– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Eitem 9 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Darren Millar a Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Y cynnig sydd ger ein bron heddiw yw bod Senedd Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru. Ac fel y nododd y Dirprwy Lywydd, mae hwn hefyd wedi'i gyd-gyflwyno gan Blaid Cymru. Felly, rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar.
Sylwaf nad yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw welliannau i'r cynnig hwn heddiw; rwy'n deall hynny, oherwydd mae'r cynnig o'n blaenau yn eithaf syml, onid ydyw? Mae'n fater syml o, 'A ydych chi'n cytuno â'r datganiad ai peidio?' Mae blwyddyn wedi bod ers i'r Ceidwadwyr Cymreig alw'n gyntaf am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru, ac ers dros flwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cais hwnnw, ond nid y Ceidwadwyr Cymreig yn unig sydd wedi gwneud y cais hwnnw, mae eraill ar draws y Senedd hon wedi ei wneud ac mae gweithwyr iechyd proffesiynol a chyrff iechyd ledled Cymru wedi'i wneud hefyd.
Yn anffodus, mae pandemig COVID-19 wedi achosi bron i 8,000 o farwolaethau yng Nghymru, ac mae'r effeithiau, wrth gwrs—rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno—wedi bod yn ddinistriol i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ac i gymunedau ledled Cymru. Mae'r effeithiau'n sylweddol wrth gwrs. Nid yw hwnnw'n air digon pwerus, mewn gwirionedd. Mae'n fater mor fawr pan fyddwch yn colli rhywun sy'n agos atoch. Mae hwn yn fater o bwys i bobl Cymru.
Ers mis Ebrill 2020, mae'r Prif Weinidog wedi'i gwneud yn glir y byddai penderfyniadau gwahanol yn cael eu gwneud pe bai hynny er budd Cymru ac mae hwn yn fantra y mae'r Prif Weinidog wedi'i yngan sawl gwaith; mae'n ailadrodd y datganiad hwn o hyd, ac eto nid yw ef a'r Llywodraeth yn fodlon cael ymchwiliad penodol i Gymru gyfan; maent yn hapus i gael troednodyn neu rai penodau mewn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, sy'n annhebygol o fanylu ar rôl Llywodraeth Cymru mewn unrhyw fath o ddyfnder.
Byddwn yn dweud bod yna hefyd—. Gofynnais i mi fy hun ynglŷn â'r ddadl hon, 'Pam y mae Llywodraeth Cymru mor amharod i gefnogi ymchwiliad cyhoeddus i Gymru yn unig?' A yw'n ymwneud â bai? Oherwydd ni ddylai ymwneud â hynny. Mae ymchwiliad cyhoeddus yn tynnu sylw at arferion da a drwg. Rwy'n credu y gall gwledydd y DU ddysgu oddi wrth ei gilydd yn y ffordd y maent wedi ymdrin â'r pandemig, gan rannu arferion da a drwg a gall gwledydd eraill ledled y byd hefyd edrych ar yr ymchwiliadau cyhoeddus sy'n digwydd yma yn y DU a ledled y DU. Mewn perthynas ag arferion da, byddwn yn disgwyl y byddai unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ar lefel y DU ac unrhyw ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru yn taflu goleuni cadarnhaol, er enghraifft, ar y ffordd y mae'r rhaglen frechu wedi cael ei thrin a'i chynnal; caniatáu i wledydd eraill ledled y byd edrych i mewn ar y rhaglen frechu gadarnhaol sydd gennym yma yng Nghymru; tynnu sylw at y ffordd y mae gwledydd y DU wedi ymdrin â'r pandemig mewn ffyrdd gwahanol ac wedi gwneud penderfyniadau gwahanol. Felly, mae ymchwiliad cyhoeddus yn sicr yn ymwneud â dysgu gwersi, rhag ofn—duw a'n gwaredo—y byddwn yn wynebu pandemig arall, neu amrywiolyn sy'n mynd â ni nôl i sefyllfa na fyddem eisiau ei gweld. Ond byddai ymchwiliad cyhoeddus hefyd yn dangos sut y gwnaed penderfyniadau gan Weinidogion. Wrth edrych yn ôl, credaf y gallwn ddweud, mae'n debyg, fod Gweinidogion ledled gwledydd y DU wedi gwneud camgymeriadau, ond byddai ymchwiliad cyhoeddus yn archwilio, 'A wnaeth y Gweinidogion hynny y penderfyniadau hynny'n gywir, yn seiliedig ar y wybodaeth roeddent yn ei chael gan weithwyr proffesiynol ar y pryd?'
Mae'n ymddangos bod yna osgoi craffu, ac mae nifer o faterion y mae angen eu harchwilio. Rwyf wedi tynnu sylw at rai enghreifftiau da, ond mae rhai enghreifftiau y mae angen eu cwestiynu. Rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ateb rhai cwestiynau difrifol ynglŷn â heintiau COVID-19 a gafwyd mewn ysbytai yn ystod y pandemig a dangos bod gwersi wedi'u dysgu mewn gwirionedd. Rydym wedi clywed bod gwersi wedi'u dysgu, ond gall ymchwiliad cyhoeddus ddangos hynny. Gwyddom fod 1,806 o bobl—hynny yw, oddeutu un o bob pedwar o bobl—a fu farw o COVID-19 yn ôl pob tebyg neu'n bendant wedi dal COVID-19 ar wardiau ysbytai. Yn Hywel Dda, mae'r data'n un o bob tri. Cymru sydd â'r nifer uchaf o farwolaethau yn y DU gyda chyfradd o 249.5 o farwolaethau ym mhob 100,000 o bobl. Drwy gydol adroddiadau am drosglwyddiadau o ward i ward, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gwersi'n cael eu dysgu, ond rwy'n edrych ar hyn, ac rwy'n edrych ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog iechyd yr wythnos diwethaf, y byddai ymchwiliad i'r marwolaethau hyn—wel, nid ydym wedi cael unrhyw fanylion eto. Pwy fydd yn cynnal yr ymchwiliadau? Sut y cynhelir yr ymchwiliadau yn absenoldeb unrhyw—? Efallai y daw'r wybodaeth hon, rwy'n derbyn hynny—[Torri ar draws.] Na, rwy'n derbyn yn llwyr y gallai'r Gweinidog ddarparu'r manylion hynny; rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond os na chaiff y mathau hyn o gwestiynau eu gofyn, bydd ymchwiliad cyhoeddus yn mynd at wraidd y mater a darparu atebion y gallai teuluoedd fod eu heisiau ac y byddwn yn disgwyl iddynt fod eu heisiau.
Nawr, mae Prif Weinidog Cymru'n dweud y byddai'n well ganddo gael ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, ond drwy gydol y pandemig, drwy gydol Brexit, drwy gydol sefyllfaoedd cenedlaethol eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno'n gyson nad yw llais Cymru wedi cael ei glywed yn yr undeb. Drwy beidio â chael ymchwiliad cyhoeddus i Gymru gyfan, mae Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yn lleihau ei llais yn yr undeb, felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma mewn modd ystyrlon, ac rwy'n gobeithio y cawn ymateb ystyrlon y prynhawn yma gan y Gweinidog hefyd wrth iddi ymateb i'r ddadl hon. Diolch yn fawr.
Diolch am gael cyd-gyflwyno'r cynnig yma y prynhawn yma. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus sydd yn benodol i Gymru. Mi fyddai hynny yn rhoi cyfle unigryw i asesu a dysgu gwersi o'r ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â'r pandemig, ond, yn hytrach na hynny, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu dewis cael un bennod Gymreig mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.
Rŵan, bydd Aelodau yn llwyr ymwybodol dros y 18 mis diwethaf yma fod Plaid Cymru wedi cytuno yn amlach na pheidio gyda'r modd pwyllog y mae'r Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i warchod iechyd cyhoeddus Cymru, mewn gwrthgyferbyniad llwyr efo gweithredoedd peryglus y Torïaid yn San Steffan. Ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni wedi rhoi sêl bendith i bob penderfyniad, a dydy hynny ddim yn golygu nad oes yna ddim gwersi i'w dysgu.
Mae bron i 6,000 o bobl wedi marw yn sgil COVID-19 ers cychwyn y pandemig. Mae yna lefelau anfesuradwy o salwch wedi cael eu creu, heb sôn am yr anabledd cronig sy'n gysylltiedig â COVID hir. Ar ben hynny, collwyd chwe mis o ddiwrnodau addysg, a chafwyd sgil-effeithiau economaidd pellgyrhaeddol a straen cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd. Mae hyn i gyd yn dweud bod angen ymchwiliad, ac mae angen ymchwiliad penodol i Gymru, a hynny oherwydd, yn syml iawn, mae'r argyfwng yma wedi digwydd mewn maes sydd wedi'i ddatganoli. Rydyn ni wedi gallu siartio ein cwrs ein hunain yn ystod y pandemig am fod iechyd yn faes wedi'i ddatganoli, ac felly mae'n gwneud synnwyr llwyr ein bod ni'n craffu yn fanwl ar y camau unigryw a gymerwyd yng Nghymru oherwydd bod y maes wedi'i ddatganoli i ni, a bod gennym ni'r cyfle i fod wedi creu ein hymateb ni ein hunain. Dro ar ôl tro, mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio mai ymateb Cymreig sydd gennym ni i'r pandemig yng Nghymru, ac felly rhaid i'r chwyddwydr fod ar yr ymateb yma yng Nghymru. Doedd o a dydy o ddim yr un peth â'r ymateb yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig.
Mae'r Institute for Government yn dweud y byddai sefydlu un ymchwiliad mawr a allai ymchwilio i bob un o'n pedair Llywodraeth yn yr un modd yn anodd yn gyfreithiol, yn logistaidd ac yn wleidyddol. Mae Plaid Cymru'n croesawu'r ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig hefyd, ond a ydyn ni'n credu bod ymchwiliad o'r math yna, efo un bennod ar faterion Cymreig, yn mynd i fedru asesu bob dim efo'r manylder sydd ei angen? Mae perig y bydd llais a phrofiad Cymru ar goll unwaith eto.
Os na fydd yna ymchwiliad Cymreig, sut byddwn ni'n gwybod os gwnaiff Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi o'r ymarfer dril pandemig Cygnus nôl yn 2016? Sut byddwn ni wir yn gwybod pam roedd Llywodraeth Cymru mor hwyr yn ymateb i'r feirws ar y cychwyn? Dwi'n cofio'n glir yr oedi efo canslo'r gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban, er enghraifft. Sut byddwn ni wir yn gwybod beth ddigwyddodd efo ffiasgo profion Roche? Sut byddwn ni wir yn gwybod pam gwnaeth Llywodraeth Cymru adael i gleifion efo feirws fynd o'r ysbytai i'r cartrefi gofal?
Yn yr un modd, sut byddwn ni'n gallu gwybod sut i adeiladu ar rai o'r llwyddiannau sydd wedi bod, adeiladu ar gyfer y dyfodol—er enghraifft, fel y mae Russell George wedi sôn amdano fo, ein llwyddiant ni fel gwlad efo'r cynlluniau brechu a'r system tracio ac olrhain llwyddiannus iawn mae'n cynghorau sir ni wedi arwain arnyn nhw?
I gloi, felly, gorau po gyntaf y gallwn ni gael ymchwiliad Cymreig a'i roi o ar waith yn fuan i ni gael at y gwir ac i ddysgu'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Felly, dwi'n annog pawb i gefnogi'r cynnig yma heddiw. Diolch.
Aelodau, mae'n drueni fod angen i ni gael y ddadl hon heddiw, gan na ddylai fod ei hangen mewn gwirionedd, ac rwy'n ofni, Ddirprwy Lywydd, y bydd llawer ohonom yn dweud yr un pethau, oherwydd maent yn negeseuon cryf ac rydym yn credu'n angerddol ynddynt. Gan fod y penderfyniadau ar sut yr ymdrinnir â'r pandemig COVID wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, nid yw ond yn iawn fod rhaid i hynny olygu bod y craffu a'r atebolrwydd sy'n gysylltiedig â hynny i gyd yn digwydd yng Nghymru hefyd. A dylai gael ei ffocws Cymreig ei hun hefyd drwy ymchwiliad annibynnol i Gymru.
Pe bai'r gwledydd datganoledig, drwy gydol y pandemig, wedi cytuno i ddull gweithredu cyson yn y DU, credaf y byddai achos teg wedi bod dros gael un bennod i Gymru mewn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, ond drwy gydol yr 16 mis diwethaf, rydym wedi gweld dehongliadau gwahanol o'r cyngor meddygol a gwyddonol, gan arwain at ystyriaethau Cymru'n unig. Ac nid oes unrhyw beth o'i le ar hynny. Mae hyn hefyd wedi digwydd yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, a dylent hwythau hefyd gynnal eu hymchwiliadau cyhoeddus eu hunain. Heddiw, unwaith eto, clywsom gan Brif Weinidog Cymru, a rannodd safbwynt y Llywodraeth, safbwynt gwahanol, ac mae hynny'n deg hefyd. Ond unwaith eto, mae'n dangos bod penderfyniadau gwahanol yn cael eu gwneud yma a bod angen eu dwyn i gyfrif yma.
Droeon, rydym wedi gweld a chlywed llefarwyr y Llywodraeth yn beirniadu gweithredoedd Llywodraeth y DU, yn briodol neu'n amhriodol ar adegau, a gwn fod llawer o bobl yn aml wedi teimlo bod rhai penderfyniadau wedi'u gwneud yng Nghymru yn sgil awydd i fod yn wahanol yn wleidyddol heb unrhyw reswm arall. Nawr, nid wyf yn dweud bod hynny'n wir, ond mae yna ganfyddiad o hynny, ac mae'n rhaid dwyn y rheini ohonom sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau i gyfrif am ein penderfyniadau. A lle mae'r rheini, yn yr achos hwn, yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, nid yw ond yn iawn ac yn briodol i ni gael ein hymchwiliad cyhoeddus ein hunain i edrych ar bob agwedd ar y pandemig a sut y cafodd ei reoli.
Mae'n rhaid iddo hefyd dynnu sylw at yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a nodi'r hyn nad yw wedi gweithio'n dda, a pha wersi y mae angen i ni fod wedi'u dysgu o'r daith ofnadwy hon rydym i gyd wedi bod arni. Mae cymaint o Gymry wedi cael eu heffeithio mewn cymaint o ffyrdd, ac mae angen atebion Cymreig ar lawer ohonynt a cheir awydd i ddeall pam y digwyddodd rhai pethau a pham na ddigwyddodd pethau eraill. Ddirprwy Lywydd, gwn nad oedd llawlyfr ar sut i reoli pandemig, ac ni allaf ond dychmygu pa mor anodd oedd hi i Weinidogion a'r Llywodraeth wneud rhai o'r penderfyniadau y maent wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod eithafol a heriol hwn. Ac rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt am hynny, ond mae pobl Cymru yn haeddu eu hymchwiliad eu hunain.
Nid diben ymchwiliad cyhoeddus yw ceisio dal pobl ar eu bai, ond fel y dywedais yn gynharach, mae'n ymwneud mwy â dysgu gwersi fel y gallwn fod yn gwbl barod os byddwn, duw a'n gwaredo, mewn sefyllfa debyg eto. Felly, Ddirprwy Lywydd, rwyf am roi'r gorau iddi yn awr—mae'r neges yn glir—ond er lles pobl Cymru, rwy'n annog yr Aelodau yma i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Os ydym, fel cenedl, am ddeall yr hyn sydd wedi gweithio a deall pa gamgymeriadau a wnaed yn ystod y 18 mis diwethaf ac atal y rheini rhag digwydd eto, a mynd i'r afael â'r methiannau a'r diffygion sylfaenol a gyfrannodd at y camgymeriadau hynny, rydym angen ymchwiliad mor feirniadol â phosibl. Dyna pam yr arweiniodd y Democratiaid Rhyddfrydol alwadau yn San Steffan am ymchwiliad brys yn y Deyrnas Unedig i'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â'r pandemig, gan lusgo Llywodraeth Geidwadol amharod yn y Deyrnas Unedig i gytuno.
Rwy'n rhannu pryderon fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal yr ymchwiliad hwn y flwyddyn nesaf, a byddwn yn annog Prif Weinidog Cymru a'r rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr i roi pwysau ar Brif Weinidog y DU i gyflawni'r ymchwiliad hwnnw cyn gynted ag sy'n bosibl yn ymarferol. Ond rwy'n ymwybodol fod mwy na 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth ysbyty nad yw'n driniaeth frys ym mis Chwefror eleni—y lefel uchaf erioed—a bod achosion COVID, fel y clywsom heddiw, ar gynnydd drwy Gymru, yn anffodus. Efallai fod y cyfyngiadau symud yn llacio rhywfaint, ond nid yw hynny'n golygu bod y pandemig ar ben. Mae'r GIG a gwasanaethau gofal a'u staff yn wynebu pwysau enfawr, ac mae gennym bryderon ynglŷn â'r sylw a'r adnoddau y byddai gofyn eu cael ar gyfer ymchwiliad yng Nghymru.
Mae'r Prif Weinidog wedi cael sicrwydd, ac rwy'n croesawu hynny, ynglŷn â'r modd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhan o ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, ac mae'n hollbwysig fod penderfyniadau yng Nghymru, a'r rhyngweithio â phenderfyniadau a wneir yn San Steffan, yn cael eu deall a'u harchwilio'n llawn. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n croesawu galwadau i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymdrin â'r pandemig, ar wahân i ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan. Flwyddyn yn ôl, galwodd fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig, ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol, ac yn bwysicaf oll, y teuluoedd a oedd yn galaru am y bobl sydd wedi marw yng Nghymru o COVID-19, am yr ymchwiliad hwn, a flwyddyn i'r diwrnod hwnnw, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod y cais, ac ond eisiau cael ychydig o baragraffau mewn adroddiad ar gyfer y DU gyfan.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod rhoi atebion i bobl Cymru mewn perthynas â'r penderfyniadau a wnaeth. Mae'r Llywodraeth eisiau gwneud yr holl benderfyniadau tra'n osgoi ymchwiliad cyhoeddus i Gymru, oherwydd maent yn gwybod na fyddant yn hoffi'r canlyniad na'r craffu. Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn gyfle i ddysgu arferion gorau, ac os yw'r Prif Weinidog yn hyderus ynglŷn â'i ddull o weithredu, nid wyf yn gweld pam fod yna amharodrwydd yma i gael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.
Dywed y Prif Weinidog y byddai'n well ganddo'r ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan. Ac eto, mae ei Lywodraeth wedi cwyno'n arw nad yw llais Cymru'n cael ei glywed yn yr undeb, ac nad yw Llywodraeth y DU yn poeni am Gymru. Fodd bynnag, pan fydd ef a Llywodraeth Cymru eisiau osgoi craffu, maent yn fwy na pharod i guddio y tu ôl i'r dull pedair gwlad o weithredu a throsglwyddo unrhyw gyfrifoldeb i fyny'r M4 a beio rhywun arall.
Y Prif Weinidog oedd yn gyfrifol am ymdrin â'r pandemig hwn yng Nghymru, ac mae angen iddo ef a'i Lywodraeth berchnogi eu penderfyniadau. Felly, gadewch i ni atgoffa ein hunain pa benderfyniadau a gweithredoedd a gymerodd Llywodraeth Cymru yn annibynnol, y penderfyniadau a'r gweithredoedd y maent yn ceisio'u hysgubo o'r neilltu drwy wrthod yr ymchwiliad hwn. Roedd y Llywodraeth yn cefnogi dull pedair gwlad o weithredu ar y dechrau, ac yna fe wnaethant ddweud eu bod am ddilyn eu trywydd eu hunain. O'm rhan i, mae hynny'n dangos y cyfrifoldeb a ddaw gyda hynny.
Anfonodd y Llywodraeth dros 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau anghywir ym mis Ebrill a mis Mai 2020, enghraifft o gamdrafod data cyhoeddus ar raddfa enfawr. Mae angen edrych ar hynny. Honnodd y Llywodraeth ei bod yn cefnogi busnesau, ond mae llawer o fusnesau wedi wynebu misoedd o ansicrwydd, penderfyniadau munud olaf a diffygion wrth ddarparu cymorth ariannol y Llywodraeth. Mae angen ymchwilio i hynny. Cafodd y Llywodraeth ddechrau anhrefnus i'r broses o gyflwyno'r brechlyn, gyda'r Prif Weinidog ei hun yn dweud, 'Nid sbrint ydyw; nid cystadleuaeth ydyw ychwaith.' Nid yw hwnnw'n sylw da iawn i'w wneud. Roedd hyd yn oed Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud bod ei sylw'n 'wirioneddol ddryslyd'. Ac mae'r Llywodraeth hefyd wedi gweld sefyllfa lle mae plant yng Nghymru wedi colli mwy o addysg nag unrhyw ran arall o'r DU.
Mae angen edrych ar y pethau hyn, a gallwn fynd ymlaen ac ymlaen am y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ar eu pen eu hunain, a'r penderfyniadau a wnaethant hefyd er gwell, neu er gwaeth, ac mae angen craffu ar y rhain i gyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwneud y peth iawn ac yn rhoi gwahaniaethau pleidiol i'r naill ochr er mwyn darparu'r atebion y mae pobl Cymru yn eu haeddu a phleidleisio dros gynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, sef Canol De Cymru, hyd at heddiw, mae yna 58,615 o achosion wedi bod. O hynny, mae 2,095 o bobl wedi marw o COVID-19, a dŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o gymaint o straeon torcalonnus, gyda nifer o bobl yn colli nifer o anwyliaid o fewn yr un teulu, gan feddwl, felly, fod yna dros 2,000 o angladdau wedi bod a chymaint o ddagrau o fewn ein cymunedau ni. A dwi'n siŵr ein bod ni'n gytûn bod yr 16 mis diwethaf yma wedi bod yn heriol dros ben i bob Llywodraeth ledled y byd. Ac, wrth gwrs, i nifer o ymchwilwyr, nid oedd pandemig o'r fath yma yn gyfan gwbl annisgwyl, gan fod nifer o astudiaethau wedi'u cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf yn pwysleisio'r cysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd ac effaith hyn ar iechyd pobl a'r risg o ledaeniad clefydau heintus.
O ran Cymru, mi oeddem ni mewn sefyllfa fregus dros ben o ran iechyd pobl Cymru, fel y nodwyd yn 'Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, a dwi'n dyfynnu:
'Yn gyffredinol, mae disgwyliadau oes a disgwyliadau oes 'iach' yn cynyddu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig. O ran disgwyliad oes cyffredinol, mae gwahaniaeth o oddeutu 8 mlynedd rhwng yr ardaloedd â’r mwyaf a’r lleiaf o amddifadedd, ac mae’r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes iach yn oddeutu 18 o flynyddoedd. Ni oes tueddiad amlwg y bydd y gwahaniaethau hyn yn lleihau yn y dyfodol.'
Yn anffodus, dyma oedd y realiti o ran iechyd ein poblogaeth pan ein tarwyd gan COVID-19, a wnaeth unwaith eto amlinellu, yn greulon dros ben, y gwahaniaethau sylweddol rhwng ein dinasyddion mwyaf a lleiaf difreintiedig, a dangos, yn fy marn i, methiant Llywodraeth Cymru—a Llywodraethau Prydain ymhell cyn sefydlu'r Senedd hon—o ran mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio—wel, efallai ddim pawb, oherwydd mae rhai Aelodau tipyn yn iau na fi yn y Senedd erbyn hyn—ond mae nifer ohonom yn mynd i gofio'r targedau o gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020, ac mi oedd yna dargedau uchelgeisiol yn y fan honno. Ond erbyn 2021, mae lefelau tlodi plant yn uwch nag erioed.
Beth mae hyn wedi'i olygu i'n cymunedau ni, fel y dengys y data diweddaraf, yw mai Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod gyda'r canran ail uchaf o farwolaethau yn y Deyrnas Unedig—yn ail i Southend-on-Sea—gyda 366 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth. A hefyd yn y 10 uchaf o awdurdodau y mae Merthyr Tydfil a Phen-y-bont, gan danlinellu unwaith eto pa mor fregus yw ein cymunedau ôl-ddiwydiannol. Wrth gwrs, er ein bod yn cael ein cynnwys yn y tablau Prydeinig yma yn cymharu o ran awdurdodau ledled y Deyrnas Unedig, does dim gwadu'r ffaith bod y cyd-destun o ran rheoliadau yn wahanol yma yng Nghymru, a dyna pam dwi, heddiw, yn cefnogi'r galw am ymchwiliad annibynnol yn benodol i Gymru.
Wrth gwrs bod yn rhaid inni fod yn rhan o ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig; mi ydyn ni'n gysylltiedig fel gwledydd ac mi fyddai fo'n orffwyll os byddem ni ddim. Ond, ar Lywodraeth Cymru mae pobl Cymru wedi bod yn ddibynnol dros y cyfnod yma o bandemig. Ar ran Llywodraeth Cymru y mae'r heddlu wedi bod yn gweithredu o ran y gweithdrefnau a sicrhau bod pobl yn cydfynd â'r rheoliadau yma yng Nghymru. Does dim ond angen edrych ar bethau fel Sky News a'r BBC i weld eu bod yn pwysleisio pa mor wahanol yw'r rheolau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ac, yn Rhondda Cynon Taf, gwelsom Lywodraeth Cymru—nid Llywodraeth Prydain—yn cymryd y penderfyniad i ddod â rheoliadau penodol i Rhondda Cynon Taf pan oedd yr achosion ar eu gwaethaf.
Felly, i fi, gyda'r feirws yma i aros a gyda'r posibilrwydd o fwy o glefydau heintus yn y dyfodol, mae'n hanfodol ein bod ni'n cael ymchwiliad llawn yma yng Nghymru er mwyn ein bod ni'n dysgu'r gwersi a sicrhau bod ein cymunedau ni, yn y dyfodol, pan fydd y math yma o beth yn digwydd eto, ddim yn gweld y lefelau erchyll hyn o golli bywyd, a hefyd, wrth gwrs, y sgil-effeithiau o ran COVID tymor hir. I mi, mae'n rhaid inni edrych o ran pam yr oedd Cymru mewn sefyllfa mor fregus a sut aethon ni ati. Os na wnawn ni gael ymchwiliad yma yng Nghymru, ni fyddwn yn gallu gwneud dim i amddiffyn ein cymunedau yn y dyfodol, ac mi fydd nifer o'r marwolaethau hyn wedi bod i ddim.
O ystyried eu hanes dros nifer o flynyddoedd, nid yw'r modd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod galwadau hirsefydlog am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn annisgwyl. Fodd bynnag, mae'r mater hwn yn rhy bwysig i'w osgoi yn y ffordd hon. Oes, mae angen ymchwiliad ledled y DU, ond mae pobl Cymru hefyd angen i'w Llywodraeth yng Nghymru gael ei dwyn i gyfrif.
Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig wedi siomi llawer o fusnesau yng ngogledd Cymru, ac rwy'n dweud hyn nid fel sylw bachog pleidiol ond oherwydd fod cynifer o fusnesau pryderus yn dweud hyn wrthyf. Mae'r difrod economaidd a achoswyd gan y pandemig wedi achosi'r dirwasgiad gwaethaf yn y DU ers 300 mlynedd. Mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU wedi darparu dros £400 biliwn o gymorth i ddiogelu swyddi a busnesau, gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei chyfran lawn.
Rhagwelodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd lefel diweithdra y DU ar ei uchaf 2 filiwn yn is na'r hyn a ofnwyd yn flaenorol, ac mae'r gyfradd ddiweithdra yn y DU yn is nag UDA, Canada, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen ac Awstralia. Mae swyddi gwag yn y DU tua 29 y cant yn uwch na'r hyn oeddent cyn y pandemig, ac mae nifer y bobl mewn swyddi bellach wedi tyfu am bum mis yn olynol. Mae hyder defnyddwyr yn y DU wedi dychwelyd i lefelau cyn yr argyfwng. Mae hyder busnesau a'u bwriadau i fuddsoddi ar lefelau uwch nag erioed, ac roedd y nifer o fusnesau a aeth yn fethdalwyr yn 2020 yn is nag yn 2019.
Fodd bynnag, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU. Hyd yn oed cyn i'r pandemig daro, Cymru oedd â'r lefel isaf yn y DU gyfan o nwyddau neu wasanaethau a gynhyrchir gan bob swydd. Mae enillion wythnosol cyfartalog yng Nghymru bron £50 yn is na chyfartaledd y DU, ac nid yw'n syndod fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld na fydd allbwn Cymru yn gwella i lefelau cyn COVID-19 tan fisoedd ar ôl y DU y flwyddyn nesaf.
Bob tro y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol i helpu busnesau i oroesi'r pandemig, mae wedi eithrio busnesau gwely a brecwast bach. Ar bob achlysur, mae busnesau gwely a brecwast bach wedi cysylltu â mi i leisio'u hanobaith ac i ddweud na allant ddeall pam nad yw'r rhan hanfodol hon o economïau twristiaeth lleol wedi cael cymorth. Ar bob achlysur, rwyf wedi dwyn hyn i sylw Llywodraeth Cymru ond heb ddim effaith.
Roedd canllawiau amwys Llywodraeth Cymru yn sgil diwygio meini prawf ar gyfer talu grantiau busnes i fusnesau sy'n gosod tai gwyliau yn caniatáu i un cyngor yng ngogledd Cymru arddel safbwynt a oedd yn gwrth-ddweud yn uniongyrchol yr arfer a gadarnhawyd yn ysgrifenedig gan bob cyngor arall yng ngogledd Cymru. Roedd hefyd yn gwrth-ddweud yn uniongyrchol y safbwynt a wnaed yn glir gan Weinidogion Llywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf, ar gofnod, sef os nad yw busnes wedi gallu bodloni'r meini prawf ond yn gallu profi ei fod yn fusnes cyfreithlon, mae gan yr awdurdod lleol ddisgresiwn o hyd i dalu'r grant.
Gofynnodd llawer o'r busnesau hyn am fy help. Wedi hynny, derbyniodd pob un ohonynt eu grantiau mewn pum sir yng ngogledd Cymru, ond mae busnesau cyfreithlon sy'n ei chael hi'n anodd yn sir y Fflint yn dal i gael eu hamddifadu o'r cymorth y byddent wedi'i gael pe baent wedi'u lleoli yn rhywle arall, ac eto mae gweinyddiaeth gyhoeddus wael gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu i hyn ddigwydd.
Ers etholiad mis Mai, rwyf wedi parhau i dderbyn negeseuon e-bost gan lawer o fusnesau eraill sy'n ei chael hi'n anodd yng ngogledd Cymru yn condemnio diffyg cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig, gan ddweud, er enghraifft, fod Llywodraeth Cymru wedi eu bradychu a bod cyhoeddiad grant Llywodraeth Cymru yn 'slap i'r wyneb'.
Diolch i benderfyniad Llywodraeth y DU i gaffael brechlynnau'n gyflym, a'r modd gwych yr aiff pigiadau i freichiau, mae Llywodraethau ledled y DU bellach wedi gallu llacio'r rheoliadau llymaf yn ddiogel. Fodd bynnag, dim ond ar ôl inni dynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith ei bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU yn enbyd gyda darparu pigiadau cyntaf ac ail bigiadau y rhoddwyd blaenoriaeth i hyn gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu yng Nghymru. Hyd yn oed wedyn, cysylltodd etholwyr â mi gyda sylwadau fel, 'Cefais lythyr heddiw. Byddaf yn cael fy ail frechiad. Byddaf yn dal i fod hyd at bedair wythnos ar ôl fy nghyfoedion yn Lloegr yn enwedig. Rwy'n dal i deimlo bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ennill ras frechu gyda'r dos cyntaf, ond mewn mannau eraill yn y DU y syniad yw atal yr amrywiolyn newydd rhag lledaenu yn y lle cyntaf.'
Wel, pan nad yw bywyd yn cyd-fynd â damcaniaethau cyfforddus Llywodraeth Cymru, byddant yn amau bywyd go iawn yn hytrach na'r damcaniaethau. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru. Ac os nad ydych yn hoffi'r hyn rwy'n ei ddweud, dyfyniadau o negeseuon e-bost etholwyr yw'r rheini dros yr 16 mis diwethaf. Gallaf roi'r copïau gwreiddiol i chi os ydych chi eisiau tystiolaeth.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth yn cytuno'n llwyr ei bod hi'n bwysig bod ymchwiliad diduedd a phriodol yn cael ei gynnal i'r ffordd rydyn ni wedi delio â'r pandemig. Mae angen casglu a didoli tystiolaeth mewn ffordd systematig, wrth wrando'n ofalus ar storïau’r rheini a welodd eu bywydau'n cael eu chwyldroi mewn ffordd mor ddramatig ac enbyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae angen dadansoddi'r pethau da a phethau nad oedd cystal, a dwi'n gwybod bod llawer wedi enwi rhai o'r rheini heddiw. Ac mae angen argymell i Lywodraethau, ac i gymdeithas yn gyffredinol, beth y gallwn ni ei ddysgu o'n profiad o'r pandemig er mwyn inni fod yn barod i ddelio â heriau tebyg yn y dyfodol. Er hynny, byddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrth y Senedd ei fod yn cytuno â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig y dylai ymchwiliad cyhoeddus y dywedodd ei fod am ei ddechrau yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf ymdrin â'r Deyrnas Unedig yn gyfan. Fel rhan o hynny, bydd yn edrych ar wahân ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru. Rŷn ni'n credu—a dyna gred Prif Weinidog y Deyrnas Unedig hefyd, mae'n amlwg—mai dyma'r trefniant gorau i Gymru.
Mae Cymru wedi bod yn gyfrifol sawl gwaith dros y cyfnod yma am ddelio yn ei ffordd ei hun ag agweddau o'r pandemig, ac ambell waith, fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu i wneud pethau mewn ffordd wahanol i Loegr, ac, wrth gwrs, mae'n deg bod ymchwiliad yn ystyried y materion hynny. Ond cafodd penderfyniadau eraill eu gwneud ar lefel y Deyrnas Unedig yn gyfan, a'r unig ffordd briodol o ystyried y rheini yw trwy edrych ar sefyllfa y Deyrnas Unedig yn gyfan, a dyna pam dwi ddim yn cytuno â phobl fel Peter Fox. Byddai cynnal ymchwiliad ar wahân i Gymru, fel sydd wedi'i awgrymu, naill ai'n arwain at ddyblygu llawer o'r gwaith fydd yn cael ei wneud gan ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig, neu Loegr yn unig, neu'n golygu na fyddai agweddau pwysig ar y pandemig a ddylai cael eu hystyried yn rhan o ymchwiliad Cymreig. Mae cytundeb felly rhwng Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i gynnal ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig yn gyfan yn mynnu y dylid rhoi sylw penodol i Gymru yn yr ymchwiliad yma.
Wrth gwrs, mae llawer o benderfyniadau heb eu gwneud eto ynghylch yr ymchwiliad. Bydd angen diffinio ei bwrpas yn ofalus iawn i wneud yn siŵr ei fod yn ystyried y pethau iawn. Bydd angen penderfynu ar gwmpas y gwaith. Mae'r pandemig wedi effeithio mwy neu lai ar bob agwedd ar fywydau pobl ac ar bob rhan o gymdeithas, felly efallai y bydd cwmpas yr ymchwiliad yn un eang iawn, iawn. Ond, ar yr un pryd, rhaid gallu cadw rheolaeth ar y gwaith a rhaid ei gwblhau o fewn amser rhesymol. Felly, bydd angen taro ar y cydbwysedd cywir. Bydd angen llunio cylch gwaith yr ymchwiliad yn ofalus a chytuno arno. Bydd y ffordd yr aiff yr ymchwiliad i'r afael â'r gwaith yn bwysig hefyd, ac wrth gwrs mae'r cwestiwn o bwy ddylai cynnal yr ymchwiliad yn hynod o bwysig hefyd.
Dywed Russell George ei fod yn annhebygol o fanylu ar Gymru yn yr ymchwiliad ehangach, ond rwy'n credu bod ehangder yr ymchwiliad hwnnw'n rhywbeth sydd yno i ddylanwadu arno o hyd. Rwy'n gwybod bod Siân Gwenllian wedi awgrymu mai dim ond un bennod fydd hi. Wel, pa mor fawr fydd y bennod honno? Gall fod llawer o is-benodau o fewn y bennod honno.
So, os oes angen chwyddwydr, rŷn ni'n hapus i gael chwyddwydr, ond mae'n rhaid inni edrych arni hi yng nghyd-destun beth arall oedd yn digwydd.
Nid oes yr un o'r cwestiynau pwysig hyn wedi'u hateb eto, a bydd angen ystyried pob un yn ofalus. Bydd angen ymgynghori a chytuno arnynt cyn y gall yr ymchwiliad ddechrau ar ei waith, a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, gobeithio.
Rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar y pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon, a byddaf yn sicrhau bod y pwyntiau hynny'n cael eu hystyried wrth i drafodaethau barhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r gweinyddiaethau datganoledig ar sefydlu'r ymchwiliad. Ac wrth gwrs, bydd cyfleoedd pellach i'r materion hyn gael eu hystyried yn y dyfodol.
Gwn fod galwadau wedi bod am ymchwiliad brys yng Nghymru i'n galluogi i ddysgu gwersi y gallwn eu defnyddio ar unwaith mewn perthynas â'r pandemig. Ond mae'n bwysig iawn inni gofio nad yw'r pandemig ar ben. Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r niferoedd cynyddol a welwn yn awr wrth inni nesu at anterth y drydedd don. Yr union bobl y mae angen iddynt ganolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, ar barhau i wneud penderfyniadau anodd i lywio Cymru drwy'r pandemig, fyddai'r bobl y byddai angen iddynt gyfrannu at yr ymchwiliad, ac nid dyma'r adeg i dynnu eu sylw ac ychwanegu at eu llwyth gwaith.
Dylem atgoffa ein hunain nad ymchwiliadau cyhoeddus yw'r unig ffordd, ac weithiau nid y ffordd orau, o wella ymarfer yn gyflym. Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn llawer o bethau, ond nid ydynt yn bethau y dylid eu gwneud ar frys, mae arnaf ofn. Rhaid eu sefydlu yn unol â deddfwriaeth benodol sy'n llywodraethu ymchwiliadau, mae'n cymryd amser i nodi cadeirydd, penderfynu ar gwmpas, ymgynghori ar gylch gwaith a rhoi'r gwaith ar y gweill. Wedyn, rhaid i'r ymchwiliad alw am dystiolaeth a gwrando ar dystiolaeth lafar, a didoli ac ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynir iddo cyn iddo ddod i'w gasgliadau a'i argymhellion. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd dros nos.
Mae llawer o systemau adborth a dysgu eraill y gall y Llywodraeth a'r GIG eu defnyddio i addasu dulliau gweithredu yng ngoleuni profiad. Rydym yn defnyddio'r mecanweithiau hyn mewn amser real i addasu arferion wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae sefydlu ymchwiliad Cymreig, fel y mae rhai wedi'i gynnig, ac am y rhesymau gorau rwy'n siŵr, yn bwysig i rai, rwy'n derbyn hynny, ond byddai'n arafu ein dull hyblyg o ddefnyddio profiad i ddatblygu ein dull o ymdrin â cham nesaf y pandemig. Fel y nododd Jane Dodds, byddai hefyd yn tynnu sylw oddi ar fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig COVID wedi'i chael ar bawb, a'r modd y mae pobl wedi dioddef yn sgil colli anwyliaid. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddysgu a gwella canlyniadau. Er enghraifft, mae'r GIG yng Nghymru wedi rhoi fframwaith ar waith i adolygu pob achos o drosglwyddo COVID-19 mewn ysbytai fel y gallant nodi unrhyw wersi i'w dysgu, ac yn bwysig, helpu i ateb cwestiynau a allai fod gan deuluoedd. Mae trefniadau sefydledig ar waith hefyd, o'r enw 'Gweithio i Wella', ar gyfer mynegi pryderon am ofal a thriniaeth cleifion, a byddem yn annog unigolion i gysylltu â'u bwrdd iechyd unigol yn uniongyrchol os oes ganddynt bryderon. Mae prosesau adolygu sefydledig ar waith ar gyfer marwolaethau i adolygu yr holl farwolaethau yn yr ysbyty. Yn ogystal, mae'r gwasanaeth archwilydd meddygol newydd wrthi'n cael ei gyflwyno ledled Cymru a bydd hwnnw yn gynyddol yn cynnwys craffu annibynnol ar bob marwolaeth.
Mae llawer o gytundeb yn y Senedd heddiw. Rydym i gyd yn rhannu barn ei bod yn briodol cael ymchwiliad trylwyr, annibynnol a phroffesiynol i ba mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig a sut y mae'r pandemig wedi cael ei reoli fel y gellir dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu'r ymchwiliad sydd ar y ffordd gydag ymagwedd gadarnhaol ac adeiladol er mwyn cynorthwyo'r ymchwiliad i wneud y gwaith gorau posibl a helpu i alluogi'r wlad i fod mewn sefyllfa briodol i ymdrin ag argyfyngau iechyd byd-eang yn y dyfodol. Ond nid dyma'r adeg ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.
Nid oes unrhyw Aelodau wedi dweud eu bod yn dymuno siarad, felly galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. COVID-19 yw'r her uniongyrchol fwyaf y mae'r Deyrnas Unedig wedi'i hwynebu ers cenedlaethau. Er inni ddechrau gyda dull cydgysylltiedig o weithredu, nid oedd yn hir cyn i Weinidogion Cymru benderfynu mynd eu ffordd eu hunain. Gwawdiodd Prif Weinidog Cymru gynigion Llywodraeth y DU ar fasgiau wyneb, a dywedodd wrth y cyhoedd yng Nghymru yn gynnar yn 2020 nad oedd angen cynnal profion ar raddfa eang yn ein cartrefi gofal. Cyflwynodd Llywodraeth y DU brofion asymptomatig mewn cartrefi gofal, ac eto dywedodd Prif Weinidog Cymru nad oedd unrhyw werth i'r dull hwnnw o weithredu. Rwy'n credu mai'r penderfyniad hwn a methiant systematig Llywodraeth Cymru i gyflwyno profion cymunedol ehangach a arweiniodd at bron i 2,000 o farwolaethau o COVID ymhlith preswylwyr cartrefi gofal.
Mae fy nghyd-Aelodau wedi tynnu sylw at fethiannau eraill gan Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at sicrhau mai Cymru sydd ag un o'r cyfraddau marwolaethau uchaf o COVID yn y byd. Amlinellodd Russell George yr ystadegyn ofnadwy fod un o bob pedwar o farwolaethau COVID yng Nghymru wedi digwydd o ganlyniad i heintiau a gafwyd mewn ysbytai. Mae'r ffaith bod pobl wedi mynd i'r ysbyty gydag un peth, ac eto nid yn unig wedi dal COVID ar y wardiau, ond wedi marw ohono, yn ddigon o reswm i ddwyn y Llywodraeth hon i gyfrif. Tynnodd Peter Fox sylw at y gwahanol ffyrdd y gellir dehongli cyngor meddygol a gwyddonol. Tynnodd sylw'n huawdl iawn at y ffaith nad beio yw pwrpas ymchwiliadau; eu diben yw dysgu gwersi. Tynnodd James Evans sylw at hanes y pandemig a rhoddodd linell amser, a soniodd am y diffyg craffu y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio heb ymchwiliad i Gymru gyfan. Soniodd am y brechlynnau hefyd. Roedd Jane Dodds yn gyflym iawn i siarad am Lywodraeth Geidwadol y DU ar ben arall yr M4, ond methodd roi ei barn ei hun neu farn y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ymchwiliad ar gyfer Cymru gyfan, felly roeddwn braidd yn ddryslyd ynglŷn â hynny.
Nid ar fywydau pobl yn unig yr effeithiodd methiannau Llywodraeth Cymru, maent wedi niweidio bywoliaeth pobl hefyd. Fe'n hatgoffwyd gan Mark Isherwood fod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig wedi siomi llawer o fusnesau, gan barlysu llawer yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden yng ngogledd Cymru. Gwrthododd Llywodraeth Cymru ddull DU gyfan o ymdrin â mesurau rheoli coronafeirws. Gwnaethant benderfyniadau a oedd yn wahanol i wledydd eraill y DU, penderfyniadau a arweiniodd yn ddi-os at sicrhau mai'r wlad hon oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn y DU. Ni allant guddio y tu ôl i ddull gweithredu ledled y DU yn awr drwy alw am ymchwiliad cyhoeddus i'r DU yn unig. Mae pobl Cymru a gollodd anwyliaid i feirws COVID yn haeddu atebion, maent yn haeddu gwybod a gyfrannodd gweithredoedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru at farwolaethau aelodau o'u teuluoedd, eu ffrindiau a'u cydweithwyr. Ni allwn ddarparu'r atebion hynny heb ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i Gymru, wedi'i gynnal yma yng Nghymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Iawn, mae gennym un.
Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.