– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 18 Ionawr 2023.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ynni adnewyddadwy ar y môr. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8183 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y bydd defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni gwyrdd ac adnewyddadwy.
2. Yn nodi bod modd creu tua 10,000 o swyddi gwyrdd a buddion ehangach.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o sgiliau a chapasiti gweithgynhyrchu gwell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch iawn fel Ceidwadwr Cymreig i fod yn agor y ddadl hon ar ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae disgwyl i'r defnydd o drydan yng Nghymru gynyddu hyd at 300 y cant erbyn 2050, oherwydd cynnydd yn y galw yn y sectorau trafnidiaeth a gwres. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti i ateb y galw hwn. Mae'n hanfodol nad yw Cymru'n colli cyfleoedd ym maes ynni adnewyddadwy a'u buddion dilynol i'r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, a hwb i'n heconomi.
Mae'r achos dros fuddsoddi mewn ynni gwynt ar y môr yn glir: mae'r DU eisoes yn cael ei ystyried fel arweinydd byd ym maes ynni gwynt ar y môr. Yn 2020, roedd 35 fferm wynt ar y môr oddi ar arfordir Prydain, yn cynnwys bron i 2,200 o dyrbinau gwynt. Gan gyfrannu 13 y cant o anghenion trydan y DU, cynhyrchodd y ffermydd gwynt ar y môr hyn 40.7 TWh. Mae ffermydd gwynt ar y môr hefyd yn cael eu hystyried yn fwy effeithlon na ffermydd gwynt ar y tir. Mae hyn yn bennaf oherwydd cyflymder gwynt uwch dros y môr a'r ffaith nad oes rhwystrau ffisegol naturiol neu adeileddau. Yn sgil hyn, mae'r moroedd yn cynnig mwy o le ar gyfer lleoli ffermydd gwynt ar y môr, ac maent hefyd yn bellach oddi wrth boblogaethau lleol. Gall ynni adnewyddadwy ar y môr gyfrannu llawer iawn i economi Cymru, a dywedir bod ynni gwynt arnofiol ar y môr wedi cyfrannu £2.2 miliwn at economi Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.
Rwy'n hynod falch fod hawliau wedi'u rhoi i brosiect Erebus, a allai greu prosiectau dilynol o tua 300 MW yn y môr Celtaidd. I ddechrau, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar brosiect arddangos 100 MW, y rhagwelir y bydd yn pweru dros 93,000 o gartrefi'r flwyddyn, a byddai hyn yn arbed 151,000 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn.
Wrth gwrs, rwyf hefyd yn falch bod y morlyn llanw arfaethedig oddi ar arfordir sir Ddinbych wedi cael sêl bendith y cyngor. Byddai'r prosiect hwn yn creu tua 22,000 o swyddi, gan gynnwys rhwng 6,000 a 7,000 yn y cyfnod adeiladu. Gallai'r morlyn llanw, a fyddai â'r capasiti i gynhyrchu 5—nid wyf byth yn gallu dweud hyn—TWh mewn blwyddyn, a allai bweru hyd at 1 filiwn o gartrefi. Mae morlynnoedd llanw a morgloddiau hefyd yn gallu cynorthwyo gydag atal llifogydd ar gyfer cymunedau arfordirol, felly mae hynny'n golygu y bydd buddsoddiadau a wnawn nawr yn cynhyrchu arbedion hirdymor.
Yn ogystal, mae gan ynni adnewyddadwy ar y môr botensial i gynhyrchu miloedd o swyddi gwyrdd yng Nghymru. Dywedir yn aml na ddylem orfod dewis rhwng cefnogi'r economi a diogelu'r amgylchedd. Dyma'r cyfle perffaith nawr i wneud y ddau.
Mae cynllun morol cenedlaethol Cymru'n dweud y byddai Llywodraeth Cymru'n cefnogi defnyddio technolegau ynni gwynt ar y môr ymhellach at ddibenion masnachol. Ond mae arnaf ofn, Weinidog, fod rhaid gwneud mwy na siarad: yn 2020 gwelsom y gyfradd defnydd flynyddol isaf o gapasiti ynni adnewyddadwy newydd ers 2010, gyda dim ond 65 MW yn cael ei gomisiynu. Mae hyn yn anghymesur o isel o'i gymharu â'r uchafbwynt a welwyd yn 2015, pan gomisiynwyd 1,019 MW. Ynni gwynt ar y môr sydd â'r nifer isaf ond un o brosiectau yng Nghymru, gyda dim ond tri. Mewn cymhariaeth, ceir 751 o brosiectau ynni gwynt ar y tir. Er hynny, mae gan ynni gwynt ar y môr gapasiti i gynhyrchu 726 MW o drydan, y tu ôl i ynni gwynt ar y tir a systemau solar ffotofoltäig yn unig. Felly, mae hyn yn arbennig o annisgwyl gan fod Llywodraeth Cymru wedi canmol ei hun yn ddiweddar am fod yn un o'r rhai cyntaf i fabwysiadu ynni gwynt ar y môr.
Fel Gweinidog cabinet yr wrthblaid dros newid hinsawdd, mae'n bwysig iawn sicrhau bod y prosiectau hyn hefyd yn diogelu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth leol. Gall ynni gwynt ar y môr ddylanwadu'n gadarnhaol ar fioamrywiaeth ym moroedd y byd. Felly, i sicrhau hyn, dylem ddatblygu strategaeth ar gyfer gwrthdroi'r lleihad yn nifer adar y môr a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn o fy awydd i sicrhau bod gennym gynllun gofodol morol strategol er mwyn sicrhau bod yna rai ardaloedd lle gall cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy fynd iddynt a bod ardaloedd eraill yn cael eu neilltuo ar gyfer bioamrywiaeth a phrosiectau cadwraeth.
Mae angen inni gael cynllun sy'n sicrhau bod ffermydd gwynt ar y môr hefyd yn gweithredu fel riffau artiffisial, gan ddenu mwy o fywyd morol na riffau naturiol, drwy weithredu fel dyfeisiau cronni pysgod. Mae pysgotwyr lleol—. Yn wir, mae un o'n prif bysgotwyr yng Nghonwy yn ysu i gael cysylltiad â chwmnïau sy'n darparu ynni gwynt ar y môr ger fy etholaeth, ond mae ceisio rhoi'r sgyrsiau hynny ar y gweill, oherwydd mae'n bosibl lapio rhaffau cregyn gleision o amgylch gwaelodion tyrbinau gwynt, fel y gallwch gael—gallwch gael eich cadwraeth forol a'ch bioamrywiaeth, ond ar yr un pryd, gallwch gael ynni adnewyddadwy ochr yn ochr â hynny, a gallwch ddatblygu strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o ardaloedd ffermydd gwynt.
Felly sut mae sicrhau bod y prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth a bod mwy o rai tebyg iddynt yn cael eu cymeradwyo mewn modd amserol? Mae angen, mae ein darparwyr ynni adnewyddadwy angen, fframwaith clir ac ymatebol gan Lywodraeth Cymru. Fis Mai diwethaf, derbyniodd y Senedd ein cynnig deddfwriaethol ar gyfer cynllunio morol yng Nghymru yn unfrydol. Byddai hwn yn creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol a sefydlu ardaloedd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol. Fel Ceidwadwyr Cymreig, byddem yn buddsoddi £150 miliwn mewn cronfa fuddsoddi ynni morol yng Nghymru. Byddem hefyd yn ariannu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ynni'r llanw yng Nghymru er mwyn cyflymu'r broses o gyflawni prosiectau ynni'r llanw o amgylch Cymru a darparu data ffynhonnell agored i ddatblygwyr.
Mae'r targedau ynni adnewyddadwy a osodwyd yn 2017 yn cynnwys cynhyrchu 70 y cant o'r trydan a ddefnyddir o ynni adnewyddadwy erbyn 2030, a sicrhau bod 1 GW o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr, bydd y targedau hyn bron yn amhosibl i'w cyrraedd. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, roeddech yn dweud eich bod newydd ddychwelyd o COP15, ac fe sonioch chi am rai o'r syniadau gwych a glywsoch tra oeddech chi allan yno. Fe wnaethom ni i gyd gytuno, yn drawsbleidiol, efallai y gallech ddod yn ôl i'r Siambr rywbryd a siarad am y syniadau a glywsoch yno. Felly, heb ragor o lol, fe wnaf ddirwyn i ben. Rwy'n gwybod bod gennym gyfraniadau diddorol iawn gan fy ngrŵp i, ond hefyd, gobeithio, gan Aelodau eraill yn y Siambr. Diolch.
Dwi wir yn croesawu’r ddadl hon. Mae’r Deyrnas Gyfunol, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn un o arweinwyr y byd o ran potensial yn ein hynni adnewyddadwy ar y môr. Dwi’n meddwl y bydd y gair ‘potensial’ yn caei ei grybwyll nifer o weithiau yn y ddadl. Mae gan Gymru y potensial i fod yn gawr yn y sector yma. Fel mae pethau’n sefyll, mae potensial y sector ond yn cael ei sylweddoli mewn llond llaw o wledydd. Yn 2021, gosodwyd dros 99.5 y cant o’r capasiti gwynt y môr newydd mewn dim ond pump o wledydd, sef Tsieina, Denmarc, Fietnam, y Netherlands a’r Deyrnas Gyfunol.
Mae angen inni gofio, Dirprwy Lywydd, bod y gwledydd sy’n dechrau’n gynnar yn y sector yma, sy’n buddsoddi’n gynnar, yn cael mantais wrth sefydlu cadwyni cyflenwad ac arbenigedd mewn diwydiant fydd, heb os, yn ehangu, yn datblygu. Mae’r Global Wind Energy Council yn rhagweld y bydd cynnydd 57 gwaith mewn capasiti rhyngwladol erbyn y flwyddyn 2050. Mae arbenigwyr yn disgwyl cynnydd yn America, yn Ne Corea a Taiwan, a thrwy datblygu arbenigedd yma yng Nghymru, gallem ni fod yn rhan o’r stori yna. Mae’r potensial yn stratosfferig mewn rhai ffyrdd. Yn y Môr Celtaidd yn unig, mae asesiadau o gapasiti ychwanegol yn sefyll ar tua 20 GW.
Mae angen i bethau newid, Dirprwy Lywydd, cyn ein bod ni’n gallu bachu ar y cyfleoedd amryw sydd yna. Dydy’r isadeiledd angenrheidiol yng Nghymru ddim gennym ni. Mae angen datblygu ein porthladdoedd, er mwyn caniatáu digonedd o wagle, o gapasiti, a dyfnder ar gyfer platfformau FLOW. Mae angen i Lywodraethau Cymru a San Steffan helpu datblygwyr y porthladdoedd ac awdurdodau perthnasol, i roi hyder iddyn nhw, ac i fuddsoddi.
Mae stad cysylltedd grid a storio yng Nghymru hefyd yn broblem—mae’n annigonol. Mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu ein grid. Mae angen eto buddsoddi yma, yn sicr, gan gynnwys mewn hydrogen gwyrdd, a cables mwy effeithiol. Ac wrth gwrs, bydd yr ehangiad yna’n golygu dim i Gymru oni bai ein bod ni’n gallu elwa ohono fe. Mae angen inni gael pwerau Ystad y Goron er mwyn gwireddu’r potensial hwn. Buaswn i’n ailadrodd safbwynt fy mhlaid bod angen i hynny gael ei ddatganoli. Datganolwyd Ystad y Goron i’r Alban yn 2017, ond mae'r Trysorlys yn San Steffan yn dal i ddal y pwerau Cymreig. Wel, nhw yw’r rhai sydd yn dal i elwa ohonynt, ac, wrth gwrs, y teulu brenhinol.
Yn olaf, bydd angen datblygu sgiliau gwyrdd. Rwy’n gwybod bod gwaith pwysig yn mynd yn ei flaen yn y maes hwn; mae Climate Cymru yn cynnal digwyddiad bord gron o’r enw ‘Swyddi Gwyrdd Da i Bawb’ ar 16 Chwefror, gyda cynrychiolwyr o TUC Cymru, Tata Steel, Airbus a Banc Datblygu Cymru, ac amryw eraill. Mae angen meddwl yn agored ac yn uchelgeisiol am hyn i wneud yn siŵr fod y gweithlu yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd cyffrous yma. Mae angen i Gymru fod ar flaen y gad gyda hyn. Rydym ni wedi clywed yn barod gan Janet Finch-Saunders bod angen i ni wneud yn siwr ein bod ni'n edrych ar yr argyfyngau hinsawdd a natur yng nghyd-destun sut rydym ni'n siarad am hyn. Mae’n rhaid inni sicrhau bod datblygiadau ynni ddim yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth, wrth gwrs, ac mae angen bod yn rhesymol ac yn sensitif am sut mae'r datblygiadau yma yn digwydd.
Ond, Dirprwy Lywydd, i gloi, mae pobl yn sôn am goldrush gwyrdd sy’n digwydd oddi ar lannau Cymru, ond tan i ni gael y buddsoddiad a'r pwerau angenrheidiol, bydd Cymru’n parhau i fod yn wyliwr yn unig. Mae’n rhaid i adnoddau Cymru helpu pobl Cymru. Mae angen newid pellgyrhaeddol i alluogi hynny i ddigwydd.
Mae’n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Fel yr Aelod dros Breseli Sir Benfro, mae wedi bod yn fraint cymryd rhan flaenllaw yn y trafodaethau ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr, ac rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r prosiectau hyn i ddiwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â'r manteision economaidd enfawr y gall y datblygiadau hyn eu darparu. Byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar ynni gwynt arnofiol ar y môr, ond gwn fod cyfleoedd sylweddol ar gael i Gymru gydag ynni’r llanw a ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu her enfawr wrth gyflawni ei tharged sero net a diogelu ffynonellau ynni, sy’n golygu bod yn rhaid i ddatblygu ynni glân yng Nghymru fod yn flaenoriaeth ar unwaith. Mae gan dechnoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr, er enghraifft, y gallu i ddarparu ynni glân yn ogystal ag ysgogi datblygiad rhanbarthol a chreu cyfleoedd mewn perthynas â'r gadwyn gyflenwi. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei huchelgais i ddarparu hyd at 50 GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030, gan gynnwys hyd at 5 GW o ynni gwynt arnofiol, gan gynyddu ymhellach drwy gydol y 2030au a thu hwnt. Fel y gŵyr yr Aelodau, gan y DU y mae'r fferm ynni gwynt arnofiol fwyaf yn y byd eisoes, yn Kincardine ym môr y gogledd, ac mae hon yn enghraifft wych o fanteision cadarnhaol technoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr i’r DU. Wrth gwrs, nawr yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol fod Llywodraethau ledled y DU ac ar bob lefel yn cydweithio fel y gall Cymru elwa ar y dechnoleg hon.
Er mwyn i Gymru allu gwireddu manteision technoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr yn llawn, fel y dywedodd Delyth Jewell, mae’n hollbwysig sicrhau buddsoddiad sylweddol yn ein porthladdoedd, ac mae FLOWMIS, y cynllun buddsoddi mewn gweithgynhyrchu ynni gwynt arnofiol ar y môr, a fydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth y DU y flwyddyn nesaf, yn gam pwysig ymlaen. Mae manylion ynglŷn â'r cyllid hwn yn dal i gael eu datblygu, ac rwy’n mawr obeithio gweld porthladdoedd yn y môr Celtaidd yn cael cymorth i uwchraddio eu seilwaith a’u capasiti gweithgynhyrchu. Hefyd, mae angen inni weld cymorth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi yn seilwaith porthladdoedd Cymru, a chadarnhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu porthladdoedd drwy ddyrannu cyllid i uwchraddio eu seilwaith presennol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
I mi, ni fyddwch yn synnu clywed, mae sicrhau mai Caergybi yw’r porthladd allweddol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ynni gwynt ar y môr ym Môr Iwerddon yn bwysig iawn. Gallai'r cais porthladd rhydd a ddatblygwyd gan Ynys Môn a Stena ar gyfer gogledd Cymru fod yn allweddol yn hynny o beth. Rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn falch fod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau chwarae teg o ran cyllid ar gyfer porthladdoedd rhydd yng Nghymru, ond a yw hefyd yn cytuno mai’r ffordd orau o sicrhau synergedd fyddai cael dau borthladd rhydd—yn y gogledd-orllewin a'r de-orllewin—dau gais llwyddiannus i hybu'r math o newid y mae'n dymuno ei weld?
Ni fyddech yn synnu fy nghlywed innau'n dweud fy mod yn cytuno â chi ar y sail honno, gan yr hoffwn weld porthladd rhydd Celtaidd, ac wrth gwrs, rwy'n cefnogi eich ymdrechion chi ac ymdrechion eich AS, Virginia Crosbie, i sicrhau bod porthladd rhydd yng Nghaergybi hefyd.
Un o'r ysgogiadau pwysig er mwyn dod â datblygiadau ynni gwynt arnofiol ar y môr i Gymru, wrth gwrs, yw porthladdoedd rhydd, fel rwyf newydd fod yn ei drafod. Yn ddiweddar, dywedodd Henrik Pedersen, prif swyddog gweithredol Associated British Ports, sy’n berchen ar nifer o borthladdoedd eraill yng Nghymru a ledled y DU, wrth y Pwyllgor Materion Cymreig naill ai ein bod yn dod â’r datblygiadau hyn i Gymru, neu byddant yn mynd i Sbaen, Ffrainc neu rywle arall, ac mae mor syml â hynny. Os na chymerwn y datblygiadau hyn, a'u meithrin, bydd gwledydd eraill yn gwneud hynny. Wrth gwrs, byddwn ar fai yn peidio â sôn unwaith eto am gais y porthladd rhydd Celtaidd, gan y byddai’r cais yn helpu i sicrhau buddion economaidd yn fy etholaeth i, ac ar hyd arfordir de Cymru. Rwy'n derbyn bod cynigion porthladdoedd rhydd eraill wedi’u cyflwyno hefyd, fel y nodwyd. Serch hynny, pe bai’n llwyddiannus, byddai’r porthladd rhydd Celtaidd yn naturiol yn cefnogi'r gwaith o adfywio cymunedau yng ngorllewin Cymru drwy ddenu busnesau, swyddi a buddsoddiad newydd, a fyddai yn ei dro yn rhoi hwb i economi Cymru. O ystyried yr effaith drawsnewidiol y byddai’n ei chael yn y de-orllewin, rwy’n mawr obeithio y cawn glywed newyddion cadarnhaol ynglŷn â hyn yn y dyfodol agos iawn.
Mae’r Aelodau yma’n ymwybodol o fanteision cadarnhaol technoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr, ac wrth symud ymlaen, mae angen inni gynyddu capasiti’r grid a sicrhau bod cysylltiadau grid newydd ar gael hefyd. Gwyddom fod y prosesau cynllunio a chydsynio eisoes yn eithaf araf ac y gallant fod yn anodd, ac ni allwn ychwaith danamcangyfrif maint y dasg sy’n wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru a’r angen iddynt gael yr adnoddau priodol. Nododd tystiolaeth gan Copenhagen Infrastructure Partners i’r Pwyllgor Materion Cymreig y drafodaeth barhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys materion sy'n ymwneud ag adnoddau, yn enwedig ar gyfer eu rhaglen ynni adnewyddadwy ar y môr. Dywedasant ei bod yn hollbwysig i gyrff cydsynio gael yr adnoddau priodol i allu bodloni’r gofynion a fydd yn gysylltiedig â chyflymu prosiectau ynni gwynt arnofiol ar y môr, ac maent yn llygad eu lle. Yn wir, yn y trafodaethau a gefais gyda datblygwyr yr wythnos hon, y brif neges oedd bod y prosesau cydsynio yng Nghymru yn llawer rhy hir ac y gallai hynny fod yn wirioneddol niweidiol i ddatblygiad prosiectau. Ac felly, er bod hwn yn gyfnod cyffrous i’r sector ynni gwynt arnofiol ar y môr, mae yna heriau sylweddol o hyd hefyd. Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy ar y môr, ac er fy mod wedi canolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr heddiw, gwyddom fod cyfleoedd hefyd gydag ynni'r llanw a ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.
Ac ar gyfer y cofnod, dylwn nodi bod fy etholaeth innau'n rhan o ardal y porthladd rhydd Celtaidd hefyd. Carolyn Thomas.
Diolch. Mae effaith newid hinsawdd yn gwbl amlwg, ac mae Cymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â heriau datgarboneiddio cynhyrchiant ynni, gyda pholisïau a chefnogaeth i ynni adnewyddadwy. Mae cynlluniau ar gyfer datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn sicrhau y bydd yr elw a wneir yng Nghymru yn arwain at fwy o fudd i drigolion, gydag elw’n cael ei ailfuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Nghymru a chreu swyddi ynni glân o ansawdd da yng Nghymru, mewn cyferbyniad llwyr â Llywodraeth y DU, a fydd yn parhau i ganolbwyntio ar echdynnu tanwydd ffosil gan fethu mynd i'r afael ag effaith costau ynni cynyddol ar gyllidebau aelwydydd. Dylai pleidiau gwleidyddol y DU fod yn dangos i'r byd sut i adeiladu system ynni sero net ddiogel, saff a gwydn, gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy cynhenid, yn hytrach na chamarwain ei phoblogaeth i gredu bod angen ynni niwclear i ddarparu'r cyflenwad sylfaen o ynni neu bydd y goleuadau'n diffodd.
Mae adnoddau ynni gwynt ar y môr y DU ynddynt eu hunain yn ddigon i ragori ar sero net a galw'r DU am ynni hyd y gellir ei ragweld, a gallem edrych ar hydrogen gwyrdd fel ateb o ran storio ynni. Mae buddsoddiad yn y ganolfan ragoriaeth peirianneg gwerth £12 miliwn ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r sector ynni adnewyddadwy. Bydd y ganolfan honno'n dod yn hyb ar gyfer darparu addysg a hyfforddiant o safon fyd-eang mewn peirianneg, gyda’r offer arbenigol diweddaraf, a bydd yn sefydliad newydd ar gyfer technoleg ynni adnewyddadwy, mewn partneriaeth â chwmni RWE Renewables. Un o brif nodweddion hyn fydd neuadd dri llawr o uchder ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy'n wych. Mae'n wych fod gennym y cyfleuster hwn i roi'r sgiliau perthnasol i bobl leol yng ngogledd Cymru ar gyfer gweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy yn y gogledd a thu hwnt.
Fel y nododd y Prif Weinidog ddoe, mae angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn y grid cenedlaethol, a ddylai gael ei ailwladoli. Nid yw'n addas i'r diben ar hyn o bryd, gyda gwerth biliynau o elw yn mynd i'r cyfranddalwyr bob blwyddyn. Dylid ailfuddsoddi’r arian hwnnw yn y grid i wella capasiti, er mwyn caniatáu i’r cannoedd o brosiectau adnewyddadwy sydd wedi’u gohirio ar hyn o bryd fynd yn eu blaenau. Ond beth sy'n digwydd pan nad yw'r gwyntoedd yn chwythu, a'r galw am ynni'n parhau i fod yn uchel? Roedd dau gyfnod yn 2021 pan gwympodd y cyflenwad o ynni gwynt am 10 diwrnod, gan orfodi’r grid cenedlaethol i brynu trydan o Wlad Belg, am y pris uchaf y mae Prydain erioed wedi’i dalu i gadw'r pŵer yn llifo. Dylai môr-lynnoedd llanw, megis morlyn llanw gogledd Cymru, a morlyn Abertawe, fod yn rhan o’r cymysgedd ynni i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Mae'r llanw'n gwbl ddibynadwy, fel y mae'r trydan y bydd yn ei gynhyrchu.
Gallai’r un prosiect hwn yng ngogledd Cymru gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer bron bob cartref yng Nghymru, yn sail i gyflenwadau ysbeidiol o ynni gwynt ac ynni'r haul, ac yn wahanol i orsaf ynni niwclear, nid oes llawer o dechnoleg na chost ynghlwm wrth fôr-lynnoedd llanw. Gyda buddsoddiad a chymorth, gallai morlyn llanw gogledd Cymru fod yn weithredol ymhen 10 mlynedd—flynyddoedd lawer cyn gorsaf niwclear—gydag oes weithredol o dros 120 mlynedd, heb unrhyw weddillion datgomisiynu heriol. Bydd yr amddiffyniad arfordirol a gynigir gan y morlyn yn diogelu miliynau o adeiladau a seilwaith, ac o fudd i genedlaethau i ddod, gan liniaru’r angen am waith amddiffyn arfordirol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, sydd eisoes wedi gorfod buddsoddi biliynau o bunnoedd i amddiffyn yr arfordir. Gallai roi hwb enfawr i economi'r gogledd a’i gallu i ymdopi â heriau newid hinsawdd, a chreu miloedd o swyddi.
Byddai’r buddsoddiad cychwynnol mewn morlyn llanw, ar yr olwg gyntaf, i'w weld yn uchel. Fodd bynnag, o gofio y byddai gan yr ased oes weithredol hir iawn—ddwywaith cymaint â gorsaf niwclear, a phedair gwaith cymaint â fferm wynt—mae unrhyw fuddsoddiad sydd ei angen yn sicr yn darparu gwerth ac enillion cyfalaf rhagorol o gymharu â phrosiectau ynni eraill. Hoffwn nodi, fodd bynnag, y gallai gwaith ehangu disgwyliedig i ffermydd gwynt ar y môr ac ynni’r llanw ledled y byd gael effeithiau amgylcheddol sylweddol, ac mae angen deall a monitro’r rheini’n ofalus. Bûm mewn digwyddiad gan yr RSPB lle dangoswyd adar y môr yn gorfod ymdopi â chroniad o dyrbinau gwynt, cychod, ac adeileddau eraill ar y môr, felly mae angen cynllun gofodol morol cydgysylltiedig arnom. Hyderaf fod Llywodraeth Cymru yn deall y risgiau hyn, ac y bydd o ddifrif ynglŷn â'r argyfwng natur sy’n ein hwynebu wrth benderfynu ar ddyfodol ein cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Janet, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon.
Yng nghanol argyfwng ynni a achoswyd gan ryfel anghyfreithlon Putin, a chyda rhybuddion enbyd mai 2023 fydd y flwyddyn boethaf a gofnodwyd erioed o ganlyniad i newid hinsawdd, mae’n briodol ein bod yn ceisio hybu chwyldro ynni gwyrdd yng Nghymru. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi tanlinellu'n glir yr angen i ddiogelu ffynonellau ynni, gan dynnu sylw at ba mor hawdd y gall unben ffiaidd ddal gwresogi a goleuo rhanbarth cyfan yn wystl. Ond mae hefyd wedi dangos i ni pa mor ddibynnol rydym ni fel gwlad ar danwydd ffosil—tanwydd ffosil sy’n dod yn bennaf o ranbarthau geowleidyddol ansefydlog, ac sy’n cyfrannu’n aruthrol at y newid yn yr hinsawdd.
Mae Cymru wedi teimlo effeithiau cynhesu byd-eang yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o lifogydd eang ac yna ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, eira yn ogystal â thymheredd o dan y rhewbwynt. Mae digwyddiadau tywydd eithafol anrhagweladwy bellach yn digwydd yn aml. Mae’n rhaid i ni ddatgarboneiddio ein sector ynni ar frys felly, nid yn unig er mwyn ein balansau banc, ond er mwyn dyfodol ein planed. Mae arnom angen chwyldro gwyrdd sydd wedi dysgu gwersi’r gorffennol. Mae fy rhanbarth i wedi dioddef yn sgil polisïau ynni trychinebus Llywodraeth flaenorol Cymru, yn enwedig nodyn cyngor technegol 5 a chreu ffermydd gwynt ar y tir ar raddfa ddiwydiannol. Ar ddiwrnod oeraf 2022, cynhyrchodd ynni gwynt ar y tir lai nag 1 y cant o’n gofynion ynni. Cynhyrchwyd mwy o ynni gan orsafoedd glo. Dyna'r broblem gydag ynni gwynt ar y tir: hyd nes y bydd gennym ffordd ddibynadwy o storio ynni, ni allwn ddibynnu ar y ffermydd gwynt enfawr hyn sydd wedi'u gwasgaru ar draws cymoedd Tawe ac Ogwr.
Ond mae dewis arall i'w gael: ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw. Gall Gorllewin De Cymru elwa o arloesi gyda'r technolegau adnewyddadwy hyn. Mae'n gyfnod cyffrous i'r rhanbarth. Nid yn unig fod gennym y disgwyliad ynghylch y porthladd rhydd Celtaidd, gyda Phort Talbot yn chwarae rhan fawr yn natblygiad y prosiect ynni gwynt arnofiol ar y môr Celtaidd, ond rydym hefyd yn debygol o weld prosiect Eden Las yn dwyn ffrwyth fel rhan o fargen ddinesig bae Abertawe. Mae Eden Las yn brosiect arloesol a argymhellir ar gyfer glannau Abertawe a fydd yn cynnwys morlyn llanw a gynlluniwyd o'r newydd, gyda thyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf sy'n cynhyrchu 320 MW o ynni adnewyddadwy o'r strwythur 9.5 km. Mae’r prosiect £1.7 biliwn yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl â chyllid preifat ac yn cael ei arwain gan gwmni o Ben-y-bont ar Ogwr, DST Innovations, sy’n credu y bydd y datblygiad yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi pellach ledled Cymru a’r DU. Nid morlyn llanw yn unig yw Eden Las. Bydd hefyd yn cynnwys aráe solar arnofiol a gwaith batris enfawr ar y tir a fydd nid yn unig yn cynhyrchu batris ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, ond hefyd yn storio'r ynni a gynhyrchir gan Eden Las i'w ddefnyddio'n ddiweddarach. Dyma'r technolegau y dylem fod yn eu cefnogi: ynni gwynt arnofiol ar y môr; môr-lynnoedd llanw; a thechnoleg storio batri ar lefel y grid. Fel hyn, gall fy etholwyr yng Ngorllewin De Cymru elwa ar swyddi ac ynni rhatach, lle nad oedd neb ond datblygwyr y ffermydd gwynt yn unig yn arfer ffynnu. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr.
Rwy’n ddiolchgar am allu siarad yn nadl bwysig iawn y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ynni adnewyddadwy ar y môr, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ac wrth gwrs, a agorwyd gan Janet Finch-Saunders. Ac ers dod yn Aelod o'r Senedd yma dros Ogledd Cymru, rwyf wedi bod yn eiriolwr enfawr o blaid y manteision gwych y mae ynni adnewyddadwy ar y môr yn eu darparu, ond hefyd yr adnoddau naturiol gwych, y cyfleusterau, y sgiliau a’r cyfleoedd unigryw sydd gennym yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddwn yn dadlau bod llawer o hyn i'w weld yn rhanbarth gogledd Cymru, gyda'r cyfleoedd gwych sydd i'w cael yno. Ac wrth gyfrannu at y ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater perthnasol sy'n wirioneddol bwysig yn fy marn i wrth asesu'r cyfle hwn am ynni adnewyddadwy ar y môr, ac fel rydym wedi'i glywed eisoes y prynhawn yma, wrth gwrs, ceir cefnogaeth yn y Senedd a chefnogaeth wleidyddol i weld mwy o dechnoleg wyrddach yn cael ei darparu ac i gefnogi ein heconomi hefyd.
Fel y mae pwynt 1 yn ein cynnig yn ei nodi, drwy ddefnyddio ein dyfroedd arfordirol, byddwn yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni gwyrdd, adnewyddadwy, ac fel yr amlinellwyd eisoes funud yn ôl gan Janet Finch-Saunders, erbyn 2050 rydym yn disgwyl gweld ymchwydd o 300 y cant yn y defnydd o drydan, felly mae angen gweld y chwyldro gwyrdd hwn yn digwydd ar unwaith. Boed yn brosiectau ynni gwynt, ynni'r tonnau neu ynni’r llanw, gallant oll chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau economi werdd ac ymbellhau oddi wrth ein dibyniaeth bresennol ar olew a nwy.
Wrth gwrs, gyda'r chwyldro gwyrdd hwn, nid y rhinweddau gwyrdd yn unig sy'n bwysig, ond manteision economaidd ynni adnewyddadwy ar y môr. Ac fel y mae pwynt 2 yn ein cynnig yn nodi heddiw, amcangyfrifir y gellid creu 10,000 o swyddi gwyrdd ychwanegol pe manteisir yn llawn ac yn briodol ar y cyfle hwn. Mae llawer o’r swyddi hyn yn swyddi sy'n talu’n dda, gyda gyrfaoedd hir, llwyddiannus, sy’n hanfodol, yn sicr o ran cefnogi ein pobl ifanc i aros yn rhai o’n cymunedau mwy gwledig, a chael y swyddi pwysig hynny. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, gall ynni adnewyddadwy ar y môr gyfrannu’n sylweddol at ein heconomi ehangach a’r cyfle hollbwysig a ddaw yn ei sgil i'r gadwyn gyflenwi, a byddai hynny’n gwneud cymaint o wahaniaeth mewn rhai o’n cadarnleoedd uwch-dechnoleg diwydiannol yng ngogledd Cymru, megis yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam hefyd.
Ond er mwyn manteisio i’r eithaf ar fanteision a chyfleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr a’u defnyddio’n llawn, mae angen inni weld rhagor o waith gan Lywodraeth Cymru. Fel y mae pwynt 3 yn ein cynnig yn ei nodi, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o sgiliau a chapasiti gweithgynhyrchu gwell ar yr un pryd. Felly, yn ogystal â hyn, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gweld amgylchedd mwy cyfeillgar ar gyfer buddsoddi, ynghyd â Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agosach gyda sefydliadau a thechnoleg fel TPGen24 a chynigion ynni'r llanw eraill, i sicrhau ein bod yn gweld y manteision mwyaf posibl o ran cyfleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr a buddsoddiad ynddynt yng Nghymru.
Hoffwn glywed gan y Gweinidog heddiw yn yr ymateb sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy i raddau mwy nag y mae’n ei wneud heddiw, ynghyd â’r cynlluniau ar gyfer sicrhau'r cyflenwad sylfaen o ynni, gyda chymorth ynni adnewyddadwy ar y môr, wrth gwrs. Weinidog, byddwn yn falch o glywed yr wybodaeth ddiweddaraf am her y morlyn llanw hefyd, gan fy mod eisoes wedi gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hyn, a phryd y bydd y cam nesaf yn cael ei gyhoeddi.
Felly, i gloi, mae'n amlwg, o'm rhan i, fod gan ynni adnewyddadwy ar y môr, yn fwy nag erioed, gyfleoedd gwych i ddarparu amgylchedd gwyrddach, i ddarparu swyddi llwyddiannus sy'n talu'n dda. A chyda’n cyfleoedd, ein sgiliau a’n cyfleusterau unigryw yma yng Nghymru, mae’n faes gwych y gall pob un ohonom ei gefnogi i sicrhau manteision hirdymor. Mae'n rhaid inni sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau bod y prosiectau ynni adnewyddadwy hyn yn cael eu hannog a’u cefnogi, a bod unrhyw arafu o ran datblygu, defnyddio a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn cael ei wrthdroi cyn gynted â phosibl.
Edrychaf ymlaen at weddill y ddadl, Ddirprwy Lywydd, a galwaf ar yr Aelodau o bob rhan o’r Siambr i gefnogi’r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r cynnig hwn heddiw. Rwy'n croesawu'n llwyr y consensws cyffredinol fod ynni'r môr yn un o bileri’r economi yng Nghymru, ac y bydd yn dod yn bwysicach fyth dros y degawdau nesaf, a chytunaf yn llwyr â llawer o’r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau yn y ddadl hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig.
Mae ymrwymiad diwyro Llywodraeth Cymru i ynni'r môr wedi'i gydnabod gan y sector. Dywed cwmnïau rhyngwladol eu bod yn buddsoddi yng Nghymru am y rheswm hwn, yn ogystal â’r gallu iddynt gynnull timau o weithwyr Cymreig o safon fyd-eang. Mae gweithgynhyrchwyr Cymru yn ennill contractau rheolaidd ar gyfer adeiladu dyfeisiau ynni'r môr, ac yn awyddus i weld y Llywodraeth yn parhau i feithrin hyder a thwf yn y sector hwn.
Mae Llywodraeth Cymru, gyda chyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, wedi buddsoddi mwy na £100 miliwn mewn mwy na dwsin o brosiectau ynni'r môr ar draws gogledd, de a gorllewin Cymru. Mae ein buddsoddiad o £31 miliwn mewn technolegau ynni'r llanw sydd i'w ddefnyddio ym mharth arddangos Morlais Menter Môn yn cynnwys cymorth i Magallanes, deiliaid angorfa cyntaf Morlais i sicrhau contract ar gyfer cymorth gwahanol. Daw'r cyfleoedd newydd hyn ochr yn ochr â'r 726 MW o gynhyrchiant ar draws tair fferm wynt ar y môr RWE, sydd eisoes yn darparu cannoedd o swyddi.
Rydym yn gweithio gyda chwmnïau fel y rhain, rhai newydd a sefydledig, yn ogystal â Llywodraethau eraill a chyda chyrff y sector, drwy bartneriaethau fel clwstwr y môr Celtaidd, i wireddu cyfleoedd economaidd yn y tymor byr ac yn y tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gefnogi twf pellach y sylfaen sgiliau yng Nghymru, a chryfhau ein seilwaith i gefnogi'r gwaith o ehangu gweithgynhyrchiant, fel y gelwir amdano yn y cynnig. Dim ond rhan o'n ffocws ar ynni'r môr yw ein polisïau diwydiannol, gan fod cynllunio ynni a diogelu'r amgylchedd hefyd yn rhannau pwysig o'n cyfrifoldebau sy'n hanfodol er mwyn cynnal llwyddiant parhaus sector ynni'r môr.
Felly, Ddirprwy Lywydd, ar ôl sefydlu'r consensws cryf ynghylch pwysigrwydd ynni'r môr, ac ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i barhau i gefnogi ei lwyddiant, hoffwn droi at y cyd-destun ehangach rydym yn gweithredu ynddo, ac yn enwedig rôl Llywodraeth y DU yn galluogi’r chwyldro gwyrdd y mae’r cynnig heddiw yn cyfeirio ato.
Y gwahaniaeth allweddol rhwng dull y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur o weithredu, wrth fynd ar drywydd y broses o feithrin diwydiannau’r dyfodol, yw ein bod ni'n credu y dylai Llywodraethau fabwysiadu rôl arweiniol weithredol. Credwn na chaiff ein huchelgeisiau eu gwireddu os bydd y Llywodraeth, yn hytrach, yn cysgu wrth y llyw, fel yr ymddengys bod eu cymheiriaid yn San Steffan yn ei wneud, a hynny'n llythrennol weithiau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Yn sicr.
Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Yn amlwg, eich bwriad nawr yw pardduo gweithredoedd Llywodraeth y DU. Pam, felly, fod y fferm wynt fwyaf, yr ail, y drydedd a’r bedwaredd fwyaf yn y byd yn y Deyrnas Unedig—yn y byd—os yw Llywodraeth y DU wedi bod yn araf i weithredu?
Oherwydd gallent fod wedi cael y chweched, seithfed, wythfed, nawfed a'r degfed pe baent wedi bod ychydig yn gyflymach yw'r ateb hawsaf i hynny. [Torri ar draws.] Nid yw eich cynnig heddiw yn sôn—dim sôn o gwbl—am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Nid yw’n sôn o gwbl am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Rwyf am ddweud hyn wrthych: rydych yn credu y dylem fod yn rhan o undeb yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym gyfrifoldebau y cytunwyd arnynt gan y ddwy ochr. Rydych am i ni gyflawni ein cyfrifoldebau ninnau; mae angen i chi ofyn i'ch meistri gwleidyddol yn San Steffan gyflawni eu rhai hwythau. Nid yw cynnig eich plaid yn sôn o gwbl am gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, fel pe bai'n gwbl ar wahân i'r datblygiadau yng Nghymru. Ac mae'n gwbl ddealladwy i mi eich bod yn gwneud hynny, gan fod gennych hanes o fethiant aruthrol yn y sector ynni, ac mae'n haws ei anghofio. [Torri ar draws.] Fe’ch atgoffaf o un. A ydych yn cofio adroddiad Charles Hendry? Fe eisteddoch chi ar y meinciau gyferbyn yma a'i gefnogi—
Weinidog, Weinidog. Hoffwn glywed yr ymateb gan y Gweinidog, ac ar hyn o bryd, ni allaf ei glywed oherwydd y sŵn sy’n dod o feinciau’r gwrthbleidiau, felly rhowch gyfle iddi ymateb.
Fe eisteddoch chi gyferbyn â mi ac fe wnaethoch chi gytuno â mi y dylid adeiladu morlyn bae Abertawe. Cytunodd eich AS Ceidwadol eich hun, a edrychodd ar yr adroddiad, y dylid ei adeiladu—Charles Hendry. A ydych yn cofio hynny? A beth wnaeth y Llywodraeth? Dywedodd 'na'. Dywedodd na fyddai'n cael ei adeiladu, er iddo gael ei alw'n 'ddewis cwbl amlwg'.
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog, am fod mor hael gydag ymyriadau. Ac rwy'n cytuno bod peidio ag adeiladu morlyn llanw Abertawe yn gyfle a gollwyd. Rwy'n cytuno. Ond un pwynt pwysig a gododd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, oedd gallu CNC i drwyddedu'r cynlluniau hyn, ac roedd honno'n eitem agenda na chafodd ei hysgrifennu i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru. Ni fyddai CNC yn rhoi'r trwyddedau morol, ac roedd y datblygwyr yn bryderus iawn, hyd yn oed pe baent wedi cael sêl bendith, na fyddent wedi gallu bwrw ymlaen am nad oedd y trwyddedau morol hynny'n dod.
Y gwahaniaeth yno, wrth gwrs, yw bod hwnnw'n bryder damcaniaethol, a'r pryder go iawn oedd na fyddai Llywodraeth y DU yn ei gefnogi. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal adolygiad o'i ddechrau i'w ddiwedd ar drwyddedu morol yng Nghymru, oherwydd ein bod eisiau cael y system fwyaf effeithiol ac effeithlon. Ddoe ddiwethaf fe fûm yn trafod y peth gyda thîm trwyddedu morol CNC. Felly, rydym yn gwneud hynny. Ond mae angen i'r ddwy Lywodraeth gamu i'r adwy. Mae mor syml â hynny. Nid yw Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyflwyno mecanwaith contract ar gyfer gwahaniaeth o'r un maint a soffistigeiddrwydd â maint a natur y cyfleoedd yn y sector ynni ar y môr. Mae angen iddynt ehangu'r contractau ar gyfer gwahaniaeth yn sylweddol er mwyn galluogi mwy o brosiectau—ac yn hanfodol, mwy o brosiectau o feintiau gwahanol—i gael eu cyflwyno os ydym am ddod yn arweinwyr byd fel y gallwn fod yn y sector hwn. Ac yn hollbwysig, mae angen iddynt sicrhau bod y rownd arwerthu ar gyfer y môr Celtaidd yn cynnwys amodau cyflenwi a chyflogaeth lleol cadarn ac nad yw ond yn mynd i'r sawl sy'n cynnig y pris uchaf yn unig fel bod yr elw'n dod unwaith i Ystad y Goron ac yna bod yr holl elw arall yn cael ei allforio o'r DU. Ac rydych chi'n gwybod hynny cystal â minnau, ac mae angen i chi alw arnynt i wneud hynny.
Ac yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i fethu diwygio datblygiad y grid cenedlaethol, gan gyfyngu'n llwyr ar ein gallu i fwrw ymlaen ag ehangu seilwaith y grid fel y cynlluniwyd yn unol â newid cyflym a llwyr i ynni adnewyddadwy. Mae'n ddrwg iawn gennyf orfod dweud yn hytrach fod Llywodraeth y DU yn llywyddu dros ddull araf, drud a thameidiog o weithredu lle mae pob agwedd o'r system ynni'n dioddef, gan amddifadu cymunedau o gyfleoedd ar gyfer swyddi, a chau'r drws ar y gwaith adfer natur y mae Janet bob amser yn ei hyrwyddo, a'r adfywiad y dylai buddsoddiad ynni ei gynnig ac y gallai ei gynnig. Ddoe ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrthych am y pryderon y mae'r ddau ohonom wedi'u clywed, ein bod yn cael yr ynni hwn—ynni gwirioneddol hyfryd, gwyrdd ac adnewyddadwy gyda'r holl adnoddau a swyddi rydych chi i gyd wedi siarad amdanynt—i'r traeth ac yna ble mae'n mynd? Oherwydd, heb y grid, nid oes unman iddo fynd. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU—mae'n rhaid iddi—fynd ati ar fyrder i ddiwygio'r grid.
Y mater arall gyda Llywodraeth y DU yw ei bod yn dibynnu'n llawer rhy drwm ar ychwanegu costau at filiau defnyddwyr yn hytrach nag ar drethiant cyffredinol er mwyn ymateb i'r heriau hyn. Nid yw model y sylfaen asedau rheoleiddio o ddatblygu'n werth dim o gwbl. Mae'n hynod anflaengar ac mae'n ddull annheg, sy'n rhoi baich anghymesur ar y rhai sy'n lleiaf abl i'w hysgwyddo. [Torri ar draws.]
Mae'r Gweinidog yn aros i siarad heb ymyriadau, a hoffwn wrando ar y Gweinidog. Rwyf wedi gofyn unwaith yn barod y prynhawn yma. Mae angen i bob Aelod—pob Aelod—sicrhau fy mod i'n gallu clywed y Gweinidog.
Fel roeddwn i'n dweud, mae Llywodraeth y DU yn dibynnu llawer gormod ar fecanwaith RAB ar gyfer ariannu'r pethau hyn, sy'n ychwanegu costau at filiau cwsmeriaid yn hytrach nag ar drethiant cyffredinol. Mae'n anflaengar ac mae'n gosod baich anghymesur ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo, sydd ynddo'i hun yn arafu cynnydd tuag at y system ynni sydd ei hangen arnom. Mae dirfawr angen model gwahanol o fuddsoddiad. Ond yn hytrach na diwygio'r meysydd pwysig hyn o fewn eu cyfrifoldeb, treuliodd Llywodraeth y DU y llynedd ar ei hyd yn ymladd fel cathod a chŵn wrth iddynt ddod ag economi'r DU i stop—nid oes dianc rhag hynny; dyna a wnaethant—gan oedi'n achlysurol i chwarae gêm y wasg asgell dde drwy fachu ar y cyfle i ymladd ag unrhyw un arall y gallent ddod o hyd iddynt—pobl mewn adfyd yn ffoi rhag rhyfel neu weithwyr hanfodol y mae ein dyled mor fawr iddynt ac yr oeddech chi'n hapus iawn i glapio iddynt, ond heb fod mor hapus i dalu amdanynt, sylwais.
Felly, rwy'n croesawu'r modd y mae'r cynnig yn cydnabod pwysigrwydd y miloedd o swyddi sydd i'w hennill yn y sector morol a phwysigrwydd porthladdoedd rhydd, nawr ein bod wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod yr angen am degwch, fel y cydnabu Rhun yn ei gyfraniad. Ond tybed hefyd a wnaiff y Blaid Geidwadol, yn eich sylwadau i gloi, gydnabod ac ymddiheuro am y miloedd o swyddi a gollwyd yn ystod y misoedd diwethaf o ganlyniad i'ch anallu syfrdanol a'r obsesiwn ag ymladd yn erbyn eich gilydd yn lle cymryd cyfrifoldeb am y chwyldro gwyrdd yr honnwch eich bod yn dyheu amdano.
Efallai y byddwch hefyd eisiau esbonio pam na chafwyd arian llawn yn lle'r cannoedd o filiynau o bunnoedd o gronfeydd yr UE a fuddsoddwyd gennym mewn ynni morol, neu hyd yn oed gydnabod na chafwyd yr arian hwnnw'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr, wrth gloi'r ddadl hon heddiw, yn manteisio ar y cyfle am unwaith i godi llais dros fuddiannau Cymru. Efallai y gallant roi gwybod i ni pa sylwadau a wnaethant ac y byddant yn eu gwneud i'w cymheiriaid yn y DU ar y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt i alluogi chwyldro ynni gwyrdd i ddigwydd. Ac i'ch helpu, hoffwn awgrymu eich bod yn ymuno â ni heddiw i alw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhob porthladd Cymreig, er mwyn eu galluogi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy ar y môr, i weithio gyda ni ar fynd i'r afael â bylchau yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU, ac i drosglwyddo pwerau pellach yn ymwneud â thrwyddedu ynni ar y môr, storio ynni ac Ystad y Goron. Byddai'r tri cham gweithredu cymharol fach hynny a allai ddigwydd yn gyflym yn dangos o'r diwedd fod Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch y cyfleoedd yn y sector hwn, a byddai'n datblygu'r uchelgeisiau ar gyfer Cymru ymhellach, uchelgeisiau a rennir ar draws y Siambr hon.
Ac yn olaf, hoffwn ganmol dewrder y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno'r cynnig hwn wrth i'w cymheiriaid yn y DU lywyddu dros ddirywiad y system ynni a'r economi ehangach ac agor pyllau glo—mewn difrif, pyllau glo. Carwn eich annog i fod hyd yn oed yn ddewrach a gofyn i'ch cymheiriaid yn y DU alw etholiad cyffredinol yn y DU, fel y gallwn gael y Llywodraeth wyrddach, y Llywodraeth decach, ac a bod yn onest, y Llywodraeth weithredol sydd ei hangen arnom. Diolch.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ymateb i'r Gweinidog o'r blaen ar ddadl lle roeddwn yn cytuno â chymaint o'r hyn a ddywedai, ac am 30 eiliad y prynhawn yma, roeddwn yn cytuno â bron 100 y cant ohono, ac yna, Weinidog, teimlwn eich bod chi wedi methu deall nod yr hyn y ceisiem ei wneud gyda'r ddadl hon y prynhawn yma, a natur gydsyniol yr hyn y mae'n ei wneud. Neithiwr ddiwethaf, roedd cefnogaeth drawsbleidiol yn y digwyddiad a gynhaliais ar ynni adnewyddadwy. Rwy'n credu eich bod wedi methu'r pwynt yn llwyr gyda'r hyn y ceisiem ei gyflawni yma y prynhawn yma.
Ond o feinciau synhwyrol ar fy llaw chwith, cawsom bwyslais yn y Siambr drwy gydol y drafodaeth am y llu o gyfleoedd sydd gan arfordir Cymru i'w cynnig: trysor heb ei debyg o gyfleoedd glas a gwyrdd sydd nid yn unig o gymorth i'n brwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond sy'n gwella'r amgylchedd, yr economi a'n cymdeithas. Ac yn wahanol i rannau eraill o Brydain, nid yn unig y mae'r cyfleoedd hyn yn unigryw i un rhanbarth, maent ar gael i ni o amgylch arfordir Cymru gyfan, o'r defnydd o arfordir gogledd Cymru—fel y siaradodd Janet mor angerddol yn ei gylch ar y dechrau—i'r digonedd o ynni nas manteisiwyd arno eto ym mhotensial gwynt arnofiol sir Benfro. Felly, peidiwn â bod yn genedl sydd ond yn brolio ynghylch y posibiliadau hyn, y potensial hwn—fel y dywedodd Delyth Jewell ar Zoom—y potensial sydd gennym yma; gadewch i ni ei fachu gyda'n dwy law a bod yn rhan o'r stori, y stori fyd-eang, yma yng Nghymru.
Ac mae hyn eisoes ar droed yng ngorllewin Cymru. Fel y soniais, fe welsom ac fe glywsom hynny neithiwr, yn ystod derbyniad clwstwr ynni'r dyfodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau yn y Senedd: sir Benfro yw'r ased ynni hanfodol i ddatgarboneiddio clwstwr diwydiannol de Cymru a sicrhau diogelwch ffynonellau ynni'r Deyrnas Unedig, gyda phorthladd ynni mwyaf y DU yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau. Ond er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i'r Llywodraeth hon—a Llywodraeth y DU, yn bendant; mae angen inni weithio ar y cyd—rhaid inni ddilyn llwybr o weithredu trawsddiwydiannol, gan ddod â'r cyhoedd a'r sectorau preifat ynghyd, ac arddangos ffocws uniongyrchol ar hyrwyddo ein sector ynni gwyrdd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ymyriad. Ac ar y fferm wynt arnofiol honno oddi ar arfordir de-orllewin Cymru, y gwn fod y ddau ohonom yn ei chefnogi, a oeddech chi'n rhannu fy mhleser yn gynharach heddiw pan welsom Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T.C. Davies, yn cadarnhau y byddai'r deunyddiau adeiladu ar gyfer y fferm wynt arnofiol honno ar y môr yn dod o ffynonellau mor lleol â phosib, gan arwain at effaith enfawr ar yr economi leol, yn ogystal â'n huchelgeisiau gwyrdd?
Yn sicr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei ymyriad, ac rwy'n rhannu ei bleser ynghylch y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Byddai wedi bod yn braf pe bai'r Gweinidog wedi crybwyll hynny yn ei datganiad yn gynharach, i gefnogi rhywbeth cadarnhaol. Nid wyf yn un i gilio rhag dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywbeth da ar ryw bwynt—nid yw'n digwydd yn aml, rwy'n cyfaddef—ond byddai'n braf pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu edrych i fyny'r M4 a dweud, 'Roedd hwnnw'n syniad da, Lywodraeth y DU; diolch yn fawr am hynny.' Oherwydd dyna a wnaeth T.C. Davies gyda'r datganiad heddiw.
Gydag ynni adnewyddadwy ar y môr—. Os caf fynd yn ôl at fy araith, gydag Offshore Renewable Energy Catapult, porthladd Aberdaugleddau, Ynni Môr Cymru, RWE, Blue Gem Wind, Valero, Dragon LNG, South Hook LNG, Floventis Energy, Blue Flow Energy—gormod i'w henwi—gallwn sicrhau mai sir Benfro fydd y prif benrhyn cynhyrchu ynni, gan gefnogi cadwyni cyflenwi, fel y dywedodd Tom Giffard, a chyflogaeth ar hyd a lled Cymru—y rhagolygon gwaith a grybwyllwyd gan Sam Rowlands yn ei gyfraniad yn gynharach y prynhawn yma.
Ond fel y clywsom gan Paul Davies ac Altaf Hussain, ni ddaw'r cyfleoedd i ben yn y fan honno. Mae cais Celtic Freeport yn brosiect trawsnewidiol a fydd yn cyflymu llwybr Cymru tuag at sero net, yn datgarboneiddio coridor diwydiannol de Cymru, ac yn cefnogi twf diwydiant newydd drwy gyflwyno gwynt arnofiol ar y môr, cynhyrchiant hydrogen, ynni morol a thanwydd glân, cynaliadwy. Soniodd yr Aelod dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, am ei gefnogaeth i gais porthladd rhydd yng Nghaergybi; rwy'n cytuno'n llwyr ag ef y dylid derbyn dau gais yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod yn syniad gwych. Wyddoch chi beth rwy'n ei feddwl? Oherwydd bod dau Weinidog Llywodraeth Cymru, a dau Weinidog Llywodraeth y DU, ar y panel sy'n gwneud penderfyniadau, rwy'n falch y byddant yn gallu gwrando ar alwadau Rhun, galwadau Paul a fy ngalwadau innau y prynhawn yma y dylai Cymru gael dau borthladd rhydd.
Ond dyma beth y gall porthladd rhydd ei roi i'r môr Celtaidd: gall gynhyrchu £5.5 miliwn mewn buddsoddiad newydd, gall ddod â dros 16,000 o swyddi gwyrdd newydd o ansawdd uchel ac ysgogi £1.4 biliwn mewn seilwaith porthladdoedd, y gwelliannau i seilwaith porthladdoedd y clywsom amdanynt y prynhawn yma, gan sicrhau symudiad cyntaf o fantais yn y farchnad wynt arnofiol fyd-eang, a dod â'r cyfleoedd cyffrous hyn i dde-orllewin Cymru. Mae buddsoddi mewn ardaloedd lle ceir seilwaith yn barod yn gyfle i weithio gyda'r potensial diamheuol—soniodd Delyth am y potensial hwnnw—i wella'r cyfleoedd sydd gennym a chefnogi'r newid ar draws y diwydiant tuag at garbon sero a sero net. Drwy wyddoniaeth a datblygiadau technolegol y gwnawn atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. O ynni gwynt arnofiol ar y môr ar raddfa fawr, bydd cynnydd technolegau ynni'r llanw ac ynni'r tonnau, a chynnyrch hydrogen glas a gwyrdd, y môr Celtaidd a dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i ddarparu ynni glân a chyflogaeth am genedlaethau i ddod.
Soniodd Carolyn Thomas am y rhwystrau sydd yn y ffordd, a defnyddiodd gyfle ei chyfraniad pum munud i ladd ar Lywodraeth y DU unwaith eto, sef yr hyn rydym wedi dod i'w ddisgwyl—rwyf i wedi dod i'w ddisgwyl—yn yr agos at ddwy flynedd y bûm yn y Siambr hon: lladd ar y Llywodraeth yn ddiddiwedd heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yw'r materion dan sylw. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw cydweithio. Dyma gyfle y gallwn i gyd ei weld, felly pam ein bod yn ysgwyd ein pennau, Weinidog? Pam nad ydym yn gweld y potensial sydd yno? Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, Weinidog.
Yn sicr. Nid wyf yn credu y dylech chi fod mor nawddoglyd â hynny tuag at Aelodau eraill o'r Senedd hon.
Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, nid wyf yn bod yn nawddoglyd—[Torri ar draws.] Nid wyf yn bod yn nawddoglyd. Cynhyrchodd y DU 3 y cant yn unig o'r allbwn carbon deuocsid dynol byd-eang, ond eto, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, mae gennym ni'r ffarm wynt ar y môr fwyaf, yr ail fwyaf, y drydedd fwyaf a'r bedwaredd fwyaf. Rwy'n credu y dylem fod yn eithriadol o falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym yma yn y Deyrnas Unedig. Dylem fod yn eithriadol o falch o'r hyn y gall Cymru ei wneud yn y stori ynni adnewyddadwy honno hefyd.
Felly, ni wrandawaf ar—. Nid oes gennyf unrhyw feistri gwleidyddol, Weinidog. Rwy'n gwneud fy mhenderfyniadau fy hun pan fyddaf yn y Siambr hon, ac rwy'n falch o allu cefnogi grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, yn falch—[Torri ar draws.] Cyn belled â bod fy chwip yn cytuno â mi; mae hynny'n hollol gywir. Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn, ac rwy'n annog yr holl Aelodau yn y Siambr y prynhawn yma i wneud hynny hefyd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n atgoffa'r Aelodau i wylio eu hiaith yn eu cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.