– Senedd Cymru ar 28 Medi 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhaglen lywodraethu. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6102 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu nad yw Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru yn ennyn yr hyder na’r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cynnig y cynnig sydd ar y papur trefn y prynhawn yma yn enw Paul Davies. Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r Prif Weinidog yma i ymateb i’r ddadl. Rwy’n cymryd ei bod yn rhaid mai arweinydd y tŷ sy’n ymateb i’r ddadl y prynhawn yma yn lle hynny.
Mae’r cynnig ar y papur trefn yn edrych ar raglen lywodraethu’r Prif Weinidog ac yn datgan nad yw
‘yn ennyn yr hyder na’r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru’, a hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflwyno ei rhaglen lywodraethu o fewn ei chyllideb. Nid wyf yn credu bod y ddau bwynt yn afresymol, i fod yn onest gyda chi. Rwy’n credu eu bod yr hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl gan unrhyw raglen lywodraethu. Ond wedyn, pan gyflwynwyd hon i ni yr wythnos diwethaf, yn 15 o dudalennau i gyd, gan gynnwys y clawr blaen, gyda holl nerth deallusol plaid y cenedlaetholwyr a’r blaid lywodraethol, Llafur, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn siarad drwy’r haf—a dyma’r gorau y gallent ei greu.
Fel y dywedais yn fy ymateb i’r datganiad yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog, yn gyffredinol dymunais yn dda i’r Llywodraeth gyda’i rhaglen gyflawni oherwydd, mewn gwirionedd, pobl a chymunedau Cymru sy’n cael eu siomi pan nad yw’r mentrau hyn yn cael eu cyflawni i’r union bobl sydd angen iddynt gael eu cyflawni ym maes iechyd, addysg a’r economi. Ond os edrychwch drwy’r ddogfen hon, mae’n amhosibl gweld mewn gwirionedd sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu symud Cymru ymlaen, fel y mae’r dudalen flaen yn dweud.
Nid yw Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cael ei chrybwyll unwaith yn y ddogfen hyd yn oed. Eto i gyd, mae’r mater cyfansoddiadol mwyaf y mae’r wlad hon yn ei wynebu, cwestiwn gadael yr UE, ym meddyliau pawb. Yn y pen draw, nid oes sôn yma o gwbl ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i thrafodaethau a’i chyd-drafodaethau ynglŷn â chyllid strwythurol, ynglŷn â chyllid prifysgolion, ynglŷn â chyllid datblygu cefn gwlad—ac mae hynny’n eithaf rhyfedd mewn dogfen sydd i fod i grynhoi gwaith y Llywodraeth am y pum mlynedd nesaf. Nid 12 mis, nid chwe mis; dyma werth pum mlynedd o waith mewn 15 o dudalennau. Rhaid bod hynny’n rhywbeth y mae gwir angen i’r Llywodraeth ei ystyried. Felly dyna pam y mae’r cynnig rydym wedi ei gyflwyno heddiw yn galw am y diffyg hyder sydd gennym yng ngallu’r Llywodraeth i symud ymlaen ar lawer o’r cynlluniau y maent wedi eu hamlinellu mewn gwirionedd.
Yn gynharach y prynhawn yma, er enghraifft, cafwyd dadl ar TB gwartheg yn y Siambr hon, a chymerodd sawl Aelod o bob plaid ran ynddi. Nid yw TB gwartheg yn cael ei grybwyll hyd yn oed yn y rhaglen lywodraethu hon. Dim sôn o gwbl. Eto i gyd, pan fyddwch yn siarad â’r sector amaethyddol a’r undebau yn ogystal—ac mae Cymru yn enwog am ei chynhyrchiant da byw—dyna’r un eitem fawr y maent yn chwilio am ymateb iddi, am ffordd ymlaen, gan y Llywodraeth. Eto i gyd, yn ei rhaglen lywodraethu, mae wedi methu cynnwys y geiriau ‘TB gwartheg’ hyd yn oed.
Os af yn ôl at y pwynt am rôl Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau—. Yr ardoll brentisiaethau, er enghraifft: newid enfawr, trawsnewid mawr yn y ffordd y datblygir prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi, ond unwaith eto, dim sôn o gwbl yn y rhaglen lywodraethu hon ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio i ddatblygu’r ardoll brentisiaethau. Rwyf wedi siarad â dau gwmni mawr yr wythnos hon sydd wedi nodi, o ystyried yr ymateb traed moch gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r ardoll brentisiaethau, ei bod yn mynd i fod yn haws iddynt gau eu lleoedd hyfforddi yn hytrach na’u parhau. Pa ymateb a gawn gan Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i ni nad ydych yn gweithio ar y llinell ochr a’ch bod mewn gwirionedd ar y maes chwarae?
Wedyn, rydych yn edrych hefyd ar fater gwasanaethau trawsffiniol lle mae gan Lywodraeth y DU, unwaith eto, rôl enfawr i’w chwarae yn datblygu strategaeth gydlynol ar gyfer gwasanaethau trawsffiniol i etholwyr yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Russell George, er enghraifft, a llawer o etholaethau eraill, yn enwedig yng ngogledd Cymru, lle mae llawer o wasanaethau dwys, gwasanaethau niwrolegol, er enghraifft, yn ddibynnol ar berthynas drawsffiniol dda—yn enwedig mewn perthynas â’r economi, er enghraifft, lle mae cytundeb twf gogledd Cymru yn ddibynnol ar y cysylltiad trawsffiniol hwnnw.
Unwaith eto, nid yw’r ddogfen ‘Symud Cymru Ymlaen’ sydd yn fy llaw, yn sôn o gwbl am unrhyw fath o berthynas na dealltwriaeth o sut y bydd y strategaethau hyn yn cael eu symud ymlaen. Felly, mae’n ddyletswydd wirioneddol yn awr ar y Llywodraeth yma i ddweud, dros yr wythnosau nesaf, cyn toriad y Nadolig, sut y gall roi hyder i unrhyw un fod hon yn rhaglen lywodraethu o ddifrif, y bydd yn cyflawni ei dyheadau ac yn y pen draw, na fyddwn yn gweld yr un rhaglenni blaenorol a gyflwynwyd gan Lywodraethau Llafur olynol yn cael eu hailadrodd, rhaglenni sydd, yn anffodus, wedi ein harwain at fethiant economaidd mewn sawl rhan o Gymru oherwydd y strategaethau amrywiol y mae’r Llywodraeth Lafur wedi eu cyflwyno. Yn addysgol, yn anffodus, ar safleoedd PISA, rydym wedi mynd ar yn ôl. Ac ym maes iechyd, mae gennym amseroedd aros hwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Nid yw hwnnw’n gynnig afresymol i’w roi ar ddechrau tymor Llywodraeth.
Beth ydych chi’n mynd i’w wneud mewn gwirionedd ar y tri chwestiwn mawr? Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i wella perfformiad economaidd ledled Cymru fel nad yw cymunedau ar draws Cymru yn parhau i fod yn dlotach na rhannau o Fwlgaria neu Rwmania? Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i wella lefelau cyrhaeddiad addysg fel nad ydym, yn y pen draw, yn llusgo ar ôl yn nhablau safleoedd PISA, ond ein bod yn cael ein gweld fel arloeswyr mewn gwirionedd? Oherwydd, er tegwch i’r Gweinidog addysg blaenorol, Leighton Andrews, roedd ganddo ddyhead. Efallai ei fod wedi cael ei wawdio oherwydd ei ddyhead i gael Cymru o fewn yr 20 uchaf, ond roedd yn ddyhead aruchel i’w gael, oherwydd gallech ddweud mewn gwirionedd, ‘Wel, o leiaf mae am i Gymru symud ymlaen’.
Nid yw’r ddogfen hon yn cynnig unrhyw beth o gwbl o ran bod eisiau gwthio Cymru ymlaen ym maes addysg. Parhau i reoli’r dirywiad yn unig y mae eisiau ei wneud. Wel, nid yw hynny’n ddigon da—nid yw’n ddigon da. Pan edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, ac yn arbennig yr amseroedd aros cronig sy’n golygu bod un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros y GIG, nid oes unrhyw ffordd ymlaen yn y rhaglen lywodraethu hon o ran sut y mae’r rhestrau aros hynny’n mynd i gael eu cwtogi a pha gynnydd rydym yn mynd i’w weld. [Torri ar draws.] Rwy’n falch o ildio i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.
Rwy’n ddiolchgar iawn. Mae’r Aelod wedi bod yn siarad llawer am Loegr. Dywedodd Angela yn y ddadl flaenorol na ddylem ystyried Lloegr a’r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr. Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno dweud wrthym beth y mae’r meddygon iau yn ei wneud yn Lloegr ac nid yng Nghymru.
Mae’r meddygon iau yn datblygu GIG saith diwrnod a fydd yn cael gwared ar farwolaethau cynamserol ar benwythnosau, a fydd yn darparu gwasanaeth y bydd ysbytai acíwt yn ei gyflawni, ac a fydd yn gwneud yn siŵr fod amseroedd aros yn disgyn yn Lloegr, gan eu bod eisoes yn is na’r hyn sydd gennym yma yng Nghymru. Rhag ofn na chlywsoch y newyddion diweddaraf, mae’r llysoedd wedi barnu heddiw mewn gwirionedd fod gan Lywodraeth y DU yr hawl i osod y contract a fydd yn darparu GIG saith niwrnod. Efallai y byddwch yn anghytuno â GIG saith niwrnod, ond o leiaf mae Llywodraeth y DU wedi rhoi—[Torri ar draws.] O leiaf mae Llywodraeth y DU wedi rhoi eu dyheadau ar y bwrdd. Beth ydych chi wedi ei wneud yn y ddogfen hon? 15 tudalen o eiriau teg, a fawr ddim sylwedd, os o gwbl. Ni all honno fod yn Llywodraeth sy’n—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar hyn o bryd. Os oes gennyf amser, byddaf yn ildio ychydig yn nes ymlaen, Joyce. Ond ni all hynny fod arwydd o Lywodraeth hyderus—Llywodraeth sy’n gyforiog o syniadau. Rydych yn rhan gyntaf eich deiliadaeth—eich pum mlynedd i newid tirwedd Cymru—ac yn syml iawn, nid ydych wedi llwyddo i wneud hynny gyda’r ddogfen hon.
Heddiw, er enghraifft, rydym wedi gweld y pwyllgor ymgynghorol allanol ar Ewrop yn cael ei roi at ei gilydd. Ar dudalen 14, mae’r ddogfen yn nodi
‘Gweithio i sicrhau bod aelodaeth ein cyrff democrataidd yn adlewyrchu’r gymdeithas gyfan yn well a gwella cynrychiolaeth gydradd ar gyrff etholedig a byrddau’r sector cyhoeddus’.
Nid oes un ymgeisydd o leiafrifoedd ethnig ar y bwrdd hwnnw—dim un. Dim ond 28 y cant o aelodau’r bwrdd sy’n fenywod, ac mae dau gynrychiolydd o ogledd Cymru. Sut y mae hynny’n diwallu’r dyhead mwyaf sylfaenol yn y ddogfen hon yn ôl pob tebyg? Os nad ydych yn gallu diwallu dyhead mwyaf sylfaenol y ddogfen, sut ar y ddaear rydych chi’n mynd i allu cyflwyno’r materion mwy cymhleth a mwy dyrys sydd angen eu datrys?
Yn benodol, y peth mwyaf cythruddol yn y ddogfen hon yw’r dynodiad fod yna loteri cod post mewn perthynas â chyffuriau ac amseroedd aros yng Nghymru. Pwy sydd wedi bod yn rhedeg y GIG yng Nghymru ers 17 mlynedd? Nid ydych wedi gwneud dim ers 17 mlynedd, ac eto rydych yn tynnu sylw yn eich dogfen eich hun at y ffaith fod yna loteri yn bodoli yng Nghymru. Rydych wedi methu gwneud hyn dros yr 17 mlynedd gyntaf—pa hyder y gallwn ei gael y byddwch yn llwyddo i ymdrin â hynny gyda’r ddogfen hon rydych wedi’i gosod ger ein bron?
Felly, rwy’n dweud wrth y tŷ heno mai’r hyn sy’n rhaid digwydd yma heddiw yw bod y tŷ yn dod at ei gilydd, yn anfon neges glir i’r blaid lywodraethol i ddangos ein diffyg hyder yn y ddogfen hon ac yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno strategaeth fwy cydlynol ar gyfer llywodraethu Cymru ac i symud Cymru ymlaen â strategaeth y gellir ei chyflawni, strategaeth a fydd yn sicrhau gostyngiad mewn amseroedd aros, strategaeth a fydd yn sicrhau gwelliant mewn addysg ac yn anad dim, strategaeth a fydd yn sicrhau ffyniant ym mhob rhan o Gymru. Os yw Aelodau’r tŷ hwn ar feinciau’r gwrthbleidiau yn dewis ceisio tanseilio’r cynnig hwn, neu’n pleidleisio gyda’r Llywodraeth, yna gallwn yn wir weld y dagrau crocodeil y tu ôl i’r teimladau y maent yn eu pwysleisio, o bryd i’w gilydd, yn y lle hwn.
Mae hon yn ddogfen syml sydd angen ei disodli a gosod rhywbeth mwy sylweddol yn ei lle, rhywbeth y gellir ei feincnodi ac sy’n gallu darparu’r enillion gwirioneddol sydd eu hangen yn daer ar Gymru yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Bydd unrhyw beth llai na hynny yn gwneud cam â phobl Cymru a bydd pum mlynedd arall wedi eu gwastraffu. Cynigiaf y cynnig heddiw, ac rwy’n eich annog i gefnogi’r cynnig sydd gerbron.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig a galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam.
Diolch, fadam Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cytuno ag arweinydd y Ceidwadwyr: mae hon yn rhaglen dila ofnadwy, o ystyried bod holl rym, holl allu a holl faint y gwasanaeth sifil y tu ôl i’r Llywodraeth. Rŷm ni wedi cynhyrchu ein syniadau ein hunain yn rhaglen yr wrthblaid—mae cyfeiriad at hyn yn ein gwelliant ni. Mae mwy o syniadau yn fanna nac yn rhaglen Llywodraeth Cymru. Mae’r peth yn warthus, a dweud y gwir. Rwy’n gwybod nid maint yw popeth, wrth gwrs, ond 16 o dudalennau, am bum mlynedd o raglen ar adeg dyngedfennol yn hanes Cymru. Hynny yw, o gymharu â beth wnaeth y Llywodraeth bum mlynedd yn ôl—y Llywodraeth yma—51 o dudalennau. Gallwn ni edrych lan i’r Alban—89 o dudalennau; Gogledd Iwerddon—113, a dim ond rhaglen ddrafft yn unig ydy hynny. Ac, wrth gwrs, mae’n mynd yn ddyfnach na hynny. Fel roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud, rydym wedi mynd lawr o raglen flaenorol y Llywodraeth—roedd yna 12 maes polisi. Rydym yn mynd i lawr nawr i bedwar pennawd yn unig, a dim targedau. Roedd gan y Llywodraeth flaenorol 122 o ddangosyddion canlyniad—braidd yn jargonllyd yntefe, ond o leiaf roedden nhw yna. Roedd yna 224 o ddangosyddion tracio. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau beth yna—ond o leiaf roedd yna dargedau clir, fel ein bod ni yn y lle yma, ac yn bwysicaf oll dinasyddion yn gallu mesur cyrhaeddiant y Llywodraeth, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Wrth gwrs, roedd yna adroddiadau blynyddol ar y rhaglen lywodraethu yn gosod mas cyrhaeddiant yn erbyn y targedau hynny. Dim targedau—[Torri ar draws.] Iawn.
Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A fyddai’r Aelod yn ystyried tynnu ei welliant yn ôl heno, oherwydd, yn amlwg, rwy’n derbyn y pwynt eich bod am ddatblygu eich gweledigaeth amgen a’ch Rhaglen yr Wrthblaid, ond drwy gyflwyno eich gwelliant, bydd yr wrthblaid yn chwalu ac yn amlwg, ni fyddwn yn gallu gosod safbwynt cydgysylltiedig i ddangos ein diffyg hyder yn y rhaglen lywodraethu a gyflwynwyd gan y blaid sy’n llywodraethu?
Rwy’n gobeithio bydd yr Aelod yn deall pam—. Nid wyf eisiau gwneud hynny, wrth gwrs, oherwydd rŷm ni’n cefnogi’r rhaglen rŷm ni wedi’i gosod. Ond rydw i’n hapus i gadarnhau y byddwn ni’n cefnogi cynnig y Torïaid, oherwydd mae’n rhaid dwyn y Llywodraeth yma i gyfrif am raglen sydd yn sâl—sydd yn wag, a dweud y gwir, pan mae Cymru’n haeddu gwell.
I fod yn syml iawn ynglŷn â hyn, nid oes yna data perfformiad nawr yn mynd i fod ynghlwm wrth unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y rhaglen yma. Roeddwn i’n edrych drwy’r ddogfen am ffigurau. Bach iawn o ffigurau sydd ynddi o gwbl. Hynny yw, 20,000 o dai fforddiadwy oedd yn eu maniffesto nhw. Torri cyfraddau ysmygu Cymru i lawr i 16 y cant. Yn y ddogfen gyfan, rhyw ddau darged, felly, i’w cyrraedd erbyn—a 100,000 o brentisiaethau—dau neu dri o dargedau yn unig, o’u cymharu â’r cannoedd o ddangosyddion oedd yn y rhaglen flaenorol. Mae yna gwpl o dargedau, wrth gwrs, sy’n mynd â ni i ganol y ganrif nesaf—hynny yw, 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg ac yn y blaen. Wel, nid yw’r rheini’n dargedau yr ydych chi’n gallu dwyn y Llywodraeth i gyfrif arnyn nhw mewn tymor o bum mlynedd.
Hyd yn oed os ydym ni’n edrych ar yr ieithwedd, wrth gwrs, fel sydd wedi cael ei ddweud—iaith aneglur, gwantan, penagored. Lot o ryw bethau fel ‘hyrwyddo’, ‘cefnogi’, ‘gweithio tuag at’. Gallwch chi weithio tuag at rywbeth i ebargofiant. Nid yw’n golygu dim yw dim i unrhyw un—i bobl gyffredin, yn sicr ddim. Mae’n anodd anghytuno â lot sydd yma, ond nid oes affliw o syniad gyda’r un ohonom ni beth maen nhw’n ei olygu, a pha ffon fesur sydd yno i wybod a ydyn nhw wedi cael eu cyrraedd neu beidio.
And it’s not just us saying that—the Institute of Welsh Affairs, the National Union of Teachers, the Electoral Reform Society, Community Housing Cymru, et cetera. Based on this document, there’s a vacuum of leadership, as we’ve seen from Brexit to bovine TB, and based on this document, this risks being the weakest Government, the worst Government, possibly, we’ve had since the days of Alun Michael. It’s not a road map to the future—it’s not taking us anywhere in particular. And if we can’t replace this Government at the moment, then it will fall to us as a legislature to do our best to try and rescue it from the sheer lack of ideas that are currently contained in this document.
Yn 2012 cefais ganiatâd i gyflwyno Bil menter yn y Cynulliad hwn. Nod fy Mil oedd argymell cyfres o fesurau i hybu twf economaidd, cyflogaeth, caffael a sgiliau. Byddai’r mesurau hyn, rwy’n credu, wedi cynyddu ffyniant ac wedi mynd i’r afael ag amddifadedd cymunedol yng Nghymru. Yn anffodus, ni lwyddodd fy Mil i ddod yn gyfraith. Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chynllun pum mlynedd. Maent yn honni y bydd eu rhaglen yn meithrin yr amodau sydd eu hangen i ganiatáu i fusnesau ffynnu a chreu swyddi o ansawdd uchel. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy hyrwyddo gweithgynhyrchu a lleihau’r baich ar fusnesau. Wel, gwell hwyr na hwyrach. Bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy’n edifarhau nag am 99 o rai nad oes angen iddynt wneud hynny.
Fel erioed, yn y manylion y mae’r diafol. Ond nid oes fawr ddim manylion yn y ddogfen hon o ran sut y byddant yn gwella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn addo creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog sgiliau ym mis Mehefin fod y targed ar gyfer prentisiaid wedi cael ei gynnwys yn y dyraniad cyllideb presennol i ddarparwyr prentisiaethau. Ond yn y Siambr hon, dywedodd y Gweinidog, a’i ddyfyniad ef yw hwn:
‘nid wyf yn mynd i gael fy nhynnu i wneud ymrwymiadau i rifau na ellir eu cyflawni’.
Felly, pa sicrwydd sydd gennym y caiff yr addewid hwn ei gyflawni a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd tuag at ei nodau?
Maent hefyd yn ymrwymo i ail-lunio cyflogadwyedd unigolion parod am waith a’r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi er mwyn iddynt gael y sgiliau a’r profiad i allu cael gwaith cynaliadwy a’i gadw. Unwaith eto, ni roddir unrhyw fanylion. Ni cheir cyfeiriad at sut y bydd y prentisiaethau’n canolbwyntio ar sgiliau penodol. Mae economi Cymru yn wynebu prinder sgiliau difrifol. Wynebodd mwy na 70 y cant o fusnesau Cymru anhawster i recriwtio staff priodol y llynedd. Mae 61 y cant yn ofni na fyddant yn gallu recriwtio digon o weithwyr medrus iawn i ateb y galw ac i dyfu.
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn cynlluniau dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau? Yn aml, pobl hŷn yng Nghymru sydd fwyaf o angen ailhyfforddi a chymorth cyflogadwyedd. Maent yn gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru, ac eto cânt eu gwthio i’r cyrion gan Lywodraeth Cymru o ran asesu, dysgu, hyfforddi a chyfleoedd uwchsgilio. Mae Twf Swyddi Cymru yn gwahaniaethu’n awtomatig yn erbyn pobl hŷn drwy ariannu cyflogwyr i gyflogi pobl rhwng 16 a 24 oed yn unig. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r broblem hon o wahaniaethu ar sail oedran? Rwy’n credu y dylid cael mwy o gydweithredu rhwng addysg a busnes i sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau parod am waith wrth adael yr ysgol. Mae arnom angen mwy o dargedu i sicrhau bod cynaliadwyedd sgiliau yn cael sylw yn ein hanghenion ar gyfer y dyfodol yng Nghymru.
Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf yn economaidd ar brosiectau seilwaith mawr, megis morlyn llanw bae Abertawe a ffordd liniaru’r M4. Nid yw’r M4 yn ei chyflwr presennol yn addas i’r diben. Mae’r lefel gynyddol o dagfeydd ar y ffordd yn rhwystr mawr i dwf economaidd yn ne Cymru a Chymru gyfan. Eto i gyd, mae’r prosiect hanfodol hwn wedi bod yn destun tin-droi ac oedi gan y Llywodraeth. Mae’r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i adeiladu seilwaith i gadw Cymru i symud. Ni allwn ond gobeithio bod hyn yn golygu darparu ffordd liniaru’r M4.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n gobeithio y bydd y pum mlynedd nesaf yn cynhyrchu ffrwyth a fydd yn deilwng o edifeirwch y Llywodraeth hon. Diolch.
Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon i gefnogi rhaglen y Llywodraeth. Rwy’n meddwl bod y gwrthbleidiau wedi protestio ychydig gormod y prynhawn yma ac wedi protestio ychydig gormod am faint y ddogfen, nad wyf yn meddwl ei fod yn fater allweddol mewn gwirionedd—y mater allweddol yw’r cynlluniau hirdymor ac rwy’n falch iawn o siarad o blaid y cynlluniau hynny heddiw.
Yn amlwg, rydym mewn amgylchiadau anodd. Rydym yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â sefyllfa’r UE ac wrth gwrs, rydym wedi profi’r toriadau di-baid yn y gyllideb o San Steffan. Felly, ar adeg fel hon, rwy’n credu ei bod yn bwysicach byth fod gennym raglenni dychmygus ac uchelgeisiol gyda chanlyniadau sy’n treiddio i wahanol rannau o gymdeithas ac yn helpu pobl Cymru sy’n dod atom, i’n cymorthfeydd, i chwilio am gymorth a chyfleoedd, ac i’r bobl sy’n dod i fy nghymorthfeydd mae’r rhaglen hon yn cynnig llawer.
Felly, rwy’n mynd i gyfeirio’r rhan fwyaf o fy sylwadau at y cynnig i ymestyn gofal plant ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed—gan ymestyn nifer yr oriau o 10 awr yr wythnos i 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim am 48 wythnos o’r flwyddyn. A gaf fi ddweud bod y 10 awr sydd eisoes yn bodoli yn y cyfnod sylfaen, ac a gaf fi ddweud hefyd fod y cyfnod sylfaen yn fenter arloesol a gyflawnodd y Cynulliad—y Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur? Felly, hoffwn wneud y pwynt fod y Llywodraeth hon wedi sicrhau llwyddiannau mawr, a bod angen cydnabod hynny.
Felly, eisoes mae gennym y 10 awr yn y cyfnod sylfaen ac mae hwnnw’n mynd i gael ei gynyddu i 30 awr am 48 wythnos o’r flwyddyn. Dyna un o’r materion cwbl allweddol. Mae’n 48 wythnos y flwyddyn, felly nid darpariaeth yn ystod y tymor yn unig ydyw, ac rwy’n credu ei fod gwbl hanfodol i rieni gan ei fod yn cadw mewn cof mai pedair wythnos yn unig o wyliau’r flwyddyn y mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio yn ei gael. Mae’n addewid uchelgeisiol, ond bydd yn trawsnewid bywydau teuluoedd. Bydd yn effeithio ar gyfraddau cyflogaeth, bydd yn rhoi hwb i’r economi, bydd yn rhyddhau talentau llawer o rieni—gyda llawer ohonynt yn fenywod—yn ogystal â darparu cyfleoedd addysgol a gofal o’r radd flaenaf ar gyfer y plant. Felly, rwy’n meddwl bod hon yn rhaglen uchelgeisiol a heriol. Gwn fod fy etholwyr wrth eu boddau fod y cyfle hwn yn mynd i gael ei gynnig, felly rwy’n credu y dylai’r gwrthbleidiau ystyried hynny o ddifrif.
Hefyd, yn Lloegr mae’r cynnig gofal plant yn—[Torri ar draws.] Mewn munud. Yn Lloegr, mae’r cynnig gofal plant am 15 awr yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn, ac yn yr Alban mae’n 16 awr yr wythnos dros y tymor ysgol yn unig. Felly, rwy’n gwybod nad ydym yn dymuno cymharu gormod, ond yn bendant y cynnig gofal plant hwn yw’r cynnig gorau yn y DU.
Diolch i’r Aelod dros Ogledd Caerdydd am gymryd fy ymyriad. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi: mae gofal plant yn gynnig gwirioneddol bwysig y gall y Llywodraeth ei wneud ac mae’n rhywbeth roedd pob plaid wedi cyflwyno cynnig yn ei gylch. Mae’n amlwg mai chi oedd y blaid fwyaf, felly eich cynnig chi fydd yr un y byddwch yn gyfrifol am ei gyflawni. Ond nid yw’r ddogfen hon yn dweud sut y mae’n mynd i gael ei gyflawni, yr amserlen ar gyfer ei gyflwyno, y gyllideb ar gyfer ei gyflwyno, neu beth yn union fydd y categorïau. Felly, rydym yn cefnogi’r cynnig, ond gadewch i ni gael ychydig rhagor o gig ar sut yn union y mae’n mynd i gael ei ddatblygu. ‘Does bosibl nad yw hwnnw’n gwestiwn afresymol i ni ei ofyn.
Prif ddogfen yw hon. Yn amlwg, bydd yr holl drafodaeth honno, a’r ddadl a’r manylder yn digwydd, a’r hyn rwy’n meddwl y dylem ei wneud heddiw yw tynnu sylw at rinweddau’r hyn sydd yn y ddogfen. Roeddwn yn siarad ag etholwr y bore yma mewn gwirionedd a oedd yn dweud bod yna feithrinfa o ansawdd uchel iawn yng Ngogledd Caerdydd roedd hi eisiau i’w phlentyn fynd iddi, ond ni allai’r plentyn fynd yno am mai dros y tymor ysgol yn unig roedd hi’n agor. Felly, rwy’n meddwl bod manylion y cynnig hwn yn bwysig iawn.
Pan fyddwn yn datblygu’r manylion, credaf ei bod yn bwysig iawn datblygu’r model yn hyblyg, gan y bydd yn cael ei ychwanegu at 10 awr bresennol y cyfnod sylfaen, a gwn fod y ddarpariaeth honno’n heriol iawn yn ymarferol i lawer o rieni am ei bod yn anodd gwneud defnydd ohoni os mai am ddwy awr y dydd yn unig y mae ar gael, fel y’i darperir ar hyn o bryd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei wneud yn hyblyg, fel bod gwarchodwyr plant, grwpiau chwarae a meithrinfeydd yn cael eu cydnabod fel darparwyr gofal plant a fyddai’n gymwys i gael yr arian hwn, oherwydd mae’n rhaid iddo gael ei gyfuno gyda’r cyfnod sylfaen ac rydym angen cymysgedd o leoliadau.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gydnabod bod talu am ofal plant yng Nghymru yn ddrud iawn. Mae adroddiad 2016 gan Chwarae Teg yn amcangyfrif bod cost gofal plant ar gyfer swyddi amser llawn, yn seiliedig ar bum niwrnod o feithrinfa a gwarchodwr plant, yn 32 y cant o gyflog cyfartalog dynion a 37 y cant o gyflog cyfartalog menywod. Felly, mae cost gofal plant yn uchel iawn yng Nghymru. Felly, yn fy marn i mae hwn yn bolisi eithriadol o bwysig, ac rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth Lafur wedi cyflwyno hwn yn rhan o elfennau allweddol ei rhaglen lywodraethu.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma. Pan fyddaf yn darllen rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, yr hyn rwy’n siomedig yn ei gylch yw ei bod yn methu’n glir â nodi’r hyn y byddant yn ei wneud yn wahanol—yn wahanol—y tro hwn er mwyn sicrhau bod eu nodau yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Nid yw’r rhaglen lywodraethu’n cynnwys unrhyw dargedau cyflawni y gellid dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu cylch, nac unrhyw fanylion ynglŷn â pha bryd, ble a sut y maent yn mynd i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd i gefnogi busnesau neu hyrwyddo cysylltedd digidol a darparu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas i’r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r nodau’n dda; mae digon o nodau yn y ddogfen, ond nid yw nodau’n dda i ddim oni bai eu bod yn cynnwys y manylion sy’n dweud sut y cânt eu cyflawni. Julie Morgan, rwy’n derbyn nad yw maint y ddogfen yn bwysig i chi, ond mae’n rhaid ei fod yn bwysig, a dyna beth sy’n bwysig yma. Roeddwn yn meddwl bod Adam Price wedi tynnu sylw’n dda iawn at y cymariaethau rhwng rhaglenni llywodraethu’r gorffennol a rhaglenni llywodraethu mewn gwledydd eraill a’r ddogfen fach iawn a gyflwynwyd i ni yr wythnos diwethaf.
O ran busnes hefyd, ni chafwyd unrhyw ymrwymiad i godi’r trothwy—. Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn mynd i ddweud mai’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn eu rhaglen lywodraethu, rhywbeth rwy’n ei groesawu’n fawr iawn, yw eu bod yn mynd i gyflwyno toriad treth ar gyfer busnesau llai o faint, er mwyn gostwng eu biliau, a byddant yn darparu hynny ar gyfer 70,000 o fusnesau. Wel, mae hynny’n wych, ond ni cheir unrhyw fanylion ynglŷn â sut y cyflawnir hynny ac ni cheir manylion nac ymrwymiad i godi’r trothwy ar gyfer y 100 y cant o ryddhad ardrethi i fusnesau bach o’r gwerth ardrethol o £6,000. Nawr, mae ardrethi busnes wedi cael eu datganoli ers mis Ebrill 2015, ond rydym yn dal i aros i rywbeth ddigwydd, ac mae ein busnesau bach yn crefu am gymorth.
Ar gysylltedd digidol, ni cheir fawr o sôn sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i chwarae ei rhan yn ymestyn cysylltedd symudol i gymunedau sydd heb signal o gwbl, neu sut y mae’n mynd i gefnogi cysylltedd symudol 4G a 5G gwell. Yr hyn y byddwn yn ei awgrymu yw bod y Llywodraeth yn edrych ar Lywodraeth yr Alban. Mae ganddynt gynlluniau manwl yn y maes hwn ac efallai y gallent ddysgu gwers ganddynt hwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig band eang cyflym da a dibynadwy, ond nid oes amserlen ynghlwm wrth hynny na diffiniad, yn allweddol, o’r hyn y mae ‘cyflym’ a ‘dibynadwy’ yn ei olygu. Gwn mai’r nod ar hyn o bryd yw sicrhau bod 96 y cant o eiddo yn cael band eang cyflym iawn erbyn mis Mehefin eleni, ond y gwir amdani yw bod 50 y cant o eiddo yng nghefn gwlad Cymru yn dal i fod heb fand eang cyflym iawn. 50 y cant. Cyhoeddwyd y gwerthusiad terfynol o genhedlaeth nesaf y rhaglen Band Eang Cymru yn gynharach heddiw, ac mae hwnnw’n amlygu pryderon sylweddol, gan gynnwys problemau gydag argaeledd gwybodaeth hanesyddol a gwybodaeth sy’n edrych tua’r dyfodol gan BT, a beirniadaeth fod y marchnata a gwaith cyfathrebu ar yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddarpariaeth wedi bod yn anghyson. Felly, byddai’n ddefnyddiol gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu pedwar argymhelliad yr adroddiad.
Byddai hefyd yn dda cael gwybodaeth a manylion am yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’w wneud a sut y bydd yn gweithio gyda’r comisiwn seilwaith cenedlaethol sy’n cael ei sefydlu’n rhan o’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur. Sut y mae’n mynd i weithio? Sut y mae’r comisiwn seilwaith cenedlaethol yn mynd i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, neu ai creu rhagor o weinyddiaeth yn unig yw hyn? Felly, sut y diffinnir pob un o’r rolau hyn?
Hefyd, sylwais fod rhai materion pwysig eraill ar goll o’r rhaglen lywodraethu. Mae Andrew R.T. wedi dweud nad oes sôn o gwbl am drechu TB gwartheg. Mae’n gywilyddus peidio â sôn am hynny yn y rhaglen lywodraethu, o ystyried cymaint y mae’n effeithio ar lawer o’n cymunedau ffermio ym mhob rhan o’r Gymru wledig. Nid oes fawr o sôn am y Gymru wledig yn y rhaglen lywodraethu. Rwy’n credu bod hynny’n arbennig o siomedig i rannau mawr o Gymru. A sylwais nad oes sôn am gefnogi’r diwydiant dur yn y rhaglen lywodraethu. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae’n ymddangos bod yna ddiffyg uchelgais. Os wyf yn anghywir, yn sicr ni allaf ei weld yn y ddogfen a gyflwynwyd i ni yr wythnos diwethaf.
Nid wyf am rygnu ynglŷn â’r diffyg tudalennau, gan fod Julie eisoes wedi cymryd ati ynglŷn â hynny, ond hyd yn oed os ydym yn derbyn mai 16 tudalen o hyd yw’r ddogfen, hyd yn oed o fewn ei maint bach, mae yna ddiffyg cynnwys pendant ynddi. Nid oeddwn yma bum mlynedd yn ôl, ond dywedir wrthyf fod y ddogfen gyfatebol bryd hynny’n 600 o dudalennau o hyd. Mae hynny i’w weld yn dangos rhyw ddiffyg yn rhywle.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Roedd yna lawer o gwynion bryd hynny ei bod yn rhy hir. [Chwerthin.]
Efallai eu bod wedi gorymdrechu i wneud iawn yn yr achos hwn. Efallai y dylent fod wedi sicrhau cydbwysedd rywle yn y canol. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Ah.’]
Ewch ymlaen.
Hefyd, roedd yna rywbeth, rwy’n credu, yn y Cynulliad blaenorol, a alwyd yn uned gyflawni. Nid yw gyda ni mwyach, hyd y gwn. Mae’n ymddangos na chyflawnodd unrhyw beth, gan mai ychydig iawn o’r targedau a gyrhaeddwyd, ac felly cafodd ei anfon i ebargofiant. Felly, erbyn hyn, mae’r targedau wedi diflannu i raddau helaeth, a’r hyn sydd ar ôl yw rhestr o uchelgeisiau niwlog heb unrhyw ffordd o fonitro i ba raddau y gallwn eu cyflawni’n llwyddiannus.
Mae llawer iawn o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar hoff brosiectau’r Llywodraeth Lafur, ond pa mor effeithiol yw’r prosiectau hyn? Yn ddiweddar, cawsom dystiolaeth sylweddol nad oedd un o’u cynlluniau mawr, Twf Swyddi Cymru, yn cael unrhyw effaith economaidd o gwbl. Mae hyn yn cyd-fynd â sylwadau Oscar ynglŷn â’r prinder sgiliau a’r ffordd rydym wedi methu cynhyrchu pobl sy’n gadael coleg yn meddu ar sgiliau parod am waith. Sut yr eir i’r afael â hyn yn y dyfodol?
Mae’n arfer gan y Prif Weinidog yn ddiweddar i ddweud wrthym am beidio â dibynnu ar anecdotau, ond yn hytrach, y dylem ddibynnu ar dystiolaeth. Ni ddylem ddifrïo tystiolaeth. A yw’r Gweinidog yma heddiw yn cytuno bod y ddogfen hon, gyda’i diffyg targedau, yn dangos bod y Llywodraeth hon yn troi ei chefn yn llwyr ar yr angen i gydymffurfio â thargedau a thystiolaeth?
Rwy’n teimlo fel pe bawn mewn sefyllfa freintiedig, fel y llefarydd tai, gan fod yna ymrwymiad—ymrwymiad penodol—yn y rhaglen lywodraethu y gallaf ymateb iddo. A dweud y gwir, roeddwn yn falch iawn—wedi cynhyrfu hyd yn oed—pan ddarllenais fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yna, edrychais yn fanylach ar hyn, a phwyso ar y Prif Weinidog. Yn anffodus, roeddwn yn rhy bell i lawr y papur trefn ddoe i gael fy ngalw mewn gwirionedd, ond fel sy’n arfer gennym, gwnaed fy nghwestiwn llafar wedyn yn destun ateb ysgrifenedig gan y Prif Weinidog. Mae wedi datgan fod yr ymrwymiad i 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn gadael targed cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer cartrefi newydd a adeiladir bob blwyddyn yng Nghymru heb ei newid. Mae’n parhau i fod yn 8,700—er nad ydych yn cyflawni hynny, gyda llaw. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn ei chael yn rhyfedd iawn fod yna ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i adeiladu cartrefi fforddiadwy ychwanegol, ac eto nid yw’r targed cyffredinol ar gyfer adeiladu tai wedi newid. Mae wedi bod yn fras yr hyn ydyw yn awr ers pum mlynedd. Efallai y bydd meddyliau gwell na fy un i yn gallu ymdopi gyda’r lefel hon o baradocs, ond rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi eglurhad i ni yn nes ymlaen wrth iddi ymateb.
Nid yw hwn yn bwynt dibwys. Rydym yn wynebu argyfwng tai. Mae’n un sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd. Yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Cynulliad, dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain,
‘Nid ydym wedi bod yn adeiladu’r cartrefi newydd mae Cymru eu hangen am ormod o flynyddoedd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn prisiau, sy’n tanseilio ein gallu cystadleuol economaidd ac enw da Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddiad.’
Cytunaf yn llwyr â hynny. Hefyd, mae adeiladu tai yn lluosydd economaidd ardderchog. Mae’n defnyddio adnoddau lleol, llafur lleol, i raddau helaeth, a llawer o fusnesau bach a chanolig, a dylem fod yn adeiladu mwy o gartrefi ar hyn o bryd.
Mae’r dystiolaeth yn dynodi’r angen i adeiladu o leiaf 12,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru, a phan welais yr ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn, meddyliais, ‘A, maent wedi derbyn y targed o 12,000 o gartrefi fan lleiaf yn awr. O’r diwedd mae yna gynnydd go iawn yma, a gallwn ei groesawu’. Oherwydd byddai hynny wedi codi eich targed i 12,700. Ond na. Rywsut, mae’r gair ‘ychwanegol’ yng ngeiriadur Prif Weinidog Cymru yn golygu rhywbeth gwahanol i’r hyn yw ei ystyr cyffredin i’r gweddill ohonom, rwy’n amau.
Nid yw’n syndod fod yr argyfwng tai wedi arwain at brisiau anhygoel o uchel yn ôl unrhyw gymhariaeth hanesyddol. Mae pris tŷ ar gyfartaledd yn £173,000 ar hyn o bryd yng Nghymru. A ydym wedi colli’r gallu i gael ein synnu gan beth o’r data hwn, sy’n ymwneud â hanfodion bywyd—yr awydd a’r angen am gartref? Mae’r pris cyfartalog bellach yn £173,000. Mae hwnnw’n lluosrif anhygoel o’r cyflog cyfartalog, ar 6.4—6.4 gwaith y cyflog cyfartalog i gael y tŷ cyfartalog yng Nghymru. Mae rhywbeth mawr iawn o’i le ar y modd rydym yn ateb y galw am dai.
Mae’r argyfwng tai yn taro pobl iau yn arbennig o galed. Ar hyn o bryd mae 150,000 o rai rhwng 20 a 34 oed yn dal i fyw gartref. Mae cartrefi i deuluoedd yn llawer rhy aml allan o gyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf, h.y. pobl yn eu 30au, pan fyddant yn magu teuluoedd. Y drasiedi yma yw y gallem fod yn gwneud rhywbeth, a gallem fod yn gwneud rhywbeth sy’n gynhyrchiol iawn yn economaidd yn ogystal ag ateb y galw sylfaenol hwn am dai.
A gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud fy mod yn siomedig iawn fod gan Lywodraeth Cymru y pŵer gweithredol yn awr ac nad yw wedi dewis ategu uchelgais plaid y Ceidwadwyr Cymreig fel y caiff ei amlinellu yn ein maniffesto pan ddywedasom y byddem wedi cyflwyno Bil mynediad at dai i helpu pobl ifanc i gael troed ar yr ysgol dai, i hyrwyddo marchnad dai fwy bywiog, ac i roi hwb i’r diwydiant adeiladu? Dyna sydd ei angen ar Gymru. Gwnewch hynny.
Wel, rydym wedi cael dadl fywiog y prynhawn yma. Rwy’n gwerthfawrogi’r modd y cafodd ei hagor gan Andrew Davies, ac er ein bod mewn gwahanol bleidiau, credaf fod gennym lawer yn gyffredin. Mae gennym un peth yn gyffredin—mae ein dwy blaid yn erbyn y weinyddiaeth ddiwerth hon sydd wedi dominyddu Cymru am gyfnod mor hir.
Pan roddodd y Prif Weinidog ei ddatganiad ar hyn yr wythnos diwethaf, diystyrais y ddogfen fel cyfres o ystrydebau. Wel, rwy’n meddwl mai 15 tudalen o fflwff yw hi, onid e? Dyna beth sydd gennym yma—yr hyn y gallech ei alw’n soufflé o ewyn melys, ond nid yw soufflés yn elwa ar gael eu hailgynhesu, a dyma’r trydydd tro i ni gael rhaglen bum mlynedd yn y 15 neu 16 wythnos y buom yma yn y pumed Cynulliad. Felly, os ydym yn mynd i gael rhaglen lywodraethu newydd ar gyfer Llywodraeth bum mlynedd bob pum wythnos, yna rydym yn mynd i fod yn cynhyrchu llawer o bapur ac yn cwympo llawer o goed dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Os edrychwch drwy’r ddogfen hon, mae’n cynnwys llawer o eiriau, ond fawr iawn o weithredu. Rydym wedi clywed gan siaradwyr yn y ddadl heddiw am ei chyfyngiadau. Rwyf am ganolbwyntio ar amaethyddiaeth, gan fy mod yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru. Y cyfan y mae’r ddogfen yn ei ddweud am amaethyddiaeth, yn y bôn, yw ein bod yn mynd i
‘weithio gyda’n partneriaid i sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth yng Nghymru’.
Wel, pwy na fyddai’n gwneud hynny? Ond nid yw hynny’n fawr o gysur i ffermwyr—[Torri ar draws.] Fawr o gysur i ffermwyr, nad oes ganddynt unrhyw syniad beth y mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud am TB, nac unrhyw syniad beth y mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud am y cwymp yn incwm ffermydd. Iawn.
Rwy’n synnu braidd eich bod yn sefyll i siarad am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i ffermio pan oeddech chi, eich plaid chi mewn gwirionedd, eisiau gadael yr UE. Rydych chi wedi cael hynny. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych yw hyn: beth oeddech chi’n meddwl oedd yn dod nesaf? Oherwydd ni ddywedoch hynny. Fe ymgyrchoch chi ar lwyfan o gasineb, a dyna’n union a wnaethoch, ac nid oedd gennych syniad beth oedd yn dod nesaf.
Wel, dyna gyfraniad nodweddiadol gan ‘Joy-less’ Watson, ond—
Esgusodwch fi, a wnewch chi gyfeirio—
Rwy’n ymateb—
Na, mae’n ddrwg gennyf, a wnewch chi gyfeirio at yr Aelod fel y mae wedi ei rhestru ar y papur trefn, os gwelwch yn dda? Ei henw yw Joyce Watson.
Rwy’n gresynu fy mod wedi ildio i Joyce Watson.
Diolch.
Ond byddaf yn gwybod yn well y tro nesaf. Nid yw’r ddogfen yn dweud dim am yr ateb i’r problemau TB, nid yw’n dweud dim am y cwymp yn incwm ffermydd, ac nid yw’n dweud dim am orlwytho ffermwyr â rheoliadau.
Ar y gwasanaeth iechyd, unwaith eto, maent
‘wedi ymrwymo o hyd i egwyddorion sylfaenol y GIG, sef gofal iechyd rhad ac am ddim ar gael i bawb pan fo’i angen.’
Ond mae hynny’n syndod mawr i drigolion Blaenau Ffestiniog, fel y dywedais wrth holi’r Prif Weinidog ddoe, gan fod eu hysbyty wedi cau a phrin fod ganddynt unrhyw feddygon teulu ar ôl. Nid oes ateb i argyfwng recriwtio meddygon teulu yng Nghymru yn y ddogfen hon chwaith.
Ar drafnidiaeth, y cyfan sydd gennym yw rhestr wedi ei hail-gynhesu o brosiectau sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd. Ffordd liniaru’r M4—mae honno wedi bod yn cael ei thrafod ers wyth mlynedd ac nid ydym wedi cyrraedd y llinell gychwyn ar honno o hyd. Ond dywedir wrthym ein bod yn mynd i leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn y flwyddyn 2050, a chanlyniadau hynny fydd ychwanegiad enfawr at faich costau diwydiant Prydain a chynnydd enfawr ym miliau trydan cartrefi cyffredin ledled Cymru, ac aelodau tlotaf y gymuned fydd y rhai a fydd yn dioddef fwyaf. A dyna beth y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi ymrwymo i’w wneud.
Mae’r ddogfen gyfan yn seiliedig, i fynd yn ôl at ymyriad Joyce Watson, ar y syniad ein bod yn mynd i gael economi sy’n crebachu o ganlyniad i adael yr UE, ond mae rhagolwg gan y Trysorlys a gyhoeddwyd heddiw wedi cael ei ddiwygio bellach i’r cyfeiriad arall, i ffwrdd o’r ‘prosiect gwae’. Felly, yr hyn y mae gadael yr UE yn ei roi i ni yw cyfle enfawr i ddod â phwerau adref, nid i San Steffan yn unig, ond hefyd i Gaerdydd, a’u defnyddio er mwyn gwella potensial cynhyrchiol economi Prydain ac felly, er mwyn gwella ffyniant pob dosbarth a lefel incwm yn y gymdeithas. Am fod y pwerau hynny ar hyn o bryd yn nwylo pobl nad ydynt yn cael eu hethol ac nad ydynt yn atebol felly i bobl y wlad hon, mae’n rhoi pob cyfle i ni wella democratiaeth ym Mhrydain hefyd.
Mae’n hurt meddwl y bydd gadael yr UE—hyd yn oed yn yr hyn y gallech ei ystyried yn senario waethaf o fethu gwneud unrhyw fath o gytundeb â’r UE o gwbl—fod hynny’n mynd i arwain at grebachu’r economi, gan mai 5 y cant yn unig o’n cynnyrch domestig gros a ddaw o allforion i’r UE, a byddai tariff o 4 y cant fan bellaf ar 65 y cant o’r 5 y cant hwnnw pe na baem yn dod i unrhyw gytundeb gyda’r UE. Felly, rydym yn sôn yn unig, yn y senario waethaf, am leihad posibl o ran o 1.5 y cant o’r cynnyrch domestig gros—os anwybyddwch holl effeithiau dynamig gadael yr UE a’n rhyddid i ffurfio cytundebau masnach â gwledydd o amgylch y byd sy’n cael eu blocio neu eu rhwystro ar hyn o bryd yn sgil yr angen i 28 o wledydd gytuno ar y cytundebau hyn cyn y gellir eu rhoi ar waith.
A ydych yn dod i ben?
Rwy’n dod i ben. Mae yna bethau yn y ddogfen hon y gellir eu croesawu. Un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050—rwy’n gobeithio y byddaf yn dal yma i weld a yw’r Llywodraeth yn gallu cyflawni ar y cytundeb hwnnw, ac mae fy nghefnogaeth i Alun Davies, un o fy hoff Weinidogion, yn gryf yn hyn o beth, a llawer o bethau eraill hefyd. [Torri ar draws.] Ond rwy’n mynd i ddod â fy sylwadau i ben. Mae’r Llywodraeth yn aml yn sôn am y tlodi sy’n bodoli yng Nghymru, ond yr enghraifft waethaf o dlodi sy’n bodoli yng Nghymru mewn gwirionedd yw’r tlodi yn uchelgais Llywodraeth Cymru, a gynrychiolir gan y llosgfynyddoedd marw ar y fainc flaen yma.
Galwaf ar Jane Hutt i ymateb ar ran y Llywodraeth.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o ymateb i’r ddadl fywiog hon y prynhawn yma. Diolch i chi am ddymuno’n dda i’r Llywodraeth, Andrew R.T. Davies, wrth iddi gyflawni’r rhaglen lywodraethu hon. Rydym wedi darparu datganiad clir iawn i bobl Cymru ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth hon yn sefyll drosto—yr hyn y mae’r Llywodraeth hon yn sefyll drosto a’r hyn yw ein hegwyddorion a pha gamau gweithredu y bwriadwn eu rhoi ar waith. Rydym wedi tynnu sylw at y meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf, gyda phrif ymrwymiadau i’n symud ymlaen. Rwy’n hapus iawn, unwaith eto, i atgoffa’r Cynulliad am yr ymrwymiadau hyn.
Rydym am greu Cymru sy’n ffyniannus ac yn ddiogel. Felly, byddwn yn cyflwyno toriad treth i 70,000 o fusnesau. Byddwn yn creu banc datblygu Cymru. Byddwn yn gweithredu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU, fel y dywedodd Julie Morgan. A byddwn yn creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed ac yn darparu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy.
Cafodd hynny ei groesawu’n gynnes, rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, David Melding, gan Cartrefi Cymunedol Cymru. Ond rwy’n croesawu’r ffaith hefyd eich bod yn cydnabod bod hwn yn faes polisi pwysig i Lywodraeth bresennol Cymru. Rwyf am wneud un neu ddau o bwyntiau.
Diolch i chi am ildio. Mewn cyfnod o bum mlynedd, sut y gallwch chi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ac eto mae eich targed blynyddol yn parhau i fod yr un fath, sef 8,700? Mae’n drech na fy ngallu i’w resymu. Eglurwch os gwelwch yn dda.
Wrth gwrs, yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, nodwyd targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Cyflawnwyd dros 9,000 gennym yn ystod y pedair blynedd gyntaf—mewn gwirionedd mae’r ystadegau ar gyfer y llynedd yn cael eu rhyddhau mewn wythnos neu ddwy. Rwy’n hyderus y byddant yn dangos ein bod wedi rhagori ar y targed. [Torri ar draws.] Na, rwyf am orffen fy mhwynt i David Melding. Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd mae hwn yn darged uchelgeisiol—darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy—a byddwch yn ein dwyn i gyfrif am hynny, rwy’n gwybod. Mae’n cynnwys tai cymdeithasol a chanolradd, yn ogystal â helpu i gynorthwyo pobl i berchen ar eu cartrefi drwy Cymorth i Brynu—Cymru, sydd mor bwysig i’r bobl ifanc sydd hefyd yn defnyddio Cymorth i Brynu.
Hefyd, mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru, yn wahanol i Lywodraeth y DU, lle nad yw’n bodoli mwyach, yn buddsoddi £68.1 miliwn mewn tai fforddiadwy newydd drwy’r rhaglen grant tai cymdeithasol. Rydych yn cydnabod bod hyn yn hanfodol o ran darparu tai cymdeithasol hygyrch. Hefyd—a dyma’r pwynt pwysig—rydym yn adeiladu. Mae awdurdodau lleol bellach, am y tro cyntaf ers y 1980au, yn adeiladu cartrefi newydd o ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi llwyddo i adael cymhorthdal y cyfrif refeniw tai. Yn sicr—rwy’n gwybod y bydd David Melding yn cydnabod hynny.
Ond gadewch i ni symud ymlaen at yr ymrwymiadau eraill. Rydym am greu Cymru sy’n iach ac yn weithgar, felly byddwn yn recriwtio ac yn hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Cafodd hynny groeso cynnes pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei gyhoeddiad ar hynny, a chafodd groeso cynnes ddoe pan wnaeth ei ddatganiad ar y gronfa triniaethau newydd. Mae hyn yn ymwneud â Llywodraeth sydd wedi gwrando, Llywodraeth sy’n gweithio gyda chi, ac yna’n gwneud datganiadau ar sut y mae’n mynd i gyflwyno’r rhaglen lywodraethu hon.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wnaethoch ymrwymiadau blaenorol yn eich rhaglen lywodraethu ddiwethaf yn y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod pawb dros 50 oed yn cael archwiliad iechyd blynyddol ac y gallai pawb weld meddyg teulu gyda’r nos ac ar benwythnosau. Fe fethoch gyflawni’r ymrwymiadau hynny. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni eich bod yn mynd i gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn awr?
Wel, rydych yn sicr wedi croesawu’r ymrwymiadau a gyflawnwyd gennym, Darren Millar, o ran y gwasanaeth iechyd. Ond hefyd, rwy’n meddwl ac yn cofio eich bod wedi croesawu’r ffaith ein bod ni, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi rhoi arian tuag at ofal cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, yn cael ei dorri yn Lloegr yn awr, gan arwain at bobl yn aros yn yr ysbyty am nad oes cyllid ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod gofal cymdeithasol yn uchelgais blaenllaw.
Rhaid i ni hefyd gydnabod bod hyn yn ymwneud â sut rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â dysgu. Rydym wedi buddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol er mwyn gwella safonau ysgol, ac wedi cyflwyno cwricwlwm newydd i gael y sgiliau sydd eu hangen arnom a hyrwyddo rhagoriaeth ym maes addysgu. Rwyf wrth fy modd fod Neil Hamilton yn croesawu’r ffaith ein bod yn gweithio tuag at 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond mae’n swnio fel pe baech yn ein gadael, Neil Hamilton, o’r hyn a ddywedoch, ond gadewch i ni gydnabod bod yna bwyntiau pwysig i’w gwneud.
Hoffwn ymateb hefyd i bwyntiau Mohammad Asghar am y 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pobl o bob oedran. Dyna beth, neithiwr, roedd Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu—roeddwn yn y cinio, roedd Russell George yn y cinio, Simon Thomas—yn croesawu’r ffaith ein bod wedi cyhoeddi 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pobl o bob oedran yn edrych ar y meysydd allweddol: gwyddorau bywyd, gwasanaethau ariannol a thechnolegau digidol—yn croesawu’r ffaith. Yn wir, dywedodd James Wates, cadeirydd y bwrdd yn y DU, ‘Pan ddof i Gymru, rwy’n gweld arloesedd’. Rydych yn gwybod hynny—fe’i clywoch, y rhai ohonoch a oedd yno neithiwr. Ond roeddent hefyd yn dweud wrthym pa mor bryderus ydynt am yr ardoll brentisiaethau. Nid wyf yn gwybod sut y gall arweinydd yr wrthblaid feddwl nad yw hon yn broblem—yn broblem Llywodraeth y DU a osodwyd arnom heb unrhyw ymgynghori, baich diangen ar gyflogwyr, ac mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn bryderus iawn am y peth. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn ar yr agenda hon a sut y gallwn symud ymlaen ar hyn yn ein huchelgeisiau.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ildio i’ch ochr chi gryn dipyn eisoes. Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu ansicrwydd. Rydym yn paratoi ar gyfer cyllideb ddrafft ynghanol toriadau cyhoeddus parhaus, caledi ac ansicrwydd, wrth gwrs, ers pleidlais y DU i adael yr UE—amser mwy ansicr. Nid ydym yn mynd i achub y blaen ar gynnwys ein cyllideb ar gyfer 2017-18, ac mae’n rhaid i ni gydnabod ei fod yn ymwneud â threfnu adnoddau yn ôl ein blaenoriaethau. Ond rwyf am ddweud yn olaf ein bod, nid yn unig yn cyflawni ein hymrwymiadau, ond rydym yn gwybod beth sydd ei angen ar Gymru, rydym yn gwrando ar yr hyn sydd angen ar Gymru—ei bod eisiau i ni gefnogi busnesau, ei bod am i ni gefnogi ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion, ein rhaglen tai fforddiadwy, ond mae hefyd yn awyddus i ni gydnabod anghenion newydd, a disgrifiodd Julie Morgan y rheini mewn perthynas â’n cynnig gofal plant. Gadewch i ni edrych ar y cynnig gofal plant. Mae’n un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth hon. Mae’n darparu bargen well ar gyfer gofal plant nag unrhyw ran arall o’r DU, gan adeiladu ar y cyfnod sylfaen, a rhoi i deuluoedd sy’n gweithio 30 awr o ofal plant am ddim i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth yn ystod y tymor ac adeg gwyliau. Rwyf mor falch fy mod wedi cael y cyfle i ddweud hynny a chyhoeddi hyn yn y ddadl hon heddiw. Dyma’r flaenoriaeth fwyaf uchelgeisiol i ni fel Llywodraeth Cymru. Yn Lerpwl ddydd Sul, dyfynnodd y Prif Weinidog Nye Bevan, pan ddywedodd, ni allwch gael y blaenoriaethau’n gywir heb feddu ar bŵer.
Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym wedi nodi ein blaenoriaethau, rydym wedi nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud i’w cyflawni, a gallwn eu gwneud yn adeiladol gyda’ch ymgysylltiad chi drwy’r compact gyda Phlaid Cymru ar draws y Siambr hon. Ond rydym yn glir fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros ein rhaglen, ac mae gennym fandad i’w darparu.
Mae hon yn sicr wedi bod yn ŵy curad o ddadl, a chredaf fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi llwyddo i fachu’r holl rannau da, gan fy mod yn meddwl bod y rhan fwyaf o’r cyfraniadau eraill yn eithaf tenau, yn enwedig Llywodraeth Cymru, na lwyddodd i ddod o hyd i fwy nag un ar y meinciau cefn i amddiffyn ei rhaglen. Arweinydd y tŷ, rwy’n deall ei bod yn rhaid bod canlyniad yr etholiad ym mis Mai wedi creu panig mawr ynoch chi a’ch cyd-Aelodau. Rwyf hefyd yn deall ei bod yn rhaid eich bod wedi oedi i ystyried a oeddech yn ddigon dewr ar y cyd i geisio ffurfio Llywodraeth leiafrifol gyda’r dewrder deallusol i ffurfio consensws, Fil wrth Fil, bolisi wrth bolisi. Ac o fethu cael y dewrder deallusol, rwyf hefyd yn deall bod angen i chi weld a oedd gennych amser a lle i amsugno’r un Democrat Rhyddfrydol, a chreu rhyw fath o gytundeb gwlanog gyda’r cenedlaetholwyr.
Efallai y gellid fy mherswadio eich bod, ar ôl 17 mlynedd ddifflach, angen amser i ailfywiogi, ac i lunio cynllun cadarnhaol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall yw sut y gall hwn fod yn ganlyniad hynny—sut y mae eich rhaglen lywodraethu ar gyfer y pedair blynedd a hanner neu bum mlynedd nesaf wedi lleihau’n daflen ddisylwedd, heb ddim amcanion, a llai fyth o uchelgais, ac yn bennaf oll, heb ddull o fonitro’n seiliedig ar ganlyniadau. Dywedodd Julie Morgan mai prif ddogfen yw hi. Ond y gwir amdani yw ein bod, bawb ohonom—y gymdeithas ddinesig, y cyhoedd—yn disgwyl gweledigaeth ychydig yn fwy manwl ar gyfer eich amcanion. Yn lle hynny, cawn ymadroddion gwlanog megis, a dyfynnaf,
‘parhau i wella mynediad at feddygfeydd, gan ei gwneud yn haws cael apwyntiad’.
Rwy’n credu ei bod yn deg dweud y byddai’r rhan fwyaf ohonom wedi disgwyl i apwyntiadau haws fod yn ganlyniad i fynediad gwell. Y manylion go iawn sydd ar goll yw sut y byddwch yn ei wneud, a sut y byddwch yn cael eich mesur.
Rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr o sefydliadau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r rhan fwyaf yn sôn am obeithion chwilfriw, a rhwystredigaeth o ganlyniad i’r ddogfen hon sy’n honni ei bod yn symud Cymru ymlaen. Rhestrodd Andrew R.T. Davies a Russell George y meysydd niferus nad yw’r ddogfen hon yn rhoi fawr o sylw iddynt, yn amrywio o TB gwartheg, i faterion trawsffiniol, i amseroedd aros, i’r diwydiant dur. Mae eich rhaglen lywodraethu yn ddisylwedd, ac yn llawn gwrthdaro, arweinydd y tŷ. Un enghraifft syml yw eich bod am wella iechyd a gweithgarwch corfforol plant, ond torwyd 7 y cant o’r cyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng nghyllideb 2016-17, ac rydych wedi lleihau’r amser y gall plant gymryd rhan mewn Addysg Gorfforol.
Gadewch i mi edrych ar faes arall yn eich rhaglen lywodraethu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, ni wnaf, diolch i chi, Joyce.
Y dyhead mwyaf gwlanog oll—eich addewid i gynnal trafodaeth ehangach ynglŷn â diwygio llywodraeth leol. Felly, er gwaethaf y misoedd o ymdrech, a’r tunelli o eiriau a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Williams, a’r Prif Weinidog yn mynd ati’n bersonol i hyrwyddo diwygio llywodraeth leol yn y Cynulliad diwethaf, a ydych yn dweud bod y rhaglen lywodraethu newydd hon yn gosod llywodraeth leol, eu cynrychiolwyr etholedig, y swyddogion a’r miloedd o bobl sy’n rhan o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru mewn limbo?
Rwyf wedi crybwyll y diffyg gweledigaeth, rwyf wedi crybwyll dyheadau gwlanog, rwyf wedi crybwyll y gwrthdaro o ran polisi ac rwyf wedi sôn am y tin-droi diddiwedd. Felly, gadewch i mi sôn yn olaf am y cafflo mawr. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ysgogi buddsoddiad, arloesedd a chreu swyddi newydd drwy ddarparu mwy o gymorth i fusnesau, gan gynnwys toriad treth—toriad treth sydd, mewn gwirionedd, yn addewid i gadw’r cynllun ardrethi busnes presennol am flwyddyn arall; cynllun a allai arwain yn y pen draw at gynnydd o 10 y cant yn y gyfradd fusnes unffurf yng Nghymru o ganlyniad i ailbrisio y flwyddyn nesaf.
Yn wir, cyffyrddodd David Melding ar faes arall—tai—lle mae un datganiad i’w weld yn golygu rhywbeth hollol wahanol. Pan oeddwn yn yr ysgol, rhaid i mi ddweud bod y gair ‘ychwanegol’ yn y cyd-destun rydych chi’n ei ddefnyddio yn eich dogfen yn golygu ‘yn rhagor’. Mae’n amlwg nad yw hynny’n wir yma yng Nghymru.
Arweinydd y tŷ, rydych chi, eich cyd-Aelodau a’ch timau wedi cael digon o amser i gynllunio ble rydych eisiau mynd. Rydych wedi cael 146 o ddiwrnodau. Mae gennych filoedd o weision sifil yn ogystal â’r addewidion diddiwedd yn eich maniffesto, heb sôn, Gareth Bennett, am yr uned gyflawni fawr ei chlod a ddiflannodd i ebargofiant. Ac eto mae gennym ddogfen rydych chi, Brif Weinidog, yn ceisio ei hamddiffyn fel trywydd strategol, nad yw hyd yn oed yn sôn am dirlithriad y penderfyniad i adael yr UE a allai rwystro eich ffordd. Rwy’n rhyfeddu nad oes unrhyw sôn ynglŷn â sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn, y mater pwysicaf, mae’n rhaid, sy’n ein hwynebu heddiw. Ni allaf ond meddwl tybed a yw eich rhaglen lywodraethu wedi ei ffurfio yn y fath fodd am y byddwn ni’r Cymry, arweinwyr busnes a chymdeithas ddinesig yn gallu herio a dwyn eich perfformiad i gyfrif ym mis Mai 2021—oherwydd mae bron yn amhosibl gwerthuso’r hyn na allwch ddarllen amdano, yr hyn na ellir ei fesur a’r hyn nad yw’n cael ei weithredu.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth yn awr at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.