5. Datganiad gan Peter Fox: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Bwyd (Cymru)

– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:35, 14 Rhagfyr 2022

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan Peter Fox ar gyflwyno Bil Aelod, y Bil Bwyd (Cymru). Galwaf ar Peter Fox.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa'r Aelodau o fy natganiad o fuddiant fel ffermwr? Pleser o'r mwyaf yw cyflwyno Bil Bwyd (Cymru) i'r Siambr y prynhawn yma—Bil Aelod cyntaf y chweched Senedd. Tua 13 mis yn ôl, cefais gyfle gan bob un ohonoch i gyflwyno amlinelliad o'r Bil, yn seiliedig ar yr egwyddor fod angen inni gael mwy o fwyd wedi'i gynhyrchu'n lleol i'n cartrefi, ein cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond wrth drafod fy syniadau gyda rhanddeiliaid, daeth yn amlwg fod angen llawer mwy o waith i sicrhau bod y system fwyd yn gweithio, nid yn unig i'n cynhyrchwyr, ond i'n cymunedau hefyd. Ac felly, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd heddiw wedi'i ehangu ymhell y tu hwnt i'r hyn a ragwelais yn wreiddiol. Teimlwn ei bod yn bwysig inni fachu ar y cyfle hwn i gryfhau system fwyd Cymru yn ei chyfanrwydd, i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, cryfhau diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella'r dewis a roddir i ddefnyddwyr.

Dyma'r egwyddorion cyffredinol sydd wedi bod yn sail i ddarpariaeth ac amcanion polisi'r Bil bwyd. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Bil yn darparu fframwaith sy'n galluogi dull trawslywodraethol cydlynol, cyson a strategol, o weithredu polisi ac ymarfer ar bob agwedd o'r system fwyd. I lywio'r broses hon, rwyf wedi cynnal ystod eang o ymgynghoriadau—o gyfarfodydd bwrdd crwn ar bolisi i gwmpasu dull cychwynnol y Bil, rwyf wedi cael cyswllt rheolaidd ag arbenigwyr polisi i drafod agweddau technegol, yn ogystal ag ymgynghoriad cyhoeddus, a lansiwyd gennyf yn y Sioe Frenhinol. Cynhaliwyd hwnnw dros yr haf, ac rydym wedi derbyn dros 50 o ymatebion o ansawdd uchel i'r ymgynghoriad. Datgelodd hyn gefnogaeth gref i egwyddorion cyffredinol y Bil a'i ddarpariaethau. Roedd dros 75 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno bod angen inni weld y Bil hwn ar y llyfr statud.

Ddirprwy Lywydd, mae'r gwaith sydd wedi'i wneud i gynhyrchu'r Bil, a'r memorandwm esboniadol, wedi bod yn enfawr, ac ni allwn fod wedi ei wneud heb gefnogaeth arbenigol a chyfeillgarwch tîm y Bil Comisiwn, sydd wedi dod o bob rhan o Gomisiwn y Senedd, a hoffwn ddiolch i'r cwnsleriaid allanol yn ogystal. Maent wedi gwneud ymdrech aruthrol o'r diwrnod cyntaf i wireddu fy syniadau ac i fy arwain drwy'r broses hon. Rwyf mor ddiolchgar, ac mae'n rhaid imi ganmol ansawdd y staff yn y Comisiwn—maent wedi bod yn rhagorol. Roeddwn eisiau dweud diolch arbennig hefyd i fy staff cymorth fy hun, yn enwedig Tyler Walsh, sydd wedi bod yn gwbl allweddol wrth fy helpu i gyflawni hyn hyd yma, a hefyd Tom Povey, sydd wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol y broses hon. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch hefyd i bob sefydliad, arbenigwr polisi, ac aelodau'r cyhoedd, o bob rhan o'r DU, sydd wedi ein helpu i lunio'r Bil. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus yn fawr iawn.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi at y Bil ei hun nawr, ac fe wnaf nodi'n fras beth mae pob adran yn ei wneud a pham. Dechreuwn gyda nodau bwyd. Maent yn darparu mecanwaith i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ei amcan polisi allweddol, neu'r nod bwyd sylfaenol—hynny yw, darparu bwyd fforddiadwy ac iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Caiff hyn ei gefnogi gan ystod o nodau bwyd eilaidd sy'n ymdrin â phethau fel iechyd, llesiant cymdeithasol ac economaidd, yr amgylchedd a bioamrywiaeth, ac wrth gwrs, gwastraff bwyd. Mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gymryd camau rhesymol i ddatblygu'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, megis drwy'r strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol. Hefyd, mae gofyniad i Weinidogion Cymru atgyfnerthu targedau presennol, yn ogystal â sefydlu targedau ychwanegol ar sut i gyrraedd y nodau bwyd. Diben y ddarpariaeth hon yw sefydlu cyfeiriad teithio cyson i system fwyd Cymru, yn ogystal â chynyddu atebolrwydd o'i mewn. Yn ystod yr ymgynghoriad, fe ddywedwyd yn glir fod diffyg dull cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd Cymru, yn ogystal ag o fewn y system fwyd ehangach. Roedd 63% o'r rhai a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil drafft yn credu nad yw strategaethau bwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cydgysylltiedig. Ac er bod nifer o gynlluniau ar waith, nid oes digon o graffu a mecanweithiau atebolrwydd yn gysylltiedig â hwy. 

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:40, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Yn ôl yn 2010, fe wnaeth strategaeth 'Bwyd i Gymru' Llywodraeth Cymru, y gwn y bydd y Llywydd yn gyfarwydd iawn â hi, gynnydd i'w groesawu drwy sefydlu dull mwy cyfannol o ymdrin â pholisi bwyd. Ond nid oedd ganddi systemau targedu a chasglu data i fesur pa gynnydd a wnaed. Ar ôl hyn, mae strategaethau olynol, megis cynllun gweithredu 2014 a gweledigaeth 2021 ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, wedi symud y ffocws tuag at dwf economaidd a hyrwyddo allforion, yn hytrach na defnyddio'r system fwyd i fynd i'r afael â materion cymdeithasol ehangach. Felly, mae'r nodau bwyd yn adlewyrchu'r hyn y gwnaeth y pwyllgor amgylchedd blaenorol ddadlau drosto yn eu hadroddiad, 'Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru'—hynny yw dros strategaeth sy'n adlewyrchu dull system gyfan. Er mwyn trawsnewid y nodau bwyd yn bolisi, byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth fwyd genedlaethol, tra bydd gofyn i rai cyrff cyhoeddus, fel cynghorau a byrddau iechyd, lunio cynlluniau bwyd lleol. Mae disgwyl y bydd y cynlluniau lleol yn atgyfnerthu amcanion y strategaeth genedlaethol. Bydd y rhain yn cyfuno polisïau sy'n bodoli eisoes ac yn hyrwyddo arloesedd ar lefel genedlaethol a lleol. Byddant hefyd yn sicrhau cysondeb yn y polisi hefyd.

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi tynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle mae polisi bwyd yng Nghymru wedi bod braidd yn anghyson, megis cyfleoedd a gollwyd i gysylltu cynllun manwerthu bwyd a diod Llywodraeth Cymru gyda strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a'r polisi isafbris alcohol yn erbyn strategaeth y Llywodraeth ar gyfer diod. Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn rhoi hwb i'r sector bwyd a diod yng Nghymru drwy gryfhau cadernid cadwyni cyflenwi lleol. Bydd yn creu cyfleoedd economaidd newydd o fewn cymunedau, drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol sy'n cael ei gaffael, ac yn gwella'r amgylchedd lleol drwy ganolbwyntio ar gynhyrchu cynnyrch mwy cynaliadwy. 

Ddirprwy Lywydd, prif agwedd olaf y Bil yw creu comisiwn bwyd Cymreig, sy'n cynnwys bwrdd a chadeirydd. Y bwriad yw tynnu aelodau o bob rhan o'r system fwyd. Bydd y comisiwn yn ailosod llywodraethiant y system fwyd yng Nghymru, a bydd yn cyd-greu ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno strategaeth fwyd genedlaethol, ochr yn ochr â Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn dwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif, er mwyn sicrhau y gellir cyrraedd targedau nodau bwyd a nodau polisi. Gall y comisiwn ddefnyddio'i rôl hefyd i feithrin gallu ac arbenigedd polisi yng Nghymru.

Cafwyd peth trafodaeth nad oes angen comisiwn mewn gwirionedd, ac yn hytrach, y gall comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol edrych ar fwyd fel rhan o'u cylch gwaith. Rwy'n cofnodi fy niolch am gefnogaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol drwy'r broses hon. Ond mae'r comisiynydd eisoes o dan bwysau amser ac adnoddau sylweddol, sy'n golygu y byddai angen mwy o adnoddau arnynt i wneud hynny, adnoddau y gellid eu cyfeirio'n well at gorff sydd â'r gallu a'r arbenigedd i fabwysiadu agwedd system gyfan at bolisi bwyd. Mae'r Bil hefyd yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru sefydlu ac ariannu'r comisiwn o fewn y fframwaith a nodir o fewn y Bil, sy'n golygu y gall y Llywodraeth gyfeirio cymaint o adnoddau ag y teimla fod eu hangen i ariannu'r comisiwn. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi rhai o'r comisiynwyr presennol a'u cyllidebau i ddarparu'r ystod o gostau cyllidebol posibl. 

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, heddiw nodais rai o brif nodweddion y Bil, a'r rhesymeg sy'n sail iddynt. Mae'r datganiad hwn yn ddechrau ar broses hir o graffu gan y Senedd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at drafod y cynigion yn fanwl, er fy mod yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n garedig wrthyf, wrth imi fynd i'r ystafelloedd pwyllgor hynny gyda rhyw lefel o arswyd. Wrth gwrs, rwyf hefyd yn awyddus iawn i barhau fy ymgysylltiad adeiladol ag Aelodau a'r Gweinidog, a'i swyddogion yn enwedig, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ein trafodaethau hyd yma. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall ac yn cytuno â'r egwyddorion sy'n sail i'r Bil. Er fy mod yn gwybod bod agweddau ar y darpariaethau y mae hi'n teimlo y gellid eu newid, rwy'n meddwl o ddifrif fod cyfle i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ffordd o basio'r Bil hwn. Rwy'n credu'n wirioneddol nad oes angen i unrhyw wleidyddiaeth na dim byd felly rwystro'r gwaith o gyflwyno'r Bil hwn i bobl Cymru. Rwy'n agored i syniadau ac yn fodlon dod o hyd i ffordd ymlaen dros y misoedd nesaf. Rwy'n hapus i adael i'r Bil hwn fod yn Fil y Senedd, ac i ni wneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd, oherwydd mae'r system fwyd yn hanfodol i wead ein cymunedau a phopeth a wnawn. Rydym yn gwybod y gall ac y dylai wneud mwy i gefnogi llesiant a ffyniant. Felly, gadewch inni wireddu hyn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r datganiad a Bil Bwyd (Cymru) i'r Senedd. 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:46, 14 Rhagfyr 2022

Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths.  

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Peter Fox am ei ddatganiad, ac am y sgyrsiau a gawsom dros gyfnod o amser, yn arwain at heddiw.

Rwy'n dal i gredu'n gryf mai'r Bil hwn yw'r Bil anghywir a'i fod yn dod ar yr adeg anghywir. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eisoes yn darparu fframwaith a sylfaen ar gyfer polisïau integredig cyfannol sy'n canolbwyntio ar y budd hirdymor i ddinasyddion a chymdeithas. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o weithio mewn partneriaethau, gyda mecanweithiau profedig ar gyfer camau gweithredu a pholisi cydgysylltiedig. Rwy'n cytuno bod angen dull cydgysylltiedig o ymdrin â materion bwyd sy'n canolbwyntio ymdrechion ar lesiant. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio ar hynny drwy ein polisïau presennol, gyda'r ymrwymiad i ddatblygu strategaeth fwyd gymunedol, sy'n grymuso gweithredu a arweinir gan y gymuned, sy'n cryfhau cymunedau ac sy'n creu nifer o fanteision llesiant, ac rwy'n gweithio gyda Phlaid Cymru ar y mater hwn fel rhan o'r cytundeb cydweithio. 

Ni fydd y Bil hwn yn ychwanegu gwerth, ond bydd yn tynnu sylw, yn creu costau a chymhlethdod diangen, ac yn y pen draw, ni fydd yn cyfrannu at ei fwriadau da ei hun. Bydd yn oedi ein gwaith ar fwyd cymunedol, ac fel y dywedais, rwy'n credu mai hwn yw'r Bil anghywir. Bydd y Llywodraeth yn tanlinellu'r pwyntiau hyn wrth i'r Bil fynd yn ei flaen, ond am heddiw, hoffwn ofyn dau gwestiwn i'r Aelod: sut y bydd y fiwrocratiaeth sy'n llyncu adnoddau a gaiff ei chreu gan y Bil yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd? Ac ym mha ffordd y mae'r Bil yn helpu, yn hytrach na rhwystro, y fframwaith deddfwriaethol sydd eisoes wedi'i roi ar waith gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Diolch. 

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:48, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Gyda phob dyledus barch, rwy'n dal i anghytuno â chi; rwy'n credu bod angen hyn, gan fod ymatebwyr sydd wedi ymateb o bob rhan o'r wlad—o fyrddau iechyd, o gynghorau—yn dweud bod angen hyn, oherwydd ceir diffyg polisi cydgysylltiedig yn hyn o beth. Tra bo llawer o bethau da'n cael eu cyflwyno, fel y Bil amaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy, maent yn edrych ar y cynhyrchydd, y cynhyrchiant yn bennaf; nid oes ganddynt ddull cyfannol o edrych ar sut rydym yn defnyddio bwyd yn y ffordd orau i fynd i'r afael â materion cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod y strategaeth fwyd gymunedol yn cael ei datblygu, ond nid yw'n glir iawn beth mae'n ei gynnwys, ac rydym yn credu ei bod yn ymwneud mwy â mentrau lleol i gynhyrchu symiau lleol o fwyd, mae'n debyg, ond na fyddai'n darparu rhywbeth y gellid ei ehangu ddigon i lywio'r hyn rwy'n ei gynnig drwy'r Bil hwn. 

I ymateb i'ch cwestiynau, mae'r adnoddau, fel y byddwch yn gwybod, yn y memorandwm esboniadol, wedi eu seilio—a cheir ystod o gostau ar eu cyfer. Yn amlwg, mae angen i ni—. Oherwydd ei fod yn Fil fframwaith, mae'r disgresiwn, o ran beth fyddai gwir gostau hynny, yn nwylo'r Llywodraeth mewn sawl ffordd. Rydym yn credu—rwy'n credu—y bydd y Bil hwn yn rhoi cyfle i resymoli'r system fwyd a'r fframwaith rheoleiddio sydd gennym nawr, a fydd yn datgloi arbedion effeithlonrwydd mewn gwirionedd, ac yn ein galluogi i ddarparu adnoddau gwerthfawr ar gyfer meysydd eraill. Nid wyf yn credu bod gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gapasiti, ac nid yw ei nodau bwyd yn adlewyrchu ehangder yr hyn rydym yn ceisio ei wneud gyda'r Bil hwn. Mae'r nodau bwyd rydym wedi'u creu yn y Bil hwn yn cyd-fynd â gwaith da comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond byddai disgwyl i'r comisiynydd ymgymryd â gorchwyl mor eang ac mor fawr â'r system fwyd yng Nghymru, ar ben y pethau y mae hi eisoes yn eu gwneud yn llawer iawn i'w ofyn a byddai'n tynnu sylw'r comisiynydd oddi ar y dasg bwysig sydd ganddi o ddwyn llywodraeth leol, cyrff eraill a'r Llywodraeth i gyfrif yn y meysydd y mae'n edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, beth bynnag, byddai'n rhaid i chi roi mwy o adnoddau i gomisiwn cenedlaethau'r dyfodol iddo allu ymdrin â'r system fwyd pe byddech chi o ddifrif yn awyddus i geisio cyflawni'r dull cyfannol hwnnw ar gyfer y system fwyd. Felly, mae costau ynghlwm wrth hyn, pa bynnag ffordd yr edrychwch arno, os ydym am sicrhau diogeledd bwyd a chreu system fwyd gyfannol.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 3:51, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch yr Aelod dros Fynwy ar gyflwyno deddfwriaeth mor hanfodol? Fel y mae'r Aelod wedi'i nodi'n gywir yn ei ddatganiad agoriadol, nid yn unig y mae Bil Bwyd (Cymru) yn darparu fframwaith sylfaenol i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, ond fel y clywsom y prynhawn yma mae'n cryfhau ein diogeledd bwyd, yn gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru ac yn gwella dewisiadau i ddefnyddwyr, ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn y llyfrau statud. Felly, credaf mai hwn yw'r Bil iawn ar yr adeg iawn.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn dod ar adeg anhygoel o bwysig, nid yn unig i'r diwydiant amaethyddol ond i'r gadwyn gyflenwi ehangach hefyd. O'r giât i'r plât, o'r fferm i'r fforc, bydd hyn yn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at gynnyrch iach o ffynonellau lleol—cyfle sydd nid yn unig yn cefnogi ein cymunedau amaethyddol ond sydd hefyd yn eu gosod ar lwybr tuag at dwf cynaliadwy. Ond er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni ddefnyddio pob arf sydd ar gael i ni, o ddefnyddio'r fframwaith yn y Bil amaeth i ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n bosibl mai'r Bil bwyd hwn yw'r darn jig-so coll a fydd yn cwblhau cyfres o fesurau sy'n diogelu, yn hybu ac yn darparu ar gyfer y gymuned amaethyddol. 

Ar ôl bod ar y pwyllgor yn craffu ar y Bil amaeth, gallaf sicrhau Aelodau nad oes dyblygu rhwng y ddau Fil. Yn hytrach, maent yn ategu ei gilydd mewn ffordd galonogol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu cymorth amaethyddol yn dilyn Brexit, mae'r Bil amaeth yn darparu fframwaith lle gellir diogelu'r diwydiant, ac mae Bil bwyd yr Aelod dros Fynwy yn darparu bwyd fforddiadwy ac iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl Cymru. Yn y bôn, mae'n ticio'r holl focsys rydym eisiau iddynt gael eu ticio wrth fwydo ein cenedl. Mae'r tair rhan hyn—y cynllun ffermio cynaliadwy, y Bil amaeth a'r Bil bwyd—yn ménage à trois o bolisïau sydd wedi'u plethu'n gadarnhaol ar gyfer cynhyrchiant, caffael a ffyniant. Felly, o ystyried hyn, hoffwn i'r Aelod egluro ymhellach sut y bydd ei ddeddfwriaeth yn ceisio ychwanegu at y pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy allweddol yn y Bil amaeth.

Gan droi at bethau eraill, roeddwn yn falch o nodi cymaint o gefnogaeth sydd i'r Bil bwyd o fewn y diwydiant, cefnogaeth sydd wedi cael ei hybu gan randdeiliaid. Mae gwaith yr Aelod—boed hynny'n gyfarfodydd bwrdd crwn, ymgysylltiad rheolaidd ag arbenigwyr polisi neu drwy ymgynghoriad cyhoeddus, y soniodd amdanynt yn ei sylwadau agoriadol—wedi golygu bod y Bil hwn wedi ymgorffori cefnogaeth yr holl randdeiliaid allweddol. Mae'r ymgysylltiad hwn wedi ei groesawu'n fawr. Yn dilyn y trafodaethau a gefais i gyda'r diwydiant, hoffwn glywed gan yr Aelod sut mae unrhyw bryderon posibl ynghylch y Bil wedi cael eu lleddfu wrth iddo gael ei ddrafftio.

Yn olaf, o wrando ar wrthwynebiad y Gweinidog i'r Bil, mae'n amlwg fod rhywfaint o bryder o hyd ynghylch y gorgyffwrdd rhwng yr hyn y mae Peter wedi'i gynnig a strategaeth bwyd cymunedol Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid wyf yn dod i'r un casgliad â'r Gweinidog, felly hoffwn wybod mwy am farn yr Aelod ar y mater ac a ydych chi'n credu bod gwrthdaro rhwng y ddau fframwaith. 

Felly, i gloi, bydd yr egwyddorion, y ddarpariaeth a'r amcanion polisi rydych wedi'u hamlinellu yn creu platfform polisi cydlynol, cyson a strategol y gallwn ddeddfu arno i wella ein diogeledd bwyd, ond yn ogystal â hynny rydych chi a'ch tîm wedi datblygu fframwaith a fydd yn gwella, yn cryfhau ac yn cefnogi ein system fwyd, gan ei gwneud yn addas ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain. Gyda hynny, rwy'n cymeradwyo'r Aelod dros Fynwy am ei ddiwydrwydd a'i ymroddiad yn drafftio'r Bil hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau yn y Siambr i gefnogi'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Diolch.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:55, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddiolch i chi, Samuel, ac a gaf fi hefyd ddymuno pen blwydd hapus i chi heddiw?

Nid yw'r Bil yn gwrthdaro â'r Bil amaeth; mae fy Mil yn creu fframwaith cyffredinol a all gynnwys y polisi rheoleiddio presennol. Mae'r nodau bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd yn galluogi pob maes polisi i gyfrannu tuag at y nod ehangach. Nid oes unrhyw wrthdaro â'r Bil amaeth, ac yn wir, drwy ganolbwyntio pob rhan o'r polisi a'r rhai sy'n cydgysylltu â'r polisi, gall eu helpu i ddod at ei gilydd. Codwyd rhai pryderon wrth ddrafftio'r Bil, a byddai llawer o bobl wedi hoffi pe byddem wedi rhoi mwy ar wyneb y Bil, ond mae hynny'n anodd iawn; byddai pawb a'i fam wedi hoffi cael rhywbeth o fewn y Bil, roedd mor boblogaidd â hynny. Roedd yn bwysig i mi gadw hyn mor syml â phosibl, ond yr hyn a wnaethom oedd ceisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon dyfnach hynny drwy'r memorandwm esboniadol. Roedd rhai cwestiynau'n codi ynglŷn ag a oedd wedi mynd yn ddigon pell gyda'i statws amgylcheddol, os mynnwch, ac rydym yn credu ein bod wedi mynd i'r afael â'r rheini yn y memorandwm esboniadol, oherwydd mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy sy'n parchu bioamrywiaeth a'n cefn gwlad yn rhan o DNA yr hyn y ceisiwn ei wneud.

Ni allaf gofio eich cwestiwn olaf. Roedd yn ymwneud â—ni allaf gofio. [Chwerthin.] Roedd yn ymwneud â chysondeb— 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:57, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Peter, gofynnodd yr Aelod i chi ailddatgan eich safbwynt yn erbyn safbwynt y Gweinidog.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative

(Cyfieithwyd)

Fy safbwynt i yn erbyn safbwynt y Gweinidog? O ie. Iawn. Diolch am hynny, Ddirprwy Lywydd, am fy atgoffa—[Torri ar draws.]

Rwy'n credu fy mod wedi'i nodi yn yr hyn a ddywedais yn flaenorol. Credaf fod hyn yn creu'r fframwaith cyffredinol lle mae yna strategaeth genedlaethol, lle gellir dwyn pobl i gyfrif am gyflawni yn erbyn y targedau bwyd hynny a'r nodau bwyd hynny. Ar hyn o bryd, nid yw'r gwahanol bolisïau bob amser yn cael eu dilyn yn y ffordd rwy'n siŵr y byddai'r Llywodraeth yn ei hoffi. Felly, fe welwch rai cyrff yn cyflwyno polisi yn y ffordd y'i bwriadwyd, eraill yn ei ddehongli mewn ffordd wahanol, felly mae gennych ddiffyg cysondeb wrth gyflwyno polisïau yn gyffredinol. A phan fydd hynny'n digwydd, mae gennych ddiffyg data pendant y gallwch ei ddefnyddio i ddylanwadu ar sut a lle mae angen ichi newid y system fwyd, neu fynd i'r afael â diffygion yn y system fwyd ledled Cymru. Felly, rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:58, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi siarad dros bob Aelod yn y Siambr pan ddymunodd ben blwydd hapus i'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mabon ap Gwynfor.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A llongyfarchiadau i Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn mor bell, a hoffwn gymryd eiliad i fynegi fy nghefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn.

Mae pandemig COVID-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar Wcráin wedi dangos pa mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi bwyd a nwyddau amaethyddol fod i ddigwyddiadau byd-eang, gan ein hatgoffa o beryglon dibynnu ar fewnforion bwyd a deunyddiau crai. Yn y pen draw, fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â chydgysylltiad a chyd-ddibyniaeth cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Un o bolisïau Plaid Cymru yw ein bod eisiau gweld Cymru lle mae gennym system fwyd gynyddol leol—system gynaliadwy wedi'i chefnogi gan sector amaethyddol cadarn a gefnogir yn ariannol.

Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae gan bawb fynediad urddasol at fwyd maethlon wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy, mewn ffordd sy'n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd. Rydym yn gwybod beth sydd angen digwydd i gyflawni hyn; mae angen dull systematig arnom sy'n mynd i'r afael â'r diffygion difrifol yn ein sector bwyd ar hyn o bryd. Mae angen inni weld cynnydd yng nghapasiti prosesu Cymru yn gyffredinol, a gwrthdroi'r hyn a gollwyd mewn capasiti prosesu lleol. Ym maes caffael cyhoeddus, dylem flaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru. Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol—er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cyngor—helpu i greu marchnadoedd i fusnesau bwyd lleol.

Ymhellach, ac rwy'n siŵr y bydd Peter Fox yn cefnogi'r nod hwn, rydym yn dymuno gweld sir Fynwy yn adeiladu ar ei henw da fel prifddinas fwyd Cymru. Er bod y wlad yn gyfoethog o ran cynhyrchiant bwyd a diod, rydym yn dal i fewnforio bwyd ar raddfa enfawr, ac rydym yn gwastraffu bwyd ar raddfa enfawr hefyd. Nid yw'r system fwyd sydd gennym yn gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol nac yn ddiwylliannol.

Yn ogystal â hyn, er gwaethaf lefelau cynhyrchiant bwyd yng Nghymru, a siarad yn fras, mae gennym dlodi bwyd sylweddol, ac mae ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan gyflyrau iechyd y gellir eu priodoli i ddeiet i raddau helaeth. Rhaid i'r Bil hwn sicrhau bod bwyta'n iach yn cael ei annog drwy fonitro mynediad at fwyd iach yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a sicrhau bod y system fwyd yn cael ei chysylltu â sectorau eraill, er enghraifft drwy sicrhau bod coginio ar y cwricwlwm a bod hyn yn cynnwys cynhwysion lleol a ryseitiau lleol iach. Yn ogystal, yn sgil cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, sydd i'w groesawu, byddai'n briodol i system fwyd sy'n cael ei chreu yn sgil y Bil hwn sicrhau bod bwyd a'i gynhyrchiant yn cael ei wreiddio ym mywyd ein hysgolion, gyda chontractau yn cael eu caffael yn lleol pryd bynnag y bo modd fel y gall plant ddysgu o ble y daw eu bwyd a datblygu'r arfer o fwyta bwyd maethlon wedi'i gynhyrchu'n lleol yn gynnar mewn bywyd, sy'n golygu y byddant yn iachach, gyda budd i'r economi a'r amgylchedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o newid diwylliant bwyd yng Nghymru, a dylai'r Bil hwn fod yn gyfle i wneud hynny. Un maes lle mae'n amlwg fod angen i hyn ddigwydd yw ein sector pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu. Mae gan sectorau pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu Cymru gyfle i ddatblygu ac i gyfrannu at yr uchelgais i Gymru fod ar y blaen am gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae Cymru wedi'i hamgylchynu gan forlin ac mae ein moroedd yn gyfoethog o gynnyrch, cynnyrch a allai fwydo'r wlad yn gynaliadwy, ond ar hyn o bryd, mae'r sector yn ei chael hi'n anodd. Nid yw'n cael cefnogaeth ac nid yw defnyddwyr yn manteisio'n llawn ar gynnyrch blasus a maethlon ein moroedd. Er mwyn datblygu ein cymunedau arfordirol, lle mae mwyafrif ein poblogaeth yn byw ac yn gweithio mewn gwirionedd, mae angen inni newid ein hagwedd tuag at fwyd môr Cymru, cefnogi ei gynhyrchiant ac adeiladu cadwyni cyflenwi bwyd môr lleol cynaliadwy.

Rwy'n cefnogi'r Bil hwn am y rhesymau niferus a grybwyllais, a hoffwn annog pob plaid yn y Senedd i wneud hynny hefyd gan sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd, a bwydo i mewn i'r broses hon er mwyn sicrhau y gallwn greu system fwyd sy'n gweithio i Gymru a'n holl gymunedau. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:02, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Peter, nid wyf yn credu i mi glywed cwestiwn yng nghyfraniad yr Aelod, felly os ydych chi eisiau ymateb i'r Aelod.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative

(Cyfieithwyd)

Ydw. Diolch i chi am eich mewnbwn, Mabon, ac fe wnaethoch chi gyfleu hanfod y Bil hwn yn berffaith, a diolch ichi am ei fynegi mor dda. Nid ymwneud â chynhyrchu bwyd cynaliadwy yn unig y mae, mae'n ymwneud â chreu diwydiant cynaliadwy, mae'n ymwneud â defnyddio bwyd lleol o safon i fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol. Mae'n rhaid inni ddechrau symud i ffwrdd oddi wrth edrych ar bopeth yn nhermau gwerth ariannol a dechrau meddwl amdano yn nhermau gwerth cymdeithasol. Sut mae dechrau ysgogi newid yn y system iechyd fel ein bod yn mynd i'r afael â gordewdra a phethau fel diabetes? Sut mae gwneud hynny? Wel, wrth gwrs, fel y dywedodd Mabon, mae'n rhaid inni ddechrau helpu pobl i ddeall, a phlant i ddeall manteision bwyd o safon a sut y gallwn ei ddefnyddio. Dyna pam ei bod mor bwysig fod ein system addysg yn ymateb i'r nod hwnnw. Os gallwn helpu pobl i ddechrau deall manteision bwyd, efallai y gallant newid eu harferion bwyd.

Mae'r prosesau hyn yn hir, ond mae'n rhaid ichi ddechrau rhywle, a dyna bwysigrwydd dull cyfannol sy'n edrych ar y system fwyd gyfan, nid ar ddarnau bach ar wahân a gobeithio eu bod yn dod at ei gilydd yn y diwedd. Mae'n rhaid ichi gael darlun cyfannol. Dyna pam ei bod mor bwysig cael strategaeth gyffredinol a chomisiwn gyda'r bobl allweddol i gyfrannu a fyddai'n dod o bob sector o'r system fwyd a sut y byddai'n gweithio.

A Mabon, roeddech chi'n hollol iawn am ddyframaethu a'r cyfleoedd i fwyd môr fynd i mewn i'n system fwyd leol. Ceir cyfleoedd enfawr os ydym yn manteisio ar y cyfoeth sydd gennym yn ein plith ac yn ymdrechu i ddefnyddio mwy o fwyd carbon isel a gynhyrchir yn lleol, oherwydd byddem yn gallu lleihau'r milltiroedd y mae ein bwyd yn teithio. Felly, mae yna gyfle enfawr. Diolch i chi am eich cefnogaeth.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 4:05, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod uchel iawn ei barch Peter Fox am ei ddatganiad heddiw, yn ogystal â chofnodi fy niolch iddo ef a'i dîm am eu holl ymdrech yn drafftio'r Bil sydd o'n blaenau heddiw.

Nawr, fel yr Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n cynrychioli ychydig dros 650,000 o bobl ac ar ôl cyfarfod â channoedd ohonynt dros yr wythnosau diwethaf, gallaf eich sicrhau, ar ôl siarad â hwy am y Bil hwn, maent yn credu mai dyma'r amser iawn, y lle iawn a'r foment iawn i'r Bil hwn symud ymlaen. Felly, Peter, maent i gyd 100 y cant y tu ôl i chi.

Heb amheuaeth, mae bwyd yn hanfodol i bopeth rydym yn ei wneud fel cymdeithas, ac mae gwir angen inni asesu a yw'r strwythur llywodraethu sydd gennym ar waith yn ddigonol ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu nid yn unig heddiw, ond yn y dyfodol hefyd. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall am y Bil, mae hyn yn rhywbeth y bydd y comisiwn bwyd arfaethedig yn ceisio mynd i'r afael ag ef, ac rwy'n credu ei fod yn syniad diddorol iawn. Fodd bynnag, rwy'n gwybod y bu rhai awgrymiadau nad oes angen i hwn fod yn gorff arall ac efallai y gallai'r strwythurau presennol, fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, gynnwys y system fwyd yn eu cylch gwaith. Felly, Peter, a gaf fi ofyn pam eich bod yn credu bod angen comisiwn bwyd mewn gwirionedd, a pha werth y credwch y bydd yn ei ychwanegu at y modd y caiff y system fwyd ei llywodraethu? Rwy'n gwybod eich bod wedi cyffwrdd â hyn o'r blaen, ond byddwn yn falch iawn o gael ychydig mwy o wybodaeth. Diolch.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:06, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Natasha, a diolch am eich cefnogaeth drwy hyn. Yn wir, diolch i gymaint ohonoch am eich cefnogaeth drwy hyn. Rwy'n meddwl fy mod wedi rhoi sylw i ychydig o hyn yn gynharach. Rwy'n credu ei bod yn gwbl allweddol fod comisiwn—ac nid comisiynydd, comisiwn—yn goruchwylio'r system fwyd a'i hesblygiad, nid fel bygythiad i'r Llywodraeth, ond gan weithio'n agos gyda'r Llywodraeth, ac arno yn ôl pob tebyg. Bil fframwaith ydyw a byddem yn gadael i'r Gweinidogion benderfynu ei union ffurf. Ond gallant helpu a gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth ar lunio strategaeth, y strategaeth gyfannol honno y soniais amdani. Gallant weithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus ar ddatblygu eu cynlluniau bwyd, ac yna gallant hefyd chwarae rôl yn monitro a dwyn i gyfrif, lle bo angen, lle nad yw'r targedau'n cael eu cyrraedd. Ac rwy'n meddwl bod hynny'n sylfaenol. Mewn gwirionedd, gall hyn leihau'r pwysau ar y Llywodraeth mewn sawl ffordd, oherwydd ei fod yn ffrind beirniadol, corff a all wneud y gwaith caled sydd ei angen i wneud inni gael system fwyd wydn, gynaliadwy, rhywbeth nad ydym yn meddu arni ar hyn o bryd, yn anffodus. Ond er yr holl bethau a welsom dros y blynyddoedd diwethaf—COVID, Wcráin—rwy'n credu bod yr holl bethau hynny wedi canolbwyntio ein sylw ar ba mor fregus ydym ni, a pha mor fregus yw ein system fwyd, a dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael golwg gyfannol o'r bôn i'r brig. Ac nid wyf yn meddwl mai comisiwn yn unig yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Fodd bynnag, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rwy'n fodlon gweithio gydag unrhyw un yn y Siambr hon a'r Gweinidog yn wir, i ddod o hyd i fodel sy'n fwy derbyniol, os mai dyna fydd ei angen, ond rhaid inni beidio â cholli ffocws ar yr hyn y dylai'r comisiwn hwnnw fod yn ei wneud.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:08, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n anghytuno'n ostyngedig â Lesley Griffiths nad ydym angen y Bil hwn, oherwydd crëwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 2015, ac mae hi bellach ddau dymor yn ddiweddarach ac yn sicr nid ydym wedi gwneud y cynnydd y mae angen inni ei wneud ar newid ein perthynas â bwyd. Mae'r strategaeth fwyd gymunedol rydych chi'n gweithio arni gyda Phlaid Cymru yn beth braf ei gael, ond nid yw'n ganolog i'r gwaith o ail-beiriannu—

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—ein perthynas â bwyd da.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Jenny, a wnewch chi aros am funud? Rydym wedi colli eich meic. Nid yw'n gweithio. A oes modd inni edrych i weld a yw meic Huw yn gweithio?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:09, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei fod yn gweithio.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Jenny, mae eich un chi ymlaen nawr. A hoffech chi ddechrau eto, Jenny?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Rwy'n anghytuno'n ostyngedig â'r Gweinidog materion gwledig a bwyd. Mae angen newid system gyfan nad ydym, yn syml iawn, wedi'i gyflawni yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyflwynwyd yn y pedwerydd tymor, ac rydym bellach yn chweched tymor y Senedd hon. Mae'r strategaeth bwyd cymunedol y mae'r Gweinidog yn gweithio arni gyda Phlaid Cymru yn braf i'w chael, ond nid yw'n rhan ganolog o'r broses o ail-beiriannu ein perthynas â bwyd, sydd wedi'i gwyrdroi'n llwyr ar hyn o bryd gan oruchafiaeth y diwydiant bwyd obesogenig.

Gallaf restru o leiaf chwe gweinidogaeth arall a ddylai fod yn rhoi sylw i hyn. Yn gyntaf oll, nid yw'r Bil Amaethyddiaeth a'r cynllun ffermio cynaliadwy y mae'n cynnig ei ymgorffori'n ddigon clir, oherwydd mae'r undebau amaeth yn dweud nad ydynt yn deall yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Felly, mae angen inni gael mwy o eglurder ynghylch pwysigrwydd strategol tyfu'r bwyd sydd ei angen arnom i sicrhau diogeledd bwyd ein gwlad.

Yn ail, mae'r cwricwlwm newydd yn wirioneddol wych, ac mae ei bwyslais ar lesiant yn gyfle arall i newid perthynas plant â bwyd. Erbyn iddynt gyrraedd eu tair oed, maent eisoes wedi mabwysiadu arferion gwael gan genedlaethau o bobl sydd heb gael perthynas agos â bwyd.

Rydym yn dechrau gyda bwydo ar y fron. Gennym ni y mae'r cyfraddau bwydo ar y fron gwaethaf yn Ewrop gyfan hyd y gwn i, er ei fod yn helpu plant i beidio â chael heintiau plentyndod ar y glust, y frest a'r perfedd ac yn cynnig amddiffyniad am oes rhag cyflyrau eraill sy'n bygwth bywyd. I fenywod, mae'n gostwng y risg o ganser y fron a chanser yr ofari, osteoporosis, clefyd cardiofasgwlaidd—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:11, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Jenny, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—a gordewdra. Ac eto, mae'r swm rydym yn ei wario ar fwydo ar y fron yn bitw iawn. Felly, mae angen inni newid perthynas plant â bwyd yn llwyr.

Os ydym yn mynd i barhau i allu fforddio cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd, a thu hwnt i hynny mewn ysgolion uwchradd, gobeithio, ni fydd y £260 miliwn rydym yn ei neilltuo ar gyfer hynny ar hyn o bryd ond yn fforddiadwy yn hirdymor os ydym yn cael y cynhwysion ar gyfer y bwyd hwnnw o'n heconomi sylfaenol. Ac mae hynny'n golygu datblygu'r rhwydweithiau bwyd lleol hynny.

Wedyn, ar newid hinsawdd—

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Jenny, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—bwyd sy'n creu fwyaf o allyriadau carbon gan aelwydydd unigol—mwy na mynd ar awyren, mwy na'u costau trafnidiaeth, mwy na gwresogi eu cartrefi. 

Yn olaf, yn amlwg, rhaid i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod yn rhan o sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd iach, ac mae angen i'w dirprwy, sy'n gyfrifol am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), roi llawer mwy o sylw i sut rydym yn mynd i gaffael bwyd yn gyhoeddus yn lleol. Taith yw hon, nid digwyddiad, ac felly rwy'n cefnogi'n gryf—. Nid wyf yn deall sut rydych chi'n mynd i wneud yr holl waith cymhleth hwn heb y comisiwn bwyd. Beth yw eich strategaeth os na allwch chi gael y Llywodraeth i sefydlu comisiwn bwyd?

Photo of David Rees David Rees Labour 4:12, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Cyn i Peter ateb, a gaf fi atgoffa'r Aelodau mai datganiad yw hwn, nid dadl? Felly, rhaid cadw at y cyfyngiadau amser, os gwelwch yn dda. Peter.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jenny, a diolch am eich cefnogaeth. A gaf fi ddiolch i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn yn y gweithgor trawsbleidiol ar brydau ysgol, a'r hyn rydych chi'n dyheu am ei weld? Rwyf wedi bod yn hapus i weithio gyda chi yno, oherwydd mae angen inni newid natur y bwyd y mae ein pobl ifanc yn ei gael. Mae angen bwyd lleol, cynaliadwy o fewn ein cymunedau. Yn anffodus, clywsom drwy'r pwyllgor trawsbleidiol, oni wnaethom, fod contractau caffael yn aml yn seiliedig 70 y cant ar gost, 30 y cant ar ansawdd. Mae hynny'n anghywir. Mae hynny'n foesol anghywir, pan fo gennym gynnyrch lleol o safon mor uchel y gallem ei roi i'n gwasanaethau cyhoeddus, i'n hysgolion.

Credaf hefyd, fel chithau, fod angen i'r comisiwn—neu gorff tebyg iddo, gydag arbenigedd o'r byd addysg, iechyd, Llywodraeth Cymru, cynhyrchwyr, defnyddwyr—fod gyda'i gilydd i lunio'r darlun cyfan, cyfannol. Ni allwch gael un person sy'n arbenigo mewn amaethyddiaeth yn unig i allu siapio system fwyd gyfan. Mae angen rhai sydd â'r holl ddoniau hynny, yr holl arbenigedd hwnnw, i ddod at ei gilydd i greu'r darlun cyfannol hwn. Dyna pam roeddwn yn gwrthwynebu un comisiynydd. Rwy'n teimlo bod angen ehangder o arbenigeddau. Ac fel y dywedais, y Llywodraeth fyddai'n pennu siâp hyn—Bil fframwaith ydyw—o ran y modd y byddent yn rhoi hynny at ei gilydd, a gallent ei roi at ei gilydd mewn ffordd sy'n cyflawni'r targedau y mae'r Bil yn edrych arnynt a chyflawni eu targedau eu hunain mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid cael comisiwn, neu rywbeth tebyg iawn.

Nid wyf yn credu—ac rwyf am ei ailadrodd eto—y byddai gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gapasiti neu le i gyflawni hyn. Yn wir, mae'r comisiynydd wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi cydnabod ein Bil yn ei hadroddiad diweddar. Rwy'n meddwl ei bod hi'n cydnabod bod gwaith enfawr i'w wneud yma. Rydym wedi ceisio ei wneud yn y fath fodd fel bod synergedd rhwng y ffordd y gwnaethom roi hyn at ei gilydd a'r holl bolisïau eraill yn y fframwaith sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 4:15, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau yn gyntaf drwy dalu teyrnged i Peter Fox am yr holl waith caled y mae'r Aelod dros Fynwy wedi'i wneud hyd yma i gael y Bil i'r pwynt hwn. Mae pwrpas y Bil yn ganmoladwy ac yn amserol, ac rwy'n anghytuno'n gryf â'r Gweinidog: dyma'r Bil iawn ar yr adeg iawn. Ei nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yma yng Nghymru, ac yn sicr mae'r wlad wedi bod yn crefu amdano ers amser hir, i annog cydgysylltiad ar draws rhanddeiliaid, rhywbeth sydd wedi bod ar goll hyd yma, yn anffodus.

Y nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn golygu cryfhau ein diogeledd bwyd drwy gadwyni cyflenwi gwydn, cefnogi datblygiad ein diwydiant bwyd, a chynyddu gwybodaeth defnyddwyr ynglŷn ag o ble y daw bwyd. Gwn fod cael y wybodaeth hon yn hollbwysig, yn enwedig yn ein hysgolion. Mae'r Bil yn gyfle nid yn unig i sicrhau ein bod yn gynaliadwy fel cenedl wrth inni gynyddu ein diogeledd bwyd, ond mae hefyd yn gyfle enfawr i drawsnewid addysg bwyd ac ansawdd bwyd a pha mor lleol yw bwyd yn ysgolion Cymru, fel rydych chi eisoes wedi'i grybwyll, gan leihau milltiroedd bwyd a chefnogi economïau lleol a chymunedau gwledig drwy gaffael lleol. Byddai'n wych pe bai hynny'n digwydd o ganlyniad i'r Bil hwn, a gwn mai dyna yw eich bwriad, Peter. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai defnyddio bwyd lleol yn ein hysgolion nid yn unig yn gwella addysg ynglŷn ag o ble y daw bwyd, ond pwysigrwydd prynu'n lleol hefyd, ac effaith amgylcheddol gwneud hynny, yn ogystal â chydraddoldeb gwella iechyd ein plant a mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant.

Felly, rydych chi wedi ei grybwyll yn barod, ond pa sgyrsiau rydych chi wedi eu cael ar hyn gydag ysgolion, gydag awdurdodau a chynhyrchwyr lleol—fel y nodoch chi eisoes fod gennych chi ddiddordeb yn ei wneud—pan oeddech chi'n llunio'r Bil hwn? Rwy'n credu'n gryf, Ddirprwy Lywydd, ei bod hi'n bryd dathlu, cefnogi a defnyddio ein cynnyrch lleol mewn ffordd effeithiol ac effeithlon o'r diwedd, a dyna pam rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw i gefnogi Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:17, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Laura, ac mae addysg yn gwbl sylfaenol ac yn ganolog i hyn. Mae'n foesol anghywir yn yr oes sydd ohoni ein bod ni'n gweld lefelau gordewdra'n codi fel y maent, yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc. Os na weithredwn nawr—nid yw'n annhebyg i'r ddadl am newid hinsawdd—beth sy'n digwydd yn y dyfodol? Mae'n rhaid i ni, ein cyfrifoldeb ni yw gosod sylfeini system well i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae'n rhaid i addysg fod yn ganolog i hynny. Fel y dywedodd Jenny yn gynharach, mae'r cwricwlwm yn gyfle gwirioneddol i siapio addysg a helpu pobl i ddeall sut i ddefnyddio bwyd yn well, manteision bwyd, a newid eu harferion bwyta, ac yna efallai y gall y bobl ifanc hynny fynd adref a newid y ffordd y mae eu teuluoedd yn meddwl, oherwydd mae hwn yn fater mawr iawn. Nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos, ond mae angen ichi ddechrau ei wthio yn ei flaen.

Roeddwn yn falch iawn drwy'r ymgynghoriad o gael llawer o awdurdodau lleol yn cysylltu â ni ac yn cyfrannu, a gallwch ddod o hyd i'r rheini i gyd ar y wefan, ac roeddent eisiau'r sefydlogrwydd y byddai'r Bil hwn yn ei roi iddynt, y canllawiau hyn, y strategaeth hon, fel bod ganddynt rywbeth i weithio tuag ato. Ac mae'r awdurdodau unigol y siaradais â hwy wedi croesawu hyn, oherwydd maent eisoes yn ceisio gwneud pethau yn y ffordd hon. Mae Caerdydd yn enghraifft wych. Mae gan sir Fynwy, fy awdurdod fy hun, ac eraill enghreifftiau o geisio gwneud mwy ar gynnyrch lleol, ond mae angen y fframwaith hon arnynt i weithio tuag ato, ac nid yw hynny gennym ar waith, a dyna beth sydd angen inni ei roi ar waith, fel bod pawb yn gwybod ble mae eu lle yn y system fwyd er mwyn cyflawni'r nodau a'r targedau bwyd hynny.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:18, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Llongyfarchiadau diffuant i Peter ar ei gael i'r cam hwn. Nid oes hanes da i gael busnes meinciau cefn Aelodau preifat drwy'r lle hwn. Ond o ddifrif, mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn.

Fy nghwestiynau mewn munud, os caf eu rhestru'n gyflym iawn, yw: disgrifir hyn yn aml fel 'cyfannol', ond fel y nododd Jenny, a phe bai gennyf fwy o amser fe fyddwn i'n nodi hefyd, nid wyf yn meddwl ei fod yn gynhwysfawr. Mae'n gyfannol, ond nid yn gynhwysfawr, felly'n rhyfedd ddigon, yn hytrach na rhyw gynllun mawreddog sy'n tynnu popeth at ei gilydd, yr hyn y byddai'n well gennyf fi ei weld yw gweithredoedd sy'n cael eu gyrru i fwrw ymlaen â'r hyn y dylem fod yn ei wneud. Felly, fy nghwestiwn iddo fel deddfwr anfoddog, ond cefnogwr deddfwriaeth meinciau cefn, yw: beth yn hyn sy'n dyblygu mewn gwirionedd, ac y gellid ei hepgor o ddeddfwriaeth, y gallech chi ddweud wrth y Gweinidog, 'Weinidog, ewch i'r afael â beth bynnag sydd gennych chi yno ar hyn o bryd'?

Yn ail, mater y costau yn hyn. Nid ydynt wedi'u trafod yn fanwl. Rwy'n deall pam. Ond ar yr adeg hon, a yw'n briodol sefydlu comisiwn arall, ac ati, yn hytrach na dweud wrth y mecanweithiau presennol, 'Ewch ati i'w wneud. Eich gorchwyl yw gwneud hyn, felly ewch ati'?

Ac yn y pump eiliad sy'n weddill, yn y cynlluniau bwyd lleol, ac rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y syniad hwnnw, pwy yw'r byrddau cyhoeddus hynny? Rydych wedi sôn am awdurdodau lleol, byrddau iechyd. Beth am fyrddau partneriaethau rhanbarthol? Beth am y sector gwirfoddol a'r trydydd sector sy'n darparu'r pantrïau bwyd, y banciau bwyd, a phopeth arall? Beth am y tyfwyr cymunedol, ac yn y blaen—ble maent hwy'n ymddangos yn hyn? Pa le sydd i'r trydydd sector?

Pa le sydd i gaffael yn hyn? A ydym wedi rhoi ystyriaeth i ddeddfwriaeth lleol, ffres yn gyntaf fel y maent yn ei wneud yn yr Eidal, sy'n dweud mai dyna'r alwad gyntaf ar unrhyw gaffael? A beth am yr hawl i fwyd fel mater sylfaenol? Felly, mae'n gyfannol, ond nid wyf yn siŵr ei fod yn gynhwysfawr, ac os na allwch chi fwrw ymlaen â hyn, a oes ffyrdd eraill o fwrw ymlaen â rhai o'r pwyntiau da yn hyn?

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:20, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Huw. Os darllenwch drwy'r memorandwm esboniadol, pob un o'r 123 o dudalennau, rwy'n credu y gwelwch atebion i bob un o'r cwestiynau hynny, ac mewn cryn dipyn o fanylder mewn sawl ffordd. Rydych chi'n gofyn beth y gall y Llywodraeth fwrw ymlaen i'w wneud. Wel, rwyf wedi gosod nodau a thargedau bwyd, am nad oes yna rai ar hyn o bryd. Mae yna bwy sy'n dwyn pwy i gyfrif yn y wlad am gyflawni nodau bwyd. Nid ydym yn gweld y rheini. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn crefu am nodau bwyd, maent yn crefu am gyfeiriad a phethau y gallant anelu tuag atynt. 

Y costau, fel y crybwyllais yn gynharach, mae'n rhaid imi fynd drwy broses benodol, fel y byddwch yn ymwybodol iawn, ac rydym wedi rhoi ystod o gostau o gymharu â chomisiynwyr eraill. Fel y dywedais yn gynharach, os byddech chi o ddifrif yn croesawu'r hyn y mae hyn yn ceisio ei wneud a'ch bod eisiau i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol neu gomisiynydd arall ymrwymo i hyn, byddai'n rhaid ichi roi adnoddau tuag at hynny i ddatgloi'r gallu i gyflawni hyn. Os oes awydd am strategaeth fwyd a system sy'n darparu'r cyfan rydym ei eisiau—.

A phan ddywedaf 'cyfannol', rwy'n dweud 'cyfannol' am mai dyna'r unig air y gallaf ddod o hyd iddo i ddisgrifio darlun cyfan. Yn fy meddwl, rwy'n rheolaidd yn gweld strategaeth. Rwy'n gweld cynhyrchu ar y gwaelod, strategaeth dros y cyfan a'r defnydd o'r bwyd hwnnw o fewn y cylch bywyd yn mynd i helpu iechyd pobl ifanc, i helpu gyda'r materion cymdeithasol hynny, yn gyrru'r newid cynaliadwy. Ac ar hyn o bryd, nid yw'r system yn gwneud hynny. Mae'n bodloni gwaelod y cylch—y cynhyrchiant, y cynaliadwy, taro carbon, hyn i gyd—ond nid ydym wedi gweld strategaeth fwyd gymunedol sy'n cyflawni mewn perthynas â'r materion cymdeithasol ehangach hynny.

Yn yr Alban, mae gennych chi Ddeddf Cenedl Bwyd Da (Yr Alban) 2022, nad yw'n annhebyg i'r hyn rydym ni'n ei wneud; mae gennych strategaeth yn Lloegr. Nid oes unrhyw strategaeth yma. Nid oes unrhyw strategaeth, ac mae'n rhaid ichi gael strategaeth i allu dechrau cyflawni. Ac fel rydym ni wedi'i roi yma, mae angen nodau a thargedau fel bod modd dwyn pobl i gyfrif am sicrhau ein bod yn creu'r newid y mae'r wlad hon a'n pobl ifanc ei angen yn ddirfawr.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd groesawu datganiad Peter Fox y prynhawn yma? Gan fy mod yn rhannu swyddfa neu fod gennyf swyddfa drws nesaf i'ch un chi i fyny'r grisiau, Peter, rwy'n gwybod pa mor galed rydych chi wedi gweithio ar y Bil hwn a'ch staff—yn enwedig, Tyler Walsh—yn ogystal, felly rwy'n credu ei bod yn werth sôn am hynny. 

Rwy'n credu bod hwn, fel y mae eraill wedi dweud, yn Fil iawn ar yr adeg iawn, oherwydd mae'n darparu dull cydgysylltiedig o weithredu'r system fwyd. A'r hyn roeddwn i eisiau dod yn ôl ato, rhywbeth rydym wedi cyffwrdd ychydig arno, oedd y strategaethau bwyd lleol, fel y'u drafftiwyd. Fel y gwyddoch, yn fwy na neb yn y Siambr hon mae'n debyg, bydd gan gynghorau lawer o ofynion adrodd eisoes a osodir arnynt o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth sy'n bodoli eisoes, ac rydym yn ymwybodol gyda phob rheoliad newydd, pob Bil newydd sy'n cael ei basio yma, fod hynny'n galw am adnoddau ariannol a dynol ar gyfer y cynghorau hynny, sydd, mewn rhai achosion, dan bwysau sylweddol yn barod. Felly, sut y byddech chi'n sicrhau, o'r Bil hwn, fod cynghorau'n gweld y cyfleoedd y gall eu darparu ac nid y beichiau? Sut y byddent yn ychwanegu gwerth i'r cynlluniau hynny ac yn hwyluso gweithredu cymunedol, yn hytrach na theimlo eu bod yn eu gorfodi ar eu cymunedau lleol hefyd? Diolch.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:24, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Tom, a diolch am yr her honno, ac rwy'n gwybod ei bod wedi'i gwneud fel ffrind beirniadol. Rwy'n credu bod cynlluniau bwyd yn gwbl sylfaenol i hyn. Fel y dywedais yn gynharach, mae llawer o awdurdodau'n ceisio gwneud pethau gyda bwyd, ond ni cheir dull cydgysylltiedig ledled Cymru o wneud hyn. Mae angen i awdurdodau lleol allu—. Mae angen inni eu hannog i reoleiddio, os oes angen—wel, fe fyddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol—er mwyn iddynt gaffael yn fwy lleol. Mater i'r Llywodraeth yw gosod siâp a lefel a tharged y caffael hwnnw. Ond peidiwch ag anghofio, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am y bobl ifanc y maent yn eu gwasanaethu ac fe ddylent anelu at hyn, ac ni ddylid gweld popeth mewn termau ariannol, fel y dywedais yn gynharach. Mae gwerth cymdeithasol i'r pethau hyn, os ydym o ddifrif eisiau creu newid. Mae'r cynghorau y siaradais â hwy wedi ei groesawu. Edrychwch ar yr ymatebion i fy ymgynghoriad o Drefynwy, o Abertawe; edrychwch ar ymatebion byrddau iechyd, o Betsi Cadwaladr i'n bwrdd iechyd ein hunain, sy'n dweud bod angen hyn a phwysigrwydd y peth. Dyma'r bobl rwy'n gofyn iddynt gael cynllun bwyd. Nid ydynt yn dweud, 'Nid ydym eisiau un; biwrocratiaeth ychwanegol yw hyn.' Maent yn dweud, 'Rydym ei angen.' A dyna pam rwy'n credu'n bendant ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn gyda chynlluniau bwyd, fel sydd wedi'u sefydlu yn yr Alban ac sydd wedi'u profi mewn llawer o wledydd.