– Senedd Cymru am 4:57 pm ar 19 Ionawr 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru: costau byw. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Gallaf, fe allaf ei gweld.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n bwrw teuluoedd Cymru. Mae'n argyfwng sy'n pwyso ar aelwydydd ar draws y Deyrnas Gyfunol ond Cymru fydd, a sydd, yn cael ei bwrw waethaf gan y storm economaidd a'r niwed cymdeithasol enbyd fydd yn deillio ohoni yn sgil y ffaith mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol a'r lefel uchaf o dlodi plant o'i gymharu â phob ardal arall yn y Deyrnas Gyfunol. Mae un ym mhob pedwar person yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Pobl Cymru, Dirprwy Lywydd, sydd yn llygad y storm.
Mae Plaid Cymru wedi adrodd ac ailadrodd yr ystadegau brawychus a chywilyddus am lefelau tlodi a'i effaith ar deuluoedd Cymru dro ar ôl tro yn y Siambr. Pan gawsom ddadl ar gostau byw a dyledion cyn y Nadolig, nodais sut yr oedd nifer yr aelwydydd oedd yn cael trafferth talu am gost eitemau pob dydd yn cyfateb i nifer yr aelwydydd yn Abertawe gyfan, a dim ond cynyddu mae'r ffigwr yma, gyda Sefydliad Bevan yn adrodd bod bron i 40 y cant o aelwydydd Cymru yn methu â thalu am unrhyw beth y tu hwnt i hanfodion bywyd. Nawr mae'n ymddangos na fydd modd i ormod o bobl hyd yn oed fforddio gwneud hynny, yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu tai neu roi bwyd yn eu boliau, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.
Mae'r ffeithiau yn hysbys inni gyd erbyn hyn ac, erbyn hyn, mae corff sylweddol o ymchwil a thystiolaeth gan wahanol fudiadau yn cadarnhau'r rhagolygon a rhybuddion. Mae adroddiad newydd Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi yn cadarnhau mai teuluoedd Cymru sy'n mynd i ddioddef y caledi a ddaw yn sgil yr argyfwng costau byw waethaf. Ac mae'r darlun yn dal i waethygu wrth i brisiau tanwydd saethu yn sydyn i lefel gwbl anfforddiadwy i ormod o bobl, ac yn debyg o aros ar lefel uchel am gyfnod hir; wrth i lefel chwyddiant godi i'r lefel uchaf ers degawd, a'r disgwyl yw y bydd yn codi'n uwch eto; wrth i gostau byw fod ar eu huchaf ers 30 mlynedd; wrth i gyflogau ar gyfartaledd aros yn eu hunfan, ond gostwng i'r rhai ar y lefelau incwm isaf; wrth i ddyledion aelwydydd gynyddu; wrth i yswiriant cenedlaethol gynyddu; ac rŷm ni wedi trafod droeon sut mae penderfyniad gwarthus Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i dorri'r cynnydd o £20 i'r taliad credyd cynhwysol wedi bod yn drychineb i aelwydydd Cymru. Mae'n siŵr bod nifer ohonoch chi wedi clywed straeon torcalonnus gan deuluoedd yn eich cymunedau chi sydd wedi'i cael hi'n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd. Y neges dwi'n ei chlywed yn aml yw, 'Byddwn i'n hoffi eu gweld nhw yn trio byw yn ein byd ni.'
Ydyn, mae llawer o'r grymoedd sydd eu hangen i warchod pobl Cymru rhag yr argyfwng yma yn gorwedd yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rwy'n gwybod bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn erfyn arnynt i weithredu, ond bod sefyllfa pobl Cymru yn cael ei hanwybyddu gan San Steffan. Yr hyn mae Plaid Cymru yn galw amdano heddiw yw modd newydd o weithredu gan Lywodraeth Cymru, a chydnabyddiaeth glir bod y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni yn un nas gwelwyd ei thebyg ers degawdau, ac y bydd ei heffeithiau yn rhai a fydd yn creithio cymunedau Cymru nid yn unig heddiw ac yfory, ond ymhell i'r dyfodol, ac felly bod angen gweithredu ar frys.
Mae rhai mesurau yn barod wedi'u cynnwys yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, fel ymestyn cinio ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, ac ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy flwydd oed, ond mae mwy y gellid ei wneud, mwy y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig. Byddai cynnal uwchgynhadledd i ddadansoddi'r dystiolaeth a chynnig datrysiadau polisi posibl i'r argyfwng costau byw yn gam cyntaf, a allai gynhyrchu strategaeth bwrpasol drawslywodraethol i fynd i'r afael â'r argyfwng yn y tymor byr a'r tymor canolig.
Rhaid inni wrando a gweithredu ar frys ar y dystiolaeth a'r awgrymiadau a argymhellir ar gyfer ffyrdd y gallwn ni yng Nghymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Byddai uwchgynhadledd frys, fel y dywedais, yn gam cyntaf a allai helpu i lywio cynllun gweithredu costau byw brys. Mae angen mentrau i gefnogi rhentwyr, er enghraifft, sydd wedi bod ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cap ar rent cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn i ddod, i gyd-fynd â lefel chwyddiant ym mis Medi, sef 3.1 y cant. Mae hwn yn gam i'w groesawu o'i gymharu â'r cynnydd uwch na chwyddiant a ganiateir eleni ar gyfer Lloegr. Ond a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i wneud hwn yn bolisi parhaol, a pheidio â llithro'n ôl i'r cynnydd uwch na chwyddiant y mae'n eu caniatáu fel arfer? A fyddant hefyd yn ystyried galwadau Sefydliad Joseph Rowntree ac eraill i sefydlu model rhent byw, o gofio ein bod yn gwybod mai rhent ac ôl-ddyledion rhent yw un o'r costau mwyaf sy'n wynebu aelwydydd?
Gellid ymestyn y grant caledi i denantiaid, fel y gellid rhoi cymorth mwy parhaol i fwy o denantiaid tai cymdeithasol nad ydynt yn gymwys i gael credyd cynhwysol neu fudd-dal tai. Gellid cyflymu'r gwaith o adeiladu ac ôl-osod tai cymdeithasol ymhellach. Mae awgrymiadau eraill y gellid eu harchwilio yn cynnwys mwy o fuddsoddiad yn y gronfa cymorth dewisol, y gellid ei hymestyn a'i gwneud yn fwy hyblyg yn barhaol. Gellid cynyddu ac ymestyn y lwfans cynhaliaeth addysg. Gellid mynd ati'n gyflym i ddatblygu'r syniad o goelcerthi dyledion, a argymhellwyd gan adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Faint yn rhagor o syniadau y gallai uwchgynhadledd frys eu cynhyrchu? Faint o frys a gweithredu cydgysylltiedig strategol y gallai cynllun argyfwng ei sicrhau, gan roi blaenoriaethau clir i ni a gweithredu effeithiol cydgysylltiedig? Y rhai sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol yn ein cymdeithas sy'n ysgwyddo baich yr argyfwng hwn: rhentwyr, pobl ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr, pobl anabl, plant, rhieni sengl, pobl hŷn, rhai sy'n gadael gofal ac aelwydydd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae'r grwpiau hyn eisoes yn wynebu mwy o gostau na'r rhan fwyaf, felly mae unrhyw gynnydd mewn costau byw yn gwaethygu'r anghydraddoldeb a'i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd.
Wrth drafod mynd i'r afael â'r pandemig, mae'r Llywodraeth wedi sôn yn aml am bwysigrwydd gweithredu'n gynnar ac yn galed. Dyna'r union agwedd sydd ei hangen gyda'r argyfwng yma. Rhaid darparu cysgod, oes, ond mae hefyd angen ceisio atal y storm rhag cyrraedd ei hanterth ddinistriol. Nid sioc economaidd fer yw hon. Fel y pandemig, bydd ei heffeithiau yn para am flynyddoedd. Rhaid dangos arweiniad, penderfyniad ac arloesedd os am warchod a chynnal ein pobl rhag niwed a dioddefaint difrifol. Diolch.
Diolch, Lywydd. Rhaid bod pawb yn ymwybodol o'r argyfwng costau byw sydd bellach yn bygwth taro llawer o'n hetholwyr, ac eithrio deiliaid Rhif 10 efallai. Mae chwyddiant wedi neidio i 5.4 y cant, ei lefel uchaf mewn bron i 30 mlynedd. Caiff ei yrru gan gostau uwch dillad, bwyd ac esgidiau, dodrefn a nwyddau'r cartref, ac oedi mewn cadwyni cyflenwi ym mhorthladdoedd Prydain. Mae Banc Lloegr yn disgwyl iddo godi ymhellach, yn enwedig os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod wedi'i pharlysu, tra'n wynebu argyfwng ynni cydamserol, a allai arwain at gynnydd blynyddol o £500 neu fwy i aelwydydd. Er bod cyflogau'n codi i rai, mae'r cynnydd mewn costau byw, ynghyd â mesurau fel toriadau i gredyd cynhwysol, yn llawer mwy gan olygu bod y gweithiwr cyffredin yn waeth ei fyd.
Mae Canghellor y DU yn dweud ei fod yn gwrando. Credaf mai'r neges gan y cyhoedd fyddai dechrau gweithredu'n bendant cyn i bobl rewi yn eu cartrefi neu fynd yn llwglyd neu golli eu tenantiaethau neu'n wir, y cartrefi y maent yn berchen arnynt. Mae llawer o'r ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, mae'n destun gofid mawr fod Llywodraeth y DU, ac yn enwedig Prif Weinidog y DU ei hun, yn canolbwyntio cymaint ar gadw eu bachau ar allweddi Rhif 10 doed a ddelo fel na allant ganolbwyntio o gwbl ar yr argyfwng costau byw. Ni allaf wneud yn well na chyfeirio Aelodau Ceidwadol y Senedd at eiriau un o aelodau meinciau cefn y Prif Weinidog ei hun—a chyn Weinidog ac un o'r rhai a ymgeisiodd am yr arweinyddiaeth, yn wir—yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, pan ddywedodd wrth y Prif Weinidog, gan ddyfynnu anerchiad Cromwell i'r Senedd hir:
'Yn enw Duw, ewch.'
Wrth i Lywodraeth y DU encilio i fyncer, y tu allan mae'r gwyntoedd oer yn brathu. Maent yn brathu'n galed mewn llefydd fel Bury South. Wrth inni groesawu Christian Wakeford, AS Llafur newydd Bury South, heddiw, nodwn pa mor berthnasol yw ei eiriau ar adael y Blaid Geidwadol i'r ddadl hon heddiw. Dywedodd hyn:
'Rwy'n poeni'n angerddol am bobl Bury South ac rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw polisïau'r Llywodraeth Geidwadol dan arweiniad Boris Johnson yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl yr etholaeth ac yn wir nid ydynt ond yn gwneud y trafferthion y maent yn eu hwynebu bob dydd yn waeth.'
Mae ei eiriau'n mynd i adleisio mewn llawer o ardaloedd llai cefnog yn y DU, gan gynnwys rhai a gynrychiolir ar hyn o bryd gan Aelodau Ceidwadol yn y Senedd hon a'u cymheiriaid ymhlith Aelodau Seneddol San Steffan. Yng Nghymru hefyd, gwyddom fod effaith Johnson yn dweud llawer. Er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Lafur Cymru, mae fel nofio i fyny'r afon yn erbyn llanw o ddifaterwch ac anfedrusrwydd Johnsonaidd.
Dywed Cyngor ar Bopeth yng Nghymru wrthym fod cynnydd o 17 y cant eisoes wedi bod yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth gyda dyledion. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymholiadau a oedd yn ymwneud â dyledion ynni, sydd bellach 150 y cant yn uwch fis Tachwedd diwethaf nag yn yr un cyfnod yn 2019. Mewn ymchwil ledled y DU, maent yn adrodd bod un o bob pump o bobl yn torri'n ôl ar siopa bwyd a gwresogi er mwyn arbed arian. Maent yn rhagweld cynnydd enfawr mewn anghenion dyled a chaledi pan gaiff y cap ynni ei godi, gan arwain at gynnydd o £500, £600, £700 neu fwy ar filiau bob blwyddyn. Weinidog, gwyddom fod Cyngor ar Bopeth ac eraill yn gofyn am bethau penodol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys grant cymorth ynni untro wedi'i dargedu at aelwydydd incwm isel a chynnydd mwy yng ngwerth budd-daliadau y gwanwyn hwn. Wel, gadewch inni weld a yw'r Canghellor yn gwrando mewn gwirionedd. Ond yn y cyfamser, gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gyflwyno'r mesurau hyn a mesurau brys eraill yn y DU.
Ond maent yn gofyn am bethau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i ddileu ôl-ddyledion y dreth gyngor na ellir eu hadennill, a gododd 42 y cant y llynedd, ac ehangu cynllun ôl-ddyledion y dreth gyngor. Gallwn wneud gwahaniaeth yma yng Nghymru—gwahaniaethau fel yr hyn a wnaed gan y gronfa cymorth i aelwydydd, i helpu'r teuluoedd sydd wedi'u taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, i dargedu cymorth tuag at aelwydydd incwm is, gyda chymorth uniongyrchol i bobl sy'n wynebu costau byw cynyddol y gaeaf hwn. Darparwyd mwy na £1.1 miliwn i gefnogi ac i gryfhau banciau bwyd a phartneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol, i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd a darparu ystod eang o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y gorau o'u hincwm. Ac yn lleol yn fy ardal i, mae cyngor bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr dan arweiniad Llafur yn argymell rhewi lefel y dreth gyngor am y flwyddyn i ddod, i helpu trigolion sy'n dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw, a hynny diolch i'r cynnydd mwyaf erioed yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ac maent hefyd yn mynd i ddarparu £2.5 miliwn ychwanegol i sicrhau bod pob gweithiwr gofal lleol yn cael codiad cyflog i'r cyflog byw fan lleiaf. Ac mae mwy.
Weinidog, nid yng Nghymru y ceir rhai o'r ysgogiadau mwyaf pwerus, ond rhaid inni ddefnyddio pob arf sydd ar gael inni i helpu'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, ac i fynd i'r afael â syrthni a difaterwch Llywodraeth Johnsonaidd y DU. Mae angen inni ddangos y gwahanol flaenoriaethau a gwerthoedd a gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn lleol. Felly, mae'r cynnig a drafodwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun argyfwng i leihau'r pwysau a achosir gan y cynnydd mewn costau byw ar y naill law a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan ar y llaw arall. Beth bynnag am barlys Llywodraeth y DU yn wyneb y storm sydd ar y gorwel, gadewch inni wneud popeth yn ein gallu yng Nghymru. Rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig hwn.
Mae argyfwng fel arfer yn digwydd ar unwaith. Mae'n gyfnod o anhawster dwys, a pherygl weithiau. Ond pan fyddwn yn meddwl am argyfyngau, rydym yn tueddu i'w cysylltu â sydynrwydd, â rhywbeth annisgwyl, na chynlluniwyd ar ei gyfer, ac na ellir ei osgoi. Fodd bynnag, mae'r cyfuniad hwn o ymosodiadau ar gostau byw pobl yn rhywbeth a ragwelwyd yn llwyr. Mewn rhai ffyrdd fel y toriad i gredyd cynhwysol, Llywodraeth sydd wedi'i achosi. Mae hyd yn oed y cynnydd yn y biliau ynni sydd ar y gorwel wedi bod yn dod ers misoedd, ac yn hwy na hynny, gellid dadlau. Ac mae'r anghysondeb hwnnw, y gwrthdaro rhwng argyfyngau arferol a'r hyn sy'n digwydd yn awr, yn gythryblus ar lefel gysyniadol; mae iddo effeithiau yn y byd go iawn. Yn seicolegol, bydd pobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â biliau, â phrisiau bwyd, wedi bod yn darllen penawdau ers misoedd a'u rhybuddiai fod pethau'n mynd i waethygu, gyda'r ymdeimlad hwnnw o arswyd rhag yr hyn sydd i ddod yn pwyso arnynt, ac ni fyddant yn gweld digon yn cael ei wneud i'w atal—yr ymdeimlad o argyfwng disgwyliedig a thrawma disgwyliedig. Mae'n mynd i greu panig a gofid tawel i deuluoedd, ac nid wyf yn siŵr fod digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pwysau iechyd meddwl sy'n cael ei deimlo gan bobl ar hyd a lled Cymru. Mae pobl eisoes mewn argyfwng.
Dywedodd un fenyw wrth Newsnight yr wythnos hon ei bod yn bwyta Weetabix dair gwaith y dydd oherwydd mai torri ei bil bwyd yn sylweddol oedd yr unig ffordd y gallai fforddio gwresogi ei chartref. Dywedodd un arall wrth Newyddion nad oedd hi'n gallu cysgu am ei bod yn poeni. Roedd yr arian a roddai yn ei mesurydd yn diflannu mewn dim o dro, gyda gwres ei thŷ yn dianc drwy ffenestri drafftiog. Dywedodd fod ei mab yn sâl drwy'r amser. Nid profiadau ynysig yw'r rhain, fel y clywsom. Yng ngwanwyn 2021, bu'n rhaid i 16 y cant o aelwydydd Cymru dorri'n ôl ar wres, trydan neu ddŵr, a thorrodd 15 y cant yn ôl ar fwyd. Dywedir wrthym—unwaith eto, cawn ein rhybuddio ymlaen llaw—y bydd y ffigurau hyn yn tyfu wrth i gostau barhau i godi. Felly, bydd y bwlch rhwng sut y dylai pobl allu byw eu bywydau a'r realiti'n tyfu'n fwy. Bydd y bwlch cywilyddus hwnnw'n agor rhwng byw'n iawn a dim ond goroesi. Ar 1 Ebrill, bydd y cap ar brisiau ynni yn codi. Mae Sefydliad Resolution yn amcangyfrif y bydd hyn yn ychwanegu £600 at filiau ynni blynyddol pobl. Yr un wythnos, daw'r cynnydd i yswiriant gwladol i rym, gan wneud yr aelwyd gyfartalog £600 y flwyddyn yn waeth ei byd. Gyda'i gilydd, yr effaith flynyddol fydd £1,200, neu £100 bob mis.
O ran biliau ynni, mae yna ymyriadau y gellid eu gwneud, ac fe gânt eu gwneud gan wladwriaethau eraill yn wir. Mae Ffrainc yn gorfodi EDF i werthu ynni am brisiau isel. Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyflwyno treth ffawdelw ar gynhyrchwyr trydan a chynhyrchwyr nwy. Mae'r Almaen wedi torri gordal ar filiau a ddefnyddir i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy, a fydd yn lle hynny'n cael cymorthdaliadau gwladwriaethol ychwanegol o drethi carbon uwch. Gallai'r rhain fod yn addas, neu'n wir yn bosibl, yng nghyd-destun y DU, neu efallai na fyddant yn addas, ond fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU edrych ar ymyriadau fel atal TAW ar filiau ynni dros dro, ôl-osod tai cymdeithasol yn gyflymach a dod o hyd i ffyrdd gwell o ddiogelu'r rhai sydd â mesuryddion rhagdalu. A ellid rhoi cerdyn Llywodraeth Cymru iddynt, er enghraifft, i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd argyfyngus, gyda'r opsiwn o ad-dalu dyled yn hirdymor heb ddim llog? Byddai hynny'n ddrud, ond mae'n ymddangos mai'r dewis arall yw pobl yn dioddef a hyd yn oed yn marw oherwydd salwch a achosir gan yr oerfel; sefyllfa lle mae teuluoedd o dan bwysau ariannol sy'n gallu achosi straen a phryder acíwt a all lethu pobl a'u gorflino, ac eto drwy'r amser, argyfwng nad yw'n debyg i sioc fer, sydyn, ond rhwymyn sy'n tynhau'n araf, sy'n clymu pobl yn y gofid a'r dioddefaint sy'n eu caethiwo mewn trawma y maent wedi'i weld yn dod.
Dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fod argyfwng fel arfer yn sydyn a dwys, ond daw ystyr y gair 'argyfwng' mewn gwirionedd o'r Groeg am 'benderfyniad', a dyna'n sicr sydd ei angen yma ar y pwynt tyngedfennol hwn, y funud hon o ddisgwyliad cyn i'r argyfwng waethygu. Mae angen diwygio'n sylfaenol, ac mae angen inni ailystyried y ffordd rydym yn modelu ein cymdeithas fel nad yw'n dibynnu ar bobl yn goddef sefyllfa lle maent prin yn llwyddo i oroesi.
Rydym yn falch o gefnogi'r cynnig hwn. Fel y dengys ffigurau heddiw, mae costau bwyd sy'n codi i'r entrychion a'r argyfwng biliau ynni yn codi prisiau i ddefnyddwyr yn gynt nag mewn 30 mlynedd, gyda chwyddiant prisiau defnyddwyr y DU yn 5.4 y cant y llynedd. Wrth gwrs, nid yw hyn wedi'i gyfyngu i'r DU, ac mae chwyddiant wedi codi mewn economïau ym mhob cwr o'r byd; er enghraifft, credaf ei fod yn 6.2 y cant yn yr Unol Daleithiau fis Hydref diwethaf. Fel y dywedodd prif economegydd Banc Lloegr dri mis yn ôl, mae chwyddiant wedi bod yn codi'n gyflym am lawer o 2021 oherwydd yr adferiad economaidd cryf o'r argyfwng coronafeirws, prisiau ynni cynyddol ac aflonyddwch yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang. Mae'r rheini ohonom sy'n cofio chwyddiant a'i ganlyniadau yn y 1970au a'r 1980au yn gwybod ei fod yn lladd yr economi a swyddi, gydag effeithiau dinistriol ar gyllidebau aelwydydd, ac yn deall bod yn rhaid mynd i'r afael ag ef, na fydd chwistrelliadau enfawr o hylifedd i'n pweru drwy ddyfroedd geirwon ar gael mwyach, a bod polisi cyllidol tynnach fel arfer yn dilyn, gan gynnwys rhagor o godiadau yng nghyfraddau llog y banc canolog, er y bydd angen ymatebion byd-eang hefyd i bwysau ar gyflenwadau.
Er y disgwylir i chwyddiant y DU ostwng yn ei ôl yn ddiweddarach eleni, ni ddisgwylir iddo ostwng i darged Banc Lloegr o 2 y cant tan 2023. Gwn fod Canghellor y DU wedi datgan heddiw ei fod yn deall y pwysau y mae pobl yn ei wynebu ac y bydd yn parhau i wrando ar bryderon pobl, fel y gwnaeth drwy gydol y pandemig, gan ychwanegu bod Llywodraeth y DU eisoes yn darparu cymorth gwerth £12 biliwn y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf i helpu teuluoedd i ymdopi. Mae eisoes wedi darparu dros £407 biliwn o gymorth economaidd ers i'r pandemig ddechrau, wedi'i gefnogi gan becyn pellach o £1 biliwn i sectorau allweddol er mwyn lliniaru effeithiau omicron, ac mae hefyd yn darparu £4.2 biliwn o gymorth i helpu gyda chostau byw; cadw'r cap ar brisiau ynni i ddiogelu defnyddwyr rhag y cynnydd byd-eang ym mhrisiau nwy, neu helpu hynny; darparu toriad treth o £1,000 i deuluoedd sy'n gweithio; drwy dorri cyfradd tapr y credyd cynhwysol, sy'n costio £2.2 biliwn; cynyddu'r cyflog byw cenedlaethol i £9.50 yr awr; rhewi cyfraddau tollau ar danwydd ac alcohol i helpu gyda chostau byw; a galluogi Llywodraeth Cymru i lansio ei chronfa cymorth i aelwydydd drwy gyfrannu £25 miliwn tuag at hyn o'i chronfa £0.5 biliwn i helpu aelwydydd mewn angen i brynu eitemau hanfodol.
Ond yn anffodus, roedd pobl yng Nghymru eisoes yn arbennig o agored i niwed. Ymhen pedwar mis, bydd Llafur wedi bod yn rhedeg Cymru ers chwarter canrif. Nododd adroddiad Joseph Rowntree ym mis Rhagfyr 2018 ar dlodi yn y DU: o bedair gwlad y DU, Cymru sydd wedi bod â'r gyfradd tlodi uchaf yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nododd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yng Nghymru fis Tachwedd diwethaf mai Cymru sydd â'r cyflogau isaf i bobl ym mhob sector o gymharu â gweddill y DU, a hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru'n byw mewn tlodi. Canfu ymchwil a wnaed ar gyfer cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU ac a gyhoeddwyd fis Mai diwethaf mai Cymru oedd â'r cyfraddau tlodi plant gwaethaf o holl wledydd y DU, ac mae ystadegau swyddogol yn dangos bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o Gymru, a rhwng Cymru a gweddill y DU, er eu bod wedi gwario biliynau a roddwyd iddynt i fynd i'r afael â hyn ar raglenni o'r brig i lawr na lwyddodd i wneud hynny. Pe baent wedi gwneud hynny, wrth gwrs, byddent wedi anghymhwyso eu hunain rhag gallu cael cyllid pellach. Hyd yn oed ddoe, roeddent yn siarad fel pe na bai'r cyllid hwn wedi'i fwriadu bob amser i fod dros dro. Er eu bod yn beirniadu cyrff eraill sy'n buddsoddi cyllid dros dro mewn costau refeniw parhaus, maent wedi gwneud yr un peth. Fel y dywedodd Canghellor y DU hefyd:
'Y ffordd orau o helpu pobl i gamu ymlaen mewn bywyd, a chodi safonau byw ledled y DU, yw helpu pobl i gael gwaith a chamu ymlaen ar ôl iddynt gael gwaith.'
Ond mae rhethreg adweithiol a dirywiol barhaus Llywodraeth Cymru yn cuddio'r ffaith bod cysylltiad anorfod rhwng agweddau cydraddoldeb a chymdeithasol pwysau costau byw a'r economi.
Yn ogystal â chynnwys camau i helpu aelwydydd bregus sy'n wynebu costau uwch, yn enwedig pan godir y cap ar brisiau ynni, dylai cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru fanylu hefyd ar sut y bydd o'r diwedd yn gweithio law yn llaw â busnes i greu'r amodau ar gyfer economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a sut y bydd o'r diwedd yn datblygu strategaeth systemig a arweinir gan y gymuned ar gyfer mynd i'r afael ag amddifadedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Rydym wedi aros yn rhy hir.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar ddau beth hanfodol sydd eu hangen arnom i gyd er mwyn gallu byw: bwyd a dŵr—nid moethusrwydd, nid pethau braf i'w cael, ond hanfodion. Soniodd Mark Isherwood am helpu pobl i gael gwaith, ond yma yng Nghymru heddiw, y realiti yw na all pobl sy'n gweithio fforddio'r hanfodion hyn.
Yn ystod dadl Plaid Cymru ar 8 Rhagfyr ar dlodi bwyd, rhannodd llawer ohonom ystadegau arswydus o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ar y defnydd o fanciau bwyd a pham nad yw'n dderbyniol fod ansicrwydd a chwant bwyd yn realiti o ddydd i ddydd i gynifer o'r bobl a gynrychiolwn. Yn anffodus, yn hytrach na gwella, mae'r sefyllfa'n parhau i waethygu, a dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw fel bod cynllun gweithredu costau byw brys yn cael ei ddatblygu a'i weithredu cyn gynted â phosibl.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cynyddodd prisiau bwyd cyfartalog tua 28 y cant yn 2021 i'r lefel uchaf mewn 10 mlynedd. Achoswyd hyn yn rhannol gan brisiau ynni uwch sydd wedi effeithio ar gost rhai gwrteithiau, a chostau trafnidiaeth cynyddol, ac mae'r ddau wedi effeithio'n negyddol ar gadwyni cyflenwi bwyd. Mae mwy na hanner yr aelwydydd yng Nghymru wedi wynebu costau bwyd uwch ac fel y clywsom, mae chwech o bob 10 wedi gweld cost eu cyfleustodau'n codi, megis eu biliau dŵr ac ynni.
Y llynedd, roedd bron i 10 y cant o aelwydydd Cymru eisoes yn profi lefelau isel o ddiogelwch bwyd, ac roedd un rhan o bump o bobl Cymru yn poeni y deuai eu bwyd i ben cyn y gallent fforddio prynu mwy. Roedd y ffigur hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer teuluoedd â phlant. Roedd traean o'r bobl a oedd yn ennill llai na'r cyflog byw yn gorfod mynd heb brydau bwyd, fel y dangosodd Delyth Jewell, a dywedodd bron i 60 y cant o'r bobl sy'n byw ar aelwydydd â'r incwm isaf yng Nghymru eu bod wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol. Gan fod disgwyl i brisiau ynni godi ymhellach, rydym yn debygol o weld mwy o gynnydd ym mhrisiau bwyd, yn ogystal â phobl yn gorfod dewis rhwng angenrheidiau sylfaenol, megis gwresogi, bwyd a chynhyrchion hylendid, gan gynnwys cynhyrchion mislif—unwaith eto, nid moethusrwydd. Dyma bethau rydym yn ddigon ffodus i allu eu cymryd yn ganiataol, er efallai nad oedd hynny'n wir i rai ohonom yn y gorffennol.
Nid yn unig y mae pobl yng Nghymru'n byw mewn tlodi bwyd, yn ei chael hi'n anodd prynu bwyd ac yn wynebu mwy o bwysau ariannol wrth geisio cynnal deiet cytbwys, ond mae tlodi dŵr yn dod yn broblem gynyddol yng Nghymru, gyda biliau dŵr yn cyfrannu'n sylweddol at broblemau dyled pobl. Ar ôl ôl-ddyledion y dreth gyngor, ôl-ddyledion bil dŵr oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o ddyled roedd cleientiaid a gysylltodd â StepChange yn ymrafael â hi. Amcangyfrifir bod 175,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr, ond 35 y cant yn unig o'r aelwydydd hynny sy'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt o dan y trefniadau presennol. Mae ymchwil gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi dangos bod aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr, gyda chartrefi'n gorfod torri'n ôl ar hanfodion eraill er mwyn talu eu bil dŵr. Ac mae cymorth i rai mewn tlodi dŵr yn dameidiog, gydag aelwydydd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn cael lefelau sylweddol wahanol o gymorth neu heb fod yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Byddai darparu mwy o gymorth ar gyfer costau bwyd a dŵr yn rhan o gynllun gweithredu yn helpu pobl yng Nghymru sy'n wynebu pwysau ariannol o fannau eraill, megis costau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan.
Ddydd Llun, fel y mae llawer ohonoch wedi'i weld rwy'n siŵr, rhyddhaodd Oxfam ddatganiad i'r wasg yn nodi bod 10 dyn cyfoethocaf y byd wedi mwy na dyblu eu harian o £700 biliwn i £1.5 triliwn yn ystod dwy flynedd gyntaf y pandemig. Ar yr un pryd, mae 99 y cant o'r ddynoliaeth wedi gweld eu hincwm yn gostwng ac mae dros 160 miliwn yn fwy o bobl ar draws y byd wedi cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Dylai hyn gythruddo pawb ohonom a bod yn achos pryder i bob un ohonom a'n sbarduno i weithredu, gan nad yw'n dderbyniol mai dyma'r realiti i bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Mae rhywbeth wedi torri yn y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, oherwydd mae'n gwneud cam â gormod o bobl. Nid yw'n iawn ac nid oes modd ei gyfiawnhau'n foesol ac mae angen i bob Llywodraeth weithredu ar frys. Rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw.
Mae argyfwng costau byw Llywodraeth Dorïaidd y DU yn taro pobl Cymru'n galed. Mae'n argyfwng, ac ydy, mae'n un a welwyd yn agosáu. Ond mae'n rhaid inni gydnabod mai'r Llywodraeth Dorïaidd sy'n gyfrifol am yr ysgogiadau ardrethiannol a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Ac eto, mae'r un sy'n dymuno etifeddu'r goron Dorïaidd, y prentis eglur, Rishi Sunak, wedi bod ar goll. Roedd ar goll ddydd Mercher diwethaf pan oedd y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn ymladd am ei fywyd gwleidyddol yn Nhŷ'r Cyffredin—roedd yn brysur ac ni wnaeth drydar ei gefnogaeth i'r Prif Weinidog tan yn hwyr yn y nos.
Ac fel y dywedwyd yn gynharach nid yw'r argyfwng costau byw hwn yn ymwneud â chwrw neu nosweithiau allan, mae'n ymwneud ag anemia, mae'n ymwneud â'r llechau ac mae'n ymwneud â chlefyd anadlol. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn cydlynu ei sylwadau i Lywodraeth Dorïaidd y DU, ochr yn ochr â'n cymheiriaid yng Nghaeredin a Belfast. Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, yn llygad ei lle pan ddywedodd yn bendant fod aelwydydd Cymru
'am weld y Trysorlys yn cymryd camau brys i helpu pobl sy’n wynebu biliau a chostau byw cynyddol.'
Mae'n siŵr y bydd consensws eang o amgylch y Siambr fod biliau ynni cynyddol yn achosi pryder enfawr a thrallod meddyliol a chorfforol go iawn, gyda gormod o deuluoedd yn byw mewn tlodi tanwydd a chwyddiant yn codi i 5.1 y cant ac y rhagwelir y bydd yn codi eto. Ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi mwy na £50 miliwn yn ceisio lliniaru'r mater. Mae hwn yn argyfwng costau byw ar ben argyfwng COVID. Ac mae'r pŵer, os nad yr ewyllys wleidyddol, yn nwylo'r Prif Weinidog gwarchaeëdig a llegach, Boris Johnson, a'i Weinidogion, gydag ynni, lles a chodi'r gwastad i enwi rhai meysydd yn unig. Byddai'n dda gennyf glywed gan ein Gweinidog ni beth y llwyddodd Simon Clarke, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, i'w gynnig iddi hi a'i chyd-Weinidogion. A gobeithio bod gwŷr mawr y Ceidwadwyr sy'n eistedd yn nhyrau Whitehall yn adnabod R.T. Davies erbyn hyn.
Heddiw yn y ddadl hon rwyf am ddweud hyn yn gryf, ac wrth Dorïaid y Senedd hon: rwy'n erfyn arnoch i wneud eich dyletswydd a sefyll o'r diwedd dros Gymru yn lle Boris. Mae Age UK eisoes wedi rhybuddio y gallai'r cynnydd a ragwelir o 50 y cant mewn biliau ynni o fis Ebrill ymlaen sbarduno argyfwng cenedlaethol yn y DU i filiynau o bobl hŷn. Mae cap prisiau Llywodraeth y DU ar yr hyn y gall cyflenwyr ei godi yn £1,277 ar hyn o bryd, ond mae dadansoddwyr eisoes yn damcaniaethu y gallai hyn godi hyd at bron £2,000 ar 1 Ebrill. Rhaid inni liniaru canlyniadau'r codiadau mwyaf yn y prisiau byd-eang, ac wrth inni ddechrau ar drydedd flwyddyn y pandemig COVID-19, ni allwn ganiatáu i ragor o ddioddefaint diangen gael ei orfodi ar y genedl Gymreig. Ni ddylai dinasyddion, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed yn feddygol, orfod dogni eu defnydd o ynni yn yr unfed ganrif ar hugain oherwydd pwysau ariannol. Ac mae mynd ag £20 yr wythnos oddi wrth y bobl dlotaf un yn ein cymdeithas ar hyn o bryd yn gwbl anfaddeuol. Mae dewis rhwng gwresogi a bwyta yn rhywbeth y gobeithiaf na ddylai'r un ohonom yma yn y Senedd hon ei dderbyn i unrhyw un a gynrychiolwn. Rwy'n herio'r Ceidwadwyr yn y lle hwn i fagu rhywfaint o ddewrder. Sefwch yn erbyn eich meistri gwleidyddol, sefwch dros Gymru yn y Trysorlys, a sefwch dros eich etholwyr. Diolch.
Rydym yn wynebu storm berffaith: mae anghydraddoldeb a thlodi, a oedd ar lefelau digynsail cyn y coronafeirws, wedi'u chwyddo yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae bywyd eisoes yn frwydr i gynifer o bobl, ac eto mae pethau'n mynd i fod yn waeth—yn llawer gwaeth. Mae disgwyl i'r cap ar brisiau ynni godi ym mis Ebrill. Fel pe na bai hynny'n ddigon drwg, mae prisiau cyfleustodau'n mynd i godi eto chwe mis wedyn. Y rhagolygon yw y bydd y bil ynni cyfartalog yn codi i tua 75 y cant yn uwch na'r prisiau presennol. Nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r caledi a'r dinistr y bydd hyn yn ei achosi i gynifer o deuluoedd yn ein cymunedau.
Mae llawer o bobl mewn sefyllfa ariannol ansicr fel y mae pethau; prin y gallant fforddio'r hyn sy'n mynd i'n taro eleni. O, rwy'n gweld, Lywydd, fod Rhun, rwy'n credu, am ddod i mewn.
Diolch am wneud fy ngwaith ar fy rhan, Peredur. A ydych chi'n fodlon i Rhun wneud ymyriad? O'r gorau. Rhun ap Iorwerth.
Diolch. Dim ond ymyriad byr iawn. Mae llawer o etholwyr i mi wedi lleisio pryderon penodol ynghylch prisiau ynni cynyddol. Rydym yn sôn am bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. A yw'r Aelod yn cytuno mai un broblem rydym yn debygol o'i hwynebu fwy a mwy yw nad yw pobl yn gallu coginio neu wresogi bwyd am na allant fforddio'r prisiau ynni? A gwyddom pa mor niweidiol fydd hi os yw pobl yn methu cael pryd poeth rheolaidd.
Ydw, dwi'n cytuno'n llwyr efo Rhun yn fanna. Mae gorfodi pobl i ddewis rhwng gwresogi'r tŷ neu fwyd cynnes yn ofnadwy, ac mae'r niwed i bobl sydd yn methu â chael bwyd cyson yn frawychus ac yn anfaddeuol.
I waethygu pethau, mae gennym Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sydd y tu hwnt i barodi. Tra bod miliynau o bobl yn poeni sut y gallant fforddio eu biliau cyfleustodau dros y 12 mis nesaf, mae diffyg ateb cydlynol gan Lywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn annerbyniol. Pe baent yn rhoi cymaint o amser ac ymdrech ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ag y maent yn ei wneud ar drefnu partïon sy'n mynd yn groes i'r cyfyngiadau symud, byddem mewn gwell sefyllfa. Efallai fod y difaterwch ynghylch yr argyfwng yn deilio o'r ffaith na fydd Johnson a Sunak yn gorfod talu'r prisiau cynyddol, oherwydd y cap ar y cyfraniadau a wnânt am eu fflatiau yn Stryd Downing. Mae'r Prif Weinidog a'r Canghellor yn cael llety gras a ffafr yn ddi-rent, gyda biliau cyfleustodau a chostau'r dreth gyngor yn cael eu talu gan y Llywodraeth. Tybed a fyddent yn gweithredu gydag ychydig mwy o frys pe baent yn cael eu tynnu allan o'u ffordd o fyw faldodus a'u gorfodi i fyw mewn tlodi am beth amser. Efallai fod Johnson wedi anghofio ei fod wedi addo rhoi diwedd ar y TAW ar filiau tanwydd mewn erthygl a gyd-ysgrifennodd ar gyfer papur newydd The Sun fis cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Gan ein bod eto i weld y polisi hwn yn cael ei gyflawni sawl blwyddyn i mewn i'w brif weinidogaeth, mae'n debyg y gellir ei ddileu fel addewid Brexit arall a dorrwyd.
Mae cost gynyddol ynni wedi arwain at fwy nag 20 o gyflenwyr yn mynd i'r wal. Mae wedi golygu bod eu sylfaen gwsmeriaid wedi dychwelyd i ddwylo'r chwe chwmni mawr. Ceir achos cryf bellach dros gyfeirio cyllid tuag at ynni diogel wedi'i genedlaetholi, yn enwedig ynni adnewyddadwy. Mae'r gobaith o weld rhywbeth cadarnhaol ac effeithiol fel hyn gan Lywodraeth y DU sy'n gwrthwynebu mesurau o'r fath ar sail ideolegol yn denau a dweud y lleiaf.
Bydd yr argyfwng costau byw hwn yn taro pobl hŷn yn arbennig o galed. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud bod angen mwy o arian ar bobl hŷn ar incwm isel i helpu gyda biliau tanwydd sy'n codi. Gyda chynnydd yn y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gall pensiynwyr wynebu dewis rhwng bwyd neu danwydd, fel y nododd Rhun yn ei sylw yn gynharach. Roedd pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu heffeithio yn eu swyddi gan y coronafeirws. Roedd chwarter y gweithwyr rhwng 60 a 64 oed ar ffyrlo, wedi colli oriau neu dâl, neu wedi colli eu swyddi'n gyfan gwbl yn ystod y pandemig. Efallai na fydd y rhai a gollodd eu swyddi yn yr oedran hwn yn ystod y pandemig byth yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Gwyddom hefyd fod y defnydd o gredyd yn disgyn gydag oedran i rai dros 50 oed, oherwydd bod llawer o fenthycwyr yn gwrthod rhoi benthyg i bobl dros oedran penodol.
Mae Plaid Cymru am i'r Llywodraeth hon fuddsoddi mewn ymgyrch wedi'i thargedu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Yn 2018-19 yn unig, roedd cyfanswm y credyd pensiwn heb ei hawlio gymaint â £214 miliwn. Mae credyd pensiwn nid yn unig yn darparu cymorth ariannol, mae hawlio'r credyd hefyd yn datgloi amryw o hawliau eraill, megis gostyngiadau'r dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai. Dyma pam y mae'r ddadl hon mor bwysig. Ni allwn aros am weithredu gan Lywodraeth yn Llundain sydd â chyn lleied o gysylltiad â phobl o gymunedau dosbarth gweithiol. Os oes unrhyw un yn credu bod ewyllys wleidyddol yn Rhif 10 Stryd Downing i gyflawni dros bobl gyffredin sy'n byw yng Nghymru, nid ydynt wedi bod yn talu llawer o sylw i hanes. Mae angen help a sicrwydd ar bobl yng Nghymru, ac maent ei angen yn fuan. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu'n gyflym. Diolch yn fawr.
Y peth rhwystredig i gynifer ohonom yw bod hwn yn argyfwng rydym wedi'i weld yn dod. Rydym yn gwybod bod prisiau ynni'n codi i'r entrychion, rydym wedi gwybod bod chwyddiant yn codi, ac eto beth a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol hon yn y DU? Fe wnaethant dorri credyd cynhwysol, gan ddileu achubiaeth hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fe wnaethant ddewis codi yswiriant gwladol, a fydd yn taro cynifer o bobl, ac yna, y bore yma, clywsom heddiw eu bod wedi gadael i chwyddiant gyrraedd y lefel uchaf mewn 30 mlynedd. Wrth imi siarad, mae trychineb diweddaraf Stryd Downing yn tynnu sylw'r Ceidwadwyr yn San Steffan ormod iddynt allu mynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Dyna pam rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr heddiw, ac rwy'n falch o gefnogi'r cynnig.
Er bod y rhan fwyaf o'r ysgogiadau i fynd i'r afael â chostau byw yn nwylo Llywodraeth San Steffan, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud beth bynnag y gall i liniaru effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn. Rhaid canmol Llywodraeth Cymru am y pecyn £51 miliwn a dynnodd Llywodraeth Cymru o'i chronfeydd wrth gefn ym mis Tachwedd i helpu i fynd i'r afael â'r costau byw cynyddol drwy'r gaeaf. Ar adeg pan fo Ceidwadwyr Llywodraeth y DU yn gwrthod cymryd camau ystyrlon ar yr argyfwng costau byw, camodd Llywodraeth Cymru i mewn, ac rwyf fi a llawer o drigolion yn ddiolchgar am hynny. Drwy'r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau da: cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y gronfa cymorth tanwydd gaeaf a'r gronfa caledi i denantiaid. Bydd y rhain i gyd yn gwneud gwahaniaeth, ond wrth inni fynd drwy'r misoedd nesaf, rhaid inni ystyried a oes lle i wthio ymhellach.
Yn gyntaf, o ran y gronfa caledi i denantiaid, yn aml daw dyledion eraill gydag ôl-ddyledion rhent. Mae'r canolfannau cyngor ar bopeth wedi gweld cynnydd dramatig yn y galw am eu gwasanaethau cyngor ar ddyledion. Yn draddodiadol, mae'r rhan fwyaf o'r pryderon yn canolbwyntio ar ôl-ddyledion y dreth gyngor, pobl sy'n cael trafferth gyda dyledion cynyddol, ffioedd ychwanegol a bygythiadau beilïaid. Fodd bynnag, yn anffodus, a bron yn anochel, roedd y cynnydd mwyaf i'w weld yn nifer y bobl sydd â dyledion ynni, a oedd 150 y cant yn uwch ym mis Tachwedd na'r un cyfnod yn 2019, gyda biliau'n mynd i godi eto yn nes ymlaen eleni, gan achosi pryder i fwy byth o bobl sy'n poeni sut y bydd hyn yn effeithio arnynt hwy.
A dyma lle gall cyngor ar ddyledion helpu. Yng Nghasnewydd, gyda chyngor dan arweiniad Llafur, rydym yn ffodus iawn o gael swyddogion cynhwysiant ariannol yn y tîm cymorth tai, ochr yn ochr â swyddfa leol ein canolfan cyngor ar bopeth. Er bod gan y ddau grŵp lwyth gwaith trwm, maent yn darparu gwasanaeth rhagorol ac yn enghraifft dda o arferion da y gellir eu cyflwyno ledled Cymru—
Jayne, mae Mabon ap Gwynfor yn nodi ei fod am ymyrryd. Nid wyf yn gwybod a ydych yn fodlon derbyn hynny.
Ydw.
Iawn. O'r gorau. Mabon ap Gwynfor, felly.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Aelod. Mae'n peintio darlun llwm iawn ac yn sôn am y tenancy hardship fund. Onid un ffordd arall o sôn am y cost-of-living crisis ydy cyfeirio ato fo yr un fath ag unearned income boon, oherwydd bod rhentwyr preifat yn fwy tebygol o wario dros draean o'u hincwm ar rhentu, felly? Ydych chi felly'n Aelod sy'n cytuno efo fi bod angen gweld y Llywodraeth yn ymyrryd yn y farchnad dai a sicrhau rhent fforddiadwy i bobl ar lawr gwlad?
Diolch yn fawr, Mabon, ac rwy'n dod at bwynt lle credaf efallai y gall Llywodraeth Cymru wneud ychydig mwy ar y math hwn o faes.
Mae bod mewn dyled yn aml yn teimlo fel cylch diddiwedd trallodus a rhaid rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo trigolion i ddod allan o'r cylch hwnnw, yn hytrach na rhoi ateb dros dro yn unig i'w pryderon. O fewn yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, pe gellid rhoi system ar waith i'r rhai sy'n gwneud cais am y grant caledi i denantiaid gael eu hatgyfeirio am gyngor ar ddyledion, efallai y byddwn yn mynd beth o'r ffordd tuag at gyflawni hynny a gallem wneud gwahaniaeth gwirioneddol a phendant.
Maes arall lle gallai Llywodraeth Cymru wneud gwaith pellach yw'r gronfa cymorth tanwydd gaeaf, cynllun a gyhoeddwyd pan oedd Canghellor Ceidwadol y DU yn gwneud dau beth, sef torri cymorth a chyhoeddi codiadau treth. Ar hyn o bryd, pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd penodol yn unig sy'n gymwys i wneud cais. Nid yw hyn yn cynnwys llawer o bobl sydd ar incwm isel ac mewn tlodi tanwydd. Er enghraifft, mae'r rhai ar y lwfans cyflogaeth a chymorth newydd sy'n seiliedig ar gyfraniadau yn cael yr un swm â phobl ar lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n seiliedig ar incwm, ond nid ydynt yn gymwys i hawlio o'r gronfa hon. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog edrych ar hyn a gweithio gyda Gweinidogion eraill i weld a oes ffyrdd o ehangu'r meini prawf cymhwysedd yn debyg i'r grwpiau ehangach ar gyfer y gostyngiad Cartrefi Clyd, neu a oes unrhyw ffordd y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio disgresiwn wrth wneud dyfarniadau o'r gronfa. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn creu gwaith ychwanegol i staff gweinyddol awdurdodau lleol, sy'n gweithio'n eithriadol o galed yn cefnogi trigolion. Mae eu gwaith yn amhrisiadwy ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac mae eu cefnogi hwythau hefyd yn hanfodol.
Mae Llywodraeth San Steffan yn anwybyddu'r argyfwng sydd ar y gorwel drwy roi eu holl egni tuag at amddiffyn eu harweinydd aflwyddiannus. Gall cyflogau sy'n aros yn eu hunfan, chwyddiant serth a phrisiau ynni cynyddol fod yn gyfuniad gwenwynig a fydd yn taro'r bobl dlotaf yn galetach na neb. Yn y pen draw, ar adegau fel hyn, mater i'n Llywodraeth Lafur yng Nghymru yw gwneud y pethau nad yw'r Ceidwadwyr yn eu gwneud. Rhaid inni ddefnyddio pob llwybr posibl i atal dyledion rhag cronni a chefnogi pobl sy'n cael eu gorfodi i ddyled drwy'r pwysau real iawn ar gostau byw. Diolch yn fawr.
Clywais y Ceidwadwyr yn dweud yn y Senedd eu bod yn credu mai'r ffordd allan o dlodi yw drwy weithio eu ffordd allan, ond mae llawer o bobl sy'n gweithio yn byw mewn tlodi neu'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith gweddus sy'n cyd-fynd â gofal plant. Yn aml, mae oriau hir disgwyliedig o waith a phatrymau shifft yn erchyll, a bu'n ras i'r gwaelod ar safonau cyflogaeth, cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ar draul y gweithiwr. Yng Nghymru, y gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf, gyda gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu a phorthorion ysbytai, ond torrwyd cyllid gwasanaethau cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn am 10 mlynedd o 2010 ymlaen gan effeithio ar hynny, ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus.
Gyda'r rhagfynegiadau'n dangos y bydd prisiau ynni'n codi 50 y cant pan godir y cap ym mis Ebrill, ychydig o aelwydydd ledled Cymru fydd yn osgoi teimlo'r pwysau eleni. Ni allai'r toriad i'r credyd cynhwysol ddod ar adeg waeth, pan fo eisoes yn anodd iawn cydbwyso cyllid y cartref. Diolch i ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, mae llawer o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn cael achubiaeth i ymdrin â phwysau uniongyrchol, ond mae angen atebion mwy hirdymor.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Cyngor ar Bopeth yn sir Ddinbych i glywed am y gwaith y maent yn ei wneud ar gynorthwyo teuluoedd i gynyddu incwm, ymdrin â dyled a lleihau biliau'r cartref, a hoffwn rannu heddiw rai o'r heriau y nododd Cyngor ar Bopeth y gellid mynd i'r afael â hwy fel rhan o gynllun argyfwng costau byw wrth symud ymlaen. Yn gyntaf, mae angen inni fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb o ran mynediad at ynni fforddiadwy. Ar hyn o bryd, mae sgôr effeithlonrwydd ynni stoc tai awdurdodau lleol yn amrywio'n fawr. Clywais gan un o'r trigolion y mae ei wresogyddion stôr hen ffasiwn yn costio £8 y dydd iddo allu cadw'n gynnes. Mae'r rhai sy'n byw mewn llety rhent preifat hefyd yn aml yn wynebu gorfod talu mwy na'u siâr i wresogi cartrefi wedi'u hinswleiddio'n wael â systemau gwresogi aneffeithlon. Mae angen mynd i'r afael â materion fel hyn ar frys, a gobeithio y bydd y broses o gyflwyno'r rhaglen ôl-osod yn parhau'n gyflym.
Ar ben hyn, mae llawer o denantiaid yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, sydd i bob pwrpas yn ychwanegu premiwm tlodi at gost ynni, gan stigmateiddio pobl mewn llety rhent. O ystyried y datblygiadau yn nhechnoleg mesuryddion, mae'n ymddangos yn gwbl anghyfiawn y dylai rhywun ar fesurydd rhagdalu dalu mwy am yr hyn y maent yn ei ddefnyddio.
Mae angen inni sicrhau hefyd fod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth Advicelink a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cyngor am ddim ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys lles, ond hoffwn weld mwy o arian ar gyfer ymgyrchoedd rhagweithiol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Ym mis Hydref 2019, gweithiodd y comisiynydd pobl hŷn yn agos gyda Trafnidiaeth Cymru i gynnwys taflen wybodaeth am gredyd pensiwn gyda phob gohebiaeth adnewyddu pasys bws consesiynol a gâi eu hanfon at bawb yng Nghymru dros 60 oed. Yn dilyn yr ymgyrch honno, roedd nifer yr hawlwyr newydd 26 y cant yn uwch na'r cyfartaledd fesul chwarter dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddwn yn croesawu ymestyn ymgyrch fel hon, er enghraifft drwy hysbysebu ar fagiau fferyllol, a allai gynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth y mae gan bobl yng Nghymru hawl iddo.
Yn San Steffan y mae llawer o'r pwerau sy'n effeithio ar gostau byw, ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu yn awr i osgoi cynnydd trychinebus ym mhrisiau ynni, ond mae'n bwysig cofio'r gwahaniaeth y mae ein Llywodraeth yng Nghymru yn ei wneud ac y gall ei wneud i aelwydydd ledled Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am fod fy nghi yn chwyrnu ac yn griddfan yn y cefndir?
Iawn, nid wyf yn siŵr ai'r ffaith bod eich ci'n chwyrnu oedd yn gyfrifol am golli fy sain am ran o'r cyfraniad hwnnw. Hyderaf fod y cyfan yn ddilys. Ni welais unrhyw wynebau rhuslyd o fy mlaen. Galwn ar y Gweinidog yn awr i gyfrannu at y ddadl. Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n gwbl amserol ac yn ddadl bwysig iawn wrth inni weithredu fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, sy'n effeithio mor ddifrifol ar y bobl rydym i gyd yn eu cynrychioli ac yn eu gwasanaethu yng Nghymru, a chafodd hynny ei gyfleu'n gadarn yn y ddadl.
Fel Llywodraeth, rydym yn dwyn ynghyd ein cynlluniau ac yn defnyddio ein pwerau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, fel y galwyd arnom i'w wneud yn y ddadl hon, ond rwyf am gymeradwyo'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau heddiw fod y pwerau a'r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i helpu pobl gyda chostau biliau ynni a chostau byw cynyddol yn nwylo Llywodraeth y DU yn bennaf. Felly, mae'r ddadl hon yn rhoi cyfle inni uno heddiw i gefnogi'r sylwadau rydym yn eu gwneud fel Gweinidogion Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU, oherwydd y pwerau a'r ysgogiadau cyllidol sydd ganddynt, ond hefyd i fwrw ymlaen â'n cynlluniau a'n blaenoriaethau y galwyd amdanynt heddiw yn y cynnig hwn a chan yr Aelodau.
Fel y nodwyd, cyfarfu'r Gweinidog cyllid â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf, gyda chymheiriaid o'r Alban a Gogledd Iwerddon, i alw am weithredu ar frys i leihau'r baich ar aelwydydd sydd dan bwysau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a minnau wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein pryder mawr am y cynnydd ym mhrisiau ynni domestig, gan bwyso am weithredu ar frys i ddiogelu aelwydydd sy'n fregus. Byddwch wedi gweld y llythyr a ysgrifennwyd gennym.
Yr wythnos hon hefyd, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu cyfraddau taliadau budd-dal lles ym mis Ebrill eleni, yn unol â'r cynnydd yn y mynegai prisiau defnyddwyr, oherwydd fel y byddwch wedi gweld, adroddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yr wythnos diwethaf eu bod yn disgwyl iddo gyrraedd 6 y cant. Gyda'r cynnydd hwnnw, byddai hyn yn arbed ein cartrefi incwm isaf rhag wynebu gostyngiad o £290 mewn incwm budd-daliadau termau real o un flwyddyn i'r llall, gan helpu i leddfu'r ychydig lleiaf ar yr argyfwng costau byw y maent yn ei wynebu.
Pan wnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad cywilyddus i ddod â'r cynnydd o £20 i'r credyd cynhwysol i ben ym mis Hydref y llynedd, er gwaethaf rhybuddion ynglŷn â'r effaith y byddai'n ei chael yn gwthio mwy o aelwydydd i fyw mewn tlodi, anogasom ac rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wrthdroi ei phenderfyniad. Arweiniodd at y toriad dros nos mwyaf i gyfraddau talu nawdd cymdeithasol ers sefydlu'r wladwriaeth les fodern. A'r gwir amdani yw, nid yw adolygiad o wariant yr hydref Llywodraeth y DU yn ateb maint yr her rydym yn ei hwynebu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn—y storm berffaith hon, fel y dywedwyd—a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau a theuluoedd yng Nghymru.
Ond lle mae San Steffan wedi methu cefnogi teuluoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i gefnogi ein cymunedau drwy'r cyfnod heriol hwn, ac i symud ymlaen, gyda'n pwerau a'n polisïau, a chyda'r cyfraniadau a wnaed y prynhawn yma, a gweithio'n bendant iawn ar sail trawslywodraethol i fwrw ymlaen â hyn. Rydym wedi cyflwyno mesurau brys—cawsant eu cydnabod heddiw—i wrthbwyso effaith colli'r cynnydd o £20 i'r credyd cynhwysol: ein cronfa cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn; £2 filiwn a ddyrannwyd ar gyfer atal digartrefedd; a'r gronfa cymorth tanwydd gaeaf gwerth £38 miliwn, sy'n darparu'r taliad arian untro o £100 i helpu aelwydydd cymwys gyda'u biliau tanwydd. Eto ddoe, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fod hyd at 100,000 o geisiadau am hwnnw eisoes yn eu lle. Ceir £1.1 miliwn ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys £0.5 miliwn i gefnogi banciau bwyd, ac ateb y galw cynyddol, a £657,000 i helpu i sefydlu 25 yn rhagor o brosiectau Bocs Bwyd Mawr mewn ysgolion yn ardal tasglu'r Cymoedd.
Diolch i'r Aelodau am nodi'r rôl y gall ac y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae. Maent yn hanfodol i'n helpu yn y cynlluniau gweithredu hyn y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru, nid Llywodraeth Cymru yn unig, ond gan weithio gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector hefyd. Mae cyhoeddiadau pellach ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru ar ein grant cymorth i aelwydydd.
Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar ein cronfa cymorth dewisol gyda'r £14.7 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ac fel y galwyd amdano, rydym yn gweithredu i barhau â'r hyblygrwydd hwnnw, gan ganiatáu mwy o daliadau a thaliadau mwy mynych i bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng costau byw a diddymu'r codiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Ond rydym hefyd wedi ailsefydlu ein cymorth tanwydd gaeaf o'r gronfa cymorth dewisol ar gyfer cartrefi oddi ar y grid, grantiau trwsio boeleri tan ddiwedd mis Mawrth 2022, ac fel y galwyd arnom i'w wneud, rydym yn cynnal ymgyrch genedlaethol i chwyddo'r niferoedd sy'n cael budd-daliadau cenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Unwaith eto, fel y soniwyd, credyd pensiwn, mae'n hanfodol fod gennym yr ymgyrch honno, gan weithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Mewn gwirionedd, arweiniodd ein hymgyrch ym mis Mawrth y llynedd at gynnydd enfawr o £651,000 a mwy yn yr hyn a hawliwyd gan y rhai sydd â hawl i gael budd-daliadau. Rwy'n annog Llywodraeth y DU yn gryf i gynnal ymgyrch debyg, fel y mae Gweinidogion yr Alban wedi'i wneud hefyd, i leddfu'r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu.
Hoffwn ddweud 'diolch' yn gyflym iawn i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roedd eich adolygiad o ddyled yn hollbwysig—ac fe wnaethom ymateb iddo'n gadarnhaol yr wythnos diwethaf—ac mae gennych ymchwiliad ar y ffordd i dlodi tanwydd. Mae uniondeb eich gwaith wedi helpu i lywio a llunio ein hymateb i'r materion hollbwysig hyn, a chredaf fod hynny'n rhan o'r hyn y mae cynnig Plaid Cymru yn galw amdano, ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd fel hyn i wneud y gwahaniaeth y gallwn ei wneud yng Nghymru. Oherwydd mae gennym gyflog cymdeithasol mwy hael yng Nghymru, drwy fentrau fel ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, presgripsiynau am ddim, effaith gadael arian ym mhocedi dinasyddion Cymru. A chrybwyllwyd y gronfa cymorth i denantiaid—y gronfa cymorth i denantiaid sy'n werth £10 miliwn—sydd bellach nid yn unig yn cefnogi'r sector preifat, ond tenantiaid tai cymdeithasol hefyd sy'n ei chael hi'n anodd ad-dalu ôl-ddyledion rhent sylweddol. Unwaith eto, wrth wrando ar yr holl bwyntiau a wnaed yn y ddadl hon y prynhawn yma, ein cronfa gynghori sengl, gwasanaethau integredig yn ystod chwe mis cyntaf eleni, i helpu pobl unwaith eto i hawlio incwm ychwanegol. A rhaid inni beidio ag anghofio ein cynllun cymorth hunanynysu, sydd wedi helpu pobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol iddynt hunanynysu, ac mae bron i £29 miliwn wedi'i hawlio hyd yma.
Hoffwn gydnabod yn olaf fod ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi ein galluogi i ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim. Soniwyd am hynny yn y ddadl hon, ond mae gweld 196,000 ychwanegol o blant oed cynradd yn elwa o'r cynnig o bryd ysgol iach am ddim yn hollbwysig o ran y ffordd y mae Cymru'n ymateb i'r argyfwng costau byw. Rydym hefyd yn symud ymlaen mewn perthynas â chyllid ar gyfer gofal plant i fwy o deuluoedd, pan fydd rhieni mewn addysg, ac yn edrych hefyd ar ymestyn cymorth drwy addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae gennym fesurau eraill. Mae gennym y warant i bobl ifanc, mae gennym y cyflog byw go iawn, yr ymrwymiad i ymestyn hwnnw gyda'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn ysgrifennu at bob corff cyhoeddus i'w hannog i arwain drwy esiampl, ac mae ein rhaglen Cartrefi Clyd yn creu budd ers 2010-11 i 67,100 o aelwydydd a llawer mwy.
Felly, fy mhwynt olaf yw bod y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau aelwydydd incwm isel, ond wrth i brisiau ynni godi a chwyddiant gynyddu, rydym yn ymwybodol fod angen inni wneud mwy. Felly, rwy'n trefnu cynhadledd bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol, gan ddwyn ynghyd yr holl randdeiliaid a chyd-Weinidogion ar 17 Chwefror, gan ymateb yn bendant iawn i alwadau yn y cynnig hwn heddiw i benderfynu beth arall y gallwn ei wneud gyda'r ysgogiadau polisi sydd ar gael i ni, a datblygu'r cynllun gweithredu a fydd yn cefnogi aelwydydd ledled Cymru sydd mewn perygl gwirioneddol o niwed ariannol.
Ond mae'n rhaid inni barhau i wneud y sylwadau cryfaf ochr yn ochr â'r Alban a Gogledd Iwerddon i Lywodraeth y DU, sydd wedi profi pa mor greulon o ddifater yw hi ynglŷn â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Felly, a wnaiff y Ceidwadwyr Cymreig, os ydynt yn cefnogi'r cynnig hwn, ymuno â ni i gefnogi'r sylwadau a gyflwynwn i Lywodraeth y DU? Eich cyfrifoldeb chi yn awr, os ydych yn cefnogi ein cynnig, yw gwneud hynny, ymuno â ni a chefnogi ein sylwadau i Lywodraeth y DU. Cefnogwch hwy i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi cymorth ychwanegol i gynlluniau fel y gostyngiad cartrefi cynnes—
Weinidog, pe baech yn y Siambr, byddai'r cloc wedi hen droi'n goch bellach, felly os gallwch ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y dywedodd National Energy Action yn glir, mae gan Lywodraeth y DU y pwerau a'r adnoddau cyllidol i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond fe wnawn yr hyn a allwn gyda'n pwerau a'n polisïau ni yma yng Nghymru i gefnogi'r cynnig hwn a bwrw ymlaen â hyn. Diolch yn fawr, Lywydd.
Luke Fletcher nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw ac i'r Gweinidog am ymateb.
Wrth inni gloi'r ddadl hon, credaf ei bod yn werth nodi ac ailadrodd pwynt a wnaeth Jayne Bryant, nad yw'r brwydrau dyddiol oherwydd costau byw yn rhywbeth newydd, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bodoli ers degawd neu fwy. Ond yr hyn a welwn yn awr yw chwyddo'r trafferthion hynny, brwydr na ddylai byth fodoli yn y lle cyntaf. Bydd y chwyddo hwnnw'n arwain at lefelau Fictoraidd o dlodi, ac mae'n werth oedi i feddwl am hynny am eiliad—lefelau Fictoraidd o dlodi yng Nghymru heddiw.
Clywsom gan Huw Irranca-Davies, Rhianon Passmore a Peredur Owen Griffiths am yr effaith y mae costau tanwydd cynyddol yn ei chael. Mae teuluoedd a oedd prin yn ymdopi cyn hyn yn cael eu gwthio dros yr ymyl heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Gwelsom y stori ar newyddion BBC Wales am Judith, mam-gu sydd ond yn rhoi'r gwres ymlaen pan ddaw ei hwyron ar ymweliad, a hyd yn oed wedyn nid yw'n gallu fforddio ei roi ymlaen am fwy nag awr. Os nad yw hynny'n eich deffro i realiti'r sefyllfa, nid wyf yn gwybod beth fydd—sefyllfa sy'n cadarnhau'n union yr hyn a nododd Peredur ar effaith cost tanwydd ar bobl oedrannus.
Clywsom gan Heledd Fychan sut y mae cost bwyd a dŵr wedi codi, gan wthio mwy o bobl i fyw mewn tlodi bwyd. Ac fel y nododd Heledd, y llynedd, roedd bron i 10 y cant o aelwydydd Cymru yn profi lefel isel o ddiogelwch bwyd, ac roedd un rhan o bump o bobl Cymru yn poeni y byddai eu bwyd yn dod i ben cyn y gallent fforddio prynu mwy. Roedd y ffigur hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer teuluoedd â phlant. A bydd pob un ohonom wedi gweld y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd gyda'n llygaid ein hunain. Nid moethusrwydd yw bwyd a dŵr, maent yn hanfodol i fywyd dynol. Ni allwn fyw na goroesi hebddynt.
Clywsom hefyd gan Sioned Williams a Carolyn Thomas ynglŷn â'r modd nad yw cyflogau'n codi cymaint â chostau. Cyn yr argyfwng, roedd pobl eisoes yn gweithio mwy nag un swydd i gael dau ben llinyn ynghyd. Ac mae hyn i gyd, wrth gwrs, fel y nododd Sioned Williams, Rhun ap Iorwerth a Delyth Jewell, yn golygu bod hyd yn oed mwy o deuluoedd bellach yn dewis rhwng gwresogi a bwyta. Ac i'r rhai sydd eisoes wedi gorfod dewis, mae'n siŵr eu bod yn poeni eu hunain yn sâl ynglŷn â lle bydd hyn i gyd yn eu gadael. Yn y cyfamser—a gwn fod yna Aelodau a hoffai ganu clodydd y grŵp penodol hwn—tra bod 163 miliwn o bobl wedi cael eu gwthio i fyw mewn tlodi yn ystod y pandemig, arweiniodd cynnydd ym mhrisiau cyfranddaliadau ac eiddo at gynyddu cyfoeth byd-eang y 10 unigolyn cyfoethocaf yn y byd i $1.5 triliwn. Mae Oxfam yn rhagweld y bydd 3.3 biliwn o bobl yn byw ar lai na $5.50 y dydd erbyn 2030. Gadewch imi roi hynny mewn ffordd wahanol: yn ystod y pandemig, mae 10 dyn cyfoethocaf y byd wedi gweld eu cyfoeth yn dyblu, wrth i'w hincwm gynyddu bron i $1 biliwn y dydd, tra bod gweddill y byd wedi gweld eu hincwm yn gostwng. Felly, gofynnaf y cwestiwn eto, fel rwyf wedi'i wneud yn y Siambr o'r blaen: ar ba bwynt y penderfynwn fod crynhoi cymaint o gyfoeth yn anfoesol, oherwydd credaf ein bod wedi hen basio'r cam hwnnw yn awr?
Ac un pwynt olaf, Lywydd. Nid oes unrhyw beth yn dangos dynoldeb neu ddiffyg dynoldeb unigolyn yn fwy eglur na phan ddywedant, 'Wel, dyna'r ffordd y mae pethau', neu 'Nid ydym yn byw mewn byd delfrydol.' Y rheswm pam fod pethau y ffordd y maent, y rheswm pam nad ydym yn byw mewn byd delfrydol yw oherwydd diffyg ewyllys wleidyddol i fynd i'r afael â thlodi. Mae mor syml â hynny. Nid yw hyn yn anochel. Unwaith eto, cawn ein hunain mewn argyfwng lle mae gennym Lywodraeth y DU nad yw'n gymwys i lywodraethu, Llywodraeth sy'n poeni mwy am ymgyrch 'achub y ci mawr' na mynd i'r afael ag argyfwng a fydd yn dinistrio teuluoedd nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Tynnodd Martin Lewis, yr arbenigwr arbed arian, sylw at y gwahaniaeth amlwg rhwng y lle hwn a San Steffan. Yr her fwyaf sy'n wynebu teuluoedd gyda chodiad o 50 y cant ym mhrisiau ynni, gan wneud ynni'n anfforddiadwy i filiynau, wedi'i sgubo o'r neilltu mewn un cwestiwn yn ystod cwestiynau i Brif Weinidog y DU. Nawr, rwyf am ddweud bod y ffaith bod llawer o amser wedi'i roi heddiw i gostau byw, nid yn unig yn y ddadl hon ond yng nghwestiynau llefarwyr yn y Senedd hon, yn rhoi rywfaint o obaith i mi. Ac mewn gwirionedd, roedd yr ymateb gan y Gweinidog yn gadarnhaol iawn, ond mae angen inni weithredu yn awr. Fel pob Aelod yma, rwy'n ymdrin â llawer iawn o faterion ar ran etholwyr, ond yr argyfwng sydd ger ein bron yw'r un sy'n fy nghadw'n effro'r nos. Rydym yn sôn am fy ffrindiau, fy nheulu, a'r bobl y cefais fy magu gyda hwy, y bobl sy'n byw yn fy nghymuned, ac sy'n byw ym mhob un o'n cymunedau, a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan hyn.
Mae cynnig Plaid Cymru
'yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu costau byw brys'.
Os caiff ei basio, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom, nid Aelodau Plaid Cymru yn unig, ond Aelodau Llafur ac Aelodau Ceidwadol ac Aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol o bob rhan o'r Siambr, sicrhau bod pa gynllun bynnag a gynhyrchir yn werth y papur y bydd wedi'i ysgrifennu arno, a'i fod yn gweithio i bobl. Ac rwy'n herio'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd i fynd i San Steffan a thynnu sylw at y ffaith bod pobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd iawn yn awr. Mae angen iddynt ysgwyddo eu cyfrifoldeb yma. Mae gormod o gynigion a dadleuon yn pasio yn y Senedd hon ac yn cael eu dilyn gan oedi cyn gweithredu neu weithredu gwael. Wel, ni all y cynnig hwn fod yn un ohonynt. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr er mwyn cynnal y pleidleisiau sydd eu hangen. Byddwn ni'n cymryd toriad byr iawn i baratoi ar gyfer y pleidleisiau hynny.