7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai

– Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 9 Mawrth 2022

Eitem 7 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7946 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod angen hyd at 12,000 o anheddau newydd y flwyddyn yng Nghymru.

2. Yn mynegi pryder difrifol bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd wedi gostwng 30 y cant i 4,314 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod nifer y cartrefi a gwblhawyd wedi gostwng 23 y cant i 4,616.

3. Yn credu bod y methiant i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru yn cael effaith andwyol ar argaeledd eiddo.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) hwyluso'r gwaith o adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn;

b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, ailfuddsoddi enillion gwerthiant i fwy o dai cymdeithasol a diogelu cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd;

c) gweithio gydag awdurdodau cynllunio i weld mwy o dir yn cael ei ddyrannu mewn cymunedau sy'n wynebu anawsterau fforddiadwyedd lleol, gan gynnwys sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer prosiectau hunanadeiladu;

d) rhoi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer cwmni adeiladu cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi preifat.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:16, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. A hoffwn atgoffa'r Aelodau fy mod wedi datgan buddiant fy hun ynghylch perchenogaeth ar eiddo—ail gartrefi, llety gwyliau. Mae bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn un o'r prif arwyddion o ryddid a dewis yr unigolyn. Mae bod yn berchen ar gartref yn rhoi sicrwydd a hyder i chi ddatblygu gwreiddiau lleol, i ddod yn rhan o'ch cymuned leol, gan wybod bod eich cartref yn eiddo i chi. Ers blynyddoedd lawer, bu'n brif ddyhead i'r lliaws ar draws ein cymdeithas, uchelgais y mae'r Llywodraeth Lafur hon, yn anffodus, wedi methu ei gydnabod na'i gefnogi; yn hytrach, canolbwyntiodd eu hymdrechion ar greu cenhedlaeth o rentu. Byddai'n well ganddynt weld ein hetholwyr yn talu rhent heb gael cyfle i fuddsoddi eu harian a enillwyd drwy waith caled i adeiladu ecwiti yn yr eiddo y maent yn ei alw'n gartref. Rhaid imi ddweud ei bod yn wir hefyd, er hynny, nad yw bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn rhywbeth i bawb, ac rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod hynny.

Ond mae'n gwbl frawychus yn yr oes sydd ohoni gweld cymaint o'n teuluoedd a'n plant sy'n byw mewn llety dros dro fel ystafelloedd gwesty, gwely a brecwast neu gartrefi ar sail dros dro, heb unrhyw sicrwydd deiliadaeth, gan adael llawer i fyw bywyd mewn limbo, heb unrhyw obaith ar y gorwel ac fel y disgrifiodd llawer ohonynt wrthyf, gyda'r teimlad o fod yn ddiymadferth ac yn ddiobaith. Felly, rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llawn, gan ddefnyddio detholiad amrywiol ac eang o bolisïau a chynlluniau.

Nawr, gadewch inni edrych ar y 22 mlynedd ers datganoli, gyda Llafur Cymru yn cael eu cynnal gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd wedi gostwng 30 y cant; mae nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd wedi gostwng 23 y cant. Y llynedd, roedd angen 12,000 o anheddau newydd arnom, ac eto dan arweiniad Llywodraeth Cymru, cafwyd diffyg o 7,384. Nawr, ers cyhoeddi adroddiad Holmans yn 2015, mae diffyg darpariaeth yma wedi amddifadu ein cenedl o 30,074 o gartrefi newydd. Mae gwir angen y rhain ar ein pobl ifanc a'n teuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, ac ni allwch feio'r pandemig.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:18, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r diffygion a nodwyd gennych yn adlewyrchu'r un broblem â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Felly, mae hi wedi beio datganoli yma; beth y mae'n ei feio am y broblem yn Lloegr?

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:18, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Nid yr un broblem yw hi. Mae targedau wedi'u cyrraedd yn llawer haws yn Lloegr nag a welwyd yma. Mae tua 67,000 o bobl—rwy'n mynd i ddweud hynny eto: 67,000 o bobl—yng Nghymru yn aros ar restr aros am dai cymdeithasol, sy'n cyfateb i tua 20,000 o aelwydydd. Gwelodd pedwar o'n hawdurdodau lleol gyfanswm cronnol o 14,240 o bobl ifanc yn y grŵp oedran 20 i 29 yn gadael Cymru rhwng 2012 a 2016, sy'n golygu nid yn unig fod y bobl ifanc hyn wedi colli'r cyfle i fod yn berchen ar gartref yng Nghymru, ond rydym ninnau hefyd wedi colli'r cyfle i gael y bobl ifanc hyn i gyfrannu at ein heconomi ac yn ein cymdeithas.

Fodd bynnag, y gambl fwyaf i mi yw dysgu bod gwariant awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig â llety dros dro a digartrefedd yn codi y tu hwnt i reolaeth. Yn fy awdurdod i, rydym wedi gweld y gwariant hwn yn codi o £1.2 miliwn yn 2019-20 i £2.5 miliwn yn 2020-21, a thybir y bydd oddeutu £4 miliwn y tro nesaf. Ar yr un pryd mae'r gwariant yng Nghymru rhwng 2019-20 a 20-21 wedi mwy na dyblu, o ychydig dros £7 miliwn i dros £15.5 miliwn. Mae'r gwariant hwn yn symptom o'r ffaith bod mwy a mwy o unigolion a theuluoedd yn gorfod byw mewn llety gwely a brecwast, ystafelloedd gwesty a llety dros dro. 

Nawr, yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae dros 7,000 o bobl wedi cael eu gwthio i ddigartrefedd ac yn byw mewn llety dros dro, a bron i 100 o bobl yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd. Mae gennym filoedd o adeiladau gwag ledled Cymru—22,140, mewn gwirionedd—a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Dim ond pedwar eiddo yn etholaeth y Gweinidog tai a gafodd eu defnyddio unwaith eto drwy'r benthyciad cartrefi gwag yn 2020-21, dim ond dau yng Nghaerdydd a dim ond un yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ffigurau eraill a gafwyd yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar ein hawdurdodau lleol nac unrhyw gynllun i weld eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.

Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod hefyd wedi codi'r posibilrwydd o ddefnyddio rhywfaint o'r tir a'r adeiladau sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein hawdurdodau lleol, ein byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn eistedd ar ddarnau o dir ac adeiladau a safleoedd tir llwyd y gellid eu troi'n gartrefi y gellir byw ynddynt. Codais hyn gyda'r Gweinidog yn y grŵp trawsbleidiol, ac roedd hwn yn grŵp trawsbleidiol a drefnwyd fel y gallem wrthsefyll yr argyfwng tai, ar draws y pleidiau gwleidyddol. Mae arnaf ofn ei bod hi'n ymddangos ein bod wedi cael ein gollwng oddi ar yr agenda honno. Ein cynlluniau fyddai dod â chartrefi gwag yn ôl i mewn i'r stoc dai, adeiladu mwy o gartrefi, gan ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus a safleoedd tir llwyd i'w datblygu'n gartrefi. Yn anffodus, ar ôl inni gychwyn ar y daith hon ar sail drawsbleidiol, rydych wedi caniatáu i'ch cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru bennu'r agenda hon. Yr hyn a wnaiff eich bwriad i neilltuo perchnogion ail gartrefi a thargedu perchnogion cartrefi gwyliau fydd cosbi dyhead, uchelgais a chyflawniad yr unigolion hyn, sy'n cyfrannu'n eang at ein heconomi leol mewn gwirionedd.

Nawr, fel y dywedais yn gynharach, mae gennym bron yr un nifer o gartrefi gwag ag sydd gennym o ail gartrefi yng Nghymru. Felly, mae targedu perchnogion ail gartrefi gyda chynnydd cosbol yn y dreth gyngor, cynnydd hyd at 300 y cant o bosibl, yn annheg, yn anghymesur ac yn niweidiol. Hyd yn oed yn eich adroddiad eich hun a gomisiynwyd ar ail gartrefi, dywedodd Dr Brooks:

'Pe bai llai o ail gartrefi, ni fyddai hyn yn newid y ffaith fod prynwyr lleol yn gorfod cystadlu â phrynwyr o’r tu allan'.

A gadewch inni fod yn onest, Aelodau, erys y ffaith bod y canolrif cyflog cyfartalog yng Nghymru gryn dipyn yn is nag yn Lloegr, felly nid oes modd cystadlu. 

Nawr, mater arall a godwyd gennyf fi a fy nghyd-Aelodau yw rheoliadau ffosffad, y ffaith bod 10,000 o gartrefi sy'n barod i'w datblygu yn cael eu dal yn ôl gan ganllawiau cynllunio a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ardaloedd cadwraeth arbennig ger afonydd. Mae fy nghyd-Aelod, James Evans AS, a minnau wedi cyfarfod ag arweinwyr cynghorau, cynllunwyr, ac rwyf fi wedi cyfarfod â darparwyr tai, sy'n credu'n wirioneddol fod rhywfaint o rinwedd yn ysbryd y canllawiau, ond yn y byd go iawn, maent yn arwain at rwystro'r 10,000 eiddo hyn rhag cael eu datblygu. Mae'r sefyllfa wedi llusgo yn ei blaen ers dros flwyddyn ac yn bendant, mae angen mynd i'r afael â hi. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, lle bynnag y mae'r Gweinidog—[Torri ar draws.] O, iawn. [Chwerthin.] O'r gorau.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:24, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r Dirprwy Weinidog ar y sgrin drwy Zoom.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi weithio gyda'r awdurdodau lleol i oresgyn yr heriau hyn?

Nawr, yn ogystal, rydym i gyd yn ymwybodol fod cymunedau'n wynebu anawsterau fforddiadwyedd lleol, a gwelaf hyn fy hun yn Aberconwy. Ond rwy'n credu bod angen dull cytbwys, cymesur a theg o fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Fe'i dywedaf eto: bydd ceisio targedu perchnogion ail gartrefi â threthi cosbol a cheisio gor-reoleiddio'r sector preifat yn arwain at fethiant, fel y bydd rhoi mwy fyth o fiwrocratiaeth reoleiddiol ar ysgwyddau ein landlordiaid preifat. 

Nawr, fel y gŵyr llawer o'r Aelodau yma, hoffwn weld y cynllun hawl i brynu yn cael ei ailgyflwyno, lle y gwelsom, yn Lloegr, ar gyfer pob tŷ a werthir, fod modd adeiladu tair uned. Mae'n ateb amlwg. Yn ogystal—[Torri ar draws.] Wel, yr hyn a aeth o'i le yma yw eu bod yn gwerthu'r tai ond ni wnaethant ailfuddsoddi'r arian yn y stoc dai. [Torri ar draws.] Yn ogystal, hoffwn weld dileu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf a chodi'r trothwy i £250,000 i helpu mwy o deuluoedd a phobl weithgar i elwa o'r sicrwydd o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Mae'n drueni nad yw prynwyr tro cyntaf yn Lloegr yn talu treth stamp ar eiddo dan £300,000, ond nad oes cefnogaeth i brynwyr tro cyntaf yma yng Nghymru. Yn wir, o ganlyniad i'ch diffyg cymorth, gall prynwyr tro cyntaf dalu hyd at £5,000 yn fwy o dreth yng Nghymru nag y byddent yn ei wneud yn Lloegr.

Yn olaf, Weinidog, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi datgan bod Cymru yn genedl ddiogel ac yn wir, yn noddfa i ffoaduriaid o Wcráin sy'n dianc rhag gwrthdaro creulon, erchyll ac anghyfiawn. O ystyried yr argyfwng tai amlwg a welwn yma yng Nghymru, mae'n debyg y bydd yn rhaid imi ofyn y cwestiwn: pa sicrwydd y gallwn ei roi yn awr y bydd y teuluoedd a'r unigolion y byddem i gyd am eu croesawu i Gymru yn cael tai diogel a phriodol fel eu bod hwythau hefyd yn cael cyfle i ailadeiladu eu bywydau drylliedig ac i fwrw gwreiddiau yn ein cymunedau lleol a chyfrannu at ein cymdeithas?

P'un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun cryf a chyfrifol yn ariannol i helpu pobl ledled Cymru i brofi'r rhyddid i fod yn berchen ar eiddo. Er mwyn y rheini sy'n cael eu gorfodi i fyw mewn llety gwely a brecwast ac ystafelloedd gwestai, er mwyn y bobl ifanc na allant gael troed ar yr ysgol, er mwyn y datblygwyr sydd am adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru, er mwyn y diwydiant adeiladu a fyddai'n hoffi adfer eiddo gwag i fod yn gartrefi y gellir byw ynddynt, gofynnaf i bob un ohonoch gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:27, 9 Mawrth 2022

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, i gynnig yn ffurfiiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru.

2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan Lywodraeth Cymru.

3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

4. Yn nodi’r ymrwymiad i sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ddweud nad oedd modd defnyddio'r arian o werthu tai cyngor i adeiladu mwy o dai cyngor, bu'n rhaid ei gadw mewn cyfrif ar wahân? Dyna oedd y gyfraith; roedd yn gyfraith a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, ond dyna oedd y gyfraith.

A gaf fi ddweud mai tai yw un o'n heriau domestig mwyaf? Mae ein system dai wedi bod mewn argyfwng ers y 1980au. Mae'n parhau i fod mewn argyfwng. Mae'r system sylfaenol yn ei hanfod wedi torri. Mae cartref yn hawl ddynol. Nid yw'n rhywbeth sy'n fodd i rai pobl wneud arian, mae yno oherwydd bod angen inni roi pawb mewn cartref gweddus, ac ni ddylai gwneud elw atal pobl rhag cael cartref gweddus. Mae llawer gormod o dai'n wag—rwy'n cytuno â Janet Finch-Saunders ar hynny—ac mae angen inni wella'r tai hynny i'w defnyddio eto. Mae'r nifer sy'n wag—mae'r niferoedd yn amrywio; rwyf wedi clywed pob math o ffigurau—yn 2018, roedd yn 43,000, gyda 18,000 yn wag am fwy na chwe mis. Mae'r ffigur hwnnw'n swnio'n agos ati. Ond nid yn unig eu bod—. Mae'n ddrwg gennyf.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:28, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am wneud sylw ar eich sylw agoriadol am y gyfraith, ac rydych yn llygad eich lle, roedd system y cyfrif refeniw tai yn union fel y dywedoch chi. Wrth gwrs, rhoddodd y Llywodraeth ar ôl 2010 y gorau i hynny wedyn yn Lloegr fel bod cynghorau'n gallu dod i drefniant ynghylch eu lefelau dyled a dechrau ailfuddsoddi'r enillion. Ond cymerodd Llywodraeth Cymru flynyddoedd i weithredu'r un mesurau a oedd wedi bod ar gael iddynt o'r adeg honno. Onid yw hynny'n destun pryder?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu allan o'r system, oni wnaethant? Mae'n destun pryder fod gennym system a oedd yn atal cynghorau rhag adeiladu tai a lle'r oedd tai cyngor yn mynd i gael eu gwerthu a dim ond 50 y cant o werth y tŷ hwnnw y byddech yn ei gael. Ac er gwaethaf honiad Janet Finch-Saunders y gallech adeiladu tri thŷ am bob tŷ, am bob dau dŷ gallech adeiladu un ar y mwyaf.

Ond i ddychwelyd at dai gwag, mae llawer gormod ohonynt, maent yn ffynhonnell bosibl o dai. Mae angen inni ddefnyddio'r tai hynny eto. Nid ydynt bob amser mewn ardaloedd nad yw pobl am fyw ynddynt. Yn rhai o'r ardaloedd mwyaf poblogaidd yn fy etholaeth, gallwch gerdded ar hyd ffyrdd a dod o hyd i dri neu bedwar eiddo gwag. Ond nid yw sicrhau bod yr eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto yn datrys yr holl broblemau. Mae dwy ffordd o gynyddu'r gwaith o adeiladu tai newydd yng Nghymru. Un ohonynt yw rhoi'r gorau i'r holl reolaeth gynllunio a gadael i'r farchnad benderfynu lle y gellir adeiladu tai, rhywbeth a ddigwyddodd i bob pwrpas cyn Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947. Byddai hyn yn arwain at adeiladu mewn ardaloedd sydd wedi'u gwarchod ar hyn o bryd, gan gynnwys lleiniau glas a thir amaethyddol. Y ffordd arall o'i wneud yw adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, sef yr hyn a ddigwyddodd rhwng 1945 a 1979, ac fe weithiodd hynny. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod yr ail ddull yn llawer iawn gwell na'r cyntaf? 

Ceir prinder llety rhent fforddiadwy, yn enwedig yn y dinasoedd. Mae'r sector preifat wedi llenwi rhywfaint o'r bwlch yn sgil prinder tai cymdeithasol. Ac rydym wedi dod yn ôl yn grwn o'r 1950au a dechrau'r 1960au, pan oedd llawer o lety rhent preifat ar gael, a phan ddaeth y tai cyngor wedyn, daeth y llety rhent preifat hwnnw'n eiddo i berchen-feddianwyr, ac rydych yn mynd i ardaloedd fel yr ardal rwy'n dod ohoni ym Mhlas-marl, ac mae Plas-marl wedi dod yn ôl yn grwn. Arferai fod yn ardal rhent preifat bron yn llwyr; mae'r cyfan bellach yn cael ei rentu'n breifat unwaith eto. Ond yn y canol, roedd bron i gyd yn eiddo i berchen-feddianwyr. Roedd yn lle i brynwyr tro cyntaf. Mae prynu tai a'u gosod ar rent yn dileu'r cyfle i brynwyr tro cyntaf fynd i mewn i'r farchnad dai.

Mae angen mwy o dai cymdeithasol, ac mae tai fforddiadwy i mi yn golygu tai cyngor. A chredaf y gellir cynnwys cymdeithasau tai yno hefyd, ond tai cyngor yw'r tai gorau a mwyaf fforddiadwy o bell ffordd. Mae angen inni adeiladu digon o dai fforddiadwy i ddiwallu'r anghenion tai a ragwelir ar gyfer Cymru, ond nid yw'r anghenion ar sail Cymru gyfan. Os ydych yn eu hadeiladu mewn rhannau o etholaeth James Evans ym Mhowys, ni fyddwch o fawr o ddefnydd i'r bobl sy'n byw yng Nghaerdydd. Felly, mae angen ichi eu hadeiladu lle y ceir prinder tai. Hynny yw, yr hyn sydd ei angen hefyd yw i gymdeithasau tai a chynghorau gael rhestr aros gyffredin, fel y gall pobl symud rhwng y ddau.

Mae angen inni gynyddu sgiliau. Ac roeddem yn sôn am adeiladu tai, nid oes gennym ddigon o grefftwyr medrus i adeiladu'r tai hyn. Mae'r cyfan wedi'i integreiddio. Mae angen inni wella'r sgiliau, ac mae angen ymrwymiad wedyn i adeiladu tai a chyllid ar gyfer tai cyngor, y gellir ei wneud drwy ddefnyddio benthyca darbodus—. Ie.

Photo of James Evans James Evans Conservative 5:31, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A ydych yn cytuno â mi, felly, Mike, y dylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru sicrhau bod gennym fwy o brentisiaethau i bobl sy'n mynd i wneud eich gwaith gosod brics, eich gwaith coed a'ch electroneg, i sicrhau bod gennym weithlu medrus i allu adeiladu'r tai hyn wrth inni symud ymlaen?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â chi. Byddwn yn dweud 'trydanol' yn hytrach nag 'electroneg'. [Chwerthin.] Ond ie. Hynny yw, yn rhy aml o lawer, gwelsom grefftau'n cael eu hystyried yn ail orau, ac mae arnom i gyd angen manteision plymwyr a thrydanwyr ac adeiladwyr.

Mae angen i gynghorau ymrwymo i gyllido tai cyngor, fel y dywedais, gan ddefnyddio benthyca darbodus, ac mae arnom angen yr ewyllys wleidyddol i fynd i'r afael ag ef. Ein lle ni yw ei wireddu, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth sy'n cael pobl i mewn i dai. Mae adeiladu tai cyngor yn cael un effaith arall: fel y dywedais yn gynharach, mae'n dod â'r tai a arferai gael eu gosod ar rent yn breifat yn ôl i ddwylo perchen-feddianwyr. Mae honno'n fuddugoliaeth i bawb. Ni fydd y sector preifat yn ei wneud, ac nid wyf yn beio'r sector preifat am hyn, oherwydd maent yno i wneud elw, ac nid ydynt am adeiladu tai dros ben. Os ymwelwch ag Iwerddon neu Sbaen, pan oedd problem gyda gallu gwerthu, roeddent yn rhoi'r gorau iddi ar ganol y datblygiad am na allent eu gwerthu am elw. Roeddent am gadw'r prisiau i fyny. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael tai cyngor a chartref gweddus i bawb, ac yn 1945 roedd hynny'n rhywbeth y cafodd y Llywodraeth Lafur ei hethol i'w wneud.

Photo of James Evans James Evans Conservative 5:33, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae tai yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, fel aelod cabinet blaenorol dros dai a ddarparodd dros 250 o gartrefi ym Mhowys. Mae'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i siarad amdano. Felly, ers yr etholiad yma 10 mis yn ôl, rydym wedi trafod tai yn aml yn y Siambr hon. Ond heddiw, nid wyf yn credu ein bod gam yn nes ymlaen gydag unrhyw atebion ymarferol i'r argyfwng tai presennol. Ond y cenedlaethau iau sy'n dioddef fwyaf. Hwy sy'n ei chael hi'n anodd cael y tai sydd eu hangen arnynt. Ceir diffyg tai fforddiadwy o ansawdd da, ac mae'n parhau i fod yn broblem fawr i'r Senedd hon.

Clywaf y Gweinidog yn dweud eich bod yn adeiladu mwy o gartrefi. Ydych, ond a yw hyn yn cyd-fynd â'r galw mewn gwirionedd? Yr ateb syml yw 'na'. Nid yw'n agos at y galw enfawr am dai a welir yn y wlad hon. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 4,314 o anheddau wedi eu hadeiladu y llynedd. Mae hynny 30 y cant yn is na'r flwyddyn cynt, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae pris cyfartalog tŷ yn fy etholaeth wedi codi'n aruthrol i £270,000, ac nid yw ond yn mynd i waethygu gyda'r diffyg cyflenwad a thorfeydd o bobl yn mudo o ddinasoedd i'r Gymru wledig.

Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae'r ffigurau ar gyfer adeiladau newydd yn sylweddol waeth nag yn ne Cymru. A pham hynny, gofynnwch. Oherwydd bod gennym reoliadau ffosffadau Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, yn llawn bwriadau da, ond maent yn arwain at arafu'r gwaith o adeiladu tai. Ceir tagfeydd yn yr adrannau cynllunio, ac mae'r ceisiadau'n aros yn eu hunfan. Mae hynny'n effeithio ar geisiadau masnachol a phreswyl ac yn niweidio'r economi wledig. Mae'r gor-reoleiddio a'r fiwrocratiaeth hon, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, yn dod â datblygiad yn fy ardal i ac ar draws y Gymru wledig ac eraill i stop yn llwyr, ac mae'n cloi llawer o bobl ifanc allan o'r farchnad dai am genhedlaeth.

Nid yw'r cyflenwad tai yn ateb y galw. Nid mater i'r sector preifat yn unig yw hwn. Mae'r sector tai cymdeithasol yn dioddef hefyd. Mae miliynau o bunnoedd o grantiau Llywodraeth Cymru wedi'u dal mewn limbo oherwydd yr anallu i fwrw iddi i adeiladu. Nid yw cynlluniau datblygu lleol yr awdurdod lleol bellach yn werth y papur y maent wedi'u hysgrifennu arno. Maent mewn anhrefn, a bydd targedau tai'n cael eu methu dro ar ôl tro.

Mae gennym sefyllfa ym Mhowys lle mae'r cyngor yn gorfod defnyddio llety gwely a brecwast a llety dros dro, nid yn unig yn y tymor byr, ond fel atebion hirdymor i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae hyn yn erbyn polisïau Llywodraeth Cymru, ond rhaid iddynt wneud hynny am nad oes digon o eiddo'n cael ei adeiladu neu ar gael i gartrefu'r bobl ddigartref a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rydym yn gweld pobl ifanc yn cael eu gorfodi allan o'n hardal, allan o'r cymunedau y maent yn eu galw'n gartref, am na allant fforddio rhentu ac ni allant fforddio prynu. Os daw tai ar y farchnad, mae'r prisiau'n cyrraedd yr entrychion gan arwain at ryfel cynigion, gyda thai'n mynd am filoedd a miloedd o bunnoedd dros y pris gofyn. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod pobl yn symud i Gymru o ddinasoedd fel Llundain i geisio cael bywyd gwell yng Nghymru, ni all fod ar draul pobl leol na'r cenedlaethau iau nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gystadlu â'r bobl hyn oherwydd y cyflogau is a welwn yma yng Nghymru.

Weinidog, rwy'n gwybod ei bod yn debygol nad yw canolbarth Cymru ar frig eich rhestr flaenoriaethau, ond rhaid ichi weld bod angen edrych o'r newydd ar sut i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai. I ddechrau, mae angen edrych ar y rheoliadau ffosffad, dod o hyd i ateb a chaniatáu i ddatblygu ddigwydd. Byddwn yn croesawu diddymu'r dreth trafodiadau tir, er mwyn sicrhau ein bod yr un fath â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i roi cyfle i bobl ifanc gynilo blaendal. Hoffwn weld cynnydd hefyd yn y trothwy rhentu i brynu, fel bod mwy o eiddo'n gymwys a mwy o denantiaid yn gallu rhentu cartref gyda'r nod terfynol o brynu'r eiddo hwnnw os ydynt am wneud hynny.

Mae angen inni edrych ar ein stoc dai bresennol yng Nghymru. Sut y mae uwchraddio'r eiddo hwn? Sut y mae cydymffurfio â safon tai Cymru? Sut y gallwn gymell perchnogion cartrefi a landlordiaid i wneud gwaith gwella er mwyn gwneud y cartrefi hyn yn addas ar gyfer y dyfodol pan nad oes arian ar gael? Hoffwn weld mwy o anheddau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, fel y byddai Mike Hedges, Janet a phobl eraill yn ei ddweud, rwy'n siŵr, a rhaid i'r Llywodraeth hon lansio cynlluniau radical i sicrhau bod yr eiddo hwnnw yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ac nid siarad amdano'n unig.

Mae pawb ar draws y Siambr hon, gan fy nghynnwys i, o blaid croesawu ffoaduriaid o Wcráin, a chefnogi eu brwydr yn erbyn unben ymerodraethol yn Rwsia, ond pan ddaw'r bobl hyn yma, ar ôl ffoi rhag erledigaeth, rhaid iddynt allu mynd i gartrefi o ansawdd da. Mae gobaith—

Photo of David Rees David Rees Labour 5:38, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi orffen yn awr.

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

—y gall y Llywodraeth hon alw am weithredu radical. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidogion a Llywodraeth Cymru: yn hytrach na siarad, mae'n hen bryd ichi weithredu.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Wel, mae'r Deyrnas Gyfunol ymhlith y gwladwriaethau mwyaf anghyfartal yn y byd. Nid datganiad gwleidyddol er mwyn pardduo eraill ydy hyn, ond datganiad o ffaith yn unol ag ymchwil sydd wedi cael ei gario allan gan, ymhlith eraill, yr OECD. Mae tlodi bellach yn endemig mewn rhai cymunedau, a rhan sylweddol o hynny ydy'r gost aruthrol y mae pobl yn gorfod ei thalu tuag at le byw, boed yn forgais neu yn rhent. Edrychwch ar yr ystadegau tlodi plant yng Nghymru a sut mae'r niferoedd mewn tlodi yn cynyddu yn sylweddol ar ôl ffactora i fewn costau tai.

Felly, yn hytrach na rhefru a beirniadu o'r cyrion, ydyn ni o ddifrif am fynd ati i wneud rhywbeth am y tlodi yma? Ydyn ni am wneud rhywbeth, cymryd camau diriaethol ynghylch yr argyfwng tai sydd yn cyfrannu at y tlodi yma? Medraf i sefyll a phregethu hyd ddydd y farn. Wedi'r cyfan, dwi wedi bod yn bregethwr lleyg, yn reit gyfforddus efo pulpud, ond ydy hynna'n cyflawni unrhyw beth ar ddiwedd y dydd yn wleidyddol? Dwi'n teimlo weithiau fel Aelod newydd o'r Senedd mai'r unig beth y gall Aelodau meinciau cefn ei gyflawni mewn gwirionedd ydy pregethu o'r meinciau cefn.

Ond, bob rŵan ac yn y man, mae yna gyfle yn dod ger ein bron i wneud gwahaniaeth—cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth go iawn. Ac, wedi'r cyfan, onid dyna pam ein bod ni wedi rhoi ein henwau ymlaen i gael ein hethol yma? Onid gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl ydy ein pwrpas ni yn y Senedd yma? Onid dyna sydd yn ein cyflyru? Yna, diwedd haf diwethaf, daeth un o'r cyfleoedd prin yna—cyfle prin i ni yn y blaid hon, beth bynnag—i wneud gwahaniaeth, a hynny drwy ddod i gytundeb â'r Llywodraeth ar rai meysydd polisi penodol.

Rŵan, yr hyn sydd yn ein cyflyru ni ar y meinciau yma ydy'r angen i wella ansawdd bywyd pobl, yr awydd i ddwyn terfyn ar dlodi ac i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i wireddu eu potensial mewn bywyd a chyfrannu at ac adeiladu cymdeithas well. Delfryd amhosib, medd rhai, ond un sydd yn rhaid gweithio tuag ato.

Felly, os ydyn ni o ddifrif am fynd i'r afael â thlodi, os ydyn ni o ddifrif am sicrhau bod gan bawb do uwch eu pen, gan fyw mewn urddas, yna mae'n rhaid i ni yn gyntaf gydnabod nad ydy'r drefn bresennol yn gweithio. Unwaith mae rhywun yn derbyn bod y drefn bresennol wedi torri, yna mae'n sefyll i reswm fod angen i ni fynd a datblygu rhywbeth newydd, a dyna sydd gennym ni yn Unnos.

Mae cynnig y Ceidwadwyr yn sôn am yr angen i gefnogi twf y sector adeiladu preifat, gan awgrymu bod Unnos am fod yn fygythiad i hyn. Wrth gwrs bod angen cefnogi ein hadeiladwyr bach—nid Unnos ydy'r bygythiad. Er mwyn cael canran fechan o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, mae'n rhaid i'r cymdeithasau tai wneud cais i gael canran o ddatblygiadau tai'r datblygwyr mawr, yn amlach na pheidio, efo'r cwmnïau mawr yna'n adeiladu tai moethus, nid er mwyn cyfarch galw cymunedol, ond er mwyn llenwi pocedi cyfranddalwyr—Redrow, Persimmon, Barratt Homes, ac yn y blaen. Dyna pwy mae'r Ceidwadwyr yn trio eu hamddiffyn. Pam? Wel, dyma bennawd difyr o'r Financial Times o'r haf y flwyddyn diwethaf:

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

'—yn darparu chwarter yr arian a roddir i'r blaid Dorïaidd'.

'Mae plaid lywodraethol y DU wedi derbyn bron i £18m gan roddwyr sydd â buddiannau eiddo yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf'.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y gall yr Aelod roi ei ffôn i lawr yn awr.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Dwi wedi gwneud. Ond mae'r pwynt yn sefyll: y cwmnïau mawrion yma sydd yn gwthio'r datblygwyr llai, sydd yn datblygu tai er mwyn cyfarch galw lleol, allan o'r farchnad adeiladu. Pa bynnag wedd y bydd Unnos yn ei gymryd, mae'n sicr gen i y bydd Unnos yn buddio ein hadeiladwyr lleol, ond mae hyn yn gyfle i fynd ati o ddifrif i sicrhau rhaglen o adeiladu tai sylweddol mewn cydweithrediad â'r sector gyhoeddus er mwyn sicrhau tai o ansawdd sy'n llesol i'r amgylchedd, wedi eu hadeiladu efo cynnyrch lleol ac yn cyfarch galw ein cymunedau gan roi to uwch ben pobl a thorri ar gostau teuluoedd mewn tlodi. Gweledigaeth, breuddwyd, radical, uchelgeisiol—galwch e beth bynnag y mynnwch chi, ond mae'n sicr o fod yn well na'r drefn fethedig bresennol.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:43, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi atgoffa'r Aelodau nad yw defnyddio teclynnau o'r fath yn rhan o drefn arferol y Siambr mewn dadl, er gwybodaeth ar gyfer y dyfodol? O'r gorau. Gareth Davies.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu y dylai'r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd fynd i orwedd a mesur ei bwysedd gwaed a threulio ychydig llai o amser ar Twitter. 

Mae'n bleser llwyr cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heno, neu'r prynhawn yma. Felly, mae gennym argyfwng tai yng Nghymru ar hyn o bryd, argyfwng y gellid bod wedi ei osgoi'n llwyr, ond oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu yn eu dyletswydd i ddarparu cyflenwad digonol o dai fforddiadwy, mae rhai o fy etholwyr yn byw mewn gwestai a llety gwely a brecwast yn y Rhyl, yn y Westminster Hotel yn bennaf. Mae fy etholwyr sy'n ddigon ffodus i beidio â bod mewn llety dros dro yn cael eu gorfodi'n rhy aml o lawer i fyw mewn anheddau sy'n gwbl anaddas ar gyfer eu hanghenion.

Mae plant anabl gan un o fy etholwyr, y bûm yn ymdrin â hi ers yr etholiadau fis Mai diwethaf, ac mae hi wedi bod yn aros ers blynyddoedd am eiddo wedi'i addasu ar gyfer anghenion ei phlant. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae'r methiant i fynd i'r afael â phrinder tai cymdeithasol ers dechrau datganoli wedi dwysáu dioddefaint cymaint o deuluoedd ar draws fy etholaeth i ac ar draws Cymru. 

Mae'r methiant i adeiladu'r 12,000 o gartrefi y flwyddyn yr oedd Cymru eu hangen wedi golygu bod nifer mawr o deuluoedd yn gorfod byw mewn tai israddol, tai drud, neu ddim tai o gwbl. Nid yn unig y mae Llywodraeth Cymru wedi methu adeiladu cartrefi newydd, maent hefyd wedi methu mynd i'r afael â'r pla o gartrefi gwag y tynnodd yr Aelod dros Aberconwy sylw atynt wrth agor y ddadl. Rhaid ei bod yn ddigalon iawn i bobl sy'n ymdrechu i fagu eu teuluoedd mewn llety cyfyng neu mewn ystafell gwesty weld dwsinau o dai gwag—tai sy'n segur flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn mynd yn adfail pan allent ddarparu cysgod i deulu, man lle y gall plant chwarae mewn gardd a dod â bywyd i strydoedd gwag.

Ond nid diffyg buddsoddiad mewn adeiladau newydd neu droi eiddo gwag yn gartrefi yn unig sy'n broblem—mae'r anallu i ddiogelu ar gyfer y dyfodol hefyd yn broblem. Mae llawer o'n stoc dai yn dal i ddibynnu ar danwydd ffosil ar gyfer gwresogi a choginio. Mae hyn yn broblem wrth inni geisio cyflawni ein rhwymedigaethau sero net, ond mae hefyd yn gadael tenantiaid ar drugaredd prisiau tanwydd cyfnewidiol. Mae rhyfel Putin yn Wcráin wedi dysgu mai camgymeriad yw dibynnu ar ffynonellau tanwydd o ranbarthau geowleidyddol ansefydlog. Eleni, mae'n rhyfel ar garreg ein drws yn Ewrop, ond y flwyddyn nesaf efallai mai'r dwyrain canol fydd yn bygwth ein diogelwch tanwydd. Disgwylir i brisiau tanwydd dreblu eleni o ganlyniad i ymosodiad Putin ar Wcráin.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:46, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A ydych yn gresynu yn awr na wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ariannu'r morlyn llanw yn Abertawe?

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu ei fod yn berthnasol iawn i ddadl ar dai, Mike. Fel Aelod o ogledd Cymru, ni allaf honni fy mod yn fawr o arbenigwr ar forlyn Abertawe, ond yr hyn rwy'n ei wybod yw y gallai morlyn yn y gogledd fod o fudd ar ryw adeg yn y dyfodol.

Heddiw ddiwethaf gwelsom fod prisiau petrol a diesel wedi codi i £1.59 y litr neu'n costio £90 i lenwi car â diesel, a fy etholwyr sy'n byw mewn tai cymdeithasol sy'n mynd i ddioddef fwyaf o ganlyniad i'r cynnydd hwn ym mhrisiau tanwydd.

Nid yn unig fod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o stoc dai i ddiwallu'r angen am dai yn y dyfodol, rhaid iddynt hefyd gyflymu'r broses o ddatgarboneiddio ein stoc dai er mwyn diogelu tenantiaid tai cymdeithasol rhag costau gwresogi cyfnewidiol. Rhaid inni hefyd ystyried newid demograffig yn ein rhagamcanion tai. Bydd gofynion tai poblogaeth sy'n heneiddio yn wahanol. Rhaid inni sicrhau bod modd addasu'r stoc dai a ddarparwn. Hoffwn longyfarch Grŵp Cynefin yn fy etholaeth am eu datblygiad tai gofal ychwanegol, Awel y Dyffryn yn Ninbych, sy'n integreiddio tai a gofal, gan leihau'r galw am gartrefi gofal a sicrhau bod pobl oedrannus ac anabl yn gallu byw yn eu cartrefi eu hunain a pharhau i fod yn aelodau gweithgar o'u cymuned, a chael unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt ar yr un pryd. Dyma'r math o feddwl sydd ei angen arnom wrth ddatblygu ein polisïau tai. Rhaid inni gael cynllun ar gyfer y dyfodol gan ateb gofynion heddiw. Hyd nes y gwnawn hynny, ni fydd modd inni fynd ati o ddifrif i oresgyn ein hargyfwng tai. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:48, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd yr araith gyntaf a wneuthum yn y Siambr hon yn 2016 yn ymwneud â thai, ac mae arnaf ofn fy mod yn mynd i wneud yn union yr un araith eto. Ond nid wyf am wneud hynny mewn gwirionedd—nid yw hynny'n hollol wir. Rwyf wedi edrych ar y Cofnod, ac mae'n mynd i fod yn wahanol, er fy mod yn aml yn edrych ar y Cofnod i weld beth a ddywedais wedi imi siarad yn y Siambr beth bynnag. Un o'r pethau a ddywedodd un o'r hen Aelodau wrthyf ar ôl yr araith honno oedd, 'Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn gwneud yr un araith yn nhymor nesaf y Senedd os cewch eich ailethol.' David Melding oedd hwnnw. Teimlwn fod David Melding yn aml yn dod â llawer o synnwyr cyffredin i'r ddadl hon, ac ymagwedd lai pleidiol na'r un a welir gan Janet Finch-Saunders heddiw efallai, sy'n wych yn ei ffordd, ond nad oes arni ofn cymryd rhan yn y mathau hynny o ymosodiadau pleidiol wleidyddol.

Gadewch inni edrych ar y gymhariaeth â Lloegr, felly. Gwnaeth Oliver Letwin, yr AS Ceidwadol, waith i Lywodraeth y DU ar adeiladu tai, gwaith a gyhoeddodd yn 2019. Dywedodd yn ei adroddiad fod adeiladwyr tai yn diogelu elw drwy adeiladu cartrefi ar gyflymder sy'n cyfateb i allu'r farchnad i amsugno'r cartrefi hyn am brisiau a bennir drwy gyfeirio at y farchnad ail law leol. Mae hynny'n golygu, wrth i brisiau godi, felly hefyd y mae adeiladu tai'n arafu. Dyna un o'r problemau, a dyna pam y dywedodd Oliver Letwin fod adeiladu tai'n digwydd ar gyflymder araf. Nid yw'n ymwneud â pheidio â chaniatáu i'r farchnad rydd weithredu, fel yr awgrymwyd gan rai o'r Aelodau Ceidwadol; mae'n ymwneud â'r ffaith bod y farchnad rydd yn ddiffygiol. Dyna lle mae'r broblem—y ffaith bod yn rhaid ymyrryd yn gadarn iawn yn y farchnad rydd er mwyn iddi ddarparu'r tai sydd eu hangen arnom.

Yr hyn y soniais amdano yn 2016 oedd bod gan Gaerffili gynllun datblygu lleol a oedd wedi'i gyhoeddi ac yn barod i fynd a'i fod wedi ei wrthod yn llwyr wedyn gan y gymuned a oedd yn byw yng ngogledd Caerffili. Cefais 35 y cant o gyfran o'r bleidlais wrth gael fy ethol yn 2016. Rwy'n falch o ddweud iddo godi 10 y cant y tro hwn. Ond un o'r rhesymau pam y gwneuthum mor wael oedd bod pob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr, wedi ymosod arnaf oherwydd y cynllun datblygu lleol roedd Caerffili wedi'i gynhyrchu i ateb y galw am dai. Y broblem gyda'r cynllun datblygu lleol yw ei fod yn canolbwyntio'r holl ddatblygiad, yr holl dai, yn ne'r etholaeth sy'n ffinio â Gogledd Caerdydd. Yr hyn a wnaeth y tai hynny oedd tynnu pwysau oddi ar Gaerdydd a dod â'r tai a fyddai'n gymharol rad i ddinasyddion Caerdydd i'r de o Gaerffili. Roedd yn amhoblogaidd iawn. Roedd yn ateb y galw am dai yng Nghaerdydd; nid oedd yn ateb y galw am dai yng Nghaerffili. Nid oedd unrhyw beth yn y cynllun hwnnw y gallech ddweud ei fod yn fforddiadwy. Os gadewch i'r farchnad rydd wneud ei gwaith, fe gewch fwy o hynny. Fe gewch fwy o hynny. Fe gewch y Redrows, y Persimmons, y Barratts yn codi tai'n sydyn ac yn diflannu oddi yno mor gyflym ag y gallant.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:51, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Yn ddiweddar, deuthum o hyd i araith a roddais i gynulleidfa allanol ar dai—cefais wahoddiad fel rhywun a arferai weithio yn y sector, yn y sector cydfuddiannol a'r sector cymdeithasau tai, rwy'n pwysleisio. Ond dyfynnais lythyr a gefais gan Gymdeithas Adeiladu Principality, a oedd yn nodi bod prisiau tai uchel yn cael eu gyrru gan ddiffyg cyflenwad o dai preifat a thai cymdeithasol fel ei gilydd. Dyfynnais hefyd y ffaith bod grant tai cymdeithasol Cymru 45 y cant yn is nag yn 1996-97, sef blwyddyn olaf yr hen Lywodraeth Geidwadol fel mae'n digwydd. Roedd hynny yn 2004, 18 mlynedd yn ôl. A ydych yn rhannu fy ngofid, pryd bynnag y byddwn yn cyflwyno cynnig, weithiau ar y cyd â Phlaid Cymru yr adeg honno, yn cyfeirio at yr argyfwng tai, mai'r cyfan y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud oedd cyflwyno gwelliant i ddileu'r gair 'argyfwng' o'r cynnig a gorfodi'r bleidlais drwodd?

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:52, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ofni eich bod newydd wneud araith. Os ydych am wneud pwynt i'r Llywodraeth, credaf y dylech ei ofyn i'r Llywodraeth. Aelod o'r meinciau cefn sy'n mynegi fy marn ydw i. Rwy'n teimlo bod methiant ledled y DU i fynd i'r afael â hyn, a theimlaf hefyd nad yw'r cynnig a gyflwynwyd gan eich plaid yn mynd i'r afael â'r broblem am ei fod yn tynnu sylw at y sector preifat. Mae'n gwneud y gwrthwyneb i'r hyn yr ydych newydd ei ddweud—mae'n tynnu sylw at rôl y sector preifat yn darparu tai, a'r cyfan a welwch yw datblygiadau parhaus ar gyfer y bobl gyfoethocaf mewn ardaloedd sy'n ffinio â'r ardaloedd cyfoethocaf hynny, sy'n digwydd bod yn ne Caerffili.

Mewn gwirionedd, nid oes prinder tir yng Nghaerffili. Nid oes prinder tir yng Nghaerffili. Mae digon o dir yn fy etholaeth i ateb y galw am dai heb adeiladu ar safleoedd tir glas. Y broblem yw bod angen adfer tir, ac nid yw rhai fel Redrow neu Persimmon yn talu am adfer y tir hwnnw; rhaid i'r sector cyhoeddus dalu amdano. Felly, rwy'n falch o ddweud—ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn sôn am hyn yn ei ymateb—eu bod yn ystyried datblygu safle tir llwyd yng Nghaerffili at ddibenion adeiladu tai. Mae pryderon ymysg rhai o'r bobl sy'n byw yng Nghaerffili y bydd hynny'n agor tir glas ar fferm Nant y Calch i'w ddatblygu, a dyna lle mae angen sicrwydd arnom, oherwydd ni ddylid adeiladu ar y tir hwnnw.

Rwy'n ofni, yn rhannol oherwydd yr ymyriad hwy a dderbyniais—

Photo of David Rees David Rees Labour 5:53, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Fe roddaf fwy o amser i chi, ond dim llawer. 

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gadewch imi gloi, felly, drwy ddweud mai'r hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw rhagor o dai yng ngogledd fy etholaeth, i'r gogledd o Ystrad Mynach. Ar hyn o bryd rwy'n edrych am rywle i fyw yn Nelson, sy'n edrych yn lle da iawn i fyw ynddo. Hoffwn fyw ym Margoed, ond mae prinder yno. Hoffwn weld tai'n cael eu hadeiladu yno. Yr ateb i hynny yw cysylltu â chynllunio, yr economi, seilwaith, canol trefi a'r holl bethau hynny yr ydym am eu gweld yn tyfu i wneud y gogledd yn ddeniadol, gan gynnwys cysylltu ffordd Blaenau'r Cymoedd â chanolbarth Lloegr yn ddi-dor, a sicrhau bod pobl yn byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hynny, a dyna pam rwy'n croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru, fel yn Lloegr, i gadw 30 y cant o bobl i weithio o'u cymunedau a datblygu hybiau cymunedol yn y cymunedau hynny. Drwy wneud hynny, rydych yn cael pobl i fod eisiau byw yn y cymunedau hynny, ac yn sicrhau bod y cymunedau hynny'n ddeniadol fel lleoedd i fyw ynddynt. Os oes unrhyw un am wybod, mae Bargoed yn lle gwych i fyw ynddo, ac rwy'n ei argymell yn gryf i bawb.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 5:54, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Pan welais fy mod yn dilyn Hefin David, roeddwn yn meddwl tybed a oedd yn mynd i wneud pwynt tebyg iawn i mi ynglŷn â sut y gall tai adfywio'r Cymoedd, a dyna'n union a wnaeth. Yn y bôn, Hefin, mae gennyf werth pum munud o areithiau am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac rydych chi newydd siarad am Gaerffili, felly fe osodwn un yn lle'r llall ac rwy'n hapus iawn i eistedd. Rwyf am ddatgan buddiant hefyd fel cynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

A gaf fi ddechrau drwy fynd i'r afael â'r ymyriad a wnaeth Mike Hedges yn gynharach, a chredaf ei fod wedi'i gyfeirio'n well ataf fi na fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, o Ddyffryn Clwyd? Gofynnwyd i ni am forlyn llanw bae Abertawe. Yn amlwg, nid wyf yn gweld ei fod yn berthnasol, o reidrwydd, i ddadl ar dai, ond er hynny, mae'n bwysig eich atgoffa, Mike, fod prosiect y morlyn llanw wedi methu am ei fod yn fargen wael nid yn unig i drethdalwyr, ond i dalwyr biliau hefyd. Byddai wedi cynyddu costau ynni, ac rydym yn edrych ar hyn o bryd ar adeg pan fyddwn yn wynebu costau ynni uwch. Ond diolch byth, cafodd morlyn llanw newydd wedi'i ariannu'n breifat—wedi'i ariannu'n gwbl breifat—ei gynnig ar gyfer bae Abertawe. Cyfarfûm â DST Innovations ddydd Llun. Mae'r prosiect yn gyffrous iawn ac mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru ei gefnogi. 

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:55, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Y rheswm dros fy ymyriad oedd ein bod yn sôn am brisiau ynni ym maes tai, ac mae'n amlwg y byddai morlyn llanw'n effeithio ar brisiau ynni. Gallwn drafod y morlyn llanw ar adeg arall; roeddwn am wneud y pwynt hwnnw, dyna i gyd. 

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 5:56, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn croesawu dadl ar y morlyn llanw yn fawr, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect morlyn llanw newydd ar gyfer bae Abertawe, sy'n gyffrous tu hwnt yn fy marn i. 

Y pwynt yr oeddwn am ei wneud—ac fe fyddwch yn falch iawn, Ddirprwy Lywydd, y bydd yn fyr iawn—yw ei bod mor glir, o glywed cyfraniadau fy nghyd-Aelodau eraill, nad ydym yn adeiladu digon o dai yng Nghymru. Mae'n hawdd iawn inni fod yn academaidd am hynny ac edrych arno fel ffigur neu rif ar daenlen, neu hyd yn oed y targed diweddaraf y methwyd ei gyrraedd mewn llinell hir o dargedau y methodd Llywodraeth Lafur Cymru eu cyrraedd. Ond y realiti o beidio ag adeiladu digon o gartrefi—beth yw hynny? Beth y mae peidio â chael yn agos at ddigon o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu i ateb y galw lleol yn ei olygu i bobl gyffredin Cymru? Yn llythrennol, mae'n newid bywydau. 

Rwy'n 30 oed, er mawr syndod. [Chwerthin.] Rwyf wedi byw yng Nghymru ar hyd fy oes. Euthum i'r brifysgol yn Abertawe ac mae gennyf lawer o ffrindiau yn yr ardal leol, ac wrth feddwl am y bobl fy oed i yr euthum i'r ysgol neu'r brifysgol gyda hwy, ni allaf ond meddwl am lond llaw sy'n berchen ar eu cartref. Mae'n feirniadaeth drist o'n sefyllfa fel cymdeithas yng Nghymru ar hyn o bryd nad yw'r freuddwyd honno, neu'r hawl honno hyd yn oed a oedd gan genedlaethau blaenorol—mae rhai o'r cenedlaethau hynny, fel un fy nhad, wedi eu cynrychioli yn y Siambr heddiw—a'r dyhead a oedd ganddynt i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn bodoli i ormod o bobl yn fy nghenhedlaeth i. Ond nid yw dyhead yn air sydd yng ngeiriadur Llywodraeth Lafur Cymru. 

Nid wyf yn esgus ei bod yn broblem sy'n unigryw i Gymru, ond pan fydd angen 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn arnoch, fel y mae ein cynnig yn galw amdano, a'ch bod prin yn adeiladu traean o hynny, mae'n amlwg ei bod yn broblem y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gwneud yn waeth. Os na fydd y Llywodraeth yn cael trefn ar bethau ac yn adeiladu digon o gartrefi newydd yma yng Nghymru, rydym nid yn unig yn wynebu'r risg ond hefyd y realiti y bydd cenhedlaeth gyfan yn cael eu hamddifadu o'r gallu i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Rwy'n annog pawb i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 5:58, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint, ac fel y cyfryw, rwy'n falch mai Cyngor Sir y Fflint oedd y cyntaf mewn cenhedlaeth i adeiladu tai cyngor newydd, gan adeiladu 300 o dai cyngor newydd i'w gosod ar rent a 200 o dai fforddiadwy hefyd. Wrth siarad yn ddiweddar â'n pennaeth tai, mae prinder deunyddiau—pren, gwydr—a gweithlu medrus hefyd ers Brexit a'r pandemig yn achosi problem sy'n arafu'r gwaith o adeiladu tai ar hyn o bryd. Rwyf wedi siarad droeon am bolisïau tai Thatcheraidd sy'n gyfrifol am yr argyfwng tai y mae'r wlad hon yn ei wynebu. Mae gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn awr yn galw am adfer y polisi hawl i brynu trychinebus yn dangos nad ydynt wedi dysgu unrhyw wersi o fethiannau Llywodraethau blaenorol San Steffan. 

Ni chafodd tai eu hadeiladu yn lle'r mwyafrif llethol o gartrefi a werthwyd o dan y polisi hawl i brynu. Gwerthiant torfol asedau'r wladwriaeth i'r sector preifat ydoedd. Yn y gogledd, mae Grŵp Cynefin wedi tynnu sylw at y ffaith bod un hen eiddo awdurdod lleol wedi bod ar y farchnad am y pris syfrdanol o £385,000. O ystyried eu hanes yn gwerthu asedau cyhoeddus pan oeddent mewn grym, nid yw'n syndod ein bod yn gweld y Ceidwadwyr yn galw am fwy fyth o bolisïau marchnad rydd yn ein sector tai. Efallai ei fod yn ymwneud mwy â'r ffaith bod cymaint o eiddo a arferai fod yn eiddo i gynghorau bellach yn eiddo i landlordiaid prynu i osod, sy'n codi rhenti llawer uwch na rhent cymdeithasol am eiddo nad yw wedi'i atgyweirio ers iddo gael ei brynu. Mae'r tai hyn wedi dod yn fuddsoddiadau i bobl sy'n gefnog eisoes. Mae'r hawl i brynu wedi bod yn bot mêl i lawer o landlordiaid preifat, ac nid am y tenantiaid cyngor y mae'r Torïaid yn pryderu—ond am y pot mêl a gafodd ei gau gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr hawl i brynu ei gyplysu â diddymu cyllid gan Lywodraeth Thatcher i gynghorau allu adeiladu tai cymdeithasol. Cyfyngodd hyn ar y cyflenwad o gartrefi, gan godi prisiau er mwyn creu cymaint o elw â phosibl i'r rhai a oedd yn ddigon ffodus i fod yn berchen ar ased, a phrisio cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth allan o sicrwydd tai wrth wneud hynny. Nid oes angen adfer yr hawl i brynu. Yr hyn yr hoffwn ei weld yn lle hynny yw hawl i rentu. Byddai cynllun hawl i rentu yn caniatáu i berchnogion cartrefi werthu eu heiddo i'w cynghorau lleol a fyddai wedyn yn rhentu'r tai hynny yn ôl iddynt ar rent cymdeithasol. Byddai hyn yn cynyddu'r stoc o dai cymdeithasol gan warchod pobl ar yr un pryd rhag bygythiad adfeddu morgeisi a throi allan. Un o sgil-effeithiau'r cynllun hawl i rentu fyddai cynnydd mewn datblygiadau cymysg, gyda chynghorau lleol yn cymryd perchnogaeth ar gartrefi mewn ystadau tai nad ydynt yn eiddo i'r cyngor. Mae cynghorau'n mynd ar drywydd datblygiadau cymysg fwyfwy am eu bod yn adeiladu ymdeimlad o undod cymdeithasol ymhlith cymunedau cymysg. Byddai hawl i rentu yn hybu datblygiadau cymysg yng Nghymru. 

Sylwaf fod y Ceidwadwyr Cymreig, yn y cynnig, hefyd yn galw am roi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer cwmni adeiladu cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi preifat. Unwaith eto, mae hyn yn dangos anallu gwirioneddol i ddeall yr argyfwng tai. Prif gymhelliad y sector adeiladu cartrefi preifat yw gwneud cymaint â phosibl o elw i gyfranddalwyr. Mae hyn yn arwain at y sefyllfa annerbyniol a welir yn rheolaidd ledled Cymru a'r DU heddiw lle mae cwmnïau tai preifat yn ymwrthod â'u rhwymedigaethau i ddarparu tai fforddiadwy digonol drwy fygwth peidio â datblygu'r tir. Yr un cwmnïau preifat sydd wedyn yn talu taliadau bonws mawr i'w cyfranddalwyr a'u prif swyddogion gweithredol. Un o sgil-effeithiau eraill y system hon yw bod y tir glas ei hun yn dod yn ased arall i wneud arian yn gyflym ohono gyda thirfeddianwyr yn gallu elwa o werthiannau tir hapfasnachol. 

Heb os, yr argyfwng tai yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Mae pobl sy'n gweithio a phobl ifanc yn teimlo effeithiau'r argyfwng yn fwy llym. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am ddweud mor gyhoeddus wrth etholwyr Cymru heddiw nad oes ganddynt unrhyw atebion o gwbl i'r argyfwng hwnnw. Y cyfan y gallant ei gynnig i'r cyhoedd yng Nghymru yw mwy o breifateiddio, cynyddu prisiau tai, landlordiaeth ac elw preifat. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Mark, nid wyf yn derbyn ymyriad gennych oherwydd rwy'n anghytuno'n llwyr â'r cyfan yr ydych wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser—[Torri ar draws.]

Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel a sefydlu—[Torri ar draws.]

Photo of David Rees David Rees Labour 6:02, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Gadewch i'r Aelod siarad, os gwelwch yn dda.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel a sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol i helpu cynghorau i adeiladu tai cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at weithredu rheoli rhenti ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o hawl i rentu yn ogystal â pharhau i archwilio treth gwerth tir i gymryd lle'r dreth gyngor. Yn wahanol i'r Ceidwadwyr Cymreig, mae Llafur Cymru yn cydnabod y problemau ac yn cynnig atebion go iawn. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:03, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Cyn imi alw ar y Gweinidog, a gaf fi atgoffa pob Aelod mai mater i bob Aelod yw dewis a ydynt am dderbyn ymyriad ai peidio? Eu dewis hwy ydyw, ac os ydynt yn dweud 'na', nid ydynt am dderbyn yr ymyriad, a dyna yw eu penderfyniad.

Photo of David Rees David Rees Labour

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Yn gyntaf, gadewch imi ddiolch i Darren Millar am y cyfle i drafod pwnc mor bwysig heddiw. Roeddwn yn meddwl bod y ddadl ddiwethaf yn y Senedd y prynhawn yma yn dangos y Ceidwadwyr Cymreig ar eu gorau. Mae'n ddrwg gennyf ddweud, roeddwn yn meddwl bod agoriad Janet Finch-Saunders wedi eu dangos ar eu gwaethaf: ideolegol, anghyson a chibddall.

Ond gadewch inni ganolbwyntio y prynhawn yma ar yr hyn yr ydym yn cytuno yn ei gylch. Nododd pob un o'n maniffestos y llynedd fod tai yn flaenoriaeth allweddol, ac yn awr yn fwy nag erioed rydym i gyd yn deall beth y mae'n ei olygu i gael to diogel dros ein pennau a rhywle i alw'n gartref. Mae ein profiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi rhoi ffocws i ni ac wedi ein gwneud hyd yn oed yn fwy ymwybodol o'r angen i bawb allu cael cartref diogel a fforddiadwy, ac adlewyrchir hyn yn ein rhaglen lywodraethu.

Wrth gwrs, mae wedi tynnu sylw at yr heriau enfawr y mae pobl yn eu hwynebu pan nad oes ganddynt gartref sy'n gweddu orau i'w hanghenion. Gwyddom fod y pandemig wedi effeithio ar y diwydiant adeiladu tai ledled y DU. Mae'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn nodi bod cofrestriadau cartrefi newydd wedi gostwng ym mhob rhan o'r DU yn 2020—gostyngiad o 28 y cant yn ne-ddwyrain Lloegr a'r Alban, a gostyngiad o 38 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Mae ystadegau diweddaraf Cymru ar adeiladu tai newydd yng Nghymru, a ryddhawyd ychydig cyn y Nadolig, yn dangos bod nifer yr anheddau a gwblhawyd yn y flwyddyn 2020 i 2021 wedi gostwng 24 y cant i 4,616. Ac rwyf am fod yn glir, er bod y gostyngiad hwn yn siomedig, mae'n adlewyrchu cyfnod digynsail. Mae arnom angen tua 7,400 o gartrefi newydd bob blwyddyn yn ôl ein hamcangyfrifon ni, ac mae angen i 48 y cant o'r rheini fod yn dai fforddiadwy. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 6:05, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae nifer y cartrefi ar gyfer y farchnad sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn parhau i gyd-fynd yn fras â'n hamcangyfrifon o'r angen a'r galw am dai. Felly, mae hyn yn awgrymu ein bod yn adeiladu tua'r nifer angenrheidiol. Ond mae'n rhaid inni gydnabod nad ydynt bob amser yn cael eu hadeiladu yn y mannau iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn gweithio arno. Ac mae'n sicr fod angen inni adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol i'w gosod ar rent yng Nghymru, ac rydym wedi gwneud ymrwymiad clir i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w gosod ar rent fforddiadwy.

Mae ein targed yn mynd y tu hwnt i amcangyfrifon o'r angen am dai, ac mae'n iawn ei fod yn gwneud hynny. Bydd hefyd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod tymor diwethaf ein Llywodraeth ar gyfer adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol—cartrefi sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd ac wedi'u hadeiladu'n dda. Fel Llywodraeth, rydym yn falch o'r camau a gymerwyd gennym yn nhymor diwethaf y Senedd i ddiogelu'r stoc tai cymdeithasol bresennol ac i adeiladu cartrefi newydd. Gwnaethom ragori ar y targed a osodwyd gennym i adeiladu 20,000 o gartrefi, gan ddarparu 23,061 o gartrefi mewn gwirionedd. Ac yn wahanol i Loegr, daethom â'r hawl i brynu i ben, i roi hyder i landlordiaid fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd heb ofni y cânt eu gwerthu o dan eu traed o fewn amser byr, ac nid yw'n rhywbeth y bwriadwn ei adfer. 

Ond er mai tai cymdeithasol yw'r flaenoriaeth, byddwn yn sicrhau bod datblygiadau'n darparu deiliadaeth wirioneddol gymysg ar draws y sbectrwm cyfan o ddeiliadaethau, o eiddo perchen-feddianwyr a rhanberchenogaeth i gartrefi'r sector cymdeithasol i'w gosod ar rent y gall pobl ei fforddio. Ac rydym wedi dweud yn glir fod ein cefnogaeth i dai ar gyfer y farchnad yn rhan bwysig o'n pecyn, ond ei fod yn ychwanegol at ein cefnogaeth i dai cymdeithasol. Ac mae'r targed hwn yn heriol, a gallai sawl ffactor effeithio ar ei gyflawniad, yn cynnwys costau uwch deunyddiau adeiladu a chadwyn gyflenwi hirach ar gyfer nifer o ddeunyddiau adeiladu a fewnforir. 

Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gweithio, ac yn parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a chontractwyr i liniaru'r risgiau hyn, ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i gyflawni'r cynnydd digynsail yng nghostau deunyddiau. Yn wir, i gyd-fynd â'n hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w gosod ar rent, rydym wedi neilltuo cyllideb fwy nag erioed o £250 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon, gan ddyblu'r gyllideb o'r flwyddyn flaenorol. Ac mae ein cyllideb tair blynedd derfynol, a gyhoeddwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn tanategu hyn gyda'r lefelau uchaf erioed o ddyraniadau cyllid gwerth £310 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, £330 miliwn yn 2023-24, a £325 miliwn yn 2024-25. Nawr, rydym yn dibynnu ar bartneriaid tai cymdeithasol i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, a safonau y gallwn fod yn falch ohonynt, ac rwyf am adeiladu ar y cysylltiadau gwaith cryf sydd wedi ffynnu o dan ein hymrwymiad ar y cyd i ddarparu tai cymdeithasol yn nau dymor diwethaf y Senedd, ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ar gwblhau cytundeb teiran—y cytundeb tai—gyda chyrff sy'n cynrychioli'r sector i gefnogi ein targed uchelgeisiol. 

Fel y gwyddom i gyd, mae tai'n faes amlweddog, ac rydym yn rhoi nifer o gamau ehangach ar waith i gefnogi'r gwaith o adeiladu tai yng Nghymru. Drwy ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi cadarnhau ein huchelgais i sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol, Unnos, i gynorthwyo ein cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol i wella'r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Ac rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar gynigion rhenti teg a hawl i dai digonol. Rydym yn cydnabod y ceir achosion lle nad yw rheoli rhenti wedi gweithio fel y bwriadwyd. Wrth gwrs, mae angen ystyried cynigion rheoli rhenti'n ofalus iawn a sicrhau yr ymgynghorir yn eang ar unrhyw gynigion, a byddwn yn ymgysylltu'n llawn â phartneriaid ar y Papur Gwyn yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd. 

Gweithredwyd yn gyflym hefyd yn unol â'n dull tair rhan o ymdrin ag ail gartrefi—trethiant, newid system a chymorth ymarferol. Rydym wedi cyhoeddi'r newidiadau y bwriadwn eu gwneud i derfynau uchaf premiymau treth gyngor dewisol ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, maes y tynnodd Aelodau sylw ato'n briodol fel un sy'n peri pryder i bob un ohonom, yn ogystal â'r trothwyon ar gyfer ardrethi annomestig. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau y gwneir cyfraniad teg trwy drethiant, ac ar gyfer llety gwyliau—eu bod yn gwneud cyfraniad clir i'w heconomïau lleol.

Daeth ein hymgynghoriad ar gynigion arloesol ar gyfer y system gynllunio i ben yn ddiweddar, gan ddenu cyfradd ymateb eithriadol o fawr, fel y gwnaeth yr ymgynghoriad ar gynllun tai cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ac rydym hefyd yn ymgynghori ar amrywio'r dreth trafodiadau tir yn lleol—gyda'n gilydd, pecyn beiddgar a radical sy'n addo sicrhau newid pellgyrhaeddol.

Dros y naw mis diwethaf, Ddirprwy Lywydd, credaf ein bod ni fel Llywodraeth wedi dangos ein hawydd i roi camau clir ar waith i fynd i'r afael ag un o'r problemau mwyaf a wynebwn yma yng Nghymru. Ac er ein bod yn gwrthod cynnig yr wrthblaid Geidwadol, rydym yn wirioneddol agored i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i ddarparu cartrefi y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu haeddu. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:10, 9 Mawrth 2022

Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau, o bob rhan o'r Siambr heddiw, am gyfrannu at ein dadl hynod bwysig ar dai yng Nghymru—gyda llawer o wahanol safbwyntiau ac atebion posibl ar gyfer ymdrin â'r materion sy'n ein hwynebu. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb hefyd. Mae'n amlwg o'r cyfraniadau trawsbleidiol heddiw fod Aelodau yn y Siambr hon yn pryderu o ddifrif am nifer o faterion yn ymwneud â'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu. A sylwaf, ym mhwynt 1 o welliant Llywodraeth Cymru i'n dadl heddiw, eu bod hwythau hefyd yn cydnabod yr heriau allweddol y mae'r sector tai yn eu hwynebu sy'n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru.

Wrth gloi'r ddadl hon heddiw, hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar un o'r materion allweddol a drafodwyd yma, sef adeiladu digon o gartrefi yng Nghymru, a chanolbwyntio ar dri maes y credaf iddynt ddod i'r amlwg yn y ddadl heddiw wrth geisio mynd i'r afael â'n hargyfwng tai presennol. Ar y pwynt cyntaf, fel yr amlinellwyd yn huawdl iawn gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, wrth agor y ddadl heddiw, mae dros 22 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu ar bob un o'r metrigau i adeiladu digon o dai i ateb y galw cynyddol yma yng Nghymru. Fel y dywed pwynt 1 yn ein cynnig, ac a amlinellwyd gan adolygiad Holmans, y tynnodd Tom Giffard sylw ato, ar hyn o bryd mae Cymru angen hyd at 12,000 o anheddau newydd y flwyddyn erbyn 2031, er mwyn sicrhau na fydd pobl yn byw mewn amodau anfoddhaol. Ac wrth edrych yn nes adref, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, oherwydd clywais James Evans yn siarad am Frycheiniog a Sir Faesyfed—fel y mae bob amser yn hoffi ei wneud, wrth gwrs—un mater a godais ar ran fy rhanbarth yng ngogledd Cymru gyda'r Gweinidog newid hinsawdd a'r Prif Weinidog droeon yw y dylid adeiladu tua 1,600 o gartrefi yn fy rhanbarth bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf. Ac ar hyn o bryd rydym yn gweld tua 1,200 o gartrefi'n cael eu hadeiladu yn fy rhanbarth. Mae cwestiynau clir yn codi ynghylch y cyflenwad tai newydd ledled Cymru.

I ddilyn hyn, un o'r pethau a godwyd gan yr Aelodau ar sawl achlysur yn y ddadl hon oedd mater datblygu preifat a datblygwyr preifat. Mae gan ddatblygwyr preifat rôl enfawr i'w chwarae yn sicrhau bod gennym nifer cywir o dai yma yng Nghymru. Ac maent hefyd angen yr amgylchedd iawn ar gyfer buddsoddi a sicrhau bod y tai hynny'n cael eu hadeiladu. Yn amlwg, un o elfennau allweddol yr amgylchedd hwnnw yw cael yr economi iawn i swyddi fod ar gael i bobl, i'r tai gael eu hadeiladu yn yr ardaloedd hynny. Credaf mai James Evans a dynnodd sylw at rywfaint o'r cynhyrchiant economaidd a sut y mae'n amrywio'n sylweddol ledled y wlad. Felly, mae'n amlwg i mi ac i fy nghyd-Aelodau ar fy ochr i o'r meinciau yma, pe baem yn sefydlu'r amgylchedd iawn ar gyfer ein heconomi ac yn denu datblygiad preifat a buddsoddiad preifat i allu adeiladu tai, gallem weld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yma yng Nghymru.

Yr ail fater y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato oedd yr argymhelliad yn ein cynnig i adfer yr hawl i brynu yng Nghymru. Nawr, mae'n amlwg fod barn wahanol ar hynny gan gyd-Aelodau ar yr ochr arall i'r Siambr, yn enwedig Mike Hedges, a Carolyn hefyd. Ond un o'r pwyntiau yr hoffwn ei wneud, oherwydd mynegwyd pryderon ar yr ochr honno hefyd ynghylch sicrwydd cael eich cartref eich hun—y sicrwydd o wybod bod gennych gartref i fynd iddo bob nos—un o'r pethau mwyaf sicr y gallwch ei gael yw eich tŷ eich hun, eich eiddo eich hun. Felly, beth am ganiatáu i bobl gael eu cartref eu hunain, hawl i brynu eu heiddo eu hunain y maent yn byw ynddo? Mae'n debyg mai dyna'r ffordd fwyaf syml o greu sicrwydd tai i bobl yng Nghymru.

Y trydydd maes y cyfeiriodd yr Aelodau ato oedd y berthynas ag awdurdodau cynllunio ac awdurdodau lleol hefyd. Clywais Hefin David yn sôn, yn ei ardal ef yng Nghaerffili, am y dyraniad tir mewn cymunedau—beth sydd angen ei roi ar waith i ganiatáu i bobl gael tai fforddiadwy hefyd. A rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto a gwnaeth nifer o'r Aelodau y pwynt hwnnw.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn darparu atebion go iawn i ddatrys yr argyfwng tai sy'n ein hwynebu, ac mae pawb ohonom am wneud hynny ac rydym i gyd yn ceisio gwneud gwahaniaeth, yng ngeiriau Mabon ap Gwynfor. Fel y gŵyr Aelodau'r gwrthbleidiau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am atebion o bob rhan o'r Siambr ac mae'n drueni ein bod wedi cyflwyno atebion heddiw a bod y rhain yn cael eu hanwybyddu'n llwyr a bod 'dileu popeth' yno unwaith eto. 

Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r hyn a fu'n ddadl ddefnyddiol iawn y prynhawn yma, fel rwy'n dweud. Rydym i gyd wedi dod at ein gilydd i gynnig atebion ymarferol i'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Ac fel bob amser, rwy'n annog pob Aelod o bob rhan o'r Siambr hon i gefnogi ein cynnig gwych gan y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of David Rees David Rees Labour 6:16, 9 Mawrth 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwelaf wrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:16, 9 Mawrth 2022

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:16.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:21, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y gadair.