdurdodau lleol a dathlu'r gwaith eithriadol y maen nhw yn ei wneud ac y gallan nhw ei wneud drwy ddatganoli'r cyllid hwn ymhellach.
Yn wir, mae'n ymddangos ein bod ni i gyd wedi cyfeirio at y Pwyllgor Materion Cymreig ddiwedd mis Mai y prynhawn yma, ond roedd arweinwyr awdurdodau lleol yno yn croesawu'r swyddogaeth y bydd ganddyn nhw, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn sicr wedi croesawu'r arian a ddaw gan Lywodraeth y DU. A gwyddom—[Torri ar draws.] Fe ddewisoch chi nhw hefyd, Mr Davies, fe ddewisoch chi nhw hefyd. Gwyddom fod gan lawer o'r etholwyr berthynas ragorol â'u cynghorwyr lleol a democratiaeth leol. A chofiwch, pleidleisiodd 53 y cant o bobl yng Nghymru i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac maen nhw'n disgwyl i Lywodraeth gyflawni'r addewid hwnnw.
Yn olaf ar y pwynt hwn, dywedodd y Prif Weinidog, wrth gwrs, y bore yma hefyd fod mwy o bwerau i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau sy'n iawn i'w hardaloedd lleol nhw ac i'w poblogaethau nhw, gan gefnogi'r ffaith y dylai awdurdodau lleol gael mwy o lais yn yr hyn sy'n digwydd—. Onid y gwir, Llywydd, yw bod y cynnig hwn heddiw a'r ddadl hon wedi dangos mewn gwirionedd nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn hapus gan nad yw'r pwerau hyn yn cael eu datganoli iddyn nhw, ond yn hytrach eu bod yn cael eu datganoli i awdurdodau lleol? Ac, unwaith eto, mae COVID-19 wedi dangos yr hyn y gall awdurdodau lleol ei gyflawni a dylem ni fod yn ffyddiog yn ei gallu i gyflawni'r cyllid hwn.
I gloi, Llywydd, mae'n bryd i'r Llywodraeth gydweithio â Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol i godi'r cyllid ledled Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i wrthod cynnig y Llywodraeth, cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr ac, yn bwysicaf oll, dathlu'r gwaith gwych a wneir gan awdurdodau lleol a chroesawu'r cyfle i gynghorau lleol greu'r amgylchedd i'w trigolion a'u busnesau ffynnu. Diolch yn fawr iawn.
Mae cyllid yr UE wedi cyfoethogi'r cymunedau yr wyf i yn eu cynrychioli. O ddatblygiadau yng nghanol trefi i ariannu prosiectau seilwaith, mae wedi creu cyfleoedd. Pan wnaethom ni adael yr UE, addawyd inni nid ceiniog yn llai gan Lywodraeth y DU, ond, Llywydd, mae digonedd o dystiolaeth eisoes i awgrymu y bydd fy ardal i ar ei cholled yn sgil y cynlluniau olynol.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan restr o 100 o ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer y gronfa adnewyddu cymunedol, fel yr awgrymwyd eisoes—ardaloedd y byddai'n debygol o gael blaenoriaeth; hynny yw, cael y cyllid. Roedd y rhai hynny a oedd yn byw yng Nghaerffili yn siomedig o ddarganfod nad oedd yr ardal wedi'i chynnwys, a hyn er gwaethaf y ffaith bod yr ardal wedi elwa ar gyllid yr UE, a doedd hynny ddim yn gwneud synnwyr. Felly, ym mis Ebrill eleni, cynhaliodd fy nhîm ymchwil. Cyn imi rannu canfyddiadau'r ymchwil honno â'r Siambr, hoffwn dynnu sylw, Llywydd, at y ffaith bod gwefan Llywodraeth y DU wedi honni y dylai unrhyw ddata a ddefnyddir ar gyfer y gronfa fod ar gael i'r cyhoedd fel bod y cyfrifiadau y tu ôl i drefn y rhestr yn gwbl dryloyw—nod canmoladwy, ac eto, pan ysgrifennais at Robert Jenrick ar 13 Ebrill yn gofyn i'r data hynny fod ar gael i'r cyhoedd, ni chafwyd ateb. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gwrthod rhyddhau'r data i'r Western Mail, ac yn wir, maen nhw wedi gwrthod eu rhyddhau o dan gais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gan y Caerphilly Observer.
Dadansoddodd fy nhîm beth oedd sefyllfa Caerffili ac a ddylai fod yn gymwys i fod yn ardal flaenoriaeth, a defnyddion nhw'r metrigau y mae Llywodraeth y DU yn honni ei bod wedi dibynnu arnyn nhw wrth benderfynu ar y blaenoriaethu—hynny yw, cynhyrchiant, sgiliau, cyflogaeth, dwysedd poblogaeth, incwm aelwydydd. Ac a allwch chi ddyfalu beth rwy'n mynd i'w ddweud wrthych chi, Llywydd? Wrth gwrs, sgoriodd Caerffili yn uchel ar yr holl fetrigau, yn enwedig cynhyrchiant, a oedd fod â'r pwysoliad mwyaf ohonyn nhw. Hynny yw, dylai sgorau Caerffili fod wedi golygu y byddai'n gymwys. I roi halen yn y briw o ran y darganfyddiad niweidiol hwn, canfuom fod gan 35 o'r 100 ardal a flaenoriaethwyd gyfraddau cynhyrchiant uwch na Chaerffili. Hynny yw, dylen nhw fod wedi sgorio'n is na'r ardal ac wedi bod yn llai tebygol o fod yn gymwys i gael cymorth. O'r 35 ardal hynny, lle ceir cwestiynau ynghylch pam eu bod wedi'u cynnwys, gadewch imi ddweud wrthych chi: mae gan 22 ohonyn nhw ASau Ceidwadol, mae 10 yn seddi wal goch sy'n cael eu blaenoriaethu yn benodol er budd y Torïaid, ac mae wyth o'r seddi yn seddi Gweinidogion Torïaidd y Llywodraeth.
Gofynnais i Mr Jenrick ailedrych ar y cyfrifiadau ac, yn wir, eu gwneud yn gyhoeddus er mwyn osgoi unrhyw awgrym posibl bod y cyfrifiadau hyn yn wleidyddol yn hytrach na mathemategol, a hyd yma, nid wyf wedi cael ymateb gan Lywodraeth y DU. Soniais fod y Caerphilly Observer wedi cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth am y data, a'r wythnos diwethaf cawsant ymateb o'r diwedd a oedd, wrth gwrs, yn gwrthod rhyddhau'r data oherwydd na fyddai er budd y cyhoedd i'w rhyddhau. A hyn er gwaethaf y ffaith—rwy'n credu ei bod hi'n werth ailadrodd y pwynt, Llywydd—fod eu gwefan nhw eu hunain yn honni y dylai unrhyw ddata a ddefnyddir fod ar gael i'r cyhoedd i gynorthwyo tryloywder. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU bellach yn benderfynol o fwrw ymlaen â dyfarnu'r arian cyn iddi ryddhau'r data a chyn i unrhyw un o'r pryderon hyn gael eu datrys. Mae'r rheswm yn ymddangos yn glir i mi: mae'r cynlluniau olynol hyn gan y Torïaid wedi'u cynllunio i gyfoethogi buddiannau'r blaid Dorïaidd, nid ein cymunedau ni. 'Dim ceiniog yn llai', ddywedwyd wrthym ni. Wel, ceiniog am eich addewidion, Brif Weinidog, oherwydd dyna'r cyfan yw eu gwerth.
Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol, yr ICA, ystyriaeth bwysig o sut y gellir ailadeiladu economi cymunedau hŷn Prydain. Roedd yr adroddiad yn cynnig casgliadau a oedd yn effeithio ar dros chwarter poblogaeth y DU a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn, a chyfran fwy fyth o ddinasyddion yng Nghymru, gydag argymhellion a fyddai'n effeithio ar 12 o'r 22 ardal cyngor yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn blaenoriaethu nifer o ymyriadau allweddol yr oedd eu hangen—ymyriadau a oedd yn bwysig ym mis Chwefror 2020, ond sydd hyd yn oed yn fwy hanfodol yn awr wrth inni geisio ailadeiladu ar ôl COVID. Roedd yn galw am fwy o gefnogaeth i weithgynhyrchu, buddsoddi mewn sgiliau, gwell cysylltedd a gwneud iawn am fethiant y farchnad eiddo, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod llawer o'r blaenoriaethau hyn wedi'u cyflawni gan y rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw. Ond roedd yr adroddiad hefyd yn galw am ddisodli cyllid yr UE, sydd wedi bod yn arf pwysig i hyrwyddo swyddi a thwf mewn rhannau llai llewyrchus o'r DU, gan gynnwys ardaloedd diwydiannol hŷn. Yn benodol, roedd yn dweud y dylai Cymru gael yr arian sy'n ofynnol ar sail angen yn hytrach nag ar sail poblogaeth. Roedd hefyd yn galw am gyfraniad gweithredol gan yr holl bleidiau perthnasol: awdurdodau lleol, ond hefyd, yn hollbwysig, Seneddau cenedlaethol datganoledig. Fel y mae'r cynnig yn enw'r Trefnydd yn ei wneud yn glir, mae'r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn methu â bodloni'r meini prawf hyn.
Cyhoeddodd yr ICA adroddiadau ychwanegol hefyd sy'n amlygu'n fanylach beth yn union oedd ei angen ar gyfer llawer o fodelau ariannu ar ôl yr UE. O ystyried y pwysigrwydd hanfodol y gwnaeth yr ICA ei briodoli i hyn ar gyfer hen ardaloedd diwydiannol, fel fy etholaeth i, mae'n werth cymryd ychydig o amser i ystyried eu canfyddiadau. Rwy'n ddiolchgar i'r Athro Steve Fothergill, Joan Dixon a Peter Slater am roi gwybod i'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol am yr ymchwil hwn yn ystod tymor diwethaf y Senedd.
Beth oedd eu casgliadau? Yn gyntaf, mae'n bwysig nodi y byddai'r DU wedi cymhwyso ar gyfer cyllid ychwanegol pe byddai wedi aros yn yr UE. Un adlewyrchiad trawiadol ar y 2010au fel degawd o gyni diangen yw y byddai tri rhanbarth ychwanegol yn Lloegr wedi cymhwyso fel rhanbarthau llai datblygedig. Yn ail, byddai gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi cymhwyso o hyd ar gyfer y cyllid hwn, felly bydden nhw wedi cael cyfran uwch o arian. Yn drydydd, er mwyn bod yn drawsnewidiol, byddai angen i unrhyw gynllun olynol gynnig dyraniadau ariannol aml-flynyddol o'r cyfnod ymarferol hwyaf. Yn bedwerydd, ac rwy'n dyfynnu,
'mae'n bwysig bod rheoli' cyllid ar ôl Brexit
'yn adlewyrchu ysbryd a llythyren y setliad datganoli.'
Yn wir, argymhellodd yr ICA y dylid ailfrandio'r cyrff ariannu i adlewyrchu cenhedloedd y DU y maen nhw'n gweithio oddi mewn iddyn nhw. Byddai'r ymrwymiad symbolaidd hwn yn cyd-fynd â'r cam ymarferol o adael i wledydd datganoledig benderfynu sut y byddai arian yn cael ei wario o fewn eu hawdurdodaethau.
Yn bumed, yn hollbwysig, ni ddylai cyllid fod ceiniog yn llai na'r cynlluniau yr oedd yn eu disodli. Unwaith eto, o'i osod yn erbyn y meini prawf hyn, mae'n amlwg bod cynigion Llywodraeth y DU yn annigonol. Maen nhw'n ceisio osgoi datganoli, sy'n cynrychioli ymgais annymunol i fachu pŵer gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Fel y nododd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr economi, mae'r swm y bydd Cymru'n debygol o'i gael yn methu â diwallu ein hangen ac nid yw'n cyfateb i'r arian a ddarparwyd yn flaenorol. Yn hytrach na £375 miliwn blynyddol, bydd Cymru'n cael £30 miliwn i £40 miliwn o'r gronfa codi'r gwastad, a briwsion o fwrdd y gronfa adnewyddu cymunedol. Mae hyn yn cynrychioli methiant clir i anrhydeddu ymrwymiadau a chyflawni'r hyn a addawyd. Y cyfan fydd ar ôl inni yw arian mân yn hytrach na ffyniant.
Rwy'n eithaf siomedig ynglŷn â'r hyn yr wyf wedi ei glywed heddiw gan y Gweinidog a'i gyd-Aelodau ac eraill, ac rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r rhan fwyaf o elfennau'r cynnig hwn heddiw. Nid wyf i'n adnabod y byd hwnnw y mae'r Gweinidog yn ei ddisgrifio i'r wlad, ac yn ogystal â bod ymhell o'r gwirionedd, mae'r codi bwganod gan y Llywodraeth yn ceisio tanseilio hyder a hyrwyddo ofn ledled y wlad ar adeg pan fo angen cefnogaeth a gobaith ar ein cymunedau a'n heconomi yn fwy nag erioed o'r blaen. Rwyf i mor ddiolchgar bod Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy i gynnig y gefnogaeth honno. Nid oes dim i'w ofni yn sgil dymuniad Llywodraeth y DU i weithio'n agos gyda'n gwlad ni a'i haenau llywodraethu i helpu i sbarduno ffyniant yn y fan yma a helpu i gael Cymru yn ôl ar ei thraed ac mewn cyflwr da ar gyfer y dyfodol.
Mae'r materion ar gyfer y cyd-Aelodau gyferbyn yn un o ofn pur, o beidio â chael dylanwad uniongyrchol ar bopeth a gaiff ei gyflawni yma. Mae hwn yn feddylfryd mor flinedig, negyddol, un y mae'n rhaid symud oddi wrtho. Rwyf i wedi gweld fy hun, yn anffodus, ers blynyddoedd lawer—ac mae yn flynyddoedd lawer—fod datganoli yng Nghymru mewn gwirionedd yn golygu datganoli i Fae Caerdydd a dim pellach o gwbl. Mae'r cynnig yn sôn am bryderon Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael, ac rydym yn parchu eu safbwynt—rwyf i'n parchu eu safbwynt a'u pryder yn llwyr, ac mae pawb yn dymuno cael rhywfaint o eglurder ynghylch cwanta a gwahanol bethau yn fuan iawn. Ond mae un cysyniad y mae'r Gymdeithas yn cytuno arno, ac mae wedi ei ddweud ers blynyddoedd ar flynyddoedd, ond mae'n amlwg nad oes neb wedi gwrando yn y fan yma, a sybsidiaredd yw hynny. Mae'n ymrwymo yn llwyr i sybsidiaredd, ac mae hynny'n golygu datganoli penderfyniadau i'r lefel isaf bosibl. Mae'n ymddangos y bu'r cysyniad hwnnw o ddatganoli gwirioneddol yn estron i Lywodraethau Llafur Cymru yn y gorffennol, ac mae'n bosibl ei fod i'r un hon hefyd.
Nid yw'r un ohonom ni yma, nac unrhyw randdeiliad arall, yn dymuno gweld llai o arian yn dod i Gymru nag a gafwyd yn flaenorol. Felly, rydym yn cytuno bod hwn yn bwynt eithriadol o bwysig, ac yn rhywbeth y bydd fy mhlaid i yn sicrhau ein bod yn siarad drosto pe byddem yn teimlo bod angen gwneud hynny. Ond wedi dweud hynny, mae Llywodraeth y DU—rydych chi wedi ei chlywed dro ar ôl tro—wedi ailadrodd dro ar ôl tro y bydd y gronfa ffyniant gyffredin o leiaf yn cyfateb i dderbyniadau blaenorol yr UE, ac rwyf i'n credu hynny yn llwyr. Mae'r gronfa codi'r gwastad yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i siapio cymunedau ar lawr gwlad. Byddwch chi i gyd yn gwybod, wrth i ni siarad, fod ceisiadau yn dod i mewn gan gynghorau ledled Cymru, gyda chefnogaeth eu Haelodau Seneddol ac, rwy'n gobeithio, eu Haelodau yn y Senedd hon, wrth i ni siarad. Maen nhw'n disgyn ar garreg drws Gweinidogion. Mae'r ceisiadau hyn y mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi eu cyflwyno erbyn yr wythnos hon yn dangos cymaint y mae awdurdodau lleol yn gallu gweithredu ac ymateb i'r her gyda'u hymdrechion wrth weithio gyda Llywodraeth y DU, a byddant yn hybu twf yn uniongyrchol ac yn lledaenu cyfleoedd i filoedd o bobl ledled Cymru. Yn yr un modd, bydd y gronfa adnewyddu cymunedol yn darparu gwerth £220 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi pobl a chymunedau, mewn angen ledled Cymru a gweddill y DU, a pharatoi ffordd ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin.
Llywydd, bydd y gronfa ffyniant gyffredin pan fydd yma, ynghyd â'n cronfa codi'r gwastad ni, yn helpu i rymuso cymunedau lleol drwy sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio i flaenoriaethau pobl. Ni ddylai'r Llywodraeth yn y fan yma ofni hyn, ond dylen nhw groesawu'r dull partneriaeth hwn. Byddai gan wahanol bobl, pe byddan nhw'n cael gafael ar yr ysgogiadau pŵer yma yng Nghymru, bersbectif gwahanol o gefnogaeth Llywodraeth y DU. Byddwn i'n ystyried y cyfleoedd sy'n cael eu datgloi yn gyfle i gryfhau'r bartneriaeth sydd gennym yn y DU, a chyfle i newid pethau er gwell. Yn rhy aml, rydym yn clywed pobl fel fy nghyd-Aelod i yma yn dibrisio ein perthynas yn y DU. Mae'n bryd i ni symud ymlaen.
Llywydd, dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig sawl peth, fel y clywsom ni heddiw, ac un peth arall a ddywedodd, a dyfynnaf, yw:
'Mae'r newid i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyfle i ailosod ac ail-werthuso blaenoriaethau economaidd Cymru ar ôl Brexit ac ar ôl COVID-19 ac i ddatblygu Cronfa Ffyniant Gyffredin sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tanberfformiad economaidd Cymru.'
Mae hwnnw'n ddatganiad cryf. Felly, nawr mae'n gyfnod o gyfle a gobaith, yn amser i ganiatáu i'n gwlad ffynnu, ac amser i weithio yn un ar bob lefel i gyflawni dros ein pobl a rhoi iddyn nhw yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu. Felly, rwy'n annog yr Aelodau yma i drechu'r cynnig gwirion hwn heddiw, ac ymuno â mi i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, a gadewch i ni i gyd symud ymlaen gyda'n gilydd. Diolch, Llywydd.
Os ewch chi am dro o amgylch meinciau'r Ceidwadwyr, gallwch chi weld o hyd, hyd yn oed wedi'r holl amser hyn, marwor y ddadl sydd ynghyn o hyd a adawyd ar ôl gan David Melding, yr olaf o'r undebwr, ac onid oes colled ar ei ôl heddiw? Rwyf i'n credu mai yr hyn yr ydym yn ei weld gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw ymosodiad ar ddatganoli, oherwydd soniodd Peter Fox am sybsidiaredd. Ni allwch gael sybsidiaredd heb strwythur, a'r hyn sydd ar goll o'r rhaglen gyfan hon yw strwythur. Mae Delyth Jewell eisoes wedi sôn am y ffaith bod Caerffili, er bod ganddi'r lefelau anweithgarwch economaidd sy'n cyfiawnhau ei chynnwys, wedi ei heithrio o'r gronfa adnewyddu cymunedol. Roedd hynny yn hepgoriad bwriadol ac yn dilyn yr hepgoriad hwn, siaradais â Wayne David AS, yr wyf i'n gweithio'n agos iawn ag ef. Rwy'n lwcus iawn fel Aelod o'r Senedd oherwydd bod gen i berthynas dda iawn â fy Aelod Seneddol, a gyda'n gilydd mae gennym ni berthynas dda iawn â'n cyngor bwrdeistref sirol. A gyda'n gilydd rydym ni wedi siarad am hyn, ac wedi siarad am ganlyniadau'r penderfyniadau hyn sy'n cael eu gwneud. Cysylltodd Llywodraeth y DU â Wayne David ynglŷn â'r gronfa codi'r gwastad i ddweud wrtho, 'Beth ydych chi eisiau gwario'r arian codi'r gwastad arno?' Nid oedd awdurdodau lleol wedi eu cynnwys yn y sgwrs. Nid oeddwn i wedi fy nghynnwys yn y sgwrs. Mi oedd Wayne. Dyna sut mae'n digwydd ledled San Steffan gydag Aelodau Seneddol, ac mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau Seneddol hynny yn Aelodau Seneddol Ceidwadol.
Nawr, Paul Davies, rydych chi'n gwybod nad fi yw'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol yn naturiol. Nid anifail plaid wleidyddol ydw i yn naturiol. Nid wyf i'n codi yn y Siambr hon ac yn ymosod ar bleidiau gwleidyddol eraill. Gallwch chi gyfrif ar fysedd un llaw y nifer o weithiau yr wyf i wedi ymosod ar Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, ond mae hwn yn benderfyniad anghywir. Mae'n tanseilio datganoli ac nid oes ganddo unrhyw strwythur y tu ôl iddo. 'Mae yna dri chwestiwn allweddol', dywedodd Wayne wrtha i, 'y dylech chi fod yn eu cyflwyno i'r Siambr heddiw.' Beth yw'r strategaeth? Nid oes strategaeth. Beth mae'n cysylltu ag ef? Felly, beth mae bwrdeistref Caerffili yn ei wneud y mae'n cysylltu ag ef? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud y mae'n cysylltu ag ef? Dim—nid oes dim. A beth yw ei werth? Pa werth y bydd yn ei roi i'r cymunedau hynny y mae'n honni y bydd yn effeithio arnyn nhw? Dim. Dyna'r broblem gyda'r gyfres hon o gyllid. Mae'n ymwneud â thanseilio datganoli. Ac rwy'n parchu Paul Davies a gwrandewais ar lawer iawn o'r hyn y gwnaethoch ei ddweud. Rwy'n credu y gwnaethoch chi seilio eich dadleuon ar y briwsion yr ydym yn eu cael gan San Steffan. Fe wnaethoch chi seilio'r dadleuon hynny o'i amgylch, ac rwy'n credu y gwnaeth Peter Fox, y mae gen i barch cynyddol tuag ato, ar ôl cyfarfod ag ef gyntaf yn y Siambr hon, yr un peth heddiw.
Nawr, rwy'n credu bod meddyliau annibynnol ar feinciau'r Ceidwadwyr, a'u lle nhw yw manteisio ar y cyfle i ddilyn yn ôl traed David Melding ac anadlu bywyd i'r marwor hynny sydd wedi eu gadael gan yr olaf o'r undebwr. Dyma eich cyfle. Dyma eich cyfle i sefyll i fyny i Lywodraeth y DU ac achub datganoli.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â dadl mor bwysig i'r Senedd? Mae dau fater allweddol yr hoffwn i eu trafod. Yn gyntaf, mae'r pwysau y mae'r gronfa codi'r gwastad yn ei roi ar awdurdodau lleol yn peri pryder gwirioneddol, wrth i awdurdodau lleol gael cyfnodau byr o amser i gyflwyno prosiectau i'w hystyried ar gyfer gyllid. Mae natur gystadleuol y broses gynnig, ochr yn ochr â chategoreiddio awdurdodau yn ôl angen, sy'n anwybyddu'r rhan fwyaf o fesurau amddifadedd yn llwyr, wedi creu system ar gyfer dyrannu cyllid sy'n gwbl anaddas i'r diben. Ar ben yr heriau hyn, cyfalaf yw'r cyllid a ddarperir yn bennaf, ac eto mae angen cyllid refeniw i gyflogi pobl i gyflwyno ceisiadau a chyflawni'r cynlluniau. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu cadw swyddogion technegol yn ystod y 10 mlynedd o bolisi cyni cyllid cyhoeddus Llywodraeth y DU. Mae angen rhaglen waith helaeth i baratoi ceisiadau i'w cyflwyno i Lywodraeth y DU, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a deiliaid eiddo, paratoi cynlluniau ar gyfer safleoedd allweddol, ymchwilio manwl ac astudiaethau dichonoldeb, paratoi rhestr gostau gadarn ar gyfer gwaith—mae'r rhestr yn parhau. Yn amlwg, mae'r broses gynnig yn cynrychioli rhaglen waith sylweddol iawn a fydd yn amsugno capasiti o nifer o wasanaethau hanfodol eraill. Ni chaiff awdurdodau lleol llwyddiannus wneud cais am yr eildro ar gyfer yr un etholaeth nac ar gyfer prosiect trafnidiaeth trosfwaol arall, felly beth sy'n digwydd os oes diffyg neu os ydynt yn dymuno ychwanegu at brosiect?
Yr ail fater sy'n peri pryder gwirioneddol yw ymgais Llywodraeth y DU i danseilio datganoli a Llywodraeth Cymru wrth osgoi atebolrwydd i bobl Cymru drwy'r Senedd hon. Mae'r themâu buddsoddi yn canolbwyntio ar seilwaith beicio, trafnidiaeth gyhoeddus, gwelliannau i ffyrdd lleol, adfywio canol trefi, buddsoddi mewn diwylliant a threftadaeth, bob un yn gymwyseddau datganoledig. Pam, felly, y mae ceisiadau am gyllid yn gofyn am gefnogaeth ASau ac nid Aelodau'r Senedd? Dyma enghraifft arall o sut y mae'r gronfa codi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin yn anwybyddu ein democratiaeth yma yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ymgysylltu â Llywodraeth Cymru neu ymgynghori â hi yn gyson ar y mater hwn ac awdurdodau lleol. Mae'n rhaid i benderfyniadau am Gymru gael eu rhoi i Gymru er lles pawb yng Nghymru. Dylai fod sgwrs dair ffordd rhwng San Steffan, cynghorau, ac wedi'i harwain gan Lywodraeth Cymru am y cyllid newydd hwn i ddisodli cyllid yr UE fel mater o frys. Diolch.
Rwyf i wedi cael un cais am ymyriad—Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Roeddwn i'n dymuno ymateb i bwynt a wnaeth Peter Fox. Nid yw hwn yn fater gwleidyddol yn ei hanfod. Pan oeddwn i'n Weinidog yn Llywodraeth Cymru, gweithiais ochr yn ochr â Gweinidogion Ceidwadol. Fe wnaethom ni eistedd yn yr ystafell ddirprwyo ym Mrwsel a dadlau yr un achos dros weision sifil a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cynllunio a datblygu rhaglen y cronfeydd strwythurol. Fe wnaethom ni ddadlau yr un achos yn y Cyngor Materion Cyffredinol yn Lwcsembwrg a'r Cynghorau Materion Cyffredinol ym Mrwsel. Fe wnaethom ni siarad gyda'n gilydd a gweithio gyda'n gilydd, a Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth glymblaid Geidwadol y DU oedd hynny. Yr hyn y mae'r Llywodraeth y Deyrnas Unedig hon wedi ei wneud yw torri'r cydweithredu hwnnw, torri'r bartneriaeth honno, ac rwyf i'n ofni mai casgliad y gwaith hwnnw fydd chwalu'r undeb.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Fe wnaf i geisio rhedeg trwy rai o'r sylwadau yn y ddadl cyn cloi. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y ddadl wedi tynnu sylw yn glir iawn at sut y mae pobl yn teimlo am Lywodraeth bresennol y DU a realiti yr hyn sy'n digwydd, nid yn unig o'r sylwadau a wnaed gan lefarydd Plaid Cymru ar yr economi am yr heriau sy'n ymwneud â'r meini prawf blaenoriaethu a'r diffyg tryloywder, a chlywsoch chi'r rheini gan Alun Davies, Hefin David, Carolyn Thomas ac eraill. Yn anffodus, dyna realiti y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Ni allwn ni ddweud wrthych yn onest am yr holl feini prawf gan nad ydyn nhw'n gwneud synnwyr ac o ran y data yr ydym ni'n eu deall, mae'n dal i fod mor anodd ei deall. Byddwch chi wedi clywed Huw Irranca-Davies ar ei eistedd yn cadarnhau bod Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Chaerffili, yn ogystal â Wrecsam, yn ogystal â Gwynedd i gyd wedi eu heithrio. Ac wrth i chi edrych ar y data gwrthrychol, mae hynny'n sefyllfa hurt. Mae'n gwbl hurt i Richmond gael ei gynnwys, tra bod cwm Ogwr, mewn gwirionedd, wedi ei eithrio. Nawr, mae hynny yn sefyllfa hurt i fod ynddi.
Mae her i bob un ohonom ni ynglŷn â pha mor ddifrifol yr ydym ni'n ymdrin â'n cyfrifoldebau. Rwyf i yn credu, wrth i chi edrych nid yn unig ar y pwyntiau ynglŷn â thryloywder a strwythur a wnaeth Hefin David, ond roedd yn bwysig clywed yr hyn a ddywedodd Carolyn Thomas am y rhybudd byr iawn a gafodd yr awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau a'r diffyg cydlyniad gwirioneddol. Ac mae arnaf ofn mai'r gwir diamheuol yw bod y dull hwn yn bygwth yr undeb. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n credu yn nyfodol yr undeb ac yn rhan Cymru oddi mewn iddo mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus, ond bydd ailymddangosiad canoli yn dod i sathru dros y sefydliad hwn a'r Llywodraeth Cymru y mae pobl Cymru wedi eu dewis, yna fe welwch chi ragor o heriau i ddyfodol yr undeb. Ac mae angen i bobl sy'n credu yn yr undeb, boed ar y dde neu'r chwith, fyfyrio o ddifrif ar y llwybr yr ydych chi arno.
Byddwn i'n dweud bod y sylwadau a wnaed gan Sam Rowlands a Peter Fox—. Edrychwch, rwyf i wedi gweithio gyda Sam a Peter ar wahanol adegau yn eu swyddogaethau blaenorol fel arweinwyr awdurdodau lleol ac mae gen i barch mawr tuag atyn nhw er fy mod i'n anghytuno â nhw. Ond heddiw, mae arnaf i ofn eich bod wedi anghofio effeithiau ymarferol y toriadau i gyllid—y bygythiadau i Fusnes Cymru, y banc datblygu, y rhaglen brentisiaethau, ymchwil a datblygu. Dyna realiti yr hyn a fydd yn digwydd yn sgil ymagwedd atomedig bresennol Llywodraeth y DU, ac ni allwch ymdrechu'n ddewr i ddweud bod ymarfer canoli yn Whitehall yn newyddion gwych mewn gwirionedd, oherwydd bod ymgais fwriadol i yrru hollt rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn fan hyn. Ac nid wyf i'n credu y bydd hynny yn cael ei dderbyn. Ac felly, dylai Aelodau Ceidwadol fyfyrio yn wirioneddol ar eu blaenoriaethau.
Yr wythnos diwethaf, yn y Siambr hon, gwnaethoch chi feirniadu dadleuon cyfansoddiadol gan ddweud eich bod yn dymuno canolbwyntio ar bwerau'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru. Fe wnaethoch chi alw ar bleidiau eraill i barchu barn pobl Cymru ar 6 Mai, ac eto, dyma chi yn hyrwyddo ymgais fwriadol i danseilio'r farn honno, i weithio ffordd o gwmpas barn pobl Cymru. Mae dull presennol Llywodraeth y DU yn gwarantu dadl, gan ei bod i'w gweld yn dryloyw yn ceisio meddiannu'r pwerau y pleidleisiodd pobl Cymru drostyn nhw mewn dau refferendwm gwahanol yn ogystal ag etholiadau lluosog. Pwy all ddod i'r lle hwn yn y Senedd hon yn wirioneddol a dadlau, fel Aelod etholedig, y dylid dileu pwerau a chyfrifoldeb o'r lle hwn? Byddai'n rhyfeddol pe byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn dewis parhau i gefnogi toriad sylweddol yn y gyllideb. Ni fydd honni bod y toriad yn y gyllideb sydd eisoes wedi ei gyflawni eleni gan Lywodraeth y DU yn gynnydd mewn gwirionedd rywsut yn cael ei dderbyn. Ac mae ymagwedd y Ceidwadwyr Cymreig sy'n groes i realiti, ar y naill law, yn dangos teyrngarwch gwirioneddol i Weinidogion yn Whitehall ond nid i Gymru. Mae ein dull gweithredu yng Nghymru yn ddull rhanbarthol cydlynol gyda chefnogaeth rhanddeiliaid ac ie, gyda datganoli i ranbarthau Cymru y tu allan i Fae Caerdydd.
Ac fel y gŵyr Sam Rowlands a Peter Fox, mae gan lywodraeth leol swyddogaeth arweiniol allweddol yn y cydbwyllgorau corfforaethol newydd. Mae gan y Llywodraeth Cymru hon fandad newydd a chryf ar gyfer datganoli i lywodraethu ar ran pobl Cymru. Nid sarhad ar bobl Cymru yn unig yw osgoi'r sefydliadau etholedig hyn, byddai yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ei barodrwydd i gydweithio ar gyllid yn y dyfodol yn glir i Brif Weinidog y DU. Ysgrifennais yn gynnar y mis diwethaf at yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog sy'n arwain ar y cronfeydd hyn i ofyn am gyfarfod cyn gynted â phosibl i drafod sut y gallwn sicrhau bod y cronfeydd yn llwyddo yng Nghymru a'u defnyddio fel arwydd o ailosod cysylltiadau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau newid ymarferol ac effeithiol. Nid wyf i wedi cael ymateb eto.
Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â ffyniant yn y dyfodol yn fan hyn, yng Nghymru a dros Gymru, mae'n rhaid iddi roi cyfran deg o wariant y DU i Gymru a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon, nid mewn ffordd symbolaidd, ond fel partner dilys yn y broses o wneud penderfyniadau a chyflawni, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd.
Ni all fod ymgais dychwelyd pethau i ffordd hen ffasiwn o weithio, pan oedd Gweinidogion Whitehall bob amser yn gwybod orau, neu felly byddai'n cael ei dybio. Mae gan y lle hwn y mandad, a dylai barhau i fod â'r cyfrifoldeb i weithredu yn y materion hyn. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi cynnig y Llywodraeth a gwelliant Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 1? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod nawr dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais. Felly, atal y cyfarfod.