– Senedd Cymru am 3:50 pm ar 31 Ionawr 2018.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gontractau preswyl lesddaliad. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6626 Mick Antoniw, David Melding, David Rees, Siân Gwenllian
Cefnogwyd gan Mike Hedges, Julie Morgan, Jenny Rathbone, Russell George, Jane Hutt, Darren Millar, Simon Thomas, Jayne Bryant, Janet Finch-Saunders, Lynne Neagle, Joyce Watson, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a
a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a
b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.
2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r nifer o Aelodau sydd wedi cefnogi'r ddadl hon heddiw. Adlewyrcha'r lefel o ymgysylltiad trawsbleidiol y sylw cynyddol gan y cyhoedd a'r cyfryngau i fater sy'n effeithio ar bob un o'r 200,000 amcangyfrifedig o berchnogion eiddo lesddaliad ym mhob rhan o Gymru. Mae ein dadl yma heddiw, y camau a gymerwyd eisoes yn yr Alban, a'r cynigion a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn awgrymu i mi fod hon yn ddadl ddifrifol a'i bod yn hen bryd cael adolygiad egwyddorion cyntaf o gontractau lesddaliad—mae ar ei hôl hi o oddeutu 10 canrif mewn gwirionedd.
Mae lesddaliad yn grair o'r unfed ganrif ar ddeg ar adeg pan oedd tir yn golygu pŵer, ac yn anffodus mae hynny'n dal i fod yn wir. I dirfeddiannwr heddiw, mae lesddaliad yn golygu sicrhau'r incwm mwyaf posibl a chadw rheolaeth dros y tir y maent yn berchen arno. Ond i'r lesddeiliad mae'n golygu'r gwrthwyneb yn llwyr: costau direolaeth a diffyg rheolaeth ar yr hyn y gallant ei wneud i'r eiddo y maent yn berchen arno. Pan ddeddfodd Llywodraeth yr Alban i ddileu deiliadaeth ffiwdal, roeddent yn llygad eu lle o ran cywair y ddeddfwriaeth. Fel llawer o Aelodau, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n dweud mai'r achos sylfaenol yw annhegwch cynhenid, cymhlethdod a natur hen ffasiwn contractau lesddaliad. Mae cwynion am renti tir cynyddol, pobl yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain, a gwerthoedd eiddo sy'n gostwng fwyfwy flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i'r brydles sy'n weddill leihau yn gyffredin.
Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, cynhaliais arolwg Facebook a gwelais nad oedd y materion hyn yn ddim ond cyfran fach iawn o broblem enfawr a chymhleth. Dywedodd un etholwr wrthyf fod ei brydles wedi'i gwerthu ddwywaith o fewn cyfnod o 12 mis, gan arwain at ddau hawliad ar wahân am rent tir. Bu'n rhaid iddo fynd i'r llys i ddatrys y mater. Dywedodd un arall wrthyf, ar ôl i'r cwmni prydlesu fynd i'r wal, fod y cwmni newydd wedi cynyddu rhent tir 100 y cant dros nos. Dywedodd un arall fod ei landlord wedi prisio ei phrydles ar dair gwaith gwerth ei chartref pan geisiodd brynu ei rhydd-ddaliad. Soniodd eraill am werthiannau tai a gollwyd o ganlyniad i gymhlethdodau gyda'r lesddaliad, yr angen i gael caniatâd i wneud yr atgyweiriadau mwyaf sylfaenol, a chodi tâl am waith cynnal a chadw er na wnaed unrhyw waith. Roedd nifer yn cwyno am ddiffyg gwybodaeth ynghylch lesddaliad yn y man gwerthu, gydag un yn teimlo ei fod wedi'i dwyllo wrth wneud pryniant. Yn y blynyddoedd diwethaf, bu llu o adroddiadau yn y wasg ar draws y sbectrwm am straeon arswyd yn ymwneud â lesddeiliadaeth.
Wrth gwrs, cafwyd nifer o ddiwygiadau i lesddeiliadaeth dros y blynyddoedd, o'r cyfyngiadau ar hawliau landlordiaid i droi tenantiaid allan yn y 1920au, hyd at yr 1960au a'r 1990au, a welodd hawliau newydd i denantiaid i ymestyn lesoedd. Mae grwpiau a sefydliadau diwygio lesddeiliadaeth sy'n gweithio gyda'r sector, megis y Gymdeithas Drawsgludo, wedi beirniadu gwendid Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 am fethu rhoi amddiffyniad i berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi wrth brynu, gwerthu neu hyd yn oed wella eu cartref. Nid yw'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn wedi datrys y broblem ac mae'n rhyfeddol sut roedd y materion sydd mor gyffredin heddiw yn bodoli 20, 40, 60 mlynedd yn ôl. Fel y dywedodd un Aelod Seneddol Cymreig wrth y Senedd:
Pan fo lesddeiliaid yn ceisio naill ai adnewyddu eu prydles, neu brynu rhydd-ddaliad eu cartref, cânt eu dal am bridwerth. Mae lesddeiliaid yn hollol ddiamddiffyn gerbron landlord y tir.
Oherwydd proffidioldeb y system lesddaliadol, mae corfforaethau cyllid wedi prynu cyfran llawer o landlordiaid tir mawr.
Araith oedd honno a wnaed i'r Senedd yn 1961. Nawr, mae problemau newydd yn dod i'r amlwg. Dywedir bod rhai benthycwyr yn gwrthod morgeisi ar eiddo lesddaliadol, gan wneud y tai yn ddiwerth i bob pwrpas. Mae gwerthoedd tai wedi erydu oherwydd rhenti tir cynyddol, costau tribiwnlys a rhenti tir yn cael eu gwerthu fel nwyddau ar y marchnadoedd arian.
Codwyd £140 ar un o fy etholwyr fel ffi asesu pan geisiodd brynu ei lesddaliad. Fe'i syfrdanwyd wrth glywed y byddai ei rydd-ddaliad yn costio £13,000 iddo. Cyflogodd gyfreithiwr, ar gost bellach o £420, a lwyddodd wedyn i negodi'r ffi i lawr i £8,000. Felly, mae'n gwneud synnwyr fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i gefnogi diwygio cyfreithiol. Hefyd, mae cymhlethdod contractau lesddaliad gydag elfennau o gyfraith contract a chyfraith eiddo yn cydblethu yn rhoi perchennog cartref dan anfantais ar unwaith mewn anghydfodau ynghylch rhenti tir. Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd ei ddisgrifio gan un Aelod Seneddol fel hyn:
Mae 'rhenti tir beichus' y dyddiau hyn yn deillio yn ôl pob tebyg o ymddygiad afresymol un sector o gymdeithas sydd â gwell gwybodaeth... ar draul rhan o gymdeithas nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd.
Ym mis Ebrill y llynedd, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio lesddeiliadaeth am wahardd tai lesddaliadol a rhoi diwedd ar renti tir beichus. Yna, mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, becyn o fesurau i leihau arferion lesddaliadol yn Lloegr, gan gynnwys deddfwriaeth i wahardd lesddaliadau newydd. Dywedodd:
Mae'n glir fod llawer gormod o dai newydd yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu fel lesddaliadau, gan gamfanteisio ar brynwyr tai gyda chytundebau annheg a rhenti tir sy'n codi fwyfwy. Digon yw digon. Mae'r arferion hyn yn anghyfiawn, yn ddiangen ac mae angen rhoi diwedd arnynt.
Felly, mae'r rhain hefyd yn eiriau calonogol, ond hyd yma, nid oes unrhyw arwydd o unrhyw ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, bydd Bil Aelod preifat sy'n aros am ei ail ddarlleniad yn San Steffan y mis nesaf yn argymell diwygio rheoleiddiol pellach.
Yng Nghymru, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2017 yn gwneud ein bwriadau'n glir ac yn dynodi bod Llafur yn barod i gyflwyno amddiffyniad i lesddeiliaid presennol, gan ddweud:
'Byddwn yn cefnogi'r rheiny sy'n berchen ar eu cartrefi, gan gynnwys... lesddeiliaid ac nad ydynt wedi'u gwarchod ar hyn o bryd rhag cynnydd mewn rhenti tir... Bydd Llywodraeth Lafur yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid rhag rhenti tir twyllodrus ac yn rhoi terfyn ar y defnydd arferol o dai lesddaliadol mewn datblygiadau newydd.'
Felly, rwy'n croesawu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru 2012, 'Cartrefi i Gymru', sy'n ymrwymo i weithio gyda'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau i gasglu tystiolaeth ar raddfa, maint a natur problemau lesddaliadol i lywio camau gweithredu pellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa gamau a argymhellir o ganlyniad, a pha gamau pellach y gellid eu hystyried o ganlyniad i'r ddadl hon.
Mae gwaharddiad ar dai lesddaliadol a adeiladir o'r newydd yn gam cyntaf amlwg ac angenrheidiol. Yn 2016, roedd 22 y cant o holl drafodion eiddo adeiladau newydd yng Nghymru yn drafodion lesddaliadol, ac rwy'n cydnabod y gwahaniaeth rhwng cartrefi a adeiladir o'r newydd a materion yn ymwneud â fflatiau a rhandai, sy'n fater llawer mwy cymhleth, ond un lle y ceir problemau sylweddol o hyd o ran cyfunddaliadau a lesddaliadau.
Wrth ymateb i ddadl yn Neuadd Westminster ym mis Rhagfyr 2017, dywedodd y Gweinidog tai ar y pryd, Sharma Alok AS
Mae pa un a yw Cymru'n diddymu lesddeiliadaeth yn fater wedi'i ddatganoli.
Felly, yn wahanol i'r unfed ganrif ar bymtheg, mae ein cymdeithas yn rhoi gwerth ar berchentyaeth—mae wedi cael ei annog yn gadarnhaol gan lywodraethau o bob lliw. Rydym i gyd yn deall bod hyn yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dyheu amdano. Felly, mae bodolaeth, ailymddangosiad a thwf lesddeiliadaeth yn bla ar gymdeithas yn fy marn i. Mae'n destun cywilydd fod y modd hwn o gamfanteisio ar berchnogion cartrefi gan dirfeddianwyr ffiwdal yn parhau i fodoli, ac mae'n rhaid rhoi diwedd arno.
Felly, galwaf am dri pheth: camau brys dros dro i gyfyngu ar adeiladau lesddaliadol newydd yng Nghymru, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth frys i wahardd unrhyw adeiladu tai pellach sy'n seiliedig ar lesddeiliadaeth, ac rwy'n galw am ymchwiliad i bob math o lesddeiliadaeth sy'n bodoli eisoes, gyda golwg ar ddiwygio'r gyfraith i'w gwneud hi'n bosibl rhoi diwedd ar y system gymhleth ac anghyfiawn hon. Diolch i chi.
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddadl hon. Dengys ffigurau'r Gofrestrfa Tir fod 43 y cant o'r holl adeiladau newydd a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2015 yn lesddaliadau, o gymharu â 22 y cant yn unig yn 1996. Gwyddom fod gan Gymru oddeutu 200,000 o gartrefi lesddaliadol, gyda mannau penodol lle y ceir lefelau sylweddol o adeiladau newydd yn cael eu gwerthu dan gontractau lesddaliadol. Yn wir, yn 2016, fy etholaeth i, sef Aberconwy, oedd â'r gyfran uchaf o drafodion tai lesddaliadol a adeiladwyd o'r newydd fel cyfran o'r holl dai a adeiladwyd o'r newydd a werthwyd, sef 77 y cant, ac mae hynny'n 48—dyna 48—o'r 62 o dai a adeiladwyd o'r newydd a werthwyd yn 2016. Yn ogystal, roedd 11.5 y cant—unwaith eto, yr uchaf yng Nghymru yn awr—o'r holl dai a werthwyd yn Aberconwy yn 2016 yn lesddaliadau, ynghyd â 27 y cant o'r holl drafodion eiddo. Felly, mewn gwirionedd mae'n bedwerydd uchaf.
Nawr, wrth gwrs, gall perchnogaeth lesddaliadol synhwyro pryd y caiff ei ddefnyddio ar gyfer fflatiau unigol mewn datblygiadau mwy o faint. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod llawer gormod o dai newydd bellach yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu yn y modd hwn, yn aml heb esboniad clir o'r costau a'r goblygiadau i'r prynwr. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych ei fod yn gryn sgandal pan ddaeth yn amlwg yn Aberconwy. Cafwyd stori yn y papur newydd ac roedd pobl yn dod ataf. Nid oeddent yn gwybod fod ganddynt lesddaliad ar eu heiddo mewn gwirionedd, a chafodd rhai ohonynt gynnig i'w prynu am £3,000, ond hyd yn oed wedyn, prynu'r rhydd-ddaliad ar eu heiddo'n unig a wnaent; nid oedd y tir yn cael ei gynnwys yn y trafodiad ei hun. Felly, mae yna sawl agwedd ar hyn.
Gall camfanteisio posibl o'r fath—a dyna ydyw—olygu bod prynwyr cartrefi yn gorfod ysgwyddo baich cytundebau annheg a rhenti tir cynyddol. Pe bawn yn prynu eiddo, gwn y buaswn yn awyddus i wybod fy mod yn berchen ar y tir y safwn arno pe bawn yn ei brynu, a'i fod yn rhydd-ddaliad—mai fi fyddai'n berchen arno. Mae cychwyn trafodiad, mynd drwy'r broses gyfreithiol, mynd drwy'r holl chwiliadau lleol a phopeth, a darganfod wedyn, flynyddoedd yn ddiweddarach mewn rhai achosion, nad ydych yn berchen ar y—[Torri ar draws.] Iawn.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych chi felly yn cytuno ei bod yn ddyletswydd ar y cyfreithwyr sy'n gweithredu, fel arfer wedi'u henwebu gan ddatblygwr, i sicrhau bod y prynwr yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau lesddaliad mewn gwirionedd?
Dyna chi newydd ei ddweud: mae'r cyfreithwyr yn aml, os mynnwch—. Anogir pobl wrth brynu eiddo i ddefnyddio cyfreithiwr penodol, felly mae'n golygu nad yw ein cyfreithwyr lleol ein hunain yn yr ardal yn cael eu cynnwys, os ydynt yn ddatblygwr mawr. Ac mae'n ddyletswydd mewn unrhyw drafodiad cyfreithiol, mewn trawsgludo o unrhyw fath—rwy'n credu na ddylai pobl fod yn mynd i sefyllfa lle y cânt eu dallu drwy beidio â gwybod nad ydynt yn prynu'r rhydd-ddaliad ei hun.
Mae'r posibilrwydd o gamfanteisio yn golygu bod prynwyr tai yn cael eu llesteirio gan gytundebau annheg a rhenti tir cynyddol. Awgrymodd ymchwil Direct Line for Business yn 2016 fod y rhent tir blynyddol cyfartalog yn £371 ar gyfer adeiladau newydd a £327 ar gyfer eiddo hŷn. Ac fel rwy'n dweud, o ran prynu'r lesddaliad, ychydig iawn o amser a roddwyd i'r bobl hyn i brynu eu rhydd-ddaliad, a phan ddaeth yr amser hwnnw i ben, cawsant rybudd y gallai'r gost godi. Am bryder yw hynny i rywun sy'n credu eu bod wedi prynu eu cartref eu hunain.
Mae'r arferion hyn yn anghyfiawn, yn ddiangen ac mae angen rhoi diwedd arnynt, ac roeddwn wrth fy modd pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Sajid Javid, fesurau newydd i atal arferion annheg, ac ar pryd, fe siaradais gyda ein diweddar gyd-Aelod, Carl Sargeant. A gwn ei fod yn awyddus iawn a dywedodd y byddai'n dychwelyd ataf. Yn anffodus, ni allodd wneud hynny. Ond roedd yn bendant yn mynd i edrych ar hyn a sicrhau rhyw fath o ateb.
Dengys ffigurau diweddar gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau fod 57 y cant o lesddeiliaid y DU yn gyffredinol yn gresynu eu bod wedi prynu eiddo yn y ffordd honno, ac felly mae'r camau hyn gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wahardd gwerthu eiddo lesddaliadol a adeiladir o'r newydd, cyfyngu ar achosion o gamfanteisio ar lesddaliadau a sicrhau gwell amddiffyniad i bobl sy'n rhentu a phrynwyr cartrefi, i'w croesawu'n fawr. Felly, y cyfan y buaswn i'n ei ddweud yw: gadewch inni symud ymlaen i wneud yr un peth yma yng Nghymru. Mae'r bobl sy'n prynu eiddo, ein deiliaid tai yng Nghymru, yn haeddu pob amddiffyniad sydd ar gael ledled y DU. Diolch i chi.
Diolch. Lynne Neagle.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Mae hwn yn fater pwysig ac rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Er bod y cynnig heddiw yn sôn am eiddo a adeiladir o'r newydd, roeddwn am godi mater lesddeiliaid sydd wedi prynu hen dai cyngor neu dai cymdeithasol, ac yna wedi wynebu biliau mawr iawn i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Rwyf wedi gweld faint o straen y gall y mesurau hyn eu hachosi, yn enwedig gan fod rhai o'r biliau yn fy etholaeth wedi bod yn fawr iawn yn wir—rhai mor uchel â £26,000.
Wrth gwrs, mae'n hollol iawn yn dilyn trosglwyddo stoc dai fod Tai Cymunedol Bron Afon, y prif landlord cymdeithasol yn fy etholaeth, wedi gweithio'n galed i wella'r stoc dai gyfan yn ôl safon ansawdd tai Cymru gyfan. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod eu bod wedi etifeddu stoc dai gydag ôl-groniad sylweddol iawn o waith atgyweirio oherwydd y cyfyngiadau benthyca a osodwyd ar awdurdodau lleol mewn perthynas â thai cyngor ers blynyddoedd lawer.
Rwyf wedi lleisio pryderon am lesddeiliaid wrth Weinidogion tai olynol dros flynyddoedd lawer, ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i Lesley Griffiths am y diddordeb a'r pryder y mae hi wedi'i ddangos ynghylch y mater hwn a'i pharodrwydd i wrando ar fy etholwyr yn sôn am yr effaith roedd biliau mawr o'r fath yn ei chael arnynt hwy. Cofiaf yn dda un o fy etholwyr yn dweud wrthyf fi ac wrth Lesley fod pethau wedi cyrraedd pwynt lle roedd hi'n arswydo pan ddôi amlen arall gan ei landlord cymdeithasol rhag ofn ei fod yn cynnwys bil mawr arall.
Nawr, wrth gwrs bod yna heriau wrth fynd i'r afael â biliau mawr i lesddeiliaid, a cheir dadl rymus na ddylid rhoi tenantiaid mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt sybsideiddio gwaith ar gartrefi pobl sydd wedi llwyddo i brynu eu cartref eu hunain, ond rwy'n credu bod rhaid inni wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn. Yn Lloegr, maent wedi pasio rhywbeth o'r enw cyfraith Florrie, sy'n gosod cap ar lefel y ffi y gellid ei chodi ar lesddeiliaid awdurdod lleol, ac mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll wrth Weinidogion yma.
Awgrym arall a wneuthum yw y gallai Gweinidogion ddeddfu i greu cronfa wrth gefn orfodol y bydd yn rhaid i'r holl lesddeiliaid dalu i mewn iddi er mwyn rhannu cost gwaith atgyweirio mawr dros amser. Felly, fel Mick Antoniw, edrychaf ymlaen yn fawr at weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu lesddeiliaid. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i mi lansio canllawiau newydd a gynhyrchwyd ganddynt mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau. Canllawiau oedd y rhain a luniwyd i wneud yn siŵr fod lesddeiliaid sy'n wynebu gwaith mawr yn llwyr ymwybodol o'u hawliau. Ond fel y dywedodd Mick Antoniw, credaf fod taer angen gwneud yn siŵr fod pobl yn cael gwybodaeth cyn camu i sefyllfa lle maent yn dod yn lesddeiliaid, ac mae hynny'n bendant ar goll ar hyn o bryd. Rwyf eto i gyfarfod un o fy etholwyr sy'n wynebu un o'r biliau hyn a oedd yn gwybod beth roeddent yn ei lofnodi mewn gwirionedd wrth iddynt brynu'r eiddo. Felly, buaswn yn awgrymu mai un peth hawdd i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth symud ymlaen yw ceisio gwneud yn siŵr fod pawb sydd am lofnodi trefniant lesddaliadol yn deall yn eglur iawn beth fydd hynny'n ei olygu iddynt hwy yn y dyfodol, a gobeithiaf fod hynny'n rhywbeth—yn ogystal â mesurau eraill a grybwyllwyd—y gall Llywodraeth Cymru edrych arno y dyfodol. Diolch.
Diolch. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Diolch am ddod â’r pwnc yma at sylw’r Cynulliad. Rwy’n falch iawn i fedru cymryd rhan yn y ddadl. Ar y cychwyn, rydw i’n mynd i nodi un enghraifft—un yn unig ond un eithaf dyrys ac un sydd yn dangos y problemau, ac un rydw i’n gyfarwydd iawn â hi yn fy etholaeth i. Rydw i am sôn am floc o fflatiau gafodd ei adeiladu ar gyfer pobl dros 55 oed ac roedd y rhain yn cael eu gwerthu efo prydlesi ynghlwm wrthyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl wnaeth brynu’r fflatiau bellach yn eu 80au a'u 90au. Ar y cychwyn, fe sefydlwyd cymdeithas preswylwyr yn y fflatiau, ond wrth i’r trigolion heneiddio nid oes neb bellach yn derbyn y cyfrifoldeb o fod ar y pwyllgor ac mae’r gymdeithas yma, a oedd yn arfer gweithio ar ran y trigolion, wedi dod i ben.
Tua phedair blynedd yn ôl, fe werthwyd y les i gwmni a oedd yn bell i ffwrdd o fy etholaeth i. Cwmni yn y Channel Isles sydd bellach yn berchen y brydles, ac mae gan y cwmni yma ddwy haen o reolwyr ac mae’n anodd iawn cyfathrebu efo nhw. Mae costau ar gyfer y trigolion wedi cynyddu yn gyflym. Fe gafodd y tu allan i’r bloc fflatiau ei ailaddurno a’r gost oedd dros £100,000. Roedd y gwaith o ansawdd gwael ac mae’r to yn gollwng mewn un fflat. Y cwmni sy’n dal y les—y cwmni yn Ynysoedd y Sianel a’u hasiant—sy’n gwneud y penderfyniadau i gyd ac, wrth gwrs, y trigolion sy’n gorfod talu’r biliau. Mae unrhyw ymgais i herio’r penderfyniadau yn gorfod cael eu gwneud gan unigolion, oherwydd bod y gymdeithas preswylwyr wedi dod i ben. Nid oes rhaid dweud nad ydy eu hymdrechion nhw yn cael llawer o lwyddiant.
Dyna un enghraifft o sut mae prydlesi yn gallu achosi loes fawr, ac mae’r duedd yma i fwy a mwy o ddatblygwyr werthu tai fel rhai ar brydles yn peri pryder cynyddol. Mae rhai prynwyr yn cael prydlesi 999 o flynyddoedd o hyd—amser hir byddai rhywun yn meddwl, sydd, o bosib, yn tawelu eu meddyliau ar gychwyn proses—ond yn darganfod yn nes ymlaen fod prynu’r rhydd-ddaliad yn arswydus o ddrud.
Un trap i’r prynwyr yma ydy’r codiad mewn rhent daear sydd wedi’i guddio ym mhrint mân y prydlesi hir, ac ar y dechrau mae’n edrych yn fforddiadwy, a’r contract yn dweud y bydd y rhent daear yn dyblu bob 10 mlynedd. Mae hynny’n gallu edrych yn eithaf diniwed, wedi’r cyfan mae’r rhan fwyaf o bobl yn symud tŷ bob rhyw saith i 10 mlynedd. Ond i’r cwmni sy’n prynu’r rhydd-ddaliad, mae’r incwm yn werthfawr ac mae dyblu rhywbeth bob 10 mlynedd yn fuan iawn yn ei wneud o yn broffidiol, a chyn hir nid oes modd i’r preswylwyr fforddio’r rhent daear, ac felly mae bron yn amhosib gwerthu’r tŷ gyda chyfreithwyr yn rhybuddio darpar-brynwyr i gadw draw. Felly, mae pobl ifanc, wedi blynyddoedd o dalu rhent, o’r diwedd yn prynu tŷ ac yn darganfod eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn dal yn denantiaid, oherwydd dyna ydy prydleswr yn y pen draw, efo’r holl anfanteision sydd ynghlwm efo hynny.
Rydw i’n mynd i ddefnyddio’r ddadl yma i dynnu sylw at un neu ddau o broblemau eraill sydd wedi dod i’r fei ynghylch datblygiadau tai mwy newydd—gobeithio y gwnewch chi faddau i fi am wneud hyn, a chrwydro ychydig bach oddi ar y pwnc, ond eto, maen nhw’n gysylltiedig. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd y grŵp seneddol amlbleidiol ar ragoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig—teitl hir, cymhleth—adroddiad ar ansawdd tai a oedd wedi cael eu codi o’r newydd ar draws y Deyrnas Gyfunol. Roedd yr adroddiad yma’n ffeindio bod 93 y cant o brynwyr yn sôn am broblemau wrth eu hadeiladwyr, ac o’r rheini, 35 y cant yn sôn am 11 neu fwy o broblemau, a phroblemau ydy’r rhain y mae’r prynwyr yn gorfodi talu amdanynt i’w hunioni—mater, efallai, i ni ei ystyried yn yr un cyd-destun â hyn, felly.
Problem arall ydy’r nifer o stadau tai ar hyd a lled Cymru sydd heb gael eu gorffen. Yr hyn sy’n digwydd yn aml ydy bod datblygwr yn cymryd dros ddegawd o amser o bryd y gwerthwyd y tŷ cyntaf i’r adeg y mae’r tŷ olaf yn cael ei werthu, ac yn y cyfamser bydd y trigolion yn wynebu problemau efo casglu sbwriel, dim cyfleusterau cymdeithasol ar gael ac yn y blaen, ac fel y gwelwn ni mewn dadl wythnos nesaf, ffyrdd heb gael eu mabwysiadu. Mae hyn i gyd cyn dechrau meddwl am faterion eraill cysylltiedig—bancio tir, er enghraifft, lle nad oes yna fwriad o gwbl i ddod â phrosiect i ben, a hefyd diffyg seilwaith cymunedol i’r datblygiadau newydd yma.
Felly, mae nifer o broblemau eraill cysylltiedig, a hyd y gwelaf i, mae yna broblem sylfaenol i'w wynebu fan hyn: ers y chwalfa ariannol 10 mlynedd yn ôl, mae yna lai o gwmnïau yn y farchnad, a rheini’n gwmnïau mawr, ac felly mae yna lai o gystadleuaeth. Mae hyn, yn y pen draw, wrth gwrs, yn niweidio defnyddwyr a hefyd yn rhoi mantais annheg i’r cwmnïau mawr yma pan ddaw hi'n fater o gyllido datblygiadau newydd, cael caniatâd cynllunio, caffael cyhoeddus, ac yn y blaen.
Felly, buaswn i’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y materion yma hefyd pan fyddwch chi yn chwilio am ffyrdd i fynd i’r afael â mater prydlesi, gan fod o’n rhan o gyfres ehangach o bryderon sydd yn deillio o lai o gystadleuaeth yn y sector adeiladu tai. Diolch.
Credaf y byddwch yn cael yr un neges wedi ei hanfon ar draws y Siambr y prynhawn yma gan Aelodau sy'n cynrychioli etholwyr ledled Cymru, oherwydd rydym i gyd yn wynebu problemau tebyg. Fel y mae pawb ohonom yn gwybod, ffurf ar ddeiliadaeth breswyl yw lesddaliad sydd, efallai, yn mynd yn ôl i'r oesoedd ffiwdal, pan ystyrid mai'r tir oedd y lle a'r rhai a oedd yn berchen ar y tir oedd y rhai cryfaf, ond mae wedi'i ddiddymu yn y rhan fwyaf o leoedd o amgylch y byd, ac efallai ei bod hi'n bryd bellach inni roi diwedd arno yma yng Nghymru yn ogystal.
Dechreuodd gwerthu tai fel lesddaliadau fel trefniant anarferol yng ngogledd-orllewin Lloegr ac ymddengys ei fod wedi lledaenu ar draws y DU. Nawr, gadewch i ni—[Anhyglywadwy.]—lesddaliadau. Mae lesddaliadau mewn gwirionedd yn cwmpasu mwy nag un maes. Rydym yn sôn am dai weithiau, ond peidiwch ag anghofio fflatiau, ac mae gennym dai newydd ac mae gennym tai sy'n bodoli eisoes. Felly, ceir cyfuniadau o lesddaliadau, sydd mewn gwirionedd yn ychwanegu at y cymhlethdodau sy'n codi. Byddwn yn sôn am y tri chyfuniad mewn eiliad.
Nawr, i'r rhai sy'n dweud bod tŷ ar brydles yn cael ei werthu am bris is na thŷ rhydd-ddaliadol, am mai fel hynny y byddent yn ei werthu, dangoswyd bod hynny'n anghywir. Ymddengys mai ffordd yw hi o fanteisio ar y sawl sy'n prynu cartref mewn gwirionedd—cael rhywun i feddwl bod derbyn lesddaliad yn ffordd arferol o brynu cartref y dyddiau hyn. Nid yw hynny'n wir, ac nid yw wedi bod yn wir.
Ar adegau, ni châi manylion a chanlyniadau contractau y byddent yn ymrwymo iddynt yn cael eu hesbonio'n llawn iddynt. Ac unwaith eto, mae hynny'n hollbwysig. Yn aml iawn oherwydd y byddai'r datblygwyr yn gwerthu i'r person—. Rwyf wedi bod yno, gyda fy nheulu a fy mhlant, yn gweld y tai hyn ac maent yn dweud, 'Mae gennym gyfreithwyr. Maent yn gwybod sut rydym yn gweithio. Mae'n hawdd iddynt hwy ei wneud.' Wrth gwrs, byddant yn eich annog wedyn i ddefnyddio'u cyfreithwyr hwy gan fod ganddynt gysylltiadau, ond nid ydynt yn dweud wrthych beth yw'r pethau pwysig sy'n cuddio tu ôl i'r manylion, a dyna'r broblem.
Felly, er y gallent ei gyflwyno fel dewis rhatach, nid yw'n amlwg i'r lesddeiliad pa gostau ychwanegol tymor canolig a hirdymor y byddant yn eu hysgwyddo o ganlyniad. Ceir rhai lesoedd sydd â thelerau mwyfwy beichus. Credaf fod Siân Gwenllian wedi nodi hynny, yr hyn a elwir yn ddull Taylor Wimpey—costau'n dyblu dros 10 mlynedd—ac mae hynny'n frawychus, oherwydd weithiau ceir prydlesi 250 mlynedd ac rydych yn siarad am ddyblu 25 o weithiau. Bydd yn enfawr. Mae'n rhywbeth sy'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yma yng Nghymru.
Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud am bethau eraill? O ran adeiladau newydd, mae yna ddau beth: ei wahardd; ei atal. Ond hefyd, y cynlluniau Cymorth i Brynu: peidiwch â helpu i brynu eiddo lesddaliadol. Gwnewch yn siŵr fod datblygwyr yn gwybod, os ydynt am annog pobl i brynu eiddo gydag arian Llywodraeth Cymru, eich bod yn dweud, 'Ar y sail ei fod yn rhydd-ddaliad yn unig, ac nid yn lesddaliad.' Ffordd hawdd a chyflym o ennill. Dyna un agwedd, felly. Yn amlwg, ar ddatblygiadau, peidiwch â gadael iddo ddigwydd; gwaharddwch y peth yn llwyr ar gyfer eiddo newydd.
Ond wedyn mae hynny'n gadael y broblem o eiddo sy'n bodoli eisoes. Beth a wnawn? Oherwydd mae gennyf denantiaid—. Rydym wedi bod yn dda iawn heddiw; nid ydym wedi enwi cwmnïau. Fe wnaf fi eu henwi. Barratt yn fy etholaeth—poblogaidd iawn, yn gwneud llawer o eiddo lesddaliadol ac yn gwerthu eiddo newydd fel lesddaliadau. Mae Persimmon yn un arall. Hefyd, mae gennyf—. Fe gofiwch. Bydd gan yr Aelod dros Lanelli ddiddordeb yn Trinity Estates. Dyna un arall sy'n rhedeg cwmni rheoli fflatiau yn fy ardal. Mae'n rheoli fflatiau yn Llanelli yn ogystal. Dyma gwmnïau sy'n trosglwyddo'r brydles i drydydd partïon heb i'r lesddeiliad wybod. Nid ydynt yn dweud wrth y lesddeiliad eu bod yn ei throsglwyddo. Mae'n mynd ymlaen unwaith, ddwywaith, deirgwaith cyn i rywun ddarganfod mewn gwirionedd pwy sy'n berchen ar y brydles. O ganlyniad, mae'r ffioedd yn codi. Mae'r fflatiau yn Jersey Quay yn fy etholaeth, sy'n cael eu rheoli gan y cwmni—rwyf newydd anghofio ei enw.
Yn Trinity Estates, mae gan y perchnogion hynny broblemau mewn gwirionedd. Mae'n rhaid iddynt roi canran o'r pris gwerthu, os ydynt yn ceisio gwerthu'r fflat, i'r cwmni rheoli. Gall y cwmni rheoli dynnu arian allan o'u cyfrifon fel costau gwasanaeth heb roi rhybudd iddynt. Maent wedi cynyddu eu costau gwasanaeth 33 y cant dros y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn gwbl annerbyniol i bobl. Ni allant werthu eu tai, fel y dywedoch, sy'n golygu na all y bobl sy'n mynd i mewn i'r eiddo symud ymlaen. Maent yn methu symud. Ni allant gamu ymlaen. Ni allant gael swyddi gwahanol hyd yn oed. Ni allant fynd i unman. Felly, rydych yn clymu pobl mewn sefyllfa lle na allant ddod allan ohoni. Rhaid inni gefnogi'r teuluoedd hyn, y bobl ifanc hyn. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn brynwyr tro cyntaf. Rhaid inni eu helpu er mwyn iddynt allu dringo'r ysgol gymdeithasol, ehangu eu bywydau, a gwella.
Mae'n hen bryd dwyn y datblygwyr i gyfrif, mae'n hen bryd dwyn y cwmnïau rheoli i gyfrif, ac mae'n hen bryd yn awr i'r Llywodraeth wneud rhywbeth y mae wedi addo ei wneud. Rwy'n deall y gallai Deddf Cymru gymylu'r dyfroedd ychydig bach am ei bod yn newid o, 'Mae eiddo yn fater a gedwir yn ôl, ond nid tai', ond tai yw hyn. Mae ymhlith y materion pwysicaf ym maes tai—gydag ambarél bach drosto. Felly, rwy'n eithaf siŵr y gallwch ei wneud.
Felly, Weinidog, hoffwn i chi atal y broses hon. Ataliwch ein hetholwyr rhag cael eu dal mewn sefyllfa na allant ddod allan ohoni a sicrhewch nad ydynt yn cael eu—fe ddefnyddiaf y gair—eu blingo gan gwmnïau rheoli, fel y byddant yn gallu fforddio byw yn ogystal â fforddio'u morgeisi. Oherwydd mae gennym sefyllfaoedd lle y cymerir ffi o £500 y mis. Wel, dyna forgais rhywun wedi mynd. Wedi diflannu. Ni allant dalu'r morgais am fod yr arian hwnnw newydd ei gymryd i dalu'r tâl gwasanaeth. Mae'n rhaid iddo stopio. Rhaid inni wneud yn siŵr fod pobl yn cael eu hamddiffyn. Rhaid inni wneud yn siŵr fod y trigolion, y tenantiaid a'r lesddeiliaid yn cael eu hamddiffyn, nid y cwmnïau rheoli.
Diolch i Mick Antoniw a noddwyr eraill y ddadl heddiw. Nid yw mater lesddaliadau a rhydd-ddaliadau yn un newydd yng Nghymru. Nid wyf yn mynd i geisio mynd yr holl ffordd yn ôl i'r unfed ganrif ar ddeg, fel y gwnaeth Mick, ond fe gawsom sefyllfa a gafodd lawer o sylw yn ystod y 1950au pan oedd gan nifer fawr o gartrefi glowyr yng Nghymoedd de Cymru lesddaliadau nad oedd y meddianwyr yn gallu eu prynu. Ar yr adeg honno, roedd gan un cwmni, Western Ground Rent, oddeutu 10,000 o lesddaliadau, ac roedd ymdrechion i ddiwygio'r sefyllfa yn y Senedd ar y pryd, wedi'u harwain gan rywun a ddaeth yn AS lleol i mi yn ddiweddarach, sef George Thomas. Nawr, beth bynnag yw'r enw sydd gan George Thomas y dyddiau hyn, fe gymerodd ran mewn o leiaf un ymgyrch ddefnyddiol, sef yr ymgyrch i ddiwygio lesddaliadau yng Nghymru yn ystod y 1950au a'r 1960au.
Fel y clywsom yn y ddadl heddiw, fodd bynnag, ceir tystiolaeth fod lesddaliadau yn sicr yn dal i fod gyda ni. Fel y nododd Mick Antoniw yn ei sylwadau agoriadol, amcangyfrifir bod oddeutu 200,000 o gartrefi lesddaliadol yng Nghymru, a cheir pryder fod nifer sylweddol o ddatblygiadau adeiladu o'r newydd yn cael eu cynnig i brynwyr gan ddod i mewn i'r farchnad fel lesddaliadau.
Un pwynt a wnaeth Mick oedd ei fod yn cydnabod bod yna wahaniaeth rhwng fflatiau lesddaliadol a thai lesddaliadol, a byddai rhai'n dadlau y gallai fod achos dros i fflatiau fod yn lesddaliadol, gan fod ganddynt fannau cymunedol amlwg a byddant hefyd yn cynnig gwasanaethau cymunedol. Ond er hynny, mae'r lesddeiliaid yn talu costau gwasanaeth am y cyfleusterau hyn, felly pam y dylent gael eu rhwystro rhag bod yn berchen ar eu rhydd-ddaliad eu hunain? Yn achos tai lesddaliadol er hynny, mae'n fwy rhyfedd byth fod adeiladwyr yn ceisio twyllo prynwyr â threfniadau lesddaliadol. Yn yr achosion hyn nid oes unrhyw fannau cymunedol, ni cheir unrhyw gostau gwasanaeth fel y cyfryw, felly mae llai byth o gyfiawnhad dros beidio â chynnig y rhydd-ddaliad.
Yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd datblygiadau newydd lle roedd yr holl dai a oedd ar werth yn lesddaliadau, a dechreuodd Dai Rees enwi rhai o'r cwmnïau sydd wedi datblygu'r trefniadau hynny. Sylwais heddiw ar wefan Darlows fod cymaint â 185 eiddo lesddaliadol yn cael eu cynnig ar hyn o bryd yng Nghaerdydd yn unig.
Problem fawr yw nad yw llawer o brynwyr tro cyntaf wedi cael addysg ariannol o'r math sydd ei angen pan fyddant yn camu i fyd prynu eiddo. Mae hyn yn fethiant ar ran y system addysg, sydd weithiau'n rhy academaidd ei natur ac nid yw'n cynnig digon o berthnasedd ymarferol i fyfyrwyr ysgol. Mae angen inni roi addysg ariannol ystyrlon i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer camu i fyd eiddo, er mai dadl ar gyfer rhywdro eto yw honno.
I ddychwelyd at y pwynt dan sylw heddiw, bydd prynwyr tro cyntaf sy'n awyddus iawn i gamu ar yr ysgol dai a heb wybod fawr ddim, yn aml yn prynu tŷ, er na fydd llawer ohonynt hyd yn oed ddeall y gwahaniaeth rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad. Yna, pan ddaw'n bryd iddynt werthu'r tŷ, gwelant fod gwahaniaeth sylweddol rhwng eu pris marchnad hwy a phris marchnad tai cyfagos lle mae'r deiliaid yn berchen ar y rhydd-ddaliad. Er enghraifft, gwerthodd un o fy etholwyr, sy'n byw yng Nghwm Cynon, ei thŷ yn y pen draw am £110,000 am mai lesddeiliad yn unig oedd hi, tra oedd tai eraill yn yr un stryd yn gwerthu am £140,000. Mae honno'n golled sylweddol, ac nid oedd yr unigolyn dan sylw'n sylweddoli pan brynodd ei heiddo beth oedd lesddaliad hyd yn oed. Felly, dyma un rhan o'r broblem rydym yn ei hwynebu.
Gwnaeth Dai Rees y pwynt y dylem geisio gwneud rhywbeth yn yr achosion hyn i sicrhau bod y cyngor cyfreithiol a roddir i ddarpar brynwyr gan gyfreithwyr yn egluro'r gwahaniaethau hyn rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad. Ond wrth gwrs, cawsom gyfres o becynnau ariannol dros y blynyddoedd lle y rhoddwyd cyngor nad yw'n wir, felly rwy'n ofni, oni bai y ceir rhyw fath o reoliadau ystyrlon, na allwn ddibynnu'n iawn ar reoliadau i sicrhau cyngor da gan gyfreithwyr. Felly, rwy'n credu bod llawer o broblemau'n gysylltiedig â lesddaliadau; efallai'n wir mai deddfwriaeth yw'r unig ffordd ymlaen. Mae mater cymhwysedd cyfreithiol, a grybwyllwyd gan Dai Rees hefyd, yn broblem bosibl, felly rwy'n awyddus i glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny heddiw, a sut y mae'n egluro hynny. Ond mae UKIP yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r cynnig hwn, na ddylai prynwyr tai gael eu twyllo, ac rydym yn hapus felly i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch iawn o gefnogi a chymryd rhan yn y ddadl hon sy'n mynd i'r afael â mater a godwyd gan, ac sy'n effeithio ar fy etholwyr ym Mro Morgannwg. Fel rhan o'r adfywio yn y Barri, mae 3,500 o dai yn cael eu hadeiladu ar y glannau, gyda lefelau sylweddol o gymorth i brynwyr cartrefi, sydd i'w groesawu, drwy gynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae Dai Rees wedi tynnu sylw at hyn: mae prynwyr cartrefi newydd yn cael Cymorth i Brynu, ond maent ar gyfer eiddo lesddaliadol. Wrth gwrs, mae ailddatblygu'r Barri yn drawsnewidiol ac rwy'n ei gefnogi, ond clywais bryderon ynghylch y defnydd o lesddaliadau gan y datblygwyr sy'n adeiladu'r cartrefi hyn. Fe soniais wrth y Gweinidog am y pryderon hyn, ac fe ymatebodd drwy ddweud bod dau o'r datblygwyr, Taylor Wimpey a Barratt, wedi cadarnhau nad ydynt yn gwerthu eiddo ar sail lesddaliadol mwyach oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Mae trydydd datblygwr, Persimmon, hefyd wedi cadarnhau nad ydynt bellach yn cynnig eiddo ar sail lesddaliadol oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Felly, rwy'n monitro hyn ac yn cwestiynu'r pwynt 'cwbl angenrheidiol' o ran maint a math o eiddo.
Roeddwn yn mynd i ofyn y cwestiwn: a gawsoch chi gadarnhad ganddynt ynglŷn â beth y mae 'cwbl angenrheidiol' yn ei olygu?
Dyna'r pwynt rwy'n mynd ar ei drywydd. Ond roedd yn bwysig fy mod yn gallu crybwyll hynny a chael yr ymateb hwnnw gan y Gweinidog. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi datgan eu bod yn gweithio gyda'u haelodau i edrych ar ddewisiadau eraill yn lle lesddaliadau, megis cyfunddaliadau, gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hawl i reoli. Nid wyf yn credu bod hynny wedi'i grybwyll eto y prynhawn yma. Clywais hefyd gan y Gweinidog y byddai'n hoffi gweld rhagor o gwmnïau hawl i reoli yn cael eu sefydlu gan eu bod yn galluogi lesddeiliaid i gymryd rheolaeth dros reoli eu hadeiladau a rhyddhau eu hunain o afael y cwmnïau rheoli nad ydynt yn darparu gwasanaeth proffesiynol a gwerth am arian.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o gwmnïau rheoli dielw sy'n cael eu sefydlu. Yn wir, mae gennym rai enghreifftiau o'r rheini yn fy etholaeth i, ond wrth gwrs, maent yn galw am gryn fedr gwirfoddol a gallu rheoli gwirfoddol.
Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog gan fy mod yn deall hefyd ei bod yn edrych ar reoleiddio cwmnïau rheoli lesddaliadau preswyl fel rhan o'r opsiynau ar gyfer diwygio lesddaliadau yn ehangach. Ond fel y dywedwyd, mae Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio ac cefnogi prynwyr cartrefi, yn enwedig prynwyr ifanc, gyda Cymorth i Brynu, ond mae anfanteision yn y trefniadau lesddaliadol tymor byr a hirdymor sy'n cael eu gosod arnynt. Mae un o fy etholwyr wedi dweud ar ran ei merch yn y sefyllfa hon, 'Mae angen mwy o wybodaeth am gostau cudd lesddaliadau i rybuddio prynwyr ifanc sydd ddim yn ymwybodol o'r peryglon.'
Nododd Mick Antoniw hyn yn eglur iawn wrth gyflwyno'r ddadl hon, yn ei araith agoriadol ar annhegwch cynhenid a chymhlethdod y system lesddaliadau. Gofynnodd i'r Gweinidog am eglurhad ynglŷn â phryd y bydd hi'n gwneud cyhoeddiad ar y mater pwysig hwn—yn unol â'n maniffesto—sy'n rhoi llawer o aelwydydd yng Nghymru dan anfantais. A allai Cymru ddysgu oddi wrth yr Alban ac arwain y ffordd o ran diwygio lesddaliadau?
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Diolch i chi, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl drawsbleidiol hon heddiw. Fel y nododd Mick Antoniw ar ddechrau'r ddadl, mae gan lesddeiliaid hanes hir, ond credaf heddiw fod ein dadl wedi tynnu sylw go iawn at sut, yn ystod y blynyddoedd diweddar, y mae lleiafrif diegwyddor o ddatblygwyr a rhydd-ddeiliaid wedi ceisio gwneud elw o arferion amheus.
Rwy'n credu bod y materion a drafodwyd yn perthyn i dair prif thema: gwerthu cartrefi newydd fel lesddaliadau'n amhriodol; trafferthion pobl y gwerthwyd cartrefi lesddaliadol iddynt ac sy'n dioddef yn sgil arferion gwael; a'r cwestiwn sylfaenol ynglŷn ag a yw lesddaliadau'n dal i fod yn addas at y diben yn y farchnad dai fodern mewn gwirionedd.
Mae'r cynnig penodol hwn yn canolbwyntio ar y cyntaf o'r themâu hyn. Nid yw pob lesddaliad yn amhriodol, wrth gwrs. Mae lesddaliad yn ddeiliadaeth ddilys ar gyfer fflatiau a rhandai, er enghraifft, pan gaiff ei gweithredu'n deg. Mae'n gallu sicrhau bod mannau cymunedol a chynnal a chadw yn cael sylw ar ran yr holl drigolion. Ac os na cheir opsiwn arall addas ar hyn o bryd, mae lle i lesddaliadau yn ein marchnad dai, yn enwedig o ystyried y nifer gynyddol o gartrefi newydd sy'n fflatiau ac yn rhandai. Dyma pam y mae pwynt tri y cynnig yn anodd i ni, er fy mod yn cytuno ag ysbryd y cynnig wrth gwrs.
Mae'r cyfraniadau heddiw unwaith eto wedi tanlinellu bod yna rai allan yno na fydd yn defnyddio lesddaliad yn briodol nac yn ei weithredu'n deg, ac mae'r pryderon, mewn gwirionedd, yn niferus, yn gymhleth ac yn amrywiol, ac rydym wedi clywed cymaint o enghreifftiau ohonynt heddiw. Yn rhy aml, credaf eu bod yn ymwneud â lesddeiliaid yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain neu eu bod yn wynebu taliadau gormodol neu gynyddol, a chlywn hefyd am anawsterau wrth geisio prynu'r rhydd-ddaliadau, neu ymestyn lesoedd, a chlywn hefyd am lesddeiliaid yn teimlo nad ydynt yn cael gwerth am arian neu eu bod yn cael gwasanaeth gwael. Felly, rwyf am gofnodi heddiw fy ymrwymiad i archwilio beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gydnabod eu cymhlethdod a'u natur dechnegol.
Ond gan droi at y cynnig heddiw, rydym oll yn ymwybodol o achosion proffil uchel yn ddiweddar o dai a adeiladir o'r newydd yn cael eu cynnig ar lesddaliad yn hytrach nag ar sail rydd-ddaliadol heb unrhyw gyfiawnhad clir. Mae'r data'n dangos bod y gyfran o dai newydd a werthir fel lesddaliadau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am roi terfyn ar y defnydd amhriodol o lesddaliadau ar gyfer tai a adeiladir o'r newydd yng Nghymru. Ceir nifer fach o resymau cadarn dros werthu tai ar sail lesddaliadol, ac mae'r rhain yn cynnwys gwerthu datblygiadau a adeiladir o'r newydd ar dir sy'n eiddo i gyrff penodol sydd â diddordeb hirdymor yn y tir, megis cyrff prifysgol neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dyna, yn benodol, rydym yn sôn amdano pan fyddwn yn defnyddio'r ymadrodd 'cwbl angenrheidiol'.
Ond y tu hwnt i hyn, ni welaf fawr o reswm dros beidio â chynnig tai i'w gwerthu ar sail rydd-ddaliadol. Ac rwy'n cydnabod yr angen i weithredu ar fyrder, ac ers dod i'r swydd rwyf wedi nodi nifer o welliannau allweddol sydd i gael sylw ar unwaith. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda datblygwyr yng Nghymru drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai ac wedi nodi'n glir mai fy awydd yw cyfyngu ar nifer yr eiddo newydd sy'n cael eu gwerthu fel lesddaliadau ac mai'r hyn a fyddai orau gennyf fyddai gweld lesddaliadau'n gyfyngedig i safleoedd fel fflatiau lle mae strwythur yr adeilad a'r angen i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd mewn mannau cyffredinol yn golygu bod angen gweithredu trefn lesddaliadol. Rwyf am i'r holl adeiladwyr tai sy'n gweithredu yng Nghymru wneud addewid cyhoeddus i beidio â gwerthu tai a adeiladir o'r newydd ar sail lesddaliadol yng Nghymru, ac eithrio yn yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllwyd, a nododd Jane Hutt yn garedig rai o'r datblygwyr sydd eisoes wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Byddaf yn defnyddio'r offer sydd ar gael i mi ar hyn o bryd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog? Ar sail hynny, a wnewch chi hefyd sicrhau bod yr hawl, mewn gwirionedd i—os ydynt yn penderfynu ei werthu, hyd yn oed yn yr amgylchiadau eithriadol hynny, os ydynt yn penderfynu ei werthu, fod y lesddeiliad yn cael y dewis cyntaf i brynu'r rhydd-ddaliad cyn ei werthu i rywun arall?
Dylai'r lesddeiliad bob amser gael y cyfle cyntaf i brynu'r brydles, ond fy mhryder i yw bod pris prydlesi'n aml y tu hwnt i beth y mae'r lesddeiliad yn gallu neu'r hyn y mae perchennog y cartref yn gallu ei dalu am y brydles honno, ac mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ceisio ei archwilio yng nghyd-destun ehangach y ddadl.
Ond rwy'n awyddus iawn i ddefnyddio'r holl arfau sydd at fy nefnydd ar hyn o bryd i atgyfnerthu fy ymrwymiad i'r agenda hon, felly yn fuan byddaf yn cyhoeddi pecyn o fesurau drwy Cymorth i Brynu Cymru i'r perwyl hwn a fy mwriad yw cyflwyno'r mesurau hyn yn gyflym. Mae'r cynlluniau ar gam datblygedig, ac edrychaf ymlaen at rannu manylion pellach ar y rheini'n fuan, ond byddant yn ymateb i rai o'r materion a'r pryderon a glywsom yn ystod y ddadl.
Mae'r ymgysylltiad cynnar gydag adeiladwyr tai ar y cynigion hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rwy'n hyderus y gallwn weithio gyda'r diwydiant yng Nghymru ar hyn. Yn ail, hoffwn wella ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i ddal prydles, ac mae hyn yn ymateb i un o'r prif bryderon a leisiwyd gan Lynne Neagle, ynghyd â Jane Hutt a Gareth Bennett, yn ystod y ddadl. Yn yr achosion hynny lle mae'n iawn i eiddo gael ei werthu fel lesddaliad, megis fflat, er enghraifft, mae'n gwbl hanfodol fod darpar brynwyr yn gwbl gyfarwydd â thelerau'r brydles ac yn gallu herio unrhyw beth anfanteisiol ynddi ar y cychwyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych yn cytuno â mi, er hynny, er y gallai fod yn fater o ymgysylltu â Llywodraeth y DU o ran beth yn union yw ein pwerau datganoledig ar hynny, mai tuag at y cysyniad o gyfunddeiliadaeth y dylem anelu mewn gwirionedd—cyfunddeiliadaeth briodol—a rhoi diwedd pendant ar y cysyniad o lesddeiliadaeth, sydd yn ei hanfod yn ddyfais ar gyfer perchennog eiddo?
Mae cyfunddeiliadaeth yn fodel rwyf wedi bod yn edrych arno, ac rwyf wedi wedi ceisio deall pam nad yw cyfunddeiliadaeth wedi dod yn fwy poblogaidd yn y gorffennol, beth yw'r rhwystrau wedi bod rhag iddo lwyddo o'r blaen, a beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol fel rhan o'r cyd-destun ehangach hwnnw o sut i wella lesddeiliadaeth ac ati, a rhydd-ddeiliadaeth o fewn y sector penodol hwn.
Byddaf yn datblygu deunyddiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant pwrpasol a fydd ar gael i bawb sy'n rhan o'r broses o brynu a gwerthu eiddo, ac mae hynny'n cynnwys lesddeiliaid, gwerthwyr tai, asiantau rheoli, trosgludwyr a rhydd-ddeiliaid, ac rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion sefydlu grŵp gorchwyl amlddisgyblaethol i hwyluso'r gwaith hwn. Hefyd rwy'n bwriadu rhoi cod ymarfer gwirfoddol ar waith i ategu'r mesurau hyn. Bydd hyn yn helpu i wella safonau, hyrwyddo arferion gorau a gwella ymgysylltiad rhwng yr holl bartïon. Bydd hefyd yn pennu disgwyliadau clir ar gyfer lesddeiliaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli a bydd o ddiddordeb arbennig i'r rhai sy'n rheoli neu'n byw mewn cartrefi lle y ceir angen i gydreoli mannau cymunedol a gwaith cynnal a chadw.
Felly, dyma rai o'r pethau rwy'n eu datblygu yn awr, a chredaf y byddant yn cael effaith gynnar a chadarnhaol. Ond rwy'n cydnabod mai rhan o'r darlun yn unig ydynt. Felly, nid wyf yn cilio rhag materion mwy sylfaenol sy'n ymwneud â dyfodol lesddeiliadaeth a dewisiadau eraill a allai fod yn fwy priodol yn y farchnad dai fodern, megis cyfunddeiliadaeth, er enghraifft. Nid wyf yn diystyru'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth ychwaith os yw gwaith gyda'r diwydiant yn methu cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen mor glir. Byddaf yn cael fy mesur, ac yn seilio fy mhenderfyniadau ar dystiolaeth gadarn.
Dyna pam rwyf wedi gofyn i swyddogion gomisiynu ymchwil i ddeall manylion rhai o'r materion mwy cymhleth sy'n ymwneud â breinio a phrynu, gwerthu ac ymestyn lesddaliadau fel y maent yn berthnasol i Gymru. Rwyf wedi gofyn iddynt ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ogystal, ac mae hyn yn ymateb pendant i'r peth olaf y gofynnodd Mick Antoniw amdano yn ei araith ar ddechrau'r ddadl. Dyna hefyd yw'r rheswm pam rwy'n ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith a'u hadolygiad arfaethedig yn y maes hwn, a chredaf y bydd hynny'n helpu i ateb rhai o'r cwestiynau ynghylch cymhwysedd. Oherwydd, wrth gwrs, mae'r ateb yn aml yn dibynnu ar y cwestiwn a ofynnwch o ran cymhwysedd, gan fod cynifer o'r meysydd hyn yn pontio mwy nag un maes cyfrifoldeb. Ond bydd y gwaith Comisiwn y Gyfraith a wnawn yn arbennig o ddiddorol a defnyddiol yn fy marn i.
Rwyf hefyd yn awyddus i weld beth y gallwn ei ddysgu o rannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr, sy'n wynebu heriau tebyg, ond rwy'n awyddus i weld pa wersi y gallwn eu dysgu o'r Alban. Unwaith eto, clywsom ychydig am y dull yno, lle maent wedi mynd i gyfeiriad gwahanol iawn o ran deiliadaeth ar gyfer eiddo sydd â chyfleusterau a rennir. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, na fydd diwygio'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol hyd yn oed yn cynnig llawer i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u trin annheg yn y gorffennol. Dyna pam y gofynnais i swyddogion weithio'n agos gyda LEASE i nodi'r ffordd orau o gynorthwyo lesddeiliaid presennol. Felly, gellir cyflawni'r mesurau y siaradais amdanynt yma heddiw, a'r manylion pellach y byddaf yn eu cyhoeddi'n fuan, yn y tymor byr iawn heb fod angen deddfwriaeth. Nid yw hynny'n golygu fy mod yn diystyru'r angen i ystyried opsiynau deddfwriaethol yn y dyfodol, ond mae'n adlewyrchu fy nymuniad i weithredu'n gyflym lle y gallaf wrth inni wneud y gwaith sylfaenol yn sail i unrhyw ddiwygiadau ehangach.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud bod gwasanaethu yn y pumed Cynulliad yn anrhydedd fawr? Wrth ei gymharu â'r pedwerydd Cynulliad, mae dau beth yn sefyll allan: (1) mae'r Dirprwy Lywydd wedi gwella'n fawr—[Torri ar draws.] Rydym yn ffodus iawn. Ond yn ail, mae'r ffordd y defnyddir y dadleuon hyn wedi dod â dimensiwn newydd a phŵer newydd i'r meinciau cefn. Rwy'n credu bod defnyddio'r ddadl hon i unigolion er mwyn creu cefnogaeth drawsbleidiol i fater sy'n destun pryder go iawn i'r bobl a gynrychiolwn yn wych.
A gaf fi ddechrau felly gyda Mick Antoniw? Ac wrth sôn am faint o lesddeiliaid sydd ar gael—200,000 fan lleiaf—dywedodd ei bod hi'n hen bryd cael adolygiad o'r holl faes hwn, oherwydd yn aml wrth ei wraidd ceir annhegwch difrifol, ac mewn termau hanesyddol cofiadwy iawn, soniodd am yr unfed ganrif ar ddeg a'r siarter perchnogion eiddo. Roedd yn anghytbwys braidd yn yr ystyr fod yna rai ffyrdd o ddefnyddio lesddeiliadaeth, ond yn gyffredinol, mae'r ffordd y mae wedi cael adfywiad yn ddiweddar yn peri gofid gwirioneddol. Fe ddywedoch nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol, Deddf diwygio lesddaliadau 2002, yn addas erbyn hyn o ran beth sydd ei angen bellach.
Galwodd am (1) camau dros dro ar frys—a chredaf fod y Gweinidog wedi ein bodloni i ryw raddau yn hynny o beth—ac yna, yn ail, deddfwriaeth i wahardd lesddaliadau yn y rhan fwyaf o achosion—ceir rhai opsiynau byw cymunedol, megis fflatiau a rhandai, lle y gallai fod gofyn cael lesddaliad o hyd—ond ei wahardd, mewn gwirionedd, yn y rhan fwyaf o achosion yma a chael ein deddfwriaeth ein hunain, ac rwy'n credu bod Jane Hutt wedi adleisio hynny ar y diwedd, gan ddweud, 'Dylem arwain y ffordd o ran diwygio'. Efallai mai dyna'r syniad mawr na ddylech ei ddiystyru ar y cam hwn, Weinidog, ac rwy'n falch eich bod yn mynd i siarad â Chomisiwn y Gyfraith ynglŷn â hyn.
Yna dywedodd Mick fod angen archwilio'r arfer ar gyfer lesddeiliaid presennol. Unwaith eto, credaf fod y Gweinidog wedi nodi bod hynny'n fater o bwys gwirioneddol. Felly, yn gyffredinol rwy'n credu eich bod wedi dechrau lle yr aeth yr Aelodau eraill â ni wedyn mewn mwy o fanylder, ac yna, rwy'n credu bod y Gweinodog wedi ymateb yn fras i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau.
Soniodd Janet Finch-Saunders am y camau, neu'r bwriadau, a fynegwyd gan Lywodraeth y DU, a cheir yr holl fater hwn ynghylch faint o bŵer sydd gennym mewn perthynas â Deddf Cymru, ond credaf y dylem yn sicr geisio gweithredu'n gyflym. Nid oes angen inni ddilyn Llywodraeth y DU, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynigion deddfwriaethol ei hun eto mewn gwirionedd, er y gobeithiaf eu gweld yn fuan. Soniodd Janet am y ffenomen newydd hon o lesddaliadau'n cael eu defnyddio ar gyfer adeiladu o'r newydd, a oedd yn rhan ganolog o'r ddadl. Soniodd hefyd, pan fo hynny'n digwydd, am y diffyg gwybodaeth i brynwyr cartrefi—prynwyr tro cyntaf yn aml, teuluoedd ifanc efallai, heb sylweddoli'n iawn beth yw goblygiadau lesddaliad a beth y byddai'n ei olygu.
Soniodd Lynne Neagle am fater ychydig yn wahanol—a chredaf ei fod yn hynod o bwysig, mewn gwirionedd—sef y rhai sydd wedi prynu tai cymdeithasol, neu'r hyn a oedd yn dai cymdeithasol yn y gorffennol, ac sydd â lesddaliad gydag ymrwymiad eithaf cryf o ran cynnal a chadw, a lle mae'r bobl hyn wedyn yn wynebu taliadau cynnal a chadw sylweddol. Credaf ein bod ni i gyd wedi cael gwaith achos lle y gwnaed gwaith adnewyddu allanol helaeth ar flociau o fflatiau, gan ddefnyddio sgaffaldiau, ffenestri newydd ac atgyweirio toeau—drud eithriadol. Rwy'n credu bod bobl hyn yn aml yn grŵp go agored i niwed, ac fe wnaethoch awgrymiadau diddorol yn hynny o beth, ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi clywed, megis y cap ar ffioedd.
Yna siaradodd Siân Gwenllian am fflatiau i bobl wedi ymddeol a'r hyn sy'n digwydd pan na fydd eich cymdeithas breswylwyr mor weithgar neu'n cael ei dirwyn i ben oherwydd nad oes gennych y bobl allweddol sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â'r gwaith, ac arferion rhai cwmnïau rheoli i ddefnyddio'r eiddo fel ffordd o gael incwm allan o bobl. Credaf fod hwnnw'n bryder go iawn sydd gan lawer ohonom ac rydym wedi gweld y problemau—mae cwmnïau cynnal a chadw heb fawr o gymhelliant wedi arwain at sefyllfa wael iawn i'r tenantiaid hynny.
Cawsom ein hatgoffa wedyn gan David Rees nad yw hon yn ffordd gyffredin o drefnu perchnogaeth tir o amgylch y byd. Yn anffodus, ymddengys ein bod yn gaeth mewn arfer braidd yn ffiwdal. Fe ddywedoch—roeddwn yn meddwl bod hyn yn ddiddorol, oherwydd rwyf innau wedi'i glywed hefyd—nad oes llawer o wahaniaeth yn y pris pan fyddwch yn prynu cartref newydd ar rydd-ddaliad neu lesddaliad. Credaf fod hynny'n wirioneddol ddiddorol, oherwydd clywais am ddatblygiad yn ne-ddwyrain Cymru lle y newidiodd y datblygwr ei bolisi hanner ffordd drwy'r gwaith. Ni newidiodd prisiau'r tai, ond mae'r rhai a brynodd yn gynnar yn y datblygiad bellach yn wynebu taliadau ychwanegol i gael eu rhydd-ddaliad o tua £3,000 ar gyfartaledd. Nawr, os ydych chi'n brynwr tro cyntaf, yn deulu ifanc, sy'n sydyn yn wynebu bil o £3,000 i gael eich rhydd-ddaliad—rwy'n credu bod yna broblem go iawn.
Soniodd Gareth Bennett am y 1950au a'r 1960au. Fe gofiwch y trafodaethau a oedd hyd yn oed yn ddiweddarach, yn y 1970au a'r 1980au, pan oedd diwygio lesddaliadau wedi dechrau go iawn, ond roedd ychydig mwy o broblemau yn dal i ymddangos. Ond roedd yna broblem go iawn yng Nghymru yn y 1950au, ac mae wedi dychwelyd bellach, felly credaf fod arnom ddyletswydd i'n hetholwyr i chwilio am yr arferion gorau a'u sefydlu unwaith ac am byth. Ac unwaith eto, fe sonioch fod prynwyr tro cyntaf yn arbennig o agored i niwed.
Yna, yn olaf, soniodd Jane Hutt am y datblygiad ar y glannau yn y Barri. Mae'n ddatblygiad pwysig ac mae'n nodweddiadol o rai o'r datblygiadau mwy cyffrous sydd wedi digwydd yn ystod y degawd neu ddau ddiwethaf. Yno, mae Cymorth i Brynu wedi cael ei ddefnyddio'n aml hyd yn oed pan y ceir lesddeiliadaeth. Dywedodd David Rees fod hwnnw'n un peth y gallem ei newid, ac rwy'n credu mewn gwirionedd, os anfonwn neges o'r fath, fe welech y datblygwyr yn newid eu polisi—byddai'r rhai nad ydynt wedi ymrwymo i'ch arferion gorau eto yn newid yn fuan. Dyna rywbeth y dylem ei wneud.
Ac yn olaf, hoffwn orffen gyda'r hyn a ddywedodd Jane Hutt—y dylai Cymru arwain y ffordd, y dylem ddiwygio. Clywsom yr hyn a ddywedodd y Gweinidog. Nid wyf yn hollol siŵr y gellir gwneud popeth heb ddeddfwriaeth. Credaf y dylem wneud cymaint â phosibl yn gyflym, ond rwy'n credu y bydd angen deddfwriaeth yn ôl pob tebyg. Pan allwn sicrhau ein hunain fod gennym gymhwysedd o dan y Ddeddf Cymru newydd, yn amlwg fe gewch gefnogaeth drawsbleidiol i weithredu, ac i weithredu'n gyflym. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.