– Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 7. Yr eitem yma yw’r ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, a dwi’n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8212 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.
2. Yn mynegi pryder am y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
3. Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.
4. Yn cydnabod yr amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Diolch yn fawr iawn ichi, Llywydd. Allaf i ddechrau gan ddymuno i bawb yn y Senedd heddiw, a phawb sy’n gwylio ar draws Cymru, Dydd Gŵyl Dewi hapus? Dwi’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar oherwydd mae’n ddadl bwysig iawn i’w chael yn y Senedd, yn enwedig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n rhannu’r neges o’r Senedd i bobl Cymru i ddweud nad yw ein hiaith Gymraeg ond yn perthyn i bobl sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl; mae’n perthyn i bob person sydd yn byw yng Nghymru.
Ond nid ond iaith yn yr ystyr draddodiadol yw'r Gymraeg. I’r rhan fwyaf ohonom ni, mae’n stori—hanes ein taith gyda’r iaith Gymraeg. Bydd rhai ohonom ni wedi siarad Cymraeg gartref, yn yr ysgol, ac wedi byw mewn cymunedau Cymraeg yn bennaf ar hyd ein hoes. Efallai fod eraill yn dysgu siarad Cymraeg am y tro cyntaf, wedi datblygu diddordeb neu gariad at ein gwlad. Ac efallai mai dim ond ychydig o eiriau rydych chi’n eu gwybod, ond rydych chi’n eu defnyddio nhw gyda balchder pryd bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Dyna pam dwi’n edrych ymlaen at glywed o gydweithwyr o bob rhan o’r Siambr heddiw, i glywed am eu stori Cymraeg.
I mi, mae’n ychydig mwy cymhleth. Es i i ysgol Gymraeg ail iaith, a ces i TGAU yn Gymraeg ail iaith, ac ar ôl hynny, gweithiais mewn ysgol Gymraeg fel cynorthwyydd dysgu yn y flwyddyn ar ôl i mi adael ysgol fy hun. Pan adawais i’r ysgol, nid oedd fy Nghymraeg o’r safon orau oherwydd nid oedd hi’n bwysig iawn i fi ei datblygu hi. Er bod y rhan fwyaf o fy nysgu yn Saesneg, gwnaeth y trochi o orfod siarad bob dydd gyda staff a disgyblion mewn lleoliad addysg ddod â fy sgiliau ymlaen yn sylweddol. Wedyn, trwy gydol fy mhrofiad prifysgol a’r degawd wedyn, doeddwn i braidd dim wedi siarad gair o Gymraeg, ac roeddwn i bron wedi anghofio fy mod i’n gallu siarad Cymraeg o gwbl.
Yna, yn 2021, ces i fy ethol i’r Senedd hon ym Mae Caerdydd, a gwnes i gadw yn dawel i ddechrau, a dweud y gwir, fy mod i’n gallu siarad Cymraeg o gwbl. Wedyn gwnes i gyfarfod â rhywun am y tro cyntaf o’r enw Samuel Kurtz. Wel, mewn gwirionedd, yr ail dro oedd hi, ond dŷn ni ddim yn siarad am y tro cyntaf. Ond er bod safon Sam yn well na fy safon i, roedd e’n teimlo’r un peth yr oeddwn i’n ei deimlo—nad oedd e wedi defnyddio ei sgiliau digon ar draws y blynyddoedd cynt. Roedd e’n teimlo, fel fi, ei fod e wedi rhydu. Felly, penderfynon ni i ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd, gan ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael yma yn y Senedd, ac roedd hynny’n drobwynt i mi, i gael rhywun fy mod i’n gallu sgwrsio â nhw yn Gymraeg a dysgu hefyd—pwysig iawn i fi. Nawr dwi’n teimlo’n fwy abl i wneud cyfweliad teledu neu radio yn Gymraeg, a dwi’n edrych ymlaen at nos fory, gyda Heledd Fychan—rydyn ni’n gwneud Hawl i Holi gyda’n gilydd ar Radio Cymru.
Achos mae siarad Cymraeg yn gymaint i'w wneud â hyder ag ydyw i'w wneud â sgiliau. Does dim ots pa mor hen ydych chi, neu ba mor dda yw eich sgiliau Cymraeg; nawr yw’r amser gorau i ddysgu. Ond i ysbrydoli rhywun i dderbyn yr her, mae angen modelau rôl cryf yn y Gymraeg. Dyna pam ei bod hi'n braf gweld nifer o sefydliadau—yn fwyaf nodedig, yr FAW—yn manteisio ar y cyfle i normaleiddio siarad Cymraeg. Ond i mi, person yw fy model rôl Cymraeg, a’r person—a dwi’n gwybod y byddai fe wedi eisiau bod yma heddiw—sy'n fodel rôl i mi yn Gymraeg yw Paul Davies. Mae Paul yn rhywun sydd yr un mor falch o'i hunaniaeth Gymraeg a'r iaith Gymraeg ag ydyw o'i un Prydeinig hefyd. A dyna beth oeddwn i'n teimlo. Roedd e wedi dangos nad oedd gwrth-ddweud rhwng bod yn Gymro a siarad Cymraeg a bod yn Geidwadwr, achos y blaid Geidwadol sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o'r datblygiadau mwyaf ym mholisi iaith Gymraeg erioed. Ceidwadwyr mewn Llywodraeth a ddechreuodd y Welsh Language Act 1993, gan ffurfio Bwrdd yr Iaith Gymraeg, datblygiadau mewn addysg Gymraeg ac, wrth gwrs, sefydlu'r sianel deledu gyntaf yn yr iaith Gymraeg, S4C.
Ond gwyddom fod llawer mwy i'w ddweud, a dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf sydd yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf yn hynod siomedig. Ac mae’n rhoi strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru mewn perygl sylweddol o beidio â chael ei chyrraedd. Ond yr hyn sy’n peri’r pryder mwyaf i mi yw’r gostyngiad o 6 y cant yn y siaradwyr Cymraeg rhwng pump ac 15 oed, y rhai a fydd yn dysgu Cymraeg mewn sefyllfa ffurfiol. Yn ogystal, rydyn ni wedi gweld gostyngiadau mewn ardaloedd traddodiadol yr iaith Gymraeg hefyd fel Ceredigion, sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Mae llawer mwy i’w ddweud yn ystod y ddadl hon, dwi'n siŵr, gan Aelodau ar bob ochr, ac rwy'n siwr y bydd.
Mae'r hyn yr ydyn ni'n bwriadu ei gyflawni yn ddeublyg. Yn gyntaf oll, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i bobl siarad Cymraeg yn y lle cyntaf, oherwydd rydyn ni yn gwybod y gall y profiadau hyn fod yn ffurfiannol ym mywydau pobl. Yn ail, dŷn ni'n cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd mae'n anfon neges glir i bobl ledled Cymru mai dyma eich iaith chi, beth bynnag eich lefel, felly siaradwch hi, defnyddiwch hi ac edrychwch ar ei hôl hi fel y gall cenedlaethau i ddod wneud yr un peth. Diolch.
Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn croesawu:
(a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith;
(b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; ac
(c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.
Yn ffurfiol.
Gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? A diolch, Tom, am rannu dy siwrnai di efo'r iaith. Mae'n hyfryd dy glywed di a dy hyder wedi cynyddu yn yr amser rwyt ti wedi bod yma. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fod ar Hawl i Holi, rhywbeth wnest ti ddweud y buaset ti byth yn ei wneud cwpwl o fisoedd yn ôl, ond rwyt ti'n ei wneud o nos yfory. Dwi'n meddwl bod hynna'n wych ac yn dangos ei bod hi'n bosib cael y gefnogaeth a'r gwahaniaeth mae'n ei gwneud wedyn o ran cymryd y cyfle yna i jest gymryd y siawns o siarad Cymraeg, a dim ots am wneud unrhyw fath o gamgymeriad. Mae'n hyfryd clywed mwy o Gymraeg yn fan hyn a mwy o bobl yn trio efo'r Gymraeg.
Yn sicr, mae'n hawdd i rywun fel fi, Heledd Fychan, wedi fy magu yn Ynys Môn i rieni oedd yn siarad Cymraeg, i fod yma'n siarad Cymraeg, wedi cael fy magu mewn cymuned lle prin oedd Saesneg o'm cwmpas i. Yn wir, pan es i i'r brifysgol gwnes i ddechrau siarad Saesneg o ddydd i ddydd, a dwi'n meddwl mae hi'n eithriadol o bwysig os ydyn ni o ddifrif eisiau gweld y Gymraeg yn parhau i'r dyfodol, nid pobl fel fi sy'n mynd i achub yr iaith, ond y rhai hynny sydd yn cymryd y siawns ac yn mynd ati i ddysgu a chefnogi'r iaith.
A hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi, byddwn ni i gyd yn cofio heddiw eiriau Dewi Sant o ran gwnewch y pethau bychain. Yn sicr, o ran y Gymraeg a’i pharhad, gallwn oll, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, yn ddysgwyr, neu’n rhai sy'n gefnogol i’r iaith—y rhai sydd efo'r Gymraeg yn y galon ond efallai ddim yn y pen—wneud y pethau bychain bob dydd i sicrhau dyfodol i’r iaith. Mae hefyd yn glir na fydd hyn yn ddigon a bod angen i’r Llywodraeth wneud y pethau mawr os ydym ni eisiau cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn canlyniadau’r cyfrifiad diweddar, gyda’r niferoedd o siaradwyr wedi gostwng i 17.8 y cant, y nifer isaf erioed.
Fel y gwelwn yng ngwelliant y Llywodraeth, mae hyn yn groes i rai ffynonellau data eraill, ond, fel rwyf wedi dweud droeon erbyn hyn, mae yn bryderus clywed y Llywodraeth dro ar ôl tro yn cwestiynu ffigyrau’r cyfrifiad a hwythau hyd at eleni wedi eu defnyddio fel sail i gynllunio twf yr iaith. Dyna pam, felly, er ein bod yn cytuno gyda gweddill y pwyntiau yn y gwelliant gan y Llywodraeth, y byddwn fel Plaid yn ymatal rhag cefnogi’r gwelliant, gan nad ydym yn credu bod cwestiynu dilysrwydd data’r cyfrifiad yn help mewn difrif o ran sicrhau parhad yr iaith.
Ond â rhoi’r mater o niferoedd i’r naill ochr am funud, gobeithio y gallwn oll fod yn gytûn bod newid wedi bod o ran agweddau tuag at yr iaith dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl yn gynnes tuag at yr iaith ac eisiau ei dysgu. Allwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd sefydliadau megis Cymdeithas Pêl Droed Cymru, yr Urdd ac eraill o ran sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn dechrau teimlo bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw, boed nhw’n siarad yr iaith neu beidio. Ac wnaf i byth, tra byddaf, anghofio gweld Gareth Bale a gweddill y tîm yn cyd-ganu 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan. Roedd hon yn foment fawr i’r iaith, ac yn un y gellid dadlau gyda’i gwreiddiau yn narlith 'Tynged yr Iaith' Saunders Lewis yn 1962, fu’n sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith.
O ran y cynnig gwreiddiol heddiw, dwi’n falch o weld y pwyslais gan y Ceidwadwyr ar y pwysigrwydd o ddefnyddio’r Gymraeg. Yn sicr, mae'n hanfodol darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth neu yn y gwaith, ond yn anffodus, mae’r cyfle i wneud hyn yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Cymerwch, er enghraifft, gwasanaethau yn y Gymraeg, neu’r cyfle i fwynhau drwy’r Gymraeg, neu ymwneud â gweithgareddau hamdden. Er bod y safonau wedi gwella mynediad at wasanaethau, yn aml iawn, mae gwasanaethau o’r fath wedi eu cyfyngu, a rhaid parhau i gryfhau’r elfen hon.
Mae’r un peth yn wir hefyd, wrth gwrs, o ran mynediad at addysg Gymraeg, a’r anghysondeb o ran sut mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Un peth sydd wedi fy nhristáu i ers dod yn Aelod o’r Senedd yw’r nifer o bobl ifanc rwyf wedi eu cyfarfod sydd wedi dweud wrthyf am eu dicter ynglŷn â’r ffaith nad ydynt yn medru’r Gymraeg, er gwaethaf mynychu ysgolion yng Nghymru a derbyn gwersi Cymraeg, a chael TGAU mewn Cymraeg, yn aml iawn. Mae'r rhain yn bobl ifanc wedi eu geni ers i’r Senedd hon fodoli, a'n cyfrifoldeb ni—drwy’r Bil Addysg y Gymraeg sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio—yw ein bod yn unioni’r gwall hwn ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Dylai pob disgybl yng Nghymru adael yr ysgol yn medru’r Gymraeg a'r Saesneg yn hyderus—ynghyd â ieithoedd eraill—a byddai peidio gosod hynny fel nod a chymryd y camau i wireddu hynny yn fethiant ar ein rhan ni oll.
Yn amlwg, mae prinder athrawon yn rhywbeth arall rydyn ni'n ymwybodol iawn ohono, ac mae'n rhaid inni sicrhau gweld twf yn y fan yna. Mae rhaid hefyd sicrhau cynnwys a chyfleoedd digidol yn y Gymraeg. Gyda mwy a mwy ohonom yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, neu’n gwylio cynnwys ar-lein, rhaid sicrhau bod rhain hefyd ar gael. Mae’r un mor bwysig o ran parhad yr iaith ag oedd cael beibl yn y Gymraeg yn dilyn cyfieithiad yr Esgob William Morgan yn 1588.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond os ydyn ni eisiau i bawb gael y cyfle i’w dysgu a’i defnyddio, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru, mae yna waith mawr yn parhau o’n blaenau. Efallai fod yr iaith ‘yma o hyd’, ac 'er gwaethaf pawb a phopeth', ond mae ei dyfodol yn parhau yn fregus os na welwn hefyd weithredu radical.
Rwyf am alw ar Gareth Davies nesaf, ac rwy'n deall ei fod wedi ymddiheuro i'r Llywydd am ei gyfraniad yn gynharach, ac felly, fe gaiff gymryd rhan yn y ddadl hon.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma, a lle dwi'n gallu siarad Cymraeg pan dwi'n rhoi fy meddwl iddo, dwi ddim fel arfer yn siarad cymaint o Gymraeg ag y dylwn i. Dwi'n meddwl yn Saesneg, felly rhaid meddwl dwbl, os ydw i'n clywed rhywun neu'n siarad Cymraeg.
Fel mae pawb wedi clywed drwy’r ddadl hon, mae’r Gymraeg wrth galon ein gwlad, mae’n bwysig ein bod ni'n gwarchod a hyrwyddo hi. Er ein bod ni i gyd eisiau i Gymru fod yn wlad ddwyieithog, yn anffodus, mae ffigurau—
Mae'n ddrwg gennyf. Bydd rhaid i chi fod ychydig yn amyneddgar gyda mi.
—cyfrifiad 2021 yn dangos gostyngiad mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n onest am yr achosion a'r datrysiadau i hyn.
Llywodraeth y Ceidwadwyr, o dan reolaeth Margaret Thatcher, wnaeth greu S4C yn 1982, i ddod â'r iaith Gymraeg i gartrefi Cymru yn ogystal â gwneud yr iaith Gymraeg yn gyfartal i Saesneg. Dydy 25 mlynedd o reolaeth Llafur a Phlaid heb ddod â'r iaith Gymraeg yn agosach i'r Cymry ac maent wedi achosi iddi wneud cam yn ôl. Oherwydd hyn, dydy'r dymuniad o genedl ddwyieithog heb fod y realiti oherwydd aflwyddiant polisiau gan Lywodraethau olynol. Yn lle parhau gyda'r hen drefn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw i'r iaith Gymraeg fod yn iaith dydd i ddydd yn hytrach na rywbeth sy'n cael ei rhedeg yn gyson gan gwangos sydd ddim fel arfer yn gweddu diwylliant llefydd fel Rhyl a Phrestatyn yn Nyffryn Clwyd. Dyma'r ffordd orau i ddysgwyr fagu hyder a gwneud i'r iaith Gymraeg fod yn rhan o hunaniaeth pawb yng Nghymru, nid jest y siaradwyr iaith gyntaf. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n flin gen i—yn Saesneg.
Nid oeddwn yn bwriadu siarad yn y ddadl hon tan imi glywed dechrau'r ddadl, ac nid yw fy Nghymraeg yn agos at fod yn ddigon da i ysgrifennu araith Gymraeg yn y 10 munud neu chwarter awr ers dechrau'r ddadl, felly rwy'n gobeithio y bydd pobl yn derbyn hynny.
Beth yw'r sefyllfa gyda'r iaith Gymraeg? A gaf fi sôn am rai pethau cadarnhaol? Pan fo'r Aelodau'n ymweld ag ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, mae'n rhaid bod hyd a lled y Gymraeg achlysurol sy'n cael ei defnyddio yno wedi creu argraff arnoch, ac nid dim ond 'Bore da, prynhawn da' a chyfarchion cyffredinol, ond faint o Gymraeg achlysurol cyffredinol sydd i'w chlywed, a faint o Gymraeg sydd ar y waliau. Ac rwy'n siŵr nad yw rhieni'r un o'r plant hynny yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg, ond eto bob dydd, mae'r plant hynny'n siarad Cymraeg yn yr ysgol. Ac rwy'n credu mai dyna un o'r problemau gyda'r hunanasesiad, neu mewn llawer o achosion, asesiad rhieni, o'r gallu i siarad Cymraeg: mae'n rhoi niferoedd a bydd pobl yn eu defnyddio i feirniadu neu longyfarch y Llywodraeth—er rwy'n credu mai beirniadu sy'n digwydd amlaf mae'n debyg—ond rwy'n credu bod angen inni asesu beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â'r Gymraeg.
O ran y twf ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru—a gallaf siarad am Ddwyrain Abertawe. Pan aeth fy llysferch i'r ysgol, dim ond Ysgol Gyfun Gŵyr oedd yno. Erbyn hyn, o ran ysgolion uwchradd, mae gennym Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, ond hefyd roedd yn arfer bod gennym Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las fel yr unig ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Nawr, ac rwy'n canolbwyntio'n unig ar Ddwyrain Abertawe, mae gennym Ysgol Gymraeg y Cwm yn ogystal â Lôn Las, ac mae gennych Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, lle mae fy ŵyr yn mynd, wedyn mae gennych Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, lle mae aelodau o fy nheulu'n gweithio. Felly, mae twf enfawr wedi bod yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr y bydd rhywun yn dweud yn nes ymlaen, os ydych yn creu ysgolion cyfrwng Cymraeg, y bydd rhieni'n anfon eu plant iddynt. Ac rwy'n siŵr y bydd rhywun arall yn dweud bod angen mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid wyf yn anghytuno â dim o hynny. Rwy'n credu y dylem gael strategaeth sy'n canolbwyntio ar ba lefel o ysgolion cyfrwng Cymraeg y credwn y dylai pob ardal ei chael, yn hytrach na chael ymagwedd o'r gwaelod i fyny gan yr awdurdod lleol. O gael, 'Rydym yn credu y dylai Abertawe gael...' ac ni allaf ond siarad am Ddwyrain Abertawe, mae'n debyg y gallem wneud gydag o leiaf un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall, er bod yna anawsterau o ran dod o hyd i rywle. Rydym yn ardal adeiledig iawn, fel y bydd unrhyw un arall sy'n cynrychioli'r ardal yn gwybod. Felly, nid oes llawer o dir yn agos at lle mae pobl yn byw.
A gaf fi sôn am rai o'r problemau? Os siaradaf am Fro Cymru, cadarnle mawr y Gymraeg, a oedd yn arfer ymestyn o'r rhan fwyaf o Ynys Môn i lawr i Gwmllynfell, mae'n fwy clytiog erbyn hyn. Nid wyf wedi gweld canlyniadau llawn y cyfrifiad hwn, ond rwy'n dyfalu y bydd yn fwy clytiog byth bellach. Ymysg llawer o'r dadleuon a gefais gyda'r Prif Weinidog blaenorol, dywedais, 'Mae angen i 80 y cant o'r boblogaeth fod yn siarad Cymraeg mewn ardal i'r iaith honno gael ei hystyried yn iaith yr ardal', oherwydd os oes gennych chi 80 y cant yn siarad Cymraeg yno, os byddwch yn cwrdd â rhywun, bydd pedwar o bob pump person y siaradwch â hwy'n siarad Cymraeg—mae'n werth rhoi cynnig arni. Wrth fynd lawr i 50 y cant, mae'n un o bob dau, ac mae'n debyg nad yw'n werth rhoi cynnig arni. Pan ymwelaf â Chaernarfon—rwy'n siŵr fod pobl eraill yn adnabod Caernarfon yn well na mi; rwy'n siŵr fod Heledd Fychan o Ynys Môn yn adnabod yr ardal yn llawer gwell na fi—Cymraeg yw iaith y stryd. Os ewch i dafarn, maent yn disgwyl i chi archebu cwrw yn Gymraeg. Os ydych yn archebu bwyd, maent yn disgwyl i chi archebu bwyd yn Gymraeg. A phan ewch i mewn i siopau, maent yn disgwyl i chi brynu eitemau yn Gymraeg. Rwy'n dod o Dreforys lle mae tua un o bob pump o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond mae yna ddiffyg disgwyliad. Mae rhai pobl yn siarad Cymraeg pan fyddant yn mynd i siopau ac yn y blaen, yn y gobaith y byddant yn deall, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn trafferthu. Gallwn ddweud mai cwrteisi cyffredinol siaradwyr Cymraeg ydyw, ond gan fod fy ngwraig a fy merch ill dwy yn siaradwyr Cymraeg, ni fyddwn yn dweud hynny.
Rwy'n siarad Cymraeg bob dydd, ond rwy'n dewis gyda phwy rwy'n ei siarad. Rwy'n falch fod Delyth wedi dod i mewn i'r ystafell nawr, oherwydd mae hi'n un o'r ychydig bobl rwy'n siarad Cymraeg â hwy yma, ac os ysgrifennaf at Delyth, rwyf bob amser yn ysgrifennu ati yn Gymraeg. Ond rwy'n hyderus na fydd hi'n gwneud hwyl am fy mhen os gwnaf hynny, ac rwy'n credu mai dyna un o'r problemau a gawn gyda'r rhai ohonom nad ydym yn hyderus yn y Gymraeg, ac yn sicr y rhai ohonom nad ydym yn hyderus i siarad Cymraeg yn y Siambr.
Yn olaf, rydym angen gwybod pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg. Rwy'n adnabod pobl sy'n gallu siarad Cymraeg, ond byth yn gwneud hynny, ac rwy'n credu bod angen inni ddarganfod faint o bobl sy'n ei siarad yn ddyddiol neu'n wythnosol. Rwy'n credu ein bod angen hynny yn y cyfrifiad, ac efallai y byddem yn cael canlyniad mwy cywir, ond efallai'n bwysicach na hynny, efallai y byddem yn cael canlyniad mwy ystyrlon.
Heddiw, rwyf am roi cynnig ar siarad Cymraeg yn y Siambr am y tro cyntaf.
Fel ysgrifennodd y bardd Eifion Wyn:
'Cymru fach i mi— / Bro y llus a'r llynnoedd / Corlan y mynyddoedd / Hawdd ei charu hi.'
Mae'n wych cymryd rhan yn y ddadl hon a thynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Fel Aelod Senedd Cymru dros Frycheiniog a Maesyfed, mae gennyf lawer o gymunedau ble mai Cymraeg yw’r iaith gyntaf a dwi'n deall pa mor bwysig yw'r iaith i nhw.
Rwyf am ddweud, Gadeirydd, mai dyna'r peth mwyaf brawychus i mi ei ddweud yn y Siambr hon erioed, ac fel dysgwr Cymraeg, mae'n anodd iawn weithiau i bobl wneud hyn. Fel y dywedodd Mike Hedges, weithiau, rydym yn teimlo y bydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau, nad ydym yn dweud pethau'n gywir. Yn bersonol, rwy'n teimlo tipyn o falchder am wneud hynny yn fy Senedd genedlaethol fy hun, a siarad yn fy iaith genedlaethol fy hun, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn.
Nid wyf am grynhoi, ond mae'n debyg iawn i'r hyn a ddywedodd Heledd, mewn gwirionedd, am rywun a ddysgodd Gymraeg yn yr ysgol. Dyna wnes i; cefais B mewn TGAU Cymraeg, ac rwy'n dal i deimlo'n ddig iawn am y ffaith nad wyf yn gallu defnyddio a sgwrsio yn fy iaith naturiol, frodorol yng Nghymru, oherwydd nid wyf yn ddigon hyderus i wneud hynny. Rwy'n credu bod llawer o bobl ifanc fel fi, sydd yr un oedran â mi, tua 31, wedi cael y profiad hwnnw, ac nid wyf yn credu ein bod ni, yn yr ardal rwy'n hanu ohoni, ardaloedd yng nghanolbarth Cymru, wedi cael cyfle iawn i siarad yr iaith. Ychydig iawn o gymunedau a geir yn fy ardal i—Ystradgynlais yn y de, Pontsenni ac ambell i le yn y gogledd—sy'n siarad Cymraeg mewn gwirionedd, ac rwy'n teimlo trueni drostynt weithiau pan fyddaf yn mynd i gyfarfod ag etholwyr yno, am nad wyf yn gallu siarad â hwy yn yr iaith y maent yn eisiau ei siarad. Dyna pam rwy'n gefnogol iawn i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i geisio cael mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws pob rhan o Gymru, oherwydd rwyf eisiau gweld addysg cyfrwng Cymraeg mewn llefydd fel Brycheiniog a sir Faesyfed. Oherwydd os ydych chi am dyfu'r iaith Gymraeg ledled Cymru, mae angen i chi wneud yn siŵr ei bod hi'n cyrraedd llefydd lle mae'r iaith wedi cael ei hanghofio a'i gwthio allan, ac mae yna lefydd yn fy ardal i, o gwmpas ardal y Gelli Gandryll, yn sir Faesyfed yn enwedig, lle nad oes gennym unrhyw addysg cyfrwng Cymraeg. Os oes gennym addysg o'r fath, mae'n cael ei rhoi yn y brif ffrwd gydag addysg Saesneg ac mae disgyblion yn tueddu i wneud eu dewisiadau, ac maent yn tueddu i fod eisiau mynd i'r ffrwd Saesneg a gadael y ffrwd Gymraeg. Ac nid yw hynny'n ddigon da. Felly, rwyf eisiau gweld mwy o addysg Gymraeg yn cael ei darparu ledled Cymru, ond yn enwedig yn y llefydd lle mae'r iaith wedi mynd yn angof.
Ac nid wyf am siarad yn hir iawn heddiw, ond rwyf eisiau dweud wrth bob dysgwr Cymraeg: fe siaradais yn ein Senedd genedlaethol gyda'r holl nerfau a'r disgwyliadau o ran yr hyn y dylech ei ddweud a sut i'w ddweud yn gywir ac rwyf wedi ei wneud, felly rwy'n annog pob dysgwr Cymraeg ledled Cymru i siarad Cymraeg—siarad yn Gymraeg—mwynhewch yr iaith. Ac os byddwn i gyd yn siarad Cymraeg, rwy'n siŵr y bydd yr iaith yn tyfu ac y cawn fwy o siaradwyr Cymraeg ar draws ein gwlad wych. Diolch, Gadeirydd.
Hoffwn i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r cynnig hwn gerbron; fe wnaf eu llongyfarch nhw ar eu cyfraniadau yn y Gymraeg. Mi oeddech chi'n sôn am y ffaith, ac yn ymfalchïo yn y ffaith, fod S4C wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Geidwadol. Wrth gwrs, byddwn ni'n hoffi eich atgoffa chi am safiad Gwynfor Evans, wrth gwrs, cyn arweinydd Plaid Cymru, a wnaeth arwain mewn gwirionedd at y tro pedol wnaeth arwain at sefydlu S4C. A hefyd hoffwn dalu teyrnged i'r cannoedd o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac eraill wnaeth frwydro mor hir—am ddegawdau—dros gael sianel Gymraeg, sydd wedi profi mor hanfodol at ddiogelu'r Gymraeg.
Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg ym mron pob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Ac mae'r frwydr rŷn ni wedi clywed amdani heddiw dros sicrhau mynediad at addysg Gymraeg wedi bod yn un hir a rhwystredig yn yr ardal rwy nawr yn ei chynrychioli, fel yn nifer o lefydd yng Nghymru. Ac mae'n frwydr dwi wedi byw yn bersonol, nid yn unig dros fy mhlant yn ardal Abertawe i geisio agor Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ond hefyd fel plentyn yn tyfu lan yng Ngwent, lle roedd y cyngor Llafur ar y pryd, yn y 1970au a'r 1980au, yn gwrthod agor ysgolion Cymraeg ac ond yn fodlon agor unedau a oedd yn sownd wrth ysgolion Saesneg. A fi a fy chwaer wedyn, achos doedd yna ddim ysgol gyfun—yn debyg i'r hyn y mae James Evans yn sôn amdano fe yn ei ardal e—yn gorfod teithio dros siroedd am oriau lawer ar fysus i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
A rŷn ni'n gwybod hefyd bod nifer uchel o'r rhai sydd wedi derbyn addysg Gymraeg yn colli eu sgiliau a'u hyder wedyn i siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol yn 16 neu'n 18 oed. Fyddwn i ddim yn rhugl—Saesneg roedden ni'n ei siarad adref—achos dwi'n un o'r straeon nodweddiadol yna lle roedd y mam-gus a'r tad-cus yn siarad Cymraeg a mam a dad heb gael addysg Gymraeg, yn blant y 1930au a'r 1940au, ond yn benderfynol wedyn o ymgyrchu dros addysg Gymraeg fel doedd fy nghenhedlaeth i ddim yn colli trysor yr iaith.
Mae rhaid inni ddatblygu cyfleoedd hyfforddi ac astudio Cymraeg a dwyieithog yn ein colegau addysg bellach, yn y prifysgolion ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn ein hysgolion oedran statudol. A hoffwn i dalu teyrnged i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nod o sicrhau nad yw hyn yn digwydd, a bod pobl yn parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod ar ôl gadael yr ysgol. Mae parhad y gwaith hwn yn gwbl allweddol os ydym am ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg a chreu gweithleoedd ble mae pobl yn hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg—creu gweithleoedd, creu cymunedau. Ac fe fues i'n ddiweddar yng Ngholeg Castell-nedd, lle mae gwaith ardderchog yn digwydd i geisio cyflawni hynny.
Mae cwm Tawe, lle dwi'n byw nawr, yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol arbennig—y ffin yma roedd Mike Hedges yn sôn amdani hi. Mae sicrhau nid yn unig mynediad i addysg Gymraeg, ond hefyd y cyfleon yma i ddefnyddio'r iaith, wrth gwrs yn greiddiol i barhad yr iaith yn y cwm ac ardaloedd fel hi, sef yr hyn sy'n cael ei gydnabod yng nghymal olaf y cynnig.
Mae'n gydnabyddedig ei fod yn hollbwysig fod angen amrywiaeth o ffyrdd i hybu'r iaith er mwyn galluogi a chynyddu defnydd gan siaradwyr hen a newydd. Mae'n amlwg o'r cyfrifiad bod angen gwella ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ond rhaid hefyd warchod yn erbyn taflu'r llo a chadw'r brych wrth ddatblygu polisïau cryfach a mwy effeithiol. Mae angen sicrwydd y bydd y mentrau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft, ac wedi profi'n llwyddiannus wrth hybu defnydd o'r Gymraeg yn parhau i gael eu cefnogi. Yn achos cwm Tawe, mae'r papur bro, papur bro y Llais—a dwi'n datgan budd; dwi'n un o bwyllgor y papur bro—y fenter iaith, a'r Urdd yn gwneud gwaith arbennig. Rwyf wedi sôn yn flaenorol am waith Tŷ'r Gwrhyd, canolfan Gymraeg ym Mhontardawe a sefydlwyd â chefnogaeth grant Llywodraeth Cymru. Mae'n enghraifft dda o'r hyn sy'n bosib i sicrhau cefnogaeth anffurfiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion, i ddysgwyr, a sicrhau defnydd cymunedol o'r iaith. Felly, hoffwn i wybod heddiw gan y Gweinidog beth yw gweledigaeth y Llywodraeth o ran adeiladu ar fuddsoddiadau llwyddiannus fel hyn, sydd â thrac record lwyddiannus o gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae Tŷ Tawe hefyd, yn Abertawe, yn enghraifft o sefydliad sy'n llwyddo yn hyn o beth. A fydd y Llywodraeth yn cynnig mwy o gefnogaeth i ganolfannau fel Tŷ Tawe er mwyn eu galluogi i barhau â'u gwaith gwych, ond hefyd i fedru datblygu ymhellach?
Yn ogystal, o ran hybu a gwarchod yr iaith, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pob adran yn y Llywodraeth yn siarad gyda'i gilydd. Rŷn ni wedi cael enghraifft o hyn yn fy ardal i, lle dyw adran y Gymraeg a'r adran addysg, er eu bod nhw'n dod o dan yr un Gweinidog, efallai ddim yn siarad gyda'i gilydd, lle mae yna arian yn cael ei glustnodi, cyllid yn cael ei addo, i gyngor i gynllun a fyddai wedi cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Felly, hoffwn i jest ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron. Mae wedi bod mor braf i glywed ein holl straeon ni ynglŷn â'n perthynas ni gyda'r iaith.
Galwaf yn awr ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Wel, Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. A dyma gofio nid jest ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi mae'r Gymraeg, ond ar gyfer bob dydd, a faint bynnag o Gymraeg sydd gyda chi, defnyddiwch hi bob cyfle y gallwch chi: defnydd, defnydd, defnydd yw'r ateb. Gaf i ddweud, dwi ddim wedi clywed Tom Giffard, Gareth Davies na James Evans erioed yn siarad cymaint o Gymraeg, felly llongyfarchiadau iddyn nhw ar wneud eu cyfraniadau yn y Gymraeg? Braf oedd clywed hynny, os nad braf oedd clywed y ddadl wag mai Margaret Thatcher oedd cyfaill gorau'r Gymraeg.
Dwi'n dweud yn aml fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Mae'n hiaith ni'n rhywbeth mae'n rhaid inni ei chynnwys ym mhob agwedd ar ein gwaith a'n bywydau bob dydd drwy gydol y flwyddyn. Ein nod yw ei gwneud hi'n rhan o bob agwedd ar ein gwaith ni yn Llywodraeth Cymru, fel roedd Sioned Williams yn sôn jest nawr. Yn yr un modd, rŷn ni am roi cyfleoedd i bobl Cymru ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau pob dydd, oherwydd, yn y bôn, peth pobl yw iaith—dyw hi ddim yn bodoli heb gymuned o bobl i'w siarad hi. Dim ond ddoe fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad am allu'r Gymraeg i ddod â chymunedau ynghyd.
O ran y cynnig sydd gerbron, er ein bod ni'n cytuno â byrdwn y peth, rwy'n credu bod angen ychwanegu eto er mwyn cydnabod y gwaith rydyn ni a'n partneriaid yn barod wedi'i wneud i roi 'Cymraeg 2050' ar waith. Yn gyntaf, gadewch i fi bwysleisio ein hymrwymiad tymor hir i'n hiaith ni. Mae 'Cymraeg 2050' yn rhaglen waith sylweddol sy'n weithredol nawr, ond sy'n rhedeg am ddegawdau. Nid dros nos mae gwneud cynnydd ym maes polisi iaith, a dim ond ers 2017 mae'r strategaeth wedi bod yn ei lle, ond, hyd yn oed yn y cyfnod byr yna, rŷn ni wedi sicrhau bod pob un awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu mynediad i'r Gymraeg ar draws pob categori o ysgol, fel roedd Mike Hedges yn sôn.
Cyn diwedd y mis, byddaf i'n cyhoeddi ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn newydd, ond cofiwch, ar ddiwedd y dydd, nid dogfennau sy'n bwysig, ond pobl, ac mae pobl Cymru gyda ni o ran y Gymraeg. Mae 86 y cant o oedolion yn meddwl bod ein hiaith ni'n rhywbeth i fod yn falch ohoni, felly dwi'n dal i fod yn optimistaidd am y daith sydd o'n blaenau ni. Nid esgusodi canlyniadau'r cyfrifiad ydw i, ond mae'n bwysig nodi nad ydyn ni'n gwybod gwir effeithiau ar y canlyniadau o ran ei gynnal ef yn ystod pandemig byd-eang. Dwi'n rhannu pryder Aelodau am y canlyniadau. Ers i ni gael gwybod, rŷn ni wedi cael amser i wneud dadansoddiadau cychwynnol o'r ystadegau, ac mae mwy o ganlyniadau a mwy o ddadansoddi i ddod. Mae'n bwysig gweithio ar sail ffeithiau. Mae'n werth nodi bod canlyniadau gwahanol arolygon ar y Gymraeg yn dweud pethau gwahanol wrthym ni. Mae arolwg blynyddol diweddaraf o'r boblogaeth yn dangos bod bron 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â'r 538,000 mae cyfrifiad 2021 yn ei nodi. Mae angen inni wybod pam mae hynny, a byddwn i'n annog Heledd Fychan i beidio ag anwybyddu'r data ehangach; mae'n rhaid gweld y darlun cyflawn. Dyna pam mae swyddogion yn cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn deall y sefyllfa yn well.
Ac o ran y ffeithiau, rŷn ni hefyd eisiau deall beth sy'n digwydd yn yr hyn sy'n cael ei alw'n draddodiadol yn gadarnleoedd y Gymraeg. Dyna pam roeddwn i'n falch o lansio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg fis Awst diwethaf. Byddaf i'n talu sylw manwl iawn i'r argymhellion y bydd y comisiwn yn eu cyflwyno i mi, a dwi'n siŵr y bydd yr argymhellion hynny yn cynnwys gwaith i mi ac i lawer o bobl a sefydliadau eraill, gan gynnwys, gyda llaw, pob un ohonom ni yma heddiw. Mae'r Gymraeg yn perthyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A chithau wedi fy enwi, roeddwn i'n meddwl byddwn i jest eisiau gwneud y sicrwydd dwi ddim yn diystyru gweddill y data, ond, yn amlwg, cyfrifiad 2011 oedd y sail o ran strategaeth 'Cymraeg 2050' ac ati. Dwi jest yn poeni mai sampl llai ydy'r samplau eraill—er enghraifft, yr arolwg cenedlaethol; dwi'n meddwl 1,000 o bobl, ond cewch chi fy nghywiro i—o'i gymharu â'r holl boblogaeth yn gorfod cyfrannu i gyfrifiad. Felly, dwi yn sicr eisiau deall y data'n well, ond fy nadl i ydy dwi ddim yn deall y sifft gan y Llywodraeth o fod wedi pwysleisio pwysigrwydd y cyfrifiad yn y gorffennol i'w ddiystyru os nad ydy'r ffigurau yn gweddu i'r hyn rydych chi eisiau iddo fo fod yn ei ddweud y tro hyn.
Wel, does dim sifft, a does dim diystyru. Y llinyn mesur yw'r cyfrifiad, ond mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun ehangach os ydyn ni'n moyn seilio'n polisi ar ffaith yn hytrach na'r hyn hoffem ni ei weld. Felly, dyna pam mae edrych ar y darlun ehangach mor bwysig.
Ond, fel roeddwn i'n dweud, mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n edrych ar y gwaith fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ein helpu ni gyda fe, oherwydd bydd argymhellion polisi yn sicr yn dod yn sgil eu gwaith nhw, ac rwy'n siŵr bydd cyfle pellach inni drafod a dadlau am hynny.
Roedd yr Aelod yn sôn bod y Gymraeg yn ased diwylliannol pwysig; dwi'n cytuno. Wrth edrych ar sut mae pêl-droed wedi cofleidio'n hiaith ni yma yng Nghymru ac ar y llwyfan rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf, mae modd, dwi'n credu, inni weld yn glir yr hyn mae chwaraeon yn gallu cyfrannu i'n hiaith ni ac i'n hysbryd cenedlaethol ni. Fe es i i ddigwyddiad Dydd Miwsig Cymru ychydig yn ôl. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o frwdfrydedd tuag at y Gymraeg a'n diwylliant ni, nid jest yng Nghymru ond y tu hwnt hefyd—pobl yn dod at ei gilydd oherwydd y Gymraeg, diwylliant y Gymraeg, yn y Gymraeg. Fel roeddwn i'n dweud, peth pobl yw'n hiaith ni. Ac roedd y cydweithio gwelsom ni y diwrnod hwnnw rhwng ysgolion, mentrau iaith a llu o bobl a sefydliadau eraill yn wych. Diolch iddyn nhw ac i Ddydd Miwsig Cymru am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn.
Gwnes i hefyd cyhoeddi cystadleuaeth grant newydd sbon i feithrin sgiliau a'r gallu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd mewn digwyddiadau cerddorol a gigs Cymraeg, a dwi am weithio gyda Gweinidogion eraill, a Phlaid Cymru, trwy'r cytundeb cydweithio, i wreiddio'r Gymraeg yn ein strategaeth ddiwylliant newydd.
Rydym ni wedi clywed sôn gan Tom Giffard ar y cychwyn am lefelau hyder siaradwyr Cymraeg a phwysigrwydd cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'n hiaith ni. Rwy'n cytuno; dyna graidd fy ngwaith i. Dyna pam mae gyda ni Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a diolch iddyn nhw am eu gwaith. Mae galluogi a grymuso siaradwyr newydd, a'r rheini dyw'r Gymraeg ddim wedi bod yn rhan o'i rwtîn nhw ers sbel, i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw yn hollbwysig. Felly, fy neges i i bawb sy'n dysgu'r Gymraeg neu sy'n ei medru hi ond efallai bach yn ddihyder yw: ewch amdani. Defnyddiwch hynny o Gymraeg sydd gyda chi lle bynnag y gallwch chi, a byddaf i'n gweithio i greu mwy o gyfleoedd i chi. Fesul gair, fesul brawddeg, fe fyddwch chi'n magu hyder a hefyd yn ysbrydoli eraill. Mae ymrwymiad y Llywodraeth i'n hiaith ni yn gwbl glir: rŷn ni am weld dyfodol llewyrchus iddi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. Diolch, Weinidog, a Dydd Gŵyl Dewi Hapus. Roeddwn eisiau gofyn i chi am—. Mae pawb yma, rwy'n credu, eisiau gweld mwy o Gymraeg yn cael ei siarad ledled Cymru, ond rwy'n meddwl tybed sut y gallwn wneud hynny pan fo gennym argyfwng recriwtio a chadw athrawon ar hyn o bryd, sydd hefyd yn golygu na allwn ddenu athrawon Cymraeg eu hiaith, sy'n addysgu pynciau craidd, i'n hysgolion cyfrwng Cymraeg, ac os ydym eisiau datblygu'r ysgolion cyfrwng Cymraeg hynny, rhywbeth y mae pob plaid wedi dweud eu bod eisiau ei weld yn digwydd rwy'n credu, sut y gallwn ni wneud hynny pan na allwn ddenu'r athrawon i'r ysgolion cyfrwng Cymraeg hynny ar hyn o bryd, i siarad Cymraeg ac i addysgu'r pynciau craidd hynny? Diolch.
Fel y gŵyr yr Aelod o'n trafodaethau blaenorol, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid mewn perthynas â'r her anodd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac yn ffodus, fel y gŵyr, mae gennym gynllun 10 mlynedd rydym wedi bod yn gweithio arno gyda'n gilydd, ac sy'n ganlyniad i lawer o greadigrwydd ac ymrwymiad ledled Cymru, a diolch i'n holl bartneriaid am eu cyfraniad at hwnnw. Byddwn eisiau sicrhau bod popeth yn y cynllun hwnnw’n cael ei roi ar waith, fel y gallwn wneud y mwyaf o’r cyfle i ddenu pobl i’r proffesiwn. Mae gennym amrywiaeth o gymelliadau ariannol, ond ffyrdd eraill hefyd o gynyddu’r niferoedd sy’n dod i mewn i’r proffesiwn i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac fel y gŵyr, byddaf yn adrodd yn rheolaidd i'r Senedd ar gynnydd yn erbyn y cynllun hwnnw, ac rwy'n sicr y byddwn yn parhau i adeiladu ar y pethau sy'n effeithiol ac y byddwn yn rhoi'r gorau i wneud y pethau nad ydynt yn effeithiol. Yr amcan yw cynyddu’r niferoedd, fel y gwn ei bod hi eisiau inni ei wneud hefyd, fel bod pob plentyn yng Nghymru sy'n dymuno cael addysg Gymraeg yn gallu ei chael.
Rŷm ni'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi, o ba bynnag blaid neu ba bynnag brofiad ieithyddol, yn ymrwymo heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi i weithio drwy'r flwyddyn i greu Cymru lle gall cenedlaethau'r dyfodol ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac fel byddai Dewi Sant rwy'n sicr yn dweud pe tasai e'n cyfrannu i'r ddadl hon: byddwch lawen, gwnewch y pethau bychain, a chadwch y ffydd.
Galwaf ar Tom Giffard i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd y Gweinidog ar y diwedd—mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb—a dyna pam roedd e'n braf clywed pobl dwi'n gwybod eu bod yn gallu siarad ambell air o Gymraeg yn ein grŵp ni, ond dŷn ni ddim wedi'u clywed yn y Siambr hyd yn hyn. Felly, a allaf ddechrau drwy ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed James Evans a Gareth Davies heddiw yn siarad Cymraeg yn y Siambr hon? Da iawn i'r ddau ohonyn nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir yn yr hyn ddywedodd e: mae 86 y cant o bobl yn meddwl bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae e'n iawn nad oes angen becso os ŷch chi'n siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu os ydych chi'n gwybod ambell air o Gymraeg; mae'n bwysig eich bod chi'n datblygu yr iaith sydd gennych chi, a dyna, fel dywedais i ar y dechrau, fy stori i hefyd.
Fe wnaeth James Evans a Mike Hedges a'r Gweinidog sôn am hyder. Hyder yw'r peth mwyaf pwysig, dwi'n credu, pan fo'n dod i siarad Cymraeg a sgiliau siarad Cymraeg pob dydd. Ond mae'n bwysig hefyd fod pobl yng Nghymru yn gallu cael addysg Gymraeg hefyd, a dyna pam roedd hi'n braf clywed Sioned Williams a Mike Hedges yn sôn am bwysigrwydd ysgolion Cymraeg a'u bod nhw ar gael. Ac mae Mike yn iawn: mae'r ddau ohonom ni'n cynrychioli Abertawe, ac rydyn ni wedi gweld datblygiad yn ninas Abertawe o ran ysgolion Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Ond fel y gwnaeth Heledd Fychan sôn, mae 'Cymraeg 2050' yn darged uchelgeisiol—does neb yn cuddio o'r ffaith honno. Yr unig ffordd fyddwn ni'n gallu cyrraedd y targed hwn fydd drwy gydweithio, a phartneriaeth hefyd.
Ac o'n rhan ni, y rheswm rydyn ni wedi rhoi'r ddadl yma heddiw yw ein bod ni eisiau bod yn ffrind beirniadol i'r Llywodraeth. Rydyn ni am annog y Gweinidog i ddyblu ei ymdrechion, dwi'n gobeithio, yn enwedig os ydym ni'n edrych nôl at gyfrifiad 2021. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg, ac rydym ni wedi clywed Laura Anne Jones yn sôn am y problemau mae'r sector addysg yn edrych arnynt, yn enwedig o ran recriwtio siaradwyr Cymraeg i ddysgu yn yr iaith Gymraeg hefyd mewn lleoliadau iaith gyntaf ac ail iaith. Ac mae canran uchel o athrawon yn nesáu at oedran ymddeol, ac mae nifer sylweddol yn gallu dewis ymddeol yn gynnar, ond, er gwaethaf hyn, dydyn ni ddim yn recriwtio digon o athrawon newydd yn yr iaith Gymraeg o hyd. Bydd hyn yn rhwystr mewn pum, 10, 15 mlynedd, ac yn amharu'n sylweddol ar allu'r Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, fel rŷn ni i gyd eisiau'u gweld. Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, dylen nhw fod yn recriwtio 550 o athrawon y flwyddyn, ond mae'r realiti yn llawer gwahanol—mae'r ffigur gwirioneddol yn 500 o athrawon yn brin o'r targed recriwtio angenrheidiol. Felly, o ystyried hyn, allaf i annog Gweinidog y Gymraeg i ddyblu lawr ar ei ymdrechion i sicrhau bod gennym ni ddigon o athrawon Cymraeg yn y dyfodol?
A gadewch i ni fod yn glir: mae'r heriau recriwtio hyn yn hynod o gymhleth. Nid oes un ateb unigol, ond dyna pam mae angen i ni weld cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, addysg uwch, addysg bellach ac awdurdodau lleol. Mae angen i bawb fod yn canu o'r un daflen. Dwi'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz wedi codi gyda'r Gweinidog bwysigrwydd achrediad addysg gychwynnol athrawon fel ateb posibl i'r heriau rydyn ni wedi'u codi. Hoffwn i glywed mwy gan y Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn ar ôl i'r consultation ddod i ben ddiwedd mis Ionawr. Dwi'n gobeithio bod pawb yn cytuno y gall partneriaeth addysg gychwynnol athrawon chwarae rhan allweddol i ddatblygu gweithlu addysg dwyieithog. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y meini prawf yn cyd-fynd law yn llaw â pholisi'r Llywodraeth drwy ddatblygu ffyrdd ymarferol lle gall y Llywodraeth ddangos bod 'Cymraeg 2050' yn fwy na tharged yn unig, ond bwriad hefyd.
I gloi, Llywydd, hoffwn i ailadrodd fy mhwynt cychwynnol. Nid pwrpas y cynnig hwn yw canfod bai ar Lywodraeth Cymru, neu beth bynnag. Rŷn ni eisiau i chi lwyddo. Rydyn ni i gyd yn moyn eich gweld chi'n llwyddo. Rydyn ni i gyd eisiau gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond er mwyn i hwnna fod yn wir, mae'n rhaid i ni fod yn barod, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol gyda'n penderfyniadau. Gyda hynny, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.