6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig

– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 12 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:32, 12 Ionawr 2022

Eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled a'r pandemig. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathbone, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7879 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Dyled a'r pandemig', a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:33, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am fy ngalw. Dyma'r ddadl gyntaf ar waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Edrychodd ein hadroddiad ar effaith y pandemig ar ddyled bersonol a sut y dylai Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ymateb. Ar flaen meddwl pawb heddiw—ar wahân i dynged Prif Weinidog presennol y DU—mae'r cynnydd digynsail mewn prisiau ynni. Fodd bynnag, nid hynny oedd ar flaen meddyliau pawb pan ddechreuasom ymgynghori â rhanddeiliaid ym mis Awst a chymryd tystiolaeth lafar ym mis Medi a mis Hydref. Bryd hynny, roedd ôl-ddyledion rhent a'r dreth gyngor yr un mor sylweddol â biliau bwyd a thanwydd i aelwydydd nad yw eu hincwm yn ddigonol i ddiwallu eu holl anghenion bob dydd. Fel y rhagwelwyd yn eang, mae'r holl broblemau hyn yn gwaethygu yn hytrach na gwella.

Flwyddyn i mewn i'r pandemig, datgelodd StepChange y ffaith bod un o bob pum aelwyd mewn trafferthion ariannol, ac roedd o leiaf un o bob 12 aelwyd wedi mynd i ddyled. Amlygodd adroddiad Sefydliad Bevan sut roedd o leiaf un o bob wyth aelwyd, bryd hynny ym mis Mai y llynedd, wedi gorfod cyfyngu ar siopa bwyd i dalu am wresogi, neu beidio â gwresogi'r tŷ'n iawn i gadw bwyd ar y bwrdd. Chwe mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ymchwil pellach gan YouGov, a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan, olrhain sut y mae'r sefyllfa wedi dirywio yn yr hanner blwyddyn ddiwethaf. Yn anffodus, mae'r argyfwng yn debygol o waethygu ymhellach o ganlyniad i'r toriad creulon i'r credyd cynhwysol, diwedd y taliadau ffyrlo sy'n gysylltiedig â COVID, a'r cynnydd sydd ar y ffordd yn y cyfraniadau yswiriant gwladol.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:35, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Nid yw'r cyhoedd yn dwp. Roedd llawer o'n tystion a'n cyfranwyr yn rhagweld y cynnydd enfawr hwn mewn costau ynni y mae aelwydydd bellach yn ymrafael ag ef. Roeddent yn rhagweld y byddai'n creu tswnami neu storm berffaith, ac mae arnaf ofn ei bod hi bellach wedi cyrraedd. Mae hwn yn fwy nag argyfwng ynni wedi ei ddwysáu gan argyfwng hinsawdd. Mae Prydain bellach yn llawer tlotach o ganlyniad i'r penderfyniad a wnaed i adael y farchnad sengl gyda'n cymdogion Ewropeaidd, ac mae Cymru wedi cael ei tharo'n arbennig o galed gan fod gweithgynhyrchwyr yn llawer mwy agored na gwasanaethau i'r cynnydd mewn biwrocratiaeth ac oedi mewn porthladdoedd. Ac mae'n amlwg fod oedi o'r fath wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghostau bwydydd bob dydd. Yn blwmp ac yn blaen, mae'r problemau'n gwaethygu yn hytrach na gwella. Mae costau byw cynyddol, a diwedd cymorth allweddol gan y Llywodraeth, yn arwydd o gyfnod anodd iawn i ddod i lawer iawn o aelwydydd.

Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn? Wel, yn gyntaf oll, rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Gwnaethom 14 o argymhellion yn ein hadroddiad, yn cwmpasu popeth o gasglu data i ôl-ddyledion y dreth gyngor, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hymateb defnyddiol ac adeiladol i argymhellion y pwyllgor, ac am dderbyn naw argymhelliad yn llawn, a'r pum argymhelliad arall mewn egwyddor. 

Gan adeiladu ar y rhybuddion gan ein tystion, mae'n hanfodol nad yw pobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn syrthio i ddwylo pobl sydd ond yn gwneud pethau'n waeth iddynt. Mae creu'r gronfa gynghori sengl gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, gan integreiddio'r holl wasanaethau cynghori, yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn cael cymorth ar gam cynharach o'u dyled. Ceir penderfyniad Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni ein hargymhelliad, i ddefnyddio sefydliadau yn y gymuned i ledaenu'r neges o obaith a help i grwpiau wedi'u targedu nad ydynt efallai'n gwybod am y gwasanaethau cynghori sengl hyn. Hefyd, mae angen inni adeiladu ar y negeseuon cyfryngau cymdeithasol effeithiol iawn y maent wedi'u defnyddio i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau i fynd i'r afael yn awr â lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â bod mewn dyled. Rhaid i bobl ofyn am help gan y rhai sy'n gallu cynnig dewisiadau amgen da yn lle benthycwyr carreg y drws a benthycwyr arian didrwydded.

Gallwn i gyd gytuno fod tlodi tanwydd bellach yn peri pryder mawr, ac mae taliad tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru o £100 i aelwydydd incwm isel yn darparu rhywfaint o gymorth yn y tymor byr ond nid yw'n ddigon. Bydd y pwyllgor yn dychwelyd at yr angen am gynlluniau cyflymach i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan gynnwys sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd sgôr ynni A yn yr amser byrraf posibl, yn ein hymchwiliad sydd ar y ffordd i'r rhaglen Cartrefi Clyd a'r hyn y mae angen inni ei wneud ynglŷn â thlodi tanwydd. Ond ni allwn golli golwg ar heriau eraill. 

Er enghraifft, y broblem ddyled fwyaf cyffredin a ddaeth i sylw Cyngor ar Bopeth yn 2020 oedd dyledion y dreth gyngor. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2020-21 gwelwyd y cynnydd un flwyddyn mwyaf ers 20 mlynedd mewn ôl-ddyledion treth gyngor, gan godi i bron £157 miliwn. Clywsom bryderon am bocedi o arfer gwael o ran sut y caiff y dyledion hyn eu casglu weithiau, ac rydym yn croesawu parodrwydd Llywodraeth Cymru i adolygu sut y mae protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru yn gweithio, ac a oes angen ei gryfhau neu ei roi ar sail statudol. Rydym yn croesawu agwedd agored Llywodraeth Cymru tuag at ystyried 'coelcerthi dyledion' yn y sector cyhoeddus sy'n debygol o fod yn anadferadwy, ond mae angen i bob un ohonom gydnabod bod costau cyfle i benderfyniad o'r fath. 

Nodwyd bod dyledion ym maes tai ac achosion o droi allan hefyd wedi gwaethygu cryn dipyn, a chadarnhaodd tystion fod y gwaharddiad ar droi allan ar draws y sector rhentu cyfan wedi bod yn hanfodol i atal digartrefedd pan oedd y pandemig ar ei anterth. Mae argymhelliad 10 yn cyfeirio at bwysigrwydd cadw'r cyfnod rhybudd adran 21 o chwe mis ar gyfer troi allan heb fai ar ôl i unrhyw reoliadau sy'n gysylltiedig â COVID ddod i ben. Nodwn fod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb, wedi ymrwymo o'r diwedd i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 cyn toriad yr haf eleni, a rhaid i'r Senedd sicrhau ei bod yn cadw at hyn. Gobeithiwn y bydd y pandemig yn cilio, ond bydd y dyledion y bydd yn eu gadael ar ôl yn parhau ymhell wedi hynny. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:40, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Ar fater cysylltiedig, roedd honiadau gan Shelter Cymru ynglŷn ag ymwneud honedig yr heddlu wrth droi pobl allan yn anghyfreithlon yn ystod y pandemig yn peri pryder i ni, ac ailadroddwyd hyn yn eu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Gofynnwyd am ragor o fanylion gan Shelter ynglŷn â pha wybodaeth yn union a rannwyd gyda'r heddlu. Ar ôl i'n hadroddiad gael ei gyhoeddi, ysgrifennais at bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn gofyn iddynt ymateb i'r honiadau hyn, ac mae'n bwysig nodi ymateb yr heddlu, sef bod cais brys, cyn gynted ag y cawsant wybod am y broblem hon, wedi'i wneud i Shelter Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth, ac fe'i dilynwyd gan gais pellach ym mis Hydref. Ond yn anffodus, ymatebodd Shelter i ddweud nad oeddent yn gallu rhoi unrhyw fanylion ychwanegol, oherwydd prinder staff ar y pryd . Derbyniwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol gyfyngedig ar 19 Hydref, ond nid oedd yn ddigon i allu ymchwilio i achosion neu honiadau penodol. Cefais y llythyr hwnnw ar 14 Rhagfyr. Rwyf am godi hyn oherwydd credaf fod angen inni atal unrhyw straeon cyfeiliornus yma. Mae'n gwbl briodol i Shelter gasglu achosion penodol o honiadau o ymwneud yr heddlu mewn digwyddiadau o droi allan anghyfreithlon, ond mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd ystyrlon. Nid yw Shelter wedi rhoi dyddiadau a chyfeiriadau i'r heddlu lle digwyddodd y troi allan anghyfreithlon honedig, gan mai dyna'r unig wybodaeth a fyddai'n caniatáu i'r heddlu fynd ar drywydd hynny fel rhan o'u cyfrifoldebau gweithredol. Tan neu oni bai y bydd Shelter neu unrhyw un arall wedi mynd ar drywydd cwyn yn erbyn yr heddlu neu unrhyw sefydliad arall, ni ddylent fod yn ei drafod yn gyhoeddus. Mae angen iddynt roi cyfle i'r sefydliad y gwneir y gŵyn amdano ymateb. 

Gan droi at fater arall, cawsom dystiolaeth gymhellol ynglŷn â rôl darparwyr credyd fforddiadwy, boed yn undebau credyd neu Purple Shoots, darparwr microgredyd nid-er-elw diddorol, sy'n cynnig opsiwn llawer mwy diogel na benthycwyr anghyfreithlon neu ddarparwyr credyd llog uchel. Fodd bynnag, nid yw pawb yn ymwybodol o'r mathau hyn o sefydliadau na'r hyn y gallant ei ddarparu, ac felly, maent yn troi at atebion llawer mwy niweidiol, neu'n dod dan bwysau i droi atynt. Mae rôl yma hefyd i'r gronfa cymorth dewisol ar ei newydd wedd, oherwydd chwaraeodd hynny ran bwysig iawn yn helpu pobl gyda dyfarniadau dewisol yn ystod y pandemig. Clywsom gan amrywiaeth o randdeiliaid y dylai'r Llywodraeth ystyried gwneud yr hyblygrwydd a oedd ar gael yn y gronfa cymorth dewisol yn ystod y pandemig yn nodwedd barhaol, ac maent hefyd am weld y broses ymgeisio'n cael ei symleiddio a'i hysgrifennu mewn iaith hawdd ei deall, fel y gall pawb, gobeithio, gael mynediad ati. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn y bydd y materion hyn yn cael eu hystyried yn ei hadolygiad o olynydd y gronfa cymorth dewisol. 

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad, naill ai drwy gyflwyno tystiolaeth neu gymryd rhan yn un o'n grwpiau ffocws ar-lein. Rwyf am dynnu sylw at rôl ganolog Sefydliad Bevan. Fe wnaeth ei waith ar ddyled ei godi'n uwch ar yr agenda i bob un ohonom, ac yn sicr helpodd eu hadroddiad cychwynnol i'r pandemig a dyled yng Nghymru i annog y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn fel ein hymchwiliad cyntaf. Hoffwn ddiolch hefyd i Rhys Morgan a gweddill y tîm clercio, yr ymchwil sy'n sail i'r adroddiad hwn dan arweiniad Gareth Thomas, a'r gwaith ymgysylltu allgymorth ardderchog gyda'r cyhoedd dan arweiniad Rhys Jones. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n defnyddio'r cyfle hwn i rannu gyda ni yr hyn y credant y gallwn ei wneud i geisio rheoli'r problemau eithriadol o anodd hyn, a pha strategaethau y gallwn fynd ar eu trywydd yng Nghymru i atal mwy o bobl rhag mynd i ddyled ac yn wir, rhag mynd yn ddigartref ac yn ddiymgeledd o bosibl. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:45, 12 Ionawr 2022

Diolch i Jenny fel Cadeirydd, yr Aelodau eraill ar y pwyllgor a'r swyddogion am yr araith yma. Diolch hefyd i'r mudiadau roedden ni'n cymryd tystiolaeth ohonynt.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Yn ôl ym mis Mawrth 2020, dywedwyd wrthym ein bod i gyd yn wynebu'r un storm, ond er ein bod yn wynebu'r un storm o bosibl, nid oeddem i gyd yn rhwyfo yn yr un cwch—y rhai ar incwm isel, yr hunangyflogedig, y 3 miliwn o drethdalwyr y Deyrnas Unedig nad oes ganddynt hawl i gael cymorth gan y Llywodraeth, rhieni sengl, rhentwyr, ac mae'r rhestr yn parhau. Nododd adroddiad ar wahân a gyhoeddwyd heddiw fod aelwydydd y DU wedi dioddef y gostyngiad mwyaf ers wyth mlynedd mewn arian ar gael, a bod y pwysau unigryw sy'n wynebu pobl ifanc yn creu perygl o genhedlaeth simsan, gyda dim ond hanner yr oedolion ifanc yn gallu cael dau ben llinyn ynghyd bob mis.

Ar un mater penodol yn yr adroddiad, roeddwn yn falch iawn o weld yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ei bod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor i fynd ar drywydd syniad o 'goelcerth ddyledion', a gyflwynwyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn yr etholiad fis Mai diwethaf. Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn darparu cronfa gyfyngedig i brynu a dileu dyled sy'n gysylltiedig â'r sector cyhoeddus, lle gallai hyn atal rhywun rhag cael gwasanaethau neu gymorth. Gallai 'coelcerth ddyledion' fod yn ateb pwerus i'r rhai sydd wedi'u dal o dan bwysau dyled ac na allant ddianc rhag dyled oherwydd y cymorth cyfyngedig sydd ar gael iddynt. Ac wrth gwrs, mae llawer o argymhellion eraill rwy'n eu croesawu yn yr adroddiad.

Ond y realiti yw bod yna gamau y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cymryd yn awr a allai roi rhagolygon mwy disglair i bobl am y flwyddyn i ddod. Un ohonynt yw'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr yn ailedrych ar y penderfyniad i rewi'r lwfans treth personol, a fydd yn golygu bod 85,000 o bobl yng Nghymru yn talu mwy o dreth incwm. Gallent fod wedi dewis ffordd decach o godi refeniw ychwanegol na thrwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol. Mae pobl yn wynebu'r trychineb costau byw rydym yn clywed cymaint amdano, ac mae'n rhaid inni wneud popeth posibl, y ddwy Lywodraeth, i sicrhau nad yw'r pandemig a'r costau byw sy'n codi'n gyflym yn gadael miliynau ar ôl. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 3:47, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl heddiw ar ein hadroddiad, 'Dyled a'r pandemig'. Mae'r pandemig wedi gadael ei ôl mewn gwahanol ffyrdd. I lawer o bobl, fe wnaeth daro'n ariannol—roeddent yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi, llai o incwm, biliau uwch. Mae wedi dwysáu'r problemau ariannol y mae teuluoedd wedi bod yn ymrafael â hwy.

Credaf fod yr ymchwiliad hwn a'n hadroddiad yn dyst i frwdfrydedd yr holl Aelodau a oedd am ddeall mwy am gymhlethdodau'r ddyled a brofir gan bobl yng Nghymru ac effaith y pandemig ar gyllid unigolion ac aelwydydd. Hoffwn ddiolch ar y cychwyn i'n Cadeirydd, Jenny Rathbone, sydd wedi arwain y pwyllgor yn fedrus drwy'r ymchwiliad hwn, a'r Gweinidog am dderbyn yn llawn neu mewn egwyddor yr argymhellion y gwnaethom gytuno arnynt.

Rwyf am ganolbwyntio ar ymateb y Llywodraeth y prynhawn yma, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir yn ei llythyr at y pwyllgor, mae gwir angen mynd i'r afael â'r baich dyledion cynyddol sy'n wynebu rhai o'n cartrefi mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rwyf am inni gofio hefyd y gall yr her o reoli dyled a cheisio datrys eu problemau fod yn fater unig i lawer o bobl. Mae perygl sylweddol y bydd y rhai mewn cymdeithas sydd â llai i ddechrau yn gweld effaith anghymesur ar eu hiechyd ariannol oherwydd y pandemig, ac mae hyn wedi'i ddogfennu'n dda mewn astudiaethau eraill y tu hwnt i'r ymchwiliad hwn—[Anghlywadwy.]—a phryderon cynyddol, straen, iselder a salwch meddwl sy'n para'n hirach.

Yn ôl yr elusen salwch meddwl Platfform, fodd bynnag, nid yw'r pryderon a'r gofidiau hyn wedi cael eu profi yn yr un ffordd, a cheir tystiolaeth dda fod y pandemig a'n hymatebion iddo wedi ehangu'r anghydraddoldebau iechyd hyn. Maent hefyd yn nodi y gwyddys bod iechyd meddwl yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach sy'n gyffredin yn ein cymdeithas. Mae cysylltiad rhwng iechyd ariannol ac iechyd meddwl, ac mae effaith y pandemig ar iechyd ariannol y rhai a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn mynd i ddarparu'r sail ar gyfer amrywiaeth o heriau parhaus y mae angen i'r Llywodraeth hon eu goresgyn.

Roedd y dystiolaeth i'r pwyllgor yn gynhwysfawr. Mae'r argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth honno a'r trafodaethau a ddilynodd. Ymddengys nad oes llawer o anghytundeb rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth ynghylch difrifoldeb yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru, er fy mod am weld y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo'n digwydd yn gyflymach.

Rwyf am grybwyll tri phwynt i gefnogi adroddiad y pwyllgor y prynhawn yma. Yn gyntaf, pwysigrwydd data. Heb wybodaeth, ni fydd gennym fawr o allu i effeithio ar gyfleoedd bywyd y rhai sydd mewn dyled. Ni fydd diben cynllunio heb ddeall y darlun cyflawn, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn barn y pwyllgor y dylai eu huned data cydraddoldeb weithio gyda sefydliadau yn y sector i gasglu a chyhoeddi data blynyddol ar ddyledion yng Nghymru, wedi'i rannu yn ôl nodweddion gwarchodedig. Dylai fy mhryderon ynghylch anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig salwch meddwl, gael eu cynnwys yn y gwaith a wneir, fel ein bod yn deall canlyniadau'r sefyllfa mewn perthynas â dyled yn llawn y tu hwnt i'r ariannol.

Yn ail, effaith anghymesur dyled a'r pandemig ar wahanol grwpiau. Yn ein hadroddiad rydym yn amlinellu faint o'r dystiolaeth a gyfeiriai at yr effaith wahanol ar wahanol grwpiau. Darparodd sefydliadau fel StepChange, Cyngor ar Bopeth a Sefydliad Bevan dystiolaeth fod rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi dyled nag eraill, megis pobl sy'n ddi-waith neu mewn gwaith ansicr, pobl y mae'r pandemig wedi effeithio ar eu gwaith, rhieni sengl, rhieni â phlant ifanc, rhentwyr, pobl o rai cymunedau lleiafrifol ethnig, a phobl ag anableddau. Yn ogystal, tynnodd Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod aelwydydd ag incwm blynyddol o dan £40,000 y flwyddyn yn llawer mwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion nag aelwydydd incwm uwch. At hynny, canfuwyd bod pobl sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion ar bob bil mawr nag unrhyw grŵp arall. Mae'r dystiolaeth hon yn dangos pa mor gymhleth yw'r darlun a sut na chaiff ei ddatrys yn gyflym.

Yn drydydd, mae'n bwysig ein bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn dychwelyd at y pwnc hwn cyn gynted ag y gallwn. Rwy'n sylweddoli bod yna bethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae pobl yn disgwyl i Weinidogion Cymru weithredu. Wrth wneud hynny, rwy'n disgwyl y dylai adrannau eraill o fewn y Llywodraeth fod yn rhan o'r agenda hon wrth inni hefyd geisio darparu economi gryfach y dylai pobl allu elwa ohoni.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:53, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ofyn i chi ddod i ben yn awr?

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn, Ddirprwy Lywydd. Ynghyd â hynny, mae yna ddyled feddygol, nad ydym wedi mynd i'r afael â hi hyd yma, ond mae'r Cadeirydd wedi cytuno y byddwn yn edrych ar hynny. Mae'n bryder mawr i mi, yn bersonol, fod hyn yn digwydd yma, ac nad ydym yn gwneud dim yn ei gylch. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:54, 12 Ionawr 2022

Mae pawb ohonom yn y Siambr yn darllen adroddiadau a dogfennau briffio niferus am y problemau y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, ond hoffwn nodi, fel Aelod newydd o'r Senedd, mai ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled a'r pandemig oedd fy ymchwiliad pwyllgor cyntaf, a bod clywed tystiolaeth uniongyrchol am sut mae angen gwneud mwy i gynorthwyo teuluoedd i gadw eu pen uwchben y dŵr wedi cael effaith ddofn arnaf. Achos, er sôn mae'r adroddiad am effaith y pandemig ar ddyled, roedd yn eglur o'r dystiolaeth fod y dyledion hyn wedi eu dyfnhau, nid eu creu, gan y pandemig.

Mae'r adroddiad wedi canfod bod 18 y cant o oedolion yng Nghymru—cyfran uwch nag yn Lloegr neu'r Alban—wedi wynebu caledi economaidd o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r arwyddion a sbardunodd penderfyniad y pwyllgor i ymchwilio i'r mater hwn yn y lle cyntaf wedi arwain at gyflwyno darlun clir a brawychus o argyfwng na welwyd ei debyg ers yr argyfwng ariannol dros ddegawd yn ôl. Ac mae gwaeth i ddod.

Roedd y termau a ddefnyddiwyd yn drawiadol ac yn droëdig. Rwyf wedi dyfynnu o'r adroddiad o'r blaen mewn dadleuon yn y Siambr, ond maen nhw'n werth eu hailadrodd.

'Yr hyn sy'n fy mhoeni'n fawr', meddai un tyst,

'yw cynnydd posibl o 30 y cant mewn prisiau nwy a thrydan yn 2022. Mae hynny'n mynd i wthio pobl i dlodi ar lefel oes Fictoria.'

Wel, mae 2022 yma. Roedd y rhybuddion yn gywir, os nad ychydig yn geidwadol o glywed rhybudd pennaeth Centrica heddiw am brisiau nwy, a'r pryderon a fynegwyd gan y comisiynydd pobl hŷn heddiw am effaith hyn ar bensiynwyr. 

Cwestiwn canolog yr adroddiad yw pam fod cymaint o deuluoedd mewn sefyllfa mor fregus yn y lle cyntaf? Beth ellir ei wneud am hyn, a beth arall y gellir ei wneud i amddiffyn y boblogaeth mewn unrhyw argyfyngau yn y dyfodol?

Y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef dyledion problemus yw'r aelwydydd sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, pobl fel rhentwyr, y rhai ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr, pobl anabl, plant, rhieni unigol, pobl hŷn, rhai sy'n gadael gofal, a phobl o leiafrifoedd ethnig. Ceir enghreifftiau niferus yn yr adroddiad o sut mae dyled broblemus yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau yn y gymdeithas ac yn dyfnhau'r anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, mae pobl anabl wedi bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion yn ystod y pandemig, ac mae adroddodd Sefydliad Bevan fod eu hymchwil yn dangos bod pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion ar bob bil nag unrhyw grŵp arall. Clywon ni fod 43 y cant o oroeswyr cam-drin domestig wedi cael eu gwthio i ddyled.

Mae'n rhaid cymryd camau sylweddol ar frys i fynd i'r afael â sut mae'r broblem hon o ddyled yn effeithio ar les plant, dyfodol ein cenedl. Mae'r hyn sy'n cael ei ddadlennu am sut mae un o bob pum teulu yn gorfod torri nôl ar eitemau i blant, ac un o bob 10 teulu gyda dau o blant wedi gorfod torri nôl ar fwyd, yn anodd ei ddirnad yng Nghymru yr unfed ganrif ar hugain. Cymru, sy'n rhan o wladwriaeth sy'n un o'r cyfoethocaf yn y byd. Mae'n warthus. Mae'n anfaddeuol. Ac mae'n broblem nid yn unig am heddiw na fory ond yn un a fydd gyda ni am ddegawdau os na weithredwn ar frys. Mae byw ar aelwyd gyda phroblemau dyled, mewn straen ariannol, yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod, a gall effeithio'n negyddol ar iechyd a chyfleon person ifanc gydol ei oes.

Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymchwilio i ddatrysiadau o bob math, ym meysydd tai, trethiant, trafnidiaeth gyhoeddus, taliadau cefnogi fel yr EMA. Ac yn unol â galwadau adroddiad y pwyllgor, mae Plaid Cymru am weld ffocws newydd gan y Llywodraeth ar gyflymu'r gwaith i sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd safon graddfa ynni A, a sicrhau hyrwyddo a chefnogaeth well i wasanaethau cyngor ar ddyledion a ffynonellau credyd fforddiadwy, a gwneud yr hyblygrwydd dros dro yn y gronfa cymorth dewisol yn barhaol. Mae'n bryderus i weld bod y cyllid a ddyrennir i'r gronfa honno yn 2022-23 yn is nag yr oedd ar gyfer y ddwy flynedd ariannol flaenorol.

Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn cynnwys mesurau allweddol i fynd i'r afael â lleihau lefelau tlodi a'r effaith ar deuluoedd—prydau bwyd am ddim i bob plentyn cynradd, ehangu'r ddarpariaeth gofal plant am ddim i gynnwys plant dw flwydd oed, diwygio treth y cyngor a sicrhau mesurau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Rydyn ni'n cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad, sy'n galw ar y Llywodraeth i gymryd camau penodol ar frys, ac fel rwyf wedi sôn eisoes, mae Plaid Cymru yn credu bod hefyd gamau eraill sydd angen eu cymryd, sydd o fewn gallu'r Llywodraeth, a all helpu goleuo cannwyll yn y gwyll. Mae'r cytundeb cydweithio hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli gweinyddu lles.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:59, 12 Ionawr 2022

Mae'n rhaid i'r Aelod ddod i'r casgliad nawr, os gwelwch yn dda.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

Rwy'n dod i ben—brawddeg olaf.

Mae'n rhaid inni ofyn ein hunain am faint yn rhagor y gallwn fforddio derbyn y cyfyngiadau sydd wedi eu gorfodi arnom fel cenedl gan undeb anghytbwys, Llywodraeth San Steffan sy'n hidio dim am Gymru, a fformiwla ariannu hollol annigonol ac anghyfiawn? Sawl adroddiad arall fel hwn, â'i rhybuddion clir fod rhywbeth mawr o'i le, y bydd angen inni eu darllen cyn y byddwn yn mynnu'r grymoedd i warchod a chodi ein pobl? Diolch.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 4:00, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n falch mai hwn oedd ein hymchwiliad cyntaf, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, Sioned Williams, ynghyd ag ymchwil Sefydliad Bevan, am awgrymu hyn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y clercod a'r tîm cyfan sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i'n helpu. 

Mae mynd i'r afael â dyled aelwydydd yn gwbl hanfodol ac amserol, ac mae'n aml yn ymwneud â phobl sy'n dioddef yn dawel ar draws ein cymunedau yng Nghymru am amryw o resymau. Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, helpodd gwasanaethau Cyngor ar Bopeth bron i 1,000 o bobl â phroblemau dyled dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent wedi gweld cynnydd yn y galw dros y misoedd diwethaf. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig, cyfrifodd Cyngor ar Bopeth gynnydd o 74 y cant yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth ar gyfer problemau dyled, o'i gymharu â ffigurau cyn y pandemig. Dywedodd Shelter Cymru wrthyf fod trigolion agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn talu bron i £3,000 y mis am lety dros dro. Mae rhent rhai pobl yn fy etholaeth mor uchel fel eu bod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd i fwydo eu hunain a'u teuluoedd ac maent yn mynd i fwy o ddyled. 

Ni ellir gwadu bod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu'r risg hon o ddyled i aelwydydd sy'n agored i niwed. Deuthum yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r problemau gyda hyn yn fy nghymuned o fewn ychydig ddyddiau i ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf. Cefais alwad gan gynghorydd bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Jane Gebbie, a esboniodd i mi fod pobl yn eu cartrefi yn ei ward yn y Pîl a Mynydd Cynffig na allent fynd i'r siop leol i ychwanegu credyd at eu cerdyn ynni neu danwydd, felly roeddent yn eistedd yn eu cartrefi yn rhewi. A'r ateb a roesant i hyn—yr unig beth y gallent ei wneud yn y dyddiau cyntaf hynny—oedd ffonio'r cwmnïau ynni ac erfyn arnynt ac egluro ei bod yn argyfwng a gofyn iddynt anfon cardiau gyda chredyd arnynt at bobl a meddwl sut i dalu amdano wedyn, a dyna a wnaethant. Ni chafodd y gwirfoddolwyr yng nghanolfan gymunedol Talbot ym Mynydd Cynffig lawer o amser i feddwl am yr ateb hwnnw.

A chyda'r cynnydd disgwyliedig mewn prisiau ynni, y toriad i gredyd cynhwysol a'r cynnydd sydd ar ddod mewn yswiriant gwladol, mae 2022 yn fygythiad mawr i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed, fel y clywsom gan fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor heddiw. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud sylwadau cryf a dwys i Lywodraeth y DU ar ran y rhai sy'n dioddef yn ein cymunedau, ond eto, dro ar ôl tro, gwelwn benderfyniadau'n cael eu gwneud yn San Steffan sy'n cosbi'r rhai mwyaf agored i niwed ac sy'n gwaethygu pethau fel tanwydd, dyled aelwydydd a thlodi. Fel y dywedwyd heddiw, mae melinau trafod wedi galw 2022 yn flwyddyn y wasgfa, ac i lawer o bobl dyna realiti'r sefyllfa y maent ynddi. O rieni sengl i aelwydydd incwm isel, y rheini sydd ag anableddau a rhentwyr, faint yn fwy o bwysau a gaiff ei roi arnynt cyn iddynt fethu dal eu pen uwch y dŵr? Mae pob £1 a dynnir yn San Steffan, pob cynnydd ym mhrisiau bwyd, yn wthiad arall i ddyled. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn pob un o'r 12 argymhelliad gan y pwyllgor os ydym am ddiogelu cynifer o aelwydydd sy'n agored i niwed dros y misoedd nesaf. Mae'r gronfa cymorth dewisol a'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf untro sy'n darparu taliad o £100 i aelwydydd cymwys yn enghreifftiau o'r ffordd y mae'r rhai sy'n llywodraethu yng Nghymru yn diogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Roedd hefyd yn hanfodol clywed tystiolaeth gan undebau credyd yn ystod ein hymchwiliad. Rwy'n aelod balch a hirsefydlog o Undeb Credyd Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â mwy na 5,000 o aelodau. Gyda'n gilydd, rydym yn aelodau o grŵp byd-eang o gwmnïau cydweithredol ariannol sydd wedi ymrwymo i wella lles ariannol miliynau o bobl. Nid oes unrhyw gyfranddalwyr trydydd parti. Mae undebau credyd hefyd yn trosglwyddo unrhyw elw dros ben a wneir yn uniongyrchol yn ôl i ni a'n cymuned, ac mae'r staff yn ariannol gefnogol. Nid ydynt yn edrych ar rywun fel sgôr credyd. Dyna pam rwy'n arbennig o falch fod y Gweinidog wedi derbyn ac ymateb i argymhelliad 12, i hyrwyddo ffynonellau credyd fforddiadwy ymhlith y rhai sydd mewn mwy o berygl o ddyled dros y chwe mis nesaf. A pheth newyddion cadarnhaol heddiw yw y bydd canolfan gymunedol Talbot ym Mynydd Cynffig y soniais amdani'n gynharach ac a wnaeth gymaint i helpu pobl a oedd yn mynd i ddyled yn ystod pandemig COVID yn agor cangen undeb credyd yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hyn yn arbed arian i bobl yn fy nghymuned ac yn ein grymuso ac yn cadw'r arian i gylchredeg o fewn ein cymuned er budd y bobl. 

Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni yn yr ymchwiliad hwn. Lleisiau'r bobl sy'n ei chael hi'n anodd yw llawer ohoni. Yn aml, gall dyled arwain at deimladau o gywilydd ofnadwy a gwadu, ac rydych yn gwrando ar bobl sy'n aml yn gweithio o fewn systemau sy'n bwerus iawn a chyda biwrocratiaeth a all fod yn anhygoel o araf. Mae eich ymroddiad i helpu pobl yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:04, 12 Ionawr 2022

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig hwn. Diolch hefyd i bawb gyfrannodd at ei ymchwiliad, sydd wedi creu darlun torcalonnus o’r caledi mae gymaint o bobl yn ein cymunedau wedi ei wynebu yn ystod y pandemig, ac maent yn parhau i'w wynebu. Mae’n anodd dirnad maint y broblem, a dwi’n falch o weld argymhellion o ran beth yn ymarferol y gallwn ei wneud fel Senedd yn y tymor byr a’r tymor hir i sicrhau gwell cefnogaeth i bobl sydd yn wynebu caledi economaidd, gan olygu bod yn rhaid iddynt fynd i ddyled er mwyn medru fforddio hanfodion megis bwyd, gwres a dillad, pethau y mae gennym oll hawl sylfaenol iddynt.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:06, 12 Ionawr 2022

Yn anffodus, yn fy marn i a fy mhlaid o leiaf, San Steffan sydd yn parhau yn bennaf gyfrifol o ran y mesurau all fynd i’r afael o ddifrif gyda dyled a methdaliad, ynghyd â chostau byw cynyddol. Ac mae yn fy mhryderu yn fawr fod gennym Brif Weinidog a Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydynt yn hidio dim am y bobl mwyaf bregus yng Nghymru, drwy gyflwyno mesurau creulon sydd yn cael effaith anghymesur arnynt, megis drwy gynyddu’r cyfraniadau yswiriant gwladol a thorri’r taliadau credyd cynhwysol.

Ond tra’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wthio am ddatganoli lles a threthi’n llawn i Gymru, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei grym presennol i unioni’n broblem mae dyledion yn ei greu i aelwydydd ledled Cymru. Ffordd allweddol o wneud hyn fydd drwy gefnogi pobl gyda dyledion i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd yn ddatganoledig, ac mi oeddwn i'n falch o weld Jenny Rathbone yn sôn am y dreth gyngor yn benodol. Mae'r ffaith bod hon yn un o’r prif ddyledion y cysylltodd pobl gyda StepChange a hefyd Cyngor ar Bopeth ynglŷn â nhw yn ystod y pandemig yn golygu bod yn rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Fe nododd Jenny Rathbone y ffigur anhygoel o frawychus hwnnw, sef y ffaith bod dyled treth gyngor wedi codi i £157 miliwn yn 2020-21, sef cynnydd o £46.4 miliwn o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, y cynnydd unigol mwyaf ers dros 20 mlynedd.

Ond ni ddylai ein cyrff cyhoeddus fod yn creu mwy o ddyled i bobl, a gobeithio heddiw y gallwn fod yn gytûn y dylem fod yn helpu i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu rhag dod yn anhylaw. Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru weithredu yn hyn o beth, a sicrhau bod ein cynghorau ni'n mabwysiadu polisïau blaengar i reoli dyledion. Gallai polisi o’r fath gynnwys sicrhau bod cynghorau’n nodi ac yn cynorthwyo aelwydydd sy’n wynebu problemau ariannol yn effeithiol, yn ogystal â chael gwared ar rai o arferion creulon beilïaid, ac atal ffioedd beilïaid a chyfreithiol rhag cronni a chynyddu i’r rhai sy'n methu â'u talu. Canfu Cyngor ar Bopeth fod nifer o’u cleientiaid wedi cael anhawster i gytuno ar gynlluniau ad-dalu treth gyngor fforddiadwy, a bod rhai wedi bod yn destun ymddygiad ymosodol a bychanus gan feilïaid, er gwaethaf methu â gwneud ad-daliadau neu ddangos arwyddion o fregusrwydd. Nid yw hyn yn iawn.

Hoffwn hefyd bwysleisio yr effaith mae hyn yn ei gael ar unigolion, rhywbeth na ellir ei or-bwysleisio, o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae byw mewn tŷ heb wres oherwydd tlodi tanwydd yn medru creu neu waethygu llu o gyflyrau iechyd difrifol megis trawiad ar y galon, strôc, broncitis ac asthma, tra gall ansicrwydd o ran bwyd arwain at danfaethiad sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd eraill. Yn anorfod felly, mae dyled, ansicrwydd ariannol a thlodi hefyd yn aml yn creu iechyd meddwl gwael, gan arwain i bobl deimlo bod eu bywydau yn gyfan gwbl allan o reolaeth, a sbarduno teimladau o anobaith, embaras, euogrwydd, iselder a phryder. Mae'r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â dyled hefyd yn arwain unigolion i deimlo wedi eu hynysu, gan gadw eu problemau iddyn nhw eu hunain, gan olygu bod y cymorth maent yn ei dderbyn yn annigonol.

Mae cyfrifoldeb arnom oll felly fel Aelodau o’r Senedd hon i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein etholwyr, a dyna pam heddiw fy mod yn falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl a chefnogi adroddiad y pwyllgor. Mae angen gweithredu a chefnogaeth frys, a gobeithiaf yn fawr y gallwn yrru neges glir i bawb sy’n dioddef gyda dyledion heddiw fod cefnogaeth ar gael, ac mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu yma yng Nghymru i wella eu sefyllfa.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:10, 12 Ionawr 2022

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. 

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ar yr adroddiad 'Dyled a'r pandemig', a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gyda dadl mor gryf y prynhawn yma, sy'n ychwanegu cymaint o bwysau at eich adroddiad a'ch argymhellion. Rwy'n croesawu'r adroddiad, gyda'i argymhellion craff. Diolch i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eich cyfraniad sylweddol a'ch gwaith caled yn ystod eich ymchwiliad.

Cyn y Nadolig, cyfarfûm innau hefyd â Sefydliad Bevan i drafod eu harolwg diweddaraf yn eu cyfres o adroddiadau, 'A Snapshot of Poverty'. Mae'r ffigurau'n dangos bod dyled bersonol bellach, fel y dywedoch chi yn y ddadl, yn broblem fawr yng Nghymru. Dywedodd 25 y cant o'r bobl a holwyd eu bod wedi gorfod benthyg arian ers mis Mai 2021, a bod 12 y cant eisoes o leiaf un mis ar ei hôl hi gyda'u had-daliadau. 

Cytunaf yn llwyr â'r pwyllgor ynglŷn â phwysigrwydd mynd i'r afael â'r baich dyled cynyddol sy'n wynebu pobl yng Nghymru. Bydd ein hymdrechion i ddod o hyd i lwybr allan o ddyled iddynt yn cael eu cryfhau drwy weithredu argymhellion yr adroddiad hwn. Yn amlwg, mae mwy o gamau gweithredu y gallwn eu cymryd, ac y byddwn yn eu cymryd, o ganlyniad i'n rhaglen lywodraethu, ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru a dimensiynau eraill hefyd, mewn gwirionedd, y buom yn eu dadlau ac yn eu trafod dros y ddau ddiwrnod diwethaf, mewn perthynas â'r argyfwng costau byw a'ch ymchwiliad nesaf.

Mae'n bwysicach nag erioed yn awr fod gwasanaethau fel cyngor ar ddyledion a benthyca fforddiadwy yn cyrraedd pobl sydd mewn mwy o berygl o fynd i ddyled. Rwy'n croesawu'r argymhellion mewn perthynas â hyrwyddo ein gwasanaethau yn ehangach. Byddwn yn cefnogi ein holl bartneriaid i weithio gyda mwy o grwpiau cymunedol, sydd eisoes â chysylltiadau sefydledig iawn ar waith mewn cymunedau lleol â phobl sydd fwyaf o angen y cymorth.

Gwn eich bod wedi ymgysylltu â'r grwpiau lleol hynny, ac rydych wedi sôn amdanynt. Mae'r argymhellion sy'n ymwneud â'n mecanweithiau cymorth presennol i rai sydd mewn argyfwng ariannol drwy'r gronfa cymorth dewisol yn berthnasol iawn, o gofio y byddwn yn gweld nifer cynyddol o bobl yn troi atom am gymorth, felly roeddwn yn croesawu'r argymhelliad hwnnw ar y gronfa cymorth dewisol.

Rwyf hefyd yn croesawu'r datganiad ysgrifenedig sydd newydd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, y gobeithiaf eich bod wedi'i weld, yn ymestyn y grant caledi i denantiaid i dalu am ôl-ddyledion a gronnwyd hyd at 31 Rhagfyr 2021. Mae'r datganiad yn cadarnhau bod cymhwysedd wedi'i ymestyn i denantiaid tai cymdeithasol nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai. Mae hyn yn sicrhau bod ganddynt yr un mynediad at gymorth ariannol â'r holl rentwyr eraill. Fe alwoch chi am hynny yn argymhelliad 11, felly mae hwnnw'n arwydd cadarnhaol o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hefyd.

Mae'r dystiolaeth yn glir y gall effaith dyled broblemus ar lesiant unigolion a'u teuluoedd fod yn negyddol a hirhoedlog. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi pobl yng Nghymru drwy'r argyfwng costau byw y maent yn ei wynebu. Ar 16 Tachwedd y llynedd, cyhoeddais becyn cymorth gwerth £51 miliwn ar gyfer aelwydydd incwm isel i ddiwallu pwysau uniongyrchol yr argyfwng costau byw y gaeaf hwn.

Rydym wedi sôn llawer y prynhawn yma am y cynllun cymorth tanwydd gaeaf—£38 miliwn i ddeiliaid tai sy'n derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad arian parod untro o £100 gan eu hawdurdod lleol i'w ddefnyddio tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf. Ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff y bydd y taliad hwnnw'n llwyr ddigolledu aelwydydd a gollodd dros £1,000 y flwyddyn pan ddaeth y taliad credyd cynhwysol o £20 yr wythnos i ben. Fodd bynnag, bydd yn helpu rhai i gadw eu cartrefi ychydig yn gynhesach y gaeaf hwn heb gronni dyledion tanwydd.

Ond mae gennym—fel y dywedodd y Cadeirydd, Jenny Rathbone—tswnami, storm berffaith, o argyfwng costau byw, sydd bellach yn cael ei fynegi ar ffurf tystiolaeth glir. Gwyddom y gall pobl ddod allan o ddyled. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw mynediad at gyngor sicr o ansawdd da a hynny'n rhad ac am ddim. Dyna pam y mae ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cynghori mor bwysig.

Fel arfer, nid dyled yw'r unig broblem y bydd person yn ei hwynebu. Nid yw'n gwneud synnwyr i fynd i'r afael â dyled unigolyn os oes ganddynt broblem tai neu fudd-daliadau lles heb ei datrys hefyd. Felly, mae cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaethau integredig, gan helpu pobl i ymdrin â'u problemau ariannol, ynghyd â phroblemau lles cymdeithasol eraill, ac mae'n sicrhau bod gwasanaethau'n datrys achosion sylfaenol dyled ac yn helpu pobl i roi eu trefniadau ariannol ar sail fwy cynaliadwy.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:15, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

A diolch, Sarah Murphy, am gydnabod y rôl a'r baich gwaith cynyddol y mae Cyngor ar Bopeth a Shelter wedi'i brofi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff hynny ei adlewyrchu ar draws pob etholaeth yma heddiw ledled Cymru. Ond mae'n bwysig gweld, ac fel y dywedodd Sioned Williams, fod hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau rydym wedi'u gweld o ganlyniad i'r pandemig. Ac mae'n dda gweld cangen o undeb credyd yn agor ym Mynydd Cynffig.

Gwyddom fod llawer o bobl heb fod yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Dyna pam y mae ein hail ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' a lansiwyd yn ddiweddar i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles yn bwysig. Llwyddodd ein hymgyrch gyntaf i helpu pobl i hawlio dros £650,000 o incwm ychwanegol. Ac rwyf eisiau adeiladu ar yr ymgyrch gyfathrebu ragorol. Diolch ichi am ei chydnabod, Jenny Rathbone, a'r ffordd wahanol honno o ledaenu'r neges: cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig iawn, fel y dywedodd Jane Dodds, er mwyn cyrraedd y genhedlaeth iau, y genhedlaeth simsan sydd mewn cymaint o berygl, ond hefyd er mwyn lleihau'r stigma a gysylltwyd i'r fath raddau â dyled ac annog pobl i geisio cyngor ar eu hawliau—dyna'r pwynt allweddol; eu hawliau hwy ydynt—cyn iddynt waethygu a throi'n argyfwng.

A gwn fod dyled sy'n ddyledus i gredydwyr y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, gyda'r dreth gyngor, yn bryder cynyddol. Heledd, fe sonioch chi am hynny heddiw, ac rwy'n falch fod gwaith ar y gweill i adolygu protocol y dreth gyngor yng Nghymru. Mae yno yn ein hymateb i'ch argymhelliad. Bydd yn cynnwys archwilio pa mor llwyddiannus y bu'r protocol yn cefnogi dyledwyr sy'n agored i niwed, ac mae'n dda iawn eich bod wedi cynnal yr ymchwiliad i edrych ar hyn. Hynny yw, yn ystod 2021, darparwyd £22.6 miliwn i dalu am rywfaint o'r diffyg yn incwm y dreth gyngor oherwydd y cyfraddau casglu is hynny, ac rydym yn cynorthwyo gyda cholledion a hefyd yn helpu i ariannu'r galw ychwanegol a welwn am ostyngiad yn y dreth gyngor o ganlyniad i COVID.

Felly, mae'n bwysig nad ydym yn bychanu'r heriau ariannol sy'n wynebu aelwydydd oherwydd costau cynyddol eu biliau ynni, ac mae mynd i'r afael â chostau ynni drwy fesurau fel y cap ar brisiau y tu allan i gymhwysedd datganoledig, ond rydym yn codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ysgrifennodd Julie James a minnau at yr Ysgrifennydd Gwladol, Kwasi Kwarteng, heddiw; rwy'n rhannu'r llythyr hwnnw fel y gallwch weld beth rydym wedi bod yn galw amdano. Cyhoeddwyd ein cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ym mis Mawrth 2021 ac mae 10 cam gweithredu tymor byr i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2023. Rydym yn gwneud cynnydd ar bob un o'r rhain. Ac wrth gwrs, y rhaglen Cartrefi Clyd, ac rwyf eisoes wedi sôn am 67,000 o aelwydydd yn elwa o fesurau effeithlonrwydd ynni cartref. Felly, rwy'n croesawu'r ymchwiliad i dlodi tanwydd—y ffocws uniongyrchol hwnnw—a'r rhaglen Cartrefi Clyd y byddwch yn ei gynnal cyn bo hir. A rhannwch unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg gyda ni wrth i chi symud drwy'r ymchwiliad hwnnw os gwelwch yn dda.

Mae credyd llog uchel yn gyfrannwr allweddol arall at broblemau dyled, fel rydych wedi nodi, ac eto mae llawer o bobl yn credu nad oes ganddynt ddewis arall heblaw benthyca gan fenthyciwr cost uchel. Felly, mae'n bwysig ein bod yn annog pobl i gael mynediad at undebau credyd, a dyna pam fy mod wedi sicrhau bod £60,000 ar gael i undebau credyd hyrwyddo eu gwasanaethau ledled Cymru y gaeaf hwn.

Yn olaf, mae anghydraddoldebau yn ein cymdeithas wedi'u gwaethygu gan y pandemig, wedi'u dwysáu gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw real a difrifol iawn. Bydd y pwysau ariannol sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru yn dwysáu yn awr, oherwydd effaith gyfunol penderfyniadau polisi Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr ychwanegiad credyd cynhwysol a'r cynnydd sylweddol mewn costau byw. Ac oes, Altaf Hussain, mae yna gysylltiad clir rhwng anghydraddoldebau iechyd a dyled. Mae costau bwyd a thanwydd yn saethu i fyny ac mae Aelodau'r Senedd wedi gwneud cyfraniadau pwerus heddiw.

Felly, i gloi, diolch i'r pwyllgor am weld yr angen i gynnal yr ymchwiliad amserol hwn. Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu, gan y byddant yn helpu i lunio a gwella polisi, ac yn helpu i atal dyled yn ogystal â chefnogi pobl sydd mewn dyled. Mae hwn yn fater allweddol o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon a'ch pwyllgor, a bydd eich adroddiad yn helpu Cymru i ymateb yn effeithiol ac yn gadarn i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau incwm dwfn hyn yng Nghymru. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:20, 12 Ionawr 2022

Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich holl gyfraniadau defnyddiol iawn. Fel y dywedodd Jane Dodds, rydym i gyd wedi dod drwy'r un storm COVID, ond nid ydym wedi bod yn rhwyfo yn yr un cwch; rwy'n credu bod honno'n alegori ddefnyddiol iawn. Credaf ei bod yn arbennig o ddefnyddiol fod Jane Dodds wedi sôn am goelcerthi dyledion a'r dyledion etifeddol sy'n pwyso'n drwm ar ysgwyddau pobl. Er enghraifft, tynnodd Shelter sylw at y ffaith bod pobl a gronnodd ôl-ddyledion rhent flynyddoedd yn ôl yn dal i gael eu hatal rhag mynd ar y rhestr o bobl sy'n aros am dai cymdeithasol, ac mae honno'n enghraifft dda iawn o sut y mae'n anodd iawn i bobl ar incwm isel ddod allan o ddyled ar ôl mynd iddi. Mae'n iawn os oes gennych ddyledion mawr iawn, mae'r banc yn fodlon rhoi mwy i chi bryd hynny, ond nid dyna fel mae hi i'r bobl rydym yn sôn amdanynt yma.

Diolch, Altaf, am dynnu sylw at y cysylltiad rhwng iechyd ariannol ac iechyd meddwl, a'r effaith anghymesur y mae hyn yn ei chael ar allu pobl i weithredu a dod allan o ddyled. Hefyd, credaf eich bod wedi codi pwynt pwysig ynglŷn â sut y mae gwir angen gwybodaeth dda i ddeall cymhlethdod y dyledion y mae pobl yn eu dioddef, oherwydd bydd yr uned data cydraddoldeb yn dod â'r holl faterion hyn at ei gilydd fel bod gennym well dealltwriaeth o'r cysylltiad, er enghraifft, rhwng dyled ac oedran neu statws unigolion, a ydynt yn anabl, a ydynt yn ifanc, pa fath o lety y maent yn byw ynddo. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn ac rwy'n siŵr y bydd gan y Gweinidog ddiddordeb mawr yn hynny.

Fel y dywedodd Altaf, mae pobl yn disgwyl i bob Llywodraeth weithredu, boed yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, ac nid ydynt yn disgwyl i bobl wneud dim mewn argyfwng o'r fath. Ac i droi at yr hyn a ddywedodd Sioned, fod yr holl broblemau a oedd gan bobl eisoes, eu bod eisoes mewn dyled cyn y pandemig, ond bod hyn wedi'i waethygu gan y pandemig, gan dynnu sylw at y ffaith y gallem fod yn wynebu lefelau tlodi Fictoraidd, sy'n frawychus iawn. Felly, mae dyled broblemus yn cynyddu'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ein cymdeithas, ac mae bod yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd a gweld pobl yn gorfod mynd heb eitemau o fwyd er mwyn gwresogi eu cartref yn gwbl annerbyniol.

Rwy'n credu bod Sarah Murphy wedi rhoi enghreifftiau penodol defnyddiol iawn i ni hefyd o sut y mae'r pandemig a'r argyfwng dyled yn effeithio ar bobl yn ei hetholaeth hi, ac mae'n bwysig iawn edrych ar y mater ar lefel fanwl fel y mae hi wedi'i wneud. Credaf fod y disgrifiad o'r bobl nad oeddent yn gallu mynd i'r siop leol i ychwanegu credyd at eu cardiau ynni hyd yn oed—roedd yn rhaid iddynt apelio at elusen y cwmnïau ynni i anfon credydau ynni atynt, fel y gallent gadw'r golau ymlaen a chael rhywfaint o wres, a phoeni am y gost wedyn. Credaf fod Sarah hefyd wedi sôn am y rôl bwysig y gall undebau credyd ei chwarae a'r ffaith nad oes unrhyw gyfranddalwyr trydydd parti; maent yn edrych ar bobl fel bodau dynol, ac mae'r arian y maent yn ei drin yn parhau i gylchredeg mewn cymunedau lleol. Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn am yr economi sylfaenol.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:24, 12 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch i chi, Heledd, yn arbennig, gan nad oeddech yn rhan o'r ymchwiliad, am eich pwyntiau am y dreth gyngor a'r rôl bwysig y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae i sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn gwneud y problemau'n waeth, a hefyd i sicrhau nad yw beilïaid yn aflonyddu ar bobl mewn amgylchiadau anodd.

Credaf fod y Gweinidog wedi dweud yn gwbl glir yn ei hymateb ei bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r gwaith sydd ger ein bron a'r gwaith rydym i gyd yn ei wynebu wrth ymateb yn effeithiol i'r argyfwng dyled digynsail hwn a achoswyd gan gynifer o bethau gwahanol. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at y mater yn y dyfodol.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:25, 12 Ionawr 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.