– Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2023.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar ddatganoli treth incwm, a galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8199 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu fod cyfyngiadau presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.
2. Yn credu y dylai'r Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr Alban 2012.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i bennu'r holl gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn ceisio sicrhau bod gennym ni yng Nghymru bŵer i osod bandiau ar gyfer treth incwm yn ogystal ag ardrethi. Nawr, mae'n swnio fel dadl weddol sych a thechnegol, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â chwestiynau eithaf sylfaenol—dau gwestiwn sylfaenol y mae angen i bob cenedl eu hateb drwy ei phroses ddemocrataidd. Y cyntaf yw: beth ddylai maint y wladwriaeth fod, h.y. pa gyfran o gynnyrch domestig gros y dylid ei neilltuo i wariant cyhoeddus? A'r ail yw pa mor flaengar yw'r system dreth a ddefnyddiwn i ariannu'r gwariant cyhoeddus hwnnw. A'r cwestiwn i ni yn y ddadl hon yw lle dylai'r pwerau hynny fod. A ydym yn fodlon i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yn San Steffan, neu a ddylem eu cymryd i ni'n hunain yma yng Nghymru?
Nawr, yn amlwg, fel plaid sydd â nod canolog o weld Cymru'n dod yn wlad annibynnol, rydym yn amlwg eisiau i'r pwerau hynny fodoli yma ac rydym am weld y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud gan gynrychiolwyr pobl Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd. Ond byddem yn dadlau y dylai pobl flaengar sy'n cefnogi'r egwyddor o hunanlywodraeth ddemocrataidd i Gymru, hyd yn oed yng nghyd-destun parhad y DU, gefnogi datganoli bandiau treth incwm, ac yn fy sylwadau, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio dangos pam.
Mae dau brif reswm, mewn gwirionedd. Un, byddai'n ein galluogi i godi refeniw ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus i greu'r math o gymdeithas weddus rydym am fod, a gwneud hynny mewn ffordd decach drwy greu strwythur trethu mwy blaengar yma yng Nghymru. Felly, cymerwch y pwynt cyntaf hwnnw—codi mwy o refeniw. Y broblem gyda'r system bresennol o ddatganoli trethi sydd gennym yw ei bod yn ei gwneud hi'n anodd iawn inni godi refeniw ychwanegol. Gwelsom enghraifft o pam na wnaethom hynny yn y ddadl ddoe ar y cyfraddau treth incwm; ar hyn o bryd, mae'n rhaid inni lynu at y bandiau treth a'r trothwyon a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Ac oherwydd bod y rhan fwyaf o'r cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn cael eu codi drwy'r gyfradd sylfaenol, mae'n rhaid inni ddefnyddio'r gyfradd sylfaenol honno i godi'r symiau mwy sylweddol, ac mae gwrthwynebiad i wneud hynny, am nad oes modd lliniaru'r effeithiau ar y rhai ar y cyflogau isaf yn uniongyrchol. Dyma pam nad yw'r pwerau treth incwm hynny erioed wedi cael eu defnyddio yma ers i ni eu cael; dyna pam nad oedd yr Alban yn defnyddio'r pwerau treth incwm hynny cyn 2016, pan gafodd y pŵer o'r diwedd i amrywio bandiau a throthwyon treth incwm. Ni wnaed defnydd o'r hawl wreiddiol i amrywio'r gyfradd sylfaenol hyd at 3c a roddwyd i Senedd yr Alban yn 1999; dim defnydd o'r hawl i amrywio pob band hyd at 10c, a roddwyd iddynt yn dilyn adroddiad comisiwn Calman yn 2012—yr un pŵer yn y bôn ag sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Nawr, mae rhai pobl wedi dweud nad oedd modd defnyddio'r pwerau treth incwm sydd gennym ni nawr ac a oedd ganddynt hwy bryd hynny. Nawr, nid ydym yn derbyn hynny ym Mhlaid Cymru, fel y gwnaethon ddadlau ddoe; mae'n fater o ewyllys wleidyddol. Ac ar adeg o argyfwng, hyd yn oed o ystyried y cyfyngiadau a'r diffygion, daw amser pan fo'n rhaid ichi ddefnyddio'r pwerau hynny am y rhesymau a amlinellwyd, i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o gyni. Ond mae yna rwystrau, yn amlwg, sy'n ei gwneud hi'n anos nag y dylai fod inni ddefnyddio'r pwerau ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i chi ofyn i'r Llywodraeth, os nad ydynt yn barod i ddefnyddio'r pwerau presennol—hyd yn oed yn yr amgylchiadau hyn—pa bwynt eu cael? Pa bwynt cynnal cost a phensaernïaeth sefydliadol y pwerau hyn os na fyddant byth yn cael eu defnyddio? A chanlyniad peidio â'u defnyddio yw y bydd ein gallu cyllidol, ein gallu i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i'n pobl, yn cael ei benderfynu nid gennym ni, ond ar ein rhan gan Senedd mewn man arall. Nid yw hwnnw'n lle gwych inni fod, nac ydy? Bydd yn cyfyngu ar ein gallu i wneud ein gwaith, i gyflawni'r dasg o wella bywydau pobl Cymru y cawsom ein hethol i'w gwneud, oherwydd byddwn ar drugaredd consensws San Steffan sy'n credu bod lefel Nordig o wasanaeth cyhoeddus rywsut yn gydnaws â lefelau treth tebyg i Ogledd America.
Gan fod yr Alban yn rhydd i osod bandiau a throthwyon treth incwm, mae wedi gallu defnyddio'r pwerau treth hynny; mae ganddi gyfradd gychwynnol, cyfradd ganolraddol, sy'n ei galluogi i gynyddu'r gyfradd sylfaenol mewn ffordd deg a chymesur. Cynyddodd Llywodraeth yr Alban y gyfradd sylfaenol honno: dyna'r tro cyntaf i unrhyw Lywodraeth yn y DU gynyddu'r gyfradd sylfaenol ers 1975—moment hanesyddol—oherwydd yr hyblygrwydd hwn. Ar ben uchaf y raddfa incwm, mae wedi gallu cynyddu cyfraddau a gosod trothwyon mewn ffordd sy'n adlewyrchu strwythur treth incwm yr Alban yn hytrach na'r DU, ac yn ôl Comisiwn Cyllid yr Alban, mae'r gwahaniaeth rhwng cyfraddau treth incwm yr Alban a pholisi treth y DU ers 2017 bellach yn cynhyrchu £1 biliwn ychwanegol mewn refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban, a bydd hynny'n codi i £1.5 biliwn yn 2026. Mae'r rhain yn symiau sylweddol, ac mae Cyngres Undebau Llafur yr Alban wedi awgrymu newidiadau ychwanegol yn ddiweddar: bandiau newydd, a symud y gyfradd uchaf i 48 y cant, fel yr awgrymwyd yn ein gwelliant ddoe, a fyddai'n codi £900 miliwn ychwanegol ar ben y £1 biliwn sy'n bodoli eisoes. A phe bai hynny'n cael ei gymhwyso i Gymru, yn gyfatebol i'n sylfaen dreth, byddem yn edrych ar £400 miliwn i £500 miliwn ychwanegol i fod ar gael i ni y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n codi refeniw ychwanegol.
Yn ail, mae'n creu strwythur treth mwy blaengar. Daeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i'r casgliad mai gan yr Alban y mae'r strwythur treth mwyaf blaengar yn y DU, yn fwy blaengar nag yma yng Nghymru, ac mae wedi gwneud hynny drwy gyfres o ymyriadau yn gyson bellach dros y pum mlynedd diwethaf, a thrwy'r ymyrraeth gyntaf yn 2017, fe ddilynodd lwybr gwahanol yno drwy gyflwyno trothwy is ar gyfer y gyfradd uwch. Yn 2019, ni chododd drothwy'r gyfradd uwch yn unol â gweddill y DU. Cafodd trothwyon ar gyfer talwyr y gyfradd uwch ac uchaf eu rhewi yn 2021, ac ati, ac ati. Felly, dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth yr Alban yn gyson, ar bob cyfle, wedi creu strwythur treth mwy blaengar na Chymru a Lloegr.
Mae Cyngres Undebau Llafur yr Alban wedi tynnu sylw at ffyrdd y gallent fynd ymhellach ar hyd y llwybr hwn drwy godi'r gyfradd uchaf ymhellach, fel y dywedais, a chreu trothwy is ar gyfer ei dalu, ynghyd â chyflwyno chweched cyfradd newydd rhwng y gyfradd uwch a'r gyfradd uchaf. Gallwch gael y math hwn o arloesedd blaengar oherwydd bod gan yr Alban hyblygrwydd o'r fath. Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi awgrymu y gallech fynd ymhellach eto; mewn gwirionedd, gallech gael gwared ar fandiau treth yn gyfan gwbl a chael cynnydd graddol cyson, i bob pwrpas, yn y gyfradd dreth ymylol yn eu lle. Dyna fyddai'r system fwyaf blaengar oll, yn debyg i'r math o system sydd i'w chael mewn gwirionedd mewn llawer o wledydd Ewropeaidd. Gallem wneud hynny yng Nghymru pe bai gennym y pwerau hyn, ac felly mae'r enillion, yn nhermau polisi, yn glir iawn: refeniw ychwanegol sylweddol, ynghyd â'r gallu i greu strwythur treth llawer mwy blaengar, a'r cyfan y mae hynny'n ei olygu o ran effaith economaidd-gymdeithasol mewn gwlad sydd, yn anffodus, wedi'i deifio gan dlodi dwfn.
Nawr, mae'r enillion yno. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, pan fydd yn rhannu barn Llywodraeth Cymru, yn siarad am y risgiau, fel y gwnaeth mewn pwyllgor yn ddiweddar. Wel, gadewch inni edrych ar rai o'r risgiau y cyfeiriodd y Gweinidog cyllid atynt yn y pwyllgor. Yn y tymor byr, mwy o anwadalwch a refeniw anrhagweladwy. Wel, gadewch inni edrych ar y system bresennol. Dywedodd Llywodraeth Cymru—fe ddywedoch chi eich hun fod y gyllideb sydd gennych nawr yn werth hyd at £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf o'i gymharu â phan gafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol, a hyd at £3 biliwn yn llai dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd o 2022-23 i 2024-25. Dyna'r system bresennol rydych chi'n ei hamddiffyn, Weinidog, system sy'n anwadal ac yn anrhagweladwy mewn gwirionedd. Felly, dyna'r system sydd gyda ni. Mae'r system yn yr Alban yn caniatáu inni liniaru effeithiau anrhagweladwy, oherwydd eu gallu i gynhyrchu refeniw ychwanegol sylweddol.
Y risg arall y cyfeiriwyd ati yw risg refeniw hirdymor, y risg y bydd sylfaen dreth Cymru'n tyfu'n arafach. Wrth gwrs, yr ochr arall i'r geiniog i hynny yw y gallai sylfaen drethi Cymru dyfu'n gynt. Yn wir, dyna a ddigwyddodd yn ddiweddar, onid e? Roedd y refeniw o gyfradd Cymru yn 2021 yn fwy na'r addasiad cysylltiedig i'r grant bloc, gan ddarparu £62 miliwn ychwanegol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond gallwch liniaru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—gallwch liniaru'r risg hefyd. Prin yw'r amser sydd gennyf, mae arnaf ofn.
Gallwch liniaru'r risg hefyd oherwydd bod y dull o addasu'r grant bloc yn caniatáu i'r mathau hynny o risgiau gael eu lliniaru. Rydym yn lliniaru ar hyn o bryd drwy'r cytundeb cyllidol sydd eisoes ar waith ar gyfer y risgiau cyllidebol sy'n codi o'r ffordd y dosberthir trethdalwyr Cymru yn wahanol, a gellid addasu'r polisi lliniaru addasiadau i'r grantiau bloc ymhellach i liniaru yn y ffordd y mae Comisiwn Cyllid Gogledd Iwerddon wedi'i awgrymu os caiff bandiau treth incwm eu datganoli yno hefyd.
Felly, mae yna bethau y gallwn eu gwneud i liniaru'r risgiau, ond mae cyfleoedd gwych yma, yn seiliedig ar brofiad yr Alban, nid yn unig i gynhyrchu refeniw ychwanegol, ond hefyd i greu strwythur treth llawer mwy blaengar nag a gawn gan San Steffan ar hyn o bryd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
Yn ffurfiol.
Wedi ei symud. Peter Fox.
Rwy'n deall bod yna drafodaeth bwysig i'w chael ynglŷn â sut rydym yn ariannu gwasanaethau yma yng Nghymru ac mai amrywio lefelau trethi yw'r ateb i wleidyddion wrth edrych ar godi refeniw ychwanegol, ond ni ddylem anghofio faint o gyllideb Cymru, tua £4 biliwn, sydd eisoes yn cael ei godi drwy ddulliau treth datganoledig; caiff tua £2.8 biliwn ei godi drwy gyfraddau Cymreig o dreth incwm yn unig, fel y gwyddom. Mae'r rhain yn ffynonellau cyllid sylweddol a chyn inni geisio cael mwy o bwerau dros bolisi trethu ac edrych yn anochel ar gynyddu refeniw trethi, mae angen inni asesu'r sylfaen dreth yma yng Nghymru, oherwydd yr hyn sydd ar goll o'r cynnig yw pa effaith y gallai cael pwerau llawn i osod treth incwm ac amrywio trethi fel yr Alban ei chael ar incwm pobl. Rydym eisoes yn gwybod, yn gyffredinol, fod cyfran fwy o sylfaen dreth Cymru—dros 90 y cant o'r sylfaen dreth—yn talu'r gyfradd sylfaenol. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd y DU. Tra bod y gyfradd sylfaenol, yng Nghymru, yn 59.3 y cant o gyfanswm y dreth incwm, dim ond 34.9 y cant ydyw yng ngweddill y DU, ac eithrio'r Alban.
Nawr, gellid dadlau y byddai modd sefydlu cyfradd newydd is o dreth incwm yng Nghymru pe bai'r pwerau gennym i wneud hynny, ac mae hynny'n wir. Os edrychwn ni ar yr Alban, gwyddom nad aur yw popeth melyn. Nid yw'r gyfradd gychwynnol ond ar gyfer pobl sy'n ennill rhwng £12,571 a £14,732, ac mae'r gyfradd wedi'i gosod ar 1 y cant yn unig yn is na'r gyfradd sylfaenol. Yn y cyfamser mae'r rhai ym mand cyfradd ganolraddol yr Alban yn talu mwy na'r rhai yng nghyfradd sylfaenol y DU. Yn wir, mae rhywun sy'n ennill £43,600 yn yr Alban yn agored i gyfradd dreth incwm syfrdanol sydd 22 y cant yn uwch nag unigolyn cyfatebol mewn mannau eraill yn y DU.
Felly, gallai fod yna addewidion gwleidyddol y byddai pwerau ychwanegol yn arwain at fandiau treth tecach, ond mae'r realiti gwleidyddol yn aml yn wahanol. Gwyddom mai cynlluniau presennol Plaid Cymru, fel y clywsom ddoe, fyddai codi treth incwm Cymru 1g, gan daro pocedi'r mwyafrif o drethdalwyr Cymru, ac yn enwedig y rhai sydd leiaf abl i fforddio talu mwy. Er tegwch i'r Gweinidog, mae ganddi safbwynt clir ar y mater hwn, er bod gennyf gwestiynau ynglŷn â beth mae'r addewid i beidio â chodi lefelau treth incwm cyhyd ag y mae effeithiau'r pandemig yn parhau yn ei olygu mewn gwirionedd, a pha drothwy y mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio i benderfynu hyn.
Ond y broblem gyda gwelliant Llywodraeth Cymru yw ei fod yn cyfeirio at ei chynlluniau treth yn y dyfodol, sy'n cynnwys pethau fel treth dwristiaeth. Mae'r diwydiant wedi egluro ei fod yn gweld syniad o'r fath fel arf di-fudd mewn cyfnod o anhawster mawr i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae perygl y daw'n arf di-awch, gyda busnesau mewn ardaloedd nad sy'n cyflwyno'r dreth yn cael mantais dros y rhai mewn ardaloedd sy'n cyflwyno ardoll.
Ar gyfer treth incwm a threth dwristiaeth, mae angen inni weld hyn mewn perthynas â'r ffiniau agored rhwng Cymru a gweddill Lloegr. A fyddai codi treth incwm yng Nghymru yn perswadio pobl i symud i rywle arall, a'n bod yn colli eu refeniw treth? A fyddai treth dwristiaeth yn annog pobl i aros mewn llety yn Lloegr ac osgoi talu, a theithio i mewn i Gymru ar gyfer gweithgareddau gwyliau?
Gwn fod Llywodraeth Cymru am gyflwyno trethi eraill hefyd, ond rhaid inni ystyried beth fyddai anfanteision posibl y rhain i'r economi a chymunedau hefyd, oherwydd pan fo Llywodraeth yn credu bod angen treth newydd arni, yn aml mae'n mynd yn ddadl un dimensiwn, yn debyg iawn i'r hyn a welwn gyda'r dreth dwristiaeth.
I gloi, rwy'n credu bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu gyda'n cyllidebau presennol, a'n bod yn ei wario ar feysydd blaenoriaeth cyn inni ddechrau edrych ar gyflwyno trethi. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, yn anffodus mae'n ymddangos mai safbwynt diofyn Plaid Cymru a Llafur yw trethu, trethu, trethu, a dim arall. Mae angen inni feddwl am arloesi a sut y defnyddiwn yr ysgogiadau sydd gennym yn llawer gwell. Diolch.
Mae sgyrsiau ynghylch treth bob amser yn anodd. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn y Siambr yn gwadu hynny. Ond mae'n sgwrs y mae'n rhaid inni ei chael serch hynny. Yn sicr mae yna sgwrs i'w chael ynghylch effeithiolrwydd trethi, fel: beth rydym yn ceisio ei wneud? I ba lefel rydym ni am ailddosbarthu cyfoeth?
Ond mae'n bwysig inni gofio hefyd nad trethiant yw'r ateb i bopeth ar gyfer cyflawni polisi effeithiol. Mae'n sicr yn chwarae ei ran, ac yn y cyd-destun datganoledig presennol mae'n un o'r ychydig ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Nawr, mae darparu polisi effeithiol yn ddibynnol ar ysgogiadau cyllidol hyblyg sy'n wirioneddol ymatebol i'r cymunedau y mae'r canlyniadau polisi yn effeithio arnynt. Mae anhyblygrwydd y model grant bloc, er enghraifft, wedi creu anghysondeb rhwng cyrhaeddiad cynllun polisi a chyflawniad polisi yng Nghymru, sy'n peryglu strategaethau pellgyrhaeddol a hirdymor ar gyfer ymdrin â phroblemau yn ein cymdeithas, yn enwedig mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith. Mae enghraifft HS2, lle cafodd Cymru ei hamddifadu o gyllid canlyniadol Barnett, er nad oes un fodfedd o'r trac yn cael ei osod yng Nghymru, yn tanlinellu annhegwch y model grant bloc. Gwnaeth profiad y pandemig amlygu'r anghysondeb hwn hefyd—er enghraifft, Llywodraeth y DU yn gwrthod ymestyn ffyrlo i ddarparu ar gyfer y cyfnod atal byr o gyfyngiadau symud yng Nghymru ym mis Tachwedd 2021 er bod penderfyniad Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gwbl gyson â'i chymhwysedd datganoledig dros bolisi iechyd.
Mewn gwirionedd, dangosodd y pandemig i bawb ohonom fod angen mwy o bwerau cyllidol yma yng Nghymru, yn enwedig o ran gallu Llywodraeth Cymru i fenthyg. Roeddwn yn darllen, ac rwy'n dal i ddarllen, adroddiadau a gyhoeddwyd gan Dadansoddi Cyllid Cymru, ac yn ystod y pandemig roedd y gwaith a wnaethant ar graffu ar y gyllideb mewn perthynas ag arian COVID-19 yn amhrisiadwy ac yn nodi'n glir y cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru yn gyllidol. Rydym i gyd yn cofio'r feirniadaeth a wnaed o Lywodraeth Cymru yn y Siambr hon am ymatal rhag gwario'r swm cyfan o'r hyn a ddôi gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, roedd gwariant sylweddol heb ei ddyrannu o fewn y gyllideb. Y Torïaid oedd y beirniaid mwyaf, ond anallu Llywodraeth Cymru i ystwytho unrhyw bŵer cyllidol ystyrlon a orfododd y Llywodraeth i'r sefyllfa honno. Yna, wrth gwrs, gwelwyd colli mynediad Llywodraeth Cymru at gyllid yr UE, a methiant i gael cyllid yn ei le gan Lywodraeth y DU. ''Run geiniog yn llai', dywedwyd wrthym. Mewn gwirionedd, dylent fod wedi bod yn onest a dweud wrthym am anghofio am y geiniog yn llwyr.
Nawr, i gloi, Lywydd, mae gwella pŵer y Senedd dros drethi datganoledig nid yn unig yn gwneud synnwyr o safbwynt ymarferol, ond byddai hefyd yn cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru dros ei phenderfyniadau polisi ei hun, rhywbeth rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno ei fod yn hanfodol os ydym am gael democratiaeth sy'n gweithredu'n dda yng Nghymru. Roedd datganoli yn ymwneud â dod â phŵer yn agosach at y bobl yng Nghymru. Roedd datganoli trethi yn ymwneud â dod â'r cyfrifoldeb am godi'r arian, yn hytrach na gwario'n unig, yn agosach at y bobl. Mae yna beth ffordd i fynd eto wrth gwrs cyn y gallwn wneud unrhyw beth ystyrlon i godi'r arian hwnnw mewn gwirionedd.
Rwy'n credu ei bod bob amser yn dda inni drafod trethiant, yn enwedig pan gaiff ei drafod oddi allan i'r broses o osod y gyllideb. Os gallem ailadrodd y math hwn o ddadl eto efallai, ymhell i ffwrdd o'r gyllideb, oherwydd rwy'n credu bod iddo ystyr lawer dyfnach na'r gyllideb eleni, ac rwy'n credu y byddai dod yn ôl ato ymhen chwe mis yn hynod ddefnyddiol, naill ai wedi'i gyflwyno yma gan y Gweinidog neu gan un o'r pleidiau gwleidyddol, i roi cyfle inni siarad amdano eto.
Mae fy marn am ddatganoli wedi ei gofnodi'n dda; rwy'n cefnogi devo max. Rwyf hefyd o blaid datganoli o'r Senedd i ranbarthau a chynghorau Cymru. Ar ddatganoli mae gennyf ymagwedd bragmatig: yr hyn sy'n gweithio orau i bobl Cymru yw'r hyn rwy'n ei gefnogi.
Mae'r cynnig heddiw yn barhad o bolisi Plaid Cymru o annibyniaeth gam wrth gam, neu dorri pwerau fesul haen o San Steffan nes y byddwn yn annibynnol yn y pen draw. Mae'r Ceidwadwyr yn gyson: maent yn gwrthwynebu unrhyw ddatganoli ychwanegol ar unrhyw adeg. Yr hyn sy'n fwy o syndod, wrth gwrs, yw eu bod eisiau clymblaid gyda Phlaid Cymru yn 2016 a 2007. Rwy'n meddwl efallai fod angen iddynt ailystyried.
Lle rwy'n cytuno gyda Phlaid Cymru yw na allwch barhau â datganoli anghymesur. Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a dinasoedd Lloegr fel Llundain bwerau gwahanol wedi eu datganoli. Ni all hyn barhau. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, ac mae pawb yn dweud, 'Mae ganddynt hwy hyn—a allwn ni ei gael?' heb ei fod wedi'i osod allan mewn gwirionedd. Nid yw'r broblem honno gan yr Almaen. Nid yw'r broblem honno gan Unol Daleithiau America. Ac mae'n debyg fod America hyd yn oed yn well i edrych arni oherwydd yn America, mae gennych daleithiau bach iawn gyda phoblogaethau llai na Gorllewin Morgannwg, ac mae gennych chi Califfornia ac Efrog Newydd. Felly, mae modd ei wneud. Nid yw'n ymwneud â maint; mae'n ymwneud â dweud, 'Dyma gyfrifoldeb eich talaith.' Gyda datganoli anghymesur, bydd bob amser yn achosi problemau. Mae'n rhaid ei ddatrys. Mae'n rhaid ei ddatrys yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond y cwestiwn mwyaf yw'r cwestiwn Seisnig, nad yw pobl i'w gweld yn edrych arno.
Beirniadodd Peter Fox y Llywodraeth am godi treth yn ormodol. Ymosododd Plaid Cymru arnynt am beidio â chodi treth yn ormodol. Mae'n rhaid bod rhywbeth yn rhywle yn y fan honno. Mae Cymru wedi gwneud yn dda o ddatganoli treth incwm, ond rhewi trothwyon treth sy'n gyfrifol am hynny, sy'n golygu bod mwy o bobl yn dod i mewn i drethiant ac yn symud i'r ail fand, yn hytrach na gwella treth gymharol. Mae yna broblemau gyda threth incwm. Mae hi i fod yn dreth flaengar, ond mae cymaint o ffyrdd o leihau rhwymedigaethau treth unigol i sero. Beth am edrych ar drethiant rhywun sy'n ennill £30,000 y flwyddyn. Hyd at oedran ymddeol, maent yn talu treth incwm ac yswiriant gwladol. Pan fyddant yn cyrraedd oedran ymddeol, maent yn rhoi'r gorau i dalu yswiriant gwladol. Bydd rhywun graddedig ar yr un incwm yn talu benthyciad myfyriwr, treth incwm ac yswiriant gwladol yn ôl. Mae angen rhyw lefel o degwch yno.
Bydd rhywun sy'n derbyn incwm drwy ddifidend, sef yr hyn y mae llawer o bobl hunangyflogedig yn ei wneud i osgoi treth incwm, yn talu cryn dipyn yn llai. Mae difidendau'n cael eu trethu gryn dipyn yn llai na threth incwm, felly mae'n ffordd wych o osgoi talu treth. Fe ddefnyddiaf y gair 'osgoi', oherwydd fe awn i drwbl pe bawn i'n defnyddio'r gair 'efadu', ond mae'n ffordd o osgoi talu treth oherwydd eich bod wedi cael eich talu drwy ddifidend, ac mae hynny'n hawdd iawn. Rydych yn creu cwmni, yn chwilio am enw'r cwmni, yn rhoi eich manylion busnes a manylion personol, yn derbyn eich tystysgrif cwmni cyfyngedig a'ch cyfrif busnes gyda'r banc ar yr un pryd, yn trefnu i'r holl daliadau fynd i'r busnes ac yna'n cael eich incwm fel difidend, gan dalu cryn dipyn yn llai o dreth. Ac yn bwysicach i ni, nid ydym yn cael unrhyw ran o'r incwm difidend. Rwy'n credu mai un peth y mae angen inni ddechrau dadlau yn ei gylch yw y dylai incwm difidend ddod atom ni hefyd, a dylem fod yn dadlau hefyd fod unrhyw ddifidend sy'n dod gan gwmni y mae pobl wedi'i sefydlu ac mai hwy yw'r unig dderbynnydd yn incwm i bob pwrpas, yn hytrach na difidend. Dyna'r math o beth y credaf fod angen inni ddechrau ei drafod. Nid wyf yn credu bod hyn yn deg. Mae angen system lai cymhleth arnom sy'n sicrhau bod pawb yn talu eu cyfran deg, gyda chyfraddau difidend yn cael eu trethu yr un fath â threth incwm.
Wedyn, mae buddion treth yn bodoli—mae hyn ond yn gweithio i bobl gymharol gyfoethog—y treuliau teithio y gallwch eu hawlio, yr hyn y mae gennych hawl i'w gael os ydych chi'n gweithio gartref, mae dillad ar gyfer gwaith yn cyfrif fel treuliau, sut y gall rhoi i elusen fod yn dda i'ch bil treth, rhyddhad pensiynau. Ac yn olaf yr eliffant yn yr ystafell—statws byw tu allan i'r wlad, a ddefnyddir gan y cyfoethog i osgoi talu unrhyw dreth incwm ym Mhrydain o gwbl. Efallai na fydd raid i drigolion y DU sydd â'u cartref parhaol y tu allan i'r DU dalu treth y DU ar incwm tramor, felly os oes gennych daliad difidend wedi'i dalu i fanc tramor a'i fod yn dod yn incwm tramor, nid oes raid ichi dalu unrhyw dreth o gwbl; yr un rheolau ar gyfer treth enillion cyfalaf tramor. Mae'r holl fuddion uchod o fudd anghymesur i'r rhai sy'n talu treth ar y gyfradd dreth uwch. Ychydig iawn o fy etholwyr sy'n cael budd o hynny. Y datganoli ariannol gorau y gallech ei gael fyddai i ddifidendau gael eu datganoli ac i bwerau dros statws byw tu allan i'r wlad ac i eitemau sy'n didynnu treth gael eu harchwilio, i ryddhad treth pensiynau fod ar y raddfa sylfaenol yn unig.
Ddoe yn y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, fe siaradais am y ffordd y mae pobl Cymru yn wynebu sawl argyfwng, argyfyngau digynsail ers dyfodiad datganoli, ac fe gytunais gyda Llywodraeth Cymru fod hon yn gyllideb anodd mewn cyfnod anodd, ac amlinellais y cymorth sydd ei angen ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf, pam mae'n rhaid rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar y gwasanaethau sy'n darparu'r cymorth hwn i lenwi'r tyllau enfawr sy'n bodoli yn y rhwyd ddiogelwch, sydd wedi ei rhwygo'n rhacs gan Dorïaid San Steffan.
Nodais yn fy nghyfraniad pam y dylai Llywodraeth Cymru deimlo dyletswydd i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddi, sef pwrpas ein galwad arni i ddefnyddio'r pwerau codi treth incwm sydd ganddi ar hyn o bryd i wasanaethu a chefnogi pobl Cymru yn ystod yr argyfyngau hyn—yr argyfwng costau byw, argyfwng y GIG, yr argyfwng gofal cymdeithasol, yr argyfwng costau dysgu, yr argyfwng costau gwneud busnes, yr argyfwng tai, yr argyfwng hinsawdd—argyfyngau sy'n effeithio'n anghymesur ar y mwyaf bregus o'n dinasyddion, ac y bydd eu heffeithiau'n creithio ein cymunedau nid yn unig heddiw ac yfory, ond am flynyddoedd i ddod. Oherwydd rwyf fi, yn bersonol, wedi cael llond bol ar glywed Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud drosodd a throsodd, 'Hoffem wneud mwy ond nid oes gennym arian'. Os yw'n wir mai proses yw datganoli, fel y'i disgrifiwyd gan Ron Davies, taith heb unrhyw ben draw sefydlog, sy'n ein galluogi i wneud ein penderfyniadau ein hunain a gosod ein blaenoriaethau ein hunain, yna mae galw am y pwerau sydd eu hangen arnom i Gymru allu fforddio gwneud hynny yn gam cwbl resymegol, yn enwedig o ystyried yr angen, fel y mae ein cynnig yn ei ddisgrifio, i ymateb i'r argyfwng costau byw presennol a'r argyfwng sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, dyna'r 'pam', ac mae'r 'pam' yn bwysig oherwydd nid pwerau er eu mwyn eu hunain ydynt ond modd o wneud i ddatganoli weithio'n fwy effeithiol, i ariannu'r lefelau o wariant cyhoeddus sydd eu hangen arnom.
Rydym eisoes wedi clywed sut mae Cymru'n eithriad braidd o'i chymharu â gweddill y DU o ran ei phwerau trethu cyfyngedig, ac os caf ddyfynnu adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig ar y mater, fel cenedl rydym
'mewn sefyllfa gymharol anghyffredin yn yr ystyr nad oes gennym fawr o reolaeth' dros ein cyllideb ddatganoledig, yn gyfyngedig o ran ein pwerau trethu, heb fawr ddim dylanwad dros y grant bloc o San Steffan, fel y clywsom gan Luke Fletcher, ac yn eithriadol o gyfyngedig o ran ein pwerau benthyca.
Ac mae ein sefyllfa eithriadol hefyd yn berthnasol o fewn cyd-destun rhyngwladol ehangach. Fel y dangosodd astudiaeth ddiweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gan y DU y mae un o'r systemau trethu canolog mwyaf anhyblyg yn y byd—rhywbeth y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Mae pob cenedl G7 arall yn casglu mwy o drethi ar lefel leol neu ranbarthol o'i gymharu â'r DU. Er enghraifft, trethiant datganoledig yw 30 y cant o gyfanswm refeniw treth yr Almaen, 34 y cant yn achos UDA a bron i 50 y cant yn achos Canada. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros 10 y cant o refeniw trethi lleol y DU sy'n cael eu casglu ar y lefel ddatganoledig.
Gallwn edrych ar esiampl Euskadi, Gwlad y Basg, hefyd, lle mae gan eu Llywodraeth ddatganoledig bwerau helaeth dros drethiant incwm personol, trethiant corfforaethol a'i threth ei hun ar gyfoeth, etifeddiant a rhoddion. Mae hyn wedi ennyn twf economaidd yng Ngwlad y Basg, sydd wedi'i ddisgrifio fel twf hynod gynhwysol gan y Ganolfan Polisi Tramor. Mae'r rhanbarth yn ymddangos ymhlith yr uchaf yn Ewrop, nid yn unig o ran cynnyrch domestig gros y pen, ond yn hollbwysig, o ystyried y cyd-destun economaidd presennol, o ran y ganran isel o'r boblogaeth sy'n wynebu risg o dlodi neu allgáu cymdeithasol. Felly, nid yw'r hyn rydym yn ei gynnig yma yn arbennig o radical; yn hytrach, mae'n ceisio normaleiddio'r hyn sydd eisoes yn digwydd, ac yn digwydd yn dda mewn mannau eraill.
Mae'r ddadl na allwn ddefnyddio treth i ariannu'r gwariant sydd ei angen arnom, er mwyn creu'r Gymru decach, fwy ffyniannus y mae pawb ohonom am ei gweld, yn un go hurt o'i gosod yn y cyd-destun rhyngwladol. A chyda'r pwerau i osod pob cyfradd a band, gall treth incwm fod yn ffordd deg a chymesur o sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen arnom i'n helpu i oresgyn y lefelau cywilyddus o dlodi sy'n difetha bywydau gormod o'n dinasyddion, a'r angen enbyd i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw San Steffan erioed wedi gweithio, ac ni fydd byth yn gweithio i Gymru. Taith yw datganoli, taith o ddarganfod nad yw ffordd San Steffan o wneud pethau yn fodel da i Gymru ei ddilyn. Os ydych chi'n credu mewn datganoli, os ydych chi'n credu mewn bod o ddifrif ynghylch y cyfrifoldeb o lywodraethu, ac os ydych chi'n credu mewn gwasanaethu pobl Cymru, dylech bleidleisio dros ein cynnig.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n mynd i gadw fy nghyfraniad yn weddol fyr ac i'r pwynt heddiw. A diolch i Blaid Cymru am gyflwyno trafodaeth mor bwysig, gan ei bod yn dangos eto fod yr hyn a elwir yn Blaid Cymru yn fwy allan o gysylltiad nag y bu erioed ag anghenion pobl Cymru. Yr wythnos diwethaf, Lywydd, roeddent yn hapus i glochdar eu polisi arddangosol o godi trethi pobl sy'n gweithio, ond a ydych chi'n meddwl mai dyna beth mae pobl ei eisiau yn ystod cyfnod o gostau cynyddol tanwydd, ynni, bwyd a phopeth yn y canol? Ai dyma Blaid Cymru yn gweithredu er budd pobl Cymru mewn gwirionedd? Nid wyf yn meddwl hynny. Mae gan y rhan fwyaf o etholaethau Plaid Cymru yng ngorllewin Cymru gyfran uchel o gymunedau dosbarth canol, ceidwadol yn gymdeithasol, a Chymraeg eu hiaith, ardaloedd gwledig gyda ffermwyr a'r holl nodweddion sy'n mynd gyda hynny. A ydych chi wir yn meddwl bod pobl dda llefydd fel Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi, Aberystwyth, Castellnewydd Emlyn, Porthmadog, Dinas Mawddwy, a Beddgelert hyd yn oed, yn gwerthfawrogi eich plaid yn cael ei thynnu i gyfeiriad cenedlaetholwyr Corbynistaidd? Unwaith eto, nid wyf yn meddwl hynny. Unwaith yn rhagor, mae Plaid Cymru fel y maent yn galw eu hunain yn hoffi credu eu bod yn cynrychioli Cymry'n well nag unrhyw un arall ac yn honni eu bod yn rhoi Cymru'n gyntaf, ond rydych chi eisiau datganoli cyfiawnder, datganoli mwy o bwerau treth, datganoli Ystadau'r Goron, datganoli darlledu a datganoli sinc y gegin, a'r cyfan er mwyn mynd ar drywydd annibyniaeth yn ddiddiwedd. Mawredd mawr.
Ni all y Llywodraeth Lafur Gymreig hon, sy'n cael ei chynnal gan Blaid Cymru, redeg y pwerau datganoledig presennol na hyd yn oed redeg bath o ran hynny, ond maent eisiau rhwbio halen i'r briw. Edrychwch ar gyflwr y GIG yng Nghymru a gofal cymdeithasol, er enghraifft. Mae'n llanast: un o bob pedwar o bobl ar restr aros, cleifion yn aros yn hirach nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, methiant i godi ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl wedi 10 mlynedd o dorri addewidion. Gallwn barhau drwy'r dydd, ond yn anffodus nid oes gennyf amser. Ond yr hyn y byddwn yn ei awgrymu yw ein bod yn cael trefn ar ein tŷ ein hunain cyn inni ystyried unrhyw ddatganoli pellach i Gymru, a phrin eich bod yn helpu eich hunain, ydych chi? Beth bynnag, rwyf am ei gadael yn y fan honno gan mai dyna fy marn ar y mater fwy neu lai a hoffwn annog yr Aelodau i wrthwynebu'r cynnig hynod gyfeiliornus hwn. Diolch.
Mae yna gost i wneud dim. Mae i absenoldeb gweithredu ganlyniadau i'n cymdeithas, ac mae ein dadl heddiw i gyd yn ymwneud â chostau. Nid yn unig pa gostau y dylai pobl eu talu i gyfrannu at ein cymdeithas, ond hefyd y gost o beidio â gwneud mwy i ffurfio cymdeithas decach, oherwydd nid yw'r system dreth yng Nghymru yn adlewyrchu'n ddigonol incwm a phroffil cymdeithasol ein gwlad nac anghenion ein gwlad. Mae cyfle yma i newid hynny os dewiswn ei gymryd. Cyfle a chost, a byddai economegwyr yn gweld gwers yno.
Felly, gadewch inni edrych ar y manylion. Dim ond lleiafrif o bobl yng Nghymru sy'n talu treth incwm—tua 43 y cant o'n poblogaeth—oherwydd bod cymaint o bobl naill ai heb fod yn ennill digon neu wedi cyrraedd oedran ymddeol. Fel y clywsom, mae'r dreth incwm a gaiff ei chodi bron i gyd yn cael ei chodi ar y gyfradd sylfaenol, ac nid yw'r system a'r bandiau sydd gennym at ein defnydd yn caniatáu hyblygrwydd inni arfogi ein cymunedau yn well â'r arian y mae cymaint o'i angen arnynt. Oherwydd mae trethi'n rym er lles. Ni ddylai fod yn radical imi ddweud hynny, ond mae ystrydeb treuliedig y 'baich' treth yn cael ei dderbyn fel norm. Nid yw treth ond yn faich os ydym yn byw mewn cymdeithas lle nad yw gwasanaethau'n cael eu hariannu'n ddigonol i ddarparu ansawdd byw teilwng i'r holl ddinasyddion. Dyma ddyfyniad, Lywydd:
'Rwy'n hoffi talu trethi. Gyda hwy, rwy'n prynu gwareiddiad.'
Priodolir y geiriau hynny i Oliver Wendell Holmes yr Ieuengaf, Barnwr Cysylltiol i Oruchaf Lys yr UDA ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ac mae trethi'n prynu cyfleoedd inni wneud pethau'n wahanol, i adeiladu rhywbeth gwell i bawb.
Os edrychwn ar y pwerau a drosglwyddwyd i'r Alban yn neddf 2012 ac wedi hynny yn 2016, mae wedi gallu gosod cyfradd is i'r rhai sydd ond yn cyrraedd y trothwy ar gyfer talu treth incwm er mwyn gwella'r cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r pwerau ychwanegol yn prynu gobaith i'w cymunedau. Ac mae'r union ffaith nad oes gennym y pwerau hynny yng Nghymru wedi golygu bod yn rhaid codi refeniw drwy ddulliau eraill, mwy anflaengar. Mae Cymru wedi caniatáu i'r dreth gyngor godi'n sylweddol ers blynyddoedd, ac fel y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Bevan wedi dweud yn glir dro ar ôl tro, mae'r cynnydd yn y dreth gyngor yn rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau cartrefi. Yn syml, nid yw'n ffordd deg na blaengar o godi refeniw.
Yn fwy na hynny, caiff cyfran uwch o refeniw ei godi yng Nghymru drwy dreth ar werth na thrwy'r dreth incwm. Y gwrthwyneb sy'n wir yn Lloegr a'r Alban. Pam mae hynny'n bwysig? Wel, mae aelwydydd incwm is yn talu llawer mwy yn gyfatebol mewn trethi anuniongyrchol fel TAW nag y maent mewn treth incwm, felly unwaith eto mae'r bobl sydd leiaf abl i'w fforddio yn ysgwyddo mwy o bwysau. Nawr, mae hwnnw'n faich na ddylem fod yn ei weld. Ond mae yna gost, canlyniad, i wneud dim. Os ydym yn codi ein dwylo neu'n eistedd arnynt, nid yw'r gost honno'n diflannu; mae'n cronni, ac mae diflastod tawel miliynau yn parhau. Ond Lywydd, yn hytrach na hynny, gallem ddewis rhoi help llaw, ymyrryd, creu trefn fwy blaengar o dreth incwm, i weld treth fel ffordd o greu'r gymdeithas rydym ei heisiau. Dyna ein cyfle i gael gwared ar gyfyngiadau'r rhwymau a osodir gan y Trysorlys, i fynnu pwerau a fydd yn caniatáu mwy o ryddid i ni, mwy o hyblygrwydd, a chreu system sy'n gweithio go iawn i Gymru. Iawn, fe dderbyniaf yr ymyriad.
Rwy'n credu bod 92 y cant o drethdalwyr Cymru yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol. Dim ond 0.3 y cant, prin 4,000, sy'n talu treth ar y gyfradd dreth ychwanegol. A ydych chi'n cydnabod y gall cyfraddau treth uwch, yn enwedig yn y mathau hynny o amgylchiadau, gynhyrchu refeniw treth is?
Diolch am yr ymyriad, Mark. Yn amlwg, ni all gwneud newid fel hyn fod yn—. Rwy'n credu inni glywed yn gynharach, mewn dadl wahanol efallai, nad oes un ateb sy'n datrys pob dim. Ni all hyn ar ei ben ei hun chwyldroi'r economi. Mae angen inni gael llawer mwy o fuddsoddiad hefyd i wneud yn siŵr fod yna swyddi da ar gyflogau uwch, ond nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn edrych ar y system dreth sydd gennym yng Nghymru a meddwl ei bod o ddifrif yn gwneud yr hyn y dylai fod yn ei wneud i bobl Cymru. Ac rwy'n credu'n angerddol y byddai newid fel hyn o fudd i'r bobl sydd ei angen fwyaf yn ein cymdeithas. Felly, gadewch inni greu system sy'n gweithio go iawn i Gymru, a dyfodol tecach i bawb. Diolch.
Y Gweinidog cyllid i gyfrannu at y ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Lywydd. Wel, mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges ei bod yn dda iawn ein bod yn siarad am dreth mewn ffordd fwy agored ac ymchwiliol sydd ychydig y tu allan i'n proses arferol o osod y gyllideb. Felly, hir y parhaed hynny. Ac fe ddywedodd Adam Price ar y dechrau ei fod yn ofni y gallai gael ei gweld fel dadl braidd sych, ond rwy'n credu ei bod wedi bod yn unrhyw beth ond hynny.
Felly, rwyf am ddechrau gydag ychydig eiriau ar ein dull presennol o osod cyfraddau treth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond wedyn byddaf yn symud ymlaen i fynd i'r afael â'r mater mwy hirdymor. Felly, mae ein dull o osod cyfraddau treth incwm ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i osod yn llwyr o fewn y cyd-destun rydym yn gweithredu ynddo. Ac fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn ystyried gosod cyfraddau treth bob un flwyddyn, ac rydym yn gwneud hynny o fewn y cyd-destun ar y pryd. Mae cryn bwysau nawr ar ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd lefelau uchel o chwyddiant, ac wrth gwrs, mae pobl ledled Cymru yn cael eu herio bob dydd gyda'r argyfwng costau byw. Mae natur ein sylfaen dreth incwm yn golygu y byddai'n rhaid i unrhyw gynnydd sylweddol i'n hadnoddau drwy gyfraddau Cymreig o dreth incwm olygu ein bod yn codi'r gyfradd sylfaenol, a hynny ar adeg pan fo pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni a bwyd. Felly, rwyf wedi bod yn glir iawn nad nawr yw'r amser iawn i gynyddu treth incwm yng Nghymru. A chyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i rewi trothwyon treth incwm, gadewch inni gofio bod y bobl sy'n ennill leiaf bellach yn cael eu llusgo i mewn i'r system dreth incwm, a byddai codi'r gyfradd sylfaenol yn ychwanegu baich treth ychwanegol i'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas ar adeg pan fo treth ar y lefel uchaf ers 70 mlynedd, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n iawn i wneud hynny ar hyn o bryd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch am dderbyn ymyriad. Gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gydnabod nad yw hwn yn gynnig i gynyddu bandiau trethiant; mae'n ymwneud ag egwyddor. Mae hi wedi cydnabod bod hon yn ddadl bwysig i'w chael, a'i bod am ei chael eto, ond a wnaiff hi roi ymrwymiad i fynd i'r afael â pham na all hi fel Gweinidog, a'r Llywodraeth hon, a Llafur, gefnogi'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn ein cynnig heddiw, oherwydd dyna yw'r allwedd i'r ddadl hon?
Rwy'n bendant yn mynd i ddod at y pwyntiau yn y cynnig sy'n ymwneud â'r cyfraddau a'r bandiau ac yn y blaen, ond roeddwn am ychwanegu bod yna gryn ansicrwydd ynghylch effaith codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol. Ac mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer unrhyw effaith ymddygiadol a allai ddigwydd mewn perthynas ag unrhyw gynnydd sylweddol i drethdalwyr uwch neu ychwanegol yn ansicr, oherwydd fe wyddom fod gan y bobl hynny opsiynau nad ydynt ar gael i bobl eraill—er enghraifft, newid eu trefniadau prif gartref i olygu nad ydynt yn talu treth incwm yma yng Nghymru.
Ac wrth gwrs, mae gennym y ffin hir agored â Lloegr, ac mae hynny'n creu'r risg o allfudo ymhlith y trethdalwyr mwy symudol hynny. Ac fe gawsom gwestiynau ddoe ynglŷn â sut rydym yn ystyried hynny. Felly, i dawelu meddyliau cyd-Aelodau, mae hynny eisoes wedi'i gynnwys yn ein canllaw cyflym, sy'n amcangyfrif bod cynnydd o 1g yn y gyfradd ychwanegol mewn gwirionedd yn cynhyrchu cyfradd fecanyddol o £7 miliwn, ond amcangyfrif gwirioneddol o £3 miliwn yn unig, oherwydd yr hyn y byddem yn disgwyl i'r effaith ymddygiadol fod. A soniais ddoe fod hynny'n ymwneud ag astudiaeth y Swistir, sy'n cael ei gweld fel y gymhariaeth agosaf sydd gennym.
Yn amlwg, rydym yn—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Wrth gwrs.
Ar gwestiwn prif gartref, pa drafodaeth a gawsoch gyda Chyllid a Thollau EF ar gael concordat o reolau ar gyfer diffinio beth fyddai prif gartref, oherwydd mae hynny'n berthnasol wrth gwrs, yng nghyd-destun trethi eraill hefyd?
Mae hynny wedi'i nodi mewn deddfwriaeth ac mewn canllawiau; rydym yn defnyddio'r un math o beth ar gyfer y dreth gyngor hefyd. Felly, yn amlwg, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi mewn cysylltiad cyson, gyda Thrysorlys Cymru a swyddogion cyllid llywodraeth leol hefyd. Felly, rwy'n credu bod gennym ddealltwriaeth gyffredin o beth fyddai prif gartref. Ac rydym yn gweld hynny ar waith, os mynnwch, pan fyddwn yn edrych ar dreth incwm a chod C. Ac fe gawsom lawer o drafod pan oeddem yn cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru ynglŷn â sut y gallai CThEF sicrhau bod cod C ynghlwm wrth gyfraddau treth incwm talwyr y dreth incwm yng Nghymru, ac rydym wedi cael gwaith da iawn wedi'i wneud i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gan gymaint o drethdalwyr â phosibl y cod hwnnw ynghlwm wrth eu gwaith. Felly, rydym hefyd yn cyhoeddi—rwy'n meddwl ei fod yn flynyddol—adroddiad ar waith CThEF yng Nghymru mewn perthynas â'r codau hynny hefyd, a byddwn yn hapus i rannu mwy o wybodaeth gyda chyd-Aelodau am hynny, os oes angen yn y dyfodol.
Os caf droi at y tymor hwy, mewn unrhyw newid byddwn yn amlwg yn cael ein harwain gan ein hegwyddorion treth. Maent yn ein hymrwymo i lunio trethi clir a sefydlog sy'n darparu ein hagenda flaengar, lle mae'r rhai sydd fwyaf abl i dalu yn talu mwy na'r rhai sy'n llai abl. Felly, er y byddai pwerau i amrywio trothwyon treth incwm yn darparu arfau polisi ychwanegol i Lywodraeth Cymru, mae angen inni ystyried yn ofalus ein hanghenion penodol a'r risgiau, gan gynnwys y risg o fod yn llawer mwy agored i dwf cymharol y sylfaen dreth rhwng Cymru a mannau eraill yn y DU, a byddai hynny'n bryder penodol i ni mewn perthynas â'r cyfraddau uwch ac ychwanegol, lle mae Llywodraeth Cymru ond yn agored i 10c ym mhob band.
A yw'r Gweinidog yn cydnabod mai 45 y cant yw'r gyfradd dreth incwm bersonol uchaf yn yr Almaen, tra'i fod yn 55 y cant yn Awstria, ac a ydych chi wedi gweld pobl yn symud o Awstria i'r Almaen, yn seiliedig ar y cyfraddau treth uchel yn Awstria?
Byddwn yn hapus i archwilio'r cwestiwn rhwng Awstria a'r Almaen. Carwn awgrymu bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yma yng Nghymru, o ystyried y ffaith ein bod yn siarad am wahanol gyfraddau treth sy'n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig, ac fe ddof at y pwynt hwnnw pan edrychwn ar brofiad yr Alban yn fuan iawn hefyd. Mike. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
A ydych chi'n rhannu fy mhryder am y defnydd o incwm difidend i ostwng faint o dreth sy'n cael ei thalu, ac nad ydym yn cael unrhyw gyfran o incwm difidend pobl sy'n cael eu talu drwy ddifidendau yng Nghymru?
Ie, a byddai honno'n un arall o'r heriau hynny, ac unwaith eto fe ddof at brofiad yr Alban hefyd.
Os caf orffen yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn perthynas â'r bandiau uwch, mae twf mewn refeniw ar gyfer y ddau fand yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol o flwyddyn i flwyddyn na refeniw cyfraddau sylfaenol, ac maent yn amrywio mwy rhwng rhannau o'r Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n effeithio ar effaith gyllidebol net o flwyddyn i flwyddyn datganoli treth incwm drwy fecanwaith addasiad i'r grant bloc.
Felly, er mwyn rhoi enghraifft ac i droi at brofiad yr Alban, mae treth incwm wedi'i ddatganoli'n llawn i'r Alban, heblaw am incwm ar gynilion a difidendau, ac mae'r hyn rwy'n mynd i'w ddweud nesaf yn bwysig iawn, oherwydd mae'n nodi ac yn dangos y risg go iawn sydd ynghlwm wrth hyn a'r anwadalwch go iawn, sef yr hyn y mae gwir angen inni ei ystyried cyn penderfynu pa ffordd ymlaen a fyddai'n iawn i ni.
Felly, mae Comisiwn Cyllid yr Alban yn disgwyl effaith negyddol net o tua £100 miliwn i gyllideb Llywodraeth yr Alban eleni, ac mae hynny er gwaethaf ymdrech dreth ychwanegol gan drethdalwyr yr Alban o tua £850 miliwn yn sgil newidiadau i'r gyfradd a'r trothwy. Rwy'n credu bod hynny'n dangos lefel y risg a gymerir pan edrychwn ar hyn. Felly, mae deall y newidiadau ymddygiadol yn allweddol, ac rwy'n ceisio deall yr effaith ymddygiadol yn well mewn perthynas â'r newidiadau y mae Llywodraeth yr Alban wedi'u gwneud.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Fe ildiaf wedi imi orffen fy mrawddeg.
O weld ei bod wedi dyfynnu Comisiwn Cyllid yr Alban, a yw hi hefyd yn cydnabod bod y refeniw net ychwanegol y mae Comisiwn Cyllid yr Alban wedi'i nodi ar gyfer y flwyddyn nesaf, o ran y gwahaniaeth rhwng y polisïau, yn £1 biliwn yn ychwanegol? Dyna'r refeniw net ychwanegol sydd gan yr Alban.
Rwy'n cydnabod hynny, ac wrth gwrs fe welwch ein bod hefyd yn disgwyl refeniw net ychwanegol yma yng Nghymru o ganlyniad i'r addasiad i'r grant bloc. Yn syml, mae'n bwysig ac yn gyfrifol i ystyried y risgiau cyn ceisio datganoli pwerau ymhellach, ac wrth gwrs mae angen gweld hynny i gyd o fewn cyd-destun ein blaenoriaethau polisi treth strategol, ac wrth gwrs dyfodol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth sydd gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i'w ddweud ar dreth yn ei adroddiad terfynol. Yn ei adroddiad interim, fe gydnabu'r comisiwn yr anghydbwysedd yn y trefniadau cyfansoddiadol presennol, ac mae'r anghydbwysedd yn cyfrannu at y cyfyngder presennol wrth ystyried datganoli pwerau trethu pellach o bob math yng Nghymru. Felly, ni ellir ysgaru unrhyw ddadl dros bwerau pellach oddi wrth yr angen i fynd i'r afael ag annigonolrwydd y setliad datganoli presennol.
Felly, i gloi, mae hon yn agenda bwysig. Rwy'n croesawu diddordeb cyd-Aelodau ynddi. Pan fyddwn yn ystyried rôl treth incwm yn y dyfodol, byddwn yn meddwl amdani yng nghyd-destun cefnogi ein blaenoriaethau strategol mwy hirdymor yn gynaliadwy, er enghraifft, megis mynd i'r afael â'r pwysau mewn gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na'i weld fel arf tymor byr i fynd i'r afael â'r pwysau ariannu uniongyrchol sydd arnom. Ond wrth gwrs, byddwn yn sicr yn croesawu trafodaeth barhaus gyda'r holl gyd-Aelodau sydd â diddordeb yn hyn ar draws y Siambr.
Adam Price nawr i ymateb i'r ddadl.
Wel, yn sicr mae wedi bod yn ddadl ddadlennol, os braidd yn ddigalon ar ei therfyn, gyda sylwadau'r Gweinidog, ond hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd ati. Mae Peter Fox yn ddyn rhesymol—nid wyf yn siŵr os gallaf ddweud hynny'n fwy cyffredinol, rhaid dweud—ond rwy'n credu mai'r pwynt canolog yma, Peter, yw hwn: os oes gennym y pwerau hyn, nid oes pwynt cael pwerau os ydynt yn anhygoel o anodd i'w defnyddio. Ac ar hyn o bryd, gyda chyfraddau wedi'u datganoli ond nid bandiau, mae'n golygu nad oes gennym allu mewn gwirionedd i ddefnyddio'r pwerau i'r eithaf. A dyna yw'r galw rhesymol mewn gwirionedd. A gallwch gyflwyno eich achos o ran eich dyheadau ynglŷn â sut i'w defnyddio ac fe wnawn ninnau yr un fath, ond onid dyna sut mae atebolrwydd democrataidd i fod i weithio? A dyna, yn y bôn, yw'r pwynt craidd a wnaeth fy nghyd-Aelod Luke Fletcher, fod polisi cyllidol yn hanfodol i fod yn senedd, onid yw? Mae angen inni fod yn atebol i'r cymunedau rydym i fod i'w gwasanaethu ac ar hyn o bryd, heb y pwerau llawn hyn, ni allwn wneud hynny.
Rwy'n cytuno â Mike—dylwn fod wedi cymryd ymyriad nawr, Mike; rwy'n ymddiheuro. Fe gyfeirioch chi at ddatganoli anghymesur, a gadewch inni gofio bod y polisi rydym yn ceisio cael Llywodraeth Lafur i'w fabwysiadu yma yn gynnig Llafur. Drwy'r Addewid, drwy gomisiwn Smith, polisi Llafur oedd hwn, cynnig Llafur, ac eto yma yng Nghymru, gyda'r un Lywodraeth y mae'r Blaid Lafur yn ei rhedeg, maent yn ei wrthwynebu. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn hefyd, Mike, fod yna agenda ehangach. Mae'n rhaid inni edrych ar incwm difidend, incwm o gynilion, ac yn y blaen. Rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar dreth enillion cyfalaf yn ogystal i sicrhau, pan fyddwch chi'n datganoli'r pwerau ac yn eu defnyddio, nad oes bylchau mewn gwirionedd. Fe fyddaf yn garedig fel chi a siarad am osgoi treth yn hytrach nag unrhyw beth arall. Felly, gadewch inni edrych ar hynny a gadewch inni edrych ar y gydberthynas ag yswiriant gwladol hefyd, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn galw amdano.
Mae Sioned Williams yn iawn ein bod yn gweld mwy o ddatganoli pwerau trethu yng Ngwlad y Basg. Yn wir, gellid dadlau bod gan gynghorau taleithiol Gipuzkoa a Bizkaia hyd yn oed bwerau treth mwy ffurfiol nag sydd gennym ni yma. Felly, yn sicr rydym oddi allan i'r brif ffrwd, onid ydym? Hyd yn oed nawr, hyd yn oed ar ôl 20 mlynedd a mwy o ddatganoli yng ngwladwriaeth hynod ganolog y DU. A dyna graidd y cynnig hwn, ceisio rhyddhau ein hunain o hynny.
Carwn ddweud bod Delyth Jewell wedi ein hatgoffa bod angen inni dorri'r naratif asgell dde negyddol ynghylch treth a gwariant cyhoeddus. Mae arweinyddiaeth Llafur yn San Steffan ac yn ehangach yn syrthio i fagl yma yn fy marn i, yn y math o iaith y mae'n ei defnyddio, oherwydd yn y pen draw, yn lle siarad am feichiau treth yn unig, mae angen inni siarad am ysgogiadau treth, am arfau treth ac offerynnau treth, oherwydd trethiant yn y pen draw, refeniw, yw'r modd y cynhyrchwn y sail ar gyfer gwariant cyhoeddus, i wneud popeth a wnawn yn y lle hwn ar gyfer y bobl a gynrychiolwn, a dylem wneud yr achos cadarnhaol hwnnw.
Dyna pam y dylem gael y pwerau, a dyna pam y cefais fy siomi gymaint gan ymateb y Llywodraeth—Llywodraeth sydd wedi sôn am ffederaliaeth radical. Nid oes dim yn y polisi y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi, yn gwrthod hyn, y gallech ei ddisgrifio fel 'ffederalaidd' na 'radical'. Mae yna ddau ansoddair y gallaf eu cysylltu â'r hyn rwy'n ei glywed gan y Gweinidog, sef 'ceidwadol' ac 'unoliaethol'. Ble mae'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol—? [Torri ar draws.] Wel, fe fyddwch chi'n pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr ar y cynnig hwn, oni fyddwch, drwy wrthod ein safbwynt? Oherwydd yn y bôn nid ydych yn derbyn yr achos rydym wedi'i gyflwyno, sef oni bai ein bod yn datganoli'n llawn mewn gwirionedd, ni fyddwn yn gallu goresgyn yr her rydym wedi'i gosod i ni ein hunain i greu'r math o gymdeithas weddus—. Ac nid wyf yn ei weld; ble mae'r radicaliaeth yn eich gweledigaeth gyfansoddiadol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar beth mae'r Gweinidog cyllid wedi'i ddweud wrthym?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.