– Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7945 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin.
2. Yn mynegi undod â phobl Wcráin.
3. Yn cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu'r pris am y rhyfel erchyll hwn.
4. Yn cydnabod hawliau NATO i amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei gwlad.
5. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai mewn angen a lloches ddiogel i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar Wcráin. Yfory, bydd yn bythefnos ers i Rwsia ymosod ar wladwriaeth annibynnol sofran Wcráin—ymosodiad sydd wedi brawychu'r byd ac sydd wedi uno gwledydd democrataidd yn eu condemniad o weithredoedd creulon yr Arlywydd Vladimir Putin yn erbyn ein cynghreiriad Ewropeaidd. Mae'n gywir ac yn bwysig ein bod ni yn y Senedd hon yn cynnig ein cefnogaeth a'n cyfeillgarwch i bobl Wcráin ac yn sefyll yn unedig yn erbyn gweithredoedd yr Arlywydd Putin a'i beiriant rhyfel Rwsiaidd, ffrynt unedig sy'n cydnabod gweithredoedd cadarnhaol Llywodraeth y DU a'u cynghreiriaid rhyngwladol yn gwrthsefyll gormes, arswyd ac anfadrwydd gweithredoedd rhyfelgar anghyfreithlon yr Arlywydd Putin.
Mae pwynt 1 yn y cynnig hwn yn defnyddio peth o'r iaith gryfaf y gallwn ni fel Aelodau o'r Siambr hon ei defnyddio heb gael ein ceryddu gennych chi, Ddirprwy Lywydd—fod y Senedd hon yn ffieiddio at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin. Ond mae'n bwynt, rwy'n siŵr, na fydd neb yn y Siambr hon yn anghytuno ag ef. Yn ddi-os, mae troseddau rhyfel wedi'u cyflawni yn Wcráin. Mae'r gweithredoedd ffiaidd hyn gan Rwsia wedi'u cyfeirio at y Llys Troseddol Rhyngwladol, ac ategaf y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, drwy ddweud y dylid gwneud pob ymdrech i geisio sicrhau cyfiawnder am y troseddau hyn. Rhaid dwyn Putin a'i gynghreiriaid i gyfrif am yr ymosodiadau anwaraidd a diwahân hyn ar sifiliaid diniwed Wcráin. Yn wir, roedd fy nghyd-Aelod, Andrew R.T. Davies, yn llygad ei le pan ddywedodd na ddylai fod unrhyw amheuaeth ym meddwl Putin—dim amheuaeth—na fydd pob gwlad ddemocrataidd yn gadael i'w weithredoedd ymosodol fynd heb eu cosbi. Efallai ein bod yn genedl fach, ond gyda'n gilydd gallwn anfon neges glir, a hynny heb betruso, fod Cymru'n wlad sy'n sefyll gydag Wcráin.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gofnodi ein hedmygedd o weithredoedd pobl Wcráin yn amddiffyn eu tir, eu gwlad, eu hunaniaeth? Mae pobyddion, athrawon a gwleidyddion wedi troi'n filwyr, gyda rhyddid yn nod sy'n eu huno. Mae gweld cymheiriaid Wcreinaidd o Verkhovna Rada yn ymarfogi i amddiffyn eu pobl a'u gwlad—fel seneddwr yma mae'n gwbl annirnadwy y byddai'n rhaid inni ymarfogi i amddiffyn ein hetholwyr rhag ymosodiad. Pan edrychais yn y drych y bore yma a gofyn i mi fy hun a fyddwn i'n gallu bod mor ddewr â'r Wcreiniaid hynny, ni lwyddais i ddod o hyd i ateb.
Gadewch inni fod yn glir, nid y lluniau o danciau'n croesi ffin Wcráin bythefnos yn ôl oedd dechrau'r rhyfel hwn—dim ond gweithred arall oedd hynny yn y gwrthdaro a ddechreuodd wyth mlynedd yn ôl pan gafodd penrhyn y Crimea ei gydfeddiannu gan Rwsia. Fe wnaeth diffyg unrhyw ymateb addas gan Lywodraethau'r gorllewin rymuso Putin a'i gyfundrefn. O'r adeg honno ymlaen, mae'r tebygolrwydd o ymosodiad llawn ar Wcráin wedi cynyddu o un diwrnod i'r llall.
Er na allwn droi'r cloc yn ôl a chywiro methiannau'r gorffennol, gallwn sicrhau heddiw, ac yn y dyfodol, fod ein partneriaid Wcreinaidd yn cael y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gael gwared ar y grymoedd tramor hyn oddi ar eu tir. Ers 2015 mae Llywodraeth y DU wedi darparu gwerth mwy na £2.2 miliwn o offer milwrol nad yw'n angheuol, cyfraniad a gaiff ei gynyddu ymhellach wrth inni siarad. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi hyfforddi dros 22,000 o filwyr Wcreinaidd drwy Ymgyrch Orbital dros yr un cyfnod.
Mae cyfnewidfa stoc Llundain wedi atal masnachu mewn oddeutu 30 o gwmnïau o Rwsia, gosododd Llywodraeth y DU sancsiynau ar werth £258 biliwn o asedau banc, ac mae asedau llawer o'r rheini sydd agosaf at gylch pŵer Putin wedi cael eu rhewi. Mewn gwrthdaro modern, nid ar faes y gad yn unig y caiff rhyfel ei ennill, ond yn y farchnad fyd-eang a chyfnewidfeydd stoc y byd. I nodi cwymp yr Undeb Sofietaidd codwyd bwâu euraidd McDonald's yn Sgwâr Pushkin ym 1990. Mae symbolaeth eu boicot presennol yn Rwsia yn arwyddocaol iawn. Bydd sancsiynau gan Lywodraeth y DU, ei chynghreiriaid, a chan fusnesau fel McDonald's, Coca-Cola ac Apple yn niweidio economi Rwsia, yn cyfyngu ar gyllid i'w pheiriant rhyfel, ac yn atal nwyddau a thechnolegau allweddol rhag cael eu mewnforio i Rwsia. Rydym wedi eu taro lle mae'n brifo, ac fe wnawn iddynt wingo.
Mae'r cyhoeddiad ddoe y bydd y DU yn dileu'n raddol holl fewnforion olew a chynhyrchion olew Rwsia erbyn diwedd y flwyddyn yn dangos unwaith eto ein bod yn troi ein cefn ar y wlad ysgymun hon sy'n benderfynol o ddinistrio Wcráin.
Mae pwynt olaf y cynnig hwn yn tynnu sylw at yr ymdrechion eithriadol sy'n cael eu gwneud i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai sy'n dianc rhag gwrthdaro. Mae Llywodraeth y DU wedi addo bron i £400 miliwn o gymorth ariannol, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfraniad sydd i'w groesawu o £4 miliwn ddydd Iau diwethaf. Er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi camau ar waith i gyflymu'r broses o awdurdodi ceisiadau fisa, mae llawer o ffordd i fynd. Fan lleiaf, rwy'n disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio'n ddiflino i brosesu'r miloedd lawer o fisâu gan Wcreiniaid sy'n chwilio am loches yma yn y Deyrnas Unedig. Drwy fynd gam ymhellach yn gyflymach, gallwn sicrhau'r un lefel o gymorth â'r gefnogaeth filwrol ac economaidd y mae ein gwlad wedi arwain arni. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r gwelliant yn enw Lesley Griffiths.
Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe am benodiad yr Arglwydd Richard Harrington yn Weinidog Gwladol dros Ffoaduriaid, a theimlaf fod Gweinidog penodol sydd â phrofiad o Lywodraeth yn gam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi gwelliant Plaid Cymru. Ar hyn o bryd, gyda Rwsia'n clecian cleddyfau yn fwy nag erioed o'r blaen, credwn y byddai'n anghyfrifol inni dynnu unrhyw un o'n hataliadau oddi ar y bwrdd a chael gwared ar ein galluoedd i daro'n ôl.
Ddoe, crëwyd hanes wrth i'r Arlywydd Zelenskyy ddod yn arweinydd tramor cyntaf i annerch Tŷ'r Cyffredin. Roedd ei angerdd a'i gariad at ei wlad, a'i awydd ffyrnig i yrru'r grymoedd goresgynnol anghyfreithlon hynny ymaith, yn ddiysgog. Bod ai peidio â bod: dyna'r cwestiwn a ofynnwyd gan yr Arlywydd Zelenskyy am ddyfodol Wcráin. Atebodd yn ddigamsyniol: bod. Ac rydym ni yma yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r byd rhydd hefyd yn ateb yn gadarnhaol i hawl Wcráin i fodoli.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau cyd-Aelodau heddiw a hoffwn gloi drwy ddweud, Slava Ukraini. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddwy welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths, Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i:
a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml, cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU;
b) dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin;
c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu.
Formally.
Diolch. Dwi'n galw nawr ar Adam Price i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Adam Price.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly'n galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai'n atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol.
Diolch, Lywydd. Mae pob rhyfel ym mhobman yr un mor ofnadwy i'r bobl sy'n cael eu dal ynddynt, ond mae rhai rhyfeloedd yn cynnwys hadau dinistr mor bellgyrhaeddol fel bod ganddynt allu i'n llyncu ni i gyd. Rwy'n credu ei bod yn fwyfwy amlwg fod y rhyfel yn Wcráin yn rhyfel o'r fath, eiliad mewn hanes nad ydym wedi'i gweld ei thebyg ers 80 mlynedd.
'Tonnau o ddicter a dychryn / yn torri dros diroedd gloyw / a gwelw’r ddaear'.
Gallai'r geiriau hynny gan W.H. Auden, a ysgrifennwyd wrth i danciau Natsïaidd ymosod ar Wlad Pwyl, fod wedi'u hysgrifennu ddoe, nid ar 1 Medi 1939. Fel ei genhedlaeth ef, rydym eisiau golau a fflam gadarnhaol ynghanol y tywyllwch hwn, ond nid yw'n ddigon datgan ein cefnogaeth yn unig. Rhaid inni weithredu.
Felly, beth sy'n rhaid ei wneud? Rhaid inni osod embargo economaidd llwyr ar Rwsia. Mae'n foesol anamddiffynadwy inni ariannu peiriant rhyfel Putin drwy brynu olew, nwy a glo, neu wenith neu gromiwm yn wir. Mae'r DU wedi dweud yn unig y bydd yn rhoi diwedd ar fewnforio olew erbyn diwedd y flwyddyn. Yn gwbl onest, mae hynny'n wleidyddol ac yn foesol anghynaliadwy pan fo plant yn cael eu lladd yn Wcráin y funud hon. Rydym angen embargo ynni llawn ar unwaith. Nawr, fe fydd yn boenus. Rydym yn deall hynny. Ond mae'n bosibl yn dechnegol ac yn economaidd. Mae gan wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd gronfa petrolewm strategol o 90 diwrnod fan lleiaf. Mae'n bosibl felly, a dyna pam y mae'n rhaid inni ei wneud. A bydd yn ei gwneud yn amhosibl i Putin barhau â'i ryfel ymosodol yn Wcráin am fwy na rhai wythnosau. A dylem ei ymestyn i gynnwys nwy hefyd. Hynny yw, mae sôn, fel y mae'r UE yn sôn, am ddwy ran o dair yn llai o fewnforion nwy erbyn diwedd y flwyddyn—unwaith eto, nid yw'n gydnaws â'r rheidrwydd moesol a wynebwn, ac mae'n bosibl cael embargo llwyr ar nwy hefyd. Rydym wedi cael wythnosau o dywydd mwyn, ac mae cyflenwadau mawr o nwy naturiol hylifedig o'r Unol Daleithiau yn golygu bod lefelau storio nwy Ewropeaidd yn uchel bellach, a chyda'r haf o'n blaenau, mae gennym amser i ddod o hyd i gyflenwadau amgen erbyn y gaeaf nesaf.
Drwy ynysu Rwsia yn economaidd yn sydyn a llwyr, y cyfuniad o waharddiad llwyr ar drafodion gan y banc canolog, diarddel Rwsia o system SWIFT ac embargo ynni llwyr, gallwn ddymchwel y gyfundrefn. Os gwnawn hyn, efallai y cyrhaeddwn sefyllfa lle na all Putin fforddio talu ei filwyr ei hun hyd yn oed.
Ni fydd mesurau rhannol yn gweithio. Ym 1935, pan ymosododd Mussolini ar Ethiopia, gosododd y byd sancsiynau wedi'u targedu ond nid aeth mor bell ag embargo ynni. Cynddeiriogodd hynny Mussolini, ond ni wnaeth ei atal. Fe'i hysgogodd i ffurfio cynghrair â'r Almaen, gan greu'r amodau ar gyfer yr ail ryfel byd, sef yr union beth yr oedd y pwerau democrataidd yn awyddus i'w osgoi. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd wrth Hitler y byddai embargo olew wedi'i drechu.
'Mewn cyfnod o wyth diwrnod byddem wedi gorfod cilio o Ethiopia. Byddai wedi bod yn drychineb ddigamsyniol i mi', meddai trawsgrifiad o'r cyfarfod. A chyda llaw, ni all Tsieina achub Rwsia. Nid yw'r purfeydd Tsieineaidd wedi'u haddasu i drin olew sylffwrig o Rwsia, ac mae'r biblinell Transneft yn mynd i'r cyfeiriad arall. Nid oes gan y Tsieineaid danceri ar gyfer hynny. Os na phrynwn ni olew o Rwsia yfory, ni fydd modd ei werthu. A chyda llaw hefyd, mae hwn yn gyfle inni ddatgarboneiddio ein heconomi o'r diwedd. Mae pobl yn sôn am ymateb i newid hinsawdd fel pe bai'n adeg o ryfel. Wel, mae'r rhyfel wedi cyrraedd, a dyma'r amser i inswleiddio ein tai, i ddatblygu ynni adnewyddadwy a gosod pympiau gwres wrth y miloedd.
Rhaid inni atal Putin drwy ddefnyddio pob dull posibl ar wahân i ymyrraeth filwrol uniongyrchol gan wledydd y gorllewin. Ni all y gorllewin fynd i ryfel uniongyrchol yn erbyn Rwsia dros Wcráin oherwydd y risg o ddwysáu'r bygythiad niwclear. Gyda llaw, ynglŷn â'r gwelliant y bydd fy nghyfaill Heledd Fychan yn cyfeirio ato, mae arfau niwclear yn y byd yr ydym yn byw ynddo yn awr gyda Putin yn ataliad anghymesur. Nid ydynt yn atal Vladimir Putin rhag ei ryfelgarwch, ond maent yn ein hatal ni rhag gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Maent yn grymuso unbeniaid ac yn parlysu'r gweddill, a dyna pam y mae'n rhaid inni geisio eu diddymu ar lefel fyd-eang. Ond yr hyn y gallwn ei wneud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, nid oes gennyf amser. Yr hyn y gallwn ei wneud yw blaenlwytho sancsiynau enfawr a pharlysol i gael effaith ar unwaith ar gymdeithas Rwsia. Po gyflymaf y byddwn yn eu gosod, y cyflymaf y gallwn lesteirio gallu Putin i ladd pobl yn Wcráin. Dylem nodi'n glir ein bwriad i roi Putin o flaen ei well yn yr Hague fel neges i'w gylch mewnol mai dyma'r amser i ddewis a ydynt eisiau bod yno gydag ef.
Ac yn olaf, Lywydd, mae Auden yn dweud hyn yn y gerdd:
'Rhaid inni garu’n gilydd neu farw.'
Dyma'r amser i ddangos ein cariad tuag at ein cyd-ddyn, nid gyda geiriau, ond gyda gweithredoedd.
Mae'n fraint wirioneddol dilyn y cyfraniad hwnnw gan Adam Price. Credaf fod y cyfraniadau a wnaethoch, gyda Mick Antoniw, ar ôl eich ymweliad ag Wcráin, wedi ein gwneud yn ymwybodol iawn o'r materion personol sydd yn y fantol yma, a sut y mae pob colled yn drasiedi bersonol lwyr. A chredaf ein bod i gyd yn ddiolchgar i chi ac i Mick Antoniw am eich arweiniad ar hynny, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod weithiau'n dod at ein gilydd ar y materion hyn. Fore Iau diwethaf, gwyliais fideo yr oedd Andrew R.T. Davies wedi'i roi ar y cyfryngau cymdeithasol, ac roedd naws y fideo yn wahanol iawn i lawer o'r hyn a glywsom ar y pryd, a chredaf fod llawer ohonom yn gwerthfawrogi'r arweiniad gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ymdrechu i'w wneud, oherwydd mae Adam yn iawn gyda llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud, ond nid ydych yn wynebu drygioni ac nid ydych yn wynebu rhyfela ac nid ydych yn wynebu'r lefel hon o fwlio gyda geiriau'n unig; yr hyn y mae'r bwli yn ei ddeall yw gweithredoedd, a dyna lle mae angen inni flaenoriaethu'r hyn a wnawn y prynhawn yma.
Fel rhywun sydd wedi gweithio mewn gwahanol ardaloedd yn y gorffennol ac sydd wedi gweld effaith rhyfel ar bobl, ac sydd wedi gweld effaith ddynol yr argyfwng ffoaduriaid yma yn Ewrop, rwy'n cydnabod bod yn rhaid i bob un ohonom wneud llawer mwy nag a wnawn heddiw i helpu'r bobl sy'n ffoi rhag rhyfel. Ac mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn agor ein ffiniau ac yn agor ein gwlad ac yn agor ein breichiau i'r bobl hynny sy'n dianc rhag y drasiedi hon. Nid yw'n ddigon dweud, 'Ewch i Baris neu Frwsel, trefnwch apwyntiad ymhen wythnos neu fis, dangoswch iddynt fod gennych y dogfennau cywir.' Ni fydd y dogfennau gennych pan fyddwch yn ffoi rhag rhyfel. Fe fyddwch yn blaenoriaethu eich plant. Fe fyddwch yn blaenoriaethu'r perthnasau hŷn. Fe fyddwch yn blaenoriaethu eich teulu. Ni fyddwch yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod gennych lungopi o'ch tystysgrif geni. Ac mae angen inni agor y ffiniau, ac mae angen inni sicrhau bod y bobl hynny'n gwybod bod croeso iddynt yn y wlad hon.
Gwrandewais y bore yma ar dad sy'n aros i fisa gael ei gymeradwyo, a dywedodd ei fod yn falch o'i deulu Wcreinaidd a bod ganddo gywilydd o Lywodraeth Prydain. Ni ddylai neb deimlo felly. Mae gennym gamau gweithredu sy'n bwysig, mae gweithredoedd yn bwysig, ac mae angen inni sicrhau bod ein cartrefi a'n cymunedau ar agor i bobl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Os na welodd neb ffilm Channel 4 neithiwr am y ffordd y gwnaeth yr Urdd groesawu plant a theuluoedd o Affganistan gyda breichiau agored i'r gwersyll gyferbyn â'r Senedd hon, byddwn yn argymell eich bod yn ei gwylio. Fe'm gwnaeth yn hynod falch fel Cymro ein bod wedi estyn y croeso hwnnw. Onid yw'n wir fod yn rhaid i'n croeso i'n cyfeillion o Wcráin fod yr un mor gynnes?
Ac nid yw mam o Affganistan yn caru ei phlant yn llai nag y mae mam o Wcráin yn caru ei phlant, ac nid yw mam o Syria yn caru ei thad yn llai nag y mae mam o Wcráin yn caru ei thad. Un peth y mae fy Nghristnogaeth yn ei ddweud wrthyf yw na allwch rannu'r ddynoliaeth a'n bod yn caru ein gilydd, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn agor ein cartrefi i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, ac roedd yn wych—ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi crybwyll hyn—clywed plant o Affganistan yn chwerthin, yn tynnu coes, yn chwarae pêl-droed, yn teimlo'n ddiogel yn yr ardal hon, ac rydym i gyd yn gwybod beth y maent wedi byw drwyddo.
Ond y pwynt olaf rwyf eisiau ei wneud, Lywydd, yw hwn: ni allwch aros mis i gosbi oligarch; rhaid ichi ei wneud ar unwaith. Mae gennym y pwerau—neu mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y pwerau—i atafaelu eiddo ac asedau heddiw. Rhaid defnyddio'r pwerau hynny. Rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud yr holl bethau y mae Adam Price wedi'u hamlinellu er mwyn ynysu Putin a'i gyfundrefn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau hefyd nad yw'r cyfoeth a gafodd eu dwyn oddi wrth bobl Rwsia yn ariannu ac yn bwydo'r peiriant rhyfel hwn ac nad ydynt yn dianc rhag yr awdurdodau a gallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac awdurdodau'r Deyrnas Unedig i osod y sancsiynau hyn. Mae angen ei wneud heddiw. Mae angen ei wneud yn awr, ac mae angen inni ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni i sicrhau nad yw'r holl gyfoeth a gafodd eu dwyn oddi wrth Rwsia yn cynnal gwladwriaeth alltud, ac nad ydynt yn cael eu defnyddio i ariannu peiriant rhyfel, ac nad ydynt yn cael eu defnyddio i amddiffyn gweithredoedd yr unben milain hwn.
Ac rwy'n gobeithio na fydd rhaniad rhwng y pleidiau ac y byddwn, gyda'n gilydd, yn uno gyda phenderfyniad i droi'r geiriau hyn yn weithredoedd a sicrhau bod y camau hynny'n cyfrif, ac i sicrhau, yn ôl ein gweithredoedd, ein bod yn sefyll gydag Wcráin, yn sefyll gyda phobl Wcráin; byddwn yn eu hedmygu a byddwn yn edrych ar eu dewrder, a byddwn yn agor ein cartrefi a chyda'n gilydd—ar y cyd—byddwn yn sicrhau bod heddwch, diogelwch, democratiaeth a chariad yn dychwelyd i'n cyfandir. Diolch.
'Nid ydym eisiau i'n plant gael eu lladd, ond mae ein plant yn cael eu lladd. Mae ein hysbytai'n cael eu bomio, mae popeth yn cael ei ddinistrio. Mae awyrennau'n hedfan ac yn gollwng bomiau ym mhobman; nid ydym yn gwybod ble fydd y roced nesaf yn glanio.'
Dyma eiriau enbyd mam drallodus wrth i Rwsia ollwng bom ar ôl bom yn ddiwahân ar Wcráin. Mae'n amhosibl peidio â chael eich cyffwrdd gan ei hanobaith, ond nid yw'n amhosibl i'n gweithredoedd ddweud mwy na'n geiriau. Mae'n hanfodol fod gwledydd y gorllewin yn gwneud popeth yn eu gallu i osod y cosbau mwyaf difrifol posibl er mwyn anfon neges glir i Putin fod ei benderfyniad i ymosod yn gamgymeriad hanesyddol. A diolch i Dduw fod gwledydd y gorllewin yn unedig wrth fynd i'r afael ag ymddygiad ymosodol Rwsia drwy weithredu sancsiynau andwyol ar economi Rwsia, ac rwy'n falch o ddweud bod Prydain yn arwain ar hyn. Ond rwy'n cydnabod—fel y mae llawer wedi'i ddweud yma heddiw—fod angen inni wneud mwy, ac mae angen inni weithredu'n gyflym ac mae angen inni gyflawni ar unwaith.
Dyma'r amser ar gyfer gweithredu cadarn, nid brygowthan gwleidyddol, fel y dywedodd Alun. Wedi'r cyfan, drwy gydol hanes beiddgar Prydain, rydym wedi ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn genedl noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag gormes, a rhaid inni barhau i wneud hynny. Yn ogystal, fel tad, a thad-cu i saith o blant ifanc hardd, ac fel rhywun a oedd â rhieni oedrannus, ni allaf help ond dychmygu'r gwaethaf: hynny yw, pe bai fy nheulu wedi'u dal yn y gwrthdaro hwn. Mae mor anodd ei ddirnad. Beth y byddem yn ei wneud?
Mae heddwch a oedd unwaith yn teyrnasu yn Ewrop wedi'i chwalu gan gwmwl tywyll Rwsia, ac mae'r ffaith drist hon yn rhywbeth na fyddai'r un ohonom erioed wedi'i ddisgwyl yn ystod ein hoes. Ond ynghanol y gyflafan a'r dinistr, ceir llygedyn o obaith, ac mae'n rhywbeth y mae cyfundrefn Rwsia wedi'i danamcangyfrif yn ddifrifol, a dycnwch pobl Wcráin yw hwnnw. Rydym i gyd wedi gweld lluniau pwerus ac emosiynol o Wcreiniaid yn amddiffyn eu gwlad yn ffyrnig, fel y soniais yr wythnos diwethaf yn y ddadl. Mae eu hunaniaeth, eu tir, eu diwylliant a'u hanes mor werthfawr iddynt fel bod miloedd ohonynt yn barod i roi eu bywydau dros eu gwlad, cyn gryfed yw eu hunaniaeth a'u balchder. Mae gennym ddyletswydd yn awr, i'r bobl ddewr hynny, i sicrhau bod ein gweithredoedd yn parhau i ddweud mwy na'n geiriau, ac mae angen inni sicrhau bod y gweithredoedd hynny'n digwydd yn awr; fel arall, bydd cyfnodau tywyllaf hanes yn cael eu hailadrodd er mawr berygl i ni. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn. Slava Ukraini.
Hoffwn ddatgan ar ddechrau fy nghyfraniad fy mod yn aelod o CND Cymru. Felly, ni fydd o unrhyw syndod heddiw fy mod felly yn siarad o blaid gwelliant sy'n gofyn i bob gwladwriaeth lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.
Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin a hawl Wcráin i benderfynu drosti ei hun yn fygythiad i bob un ohonom. Mae'r ymosodiadau hyn yn tramgwyddo egwyddor ganolog cyfraith ryngwladol ac mae angen gweld honiad Putin ei fod yn dadfilwreiddio neu'n dadnatsieiddio Wcráin am yr hyn ydyw: dibwyllo ar raddfa fyd-eang ac erchyll.
Heb amheuaeth, mae'r gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel niwclear, rhywbeth sy'n frawychus ac yn erchyll. Yn wir, mae Putin wedi rhoi grymoedd niwclear Rwsia ar rybudd uwch ac wedi bygwth y gorllewin, gan ddweud yn ystod araith deledu ar 21 Chwefror, os yw gwledydd NATO yn ymyrryd yn Wcráin,
'Bydd Rwsia'n ymateb ar unwaith, a bydd y canlyniadau'n fwy nag a weloch chi erioed yn eich holl hanes.'
Er y gallwn obeithio nad yw hyn yn ddim mwy na brygowthan ar ran Putin yn hytrach nag arwydd o fwriad gwirioneddol i ddefnyddio arfau o'r fath, heb amheuaeth mae'r bygythiad yn real, gan wneud y defnydd o niwclear yn fwy tebygol bellach nag ar unrhyw adeg ers y rhyfel oer. Dyna pam ein bod yn cynnig heddiw fel gwelliant ein bod yn uno fel Senedd i atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol drwy alw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear, i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.
Dyma rai o'n horiau tywyllaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd, ac yn ddi-os, dylai gweld y lluniau erchyll o Wcráin ein sbarduno i wneud mwy i sicrhau heddwch ym mhob cwr o'r byd. Wrth inni leisio cefnogaeth i Wcráin a rhoi cymorth ymarferol i'r rhai sy'n mynd i fod yma yng Nghymru, gadewch inni beidio â cholli golwg ar bob gwrthdaro ac adnewyddu ein cefnogaeth i eiriau cyntaf siarter y Cenhedloedd Unedig, sy'n nodi mai'r prif gymhelliad dros greu'r Cenhedloedd Unedig oedd arbed y cenedlaethau i ddod rhag malltod rhyfel. Er ein bod yn falch iawn o'n hysbrydoliaeth i fod yn genedl noddfa yma yng Nghymru, dylem hefyd geisio dod yn genedl heddwch, fel y dylai pob gwlad yn y byd.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ond rwy'n eu hannog hefyd i ymuno â rhai o Aelodau Ceidwadol y meinciau cefn yn San Steffan i fynnu bod San Steffan yn cyflymu ac yn llacio rheolau fisa i bobl sy'n ffoi rhag ymosodiad Rwsia—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Newydd ddechrau ydw i, arhoswch funud. [Chwerthin.] Er mwyn popeth, dim ond munud.
Mae'r polisi presennol—unwaith eto, nid fy ngeiriau i—yn ôl rhai o'ch cyd-bleidwyr yn San Steffan, yn dwyn gwarth ar hanes, enw da a greddfau hael y wlad hon. Dim ond y rheini sydd â theulu yn y DU sy'n cael fisâu ac nid yw'r cynllun i fusnesau ac unigolion noddi ffoaduriaid wedi'i sefydlu eto hyd yn oed. Mewn cyferbyniad, mae'r UE wedi hepgor pob cyfyngiad fisa am dair blynedd.
Fe dderbyniaf eich ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar am hynny, Joyce. Rydym yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heno. Rwyf am fod yn gwbl glir: mae'r Ceidwadwyr Cymreig am weld mwy o hyblygrwydd yn y system i sicrhau y gallwn groesawu cynifer o ffoaduriaid â phosibl i'r wlad hon. Mae'n ddyletswydd arnom fel dinasyddion y Deyrnas Unedig i wneud hynny, ac rydym am bwyso ar ein cyd-bleidwyr yn San Steffan, ynghyd â chonsensws trawsbleidiol, i gyflawni hynny.
Rwy'n falch o glywed hynny, fel y bydd pobl ledled Cymru, oherwydd maent yn awyddus iawn i gynnig noddfa. Maent yn awyddus iawn i helpu pobl sy'n ffoi rhag yr erchylltra hwn. A phwy yw'r bobl y siaradwn amdanynt? Menywod, plant, yr oedrannus. Ac fel y dywedodd Alun, pan fyddwch yn ffoi am eich bywyd, nid ydych yn chwilio drwy ddrôr i ddod o hyd i basbort neu dystysgrif geni, a chredaf y byddem i gyd yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny ar yr un pryd â meddwl, 'Mae'n rhaid i ni fynd o'r fan hon, oherwydd mae'n rhaid i ni achub bywydau ein plant.'
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor ddoe y bydd canolfan fisa dros dro yn agor yn Lille i helpu Wcreiniaid i brosesu eu cais. Wel, gadewch imi ddweud wrthych y cafwyd 22,000 o geisiadau a chafwyd penderfyniad ynghylch 700 o'r rheini. Felly, gadewch inni obeithio nad yw'r ganolfan dros dro honno yn Lille yn debyg i'r tîm ymchwydd fel y'u gelwid a gyrhaeddodd Calais—y tri ohonynt, hynny yw—gydag ychydig o greision, dŵr a KitKats i gadw pobl yn gynnes ac wedi'u bwydo.
Fel y gŵyr llawer ohonoch, yn ystod yr ail ryfel byd, ffodd fy nhad o Wlad Pwyl i'r Alban, ac yn y pen draw yn ôl yma i Gymru, a gwnaeth hynny gyda chymorth dieithriaid. Mae bron i 2 filiwn o bobl—unwaith eto, rwy'n ailadrodd, menywod, plant a'r henoed—wedi dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Maent wedi gadael popeth ar ôl—popeth oedd ganddynt: eu swyddi, eu tai, eu heiddo ac wrth gwrs, eu hanwyliaid. Maent yn dibynnu ar garedigrwydd dieithriaid.
Gwyliais yr un cyfweliad ag a welodd Alun y bore yma, ac nid yw'n gwneud yr un ohonom yma heddiw yn falch wrth glywed rhywun yn dweud bod ganddynt gywilydd eu bod yn Brydeinwyr yn y rhyfel hwn. Nid ydym eisiau bod yn y fan honno. Nid ydym am ymuno yn hynny. Ond mae'n dweud rhywbeth pan fydd y bobl sy'n ceisio dod i Brydain yn cael eu helpu gan y dieithriaid yn Calais, ym Mharis ac ym Mrwsel am nad ydym ni wedi cael trefn arnom ein hunain, am nad ydym yn dangos unrhyw dosturi o gwbl, dim ond dibynnu ar ddieithriaid yn y gwledydd hynny i ddangos y tosturi nad ydym ni wedi'i ddangos eto. Felly, gwyddom fod pobl Cymru'n hael, gyda £100 miliwn eisoes yng nghronfa'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, ond rhaid inni roi'r gorau i gael ein siomi gan Lywodraeth ddiffygiol, ddi-hid, anghymwys, ac ymddangosiadol ddideimlad y DU. Ac mae'n ddrwg gennyf orfod dweud hynny, ond unwaith eto, nid fy ngeiriau i yw'r rheini. Mae'n chwalu enw da'r wlad hon. Gobeithio y gallant gael trefn ar bethau. Rwy'n falch eich bod yn mynd i gefnogi hyn, a gobeithio y byddwch yn lleisio eich barn yn gadarn wrth eich arweinwyr yn San Steffan i ddangos iddynt sut yr ydych yn teimlo. Diolch.
Weithiau mae'n amhosibl gwybod beth i'w ddweud mewn dadl fel hon, i fynegi'n iawn yr arswyd y mae Wcreiniaid yn byw drwyddo, ac weithiau nid yw geiriau'n ddigon. Ac wrth i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, godi, fflachiodd fy ffôn a chefais arswyd wrth imi weld y pennawd a ddywedai fod
'Putin wedi suddo'n is byth, wrth i ysbyty mamolaeth gael ei fomio, gyda phlant wedi'u claddu o dan y rwbel' yn Mariupol. Mae'n bwysig nad ydym yn colli ein gallu i ffieiddio at benawdau o'r fath wrth iddynt ddigwydd yn fwyfwy aml. Dyna realiti dyddiol i Wcreiniaid ac mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i'w helpu.
Cefais fy nghalonogi gan ymateb pobl yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig sydd wedi camu i'r adwy go iawn, fel y gwnawn bob amser pan fyddwn yn wynebu argyfwng dyngarol fel yr un a welwn yn Wcráin. A ddoe, fel y soniodd Joyce Waston, dywedodd y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau fod dros £6.5 miliwn wedi'i godi yng Nghymru yn unig tuag at apêl ddyngarol Wcráin, sydd, yn amlwg, yn cynnwys y £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru sydd i'w groesawu'n fawr. Roedd hefyd yn wych gweld Llywodraeth y DU yn dweud y byddent yn rhoi arian cyfatebol tuag at yr £20 miliwn cyntaf a roddwyd hefyd. Oherwydd dyna a wnawn yng Nghymru. Nid ydym yn sefyll ar y cyrion ac yn edrych ar faterion fel y rhain ac yn meddwl mai problem rhywun arall yw hi. Rydym yn gweithredu.
Yn nadl Dydd Gŵyl Dewi yr wythnos diwethaf, gelwais Gymru'n wlad gydymdeimladol, ac nid oes dim yn dangos hynny'n gliriach nag ymateb ein gwlad i'r argyfwng hwn, ac rwy'n falch tu hwnt o hynny. Ond mae rheswm arall pam na ddylem sefyll ar y cyrion, a'r rheswm pam y mae milwyr Rwsia heddiw ar bridd Wcráin: oherwydd bod Wcráin am gael yr un peth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol sef rhyddid a democratiaeth. Ni all Putin oddef y syniad o hen genedl Sofietaidd rydd, ddemocrataidd, ffyniannus a hapus ar garreg ei ddrws. Ni all oddef y syniad efallai na fydd pobl am fyw o dan ei ddull ef o reoli, ac ni all fyw gyda'r syniad y gallai'r wlad fod yn rhan o gymuned fyd-eang ddemocrataidd rydd yn hytrach nag o we fach ond sinistr Rwsia o genhedloedd. Oherwydd pan fydd pobl yn rhydd i ddewis rhwng dull awdurdodaidd Putin neu wir ddemocratiaeth, ni fyddant yn dewis Putin.
Nid wyf am ddweud celwydd a dweud bod taith Wcráin at ddemocratiaeth wedi bod yn un hawdd, ond mae'n bwysig cofio bod Wcráin wedi cynnal etholiad rhydd a theg ac etholwyd yr Arlywydd Zelenskyy gyda dros 70 y cant o'r bleidlais. Ond yn anffodus, mae gennym enghraifft fyw ger ein bron heddiw o syniad Putin o Wcráin berffaith, a'i henw yw Belarws. Nid democratiaeth yw Belarws. Ers ei sefydlu ym 1994, dim ond un arlywydd a fu ganddi, sef Alexander Lukashenko. Ers iddo ddod i rym, ni chafodd unrhyw un o etholiadau Belarws eu cydnabod fel rhai rhydd a theg gan y Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, y Cenhedloedd Unedig na'r Undeb Ewropeaidd, ac mae nifer o uwch-swyddogion Belarws yn destun sancsiynau rhyngwladol am dwyll etholiadol. Nid yw'r wasg yno'n rhydd ychwaith; mae Reporters Without Borders yn gosod Belarws yn olaf un o holl wledydd Ewrop yn ei fynegai rhyddid y wasg. Maent yn cyfyngu'n sylweddol ar ryddid y wasg ac mae cyfryngau'r wladwriaeth yn gyfan gwbl ddarostyngedig i'r arlywydd. Caiff newyddiadurwyr eu harestio'n rheolaidd oherwydd eu gwaith, a llynedd, cafodd dau newyddiadurwr, Katsyaryna Andreyeva a Darya Chultsova, a weithiai i deledu Belsat tv, eu carcharu am ddwy flynedd am roi sylw i brotestiadau gwrth-Lukashenko ym Minsk—eu carcharu am ddim mwy na gwneud eu gwaith.
Nid yw'r farnwriaeth yn rhydd; mae 99.7 y cant o achosion troseddol yn Belarws yn arwain at gollfarn, gyda gwrthwynebwyr gwleidyddol yn cael eu carcharu fel mater o drefn. A Belarws yw'r unig wlad yn Ewrop sy'n dal i ddefnyddio'r gosb eithaf. Mae gan fenywod lai o hawliau; mae pobl hoyw'n wynebu rhagfarn eang; ac mae gwrth-semitiaeth yn cael ei annog i bob pwrpas gan y wladwriaeth. Pe bai gennyf amser, gallwn barhau, ond ni wnaf hynny. Er bod pawb a phopeth yn Belarws yn ddarostyngedig i Alexander Lukashenko, efallai mai'r peth mwyaf dadlennol mewn perthynas â'r ddadl heddiw yw bod Lukashenko yn ddarostyngedig i Putin. Llofnododd Rwsia a Belarws gytundeb gwladwriaeth yr undeb sydd at ei gilydd yn rhoi rheolaeth lwyr ar bopeth economaidd a milwrol i'r Kremlin. Beth bynnag y mae Putin am ei gael gan Belarws, mae'n ei gael. I bob pwrpas, mae'r wlad o dan reolaeth Rwsia yn llwyr—gwladwriaeth loeren Rwsiaidd sy'n debyg i'r rhai a oedd yn yr Undeb Sofietaidd. A byddai Putin yn hoffi gweld Wcráin yn bod yr un fath. Ni ddylem golli ein persbectif yma. Pam y mae miliynau'n ffoi o Wcráin a pham y mae miloedd yn marw ar y strydoedd? Am fod Putin am i Wcráin fod yr un fath â Belarws. Ac mae Wcráin am gael yr hyn sydd gennym ni: rhyddid a democratiaeth. A dyna pam y mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i'w helpu.
Rwy'n cyd-fynd â'r holl sylwadau a wnaed hyd yma, a byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru hefyd.
Ym 1943, pan oedd y rhyfel ar ei anterth, cyrhaeddodd dros 120 o blant Tsiec Lanwrtyd, lle'r oedd ysgol newydd wedi'i sefydlu. Ffoaduriaid Iddewig oeddent, a gludwyd i'r DU gan Kindertransport, gan Syr Nicholas Winton a achubodd lawer o blant Iddewig. Cymerodd y dref fechan hon y plant i'w chalon ac mae'r cysylltiadau hynny'n dal i aros hyd heddiw. Heddiw, dros 80 mlynedd ers i blant Iddewig gael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, mae argyfwng ffoaduriaid arall yn Ewrop, fel y mae pawb ohonom wedi dweud. Ledled Ewrop, mae pob gwladwriaeth ond un wedi agor ei ffiniau i dderbyn y miloedd lawer o Wcreniaid sy'n ffoi rhag rhyfel heb fod angen fisâu, gan gydnabod eu bod yn ffoaduriaid. Mae Gwlad Pwyl wedi cymryd 1.2 miliwn o ffoaduriaid; Hwngari 191,000; a Slofacia 141,000.
Rwy'n falch o weld bod cefnogaeth drawsbleidiol ac rwy'n falch o glywed y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno sylwadau cryf—gobeithio—i'w cyd-bleidwyr yn Senedd y DU fod yn rhaid inni wneud mwy, yn fwy sydyn ac yn gyflymach. Rwy'n eich annog i wneud dau beth arall. Rwy'n eich annog i ddweud na ddylai fod angen fisâu. Ffoaduriaid go iawn yw'r rhain; menywod a phlant. Sut y gallwn ddweud bod angen inni wneud gwiriadau ar fenywod a phlant? Maent yn daer—yn wirioneddol daer—o eisiau dod yma. Felly, rwy'n eich annog, ac yn eich ymateb, hoffwn glywed a fyddech yn cytuno â hynny. Yn ail, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd roi'r gorau i'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y mae'n ymddangos mor benderfynol o'i wthio drwodd. Rydym eisoes wedi gweld, yr eiliad hon, mewn tristwch mawr, y niwed y bydd hynny'n ei achosi i'r rhai sy'n ceisio diogelwch.
Rwy'n cydnabod yn fawr y camau a wnaed gan y Ceidwadwyr Cymreig a chan eraill ar draws y Siambr hon, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn fod yn genedl noddfa i bobl sy'n dod yma, yn ddi-rwystr, yn gyflym, yn awr. Diolch yn fawr iawn.
Tanciau Rwsia'n symud tua'r gorllewin, dinasoedd yn cael eu bomio a than warchae, rhesi hir o ffoaduriaid yn ceisio dianc rhag yr ymladd. Gallech gael maddeuant am gredu fy mod yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn yr Almaen ar ddiwedd yr ail ryfel byd. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir. Mae'r Arlywydd Putin, drwy ei ymosodiad rhyfygus, anghyfiawn ac anghyfreithlon ar Wcráin, wedi troi'r cloc yn ôl ac wedi dod â rhyfel i Ewrop. Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth mawr rhwng 2022 a 1945. Bryd hynny, y Rwsiaid a ddioddefodd ymosodiadau wrth ymladd grymoedd cyfundrefn greulon; heddiw mae'r sefyllfa fel arall.
Gwladwriaeth sofran, ddemocrataidd yw Wcráin sy'n dioddef ymosodiad bwriadol a digymell. Gadewch inni beidio â chael ein twyllo gan honiad Putin a hyrwyddir gan grwpiau o ddiffynwyr asgell chwith fod yr ymosodiad hwn wedi'i ysgogi gan awydd NATO i ehangu ei ddylanwad. Cynghrair amddiffynnol yw NATO gyda'i bolisi swyddogol yn datgan nad yw'r gynghrair yn ceisio gwrthdaro ac nad yw'n creu unrhyw fygythiad i Rwsia. Dim ond 6 y cant o ffiniau tir Rwsia sy'n cyffwrdd â gwledydd sy'n aelodau o NATO. Mae Rwsia'n ffinio â 14 o wledydd, a dim ond pump ohonynt sy'n perthyn i NATO. Y ddwy wlad olaf i ymuno â'r gynghrair oedd Montenegro yn 2017 a Gogledd Macedonia yn 2020, a phrin fod y rheini'n creu bygythiad i ddiogelwch Rwsia. Yn wir, Rwsia o dan Putin sydd wedi bod yn gyson ymosodol.
Yn 2008, ymosododd Rwsia ar hen weriniaeth Sofietaidd Georgia i gefnogi gweriniaethau a oedd yn honni eu bod wedi torri'n rhydd yn Ne Ossetia ac Abkhazia. Yn 2014, ymosodwyd ar Wcráin ei hun gan filwyr o Rwsia a feddiannodd Donetsk, Luhansk a Crimea. Os mai bwriad Putin oedd gwanhau NATO, mae wedi methu'n ysblennydd, gyda'r gynghrair yn fwy unedig nag erioed a gwledydd fel Sweden a'r Ffindir bellach yn ystyried gwneud cais i ddod yn aelodau. Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu i sicrhau bod Putin yn teimlo cost lawn ei weithredoedd, gan gynnwys gweithredu'r pecyn mwyaf llym o sancsiynau a welodd Rwsia erioed. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi cynllun chwe phwynt ar gyfer yr ymateb byd-eang, gan roi arweiniad clir i sicrhau bod ymddygiad ymosodol gweithredol Putin yn methu ar bob cyfrif. Ar sancsiynau, mae'r Deyrnas Unedig wedi rhewi £258 biliwn o asedau banc Rwsia, mwy nag unrhyw wlad. Rydym yn gweithredu sancsiynau sy'n ergyd drom i economi Rwsia, gan gyfyngu ar ei gallu milwrol ddiwydiannol, a niweidio cylch mewnol Putin o oligarchiaid yn bersonol. Ac rydym yn darparu cymorth dyngarol i Wcráin yn ei hawr o angen.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros 2 filiwn o bobl wedi dianc rhag yr ymladd yn Wcráin. Rwy'n deall ac yn cytuno'n llwyr fod angen gwneud gwiriadau i sicrhau ein bod yn helpu'r rheini sydd mewn gwir angen, dull sy'n seiliedig ar y cyngor diogelwch cryfaf. Fodd bynnag, fel Ceidwadwr sy'n Aelod o Senedd Cymru, rwy'n annog y Swyddfa Gartref, ger eich bron chi i gyd yma heddiw, i gyflymu'r broses, fel y gall y rheini sy'n chwilio am hafan ddiogel yn y DU ddod o hyd i loches yma. Dros yr ychydig sesiynau diwethaf, clywais areithiau gan bob plaid ac Aelodau amrywiol ar Wcráin a sut y mae'r holl ddynion, menywod a phlant yn ein meddyliau a'n gweddïau yn wir. Fel chithau, mae fy nghalon yn gwaedu drostynt hefyd.
Rwyf am rannu rhywbeth gyda phawb ohonoch yma heddiw. Ychydig wythnosau yn ôl, cysylltodd un o fy etholwyr â mi. Oherwydd cyfrinachedd—nid yw eisiau i'w henw gael ei ddatgelu—rwy'n mynd i'w galw'n Miss B. Ysgrifennodd ataf a dweud, 'Natasha, rwy'n gofyn am eich help. Mae fy mam, fy nhad a'u baban newydd-anedig yn Wcráin. Helpwch hwy i ddod oddi yno. Nid ydynt yn gwybod beth i'w wneud, ac nid wyf yn gwybod beth i'w wneud fy hun.' Yn naturiol, fy ymateb cyntaf oedd, 'Dowch â hwy allan cyn gynted ag y gallwch ac mor gyflym ag y gallwch'. Ac yna, yn amlwg ar ôl hynny, fe ddywedodd, 'Natasha, rwy'n gwneud fy ngorau glas, ond nid wyf yn gwybod beth arall i'w wneud.' Ar ôl cysylltu â'r swyddfa dramor a Chymanwlad, ni chysgais am wythnos am fy mod yn wirioneddol bryderus am eu lles. Mae'r teulu'n byw yn fy etholaeth. Maent mor Gymreig â phob un ohonom sy'n eistedd yn y Senedd hon. Gan fod ganddynt fabi newydd-anedig a'u bod yno am resymau meddygol dilys, roedd ganddynt reswm dilys dros fod yno, ac roeddent am ddod adref a bod gyda'i gilydd fel teulu.
Mae eu merch, sy'n arwres newydd i mi, wedi gweithio'n ddiflino i'w cael adref, ac mae wedi dweud wrthyf o'r diwedd fod y teulu yn ôl yn ddiogel. Siaradais â Mr B heddiw, y tad, a ddywedodd wrthyf, er eu bod wedi'u dal yn yr ymosodiad, eu bod wedi gadael Kyiv am Lviv yng ngorllewin y wlad mewn tacsi, a chymerodd dros ddau ddiwrnod iddynt gyrraedd. Oherwydd y rhwystrau ffordd ym mhobman, aethant mewn tacsi arall i'r ffin â Gwlad Pwyl, ond cawsant eu gollwng tua 20 km o'r lle'r oedd yn rhaid iddynt fynd. Bu'n rhaid i ŵr, gwraig a'u baban newydd-anedig gerdded y pellter cyfan ar eu pen eu hunain. Nid oedd ganddynt bram, roedd yn rhaid iddynt gario eu bagiau, ond fe wnaethant gerdded y ffordd honno, a diolch i gymorth y swyddfa dramor a Chymanwlad, a weithiodd yn ddiflino i ddod â hwy'n ôl yn ddiogel, fe wnaethant lwyddo o'r diwedd i gyrraedd Gwlad Pwyl. Fel y dywedais, rwy'n falch iawn o glywed eu bod yn ôl adref a chyda'u teuluoedd. Maent yn llawn o ganmoliaeth i uchel gomisiwn Prydain, staff y llysgenhadaeth, y swyddfa dramor a Chymanwlad, a wnaeth eu gorau glas i'w helpu i gael eu dogfennau a rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol iddynt allu dianc, oherwydd, yn eu geiriau hwy, 'mae'r holl system ar-lein yn Wcráin wedi dod yn agored i ymosodiadau seiber o Rwsia'.
Lywydd, nid cryfder y corff sy'n cyfrif, ond cryfder yr ysbryd. Mae ysbryd pobl Wcráin a'r rhai nad ydynt efallai wedi'u geni yn Wcráin ond sy'n ei hystyried yn gartref, a hefyd fy etholwyr a llawer o rai eraill fel hwy sydd wedi dod adref yn ddiogel, o dan arweinyddiaeth ysbrydoledig yr Arlywydd Zelenskyy, yn dal heb ei dorri, ac rwy'n siŵr y bydd eu cryfder yn parhau. Rwy'n credu'n gryf y bydd pobl Wcráin yn achub eu hunain drwy eu dewrder a'u penderfyniad ac yn achub y byd drwy eu hesiampl. Diolch.
Wel, gyfeillion, beth ddaw? Beth ddaw wir? Dyma gwestiwn y mae nifer o bobl yn gofyn i'w hunain heddiw. Mae'r dyfodol yn wlad dieithr, ac yr eiliad hon, mae'n un hynod o frawychus. Ond wrth feddwl am y dyfodol, mae'n help edrych yn ôl ar hanes, ac mae hanes yn dangos yn glir mai gwastraff ydy rhyfel, gwastraff bywyd yn anad dim arall.
Fe ddihangodd fy modryb Sheila, Iddewes, o Felarws adeg yr ail ryfel byd ar ôl gweld erchyllterau enbyd. Fe gollodd hi'r rhan fwyaf o'i theulu yno, ond roedd Sheila yn ffodus i gael lloches yn Llundain cyn dod i Gymru a'n cyfoethogi ni i gyd. Dyna ichi wers am frawdgarwch a chwaergarwch, cariad pobl Llundain a phobl Cymru at ddieithriaid. Boris Johnson, Priti Patel a'ch Cabinet yn San Steffan, dysgwch y wers. Rhoddwch loches i ffoaduriaid y byd. Rhag eu cywilydd am laesu eu dwylo.
Ond mae'r rhyfel yma yn cyflwyno erchylltra newydd, gwaeth nag argyfwng taflegrau Ciwba 1962 hyd yn oed. Mae cysgod llwm cwmwl madarch marwolaeth dros ein pennau. Ond does dim rhaid iddo fod fel hyn. Byddai rhyfel niwclear yn dinistrio pob dim. Ydyn ni am adael i hynna ddigwydd? Mae'n rhaid inni gymryd y cyfle yma i ddatgan yn glir nad oes lle i arfau niwclear yn y byd hwn.
Flwyddyn yn ôl, fe welson ni ddynoliaeth ar ei orau wrth i bobl gydweithio ar draws y byd er mwyn canfod brechlyn i gwffio yn erbyn COVID-19. Heddiw, rydyn ni'n gweld dynoliaeth ar ei waethaf, wrth i Putin gonsgriptio miloedd o fechgyn naïf a thlawd i ladd brodyr a chwiorydd Wcrainaidd. Ond nid dryll, ac yn sicr nid taflegryn niwclear, fydd yn dod â heddwch i'n byd, ond yn hytrach ewyllys pobl ddaw a heddwch. Cydsafwn efo'n brodyr a chwiorydd ar draws y byd sy'n wynebu gormes a thrais ac yn gweithio dros heddwch, ond cydsafwn yn enwedig felly efo pobl dewr Wcráin a chydsafwn efo pobl dewr Rwsia sy'n sefyll i fyny yn erbyn gormes Putin o dan fygythiad rhyfeddol i'w rhyddid a'u bywydau, gan weithio dros heddwch.
Mae'r erchyllterau yr ydym i gyd yn eu gweld yn Wcráin yn atgoffa rhywun o gyfnod y credem, y gobeithiem ei fod yn perthyn i'r gorffennol. Yn gyntaf, rwyf am feddwl yn arbennig am y plant a'r bobl ifanc sydd wedi eu dal yn yr erchyllterau hyn. Mewn adroddiad o un o faestrefi Kyiv ddydd Llun, roedd trigolion yn rhedeg gyda'u plant ifanc mewn bygis neu'n cario babanod yn eu breichiau. Yn anffodus, mae hynny'n digwydd ledled y wlad, ac rydym newydd glywed yn yr awr ddiwethaf y newyddion arswydus gan yr Arlywydd Zelenskyy fod bom wedi glanio'n uniongyrchol ar ysbyty mamolaeth a phlant. Mae cyngor Mariupol yn dweud bod y difrod yn anferth ac yn dweud bod nifer wedi'u claddu o dan y rwbel. Ddoe, dywedodd yr Arlywydd Zelenskyy:
'Ni fyddwn yn caniatáu i neb yn y byd anwybyddu dioddefaint a llofruddiaeth ein pobl, ein plant.... Lladdwyd hanner cant o blant Wcráin mewn 13 diwrnod o ryfel. Ac mewn awr roedd yn 52, yn 52 o blant. Ni fyddaf byth yn maddau hynny.'
Mae babanod yn cael eu geni, llawer ohonynt yn gynamserol, mewn amodau dychrynllyd. Mewn un ysbyty, mae dwsinau o blant yn cael triniaeth ar ôl genedigaeth gynamserol, triniaeth ar gyfer canser ac ar gyfer afiechydon difrifol eraill, ac maent yn cael eu gwasgu i selerau gyda meddygon a nyrsys yn gwneud eu gorau i gadw triniaethau i fynd.
Ddydd Mawrth, diwygiodd y Cenhedloedd Unedig eu hamcangyfrif o nifer y bobl sy'n ffoi o Wcráin, gan ddweud bod 2 filiwn wedi gwneud hynny, yr ecsodus cyflymaf y mae Ewrop wedi'i weld ers yr ail ryfel byd. Menywod a phlant yw'r rhan fwyaf o'r 2 filiwn o bobl; mae'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau wedi dweud bod ymosodiad Putin ar Wcráin yn rhwygo teuluoedd ac yn gadael menywod a merched sydd wedi'u dadleoli mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin ac o wynebu trais rhywiol a chorfforol. Pan gaiff y plant a'r bobl ifanc hyn eu symud ar draws ffiniau, caiff y risgiau eu lluosi, yn anffodus. Gwn y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o beryglon hyn, ac y bydd yn gweithio gydag eraill i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed.
Rydym wedi gweld lluniau rhyfeddol o undod a chymorth ledled Ewrop: torfeydd yn aros mewn gorsafoedd trên i fynd â phobl i'w cartrefi, pramiau'n cael eu gadael mewn gorsafoedd yng Ngwlad Pwyl i rieni eu defnyddio pan fyddant yn cyrraedd gyda'u plant, a phobl yn gyrru am oriau at y ffin i wneud yr hyn a allant i helpu. Mae'n feirniadaeth drist o ymateb Llywodraeth y DU i'r argyfwng hwn mai'r lluniau sy'n gysylltiedig â'r DU ar hyn o bryd yw'r rhai o'r teuluoedd sydd wedi'u dal yn Calais ar ôl croesi Ewrop. Mae'r DU wedi ymateb yn dda gydag offer a chymorth logistaidd, ond pan ddaw'n fater o ddangos dyngarwch ac empathi drwy groesawu ffoaduriaid, yn hytrach nag arwain y ffordd, rydym ar ei hôl hi'n gywilyddus.
Rhaid inni sicrhau bod ein systemau yng Nghymru yn barod ar gyfer yr adeg pan fydd y teuluoedd hynny'n cyrraedd. Rydym eisoes wedi dangos cydweithrediad gwych gyda'r Urdd, fel y soniodd Rhun yn gynharach, wrth helpu plant a theuluoedd o Affganistan, prosiect rhagorol sy'n rhoi croeso i Gymru gyda thosturi, cyfeillgarwch a noddfa. Gwn fod trafodaethau eisoes ar waith i ailadrodd hyn gyda theuluoedd o Wcráin, a byddai'n dda iawn gweld y cynllun hwn yn cael ei ymestyn ledled Cymru i bawb sy'n ffoi rhag rhyfel. Gwn fod llawer o bobl yma yng Nghymru yn awyddus i groesawu ffoaduriaid a gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi.
Yn bwysig, rhaid inni fod yn sensitif i effaith yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar ein plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r genhedlaeth hon wedi tyfu i fyny yn fwy cysylltiedig â'u cymheiriaid ledled y byd nag erioed o'r blaen. Gwn fod adnoddau ar gael i rieni, gofalwyr ac athrawon allu siarad â phlant a phobl ifanc am hyn mewn ffordd sensitif. Mae BBC Newsround wedi bod yn adnodd da iawn, er enghraifft. Byddwn yn awyddus i glywed a oes mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddarparu cymorth ac adnoddau am yr hyn sy'n digwydd i'n holl blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Rydym yn falch o'n hagwedd dosturiol yng Nghymru. Mae pa mor gyflym y mae unigolion, grwpiau cymunedol ac elusennau a Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i gael cymorth yn galonogol. Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru eisoes yn gwneud llawer iawn i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel a'r rhai sy'n dal yn Wcráin, megis codi arian gyda'u hysgol neu grŵp. Dyma'r Gymru dosturiol yr ydym yn rhan ohoni, ac mae'r plant a'r bobl ifanc hyn yn arwain y ffordd. Dyna sy'n rhoi gobaith i ni.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon heddiw gyda chyfraniadau pwerus sy'n ein huno ar draws y Siambr. Bythefnos yn ôl, gwelsom ymosodiad digymell Putin ar Wcráin, ac wrth i'r dyddiau fynd heibio, yn wyneb gwrthsafiad dewr Wcráin, mae ei dactegau'n mynd yn fwy creulon, yn fwy didostur a diwahân tuag at ei phobl. Mae Tom Giffard a Jayne Bryant wedi tynnu sylw at y newyddion erchyll a gawsom yn awr am fomio'r ward mamolaeth a phlant yn Mariupol.
Mae dros 2 filiwn o bobl wedi ffoi rhag bomiau Putin bellach, llawer ohonynt â'u bywydau cyfan wedi'u pacio i fag. Dyma'r argyfwng dyngarol mwyaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd. Rwyf am ailadrodd yn awr ein bod yn sefyll yn unedig ac yn cefnogi pobl Wcráin yn wyneb ymosodiadau Putin, ac rydym yn barod i groesawu'r Wcreniaid sydd, uwchlaw popeth, yn ceisio noddfa. Rydym wedi gweld mwy a mwy o gefnogaeth o bob rhan o Gymru, gan ein hawdurdodau lleol, y trydydd sector, arweinwyr ffydd a'r cyhoedd, sydd unwaith eto'n camu i'r adwy, gan ddangos eu tosturi a'u cadernid, sydd mor nodweddiadol o'r hyn ydym fel cenedl, fel cenedl noddfa, rhywbeth a welir dro ar ôl tro, ac yn fwyaf diweddar gyda'r bobl a ddaeth o Affganistan.
Rwy'n croesawu eich sylwadau. Rwyf newydd gael e-bost gan etholwr: 'A yw Llywodraeth Cymru yn mynd i sefydlu cynllun noddi teuluoedd ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin? Gwn y byddai llawer o bobl yn cefnogi ac yn noddi teulu o ffoaduriaid o Wcráin.' Tybed a allwch chi ateb fy etholwr.
Diolch yn fawr iawn, Mark, ac fe ddof at hynny yn fy araith y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn, Rhun ap Iorwerth, eich bod wedi tynnu sylw at y ffilm a ddangosai'r hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i'n hymagwedd tîm Cymru tuag at y bobl a adawodd Affganistan, gyda rôl yr Urdd yn yr haf. Clywsom am hynny. Clywsom gan ffoadur o Affganistan a Siân Lewis o'r Urdd yn yr wylnos nos Sul. Roedd yn bwerus iawn.
Rhaid inni hefyd fynegi ein diolch i bawb, yr holl ymdrechion, yr holl gynigion o gymorth mewn cymunedau gan ein hetholwyr yn ogystal â chan ein hawdurdodau. Ddoe, buom yn gwylio'r anerchiad hanesyddol gan yr Arlywydd Zelenskyy i Dŷ'r Cyffredin, anerchiad pan soniodd am y rhyfel nad oeddent mo'i eisiau, na wnaethant ofyn amdano, am y rocedi'n dod i lawr, am ddim bwyd, am ddim dŵr, ac am blant a allai fod wedi byw. Siaradodd hefyd am yr Wcreniaid sydd wedi dod yn arwyr, am bobl yn rhwystro cerbydau arfog gyda'u dwylo, ac nid yw hyn yn realiti yr oedd unrhyw un ohonynt yn dymuno ei weld, a gwn fod pob un ohonom yn ymrwymo i wneud mwy i'w gydnabod ac ymateb iddo.
Felly, do, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi ein bod wedi darparu £4 miliwn mewn cymorth dyngarol i Wcráin. Fe wnaethom ei roi i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau am eu bod yn cynrychioli 15 o elusennau cymorth mawr, ac roedd llawer ohonom yno ar y grisiau pan lansiwyd hynny gennym gyda phwyllgor trychinebau Cymru yr wythnos diwethaf. Bydd dyrannu'r cyllid yn y ffordd hon yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. Lywydd, gwyddom mai'r ffordd orau a chyflymaf o gefnogi pobl Wcráin yw drwy roi rhodd i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau yn hytrach na nwyddau ffisegol, er bod pobl eisiau rhoi, ond mae mor bwysig. Ac rydym yn cydnabod bod dinasyddion Cymru wedi bod mor hael ers y £4 miliwn, gan ei godi i £6.5 miliwn a mwy.
Fel Llywodraeth a hefyd gyda'n GIG hynod, rydym yn parhau â phob ymdrech i ddwyn ynghyd nwyddau meddygol arbenigol y gellir eu cyflenwi i Wcráin, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y man ynglŷn â'r ffordd y caiff hyn ei ddatblygu.
Rwyf am droi yn awr at fater fisâu. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad parhaus â Llywodraeth y DU i geisio deall sut y bydd unrhyw gynlluniau'n gweithredu ac i ailadrodd ein parodrwydd i Gymru chwarae ei rhan lawn. Ac rwy'n ymuno â phawb sydd wedi dweud heddiw fod y system bresennol yn gwbl annerbyniol. Ond am neges gref y gallwn ei rhoi os yw hon yn neges unedig o Gymru nad yw'n dderbyniol—y system ar hyn o bryd—a'n bod yn galw am weithredu. Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, y bore yma mai dim ond 760 o fisâu sydd wedi'u cyhoeddi o blith y 22,000 o geisiadau sydd ar y gweill, ond mae gennym deuluoedd mewn sefyllfaoedd enbyd yn gorfod teithio cannoedd o filltiroedd i ganolfannau fisa sy'n dal i fod ar gau neu lle mae'n rhaid aros wythnos a chiwio'n ddiddiwedd. Ysgrifennodd y Prif Weinidog a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wahân at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf i alw am gyflwyno llwybrau noddfa syml, diogel a chyflym i'r DU. Ond mae hyn yn dal i fod heb ddigwydd, a rhaid inni sefydlu canolfannau fisa brys ym mhob prif fan teithio, cynnal gwiriadau diogelwch yn y fan a'r lle a chyhoeddi fisâu brys, ac ailadrodd ein galwad am ddileu'r gofyniad am dystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin. Ac onid yw'n dda ein bod i gyd yn dweud hynny heddiw? Mae'n neges mor gryf. Mae angen rhoi'r camau hyn ar waith ar frys fel y gellir dod â'r bobl sydd ein hangen fwyaf yma'n ddiogel a chael eu hailuno gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid, ac rydym yn adnabod rhai sy'n aros am hynny.
Felly, credaf fod y ddadl hon heddiw yn alwad ar Lywodraeth y DU i ofyn iddynt ddangos y gallant ac y byddant yn symud o addo gweithredu i weithredu go iawn, a byddwn yn chwarae ein rhan. Mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â didwylledd ein cefnogaeth i Wcráin. Os ydym o ddifrif eisiau chwarae ein rhan i ddarparu diogelwch lle y ceir dioddefaint, i fod yr hafan ddiogel y gwyddom y gall ein gwlad a gweddill y Deyrnas Unedig fod, rhaid i bob un ohonom fynnu gwell, fel y dywedodd Joyce Watson. Felly, galwn ar Lywodraeth y DU i sefydlu cynllun adsefydlu ffoaduriaid wedi'i ariannu'n llawn.
Weinidog, a ydych yn derbyn ymyriad?
Jane.
Mae'n ddrwg iawn gennyf dorri ar draws, Weinidog, a diolch ichi am y sylwadau hynny. Roeddwn yn meddwl tybed a yw Llafur Cymru mewn sefyllfa i allu dweud beth yw eu barn am fisâu, a ydynt yn ofynnol ar gyfer ffoaduriaid sy'n dod i'r DU ai peidio. Diolch yn fawr iawn.
Wel, dyma'r hyn y galwn amdano'n glir iawn—fod arnom angen y cynllun adsefydlu ffoaduriaid hwn. Ar sail ein profiad blaenorol gyda rhaglenni Affganistan a Syria, teimlwn o ddifrif fod arnom angen cynllun adsefydlu ffoaduriaid wedi'i ariannu'n llawn. Gwn fod llysgennad Wcráin wedi gofyn am ddileu'r angen am fisâu, Jane Dodds, a dyna pam, yn yr UE, y gall pobl ddod dros y ffin a chael y math hwnnw o groeso. Mae'r rhain yn faterion pwysig y dylid rhoi sylw iddynt, ac mae angen ymateb gan Lywodraeth y DU.
Rwyf am ddweud hefyd fod angen pecyn arian canlyniadol arnom ar gyfer trefniadau adsefydlu er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'n briodol ar gyfer y rhai y ceisiwn eu diogelu. A chredaf mai dyma oedd y pwynt gan Mark Isherwood—mae'n ymwneud â sut y gall cynnig noddi weithio. Ni ddylai fod yn gysylltiedig â noddi unigolion, ond yn hytrach, a all Llywodraeth ddatganoledig, ni, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol neu asiantaethau cenedlaethol weithredu yn y rôl noddi honno i leihau biwrocratiaeth i unigolion sy'n cyrraedd, ac mae gennym fodel da gyda llywodraeth leol o dderbyn ffoaduriaid sydd wedi dod drwy'r cynlluniau noddi hynny o'r blaen.
Felly, i orffen Lywydd, credaf y bydd unrhyw un sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn cael ei gefnogi cyn belled ag y gallwn fel cenedl noddfa, a'n hymateb ehangach i'r argyfwng hwn fydd cefnogi a diolch i'r cyhoedd yng Nghymru am eu hymateb tosturiol. Fel y gwyddoch, mae gennym gyhoedd sy'n cynnig rhoddion, landlordiaid sy'n cynnig eiddo, unigolion sy'n cynnig eu hamser i wirfoddoli. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn sicrhau y gellir cymhwyso'r dyngarwch cyffredin sy'n cymell pobl gymaint i garfanau ehangach yn ein cymunedau.
Rwyf am fod yn glir mai Putin sy'n gyfrifol am y rhyfel digymell hwn yn Wcráin, ac nid pobl Rwsia. Yng Nghymru ceir aelodau gwerthfawr o'r gymuned sy'n hanu'n wreiddiol o Wcráin, Rwsia a Belarws. Rhaid inni sicrhau bod ein geiriau a'n gweithredoedd yn eu cadw'n ddiogel, a theimlaf eiriau Mick Antoniw AS, a oedd gyda ni heddiw, fe wyddom—. Talodd deyrnged yn y Senedd hon i'r myfyrwyr dewr a'r bobl ifanc yn Rwsia sydd wedi bod yn protestio ar draws Ffederasiwn Rwsia. Gwelwn yn awr fod miloedd o Rwsiaid o bob oed, er eu bod yn gwybod yn iawn am y risg y maent yn ei hwynebu, wedi bod yn mynd allan ar y strydoedd, wedi cael eu curo a'u harestio am siarad yn erbyn ymosodiad Putin. Hwy yw gwir ddyfodol Rwsia.
Felly, diolch eto am y ddadl hon. Rydym yn sefyll gydag Wcráin a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i chwarae ein rhan.
Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn, a dweud y lleiaf, mai'r Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, ac yn arbennig o falch o'r 12 cyfrannwr sydd wedi cyflwyno eu henwau i siarad, ac wedi siarad mor rymus a huawdl yn y ddadl heddiw. Rwyf wedi clywed ar sawl achlysur dros ddau ddiwrnod nad yw geiriau a gweithredoedd o reidrwydd yn cyd-fynd; wel, yn sicr mewn siambr drafod fel hon, mae gan y geiriau sydd wedi'u siarad heddiw bŵer gwirioneddol ac ystyr wirioneddol, ac yn anad dim maent yn cynnwys yr angerdd a'r argyhoeddiad sy'n dangos bod pawb yn ffieiddio at yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin.
Mae'n gwbl gywir, fel y nododd Alun Davies yn ei gyfraniad, ac fel y nododd y Gweinidog wrth gloi ei chyfraniad, nad rhyfel pobl Rwsia yw hwn. Rhyfel Putin yw hwn, ac mae'n eu harwain ar hyd llwybr o ddinistr llwyr yn y ffordd y mae'n cyflawni'r rhyfel, a'r sylwadau a glywsom gan Tom Giffard ac eraill yn arbennig a dynnodd sylw at y ffaith—cafodd ei grybwyll gan Jayne Bryant yn ogystal—fod uned famolaeth, gyda phlant a mamau ynddi, wedi cael ei dinistrio y prynhawn yma, 9 Mawrth 2022. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai rhywun wedi sefyll yn y Siambr hon a sôn am wlad yn Ewrop lle y cafodd uned famolaeth ei dinistrio mewn rhyfel? Mae hynny'n rhywbeth na feddyliais erioed y byddai'n rhaid i mi ei ddweud yn y Siambr hon, a byddwn yn gweld yr erchyllterau hyn yn parhau oni bai ein bod yn gwrthsefyll Putin ac yn sefyll ar lwyfan unedig i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl Wcráin.
Dywedaf wrth Joyce Watson ac eraill sydd wedi tynnu sylw at sylwadau'r unigolyn yng Ngwlad Pwyl, gallaf ddeall rhwystredigaeth yr unigolyn hwnnw a'i sylwadau y bore yma. Ond rwyf am ddweud mai Llywodraeth y DU, drwy fis Ionawr, oedd yn hedfan yr arfau gwrth-danciau a'r arfau gwrth-awyrennau i Wcráin. Llywodraeth y DU oedd yn anfon cynghorwyr milwrol i hyfforddi 20,000 o filwyr Wcráin. Llywodraeth y DU sydd wedi rhoi £400 miliwn ar y bwrdd, y rhodd fwyaf o gymorth dyngarol gan unrhyw wlad yn y byd—yn y byd—nid Ewrop yn unig, nid o Asia, nid o Ogledd America, ond y byd, ac rwy'n hynod falch o ddweud ein bod wedi gwneud hynny. Rwy'n hynod falch o ddweud hynny, ond yr hyn nad wyf yn falch ohono yw'r lluniau a welsom gyda'r ffoaduriaid a'r sefyllfa yn Calais. Gallwn wneud mwy, rhaid inni wneud mwy.
A gofynnodd Jayne Bryant y cwestiwn am fisâu. Credaf fod angen gwiriadau pan fydd pobl yn gwneud cais i ddod yma, ond mae yna fodel y gallwn ei ddefnyddio; dyma'r model a ddefnyddiwyd pan oedd sefyllfa Hong Kong yn gwaethygu y tu hwnt i reolaeth, ac fe'i cefnogir gan y Blaid Lafur yn Llundain hefyd. Mae unrhyw un a welodd sylwadau Yvette Cooper, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, ar Sky News y bore yma, yn dweud eu bod hwythau hefyd yn cefnogi'r gwiriadau y mae angen eu rhoi ar waith—. Ond gallwn wneud mwy. Gallwn wneud mwy a rhaid inni wneud mwy. Mae 2.5 miliwn o bobl wedi gadael Wcráin wrth inni eistedd yma heddiw. Ceir amcanestyniadau y bydd hyd at 7 miliwn o bobl yn gadael y wlad honno, ond rwy'n fodlon betio bod bron pob un ohonynt eisiau dychwelyd i'w mamwlad ac ailadeiladu'r famwlad honno pan gaiff ei lle haeddiannol yn y pendraw fel cenedl ddemocrataidd dan arweiniad Wcreniaid, gwlad a etholodd arlywydd, fel y soniodd Tom Giffard, y pleidleisiodd dros 70 y cant o'r boblogaeth drosto. Nid ydym am greu Belarws arall oherwydd, yn y pen draw, dyna beth y mae Putin am ei weld yn digwydd. Mae'n awyddus iddi fod yn wladwriaeth loeren a fydd yn gwneud popeth y bydd ef yn dymuno iddi eu gwneud, ac mae'r Wcreniaid yn ymladd yn ddiflino i sicrhau eu bod yn ei wrthsefyll.
Mae gwahaniaeth sylfaenol rhyngom mewn perthynas ag arfau niwclear. Mae rhai ohonom yn credu mai hwy yw'r ataliad terfynol sy'n atal y tanciau rhag rholio y tu hwnt i Wcráin ac i mewn i Ewrop ac ehangu'r rhyfel. Rwy'n derbyn na fyddwn yn datrys y broblem honno y prynhawn yma, ond rwy'n annog—. Ac mae'n flin gennyf nad yw hyn wedi digwydd ac nad oes gennym gynnig wedi'i lofnodi ar y cyd—mae'n ymddangos bod y sianeli arferol wedi dymchwel ar hyn, oherwydd credaf ei bod yn bwysig fod y Senedd yn siarad ag un llais heddiw. A hoffwn ofyn i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru ystyried y gwelliant y maent wedi'i gyflwyno fel y gallwn gael pleidlais unfrydol yma heno, i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron, fel y nododd Sam Kurtz yn ei sylwadau agoriadol—peth o'r iaith gryfaf a welais yma erioed—am ffieiddio at yr ymosodiad ar Wcráin, gan sicrhau ein bod yn dangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a dinasyddion Wcráin. A hoffwn ofyn i Blaid Cymru ystyried tynnu'r gwelliant hwnnw yn ôl am ei fod yn creu rhaniad rhwng y rhai sy'n credu bod arfau niwclear yn ataliad ac yn ataliad effeithiol, a'r rhai sydd am weld byd di-niwclear. Nid wyf yn annog pobl rhag dadlau'r pwynt hwnnw—mae'n bwynt cwbl resymol i'w wneud—ond bydd yn rhannu'r tŷ hwn heno pan fyddwn yn pleidleisio, ac rwy'n gobeithio y gallwn osgoi'r rhaniad hwnnw.
Cyfeiriodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn rymus iawn at y pwynt am sancsiynau a'r offer sydd ar gael. Rhaid inni ddefnyddio'r offer yn llawn a sicrhau bod pob doler, pob dimai, pob punt, pob ceiniog yn cael eu hatal rhag mynd i drysorlys Rwsia i brynu gynnau, i brynu tanciau a thalu cyflogau milwyr cyflog sy'n mynd i Wcráin. Mae'r DU—. Fel y mae cyfraniadau o'r meinciau cefn yma ar feinciau'r Ceidwadwyr ac ar draws y Siambr hon wedi nodi, mae £258 biliwn— £0.25 triliwn—eisoes wedi'i gymeradwyo yn Llundain. Os edrychwch ar Ewrop, mae £0.25 triliwn arall wedi'i gymeradwyo ar gyfandir Ewrop. Os gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r symiau hyn at ei gilydd, rydym yn siarad—. Mae'r blocêd ariannol yn dal a rhaid inni barhau i bwyso. Cytunwn â hynny ac rydym am iddo barhau, a thrwy gydweithio y gallwn osod y rhwystr hwnnw i sicrhau na all yr economi weithredu i dalu'r peiriant rhyfel sy'n achosi cymaint o ddinistr yn Wcráin. Nid oes unrhyw raniad ar hynny o gwbl.
Ond rwyf am ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Peter yn ei gyfraniad. Daeth â sylwadau dynes a oedd wedi mynd o Wcráin a'r erchyllterau a welodd hi. Daeth â'r geiriau hynny i'r Siambr er mwyn i bawb ohonom eu clywed. Bob dydd rydym yn clywed y geiriau hynny. Fel y soniodd Natasha Asghar, ei hetholwr a'r teulu sy'n golygu cymaint iddi'n bersonol yn awr, a'r profiad yr aethant drwyddo—gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn clirio'r llinellau cyfathrebu ac yn cael pobl allan o Wcráin a sicrhau eu bod yn dod i ddiogelwch y gorllewin. Boed hynny yn y gwledydd sy'n amgylchynu Wcráin neu ymhellach i mewn i gyfandir Ewrop, neu i'n hynysoedd ein hunain yma yn y Deyrnas Unedig, fe allwn ac fe fyddwn yn gwneud mwy. Ond gadewch inni beidio ag anghofio, pan fyddwn yn sefyll gyda'n gilydd, yn unedig yn yr achos hwn, gallwn wrthsefyll pawb, a byddwn yn llwyddo i wneud hynny a chyflawni'r nod y mae pawb ohonom am ei weld, sef Wcráin yn genedl falch, sofran, annibynnol, wedi'i hailadeiladu ac yn sefyll ar ei dwy droed ei hun. Ond ni wnawn hynny os ydym yn rhanedig yn y gorllewin ac yn rhanedig ar draws y byd, ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn aros yn unedig, ac rwy'n gwneud yr apêl honno i Blaid Cymru ystyried eu gwelliant heno, i'w dynnu'n ôl, fel y gallwn bleidleisio a phleidleisio'n unedig ac anfon y neges bwerus honno, gan mai dyma'r tro cyntaf y bydd y Senedd hon wedi pleidleisio ar y mater penodol hwn. A dyna pam fy mod yn eich annog i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heno, a gobeithio y bydd y neges a ddaw o'r Senedd hon heno yn neges unedig. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly bydd y pleidleisiau ar yr eitem yma yn cael eu cymryd yn ystod y cyfnod pleidleisio.