– Senedd Cymru am 5:33 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar Gymru Hanesyddol. Rwy’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud ei ddatganiad. Ken Skates.
Diolch i chi, Lywydd. Mae gennym bedwar sefydliad cenedlaethol mawr, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n geidwaid ar gyfer ein treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog. Gyda'i gilydd, maent yn cynnal tystiolaeth o rychwant cyfan gweithgarwch dynol yng Nghymru, o'r darnau bach o asgwrn sy'n tystio i bresenoldeb pobl yng Nghymru fwy na 200,000 o flynyddoedd yn ôl, drwy henebion gwych o bensaernïaeth, llenyddiaeth a chelf, i lyfrau a gwrthrychau cyffredin heddiw a fydd yn dod yn drysorau’r dyfodol.
Fel cenedl, dylem fod yn falch iawn o'r sefydliadau hyn. Yn ogystal â gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol, maent yn ei gwneud yn hygyrch ac yn bleserus i’n dinasyddion ein hunain ac i ymwelwyr o bedwar ban y byd. Mae'r sefydliadau hyn yn hanfodol i hunaniaeth ein cenedl, felly mae'n rhaid i ni ymateb i'r heriau y maent eisoes yn eu hwynebu a'u helpu i fod yn fwy llwyddiannus, yn fwy cydnerth ac, yn y pen draw, yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Mae cyni Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysau mawr ar gyllidebau’r sector treftadaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhybuddio bod pwysau cynyddol i ddod. Rydym wedi gwneud popeth posibl i amddiffyn ein sefydliadau cenedlaethol rhag y gwaethaf o'r toriadau hyn, ond erys cwestiwn sylfaenol: sut allwn ni, gan weithio mewn partneriaeth wirioneddol, wella gwasanaethau, darparu digon o fuddsoddiad cyfalaf a sicrhau bod gan Gymru sefydliadau diwylliannol a threftadaeth fywiog o hyd pan fydd y gystadleuaeth am adnoddau canolog yn fwy heriol nag erioed o'r blaen?
Mae pedwar mater brys y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw os ydym yn mynd i sicrhau dyfodol hyfyw ar gyfer y sector treftadaeth cyfan. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i’n sefydliadau diwylliant a threftadaeth arloesi a bod yn uchelgeisiol am y rhan y maent yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol. Mae angen iddynt weithio gyda'i gilydd i greu gweledigaeth gymhellol o’r dyfodol hwnnw. Ni ddylai ffiniau sefydliadol fod yn rhwystr i ansawdd y gwasanaethau a gynigir, p'un a yw'r gwasanaethau hynny ar gyfer ymwelwyr, ein cymunedau ein hunain neu yn wir, yn asedau treftadaeth eu hunain.
Yn ail, mae'n rhaid i ni gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth. Bydd hyn yn golygu gosod targedau ymestynnol ar gyfer nifer yr ymwelwyr a datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mae'n rhaid i ni gyflymu ein gwaith i ehangu mynediad i'r celfyddydau a diwylliant ar gyfer grwpiau sydd wedi’u heithrio yn draddodiadol. Mae gennym hanes balch o ehangu mynediad a chynnwys mwy o bobl mewn gweithgareddau diwylliannol trwy gefnogi mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol. Hoffwn i’n sefydliadau treftadaeth cenedlaethol arwain y ffordd o ran twristiaeth gymdeithasol er enghraifft, a chwarae mwy o ran wrth fynd i'r afael â'r bwlch rhwng y cenedlaethau. Rydym yn gwybod y gallwn gyflawni canlyniadau anhygoel pan fyddwn yn pennu targedau uchelgeisiol. Mae Cadw, er enghraifft, wedi cael ei blwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed o ran nifer yr ymwelwyr ac, o ganlyniad, o ran cynhyrchu incwm masnachol. Gwnaed hyn drwy ailstrwythuro i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir wrth reoli rhai o atyniadau ymwelwyr mwyaf eiconig Cymru. Mae wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd marchnata arobryn, wedi buddsoddi mewn gwelliannau mawr i’r profiad ymwelwyr, wedi dyblu ei rhaglen o ddigwyddiadau ac, wrth wneud hynny, wedi helpu i agor yr henebion i deuluoedd a phobl ifanc mewn ffordd nad yw erioed wedi ei wneud o'r blaen.
Yn drydydd, mae angen i ni farchnata a hyrwyddo ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth yn fwy egnïol ac effeithiol. Bydd angen i frandiau a chynigion ein sefydliadau cenedlaethol fod yn gliriach, yn fwy grymus ac yn fwy deniadol os ydynt i ddenu sylw mewn byd lle mae cystadleuaeth am amser a sylw pobl yn tyfu yn fwy ffyrnig.
Mae’r her olaf yn ymwneud â phobl. Mae sgiliau, angerdd ac arbenigedd pobl sy'n gweithio yn rhoi anadl eisoes i’n sefydliadau lawn cymaint â’r asedau diwylliannol sydd ganddynt. Mae angen i ni roi mwy o barch a chydnabyddiaeth i’r bobl hyn a chynnig mwy o gyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y maes. Mae'r sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein treftadaeth yn werthfawr ac mae angen i ni gadw ein harbenigwyr er mwyn gwarchod a dehongli ein hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Nid yw’r atebion i gyd gennyf, ond o un peth, rwy’n gwbl sicr: bydd ein sefydliadau treftadaeth cenedlaethol yn gryfach drwy weithio gyda'i gilydd, yn rhannu eu profiadau a'u harbenigedd i ddod o hyd i lwybrau arloesol tuag at ddyfodol mwy cadarn a chynaliadwy. Bydd hyn yn gofyn i sefydliadau gydweithio a chydweithredu mewn ffyrdd newydd ac efallai, lle bo angen, rannu adnoddau. Rwy'n gwybod bod hyn yn ddadleuol, ond mae yn bosibl ei wneud heb gyfaddawdu hunaniaeth unigryw ac annibyniaeth ein sefydliadau.
Credaf mai rhan o'r ateb yw creu corff newydd, yr ydym wedi ei alw am y tro yn Cymru Hanesyddol. Rwy’n argyhoeddedig bod gennym gyfle go iawn yma i ddod â phwyslais pendant a hunaniaeth gliriach i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol. Ni fydd dod â’u swyddogaethau masnachol at ei gilydd yn tanseilio annibyniaeth neu hunaniaeth y sefydliadau unigol, ond yn hytrach, bydd yn eu galluogi i farchnata eu hasedau diwylliannol o'r radd flaenaf yn fwy effeithiol i bobl Cymru, Prydain a'r byd. Bydd dull masnachol gwirioneddol gydgysylltiedig ymysg ein sefydliadau cenedlaethol yn galluogi iddynt i ddod yn gryf yn ariannol ac ymgysylltu mwy â'r cyhoedd. Dyna pam, ym mis Medi, y cyhoeddais yr adroddiad 'Buddsoddi yn y dyfodol i warchod y gorffennol'. Mae'r adroddiad, a gadeiriwyd gan y Farwnes Randerson, yn nodi'r dewisiadau ar gyfer rhoi hunaniaeth unedig gryfach i sefydliadau treftadaeth cenedlaethol Cymru. Mae'r dewisiadau a ystyriwyd yn yr adroddiad yn amrywio o wella’r dulliau o weithio mewn partneriaeth i atebion mwy eithafol, megis creu elusen newydd neu uno sefydliadau.
Nid dechrau'r broses oedd yr adroddiad. Fel rhan o ddatblygiad Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, ystyriwyd cyflwyno gwasanaethau amgylchedd hanesyddol cyhoeddus yn y dyfodol, gan gynnwys uno Cadw a'r comisiwn brenhinol. Rydym wedi adolygu'r safbwyntiau a fynegwyd ar y pryd, ac yr oedd llawer ohonynt yn dod i'r casgliad bod newid strwythurol yn amserol ac yn angenrheidiol.
Y cam nesaf yw paratoi’r achosion busnes a’r dadansoddiad manwl sydd ei angen i brofi hyfywedd y dewisiadau yn adroddiad y Farwnes Randerson. Dyna pam, ar ddechrau mis Medi, y sefydlais grŵp llywio sy'n cynnwys uwch reolwyr o'r amgueddfa genedlaethol, y llyfrgell genedlaethol, Cadw a'r comisiwn brenhinol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr undebau llafur. Mae wedi’i gadeirio gan Justin Albert o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp llywio edrych yn feirniadol ar y dewisiadau ac i benderfynu ar y ffordd orau i gyfansoddi Cymru Hanesyddol fel y gall ein treftadaeth genedlaethol a sefydliadau diwylliannol harneisio eu harbenigedd a’u hadnoddau cyfunol yn y ffordd orau. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp roi ei gyngor cychwynnol i mi ym mis Ionawr. Bydd y cyngor hwn yn fy rhoi mewn sefyllfa well i ddatblygu cynllun manwl ar gyfer Cymru Hanesyddol, a fydd, fel y dywedais droeon, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.
Nid wyf yn tanbrisio’r her sydd o'n blaenau ac rwyf am weithio gyda'r sector treftadaeth i wneud Cymru Hanesyddol, ar ba ffurf bynnag y caiff ei gyfansoddi, yn endid deinamig ac arloesol a all helpu Cymru i werthu ei hun i'r byd. Yr wyf i, felly, yn barod i wrando ac ymgysylltu ag unrhyw un sydd am gyfrannu'n adeiladol at y weledigaeth sy'n datblygu ar gyfer Cymru Hanesyddol. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid yw’r status quo bellach yn bosibilrwydd. Nid dyma’r amser ar gyfer diogelu ymerodraethau yn y tymor byr: mae gormod yn y fantol. Mae’n rhaid i ni beidio â syrthio i'r fagl o wybod gwerth yr hyn sydd gennym, ond anwybyddu'n fwriadol y penderfyniadau anodd y mae angen eu gwneud i’w ddiogelu.
A gaf i ddiolch i chi, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n well gennym ddatganiadau yn y Siambr hon, yn hytrach na datganiadau ysgrifenedig, yn enwedig pan fydd gennym faterion sydd, fel yr ydych yn cyfeirio atynt, braidd yn ddadleuol. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn falch o'r sefydliadau—nid ydych yn unigryw yn hynny o beth—ac rwy’n credu ein bod yn eithaf balch, hefyd, o’r bobl sy'n gweithio i’r sefydliadau hynny ac yn eu gwneud y sefydliadau unigryw yr ydynt. Does gen i ddim problem enfawr hyd yn oed â'ch dadansoddiad o'r pedwar mater sy’n pwyso a godwyd gennych yn y datganiad. Fy mhroblem, yn hytrach, yw eich ymagwedd at ddod o hyd i ymateb priodol i'r rheini.
Rydych yn dweud nad yw’r atebion i gyd gennych, ond mae wedi dod yn amlwg bod gennych ateb yr ydych yn ei ffafrio, sef yr olaf o'r pedwar dewis a gyflwynwyd yn yr adroddiad PricewaterhouseCoopers y cyfeirir ato yn eich datganiad. Cadarnhawyd hynny yn eich llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, i gyfarwyddwr yr amgueddfa genedlaethol, ac, rwy’n deall, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru, er y gallaf fod yn anghywir ar hynny. Os yw hyn yn wir yn ymrwymiad maniffesto, fel y dywedasoch yn natganiad mis Medi, hoffwn i chi nodi ymhle y gallaf ddod o hyd iddo. Os yw'n cuddio y tu ôl i wal dal negeseuon e-bost y Blaid Lafur, nid wyf yn siŵr eich bod yn gallu honni bod pobl Cymru wedi pleidleisio mewn gwirionedd dros hyn, yn enwedig gan yr ymddengys y bu’r adroddiad gan PwC, sy'n cynnig dewisiadau amgen, yn gyfrinachol tan y mis Medi hwn.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: sut ydych chi yn bersonol wedi dod i'r casgliad mai dewis o ran 4 Cymru Hanesyddol yw’r canlyniad a ffefrir gennych? Efallai y byddwch yn nodi’r gwelliant yn yr incwm a gynhyrchir gan Cadw o ganlyniad i'r cydweithio rhwng Cadw a Chroeso Cymru, ond, cyn belled ag y gallaf i weld, nid ydych wedi uno swyddogaethau Cadw a Chroeso Cymru. Mae unrhyw ailstrwythuro, rydych newydd ddweud, wedi bod o fewn Cadw.
Fy ail gwestiwn yw hwn: gan fod y grŵp llywio yn gwybod pa ddewis yr ydych chi’n ei ffafrio, sut y gallwn fod yn hyderus y gall ystyried y dystiolaeth yn adroddiad PwC gyda meddwl hollol agored? Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn dweud unrhyw beth am uniondeb aelodau'r grŵp hwn—dydw i ddim yn bendant—ond rydych wedi anfon arwydd cryf y byddai, yn eich barn chi, ac er gwaethaf cynnwys adroddiad PwC, fersiwn o Gymru Hanesyddol ar ffurf dewis 4, sy’n cynrychioli uno sylweddol, drwy oblygiad, yn well na'r dewisiadau eraill a gynigir yn yr adroddiad hwnnw.
Fy nhrydydd cwestiwn yw hwn: mae eich datganiad a'r dystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant yn ei gwneud yn glir bod eich bod chi’n credu’n gryf yn yr angen i gydweithio. Nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod unrhyw un ohonom yn anghytuno â chi am hyn. Yn sicr rydym yn hapus, fel Ceidwadwyr, i weld cydweithio cryfach ar weithgareddau masnachol. Ond, ychydig dros flwyddyn yn ôl—mae hyn yn ôl cyfarwyddwr yr amgueddfa—daeth Cadw, yr amgueddfa, y comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol at ei gilydd a ffurfio partneriaeth fwy llac, sef partneriaeth yn arddull dewis 1, i gydweithio ar nifer o faterion, gan gynnwys gweithgarwch masnachol. Yn eich barn chi, pam yr oedd y model hwn yn ddiffygiol i’r graddau eich bod yn ystyried bod uno ffurfiol bellach yn angenrheidiol?
Yn olaf, gan fy mod i’n gwerthfawrogi bod llawer o bobl sy’n awyddus i ofyn cwestiynau am hyn—mae llawer o bryderon am hyn—rwyf am ailadrodd dau gwestiwn a ofynnais ichi rai wythnosau'n ôl na wnaethoch eu hateb. Y cyntaf oedd hwn: beth wnaethoch chi ddysgu o ymgais aflwyddiannus Llywodraeth Cymru i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol? Rydych yn dweud fod cefnogaeth ar gyfer newid strwythurol. Yr hyn yr wyf i’n ei gofio yw llawer iawn o wrthwynebiad i'r newid strwythurol ac, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru yn ildio ar hynny. Yn ail, os ydych yn cael awgrym gan y Cynulliad hwn, sydd yn y fantol, nad yw model dewis 4 Cymru Hanesyddol yn dderbyniol, a fyddwch yn ei dynnu oddi ar y bwrdd? Oherwydd mae’r Prif Weinidog yn hoff o ailadrodd, pan ddaw at Brexit, ei fod yn disgwyl i sefyllfa drafod a threfniadau’r DU ar ôl gadael gael eu cytuno gan yr holl genhedloedd ac nid cael ei orfodi gan Lywodraeth y DU, ac ni welaf unrhyw wahaniaeth yn yr egwyddor yn y fan yma. Os yw'r grŵp llywio o blaid trosglwyddo ystod eang o swyddogaethau i gorff newydd, yn hytrach na dirprwyo, er gwaethaf lefel y gweithgarwch ymgyrchu yr ydym eisoes wedi’i gweld, yna mae hyn yn awgrymu y bydd Cymru Hanesyddol ar ffurf dewis 4 yn fater o orfodi yn hytrach na chytundeb. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau ac am gydnabod, o ran gweithgarwch masnachol, ei bod yn bwysig bod yr holl sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus yn edrych ar yr hyn y gallant ei wneud yn fwy eu hunain i fod yn fwy cydnerth. Mae'n gwbl hanfodol, yn enwedig i lawer o bobl a allai fod yn gwylio heddiw nad ydynt yn gallu cael dau ben llinyn ynghyd, sy'n edrych i sefydliadau cenedlaethol i’w helpu i ddod yn fwy cydnerth, i roi mwy yn ôl i'r wlad. Rwy'n gwybod bod etholiad yr arlywydd heddiw; wel, dylai sefydliadau cenedlaethol ofyn beth y gallan nhw ei wneud dros eu gwlad, drwy’r adnoddau a ddyrennir iddynt gan y Llywodraeth, yn hytrach na dim yn ceisio cael mwy o adnoddau i wneud yr un peth.
O ran prosesau—ac i raddau helaeth mae eich cwestiynau yn ymwneud â phrosesau—mae’r llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, yn ymwneud â sylwadau a wnaethpwyd, rwy’n credu, mewn pwyllgor gan Brif Swyddog Gweithredol yr amgueddfa genedlaethol, pan ddywedodd ei fod yn synnu bod dewis 4 wedi ei ddethol. Mewn gwirionedd, os edrychwn ar y llythyr hwnnw o 27 Gorffennaf, ac rwy'n siŵr ei fod gan yr Aelod—os nad ydyw, rwy’n hapus iawn i gyhoeddi’r llythyr, ond hefyd, Lywydd, rwy'n hapus iawn i gyhoeddi'r llythyr, gyda chytundeb y Prif Swyddog Gweithredol, a ddaeth i law cyn fy llythyr ar 27 Gorffennaf. Roedd fy llythyr i mewn ymateb i'w lythyr ef a byddwn yn hapus i gyhoeddi'r llythyr hwnnw hefyd. Mae fy llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, yn datgan bod yr adroddiad yn nodi nifer o wahanol ddewisiadau ar gyfer tyfu'r sector ac yn ei gwneud yn gwbl glir bod llawer o achos i ni fod yn optimistaidd os byddwn yn gweithio'n agos gyda'n gilydd ac yn gwireddu’r synergeddau sy'n bodoli’n amlwg. O ystyried hyn— a dyma’r llinell hollbwysig gall dewis 4 gynnig ateb i rai o'r materion, ac yn wir, y cyfleoedd yr ydych yn eu codi yn eich llythyr.
Pam ei fod mor ddrwg i edrych ar y cyfleoedd a godwyd yn y llythyr hwnnw? Byddwn yn hapus i gyhoeddi’r llythyr hwnnw, fel y dywedais—dim llythyr 27 Gorffennaf ond y llythyr gan y Prif Swyddog Gweithredol ar 29 Mehefin. Felly, mae gennyf feddwl agored o hyd, ond yr hyn y byddwn yn ei awgrymu i Aelodau yw ei bod yn bwysig edrych ar y dewisiadau hynny, fel y mae’r grŵp llywio yn mynd i'w wneud, â meddwl agored, ac i’w hasesu yn bwyllog o ran sut y gallent fod o fudd i'r sector cyfan.
Rydych yn gofyn am Gymru Hanesyddol a'i lle ym maniffesto Llafur Cymru. Yr oedd ym maniffesto Llafur Cymru. Rydym yn byw yn yr oes ddigidol, felly roedd y maniffesto ar-lein. Os ewch chi i gael golwg arno, lawrlwythwch ef ar-lein, y mae yno. Mae yno, lle’r ydym yn sôn am ba mor bwysig yw hi i Cymru Hanesyddol ddod â gweithgareddau masnachol at ei gilydd. Rwy’n gwybod ein bod yn enwi’r amgueddfa genedlaethol a Cadw yn benodol yn hynny o beth, ond wrth gwrs mae’r comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol ar y grŵp llywio hefyd. Efallai y bydd synergeddau yno yn hefyd. Ond mater i’r grŵp llywio yw hyn. Mater i’r grŵp llywio yw hyn. Hoffwn ei roi ar gofnod unwaith eto fy mod yn eich sicrhau bod gennyf feddwl agored. Ond yr hyn na fyddaf yn ei dderbyn yw status quo neu ryw fân chwarae o amgylch yr ymylon. Nawr, mewn cwestiwn arall roedd yr Aelod yn holi am drefniant rhydd a oedd ar waith. Wel, byddwn i'n gofyn yn fy nhro: os oedd hynny'n llwyddiannus, beth am ei wneud ychydig yn fwy cadarn—ei gryfhau? Os oedd hynny'n llwyddiannus. Ond nid wyf yn credu ei fod, oherwydd, dros y blynyddoedd, rydym wedi clywed llawer iawn, iawn o sefydliadau yn siarad yn gynnes iawn am yr angen i gydweithio mwy. Ond, yn aml, nid ydynt yn cydweithio digon; dydyn nhw ddim yn gwireddu eu haddewidion.
O ran tystiolaeth, gadewch i ni edrych arni. O ran tystiolaeth, gallwn edrych ar y ffigurau presenoldeb gwirioneddol, oherwydd effeithiolrwydd unrhyw weithrediad marchnata—unrhyw weithrediad masnachol—yw faint o bobl yr ydych yn ymgysylltu â nhw, faint o bobl yr ydych chi’n eu denu. Rwy'n siŵr y byddem yn cytuno ar hynny. Felly, os ydym yn edrych ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae wedi gwneud gwaith da wrth ddenu pobl i'r safleoedd ac wrth addysgu pobl, ond nid da lle gellir gwell. Rwyf eisiau mwy. Rwyf eisiau i bobl Cymru fod yn fwy egnïol, a hynny’n ddiwylliannol ac yn gorfforol. Rwyf eisiau i fwy o bobl fod yn fwy gweithgar yn y celfyddydau, ac, ar hyn o bryd, er ei fod yn dda, nid da lle gellir gwell.
Os edrychwn ni ar y ffigurau, yn gyntaf oll—a’r ffigurau diweddaraf yw’r rhain—y safle sy’n denu’r niferoedd mwyaf yw Sain Ffagan, gyda 531,000; yr ail, amgueddfa genedlaethol Parc Cathays, Caerdydd gyda 491,000; yn drydydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda 261,000; Big Pit, 144,000; Amgueddfa Lechi Cymru, gyda 142,000; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, gyda 71,000; ac Amgueddfa Wlân Cymru, gyda 31,000. Yna, edrychwn ar yr atyniadau hanesyddol sydd wedi denu’r niferoedd mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn gweld bod y ffigyrau cymharol ar gyfer y safle amgueddfa genedlaethol a ddenodd y nifer mwyaf o ymwelwyr ychydig y tu ôl i'r nifer sy’n mynd ar deithiau bws o gwmpas Caeredin, sydd yn atyniad y mae’n rhaid talu amdano; hanner nifer y bobl sy'n ymweld ag Amgueddfa Riverside. Mae'r Baddonau Rhufeinig yn safle tebyg yng nghyd-destun y dinasoedd—Caerfaddon a Chaerdydd—ac mae’n rhaid talu i fynd yno. Maent yn denu 1,044,000. Fe âf ymlaen ychydig i gymharu yn nhermau meintiau tebyg. Yn Sheffield, mae Amgueddfeydd Oriel y Mileniwm Sheffield, sydd am ddim, yn denu 764,000 o bobl. Mae Brighton yn fwy, rwy’n cydnabod, ond mae Pier Brighton yn denu 4,600,000 o bobl; Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, 1,567,000; Oriel Genedlaethol yr Alban, 1,377,000.
Edrychwch, mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn hanfodol bwysig o ran niferoedd ymwelwyr, o ran ei allu i addysgu ac i ymgysylltu pobl mewn hyfforddiant sgiliau. Mae'n gwneud yn dda, fel y dywedais, ond nid yw'n gwneud yn ddigon da. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr yn y blynyddoedd i ddod, y gallwn edrych yn ôl a dweud, ‘Gwnaethom bopeth o fewn ein gallu i ddod â’r sector ynghyd i hyrwyddo ei hun ar y cyd er lles pawb' a bod y chwaraewyr allweddol yn y sector wedi gweithredu fel tîm er budd ei gilydd. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod y raddfa honno o gydweithio yn ddigonol.
O ran yr ail gwestiwn, eto mae hyn yn ymwneud â ph'un a yw pobl ar y grŵp llywio yn mynd o gwmpas eu gwaith â meddwl digon agored, yn seiliedig ar yr honiad anghywir, fy mod i’n ffafrio un dewis dros un arall. Wel, mewn gwirionedd, heddiw gallaf sicrhau'r Aelod bod aelodau'r grŵp llywio yn awyddus iawn i gymryd rhan mewn unrhyw ffordd bosibl er mwyn cyflawni canlyniad a fydd o fudd i'r sector cyfan. Gallaf ddweud hynny oherwydd llythyr sy'n ymddangos heddiw yn y 'Western Mail'. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r llythyr, ond byddaf yn ei ddarllen. Mae’r llythyr oddi wrth lywydd yr amgueddfa genedlaethol. Mae hefyd oddi wrth lywydd y llyfrgell genedlaethol. Mae hefyd oddi wrth gadeirydd y comisiwn brenhinol. Dyma a ddywed:
rydym yn gwybod ei fod yn amserol ac yn hanfodol ein bod yn edrych am gyfleoedd newydd i sicrhau bod treftadaeth mor berthnasol, mor hygyrch, ac mor gydnerth â phosibl, a'i bod yn seiliedig ar weithio ar y cyd... yn yr ysbryd hwn yr ydym yn gweithio yn rhagweithiol, fel aelodau o Grŵp Llywio, gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Gadewch i ni i gyd chwarae i ennill, a gadewch i ni beidio â gweld y gêm yn cael ei thanseilio.
A allaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Ond, wedi dweud hynny, buasai’n lawer well gennyf i petaem ni yn cael dadl yn amser y Llywodraeth, fel rydw i wedi gofyn am ddwywaith yn y Siambr hon o’r blaen, achos mae’r materion gerbron yn allweddol bwysig, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei awgrymu eisoes, yn allweddol bwysig i ni fel cenedl—ac maen nhw; rwy’n cytuno efo fo yn fanna.
Yn y dyddiau du yna—yr anialwch gwleidyddol cyn datganoli—roeddem ni’n edrych i sefydliadau fel Amgueddfa Cymru a’r llyfrgell genedlaethol fel pileri cof ein cenedl ni, fel diffiniad o Gymru, fel ymgorfforiad annibynnol a llais annibynnol a oedd yn siarad fyny dros Gymru i ddweud bod Cymru’n dal i fod, er yr amgylchiadau du eraill. Roedd pobl yn gofyn cwestiynau yn yr 1980au fel ‘When was Wales?’ ac roeddech chi’n gallu cerdded i mewn i’r amgueddfa genedlaethol neu i Sain Ffagan ac yn gallu dweud, ‘Dyma le mae Cymru: dyma le mae Cymru yng nghanol pob peth arall’.
Sefydlwyd yr amgueddfa genedlaethol gan siarter frenhinol yn 1907, sy’n ymgorffori ac yn addo ei hannibyniaeth. Byddwch chi’n ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, o’r holl lythyrau ac e-byst rydym ni wedi eu derbyn fel aelodau o’r pwyllgor diwylliant ac unigolion, pob un ohonyn nhw yn beirniadu’ch pwrpas chi i greu Historic Wales. Rwy’n falch eich bod wedi gallu clustnodi un llythyr sydd, o leiaf, ddim yn eich beirniadu chi, sydd wedi ymddangos yn y ‘Western Mail’ heddiw. Mae pob llythyr arall rwyf i wedi ei weld yn eich beirniadu chi’n hallt iawn. Felly, mae eisiau mynd i’r afael efo hyn.
Yn ôl i siarter brenhinol yr amgueddfa genedlaethol, y bwriad oedd—ac yn yr iaith fain—
‘To tell the world about Wales and to tell Wales about the world.’
Dyna ydy pwrpas ein hamgueddfa genedlaethol ni o hyd—o hyd. Ac, ie, rydych chi fel petaech wedi creu’r syniad, dros yr wythnosau diwethaf, bod y penderfyniad hwn i sefydlu Cymru Hanesyddol yn fait accompli, heb ddigon o wrando. Dyna beth mae pobl yn ei ddweud wrthym ni: mae’r bwriad wedi cael ei ruthro; nid oes neb yn gwrando ac nid oes yna neb yn cyfathrebu.
Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig, achos rydw i yn credu bod cynlluniau’r Llywodraeth yn effeithio’n anffafriol ar annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol, sydd yn golygu bod uno’r amgueddfa genedlaethol efo Cadw, ac mae Cadw yn rhan o’r Llywodraeth, yn sicr o beryglu annibyniaeth Amgueddfa Cymru. Rydym ni i gyd wedi bod rownd Sain Ffagan yn ddiweddar. Mae £25 miliwn yn y broses o gael ei wario ac mae Sain Ffagan wedi arloesi ers blynyddoedd lawer ac yn arweinydd byd yn ei faes. Mae’r holl bethau hyn yn mynd i gael eu peryglu os ydym yn mynnu uno’r amgueddfa genedlaethol efo Cadw.
Mae nifer o unigolion blaenllaw’r sector, yn cynnwys yr hanesydd Llafur, Dai Smith, yn feirniadol iawn. Fe wnaf i ddyfynnu yn yr iaith wreiddiol beth mae Dai Smith yn ei ddweud:
‘Income generation, commercial exploitation and partnership working are not dirty words or false concepts, but they should be entirely secondary to the rooted role we have given to our cultural bodies for more than a century.’
And he goes on to say that this is
‘precipitate implementation without the due diligence of informed discussion and evidential investigation.’
Ac rydw i’n tueddi i gredu ac i gytuno efo Dai Smith. Yn amlwg, nid ydw i’n cytuno efo Dai Smith ar bob peth, ond, yn y fan hon, rydw i’n cytuno efo fo.
Wrth edrych ar dudalen 4 o adroddiad PricewaterhouseCoopers, yn yr adran cwmpas ac amcanion, mae yna gyfeirnod i greu sefydliad masnachol ar wahân, sy’n awgrymu bod casgliadau wedi’u gwneud yn barod, hyd yn oed ar y pryd hynny, nôl ar ddechrau’r flwyddyn, a gofynnir i PwC ddod o hyd i dystiolaeth gefnogol i’r bwriad yna i greu sefydliad masnachol ar wahân. Nid yw hyn yn broses wrthrychol.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth a wnes i’n ddiweddar, mae wedi dod yn amlwg nad oes cofnodion wedi eu cadw o grŵp adolygu’r Farwnes Randerson. Pam hynny? Pam nad oes cofnodion? Mae hyn yn syfrdanol wrth feddwl am oblygiadau a phwysigrwydd yr argymhellion yma i’r sector.
Fel rydw i wedi crybwyll eisoes, mae yna bryderon hefyd ynglŷn â diffyg ymgynghori gyda’r sector a’r cyhoedd. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi clywed bod y syniad bod hwn ym maniffesto’r Blaid Lafur hefyd braidd yn od. Rydym i gyd yn cynhyrchu maniffestos printiedig; nid oedd ym maniffesto printiedig y Blaid Lafur, y bwriad yma i greu Historic Wales. Pam cadw’r ymrwymiad mor dawel os oedd yn rhaid mynd i mewn i atodiad ar-lein yn unig? Nid yw’r broses wedi bod yn agored nac yn dryloyw.
Nawr, ni fuasai neb yn anghytuno efo chyd-weithio, rhagor o gydweithio, na’r angen i ddatblygu’r ochr farchnata a’r ochr fusnes. Mae pob un yn cytuno efo hynny, ac mae yna’n wastad waith i’w wneud. Ond rydych chi’n mynd cam yn rhy bell wrth beryglu holl fodolaeth ein hamgueddfa genedlaethol ni.
So, to counter that feeling, Cabinet Secretary, will you today rule out the full merger of these organisations—
Rwyf eisoes wedi gwneud.
[Yn parhau.] —uno llawn Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda Cadw? A wnewch chi ddiystyru gweithredu dewis 4 adroddiad PwC yn ystod y tymor Cynulliad hwn? Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn cyd-destun arall, pan fuom yn trafod y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, NICW, rydych wedi dangos hyblygrwydd rhagorol ac awydd i wrando ar bryderon, a dod i gytundeb. Rydych chi wedi dangos yr hyblygrwydd hwnnw, clodwiw ag yr ydyw, yn ein trafodaethau yr ydym wedi eu cael, eich bod yn barod i symud, a byddwn yn cymeradwyo'r ymagwedd honno unwaith eto, yma. Oherwydd fel yr oedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ysbrydoli llawer ohonom unwaith, flynyddoedd yn ôl, mewn tir diffaith heb Gynulliad, rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd yn awr bod y Cynulliad hwn yn sefyll gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar awr gyfyng. Gofynnaf yn daer, peidiwch â gwneud hyn; gofynnaf yn daer, ailystyriwch.
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am rai sylwadau caredig a phwyntiau y mae wedi eu gwneud. Rydych chi wedi cydnabod fy mod yn gwrando, y gallaf wynebu her, a dyna'n union beth yr wyf yn ei wneud, a dyna'n union pam y byddaf yn gwrando ar y grŵp llywio a’r arbenigwyr hynny sy’n eistedd ar y grŵp llywio sy'n cynrychioli ein sefydliadau cenedlaethol—nid dim ond yr amgueddfa. Ac rwy’n gwybod eich bod wedi siarad llawer am yr amgueddfa, ond mae a wnelo hyn â mwy na’r amgueddfa genedlaethol; mae a wnelo â'r sefydliadau mawr sydd gennym sy'n cynrychioli cyfanrwydd y sector treftadaeth yr wyf yn teimlo'n angerddol amdano. Ac felly byddaf yn gwrando ar yr arbenigwyr hynny. Gallaf, gallaf ddiystyru y bydd uno llawn o'r sefydliadau, fel yr ydych yn gofyn i mi ei wneud, ond, o ran y dewisiadau hynny, rwy'n mynd i’w adael i'r grŵp llywio lunio cyfres argymhellion ar sil gwybodaeth dda.
Mae'r Aelod wedi codi llawer o bwyntiau, ond gadewch i ni sefydlu man cychwyn: ein bod ni i gyd yn angerddol am ddyfodol ein sector treftadaeth. Rydym ni i gyd yn awyddus i'n sefydliadau diwylliannol fod yn gryfach, nid dim ond sefydliadau cenedlaethol, ond y sefydliadau lleol hefyd. Dyna pam y comisiynwyd adolygiad panel arbenigol ar amgueddfeydd, dyna pam yr wyf wedi sefydlu’r gronfa llyfrgelloedd dysgu cymunedol fel cronfa drawsnewid, nid yn unig ar gyfer llyfrgelloedd, ond ar gyfer amgueddfeydd hefyd. Mae'n drueni na wnaeth y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli amgueddfeydd cymunedol sylweddoli’n iawn fy mod i wedi gwneud hynny pan amlinellais ym mis Ebrill, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, mai dyna oedd ein bwriad gyda'r gronfa llyfrgelloedd dysgu cymunedol. Rydym wedi sefydlu’r gronfa honno ar ffurf cronfa drawsnewid, oherwydd dywedais ar y pryd na allwn aros i greu cronfa gwbl newydd os yw amgueddfeydd cymuned a lleol yn mynd i fynd i’r wal yn y cyfamser. Felly, fe wnes i chwyddo’r gronfa o £1 miliwn i £1.4 miliwn. Mae hynny wedi ei wneud.
Rydym wedi comisiynu’r adolygiad panel arbenigol ar lyfrgelloedd. Nawr, gadewch i ni edrych ar lyfrgelloedd. Gadewch i ni edrych yn ôl i 2008, pan awgrymodd cyn Ysgrifennydd Gwladol, bod yn rhaid i lyfrgelloedd lleol arallgyfeirio yn wyneb y problemau cyllid cyhoeddus a oedd ar y gorwel, bod yn rhaid cael rhywfaint o gyd-leoli adnoddau a gwasanaethau. Cafodd ei gyhuddo o fod yn farbariad diwylliannol, oedd am roi siopau pysgod a sglodion—ac mae hwnnw’n ddyfyniad union, siopau pysgod a sglodion—gan bobl oedd, ie, yn llawn bwriadau da, a oedd yn gofalu am lyfrgelloedd, ond yn y pen draw, roedd y gofal hwnnw wedi arwain at fygu cannoedd ar gannoedd o lyfrgelloedd yn Lloegr, oherwydd eu bod yn draddodiadwyr, yn rymoedd gwrthwynebiad, a wrthododd dderbyn bod yn rhaid newid, bod y gymdeithas wedi symud ymlaen, bod yn rhaid inni apelio at bobl mewn ffordd newydd ac arloesol. Ac os ydym yn edrych ar y don—y tswnami—o negeseuon masnachol sy’n taro pobl bob dydd, yn sicr mae'n rhaid i chi gydnabod yn awr, yn fwy nag erioed, bod yn rhaid i chi gael brand cryf i fod yn berthnasol, bod yn rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich gwaith hysbysebu, eich gwaith marchnata, mor effeithiol ag y gall fod i dorri drwy’r hyn yr wyf wedi’i alw yn 'fwyd cyflym ar gyfer yr enaid’—y diwylliant pop sy'n taro pobl bob eiliad o'r dydd drwy gyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen.
Felly, mae'n hanfodol ein bod ni’n gwneud mwy er mwyn i’r sector treftadaeth farchnata ei hun, ond mae angen iddyn nhw wneud yn siwr eu bod yn cydweithio'n agos hefyd. Rydych yn dweud bod pawb yn cytuno ar gydweithio—ydyn, maen nhw, ond nid yw rhai mewn gwirionedd yn gwireddu eu geiriau cynnes, ac rwy’n rhoi pwyslais ar ddarparu ymdrechion cydweithredol, nid dim ond siarad am gydweithio. O ran y maniffesto, fel y dywedais, rydym yn byw mewn oes newydd erbyn hyn a phenderfynodd Llafur Cymru fynd yn ddigidol yn gyntaf i gydnabod y ffaith bod y rhan fwyaf o bobl bellach yn gweithredu yn ddigidol yn gyntaf. Felly, gosodwyd ein maniffesto cyfan ar y rhyngrwyd a byddaf yn hapus i argraffu adrannau sy'n ymdrin â diwylliant ac sy'n cyfeirio at Gymru Hanesyddol. Rwy’n cydnabod bod rhai pobl wedi ei chael hi’n anodd cael mynediad at y tudalennau hynny, ond byddwn yn gallu siarad ac esbonio’r broses o lawrlwytho ac argraffu’r maniffesto. Rwy'n ymwybodol o'r nifer o lythyrau sydd wedi eu cyflwyno, ond rwy’n gobeithio y bydd fy sylwadau heddiw yn tawelu meddwl llawer o bobl sy'n poeni, ac sydd â phryderon gwirioneddol. Rwy'n credu bod rhai o'r llythyrau, ac yr wyf wedi darllen llawer, yn seiliedig ar wybodaeth anghywir neu ofn na ellir ei esbonio.
Ni all annibyniaeth fod yn rhwystr i weithio'n agosach gyda'n gilydd, a, lle bo angen, cyfuno adnoddau. Roedd yr Aelod yn briodol wrth nodi un o ddibenion craidd yr amgueddfa: sef gwerthu yr hyn yw Cymru i'r byd. A dyna fy mwriad yn llwyr. Mae'n ymwneud â gwerthu'r hyn sy'n wych am Gymru, gyda’i gilydd. Ddoe, roeddwn i yn Llundain—roeddwn yn ffair deithio’r byd—ac yr oedd neuaddau di-ri yn llawn nifer enfawr o stondinau yn cynrychioli rhanbarthau a sefydliadau a chwmnïau o bobl mathau o wledydd, rhai ohonynt wedi gwario miliynau ar eu stondinau. Rhai y dwyrain canol yn benodol, roeddent yn anhygoel—roedd rhai yn rhoi pennau ysgrifennu, beiros Bic; rwy'n siŵr eu bod nhw’n rhoi Montblancs. Roedd yn anhygoel faint o arian yr oeddent yn ei wario arno. Felly, roeddent yn gallu cyflwyno brand cryf iawn ar gyfer eu hardaloedd, yr hyn y maent yn sefyll ar ei gyfer, ansawdd uchaf yr hyn y maent yn ei gynrychioli. Roeddwn yn falch, ar ein stondin ni—nid oes gennym gymaint o ran adnoddau ag sydd gan rai gwledydd, ond, ar ein stondin ni, roedd ein sefydliadau treftadaeth wedi’u cynrychioli; roedd gennym Cadw a'r amgueddfa genedlaethol gyda'i gilydd. Doedden nhw ddim yn hyrwyddo beth oedden nhw yn unigol; roeddent yn hyrwyddo treftadaeth yng Nghymru, un o'r prif bethau sy’n denu pobl i Gymru fel ymwelwyr. Rwy’n awyddus i weld mwy o'r math hwnnw o weithgaredd.
Rydw i wedi clywed rhai pobl yn dweud, 'Yn hytrach na chanolbwyntio ar newid, neu yn hytrach na gorfodi cydweithio, pam na wnewch chi roi mwy o arian, pam na wnewch chi ganolbwyntio mwy ar adnoddau?' Ni fydd rhoi mwy o arian o reidrwydd yn cael mwy o bobl drwy'r drysau, a dyna, ar ddiwedd y dydd, yw'r prif nod ar gyfer y sefydliadau cenedlaethol sy'n gwasanaethu pobl Cymru: i fod yn hygyrch ac yn berthnasol ac yn groesawgar. Ac, o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i sicrhau bod lleoedd yn groesawgar, yn cael eu cynnal yn dda, rydym wedi cynyddu refeniw a chyfalaf yn y flwyddyn ariannol nesaf o 33 y cant. Byddaf yn dweud hynny eto: mae'n 33 y cant i'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol gyda'i gilydd. Mae'n gynnydd enfawr mewn adnoddau. Ac os ydych chi’n edrych ar—oherwydd bod rhai yn hoffi cymharu Cymru a Lloegr—newidiadau refeniw o 2010-11, byddwch yn gweld, ar gyfer yr amgueddfa genedlaethol, ei fod yn 7.1 y cant. Ar gyfer y llyfrgell genedlaethol, nid yw cystal; mae'n 9.69. Byddwn wrth fy modd pe bawn i mewn sefyllfa yn y dyfodol i roi setliadau gwell, ond bydd unrhyw un sydd wedi clywed sylwebaeth am y ffordd y mae cyllid cyhoeddus yn mynd i fynd yn cydnabod ein bod yn mynd i wynebu penderfyniadau hyd yn oed mwy anodd yn y dyfodol. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom sydd pryderu o ddifrif—rydym ni gyd yn pryderu am y sector diwylliant—i'w helpu i fod yn fwy cydnerth yn y cyfnodau ariannol mwyaf anodd.
O’i gymharu â Lloegr, gyda llaw, roedd y toriadau cyfatebol yn Lloegr yn 15 y cant. Gadewch i mi ddod o hyd i ychydig o enghreifftiau penodol, fel y gwneuthum gyda’r ffigurau ymwelwyr. Os edrychwn ar ostyngiad refeniw, ac roedd hyn hyd at 2015, cafwyd gostyngiad o 13.8 y cant i’r Imperial War Museums, er enghraifft, o'i gymharu â, fel y dywedais, y gostyngiad o 7.1 y cant ar gyfer yr amgueddfa genedlaethol. Os ydych chi eisiau unrhyw arwydd, dyna fe—o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n sefydliadau cenedlaethol, ond, i mi, yr wyf am weld mwy yn cael ei wneud ar y cyd.
Ni allai unrhyw un oedd yn gwrando arno heno wadu awydd a brwdfrydedd Ysgrifennydd y Cabinet i gael y sefydliadau hyn i weithio hyd eithaf eu gallu. Ond rhaid i mi leisio rhai o'r un pryderon a leisiwyd gan Suzy Davies a Dai Lloyd heno. Tra bod UKIP yn cytuno yn fras ein bod yn defnyddio pob ffordd bosibl o gynhyrchu incwm o’r asedau cenedlaethol unigryw hyn, mae'n destun pryder i weld ein bod yn siarad am gorff arall eto, a allai gael ei ystyried o bosibl yn gwango arall, hyd yn oed os yw’r corff hwn yn gorff mewnol. Felly, yn gyntaf, a fydd y corff hwn yn ychwanegol at y pedwar corff sy'n bodoli yn awr? Yn ail, fel yr ydych wedi crybwyll, mae paragraff 3 ar dudalen 2 eich datganiad yn nodi bod Cadw wedi cael ei blwyddyn refeniw orau erioed y llynedd. Felly, o ystyried eich bod yn cyfaddef y gall sefydlu corff newydd fod yn gostus iawn, oni fyddai'n well i osod targedau ar gyfer y sefydliadau sy'n bodoli eisoes neu uno rhai o'r sefydliadau hyn er mwyn cyflawni'r canlyniadau gofynnol? A wnewch chi gamu yn ôl dim ond un cam o hyn sy'n ymddangos i fod y trywydd yr ydych yn ei ddilyn—sef y pedwerydd dewis sydd ar gael—fel eich bod yn adolygu eto yr holl ddewisiadau eraill? Diolch.
Diolch. Hoffwn ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau a dim ond eisiau myfyrio, mewn gwirionedd, gan fy mod yn gwybod bod hyn wedi bod yn ddadleuol, ac roedd Dai Lloyd yn dyfynnu Dai Smith yn ei gyfraniad, ac efallai y gwnaf i fyfyrio ar ddyfyniad arall gan Dai Smith, pan ddywedodd y dylai diwylliant fod yn aflonyddgar. Efallai bod y cynigion hyn yn aflonyddgar, ond maent yn aflonyddgar yn y ffordd iawn oherwydd eu bod yn hoelio sylw yn glir ar sut y gall y sector gydweithio mwy er lles pawb ar draws llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac o bosibl archifau, hefyd, gan dynnu mwy o sylw at y sector treftadaeth gwych y dylem allu ei frolio yng Nghymru. Yn wir, roedd Dai Smith, yn union fel y dywedodd Dai Lloyd, yn nodi bod swyddogaethau masnachol yn bethau eilaidd. Wrth gwrs maent yn llai pwysig, ond nid yw'n golygu nad ydynt yn gwbl hanfodol, yn enwedig yn ystod cyfnod o galedi ariannol difrifol i lawer o bobl, i lawer o sefydliadau, i’r wlad gyfan.
O ran y dewisiadau a ph'un a fyddai hwn yn gwango arall, rwyf wedi bod yn glir iawn mai’r grŵp llywio ddylai fod yn gwneud argymhellion i ni eu hasesu ac yna i ymgynghori arnynt yn gyhoeddus. Rwy’n ymwybodol o'r angen i osgoi unrhyw weinyddiaeth neu fiwrocratiaeth ychwanegol. Holl bwynt y gwaith hwn yw gwneud yn siŵr bod pob sefydliad mor rhydd, mor hyblyg, mor ystwyth, ond hefyd mor greadigol a phenderfynol â phosibl i gael budd o gynnydd mewn incwm masnachol, ac i fod yn fwy rhagweithiol ac ymgysylltu â mwy o gymunedau a mwy o bobl sydd, yn draddodiadol, wedi teimlo eu bod wedi’u hymddieithrio neu’n bell o sefydliadau diwylliannol, a hynny am bob math o resymau, boed yn rhwystrau corfforol neu seicolegol—mae’n rhaid i oresgyn y rhwystrau hynny fod yn amcan sylfaenol y sefydliadau. Dyna pam y sefydlwyd y rhaglen Fusion, oedd â'r nod o asio sefydliadau—sefydliadau diwylliannol—â grwpiau cymunedol i harneisio grym diwylliant i drechu tlodi. Hoffwn weld mwy o'r gweithgarwch hwnnw yn cael ei gynnal gyda mwy o bartneriaid hefyd. Dyna pam yr wyf yn dal i ddweud, 'mae angen mwy o gydweithio'. Ar hyn o bryd, nid yw’n ddigon da. Mae gennym enghreifftiau o ble mae cydweithio wedi gweithio, ond nid yw’n ddigon, rwy'n ofni. Felly, rydym yn dymuno gweld mwy o gydweithio, ond mater i’r grŵp llywio fydd gwneud argymhellion. Ac rydych yn hollol gywir—cafodd Cadw ei blwyddyn orau erioed. Ac oherwydd llwyddiant Cadw yr ydym wedyn wedi gallu dyrannu adnoddau ychwanegol i'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol. Gadewch i ni i gyd chwarae i ennill gyda'n gilydd, yn hytrach na chystadlu o fewn yr un tîm. Mae hyn yn ymwneud ag un sector yn awyddus i fod y gorau yn y byd, felly gadewch i ni wneud hynny fel un tîm unedig.
Rydym allan o amser ar y datganiad hwn, ond mae gen i ychydig mwy o Aelodau sy'n dymuno holi Ysgrifennydd y Cabinet. Os gallwn gael cwestiynau cryno ac atebion cryno, byddai hynny’n ein helpu yn fawr. Vikki Howells.
Diolch, Lywydd a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig a amlinellwch heddiw. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw twristiaeth fel sector i economi Cymru, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei marchnata yn gryf wrth symud ymlaen, os yw am gynnal a gwella'r presenoldeb sydd ganddi ar hyn o bryd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â phwysigrwydd twristiaeth treftadaeth i economïau lleol. Mae ffigur o £19 miliwn y flwyddyn wedi ei awgrymu o'r blaen. Yn amlwg, mae angen i ni sicrhau bod hyn o fudd i Gymru gyfan, felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau mai un o flaenoriaethau Cymru Hanesyddol yw ceisio hyrwyddo cyfleoedd hanesyddol ledled ardaloedd o Gymru nad ydynt yn gysylltiedig yn draddodiadol â thwristiaeth? Yn ail, yn gysylltiedig â hyn y mae hyrwyddo hanes nad yw wedi bod yn hysbys o’r blaen, er enghraifft, hanes go iawn y dosbarth gweithiol, hanes gwerin gwlad, sy'n perthyn i gynifer o bobl yng Nghymru. Sut fydd Cymru Hanesyddol yn hyrwyddo'r naratif hwn, megis hanes glofa Tŵr yn fy etholaeth i, er enghraifft, a fyddai wedyn â’r potensial i weithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd pellach?
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â sgiliau a hyfforddiant, ac rwy’n cofio, Ysgrifennydd y Cabinet, eich uchelgais, fel y clywodd y pwyllgor economi yr wythnos diwethaf, i Gymru fod ag enw da am wasanaeth anhygoel i gwsmeriaid. Ond pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r bwlch sgiliau er mwyn gwneud hyn yn realiti? Yn benodol, pan fydd grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno profiadau treftadaeth, fel Amgueddfa Cwm Cynon yn fy etholaeth i, sut fyddech chi’n sicrhau bod Cymru Hanesyddol yn mynd ati fel blaenoriaeth i roi i wirfoddolwyr yr hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt?
Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau pwysig iawn, yn arbennig arwyddocâd y sector treftadaeth i'r graddau y mae cyflawni sgiliau yn y cwestiwn, oherwydd fy mod yn falch yn ddiweddar—dwi ddim yn siŵr a yw hyn i gael ei ddatgelu eto, ond rwy’n mynd i’w ddweud beth bynnag—i gefnogi cais gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyfer hyfforddiant sgiliau o fewn y sector treftadaeth, a gwn fod fy nghydweithwyr yn yr Adran Addysg a sgiliau hefyd yn falch iawn â hwn. Bydd cyfleoedd yn cael eu creu i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig i gymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfaoedd o fewn y sector treftadaeth, ac rwy’n awyddus iawn i wneud yn siŵr, wrth inni symud tuag at y dyfodol, ein bod yn symud y tu hwnt i siarad yn unig am oroesiad y sector treftadaeth a'r sefydliadau o fewn y sector, a’n bod mewn gwirionedd yn dechrau siarad am ffyniant y sector a’r sefydliadau hynny. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddatblygu mwy o arian, mwy o sgiliau a mwy o arbenigedd o fewn y sector, a gallwn wneud hynny drwy ddod â nhw at ei gilydd.
Dydw i ddim yn gweld pam—ac nid oes angen uno sefydliadau mewn unrhyw fodd, ond o ran y gweithgareddau sy'n wynebu tuag allan, byddai'n fuddiol cael cydweithredu llawer agosach, mwy ystyrlon—na allem gael pobl, er enghraifft, â sgiliau gwych o'r llyfrgell yn gweithio ym Mharc Cathays yn yr amgueddfa, neu i'r gwrthwyneb, yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo’r sgiliau unigryw sydd gan lawer o bobl a gyflogir yn y sefydliadau, ac nad ydynt yn amlwg yn rhannau eraill o orllewin Ewrop. Ac rwy’n meddwl y byddai'n wych i allu hyrwyddo’r sgiliau hynny a’r cyfleoedd gyrfa hynny ledled Cymru, oherwydd mae’r Aelod yn iawn—mae rhai rhannau o Gymru, mae rhai cymunedau yng Nghymru, lle nad yw'r sefydliadau cenedlaethol yn bresennol, ond lle y gall Cadw fod yn bresennol. Mae rhai rhannau o Gymru lle nad yw Cadw, yr amgueddfa genedlaethol na'r llyfrgell genedlaethol yn bresennol yn gorfforol. Ac yn yr amgylchiadau hynny, a'r cymunedau hynny, mae'n hanfodol bod amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd lleol ac archifdai lleol yn cael cefnogaeth ac yn cael arweiniad cenedlaethol cryf, a bod yna sgiliau i’w cefnogi, ac i wneud treftadaeth yn real, yn ddiriaethol ac yn hygyrch ar gyfer pawb ym mhob cymuned, waeth ble maent yn byw.
O ran rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar sail genedlaethol, rwy'n meddwl bod y prosiect dehongli treftadaeth Cymru gyfan yn llwyddiant mawr, ond nid oes amheuaeth bod angen i ni wneud mwy i hyrwyddo ein treftadaeth ddiwydiannol. Mae hwn yn un maes—rwy’n gwybod bod Jeremy Miles wedi siarad am 89.9 eiliad wythnos diwethaf am werth treftadaeth ddiwydiannol mewn llawer o gymunedau. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i y gallwn ac y gallem wneud mwy os ydym yn mynd i ddenu mwy o adnoddau, datblygu sgiliau o fewn y sector a chynyddu’r nifer o gyfleoedd gwaith sydd yna.
Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y cyfle yn ystod amser cinio i ymweld â'r llu o gymdeithasau ac ymddiriedolaethau yn yr Oriel i fyny'r grisiau sy'n ymroddedig i warchod ein hamgylchedd hanesyddol; i enwi ond ychydig, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, y Gymdeithas er Diogelu Adeiladau Hynafol, a hefyd wrth gwrs y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, a grybwyllir yn aml yn y Siambr hon. Mae ganddynt bryderon am y broses hon. Maent yn optimistaidd hefyd am rai agweddau ohoni, ond mae ganddynt bryderon. Sut ydych chi’n gweithio gyda’r sefydliadau llai hyn i wneud yn siŵr bod y broses hon mor llyfn â phosibl, ac y rhoddir sicrwydd i’r sefydliadau hyn?
Yn ail, byddaf yn onest, nid yw fy mherthynas i a Cadw wedi bod yn berffaith bob amser. Rwy’n credu bod Cadw yn gwneud rhai pethau'n dda iawn. Rwy'n meddwl bod pethau eraill, yn sicr yn y maes archaeolegol, nad ydynt yn eu gwneud cystal. Rwy’n cofio yn y Siambr hon yn y Cynulliad diwethaf holi'r Gweinidog diwylliant blaenorol ar ddarganfyddiad y llyn cynhanesyddol ym Mynwy. Roedd archeolegydd lleol yn dweud wrthyf fod tystiolaeth o adeiladu cychod cynhanesyddol ar lannau'r llyn. Cafodd hynny ei wadu gan Cadw am fisoedd a misoedd hyd nes eu bod o'r diwedd yn ei dderbyn. Nid oeddent yn gwrando ar yr arbenigedd lleol.
Felly, pan ddaw at eich cynigion newydd, a fyddwch chi’n sicrhau, pa un a ydych yn mynd ar drywydd corff mwy o faint newydd neu gadw cyrff llai, fod y corff mwy o faint yn cyd-fynd â'r gymuned leol, yn cyd-fynd â sefydliadau lleol, ac yn gwrando ar eu harbenigedd, sydd yn aml yn eang iawn ac yn bwysig iawn i'r gymuned leol? Nid wyf yn credu bod y strwythurau presennol wedi gwneud hynny bob amser. Fel yr wyf yn dweud, mewn rhai achosion, maent yn arbennig o dda am gadw'r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod, ond yn nhermau gwerthfawrogi beth yr ydym wrthi yn ei ddarganfod, dydyn nhw ddim mor dda o ran hynny. Felly, os gwelwch yn dda a wnewch chi sicrhau bod y strwythurau newydd yn ystyried yr agweddau hynny?
Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau. Rwy'n falch iawn ei fod wedi mwynhau'r digwyddiad yma heddiw. Cynhaliais y digwyddiad a chymerais yr amser fy hun i siarad â nifer o grwpiau a ddaeth ynghyd â gwybodaeth ddiddorol am Gymru Hanesyddol. Codwyd rhai pryderon. Roeddwn yn gallu sicrhau pobl yn eu cylch, a chredaf fod honno’n dasg i mi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod—i sicrhau ein bod yn gwneud hyn i dyfu'r sector a’i wneud yn fwy cynaliadwy. Nid yw hyn yn fygythiad i unrhyw sefydliad neu gorff. Mae hwn yn gyfle. Bydd gweithio gyda'n gilydd o fudd enfawr i'r sefydliadau llai, ac o’r sefydliadau hynny yma heddiw, rydym yn ariannu llawer ohonynt, ac rwy’n meddwl y byddent hefyd yn cydnabod, er bod ein cymorth yn gwbl hanfodol, mai’r hyn sy'n bwysicach fyth yn y blynyddoedd i ddod yw eu bod nhw eu hunain yn dod o hyd i ffyrdd eraill o ddenu adnoddau hefyd.
Yn ddiweddar, es i a fy nghydweithiwr Lynne Neagle, i ymweld ag amgueddfa yn ei hetholaeth lle clywais y bu gostyngiad yn nifer y staff cyflogedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y swyddi hyn wedi’u llenwi gan wirfoddolwyr, mae'r sefyllfa bellach wedi codi lle maent dan bwysau aruthrol, pwysau ariannol, i gynnal y gwasanaeth sy'n hanfodol i'r gymuned honno. Mewn gwirionedd, dywedasant y gwrthwyneb i'r hyn yr wyf wedi’i glywed mewn rhai mannau, sef bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod gennym arweiniad cryf, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym sefydliadau cenedlaethol cryf, ond yn bennaf oll mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod modd denu adnoddau ychwanegol i wneud y sector cyfan yn gryfach. Mae'n anodd iawn i mi ddweud wrth amgueddfeydd bach cymunedol a llyfrgelloedd cymunedol, 'Ni allwn fforddio eich ariannu’, ac eto maent wedyn yn dweud wrthyf i, 'Ond rydych yn cynyddu'r adnoddau ar gyfer sefydliadau cenedlaethol'. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yn dod i'r amlwg yw diwylliant lle mae pawb gyda'i gilydd yn y gymdeithas yn cyfrannu mwy trwy fod yn fwy gweithgar yn y sector diwylliant, fel bod sefydliadau bach yn denu mwy o adnoddau a sefydliadau mawr yn gwneud yr un peth. Dyna’r weledigaeth, a byddwn yn annog unrhyw Aelod sy'n gwrthwynebu’r hyn yr ydym wedi'i amlinellu, a’n sefyllfa ni, i awgrymu gweledigaeth amgen. Oherwydd ni fydd y problemau sy’n wynebau’r sector yn diflannu drwy anwybyddu'r angen i newid yn unig.
O ran ymgysylltiad Cadw â chymunedau, y peth cyntaf a wnes mewn perthynas â Cadw pan gefais fy mhenodi i fy swydd flaenorol oedd ysgrifennu at bob grŵp cymunedol o fewn radiws penodol i safleoedd Cadw, a gofyn iddynt pa un a oedd unrhyw weithgarwch y byddent yn hoffi defnyddio’r safleoedd hynny ar eu cyfer. Darparwyd enwau'r ceidwaid ym mhob safle, ac, o ganlyniad i hynny, rwyf bellach yn ymwybodol o wyliau newydd sydd wedi digwydd ar safleoedd Cadw, a gweithgareddau cymunedol newydd. Hoffwn i weld mwy o'r gweithgarwch hwnnw ledled Cymru.
Ond mae Cadw yn gwasanaethu dwy swyddogaeth, ac rwy’n meddwl, weithiau, bod y ddwy swyddogaeth, cyn belled ag y mae’r bobl—y cwsmer, y boblogaeth—yn y cwestiwn, yn cael eu cyfuno. Y ddwy swyddogaeth, wrth gwrs, yw’r swyddogaeth statudol a'r swyddogaeth fasnachol. Ac, weithiau, gellir llyffetheirio’r swyddogaeth fasnachol, neu gellir llyffetheirio llwyddiant masnachol Cadw, yn rhinwedd bod yn y Llywodraeth. Ni all fod mor hyblyg â phosibl yn y ffordd y mae’n gweithredu weithiau.
Felly, nid ceisio gafael mewn pŵer ar fy rhan i yw hyn. Nid wyf am gymryd yr amgueddfa genedlaethol i mewn i’r Llywodraeth. Mae fy mhortffolio yn ddigon eang fel y mae. Ac, mewn gwirionedd, rwyf am ryddhau—os rhywbeth, rwy’n awyddus i roi grym i bobl, fel bod pobl yn gallu cofleidio eu hasedau yn lleol. Oherwydd rwy’n gwybod mai asedau hanesyddol yn aml yw’r hyn sy'n diffinio ein cymunedau yng Nghymru. Dyma sy’n gwneud pobl yn falch o’r lle y maent yn byw, ac rwyf am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio'n well, a bod mwy o bobl yn ymweld â nhw.
Roeddwn i eisiau cyfrannu’n fyr, er mwyn ceisio dadansoddi rhywfaint o'r hyn sydd wedi’i ddweud heddiw. Byddwch yn gwybod, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, fy mod i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl. Codwyd cwestiwn gennych am gynnwys rhai o'r llythyrau hynny. Hoffwn i ddweud, efallai, eu bod wedi eu hysgrifennu fel y maent oherwydd bod yna, yn fy marn i, ryw lefel o ddryswch ynghylch eich bwriadau. Dywedaf hyn oherwydd, yn eich datganiad blaenorol, roeddech yn sôn am uno swyddogaethau masnachol yr amgueddfa genedlaethol â Cadw, a dyna yr oedd yn ymddangos eich bod yn canolbwyntio arno, ac yna, heddiw, mae gennym ddatganiad sy'n cynnwys mwy o sefydliadau.
Felly, os nad ydych o blaid uno llawn, a allwch chi ddweud wrthyf sut y byddai uno rhannol wedyn yn gallu bodloni'r hyn yr ydych yn awyddus i’w weld yn digwydd, o ran pobl yn gweithio yn agosach gyda'i gilydd, ond yna hefyd sicrhau bod annibyniaeth y sefydliadau hynny yn cael ei barchu, yng nghyd-destun y ffaith na fydd ganddynt bŵer wedyn dros y swyddogaethau masnachol, fel yr amlinellir mewn datganiadau blaenorol a gawsom yma heddiw?
Y broblem arall oedd gennyf oedd eich bod yn cyfeirio at yr adroddiad—mae’n ddrwg gen i fod yn anodd fy mhlesio ynghylch hyn—fel adroddiad y Farwnes Randerson. Ond fy nealltwriaeth i yw mai adroddiad PricewaterhouseCoopers ydi o, ond yna mae gan Jenny Randerson banel ymgynghorol. Felly, hoffwn ddeall a yw Jenny Randerson wedi cymeradwyo popeth y mae adroddiad PricewaterhouseCoopers yn ei ddweud, ac a oes gennych ei chefnogaeth lawn yn hyn, gan mai fy nealltwriaeth i oedd mai hwn oedd adroddiad Randerson, ac rwy’n credu bod angen i ni glirio’r dryswch hwnnw.
Rwyf hefyd yn awyddus i ddeall, oherwydd eich bod yn awr wedi dweud mai mater i’r grŵp llywio fydd penderfynu, p’un a fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y dewis a ffefrir ganddynt neu a fydd ar y gwahanol ddewisiadau y maent yn eu trafod. Oherwydd, wrth gwrs, dyna’r adeg pryd y bydd y sefydliadau, pryd y bydd y bobl sydd wedi ysgrifennu at fy mhwyllgor, yn gallu ymgysylltu â'r broses. Felly, credaf fod hynny’n rhan o'u hofn—eu bod yn mynd i gael cymryd rhan ar ôl hyn, yn hytrach na chael cymryd rhan cyn rhai o'r cyhoeddiadau a wnaethoch.
Hoffwn hefyd gytuno â'r hyn a ddywedodd Suzy Davies mewn cysylltiad â'r drafodaeth yr ydym wedi ei chael o'r blaen ynghylch y comisiwn brenhinol a Cadw. Nid fy fersiwn i o hanes yw dweud y bu cefnogaeth eang, amserol ac angenrheidiol i hynny. Yn wir, pan siaradais â'ch rhagflaenydd, John Griffiths, fe wnaeth roi mater yr uno i’r neilltu ar ôl i lawer ohonom—a'r sector—ymgyrchu yn erbyn hynny. Felly ai dyma eich ffordd o ddod yn ôl ato, ond gydag awch gwahanol?
Soniasoch hefyd am Cadw a marchnata. Hoffwn i ddeall beth oedd y gyllideb. A wnaethoch chi roi hyn allan i asiantaeth? Rwy'n credu mai Equinox oedd ei henw. Faint wnaethoch chi dalu i’r asiantaeth honno i wneud y gwaith marchnata hwnnw? Oherwydd efallai fod ganddynt fanteision ychwanegol o bosibl nad oedd gan yr amgueddfa genedlaethol. Oni fyddech yn cytuno â mi bod y niferoedd yn llai yn yr amgueddfa genedlaethol yn sgil ailddatblygu Sain Ffagan, ac y gallai’r niferoedd hynny godi pan fydd y gwaith ailddatblygu wedi’i gwblhau?
Fy nghwestiwn olaf yw hwn: cafwyd cryn dipyn o ddadlau yn ddiweddar yn y pwyllgor amgylchedd ynghylch y materion sy'n ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru. Byddwn yn eich annog i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno ac i roi sicrwydd i chi eich hun y bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol a wnewch am sut y mae sefydliadau cenedlaethol yn cael eu huno o bosibl neu eu hannog i weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol yn gallu gwneud hynny mewn ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus gyda hi, fel nad oes yr un problemau sydd yn y trefniadau staffio yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd. Dyna'r peth olaf sydd ei angen arnom—mae angen i ni gael gweithlu hapus a chynhyrchiol, ar wahân i unrhyw beth arall, i wneud yn siŵr eu bod wedyn yn gallu darparu yn effeithiol i bobl Cymru. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn hollol hanfodol bod unrhyw un sy'n teimlo dryswch ynghylch y cynigion yn darllen beth yw'r dewisiadau ac yn asesu yn ofalus beth yw'r dewisiadau hynny, oherwydd ar ôl asesu’r pedwar dewis, rwy’n meddwl y bydd yn hollol glir i unrhyw un nad yw uno ar raddfa eang yn agored i gael ei drafod. Gofynnodd yr Aelod—ac mae'n ddrwg gen i nad oeddwn wedi sylwi ar y cwestiwn a ofynnwyd gan Suzy Davies am ba wersi sydd wedi eu dysgu am y cynnig sawl blwyddyn yn ôl i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol yn llawn—wel, y brif wers a ddysgwyd o hynny yw nad ydych yn uno sefydliadau yn llawn. Beth allwch chi ei wneud yw annog y sefydliadau hynny i weithio gyda'i gilydd er budd pawb. Felly, byddwn i'n gwahodd unrhyw un sy'n teimlo’n ddryslyd am y dyfodol i ddarllen am y pedwar opsiwn ac i fod yn sicr y bydd y grŵp llywio yn cynnig argymhellion, ac yr ymgynghorir arnynt fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus, pan fydd cyfle i bobl a sefydliadau wneud arsylwadau, nid yn unig o ran yr argymhellion ond hefyd y pedwar dewis. Dymunaf i’r broses hon fod yn dryloyw ac rwy'n dymuno gweld cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan ynddi. Ond pan wyf yn dweud y dylai cymaint o bobl â phosibl gymryd rhan ynddi, dylem fod yn gwneud mwy i gynnwys yr unigolion hynny, y teuluoedd hynny, y cymunedau hynny sydd, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, yn y gorffennol, ac yn dal hyd y dydd hwn, yn teimlo eu bod wedi eu heithrio o weithgareddau diwylliannol am un neu nifer o resymau—boed yn seicolegol neu'n gorfforol, nid oes gwahaniaeth, mae gormod o bobl yn dal i beidio â theimlo eu bod yn rhan o ddiwylliant Cymru. Mae angen mynd i’r afael â hynny. Mae'n rhaid mynd i’r afael â pherthnasedd ein sefydliadau— [Torri ar draws.]
Roeddwn i'n meddwl eich bod wedi gorffen, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae'n ddrwg gennyf, dim ond dau bwynt arall cyflym. Dwi yn ymddiheuro am fynd dros amser.
Cyllideb Cadw—os edrychwch ar rowndiau cyllideb y llynedd, byddwch yn gweld bod cyllideb Cadw, rwy’n credu, wedi ei lleihau gan fwy na’r amgueddfa genedlaethol, felly o ran marchnata, mewn gwirionedd mae wedi gwneud mwy gyda llai wrth wella incwm a ffigurau. Yn nhermau Sain Ffagan—o, ac rwyf hefyd yn credu bod llawer o gontractau sydd gan yr amgueddfa genedlaethol â phartneriaid allanol sy'n cyflawni swyddogaethau marchnata a swyddogaethau arlwyo. Felly, nid yw fel pe bai popeth yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan yr amgueddfa ei hun. Felly, os oes cwmnïau yn y sector preifat sydd eisoes yn gwneud rhywfaint o waith ar ran yr amgueddfa, beth fyddai'n atal y cwmnïau hynny neu gwmnïau sy'n gweithredu ar ran Cadw mewn gwirionedd rhag ei wneud gyda'i gilydd—unwaith eto, dim ond cydgysylltu, gan wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau arbedion maint? O ran Sain Ffagan, rwy’n clywed yr hyn a ddywedodd yr Aelod—rwy’n meddwl mai Dai Lloyd a awgrymodd y gallai’r gweithrediad hwn niweidio prosiect Sain Ffagan. Gan fod yr Aelod wedi awgrymu hynny, rwy’n gwbl hapus i gynnal ymchwiliad—ymchwiliad i'r gwaith sydd wedi ei gynnal hyd yn hyn yn Sain Ffagan ac asesiad o b'un a fyddai unrhyw symudiad i greu Cymru Hanesyddol yn effeithio ar gwblhau'r prosiect hwnnw. Rwy’n gwbl sicr y bydd y prosiect yn cynyddu niferoedd, fel y dywedodd Bethan Jenkins.
Ond o ran niferoedd ymwelwyr, rwy’n credu ei fod hefyd yn bwysig peidio â gosod targedau sy'n is—targedau blynyddoedd i ddod—sy’n is na'r hyn yr ydych yn ei gyflawni ar hyn o bryd, ac yn anffodus, yn y gorffennol, rydym wedi gweld yr amgueddfa yn gwneud hynny. Mae’n rhaid i hynny ddod i ben. Rwy’n meddwl bod David Rowlands yn iawn, mae'n rhaid i ni osod targedau sy’n ymestyn—nid dim ond i gael yr un bobl dro ar ôl tro yn ymweld â'n sefydliadau cenedlaethol, ond i ddenu pobl newydd i ymweld â sefydliadau cenedlaethol hefyd.
Ac yn olaf, Dafydd Elis-Thomas.
Cadwaf i ddim mohonoch chi’n hir, Lywydd. Dim ond gofyn i’r Gweinidog a ydy o’n cytuno efo fi nad ydy treftadaeth ac etifeddiaeth ddim yn perthyn i’r gorffennol, ond eu bod yn perthyn i’r dyfodol? Rŷm ni’n sôn fan hyn am sefydliadau, yn bennaf, a ddaeth i fod—. Dyna pam bod ganddyn nhw siarter frenhinol—dyna oedd yr unig ffordd i greu sefydliadau cenedlaethol yn y cyfnod yna cyn datganoli. Rŷm ni’n sôn am sefydliadau a sefydlwyd yn rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf, ac felly rwyf i’n gyfan gwbl gefnogol i weledigaeth y Gweinidog, ac rwy’n diolch iddo fo am beth y mae wedi’i wneud yn Harlech, ac y mae Owain Glyndŵr yn cytuno efo fi.
Alla i ddim â diolch digon i'r Aelod, a fyddwn i byth, byth yn cwestiynu ei ddoethineb neu ei syniadau. Mae ef, i mi, yn dipyn o Obi-Wan Kenobi i fy Skywalker ychydig yn naïf i. Ond o ddifrif, rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gwarchod ein treftadaeth a gwarchod y sefydliadau ar gyfer y dyfodol, ond sicrhau bod y sefydliadau yn gwasanaethu pobl Cymru yn gyntaf ac yn bennaf, ac nad ydym yn tynnu ein llygaid oddi ar y gorwel.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.