– Senedd Cymru am 2:36 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar ddyfarniad y Goruchaf Lys ar erthygl 50. Ac rwy’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Goruchaf Lys bellach wedi trosglwyddo dyfarniad yn yr achos hwn. Fel yr eglurais i'r Cynulliad pan oeddwn yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i ymyrryd, rwyf o'r farn bod yr achos hwn yn codi materion o bwys difrifol, nid yn unig mewn perthynas â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol, ond hefyd o ran trefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.
Bydd rhoi hysbysiad dan erthygl 50 yn arwain at addasiad o gymhwysedd y Cynulliad a swyddogaethau Llywodraeth Cymru, fel y nodir dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedasom yn ein cyflwyniadau i'r llys na ellir defnyddio’r uchelfraint i hepgor darpariaethau statud cyfansoddiadol yn y modd hwn. Ac, fel y gwnaethom hefyd ddadlau gerbron y llys, yn yr un modd ni ellir cael unrhyw bŵer uchelfraint i osgoi confensiwn Sewel. Byddai hyn yn amddifadu’r Senedd o’r cyfle i ddechrau deialog gyda'r deddfwrfeydd datganoledig am newidiadau i'r fframweithiau datganoli.
Rwyf yn naturiol, felly, yn falch iawn gyda chanlyniad y dyfarniad, gyda’r canlyniad yn y pen draw a gyda chydnabyddiaeth y llys fod confensiwn Sewel yn chwarae rôl gyfansoddiadol bwysig o ran hwyluso perthynas cytûn rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig. I'r rhai hynny nad ydynt yn ymwybodol o ganlyniad yr achos, canfu'r Goruchaf Lys yn erbyn Llywodraeth y DU drwy fwyafrif o wyth i dri. Felly, mae'r llys wedi bod yn glir iawn o ran dyfarniad mai dim ond Senedd y DU all wneud newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol, ac nid Gweinidogion y Llywodraeth. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn parchu’r dyfarniad, ac y bydd, yn y dyddiau nesaf, yn cyflwyno Bil a fydd yn cydnabod sofraniaeth y Senedd ac yn rhoi'r cyfrifoldeb am y penderfyniadau terfynol ar delerau gadael lle mae'n briodol.
Felly, rydym yn croesawu'r posibilrwydd o ddadl lawn ac agored yn y Senedd am yr eiliadau mwyaf arwyddocaol hyn yn ein hanes cyfansoddiadol. Rhaid i syniadau o gloi’r Bil i lawr a’i wneud yn un na ellir ei ddiwygio, ildio yn awr i ddull mwy synhwyrol a pharch tuag at y bobl. Mae Aelodau Seneddol eisoes wedi pleidleisio i gefnogi sbarduno erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth, felly does dim esgus dros geisio cyfyngu dadl yn artiffisial ar y materion sylfaenol bwysig hyn.
Wrth i Fil erthygl 50 symud ymlaen drwy'r Senedd, byddem yn disgwyl i Lywodraeth y DU barchu confensiwn Sewel, fel bod y Senedd yn cael y cyfle i wrando ar y Cynulliad, ac ar y deddfwrfeydd datganoledig eraill. Rydym hefyd yn disgwyl i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyrraedd sefyllfa y gall pob un o’r pedair cenedl yn y DU uno y tu ôl iddi.
Wrth i ni benderfynu ar ein perthynas yn y dyfodol gyda'r UE, rhaid i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni yn ddidwyll, ac mewn ysbryd o gydweithredu didwyll. Mae'n rhwym yn wleidyddol ac yn foesol i sicrhau ei bod yn deall pryderon yr holl genhedloedd a rhanbarthau yn y DU, a bod y rheini i gyd yn cael eu hystyried yn ofalus. Rhaid dangos parch priodol i farn y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y wlad hon yn wynebu trafodaeth o bwysigrwydd aruthrol, a'i bod yn hanfodol bod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae eu rhan wrth wneud iddo weithio. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i wneud hynny. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu swyddi yng Nghymru, a buddsoddiad yng Nghymru, a byddwn yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried, yn unol â'r broses gyfansoddiadol gywir, y mae’r Goruchaf Lys bellach wedi ei chadarnhau.
Er bod y bobl yn ymddiried mewn sofraniaeth, sef awdurdod y wladwriaeth i lywodraethu ei hun heb ymyrraeth o ffynonellau neu gyrff allanol, i Brif Weinidog a Llywodraeth, ac er bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau'r wythnos diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi’r fargen derfynol rhwng y DU a'r UE i bleidlais yn y ddau Dŷ Seneddol cyn iddo ddod i rym, rydym yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys bod angen Deddf Seneddol cyn i erthygl 50 gael ei sbarduno. Nodwn hefyd fod Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn gosod allan ei chamau nesaf i Senedd y DU yn fuan.
Ond, wrth gwrs, rydym hefyd yn nodi'r penderfyniad unfrydol gan y Goruchaf Lys nad yw’n rheidrwydd cyfreithiol ar Lywodraeth y DU i ymgynghori â Chynulliad Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon neu Senedd yr Alban cyn sbarduno erthygl 50. Ond, wrth gwrs, pleidleisiodd pobl Prydain, gan gynnwys pobl Cymru, i adael yr UE, a bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ar hynny, gan sbarduno erthygl 50, yn ôl y bwriad, erbyn diwedd mis Mawrth. Ac nid yw dyfarniad heddiw yn gwneud dim i newid hynny—yr arwyddion gan Senedd y DU yw y bydd y Senedd yn pasio hyn.
Mae'n bwysig cofio bod y Senedd, Senedd y DU, wedi cefnogi’r refferendwm o chwech i un, ac mae eisoes wedi nodi ei chefnogaeth i fwrw ymlaen â'r broses o ymadael, i’r amserlen a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU bellach yn hyrwyddo Teyrnas Unedig hyderus, sy'n edrych tuag allan, yn gynhwysol ac yn masnachu’n fyd-eang. Ond mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ofalus iawn i sicrhau bod cyfeiriad at gyfraniad y Llywodraethau a’r Seneddau datganoledig yn cael ei chynnwys yn y broses honno.
Yn awr, o gofio bod y Goruchaf Lys wedi dweud bod cysylltiadau â materion yr UE a materion tramor eraill yn cael eu neilltuo i Lywodraeth y DU a'r Senedd, nid y sefydliadau datganoledig, ac nad yw cwmpas a gweithrediad confensiwn Sewel o fewn cylchoedd gwaith gweithredol y llysoedd, ac nad oes gan y deddfwrfeydd datganoledig felly, feto ar benderfyniad y DU i dynnu'n ôl o'r UE, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad y bydd tynnu allan o’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig, ac yn cael gwared ar y cyfrifoldebau i gydymffurfio â chyfraith yr UE, eto yn y cyd-destun hwnnw? A ydych chi, felly, yn y cyd-destun hwnnw, yn cytuno yn awr, pan ddywedais wrthych chi ym mis Tachwedd—ar ôl i chi gyhoeddi eich cynlluniau i geisio cynrychiolaeth yn yr apêl i benderfyniad yr Uchel Lys fod yn rhaid i Senedd bleidleisio ar y broses o fynd â’r DU allan o'r Undeb Ewropeaidd—bod y materion a godwyd gennych y tu allan i drafodaethau erthygl 50 gyda'r UE ar dynnu'n ôl o’r UE, ac yn lle hynny yn faterion i’w trafod â Llywodraeth y DU a'r gwledydd cartref eraill ar sail ddwyochrog a phedrochr? Ar y pwynt hwnnw, beth yw eich barn am sut y gallai confensiwn Sewel fod yn berthnasol? Neu, ai eich barn gyfreithiol—neu farn gyfreithiol y rhai sy’n eich cynghori chi—yw bod y materion hyn, a oedd ar un adeg yn dod allan o Frwsel yn ôl i’r DU, yn dod yn syth i Lywodraeth y DU, lle maent yn cwmpasu materion datganoledig? Ac os felly, sut ydych chi'n cynnig, yn ddwyochrog neu’r bedrochrog, i symud ymlaen ar y trefniadau fframwaith a allai roi sylw i hynny ar draws pob un o bedair Llywodraeth a Senedd y DU?
Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â chost. Ymddengys bod y canlyniad yn dilysu'r pryderon a godwyd yma ym mis Tachwedd, yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig, ac yna eich datganiad llafar, i'r Cynulliad. Ymddengys bod y llys wedi cadarnhau’r pryderon hynny a godwyd. Gwyddom fod y gost gyhoeddus wedi cael ei chyhoeddi ar rywbeth fel £85,000, ond rydym yn deall y bu nifer o ymweliadau â Llundain, ac, yn amlwg, roedd y rhain nid yn unig yn cynnwys chi eich hun a swyddogion Llywodraeth Cymru, ond cynghorwyr cyfreithiol allanol. Felly, a wnewch chi roi ffigur i'r Cynulliad ar gyfer cyfanswm cost y methiant hwn i sicrhau cymeradwyaeth y Goruchaf Lys i’ch barn y dylai'r Cynulliad hwn gael feto?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. A gaf i ddechrau yn gyntaf drwy ddweud mewn gwirionedd beth oedd y ddau bwynt allweddol a oedd yn destun ein cyflwyniad manwl i'r Goruchaf Lys? Pam wnaethom ni ymyrryd mewn gwirionedd? Un pwynt oedd pwysigrwydd sylfaenol y newid cyfansoddiadol mawr hwn sy’n digwydd yn y Senedd, gan warantu nad yw sofraniaeth seneddol yn cael ei chymryd gan ddefnyddio uchelfraint frenhinol. Mae angen i ni ddeall beth yw’r uchelfraint frenhinol honno. Yr uchelfraint frenhinol yw’r pwerau hynny oedd yn arfer bod gan frenhinoedd a breninesau yn y bôn i wneud beth bynnag yr oeddent yn ei ddymuno, hyd nes, yn effeithiol, i Senedd a datblygiad democratiaeth seneddol roi cyfyngiadau arni ac y dechreuwyd datblygu ein system ddemocrataidd. Felly, roedd yn hanfodol bod yn rhaid i unrhyw newid a ddigwyddodd i statws deddfwriaethol, statws datganoledig, Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill fod o fewn nawdd y Senedd a democratiaeth seneddol. Dyna pam roedd yn hanfodol bod y mater hwnnw gerbron y llys.
Ac roedd y Goruchaf Lys yn ystyried hyn yn sylfaenol bwysig hefyd. Dyma’r penderfyniad cyfansoddiadol pwysicaf am dros 300 o flynyddoedd. Dyna pam roedd pob un arglwydd cyfiawnder mewn gwirionedd yn bresennol, ac mae’r canlyniad gwirioneddol, yr 8:3, yn ardystiad o gryfder y ddadl honno. Pe byddai unrhyw dîm pêl-droed wedi ennill 8-3, rwy’n meddwl y byddem yn dweud bod honno’n fuddugoliaeth fawrfrydig, ac rwy'n credu bod hon yn fuddugoliaeth fawrfrydig—buddugoliaeth i ddemocratiaeth a sofraniaeth seneddol.
Ble mae Sewel yn dod i mewn? Ein dadl ar Sewel yw nad ydym erioed wedi dadlau am feto. Ni fu erioed yn rhan o’n hachos ni, ac rydw i wedi dweud hynny yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Pwysigrwydd Sewel yw bod Sewel yn broses seneddol, ac ni allai Sewel ddechrau, ni allai fod yn effeithiol, oni bai bod y penderfyniadau allweddol hyn yn cael eu cymryd dan nawdd y Senedd a sofraniaeth seneddol. Felly, roedd yn fater o ddemocratiaeth sylfaenol os oeddem yn mynd i gael llais yn y materion sylfaenol hyn, ac roedd yn rhaid i ni lwyddo gyda'r penderfyniad hwn, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo.
O ran beth sy'n digwydd i'r pwerau hynny sydd ym Mrwsel ar hyn o bryd, wel, mae'n amlwg iawn i mi y bydd hynny’n dod yn destun darn arall o ddeddfwriaeth maes o law. Bydd hefyd yn gofyn am ymgysylltiad Sewel, a fydd bron yn sicr yn gofyn am ymgysylltiad y Cynulliad hwn a phleidlais yn y Cynulliad hwn, ac, fel y dywedwyd droeon, dylai’r meysydd hynny sy'n dod o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig clir ddod i'r Cynulliad hwn—i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cymru.
O ran y gost, a gaf i ddweud bod gennyf pob cydymdeimlad â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am y gost? Doeddwn i ddim eisiau bod yn y Goruchaf Lys. Dwi ddim yn meddwl fod llawer ohonom eisiau bod yno, gyda'r holl gostau a dalwyd, ond rhaid i mi ddweud mai’r rheswm yr oeddem ni yno—
Gwnsler Cyffredinol, nid ydych yn y llys nawr; nid oes angen i chi aros o fewn pellter rhesymol i'ch meicroffon. [Chwerthin.]
Rwy’n ymddiheuro.
Y rheswm yr oeddem yn y Goruchaf Lys oedd bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu apelio yn erbyn penderfyniad credadwy iawn gan yr Uchel Lys. Dyna pam roedden ni yno, ac mae’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl agored a gonest am y gost. Rydym wedi ateb nifer o geisiadau rhyddid gwybodaeth, gan nodi'r £80,000 i £85,000, sef cost ein hymyrraeth. Ac, fel y dywedais y bore yma, beth yw cost democratiaeth? Mae democratiaeth yn amhrisiadwy. Ond byddwn yn dweud wrth yr Aelod: byddai o gymorth mawr yn awr pe byddai Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ateb yr un ceisiadau rhyddid gwybodaeth a dweud wrthym beth oedd y costau, oherwydd rwy’n amau eu bod yn aruthrol ac yn fwy nag unrhyw beth a wariwyd gennym ni. Hefyd, eu gweithredu nhw sydd wedi achosi’r holl gostau eraill ar y gweinyddiaethau datganoledig.
A gaf i groesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol a hefyd gymeradwyo ei waith caled hyd yn hyn, yn amlwg, mewn materion yn ymwneud â'r Goruchaf Lys? Fe wnaeth y Llywydd fy sicrhau nad ydym ar hyn o bryd mewn llys, felly mae hynny’n rhoi ffordd gadarnhaol ymlaen i ni. Ond rwy’n croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys y dylai Senedd y DU chwarae ei rhan lawn a chael pleidlais ar sbarduno erthygl 50. Mae llawer wedi newid, yn amlwg, o ran llywodraethu yn yr ynysoedd hyn ers 1973, ers i’r DU ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol, mae llawer wedi newid mewn canrifoedd olynol o ran yr uchelfraint frenhinol. Felly, rydym yn adeiladu ar hynny i gyd. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, nid oes angen caniatâd gweinyddiaethau datganoledig ar ddyfarniad y Goruchaf Lys.
Rwy’n hoffi eich sylwadau ar gydnabyddiaeth y llys fod confensiwn Sewel yn chwarae rhan gyfansoddiadol bwysig—ie, a dyna mor bell ag y mae'n mynd. Mae'n gonfensiwn gwleidyddol, nid yn ofyniad cyfreithiol. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y confensiwn gwleidyddol, oherwydd nad oedd y Goruchaf Lys yn rhoi trwydded i Lywodraeth y DU i anwybyddu confensiwn Sewel. Fodd bynnag, mae'n dweud na all y llysoedd benderfynu anghydfodau; mae’r mater yn wleidyddol yn hytrach na chyfreithiol. Rwy’n nodi hynny rhag i unrhyw un fynd i ffwrdd gyda'r syniad nad yw confensiwn Sewel yn bwysig o gwbl.
Fodd bynnag, byddwn yn ffrwyno eich pleser naturiol yn y paragraff hwnnw drwy sôn am ychydig o realaeth ynghylch 'nid yw'n ofyniad cyfreithiol'. Ar hynny, dim ond i ddatblygu'r ddadl, yn amlwg, rydym i gyd yn ymwybodol fod Cymru yn genedl sy’n allforio gyda gwarged masnachol sylweddol â'r UE—mae 200,000 o swyddi ynghlwm wrth y farchnad sengl, a’r undeb tollau a'r gweddill. Dyna pam mae’n bwysig bod gan Gymru ei llais yma. Do, fe wnaethom bleidleisio o blaid Brexit, ond ni wnaethom bleidleisio o blaid colli 200,000 o swyddi.
Yn amlwg, bydd yr ASau Plaid ym mhen San Steffan yr M4 yn cyflwyno gwelliannau maes o law wrth i'r ddeddfwriaeth erthygl 50 fynd rhagddi drwy'r Tŷ. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yma yng Nghymru, os nad yw Aelodau'r Cynulliad yn cael unrhyw gyfle i ddweud eu dweud ar sbarduno erthygl 50—fel y dywedais, yn ôl y gyfraith, ni allwn, rwy’n gwybod, ac rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch am y pwynt moesol yn deillio o Lywodraeth y DU i ddeall ein pryderon a, gobeithio, i’n cynnwys ni—ond, os yw'n ymddangos fel pe nad oes cyfle i Aelodau'r Cynulliad yma gael dweud eu dweud, o ystyried pwysigrwydd sbarduno erthygl 50 a'r ddadl UE gyfan i Gymru, fel yr wyf wedi amlinellu, bydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol i roi llais i ni.
O’n safbwynt ni, mae'n fater syml o ddemocratiaeth y dylai fod gan ddeddfwrfeydd datganoledig ran yn y gwaith o gychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedais, mae trefniadau llywodraethu wedi newid yn yr ynysoedd hyn dros y 40 mlynedd diwethaf ac mae angen cydnabod hynny. Felly—heb siarad yn ormodol am y peth, ond byddwn yn cynnig y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwnnw os na fydd pethau'n digwydd—yn absenoldeb gofyniad cyfreithiol ffurfiol i Lywodraeth y DU ymgynghori â gwledydd datganoledig, pa hyder sydd gan y Cwnsler Cyffredinol y gellir clywed llais Cymru, o gofio nad oes rheswm cyfreithiol i Lywodraeth y DU wrando arnom ni o gwbl? Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac maen nhw'n bwyntiau sydd wedi cael eu hystyried ac sydd wedi cael eu codi yn y trafodaethau ar y materion hyn yn ystod y mis neu ddau diwethaf. Byddwn i'n dweud bod pob tebygolrwydd o bleidlais gan y bydd y Bil sbardun yn effeithio ar ddeddfwriaeth Cymru. Mae o fewn Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn ar gyfer cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ar y mater o feto, rwyf eisoes wedi egluro'r sefyllfa ynghylch hynny, ac, wrth gwrs, byddai wedi bod braidd yn anghyson i fod yn dadlau dros sofraniaeth y Senedd a feto hefyd—nid dyna yw natur y trefniant cyfansoddiadol oedd gennym. Wrth gwrs, byddai’r un peth yn berthnasol o ran y ddeddfwriaeth ddilynol, sydd, fel yr ydym yn edrych arni, yn tyfu’n fwy ac yn fwy cymhleth bob dydd.
Mae hefyd angen inni feddwl yn ofalus iawn am y ffaith bod cynnwys Bil sbardun o’r fath—. Rwy'n credu y byddai'n rhy gynnar i ddweud gormod am hynny, oherwydd nes iddo gael ei osod, nid ydym yn gwybod yn union beth yr ydym yn ymdrin ag ef a pha fath o ganlyniad y byddem yn ei ddymuno o ddifrif. Serch hynny, rwy’n credu bod llawer o'r materion a’r safbwyntiau eisoes wedi cael eu mynegi yn ystod y misoedd diwethaf yn y Siambr hon.
Mae'n werth pwysleisio hefyd rai o bwyntiau manylaf y dyfarniad. Wrth gwrs, rydym yn dal i fynd drwy'r dyfarniad eithaf hir hwn, ond credaf fod llawer o sylwadau pwysig ar Sewel o fewn y dyfarniad ac o fewn y crynodeb a roddwyd gan yr Arglwydd Neuberger y bore yma. Er enghraifft, dywedodd yr Arglwydd Neuberger y bore yma:
O ran cymhwyso Confensiwn Sewel i’r penderfyniad i dynnu'n ôl o'r UE o ystyried yr effaith ar y cymwyseddau datganoledig, mae'r Confensiwn yn gweithredu fel cyfyngiad gwleidyddol ar weithgaredd Senedd y DU. Felly, mae'n chwarae rhan bwysig yng ngweithrediad cyfansoddiad y DU.
Aeth ymhellach yn y dyfarniad ei hun, i ddweud:
Wrth ddod i'r casgliad hwn nid ydym yn diystyru pwysigrwydd confensiynau cyfansoddiadol, rai ohonynt yn chwarae rhan sylfaenol yng ngweithrediad ein cyfansoddiad. Mae gan Gonfensiwn Sewel ran bwysig wrth hwyluso perthnasoedd cytûn rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig.
Dyna’n union y pwyntiau yr oeddem yn eu gwneud yn y cyflwyniadau ar ran Llywodraeth Cymru i'r Goruchaf Lys. Rwy'n credu eu bod yn ddatganiadau pwysig iawn o fwriad, a rhai y byddem yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn eu gweithredu, nid yn unig o ran y geiriad ond o ran yr ysbryd, oherwydd mai uniondeb cyfansoddiadol cytûn y DU sydd yn y fantol ac yn dibynnu ar hynny.
Rwy’n croesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol, yn enwedig y paragraff lle mae'n sôn am barchu pobl yn y cyd-destun hwn ac am 'ddadl lawn ac agored' yn digwydd yn y Senedd ar y materion hyn, fel pe nad ydym eisoes wedi trafod yr holl faterion hyn hyd at syrffed. Serch hynny, a wnaiff ef gadarnhau, felly, fod parch tuag at y bobl yn y cyd-destun hwn yn golygu y dylem barchu canlyniad y refferendwm, sef gadael yr Undeb Ewropeaidd? Os felly, gan mai sbardun yn unig yw erthygl 50 ar gyfer cyflawni'r canlyniad y mae’r bobl wedi dweud eu bod ei eisiau, dylem wneud popeth yn ein gallu i hwyluso’r penderfyniad y mae’r bobl wedi ei wneud. Os felly, rwy’n ei chael hi’n anodd gweld beth oedd pwynt y frwydr gyfreithiol anferth hon yn y lle cyntaf.
Mae hyd y dramatis personae o gyfreithwyr nodedig ar ddechrau'r dyfarniad yn dangos bod bron hanner y bar wedi cymryd rhan yn yr achos hwn, un ffordd neu'r llall. Beth oedd pwynt hyn i gyd os yw’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sbarduno gan erthygl 50 eisoes wedi'i wneud ac mae dadl yn y Senedd yn sêl bendith yn unig ar gyfer hynny? Pan atebodd Mark Isherwood funud yn ôl, roedd yn ymddangos fel pe bai’n nodweddu arfer yr uchelfraint frenhinol fel gweithred o ormes, fel pe byddai Siarl y Cyntaf yn dal ar yr orsedd. Onid yw'n derbyn bod gwahaniaeth ansoddol rhwng ymdrechion y Brenin yn yr ail ganrif ar bymtheg i osod trethi ar y bobl heb gydsyniad seneddol —ei fod yn ansoddol yn eithaf gwahanol i benderfyniad yn dilyn refferendwm ymhlith pobl Prydain, y mae Llywodraeth y dydd yn ceisio ei hwyluso? Y defnydd o'r uchelfraint yn yr achos hwn yw peidio â rhwystro democratiaeth ond mewn gwirionedd ei wella—dod ag ef i rym.
Rwyf hefyd yn credu bod y datganiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ar effaith y dyfarniad hwn efallai ychydig yn rhyddfrydol, oherwydd os ydych yn darllen y dyfarniad—rydym i gyd wedi cael amser byr iawn i wneud hynny—ym mharagraff 86, mae Arglwydd Neuberger yn dweud:
Ni ellir arfer yr uchelfraint Frenhinol i wneud a dadwneud cytuniadau, sy'n gweithredu yn gyfan gwbl ar y lefel ryngwladol, mewn cysylltiad â'r Cytuniadau UE, o leiaf yn absenoldeb cosb ddomestig ar ffurf statudol briodol.
Felly, mae’r dyfarniad hwn yn gymwys i'r cytuniadau UE. Nid yw o reidrwydd yn gymwys i unrhyw gytuniadau eraill neu unrhyw weithred arall o'r uchelfraint sy'n effeithio ar ein cysylltiadau â gwledydd eraill yn y byd. Oherwydd bod system gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd yn un unigryw, yn yr ystyr ei bod yn creu deddfwriaeth sy'n gymwys yn uniongyrchol i'r wlad hon ac i bob unigolyn, ac yn rhoi hawliau i bobl y tu hwnt i'r cyd-destun seneddol y mae’r barnwyr yn yr achos hwn wedi gwneud y penderfyniad y maent wedi ei wneud. Ac mae'n bosibl felly na fydd, fel y dywed y Cwnsler Cyffredinol, y pŵer uchelfreiniol mewn achosion cyfansoddiadol yn cael ei gyfyngu o ganlyniad i'r penderfyniad hwn.
O ran y penderfyniad penodol yn yr achos hwn, a fydd hefyd yn derbyn y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y dywedodd y barnwyr ym mharagraff 130, mewn gwirionedd, gryfhau pwerau’r Cynulliad hwn? Felly, ymhell o fod yn fygythiad i bwerau'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, yn wir mae'n gyfle y dylem ei groesawu â breichiau agored. Mae Arglwydd Neuberger yn dweud:
Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno. Yn absenoldeb cyfyngiadau newydd o'r fath, bydd tynnu'n ôl o’r UE yn gwella’r cymhwysedd datganoledig.
Oni ddylem ni i gyd groesawu hynny gyda breichiau agored? Ac rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol am y Llywodraeth yn San Steffan yn peidio â chipio pwerau oddi wrth y Cynulliad hwn. Ac yn hynny o beth bydd ganddo, yn fy marn i, gefnogaeth unfrydol holl Aelodau'r Cynulliad hwn. Yn sicr ni all fod yn wir, o ganlyniad i ddatganoli pwerau o Frwsel i'r Deyrnas Unedig, y byddem yn gweld datganoli pwerau o San Steffan i Gaerdydd yn cael ei leihau. Felly, bydd yn cael cefnogaeth lawn fy mhlaid i—bydd ei Lywodraeth yn cael cefnogaeth lawn fy mhlaid i— mewn unrhyw beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud hynny'n gwbl eglur.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a'r pwyntiau y mae'n eu codi, sy'n debyg iawn i'r pwyntiau y mae wedi eu codi yn gyson dros y misoedd diwethaf. Gadewch i mi ddweud, yn gyntaf oll, mae wedi bod yn glir iawn ym mhob peth yr wyf wedi ei ddweud, a'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, ein bod yn parchu canlyniad y refferendwm; y cwestiwn yw sut mae Brexit yn digwydd—ei fod yn digwydd yn yr amgylchedd cyfansoddiadol a chyfreithlon priodol. Dyna beth mae’r achos wedi bod yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd. Dim ond i gyfeirio at y pwynt o ran cytuniadau’r UE yn unig, nid yw hynny'n gywir. Y pwynt sylfaenol oedd na all yr uchelfraint honno, neu unrhyw uchelfraint, gael ei defnyddio i newid cyfreithiau a basiwyd gan y Senedd neu i dynnu hawliau oddi ar ddinasyddion unigol. A byddai hynny'n gymwys mewn amgylchiadau eraill hefyd.
Fe geisiaf ymdrin â'r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud ynghylch beth oedd pwynt hyn i gyd. Roedd yn bwynt sylfaenol bwysig. Rwy’n siomedig iawn ei fod yn dal heb ei ddeall. Y pwynt yw rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth. Dyna'r pwynt. Oherwydd bod dwy ffrwd o ddull cyfreithiol: un yw ein bod yn gweithredu trwy reolaeth y gyfraith. Hynny yw, deddf sy'n seiliedig ar egwyddorion a hawliau sylfaenol. Mae'r llall yn ddull cyfreithiol lle mai unig ddiben y gyfraith yw gweithredu galw mawr gan y Llywodraeth, heb ystyried rheolaeth y gyfraith, egwyddorion a hawliau. Ac rydym yn gweld sut y mae’r ddau ddull hynny wedi datblygu mewn hanes. Mae pob unbennaeth sydd wedi digwydd wedi ceisio tanseilio rheolaeth y gyfraith. Y dull y mae’n ei fabwysiadu yw'r dull a fabwysiadwyd gan yr Almaen yn disodli rheolaeth y gyfraith yn yr Almaen, yn Chile, ac yn Rwsia Stalin, a dyna mae rheolaeth y gyfraith mor hanfodol bwysig: cyfreithiau sy'n seiliedig ar egwyddorion. Y dull y mae ef yn ei fabwysiadu yw'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan unbeniaid, y rhai sydd eisiau osgoi hawliau sylfaenol. Ac nid yw’r dull hwnnw yn un y byddwn byth yn argymell ein bod yn ei fabwysiadu o fewn y Cynulliad hwn neu o fewn y DU. Dyna pam y mae’r hawliau hynny mor bwysig, a dyna pam y mae'r penderfyniad heddiw yn y Goruchaf Lys yn sylfaenol, oherwydd ei fod yn sefydlu yn glir iawn, iawn hawliau pobl y wlad hon. Roedd yn tanlinellu ein democratiaeth seneddol a’n system o hawliau sylfaenol, ac mae hynny'n rhywbeth i'w amddiffyn.
Roedd Llywodraeth y DU, wrth gwrs, o fewn ei hawliau cyfreithiol i gyflwyno’r apêl hon i'r Goruchaf Lys. Ond credaf ei fod yn adlewyrchu yn wael iawn arnynt eu bod am gymryd pob cam oedd ar gael iddynt i roi’r penderfyniad hwn y tu allan i ystyriaeth Senedd a etholwyd yn uniongyrchol. Rwy'n ddiolchgar am y datganiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud, ac rwy'n falch ei fod wedi ymyrryd yn yr achos. Rwy’n meddwl bod y canlyniad wedi adlewyrchu'n dda ar y penderfyniad hwnnw. A fyddai'n cytuno â mi nad oes dim byd a ddywedodd y llys am gonfensiwn Sewel, mewn ffordd, allan o'r cyffredin? Yn wir, mae'n ddefnyddiol gweld y llys uchaf yn y wlad yn tanlinellu arwyddocâd gwleidyddol y confensiwn hwn. Mae ychydig o Aelodau wedi dyfynnu araith yr Arglwydd Neuberger pan ddywed:
Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno.
A yw'n cytuno â mi mai goblygiad hynny yw y byddai angen i Lywodraeth y DU gymryd camau deddfwriaethol cadarnhaol, nid yn unig os oedd yn dymuno cyfyngu ar bwerau Cynulliad Cymru ar Brexit, ond hefyd os oedd yn dymuno atal estyniad awtomatig y pwerau hynny o ganlyniad i ddod allan o'r UE? A hefyd, er gwaethaf y sylwadau ar gonfensiwn Sewel, ni fydd y Siambr hon yn cael cyfle i bleidleisio ar y penderfyniad erthygl 50. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod unrhyw gytundeb maes o law yn dod i'r Siambr hon i'w ystyried a'i gymeradwyo ar yr adeg honno. Pa gamau fydd yn agored i'r Cwnsler Cyffredinol os bydd Llywodraeth y DU, ar yr adeg honno, er gwaethaf y confensiwn, yn dewis peidio â cheisio cydsyniad y Cynulliad?
Mae'n ymddangos i mi mai’r pwynt pwysig yw bod hwn yn gam mawr ymlaen. Mae'n agor y drws yn glir ac yn gyfansoddiadol mewn ffordd yr ydym ni bob amser wedi ei dadlau dros fuddiannau Cymru o fewn y trafodaethau Brexit, o fewn y cytuniadau lle mae gennym ni, fel gweinyddiaethau datganoledig eraill, fuddiannau penodol o ran swyddi ac o ran buddsoddiadau i sicrhau bod y math o drafodaethau, y math o gytuniad, yn un sydd mewn gwirionedd yn diogelu buddiannau pobl Cymru. Byddwn yn dilyn hyn â dadl lle byddwn yn ymdrin â hynny yn eithaf manwl.
Rwy'n credu bod y dyfarniad hwn yn amserol iawn, oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud yw, yn gyntaf, mae'n rhaid i’r Senedd yn awr ymgysylltu ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw ond, yn ail, mae hynny'n golygu yn awtomatig bod Sewel yn cael y statws yr ydym bob amser wedi dadlau y dylai ei gael ac, yn wir, y bydd yn ei gael. Felly, mae'n rhoi'r llais hwnnw i ni yn y broses, ac mae hynny'n gwbl sylfaenol os ydym i gyflawni ein swyddogaeth, sef amddiffyn buddiannau pobl Cymru. Mae'n siŵr y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwneud yr un peth, ac nid oes amheuaeth y bydd rhanbarthau Lloegr hefyd yn gwneud yr un peth. Beth fydd ffurf hynny—beth fydd ffurf y Bil sbardun—rhaid aros i weld, a byddwn i'n ofalus ynghylch aros i weld beth ydyw cyn i ni ddechrau meddwl am y broses ei hun. Oherwydd rwy’n credu ein bod ar ffordd hir gyfansoddiadol, nid yn unig o ran y Bil sbardun, ond hefyd y trafodaethau, yr ymgysylltu a’r sefydliadau sy'n cael eu sefydlu. Byddai rhywun yn gobeithio mai amcan sylfaenol Llywodraeth y DU yw ceisio cymeradwyaeth a chydsyniad yr holl sefydliadau datganoledig, oherwydd rhaid mai ein budd sylfaenol yw Teyrnas Unedig gydlynol gyda phwrpas cyffredin. A dyna pam mae ein cyfansoddiad anysgrifenedig nid yn unig yn bwysig, ond hefyd pam mae’r penderfyniad hwn o fewn y broses honno mor bwysig.
Rhaid i mi ddweud, Gwnsler Cyffredinol, nad wyf wedi fy synnu gan y ddau ddyfarniad hyn. Roeddwn yn disgwyl y dyfarniad a bennwyd gan yr Uchel Lys a'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a’r aelod ar y lefel uchaf o'r farnwriaeth o Gymru. Cadarnhawyd y dyfarniad hwnnw, ac roedd yr amrywiol ddadleuon y gallem ni—neu efallai y gallai’r Albanwyr, beth bynnag,— fod wedi cael feto, bob amser yn ymddangos i mi i fod yn gamddealltwriaeth o natur system ffederal sy'n dod i'r amlwg lle, yn anochel, mae'r pŵer i wneud cytuniad yn gorwedd yng nghanol Senedd y wladwriaeth.
Credaf y dylem ystyried y ffaith nad oes gennym gynrychiolydd o Gymru ar y Goruchaf Lys. Rwy'n credu y bydd hynny’n parhau i fod yn broblem os ydym yn gorfod datrys amryw o faterion cyfansoddiadol. Gwn ein bod yn dal i fyw mewn sefyllfa braidd yn baradocsaidd o gael cyfraith Cymru sy'n ymestyn i Gymru a Lloegr ond dim ond yn cael ei defnyddio yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu nad oes gennym ein hawdurdodaeth ein hunain. Ond credaf pan fyddwch yn ystyried y mater heddiw, mae'n gwneud hwn yn bwynt gwirioneddol ymarferol ac nid rhywbeth sy'n haniaethol.
A gaf i ddweud, rwy’n credu y dylai'r pwyslais i Lywodraeth Cymru fod wedi bod yn gyfan gwbl ar y dull rhynglywodraethol o’r cychwyn cyntaf? Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae hyn bob amser wedi bod ar yr agenda. Ond yn hytrach na'r llwybr seneddol mwy deddfol, yn fy nhyb i roedd yn debygol o fod yn well hybu’r Cydbwyllgor Gweinidogion, ac rwy'n falch o weld hynny’n cael ei wneud yn y Papur Gwyn a fydd yn cael ei drafod nesaf. Roedd gan yr hen Gydbwyllgor Gweinidogion Ewrop brofiad gwych o gael safbwynt cyffredin rhwng Llywodraethau'r DU wrth ddadlau pethau fel y polisi amaethyddol cyffredin a materion amgylcheddol, wrth iddynt ddod gerbron Cyngor Gweinidogion Ewrop.
Mae'n ymddangos i mi bod angen y dull cyffredin hwnnw nawr oherwydd pan fydd haneswyr yn ysgrifennu hanes y broses gyfan hon, ac yn sicr beth sydd wedi digwydd yn ystod y saith mis neu lai ers y refferendwm ei hun, y peth mwyaf arwyddocaol fydd bod y dadleuon a gyflwynwyd i bobl Prydain wedyn yn seiliedig ar y byd yn dod yn fwy ac yn fwy agored i fasnach rydd fyd-eang. Beth sydd wedi digwydd ers hynny yw bod y prif amddiffynnydd masnach rydd fyd-eang wedi newid ei bolisi yn ddramatig ac mae bellach yn mynd ar drywydd yr hyn a elwir gan lawer yn ddull mwy amddiffynnol, sydd hyd yn oed yn mynd i arwain—dyna’r hyn yr ydym yn ei glywed, beth bynnag, o ffynonellau penodol— at ail-negodi Sefydliad Masnach y Byd. Bydd hyn yn gofyn am negodi medrus iawn o gytundebau masnach y dyfodol gan Lywodraeth Prydain, lle bydd gennym fudd uniongyrchol iawn, oherwydd efallai na fydd yr hyn sy'n dda, er enghraifft, ar gyfer ffermio da byw er budd gorau ffermwyr grawnfwyd yn Lloegr.
Mae'r rhain yn mynd i fod yn faterion anodd iawn iawn, yn enwedig os yw ffermio yn rhan amlycach o lawer o'n gwneuthuriad diwydiannol nag ydyw yn Lloegr. Felly, rwy’n credu mai’r strwythurau rhynglywodraethol yw’r hyn yr ydym yn canolbwyntio arnynt, a hefyd yr hyn y byddwn yn canolbwyntio arnynt, yn sicr, os ydym yn mynd i sicrhau hyder yr Albanwyr mai dull Prydeinig o ymdrin â’r cwestiynau hyn yw'r ffordd orau ymlaen—oherwydd ymdriniwyd bellach â’r pwynt cul ar hawl Seneddol neu hawl Senedd yr Alban—ond yn sicr mae angen dull gweithredu cyffredin lle ceir y lefel uchaf o gytundeb rhwng gwahanol Lywodraethau’r DU. Os na lwyddwn i gael hynny, yna bydd niwed pellach i undeb y Deyrnas Unedig, fel y digwyddodd, yn anffodus, pan bleidleisiodd yr Albanwyr gyda mwyafrif bron o ddwy ran o dair yn erbyn y ffordd y pleidleisiodd gweddill y DU.
Rwy'n credu y bydd llawer o'r materion hyn yn awr yn cael eu profi yn y Bil diwygio mawr. Sylwaf fod UKIP yn annog y safbwynt mwyaf posibl gan Lywodraeth Cymru, gan ddadlau y dylai’r holl bwerau gael eu dychwelyd i Gaerdydd a Chaeredin. Mae'n debyg mai dyma'r ffordd orau o ddechrau, er fy mod yn credu fwy na thebyg y bydd angen rhai o fframweithiau’r DU ac, unwaith eto, roeddwn yn meddwl bod y Papur Gwyn yn eithaf medrus yn hyn o beth.
Felly, bydd yn rhaid i Sewel, rwy’n credu, weithredu'n effeithiol iawn yn y cyd-destun gwleidyddol ac rwy'n gobeithio y bydd ewyllys da a barn dda ar y ddwy ochr—Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Wel, rwy’n meddwl, fel bob amser, bod yr Aelod yn codi pwyntiau pwysig iawn, iawn. Mae'n amlwg wedi ystyried y materion hyn yn fanwl, ac rwy'n credu bod y sylwadau a wna yn hynod werthfawr ac yn rhai, yn fy marn i, y mae llawer o gytundeb arnynt. Oherwydd yr holl bwynt am Sewel yw, mae’n iawn cyrraedd y cam hwn, ond wedyn mae’n rhaid ei roi ar waith yn ymarferol, nid yn unig o ran deddfwriaeth, ond, fel y dywed, o ran y Cydbwyllgor Gweinidogion a pha bynnag brosesau strwythurol eraill sy’n bodoli i sicrhau bod ymgysylltiad gwirioneddol. Dyna pam rwyf yn meddwl bod y sylwadau gan y Goruchaf Lys am bwysigrwydd Sewel a'i swyddogaeth o fewn ein strwythur cyfansoddiadol mor bwysig. A dyna pam mae mor bwysig, felly, bod y nod o sicrhau consensws a chytundeb rhwng y gweinyddiaethau datganoledig ac â Llywodraeth y DU yn rhan mor hanfodol o hynny. Yr hyn sy’n ofynnol ganddo, fel yn achos amgylchedd lle nad oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig fel y cyfryw, yw llawer o ewyllys da, llawer o ymddiriedaeth a llawer o amcanion gwleidyddol cyffredin. Dyna’r hyn sydd angen inni geisio ei gyflawni, yn amlwg, ac rwy'n siŵr mai dyna'n union—wel, rwy’n gwybod mai dyna’n union—yw safbwynt Llywodraeth Cymru a dyna mae’n ceisio ei gyflawni.
Rwy’n croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys o ran hynny. Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y ddwy Senedd, yn fy marn i, dyna’r penderfyniad cywir. Deddf seneddol aeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd—y Gymuned Ewropeaidd —a gadarnhawyd gan refferendwm. Mae'r broses yn gweithio fel arall bellach; rydym wedi cael refferendwm yn cynghori’r Senedd beth i'w wneud ac mae’n rhaid i’r Senedd basio Deddf er mwyn mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r ffordd orau a’r ffordd fwyaf cyfansoddiadol ymlaen.
Ond mae yna broblem nad oes neb am ei thrafod, a chredaf y dylid ei chrybwyll, sef y syniad chwerthinllyd a hurt, yn yr unfed ganrif ar hugain, ein bod yn dibynnu ar herio uchelfraint frenhinol, ein bod ni'n rhan o frenhiniaeth, ein bod ni'n rhan o rywun na chafodd ei ethol, ond sy’n etifeddu pwerau—sy’n cael eu harfer gan Lywodraeth, mae’n rhaid dweud, ond, serch hynny, mewn theori, yn etifeddu’r pwerau hynny i’w harfer drosom ni. Mae hynny'n annhegwch cyfansoddiadol y mae'n rhaid ei ysgubo o'r neilltu yn hwyr neu'n hwyrach. Gan fod Siarl y Cyntaf wedi’i grybwyll, gadewch i ni gofio beth wnaeth Oliver Cromwell: y peth cyntaf a wnaeth oedd gorymdeithio i'r Senedd, mynd â’r brysgyll i ffwrdd—tegan y ffŵl fel y’i galwodd—ac nid oedd unrhyw uchelfraint frenhinol ar ôl i’r brysgyll fynd, gallaf ddweud wrthych. Felly, gadewch i ni o leiaf gydnabod ein bod wedi symud ymlaen rywfaint ers hynny, ond nid llawer iawn, nid llawer iawn. Os ydym yn herio ein huchelfraint frenhinol yn y Goruchaf Lys, nid ydym wedi dod yn bell iawn mewn 400 mlynedd, ydyn ni?
Ond mae'n ein gadael ni gyda rhai cwestiynau gwirioneddol. Mae'n ein gadael ni gyda rhai cwestiynau gwirioneddol ynghylch confensiwn Sewel. Mae'r Goruchaf Lys wedi cadarnhau bod hwn yn gonfensiwn gwleidyddol, nid trefniant cyfansoddiadol. Yn awr, mae hynny'n beryglus iawn ar gyfer dyfodol democratiaeth Cymru, yn fy nhyb i. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweld y gallwn fwrw ymlaen â hyn pan oeddem yn credu, trwy ymgorffori confensiwn Sewel ym Mil Cymru, sydd eisoes yn Neddf yr Alban, bod hyn yn ei wneud yn rhan o gyfansoddiad y DU? Nid yw'r Goruchaf Lys yn cytuno; mae'n drefniant gwleidyddol. Ac mae’r Goruchaf Lys yn galw neu'n gweddïo am gymorth, fel rhan o'i ddadl dros hyn, achos o'r 1960au, Madzimbamuto v. LARDNER-Burke, achos o dde Rhodesia. Wel, dyna ein rhoi yn ein lle. Rheol drefedigaethol sy'n dweud wrthym fod confensiwn Sewel yn caniatáu i'r pwerau orffwys yn San Steffan i ddweud wrth y Senedd hon yr hyn yr ydym yn ei benderfynu ar gyfer pobl Cymru. Unwaith eto, hyd nes y gallwn sicrhau bod confensiwn Sewel yn llwyddo i fod yn berthynas gyfansoddiadol briodol rhwng pedair Senedd yr ynysoedd hyn, yna ni fydd gennym gyfansoddiad sefydlog a byddwn yn dadlau’r pwyntiau hyn yn barhaus.
Rwy’n gresynu na allai'r Goruchaf Lys wneud y penderfyniad hwnnw drosto’i hun heddiw. Ond rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau allweddol y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddatblygu ymhellach o ran telerau’r trefniadau cyfansoddiadol a’u cyd-destun—y mae'r Prif Weinidog wedi siarad amdanynt yn gyson, i fod yn deg ag ef. Ond bellach mae angen i hynny gael ei ymgorffori a’i ddatblygu, efallai, yn y pwyllgor gweinidogol ar y cyd, fel ffordd ymlaen.
Mae ‘confensiwn' ei hun yn derm peryglus a llithrig. Dim ond yn ddiweddar iawn yr ydym wedi cael confensiwn fod gennym bleidlais yn y Senedd cyn rhyfel, un yr aberthodd Robin Cook ei fywyd gwleidyddol drosto. Cyn hynny, gellid arfer yr uchelfraint frenhinol i fynd i ryfel. Confensiwn yw hynny. Mae angen i ni symud i ffwrdd oddi wrth gonfensiynau ac i mewn i'r berthynas gyfansoddiadol briodol rhwng pob Senedd ar yr ynysoedd hyn. Hyd nes y gwnawn hynny, byddwn, mewn gwirionedd, yn arfer pwerau trefedigaethol. Nawr, nid wyf yn awgrymu ein bod yn gwneud datganiad unochrog o annibyniaeth, ond rwy’n credu bod angen inni symud ymlaen ymhellach ar y perthnasoedd hyn.
Yr ail bwynt yr—. Wel, hoffwn iddo ateb rhywbeth am gonfensiwn Sewel a sut y gallwn ymgorffori hynny. Yr ail bwynt yr hoffwn iddo ei ateb yw cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae'n bron yn anochel y bydd y Ddeddf y bydd San Steffan yn ei thrafod yn effeithio ar ein pwerau ni. Felly gadewch i ni gael y cadarnhad heddiw bod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn briodol, fel y gallwn wybod ein bod yn mynd i drafod a phenderfynu ar hynny.
Mae’r trydydd pwynt a'r olaf yn un yr ydym wedi ei godi sawl gwaith o'r blaen, sef y syniad a'r egwyddor y dylid trafod rhyw fath o Fil parhad yma yn Senedd Cymru o gwmpas y pwerau a gadwyd yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae nifer o Aelodau wedi nodi mai’r sefyllfa yno yw, wrth i bwerau gael eu dychwelyd gan yr Undeb Ewropeaidd, efallai y byddwn yn cael mwy o bwerau—mae hynny'n wir. Ond os ydynt yn dod i ben yn San Steffan, yna ni fyddwn yn cael y rheini, ac rydym eisoes wedi clywed llawer o bobl, gan gynnwys yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig mewn cysylltiad â pholisi amaethyddol ac o ran polisi amgylcheddol, yn siarad am gadw’r pwerau yn Llundain ac nid, yn wir, eu galluogi i lifo yma i fae Caerdydd. Felly, oni fyddai'n ymateb cadarnhaol i'r Bil diwygio mawr sy'n cael ei gynhyrchu bod gennym Fil parhad yma yn y Cynulliad, fel y gallwn drafod a sicrhau bod y pwerau yn cael eu cadw?
Diolch am y sylwadau hynny, a byddaf yn ceisio ymdrin â nhw cystal ag y gallaf. O ran y pwynt olaf, mater y Bil parhad ac yn y blaen, mae gennym ddyfarniad yn awr. Mae'n rhaid i ni ddadansoddi’r dyfarniad yn ofalus iawn. Bydd yn rhaid i ni ddadansoddi yn ofalus iawn yr hyn sy'n digwydd o ran y Bil sbardun, pa brosesau sy’n cael eu rhoi ar waith wedyn, beth fydd yn digwydd wedyn o ran Bil diddymu mawr o bosibl, ac mae'n sicr yn gywir ei bod yn anodd inni ragweld beth fydd yn digwydd i’r strwythur cyfansoddiadol. Ni fu’r galwadau gan y Cynulliad hwn am gonfensiwn cyfansoddiadol erioed yn bwysicach. Mae pob math o faterion anghyson a materion camweithredol o ran strwythur cyfansoddiadol y DU yn gyffredinol, felly mae’n rhaid ymdrin â’r rheini. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonynt yn dod i'r amlwg yn ystod y misoedd sydd i ddod.
O ran y mater o gynnig cydsyniad deddfwriaethol, gadawaf hynny i’r Prif Weinidog i ymateb iddo maes o law. Ond, o ran y pwyntiau a godwch yng nghyswllt uchelfreintiau a Sewel ac yn y blaen, efallai mai'r ffordd orau i grynhoi hynny yw fy mod yn credu ein bod yn rhannu llawer o safbwyntiau cyffredin o ran pwysigrwydd y penderfyniad penodol hwn. O bosibl, gan ddefnyddio’r gymhariaeth a wnaeth yn gynharach, mae'n debyg mai’r hyn y byddwn yn ei ddweud yw: Y Pengryniaid 8,Y Brenhinwyr 3. [Chwerthin.]
Hoffwn i longyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei ymdrechion mawr ar ein rhan ni ac ar ran Cymru yn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu bod ei bresenoldeb wedi ei gyfiawnhau’n llwyr ac yn bwysig iawn wrth ddod i'r penderfyniad a wnaed. Rwy’n croesawu ei ddatganiad. Rwy'n credu ei fod yn hanfodol bwysig bod penderfyniad tyngedfennol o'r fath yn cael ei benderfynu arno yn y Senedd. Dywedodd yn ei ddatganiad bod yn rhaid i ni fynd ymlaen nawr a chael dadl lawn, agored, ac ni ddylai fod unrhyw sôn am gynigion na ellir eu gwella. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno ei bod yn bwysig iaawn bod modd gwella’r cynnig hwn, oherwydd gall hynny alluogi trafodaeth lawn. A yw'n hyderus erbyn hyn ein bod yn symud ymlaen at ddadl lawn ac agored?
Gofynnwyd ac atebwyd y rhan fwyaf o'r cwestiynau oedd gennyf am gonfensiwn Sewel eisoes. Ond rwy’n cytuno'n gryf iawn am bwysigrwydd y cyd-drafod rhwng y pedair gwlad, a pha mor bwysig yw hynny a pha mor hanfodol yw hi ein bod yn cyrraedd consensws. Ond a fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod posibilrwydd o leiaf na fydd modd dod i gytundeb â phob un o’r pedair gwlad, a beth yn ei farn ef fyddai canlyniad y sefyllfa honno?
A gaf i ddweud bod y dyfarniad, yn amlwg, yn gosod y sylfeini sy'n ein galluogi i symud ymlaen? Fel y dywedais, mae bellach yn agor y drws ac yn sefydlu fframwaith clir, a gobeithio y bydd consensws a chytundeb o ran holl fuddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dylai cyflawni consensws a chymeradwyaeth fod yn rhan sylfaenol o hynny. O ran y goblygiadau o ran diffyg consensws, wel, rwy'n optimydd gwirioneddol, gan fy mod yn credu bod y rhan fwyaf o bobl—ac ar draws y pleidiau—yn dymuno ein gweld yn mynd drwy hyn, ac yn llwyddo o ran buddiannau cyffredin. Mae'n gyfrifoldeb ar bawb i chwarae eu rhan, felly credaf ei fod yn gyraeddadwy. Ond yr hyn y credaf sydd wedi bod yn bwysig am ein swyddogaeth hyd yn hyn yw bod gennym lais Cymreig penodol iawn yn y prosesau hyn. Heb hynny, heb y Cynulliad hwn, heb Lywodraeth Cymru, ni fyddem wedi cael y llais hwnnw. Ni fyddem wedi gallu gwneud y sylwadau hynny, ac ni fyddem wedi gallu herio yn y modd yr ydym yn ei wneud. Nid yw hynny'n golygu bod y pethau sydd o’n blaenau yn hawdd, na fydd anawsterau sylweddol, nad oes rhaid i ni fod yn effro, oherwydd, fel y dywedais, ni allwn ragweld beth fydd yn digwydd i’r strwythur cyfansoddiadol, mae’r broses yn newid, ac fe fydd heriau y mae’n rhaid i ni eu hwynebu. Ond rwy’n mynd i fod yn optimydd, oherwydd credaf mai dyna yw ein swyddogaeth, ac rwy’n credu mai ein swyddogaeth ni yw cyflawni'r gorau y gallwn i bobl Cymru. Rwy'n meddwl bod y Papur Gwyn a gaiff ei drafod cyn bo hir yn mynd i fod yn gyfraniad pwysig at y ddadl honno ac at y broses honno.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i hefyd ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad heddiw, sydd wedi mwy nag egluro i ni pwysigrwydd cyfansoddiadol gwleidyddol y cyfan mae o wedi gallu ei wneud? Mi fuaswn i’n cyfeirio yn gryno at dair elfen: yn gyntaf, bod y gwledydd datganoledig a’r Llywodraethau wedi siarad â thri llais, ond yn canu bron yn unsain, neu o leiaf mewn cynghanedd gyflawn, sef bod y dadleuon oedd yn cael eu cyflwyno yn ddadleuon oedd yn dangos yn glir natur cyfansoddiad y deyrnas. Mae hynny wedi bod yn gyfraniad allweddol.
Rydw i’n meddwl hefyd fod y drws sydd wedi cael ei agor yn glir iawn yn y dyfarniad yma gan y Goruchaf Lys ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd pan ddeuir mas o’r Undeb Ewropeaidd ac fel y bydd y cymwyseddau yn y sefydliadau datganoledig yn gallu cael eu newid—bod y ffenest yna wedi ei dangos inni yn glir iawn. Yn y cyd-destun yma, os caf i helpu efallai ychydig ar ddealltwriaeth Simon Thomas o’r materion hyn, yn y sefyllfa yna y mae confensiwn Sewel mor allweddol. Oherwydd ar yr un pryd ag yr ydym ni’n trafod y materion yma, mae confensiwn Sewel bellach yn Neddf yr Alban ac yn Neddf Cymru. Mae’r broses ar y ddwy Ddeddf yna wedi ei gwblhau, sy’n golygu felly fod yr arfer confensiynol o beidio â deddfu yn groes yn Senedd San Steffan neu yn Senedd Cymru ynglŷn â’i gilydd wedi dod yn ddeddf. Beth sy’n bwysig, byddwn i’n ei awgrymu, Gwnsler Cyffredinol, yw bod yr egwyddor yna’n ymestyn i ddeddfwriaeth Ewropeaidd fel y mae hi’n cael ei dadwneud yn ei heffaith ar y Deyrnas Unedig ac felly bod y cymwyseddau priodol yn dod i’r lle hwn.
Felly, rydw i’n credu bod eich dadansoddiad chi o ble’r ydym ni yn cyfiawnhau’r gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru, a mwy o rym ichi yn y dyfodol.
Diolch am y sylwadau hynny. Rhoddaf sylw i’r pwynt a wnaeth yr Aelod am gonfensiwn Sewel yn cael ei ymgorffori ym Mil Cymru—yr hyn a ddaw yn Ddeddf Cymru, gobeithio— ymdriniwyd â’r mater hwnnw, er bod hynny’n ymwneud â'r Alban, ond dyma’r hyn a ddywedodd y Goruchaf Lys:
mae’n cydnabod y confensiwn am yr hyn ydyw, sef confensiwn gwleidyddol, ac mae’n datgan yn effeithiol ei fod yn nodwedd barhaol o'r setliad datganoli perthnasol. Mae hynny'n dilyn o natur y cynnwys, ac yn cael ei gydnabod gan y geiriau ("cydnabyddir" a " fel arfer ni fydd").
Felly, mae'n dod yn nodwedd barhaol. Mae'n nodwedd na all ddiflannu ac ni ellir ei thanseilio. Mae'n dod yn rhan sylfaenol o'n trefniadau cyfansoddiadol. Yn wir, gyda chyfansoddiad anysgrifenedig, gall yr hyn a all ddechrau fel confensiwn gwleidyddol ddatblygu i fod, dros gyfnod o amser, yn rhan sylfaenol o'r cyfansoddiad gweithredol. Dyna natur cyfansoddiadau anysgrifenedig.
Mae'n briodol bod y drws ar agor. Mae'n iawn, hefyd, fod yna faterion yn codi o ran dychwelyd pwerau a ddylai fod o fewn y meysydd datganoledig. Mae'r rheini yn faterion y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau arnynt, y mae eraill wedi gwneud sylwadau arnynt o bryd i'w gilydd, ac yr ydym yn effro iawn iddynt. Y pwynt sylfaenol y mae’n ei wneud hefyd, wrth gwrs, yw hyn: rydym mewn gwirionedd wedi gweld hegemoni ymysg y gweinyddiaethau datganoledig nad wyf yn meddwl oedd yn bodoli. Nid yw hynny'n golygu nad oes gennym faterion yr ydym yn anghytuno arnynt, neu nad oes gennym faterion yr ydym yn anghytuno arnynt o ran yr agenda tymor hwy, ond o ran egwyddorion sylfaenol rheolaeth y gyfraith, roedd cytgord llwyr ar y pwyntiau penodol hynny, ac mae hynny'n galonogol iawn, iawn.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol.