– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Mai 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ofal diwedd oes. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ar 27 Mawrth eleni, cyhoeddais y 'Cynllun Cyflenwi Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes' wedi’i ddiweddaru. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bobl ymagwedd iach, realistig at farw, a’u bod yn gallu cynllunio'n briodol ar gyfer y digwyddiad. Hoffem i bobl allu treulio eu dyddiau olaf yn y lleoliad o'u dewis, boed hynny gartref, mewn ysbyty neu mewn hosbis, a hoffem sicrhau bod gofal o safon uchel ar gael iddynt lle bynnag y maent yn byw ac yn marw, beth bynnag yw’r clefyd neu’r anabledd sydd arnynt.
Mae'r cynllun hwn yn ymdrin â phob agwedd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes, wedi’i ddarparu gan y sectorau sylfaenol ac eilaidd, ac mae’n cynnwys gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol wedi’u darparu gan y GIG a darparwyr y trydydd sector. Mae’r gofal hwn hefyd yn cydnabod anghenion pobl sy'n mynd drwy brofedigaeth. Mae'n adeiladu ar lwyddiant y cynllun cyntaf. Mae wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau strategol a deddfwriaethol diweddaraf ac mae wedi cryfhau adrannau plant a phobl ifanc ac ymchwil.
Rydym yn gwybod bod gofal ar ddiwedd oes wedi gwella'n fawr ers cyhoeddi'r cynllun cyntaf ar ddarparu gofal diwedd oes yn 2013. Mae ymgynghorwyr meddygaeth liniarol ar gael nawr ar alwad 24/7 ledled Cymru i roi cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol eraill, ac i ymweld â chleifion pan fo angen, sy’n gwella’r gwasanaeth a ddarperir gan arbenigwyr nyrsio clinigol ar benwythnosau. Ac mae cefnogaeth nawr ar gael i dimau nyrsio clinigol arbenigol i weithio saith diwrnod yr wythnos mewn lleoliadau acíwt a chymunedol. Mae hyn wedi darparu cefnogaeth werthfawr i staff rheng flaen ar benwythnosau, gan alluogi cleifion sy'n cyrraedd yr ysbyty ag anghenion gofal diwedd oes i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty pan fo hynny’n briodol a chaniatáu i gleifion sydd ag anghenion cymhleth aros gartref.
Mae arian hefyd wedi ei ddarparu i wella mynediad at ddarpariaeth hosbis yn y cartref, ac rydym wedi cyflwyno cofrestri lliniarol gofal sylfaenol fel bod gan bob meddygfa deulu gofrestr o'r holl gleifion ag anghenion gofal cefnogol neu liniarol. Mewn cydweithrediad â hosbis plant Tŷ Hafan, rydym wedi sefydlu gwasanaeth cynghori y tu allan i oriau 24 awr dros y ffôn ar gyfer gofal lliniarol pediatrig, sydd nawr ar gael ledled Cymru.
Mae marw, wrth gwrs, yn ddigwyddiad anochel. Er fy mod yn llwyr sylweddoli nad yw'n bwnc y mae llawer o bobl yn gyfforddus i siarad amdano, mae'n hanfodol bod pobl yn gadael i’w hanwyliaid wybod sut y maen nhw’n dymuno treulio eu dyddiau olaf pan ddaw'r amser. Mae cynllunio ar gyfer diwedd bywyd drwy gael sgyrsiau agored yn gallu arwain at farwolaeth well ac yn sicr yn gallu helpu'r broses alaru i’r rhai a adawyd ar ôl.
Yr wythnos diwethaf, es i i gynhadledd Byw Nawr ac roeddwn yn falch o lansio, yn swyddogol, y wefan newydd ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw. Heddiw, mae pobl yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o'u gwybodaeth ar-lein a bydd yn amhrisiadwy i fod â’r adnodd hwnnw ar flaenau eu bysedd ar y rhyngrwyd. Rydym hefyd wedi darparu £150,000 i hyfforddi staff mewn sgiliau cyfathrebu uwch a gofal diwedd oes. Mae hyn wedi galluogi cydweithwyr i ddechrau a rheoli sgyrsiau am salwch difrifol â chleifion, teuluoedd a gofalwyr. Mae'r bwrdd gweithredu gofal diwedd oes, fodd bynnag, yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn goruchwylio cyflawni'r cynllun. Fel sy'n wir am bob un o'n cyflyrau iechyd difrifol, mae'r bwrdd yn derbyn £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi eu blaenoriaethau a nodwyd.
Yn rhan o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru, dyrannodd Llywodraeth Cymru £1 filiwn ychwanegol ar gyfer eleni, i wella darpariaeth gofal diwedd oes ymhellach. Mae'r bwrdd wedi nodi dros dro y defnyddir y cyllid hwn i geisio sefydlu dull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes, ar gyfer telefeddygaeth, i gyflwyno mwy o’r hyfforddiant am sgyrsiau am salwch difrifol i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cofnod Cymru gyfan ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw, ac i fwrw ymlaen â blaenoriaethau ymchwil a chefnogi clystyrau meddygon teulu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu tua £6.4 miliwn o gyllid i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol a ddarperir gan hosbisau a byrddau iechyd ledled Cymru. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn adlewyrchiad o ba mor bwysig yw gofal diwedd oes i Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol bod unigolion yn cael y gofal gorau posibl yn y lleoliad o'u dewis yn eu dyddiau olaf.
Mae adborth uniongyrchol gan gleifion a'u teuluoedd am wasanaethau gofal lliniarol arbenigol yng Nghymru wedi dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, bod y gwasanaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl yn eu dyddiau olaf. Yn ystod 2015-16, roedd 93 y cant o'r ymatebion i'r arfarniad cleifion iWantGreatCare o'u profiad o ofal lliniarol arbenigol yn gadarnhaol. Roedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru yn 9.5 allan o 10 ar draws pob maes. Ni fyddai hyn yn bosibl, wrth gwrs, heb ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithlu. Felly, hoffwn oedi nawr i gydnabod gwaith ein clinigwyr, ein nyrsys a’n haelodau staff eraill sy'n darparu gofal i bobl ar ddiwedd eu hoes. Go brin bod llawer o swyddi sy’n fwy heriol yn emosiynol, ond eto mor angenrheidiol. Rwy’n siŵr y gwnaiff Aelodau ar draws y Siambr ymuno â mi i gydnabod ein staff a diolch iddynt am eu gwaith.
Ond, mae marw yn fater cymdeithasol. Mae pa mor dda yr ydym yn gofalu am bobl sy'n marw yn adlewyrchu ar ba mor ofalgar yr ydym fel cymdeithas. Mae datblygiadau mewn meddygaeth a thriniaeth fodern wedi arwain at boblogaeth sy'n tyfu, ac sy’n byw'n hwy â chlefydau na ellir eu gwella. Mae'n hanfodol darparu gofal diwedd oes a gofal lliniarol da ledled Cymru. Datblygwyd y cynllun cyflawni gofal lliniarol a gofal diwedd oes diweddaraf drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y bwrdd gweithredu, y gwasanaeth iechyd gwladol, cyrff proffesiynol a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni canlyniadau cyflymach sy’n cael mwy o effaith. Dylai pawb ohonom gydnabod bod yr heriau sydd o'n blaenau yn niferus ac yn sylweddol, ond gallwn edrych ymlaen at y dyfodol gydag ymdeimlad ein bod yn rhannu cyfeiriad a hyder.
Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Materion sy’n Ymwneud â Marw 2017, ac mae’n rhoi pwysigrwydd siarad am farw, marwolaeth a phrofedigaeth yn gadarn ar agendâu Cymru a’r DU—rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol a'r grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth. Yr amcangyfrif yw bod 32,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn, felly mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar rhwng 160,000 a thraean o filiwn o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a llawer o’r rheini’n agored i broblemau ychwanegol difrifol—hunanladdiad, unigrwydd, ynysu cymdeithasol, pryder, iselder a phroblemau cymdeithasol yn amrywio o stigma i golli swydd.
Ond mae'r rhan fwyaf o ofal diwedd oes yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan hosbisau ar draws amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys unedau cleifion mewnol a gwasanaethau hosbis yn y cartref. Gallai'r GIG ddysgu gwersi gan hosbisau ac yn enwedig ynglŷn ag integreiddio gwasanaethau gofal yn y cartref, yr ysbyty cymunedol a’r hosbis. Rwyf wedi bod yn gofyn i Weinidogion iechyd olynol ac i’n Hysgrifennydd iechyd yma ers blynyddoedd lawer i sicrhau bod GIG Cymru yn dechrau gofyn i'n mudiad hosbisau cymunedol gwych sut y gall ei helpu i gyflawni mwy â’r adnoddau sydd ar gael—mewn iaith fodern, cynllunio, darparu a chyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda nhw—ac mae gormod yn dal i deimlo nad yw hynny'n digwydd. Tybed a allech chi ymateb i'r pwynt hwnnw?
Mae Hosbisau Cymru, fel y byddwch yn gwybod, yn cael cyllid wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru drwy awdurdodau iechyd dros gyfnod o dair blynedd. Ond mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben yn 2018. A allwch chi roi sicrwydd iddynt a fydd y cyllid hwnnw’n parhau i gael ei neilltuo ar ôl i’r cyllid presennol ddod i ben, oherwydd mae angen iddyn nhw wybod er mwyn gallu blaengynllunio? Os na, a allwch chi roi syniad o ba bryd y gallech chi roi’r sicrwydd hwnnw, neu o leiaf wybodaeth?
Mae hosbisau yng Nghymru yn cael 16 y cant i 20 y cant, sy’n llawer llai o gyllid y Llywodraeth—cyllid Llywodraeth Cymru a GIG Cymru hynny yw—na rhai cyfatebol yn Lloegr a'r Alban. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at loteri cod post o ran gwasanaethau hosbis; mae’r gofal sydd ar gael yn amrywio rhwng gwahanol rannau o Gymru. Pryd y gwnaiff Llywodraeth Cymru gydnabod o’r diwedd, yng nghyd-destun fy nghwestiwn blaenorol, y byddai trafod, cynllunio a chyflawni gyda nhw ar sail gyllido fwy cytbwys, yn creu sefyllfa well i bawb, ac mai dyna sut i gyflawni mewn amgylchedd cyllidebol llym?
Mae'r bwrdd gweithredu diwedd oes, fel yr ydych yn ei nodi, wedi cael dyraniad o £1 filiwn ychwanegol yn 2017-18, ac un o'r meysydd a nodwyd dros dro ar gyfer hynny yw datblygu dull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes. Ddau fis a hanner yn ôl, es i i’r ddarlith Marie Curie am ddull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl sy’n agos at ddiwedd eu hoes i aros yn eu cymunedau drwy ddefnyddio egwyddorion hybu iechyd a datblygu cymunedol a darparu cymorth i bobl sy'n marw a phobl sydd wedi cael profedigaeth. Sut, felly, ydych chi’n ymateb, nid dim ond ynglŷn â chyfran dros dro o £1 filiwn am flwyddyn, ond i'r alwad gan Marie Curie i Gymru ddod yn genedl dosturiol, gan ddilyn model Cymunedau Tosturiol sydd wedi cael ei ddatblygu’n llwyddiannus mewn nifer o drefi a chymunedau ledled y byd, gan gynnwys, rwyf ar ddeall, Frome yng Ngwlad yr Haf? Nid yw'n fater o fwy o arian; mae'n fater o ddefnyddio'r arian sydd eisoes yn bodoli yn ddoeth er mwyn gwella canlyniadau a bywydau.
Sut ydych chi’n ymateb i'r galwadau gan Age Cymru ynglŷn â gofal diwedd oes am i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfeiriad ar gydweithio effeithiol rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i sicrhau mynediad cyfartal i bobl hŷn at ofal hosbis, ac am i Lywodraeth Cymru wneud gwaith monitro cadarn ar weithredu, cyflawni a chanlyniadau ei chynllun cyflawni gofal diwedd oes lliniarol er mwyn penderfynu a yw'n cyflawni gwelliannau gwirioneddol i ofal lliniarol a gofal diwedd oes ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru? Sut y byddech chi’n ymateb i alwadau Macmillan am inni nodi pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes ac a fyddai'n elwa ar gymorth gwasanaethau gofal lliniarol, fel y gellid cychwyn trafodaethau cynnar am eu gofal, i gofnodi dewis pobl ynglŷn â lle i farw yn gynnar ac i gydgysylltu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—
A ydych chi’n dod i’r diwedd, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—i sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal a marw’n dda yn y man o'u dewis?
A ydych chi’n dod i’r diwedd, os gwelwch yn dda?
Hwn yw fy nghwestiwn olaf, felly diolch ichi am ganiatáu hyn. Mae Hosbisau Cymru yn cefnogi'r ddogfen 'Uchelgeisiau ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes: Fframwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu lleol 2015-2020', a luniwyd gan y bartneriaeth gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn Lloegr ar draws yr holl sectorau, ac mae ganddi uchelgeisiau i bob unigolyn gael ei weld fel unigolyn, cael mynediad teg at ofal, cydgysylltu gofal a llawer mwy. Sut ydych chi’n ymateb i'w galwad am i’r model hwn ddod yn fwy integredig yng nghynllun darparu gofal diwedd oes Cymru fel y gallwn ni i gyd ddysgu gan ein gilydd ac elwa gyda'n gilydd?
Diolch am y gyfres o gwestiynau; rwy'n ymwybodol bod yr Aelod wedi eu codi ar sawl achlysur yn y gorffennol. Mae ganddo ddiddordeb cyson yn y maes hwn, fel yr wyf yn siŵr bod pawb yn sylweddoli. Wrth gwrs, roedd wythnos materion sy’n ymwneud â marw yr wythnos diwethaf, ac es i i gynhadledd Byw Nawr i siarad â nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud, gan gydnabod y gwaith y maen nhw wedi’i wneud i hyrwyddo hyn fel sgwrs fwy cenedlaethol a naturiol i’w chael. Mae mwy o waith i'w wneud gyda nhw, ond mae mwy o waith, a dweud y gwir, i'w wneud ymhlith pawb ohonom yn y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
Yn sicr, nid wyf yn tanbrisio cyfraniad y mudiad hosbisau a'r amrywiaeth o hosbisau ledled y wlad, sef prif bwyslais y sylwadau a'r cwestiynau a wnaethpwyd. Ac, a dweud y gwir, bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod am hosbis leol y mae eu hetholwyr yn mynd iddi, os nad oes ganddynt hosbisau yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, ac rwyf wedi ymweld yn rheolaidd â nifer o hosbisau yn y swyddogaeth hon, ond mae gen i hefyd ddwy o fewn fy etholaeth fy hun. Felly, rwy’n deall yn iawn y rhan y maent yn ei chwarae wrth ymgysylltu â chlinigwyr, wrth ymgysylltu â'r cyhoedd wrth gynllunio a darparu gofal o gwmpas rhywun er mwyn diwallu ei anghenion yn well. Un o'r camau gwirioneddol bwysig ymlaen yn ystod oes y cynllun diwethaf, sydd yn mynd i gael ei barhau yn yr un nesaf, yw hyrwyddo'r mudiad Hosbis yn y Cartref fel nad oes angen i bobl fynd i mewn i hosbis, o reidrwydd, ond darparu’r gofal hosbis hwnnw yn y cartref, ac mae camau mawr ymlaen wedi eu gwneud. Yn wir, yn y ffordd y mae'r gofal yn cael ei gomisiynu, mae'n rhan reolaidd o'r hyn y mae byrddau iechyd yn ei wneud, a bydd hynny’n aros gyda ni, ond mae hosbisau’n rhan bwysig o ddylunio a chyflawni’r cynllun hwn, ac nid wyf o reidrwydd yn rhannu ymagwedd ac asesiad eithaf pesimistaidd yr Aelod ynglŷn â chyfraniad y mudiad hosbisau, i gynllunio’r strategaeth hon, a bod yn rhan o'r ffordd y caiff ei chyflawni, ond hefyd i ddeall natur lwyddiannus ei heffaith ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
O ran y materion ariannol a godwyd, wel, fel yr wyf wedi’i nodi, mae'r £1 filiwn yn mynd i bob un o'r cynlluniau cyflyrau difrifol, ac mae hwn yn un ohonynt. Mae £1 miliwn yn cael ei ddyrannu’n gylchol, a nodais yn fy nghyfraniad y swm sylweddol, y £6.4 miliwn, sy'n cael ei wario’n gylchol yn y maes hwn. Rwy’n ymwybodol o'r materion yn Frome y mae’n sôn, amdanynt, am y dull Cymunedau Tosturiol, ac mae llawer o ddysgu wedi’i wneud, gan swyddogion y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, a'r trydydd sector, o weld yr hyn sydd wedi digwydd yn y gymuned benodol honno, ac mae'n rhywbeth inni adeiladu arno yma yng Nghymru. Ac rwy’n edrych ymlaen at gael y sgwrs barhaus y byddaf yn ei chael gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a’i holl aelodau a chefnogwyr, ynglŷn â sut yr ydym yn datblygu nid dim ond cymunedau tosturiol ond, yn y pen draw, inni fod yn genedl fwy trugarog.
Rwy’n mynd i ddiweddu gyda'ch pwynt ynghylch canlyniadau a chyflawni, oherwydd rhan o gryfder y dull cynllun cyflawni y byddwn yn ei ddefnyddio yw ein bod yn cymryd mater pwysig iawn, ac yn dod â phobl o’r Llywodraeth, o'r gwasanaeth iechyd, ac o'r trydydd sector at ei gilydd, ynghyd â chlinigwyr unigol sy'n arweinwyr yn eu maes. Ac mae tensiwn adeiladol a defnyddiol yno sy'n cael ei greu, o ran deall blaenoriaethau a chytuno arnynt, ac wedyn o ran bwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hynny. Ac mae'r mecanwaith adrodd sy'n digwydd yn un agored a didwyll, ac ar adegau bydd pob un o'r cynlluniau cyflawni a'u byrddau cyflawni cysylltiedig yn cydnabod nad ydym wedi gwneud yr holl gynnydd y byddem fel arall wedi dymuno ei wneud. Rwy’n disgwyl yr un broses yn union yn y fan yma: adroddiadau gonest yn dod i mewn am yr hyn yr ydym wedi ei wneud ac nad ydym wedi ei wneud, ac yna sut yr ydym yn ailosod ein blaenoriaethau i edrych ymlaen at y dyfodol.
A gaf i ddiolch am y datganiad a diolch, hefyd, wrth gwrs, am yr holl waith mae staff a gwirfoddolwyr yn y gwasanaeth iechyd a’r trydydd sector yn ei wneud yn darparu gofal diwedd bywyd a gofal lliniarol ar draws Cymru? Nid ydw i’n meddwl bod yna lawer yn newydd, mewn difri, yn y datganiad heddiw, fel y cyfryw—er ei bod hi wastad yn ddefnyddiol cael diweddariad—felly, o bosib, a gaf i gyfeirio at beth ddylai ddigwydd yn llygaid un o’r grwpiau sy’n ymwneud â’r maes yma, sef Age Cymru? Mi restraf i ychydig o’r gofynion sydd ganddyn nhw.
Maen nhw am i ofal lliniarol a gofal diwedd bywyd fod yn rhan cwbl ganolog o gynllunio gofal ar gyfer y rheini sydd â chyflyrau cronig a hirdymor. Maen nhw eisiau gwell cydlynu rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i roi cyfle cyfartal i bawb yn ein poblogaeth oedrannus ni i gael mynediad at ofal hosbis. Maen nhw eisiau i ofal diwedd bywyd sy’n cael ei gomisiynu gan fyrddau iechyd lleol gynnwys gofal cynhwysfawr ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal. Maen nhw eisiau i bob sefydliad a gweithiwr proffesiynol gael yr hyfforddiant angenrheidiol a sicrhau dilyniant yn yr hyfforddiant yna drwy eu bywydau proffesiynol nhw. Maen nhw eisiau i orchmynion ‘Do not attempt resuscitation’ neu orchmynion i roi’r gorau i fwydo neu i roi diod beidio â chael eu cymryd heb ymgynghoriad llawn efo’r teulu neu ofalwyr eraill. Yn olaf, maen nhw eisiau sicrwydd o fonitro gofalus iawn o weithredu a chanlyniadau’r cynllun diwedd bywyd i sicrhau ei fod o yn delifro gwell gofal. Felly, er ein bod ni mewn sefyllfa lle mae yna gamau wedi’u cael eu rhoi mewn lle gan y Llywodraeth, mae yna, yn amlwg, fwy o ofynion gan y rheini sy’n ymwneud â’r maes yma.
Felly, tri chwestiwn yn deillio o hynny. Un: a ydych chi’n anghytuno efo unrhyw un o’r argymhellion yna? Os nad ydych chi, pa bryd y gallwn ni gael sicrwydd y bydd y rheini wedi cael eu gweithredu? Yn ail, mae’r adroddiad blynyddol yn sôn am welliannau mewn gofal lliniarol i blant—mae hynny, wrth reswm, i’w groesawu—ond mae yna lawer gormod o blant sy’n methu â chael treulio cyfnod olaf eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain. A ydych chi'n cytuno bod yna waith i’w wneud yma? A ydych chi’n cydnabod bod angen cryfhau gwasanaethau hefyd i gefnogi’r brodyr a’r chwiorydd sydd wedi mynd drwy eu colled nhw? Yn olaf, mae gwasanaethau grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu hadnabod yn benodol gan Marie Curie fel rhai sydd angen eu gwella. Beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud am hyn yn benodol?
Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. O ran y blaenoriaethau y mae Age Cymru yn eu nodi, mae llawer o'r rheini eisoes wedi’u cynnwys yn y gwaith yr wyf wedi amlinellu bod y bwrdd yn bwrw ymlaen ag ef. Rhan o gryfder y gwaith yr ydym yn ei wneud yw bod gennym y trawstoriad gwirioneddol hwnnw o bobl sydd â diddordeb uniongyrchol yn y maes yn gosod rhestr gytunedig o flaenoriaethau. Yr anhawster fel arall yw y gallai gwahanol geisiadau o bosibl gael eu gwneud yn ystod y flwyddyn ac nad oes ymagwedd wirioneddol drefnus at welliant, ond rwy’n meddwl bod y rhestr yr ydych wedi’i nodi—fel y dywedais, maent wedi’u cynnwys yn y cyfraniad yr wyf eisoes wedi’i wneud wrth agor y ddadl hon, ond hefyd yn y blaenoriaethau y mae'r bwrdd wedi’u gosod ar ei gyfer ei hun yn y flwyddyn sydd i ddod.
O ran yr ail fater penodol a godwyd gennych, ynghylch gofal lliniarol pediatrig, roedd pryder ynghylch pa un a gafodd hyn ei ystyried yn briodol wrth symud ymlaen. Cwrddais â grŵp o glinigwyr gofal lliniarol pediatrig, ac roedd yn sgwrs adeiladol iawn. Rwy'n meddwl eu bod wedi symud ymlaen, a’u bod mewn lle llawer gwell erbyn hyn o ran deall a derbyn bod eu problemau’n cael eu hystyried yn briodol, ac roedd cam pendant ymlaen yn y fersiwn hon o'r cynlluniau. Felly, mae cynnydd wedi’i wneud.
Ond yn y maes hwn a phob un arall—bron bob maes yr wyf yn mynychu’r Siambr hon i siarad amdano—mae mwy i'w wneud bob amser, a mwy y gallem ei wneud bob amser. Mae angen bod yn onest am hynny hefyd. Mae hynny'n cynnwys cymorth mewn profedigaeth, rhywbeth arall a nodwyd yn fy nghyfraniad agoriadol fel maes i’w wella ar gyfer y teulu sy'n cael ei adael ar ôl. Mae hynny'n rhan o'n her. Dyna hefyd pam yr ydym yn cael sgwrs genedlaethol am hyn, a pham y dylem gymryd y cyfle i ddefnyddio amser yn y Siambr hon i barhau i wneud hynny. Os nad ydym yn normaleiddio’r sgwrs yn y lle hwn am bwysigrwydd hynny, rydym yn annhebygol o gael sgwrs genedlaethol sy'n cael ei chynnal mewn rhan ehangach o’n cymdeithas, fel ei bod yn sgwrs arferol sy'n digwydd am yr hyn yr ydym ei eisiau.
Dyna hefyd pam mae’r wefan cynlluniau gofal ymlaen llaw wedi ei lansio, ac mae sicrhau bod pobl yn cael y sgwrs honno ar adeg pan y gallant wneud dewisiadau—dewis llawer mwy gweithredol—am yr hyn y byddai ei eisiau arnynt yn beth pwysig iawn i'w wneud, oherwydd mae llawer o bobl yn gwybod eu bod yn dod at ofal diwedd oes. Mae'r holl bobl hynny sydd ar gofrestrau gofal diwedd oes ac yn cael gofal lliniarol mewn gofal sylfaenol—dylid gwneud ymdrechion i wella a chynyddu nifer y bobl sydd wedi mynd ymlaen mewn gwirionedd a bod cynllun gofal ymlaen llaw wedi ei lunio gyda chyfraniad gweithredol ganddyn nhw. Gwnaethom gynnydd gwirioneddol y llynedd, gan wella nifer y bobl sydd â’r math hwnnw o gynllun, ond rydym yn deall mai dim ond ychydig dros draean o’r bobl sydd ar gofrestr gofal sylfaenol sydd â chynllun gofal ymlaen llaw wedi ei sefydlu ar hyn o bryd. Felly, cynnydd sylweddol y llynedd, ie, ond llawer mwy i'w wneud fel bod pobl mewn sefyllfa lle y gallant gael y gofal sydd ei eisiau arnynt ar ddiwedd eu hoes.
Yn olaf, ar eich pwynt am gymunedau o darddiad du ac Asiaidd yng Nghymru, ceir her wirioneddol yn y fan yma am y math o ofal yr hoffent ei gael. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â natur wahanol y cymorth gan deuluoedd sy'n bodoli yn rhai o'r cymunedau hynny, a'r ffordd y maen nhw’n teimlo am ofalu am berthynas. Mae rhywfaint ohono hefyd yn waith yr oedd Marie Curie eu hunain wedi ei wneud. Es i i lansiad y gwaith, ar y cam ymgynghori i ddechrau, ac yna ar adeg yr adroddiad terfynol. Maen nhw’n cydnabod, a dweud y gwir, bod angen i'r mudiad hosbisau, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd, wneud mwy i hyrwyddo'r cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer gofal diwedd oes ac i bobl wneud dewisiadau gwahanol. Mae yna rywbeth am y gwasanaeth iechyd a'r hosbis sy'n darparu llawer o’r gofal hwnnw i fod yn fwy rhagweithiol a mynd allan i nifer o’r cymunedau hynny nad ydynt yn cymryd rhan ac nad ydynt yn manteisio ar ofal lliniarol fel y mae cymunedau eraill yn ei wneud, i ddweud, 'Mae hyn yn ddewis'. Rwy'n falch o weld eu bod yn cydnabod bod ganddynt broblem a’u bod yn awyddus i wneud rhywbeth am hynny, ac yn sicr mae gennyf ddiddordeb mewn gweld hynny’n digwydd a, dros gyfnod y cynllun hwn, efallai mewn gweld mwy o bobl mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru yn manteisio ar ofal lliniarol ac yn gwneud dewisiadau gweithredol am eu dyddiau olaf.
Rwy’n datgan budd yn y pwnc hwn gan fy mod yn is-lywydd Gofal Hosbis George Thomas, sydd wedi’i leoli ar dir ysbyty’r Eglwys Newydd yng Ngogledd Caerdydd. Mae’n darparu gofal lliniarol arbenigol ar gyfer Caerdydd i alluogi pobl i fyw yn eu cartrefi a chadw eu hannibyniaeth am gyn hired ag y bo modd. Rwy'n credu ei fod yn enghraifft o waith partneriaeth da rhwng y sector gwirfoddol a'r sector statudol, rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol. Ac, hefyd, rwy’n credu yr hoffem i gyd dalu teyrnged i fuddsoddiad hir-sefydlog y sector gwirfoddol yn y mudiad hosbisau y tyfodd hwn ohono.
Rwy'n credu bod y cynllun hwn yn gynllun pwysig iawn, y cynllun cyflawni gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac yn gynllun hollbwysig, a hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ilora, y Farwnes Finlay, sydd wedi bod mor allweddol i’r cynllun hwn ac sy'n ymddiswyddo fel arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes ym mis Gorffennaf. Rwyf wedi gweithio am nifer o flynyddoedd gydag Ilora, ac rwy'n meddwl ei bod wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r maes gwaith hwn.
Un o'r materion yr wyf yn bryderus iawn amdanynt yw rhywbeth y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato yn ei gyflwyniad, rwy’n credu, sef y mater gwirioneddol hollbwysig bod pobl, pan fyddant yn sâl iawn, yn cael eu symud i mewn i ysbyty i gael triniaeth pan fyddai, yn y bôn, yn well iddynt aros gartref pe gellid rhoi’r gwasanaethau cymorth yno iddynt i aros yn eu cartrefi. Ac mae hyn yn digwydd i lawer o bobl ddifrifol wael sydd wedi bod yn cael y cymorth hwn, ond, pan aiff y sefyllfa’n llawer gwaeth, maent wedyn yn mynd i mewn i ysbyty. Felly, mae'n fater o sut yr ydym yn llwyddo i gadw pobl yn y sefyllfa honno yn eu cartrefi. Ac rwyf wedi cael sawl enghraifft o hynny yn fy etholaeth i, lle, mewn gwirionedd, ar benwythnos, bu’n rhaid i rywun a oedd yn agos iawn at ddiwedd ei oes fynd i adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty oherwydd bod y meddyg ar alwad yn poeni cymaint am ei gyflwr, ac roeddwn i’n meddwl, gydag ychydig mwy o gydweithredu a chydweithio, y gallai fod wedi aros gartref gydag ychydig mwy o gymorth. Felly, rwy’n meddwl bod hwnnw’n un o'r meysydd allweddol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am hynny.
Rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethpwyd bod angen adolygiad o gapasiti gwasanaethau profedigaeth presennol, oherwydd rwy’n credu bod y rhain yn rhan hanfodol o gynllunio ar gyfer gofal diwedd oes. Ac, yn Gofal Hosbis George Thomas, mae'r ymgynghorydd wedi disgrifio i mi sut y maen nhw’n darparu cwnsela cyn-profedigaeth i blant sydd â rhiant, neu nain neu daid, efallai, neu efallai frawd neu chwaer, sy'n marw, ac mae hi'n dweud bod hyn yn bendant yn gymorth aruthrol os ydych yn ei wneud cyn i'r perthynas farw a bod hynny'n tueddu i olygu bod angen llai o sesiynau dilynol ar ôl hynny. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw farn am hynny ac a oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn digwydd i unrhyw raddau ledled Cymru.
Ac yna, wrth gwrs, mae holl fater gwasanaethau plant ar gyfer y grŵp bach, ond pwysig iawn, o blant sydd ag angen gofal lliniarol, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o waith y corff Together for Short Lives, sydd wedi cyflwyno nifer o gynigion.
Ac yna y pwynt olaf yr oeddwn eisiau ei wneud oedd o ran cynllunio ymlaen llaw. Mae'n rhaid inni ystyried nawr nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia a fydd angen gofal diwedd oes, ac rydym yn cael dadl ar hynny yn nes ymlaen yn y prynhawn, am ddementia. Ond, yn Gofal Hosbis George Thomas, mae 75 y cant o'u cleifion â chanser, a, hyd at nawr, y grŵp nesaf yr oeddent yn gweithio gyda nhw oedd pobl â chlefyd y galon. Ond nawr yr ail grŵp mwyaf yw pobl sydd â dementia, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y mae wir raid inni ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer gofal lliniarol, os oes gan bobl ddementia. Ac rwy’n nodi—rwy’n credu mai Macmillan sydd wedi dweud bod angen inni wneud llawer o rag-gynllunio gyda phobl hŷn, ac rwy'n meddwl, yn syml, bod yn rhaid inni ystyried y ffaith bod nifer fawr o bobl â dementia.
Ac yna, hoffwn ddweud fy mod i’n cytuno â'r holl faterion o gwmpas, wyddoch chi, ceisio dysgu o bosibl gan y mudiad Cymunedau Tosturiol. Mae angen y sgwrs fawr arnom, ac mae angen inni symud ymlaen i wneud marwolaeth yn llawer mwy o ran o fywyd.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy gytuno â chi ar eich pwynt am bobl â dementia ac i atgyfnerthu gwerth cynllunio gofal ymlaen llaw fel y gall pobl wneud dewisiadau pan eu bod mewn sefyllfa i wneud hynny, ac i benderfynu’n weithredol beth fyddai ei eisiau arnynt, yn hytrach na gadael i bobl eraill ddyfalu beth y gallai fod wedi bod ei eisiau arnynt ar adeg wahanol yn eu bywyd. Ac, a dweud y gwir, mae cefnogi pobl â dementia yn arbennig o anodd. Rwy'n gwybod y byddwn yn trafod hyn yn nes ymlaen heddiw, ond mae'r broses o fynd drwy hynny a cholli rhywun, a cholli’r bersonoliaeth a oedd ganddynt, efallai, neu rannau ohoni, ac yna eu colli yn gorfforol hefyd—mae'n amser arbennig o heriol i’r unigolyn sy'n mynd drwy hynny ac i’w deulu hefyd.
Rwy'n meddwl fy mod eisoes wedi sôn am y cynnydd ar ofal pediatrig, ond yr hyn nad wyf wedi sôn amdano, fodd bynnag, yw’r gwaith ychwanegol yr ydym wedi’i wneud ar y cyfnod pontio rhwng gwasanaethau pediatrig a gwasanaethau i oedolion. Gall fod yn amser anodd iawn i’r person ifanc unigol yn ogystal â'i deulu, a gall hyn fod yn arbennig o anodd pan fydd wedi adeiladu perthnasoedd drwy'r gwasanaeth pediatrig, a sut i drosglwyddo hynny ymlaen. Ond mae gennym swydd benodol o fewn Cymru, y gyntaf o’i math, wedi’i lleoli yn Ysbyty Plant Cymru, sy’n edrych yn benodol ar y newid o feddygaeth liniarol bediatrig i wasanaeth i oedolion.
Rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch am gefnogaeth profedigaeth cyn marwolaeth, am gael y sgwrs honno’n gynharach, ac rydym yn cydnabod hynny—y cynharaf y ceir y sgwrs, y mwyaf parod yw pobl am y brofedigaeth. O ran eich pwynt ynglŷn â hosbis George Thomas, rydych yn iawn: mae buddsoddiadau unigol a chymunedol wrth greu’r mudiad hwnnw ac yna ei gynnal hefyd yn rhan hynod bwysig o'r hyn sy’n cadw'r mudiad hosbisau yn arbennig ac wedi’i ariannu’n dda. Hoffwn hefyd gydnabod yn arbennig y pwyntiau a wnewch am Ilora Finlay, arweinydd clinigol Cymru, sy'n uchel iawn ei pharch ledled y DU fel clinigwr. Pe byddech am grynhoi barn Ilora am ofal diwedd oes a gofal lliniarol, rwy’n meddwl y byddai'n deg i ddweud ei bod yn dweud bod gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo, ond llawer mwy i'w wneud hefyd. Rwy'n meddwl bod hynny’n adlewyrchiad teg o’n sefyllfa.
Mae’r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â’r pwynt a wnewch am gynnal cymorth i bobl ym misoedd a blwyddyn olaf eu bywydau. Rydym yn gwybod bod gormod o'r bobl hynny’n cael eu derbyn yn ddiangen i’r ysbyty, ac felly mae hynny'n rhywbeth sy'n rhan o'r pwyslais ar gyfer gwelliant. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 65,000 o bobl yn cael eu derbyn yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau—65,000 o dderbyniadau i'r ysbyty. Ni fydd pob un o'r rheini’n amhriodol, ond rydym yn cydnabod bod nifer ohonynt yn amhriodol, ac y gellid gofalu’n briodol am yr unigolion hynny yn eu cartrefi eu hunain, gyda chymorth gwahanol. Felly, mae hynny'n rhan fawr o'r pwyslais ar gyfer gwella yn y flwyddyn i ddod. Felly, rwy'n meddwl bod y pwyntiau wedi’u gwneud yn dda, a gobeithio y flwyddyn nesaf y gallwn adrodd yn ôl am gynnydd sydd wedi'i wneud i bobl ledled y wlad.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Y ffaith drist yw, er y bydd pawb yn marw yn y pen draw, na fydd pawb yn marw’n dda. Oherwydd hynny, mae'n hanfodol bod gennym ofal diwedd oes ardderchog.
Rwy'n croesawu cynllun gofal lliniarol a gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, a'r ymrwymiad i wella'r gofal a roddir i bobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, a'r rhai y maent yn eu gadael ar ôl. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd nifer y bobl sy'n marw yng Nghymru yn cynyddu gan 9 y cant. Rydym yn gwybod nad yw tua 6,200 o bobl sy'n marw bob blwyddyn yn cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnynt, ond mae'r ffigurau hyn yn dod oddi wrth Marie Curie, ac nid ydyn nhw’n dod o’r GIG, ac felly nid ydyn nhw’n yn cyfrannu at gynllunio’r gweithlu.
Mae arnom angen dull cyffredinol ar gyfer gofal lliniarol, oherwydd yn aml mae’n ymwneud â’r teulu cyfan. Felly, mae'n hanfodol bod staff yn cael eu hyfforddi'n briodol i ymdrin â sefyllfaoedd sensitif fel hyn, ac mae'n braf gweld bod £150,000 yn cael ei ddarparu i hyfforddi staff mewn sgiliau cyfathrebu uwch a gofal diwedd oes. Er bod hwn yn ddechrau da o ran cydnabod y sgiliau arbenigol sydd eu hangen, a allech chi roi rhagor o wybodaeth am faint o staff yr ydych yn rhagweld y bydd hyn yn eu hyfforddi, a pha ardaloedd a gaiff eu cynnwys yng Nghymru? Efallai y bydd rhai yn fwy nag eraill, o ganlyniad i sefyllfaoedd logistaidd.
Mae croeso i gyllid i ddarparu gwasanaeth hosbis yn y cartref, ynghyd â chofrestrau gofal lliniarol i bob meddyg teulu sydd â chofrestr o'r holl gleifion ag anghenion gofal lliniarol ategol. A allwch chi hefyd ddweud wrthyf sut y mae’r cofrestrau hyn yn cael eu llunio? Oherwydd mae rhai pobl, yn amlwg, heb deuluoedd, nad oes neb yn sylwi arnynt, sy'n mynd yn sâl, ac sy’n amharod i ymweld â'u meddyg teulu. Tybed sut y gallwn gyrraedd y bobl hyn sydd weithiau—yn aml iawn, a dweud y gwir—yn marw yn eu cartrefi ac yn cael eu darganfod ddyddiau neu wythnosau’n ddiweddarach. A allwn ni wneud mwy i sicrhau bod pobl fel hyn yn cael eu cynnwys?
Hefyd, i sôn am rywbeth a ddywedodd Rhun, mae adroddiad Marie Curie wedi tynnu sylw, fel y gwnes innau yn y datganiad diwethaf, at rwystrau ychwanegol a wynebir gan gymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a Phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig mewn profedigaeth, y tu hwnt i'r boen gyffredinol a brofir ar ôl colli partner. Er gwaethaf hyn, nid oes unrhyw gamau gweithredu penodol wedi’u hamlinellu yn y cynllun cyflawni gyda’r nod o ymdrin â'r materion hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi’n cytuno â mi, os ydym yn mynd i wella gofal diwedd oes i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, bod yn rhaid inni ymdrin â'r diffygion yn y cynllun hwn?
Yn Lloegr, mae'r GIG yn cynnal arolwg o bobl mewn profedigaeth o’r enw VOICES, ac mae hyn yn dangos faint o ofal a chymorth a roddir i deuluoedd ar ddiwedd oes eu hanwyliaid. Nid ydym yn cynnal arolwg o'r fath yng Nghymru. Os ydym yn mynd i sicrhau bod pawb sydd ag angen gofal lliniarol arbenigol yn ei gael, a sicrhau y gall anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigolyn am ofal diwedd oes gael eu nodi, eu dogfennu, eu hadolygu a’u parchu, ac y gellir gweithredu arnynt, mae'n rhaid inni gynnal arolwg o bobl mewn profedigaeth yng Nghymru hefyd. Rwy’n gweld nad oes darpariaeth ar gyfer hyn yn y datganiad.
Yn hytrach na dibynnu ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng y rhaglen iWantGreatCare, rhaglen nad oes llawer o gleifion wedi clywed amdani, a oes gan eich Llywodraeth gynlluniau i gyflwyno arolwg cynhwysfawr o deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru? Mae croeso i lansio gwefan 'Byw Nawr'; yn bendant, dyna’r ffordd ymlaen. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni beidio â dibynnu ar y datganiad bod y rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o'u gwybodaeth ar-lein. Er bod hyn yn wir, mae llawer o bobl nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau ar-lein ac, felly, mae angen inni fod yn gynhwysol.
Felly, mae'n bwysig bod y cynllun hwn yn gynhwysol ac yn fuddiol i bawb. Rwy’n nodi bod ymgynghorwyr ym maes gofal lliniarol nawr ar gael ar alwad 24/7. A allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd pobl yn cael gwybod am y gwasanaeth hwn? Mae'r gwaith gyda hosbis plant Tŷ Hafan a’r gwasanaeth galwadau ffôn 24 awr y tu allan i oriau ar gyfer gofal lliniarol pediatrig yn hanfodol ac i'w groesawu'n fawr iawn.
Rwy’n diolch i’r holl staff ysbytai sy'n ymwneud â’r maes sensitif iawn hwn, gan gydnabod hefyd ymroddiad teuluoedd i’w hanwyliaid. Rwy'n cydnabod y gwaith parhaus cadarnhaol a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â chi’n gadarnhaol ac yn adeiladol i wella'r gwasanaethau ym maes gofal lliniarol ymhellach. Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Ar y pwynt am sgyrsiau am salwch difrifol, byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â faint o staff sydd wedi cael yr hyfforddiant yn y flwyddyn ddiwethaf a faint yn fwy yr ydym yn disgwyl iddynt gael yr hyfforddiant hwnnw yn ystod y flwyddyn nesaf a mwy, o ganlyniad i'r adnoddau ychwanegol yr ydym yn eu rhoi i mewn i hyn.
O ran eich pwynt am yr arolwg o deuluoedd mewn profedigaeth a/neu gleifion, byddwn yn hapus i ystyried a oes ffordd well ymlaen o'r arolwg iWantGreatCare, ond ar hyn o bryd, nid oes neb wedi awgrymu i mi, ac nid yw’r bwrdd wedi gofyn, bod arnom angen gwahanol ddulliau o ddeall adborth yn uniongyrchol gan bobl sy'n ymwneud â’r gofal a phobl sy'n ymwneud â derbyn gofal hefyd. Byddwn wedi disgwyl, pe byddai galw gwirioneddol am hynny a bod annigonolrwydd, y byddai hynny wedi dod drwy'r bwrdd, gan glinigwyr sy'n dal i fod yn hyrwyddwyr dros eu cleifion, yn ogystal â gan ymgyrchoedd y trydydd sector hefyd. Felly, os oes tystiolaeth wirioneddol bod angen inni wneud rhywbeth yn wahanol, mae gennyf feddwl agored am y peth, ond byddai angen fy mherswadio nad oes gennym ar hyn o bryd ffordd ddigonol o ddeall ansawdd ac effaith y gofal sy'n cael ei ddarparu.
Ar yr un nodyn, ar y pwynt a wnaethoch am drefnu gofal lliniarol, mae gennym fwy o bobl ar gael ar wahanol adegau o’r dydd nawr hefyd. Mae gennym wasanaeth sydd ar gael drwy gydol yr wythnos. Byddai angen fy mherswadio y dylid gwneud hynny mewn ffordd wahanol. Rhan o'r her, wrth gwrs, ac un o'r pwyntiau a wnaethoch yn gynharach, yw beth sy'n digwydd i'r bobl hynny sy'n marw ar eu pennau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r digwyddiadau hynny, yn ffodus, yn brin iawn.
Mae her ehangach ynglŷn â sut yr ydym fel cymdeithas yn ymgysylltu o fewn ein cymunedau ein hunain, gyda'n cymdogion, a gyda'n hanwyliaid. Oherwydd, mewn gwirionedd, os nad yw aelodau o'r teulu’n ymgysylltu'n uniongyrchol â’r bobl hynny, mae'n anodd iawn, wedyn, dweud mai problem rhywun arall ydyw, boed hwnnw y Llywodraeth neu'r gwasanaeth iechyd. Mae her ynglŷn â sut y mae pobl yn ymwneud â’r gwasanaethau. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd tuag at ddiwedd eu hoes. Mae'n gymharol anghyffredin i fywyd rhywun ddiweddu’n sydyn. Fel arfer, mae'n digwydd pan fydd pobl yn disgwyl mai dyna sy'n mynd i ddigwydd.
A dweud y gwir, mae’n fater o sut yr ydym yn cefnogi pobl sy'n ymwneud â gofalu am bobl ar ddiwedd eu hoes—mae’r bobl hynny’n deuluoedd, yn ffrindiau, ac wrth gwrs yn weithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau iechyd a gofal. Dyna sut y mae’r gofrestr gofal sylfaenol yn cael ei llunio a'i chynnal. Mae'n union hynny: pobl sy'n ymwneud â gofal yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod ac ar gael i wneud yn siŵr y gallwn dargedu’r adnoddau sydd gennym yn briodol i roi cefnogaeth briodol i’r gweithiwr proffesiynol ac i'r unigolyn.
Y peth olaf yr wyf yn mynd i’w ddweud, am eich pwynt am ymgysylltiad, neu fel arall, y trydydd sector ac unigolion, ac ymgysylltu â’r Llywodraeth am y dystiolaeth arolwg sy'n bodoli, yw: rydym yn gwybod mewn gwirionedd, o'r holl wahanol feysydd ymgysylltu, bod y mudiad hosbisau a mudiadau’r trydydd sector yn rhan o'r sefydliad sy'n cynllunio ac yn darparu’r cynlluniau hyn. Maen nhw’n rhan o'r bwrdd cyflenwi. Maen nhw’n siarad yn rheolaidd â’u sefydliadau gwasanaeth iechyd a chomisiynwyr unigol yn ogystal. Mae hynny’n rhan o gryfder y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn darparu ein cynlluniau cyflawni. Hoffwn weld hynny’n cael ei gynnal. Os oes gan bobl dystiolaeth wirioneddol o ffynhonnell wybodaeth annigonol, fe wnaf ystyried y peth. Ond, a dweud y gwir, nid ydym eisiau tanseilio cryfder y bwrdd yn y broses. Rydym yn gwybod bod hynny’n cyflwyno her real iawn, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da.
Wrth groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r newidiadau a'r buddsoddiad enfawr a wnaethpwyd yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf yng Nghymru sydd wedi newid yn sylweddol y drafodaeth yr ydym yn ei chael am y materion hyn, yn ogystal â rhywfaint o'r gwaith cydweithredol yr ydym eisoes wedi clywed amdano yn y datganiad? Rwy’n croesawu hynny.
Fodd bynnag, hoffwn ofyn cwestiwn mwy sylfaenol a gwahanol iddo. Oherwydd fel y mae ei ddatganiad yn ei nodi, rydym yn ymestyn bywyd drwy ymyraethau meddygol, ond, rwy’n teimlo, weithiau heb ofyn cwestiwn mwy sylfaenol, sef: a oes angen hyn neu a yw'n angenrheidiol, neu a oes ei wir eisiau ar y claf? Rydym yn mynnu ac yn disgwyl urddas mewn bywyd, ac mewn gofal diwedd oes. Mae'n bryd i drafod pa un a ddylem ymestyn yr un urddas a hawliau i bobl sy'n dymuno diweddu eu bywydau ar adeg o'u dewis, pa un a ydynt yn wynebu salwch terfynol ynteu gyflwr gwanychol fel dementia.
Nawr, ar hyn o bryd, nid yw hwn yn safbwynt cyfreithlon. Mae wedi cael ei herio'n rheolaidd gan unigolion dewr sy'n mynd i'r llysoedd ac yn dioddef clefyd terfynol diwedd oes eu hunain, i herio’r safbwynt hwn. Y person dewr diweddaraf i wneud hynny yw Noel Conway, sydd newydd gael yr hawl i herio i'r Llys Apêl. Ond rwy’n cydnabod bod y llysoedd wedi dweud yn gyson—ac rwy’n tueddu i gytuno â nhw—nad mater i’r llysoedd yw hwn, ond mater i'r Senedd, a mater i'r Senedd benderfynu arno. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, gydag ethol Senedd newydd, a Llywodraeth newydd, pa un a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cael y sgwrs hon â’r Llywodraeth honno yn San Steffan, oherwydd er nad yw'r pwerau yn y fan yma, maen nhw’n effeithio ar bob un ohonom yn y penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud am ein bywydau a bywydau ein ffrindiau a’n teuluoedd.
A gaf i ei adael â dyfyniad gan Atul Gawande, darlithydd Reith a ysgrifennodd lyfr da iawn, iawn am yr holl broses hon o farw o'r enw 'Being Mortal'? Yr hyn y mae'n ei ddweud yw hyn: ‘I lawer, mae’r fath siarad’—a gyda ‘y fath siarad’ mae’n golygu y math o beth yr wyf i newydd ei awgrymu—‘pa mor ofalus bynnag y mae wedi’i fframio’—rwy’n gobeithio fy mod i wedi ei fframio’n ofalus— yn codi’r bwgan o gymdeithas sy’n ymbaratoi i aberthu ei phobl sâl ac oedrannus. Ond beth os yw’r bobl sâl ac oedrannus eisoes yn cael eu haberthu...a beth os oes dulliau gwell, yn union o flaen ein llygaid, yn aros i gael eu cydnabod?
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod rhai dulliau y dylid eu trafod hefyd?
Diolch am gydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud a'r gydnabyddiaeth sydd wedi ei rhoi gan wahanol bleidiau wrth weithio drwy'r Cynulliad diwethaf ac i mewn i’r un presennol, a gan wahanol bobl y tu allan i’r lle hwn hefyd. Rwy'n credu bod croeso mawr i hynny.
O ran y pwynt ehangach a godir gennych, rwy’n meddwl bod hynny’n mynd y tu hwnt i'r sgwrs yr hoffem ei chael am wneud dewisiadau ynghylch sut yr hoffem farw. Mae rhan ohono, fodd bynnag, yn dal i ymwneud ag ymestyn bywyd drwy ymyraethau meddygol. Ceir her yma am hysbysiadau ‘peidiwch â cheisio dadebru’, a’r hyn y byddai pobl yn ei ddymuno a’r hyn na fyddent yn ei ddymuno. Mae rhywbeth yn y fan yna eto am fynd yn ôl i gynllunio gofal uwch, a deall yr hyn sydd ei eisiau arnom, yn hytrach nag aros i feddyg ymyrryd, oherwydd yr her i'r meddyg fydd—neu bwy bynnag yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol; bu penderfyniad diweddar am hyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a oedd yn anodd imi—ar ba adeg y dylai rhywun geisio rhoi adfywiad cardio-pwlmonaidd neu beidio. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnynt i roi cynnig ar adfywio cardio-pwlmonaidd. Nawr, rwy’n meddwl bod her go iawn yn y fan yna, oherwydd ar adegau, mae'n debyg nad dyna fyddai’r peth cywir i'w wneud. Ond yr her yw sut yr ydych yn cael y sgwrs honno sy'n ystyried y dyletswyddau proffesiynol a'r dyletswyddau moesegol sydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol unigol, a hefyd eu gallu i fod yn weithwyr proffesiynol sydd wedi’u rheoleiddio a’u cofrestru hefyd. Felly, nid yw hwn yn faes hawdd—ac mae hynny’n arwain at y dewisiadau cydwybod unigol yr ydych yn sôn amdanynt am yr hyn y byddem yn dewis ei wneud drosom ein hunain. Yn ogystal â'r gŵr bonheddig yr oeddech chi’n cyfeirio ato, roeddwn i’n adnabod Debbie Purdy a'i her hithau ynglŷn â’i gallu i wneud dewisiadau drosti ei hun. Rwy'n credu mai rhan o hyn yw, pan fyddwn yn sôn am yr hyn y mae’r Senedd yn penderfynu ei wneud, nad oes gan y Llywodraeth farn am hyn. Mae hwn yn fater i unigolion benderfynu ar yr hyn y maent am ddewis ei wneud—sut, ble, pam ac a ddylid neu na ddylid newid y gyfraith i’w gwneud yn haws i bobl roi terfyn ar eu bywyd ar adeg o'u dewis. Yn bersonol, rwy'n ei chael hi’n eithaf anodd gweld pobl yn mynd i wledydd gwahanol i ddiweddu eu bywyd ar adeg o'u dewis. Pe byddwn i yn y sefyllfa honno, nid wyf yn siŵr beth fyddwn i'n ei wneud, ond dyna pam mae’n ddewis ymwybodol unigol, ac rwy’n meddwl mai felly y dylai fod. Ond, wrth wneud hynny, rwy’n credu bod angen i bob un ohonom ystyried gallu'r unigolyn i wneud ei ddewis drosto ei hun, ar adeg o'i ddewis, yn amlwg cyn belled â bod ganddo’r gallu i wneud hynny. Ond, yn yr un modd, mae’n rhaid inni ystyried y perygl posibl y gallai hyn ei greu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n ddadl anodd sydd ar fin y gyllell, rwy’n meddwl, inni i gyd ei chael, a bydd bron bob un ohonom yn dod i gasgliadau ychydig yn wahanol. Ond rwy'n credu, yn sicr, yn y maes lle yr ydym ni nawr, bod angen inni gael sgwrs fwy rheolaidd am farw, yr hyn y mae'n ei olygu i ni, yr hyn sy'n bwysig i ni, a beth sy'n bwysig i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl.
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad hwn heddiw yn fawr iawn; mae’n caniatáu inni ganolbwyntio ar y gwasanaethau pwysig iawn hyn sydd mor bwysig i bobl a'u teuluoedd ledled Cymru. Ac fel llawer o bobl eraill, rwy'n gyfarwydd â fy ngwasanaethau lleol yng Nghasnewydd, a sefydliad Dewi Sant, ac rwy’n gwybod eu bod wedi tyfu ac ehangu eu gwasanaethau a'u presenoldeb mewn modd trawiadol iawn, nid dim ond yng Nghasnewydd, ond yn y rhannau cyfagos o Gymru dros flynyddoedd lawer, a’u bod yn darparu ymrwymiad gwirioneddol a gwasanaeth o safon.
Hoffwn godi rhai materion ag Ysgrifennydd y Cabinet—yn gyntaf oll, rhagnodi arbenigol gan fferyllwyr mewn hosbisau, a'u swyddogaeth gyda fferyllwyr cymunedol, oherwydd rwy’n gyfarwydd â'r farn eu bod yn gallu gwella gwasanaethau diwedd oes yn fawr, gan gyd-fynd yn llwyr â gofal iechyd doeth, a gan gyd-fynd yn llwyr â chaniatáu i bobl ddychwelyd i'w cartrefi mewn modd amserol. Ac mae rhagnodi o safon uchel, rwy’n credu, yn gwbl ganolog i'r maes hwn o ddarpariaeth iechyd. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa swyddogaeth a allai ehangu y mae'n ei gweld ar gyfer y fferyllwyr rhagnodi arbenigol hynny wrth fwrw ymlaen â strategaeth a pholisi. Hefyd, cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau hosbis yn y gymuned—oherwydd, unwaith eto, rwy’n siŵr bod llawer o Aelodau’n gyfarwydd â'r pwysau sydd ar y gwasanaethau hyn, y galw cynyddol a fydd, yn amlwg, yn cyflymu wrth i’n poblogaeth heneiddio, pwysau ar gyflog o fewn y gwasanaethau y maent yn eu darparu, nyrsio ac fel arall, ac, wrth gwrs, rhywfaint o'r swyddogaeth gynyddol y bydd y gwasanaethau hyn yn ei chyflawni yn y dyfodol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau y bydd y cynllun cyflawni yn blaenoriaethu ymdrin â’r pwysau cyllid craidd hwnnw, oherwydd nid wyf yn meddwl ein bod wedi gweld cynnydd yn y cyllid craidd hwnnw ar gyfer y gwasanaethau hyn ers cryn amser.
Dau fater arall yn fyr, Dirprwy Lywydd—
Ie, mae eich amser ar ben—yn gyflym.
Yn gyflym iawn, felly. Yn gyntaf oll, mae’r tabŵ sy’n gysylltiedig â thrafod y materion hyn. Yn amlwg, mae heddiw’n ffordd o ymdrin â sut yr ydym yn goresgyn y tabŵ hwnnw, o union natur y datganiad, a’r ddadl a'r cynllun cyflawni. Ond mae'n ymddangos i mi y bu adeg pan oedd marwolaeth yn llawer mwy o brofiad teuluol a chymunedol, wyddoch chi pan fyddai cyrff yn y cartref, fel petai, a phan fyddai pobl yn cymryd materion i'w dwylo eu hunain o ran sut yr oeddent yn ymdopi â marwolaeth. Ac mae'n sicr, rwy’n meddwl, wedi cael ei dynnu o’r lleoliad hwnnw a’i droi’n broffesiynol. Ac mae wedi creu tabŵ, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod sgyrsiau’n digwydd os yw pobl yn mynd i feddwl ymlaen, cynllunio ymlaen llaw, a sicrhau eu bod yn barod am y diwedd oes anochel. Felly, rwy’n meddwl bod angen newid diwylliant arnom, ac rwy'n meddwl bod yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud yn cydnabod hyn, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.
Na, rwy’n mynd i’ch atal chi nawr—
Dim ond am wasanaethau i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig—
Yn gyflym iawn, oherwydd rydych wedi cael tri—
Yn gyflym iawn, iawn, Dirprwy Lywydd—dim ond i ddweud bod gennym esiampl drwy Marie Curie o sut y gallwn wella gwasanaethau a sicrhau gwell mynediad. Ac rwy’n meddwl bod angen i ni gyflwyno hynny, y math hwnnw o ddull, ym mhob un o’n cymunedau yng Nghymru.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwy’n mynd i geisio bod yn gryno, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch swyddogaeth rhagnodi arbenigol. Rwy'n cydnabod yr heriau ar gyllid craidd. Ni fyddai'n onest imi ddweud fy mod yn gallu darparu swm sylweddol o gyllid craidd ychwanegol. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r pwysau ar bob gwasanaeth cyhoeddus ar adeg pan fo cyllidebau’n lleihau, ac mae'r arian ychwanegol sy’n mynd i mewn i'r gyllideb gofal iechyd yn golygu cost wirioneddol i rannau eraill o'r gwasanaeth. Felly, ni wnaf addewidion na allaf eu cadw yn y maes hwn neu’r llall. Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch am gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a'r cynnydd y mae Marie Curie wedi ei wneud. Rwy'n credu bod her yn y fan yna i weddill y mudiad hosbisau ac, yn wir, i’r gwasanaeth iechyd i ddeall yr heriau penodol hynny a gwneud gwell darpariaeth.
Ac yn olaf, dyma’r pwynt o gael datganiad, cael y sgwrs—mae'n dal yn bwnc tabŵ. Mae angen inni fynd yn ôl i fan lle mae'n sgwrs lawer mwy arferol. Felly, rwy’n edrych ymlaen at gael y sgwrs hon eto gydag Aelodau, y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr, am sut yr ydym yn ceisio ail-normaleiddio sgwrs am y digwyddiad mwyaf anochel. Genedigaeth a marwolaeth yw’r ddau beth sy’n anochel yn ein bywydau, ac nid ydym yn treulio digon o amser o bell ffordd yn siarad am y peth, yn ei drafod, ac yna gall bob un ohonom gael cystal marwolaeth ag y bo modd.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynna.