– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 15 Chwefror 2023.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig—yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8204 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y mis hwn yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin ar Wcráin.
2. Yn condemnio'r ymosodiad ar Wcráin, a'r ymddygiad ymosodol parhaus yn ei herbyn, yn erbyn ei sofraniaeth ac yn erbyn ei chyfanrwydd tiriogaethol gan Ffederasiwn Rwsia.
3. Yn cymeradwyo gwytnwch pobl Wcráin yn wyneb creulondeb Rwsia.
4. Yn croesawu'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarperir i Wcráin gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
5. Yn diolch i bobl Cymru am eu hymateb i'r gwrthdaro, gan gynnwys eu haelioni a'r croeso a roddwyd i ffoaduriaid o Wcráin.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun tymor hir i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru.
Diolch. Rwy’n falch o wneud y cynnig hwn. Mae'r pedwerydd ar hugain o Chwefror 2023 yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd Vladimir Putin ar ei gymydog sofran llai o faint, Wcráin. Ond mae gan y cymydog llai hwn galon llew, ac mae wedi rhuo'n ôl, er bod pobl Wcráin wedi teimlo effaith ymosodiadau parhaus gan Rwsia i'r byw. Bydd pob unigolyn gwaraidd yn arswydo bod Putin yn bwriadu dathlu'r achlysur erchyll hwn drwy lansio ymosodiad creulon ac annynol arall. Pe bai pobl waraidd Rwsia ond yn gallu gweld a chlywed yr erchyllterau y mae Putin a'i gyfeillion yn eu cyflawni yn eu henw, wrth iddo ffugio'r naratif a thawelu'r ddadl yn y wlad fawr honno.
Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o Norwy, mae’r gwrthdaro wedi achosi anafiadau neu farwolaethau 180,000 o filwyr Rwsia a 100,000 o filwyr Wcráin. Mae ffynonellau gorllewinol eraill yn amcangyfrif bod y rhyfel wedi achosi 150,000 o golledion ar y ddwy ochr. Ddiwedd mis Ionawr, amcangyfrifodd y Cenhedloedd Unedig fod 18,000 o sifiliaid wedi'u lladd neu eu hanafu yn yr ymladd, ond dywedasant fod y ffigur go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch, gyda ffynonellau gorllewinol yn nodi bod 30,000 i 40,000 o sifiliaid wedi marw yn y gwrthdaro. Dywed awdurdodau Wcráin fod o leiaf 400 o blant wedi cael eu lladd. Mae Kyiv hefyd yn honni bod Moscow wedi alltudio mwy na 16,000 o blant yn orfodol i Rwsia neu ardaloedd a reolir gan ymwahanwyr a gefnogir gan Moscow. Yn ôl Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, mae mwy nag 8 miliwn o bobl Wcráin wedi cael eu gorfodi i ffoi o Wcráin ers i’r rhyfel ddechrau—yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd. Mae'r gyfran fwyaf o'r ffoaduriaid hyn yng Ngwlad Pwyl, gyda mwy nag 1.5 miliwn ohonynt yn y wlad honno. Mae mwy na 5 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o fewn i'r wlad ei hun.
Mae ffrwydron tir yn fygythiad i sifiliaid, ac mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r gwaith o gael gwared ar y ffrwydron tir gymryd degawdau. Yn ôl comisiynydd cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, mae oddeutu 65,000 o honiadau o droseddau rhyfel wedi cael eu hadrodd drwy gydol y rhyfel. Mae ymchwilwyr y Cenhedloedd Unedig wedi cyhuddo Rwsia o gyflawni troseddau rhyfel ar raddfa enfawr yn Wcráin, gan gynnwys bomio, dienyddio, artaith a thrais rhywiol. Yn ôl pennaeth lluoedd arfog Wcráin, mae’r rheng flaen weithredol o’r gogledd i’r de yn ymestyn dros 900 milltir o diriogaeth. Dywedodd Banc y Byd, ym mis Hydref, ei fod yn disgwyl i economi Wcráin grebachu 35 y cant yn 2022, a dywedodd ysgol economeg Kyiv ym mis Tachwedd fod y rhyfel wedi achosi mwy na £34 biliwn mewn colledion economaidd yn y sector amaethyddol, ac ym mis Ionawr, amcangyfrifwyd y byddai'n costio £138 biliwn i adnewyddu'r holl seilwaith a anrheithiwyd gan y rhyfel hwn.
Roedd ymweliad yr Arlywydd Zelenskyy â’r DU yr wythnos ddiwethaf yn dyst i ddewrder, penderfynoldeb ac ysbryd ei wlad, ac i’r cyfeillgarwch cadarn rhwng Wcráin a’r DU a’i gwledydd. Mae'r rheini sydd wedi astudio digwyddiadau yn y 1930au yn gwybod na allwn adael i Putin lwyddo. Fel y dywedodd Churchill,
'Dyhuddwr yw un sy'n bwydo crocodeil, gan obeithio y bydd yn ei fwyta ef yn olaf.'
Ers 2014, mae’r DU wedi darparu hyfforddiant hanfodol i luoedd Wcráin ac mae bellach yn ehangu hyn o filwyr i fôr-filwyr a pheilotiaid jetiau ymladd. Mae milwyr o Wcráin eisoes yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio tanciau Challenger 2, y disgwylir iddynt gael eu hanfon i Wcráin fis nesaf. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi sancsiynau newydd ar gyfer y rheini sydd wedi helpu Putin i adeiladu ei gyfoeth a chwmnïau sydd wedi elwa o’r rhyfel. Arweiniodd y DU y ffordd drwy roi sgwadron o 14 o danciau brwydro Challenger 2, gyda cherbydau adfer ac atgyweirio arfog, gan annog yr Unol Daleithiau, yr Almaen a chynghreiriaid Ewropeaidd eraill i anfon tanciau hefyd, i helpu Wcráin wrth iddynt frwydro i wthio lluoedd Rwsia a milwyr cyflog grŵp Wagner yn ôl.
Wrth i’r DU gynyddu’r cymorth i frwydr Wcráin am ei rhyddid, mae’n rhoi cannoedd yn rhagor o gerbydau arfog a cherbydau amddiffyn, gan gynnwys cerbydau Bulldog, 24 o ynnau Howitzer AS90, dwsinau yn rhagor o ddronau awyr di-griw, cannoedd o daflegrau soffistigedig, 100,000 o rowndiau gynnau mawr a phecyn £28 miliwn i helpu gyda'r gwaith pontio a chael gwared ar ffrwydron tir, ynghyd â chymorth arall.
Bydd y DU yn darparu £2.3 biliwn neu fwy o gymorth milwrol i ymgyrch Wcráin yn erbyn ymosodiadau Rwsia eleni, cymaint â'r llynedd neu fwy, pan anfonodd y DU fwy na 10,800 o daflegrau gwrth-danc, pum system amddiffyn awyr, 120 o gerbydau arfog, bwledi, dronau a mwy.
Mae sancsiynau wedi'u gosod ar dros 1,320 o unigolion ac endidau, a gwerth £275 biliwn o asedau wedi’u rhewi, gan daro economi Rwsia, cloffi strwythur milwrol ddiwydiannol Rwsia, a chosbi Putin a'i gynghreiriaid, gan gynnwys 120 o oligarchiaid sydd gyda'i gilydd yn werth dros £140 biliwn.
Mae 217,900 o fisâu wedi'u rhoi i helpu pobl o Wcráin ddod i'r DU. Ar 7 Chwefror, roedd hyn yn cynnwys 152,100 fisa a roddwyd fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, a 65,800 a gyhoeddwyd drwy'r cynllun teuluoedd o Wcráin. Mae’r DU hefyd wedi darparu £1.5 biliwn o gymorth economaidd a dyngarol i helpu pobl Wcráin, gyda £1.3 biliwn i helpu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus Wcráin, ac oddeutu £220 miliwn mewn cymorth dyngarol ar gyfer angenrheidiau sylfaenol.
Roedd ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU ar 7 Chwefror yn dangos bod 8,762 o fisâu wedi’u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, a bod 6,437 o bobl Wcráin wedi cyrraedd Cymru, 53 y cant wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r gweddill gan aelwydydd yng Nghymru. Mae rhagor o bobl wedi cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin. Sefydlodd Llywodraeth Cymru ei chynllun uwch-noddwyr i ddarparu cymorth llety a gofal yng Nghymru i 1,000 o bobl o Wcráin. Cafodd wared ar yr angen hefyd i ymgeiswyr gael eu paru ag unigolyn penodol cyn iddynt gael caniatâd i deithio i'r DU drwy'r system fisâu. Fodd bynnag, cafodd y cynllun ei oedi dros dro i geisiadau newydd ar 10 Mehefin y llynedd. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn rhoi amser i wneud trefniadau ar gyfer cam nesaf y llety, ac y byddai pob cais a wnaed cyn 10 Mehefin 2022 yn cael ei brosesu. Mae’n dal yn aneglur felly faint o’r 4,614 o fisâu a noddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â cheisiadau a wnaed cyn 10 Mehefin 2022, a faint sy'n gysylltiedig â chynllun uwch-noddwyr a ailagorwyd ar ôl i Lywodraeth Cymru ystyried ei bod wedi gwneud trefniadau ar gyfer cam nesaf y llety.
Yn ei datganiad ar yr ymateb dyngarol ddoe, dywedodd y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol fod dros 1,300 o’r rheini y mae Llywodraeth Cymru wedi’u noddi bellach wedi symud i lety mwy hirdymor. Yn y cyd-destun hwn, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog ddoe:
'Adroddir bod nifer o ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi siarad â'r cyfryngau am yr anawsterau y mae nifer ohonyn nhw'n eu cael yn dod o hyd i lety a'i gadw. Er enghraifft, dywedwyd wrth ffoaduriaid o Wcráin y bu'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi nawdd nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae'n ymddangos bod landlordiaid yn amharod i dderbyn tenantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol.'
Wrth ymateb i’r Gweinidog dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a’r ferch a ffodd rhag yr ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i’w noddwr yng Nghymru dynnu’n ôl, ac nad ydynt yn gallu fforddio rhent preifat a'u bod yn ofni y gallai fod rhaid iddynt fyw ar y stryd. Sylwais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai’n darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 ohonynt i letya 800 o ffoaduriaid o Wcráin, i'w hadeiladu erbyn y Pasg.
Ers 2003, rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda’r sector tai, gan rybuddio Llywodraeth Cymru fod Cymru’n wynebu argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd. Yn anffodus, fe wnaethant ein hanwybyddu, gan achosi’r argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru heddiw. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr opsiwn hwn felly, sef opsiwn tai modiwlar, pan fydd yn cael ei chyfran o gronfa newydd Llywodraeth y DU o £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i bobl Wcráin. Yn y cyd-destun hwn, mae gwaith canolfan gymorth integreiddio Pwylaidd Wrecsam ar goridor dyngarol, yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn cynnwys cynigion ar gyfer adeiladu tai dros dro. Ymhellach, mae ffocws carchar Berwyn yn Wrecsam ar adsefydlu drwy waith yn cynnwys cynhyrchu tai modiwlar ecogyfeillgar.
Mae ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa yn Wcráin wedi dibynnu i raddau helaeth ar ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys Link International, sy'n dod â grwpiau cymunedol a ffydd a sefydliadau'r trydydd sector ynghyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol eraill a Llywodraeth Cymru; canolfan gymorth integreiddio Pwylaidd Wrecsam, sy'n cefnogi plant o Wcráin, pobl hŷn, pobl anabl a milwyr; y Groes Goch, sy'n cefnogi ac yn rhoi cartrefi i deuluoedd y disgyblion y cyfarfu Laura Anne Jones a minnau â hwy yn sir Ddinbych ddydd Gwener diwethaf; clybiau Rotari sydd wedi rhoi dros £6 miliwn mewn arian parod ac mewn nwyddau ac wedi rhoi mwy na 100,000 o oriau gwirfoddol i gefnogi Wcráin a’i phobl dros y 12 mis diwethaf; yr ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr; a llawer iawn mwy.
Mae'n rhaid inni ddiolch ar y cyd i bobl Cymru am eu caredigrwydd, eu haelioni a’u penderfynoldeb i gefnogi ein ffrindiau yn Wcráin. Mae’r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarparwyd i Wcráin gan Lywodraethau’r DU a Chymru wedi bod yn hanfodol i gefnogi’r frwydr yn erbyn gormes. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon nawr. Galwaf felly ar bob Aelod i gefnogi’r cynnig hwn, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun hirdymor i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru, i sicrhau y gall Cymru fod yn genedl noddfa go iawn. Diolch yn fawr.
Diolch i’r blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl hon; mae'n amserol iawn, wrth gwrs, oherwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad hwn. Ar adeg pan fo pobl yn ceisio creu rhaniadau mewn gwleidyddiaeth, credaf ei bod yn dda cael cyfle i ddod at ein gilydd hefyd. Roeddwn yn gwrando ar Mark Isherwood yn agor y ddadl, a sylwais fod dau air a ddefnyddiodd yn britho fy araith innau hefyd, yn fy nodiadau yma: y cyntaf yw ‘creulondeb’ a’r ail yw ‘haelioni’.
Pan welwch ddigwyddiad rhyngwladol fel yr ymosodiad ar Wcráin, rydych yn gweld creulondeb ar ei ffurf fwyaf amrwd, a'r adeg hon y llynedd, gwelsom y lluoedd yn cronni o amgylch Wcráin a chelwyddau Putin wrth iddo honni nad oeddent yn cynllunio i ymosod ar y wlad honno. Ers hynny, rydym yn sicr wedi gweld Vladimir Putin yn comisiynu troseddau rhyfel, ac mae angen iddo gael ei ddwyn i gyfrif am weithredoedd ei filwyr dros y flwyddyn ddiwethaf hon.
Ond rydym hefyd wedi'i weld ei ormes creulon ar ei wlad ei hun, yn Rwsia. Darllenais ddoe am stori myfyriwr a oedd wedi sôn ar ei chyfrif Instagram ei bod yn gwrthwynebu'r rhyfel yn Wcráin. Mae hi’n gwisgo tag electronig ac yn wynebu blynyddoedd o garchar, dim ond am ddweud ei bod yn gwrthwynebu’r Llywodraeth ar Instagram. Mae'n greulondeb tuag at Wcráin, ond mae hefyd yn greulondeb tuag at bobl Rwsia. Mae angen inni allu dweud gyda’n gilydd fel Senedd y byddwn yn sefyll yn erbyn y creulondeb hwn, ac y byddwn yn cydsefyll gyda haelioni pobl ledled Cymru ac ar draws y gymuned ryngwladol sydd wedi cefnogi pobl Wcráin, ac sydd wedi estyn llaw i bobl Wcráin.
Fe fu’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi arwain ymateb yng Nghymru i’r ymosodiad hwn mewn ffordd anhygoel ac emosiynol, a minnau'n sefyll ar y ffin ar y ffordd i Lviv ym mis Rhagfyr, ac fe wnaethom sefyll yno am dair awr ymhlith cerbydau eraill yn llawn o gymorth a roddwyd gan bobl o wledydd eraill i bobl Wcráin. Gwelsom haelioni dynol, ymrwymiad dynol ac undod dynol yn y tryciau a'r faniau a'r ceir hynny, yn yr eira, yn aros i groesi'r ffin i roi popeth roeddent wedi gallu ei gasglu yn eu gwledydd eu hunain i bobl Wcráin—haelioni gweithredol, haelioni o ran ysbryd a haelioni o ran ymrwymiad ac undod.
Rydym yn meddwl nawr am yr wythnos nesaf, sy'n nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad, a gwelwn unwaith eto y milwyr yn cael eu cynnull ar ffiniau Wcráin, a gwelwn eto fod Putin yn benderfynol o chwalu ysbryd pobl Wcráin. Felly, fe ddywedwn eto y byddwn yn cydsefyll gyda phobl Wcráin, a dywedwn eto y byddwn yn parhau i weithredu mewn ysbryd o undod i sicrhau bod pobl Wcráin yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, nid yn unig i wrthsefyll yr ymosodiad a'r creulondeb, ond hefyd i ailadeiladu eu gwlad wedyn.
Rydym wedi gweld, yn fy amser i yma yn ceisio helpu i gefnogi pobl Wcráin—. Gwelsom beth oedd hynny'n ei olygu i bobl yn Lviv ym mis Rhagfyr. Yfory, byddwn yn gadael eto i deithio i Kyiv yr wythnos nesaf gyda mwy o gymorth, mwy o gefnogaeth. Mae Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon, o bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd hon, wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn darparu’r cymorth sydd ei angen i ddarparu’r gefnogaeth honno a’r ymrwymiad hwnnw i bobl Wcráin. Ac mae hynny'n dyst, yn fy marn i, i rym democratiaeth seneddol.
Rydym hefyd wedi gweld pwysigrwydd ein strwythurau diogelwch, ein strwythurau amddiffyn a’n ffyniant economaidd yn y gorllewin yn cael eu profi fel erioed o’r blaen. Yr wythnos hon, roedd yn bwysig gweld arweinwyr NATO yn cyfarfod ac yn ailymrwymo i sicrhau bod gan fyddin Wcráin yr arfau rhyfel sydd eu hangen arnynt i amddiffyn eu tiriogaeth. Ac mae angen inni ddweud yn y cynllun—ac rwy'n derbyn bod y Ceidwadwyr wedi gofyn amdano, a hoffwn innau ei weld hefyd—y byddwn yn cefnogi diwydiant amddiffyn Cymru i gynnal y gwaith o gynhyrchu'r arfau rhyfel y mae gofyn amdanynt er mwyn amddiffyn pobl Wcráin. Byddwn yn parhau i ddadlau dros y cerbydau, y tanciau a’r arfau sydd eu hangen i amddiffyn pobl Wcráin. Nid yw geiriau cynnes yn dda i ddim pan fyddwch yn ymladd yn erbyn unben. Yr hyn sydd angen inni allu ei wneud yw sicrhau bod gan Wcráin y bwledi a'r ffrwydron a'r arfau rhyfel i amddiffyn eu tiriogaeth hefyd.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae rhyfel yn effeithio ar bobl. Mae'n effeithio ar fodau dynol. Mae’r lluniau a welsom dros y flwyddyn ddiwethaf ar ein sgriniau teledu wedi bod yn wirioneddol dorcalonnus. Mamau a thadau'n crio dros eu plant. Plant yn crio dros eu tadau a'u mamau. Fis Rhagfyr diwethaf, gwelais i a’r Cwnsler Cyffredinol blentyn yn ffarwelio â thad mewn iwnifform, yn sefyll wrth y safle bws yn Lviv yn nhywyllwch ben bore, mewn dagrau, yn ffarwelio. Lluniau rydym wedi’u gweld o’r blaen, ond lluniau a welsom mewn du a gwyn, ac nid lluniau roeddem yn disgwyl eu gweld yn lliwiau llachar yr unfed ganrif ar hugain.
Mae llawer ohonom wedi treulio oes yn ymgyrchu dros heddwch ar y cyfandir hwn, ac wedi bod yn dyst i realiti hil-laddiad ar y cyfandir hwn yn ystod ein hoes. Y wers y mae'n rhaid inni ei dysgu o Wcráin yw ein bod yn darparu'r holl gymorth sy'n angenrheidiol i amddiffyn Wcráin, ei phobl, ei phoblogaeth. Rydym yn helpu ac yn gweithio gyda Wcráin i ailadeiladu'r wlad wedyn. Ac yna, rydym yn dwyn i gyfrif, mewn tribiwnlysoedd rhyngwladol, y bobl sydd wedi creu'r creulondeb a'r rhyfel hwn. Yna, mae'n rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldeb am y bywydau y maent wedi'u chwalu a'r difrod y maent wedi'i wneud i Wcráin a'n Hewrop ni. Diolch.
I ddechrau, hoffwn ailadrodd a chymeradwyo'r geiriau sydd eisoes wedi cael eu llefaru, a hoffwn gofnodi ein diolch, fel Aelodau yma yn y Senedd, i'r rhai ohonoch sydd wedi bod draw i weld yr angen draw yno drosoch eich hunain. Credaf ei bod yn deg dweud mai'r rhai sy'n dioddef creulondeb y rhyfel erchyll hwn yn fwyaf poenus yw'r rhai sy'n amddiffyn eu mamwlad, y boblogaeth sifil a llawer iawn o fenywod a phlant. Bydd llawer wedi bod yn rhy ifanc i ddeall hyd yn oed pam fod eu bywydau wedi cael eu diwreiddio'n sydyn ac yn greulon.
Fodd bynnag, mae cynhesrwydd a haelioni cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig wedi ein dangos ar ein gorau. Hyd yn oed yn fy etholaeth i, ar draws Aberconwy, roedd pobl leol yn gyflym iawn i fod eisiau cynnig cymorth, eu cartrefi fel to dros bennau'r rheini sy'n ffoi rhag rhyfel erchyll Putin yn Wcráin. Fe wnaethant ddangos y caredigrwydd a'r cynhesrwydd hwnnw—yr un caredigrwydd a chynhesrwydd sydd bob amser wedi bod yn rhan o'r ysbryd Prydeinig.
Fodd bynnag, mae rhai problemau o hyd gyda setlo o ddydd i ddydd a'r cynlluniau integreiddio, ac am y rheini yr hoffwn siarad heddiw, fel Gweinidog tai yr wrthblaid, oherwydd mae'r materion llety hyn yn fy mhoeni. Mae llawer o ffoaduriaid Wcreinaidd wedi siarad â chwmnïau newyddion, fel WalesOnline, am yr anawsterau y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu nawr i ddod o hyd i dai, ac i allu cadw eu llety. Ceir miliynau o bobl wedi'u dadleoli sy'n dal i fod, hyd heddiw, yn symud o un lleoliad dros dro i'r llall, yn ansicr pryd y byddant yn dychwelyd adref.
O'r 8 miliwn o bobl a wnaeth ffoi o Wcráin, daeth 7,000 i Gymru. Mae hanner y ffoaduriaid yng Nghymru yn cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cynllun hwnnw. Maent wedi treulio'r rhan fwyaf o'u harosiadau, fodd bynnag, mewn gwestai a lleoliadau tebyg, na chawsant erioed mo'u cynllunio ar gyfer arosiadau hirdymor a bod yn onest. Mae'r hanner arall wedi dod drwy'r cynllun nawdd Cartrefi i Wcráin. Mae ffoaduriaid Wcreinaidd sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi nawdd wedi cael gwybod nad yw canolfannau croeso'n opsiwn fel llety diogel os oeddent wedi cyrraedd y DU fel rhan o'r cynllun uwch-noddwyr. Felly, gydag awdurdodau lleol yn eu cynghori i edrych ar y farchnad rhentu preifat, mae'n ymddangos bod rhai landlordiaid yn amharod i rentu i denantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol.
Siaradodd ffoadur arall o Wcráin am y profiad, gan ddweud,
'yn y dechrau i mi roedd popeth yn ormesgar a gallai'n hawdd dorri person cyffredin... Mae'r system i ryw raddau yn tramgwyddo ac yn bychanu urddas ffoadur ac yn darparu cyfle i noddwr.'
Mae rhai o'r noddwyr hynny'n landlordiaid sydd, ar unrhyw adeg,
'yn gallu troi'r tenant allan ar y stryd neu'n gallu trefnu amodau annioddefol, a hawl i ymyrryd ym mywyd personol rhywun. Mae'n system sy'n gallu ennyn nodweddion dynol annerbyniol fel trahauster, haerllugrwydd ac agweddau negyddol eraill' y mae rhai Wcreiniaid bellach yn eu profi. Felly, rwy'n gobeithio, yn yr ymateb, y gallwch roi sicrwydd i ni ynglŷn â sut rydych chi wedi bod yn ymdrin â hyn.
Mae'n amlwg fod yna ddiffyg cydlynu cydgysylltiedig o hyd ynghylch gweithredu cymorth ac integreiddio cynlluniau ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd. Ond craidd y broblem yma yng Nghymru yw nad oes gennym ddigon o gartrefi. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd llai na 50 y cant o'r targed ar gyfer anheddau newydd yn flynyddol, felly mae angen inni edrych ar hyn o ddifrif. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol eisoes yn berchen ar dir y gellid codi tai'n gyflym arno, ac rwy'n cymryd y pwynt a nododd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn gynharach am dai modiwlar. Mae'r amser wedi dod i ffurfio tasglu adeiladu cartrefi i yrru prosiectau cyflym fel tai modiwlar wedi'u gwneud mewn ffatri ar dir sy'n eiddo cyhoeddus. Mae gennym argyfwng tai mawr sydd bellach yn golygu bod ffoaduriaid yn gaeth mewn gwestai, nid cartrefi. Mae'n bryd i bawb ohonom gydweithio i oresgyn y fiwrocratiaeth sy'n ein dal rhag rhoi to uwchben yr unigolion mwyaf bregus hyn. Mae llygaid y byd yn ein gwylio ac mae'n rhaid inni wneud hyn yn iawn. Diolch.
Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â phobl Wcráin am ddangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb ymosodiadau creulon parhaus Rwsia. Ac mae'n fy nigalonni, flwyddyn ers goresgyniad anghyfreithlon a barbaraidd Putin—fel y dywedodd Sioned Williams ddoe—yn Wcráin fod y rhyfel yn parhau. Mae troseddau rhyfel erchyll yn cael eu cyflawni a dylai swyddogion Rwsia sy'n arwain y rhyfel, gan gynnwys Vladimir Putin, fod ar brawf am droseddau rhyfel. Mae rhyfel anghyfreithlon Putin a pharhad yr ymosodiad ar Wcráin, ei sofraniaeth a'i chyfanrwydd tiriogaethol yn dangos diffyg parch llwyr tuag at siarter y Cenhedloedd Unedig a hunanbenderfyniaeth cenhedloedd eraill.
Hoffwn bwysleisio pwynt 3 y cynnig wrth gymeradwyo gwytnwch a chryfder a dewrder holl bobl Wcráin yn wyneb y creulondeb hwn. Ac er gwaethaf y creulondeb, a thra bod Wcráin yn parhau i amddiffyn ei hun yn erbyn Rwsia, rhaid cofio hefyd fod y wlad yn dal i chwarae rhan allweddol yn rhyngwladol. Mewn ymateb i'r daeargryn dinistriol ar ffin Twrci-Syria, ni phetrusodd Wcráin rhag anfon staff brys a pheiriannau achub bywyd i gynorthwyo'r ymdrech achub, gan chwarae rhan gyfrifol yn fyd-eang fel gwlad.
Rwy'n annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu cymorth dyngarol ac ariannol i Wcráin. Ac mae'n drist clywed, yn ôl Swyddfa'r Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol, ar 30 Ionawr, fod 7,155 o sifiliaid wedi marw, a 438 ohonynt yn blant. Ar ben hynny, dywedir bod 11,662 o bobl wedi cael eu hanafu, ac maent wedi nodi y gallai'r niferoedd go iawn fod yn llawer iawn uwch. I mi, mae hyn yn pwysleisio trasiedi rhyfel a'r angen i ddod o hyd i ffyrdd heddychlon o ddatrys gwrthdaro. Mae'n rhaid inni wneud ein gorau glas i osgoi marwolaeth a dinistr pellach, ond yn y pen draw, mae dod â'r rhyfel i ben yn heddychlon yn dibynnu ar Rwsia.
Ni allwn anghofio mai nod Putin yw dinistrio gwladwriaeth Wcráin a sefydlu cyfundrefn byped, ac mae'n afrealistig disgwyl i drafodaethau ddigwydd ar y telerau hynny. Nid yw caniatáu i wledydd gael eu concro a'u hiselhau gan ormeswyr yn rhywbeth y gallwn adael iddo ddigwydd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn glir fod unrhyw arfau'n cael eu cyflenwi er mwyn i Wcreiniaid amddiffyn eu hunain, a rhaid inni fod yn wyliadwrus o unrhyw risg o ddwysáu'n rhyfel ymosodol. Dylem edrych ar bob dull arall i helpu pobl Wcráin ar hyn o bryd. Er enghraifft, dylem edrych ymhellach ar barhau ac ymestyn sancsiynau yn erbyn economi Rwsia. Rhaid i'r sancsiynau hyn hefyd leihau'r perygl o ymgyrchoedd gan Rwsia yn y dyfodol. Fe wnaeth cydfeddiant Crimea yn 2014 arwain at sancsiynau economaidd, ond nawr gwyddom nad oeddent yn ddigon i atal cymhelliad Rwsia i oresgyn Wcráin ymhellach y llynedd.
A hoffwn alw ar bob un ohonon—. Rydym eisoes wedi nodi bod Cymru yn genedl noddfa, ond fel y nodwyd yn ystod cyfraniad Sioned Williams ddoe ac ymateb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ni allwn ganiatáu i elyniaeth barhau yma yng Nghymru. Rwyf wedi dychryn ac yn drist iawn o weld tudalen Facebook yn cael ei sefydlu—anfonwyd dolen ataf—sy'n ysgogi casineb a phrotest arfaethedig yn Llanilltud Fawr fis nesaf. Nid yw hyn yn cyd-fynd â'n gwerthoedd fel cenedl, a hoffwn annog pob un ohonom i ystyried yr iaith a ddefnyddiwn ac i ystyried sut y caiff ei chlywed gan bawb a gynrychiolwn. Grŵp Facebook agored yw hwn, ac o edrych arno, mae'r sylwadau'n hiliol, maent yn senoffobig, maent yn llawn casineb. Nid dyna'r gymdeithas rwyf am i Gymru fod, ac rwyf wedi fy nhristau.
Ni allaf ddweud wrth y bobl Wcreinaidd sydd wedi bod drwy gymaint, ac eraill—. Nid yw pobl yn dewis bod yma. Hoffent fod yn ddiogel yn eu cartrefi, ond eto maent wedi cael eu gorfodi i fyw yma ac maent yn gwneud eu gorau. Mae'r casineb a wynebant wedyn pan fyddant yn cyrraedd yma, yn hytrach na chael eu croesawu, yn rhywbeth a ddylai ddychryn pob un ohonom. Ac o ystyried yr ymosodiadau a welsom yn Lerpwl yr wythnos diwethaf, mae meddwl bod yr un grŵp yn ysgogi protest yma yng Nghymru yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn ofalus yn y ddadl hon. Os yw Cymru i fod yn genedl noddfa go iawn, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ei bod hi, a chael gwared ar y casineb hwn ar unwaith.
Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw ar y cynnig ar yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Hoffwn atgoffa Aelodau o fy nghofrestr buddiannau mewn perthynas ag ymddiriedolwyr elusennau.
Yn gyntaf, rwyf am adleisio sylwadau a wnaed o bob rhan o'r Siambr wleidyddol heddiw. Maent yn dangos undod gyda phobl Wcráin, ynghyd â phawb sy'n darparu cymorth hefyd. Ac fel yr amlinellwyd eisoes heddiw, mae'r golygfeydd a welsom yn Wcráin dros y 12 mis a mwy diwethaf wedi bod yn gwbl erchyll, yn dorcalonnus, gyda goresgyniad gwaedlyd a barbaraidd Putin ar Wcráin yn parhau, mwy o deuluoedd yn cael eu chwalu a'u gorfodi i ffoi o'u cartrefi er diogelwch. Mae'r goresgyniad hwn wedi brawychu'r byd ac wedi uno cenhedloedd democrataidd yn eu condemniad o weithredoedd creulon yr Arlywydd Vladimir Putin yn erbyn un o'n cynghreiriaid Ewropeaidd. Mae'r erchyllterau a welwn yn Wcráin yn mynd â ni yn ôl i gyfnod tywyll, cyfnod y credem ei fod yn gadarn yn y gorffennol ar gyfandir Ewrop, ond yn anffodus, nid yw hynny'n wir.
Rwyf eisiau gallu defnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw'r Aelodau at bwynt 5 y cynnig heddiw. Hoffwn innau hefyd ddiolch i bobl Cymru am eu hymateb, am eu cefnogaeth ac am y cyfeillgarwch a ddangoswyd tuag at bobl Wcráin. Yn sicr, o ystyried pwyntiau Heledd Fychan nawr, mae yna bocedi o bobl yng Nghymru nad ydynt yn rhannu'r un gefnogaeth a llaw cyfeillgarwch, ond mae llawer o bobl ledled Cymru yn cynnig llaw cyfeillgarwch yn briodol i bobl sy'n ffoi o Wcráin.
Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n arbennig ar grŵp o bobl a sefydliadau sy'n parhau i gefnogi ffoaduriaid Wcreinaidd yn gadarn, sef ein heglwysi a'u cynulleidfaoedd ledled Cymru, ni waeth beth fo'u henwad. Soniodd Mark Isherwood wrth agor am nifer o grwpiau ffydd a'r gwaith y maent yn ei gyflawni. Pan edrychwn ar eglwysi yn gyffredinol, dros y 12 mis diwethaf, drwy'r rhwydwaith Welcome Churches yn unig, sef sefydliad sy'n cynorthwyo eglwysi i gefnogi ffoaduriaid, mae dros 1,000 o eglwysi wedi croesawu bron i 18,000 o ffoaduriaid ledled y DU, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd gymaint o'u hangen.
Pan siaradwn am gefnogaeth i ffoaduriaid o Wcráin, rydym yn siarad am gefnogi'r unigolyn cyfan. Soniodd Alun Davies am hyn yn ei gyfraniad ychydig funudau'n ôl—mae'n ymwneud â chefnogaeth i bobl ac mae'r unigolyn cyfan yn cynnwys ei ffydd, yn enwedig yn ystod cyfnod o drawma a chaledi. Mae hyn yn hynod bwysig i'n ffrindiau yn Wcráin, oherwydd mae tua 85 y cant o bobl yn Wcráin yn nodi bod ganddynt ffydd Gristnogol, gyda bron i un o bob pump yn Wcráin yn mynychu gwasanaeth eglwysig bob wythnos. Felly, mae'n hollbwysig fod eu rhyddid crefyddol, a'u mynegiant ohono, yn gallu parhau tra'u bod yma yng Nghymru.
Cyn y ddadl hon, rwy'n siŵr fod aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi derbyn briff gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr ynglŷn â'r gefnogaeth y maent hwy wedi bod yn ei ddarparu, sy'n sicr yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Yn fwyaf arbennig, gan weithio gyda'r Eglwys Gatholig, mae Rhwydwaith Gweithredu Cymdeithasol Caritas wedi gwneud gwaith gwych yn cefnogi gwaith adleoli ffoaduriaid ar draws y DU, ond hefyd yn benodol yma yng Nghymru. Ar ben hyn, gwelwn sefydliadau fel CAFOD ac eraill yn cynnig cymorth ymarferol ar lawr gwlad yn Wcráin, fel darparu prydau bwyd a chymorth arall hefyd.
Hoffwn ganmol a diolch i eglwysi a'r eglwys yn ehangach, a grwpiau ffydd eraill, am gamu ymlaen yn ystod y cyfnod hwn a sicrhau bod y rhai sy'n cael cysur a noddfa mewn ffydd yn cael eu croesawu i gymunedau eglwysig gyda breichiau agored. Mae cymaint o eglwysi'n gwneud hyn gyda gwirfoddolwyr yn dawel ac yn ostyngedig, gan alw ar bob un ohonom i groesawu'r dieithryn.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gwneud cymaint i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae wedi bod yn sobreiddiol clywed cyfraniadau o bob rhan o'r Siambr hyd yma y prynhawn yma. Dyma'r amser i bob un ohonom barhau i fod yn unedig a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin, gan ddwyn Putin a'i gynghreiriaid i gyfrif am eu hymosodiadau barbaraidd a diwahân ar sifiliaid diniwed Wcráin. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n anodd credu ei bod hi wedi bod yn flwyddyn ers inni gael ein dadl olaf yma yn y Senedd, ar ddechrau'r rhyfel. Mae'n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny. Rwy'n meddwl ei bod yr un mor anodd deall y creulondeb a'r dioddefaint sydd wedi digwydd yn Wcráin ers hynny. Dyma'r argyfwng hiwmanitaraidd mwyaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd, gyda miliynau wedi'u dadleoli, dros 7,000 o sifiliaid Wcráin wedi'u lladd, bron i 500 ohonynt yn blant. Mae dinasoedd cyfan, gan gynnwys Mariupol a Bakhmut, pentrefi a threfi dirifedi wedi cael eu chwalu i'r llawr gan luoedd Rwsia. Cafwyd cannoedd o filoedd o farwolaethau ac anafiadau ar ochr Wcráin a Rwsia. Ond rhaid inni beidio ag anghofio bod Wcráin yn wladwriaeth sofran, sydd wedi creu ei llwybr democrataidd ei hun ers iddi ddod yn annibynnol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd dros 30 mlynedd yn ôl. Mae ganddi hawl i hunanbenderfyniaeth. Ein dyletswydd ni felly, o un Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd i'r llall, yw cefnogi'r sifiliaid diniwed a ddaliwyd yn y rhyfel barbaraidd a dibwrpas hwn. Rwy'n credu bod pob un ohonom yma'n teimlo'n ostyngedig iawn wrth weld dewrder dinasyddion cyffredin yn amddiffyn eu gwlad.
Mae hefyd wedi bod yn wythnos ers i ddatganiad hanesyddol Llundain gael ei arwyddo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Wcráin. Fe wnaeth ailddatgan ymrwymiad y DU i helpu i dynnu lluoedd Rwsia o diriogaeth Wcráin a chefnogi adferiad a dyfodol hirdymor Wcráin, gan gynnwys gwaith i atgyweirio difrod i gyflenwadau ynni a gweithio gyda'n gilydd i helpu i sicrhau bod grawn Wcráin yn cyrraedd marchnadoedd y byd unwaith eto. Mae'r datganiad yn ffurfioli cynllun strategol i helpu Llywodraeth Wcráin a'i phobl yn ôl ar eu traed yn y tymor hir. Rwy'n falch iawn o weithredoedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hyd yma i helpu pobl Wcráin i ennill eu gwlad yn ôl, o drefnu sancsiynau rhyngwladol i hyfforddi milwyr Wcráin i ymrwymo £4.6 biliwn mewn cymorth milwrol dros ddwy flynedd i ddarparu bron i 0.25 miliwn o fisas i Wcreiniaid sy'n ceisio dod i'r DU a £1.3 biliwn mewn cefnogaeth gyllidol. Mae'n amlwg ein bod yn barod i wynebu'r ymosodwyr hyn gyda'n gilydd. Rwyf hefyd yn falch fod cymaint o Gymry wedi agor eu cartrefi i ffoaduriaid, fel y nodwyd gennym yn barod, ond rwy'n meddwl bod mwy y gallwn ei wneud yma i gadw'r croeso'n gynnes wrth inni nesáu at flwyddyn ers i'r gwrthdaro ddechrau.
Rwy'n pryderu wrth glywed bod hanner y ffoaduriaid o Wcráin sy'n cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru wedi treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yma mewn gwestai neu leoliadau eraill na chawsant eu cynllunio ar gyfer aros ynddynt yn hirdymor. Mae ffoaduriaid Wcreinaidd sydd wedi ei chael hi'n anodd gadael eu cartrefi nawdd wedi ei chael hi'n anos fyth dod o hyd i lety addas, gan eu bod yn honni bod landlordiaid yn amharod i adael iddynt rentu oherwydd diffyg sefydlogrwydd a'u henillion. Mewn gwirionedd, fe gysylltodd un ffoadur o Wcráin â mi yn gynharach heddiw gyda'r union broblem honno: roeddent yn poeni am adael y gwesty roeddent wedi bod yn aros ynddo, roeddent yn poeni y gallent orfod symud o un lleoliad i'r llall a'r effaith y gallai hynny ei chael ar addysg eu plentyn, am eu bod newydd gofrestru mewn ysgol yng Nghymru, rhywbeth a oedd i'w groesawu'n fawr. Ond mewn gwirionedd, os cânt eu symud i leoliad gwahanol, efallai y bydd yn rhaid iddynt ddadwreiddio a newid unwaith eto, sy'n bryder gwirioneddol iddynt. Felly, er bod yr ewyllys yno ar y dechrau, mae'n rhaid inni fynd ychydig pellach i sicrhau bod yr Wcreiniaid sydd wedi gwneud y daith hon i Gymru yn cael eu cefnogi drwy gydol y rhyfel, fel y gallant naill ai ddewis aros yma yn y diwedd, os mai dyna y dymunant ei wneud, neu ddychwelyd adref pan fydd hi'n ddiogel iddynt wneud hynny.
Yma, gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo cynghorau i baratoi ar gyfer grwpiau mawr o bobl drwy ryddhau tai a darparu addysg a gofal iechyd fel bod cyn lleied o aflonyddu â phosibl i deuluoedd sy'n aros yma. Mae posibilrwydd hefyd o weithio gyda landlordiaid preifat a chymdeithasau tai i ryddhau llety addas yn y tymor hir. Rydym yn cytuno felly fod angen i Lywodraeth Cymru lunio cynllun hirdymor, gan nad ydym yn gwybod pryd y gwelwn ddiwedd ar y rhyfel, yn anffodus, ac ni wyddom pa mor hir y bydd yn ei gymryd i helpu i ailadeiladu Wcráin yn y dyfodol.
Ond i orffen ar nodyn cadarnhaol, mae gennyf enghraifft wych o bartneriaeth gymunedol gyda ffoaduriaid Wcreinaidd yn Abertawe. Rai misoedd yn ôl, fe wnaeth ffoaduriaid o Wcráin wirfoddoli i dacluso a dechrau prosiect ym muarth yr uned blastig a llosgiadau yn Ysbyty Treforys. Mae'r gwytnwch, yr ysbryd cymunedol hwn a'r awydd i roi rhywbeth yn ôl yn rhywbeth y dylem ei gofio ac y dylem ei gefnogi, yn enwedig o ystyried bod y ffoaduriaid hyn wedi gadael eu mamwlad heb fawr ddim. Oherwydd am bob gweithred o ddrygioni yn y byd hwn—ac mae'r rhyfel hwn wedi tynnu sylw at rai o'r pethau mwyaf anfad y gallwch eu dychmygu—rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer iawn mwy o weithredoedd o garedigrwydd sy'n arddangos y gorau o'r ysbryd dynol, ac nid oes unrhyw wlad, yn fy marn i, yn arddangos hynny'n fwy yn y byd na'r hyn a welsom gan Wcreiniaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu yn y ddadl hon. Sláva Ukrayíni.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad yn y ddadl hon. A gaf fi hefyd ddechrau drwy ailadrodd fy niolch i'r Cymry ac i'r Senedd hon am y gefnogaeth ysgubol i Wcráin a'r gydnabyddiaeth nad rhyfel i Wcreiniaid yn unig yw hwn, ei fod yn rhyfel i amddiffyn rheolaeth y gyfraith, democratiaeth a chyfraith ryngwladol? A gaf fi fynegi fy niolch hefyd am y gefnogaeth anhygoel i deuluoedd o Wcráin sydd wedi gorfod ceisio lloches yma, am y croeso a gawsant ledled Cymru, ac yn arbennig am waith y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, sydd yn fy marn i, wedi ychwanegu gwir ystyr i enw da Cymru fel cenedl noddfa, nid yn unig i Wcreiniaid ond i bob ffoadur ac i bawb sydd wedi gorfod ffoi o'u mamwlad.
Bydd yr wythnos nesaf yn un emosiynol i mi. Bydd yn flwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar wladwriaeth annibynnol sofran. Bron i flwyddyn yn ôl yr aeth arweinydd Plaid Cymru a minnau i Kyiv i ddangos undod a chefnogaeth i bobl Wcráin. Ers hynny, rydym i gyd yn gweld bellach effaith y goresgyniad hwnnw ddydd ar ôl dydd: tua 15 miliwn o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol neu'n allanol; degau o filoedd o sifiliaid wedi'u lladd, wedi'u llofruddio, eu harteithio, eu treisio, eu bomio; ysbeilio, dinistrio seilwaith dinesig, mewn modd ac a'r raddfa nad ydym wedi'i weld ers yr ail ryfel byd; y 6,000 o blant a gipiwyd sydd wedi'u gwasgaru i wersylloedd hidlo ar gyfer eu hailaddysgu, gyda'r ieuengaf ohonynt yn bedwar mis oed.
Mae'r rhyfel hefyd yn rhyfel o hil-laddiad cenedl Wcráin. Mae gennyf gyda mi heddiw gerdyn estron fy nhad o'r adeg pan oedd yn ffoadur yn y wlad hon. Hyd at 1960, bu'n rhaid iddo gofrestru gyda'r heddlu. Rwy'n cofio'r sarjant a arferai ymweld yn wythnosol. Ar y cerdyn, mae ei genedligrwydd wedi'i nodi fel 'ansicr'—'U' yw'r nod, 'uncertain'—a hynny oherwydd mai fel Wcreiniad y byddai'n disgrifio ei hun, ond wrth gwrs, nid oedd Wcreiniaid yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol. Felly, aeth heb unrhyw ddynodiad o'i genedligrwydd ar wahân i'w ddisgrifiad ei hun. Pe bai Putin yn llwyddo, mae yna oddeutu 44 miliwn o bobl a fyddai hefyd yn colli eu hunaniaeth genedlaethol, a fyddai'n cael eu nodi fel 'U'—mewn gwirionedd, ni fyddent yn cael eu nodi fel 'U', byddent yn cael eu nodi fel 'R', fel Rwsiaid, a'u hiaith a'u diwylliant wedi eu dinistrio. Dyna pam rwy'n dweud bod hwn hefyd yn rhyfel o hil-laddiad ac o ddifodi diwylliannol. Un cam yw Wcráin, wedyn mae'r gwledydd Baltig, Estonia, Latfia, Lithwania, Georgia, a Gwlad Pwyl wrth gwrs.
Yr wythnos nesaf, byddaf fi ac Alun Davies, ar ran holl bleidiau gwleidyddol y Senedd hon ac ar ran pobl Cymru, yn dosbarthu cyflenwadau a cherbyd i fataliwn Wcreinaidd ac i undeb glowyr Wcráin, sydd â nifer o'i aelodau'n brwydro ar y rheng flaen a nifer ohonynt eisoes wedi dioddef. Mae'n rhan o gyfraniad Cymru i'r ymgyrch unedig a rhan o'n cyfrifoldeb hanesyddol a rhyngwladol i gefnogi pobloedd gorthrymedig ledled y byd—yn Syria, Affganistan, Palesteina, pobl Uyghur yn Tsieina, ac mewn llawer o lefydd eraill yn anffodus. Rydym yn cefnogi Wcráin a democratiaeth yn Ewrop gyda'n cymorth materol ac ariannol. Mae Wcreiniaid yn cefnogi'r un ddemocratiaeth â'u bywydau. Rwy'n argyhoeddedig y bydd Wcráin yn ennill. Слава Україні! Героям слава! Gogoniant i Wcráin a gogoniant i'n harwyr.
A gaf fi ychwanegu Moldofa at y rhestr honno, Gwnsler Cyffredinol? Rydym wedi cyfarfod â llysgennad Moldofa, ac mae honno'n amlwg yn wlad arall dan fygythiad.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau—ac rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Siambr gyfan yn wir am i mi ddechrau—drwy ddiolch i Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, am ei gyfraniad i'r ddadl hon heddiw? Diolch iddo am ei ddewrder a'i ymrwymiad ac am rannu ei brofiad personol a theuluol, wrth inni sefyll gyda'n gilydd gyda Mick, ar draws y Siambr gyfan rwy'n credu, yn dyst i'r ymateb a'r ffordd y mae wedi ein harwain yn ein hymateb i'r ymosodiad erchyll ar Wcráin gan Putin bron i flwyddyn yn ôl.
Mae'r cynnig yma rydych wedi'i gyflwyno yn bwysig heddiw, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ei gyflwyno i'w drafod. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd ar draws y Siambr hon unwaith eto yn diolch i bawb yng Nghymru sy'n chwarae rhan mor bwysig yn yr ymateb dyngarol hwn, ac sydd wedi chwarae'r rhan honno dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod pwynt 1 y cynnig yn mynegi'r gwirionedd sylfaenol fod holl boen a dioddefaint pobl Wcráin dros y 12 mis diwethaf yn ganlyniad i oresgyniad anghyfreithlon Putin. Mae'r Siambr wedi ei huno ac yn tynnu sylw'n gadarn at y ffaith, ac rwy'n croesawu ei fod wedi cael ei fynegi yma eto, fel y gwnaethom ddoe ar risiau'r Senedd.
Mae pob un ohonom wedi cael ein syfrdanu gan greulondeb yr hyn a welsom ac a glywsom o Wcráin ers dechrau'r goresgyniad. Ni fydd yr un ohonom yn anghofio cyflafan Bucha, y defnydd o bwerdai niwclear fel tarian, y defnydd o garcharorion fel ymladdwyr, a llawer o erchyllterau eraill. Byddwn yn parhau i annog ein gwesteion Wcreinaidd i ystyried ymgysylltu ag ymchwiliad troseddau rhyfel y Llys Troseddol Rhyngwladol i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif.
Er ei bod yn amlwg i'r cyhoedd yng Nghymru a llawer o'r byd yn gyffredinol fod Putin wedi ymosod ar genedl sofran, nid yw'r anghyfiawnderau hanesyddol dyfnach a'r ymddygiad ymosodol parhaus a gyfeiriwyd tuag at Wcráin wedi eu deall cystal. Dyna pam ein bod wedi coffáu Holodomor ym mis Tachwedd y llynedd, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth yn ystod 2023. Byddwn yn cofio'r dioddefwyr ac yn annog mwy o undod gydag Wcreiniaid sydd bellach yn cael noddfa yma yng Nghymru.
Er gwaethaf holl ddioddefaint pobl Wcráin a'r trawma a brofwyd gan Wcreiniaid a groesawyd i'n cymunedau, mae un peth wedi nodweddu eu brwydr yn fwy na dim arall, sef dewrder. Fel y nododd y Prif Weinidog pan wnaethom goffáu Holodomor ym mis Tachwedd, yn hytrach na thorri eu penderfynoldeb, mae'r rhyfel hwn wedi gwneud cewri o bobl Wcráin yn llygaid y byd.
Mae'r gymuned ryngwladol wedi dangos undod rhyfeddol mewn perthynas â'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a roddwyd i Wcráin. Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i Wcráin hyd eithaf ein gallu, er gwaethaf yr argyfwng costau byw difrifol rydym ynddo. Rydym wedi bod yn falch o ddarparu cymorth ariannol drwy'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i ddarparu offer lle bo angen, i agor y llwybr uwch-noddwyr i helpu dinasyddion Wcráin i gyrraedd diogelwch yn gyflymach. A byddwn gyda chi ac yn meddwl amdanoch, Mike Antoniw AS, ein Cwnsler Cyffredinol, Alun Davies, a'ch partner [Anghlywadwy.] Thomas, a fydd yn mynd â'r offer hwn—y daith rydych yn mynd arni i ddarparu offer hanfodol i Wcráin, gyda chefnogaeth drawsbleidiol.
Felly, mae pobl Cymru wedi bod yn ddiwyro yn eu cefnogaeth i'r bron i 7,000 o bobl rydym wedi’u croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag i’r aelodau o'r gymuned Wcreinaidd a oedd eisoes yn galw Cymru’n gartref, a’r rheini sy’n byw ac yn ymladd yn Wcráin. Rydym yn bobl dosturiol sy'n darparu cymorth anhygoel, fel y mynegwyd heddiw. A Ddirprwy Lywydd, sefydlodd Llywodraeth Cymru y llwybr uwch-noddwyr am ein bod am leihau'r risgiau diogelu a lleihau'r rhwystrau i Wcreiniad—menywod a phlant yn bennaf, sy'n ffoi rhag y gwrthdaro angheuol hwn ac yn ceisio noddfa. A dros flwyddyn yn ôl, fe gofiwch inni ymrwymo, i ddechrau, i gefnogi 1,000 o Wcreiniad drwy'r llwybr uwch-noddwyr, ond rydym bellach wedi croesawu dros 3,000 o Wcreiniad i Gymru, ac mae gan 1,500 arall fisâu wedi'u noddi gennym. Nid ydynt wedi cyrraedd eto, ond fe ddywedaf eto heddiw y byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt pan fyddant yn cyrraedd.
A chredaf ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd ati wedyn i ddarparu'r cymorth hwnnw yn ein canolfannau croeso, sydd wedi bod mor bwysig. Mae’r canolfannau croeso hynny wedi bod yn hollbwysig o ran y cymorth rydym wedi’i ddarparu ar gyfer ymgartrefu yng Nghymru: gwasanaethau cyfieithu i’r rheini nad ydynt yn siarad Saesneg; cyfleoedd i ddechrau dysgu Saesneg a Chymraeg; y gwasanaethau iechyd sydd ar gael; plant yn cofrestru mewn ysgolion lleol; y cyngor sydd ar gael i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd mewn gwlad newydd; cymorth gydag arian, budd-daliadau a mynediad at waith. A hefyd, wrth gwrs, ar ôl y cyfnod cychwynnol hwnnw yn llety cychwynnol ein canolfannau croeso, cynorthwyo'r bobl sy'n cyrraedd i gael llety mwy hirdymor.
A dyma pam fy mod am ddweud eto—ac wrth gwrs, cefais gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ddoe yn fy natganiad—fod sicrhau llety mwy hirdymor yn allweddol i ddarparu cymorth i'r rheini sydd wedi'u dadleoli gan yr argyfwng yn Wcráin. Mae'n cynnwys cymysgedd o lety, gan gynnwys llety gan unigolion, y sector rhentu preifat a mathau eraill o lety trosiannol o ansawdd da. Ac mae hynny'n cynnwys tai modiwlar, cynigion a chynlluniau a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys fy awdurdod lleol fy hun, cyngor Bro Morgannwg. A chredaf ei bod yn bwysig dweud eto yn y ddadl hon fod hyn o ganlyniad i’r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, rhaglen bwysig sydd hefyd wedi’i chynyddu o £65 miliwn i £89 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gyda chefnogaeth gan Blaid Cymru, i sicrhau y gallwn ddarparu’r tai o ansawdd da hynny ar unwaith—y llety trosiannol hwnnw. Ac fe welwch hyn yn cael ei ddarparu ledled Cymru mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chan weithio'n agos iawn ar y cyd â'n landlordiaid cymdeithasol hefyd.
Bydd ein cynllun hirdymor i gefnogi Wcreiniad yng Nghymru yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn ein cynllun 'Cenedl Noddfa', ond byddwn yn dweud bod angen rhai atebion arnom i gwestiynau na all ond Llywodraeth y DU eu hateb. Ac fel y dywedais ddoe, mae'n bwysig ein bod yn pwyso a'n bod yn cael eich cefnogaeth i ofyn i Weinidog y DU, Felicity Buchan, ddatblygu llwybr tuag at ymgartrefu ar gyfer Wcreiniad sy'n dymuno aros yn hirdymor, a gwyddom fod angen inni wneud hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban hefyd, ar ôl cyflwyno ein gweledigaeth hirdymor.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi gwahodd Aelodau o’r Senedd o bob plaid i’r digwyddiad i nodi ymosodiad Putin ar Wcráin ar 27 Chwefror, i gyfarfod â gwesteion, gwesteiwyr a phartneriaid o lywodraeth leol a’r trydydd sector ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd newydd gyhoeddi munud o dawelwch am 11 o’r gloch ar 24 Chwefror, a byddwn yn nodi hynny. Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud safiad cryf gyda'n gilydd y prynhawn yma i anrhydeddu a chefnogi pobl ddewr Wcráin. Sláva Ukrayíni, heróiam sláva.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, ac yn enwedig Mick, yn amlwg, sydd â chysylltiadau personol mor gryf ag Wcráin? Hoffwn ddweud nad ydym byth am weld yr 'U' honno eto. Mae gennych wlad o'r enw Wcráin. Ni ddylai fod yn rhaid i chi byth gael dogfen a fyddai'n dweud 'anhysbys' neu 'heb gartref sefydlog'. Mae gennych wlad a chanddi ffiniau a gydnabyddir yn rhyngwladol, a dyna pam fod y Deyrnas Unedig wedi cydsefyll â phobl Wcráin, a dyna pam y daeth Arlywydd Wcráin yma yr wythnos diwethaf, wrth ymweld â gweddill Ewrop, i ddangos cryfder y gefnogaeth a'r gwerthfawrogiad o bobl Wcráin yn eu hawr gyfyng. Wrth inni agosáu at flwyddyn ers dechrau'r ymosodiad, wythnos i ddydd Gwener, roedd llawer ohonom yn meddwl na fyddem byth yn ei weld yn para mor hir, ac yn y pen draw, y byddai rhyw synnwyr cyffredin yn tawelu Putin ac y byddai’n parchu'r ffiniau rhyngwladol hynny, ac yn y pen draw, y gallai Wcráin barhau i fod yn genedl-wladwriaeth—yn genedl-wladwriaeth falch.
Ond mae’r sylwadau a wnaeth Alun Davies ynglŷn â 'chreulondeb’, ‘haelioni’, a hefyd, byddwn yn ychwanegu 'undod’, yn nodweddiadol o’r hyn y dylai’r ddadl hon ymwneud ag ef. Tynnodd Mark Isherwood sylw yn ei sylwadau agoriadol at y sylwadau ynghylch y creulondeb, y marwolaethau, y dinistr i eiddo. Clywsom am blant yn gorfod mynd o wlad Wcráin i wersylloedd—gwersylloedd. Rydym yn sôn am Ewrop. I lawer o bobl yn yr oes fodern, pan soniwn am Wcráin, maent yn meddwl am luniau o bencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd yn cael eu chwarae yno, a mynd yno ar wyliau. A hefyd, o safbwynt amaethyddol, mae gennyf ddealltwriaeth dda o’r potensial amaethyddol sylweddol sydd gan Wcráin, fel y crybwyllodd Tom Giffard am y cyflenwad bwyd sy'n cael ei ddarparu. Cyfeiriodd Sam Rowlands at y cymorth cymunedol sy'n amlwg wedi’i gynnig ledled y wlad hon, a hefyd yng ngweddill y DU a gweddill y byd hefyd, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr pan feddyliwch am symudiad torfol pobl—mae 7 miliwn, 8 miliwn, 10 miliwn a mwy o bobl yn symud ac yn cael eu dadleoli oherwydd y gwrthdaro hwn. Gadewch inni beidio ag anghofio, nid ydym wedi gweld unrhyw beth o'r fath ers yr ail ryfel byd. Byddai rhai ohonom sydd â chof digon hir yn cofio creulondeb argyfwng y Balcanau a’r hyn a ddigwyddodd yno, ac roedd hynny'n enghraifft ofnadwy a damniol o fethiant diplomyddiaeth, ond mae hyn ar raddfa hollol wahanol.
Ac mae wedi'i ddweud yn y Siambr hon nad yw pob Rwsiad yn euog. Maent yn wladwriaeth sydd wedi'i chaethiwo gan Putin a'i ffrindiau. Nid oes a wnelo hyn â bod yn erbyn pobl Rwsia. Mae hyn yn ymwneud â'r gyfundrefn y mae Putin yn ei harwain a'r unbennaeth y mae'n ei gweithredu o fewn ffiniau Rwsia. A soniodd Heledd Fychan am yr enghraifft ddigalon honno yn Llanilltud Fawr a'r dudalen Facebook. Mae'n rhaid inni bob amser gael gwared ar y lefel honno o gasineb a’r lefel honno o wenwyn sy’n bodoli ym meddyliau ychydig iawn o bobl, a threchu hynny gyda’r ysbryd hael rydym wedi’i ddangos fel gwleidyddion, ond hefyd fel gwlad gyfan. Ond hefyd, ymateb y Gweinidog. Rwy'n talu teyrnged i’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i wneud yn ei rôl ym maes cyfiawnder cymdeithasol, ond gan dynnu sylw hefyd—y pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders—at yr angen am dai, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono, ond oherwydd bod y rhyfel hwn yn parhau, yn anffodus, a bydd pobl wedi'u dadleoli am amser hirach nag yr hoffai unrhyw un ohonom ei weld, bydd hynny gyda ni am flynyddoedd lawer i ddod, os nad degawdau i ddod. A phan fydd pobl yn meddwl am addysg ac ymgartrefu mewn cymunedau, mae angen iddynt allu galw lle'n gartref, gan y bydd hynny'n hollbwysig er mwyn dod â chydbwysedd yn ôl i fywydau pobl.
Felly, mae fy mhwyntiau heddiw yn ymwneud â'r creulondeb—rydym wedi clywed am hynny yn y ddadl hon; yr haelioni—rydym wedi clywed am hynny yn y ddadl hon heddiw, haelioni pobl Cymru a Phrydain; ac yn anad dim, yr undod o ran sut rydym oll yn cydsefyll gyda phobl Wcráin wrth inni nesáu at 12 mis ers dechrau'r ymosodiad. Mae pob un ohonom am i’r rhyfel ddod i ben, ond drwy gydsefyll gyda phobl Wcráin a dweud mai ein hymrwymiad cadarn yw ein bod am weld ffiniau rhyngwladol Wcráin yn cael eu parchu, fe wnawn lwyddo, fe wnawn ennill, ac yn y pen draw, bydd gan bobl Wcráin le i'w alw'n gartref: cenedl-wladwriaeth Wcráin. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.