1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Medi 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Mae un o'r prif bwyntiau gweithredu o dan thema 2, 'Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg', yn eich strategaeth 'Cymraeg 2050' yn ymwneud a rôl ganolog y gweithle wrth gyrraedd y targed o weld 20 y cant o'r boblogaeth yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Rydych chi'n cydnabod rôl hanfodol Llywodraeth Cymru fel cyflogwr pwysig yng Nghymru yn hynny o beth ac yn ymrwymo y byddwch chi fel Llywodraeth yn, ac rydw i'n dyfynnu,
'arwain drwy esiampl drwy hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ein gweithlu ein hunain.'
A allwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith yma?
Wel, wrth gwrs, rŷm ni yn annog aelodau sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru i ddysgu Cymraeg ac mae llawer o gyfleoedd iddyn nhw, ond mae yna adroddiad mewnol sydd yn cael ei ddatblygu yn edrych ar sut rŷm ni fel Llywodraeth yn mynd i ymateb i ofynion 2050. Fe wnes i gyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol ddoe i drafod hynny.
Diolch yn fawr. Mae gen i gopi o adroddiad sy'n dangos bod gennych chi weithgor mewnol o uwch-weision sifil wedi cael ei sefydlu, fel rydych chi'n ei ddweud, a hynny yn ôl yn haf 2016. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog efo'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd gweinyddol swyddogol erbyn 2036. Fel rhan o hynny, mae'ch gweision sifil yn dod i'r casgliad bod yn rhaid gwneud lefel o beth sy'n cael ei alw'n Gymraeg cwrteisi neu Gymraeg sylfaenol yn ofynnol ar gyfer pob swydd yn Llywodraeth Cymru fel man cychwyn. Rydym ni efo'n gilydd tan y pwynt yma. Mae nifer o gyrff, gan gynnwys Comisiwn y Cynulliad, Heddlu De Cymru a Chyngor Sir Gâr, wedi cyflwyno model cwrteisi o'r fath, sy'n golygu meddu ar sgiliau dwyieithog cwbl sylfaenol fel, er enghraifft, ynganu geiriau Cymraeg yn gywir a chyfarch yn syml, fel 'bore da', 'prynhawn da', 'hwyl fawr' ac yn y blaen. Ond, fis diwethaf, mewn llythyr ataf i, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol nad oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i wneud lefel cwrteisi cwbl sylfaenol o'r fath yma yn ofynnol. Felly, flwyddyn a hanner ers i adroddiad eich arbenigwyr argymell hynny, pam fod Llywodraeth Cymru heb allu ymrwymo i weithredu mesurau cwbl sylfaenol o'r fath, ac onid ydy hi'n hen bryd i'r Llywodraeth arwain drwy esiampl?
Wel, diolch yn fawr. Fel y dywedais i, rwyf wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Parhaol i drafod yr union fater yma ddoe. Mae rhan o beth oedd yn cael ei argymell yn yr adroddiad, rwy'n meddwl, yn ymwneud â diffiniadau o yn union beth sy'n cael ei olygu wrth ba lefel o Gymreictod, ac rwy'n meddwl bod hynny yn issue rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ei drafod ymhellach. Mae yna ffyrdd o wneud hynny ac mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth o hynny. Mae hi, rydw i'n gwybod, wedi gofyn am fwy o waith i gael ei wneud ar y mater yma, ac wrth gwrs, bydd rhaid i hynny wedyn ymwneud â'r ffordd rŷm ni yn mynd i sicrhau bod ein nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn rhan annatod o beth rŷm ni’n ei wneud yng nghanol Llywodraeth Cymru.
Felly, bydd blwyddyn a hanner arall, mae’n debyg, tan inni gael diffiniad o rywbeth sydd yn hollol, hollol amlwg a chlir a syml, sef beth yn union ydy Cymraeg cwrteisi. Rwyf newydd enghreifftio hynny—pethau fel dweud 'bore da', 'prynhawn da', a medru ynganu geiriau Cymraeg yn gywir. Dyna i gyd ydy o; y lefel isaf un o sgiliau iaith Gymraeg. Felly, nid wyf fi’n deall pam ei fod yn cymryd gymaint o amser i gyflwyno hyn. Yr unig beth fedraf i feddwl ydy nad yw'r ewyllys ddim yna i fwrw ymlaen efo hyn, ac mai dyna sydd y tu ôl i hyn, ac nad ydych chi’n barod, fel Llywodraeth, i ddangos yr esiampl glir yna sydd ei angen.
Wel, nid ydym ni wedi cael y papur yma yn swyddogol o’n blaenau ni eto achos nid yw’n rhywbeth sydd wedi cael ei derfynu gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn barod. Felly, mae’n rhaid inni aros tan bod yr adroddiad yna’n dod allan, wedyn fe wnawn ni benderfyniad gwleidyddol ynglŷn ag a ydym ni eisiau parhau gyda’r system yna neu a ydym ni eisiau mynd ag ef ymhellach.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i Paul Davies am fy mhenodi i'r swydd newydd hon? Ni allaf ddweud wrthych faint rwy'n edrych ymlaen. Gobeithiaf na fydd ots gan Ysgrifennydd y Cabinet os dechreuaf gyda rhywbeth o ddiddordeb personol a dychwelyd at ysgolion gwledig, o ystyried profiad fy nheulu dros y 15 mlynedd diwethaf.
Gallaf weld bod yr ymgynghoriad ar y newidiadau hyn, ac wrth gwrs, ar newidiadau eraill i'r cod—rhaid inni beidio ag anghofio hynny—wedi'i gynnal dros flwyddyn yn ôl, fwy neu lai yn ystod gwyliau haf 2017. Sut y gwnaeth eich adran gydymffurfio â'i rhwymedigaeth i roi sylw dyledus i erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth gynnal yr ymgynghoriad?
Lywydd, a gaf fi gymryd y cyfle hwn i groesawu Suzy Davies i'w rôl newydd? Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi. A hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Darren am y berthynas waith a fu gennym—[Chwerthin.]
Dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd. [Chwerthin.]
Y gwir am Darren Millar yw bod ei gyfarth yn waeth na'i frathiad. Er ein bod wedi croesi cleddyfau yn y fan hon, y tu ôl i'r llen, mae'n eithaf hawdd cydweithio a chyflawni gwaith.
Rydych yn rhy garedig—[Torri ar draws.] [Chwerthin.]
Rydych yn chwalu ein canfyddiadau.
Dewch ymlaen, rydych wedi gwneud digon o ddifrod i fy enw da. Parhewch os gwelwch yn dda. [Chwerthin.]
Rwyf am ddweud wrth Suzy Davies fy mod yn ymwybodol ei bod hi a minnau'n rhannu dyhead i wella safonau addysg wledig, gan gydnabod bod gan ysgolion gwledig ran bwysig i'w chwarae, nid yn unig o ran addysg plant gwledig ond yn y gymuned ehangach. Mewn llawer o leoliadau gwledig, yr ysgol yw'r unig adeilad cyhoeddus sydd ar ôl yn y lle hwnnw, ac felly mae angen inni wneud ein gorau i'w cefnogi. O ran yr ymgynghoriad, rwy'n fodlon, wrth gynnal yr ymgynghoriad hwnnw y llynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â'r holl ofynion a roddwyd arnynt.
Wel, diolch am eich ateb ac am eich geiriau caredig iawn, wrth gwrs. Mae'n rhaid imi ddweud, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad wedi dod gan gynghorau, cyrff esgobaethol ac undebau, a chynrychiolwyd llais y plant, ymddengys i mi beth bynnag, gan y comisiynydd plant yn unig, ac nid wyf yn siŵr sut y llwyddodd i gael gwybodaeth neu safbwyntiau pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw, o gofio eu bod ar eu gwyliau ysgol.
Buaswn yn arbennig o awyddus i wybod, mewn gwirionedd, sut y gwnaeth y bobl ifanc hynny ymdopi â dosbarthiad trefol/gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol a grybwyllwyd gan David Rees yn gynharach. Yn sicr, nid oedd traean o'r oedolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn barod i fabwysiadu un yn unig o'r wyth dosbarthiad yn y dull hwn o nodi ysgol wledig. Ond eto, cymerwyd naw mis i ddod yn ôl atynt gyda rhestr hwy o ysgolion, gan ychwanegu'r ail ddosbarthiad hwnnw i gynorthwyo'r broses nodi. Ac roedd y gynulleidfa ddatganedig ar gyfer yr adroddiad hwnnw, a ryddhawyd ar 2 Gorffennaf eleni, yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, awdurdodau esgobaethol, Estyn a rhai eraill â buddiant. Dim llwybr clir at safbwyntiau plant, na staff ysgol yn wir, gan iddo gael ei gyhoeddi unwaith eto yn fuan cyn y gwyliau haf.
Fe gyflwynoch chi'r cod newydd ddydd Llun, felly nid oedd hynny yn ystod toriad yr haf o leiaf, ond nid yw'r 16 mis y mae wedi'i gymryd i ddod i rym wedi rhoi cyfle i awdurdodau addysg lleol sleifio o dan wifren cyfundrefn lem; rydych wedi rhoi dros flwyddyn iddynt gyflymu eu hystyriaethau o'r math o gau roeddech yn iawn i obeithio'i osgoi. A gallaf ddweud wrthych gyda fy mhrofiad pan gaewyd Cwrt Sart, nad yw'n ysgol wledig, y gall awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o'r cyfeiriad teithio, ond gallant fod yn benderfynol iawn o'i anwybyddu os ydynt yn dymuno. Felly, a allwch ddweud wrthym pam ei bod wedi cymryd naw mis i adrodd ar 70 arolwg yn unig, a pham na ofynasoch ym mis Mehefin 2017 i awdurdodau addysg ohirio unrhyw gynlluniau a allai fod ganddynt i gau wrth aros am y newidiadau perthnasol hyn?
Wel, Suzy, diben yr ymgynghoriad yw cael gafael ar amrywiaeth mor eang o safbwyntiau â phosibl. Yn y dewis a oedd gennyf fel Gweinidog, gallwn fod wedi anwybyddu canlyniadau'r ymgynghoriad a chyflwyno'r cod yn gynharach neu gallwn fod wedi ystyried y sylwadau a wnaed yn yr ymgynghoriad nad oedd y rhestr o ysgolion yn ddigon hir, ac anwybyddu hynny a bwrw ymlaen. Penderfynais y byddai'n well gennyf ohirio'r broses o roi'r cod ar waith fel y gallem gael rhestr hwy o ysgolion, fel y gallem ymateb yn gadarnhaol i'r pwyntiau a wnaed yn yr ymgynghoriad. Fel arall, pam cynnal yr ymgynghoriad o gwbl os oeddwn yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda'r cynigion cychwynnol? Y rheswm pam oedd yr ail ymgynghoriad yn un cyfyngedig oedd fy mod yn teimlo ei bod ond yn deg i'r awdurdodau lleol nad oeddent, efallai, wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyntaf gan eu bod yn teimlo nad oedd yn effeithio arnynt am nad oedd ganddynt unrhyw ysgolion ar y rhestr, ond yn sydyn, byddai ganddynt ysgolion ar y rhestr. Credwn ei bod hi ond yn deg i'n partneriaid llywodraeth leol gael cyfle i ymateb i bolisi a fyddai bellach yn effeithio arnynt os oeddent o dan gamargraff nad oedd y polisi yn effeithio arnynt cyn hynny. Mae'r cod wedi'i gyflwyno cyn gynted ag y gellid gwneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog priodol yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir ers imi ymgymryd â'r swydd hon fy mod yn benderfynol o gefnogi a diogelu ysgolion gwledig gymaint â phosibl. Ond mae'n rhaid inni fod yn realistig: hyd yn oed gyda'r cod hwn, nid yw hynny'n golygu y bydd pob ysgol wledig yn parhau i fod ar agor, ond mae'n rhaid i'r achos dros eu cau fod yn un cryf, a dylai awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hynny, os oes ganddynt ysgol ar y rhestr, ddechrau ar y sail mai cau yw'r dewis olaf a dylent geisio pob cyfle drwy amrywiaeth o ffyrdd i gadw'r ysgolion hynny ar agor.
Wel, diolch am eich ateb. Mae'n cymryd naw mis i gynhyrchu plentyn; roeddwn yn gobeithio y byddai cynhyrchu cod wedi bod ychydig bach yn gynt. Nid y Ddeddf safonau ysgolion a'r Mesur hawliau plant a phobl ifanc yw'r unig ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ad-drefnu ysgolion; mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn grym bellach, ac rwy'n falch o ddweud, yn ystod y newidiadau hyn—ac yn wir, fe gyfeirioch chi at hyn yn gynharach hefyd—rydych wedi dweud fwy nag unwaith y gall bodolaeth ysgol fach yn y gymuned fod yn hollbwysig i gynaliadwyedd y gymuned honno. Ar ba adeg y dylai awdurdod addysg ystyried egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol? Ai yn ystod y broses o benderfynu a ddylid mynd ati i ymgynghori ynghylch cau ysgol, neu yn ystod unrhyw ymgynghoriad?
Wel, mae pob awdurdod lleol yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yma gan Gynulliad blaenorol. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eu bod yn defnyddio darpariaethau Deddf cenedlaethau'r dyfodol i lywio eu gweithredoedd ar y cyfle cyntaf, a buaswn yn dadlau, o dan y cod sydd wedi'i gyflwyno ac a fydd yn dod i rym ym mis Tachwedd, gobeithio, os nad oes unrhyw un yn gweddïo yn ei erbyn, na ddylid gadael y rhagdybiaeth honno yn erbyn cau a'r opsiwn i chwilio am ddewisiadau eraill i gadw ysgol ar agor, unwaith eto, tan y cyfnod ymgynghori swyddogol, ond dylai'r cyngor eu harchwilio cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol. Oherwydd fe wyddoch chi a minnau, pan fyddwch yn dechrau'r broses ymgynghori swyddogol, gall hynny ddifetha sefydliad addysgol unigol. Felly, mae'n glir iawn y dylai'r awdurdod lleol ddefnyddio'r cod hwn ac ystyried y rhagdybiaeth hyd yn oed cyn iddynt ymgynghori'n ffurfiol a dylent ystyried eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar yr adeg honno.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Awst, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, nad yw'n credu bod newid yn digwydd yn ddigon cyflym i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Daw hyn ar ôl dau achos mewn dwy flynedd o blant yn cael eu hesgeuluso, a bu un ohonynt farw o ganlyniad i hynny, yn anffodus. A allwch chi ddweud wrthyf beth ydych chi wedi bod yn ei wneud i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref?
Yn gyntaf, dylwn rybuddio'r Aelod rhag gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng penderfyniad rhieni i addysgu yn y cartref, a bod hynny, o bosibl, yn arwain at wneud blentyn yn anniogel. Credaf fod hwnnw'n bwynt o egwyddor y mae angen inni ddechrau ohono: nid oes cysylltiad rhwng y ddau beth. Ers fy natganiad blaenorol i'r Siambr ynglŷn â fy mwriad i gynnal ymgynghoriad ar sefydlu cronfa ddata a gwell cefnogaeth i rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref—bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O ran yr egwyddor ynglŷn ag a yw plant yn ddiogel gyda'u rhieni, buaswn yn cytuno'n llwyr â chi—ni ddylem ymdrin â hyn o'r safbwynt fod plant mewn perygl anorfod gyda'u rhieni. Fodd bynnag, mae Sally Holland wedi nodi risg. Mae'n amlwg fod yna risg gan fod un plentyn a oedd yn cael ei addysgu yn y cartref, plentyn nad oedd yr awdurdodau yn ymwybodol ohono ar y pryd, wedi marw. Nawr, rwy'n cydnabod eich bod wedi cyhoeddi y bydd cronfa ddata yn cael ei sefydlu i nodi plant nad ydynt ar y gofrestr ysgolion, ond mae hyn ymhell o'r hyn y gofynnodd y comisiynydd plant amdano pan ddywedodd, a dyfynnaf:
Rwyf wedi bod yn galw ar y llywodraeth i weithredu mewn modd cryfach, ac mae'r holl gyfarwyddwyr addysg yng Nghymru, holl gyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol a bwrdd diogelu annibynnol y Llywodraeth ei hun wedi gwneud hynny hefyd.
Aeth yn ei blaen i ddweud, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:
I mi, mae cyflymder y newid wedi bod yn rhy araf ac nid yw wedi bod yn ddigon cryf i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hawl i addysg er mwyn bod yn ddiogel a chael dweud eu dweud.
A yw hi'n iawn?
Bydd y comisiynydd, wrth gwrs, yn cael pob cyfle i roi sylwadau ffurfiol ar gynigion y Llywodraeth pan fyddwn yn cynnal yr ymgynghoriad. Gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelod: mae'r hyn rwy'n paratoi i'w wneud yn rhan o'n taith ddiwygio addysg i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg briodol. Mae unrhyw faterion diogelu sy'n deillio o hynny yn amgylchiadol a chredaf ei bod yn bwysig iawn i'r Aelodau fod yn glir, hyd yn oed wrth sefydlu cronfa ddata, nad yw hynny'n cael gwared ar yr angen i bob gweithiwr proffesiynol fod yn wyliadwrus wrth ymdrin â'u plant, ac i gofio y bydd y gronfa ddata honno'n berthnasol i blant o oedran ysgol gorfodol yn unig, sy'n dechrau o bum mlwydd oed. Felly, os yw rhiant yn benderfynol o gadw eu plentyn oddi wrth y gwasanaethau, ni fydd y cynnig hwn yn berthnasol hyd nes bydd plentyn yn bump oed, ac mae'n bwysig cofio hefyd fod yna gyfyngiadau—yn naturiol, ceir cyfyngiadau—gyda'r argymhelliad os ydych yn awyddus i sicrhau bod pob plentyn yn cael eu gweld ar bob oedran yn ystod eu bywydau.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n synnu braidd y byddech yn credu y byddai diogelu plentyn yn ymylol i unrhyw beth, ond fe symudaf ymlaen.
A allwch ddweud wrthyf a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â ffordd y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael gwiriadau meddygol tebyg neu'r un gwiriadau meddygol â phlant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgol arferol?
Mewn gwirionedd, y bore yma, cefais gyfarfod gyda'r prif swyddog nyrsio i ddeall sut, fel rhan o'n pecyn gwell o gymorth i rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref, y gallwn sicrhau bod y plant hynny'n cael mynediad at rai o'r gwasanaethau iechyd y byddent yn eu cael fel arfer yn yr ysgol. Felly, i lawer ohonom—fe fyddwch yn gwybod, os oes gennych blant yn eu harddegau, y byddant yn cael brechiadau yn yr ysgol uwchradd. Felly, y bore yma, bûm yn trafod mater canolfannau brechu gyda'r prif swyddog nyrsio fel y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael mynediad at y gwasanaethau hynny.