– Senedd Cymru am 5:09 pm ar 7 Mawrth 2018.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar y ddeiseb 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru', a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y ddeiseb 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'r deisebydd, Linda Joyce Jones, ac mae ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i'r mater hwn ac i les anifeiliaid yn gyffredinol wedi bod yn glir i'r pwyllgor ei weld. Tystiodd aelodau'r Pwyllgor Deisebau a nifer o Aelodau eraill yn wir i'r ymroddiad hwn yn uniongyrchol pan ddaeth Linda a'i chefnogwyr i'r Senedd i gyflwyno eu deiseb yn ystod mis Ionawr.
Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Linda am gyflwyno'r ddeiseb ac am annog y Cynulliad i ystyried y mater pwysig hwn. Casglwyd cyfanswm o 6,398 o lofnodion ar y ddeiseb. Casglwyd y ddeiseb ar-lein ac ar bapur ac ar draws Cymru a thu hwnt. Yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n peri pryder i lawer o bobl yng Nghymru sy'n gwrthwynebu i anifeiliaid gwyllt gael eu defnyddio at ddibenion adloniant yn y modd hwn. Wrth gwrs, mae'r arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi cael cryn sylw ymhlith y cyhoedd dros nifer o flynyddoedd. Yn wir, bu'r Pwyllgor Deisebau yn y pedwerydd Cynulliad yn ystyried deiseb ar y mater hwn gan RSPCA Cymru, a gwn fod rhai Aelodau yma heddiw wedi cymryd rhan yn y gwaith bryd hynny.
Mewn ymateb i'r ddeiseb honno, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, Rebecca Evans, adolygiad annibynnol o'r dystiolaeth ar les anifeiliaid mewn syrcasau sy'n teithio a syrcasau nad ydynt yn teithio. Cyhoeddwyd yr adroddiad dilynol ym mis Ionawr 2016 a daeth i'r casgliad bod y dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw gofynion lles gorau anifeiliaid gwyllt sy'n gaeth mewn syrcasau sy'n teithio, a nodir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2009, yn cael eu diwallu. Dywedai hefyd nad yw bywyd i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sy'n teithio a sŵau symudol yn fywyd da neu'n fywyd gwerth ei fyw. Mae'r canfyddiadau hyn yn rhoi darlun cryf i ni ac mae'n iawn y dylent arwain at ystyriaeth ddifrifol ynglŷn ag a ddylai syrcasau sy'n teithio barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn y dyfodol.
Fodd bynnag, yn dilyn y gwaith hwn, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â symud ymlaen i wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt. Yn hytrach, ar ddiwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddatblygu system drwyddedu ar gyfer yr holl arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, fel y'u gelwir, gan gynnwys syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau megis anifeiliaid yn ymweld ag ysgolion a gorymdeithiau ceirw yn y gaeaf.
Yna, y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno system drwyddedu o'r fath. Hefyd, roedd yr ymgynghoriad yn holi am farn ynglŷn ag a ddylid gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Yn dilyn yr ymgynghoriad, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i waharddiad er bod ei hadroddiad yn cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu y dylid gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac na ellir gofalu am anifeiliaid gwyllt yn briodol tra'u bod mewn amgylchedd teithiol.
Mae'r deisebydd wedi esbonio bod y ddeiseb bresennol wedi deillio o ymateb i'r penderfyniad i beidio â chael gwaharddiad. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, amlinellodd y deisebydd y sefyllfa gyda syrcasau sy'n ymweld â Chymru. Enwodd dri chwmni sydd wedi ymweld â Chymru yn y blynyddoedd diwethaf, a rhannodd ei phryderon ynghylch gallu awdurdodau lleol ac eraill i archwilio'r amgylchiadau y caiff anifeiliaid eu cadw ynddynt pan fydd syrcasau'n dod i'w hardaloedd. Nododd hefyd fod system drwyddedu ar gyfer syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt wedi bod yn weithredol yn Lloegr ers 2012. Mae hi'n credu bod dogfennau trwyddedu yn dangos bod y model hwn yn gwneud cam ag anifeiliaid, a bod cwmnïau wedi torri amodau eu trwyddedau ar nifer o achlysuron, ac wedi dioddef ataliadau dros dro o ganlyniad.
Mynegodd y deisebydd bryderon pellach ac mae'r rhain yn aml yn cynnwys yr amgylchiadau y cedwir anifeiliaid ynddynt, yn enwedig wrth deithio, ac argaeledd milfeddygon sydd â phrofiad o ofalu am anifeiliaid egsotig, megis camelod, llewod a theigrod—yn ddealladwy, mae hon yn arbenigedd go anarferol yng Nghymru. Ei chasgliad yw bod yr adroddiad annibynnol yn 2016 a chanlyniad ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd yn rhoi tystiolaeth wyddonol a chefnogaeth gyhoeddus i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad. Dywedodd wrthym hefyd fod gwaharddiad ar yr arfer hwn bellach naill ai ar waith neu wedi'i gynllunio mewn oddeutu 35 o wledydd eraill, gan gynnwys yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Yn fwyaf diweddar, roedd Llywodraeth y DU hefyd yn ymddangos fel pe bai'n rhoi mwy o ystyriaeth i roi terfyn ar yr arfer hwn.
Mewn ymateb i lythyr gwreiddiol gan y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig nad oedd hi wedi diystyru'r posibilrwydd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar y cyd ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, yn dilyn hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Chwefror, a gyhoeddodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae'n ymddangos bod yr argymhellion hyn ar gam cynnar a hyd yma, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am gwmpas y gwaith ac amserlenni ar gyfer y dyfodol. Mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu darparu rhagor o fanylion am ei syniadau a'i bwriadau yn ystod ei hateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Hoffwn nodi yma fod yr RSPCA yn argymell defnyddio'r pwerau o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 fel dull o weithredu gwaharddiad. Fe'u defnyddiwyd llwyddiannus yn 2010 i wahardd coleri sioc drydanol, a defnyddiwyd dull tebyg gan Lywodraeth Iwerddon i sicrhau gwaharddiad ar syrcasau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae mantais ychwanegol i'r ddeddf hefyd o'i bod yn arbed ar gost dyrannu amser gwerthfawr y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth newydd.
Serch hynny, rwy'n deall bod y cyhoeddiad wedi'i groesawu gan Linda Jones a'r rhai a lofnododd ei deiseb. Er nad dyma ddiwedd y stori, ac rwy'n siŵr y bydd safbwyntiau pellach yn parhau i gael eu gwyntyllu, credaf ei bod yn iawn inni gydnabod y camau sylweddol a gyflawnwyd eisoes gan Linda ac aelodau eraill yr ymgyrch. Credaf hefyd fod hon yn enghraifft o bŵer posibl deisebau, a chryfder y prosesau sy'n bodoli yn y Cynulliad hwn i aelodau o'r cyhoedd allu dwyn materion i sylw'r Cynulliad a Gweinidogion. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon o ddiddordeb mawr i'r bobl sydd wedi rhoi amser i gyflwyno deiseb ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at wrando ar gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Mae gennyf nifer sylweddol o Aelodau ac felly, rwyf am osod terfynau amser pendant. Felly, pan fydd y cloc yn troi'n goch, peidiwch â gwenu arnaf, oherwydd byddaf yn galw ar y siaradwr nesaf. [Chwerthin.] Paul Davies.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ychwanegu fy enw at yr Aelodau sydd, ers peth amser, wedi bod yn galw am wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl ledled Cymru yn credu bod yr arfer yn hen ffasiwn, yn ddiangen ac yn rhoi lles anifeiliaid sy'n teithio fel rhan o syrcas mewn perygl ac felly, nid wyf yn synnu at lefel y diddordeb cyhoeddus yn y mater penodol hwn. Fel rydym wedi clywed, casglodd y ddeiseb sydd ger ein bron dros 6,000 o lofnodion, a chredaf fod hynny'n rhoi syniad i ni o gryfder y teimlad ar y mater hwn.
Fodd bynnag, gadewch inni gofio nad yw hon yn ymgyrch newydd. Yn wir, mae'n un sydd, yn anffodus, wedi cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd y pwynt critigol hwn, ac er fy mod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau o'r diwedd, mae'n siomedig gweld na ddewisodd Cymru fynd i'r afael â'r mater cyn hyn. Yn wir, ymddengys i mi fod holl fater yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi ei ddadflaenoriaethu a'i ystyried fel mater eilaidd, fel rhan o adolygiad ehangach i edrych ar ffyrdd o gofrestru a thrwyddedu arddangosfeydd symudol o anifeiliaid yn fwy eang. Gadewch inni gofio bod ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, y cyfeiriwyd ato'n gynharach, yn gofyn un cwestiwn yn unig ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ac eto gwyddom o'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw fod bron 900 o ymatebion wedi dod i law ar y cwestiwn hwnnw'n unig, sy'n dangos cryfder y teimladau ar y mater hwn. Felly—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Felly, byddai wedi bod yn gwbl briodol i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ar ei ben ei hun, fel y cafodd ei ystyried yn wreiddiol gan gyn Weinidog yr amgylchedd, ffermio a materion gwledig, yn hytrach na'i wneud yn rhan o ymgynghoriad ehangach ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Ac fe ildiaf i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am ildio. Rwy'n cefnogi'r hyn y mae'n ei ddweud, wrth gwrs, ond a yw'n rhannu fy mhryder y caniatawyd i ymgynghoriad ar y cwestiwn ehangach gael ei ddominyddu mewn gwirionedd gan ymgynghorwyr allanol, os mynnwch, a ddaeth â'u hagenda eu hunain, yn hytrach na setlo'r cwestiwn hwn, sef yr un y mae gan y cyhoedd yng Nghymru ddiddordeb ynddo?
Yn sicr, dyna pam, yn amlwg, y dylid bod wedi edrych ar y mater penodol hwn yn annibynnol ar y materion eraill hynny.
Er fy mod eisiau gweld gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ceir nifer o gwestiynau y mae angen eu gofyn o hyd yn sgil datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau gwaharddiad, ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o eglurder ar rai manylion. Er enghraifft, a yw'r gwaharddiad hwn yn cael ei weithredu ar y sail fod yna bryderon ynghylch lles anifeiliaid sy'n teithio? Neu a yw'n cael ei weithredu ar y sail fod yr anifeiliaid hyn yn cael eu gorfodi i berfformio? Os mai'r bwriad yw gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn seiliedig ar les anifeiliaid sy'n teithio, a fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ymestyn y gwaharddiad hwn i gynnwys anifeiliaid eraill sy'n teithio, megis da byw sy'n mynd i sioeau a marchnadoedd? Fodd bynnag, os gweithredir gwaharddiad oherwydd bod yr anifeiliaid yn y syrcasau hyn yn cael eu gorfodi i berfformio, yna ceir cwestiwn ynglŷn â pha mor bell y gallai'r gwaharddiad hwn fynd. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a yw hyn yn cynnwys arddangosiadau o adar neu orymdeithiau ceirw, er enghraifft? Mae angen eglurder ar y materion hyn i gadarnhau beth yn union yw'r sail resymegol dros y gwaharddiad, fel y gall y cyhoedd ddeall yn union beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru.
Erbyn hyn, fel y dywedais yn flaenorol, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi penderfynu ymrwymo i weithredu gwaharddiad, ac rwy'n mawr obeithio, wrth i'r agenda hon fynd rhagddi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar draws y DU, megis Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018, sy'n gwahardd perfformiadau, arddangosiadau ac arddangosfeydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno mor gadarn â phosibl. Felly, buaswn yn ddiolchgar hefyd pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud ar ddadansoddi'r camau a gymerwyd gan wledydd eraill mewn perthynas â'r mater hwn, ac efallai y gall ymrwymo i gyhoeddi datganiad ar y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, fel y gallwn ddilyn cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru.
Wrth gwrs, efallai fod rhywfaint o le i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cyflwyno gwaharddiad ar y cyd, ac rwy'n deall, yn y gorffennol, fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â'u cymheiriaid yn DEFRA i drafod yr union fater hwn. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb heddiw, gadarnhau felly a yw Llywodraeth Cymru'n dal i ystyried y posibilrwydd o waharddiad ar y cyd â Llywodraeth y DU? Ac a all hi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal yn ddiweddar rhyngddi hi a'i swyddogion ar y mater penodol hwn?
Yn olaf, rwyf hefyd yn awyddus i glywed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i orfodi'r gwaharddiad yma yng Nghymru, gan na fydd y gwaharddiad yn llwyddiannus os na chaiff ei orfodi. O ganlyniad i gyflwyno'r gwaharddiad, a fydd Llywodraeth Cymru yn datganoli pwerau gorfodi i lawr i awdurdodau lleol, fel y gallant hwy gyflawni arolygiadau neu archwiliadau ar hap ar unrhyw syrcasau sy'n teithio? Os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod gan awdurdodau lleol yng Nghymru adnoddau i gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol hyn? Dyma'r math o gwestiynau y mae angen eu gofyn, ac felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn darparu mwy o wybodaeth ac eglurder ynglŷn â sut y byddant yn gweithredu gwaharddiad, a beth fydd hynny'n ei olygu yn ymarferol, wrth symud ymlaen.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar yr agenda hon, oherwydd mae'n rhywbeth y mae pob ochr i'r Siambr wedi bod yn awyddus i'w weld ers sawl blwyddyn bellach, ac am fod y cyhoedd wedi ei gwneud yn glir iawn eu bod am weld gwaharddiad. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwybodaeth fwy manwl yn awr ynghylch y gwaharddiad hwn, fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater hwn, a'i bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn effeithlon. Diolch.
Mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Rwyf wedi ceisio gwneud ymdrech yn fy amser yma yn y Cynulliad, ac yn enwedig dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, i dynnu sylw at y materion hyn. Mae hyn yn rhannol oherwydd, yn yr un modd ag y mae'n agos at fy nghalon i, mae hefyd yn agos at galon y mwyafrif llethol o bobl yn y wlad hon. Mae sut rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad o'r hyn ydym fel cymdeithas ac fel gwlad, ac er bod llawer o bobl weithiau'n honni bod yna bethau eraill pwysicach y dylai Llywodraeth ganolbwyntio arnynt, credaf ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio ar anifeiliaid sy'n agored i niwed, a sut rydym yn dangos ein bod yn cefnogi camau i'w diogelu.
Ond rydym yn canolbwyntio mwy ar y mater hwn oherwydd gwaith ymgyrchwyr a'r cyhoedd, a dylai'r ddeiseb gael ei llongyfarch fel enghraifft arall o bobl Cymru'n dangos eu hymroddiad a'u penderfyniad i geisio darparu atebion a mewnbwn i rai o'r cwestiynau hyn a rhoi pwysau arnom ni yma hefyd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian hefyd, a fu'n gweithio'n ddiwyd gyda rhai o'r deisebwyr yma heddiw, a Linda yn benodol, sydd wedi bod yn anfon negeseuon e-bost atom yn rheolaidd er mwyn tynnu sylw at hyn fel mater o bwys yn y Cynulliad.
Mae mater syrcasau yn un nad yw mor gymhleth â hynny yn fy marn i. Fel y mae'r ddeiseb yn ei nodi, mae 74 y cant o'r cyhoedd wedi dangos drwy arolygon barn eu bod yn erbyn cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Maent yn cydnabod yn briodol fod syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt yn hen ffasiwn ac yn niweidiol. Mae 25 o wledydd eisoes wedi gwahardd y defnydd o anifeiliaid byw mewn syrcasau, ac eisoes rydym wedi clywed am waharddiadau yn yr Alban ac mewn mannau eraill yn Ewrop. Yr hyn sy'n peri pryder i mi, fodd bynnag, yw natur araf y cynnydd ar y mater hwn yng Nghymru. Nid wyf eisiau mynd drwy'r amserlenni a amlinellwyd eisoes gan Gadeirydd y Pwyllgor, ond deallaf yn awr mai ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru o hyd yw—ac rwy'n dyfynnu:
'Rwy'n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.'
Os yw'n dal ati i chwilio am gyfleoedd, rwy'n gofidio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar goll. Rwy'n deall fod gennym ddyletswydd i gael deddfwriaeth yn iawn y tro cyntaf, yma yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli y byddai'r cyhoedd yn disgwyl hyn a bod y Llywodraeth eisiau sicrhau bod hynny'n wir, ond nid yw fel pe baem yn gwthio am rywbeth nad yw wedi ei wneud o'r blaen neu lwybr unigryw mewn perthynas â syrcasau, oherwydd mae gwledydd eraill eisoes wedi gwahardd hyn. Mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl. Mae yna bosibilrwydd, tra'n bod mewn limbo, y gallai gweithredwyr syrcasau gyflwyno cais am drwydded a'i chael yma yng Nghymru. Gwyddom eisoes, yn 2015, fod trwydded wedi'i gwrthod i weithredwr syrcas mewn man arall yn y DU, ond ei fod wedi llwyddo i gynnal taith syrcas yng Nghymru, a gallai hynny fod yn niweidiol iawn yn fy marn i. Clywais heddiw hefyd—yn gynharach—gan ymgyrchwyr fod yr un gweithredwr yn cynllunio taith arall, sy'n annhebygol o gael trwydded yn Lloegr, ac mae'n debyg y bydd yn cyflwyno cais am drwydded yng Nghymru'n fuan. Pe bai hynny'n digwydd, byddai'n fethiant a fyddai'n embaras, yn fy marn i, ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'n diffyg cyflymder i weithredu polisi yn y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn amlwg yn gweld teimladau a safbwyntiau'n newid ar les anifeiliaid. Rwyf wedi crybwyll mater cofrestr cam-drin anifeiliaid lawer gwaith, ac mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno bron 0.75 miliwn o lofnodion ar yr agwedd benodol honno'n unig ar y ddadl hon. Rwyf wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ar yr agenda hon, ond rwy'n falch o weld, ar y mater penodol hwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrthod ymgyrchoedd ar unrhyw un o'r materion hyn yn llwyr, a bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud yn glir beth y mae hi'n ei ffafrio.
Rwyf hefyd yn falch fod yna symud o leiaf ar y cwestiynau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a rhai camau ar amryw ohonynt, ond rwy'n pryderu, fel y mae'r ymgyrchwyr, ein bod yn symud yn rhy araf. Mae gwir angen amserlen arnom yn awr i nodi pa bryd y daw'r gwaharddiad hwn i rym fel y gall Cymru arwain yr agenda unwaith eto. Fel gyda llawer o'r dadleuon a gawsom y prynhawn yma, gadewch inni roi Cymru ar y map. Gadewch i Gymru ddangos y ffordd a gwneud yn siŵr fod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn yma yng Nghymru, fel y maent yn cael eu hamddiffyn mewn rhannau eraill o'r byd. Diolch yn fawr iawn.
Rydych yn gwybod pan fo syrcas anifeiliaid yn y dref oherwydd maent yn gosod posteri anghyfreithlon ar draws y gymuned lle rydych yn byw. Ni allwch ei methu. Yn wir, gwn am swyddog cyngor a arferai lenwi cist ei gar â phosteri wedi'u gosod yn anghyfreithlon a dynnwyd ganddo. Ond cyn gynted ag y cânt eu tynnu, caiff eraill eu gosod yn eu lle gan y syrcasau anifeiliaid hyn. Sylwais fod Linda Joyce Jones wedi cyfeirio at hynny yn y ddeiseb mewn gwirionedd. Nid yw'r bobl hyn yn poeni am is-ddeddfau lleol; mae gofyn cael deddf genedlaethol i sicrhau newid.
Ar noson oer a thywyll, noson lawog, ym mis Hydref neu fis Tachwedd 2015, cefais wahoddiad gan etholwr, ac rwy'n falch o weld eu bod yn yr oriel heddiw, i fod yn bresennol mewn protest yn erbyn arddangosfa anifeiliaid o'r enw 'An Evening with Lions and Tigers', yn fy ward gyngor—yr ardal a gynrychiolwn fel cynghorydd. Roeddem yn falch iawn o weld nifer y bobl a ddaeth i brotestio noson ar ôl noson, yn y tywyllwch ac yn y glaw, ac yn troi pobl oddi yno—wel, nid oeddent yn eu troi oddi yno yn gorfforol, ond yn hytrach yn eu perswadio i beidio â mynd i weld y sioe. Roedd y bobl hyn yn cyflwyno dadl resymegol. Roedd ganddynt faneri ac roedd ganddynt ddeisebau, ac roedd ganddynt lenyddiaeth glir iawn yn esbonio pam y teimlent fod y noson gyda'r llewod a'r teigrod yn sioe greulon ac yn un na ddylid ymweld â hi. Roeddem yn falch o weld car ar ôl car yn gadael Tir-y-Berth, ac yn gadael Hengoed, wedi i ni wneud y pwyntiau hyn. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddeiseb hon heddiw. Un o'r pethau na chafodd y sioe honno oedd trwydded gan DEFRA i weithredu yn Lloegr, a sonnir am hynny yn y ddeiseb, ac eto roeddent yn gallu gweithredu yng Nghymru. Felly, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith.
Rwyf wedi darllen adroddiad Dorning, Harris a Pickett, ac mae'n tynnu sylw at lawer o bethau y soniwyd amdanynt eisoes gan yr Aelodau. Ffaith sydd angen ei dweud hefyd yw eu bod wedi rhoi sylw i ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith. Tynnodd fy rhagflaenydd, Jeff Cuthbert, sylw'r Gweinidog ar y pryd at hyn, ac roedd yn eithaf dylanwadol o ran sicrhau bod adroddiad Harris yn cael ei gomisiynu, ond nawr yw'r amser i ddatblygu hyn yn ddeddfwriaeth er mwyn atal y syrcasau hyn rhag teithio drwy Gymru ac achosi niwed i'r anifeiliaid a arddangosir yno.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl bobl a lofnododd y ddeiseb ac a gyflwynodd y ddeiseb ar ran anifeiliaid nad oes ganddynt unrhyw ffordd eu hunain o roi terfyn ar y dioddefaint y mae perchnogion syrcas diegwyddor yn ei orfodi arnynt. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithredu yng ngoleuni'r ddeiseb a'r 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru sydd eisiau gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a bwrw ymlaen â'r gwaharddiad.
Yn 2016, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddent yn edrych ar y system drwyddedu, ac mae hynny'n fy mhoeni'n fawr, ac rwy'n mawr obeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi newid ei meddwl ar hyn. Oherwydd mae'r system drwyddedu ar waith ers peth amser ac eto canfuwyd bod gweithredwyr yn torri amodau'r drwydded. Y pwynt yw bod dioddefaint anifeiliaid yn dal i fod wedi digwydd, ac ni all unrhyw gosb ar ôl y digwyddiad droi amser yn ôl ac atal y gamdriniaeth rhag bod wedi digwydd yn y lle cyntaf. A phan edrychwn ar effeithiolrwydd trwyddedu yng Nghymru, gallwn weld y byddai ei gyflwyno ar gyfer syrcasau yn gwbl ddiwerth. Pan gyflwynodd y Llywodraeth hon drwyddedu ar gyfer ffermydd cŵn bach, roedd yn dirprwyo cyfrifoldeb am orfodi'r drefn i awdurdodau lleol. Gofynnwyd i gynghorau ar hyd a lled Cymru sicrhau cydymffurfiaeth â thrwyddedau, cynghorau a oedd eisoes yn rhy brin o arian i allu gwneud unrhyw beth ystyrlon. Mae problem amgylchiadau erchyll mewn ffermydd cŵn bach yn parhau heb newid fwy nei lai. Nid bai'r awdurdodau lleol yw hyn; mae eu cyllidebau'n gyfyngedig. Bai penderfyniad gwan gan Lywodraeth Cymru ydyw.
Nid yw trwyddedu'n werth dim os nad yw'n cael ei orfodi, ac ar y sail honno, yn hytrach nag atal creulondeb i anifeiliaid, nid yw trwyddedu ond yn rheoleiddio dioddefaint. Mae yna egwyddor gyffredinol yn y fantol yma: sut y gwelwn rôl anifeiliaid yn ein bywydau o ddydd i ddydd? A ydynt yno er mwyn ein difyrrwch a'n hadloniant ni? Os nad ydynt, sut y gall unrhyw un awgrymu unrhyw fath o drwyddedu? Mae trwyddedu syrcas i gadw anifeiliaid gwyllt er adloniant yn unig yn gyfystyr â dweud yn y bôn fod yna lefel o ddioddefaint y credwch ei bod yn gyfiawn i anifail ei dioddef er mwyn i'r gweddill ohonom gael ein diddanu, ac rwy'n ystyried bod hynny'n wrthun.
I gloi, hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth lwyr i'r ddeiseb a'r cynnig, ond rwy'n gofyn i'r Llywodraeth geisio edrych mewn gwirionedd ar weithredu gwaharddiad llwyr ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, nid trwyddedu'n unig, fel y gallwn anfon neges nad oes unrhyw lefel o ddioddefaint anifeiliaid sy'n dderbyniol er ein hadloniant. Diolch.
Fel plentyn yn y 1960au cynnar roeddwn yn ymweld yn rheolaidd â syrcasau, fel y rhan fwyaf o blant, ac roedd yna rywfaint o eironi ar y pryd oherwydd byddech yn arfer cael syrcasau wedi'u noddi gan gwmnïau megis Brooke Bond a chwmnïau eraill fel hynny, ac wrth gwrs byddent oll yn rhoi'r cardiau yr arferech eu cael gyda phacedi o de, sef cardiau bywyd gwyllt, a byddech yn mynd i'r syrcas a byddai gennych yr eironi o fynd i weld yr anifeiliaid mewn cewyll ac ar yr un pryd yn cael y casgliadau gwych hyn o gardiau ynghylch rhyfeddodau anifeiliaid gwyllt. Rwy'n cyfeirio at hynny oherwydd mae'n rhoi syniad o ba mor bell rydym wedi dod o ran parchu anifeiliaid gwyllt a bywyd gwyllt yn well.
Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, ac rwy'n cefnogi deddfwriaeth. Fel rhan o'r ymgynghoriad, pan gafodd ei gynnal, cynhaliais fy ymgynghoriad fy hun ar fy safle Facebook a chefais 71 o aelodau'r cyhoedd i lenwi'r arolwg Facebook. Nifer gymharol fach yw hynny, ond mae'n dal i fod yn nifer arwyddocaol, ac yn dangos bod cefnogaeth gref i gynigion Llywodraeth Cymru, gyda 70 o bobl—dros 98 y cant—yn cytuno â gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth Cymru ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Roeddem hefyd yn gofyn, 'A ydych yn cytuno ag argymhellion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid megis hebogyddiaeth deithiol a mynd ag anifeiliaid anwes egsotig i ysgolion?' Roedd dros 95 y cant ohonynt yn cytuno.
Un sylw arall a wnaed, fodd bynnag, oedd bod pobl i raddau helaeth iawn wedi mynegi barn ar les anifeiliaid—a gresynu nad oedd hela llwynogod wedi'i ddatganoli i Lywodraeth y Cynulliad oherwydd yr angen i gael deddfwriaeth gryfach mewn perthynas â'r gwaharddiad a rhoi diwedd ar hynny, y creulondeb. Credaf fod yn rhaid inni ei weld o fewn y cyd-destun hwnnw o ran lles pob anifail gwyllt a phob anifail.
Ond ar ôl dweud hynny, rwy'n gefnogol, ac rwy'n falch fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno. Rwy'n gobeithio y byddwn yn rhoi camau ar waith, oherwydd mae'r ffordd rydym yn trin anifeiliaid gwyllt a bywyd gwyllt yn gyffredinol yn arwydd, rwy'n credu, o ansawdd y gwareiddiad a'r gymdeithas rydym yn byw ynddynt.
Hoffwn ailadrodd llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes, a diolch i Linda a'r llu o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb: 6,398. Yn sicr mae'n gwneud gwaith y Pwyllgor Deisebau yn berthnasol iawn pan fydd mater gyda'r fath ymgysylltiad â'r cyhoedd wedi digwydd.
Yn 2015, dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a fyddai'n briodol iddi weithredu ar ei phen ei hun i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn perfformiadau syrcas byw. Dyma ni, dair blynedd yn ddiweddarach, yn parhau i fod heb unrhyw rwystrau cyfreithiol presennol i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae'r ddadl hon, felly, yn eithriadol o bwysig ac rwy'n cymeradwyo pawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb.
Mae'r achos o blaid gwaharddiad wedi'i gofnodi'n dda ac yn seiliedig ar dystiolaeth dros nifer o flynyddoedd—gydag arolwg barn YouGov yn dangos bod 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi'r gwaharddiad. Gwyddom na all unrhyw syrcas ddiwallu anghenion unigryw a chymhleth anifeiliaid gwyllt. Yn hollbwysig, mae adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun gan yr Athro Harris yn ategu hyn, gan ddatgan bod tystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw syrcasau teithiol sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt yn bodloni'r gofynion lles a nodir yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006.
Ymhellach, mae'n nodi:
Nid yw bywyd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sŵau teithiol yn “fywyd da” nac yn “fywyd sy’n werth ei fyw".
Yn 2016, dywedodd Ysgrifennydd yr amgylchedd a materion gwledig fod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at system drwyddedu a'u bod bellach wedi addo cyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Wel, yn awr, rwyf yma heddiw ynghylch yr egwyddor o wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae hwnnw'n fater ar wahân, arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Mae'r cymhwysedd i gyflwyno gwaharddiad o dan ddeddfwriaeth sylfaenol wedi bod gan Lywodraeth Cymru ers refferendwm 2011, ac eto nid yw'r pŵer hwn wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: mae gennych y pŵer hwn, mae gennych y ddeddfwriaeth—os gwelwch yn dda, er mwyn yr anifeiliaid, a hefyd er mwyn pawb sy'n teimlo mor gryf am hyn, defnyddiwch y pŵer hwnnw.
O ystyried pa mor bell rydym yn llusgo ar ôl deddfwrfeydd eraill mewn lleoedd fel Bolifia, Bosnia, Paraguay, Periw, Costa Rica a Croatia, yn ogystal â'r Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn nes at adref, mae'n amlwg ei bod hi'n bryd bellach. Mae'r RSPCA wedi tynnu sylw at botensial defnyddio adran 12 o'r Ddeddf Lles Anifeiliaid yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol i ganiatáu i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau'n hawdd i gyflwyno gwaharddiad a fyddai'n weithredol ar unwaith, gan arbed amser ac adnoddau seneddol, a rhai anifeiliaid o bosibl.
Byddai'n ddiddorol gwybod pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddefnyddio'r pwerau hyn yn y ffordd hon. Gwyddom fod y dull hwn wedi'i ddefnyddio yn 2010 i gyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio coleri sioc drydan ar gŵn a chathod yng Nghymru, ac yn fwy diweddar gan Lywodraeth Iwerddon i gyflwyno gwaharddiad syrcas yng Ngweriniaeth Iwerddon. Os yw'n ddigon da iddynt hwy, mae'n rhaid ei fod yn ddigon da i Gymru.
Nododd tystiolaeth a ddarparwyd gan y deisebydd bryderon am anafiadau i anifeiliaid gwyllt mewn amgylchedd syrcas, gan fanylu'n arbennig ar anaf i goes ôl llew mewn syrcas ger Caerfyrddin a'r briwiau agored a gwlyb ar goesau camel ifanc. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rhain yn amlwg yn faterion lles anifeiliaid. Mae'r dystiolaeth yno, wedi'i chefnogi gan eich Llywodraeth eich hun. Mae'r gefnogaeth yno. Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad, ac mae hyn wedi bod yn ein maniffesto—y Ceidwadwyr Cymreig—ers blynyddoedd lawer. A wnewch chi gadarnhau heddiw y byddwch yn gweithredu gwaharddiad.
Yn olaf, diolch enfawr i Linda Joyce Jones, oherwydd nid yw'n wleidydd, ond mae'n wraig benderfynol iawn. Pan ddywedodd Bethan yn gynharach sut roedd hi wedi bod yn ysgrifennu atoch, nid ysgrifennu'n unig a wnaeth, mae hi wedi ein plagio, a gwnaeth hynny mewn ffordd hyfryd, a diolch iddi am ein plagio, oherwydd nid yw wedi gadael i hyn fynd am eiliad. Os nad yw wedi ein cyrraedd drwy lythyr, drwy e-bost, drwy alwadau ffôn, mae hi wedi ein cyrraedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth yr hyn y gallwch chi fel gwleidydd ei orffen yn awr mewn gwirionedd—canlyniad hyn. Gwnewch Linda yn hapus, gwnewch ni fel Aelodau Cynulliad, gwnewch ein hetholwyr, gwnewch ein hymwelwyr, ond yn bennaf oll, gwnewch yr anifeiliaid hynny'n hapus. Dim mwy o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Diolch.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, nid yn aml iawn y byddaf yn cael fy lobïo ynglŷn â materion lles anifeiliaid, ond dyna beth ddigwyddodd i fi pan es i a'r Pwyllgor Cyllid i Ynys Môn. Roedd y ddeisebwraig, Linda Joyce Jones, wedi gwneud yn siŵr o groesi’r Fenai er mwyn siarad yn uniongyrchol â'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r materion yma.
Ond rwy'n siarad heddiw fel llefarydd Plaid Cymru ar faterion lles anifeiliaid, gan ddweud ein bod ni hefyd yn cefnogi'r ddeiseb yma yn llwyr ac yn credu y dylid gweithredu ar unwaith i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a gwneud hynny heb gymylu'r darlun fel sydd wedi cael ei wneud hyd yma gydag ystyriaeth werthfawr ond gwahanol ynglŷn â thrwyddedu anifeiliaid ym mhob cyd-destun arall. A gawn ni ffocysu felly ar y mater dan sylw, ar y ddeiseb pwysig yma i wahardd anifeiliaid gwyllt?
Mae Plaid Cymru hefyd wedi ymgyrchu ar hyn ers rhai blynyddoedd. Mae Siân Gwenllian wedi codi'r mater yma. Mae Bethan, wrth gwrs, wedi gwneud sawl gwaith ac yn gyson hefyd, ac oherwydd hynny roedd yn ein maniffesto ni ar gyfer etholiadau'r Cynulliad diwethaf. Yn ogystal â'r ddeisebwraig, rydym ni wedi derbyn yn bersonol nifer fawr o e-byst gan etholwyr sydd yn poeni am hyn ac, wrth gwrs, ymgyrchu cryf gan yr RSPCA yn ogystal.
Rydw i'n manteisio ar y cyfle nid i ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, ond i ddweud hefyd bod cwestiwn ehangach o zoos yn codi yn sgîl digwyddiadau diweddar yn Borth yng Ngheredigion, a'r trwyddedu sydd yn digwydd gan awdurdodau lleol nid yn unig ar gyfer syrcasau, ond ar gyfer zoos yn ogystal. Y ffaith amdani yw bod y ddeddfwriaeth rydym ni'n ei thrafod fan hyn yn hen iawn—yn hynafol, a dweud y gwir—ac ddim yn addas at y pwrpas.
Nawr, rwy'n deall fod y Llywodraeth felly yn gorfod ystyried yn ofalus iawn sut mae modd mynd i'r afael â gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, so rydw i mewn sefyllfa heddiw i ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet os ŷch chi'n defnyddio'r dull rwyf am awgrymu i chi i wneud hyn—i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau—bydd Plaid Cymru, ac rydw i'n addo hyn ar ran Plaid Cymru, yn cefnogi hyn fel bod modd gwahardd yn syth.
Felly, yr hyn rwyf ar fin ei amlinellu, wrth gwrs, yw defnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 sy'n caniatáu i'r awdurdod cenedlaethol priodol', sef Gweinidogion Cymru—nid y Cynulliad, cofiwch, mae'n wir; y Gweinidogion—wneud rheoliadau fel y gwêl yr awdurdod yn addas at y diben o hyrwyddo lles anifeiliaid y mae person yn gyfrifol amdanynt, neu epilion anifeiliaid o'r fath.
Nawr, y cyngor a gefais yw y byddai'n berffaith gyfreithiol, felly, i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adran 12 o'r Ddeddf Lles Anifeiliaid i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Byddai'r pwerau i wneud rheoliadau yn mynd drwy'r weithdrefn gadarnhaol yma yn y Cynulliad, felly byddem yn gallu eu cymeradwyo neu eu gwrthod, felly byddai'r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i'w cael yn iawn, wrth gwrs, ond mae'r pŵer rheoleiddio hefyd yn caniatáu ar gyfer creu trosedd y gellir ei phrofi ar dditiad ac y gellir ei chosbi drwy hyd at 51 wythnos o garchar neu ddirwy sy'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Felly, credaf fod y gallu i greu'r gwaharddiad hwn a'r gallu i blismona'r gwaharddiad ar lefel genedlaethol yn ddigonol ac yn briodol ar wyneb y Ddeddf Lles Anifeiliaid. Yn ddelfrydol, byddai'n well gennym gyflwyno Deddf gan Senedd Cymru, ond mae gennym Ddeddfau eraill sy'n rhaid inni eu cyflwyno yn y 18 mis nesaf—ac nid Brexit yw'r lleiaf o'r pryderon a fydd gennym. Dyma bŵer cul priodol y gellir ei ddefnyddio yn y cyswllt hwn. Nid yw'n caniatáu i ni gael ein clymu â'r ystyriaethau ehangach am ymwneud ehangach â thrwyddedu.
Felly, hoffwn yn fawr iawn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, os ydych yn ystyried defnyddio adran 12, cyflwynwch y rheoliadau hynny ac rwy'n addo y bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i ganiatáu i'r rheoliadau hynny basio yn y Cynulliad hwn, fel ein bod fel Senedd yn gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn y pen draw.
Rwyf wedi byw yn fy etholaeth drwy gydol fy oes, ac rwy'n falch o ddweud nad wyf yn cofio adeg pan oedd yna syrcas deithiol gydag anifeiliaid gwyllt, oherwydd yn sicr nid oes croeso iddynt yng Nghwm Cynon. Er hynny, rwyf wedi cael llwyth o ohebiaeth gan etholwyr ers i mi gael fy ethol i'r lle hwn ar yr union fater hwn o wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ac rwy'n meddwl mai'r hyn y mae hynny'n ei ddangos yw bod yna farn gref ar draws Cymru ar y mater hwn. Fel y mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi dweud, mae'r ystadegau'n dangos bod tri chwarter y bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Mae'r papur briffio y mae pawb ohonom wedi'i weld gan yr RSPCA yn nodi'r dystiolaeth wyddonol sy'n dangos ei bod hi'n debygol y bydd bywyd mewn syrcas yn effeithio'n niweidiol ar les anifeiliaid. Mae'n nodi ei fod yn achosi straen a phroblemau ymddygiad, ac yn amlwg, ni all natur dros dro cewyll mewn syrcas ddiwallu anghenion anifeiliaid gwyllt yn ddigonol. Maent yn dioddef mewn amgylchiadau annaturiol, lle na ellir bodloni eu hanghenion am ysgogiad corfforol a meddyliol. A hynny heb ystyried effeithiau teithio. Nid yw bywyd i'r anifeiliaid hyn yn werth ei fyw. Mae PETA hefyd wedi amlygu rhai arferion gwirioneddol ofnadwy wrth hyfforddi'r anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir yn y syrcasau hyn. Ar ben hynny, cedwir yr anifeiliaid yn yr amgylchiadau hyn—fel y mae Aelodau Cynulliad eraill wedi nodi eisoes—er ein hadloniant hunanol ein hunain yn unig. Mae'r rhain yn bwyntiau a glywais gan fy etholwyr, a chredaf eu bod yn hollol iawn.
Yn olaf, hoffwn wneud y pwynt ei bod hi'n hen bryd cael y gwaharddiad hwn. Mae'n braf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio'n fawr y gellir cyflymu hyn. Rwy'n cytuno gyda Simon Thomas, a ddywedodd y gellid cyflwyno gwaharddiad o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, neu'n wir drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Os edrychwn ar yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, maent eisoes wedi cyflwyno'r gwaharddiadau hyn. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU i'w gweld yn cefnogi galwadau o'r fath. A hynny gan blaid a aeth i mewn i'r etholiad cyffredinol diwethaf yn cefnogi llacio'r rheolau ar hela llwynogod. Roedd gennym enw da iawn yn arfer bod yng Nghymru am arwain ar bolisïau lles anifeiliaid. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i'n cael yn ôl ar flaen y gad yn y maes polisi hwn.
Wrth i mi gloi, hoffwn sôn am Ysgol Gyfun Rhydywaun yn fy etholaeth, sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ranbarthol yn rhan o ddadl fawr RSPCA Cymru ar les anifeiliaid, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Aberdâr. Bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun yn trafod yr union bwnc hwn. Rwy'n dymuno lwc dda i'r ddwy ysgol. Ond hoffwn erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi camau prydlon ar waith fel bod anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ddim mwy na chwiw greulon yn ein gorffennol pell—fel baetio eirth ac ymladd ceiliogod—ac nid rhywbeth y mae'n rhaid i'n Cynulliad a'n hysgolion ddal ati i'w drafod.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, i bawb a'i llofnododd ac i RSPCA Cymru am arwain ar y ddeiseb. Rwy'n llwyr gefnogi'r ddeiseb, fel y mae bron i dri chwarter y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt er pleser pobl yn farbaraidd ac angen ei wahardd cyn gynted â phosibl.
Diolch byth, dwy syrcas yn unig yn y DU sydd â thrwyddedau anifeiliaid gwyllt, syrcas Mondao a syrcas Peter Jolly. Rhyngddynt, mae ganddynt 19 o anifeiliaid: chwe charw Llychlyn, pedwar sebra, tri chamel, tri racŵn, un llwynog, un macaw ac un sebu. Yn Lloegr, rhaid cael trwydded ar gyfer anifeiliaid gwyllt ond nid oes unrhyw gyfraith i atal syrcasau rhag defnyddio rhai mathau o anifeiliaid. Yng Nghymru, nid oes gofyniad trwyddedu. Ac nid oes dim i atal Cymru rhag dod yn domen ar gyfer anifeiliaid syrcas y deddfwyd yn erbyn eu cadw mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Ar ddechrau'r flwyddyn, Iwerddon oedd yr ugeinfed wlad yn yr UE i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Mae'n hen bryd inni weithredu gwaharddiad tebyg. Sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i anifeiliaid gael eu gorfodi i wneud triciau na fyddent yn eu gwneud mewn bywyd gwyllt? Sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i'r creaduriaid mawreddog hyn gael eu cam-drin o adeg eu geni a'u gorfodi i deithio mewn amodau cyfyng ac anaddas? A sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i anifeiliaid, a ddylai fod yn rhydd, fyw mewn caethiwed a chael eu troi ymaith neu'n waeth byth, eu lladd, pan na allant ddiddanu'r cynulleidfaoedd mwyach?
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn addo gwaharddiad ers blynyddoedd lawer ac yn awr maent yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad yn y pum mlynedd nesaf. Ni allwn aros mor hir â hynny. Mae angen inni wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau heddiw. Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf pan ddywedodd ei bod yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae'n bryd gweithredu yn awr. Mae RSPCA Cymru wedi amlinellu sut y gellir defnyddio adran 12 o'r Ddeddf lles anifeiliaid i gyflwyno gwaharddiad o'r fath heb orfod cael deddfwriaeth newydd. Defnyddiwyd y Ddeddf lles anifeiliaid i arwain y ffordd ar wahardd coleri sioc drydanol. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r Ddeddf i roi diwedd ar greulondeb barbaraidd gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio mewn syrcasau. Rwy'n annog yr Aelodau nid yn unig i gefnogi'r cynnig ger eu bron heddiw, ond i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar frys, mor fuan ag sy'n bosibl. Rwy'n annog y cyhoedd yng Nghymru i ddal i bwyso am waharddiad. Gadewch inni sicrhau na fydd yn rhaid inni aros am bum mlynedd cyn i Lywodraeth Cymru weithredu. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn falch iawn o weld y datganiad hwn fis diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig pan ddywedodd y byddai'n ystyried ffyrdd o gyflwyno gwaharddiad. Mae cyd-Aelodau'n gwybod bod hwn yn bwnc rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano, ac rwyf wedi ei godi yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur dros y blynyddoedd. Credaf mai gwaharddiad llwyr ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yw'r unig ffordd y gall Cymru ddangos i weddill y byd nad ydym ninnau chwaith, fel yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, yn croesawu'r hyn sy'n ffurf hen ffasiwn a chreulon ar adloniant fel y'i gelwir. Fel y dywedwyd eisoes, mae'n farn a rennir gan dri chwarter y boblogaeth. Wel, mae un peth yn sicr: nid yw'n adloniant i'r anifeiliaid. Os ydych wedi darllen yr adroddiadau am yr amgylchiadau creulon—ac maent wedi cael eu hamlinellu yma heddiw—y mae'r anifeiliaid hyn yn gorfod eu dioddef yn aml, nid oes unrhyw adloniant o gwbl yn hynny iddynt hwy. Mae llawer o bobl wedi sôn bod yr RSPCA wedi cysylltu â phob un ohonom, mae'n debyg, ynglŷn â ddefnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno hynny. Amlinellodd Simon Thomas hefyd fod yr adran honno'n gyfyngedig braidd, ond hoffwn weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl ond hefyd mewn ffordd mor gynhwysfawr â phosibl.
Rwyf hefyd yn pryderu am anifeiliaid fel ceirw Llychlyn yn cael eu defnyddio fel atyniad i bobl sy'n mynd heibio yng nghanol dinasoedd a'r tu allan i arddangosiadau o stori'r geni mewn eglwysi, yn cael eu defnyddio i ddenu pobl, yn enwedig plant, tuag at eu harddangosfeydd. Credaf fod hyn hefyd yn greulon. Nid wyf yn meddwl bod ceirw i fod i sefyll am oriau bwygilydd ar fuarthau concrid, ac nid wyf am i ni ddeddfu mewn un maes ar draul maes arall, dyna rwy'n ei ddweud mewn gwirionedd. Credaf fod gwir angen inni edrych ar bopeth y gallwn ei wneud a gwneud hynny mewn ffordd mor gynhwysfawr ac mor gyflym ag y gallwn. Os goddefir yr ymadrodd, neu o gamddefnyddio ymadrodd arall, ac aros gyda cheirw, nid ar gyfer y Nadolig yn unig y mae ceirw, dylai fod ganddynt fywyd mewn gwirionedd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau ac wrth gwrs, i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb yn gyntaf ac yna yn amlwg am y ddadl heddiw. Er nad oes syrcasau wedi eu lleoli yng Nghymru, maent yn ymweld wrth gwrs, a chredaf fod y cynnig heddiw yn tynnu sylw'n bendant at y teimlad cyhoeddus cryf iawn ynglŷn â'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig heddiw.
Hoffwn gofnodi fy ymrwymiad i archwilio pob cyfle i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Hoffwn dawelu meddwl Bethan Sayed yn bendant na fyddaf yn mynd ar goll. Ni chredaf y dylai neb fychanu fy ymrwymiad personol i wneud hyn. Felly, mae yna ddau beth: un yw edrych ar y rhaglen ddeddfwriaethol i weld lle y gallem gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Fel y nododd Simon Thomas, yn gymwys iawn rwy'n credu, byddai'n dda cael Deddf Senedd Cymru, ond yn amlwg, mae gennym raglen ddeddfwriaethol lawn iawn, ond rwy'n parhau i archwilio'r cyfleoedd hynny, ac adran 12 hefyd, a nodwyd gan nifer o'r Aelodau. Pan ddechreuais yn y portffolio hwn, edrychais ar adran 12 a chymryd tystiolaeth ar hyn. Gwnaeth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yr un peth hefyd, a chawsant eu cynghori y gellid herio camau i osod gwaharddiad ar sail lles drwy reoliadau yn yr Uchel Lys, ond mae'n rhywbeth rydym yn parhau i edrych arno rwy'n credu.
Un o'r canlyniadau strategol yng nghynllun gweithredu'r fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yw bod anifeiliaid yng Nghymru yn cael bywyd o ansawdd da. Cyfeiriodd sawl Aelod at fy mwriad i ddatblygu cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid yng Nghymru, ac rwyf am dawelu meddwl Janet Finch-Saunders: rwy'n deall wrth gwrs ei fod yn fater ar wahân, ac mae'n ddiddorol gweld bod rhannau eraill o'r DU bellach yn dilyn ein dull o weithredu. Cyhoeddais hynny yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017. Roedd hynny'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater. A chan fy mod yn gofyn am farn ar y pwnc hwnnw, manteisiais ar y cyfle i ofyn barn y cyhoedd ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ar yr un pryd—roedd tua'r un pryd, mis Rhagfyr, gaeaf 2016—cyfarfûm â Gweinidogion Llywodraeth y DU. Credaf mai yr Arglwydd Gardiner ydoedd; rwyf wedi ei gyfarfod ychydig o weithiau. Gofynnodd Paul Davies a fûm yn gweithio gyda Gweinidogion, felly roeddwn yn gweithio gyda Gweinidogion, ac roedd fy swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion DEFRA. Oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'n flaenorol mai ei bwriad oedd gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, roeddwn yn hapus iawn i gael Cymru wedi'i chynnwys yn y rhaglen honno gan y teimlwn y byddai'n gyflymach. Fodd bynnag, mae'r cynnydd wedi bod yn anhygoel o araf, a dyna pam y penderfynais ddilyn y trywydd rwyf wedi'i ddilyn wedyn, sef edrych ar yr holl opsiynau.
Gofynnodd Paul Davies hefyd am y Ddeddf a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn ddiweddar. Enillodd Gydsyniad Brenhinol—credaf mai tua diwedd mis Ionawr y digwyddodd hynny. Felly, rydym yn bendant yn edrych ar y model hwnnw, ac ar fodelau eraill wrth gwrs. Roedd Llywodraeth yr Alban yn argymell gwaharddiad ar nifer o seiliau moesegol, sydd, unwaith eto, wedi cael cefnogaeth ysgubol. Felly, credaf fod hwnnw'n fodel da iawn i ni edrych arno. Felly —
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Fe siaradoch chi am edrych ar wahanol fathau o fodelau: beth yw'r amserlen gyda hyn yn awr? Hynny yw, dyna y mae pobl yn ei ofyn. Maent yn deall eich ymrwymiad i gael gwaharddiad, ond beth yw'r union amserlen a pha bryd y gwelwn hyn yn dod i rym?
Iawn. Felly, mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac wedi bod yn mynd rhagddo ers mis Rhagfyr gaeaf 2016, a chyn hynny hefyd mae'n debyg, cyn i mi ddod i'r swydd, ond mae'n bendant yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae'r amserlen—yn amlwg, byddwn yn edrych tuag at flwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol, felly dyna yw fy nod bellach. Ond mae adran 12 hefyd—. Ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i Simon Thomas am ymrwymiad Plaid Cymru i'w gefnogi, os mai dyna'r ffordd y gallwn ei wneud. Felly, mae'r amserlen yn gyfredol a gobeithiaf allu cyflwyno datganiad erbyn yr haf, mae'n debyg, ynglŷn ag a fyddem yn rhaglen ddeddfwriaethol blwyddyn 3, neu'n gynharach os gallwn edrych i weld a allwn ddefnyddio adran 12.
Rwyf am fynd yn ôl at yr arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, oherwydd rydym yn gwybod nad oes llawer o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau—credaf ei fod oddeutu 19—ond nid ydym yn gwybod pa nifer o arddangosfeydd symudol o anifeiliaid sydd gennym yng Nghymru. Mae pawb ohonom yn gwybod am ysgolion sy'n cael ymweliadau o'r fath, felly roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn inni ddatblygu'r broses o drwyddedu arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, ac fel y dywedaf, mae gennym rannau eraill o'r DU bellach yn edrych ar ein dull o weithredu. Credaf fod angen i'r dulliau a ddefnyddir gan holl rannau gwahanol y DU fod yn gydnaws â'i gilydd hefyd, felly unwaith eto, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a DEFRA i sicrhau nad ydym yn datblygu ein cynllun trwyddedu yn annibynnol ar bawb arall.
[Anghlywadwy.]
A gaf fi fwrw ymlaen? Rwy'n ymwybodol o'r amser, mae'n ddrwg gennyf. Rydym hefyd yn ymwneud â datblygu polisïau trawsbynciol eraill i atgyfnerthu lles anifeiliaid, ac mae'n bwysig iawn clywed barn pobl eraill am syrcasau yn fy marn i. Fe dderbyniaf ymyriad yn awr.
Rwy'n ddiolchgar iawn. Yr hyn roeddwn am geisio'i gael ganddi—oherwydd mae hi wedi nodi'r opsiynau: Bil annibynnol neu adran 12, ac mae hi hefyd wedi nodi'r pethau eraill y mae'n edrych arnynt. Soniais am un arall, sef sŵau, sydd hefyd wedi codi—
Mae'n ddrwg gennyf; roeddwn yn golygu sŵau yn ogystal.
Wel, ie. Yn amlwg, byddai Bil yn caniatáu inni fynd i'r afael â'r ystyriaethau lles anifeiliaid ehangach, lle bydd yn rhaid targedu adran 12 yn benodol ar fater lles anifeiliaid penodol. A yw hi, o leiaf, yn gallu dweud wrthym beth yw ei syniadau ar hynny ar hyn o bryd? Oherwydd rwy'n credu mai'r pryder o amgylch y Siambr yw nad ydym eisiau gadael i rywbeth y gallwn ei wneud yn awr gael ei ohirio oherwydd bod gennym agenda ehangach sydd angen ei chyflawni dros gyfnod hwy o amser.
Soniais yn gynharach fy mod wedi edrych ar adran 12 cyn gynted ag y deuthum i'r swydd, ac mae'n amlwg bod Rebecca Evans, fy rhagflaenydd, wedi edrych ar hynny, a DEFRA hefyd. Felly, y cyngor a roddwyd i mi oedd nad dyna fyddai'r ffordd fwyaf priodol o fynd ati, ond rwy'n edrych ar hynny eto. Gwn nad yw sefydliadau'r trydydd sector yn cytuno gyda chyfreithwyr ar hynny, ond rwy'n hapus iawn i barhau i edrych arno. Ac mae'n ddrwg gennyf; roeddwn yn golygu ein bod yn edrych ar—. Gwnaethoch bwynt cymwys iawn ynghylch sŵau, oherwydd yn amlwg, cawsom y digwyddiad hwnnw yng Ngheredigion, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y pecyn cyfan mewn perthynas â lles anifeiliaid.
Rwyf am ddatblygu cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid sy'n effeithio'n barhaol ar safonau lles anifeiliaid yng Nghymru, ac unwaith eto rwy'n monitro datblygiadau'r cynlluniau tebyg y mae'r gweinyddiaethau yn y DU yn eu cyflwyno oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod yr holl gynlluniau'n gydnaws. Mae gennym ffin dyllog iawn, yn amlwg.
Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, y cyhoedd, yr asiantaethau gorfodi a'r llysoedd barhau i hyrwyddo'r ffaith fod dyletswydd o ofal eisoes ar bawb sy'n cadw anifeiliaid i ddiogelu'r anifeiliaid yn eu gofal, a hynny pa un a yw ar sail barhaol neu dros dro. Mae hynny'n amlwg wedi'i wreiddio yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Ond credaf hefyd fod yna gyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthoedd moesol y mae Cymru'n glynu atynt yn cael eu modelu mewn negeseuon a gweithredoedd cryf, a chredaf nad yw mantra perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid erioed wedi'i fynegi'n gryfach nag a wnaed heddiw.
Felly, hoffwn ailadrodd unwaith eto fy ymrwymiad i archwilio cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ar y cyfle cyntaf.
Galwaf ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl ac unwaith eto, i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb hon. Mae'n amlwg yn ôl y niferoedd sydd wedi bod yn awyddus i siarad yn ystod y ddadl hon y ceir cefnogaeth drawsbleidiol enfawr i waharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Soniodd Paul Davies ei fod yn gymysg ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, a chefnogwyd ef yn hynny gan Simon Thomas. Gallai cyfuno'r ddwy eitem hon achosi problemau o ran sut yr ymdriniwn â hyn yn y dyfodol. Soniodd Bethan Sayed—rwy'n eich atgoffa o'ch enw newydd—am y pwysau a roddwyd gan y deisebwyr a'r ganran uchel o aelodau o'r cyhoedd sy'n cefnogi'r gwaharddiad hwn. Hefyd gwnaeth y pwynt ynghylch yr arafwch i wneud penderfyniad ar y gwaharddiad a gofynnodd am ffrâm amser.
Soniodd Hefin David am noson gyda'r llewod a'r teigrod, neu o leiaf wneud yn siŵr na fyddai noson gyda'r llewod a'r teigrod yn digwydd, a'r llwyddiant a gawsant yn troi ymwelwyr posibl i'r digwyddiad hwnnw ymaith. Diolchodd Michelle Brown i'r rhai a lofnododd y ddeiseb a siaradodd unwaith eto am y ffaith nad yw trwyddedu'n ddymunol a gwendidau gorfodi deddfwriaeth drwyddedu o'r fath. Soniodd Mick Antoniw am ganlyniadau'r arolwg barn a wnaeth. Rwy'n credu iddo ddweud bod cefnogaeth i drwyddedu arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. A wyf fi'n gywir i ddweud hynny? Ydw. Ac rwy'n credu bod cefnogaeth i hynny yn y Siambr yn gyffredinol. Soniodd Janet Finch-Saunders unwaith eto am gynnydd araf Llywodraeth Cymru ar gyflwyno gwaharddiad. Roedd yn gwahaniaethu unwaith eto rhwng arddangosfeydd symudol o anifeiliaid a'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Ailadroddodd Simon Thomas y dymuniad i weld gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt a syrcasau, ond unwaith eto, gan wahaniaethu rhwng y rhain ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. A hefyd, nododd yr angen i reoleiddio sŵau'n briodol. Soniodd Vikki Howells am y dystiolaeth wyddonol gan yr RSPCA fod anifeiliaid yn dioddef effaith andwyol, yn gorfforol ac yn feddyliol, pan fyddant yn teithio gyda syrcasau.
Soniodd Caroline Jones am y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau fel rhywbeth barbaraidd, a gallai peidio â chael unrhyw ddeddfwriaeth yng Nghymru arwain at ddympio'r syrcasau hyn yng Nghymru. Croesawodd Joyce Watson y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n sôn am y datganiad cynharach, wrth gwrs, Joyce—a soniodd hefyd fod hon yn ffurf greulon ar adloniant, ac yn sicr nid oedd yn adloniant i'r anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r arfer hwn. Soniodd hefyd am y ceirw a ddefnyddir fel arddangosioadau neu atyniadau dros gyfnod y Nadolig.
Rhaid i mi ddweud, mae'r sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet, er eu bod i'w croesawu i ryw raddau, yn dweud ei bod yn dal i edrych ar y posibilrwydd o ddeddfwriaeth—o Ddeddf—ac wrth gwrs, soniodd wedyn am fframiau amser o rywbeth fel tair blynedd—[Torri ar draws.] Wel, dyna'r ffrâm amser a roesoch ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe gaf fy nghywiro ar hynny, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet.
Blwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol sy'n dechrau yr haf hwn oedd yr hyn a ddywedais.
Ie, diolch. Wel, buaswn yn ei hannog o ddifrif i ystyried y defnydd o adran 12 o'r Ddeddf hawliau anifeiliaid, oherwydd mae'n amlwg o'r holl sylwadau a wnaed yn y Siambr hon heddiw fod angen gweithredu ar fyrder mewn perthynas â hyn, fel arall byddwn yn llusgo ar ôl deddfwrfeydd eraill a bydd Cymru yn cael ei gweld fel opsiwn hawdd i'r syrcasau hyn.
Felly, rwyf am sôn am y ffaith y byddwn, fel pwyllgor, yn dychwelyd at y pwnc hwn yn y dyfodol, ac unwaith eto, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r ddadl hon, yn enwedig y rhai a gyflwynodd y ddeiseb? A hoffwn ddiolch eto i Linda a'i chefnogwyr am wneud hynny. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.