– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 18 Hydref 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y rhaglen i ddileu TB buchol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru sydd wedi’i diweddaru.
Mae ein fframwaith 2012 ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru yn dod i ben eleni. Mae'n amser i asesu, adlewyrchu ar ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried dull newydd. Ers 2012, rydym wedi gweld nifer yr achosion newydd o TB buchol mewn buchesi yng Nghymru yn lleihau. Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng 19 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Yn ychwanegol at hyn, mae nifer y buchesi dan gyfyngiadau TB wedi gostwng 10 y cant. Y prif reswm dros y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd yng Nghymru oherwydd TB yw oherwydd cynnydd yn nefnydd y prawf gwaed gama interfferon wedi'i dargedu, er mwyn helpu i gael gwared ar haint mewn achosion rheolaidd a pharhaus.
I roi enghraifft, rydym yn gweld sefyllfa sy'n gwella, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, lle mae 68 yn llai o fuchesi dan gyfyngiadau TB oherwydd TB yng Nghymru. Hefyd, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB ar hyn o bryd ar ei lefel isaf mewn 10 mlynedd. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn a gwella cynnydd gan ddefnyddio set o fesurau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein nod hirdymor o ddileu TB. Mae ein hymagwedd tuag at ddileu clefyd wedi canolbwyntio ar bob ffynhonnell o haint TB, gan gynnwys trosglwyddo o fuwch i fuwch a TB yn cael ei ledaenu gan fywyd gwyllt a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae'r rhaglen hon, sydd wedi’i diweddaru, yn cynnwys cyfres gynhwysfawr a chydlynol o fesurau, gan gynnwys dull newydd, rhanbarthol o ddileu TB sy’n cynnwys rhannu ardaloedd yn dri chategori ar sail nifer yr achosion o TB, cryfhau rheolaethau gwartheg, mesurau bywyd gwyllt a newidiadau i’r broses iawndal. Byddwn hefyd yn edrych o’r newydd ar y dull o reoli ein rhaglen.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ein dull newydd. Hoffwn i bawb y mae TB buchol yn effeithio arnynt neu unrhyw un sydd â diddordeb yn ein rhaglen, i ystyried ein cynigion a rhoi sylwadau, a fydd yn helpu i lunio ein cynlluniau. Erbyn hyn, rydym wedi cwblhau bron i saith mlynedd o brofion blynyddol ar fuchesi, sy'n parhau i nodi haint yn gynnar ac yn darparu set ddata amhrisiadwy sy’n dangos y darlun amrywiol o ran y clefyd ar draws Cymru. Rwy’n bwriadu cynnal profion blynyddol ar fuchesi am gyhyd ag y bo angen.
Rydym ni’n gwybod o'r dangosfwrdd TB nad yw achosion o'r clefyd yn unffurf ar draws Cymru a cheir gwahanol ffactorau sy’n effeithio ar ledaeniad y clefyd ym mhob ardal. Fel yr esboniais yn y ddadl y mis diwethaf, rydym yn awr mewn sefyllfa i ddilyn dull mwy rhanbarthol tuag at fesurau i ddileu TB. Byddwn ni’n defnyddio tri chategori o ardaloedd ledled Cymru: isel, canolradd ac uchel. Ar gyfer pob ardal, byddwn ni’n addasu ein dull i adlewyrchu amodau a risgiau’r clefyd. Rydym ni’n awyddus i ddiogelu’r ardal sydd â nifer isel o achosion o TB a lleihau nifer yr achosion yn yr ardaloedd sydd â nifer canolradd ac uchel o achosion o TB. Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, mae'n rhaid i’r mesurau sydd am gael eu gweithredu ym mhob ardal fod wedi’u targedu ac mae’n rhaid iddynt fod yn gymesur, a hoffwn glywed barn rhanddeiliaid ar ein cynigion, a fydd yn cyfrannu at ein nod hirdymor o ddileu TB.
Rydym wedi bod yn targedu buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers dros 18 mis, gan ddefnyddio mesurau gwell. Rydym bellach yn ymestyn hyn i gynnwys meysydd sy’n achosi problemau a buchesi sy'n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro. Bydd gan bob un o'r buchesi sy’n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro gynlluniau gweithredu unigol, pwrpasol, wedi’u datblygu mewn partneriaeth â'r ffermwr, y milfeddyg a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, sydd â’r nod o gael gwared ar haint. Bydd y cynlluniau gweithredu hyn yn cynnwys mesurau megis bod yn fwy sensitif, cynnal profion yn amlach a chael gwared ar adweithyddion amhendant. Mae'r 10 achos hiraf o heintiau TB parhaus ar eu pennau eu hunain wedi costio dros £10 miliwn mewn arian iawndal er 2009 i’r Llywodraeth. Mae rhai o'r buchesi hyn wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers mwy na 10 mlynedd. Rhagwelir y bydd ehangu’r agwedd hon ar y rhaglen yn targedu’r clefyd yn yr achosion cronig hyn a lleihau bodolaeth yr haint yn gyffredinol.
Rwyf hefyd yn gofyn am sylwadau ynglŷn â rhoi cosbau iawndal ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu symud o fewn daliad amlsafle sydd wedi’i gyfyngu o ran buchesi sy’n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro os cânt eu lladd ar ôl hynny o ganlyniad i TB. Rydym eisoes yn lleihau iawndal mewn achosion lle mae gwartheg yn cael eu hychwanegu at fuches gyfyngedig dan drwydded er mwyn rhannu'r risg ariannol yn well, wrth helpu ffermwyr i aros mewn busnes. Bydd y dull hwn yn atgyfnerthu ein rhaglen ymhellach drwy reoli'r risg o ran y clefyd a achosir gan symudiadau penodol o wartheg o fewn daliad. Mae'r mwyafrif o ffermwyr yn cydymffurfio â'r rheolau TB, fodd bynnag, dylai’r rhai hynny nad ydynt yn cydymffurfio gael eu cosbi oherwydd eu bod yn peryglu ein nodau ar gyfer dileu TB. Rwyf, felly, yn ystyried cyflwyno cosbau i daliadau cymhorthdal polisi amaethyddol cyffredin ar gyfer y rhai sy’n torri rheolau penodol o’r Gorchymyn TB. Mae cysylltu ymddygiad a chydymffurfio â'r rheolau i gosbau ariannol eisoes yn rhan o’n rhaglen. Mae’n rhaid i ffermwyr dderbyn y bydd canlyniadau ariannol os nad ydynt yn dilyn y gofynion.
Dylai ffermwyr hefyd ystyried risg wrth brynu gwartheg. Mae cynlluniau prynu doeth wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddileu TB yn Awstralia a Seland Newydd. Mae'r gwledydd hyn ar y blaen wrth ddileu TB ac mae'n rhaid i ni barhau i ddysgu gwersi oddi wrthynt ac ail-greu’r rheolaethau mwyaf defnyddiol. Er mwyn helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag iechyd y gwartheg y maent yn dymuno eu prynu, rwy’n ystyried y cynnig i wneud cynllun prynu doeth yn orfodol yng Nghymru.
Ceir tystiolaeth yn achos rhai achosion o TB cronig mewn buchesi bod bywyd gwyllt yn rhan o’r broses o drosglwyddo’r clefyd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o dorri’r cylch trosglwyddo mewn achosion o TB cronig mewn buchesi, lle y gellir dangos bod moch daear yn cyfrannu at y broblem. Byddaf yn glir yn hyn o beth: byddwn ni’n dal i wrthod dull o ddifa moch daear fel a ddilynir yn Lloegr, lle mae ffermwyr yn cael rhwydd hynt i saethu moch daear iach a moch daear sydd wedi’u heintio eu hunain. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ddewisiadau eraill ar gael, gan gynnwys dysgu o'r cynllun peilot yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn ymwneud â dal moch daear mewn cawell a lladd anifeiliaid sydd wedi'u heintio mewn modd nad yw’n achosi poen. Mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion o heintiau cronig mewn buchesi a lle mae gennym gadarnhad gwrthrychol fod moch daear wedi’u heintio, rydym yn ystyried pa un a fyddai dull tebyg yn dderbyniol ac yn briodol, unwaith eto drwy weithio gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt.
Mae gan frechu swyddogaeth bwysig o hyd yn ein dull o ddileu TB ac mae faint o frechlynnau sydd ar gael ar gyfer moch daear yn rhywbeth yr wyf yn cadw llygad barcud arno. Ni fydd brechlynnau i’w defnyddio’n benodol ar gyfer moch daear ar gael yn 2017. Mae brechlynnau eraill sydd ar gael yn dal i fod yn ddewis yr ydym yn ei archwilio. Fodd bynnag, mae'n rhy gynnar i feddwl am ddefnyddio’r brechlyn yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni wybod pa bryd yn union y caiff y cyflenwad ei adfer cyn meddwl am hynny.
Dylai pob fferm, yn ddieithriad, pa un a yw wedi dioddef o haint TB ai peidio, ddilyn arferion da o ran bioddiogelwch a hwsmonaeth bob amser. Mae bioddiogelwch yn allweddol wrth ddiogelu anifeiliaid rhag TB buchol a chlefydau anifeiliaid difrifol eraill, a dylai ffermwyr fod yn gallu asesu eu risg. Drwy weithio gyda ffermwyr a'u milfeddygon ac adeiladu ar ein gwaith cynharach yn y maes hwn, rwy’n bwriadu datblygu un offeryn safonol ar gyfer sgorio bioddiogelwch, y gellir ei ddefnyddio gan bob ffermwr i asesu lefelau bioddiogelwch ar eu ffermydd.
Rwy’n gofyn am farn pobl ar ostwng y cap ar gyfer iawndal TB i £5,000. Ni fydd y cap hwn yn effeithio ar y mwyafrif o ffermwyr. Yn seiliedig ar ffigurau'r llynedd, byddai cap o £5,000 yn effeithio ar 1 y cant o’r gwartheg sydd wedi’u prisio, ond byddai'n cynnig arbedion o oddeutu £300,000 y flwyddyn. Pwrpas y cap yw amddiffyn Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chost yr anifeiliaid mwyaf gwerthfawr. Ers 2011, mae prisiadau ar gyfer gwartheg pedigri wedi bod tua dwywaith cymaint â’r gwerth cyfartalog ar y farchnad. Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y mesurau sydd gennym ar waith, fod gormod o iawndal yn cael ei dalu mewn rhai achosion.
Yn olaf, rwy’n bwriadu edrych o’r newydd ar y modd y mae’r rhaglen ar gyfer dileu TB yn cael ei llywodraethu. Mae strwythur y rhaglen bresennol wedi bod ar waith ers 2008, ac o ystyried y dull rhanbarthol newydd o ddileu TB a lansiad dull adlewyrchu, dyma'r amser priodol i adolygu trefniadau llywodraethu ein rhaglen. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn ystyried yr holl ymatebion a bydd swyddogion yn llunio rhaglen ddiwygiedig o weithgareddau. Rwy’n bwriadu cyhoeddi'r rhaglen newydd ar gyfer dileu TB yn y gwanwyn, gan roi sylw i’r mesurau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y rhaglen newydd hon ar gyfer dileu TB yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i sicrhau ein bod yn parhau i symud tuag at y nod o Gymru ddi-TB.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â datganiad cynhwysfawr, i fod yn deg, i’r Cynulliad y prynhawn yma? Ac a gaf i ddweud ar y cychwyn fod gwacter polisi wedi bod yn bresennol yn yr hyn mae’r Llywodraeth yn cynnig ei wneud i ddileu’r diciâu mewn gwartheg, yn y ffaith nad oedd brechiadau ar gael ac yn y ffaith bod y Llywodraeth wedi dibynnu ar frechlyn i ddifa’r clefyd? Erbyn hyn, mae’r Llywodraeth, mae’n ymddangos i mi o’r datganiad hwn, yn derbyn y sefyllfa bresennol, yn derbyn bod angen mynd i’r afael â’r clefyd ymysg bywyd gwyllt yn ogystal, ac yn derbyn bellach fod angen ystyried ac edrych ar opsiynau eraill. Yn y cyd-destun hwnnw, a gaf i ddweud wrthi y bydd amaethwyr a’r diwydiant amaeth yn disgwyl i hynny ddigwydd? Er bod nifer y buchesi sy’n cael eu taro gan y clefyd yn gostwng, mae dwyster y clefyd yn cynyddu ac, fel y mae hi wedi’i amlinellu a dweud y gwir, yn ei datganiad heddiw, mewn ambell i ardal mae’r clefyd yn glwm wrth y ddaear yn llythrennol a bron yn amhosibl i’w waredu heb fynd i’r afael â’r sector bywyd gwyllt yn ogystal.
A gaf i jest ofyn ychydig o gwestiynau penodol felly, gan fod hwn yn ddechrau proses ymgynghorol, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i amlinellu? Yn gyntaf oll, mae’n dweud bydd yr ymgynghoriad hwn, ac efallai’r syniadau newydd sydd yn ei datganiad, yn arwain at ailedrych ar lywodraethiant y rhaglen dileu TB. Wrth gwrs, mae’r rhaglen yn rhywbeth sydd wedi cael cydsyniad y Comisiwn Ewropeaidd a byddai hi’n gwybod, fel minnau, fod nifer o ffermwyr yn poeni bod unrhyw gynllun sydd gennym ni yng Nghymru yn pasio’r prawf sydd gan y Comisiwn er mwyn gwneud yn siŵr bod allforion o Gymru yn cael eu parchu, ac hefyd wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fod y sefyllfa yna yn parhau. A fedrwch chi, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, jest amlinellu ym mha ffordd yr ŷch chi’n mynd i wneud yn siŵr bod y rhaglen ar ei newydd wedd yn cael y gymeradwyaeth yna?
Can I just turn to the disease and the acknowledgement in your statement that the disease is passed between wildlife and cattle, albeit not always as direct transmission, but as something that is inherent within the environment and pasture? You acknowledge in the statement that we must control the disease within the wildlife population, particularly, as you put it, in chronic areas where it is really embedded.
Can I welcome the fact that you say there will be no English-style cull? I think that’s important. I accept that completely and I don’t think that what England has chosen to do has been particularly successful at all. However, you do accept that the link between the wildlife and the disease in cattle must be addressed. We don’t have vaccination. Can you just say a little bit more about how you may consider taking forward what you chose to evidence in your statement as learning from the Northern Ireland experience? Can you just clarify that that, in effect, can mean that an infected group of badgers might be killed rather than an individual badger and, of course, just emphasise that this is about getting rid of the disease in the badger population? It’s not about a general cull of all badgers or a cull of badgers in a particular area. We have had to move on from the situation we were in several years ago where action areas were attempted within the Welsh context. We’ve got experience of vaccination in the one particular action area that I represent and now it’s clearly time to deal with the infection amongst the wildlife population in those farms where breakdown after breakdown after breakdown has been experienced.
Just to turn to your proposal to cap compensation in particular. How are you going to ensure that we don’t have a re-run of the farce that we had the last time we looked at compensation payments? I accept that you want to ensure there is no over-valuation in the process here, but is capping compensation the way to do that rather than, as you do on the farming side, bearing down more on the correct valuation and the correct use of those valuation procedures? I wonder what has brought you to think that capping compensation, which is a rather sledgehammer-to-crack-a-nut approach—albeit quite a big nut, I accept that—but it’s a pretty big sledgehammer as well. It doesn’t take into account the real value of pedigree beasts, and that’s something that I think farmers will want to have assurance on.
Can you say a little more about the potential to make informed purchasing mandatory in Wales? This is something I discussed actually yesterday in Welshpool market myself. The concern there is not so much what could happen in the Welsh context, but how that affects cross-border flows, how it affects sales—a lot of sales from Welshpool, as you can imagine, cross the border—and particularly the way that, increasingly, some cattle purchasers outside Wales are not really engaging in the Welsh cattle market, because they have concerns about TB status in Wales. Some other things that you’ve set out in the statement might help those concerns, but I just want to understand how informed purchasing can work in Wales when we have such a cross-border flow of sales as well, and whether you’ll be modelling that before perhaps introducing it.
So, the final thing to say is that I do recognise and welcome that there’s a regional approach here set out in your statement. It’s something that Plaid Cymru has asked for consistently, and we want to see the widest possible range of tools available, not just directly to farmers, but to the Government as well, to deal with the disease based on local need and disease status. I think the final thing to ask and to say is that when, as you state in your proposal, the idea is to tackle the really deep-seated TB in conjunction and hand-in-hand with farmers and experts and vets, that you will ensure that the lessons that we have from Northern Ireland and the potential to really target in the wildlife population is there as an option for that way forward.
Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau hynny. Rwy’n gwrthod yr honiadau y bu diffyg gweithgarwch yn ein rhaglen dileu TB ers i ni gyhoeddi na fyddem ni’n brechu moch daear. Dim ond un rhan o'r rhaglen yw hynny; mae gennym fesurau eraill, ac mae hynny'n cynnwys y gyfundrefn profi anifeiliaid. Rydym ni wedi bod yn profi llawer mwy nag yr oeddem ni. Mae gennym ni’r pecyn Cymorth TB. Rydym wedi cael prynu doeth, er bod hwnnw, yn amlwg, yn gynllun gwirfoddol. Ond rwyf yn credu mai dim ond un rhan o'n cynllun yw hynny.
I ateb eich cwestiwn ynglŷn â phwyso a mesur y modd y caiff y byrddau eu llywodraethu, ceir nifer o agweddau ar hynny. Os ydym ni am weithredu’r dull rhanbarthol hwn, yn amlwg, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn awr—ymgynghoriad 12 wythnos ydyw; mae'n dod i ben ar 10 Ionawr—a cheir llawer o bethau nad ydym wedi cael yr atebion iddynt eto, ac rwyf wirioneddol yn dymuno ystyried yr ymatebion a gawn. Mae angen i ni asesu’r byrddau gan fod y byrddau bellach yn seiliedig ar ranbarthau na fyddant yn cyd-fynd â'r rhanbarthau y byddai gennym wrth symud ymlaen. Felly, rwy’n credu bod angen inni edrych ar hynny. Rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau ar ein byrddau, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi’n synnu wrth fy nghlywed i’n dweud hynny.
Mewn cysylltiad â Gogledd Iwerddon-. Ac rwy’n falch iawn eich bod chi’n croesawu’r datganiad eglur na fydd difa’n digwydd, fel sy'n digwydd yn Lloegr, ond rwyf wedi ystyried cynllun peilot Gogledd Iwerddon yn fanwl iawn, iawn dros yr haf. Yr hyn yr wyf yn dymuno ei weld yw’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny yn cael eu cyflwyno. Nid ydym am ymgynghori ar hynny-bydd hynny yn digwydd-ac mae'n bwysig fod gennym-. Wyddoch chi, nid oes gan neb yr ateb. Mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd. Nid oes gennyf yr atebion o’m blaen i yma; nid oes gan ffermwyr yr atebion. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, yr hyn yr wyf yn dymuno ei weld yw’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny yn cael eu llunio gyda'r ffermwr, gyda'u milfeddygon, gyda'n milfeddygon ni os oes angen, a chyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â hynny. Mae wedi bod yn eithaf anodd, yn fy marn i. Ychydig o ddealltwriaeth sydd gennym ynglŷn â sut y mae TB yn lledaenu rhwng gwartheg a moch daear, felly mae'n bwysig iawn bod ffermwyr yn deall gweithgarwch y moch daear ar eu ffermydd, a’n bod ni i gyd yn gweithio gyda'i gilydd o ran hynny. Ac rydych chi'n iawn, mae'n ymwneud ag iechyd a lles poblogaeth y moch daear hefyd. Felly, rwyf wedi gofyn, fel y dywedais, i swyddogion ystyried hynny’n agos iawn.
O ran masnach, gwn fod pryderon wedi’u crybwyll ynglŷn â masnach. Nid dim ond Cymru sydd â TB; mae TB buchol yn bresennol yn rhannau eraill o'r UE. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n cadw ein henw da am y safonau uchaf posibl o ran iechyd a lles anifeiliaid. Roeddwn i yn SIAL ym Mharis ddoe, lle’r oedd yn glir iawn bod pobl yn derbyn heb os bod ein cynnyrch ni o'r safon uchaf. Soniwyd wrthyf sawl gwaith fod pobl yn deall bod gan Gymru safon uchel iawn mewn cysylltiad ag iechyd a lles anifeiliaid.
Ynglŷn â gosod cap ar iawndal, rwyf wedi ystyried hynny eto yn ofalus iawn. Mae'n destun ymgynghoriad, fel y dywedais, ac os yw pobl yn teimlo bod—. Fel yr ydych chi’n dweud, mae'n broblem fawr ac efallai ei fod yn ateb eithafol, ond rwy’n credu bod angen i ni edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni ddeall, wrth symud ymlaen, a gadael yr UE, fod 10 y cant o gyllideb y rhaglen dileu TB yn dod o'r UE—sef rhwng £2 filiwn i £3 miliwn yr ydym yn mynd i’w golli. Felly, mae angen inni ystyried ffyrdd o arbed arian. Byddaf, eto, yn ystyried yn fanwl iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd gennym yn ymwneud â'r iawndal. Rwy’n deall pryderon ffermwyr. Ffermwr mewn gwirionedd a ddywedodd wrthyf, 'Gallwn ni yswirio ein gwartheg os ydym ni o’r farn eu bod o werth llawer uwch.' Gallwn bwyso a mesur hynny, fel y dywedais, pan fydd gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Bydd prynu doeth, eto, yn rhan o'r ymgynghoriad, ond rwy’n credu bod llawer iawn o waith y gallwn ni ei wneud i helpu ffermwyr i liniaru'r risg o brynu gwartheg wedi'u heintio. Ac nid yw’n ymwneud â gweithio gyda ffermwyr yn unig, mae'n ymwneud â gweithio gyda marchnadoedd, a gwn ein bod wedi annog marchnadoedd i osod byrddau pan fo gwartheg yn cael eu gwerthu, i gael gwybodaeth ynglŷn â hynny. Ond, mae angen inni edrych ar yr elfen drawsffiniol. Yn amlwg, os bydd yn cael effaith ar draws y ffin, rwy’n hapus iawn i bwyso a mesur hynny, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.
A allaf hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Hoffwn i ddatgan er mwyn y cofnod, fod fferm fy rhieni yng nghyfraith wedi’i heffeithio gan TB buchol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor ddinistriol ydyw.
Er fy mod yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei dull newydd, ni fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn synnu clywed fy mod o’r farn nad yw’r mesurau sy’n rhan o’r dull yn mynd yn ddigon pell ar hyn o bryd i ddileu'r clefyd ofnadwy hwn. Rwy’n credu bod angen dull cyfannol llawn erbyn hyn, sy'n cynnwys defnyddio pob offeryn sydd gennym i ddileu TB buchol yn ein gwartheg a phoblogaethau bywyd gwyllt. Rwy'n siomedig dros ben nad yw datganiad heddiw ar hyn o bryd yn cynnwys dull llawer mwy cyfannol o fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn ein bywyd gwyllt.
Yn wir, roedd adroddiad Llys Archwilwyr Ewrop a oedd yn ymwneud â’r rhaglenni dileu, rheoli a monitro clefydau anifeiliaid, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cydnabod bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i TB buchol gan gynnwys mesurau wedi'u targedu ar gyfer bywyd gwyllt. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet yw pa un a yw hi’n derbyn canfyddiadau'r comisiwn neu beidio. Ac, yn unol â hynny, ac yn ychwanegol at ddatblygiadau monitro yng Ngogledd Iwerddon, pa gamau penodol eraill y bydd hi yn eu cymryd yn awr i ddileu TB buchol yn y boblogaeth bywyd gwyllt? Yn wir, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym pa mor hir y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro datblygiadau yng Ngogledd Iwerddon gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt, neu pa un a fydd y datblygiadau hyn mewn gwirionedd yn rhan o'r ymgynghoriad 12 wythnos.
Ceir pryderon hefyd ynghylch y profion ar wartheg, o ystyried pa mor hen a sensitif yw’r prawf presennol. Gwyddom fod gan y prawf presennol ystod sensitifrwydd o 80 i 90 y cant, ac felly mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r diwydiant milfeddygol i ail-werthuso a yw'r prawf hwn, yn wir, yn addas at y diben ai peidio. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at ddefnydd cynyddol o’r prawf gama interfferon, ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn asesu profion gama interfferon a phrofion gwrthgyrff, a pha un a yw'n fwriad ganddi weld unrhyw weithdrefnau profi newydd eraill yn cael eu cyflwyno. Yn wir, a oes unrhyw le o fewn yr ymgynghoriad i ystyried gweithdrefnau profi? Rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet, y llynedd, wedi buddsoddi mewn cyfleuster profi gama yng Nghaerfyrddin, ac efallai y gallai hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwnnw.
Rwy’n derbyn bod Llywodraethau blaenorol Cymru wedi cefnogi polisi brechu ac rwy’n cytuno â'r datganiad heddiw fod gan frechu ran i'w chwarae. Fodd bynnag, mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd er mwyn deall faint o TB mewn gwirionedd sy’n cael ei ledaenu o fuwch i fuwch, o fuwch i fochyn daear, ac o fochyn daear i fochyn daear, a fyddai'n effeithio ar berfformiad unrhyw frechlyn, yn ddi-amheuaeth. Nodaf o'r datganiad heddiw fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o roi terfyn ar y cylch trosglwyddo. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu ychydig mwy o fanylion am y math o ymgysylltu y mae hi’n dymuno ei weld?
Nawr, mae datganiad heddiw hefyd yn sôn am ddull rhanbarthol, gan rannu ardaloedd TB Cymru yn dri chategori, yn seiliedig ar y lefelau o achosion, a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahanol strategaethau ar gyfer y gwahanol gategorïau hyn. Er fy mod yn deall bod yn rhaid dilyn dull sy’n seiliedig ar risg er mwyn adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol o ran nifer yr achosion o'r clefyd, mae hefyd yn hanfodol nad yw unrhyw strategaethau newydd sy’n seiliedig ar risg mewn ardaloedd yn anghymesur ar gyfer ffermwyr ac nad yw ffermwyr yn wynebu rheolaethau llym ofnadwy. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ba fesurau a fydd yn cael eu defnyddio ym mhob un o'r meysydd categori newydd a sut y bydd y mesurau hynny mewn gwirionedd yn gymesur ar gyfer ffermwyr.
Wrth gwrs, fel y mae’r datganiad yn cydnabod, dylid ystyried cynyddu mesurau bioddiogelwch yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth TB buchol, ac rwy’n gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru dim ond yn rhoi mwy o ganllawiau a gorchmynion i ffermwyr ynglŷn â bioddiogelwch ar y fferm a'r tu hwnt i’r fferm, ond ei bod yn darparu cymorth ariannol ychwanegol er mwyn gwneud iawn am unrhyw gostau uwch hefyd. Yn wir, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym os bydd cyfle i ffermwyr wneud cais i'r rhaglen datblygu gwledig am arian ar gyfer offer bioddiogelwch, megis cyfleusterau trin gwartheg a chafnau bwyd sy’n ddiogel rhag moch daear, er enghraifft?
Lywydd, rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod yn awyddus i weld strategaeth ar waith er mwyn mynd i'r afael â TB buchol sy'n defnyddio’r holl offer sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ddileu TB buchol yn iawn yn ein poblogaeth bywyd gwyllt yn ogystal â'n poblogaeth gwartheg, a'r unig ffordd o wneud hynny yw cynnwys difa moch daear heintiedig mewn ffordd nad yw’n achosi poen. Nodaf nad yw hi wedi diystyru hynny’n llwyr yn y datganiad heddiw. Felly, rwy’n croesawu rhai o'r mesurau yn rhan o ddull newydd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ond rwy’n credu nad yw dull y Llywodraeth ar hyn o bryd yn mynd yn ddigon pell. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir i Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn parhau i graffu ar ei pholisïau yn y maes hwn, a byddwn hefyd yn parhau i alw ar y Llywodraeth i wneud y peth iawn drwy fabwysiadu dull cwbl gyfannol tuag at ddileu TB buchol unwaith ac am byth. Diolch.
Diolchaf i Paul Davies am ei sylwadau, a’r gyfres honno o gwestiynau. Rwyf o’r farn ein bod ni yn gweithredu dull cyfannol. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n ystyried yr offer sydd ar gael inni. Cofiwch mai ymgynghoriad yw hwn a byddaf yn sicr yn ystyried yr holl ymatebion a fydd yn dod i law cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Rwyf wedi dweud wrth swyddogion fy mod yn awyddus iddo fod yn gyflym iawn, felly bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 10 Ionawr, ac rwy’n dymuno i’r rhaglen newydd fod ar waith yn sicr erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol, felly byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad yn y gwanwyn.
Gwnaethoch chi gyfeirio at y prawf croen yr ydym yn ei gynnal, ac er fy mod yn cydnabod mai hwn yw'r unig brawf sy'n cael ei gydnabod gan y ddeddfwriaeth Ewropeaidd berthnasol, cadarnhaodd amcangyfrif diweddar o berfformiad prawf croen cymharol ym Mhrydain Fawr fod ganddo gywirdeb o 99.98 y cant. Felly, dim ond un anifail ym mhob 5,000 sy’n debygol o roi canlyniad positif anghywir. Mae'r prawf wedi’i ddefnyddio ledled y byd mewn rhaglenni dileu TB llwyddiannus iawn.
Gwnaethoch chi gyfeirio at fonitro yng Ngogledd Iwerddon. Yr hyn a ddywedais oedd y bûm yn edrych ar y cynllun peilot dros yr haf. Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Awstralia ac yn Seland Newydd. Datganwyd nad oes TB yn Awstralia TB erbyn hyn, a dyna yw fy uchelgais i ar gyfer Cymru. Rwy'n credu mai’r dull rhanbarthol yw’r hyn sy’n bwysig iawn yn hyn o beth, oherwydd, os ydym yn edrych ar yr ardaloedd y’u hystyriwyd gennym yn ardaloedd a chanddynt nifer isel, canolradd ac uchel o achosion, mae hynny wedi bod yn seiliedig ar epidemioleg. Bydd dulliau gweithredu gwahanol ym mhob un. O ystyried y gogledd-orllewin, sy’n ardal TB isel, rwy’n credu o ddifrif, os yw rhai o'r mesurau yr ydym yn ymgynghori arnynt yn cael eu gweithredu wedyn, y gallai honno fod yr ardal heb TB gyntaf yng Nghymru, ac mae gennym ganiatâd i wneud hynny o fewn y ddeddfwriaeth Ewropeaidd—mae caniatâd i aelod wladwriaeth neu ran o aelod wladwriaeth wneud hynny. Felly, os ydym ni’n ystyried y meini prawf ynghylch hynny, gallai’r ardal honno o bosibl fod yr ardal gyntaf, ac rwy’n credu y byddai hynny'n neges gadarnhaol iawn i’w lledaenu.
Felly, y flaenoriaeth ar gyfer-. Gwnaethoch chi ofyn am y gwahanol ddulliau y byddwn yn eu dilyn yn y gwahanol ardaloedd, felly’r flaenoriaeth ar gyfer yr ardal honno yw atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno drwy symud gwartheg na wyddys eu bod wedi’u heintio, er mwyn cadw nifer yr achosion yn isel ac wedyn dod yn ardal heb TB. Felly, byddwn yn gwarchod yr ardal honno, ac, oherwydd bod ychydig iawn, os o gwbl, o glefyd endemig yn yr ardal honno, ni fydd angen profion cyn symud ddim mwy er mwyn symud anifeiliaid o'r ardal honno. Byddaf yn parhau i wneud yn siŵr bod buchesi yn cael eu profi’n flynyddol er mwyn sicrhau ein bod yn dal y clefyd cyn gynted â phosibl. Fel y dywedais, ni cheir cymaint â hynny o achosion cydnabyddedig o’r clefyd ymysg bywyd gwyllt yn yr ardal honno.
Mewn cysylltiad â’r ardaloedd TB canolradd, rydym yn rhagweld eto, os bydd y sefyllfa'n gwella o ran clefyd yn y ddwy ardal hynny, mae'n debygol y byddai’r ardal TB isel yn tyfu i gwmpasu’r ardaloedd hynny. Eto, byddwn yn profi buchesau yn flynyddol i sicrhau ein bod yn dal y clefyd cyn gynted â phosibl, ond mae angen i ni warchod yr ardaloedd hynny rhag i’r clefyd gael ei gyflwyno drwy symudiadau gwartheg o'r ardaloedd sydd ag achosion uwch o TB-rwy'n credu bod hynny wirioneddol yn bwysig-ac ymdrin yn well â lefel y clefyd sydd yno eisoes. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn atal y clefyd rhag ymsefydlu yn y boblogaeth moch daear yno. Eto, ychydig iawn o dystiolaeth a geir o heintiau TB mewn bywyd gwyllt yno. Dim ond un mochyn daear wedi marw â TB a ganfuwyd yn y ddwy ardal ganolradd.
Mewn cysylltiad â'r ardaloedd TB uchel, rydym yn mynd i gynnal profion ar fuchesi cyfan yn amlach yno, a hynny bob chwe mis er mwyn ceisio dod o hyd i'r haint yn gynharach. Eto, os oes nifer uchel o achosion rheolaidd yn digwydd dro ar ôl tro, mae hynny naill ai’n awgrymu cyfradd ail-heintio uchel neu haint sy'n parhau i fodoli yn y fuches hyd yn oed ar ôl datgan bod ganddi statws heb TB, oherwydd rwy’n credu bod hynny wedi bod yn digwydd hefyd. Ymddengys bod lledaeniad lleol yn ffactor arwyddocaol. Felly, unwaith eto, rydym wedi cynnal ein harolwg o foch daear marw, ac, er bod rhaid i ni fod yn ofalus sut yr ydym yn dehongli’r canlyniadau hynny, mae hynny wedi cadarnhau presenoldeb TB yn y boblogaeth moch daear yn yr ardaloedd hynny.
Fel Simon Thomas a Paul Davies, rwy’n croesawu’r datganiad hwn heddiw. Ceir llawer ynddo y gallwn ni i gyd gytuno ag ef. Rwy'n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet yn arbennig am y gwaith mae hi’n ei wneud mewn cysylltiad â bioddiogelwch, ac mae hynny yn ddi-os wedi cael effaith sylweddol ar reoli lledaeniad y clefyd hwn. Nid wyf mor ffyddiog â hi ynghylch graddau ei llwyddiannau yn gyffredinol, hyd yn hyn. Mae'n wir y bu gostyngiad, yn y misoedd diwethaf, yn nifer y buchesi newydd yr effeithir arnynt, ond wedi dweud hynny mae llai o fuchesi i’w heffeithio. Felly, mae'r graddau y mae hyn yn enghraifft o lwyddiant y polisi yn ddadleuol. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw y cafodd bron i 10,000 o wartheg eu difa yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf. Mae hynny’n gynnydd ar y cynnydd yn y flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd ar y flwyddyn cyn hynny, a dim ond amser a ddengys am ba hyd y bydd y duedd hon yn parhau.
Rwy'n siŵr y bydd hi'n cytuno â mi, wrth ystyried y broblem gyfan hon o ran lles anifeiliaid, mae'n rhaid i ni ystyried lles moch daear yn ogystal â gwartheg, ac mae’n sicr yn greulon tuag at foch daear caniatáu i TB aros yn endemig o fewn y boblogaeth bywyd gwyllt. Felly, mae difa moch daear heintiedig yn beth da ar gyfer moch daear yn gyffredinol yn y tymor hir. Yn sicr, mae’n greulon cael polisi aneffeithiol sy'n arwain at haint mewn gwartheg, ac mae hefyd yn greulon caniatáu i foch daear heintio moch daear eraill. Rwy’n credu, yn hyn o beth hefyd, ei bod hi’n bwysig cydnabod, beth bynnag fo rhinweddau brechu, nad yw'n iachâd ar gyfer TB, gan nad yw'n ymdrin mewn gwirionedd â'r broblem mewn mochyn daear heintiedig. Y cyfan y mae’n ei wneud yw ei gwneud hi’n anoddach i’r moch daear hynny fod yn fectorau i eraill.
Nid oeddwn i’n cytuno â'r hyn a ddywedodd hi wrth ateb un o'r cwestiynau cynharach ynglŷn â’r ffaith nad oes dealltwriaeth lawn mewn gwirionedd o sut y mae'r clefyd yn cael ei drosglwyddo o anifail i anifail, fel pe bai rhywfaint o amheuaeth ynghylch y modd y trosglwyddir y clefyd gan fywyd gwyllt. Dywedodd Simon Thomas bod y clefyd hwn yn endemig yn y pridd mewn rhai ardaloedd. Wel, os yw'n endemig yn y pridd, mae hynny dim ond oherwydd carthion ac wrin moch daear ac anifeiliaid gwyllt eraill neu wartheg yr effeithir arnynt. Felly, bydd cael gwared ar y bywyd gwyllt heintiedig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fodolaeth y clefyd hwn.
Mae'r profiad yn Iwerddon yn arbennig o addysgiadol, yn fy marn i, yn hyn o beth. Mae gostyngiad o 50 y cant a mwy wedi bod mewn TB ers i Iwerddon weithredu rhaglen ddifa. Felly, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn-a chan ystyried y geiriau yn y datganiad yn arwynebol-fod hyn bellach yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i’w ystyried. Mae'r datganiad hwn i'w groesawu yn fawr iawn. Eto, os ydym ni’n ystyried y profiad yn Seland Newydd, mae hwnnw hefyd yn arbennig o addysgiadol, nid o ran moch daear ond o ran yr hyn sy'n cyfateb yn Seland Newydd, sef oposymiaid. Ym 1990 roedd y gyfradd haint yn Seland Newydd saith gwaith y gyfradd yn y DU, erbyn 1997 roedd yn fwy neu lai’n gyfartal, ac, yn 2011, roedd y gyfradd haint yn Seland Newydd 40 gwaith yn llai na’r gyfradd yn y DU, felly mae rheoli oposymiaid wedi mynd law yn llaw â rheoli TB. Felly, rwy’n credu y gallwn groesawu’r llygedyn o obaith a welwn yn y datganiad drwy weithredu’r polisi ar sail ranbarthol. Ac, mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o heintiau, os yw difa efallai am gael ei ddefnyddio fel mecanwaith i leihau cyfraddau heintiau, yna mae hynny i'w groesawu’n fawr iawn.
Clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach am y problemau yr ydym am fod yn eu hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod yn ymwneud â dod o hyd i'r arian ar gyfer pob math o bethau yr ydym ni’n dymuno gwario arian arnynt. Mae'r rhaglen frechu wedi bod—rwy'n siwr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno—yn ffordd ddrud iawn o geisio ymdrin â TB. Gwyddom, yn 2015, fod £922,000 wedi’i wario er mwyn brechu 1,118 o foch daear. Mae hynny gyfwerth â £825 am bob mochyn daear ar gyfartaledd. Tybed a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, nad yw hynny, o ran gwerth am arian, yn arbennig o dda, ac felly nid yn unig y mae difa yn debygol o fod yn ddull effeithiol o reoli’r clefyd, ond hefyd yn ddull sy'n rhoi’r gwerth gorau am arian i ni.
Nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Nid wyf yn credu y gallwch chi gymharu brechu a difa o gwbl. Mewn cysylltiad â'ch sylwadau ynglŷn â Gogledd Iwerddon, fel rwyf wedi dweud, rwy’n credu—yn sicr wrth ystyried yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud—ei fod wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y boblogaeth moch daear hefyd, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn ag iechyd a lles moch daear hefyd, wrth gwrs. Nid wyf yn rhagdybio’r hyn a fydd yn y cynlluniau gweithredu pwrpasol, ond yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw ei bod hi’n bwysig iawn bod y milfeddygon, y ffermwyr a'r APHA yn dod at ei gilydd i lunio’r cynlluniau gweithredu hyn, yn enwedig ar gyfer y buchesi hyn sydd â TB cronig. Soniais fod y 10 buches sydd wedi bod â TB cronig am yr amser hiraf, gyda’i gilydd—maent wedi bod dan gyfyngiadau am 106 o flynyddoedd. I mi, nid yw hynny'n gynaliadwy, ac nid wyf yn credu ei fod yn dderbyniol ychwaith.
O ran haint yn cael ei drosglwyddo o fuwch i fuwch neu o fuwch i fochyn daear, mae llawer mwy y mae angen inni ei ddysgu. Eto, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda'r APHA a chyda milfeddygon a ffermwyr unigol ar hyn. Gwnaethom ni gynnal gweithdy, rwy’n credu mai ar 10 Hydref oedd hynny, lle gwnaeth ecolegwyr moch daear ac arbenigwyr mewn systemau hwsmonaeth gwartheg—a hefyd rheoli tir glas, gan fy mod yn credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd—gyfarfod i drafod y dewisiadau ar gyfer lleihau'r risg o gyswllt uniongyrchol ac yn anuniongyrchol rhwng y ddwy rywogaeth. Rwy’n credu mai'r hyn sydd yn wirioneddol bwysig—ac rwyf wedi sôn amdano o'r blaen—yw bod ffermwyr yn gwybod lle mae’r ardaloedd o weithgaredd moch daear a’r lefel o weithgarwch ar eu ffermydd, er mwyn iddynt wedyn allu cymryd camau i atal y cyswllt hwnnw. Felly, er enghraifft, mae dadansoddiadau neu waith ymchwil wedi bod sy'n dangos bod moch daear yn ymweld ag adeiladau fferm lle maent yn casglu deunyddiau i wneud eu gwlâu neu le mae cnwd cyfan o silwair, er enghraifft. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn bod y math hwnnw o wybodaeth yn hysbys, ac weithiau nid yw'n hysbys, ac weithiau mae'n anghywir. Felly, rwy'n credu bod hynny'n faes lle y gall ffermwyr hefyd ein helpu i wireddu ein nod o ddileu TB.
Yn dilyn fy nghyfarfodydd â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau o ffermwyr yn fy etholaeth, a drefnwyd yn garedig gan yr FUW ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ond cyfarfodydd hefyd yr wyf wedi’u cynnal â sefydliadau lles anifeiliaid, rwy’n gwybod y bydd mabwysiadu dull cytbwys a phwrpasol o fynd i'r afael â TB buchol, a amlinellir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet, o gysur iddynt. Amcangyfrifir bod 95 y cant o heintiau yn digwydd o fuwch i fuwch, rydym ni’n gwybod hynny. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth cywir wrth ganolbwyntio ar well rheolaeth o wartheg.
Mae gennyf ddau gwestiwn. Awgrymodd gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Rosie Woodroffe o Gymdeithas Sŵoleg Llundain ym mis Awst fod halogiad yn cael ei drosglwyddo drwy dir pori wedi'i heintio a thail. Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer arferion ffermio megis gwasgaru slyri. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r dystiolaeth hon wrth bennu ei dull? Yn ail, awgrymodd data gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a gasglwyd dros gyfnod o 25 o flynyddoedd fod nifer uwch o achosion o TB ymysg rhai mathau o anifeiliaid, gan gynnwys hyddod brith a chathod fferm, na moch daear. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffynonellau posibl hyn o'r clefyd yn ei dull?
Diolch. Roeddwn yn falch iawn bod Vikki Howells wedi ymgymryd ag ymweliadau a drefnwyd gan y ddwy undeb ffermio. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac yn sicr ers i mi gychwyn yn y swydd, dyna oedd fy neges ar gyfer yr undebau ffermio: sef y dylem ni annog cynifer o Aelodau â phosibl i ymweld â ffermydd a dysgu mwy am y sector.
Mewn cysylltiad â’ch dau gwestiwn penodol, mae swyddogion wrthi'n asesu dadansoddiad Rosie Woodroffe er mwyn ein helpu ni wrth symud ymlaen. Dywedais, cyn gynted ag y dechreuais y swydd, ac oherwydd bod y fframwaith yn dod i ben o 2012, ei bod hi’n bwysig iawn adnewyddu’r rhaglen. Felly, rwy’n addo cynnal ymgynghoriad ar raglen newydd yn yr hydref, ond mae hynny’n cael ei asesu ar hyn o bryd.
Er fy mod yn derbyn y gallai’r clefyd fodoli mewn grwpiau eraill o fywyd gwyllt, rwy'n credu y caiff ei dderbyn a’i gydnabod yn eang ei fod yn fwy cyffredin mewn moch daear.
Rydym ni eisoes allan o amser ar gyfer y datganiad yma, ond mae’n ddatganiad o sylwedd ac o fanylder gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac felly os caf gwestiynau cryno gan Aelodau’r Cynulliad, yna fe geisiaf i alw rhywfaint o Aelodau Cynulliad ychwanegol i ofyn eu cwestiynau. Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. A gaf i ddatgan diddordeb, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm?
Rwy’n rhoi croeso gofalus i’r datganiad, fel y mae wedi cael ei wneud heddiw. Rwy’n meddwl ei fod e yn ein symud ni i’r cyfeiriad iawn, ond, wrth gwrs, amser a ddengys, oherwydd dogfen ymgynghorol sydd gennym ni, neu sy’n cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth heddiw, nid y strategaeth derfynol.
Nawr, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith bod y Llywodraeth yn symud i fodel mwy rhanbarthol. Rwyf i, yn sicr, yn un o nifer o bobl sydd wedi galw ers talwm am symud i sefyllfa lle mae’r ymateb yn gymesur i lefel y risg, ac rwy’n meddwl bod hynny, yn sicr, yn rhywbeth positif. Mi fydd, wrth gwrs, nifer o ffermwyr â daliadau efallai mewn mwy nag un ardal, ac rwy’n siŵr eich bod chi wedi rhoi ychydig o feddwl i hynny, ond efallai y gallwch chi jest esbonio’n fras pa wahaniaeth ymarferol y byddan nhw’n ei weld.
Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni’n gobeithio, wrth i statws y clefyd newid mewn rhai rhanbarthau, y bydd angen israddio, a gobeithio nad uwchraddio, statws yr ardaloedd hynny. A oes gennych chi broses mewn golwg ar gyfer hynny, neu efallai proses i newid y ffiniau, pan fo yna bocedi efallai yn gwella neu’n gwaethygu?
Mae brechu yn dal yn nodwedd—
Un cwestiwn. Un cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Iawn. Ocê. Wel, mae brechu’n dal i fod yn nodwedd o’r strategaeth, ond rydym yn dal heb wybod pryd y bydd yna frechlyn ar gael. Felly, mae hynny’n awgrymau bod yna fwlch yn mynd i fodoli yn cyfamser. Sut ydych chi’n bwriadu llenwi’r bwlch yna? Ond, rwyf yn sicr yn croesawu’r awgrym y bydd yna elfen o ddifa moch daear ac yn erfyn ar unrhyw un nawr sy’n ymateb i’r datganiad yma yn yr ymgynghoriad cyhoeddus i’w gwneud hi’n gwbl glir mai dyna’r cyfeiriad y dylem ni fod yn symud ato fe, ac rwy’n gobeithio bod gan y Llywodraeth yma’r asgwrn cefn i weithredu ar hynny ar ddiwedd y dydd.
Nid wyf wedi dweud o gwbl y bydd yna ddifa moch daear yn digwydd. Mewn difrif calon, nid wyf wedi dweud hynny. Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yw fy mod yn bwriadu cyflwyno cynlluniau gweithredu pwrpasol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n ystyried cynlluniau peilot o wledydd eraill, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, pan fydd gennym ni’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny, yr wyf yn credu bod eu hangen yn fawr, yn enwedig o ystyried yr achosion o TB cronig, oherwydd mae’n annerbyniol fod gennym ni’r achosion hyn, fel y dywedais, y 10 achos hyn sydd wedi bod o dan gyfyngiadau am 106 o flynyddoedd—. Yn syml, nid yw’n gynaliadwy, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o ymdrin â hynny.
Croesawaf y ffaith eich bod yn falch ein bod ni'n symud i ddull rhanbarthol. Rwyf innau, hefyd, yn credu mai heb os mai hwn yw’r peth iawn i'w wneud, a chredaf fy mod i wedi ateb eich cwestiynau yn fy ateb blaenorol i Paul Davies ynglŷn â’r dull rhanbarthol.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â brechu, fel y dywedais, nid ydym yn gwybod pa bryd y bydd y cyflenwad o’r brechlyn o Ddenmarc yn cyrraedd. Cafwyd trafodaethau â DEFRA, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda DEFRA i geisio dod o hyd i gyflenwyr eraill. Ymddengys nad oes llawer o awydd gan DEFRA i chwilio amdano ar hyn o bryd, felly rwyf wedi siarad â'r prif swyddog milfeddygol, sydd, yn amlwg, yn cyfarfod â'i chymheiriaid ac â DEFRA, i ddweud y byddwn ni yn parhau i chwilio am hynny, gan fy mod i’n credu, er mai un rhan o'n rhaglen yn unig ydyw, ei bod hi’n rhan bwysig iawn o'n rhaglen.
Byddaf yn gryno, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i chi am eich datganiad, ond yn fy nghyfraniad i ddadl ddiweddar yr Aelodau unigol, gwnes i’ch annog i gadw at y wyddoniaeth, a dyna yn union yr wyf yn ei wneud yn awr. Credaf mai cadw at y wyddoniaeth oedd sail, a chryfder, y rhaglen bresennol i ddileu TB buchol, a byddaf yn eich annog i barhau yn y modd hwnnw. Rwy’n croesawu'r ffaith eich bod yn ymgynghori â phobl, ond gofynnaf i chi sicrhau y caiff ei ffurfio a’i arfarnu mewn modd sy’n gwahanu'r dystiolaeth emosiynol a’r ffeithiau o’r farn. Rydym wedi clywed y farn honno yn cael ei mynegi yma eto heddiw, ac nid oes ffeithiau i’w chefnogi mewn gwirionedd.
Mae’n well gen i ddulliau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth, mewn gwirionedd, a chredaf fod hyn yr un peth â gwyddoniaeth. Wrth gwrs ein bod ni’n defnyddio gwyddoniaeth, ond credaf ei bod yn hynod bwysig ein bod yn parhau â’r dull hwnnw wedi’i seilio ar dystiolaeth. Credaf ei fod yn bwysig iawn i ni gynnal ymgynghoriad. Anogaf yr Aelodau i gyflwyno ymatebion—unrhyw rai y mae TB buchol wedi effeithio arnyn nhw. Rwy’n disgwyl nifer sylweddol o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu hynny.
Weinidog, credaf mai’r hyn sy’n allweddol yma yw sut yr ydym yn mynd i'r afael â TB ymysg bywyd gwyllt, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando arnoch chi, rwy'n falch eich bod yn dymuno dileu TB. Dyna yw eich nod, ac mae hynny'n gwbl briodol, o ystyried y canlyniadau, ar ôl Brexit, pan allai gwledydd amrywiol ddefnyddio hyn yn esgus i beidio â derbyn ein cig eidion.
Ond rydych wedi dweud yn awr nad ydych yn rhagweld y bydd brechlyn ar gael yn y dyfodol agos, ac nid oes gennych bolisi ar gyfer yr hyn yr ydych chi'n mynd i’w wneud ynglŷn â moch daear, sef y prif fector o ran y boblogaeth bywyd gwyllt. Felly, rwyf yn eich annog i lunio polisi sy'n ymdrin â’r hyn yr ydym i’w wneud â bywyd gwyllt cyn gynted ag y bo modd. Cytunaf y dylem ddibynnu ar y wyddoniaeth, ac efallai y gallech chi ddechrau gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain, a’u hadroddiad diweddaraf ar ladd moch daear sydd wedi’u heintio mewn modd trugarog. Fe ddylid rheoli hyn. Mae'n beth ofnadwy i siarad amdano, ond yn anffodus, mae’n debygol bod angen i ni ei wneud.
Rwyf wedi darllen llawer iawn o adroddiadau gwahanol. Rhoddwyd adroddiad newydd ar fy nesg yr wythnos diwethaf gan rywun a oedd wedi ymgymryd ag ysgoloriaeth Nuffield. Rwy’n darllen yn gyson am y peth, a chredwch chi fi, mae gennym ni bolisi. Rwy’n credu fy mod i wedi amlinellu ein polisi. Rwyf hefyd wedi sôn am fasnach. Nid yng Nghymru yn unig y mae TB buchol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall hynny. Wrth gwrs, y rheswm dros wneud hyn, ynghyd â llawer o fesurau eraill, yw sicrhau bod ein henw da am y safonau uchaf posibl o iechyd a lles anifeiliaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad a'r sylwedd ynddo. Rydych chi eisoes wedi clywed, rwy'n credu, gan dri aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a chredaf fod yr Aelodau wedi penderfynu yr hoffem gynnal o leiaf ymholiad byr ar hyn-ar y diwrnod llawn, dydd Iau 10 Tachwedd, yn ôl pob tebyga hoffwn i ofyn a fyddech ar gael i fod yn bresennol yn y sesiwn honno, neu os nad yw’r dyddiad hwnnw yn gyfleus, a fyddech yn dod i'n gweld ni er mwyn i ni gael cyfle efallai i gynnal sesiwn holi estynedig ar ddiwrnod y naill ochr i hynny. Yn amlwg, rydym yn gwerthfawrogi na fyddwch am ragfarnu’r ymgynghoriad, ond ymddengys bod mwy o sylwedd i ni ei drafod yn dilyn eich datganiad heddiw.
Cefnogaf yn frwd iawn eich dull wedi’i seilio ar dystiolaeth a’r hyn a ddywedasoch ynglŷn â hynny. Tybed a ydych o’r farn bod y dystiolaeth yn newid. Gwnaethoch sôn am astudiaeth Gogledd Iwerddon a'r dull a ddefnyddir yno. A oes unrhyw reswm dros feddwl bod dadleuon o blaid difa moch daear o ryw fath—ac rwyf yn gwerthfawrogi nad yw enghraifft Lloegr cystal—fod y ddadl am hynny wedi cryfhau? Gwnes innau bleidleisio yn erbyn y difa yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf mewn lle arall, ond yr oedd hynny ar y ddealltwriaeth y byddai brechlyn ar gael yn gynt. A ydych yn credu y bu newid yn y dystiolaeth wyddonol y mae angen i ni ymateb iddi?
A gaf i ofyn hefyd: rydych yn dweud eich bod yn diystyru difa trwy ddull Lloegr, lle mae ffermwyr eu hunain saethu moch daear sydd wedi’u heintio a rhai heb eu heintio; a ydych yn erbyn y ffaith bod y ffermwyr eu hunain yn ei wneud, y saethu neu natur ddiwahaniaeth saethu moch daear sydd wedi eu heintio a’r rhai heb eu heintio? A ydych yn erbyn y tri pheth, neu a oes un arbennig sy’n peri’r pryder mwyaf i chi? Diolch.
Rwy'n hapus iawn, fel bob amser, bod Aelodau’r pwyllgor yn craffu, ac yn sicr, os ysgrifennwch chi i ofyn am y dyddiad hwnnw, byddaf yn hapus iawn i ddod os wyf ar gael. Os nad ydwyf ar gael, fel y dywedwch, byddwn yn edrych am ddyddiad arall. Yr wyf yn gwybod eich bod wedi gofyn i'r prif swyddog milfeddygol i roi tystiolaeth yn barod, ond wrth gwrs byddwn yn hapus iawn i ddod i gael eu harchwilio.
A yw'r dystiolaeth yn newid? Mae'n debyg bod tystiolaeth yn newid dros y blynyddoedd, wrth gwrs. Y tro diwethaf i mi edrych ar hyn yn fanwl oedd pan ddeuthum yma gyntaf yn Aelod, yn 2007. Naw mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n credu, mae’n siŵr bod y dystiolaeth wedi newid, efallai nid yn aruthrol, ond fe fydd yna ddarnau o dystiolaeth y bydd angen edrych yn fanwl iawn arnynt. Beth ydw i’n ei wrthwynebu ynglŷn â’r difa yn Lloegr? Rwy'n credu ei natur ddiwahaniaeth. Nid fy swydd i yw amddiffyn polisi a ddaw gan DEFRA yng nghyswllt y rhaglen difa moch daear, mater i Weinidogion yn y fan hwnnw yw hynny. Rwyf yn ei fonitro. Rwyf yn cadw’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf, ond nid fy ngwaith i yw eu hamddiffyn.
Yn sicr, pan wyf wedi gofyn i ffermwyr-. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ni fyddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru yn dymuno gweld y math hwnnw o ddifa. Mae'r rhai sydd wedi, rwyf wedi gofyn iddyn nhw sut y bydden nhw’n dymuno ymdrin â’r mater-a fydden nhw eisiau ymdrin ag ef eu hunain yn yr un modd â Lloegr-ac ni allaf feddwl am unrhyw un a atebodd yn gadarnhaol. Bydden nhw eisiau i ni ei wneud ar eu rhan. Felly, credaf fod hyd yn oed y ffermwyr yn cydnabod nad dyna'r ffordd fwyaf priodol.
A gaf i groesawu’r cydbwysedd yn y datganiad a’r dystiolaeth yn yr ymgynghoriad yr wyf wedi ei ddarllen hefyd? Mae wedi ei seilio ar dystiolaeth dda ac yn ffordd gadarn ymlaen. A gaf i ganmol Ysgrifennydd y Cabinet am beidio ag osgoi'r cwestiynau anodd? Mae rhai meysydd anodd yn hyn: materion yn ymwneud ag iawndal a chosbau; materion yn ymwneud â mwy o brofion a phrofi mwy cywir, a fydd yn arwain at fwy o achosion o ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio a chael gwared arnyn nhw; a chael gwared ar adweithyddion yn gyflym.
Rwyf yn croesawu yn arbennig y symud tuag at ymgynghori ar ardaloedd rhanbarthol, ond a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai'n fwriad, felly, fel y gwnaed yn Awstralia, peidio â chadw’r ardaloedd hynny yn sefydlog am byth bythoedd, ond mewn gwirionedd, wrth i ffermydd unigol neu'r rhai ar gyrion yr ardaloedd hynny symud o’r categori uchel i’r categori canolradd, y gallech chi, mewn gwirionedd, grebachu’r ardaloedd hynny, gan roi cymhelliad i’r ffermwyr hynny mewn ardaloedd lle mae lefel yr haint yn uchel neu’n ganolradd i weithio eu ffordd allan o’r ardaloedd, mewn gwirionedd, gyda chymhelliad? Ond, rwyf yn croesawu'r dull hwn.
Efallai y caf ofyn hefyd, yn ogystal â’r cwestiwn hwnnw ynglŷn â chrebachu’r ardaloedd a thynnu ffermydd allan o'r rhanbarthau hynny, pe bai’r dull hwn yn cael ei ddwyn ymlaen, a fyddai'n sicrhau bod y prif swyddog milfeddygol ar gael i'r Aelodau'r Cynulliad hynny, nid yn unig aelodau'r pwyllgor amgylchedd, ond eraill sydd â diddordeb yn hyn, i drafod y dull hwn yn fanylach? Wrth edrych ar Ogledd Iwerddon, ac ardaloedd eraill efallai, lle mae gwahanol ddulliau o fynd i'r afael â’r cronfeydd, fel y'u gelwir, o haint mewn bywyd gwyllt, a fydd hi hefyd yn sicrhau ei bod yn trafod y dull hwn â gwyddonwyr a ecolegwyr blaenllaw, yn ogystal ag epidemiolegwyr, i sicrhau nad ydym, drwy amryfusedd, yn cyflawni canlyniadau negyddol, gwrthnysig yn y pen draw yn sgil dull a allai, mewn gwirionedd, ledaenu'r haint ymysg bywyd gwyllt? Gall y bwriadau gorau, weithiau, ein harwain at weithredoedd drwg iawn ar lawr gwlad. Felly, gadewch i ni weithredu ar sail y dystiolaeth, fel y mae pawb yma wedi dweud heddiw.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau hynod gadarnhaol. Yn hollol, mae'n bwysig iawn, os oes gennym ddull wedi ei seilio ar dystiolaeth, ein bod yn gwrando, fel y dywedwch chi, nid ar ecolegwyr yn unig, neu ar wyddonwyr yn unig, ond ar bawb sydd â’r syniadau da hynny. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, o'r blaen, nid fi yw ceidwad yr unig syniadau da. Ni all unrhyw un person ddileu TB ar ei ben ei hunan. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn cydweithio.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â’r prif swyddog milfeddygol, ie, yn sicr, byddaf yn sicrhau bod yr Athro Glossop ar gael i unrhyw Aelod o'r Cynulliad sydd eisiau cwrdd â hi. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfarfod â llefarwyr y gwrthbleidiau heddiw. Mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud hynny, mewn gwirionedd, Lywydd—ie, os yw unrhyw un yn dymuno cael gwybodaeth gan y Prif Swyddog Milfeddygol, byddai hi’n hapus iawn i wneud hynny.
Mae'n debyg y dylwn egluro i chi: nid ydym yn ymgynghori ar y dull rhanbarthol. Bydd hynny'n digwydd. Mae hynny’n rhan o’r broses newydd wrth symud ymlaen. Soniais am hynny rwy’n credu-pe bai’r mesurau yr ydym yn ymgynghori arnynt, ynghyd â'r mesurau eraill sydd yn y datganiad-er enghraifft, rwy’n credu y gallai’r gogledd-orllewin fod yn ardal ddi-TB yn unol â’r meini prawf sydd yno, dyna i chi neges gadarnhaol y byddai hynny’n ei lledaenu. Fel rwy’n dweud, yn sicr gallwn wneud hynny o fewn deddfwriaeth yr UE. Rwy’n credu y byddai'n wych pe gallem wneud hynny i ddechrau a chanolbwyntio ar yr ardaloedd canolradd, symud y rhai hynny i lawr, a’r ardaloedd uchel hefyd, oherwydd rydym ni’n dymuno gweld Cymru ddi-TB.
Ac yn olaf, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr i’r Gweinidog am ei datganiad, a diolch iddi yn arbennig am sylweddoli’r posibiliadau sydd gyda ni o lanhau y gogledd-orllewin a gogledd Clwyd fel cam allweddol ymlaen. A fyddai hi’n cytuno ei bod yn bwysig bod yr uchelgais yma yn arwain y bwrdd rhanbarthol yn yr ardal yna, gyda’r holl gefnogaeth wyddonol sydd ei hangen? Un cwestiwn arall: ar ddiwedd y broses, ar ôl yr ymgynghoriad a derbyn tystiolaeth wyddonol ryngwladol gyfatebol, a fyddai’n syniad da iddi drefnu dadl yn y Cynulliad hwn cyn ein bod ni’n symud ymlaen ymhellach, er mwyn inni gael sefydlu bod yna unoliaeth i’r math o symudiad y mae hi’n ceisio ei arwain, gyda’r holl bwyslais ar gydbwysedd rhwng y gwahanol ddulliau o weithredu?
Diolchaf i Dafydd Elis-Thomas, eto, am ei gwestiynau a’i sylwadau cadarnhaol. Ydw, rwy’n hapus iawn i edrych ar y ffin. Fel y dywedais, mae angen i ni edrych ar yr elfen lywodraethu, os ydym yn mynd i newid y rhanbarthau o'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd—am resymau amrywiol, rwy’n credu, y mae angen i ni wneud hynny.
Rwy’n credu, o ran y mater a godwyd gennych ynglŷn â’r dystiolaeth a'r wyddoniaeth a ddaw i law, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy’n credu ei bod hi’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n sicrhau eu bod ar gael, gymaint ag sy’n bosibl. Fel y dywedais, mae'r prif swyddog milfeddygol yno i gynghori a helpu Aelodau. Mae TB yn glefyd cymhleth iawn, ac rwy’n credu bod pawb yn y Siambr yn rhannu’r uchelgais o weld Cymru ddi-TB.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.