7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi Plant

– Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:05, 14 Rhagfyr 2022

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar dlodi plant, a galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8165 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.

2. Yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

3. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu penodol a brys yn y maes hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:05, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru. Nid yn unig y mae'n bodoli, ond mae'n staen ar ein cymunedau, oherwydd mae tlodi plant yn achosi niwed difrifol a gydol oes i ganlyniadau'r rhai a fydd yn ddyfodol i'n gwlad, a pho hwyaf y bydd plentyn yn byw mewn tlodi, y mwyaf dwys fydd y niwed.

Sawl gwaith y clywsom yr ystadegau brawychus sy'n creu'r niwed hwnnw yn cael eu hailadrodd yn y lle hwn, mewn dadl ar ôl dadl, gan ddyfynnu adroddiad ar ôl adroddiad? Ond mae'n rhaid inni barhau i'w hailadrodd. Mae'n rhaid inni roi ffocws llwyr ar dlodi plant yn y modd y mae'n galw amdano, a chadw'r ffocws hwnnw, a miniogi'r ffocws hwnnw, oherwydd mae'r lefelau tlodi plant a welwn bellach, wedi'u gwaethygu gan yr argyfwng costau byw, yn peri cymaint o bryder. Nid yw cyfradd tlodi plant unrhyw gyngor yn unman yng Nghymru o dan 12 y cant. Mae hynny'n fwy nag un o bob 10 plentyn ym mhob un ward. Meddyliwch am hynny. Meddyliwch am y plant hynny. Ac mae'r lefelau hyd yn oed yn uwch, wrth gwrs—yn llawer uwch—mewn gormod o'n cymunedau.

Ond mae'n rhaid cofio hefyd nad yw hwn yn fater newydd. A'r hyn sy'n cael ei ailadrodd nawr—yn hytrach na'r ystadegau yn unig—gan y rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi, fel y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, sy'n dadlau dros blant a phobl ifanc, fel y comisiynydd plant, sy'n cwestiynu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i fynd i'r afael â thlodi, fel Archwilio Cymru, a ni ym Mhlaid Cymru, yw bod angen strategaeth newydd arnom i lywio'r gwaith hanfodol hwn, strategaeth gyda thargedau, i ddarparu gwell ffocws a chydgysylltiad ac i lywio'r gwaith sydd angen ei wneud i ddileu tlodi plant.

Mae hon wedi bod yn alwad hirsefydlog, fisoedd lawer cyn i'r argyfwng costau byw a'r argyfwng ynni ddyfnhau'r lefelau echrydus hyn o dlodi plant hyd yn oed ymhellach. Mae'n siomedig gweld gwelliant y Llywodraeth, sy'n teimlo fel gwleidyddiaeth amddiffynnol. Mae'n colli pwynt ein cynnig, sy'n ategu'r galwadau hyn am strategaeth gyda thargedau' i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas, gyda'r adnoddau a'r pwerau sydd gennym, i gyflawni'r nod rydym i gyd eisiau ei weld—nad oes yr un plentyn yng Nghymru yn dioddef niwed tlodi.

Do, fe gafwyd buddsoddiad. Ond dyna pam mae angen inni fesur ei effeithiolrwydd yn erbyn targedau strategol, gan sicrhau bod arian yn cael ei wario lle mae ei angen fwyaf, lle gall gael yr effaith fwyaf. Mae angen gwerthuso'n well, cydlynu ymdrechion yn well, ac osgoi dyblygu neu atebion tymor byr. Hebddo, yn anochel fe geir dull sydd â bwriad da ond mae'n dameidiog, gan arwain at enghreifftiau fel cynllun peilot bwndeli babanod 2018, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Barnardo's, a wnaeth sicrhau canlyniadau cadarnhaol a llai o stigma i rieni newydd drwy greu llinell sylfaen a sicrhau y gallai pob rhiant ddarparu'r hanfodion sydd eu hangen ar gyfer babi newydd-anedig. Ond ni chafodd ei gyflwyno'n ehangach. Dywedodd Barnardo's, sydd hefyd yn cefnogi galwadau am strategaeth tlodi plant newydd, y gallai hyn, ar adeg pan fo pwysau ariannol enfawr ar y rhan fwyaf o aelwydydd, fod wedi sicrhau bod pob rhiant newydd yn cael cymorth profedig, effeithiol ar gyfer eu teuluoedd ifanc.

O ran y cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at ei strategaeth tlodi plant bresennol, gadewch inni gofio ein bod yn siarad am yr un a fabwysiadwyd dros 10 mlynedd yn ôl, wedi'i diwygio yn 2015, a'r un y dywedodd Archwilio Cymru ei bod wedi dyddio. Ac wrth gwrs, cafodd ei tharged canolog—i ddileu tlodi plant erbyn 2020—ei dynnu'n ôl. Felly, nid yw adroddiad diweddaru ar strategaeth ddi-darged sydd wedi dyddio yn ddigon da mewn gwirionedd, yn enwedig wrth ymdrin â mater mor ddifrifol ac mor ddinistriol â thlodi plant.

Cyrhaeddodd yr adroddiad cynnydd hwnnw ein mewnflychau ar ôl 6 o'r gloch neithiwr, gyda datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ef. O ddifrif? Dylai hyn fod ar flaen busnes y Llywodraeth, ac eto dyma ni, yn yr wythnos olaf un o waith cyn y toriad, adroddiad munud olaf. Dim datganiad, dim dadl yn ystod amser y Llywodraeth yn y Siambr i ddatgan beth sydd wrth wraidd gwelliant y Llywodraeth.

Gan droi at yr adroddiad hwnnw, roedd yn anodd iawn dod o hyd i unrhyw werthusiad o gamau gweithredu a nodwyd yn y diweddariad—y niferoedd a gynorthwywyd, yr effaith ar fuddiolwyr, y canlyniadau a gyflawnwyd. Nid yw rhestru'r camau gweithredu a faint o arian a wariwyd yn ddigon. Sut y gwyddom pa wahaniaeth a wnaed i lesiant a sicrwydd economaidd teuluoedd incwm is sydd â phlant yng Nghymru? A yw cynnydd yn unrhyw un o'r meysydd hyn wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd i gyfraddau tlodi plant yn gyffredinol?

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:10, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd strategaeth wedi'i diweddaru'n cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ond nid oes unrhyw sôn am dargedau, ac o ystyried yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths ddoe ynghylch yr angen am strategaeth tlodi plant, rhaid imi ddweud fy mod i'n poeni braidd am hynny hefyd, ac ymrwymiad y Llywodraeth iddo. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau

'i'n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a'r rhai rydym ni'n gweithio â nhw ganolbwyntio ar...[y] camau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Nid yw ysgrifennu strategaethau yn rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd neb na helpu neb i dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn.' 

Na, rwy'n cytuno nad yw ysgrifennu strategaethau'n bwydo plant llwglyd na'n golchi eu dillad nac yn eu cadw'n gynnes, ond fel y dywedais yn gynharach, mae'n hanfodol gallu rhoi ffocws, targedu, gwerthuso ac ysgogi gwaith ar draws y Llywodraeth.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, i ddweud ei bod wedi dod ar draws adroddiad Achub y Plant a gyhoeddwyd 15 mlynedd yn ôl, tua'r adeg yr ymunodd hi â'r elusen. 'Gwrandewch!' oedd teitl yr adroddiad, ac roedd yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd gyda 100 o blant a phobl ifanc rhwng pump ac 16 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ledled Cymru yn 2007. Dywed,

'Dagrau pethau yw bod yr hyn sydd yn yr adroddiad yn adleisio cymaint o’r hyn rydym yn ei glywed heddiw gan blant a theuluoedd'.

Fe siaradodd y plant a gymerodd ran, meddai,

'am golli allan ar nifer o agweddau o blentyndod gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd nifer yn teimlo fel eu bod yn cael eu trin yn wahanol ac yn cael eu bwlio oherwydd y dillad roeddent yn eu gwisgo. Ceir disgrifiadau o sut mae tlodi yn gallu effeithio ar ddiet plant ac arwain at broblemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac roeddynt yn myfyrio ar sut y gwyddent pan oedd eu rhieni yn teimlo’n drist oherwydd na allent brynu’r pethau roedd eu hangen ar eu plant.'

Yna dywedodd:

'A dyma ni yn y flwyddyn 2022 ac yn parhau i glywed straeon am blant mor ifanc â saith mlwydd oed yn dweud wrth ei hathrawes ei bod yn poeni am ei mam, gan iddi ei gweld yn crio am fod yna ddim ond tun o ffa pob yn y cwpwrdd bwyd. Mam arall yn dweud wrthym mai dim ond £50 sydd ganddi yn weddill i fwydo teulu o bedwar wedi iddi dalu ei biliau i gyd ac nad yw’n gwybod ble arall i droi.'

'Rydym hefyd yn clywed am rieni oedd wedi gorfod anfon eu plant i fyw gydag aelodau o’r teulu dros y gwyliau haf oherwydd na allent fforddio eu bwydo, ac am blant yn colli allan ar dripiau i lefydd fel Ynys y Barri oherwydd na allai eu rhieni fforddio y costau trafnidiaeth.'

Mae plant, meddai, yn talu'r pris am yr argyfwng costau byw, sy'n annerbyniol, ac mae angen gweithredu ar frys. Mae'n mynd rhagddi i ofyn beth y gellir ei wneud. Mae'n nodi'n briodol ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gynyddu budd-daliadau, cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, sicrhau bod cyflogau'n cadw i fyny â chostau. Ond mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r hyn y mae'n ei alw'n

'targedau penodol a cherrig milltir i fynd i’r afael â thlodi plant  ar frys mewn modd cydgysylltiedig, ar lefel leol a chenedlaethol, gan ganiatáu i’r sector gyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio law yn llaw.'

Yn ei adroddiad diweddar, mae Archwilo Cymru hefyd yn nodi

'nad oes targed penodol ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd' gan argymell bod Llywodraeth Cymru

'yn pennu camau gweithredu cenedlaethol CAMPUS;

'yn sefydlu cyfres o fesurau perfformiad i farnu’r modd y’i cyflawnir a’i heffaith;

'yn gosod targed ar gyfer mynd i’r afael â thlodi a’i leddfu'.

Mae'r comisiynydd plant hefyd yn ddiamwys. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi plant. Dywed:

'Heb dargedau mae'n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a gweld pa mor dda maent yn gwneud neu pa mor wael maent yn gwneud.'

Felly, sut y byddai targedau'n helpu? Wrth ysgrifennu am y ddadl dros osod targedau, mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn dweud y byddent yn

'rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddatblygu gweledigaeth glir a chydlynol', yn mesur cynnydd ac yn gwella craffu hefyd. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhybuddio'n briodol fod Llywodraethau Cymru olynol,

'wedi datblygu amryw o strategaethau tlodi plant ac wedi gosod targed i'w hun i ddileu tlodi plant erbyn 2020', ond ni wnaed cynnydd sylweddol. Ond mae'n rhaid dysgu gwersi, meddai Dr Evans, a fyddai'n arwain at osod targedau newydd a allai gael effaith go iawn ar lefelau tlodi—targedau a allai adlewyrchu'r hyn sy'n gyraeddadwy gyda chymhwysedd datganoledig, gan y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am ba mor effeithiol y mae'n gweithredu ei pholisïau ei hun, a byddem yn cytuno'n llwyr â hynny.

Yn bwysicaf oll, meddai

'Yn rhy aml yng Nghymru rydym wedi syrthio i'r fagl o osod targedau uchelgeisiol neu ddatblygu strategaethau a dogfennau sy'n gosod nodau a gwerthoedd ag iddynt fwriadau da ond heb lawer o fanylion ynglŷn â sut y gwireddir y rhain. Felly, dylid gosod unrhyw dargedau tlodi ochr yn ochr ag ymrwymiadau clir a phenodol gan Lywodraeth Cymru ar y mesurau ymarferol y mae'n bwriadu eu mabwysiadu i gyrraedd y targedau hynny.'

Mae hwn yn gyngor hollbwysig. Dyma yw hanfod ein cynnig. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau. 

Photo of David Rees David Rees Labour 5:15, 14 Rhagfyr 2022

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i strategaeth tlodi plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of David Rees David Rees Labour

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 2—Darren Millar

Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i helpu i leddfu'r pwysau costau byw y mae cartrefi yng Nghymru yn eu hwynebu. 

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:15, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn cefnogi cynnwys y cynnig hwn. Wrth siarad yma yn 2019 i gefnogi cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth, cyllideb a chynllun gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, nodais y datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y pryd, sef

'Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir', a

'dylai Llywodraeth Cymru lunio Cynllun Cyflawni ar Dlodi Plant newydd, a chanolbwyntio ar gamau pendant, mesuradwy'.

Dyfynnais hefyd y canfyddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod

'lefelau tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain', a'r datganiad gan Oxfam Cymru,

'Nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi'n gweithio; mae'n ymwneud â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu.'  

I fod yn glir, mae tlodi plant yng Nghymru wedi bod ar gynnydd ers 2004, pan godais hyn gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd yn 2008, y flwyddyn y cododd i 32 y cant yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 34 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, tra bod ffigur y DU wedi gostwng i 27 y cant. Y prif reswm am hyn o hyd yw'r ffaith mai Cymru sydd wedi bod â'r twf isaf o ran ffyniant y pen o holl wledydd y DU ers 1999, Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain, a chyflogau yng Nghymru yw'r isaf yng ngwledydd y DU. A hyn oll er inni dderbyn biliynau mewn cyllid a oedd i fod yn gyllid dros dro, a gynlluniwyd i gefnogi datblygu economaidd a lleihau anghydraddoldeb rhwng gwledydd a rhanbarthau.

Mae adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ar dlodi plant, a gyhoeddwyd neithiwr, yn gyfleus iawn, yn nodi mai Llywodraeth y DU sy'n dal i fod â'r ysgogiadau allweddol i fynd i'r afael â thlodi, gan ddangos meddylfryd, unwaith eto, sy'n canolbwyntio ar drin y symptomau yn unig yn hytrach na mynd i'r afael â'r achosion, ac osgoi'r realiti mai Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am faterion yn cynnwys datblygu economaidd, addysg, sgiliau, tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ers bron i 24 mlynedd. Mae'n wirion taflu bai drwy honni mai dewis gwleidyddol oedd cyni. Gallai Llywodraeth Cymru, sy'n mynnu rhagor o arian yn ddiddiwedd, ddysgu gwers gan Denis Healey, Alistair Darling ac wrth gwrs Liz Truss, na allwch fynd yn groes i'r farchnad. 

Erbyn 2010, y diffyg yng nghyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr Undeb Ewropeaidd. Bu'n rhaid i Ddulyn ofyn am becyn achub gwerth €85 biliwn gan yr UE, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn gyfnewid am fesurau cyni. Ar ôl ceisio mynd yn groes i'r farchnad i ddechrau, bu'n rhaid i Wlad Groeg weithredu mesurau cyni difrifol fel rhan o gytundeb achub yr UE, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Roedd datganiad cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Mawrth 2010 yn cydnabod bod maint y diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, gyda'r Canghellor Alistair Darling yn cyfaddef y byddai toriadau arfaethedig Llafur mewn gwariant cyhoeddus yn ddyfnach ac yn llymach na thoriadau'r 1980au.

Felly, cafodd cyni ei etifeddu gan Lywodraeth y DU yn 2010, ac fe wnaeth methiant i leihau'r diffyg greu risg o fwy o doriadau gorfodol. Fel y gŵyr pob benthyciwr, ni allwch leihau dyled nes bod incwm yn fwy na gwariant, ac roedd Llywodraeth y DU bron â bod wedi dileu'r diffyg pan darodd COVID-19. Heb hyn, ni allai'r DU fod wedi codi'r £300 biliwn a fenthycwyd er mwyn ein cynnal drwy'r pandemig. O ystyried bod cyfraddau chwyddiant presennol yn uwch mewn 23 o wledydd Ewropeaidd ac 16 o 27 aelod-wladwriaeth yr UE nag yn y DU, gyda'r newyddion heddiw, gobeithio, yn dangos ein bod dros y brig yn y DU, fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhagweld bod o leiaf hanner gwledydd yr ewro yn anelu am ddirwasgiad, a bod cyfraddau llog banc canolog y DU yn is nag mewn llawer o economïau mawr, dim ond rhywun gwirion iawn fyddai'n honni bod yr argyfwng costau byw presennol wedi'i greu yn San Steffan. Er gwaethaf angen Canghellor y DU i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng cyllid cyhoeddus a ragwelir a'r gofyniad i leihau dyled fel cyfran o gynnyrch domestig gros, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ystod o gamau ar waith i helpu i liniaru pwysau costau byw. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn unol â hynny.

Rydym angen strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru nawr sy'n canolbwyntio ar gamau pendant a mesuradwy, ac sy'n cynnwys system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig, i ymgorffori'r holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt. Mae angen camau gweithredu go iawn yn seiliedig ar adroddiad 'Left Behind?' Local Trust yn Lloegr, sy'n dangos bod gan ardaloedd tlotach sydd â mwy o gapasiti cymunedol a seilwaith cymdeithasol ganlyniadau iechyd a llesiant gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd tlotach nad oes ganddynt y pethau hynny, ac mae angen cynllun twf gyda'r sector busnes, y trydydd sector a'n cymunedau, i adeiladu economi Gymreig fwy llewyrchus o'r diwedd. Diolch.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:21, 14 Rhagfyr 2022

Mae mwy nag un o bob tri o blant ledled Cymru yn byw o dan y llinell dlodi—o leiaf 10 plentyn mewn dosbarth o 30—ac mewn rhai ardaloedd, mae’r gyfradd hyd yn oed yn uwch, ac yn anffodus, dim ond gwaethygu mae pethau wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar fwyfwy o bobl. Mae gan Gymru gyfradd tlodi plant uwch na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud yn yr adroddiad cynnydd tlodi plant fod nifer o’r ysgogiadau o fynd i’r afael â thlodi, megis pwerau dros y systemau treth a lles, dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, nid yw hyn yn golygu bod modd pwyntio bys yn llwyr at y Deyrnas Unedig ynghylch y diffyg cynnydd yma yng Nghymru. Hyd yn oed mewn awdurdodau lleol mwy cefnog, mae o leiaf chwarter y plant yn byw o dan y llinell dlodi ar hyn o bryd. Mae'n broblem enbyd ym mhob rhan o Gymru.

Roedd ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos, rhwng 2016 a 2019, fod gan plentyn yng Nghymru 13 y cant o debygrwydd o fod mewn tlodi parhaus. Ymhellach, roedd 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol o 2017 i 2020. Roedd y ffigur hwn wedi cynyddu o'r 28 y cant a adroddwyd arno’n flaenorol, ac mae'n cynrychioli'r ffigur canrannol uchaf ar gyfer holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Mae tlodi yn effeithio ar bob agwedd o fywyd plentyn. Yn yr ysgol, gall gau plant allan o gyfleoedd i gymryd rhan, dysgu a ffynnu. Ym mhob ysgol yng Nghymru, mae nifer cynyddol o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd fforddio hanfodion bywyd. Mae cyfraddau tlodi wedi’u gwaethygu gan bandemig COVID-19 a rŵan, gyda’r argyfwng costau byw, yn golygu bod cymaint yn rhagor o deuluoedd angen cymorth. Dywed 88 y cant o aelodau NEU Cymru fod y tlodi plant a brofir gan eu dysgwyr wedi gwaethygu ers dechrau 2020, a dangosodd arolwg a gynhaliwyd ganddynt effeithiau enbyd tlodi ar ddysgwyr: dangosodd 92 y cant o ddysgwyr arwyddion o flinder; 86 y cant yn ei chael yn anodd canolbwyntio; 71 y cant yn dangos arwyddion o newyn yn ystod y diwrnod ysgol; 31 y cant yn dangos arwyddion o afiechyd; a 23 y cant yn profi bwlio oherwydd bod eu teulu mewn tlodi. Hynny yng Nghymru yn 2022. Mae pob plentyn yn haeddu mynediad teg i addysg, ond ar eu pennau eu hunain, ni all ysgolion roi’r holl gymorth sydd ei angen ar y dysgwyr hyn.

Fel rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon, mae cost y diwrnod ysgol yn achosi llawer o broblemau i ddysgwyr o deuluoedd incwm isel. Gofynnir yn gyson i deuluoedd gyfrannu tuag at gost gwisg ysgol, tripiau, codi arian at elusen, prydau ysgol a byrbrydau, a darparu offer ac adnoddau ar gyfer prosiectau. Ac er bod cymorth ar gael, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, gan olygu bod ysgolion un ai methu gwneud rhai pethau sydd yn cyfoethogi bywydau plant, gan fod eu cyllidebau hwythau wedi eu gwasgu, neu fod y dysgwyr hynny sydd yn methu fforddio yn colli allan.

Mae yna straeon torcalonnus ledled Cymru ynglŷn â phlant yn peidio â dangos llythyrau i rieni, gan nad ydynt eisiau creu straen iddynt—ddim hyd yn oed yn sôn am drip. Ar ymweliad ag ysgol yn fy rhanbarth yn ddiweddar, mi ddywedodd senedd yr ysgol wrthyf eu bod nhw wedi dewis na fyddan nhw'n gwneud nifer o'r gweithgareddau y byddan nhw fel arfer yn eu gwneud oherwydd eu bod nhw'n gwybod y byddai hynny yn creu straen ar rieni. Dyma blant ysgol gynradd yn penderfynu nad ydyn nhw'n mynd i roi straen feddyliol ar eu rhieni oherwydd yr argyfwng costau byw.

Dengys ymchwil fod plant a phobl ifanc o gartrefi llai cefnog yn fwy tebygol o arddangos lefelau uwch o unigrwydd, bod eu boddhad o fywyd yn is, ac nad ydynt yn mwynhau mynd i’r ysgol. Mae’n destun pryder bod yr allgáu cymdeithasol a deimlir gan ddysgwyr incwm isel yn aml yn cael ei waethygu gan fathau eraill o anghydraddoldeb, gyda phlant incwm isel o grwpiau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a du yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig ac yn anhapus yn yr ysgol, o gymharu â plant gwyn Cymreig a Phrydeinig o statws cymdeithasol economaidd tebyg.

Mae tlodi plant hefyd yn gadael bylchau amlwg mewn cyrhaeddiad addysgol—rhywbeth y bûm yn trafod â disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanishen yn ystod eu hymweliad â’r Senedd ddoe. Clywais ganddynt hwy, a’u hathro, fod cost trafnidiaeth yn rhwystr i rai disgyblion ddod i’r ysgol a bod hyn yn effeithio ar gyrhaeddiad y disgyblion mwyaf bregus. Rwyf wedi codi hyn droeon dros y misoedd diwethaf, ond parhau mae’r broblem a gwaethygu.

Mae’n amlwg iawn bod yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y funud ddim yn gweithio a ddim yn mynd yn ddigon pell. Mae angen nid yn unig strategaeth, ond targedau pendant a monitro cyson ohonynt os ydym am fynd i’r afael â’r broblem. Cafwyd ymrwymiad yn y gorffennol i ddiddymu tlodi plant erbyn 2020. Yn 2022, mae’r sefyllfa yn waeth nag y bu erioed. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu gwell.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 5:26, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Fel llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae tlodi'n effeithio ar unigolyn ifanc mewn sawl ffordd, o'u iechyd a'u datblygiad gwybyddol i ganlyniadau cymdeithasol ac addysgol. Gall canlyniadau hyn aros gydag unigolyn ar hyd ei oes. Dyna pam ei bod mor anfaddeuol fod y rhan fwyaf o deuluoedd agored i niwed wedi gorfod ysgwyddo baich mesurau cyni Torïaidd dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae cyflwyno credyd cynhwysol wedi gadael miliynau o bobl yn waeth eu byd, ac rydym hefyd wedi gweld effeithiau dinistriol y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn, a'r penderfyniad i rewi'r lwfans tai lleol. Ni ellir diystyru'r rhain bellach fel penderfyniadau anodd ond angenrheidiol. Mae'r blaid Dorïaidd yn parhau i wneud dewisiadau gwleidyddol i ddiogelu'r rhai cyfoethog iawn, tra bod un o bob tri phlentyn ar draws y DU yn byw mewn tlodi.

Rydym hefyd wedi gweld ras i'r gwaelod gyda safonau cyflogaeth o dan eu goruchwyliaeth hwy. Mae cynnydd mewn cyflogau sy'n llawer is na chwyddiant a chontractau dim oriau wedi achosi i gyfraddau tlodi mewn gwaith gynyddu. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud yr hyn a all i liniaru effaith y polisïau hyn. Mae ein plaid yn credu mewn cyffredinolrwydd, na ddylai neb gael eu gadael ar ôl, a dyna pam mae Cymru'n arwain y ffordd gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, gofal plant am ddim o ddwy flwydd oed ymlaen, brecwast ysgol am ddim, presgripsiynau am ddim, y cynllun grant amddifadedd disgyblion, a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae'r polisïau hyn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, a chredwch fi, mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed. Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac addysg yn parhau i fod yn un o'r ysgogiadau mwyaf pwerus i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ymgorffori atal, a buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol. 

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n cynnwys £320 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i barhau â'i rhaglen hirdymor o ddiwygio addysgol a sicrhau bod anghydraddoldeb addysgol yn lleihau a safonau'n codi. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar, £40 miliwn i elusen Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, £90 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, £64.5 miliwn ar gyfer diwygio ysgolion a'r cwricwlwm yn ehangach, a buddsoddiad o £63.5 miliwn mewn darpariaeth ôl-16. Rwy'n croesawu'r ymroddiad hwn i fuddsoddi mewn addysg a'n pobl iau, ond rhaid i ni dderbyn bod Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu o ran yr hyn y gall ei wneud tra bo Llywodraeth y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan Gymru boblogaeth fwy oedrannus, mwy o wledigrwydd, cysylltedd trafnidiaeth gwael, a mwy o ddibyniaeth ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus, gyda thraean o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o'r rhain, fel nyrsio a gofal cymdeithasol, yn effeithio mwy ar fenywod, sy'n dal i fod yn brif ofalwyr plant hyd heddiw. Mae angen ariannu Cymru'n well. Roedd hyn yn hysbys pan oeddem yn rhan o Ewrop, gan ein bod yn fuddiolwyr net. Fe dderbyniodd Cymru £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na'r hyn roedd yn ei dalu i mewn, ac roedd y budd cyffredinol i Gymru tua £79 y pen yn 2014. Ers hynny, ni chafwyd arian yn lle'r arian hwn. Mae arnom angen system les addas i'r diben, o'r crud i'r bedd sy'n sicrhau nad oes neb yn syrthio i grafangau tlodi, a hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud tro pedol ar ei llwybr tuag at gyni, ni ellir cyflawni hyn. Diolch.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:30, 14 Rhagfyr 2022

Rŷn ni i gyd yn llawer rhy ymwybodol o ba mor gyffredin yw tlodi plant yng Nghymru. Nid yw e'n ffenomen newydd o gwbl—mae'n fater sydd wedi ei wreiddio yma yng Nghymru am amser llawer rhy hir ac mae'n parhau i gael effeithiau pellgyrhaeddol a niweidiol. Mae Cymru wedi bod ar frig tablau cynghrair ar gyfer tlodi plant ar draws y Deyrnas Gyfunol flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd yn destun cywilydd cenedlaethol. Gyda'r argyfwng costau byw presennol a gyda bwyd, tanwydd, a chostau ynni i gyd yn codi'n aruthrol, mae llawer o deuluoedd a lwyddodd i ddal dau ben llinyn ynghyd bellach yn cael eu gwthio i dlodi.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:31, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, roedd ffigurau diweddar yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol. Fe welodd nifer o'r ardaloedd hynny yng Nghymru gwymp yng nghyfraddau tlodi plant rhwng 2014 a 2019. Mewn rhai rhanbarthau gwledig, arfordirol, parhaodd tlodi plant i godi'n frawychus. O'r chwe awdurdod lleol yng Nghymru a welodd gynnydd yn y cyfraddau tlodi plant, roedd pump mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol, yn groes i sut y gallai gael ei weld yn gyffredin fel mater trefol yn bennaf. Eleni, cyhoeddodd Prifysgol Loughborough ymchwil newydd ar ran y gynghrair Dileu Tlodi Plant. Yng Ngheredigion, roedd mwy na 35 y cant o blant yn byw o dan y ffin tlodi; 33.3 y cant ym Mhowys; 34.4 y cant yng Ngwynedd; a 34.6 y cant yn sir Gaerfyrddin—mae'r rhain i gyd yn fy rhanbarth i. Mae gan sir Benfro, ar 35.5 y cant, sir y mae ei phrisiau tai ymhlith yr uchaf yng Nghymru a chyda nifer uchel o ail gartrefi, gyfradd tlodi plant uwch na holl awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae tlodi plant mewn ardaloedd gwledig yn cael ei yrru gan incwm isel a chanlyniadau economaidd gwael, diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a thlodi tanwydd, darpariaeth wael o wasanaethau cyhoeddus, rhenti uchel, a phrinder tai fforddiadwy, ymhlith ffactorau eraill. Ynghanol cyfoeth cymharol rhannau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae tlodi plant yn aml o'r golwg yng ngwydd pawb.

Mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw at y ffaith nad yw ffigurau sy'n ymwneud â thlodi plant yn cyfleu effaith wirioneddol yr amddifadedd a'r tlodi hwn ar fywydau'r plant sy'n ei brofi. Pan fydd plant yn tyfu i fyny mewn tlodi, fe wyddom y bydd yr effeithiau'n aros gyda hwy am weddill eu bywydau. Mae'n amlwg fod y niwed yn cael ei wneud yn gynnar. Yn ôl Sefydliad Bevan, gall tlodi plant effeithio ar iechyd meddwl, hunan-ddelwedd a hunan-barch, iechyd corfforol ac addysg yn nes ymlaen mewn bywyd. Gall hefyd effeithio ar lwybrau gyrfa dilynol, y gallu i gymdeithasu'n normal, ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd o fod yn gysylltiedig â throsedd, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr. Weinidog, er fy mod yn deall mai'r Torïaid yn San Steffan a'u rhaglen o gyni didostur a ddylai fod yn atebol am waethygu amddifadedd ar draws y DU, Plaid Lafur Cymru sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers dechrau datganoli. Ar ôl dathlu canmlwyddiant eich plaid yn ddiweddar, a oes perygl efallai mai methiant i drechu tlodi plant fydd y gwaddol a adewir ar ôl gan Lywodraeth Lafur Cymru?

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:34, 14 Rhagfyr 2022

Rwy’n eich annog chi, Weinidog, i ailddyblu eich ymdrechion gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i chi a'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi plant. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:35, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Gadewch inni fod yn glir: mae'r ffaith bod tlodi'n bodoli yn fethiant llwyr ar ran y Llywodraeth—Llywodraethau ar ddwy ochr yr M4. Mae'n fethiant ar ran y ddwy Senedd, ac mae'n fethiant system economaidd, system sy'n annog ac yn elwa o'r elw mwyaf posibl ar draul pobl, oherwydd dyna rydym yn siarad amdano yma—pobl. Dyna sydd y tu ôl i ffigurau tlodi—pobl a'u teuluoedd. Mae'r ffaith bod 31 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn drosedd.

Cyn y pandemig, gwelsom duedd gynyddol yn y lefelau o ddiffyg diogeledd bwyd yn y cartref. Mae'r duedd honno wedi gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw, gan ddyfnhau'r caledi ariannol a wynebir gan lawer o aelwydydd ledled Cymru. Mae tlodi bwyd yn broblem fawr. Mae bodolaeth banciau bwyd ynddo'i hun, heb sôn am y cynnydd yn eu defnydd, yn ogystal â'r cynnydd mewn mentrau i fynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau, yn tystio i system sydd wedi methu. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd sy'n gam i'r cyfeiriad cywir. Ymwelais ag Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ddiwedd mis Tachwedd, fy hen ysgol gynradd, i weld y polisi ar waith, ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd y neuadd a'r meinciau yn llawer llai nag y cofiaf, ond roedd yn foment falch i mi, o wybod bod Plaid Cymru wedi gwthio i wireddu hyn. Ond mae angen mynd ymhellach. Nid yw tlodi'n dod i ben pan fyddwch chi'n mynd i'r ysgol gyfun neu'n mynd i'r coleg. Dylai cael pryd bwyd yn yr ysgol fod yn rhan sylfaenol o'r diwrnod ysgol.

Er bod prydau ysgol am ddim yn un o'r camau pwysig y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant a phlant llwglyd, mae bylchau amlwg mewn diogeledd bwyd a maeth, wrth i lawer o blant ei chael hi'n anodd bwyta digon. Yn y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o bobl yng Nghymru wedi rhedeg allan o fwyd cyn gallu fforddio prynu mwy. Mae adroddiad cynnydd tlodi plant 2022 yn tynnu sylw at hyn. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant bwyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 42 mlynedd a rhagwelir y bydd yn codi ymhellach. Mae prisiau cyfartalog y bwydydd rhataf wedi codi mwy nag eitemau bwyd eraill, sy'n golygu bod aelwydydd a oedd cyn nawr yn prynu'r bwydydd rhataf wedi gweld eu biliau'n codi'n frawychus, ac ychydig iawn o le sydd ganddynt i newid i brynu bwyd rhatach. Mae hyn hefyd wedi ysgogi cynnydd yn y galw am ddarpariaethau bwyd mewn argyfwng.

Mae nifer sylweddol o athrawon a staff ysgol yn sylwi ar blant yn dychwelyd i'r ysgol yn llwglyd ar y diwrnod cyntaf ar ôl y gwyliau. Ym mis Gorffennaf 2017, roedd banc bwyd yn Abertawe wedi rhedeg allan o fwyd oherwydd bod plant yn llwgu yn ystod y gwyliau. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, lle mae dros draean yr holl fwyd yn cael ei ddosbarthu i blant, yn dweud bod y galw am fwyd yn codi hyd yn oed yn uwch yn ystod y gwyliau. Y gwir yw bod yn rhaid i ni ddiddymu llwgu yn ystod y gwyliau, ac mae angen i hynny ddigwydd nawr. 

Lywydd, ers fy ethol yn 2021, rwyf wedi ymgyrchu i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ogystal â chynyddu'r trothwy, a nawr yn fwy nag erioed mae angen gweithredu'r newid hwn. Fe wnaeth y gynghrair Dileu Tlodi Plant gynnal arolwg o 476 o bobl ifanc am yr argyfwng costau byw, ac yn frawychus, dywedodd 97 y cant eu bod yn credu bod costau byw cynyddol yn broblem i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed heddiw. Dyma eiriau unigolyn ifanc 17 oed mewn coleg yng Nghymru: 'Ni allaf ddefnyddio'r gwres mwyach am ei fod yn rhy gostus, ac ni allwn ddod o hyd i unrhyw le i fyw, am fod ein contract rhent yn dod i ben ac mae rhent wedi codi'n aruthrol. Rwy'n casáu brwydro fel hyn. Mae'n gwneud imi deimlo nad oes dim sy'n werth byw ar ei gyfer. Rwy'n oer. Yn fuan, bydd fy nheulu mewn sefyllfa fyw ofnadwy, ac nid wyf hyd yn oed yn gallu mwynhau gweithgareddau eraill am na allaf eu fforddio.'

Wrth gwrs, dylem ymfalchïo yn y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, ond dylem hefyd gydnabod nad yw'n ddigon ar hyn o bryd. Nid yw'r cymorth ariannol a ddarperir yn ddigon; nid yw wedi newid ers 2004. Yn ôl y Gweinidog addysg, fe ddylai fod oddeutu £54 yr wythnos heddiw, yn hytrach na £30, sy'n golygu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi torri traean oddi ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg mewn termau real dros y degawd a hanner diwethaf. Mae goblygiadau dwfn i'r toriad hwn, yn enwedig gan fod y trothwyon ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2011. Mae hyn wedi creu gwahaniaeth mawr rhwng dysgwyr, gan fod yn rhaid iddynt fod gryn dipyn yn dlotach nawr na'u cyfoedion yn ôl yn 2011 i gael hawl i gymorth o gwbl.

Gwrandewais gyda diddordeb mawr ddoe ar y cyhoeddiad ynglŷn â'r £28 miliwn ychwanegol i addysg. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog ar ryw bwynt yn gallu rhoi arwydd a fyddai modd defnyddio rhywfaint o'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg ai peidio. Wedi'r cyfan, mae adroddiad cynnydd tlodi plant 2022 yn dweud bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn allweddol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, gan leihau anghydraddoldebau addysgol yn benodol. Os yw Llywodraeth Cymru'n wirioneddol angerddol ynglŷn â chymryd y camau a gwneud y penderfyniadau i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi, gallai ddechrau drwy adolygu a diwygio'r lwfans cynhaliaeth addysg.

I orffen, Lywydd, gall profi tlodi yn gynnar mewn bywyd gael effaith niweidiol ar ragolygon bywyd yn nes ymlaen. Tlodi yw'r her fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'n effeithio ar iechyd, mae'n effeithio ar gyrhaeddiad, mae'n effeithio arnom i gyd. Blaenoriaethau—dyna nod y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn enwedig gyda'r gyllideb sydd ganddi nawr. Yn fy marn i, rhaid rhoi'r flaenoriaeth honno i fynd i'r afael â thlodi plant. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:40, 14 Rhagfyr 2022

Mae'n rhaid i fi bwysleisio pwysigrwydd y ddadl yma gan ein meinciau ni y prynhawn yma. Mi ganolbwyntiaf i ar y cysylltiad amlwg iawn rhwng tlodi a phroblemau iechyd. Rydyn ni'n mynd trwy gyfnod ariannol enbyd o anodd ar hyn o bryd. Mae hynny'n amlwg o'r gyllideb ddrafft y cyhoeddwyd ddoe, cyllideb efo cyfyngiadau mawr arni hi mewn amseroedd gwirioneddol galed, a does yna ddim syndod yn y cyd-destun hwnnw bod yna gymaint o rwystredigaeth yn ei sgil hi. Ond yn fwy nag erioed, mae gennym ni sefyllfa lle mae arian yn brin i'r mwyafrif, a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru yn gorfod ffeindio ffyrdd o arbed arian dros y misoedd nesaf. Ond, wrth gwrs, i'r rhai sy'n byw mewn tlodi gwirioneddol, mae'r misoedd nesaf am fod yn anoddach fyth. Mae'n broblem, wrth gwrs, oedd yn bodoli ymhell cyn yr argyfwng costau byw, ond mae'n gymaint, gymaint gwaeth rŵan. 

Fel rydyn ni wedi ei glywed yn barod y prynhawn yma, yng Nghymru mae'r gyfran uchaf o dlodi ymysg ein plant a phobl ifanc drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r effaith mae tlodi plant yn ei gael ar eu hiechyd nhw, nid yn unig heddiw ond am weddill eu hoes mewn llawer o achosion, yn ddifrifol tu hwnt. Mae deiet gytbwys ac iach yn gallu bod yn ddrud, yn anffodus, fwy fyth felly mewn argyfwng costau byw. Erbyn hyn, mae dros un plentyn o bob pedwar dros eu pwysau wrth ddechrau yn yr ysgol gynradd, a bron i hanner y rheini yn ordew. Ac rydyn ni, wrth gwrs, yn llawn ymwybodol am y cyswllt rhwng plant sy'n byw mewn tlodi a gordewdra. Does dim byd yn newydd yn hyn, ond wrth edrych ar y ffigurau, sydd yn wirioneddol frawychus, ac yna astudio cynlluniau'r Llywodraeth, mae rhywun yn gweld bod yna ddim byd amlwg mewn lle yna sy'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Does yna ddim ffocws digonol ar leihau y niferoedd. Yna, mae'n rhaid rhoi llawer, llawer mwy o sylw ar yr ataliol—pregeth rydych chi'n ei chlywed gen i yn ddigon aml yma. 

Sgileffaith gordewdra ymysg ein plant a phobl ifanc ydy rhagor o broblemau iechyd wrth iddyn nhw dyfu i fyny, mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni. Mae plant sy'n byw mewn tlodi ddwywaith mwy tebygol o ddioddef o ordewdra na phlentyn sydd yn byw y tu allan i dlodi. Rŵan, mae'r camau cyntaf wedi cael eu cymryd i daclo hyn, buaswn i'n licio meddwl, drwy'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru i sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd o fwyd iach yn yr ysgol, ond mae'n rhaid gweld llawer mwy. Mae'n rhaid gweld strategaeth bellach gan y Llywodraeth a chynllun yn ei le i sicrhau bod bwyd iach a mynediad at ymarfer corff, drwy sicrhau bod yr adnoddau iawn ar gael, ac ati, ar gael i bob plentyn, a hynny tu fewn a thu allan i waliau'r ysgol. Mi fyddai hynny'n gam gwirioneddol tuag at daclo problemau iechyd yn gyffredinol.

Mae gordewdra yn cael effaith gwirioneddol negyddol yn gorfforol ar blant yn yr hirdymor—diabetes math 2, problemau calon a strôc ac ati—ond mae o hefyd yn cael effaith ar ddelwedd, yn cael effaith ar hunanhyder ac iechyd meddwl unigolion yn gyffredinol. Ac wrth gwrs, mae problemau iechyd meddwl yn gallu dechrau am sawl rheswm. Mae'r niferoedd sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn cynyddu. Rydyn ni'n gwybod hynny. Ac mae'r cynnydd yna wedi bod yn fwy amlwg byth ar ôl y pandemig. Mae rhyw 12 y cant o blant blwyddyn 7 yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a'r nifer yna'n cynyddu i 22 y cant erbyn blwyddyn 11. Ac fel mae tystiolaeth yn dangos, y plant sydd o deuluoedd llai cefnog eto sy'n dioddef fwyaf. Dyma ichi blant sydd ddwywaith mwy tebygol o gael eu bwlio yn yr ysgol, plant sy'n llai tebygol o allu gwneud ffrindiau neu gadw cylch o ffrindiau agos yn yr ysgol, plant sy'n gweld eu rhieni nhw yn dioddef eu hunain yn sgil y penderfyniadau anodd y maen nhw'n gorfod eu gwneud bob dydd am fod arian yn brin arnyn nhw. Wrth gwrs bod hynny'n mynd i gael effaith ar iechyd meddwl y plentyn. Efo mwy a mwy o blant yn byw mewn tlodi, does yna ddim syndod, nac oes, bod y ffigurau iechyd meddwl yn dal i gynyddu yma yng Nghymru.

I gloi, tra bod ein sefyllfa economaidd ni yn dal i waethygu, y flaenoriaeth, wrth gwrs, rŵan, ydy sicrhau bod y tlotaf yn ein cymunedau ni yn gynnes y gaeaf yma, yn cael bwyd, yn cadw’n iach, ond mae'n rhaid inni, tra'n delio efo'r sefyllfa acíwt honno, gyflymu’r gwaith, i’w wneud o'n llawer, llawer mwy o flaenoriaeth i gymryd y camau ataliol angenrheidiol fel ein bod ni'n codi y mwyaf anghenus allan o dlodi. Rydyn ni angen strategaeth tlodi plant gyda thargedau clir, targedau uchelgeisiol, ac mae arnom ni hynny i'n plant ni ym mhob cwr o Gymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 14 Rhagfyr 2022

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr, Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar y pwnc hynod bwysig hwn, yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw, a fydd, rydym i gyd yn ofni, yn gwthio cyfraddau tlodi plant yma ac ar draws y DU hyd yn oed yn uwch.

Lywydd, mae gan Gymru strategaeth tlodi plant; mae un wedi bod gennym ers 2011, a Chymru hefyd oedd gwlad gyntaf y DU i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â thlodi plant, a gosodai ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth tlodi plant yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael ag ef, ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaethom ar gyflawni'r amcanion hynny. Ddoe, cyflwynais ein hadroddiad cynnydd ar dlodi plant ar gyfer 2022 gerbron y Senedd hon, a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig. Ac rwyf wedi rhoi ymrwymiad, fel y bydd yr Aelodau'n gweld yn fy natganiad, i adnewyddu ein strategaeth tlodi plant fel ei bod yn adlewyrchu'r amgylchiadau heriol presennol ac yn nodi ymrwymiad o'r newydd i gefnogi'r rhai sydd fwyaf o angen cymorth.

Rydym eisoes yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid. Yn wir, yn ein his-bwyllgor Cabinet ar gostau byw, sy'n cyfarfod yn wythnosol, rydym yn ymgysylltu â'r cynghorwyr polisi hynny, a phobl sydd â phrofiad bywyd, gan gynnwys, er enghraifft, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant—fe wnaethoch chi sôn am eu tystiolaeth heddiw. Ond hefyd, lleisiau plant a phobl ifanc ac fe gymerodd y comisiynydd plant ran, ac fe gawsom y profiad bywyd hwnnw o effaith yr argyfwng costau byw. Ond mae ymgynghoriad ar y strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd yn cael ei ddatblygu nawr, a chawn ein llywio, wrth fwrw ymlaen â'r strategaeth, gan yr ymchwil rydym wedi'i chomisiynu gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar yr hyn sy'n gweithio wrth fynd i'r afael â thlodi a chan edrych ar gymariaethau rhyngwladol, edrych ar ffyrdd y gallwn ddysgu o'r dystiolaeth i symud hyn ymlaen, ond gan ystyried canfyddiadau'r adroddiad diweddar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd, sy'n edrych ar beth arall y gallem ei wneud os ydym am oresgyn yr her fawr sy'n ein hwynebu.

Mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn wahanol i unrhyw beth y bu'n rhaid inni ei wynebu ers datganoli, a daeth nifer o'n rhaglenni i stop yn ystod y pandemig tra bod eraill wedi'u huwchraddio er mwyn mynd i'r afael ag anghenion brys pobl ledled Cymru. Yn wir, fe wnaethom addasu at ddibenion gwahanol; cawsom ymatebion newydd drwy gydol y pandemig ar bob maes polisi ar draws Llywodraeth Cymru. Ac mewn gwirionedd, mae'r adroddiad cynnydd, fel y byddwch yn ei ddarllen, yn cyfleu'r modd y gwnaethom ailffocysu'r cyllid ac addasu ein gweithgarwch i ddiwallu anghenion pobl yn ystod y pandemig.

Ond mae hwn yn ddull rydym wedi ei barhau wrth inni ymateb i'r argyfwng costau byw sy'n cael effaith anghymesur ar deuluoedd sydd eisoes yn fregus yn ariannol. Fel y clywsom ddoe gan y Gweinidog Cyllid yn y datganiad ar y gyllideb ddrafft—'cyllideb ar gyfer adeg anodd mewn adeg anodd'—sy'n heriol, rydym yn parhau i addasu ein dull o sicrhau y gallwn barhau i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol. Ac roedd yn hanfodol fod y gyllideb ddrafft honno'n cynnwys £18.8 miliwn ychwanegol i barhau'r cymorth i'r gronfa cymorth dewisol, ac roedd yn cynnwys cyllid i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol a chymorth ychwanegol i'n peilot incwm sylfaenol.

Ond bydd y gyllideb ddrafft hefyd yn sicrhau y gallwn gynnal yr holl raglenni eraill hynny yng Nghymru sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, o bresgripsiynau am ddim i brydau am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd—o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru wrth gwrs—cymorth tuag at y gost o anfon plant i'r ysgol, ac ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' i sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr holl fudd-daliadau y maent yn gymwys i'w cael. Mae'n bwysig fy mod yn ymateb i'r pwynt a wnaethoch am dargedau statudol. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod targedau mewn perthynas â rhaglenni unigol sy'n cynorthwyo teuluoedd i ffynnu, ac rydym hefyd yn defnyddio cyfres o ddangosyddion tlodi plant i fesur ein cynnydd ar gyflawni ein hamcanion tlodi plant, a gall yr Aelodau weld y cynnydd a wnaethom yn ein hadroddiad cynnydd ar dlodi plant. Wrth gwrs, cyhoeddwyd hwnnw ddoe. Ac rydym yn cydnabod bod galwadau wedi'u gwneud am dargedau yn y cynllun cyflawni ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, ac rydym wedi ymrwymo i gael hyn yn rhan o'r gwaith datblygu wrth inni ymgynghori a symud ymlaen.

Ond mae ein hymdrechion gorau yn parhau i gael eu llesteirio gan benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, a'i pholisïau ehangach ar gymorth lles a chyllido annheg. Mae'r pandemig wedi dyfnhau anfantais i aelwydydd bregus, a nawr mae'r argyfwng costau byw'n cael effaith ddinistriol ar aelwydydd sydd eisoes wedi eu gwanhau'n ariannol. Mae teuluoedd sydd â phlant ifanc yn wynebu risg arbennig, fel y mae Carolyn Thomas wedi nodi, ac oedd, Mark Isherwood, roedd cyni'n ddewis ac mae'n parhau i fod yn ddewis y mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU yn ei wneud.

Mark Isherwood a gododd—

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:51, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn parhau i gefnogi aelwydydd. Beth ydych chi'n ei wneud, Mark Isherwood?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Onid ydych chi'n poeni bod y dull hwnnw o weithredu'n gwneud i chi swnio'n debycach i Liz Truss nag i Alistair Darling?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Tybed, Mark Isherwood, a wnewch chi ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r cap gwarthus ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn ar fudd-dal plant. Dyna mewn gwirionedd sy'n gyrru plant i fyw mewn tlodi, Mark Isherwood. Gwnawn, fe wnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi aelwydydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng, ond mae'r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, pwerau dros y system dreth a lles, yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae camreolaeth Llywodraeth y DU ar yr economi dros y 12 mlynedd diwethaf—12 mlynedd—wedi'i ddwysáu gan gyllideb fach drychinebus Liz Truss ym mis Medi, wedi gweld Llywodraeth y DU unwaith eto yn llithro i ddirwasgiad, a ble rydym ni? Mae degawd o gyni wedi gwneud y DU yn un o'r cymdeithasau mwyaf anghyfartal yn y byd datblygedig, ac rydym yn mynd i mewn i ddirwasgiad mewn sefyllfa wannach nag unrhyw un o economïau eraill y G7. Gallwn barhau—mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Banc Lloegr, i gyd yn cydnabod trychineb polisïau'r Torïaid. Lefelau uwch nag erioed o chwyddiant—a gadewch inni wynebu'r ffaith bod chwyddiant yn taro'r bobl dlotaf yn llawer caletach na'r bobl fwyaf cyfoethog, lawer iawn yn galetach yn achos prisiau bwyd a thanwydd.

Felly, fe wnaf orffen fy nghyfraniad, Lywydd, drwy ddweud: a gawn ni i gyd ymuno gyda'n gilydd i gydnabod yr hyn rwyf wedi'i ddweud ynghylch symud ymlaen gyda'r strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd? A gawn ni ymuno gyda'n gilydd yn y Siambr hon heddiw a gwneud tair galwad ar Lywodraeth y DU, ychydig o gamau ymarferol a fyddai'n cael effaith uniongyrchol ac effaith gadarnhaol ar y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, sef ein plant a'n pobl ifanc? Yn gyntaf oll, a wnewch chi ymuno â mi i alw ar gwmnïau ynni i amsugno cost taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid sy'n rhagdalu? Maent yn wynebu risg arbennig o gael eu datgysylltu ar hyn o bryd, wrth inni siarad, yn ein gwlad ni. A wnewch chi alw hefyd ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r taliad disgresiwn at gostau tai a lwfansau tai lleol? Bydd hynny'n helpu i ddiogelu pobl fregus sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac yn helpu'r Llywodraeth i arbed arian mewn gwirionedd. A hefyd, a wnewch chi gydnabod mai'r artaith o orfod aros am bum wythnos am daliadau credyd cynhwysol yw achos sylfaenol caledi ariannol a gofid difrifol i lawer o bobl? Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r oedi niweidiol a diangen hwnnw.

Felly, yn olaf, yn fwy hirdymor, mae maint yr ymgymeriad i atal a chodi pobl allan o dlodi yng Nghymru yn aruthrol. Mae'n rhaid i ni wneud ein rhan. Mae'n rhaid i ni chwarae ein rhan—rydym yn cydnabod hynny fel Llywodraeth Cymru—i gefnogi pobl, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n difetha bywydau pobl, i greu dyfodol cadarnhaol i bawb. Ond mae'n rhaid i ni weld gweithredu pendant gan Lywodraeth y DU i wneud yr un peth i atal cenhedlaeth arall o blant rhag llithro o dan y ffin dlodi diolch i 12 mlynedd o gyni a thrychinebau'r Llywodraeth hon yn y DU o ran y dirwasgiad.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau allweddol, nid yr holl ysgogiadau, ond yr ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, y pwerau dros systemau treth a lles. Dywedodd fod y cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn parhau i gael ei lesteirio gan benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, sy'n dylanwadu ar lefelau tlodi yng Nghymru ac sy'n cael eu teimlo'n fwyaf difrifol gan y rhai sydd eisoes dan anfantais. Rwy'n cytuno'n llwyr—enghraifft arall o sut nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru a'r ffordd y mae'n gwneud cam â phlant Cymru. 

Siaradodd Mark Isherwood lawer am y mater hwn. Nid wyf yn adnabod ei fersiwn ef o hanes economaidd diweddar mewn gwirionedd, ond roeddwn yn cytuno â'i bwynt fod hanes hir i'r mater hwn yma yng Nghymru, ac roeddwn yn cytuno gyda'i gefnogaeth i alwadau am system fudd-daliadau Gymreig. Oherwydd mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod ganddynt bwerau i godi trethi. Maent yn gweinyddu ystod o gynlluniau amddiffyniad cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn cael sylw yn yr adroddiad cynnydd, sy'n caniatáu trosglwyddo arian i ddinasyddion Cymru, gan gynnwys, fel y nododd Luke Fletcher, y lwfans cynhaliaeth addysg, y grant amddifadedd disgyblion. Dyna pam ein bod ni ar y meinciau hyn, ac ymgyrchwyr gwrthdlodi, eisiau gweld system fudd-daliadau Gymreig gydlynol a symlach. 

Siaradodd Rhun am y cysylltiad ofnadwy a gofidus rhwng tlodi a materion iechyd, ac mae'r rhain yn broblemau iechyd a fydd yn digwydd nawr ac am weddill bywydau pobl ifanc a phlant. Soniodd am bwysigrwydd gwaith ataliol yn hyn o beth. Soniodd Heledd Fychan ynglŷn â sut mae tlodi'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn, a soniodd Cefin am y modd y mae'n broblem ym mhob rhan o Gymru, hyd yn oed rhannau annisgwyl o Gymru, llefydd fel sir Benfro, llefydd rydym yn eu hystyried yn hafanau—hafanau prydferth—gyda lefelau rhy uchel o ail gartrefi a rhenti eithriadol o uchel, fel y dywedodd, sy'n gwthio pobl i dlodi. Ac rwy'n credu bod rhaid cydnabod yr elfen dai ar dlodi plant yn briodol. 

Rwy'n cytuno bod camau da wedi'u gwneud, ac fe wnaeth llawer o'r Aelodau gyfeirio at bethau fel prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd. Hoffem weld y rheini'n cael eu hehangu, fel y nododd Luke yn gywir. Mae tlodi hefyd yn effeithio ar bobl ifanc. Drwy'r arolwg y cyfeiriodd Luke ato, mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi nodi bod pobl ifanc a rhai yn eu harddegau yn cael eu heffeithio mewn ffordd unigryw gan dlodi—mae eu costau trafnidiaeth, eu hanghenion offer yn uwch. Yr hyn sydd ei wir angen ar blant Cymru sy'n byw mewn tlodi yw gweledigaeth glir, llinellau atebolrwydd mesuradwy a chlir, fel nad ydym yn cyrraedd yr un lle ag y gwnaethom y tro diwethaf, ac mae angen hyn ar frys. 

Mae niwed tlodi eisoes wedi digwydd i ormod o'n plant ers cyhoeddi'r adroddiad cynnydd diwethaf, a bydd y niwed hwnnw'n aros gyda hwy, yn amharu ar gyfleoedd bywyd, yn effeithio, fel y clywsom, ar eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol, ac mae'r niwed hwnnw'n digwydd nawr. Felly, beth sydd yna i beidio â'i ennill drwy gefnogi ein cynnig? Dylai Llywodraeth Cymru roi ei balchder gwleidyddol o'r neilltu er mwyn ein plant.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:58, 14 Rhagfyr 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe fyddwn ni, felly, yn gohirio tan y bleidlais. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.