2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Cyfle nawr i lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf, at gynllun gweithredu tasglu'r Cymoedd. Credaf y buasai pob un ohonom yn cytuno ei fod yn cynnwys, ar lefel uchel, amcanion canmoladwy tu hwnt o ran ein cymunedau, a diolch i aelodau'r tasglu, ac yn wir, i bawb a gymerodd ran yn yr amrywiol ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar draws ardaloedd y Cymoedd.
Ond fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfaddef, rwy'n siŵr, bydd y modd y caiff y cynllun ei gyflawni, wrth gwrs, yn dibynnu'n allweddol ar y manylion. Mae 68 o gamau gweithredu yn y cynllun yn ei gyfanrwydd, ond rydych yn cyfeirio at dargedau penodol. Efallai y gallaf fod o gymorth iddo yma, gan fod y cynllun ei hun yn dangos, ar dudalen 46, mai dim ond dau darged penodol sydd yno mewn gwirionedd. Ar ôl edrych drwy'r holl ddangosyddion llesiant, dau yn unig sydd yno. A 7,000 o swyddi ychwanegol, gyda 2,000 ohonynt yn cael eu creu o ganlyniad i weithgarwch entrepreneuraidd. A all ddweud, er eglurder, ai swyddi ychwanegol net yw'r rheini—yn y jargon? Ai swyddi a grëwyd yw'r rhain yn hytrach na swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynorthwyir? Gan mai dyma'r unig darged yn y cynllun, pa gyllideb sydd wedi'i neilltuo i greu'r swyddi hynny? Hyd yn oed os cymerwn y safon, y £30,000 neu £40,000 ar gyfer pob swydd, y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio, rydych yn sôn am gannoedd o filiynau o arian ychwanegol. Pe baem ond yn cyflawni'r lefel o greu swyddi rydym wedi'i gweld yn yr ardaloedd menter—oddeutu £90 miliwn yng Nglyn Ebwy a chreu 170 o swyddi yn unig yn yr achos hwnnw—rydych yn sôn am biliynau, ac eto ni allaf weld unrhyw arian ychwanegol wedi'i neilltuo yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae'r £90 miliwn yng Nglyn Ebwy, wrth gwrs, hefyd yn cynnwys rhannau o'r gwaith o ddeuoli ffordd yr A465, a ohiriwyd gan Blaid Cymru. O ran y cwestiwn uniongyrchol a ofynnoch, pa un a yw'r ffigur yn cyfeirio at swyddi net, yr ateb yw 'Ydy, mae'n cyfeirio at swyddi net.' Ac o ran y cyllid ar gyfer hynny, bydd yr arian yn dod o gyllidebau Ysgrifenyddion y Cabinet a fydd yn cyfrannu tuag at hynny.
Yr hyn y mae tasglu'r Cymoedd yn ceisio'i wneud yw llunio a llywio polisi'r Llywodraeth i'n galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau yn y Cymoedd. Gwn eich bod yn rhannu'r uchelgeisiau hynny, ac rwy'n ddiolchgar i chi am y pwyntiau rydych wedi eu gwneud ynglŷn â hynny yn y gorffennol. Ar hyn o bryd, rydym yn arwain rhaglen o seminarau ym mhob un o'r saith hyb strategol i edrych ar sut yn union y bydd pob hyb yn cyfrannu at y targed swyddi a amlinellwyd gennych, ond hefyd at dargedau eraill a amlinellir yn y weledigaeth gyffredinol. Pan fyddwn wedi cwblhau'r dasg honno—erbyn diwedd mis Chwefror gobeithio—gallaf wneud datganiad pellach ynglŷn â hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n debyg eich bod chi a minnau'n cynrychioli bwa'r Cymoedd, ardal yr hen feysydd glo—rydych chi'n cynrychioli'r Cymoedd dwyreiniol, a minnau'n cynrychioli'r gorllewin. Tybed a yw daearyddiaeth y strategaeth hon allan o drefn ar hyn o bryd. Fel rydym wedi'i glywed gan arweinydd fy mhlaid, ceir ardaloedd yn y Rhondda, Cwm Cynon, ac ati, nad ydynt yn cael eu cynrychioli o gwbl yn y saith hyb strategol, sy'n ymddangos i mi ar hyn o bryd fel pe baent wedi cael eu dewis, os nad ar hap yn llwyr, yna yn sicr mewn modd ad hoc, o ran eu lleoliad, ond hefyd, o bosibl, o ran eu ffocws sectoraidd. Cawsom y cyhoeddiad ddoe am ddau hyb technoleg entrepreneuraidd, a fydd wedi'u lleoli yng Nghymoedd y de-orllewin ac yn y Cymoedd dwyreiniol. A bydd yr hybiau cymunedol—nifer amhenodol o hybiau cymunedol—gennym yno hefyd. Ond hyd yn oed os edrychwch ar y map, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Rhydaman oddi ar y map, ac mae llawer o'r Cymoedd gorllewinol eraill heb eu cynnwys yn y diffiniad o ardal y Cymoedd mewn gwirionedd. Felly, er mwyn ategu'r strategaeth, oni ddylai fod gennym gynllun datblygu strategol sy'n edrych ar ddaearyddiaeth y Cymoedd, gan sicrhau, er enghraifft, fod yr hybiau hyn yn cael eu graddnodi, o ran y gorsafoedd metro newydd, gydag ardaloedd y buddsoddiad? A phwy sy'n mynd i gyflawni hyn oll? Gyda'r holl hybiau hyn, onid oes angen hyb o hybiau arnom, Ysgrifennydd y Cabinet—asiantaeth neu dîm o bobl sy'n mynd i gyflawni'r 68 pwynt gweithredu hyn? A beth yw'r ddarpariaeth ar hyn o bryd, a beth yw'r cysylltiad gyda'r fargen ddinesig? Oherwydd ymddengys i mi fod tasglu'r Cymoedd a'r cynllun gweithredu yma fan hyn, mae'r bargeinion dinesig draw fan acw, ac nid yw'n ymddangos bod llawer o ryng-gysylltiad rhwng y ddau ar hyn o bryd.
Dros y blynyddoedd, mae'r Aelod dros ddwyrain Sir Gaerfyrddin wedi galw am fwy o feddwl strategol yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill yng Nghymru, ac mae wedi galw am lai o wleidyddiaeth pot mêl—credaf eich bod wedi gwneud nifer o ymyriadau gwahanol mewn perthynas â hynny, ac rwyf bob amser wedi cytuno â chi ar y materion hynny. Ond yn yr ychydig fisoedd diwethaf, ers i'r hybiau strategol hyn gael eu cyhoeddi, rwyf wedi cael llythyr gan yr Aelod dros Rhondda, yn gofyn am hyb strategol yn Rhondda, a llythyr arall gennych chi, yn gofyn am un yn Rhydaman. Nid wyf yn siŵr fod hynny bob amser yn amlinellu'r meddylfryd strategol sydd gennych mewn golwg. [Torri ar draws.] Mae'r Aelod wedi galw am feddylfryd strategol.
Yr hyn rwyf am ei ddweud wrtho yw bod pob un o'r saith hyb—buaswn yn hapus i ystyried datblygu model, mae'n rhaid i mi ddweud, ond mae pob un o'r saith hyb strategol yn gysylltiedig â'r metro, yn gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus, o dan arweiniad awdurdodau lleol, wedi'u llywio gan y gwaith a wneir ar y bargeinion dinesig, a hefyd gan Lywodraeth Cymru. A dyna pam rydym yn dilyn proses o seminarau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn deall beth yn union rydym yn ceisio ei gyflawni gyda phob un o'r hybiau hyn.
Ond rwyf am ddweud wrth yr Aelod ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar draws rhanbarth y Cymoedd yn ei gyfanrwydd. Mae'r pwyntiau y mae'n ei wneud am y Cymoedd gorllewinol yn rhai da, ac yn cael eu cydnabod; rwy'n derbyn y pwyntiau hynny. Ac rwy'n credu bod angen i ni edrych ar sut rydym bob amser yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd pobl ledled rhanbarthau'r Cymoedd. A chredaf fod honno'n her rydym yn ei derbyn, ac yn her rwy'n gobeithio y byddwn yn ei goresgyn.
Roeddwn yn meddwl—os gallwn gamu'n ôl rhywfaint hefyd—tybed a allwn ofyn cwestiwn dyfnach i ni'n hunain, ac ni wn a yw hwnnw wedi cael sylw digonol eto yn y cynllun a gyhoeddwyd, a dyna pam fod mentrau'r gorffennol wedi methu. Oherwydd y peth mwyaf sobreiddiol rwyf wedi'i ddarllen—. Rwy'n annog yr Aelodau anrhydeddus—o, arfer drwg yn y fan honno. Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen yr astudiaeth ymgysylltu, sydd mewn gwirionedd yn seiliedig ar arolygon gyda phobl yn y Cymoedd ynglŷn â sut y maent yn gweld pethau. Ac mae'n sobreiddiol yn wir: gyda 45 y cant yn dweud bod cyflwr eu canol trefi'n wael; 54 y cant yn dweud bod cymorth ar gyfer busnesau'n wael; 30 y cant yn dweud bod y gwasanaethau iechyd lleol yn wael; a 45 y cant, gwasanaethau trafnidiaeth gwael. Ac mae'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain pam ein bod yn y sefyllfa hon. Ac oni bai bod gennym ddadansoddiad digonol a dadansoddiad onest—ac rwy'n sylweddoli, i Lywodraeth sydd wedi bod mewn grym ers bron i ddau ddegawd, fod hwnnw'n gwestiwn anodd i'w ofyn—ond os nad ydym yn ei ofyn, cawn ein condemnio, oni chawn, i ailadrodd methiannau'r gorffennol?
Mewn llawer o ffyrdd, mae'r cynllun a gyhoeddais ar 7 Tachwedd yn gynllun o'r Cymoedd, yn hytrach na chynllun ar gyfer y Cymoedd yn unig. Mae'n ymwneud â gwrando ar bobl, siarad â phobl, cael sgyrsiau gyda phobl, ynglŷn â beth y maent eisiau ei weld yn eu cymunedau yn y dyfodol. Ac mae llawer ohonynt yn disgrifio eu cymunedau yn y ffordd rydych wedi'i ddangos y prynhawn yma. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych yw nad rôl y Llywodraeth yw disgrifio'r problemau'n unig; rôl y Llywodraeth yw gweithredu fel catalydd i greu atebion, a dyna beth y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch, Lywydd. Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers cyflwyno'r Bil digartrefedd arloesol a Deddf Tai (Cymru) 2014, a chredaf ei fod wedi ennyn llawer o ganmoliaeth am ei ddull ataliol. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn anos ymdrin â'r bobl sydd eisoes yn cysgu allan, neu'r bobl sydd ar fin mynd yn ddigartref, ac rwy'n meddwl tybed a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru.
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Fel y buasech yn ei ddychmygu, mae mynd i'r afael â'r broblem o gysgu allan yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn flaenoriaeth bersonol i mi, yn enwedig ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, wrth i ni sylwi ar y tywydd yn oeri ac rydym yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn cysgu ar ein strydoedd mewn gwirionedd. Felly, yn 2016, aeth Llywodraeth Cymru ati i wella'r cyfrif cenedlaethol o gysgu allan, fel y gallwn gael darlun mwy cywir o nifer y bobl sy'n cysgu allan ar strydoedd ein trefi a'n dinasoedd a chymunedau eraill ledled Cymru. A chredaf fod hynny'n bwysig, ein bod yn cael gwell darlun o nifer y bobl sy'n rhan o hyn a'r problemau sy'n wynebu'r bobl hynny, fel y gallwn dargedu'r gwasanaethau hynny'n well. Hefyd, yn ôl yn 2016, cyflwynwyd StreetLink Cymru gennym, ac mae hwnnw'n wasanaeth sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i roi gwybod i'r awdurdodau pan fyddant yn gweld unigolyn sy'n cysgu allan, ac yna gellir gwneud gwaith allgymorth i gynorthwyo'r unigolyn i archwilio beth y gellid ei wneud i ddod o hyd i lety dros dro iddynt, a gobeithio, yn y pen draw, llety mwy parhaol yn ogystal.
O ran y gyllideb, rydym yn ceisio cynyddu'r swm o arian rydym yn ei wario ar drechu digartrefedd yn fwy cyffredinol, gyda £4 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant atal digartrefedd eleni er mwyn atal pobl rhag mynd i'r sefyllfa honno. Ond mae'n ddarlun cymhleth iawn, fel rydych yn deall, rwy'n gwybod. Mae gan bobl sy'n cysgu allan amrywiaeth eang o broblemau cymhleth a phrofiadau bywyd y maent yn ymdrin â hwy, felly mae'n rhaid i'r ymateb fod yn ddull partneriaeth mewn gwirionedd: Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, gan ddarparu'r adnoddau y maent eu hangen, ond gan wneud yn siŵr hefyd fod gennym y rhwydwaith hwnnw o gymorth yn lleol gyda'r holl sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych o ran allgymorth a chymorth i bobl sy'n cysgu allan.
A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno â'r Gweinidog fod hwn yn fater pwysig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan ein bod yn naturiol, wrth i'r Nadolig agosáu, yn meddwl yn arbennig am bobl sy'n gorfod cysgu ar y strydoedd? Ond mae'n broblem sydd wedi bodoli ers tro byd mewn gwirionedd ac mae'n digwydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n amlochrog, rydych yn hollol gywir, o ran pam fod pobl yn teimlo eu bod yn gorfod byw ar y strydoedd. Rydych yn iawn ynglŷn â chasglu data. Mae wedi gwella, a dyma sydd i gyfrif, yn ôl pob tebyg, am rywfaint o'r cynnydd canfyddedig, ond mae The Wallich wedi cynnal arolwg yn ddiweddar a oedd yn dangos cynnydd o 21 y cant yn nifer y bobl sy'n cysgu allan yn Abertawe, cynnydd o 67 y cant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chynnydd o 93 y cant yng Nghasnewydd. Ceir rhai arwyddion o fenter go iawn a gobaith yn ogystal. Efallai eich bod wedi gweld yn y Western Mail heddiw fod yr elusen digartrefedd Llamau wedi cyhoeddi prosiect newydd ac maent wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned fusnes i sefydlu, neu geisio sefydlu, llinell gymorth, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd ar fin mynd i fyw, neu sydd newydd fynd i fyw, ar y stryd. Ond oherwydd natur amlochrog yr her hon, rwy'n meddwl tybed a oes angen i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth eithaf pendant—er enghraifft, drwy ddatgan ei bod yn credu mai dull tai yn gyntaf yw'r brif ffordd o fynd i'r afael â chysgu allan.
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, ac yn sicr rydym yn ehangu ein dull tai yn gyntaf, gan gomisiynu prosiectau tai yn gyntaf newydd i helpu pobl i gael eu tenantiaethau eu hunain a gwella mynediad at lety brys. Darparodd y Gweinidog blaenorol rywfaint o arian ychwanegol i wella a chynyddu capasiti llety brys, yn enwedig yn ardal Caerdydd. Ond rwy'n cytuno mai tai yn gyntaf yw'r ffordd ymlaen, o ran sicrhau bod gan bobl fynediad at gartref cynnes, diogel a gweddus, oherwydd mae hynny'n arwain at gymaint mwy. Gwn hefyd fod angen i ni fod yn gweithio'n benodol gyda grwpiau unigol sydd efallai'n fwy agored i niwed, felly pobl ifanc yn arbennig. Rwy'n credu eich bod yn lansiad y prosiect Llamau, a oedd yn cynnwys busnesau mewn perthynas â mynd i'r afael â phobl ifanc yn cysgu allan yn arbennig, a mynychwyd y lansiad hwnnw hefyd gan y Prif Weinidog, oherwydd mae wedi dweud yn glir fod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth bersonol arbennig iddo ef yn ogystal.
Rwyf hefyd yn awyddus, gan adeiladu ar y gwaith a wneuthum yn fy mhortffolio blaenorol, i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi cyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n aml yn mynd yn ddigartref. Rydym yn datblygu llwybr tai newydd yn benodol ar gyfer cyn-filwyr i geisio sicrhau eu bod yn gallu ymaddasu i fywyd sifil a hefyd sicrhau ffyrdd y gallwn ymgysylltu â hwy, os a phan fyddant yn cysgu allan, mewn ffordd sy'n briodol ac yn berthnasol iddynt hwy.
Mae llawer rwy'n cytuno ag ef yn yr ymateb hwnnw, a phob yn dipyn, gwelwn lawer o fentrau da, a cheisio eu cyfuno yw'r her, ac rwy'n meddwl tybed a oes angen i ni edrych ar fodelau traddodiadol nad ydynt wedi ateb y broblem i'r graddau y buasem yn ei ddymuno. Modelau triniaeth yn gyntaf ydynt yn y bôn sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn amgylcheddau hostel yn hytrach nag mewn cartref sy'n cael ei gefnogi—rydych yn sicrhau bod y person yn teimlo'n ddiogel yn eu tenantiaeth ac mewn dull sy'n canolbwyntio ar y cartref. Ond fel y dywedais, triniaeth yn gyntaf yw'r modelau traddodiadol wedi bod, a dyna a wnewch cyn i chi roi rhywun yn eu cartref eu hunain.
Mae trawsnewid hwn i fod yn fodel tai yn gyntaf yn her, ond rydym yn gweld llwyddiant rhyfeddol yn barod, er enghraifft, yn y prosiect ar Ynys Môn, sydd wedi cael ei dreialu gan sefydliad The Wallich. Rydym wedi gweld rhai gwledydd yn mabwysiadu tai yn gyntaf, fel yn y Ffindir, lle mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i gynnal adolygiad sylfaenol o'r hen systemau—triniaeth yn gyntaf, yn gyffredinol—ac edrych ar fodel tai yn gyntaf?
Rwy'n gwbl agored i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ehangu tai yn gyntaf. Fel chithau, rwy'n gweld y synnwyr a'r manteision o ran sicrhau bod gan bobl gartref cynnes, diogel a hwnnw yw'r bloc adeiladu y gallant ei ddefnyddio i ddechrau adeiladu eu bywyd a mynd i'r afael â phroblemau megis camddefnyddio sylweddau ac ati. Oherwydd rydym yn gwybod bod llawer o bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael trafferth cynnal tenantiaeth ddiogel ac mae hynny'n ychwanegu at y math o straen a phwysau sydd ar yr unigolion hynny. Buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn trafodaethau mwy manwl. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar yr enghraifft yn y Ffindir, ac unrhyw enghreifftiau eraill o'r model tai yn gyntaf a lle mae'n gweithio'n dda. Ond i mi, mae'n gwneud synnwyr perffaith.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd.
[Anghlywadwy.]
Felly, croeso. [Chwerthin.] Mae'r adran y byddwch yn ei rhedeg wedi'i had-drefnu braidd—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf. Mae'r adran y byddwch yn ei rhedeg wedi'i hadrefni braidd, yn yr ystyr fod gennych y cyfrifoldebau llywodraeth leol roedd Mark Drakeford yn arfer bod yn gyfrifol amdanynt a'r portffolio cymunedau hefyd, sydd wedi dod o adran wahanol. Felly, mae'n bosibl y bydd yn cymryd ychydig o amser i bawb ohonom ymgynefino â'r hyn sydd, i bob pwrpas, yn bortffolio newydd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: sut y credwch y bydd yr adran newydd hon yn cyflawni'n well mewn perthynas â materion llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar wyf fi i'r Aelod am ei sylwadau caredig iawn—sy'n esiampl i'r holl Aelodau, buaswn yn ei ddweud?
Lywydd, mae'r portffolio sydd gennyf yn awr yn cyfuno nifer o swyddogaethau, fel yr amlinellodd yr Aelod. Rwy'n gobeithio y byddwn, drwy gyfuno cyfrifoldeb dros lywodraeth leol a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad, yn gallu dilyn rhaglen i gynnal a chefnogi rhagoriaeth ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus, gan ddiogelu ac amddiffyn y bobl sy'n eu darparu a sicrhau bod y bobl y mae pawb ohonom yn eu gwasanaethu, ar bob ochr i'r Siambr, yn cael y gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl y gallwn eu darparu.
Rydych hefyd yn dod â'ch gwaith o'ch rôl flaenorol o ddarparu rhaglen tasglu'r Cymoedd gyda chi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn am hynny heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol ein bod wedi bod yn sôn llawer am hyn oherwydd mae'n bosibl ei fod yn bwnc—dros y 18 mis diwethaf, mae'n debyg nad ydym wedi clywed digon am fecanwaith y modd y bydd yn gweithio. Felly, credaf fod angen i ni edrych arno.
Un elfen y mae gennyf ddiddordeb ynddi yw'r mater ailhyfforddi. Rydym yn byw, y dyddiau hyn, mewn marchnad lafur gymharol hyblyg. Os yw pobl yn gadael eu swyddi am ba reswm bynnag, mae'n bosibl y bydd angen eu hailhyfforddi ar gyfer sector neu waith arall, ac felly mae sgiliau'n fater allweddol, fel rydych wedi'i gydnabod yn y gorffennol. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn gwella ailhyfforddi ac uwchsgilio, a pha fath o ryngweithio y byddwch yn ei wneud yma gyda'r Gweinidog sgiliau, Eluned Morgan?
Roedd y cyn-Weinidog sgiliau, sydd bellach yn arweinydd y tŷ, yn arfer bod, ac mae'n parhau i fod, yn aelod o'r tasglu, ac yn ein cyfarfod tasglu yfory ym Mhont-y-pŵl, byddwn yn gwahodd y Gweinidog sgiliau newydd i ymuno â'r tasglu hefyd. Felly, bydd gennym gysylltiadau strwythurol ar draws pob un o'r adrannau hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Aelod o'r angen am sgiliau. Rwy'n aelod o'r grŵp cyflogadwyedd gweinidogol, a byddwn yn sicrhau y bydd yr union raglen sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd yn bodloni'r amcanion a amlinellwyd gan yr Aelod.
Diolch am eich ateb. Rwy'n gobeithio y bydd yna ddull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.
Nawr, mae llawer iawn o bobl ifanc y dyddiau hyn yn mynd i'r brifysgol neu i'r coleg, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod. Ond efallai nad dyma'r llwybr gorau i bawb, ac yn wir, efallai bod nifer sylweddol o bobl ifanc nad ydynt eisiau mynd i'r coleg ac efallai y buasai'n well ganddynt gael hyfforddiant yn y gwaith yn unig. A yw'r dull hwn yn rhan o'ch syniadau mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd a'r rhannau perthnasol eraill o'ch portffolio?
Ydy. Un o'r meysydd gwaith a ysgogwyd gan y cyn-Weinidog sgiliau, ac arweinydd y tŷ bellach, sydd yn ei sedd heddiw, yw bwrw ymlaen â rhaglen gyflogadwyedd a rhaglen brentisiaeth i bobl o bob oed a fydd yn darparu sgiliau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol ac nad ydynt ar gael, o bosibl, yn y gweithlu ar hyn o bryd. Bydd hynny'n parhau i fod yr un mor bwysig yn y Cymoedd ag ydyw mewn mannau eraill. Gall sut y byddwn yn darparu'r rhaglen honno yn y Cymoedd, wrth gwrs, fod yn wahanol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.
Wrth ateb y cwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, ceisiais amlinellu bod gennym nifer o dargedau gwahanol a fydd yn ysgogi'r broses o greu 7,000 o swyddi newydd yn y Cymoedd. Byddant yn swyddi a fydd yn galw am lefelau sgiliau nad ydym yn meddu arnynt yn y boblogaeth ar hyn o bryd o bosibl, a byddwn yn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r union sgiliau hynny ar gyfer y dyfodol.