– Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Ionawr 2019.
Yr eitem nesaf yw cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn. Dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig i geisio cytundeb y Cynulliad i ganiatáu i mi gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn.
Fel cenedl, gallwn fod yn falch iawn fod llawer ohonom yn byw'n hwy ac yn iachach yn ein henaint nag erioed o'r blaen. A gallwn fod yn falch o'r hanes rhagorol sydd gennym yn cefnogi ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Ni oedd y genedl gyntaf yn y byd i benodi comisiynydd pobl hŷn, y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phobl hŷn mewn cyfraith ddomestig, a'r gyntaf i sefydlu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Heddiw, mae cyfle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, unwaith eto, i arwain y ffordd drwy gefnogi cynigion ar gyfer Bil hawliau pobl hŷn.
Ni sydd â'r gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU—mae un o bob pedwar o'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru dros 60 oed—a bydd y cynnydd demograffig hwnnw'n parhau. Erbyn 2030, amcangyfrifa Cynghrair Henoed Cymru y bydd nifer y bobl hŷn dros 65 oed sy'n byw yng Nghymru yn gweld cynnydd o fwy na thraean. Ac o ran y bobl dros 85 oed, mae eu nifer yn mynd i gynyddu 80 y cant, sy'n syfrdanol. Nawr, mae rhai wedi cwyno bod cynnydd o'r fath yn nifer y bobl hŷn yn rhoi baich ar gymdeithas, ac eto nid yw'r bobl hyn byth yn sôn am y cyfraniad aruthrol y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n gwlad. Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn amcangyfrif bod pobl dros 65 oed yn cyfrannu dros £1 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru, ac mae hwnnw'n swm net o'r costau pensiwn, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Cynghrair Henoed Cymru wedi awgrymu bod gwerth y gofal plant a ddarperir gan neiniau a theidiau yng Nghymru dros £0.25 biliwn y flwyddyn, ac amcangyfrifir bod gwerth eu gwaith gwirfoddol fymryn yn is na £0.5 biliwn. Eto, er gwaethaf y cyfraniad enfawr hwn, mae'n wir dweud y gall rhai o'n pobl hŷn fod angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, o'i gymharu â gweddill y boblogaeth.
Mae llawer ohonynt yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml; gallant fod yn fwy dibynnol ar ofal eraill a gallant fod—ac maent, yn aml—yn destun gwahaniaethu ar sail oedran. Gall pobl hŷn gael eu heffeithio'n anghymesur yn sgil cau cyfleusterau megis toiledau cyhoeddus, banciau, llyfrgelloedd, swyddfeydd post, ysbytai neu ddiddymu trafnidiaeth gyhoeddus megis gwasanaethau bysiau. Ac ar adeg pan fo mwy a mwy o wasanaethau allweddol ond ar gael ar-lein yn unig, rhaid inni gofio nad yw dros hanner yr oedolion sydd dros 75 oed erioed wedi defnyddio'r rhyngrwyd. Gall hyn oll wneud pobl hŷn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o golli eu hannibyniaeth, ac felly maent yn wynebu mwy o risg y caiff eu hawliau eu tramgwyddo.
Mae llawer o bobl hŷn yn ofalwyr ac o'i gymharu â gweddill y DU, mae gan Gymru nifer uwch o ofalwyr hŷn sy'n aml yn llai iach eu hunain. Mae byw gyda salwch neu anabledd hirdymor yn heriol ar y gorau, ond yn fwy felly pan fo gennych gyfrifoldeb gofalu. Ond mae llawer o bobl hŷn heb neb gerllaw i'w cefnogi. Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn, ac mae'n drasig fod tua 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud, yn ôl Age Cymru—ac rwy'n dyfynnu—eu bod 'bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig'. Mae pobl unig yn fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael, o fod yn agored i niwed, ac o gael eu hawliau wedi'u tramgwyddo.
Mae ymchwil wedi dangos hefyd mai yng Nghymru y ceir y gyfradd uchaf o achosion o gam-drin yr henoed yn y DU. Gwelodd Action on Elder Abuse fod 12.5 y cant o bobl dros 65 oed yng Nghymru wedi dioddef cam-drin, sef bron i 100,000 o bobl y flwyddyn, ond nid yw'r system bresennol yn nodi achosion o gam-drin yn ddigonol, ac yn aml nid yw dioddefwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso ddigon i allu dweud wrth bobl, ac efallai mai dyna pam fod llai nag 1 y cant o achosion yn arwain at euogfarn droseddol lwyddiannus.
Ac yna mae gennym broblem gwahaniaethu ar sail oedran. Mae'n fater nad ydym yn siarad fawr ddim amdano, ond gall ei effaith ar bobl hŷn fod yr un mor ddinistriol â hiliaeth, rhywiaeth neu homoffobia. Mae stereoteipiau negyddol o bobl hŷn yn dal i fod yn gyffredin, fel y mae iaith ddifrïol ac amharchus a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio pobl pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.
Dyma'r rhesymau pam rwy'n ceisio caniatâd gan y Cynulliad heddiw i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Diben y Bil yw adeiladu ar hanes ardderchog Cymru hyd yn hyn drwy ymgorffori ymagwedd seiliedig ar hawliau yn y broses o ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Os caf ganiatâd, byddaf yn ceisio ymgynghori â rhanddeiliaid i ddatblygu Bil a fydd yn ymgorffori hawliau pobl hŷn ymhellach yng nghyfraith Cymru, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru; a fydd yn darparu ar gyfer y gallu i ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus honno i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau cyhoeddus eraill Cymru; a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn; ac a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu cydymffurfiaeth â'u cynlluniau hawliau pobl hŷn—rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.
Nawr, efallai fod yr ymagwedd hon yn swnio'n gyfarwydd i rai pobl yn y Siambr, a'r rheswm am hynny yw fod y dyletswyddau'n debyg iawn i'r rhai a osodwyd yn y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Wrth gwrs, cafodd y ddeddfwriaeth honno dderbyniad da iawn gan randdeiliaid, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiadau plant ac o ran codi ymwybyddiaeth o hawliau plant ar draws y wlad. Nawr, rwy'n hyderus iawn y gallwn sicrhau canlyniadau tebyg drwy ddeddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn.
Awgrymais Fil o'r math hwn yn ystod dadl fer yn ôl ym mis Ionawr 2012, ac ers hynny mae llawer iawn wedi digwydd. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, sefydlwyd grŵp cynghori gan y Prif Weinidog—y Prif Weinidog ar y pryd—i ymchwilio i'r gwaith o ddatblygu datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Ac yna, yn 2014, o'r diwedd, ymgorfforodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yng nghyfraith Cymru am y tro cyntaf. Yna cawsom y datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn y pen draw yn 2014. Yn y flwyddyn ganlynol, 2015, galwodd y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd, Sarah Rochira, am amddiffyn hawliau pobl hŷn yn well, ac aeth ymlaen, ym mis Ionawr 2016, i gyhoeddi 'Rhoi Hawliau ar Waith mewn Gwasanaethau Cyhoeddus', a roddodd arweiniad i arweinwyr yn y sector cyhoeddus ar sut y gallent ymgorffori hawliau dynol pobl hŷn yn eu gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, mae'r holl gynnydd hwn, wrth gwrs, i'w groesawu'n gynnes iawn. Ym mis Ionawr 2016 yn ogystal, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn dros gynnig wedi'i ddiwygio a alwai ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu,
'i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.'
A'r Gweinidog iechyd ar y pryd—y Prif Weinidog erbyn hyn—a dderbyniodd y cynnig hwnnw fel y'i diwygiwyd, a phleidleisiodd pob plaid wleidyddol yn y Senedd o'i blaid. Rwy'n gresynnu, fodd bynnag, na chafodd canlyniad y bleidlais honno byth mo'i chyflawni'n llawn, a bod y cynnydd a wnaed gennym wedi arafu. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Diolch yn fawr iawn am ildio, ac rwy'n ymddiheuro am ddod i mewn yn hwyr. Roeddwn yn gwylio ar y monitor—. Lywydd, fy ymddiheuriadau; aeth fy amseru rhwng y cŵn a'r brain. Ond rwyf wedi gwrando'n llawn diddordeb, gan gynnwys ar y monitor wrth i mi wylio, ac rwy'n croesawu'r ffordd gymedrol y mae wedi cyflwyno ei ddadl. Un newid arwyddocaol sydd wedi digwydd ers yr amserlen y soniodd amdano oedd yr hyn a ddigwyddodd fis Mehefin diwethaf, pan adawodd Sarah Rochira, y comisiynydd pobl hŷn blaenorol, ei swydd, a safodd yn y Senedd ychydig uwch ein pennau a chroesawu'r gwaith a oedd wedi digwydd gyda fy swyddogion ar y pryd, a oedd wedi arwain at gyfres gadarn a phendant iawn o gamau gweithredu—camau sylweddol—sydd ar y gweill yn awr, ac a aeth ymhell y tu hwnt i'r hyn a oedd wedi digwydd cyn hynny mewn geiriau ac ati, ac mae hynny'n dal i gael ei ddatblygu. Felly, gofynnaf iddo gydnabod, mewn gwirionedd, nid yn unig fod Sarah wedi cydnabod hynny, ond roedd fy nghyfarfod dilynol gyda'r comisiynydd pobl hŷn newydd hefyd yn cydnabod bod y dull o weithredu o fewn Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol iawn yn awr.
Rwy'n croesawu'n fawr y cynnydd a wnaed, ond nid yw'n seiliedig ar ddeddfwriaeth, sef pwynt y Bil rwy'n ei gynnig, ac mae gennym gyfle i hyrwyddo'r achos hwnnw—achos y mae pawb ohonom yn ei rannu, rwy'n credu, o ran yr awydd i hyrwyddo hawliau pobl hŷn—drwy gefnogi'r Bil hwn heddiw. Ac wrth gwrs, dyna pam y mae'r comisiynydd pobl hŷn—y comisiynydd pobl hŷn presennol—a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cefnogi fy nghynigion ar gyfer Bil. Gwn fod llu o sefydliadau a rhanddeiliaid eraill yn cefnogi'r Bil, gan gynnwys Action on Elder Abuse Cymru, Cynghrair Henoed Cymru, Age Connects Cymru, Age Cymru, Cymdeithas Alzheimer's Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Gofalwyr Cymru, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, Prime Cymru, Cymdeithas Henoed Prydain, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia—gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen gyda mwy a mwy o bobl ar y rhestr honno, ond credaf ei bod yn dangos y gefnogaeth aruthrol a geir i Fil o'r math hwn.
Gair sydyn am oblygiadau ariannol y Bil; y cymharydd agosaf o ran deddfwriaeth a chostau cysylltiedig yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wrth gwrs. Nawr, awgrymodd yr asesiad effaith rheoleiddiol ar y Mesur hwnnw fod y costau dros gyfnod o dair blynedd o weithredu oddeutu £1.5 miliwn. Byddai cynyddu'r rhain drwy ychwanegu chwyddiant yn awgrymu y byddai costau Bil o'r math hwn oddeutu £1.75 miliwn. Fodd bynnag, y realiti yw bod rhai o'r costau hynny eisoes yn cael eu talu gan y Llywodraeth oherwydd y dyletswyddau sydd eisoes wedi'u cynnwys, fel y soniais, yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Felly, mae'n debygol o fod yn llawer llai na hynny. Felly, bydd angen egluro mwy ar y costau hyn, wrth gwrs, a'u hystyried yn fwy manwl, ond mae'n awgrymu i mi fod hyn yn rhywbeth hynod fforddiadwy i ni allu ei wneud.
I gloi felly, Lywydd, hoffwn atgoffa pobl fod gennym gyfle hanesyddol heddiw. Cychwynasom ar y daith hon nifer o flynyddoedd yn ôl, a gallwn ddarparu ac arloesi dull newydd sy'n seiliedig ar hawliau mewn perthynas â hawliau pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae gennym gyfle i ddatblygu deddfwriaeth a fydd yn arwain at welliannau ymarferol wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau cyhoeddus, a fydd codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn ac yn rhoi cydnabyddiaeth a statws iddynt, ac a fydd yn grymuso'r cannoedd o filoedd o bobl hŷn ledled Cymru i fynnu'r hawliau hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch i chi, Lywydd. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cael eu hawliau wedi eu cydnabod a'u gwneud yn real, ac mae codi ymwybyddiaeth pobl hŷn ynglŷn â'r hawliau sydd ganddynt eisoes a gwneud yn siŵr fod yr hawliau hynny wedi sefydlu yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, ac yn wir, mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol, o'r pwys mwyaf, ac rwy'n credu mai'r pryder hwn sydd wedi ysgogi Darren Millar i ddwyn y Bil hwn gerbron heddiw, ac yn sicr, rwy'n cytuno'n gryf â'r teimladau sydd wrth wraidd y Mesur a argymhellir.
Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda ac ar ran pobl hŷn, fel y mae Darren Millar wedi cydnabod, o gyflwyno'r strategaeth gyntaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2003 i sefydlu comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2008, ac mae'r gwaith hwn yn parhau heddiw gyda ffocws o'r newydd ar hawliau pobl hŷn, fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies. Mae gwaith cyfredol ar sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn gwreiddio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys y canlynol: cynhyrchu canllawiau ymarferol i ddangos sut y gall cyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; diweddaru canllawiau 2009 ar bryderon cynyddol ynglŷn â chau cartrefi gofal; cynllunio ar gyfer ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ofal cymdeithasol yng ngwanwyn 2019, a fydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn o dan y gyfraith bresennol; a chydweithio'n agos â phobl hŷn, cyrff cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector ac academyddion blaenllaw ar gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio—a goruchwylir gwaith cynnar ar hyn gan fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio. Bydd yn mabwysiadu dull yn seiliedig ar hawliau, sy'n gosod pobl hŷn wrth wraidd y broses o lunio polisi. Nid yw honno'n rhestr gynhwysfawr, ond credaf ei bod yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu ac i gynnal hawliau pobl hŷn.
Yn ychwanegol at y gwaith hwn ar sicrhau bod hawliau'n real, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gefnogi pobl hŷn ar sail ehangach. Mae hyn yn cynnwys nofio am ddim, tocynnau teithio am ddim ar fysiau, hybu gwasanaethau eiriolaeth, ymgysylltu â phobl hŷn drwy fforwm cynghori'r Gweinidog, ariannu mentrau atal cwympiadau, gwella ansawdd cartrefi gofal, ariannu cynllun gweithredu ar gyfer dementia, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cynyddu'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl, a buddsoddi'n sylweddol mewn iechyd a gofal, gan gynnwys drwy gyfrwng y gronfa gofal integredig.
Felly, pan fyddwn yn ystyried rhinweddau'r ddeddfwriaeth a argymhellir, rhaid inni ei rhoi mewn cyd-destun. Mae hawliau pobl hŷn eisoes wedi'u hymgorffori yn Neddf Hawliau Dynol y DU 1998, ac mae oed yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol yng Nghymru, mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ac yn rhoi llais cryf i bobl hŷn yn y trefniadau ar gyfer unrhyw ofal y gallent fod ei angen. [Torri ar draws.] Iawn, yn sicr.
O—
Credaf mai Suzy Davies oedd yn gyntaf.
Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum eich gweld, Suzy.
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Weinidog, efallai na wnaethoch fy ngweld. Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Cyn i chi orffen eich araith, tybed a allwch esbonio pa rwymedïau sydd ar gael i bobl sy'n disgwyl i'w hawliau gael eu parchu, ond sy'n cael cam mewn gwirionedd.
Byddaf yn dod at hynny yn fy araith. Felly, byddaf yn rhoi sylw i hynny.
Diolch i chi, Suzy. A fyddai—? Mae'n ddrwg gennyf, dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael i'ch croesawu'n ffurfiol i'ch swydd, a gwn y byddwch yn gwneud gwaith gwych, gwaith gwirioneddol wych. A gaf fi ofyn, er hynny—? Y prawf asid—ai deddfwriaeth neu agenda bresennol y Llywodraeth o wneud yr hawliau hyn yn real—yw pan fyddwch yn cerdded i ganol grŵp o bobl hŷn ac maent yn dweud wrthych, 'Rwy'n gwybod beth yw fy hawliau'. Maent yn dweud, o ran y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, 'Rwy'n deall mai dechrau unrhyw sgwrs ddylai fod yn bwysig i mi', yn yr un modd ag a gewch pan fyddwch yn cerdded i mewn i ysgolion cynradd gyda phlant. Nawr, nid ydym wedi cyrraedd yno eto, ac mae'n bwynt dadleuol o ran yr angen am ddeddf neu beidio, rhaid imi ddweud. Fy newis personol yw y dylem barhau i'w ymgorffori yn y modd hwn. Ond dyna'r prawf asid—pan fyddwch yn cerdded i blith grŵp o bobl hŷn ac maent yn dweud yn huawdl, yn groyw, 'Rwy'n gwybod beth yw fy hawliau. Rwy'n mynnu fy hawliau.'
Cytunaf yn llwyr gyda Huw Irranca-Davies, a hoffwn ddiolch iddo am bopeth y mae wedi'i wneud i hyrwyddo'r agenda hon. Ond rydym yn gwybod hefyd fod yna grwpiau eraill mewn cymdeithas sy'n dioddef anghydraddoldeb ac yn haeddu cael eu hawliau wedi'u gwireddu yn llawer mwy cyson.
Gwyddom eisoes fod galwadau wedi bod i weithredu'r Confensiwn ar Ddileu Pob Ffurf ar Wahaniaethu yn erbyn Menywod, a hefyd i ddwyn confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl i mewn i gyfraith Cymru. Ond byddai gweithredu ar yr achosion a wnaed dros ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ar ran gwahanol grwpiau yn creu perygl o ddull tameidiog o greu deddfwriaeth, a chredaf y byddai dull anwastad yn ddryslyd i'r cyrff cyhoeddus sydd â dyletswyddau, fel y byddai i bobl Cymru.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn pryderu, yn dilyn Brexit, y gallai Llywodraeth y DU yn hawdd geisio gwanhau neu hyd yn oed ddiddymu Deddf Hawliau Dynol y DU. Yma heddiw nid yw'n bosibl rhagweld a fydd y pryderon hyn yn datblygu, ond fel Llywodraeth, rhaid inni fabwysiadu dull sy'n cynnig hyblygrwydd i ymateb i'r amgylchiadau posibl. Rwy'n gweld bod yr holl dadleuon hyn yn ddadleuon dros fabwysiadu dull mwy uchelgeisiol, mwy cyfannol o ddeddfu ar gyfer hawliau dynol wedi'i ddiogelu yn erbyn amgylchiadau posibl. Felly, er mwyn datblygu ein dull a ffafrir, mae camau eisoes wedi'u cymryd tuag at gomisiynu ymchwil annibynnol i edrych ar sut y gallwn ymgorffori saith cytuniad hawliau'r Cenhedloedd Unedig ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yng nghyfraith Cymru, gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a chryfhau rheoliadau neu ganllawiau presennol.
Bydd Gweinidogion yn cyfarfod ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn a'r comisiynwyr eraill a'u cynrychiolwyr ar 6 Chwefror, a gwn fod yr Aelod a gyflwynodd y Bil hwn wedi cael gwahoddiad i fynd i'r seminar honno hefyd i drafod y materion hyn. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y modelau deddfwriaethol sy'n deillio o'r ymchwil a'r nod yw cyflwyno cynigion erbyn diwedd y flwyddyn hon. Gwneir hyn i gyd gan gynnwys y bobl hŷn a'u cynrychiolwyr, ymhlith eraill.
Felly, i gloi, er fy mod yn cefnogi'r teimladau sydd wrth wraidd y Bil hwn yn gryf, nid dyma'r amser ar gyfer y ddeddfwriaeth benodol hon. Pan fyddwn yn deddfu, dylem wneud hynny mewn ffordd gyfannol ar gyfer y gymdeithas gyfan ac mewn ffordd sy'n nodi anghenion yr holl grwpiau difreintiedig. Gan nad wyf yn gallu cefnogi'r Bil hwn heddiw, byddaf yn anelu i weithio'n agos gyda'r Aelod cyfrifol, y comisiynydd pobl hŷn a phartneriaid a rhanddeiliaid pwysig eraill, beth bynnag yw canlyniad y bleidlais yn ddiweddarach heddiw, er mwyn gwneud hawliau'n real i bobl hŷn. Nid wyf yn credu bod unrhyw anghytundeb o gwbl yma ynglŷn â'r egwyddorion, ond yn hytrach, awydd y Llywodraeth i weld dull mwy uchelgeisiol, cyfannol a strategol, ac nid wyf yn meddwl mai dyna sydd gennym yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw.
Byddai—[Torri ar draws.] Os caf fwrw ymlaen, os yw'r Aelod yn caniatáu i mi wneud, o ystyried fy mod yn sefyll ar y pwynt hwn yn y broses i gefnogi cynnig yr Aelod, ac i argymell i'r Cynulliad ein bod yn caniatáu i'r ddeddfwriaeth hon fwrw yn ei blaen ar y cam hwn. Dylwn ddweud, yng ngrŵp Plaid Cymru, y byddwn yn cael pleidlais rydd ar hyn, a bydd yr Aelodau, fel y teimlaf sy'n briodol ar gyfer deddfwriaeth meinciau cefn, yn penderfynu ar y rhinweddau yn eu barn hwy.
Credaf fod budd mewn egwyddor i'r hyn y mae Darren Millar yn ei gynnig. Mae gennym dystiolaeth o effeithiolrwydd ymgorfforiad rhannol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'r Aelodau'n gwybod, fel y crybwyllodd y Gweinidog eisoes, am fy nghynnig ein bod yn ystyried cynnwys y confensiwn ar hawliau pobl anabl. Fel y dywedodd y Gweinidog, cytunaf yn llwyr â hi, a'r achos y mae Darren Millar wedi'i nodi, am y gwahaniaethu difrifol y mae pobl hŷn yn ei ddioddef mewn llawer o amgylchiadau, er bod rhaid inni hefyd gydnabod bod pobl hŷn weithiau ymysg y rhai mwyaf breintiedig a mwyaf llwyddiannus yn ariannol, felly nid yw'n wir bob amser. Ond cefais fy synnu, er enghraifft, wrth weld enbydrwydd rhai o'r gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl, ac mae rhai o'r cartrefi gofal yr ymwelais â hwy wedi bod yn hollol waradwyddus. Dylwn ddweud hefyd fy mod wedi ymweld â rhai lleoliadau sydd wedi bod yn eithriadol, ac yn aml, nid y rhai mwyaf moethus yw'r rheini, nid y rhai mwyaf costus, ond y rhai lle y ceir gofal o'r ansawdd uchaf.
Felly, rwy'n cydnabod disgrifiad Darren Millar o rai o'r heriau a wynebwn wrth sicrhau bod pobl hŷn yn gallu arfer eu hawliau. A'r cwestiwn i'r Cynulliad hwn fydd: ai'r ddeddfwriaeth hon yw—neu ai'r ddeddfwriaeth hon fydd, oherwydd, nid ydym wedi ei gweld eto wrth gwrs—ai'r ddeddfwriaeth hon fydd y fwyaf effeithiol a'r fwyaf tebygol o lwyddo i fynd i'r afael â'r ystod eang honno o heriau y mae Darren Millar yn gywir yn ei nodi?
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am y trafodaethau a gefais gyda Gweinidogion Cymru, gyda Julie James a gyda Jane Hutt, yn dilyn fy nghynnig mewn perthynas â'r confensiwn ar gyfer pobl anabl, ynghylch yr agenda ehangach y mae'r Gweinidog wedi'i gosod i ni heddiw, a diddorol iawn oedd darllen barn y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir, nid ydym yn gwybod eto, os a phan fydd Brexit yn digwydd, sut y bydd hynny'n effeithio ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb, oherwydd mae deddfwriaeth y DU, wrth gwrs, yn seiliedig ar apêl yn y pen draw i'r llysoedd Ewropeaidd, ac ni fyddai hynny'n wir mwyach. Felly, mae llawer o ffactorau anhysbys yn y sefyllfa hon. A buaswn yn siomedig iawn pe bai'r gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu yn cael ei lesteirio mewn unrhyw ffordd gan hynt y Bil arfaethedig hwn. Fodd bynnag, lle nad wyf yn cytuno â'r Gweinidog ar hyn o bryd yw nad wyf yn derbyn y byddai caniatáu i'r Bil hwn symud ymlaen i'r cam nesaf yn gorfod bwrw'r gwaith hwnnw oddi ar y cledrau o reidrwydd. Yn wir, gallwn ddychmygu sefyllfa lle y gallem fwrw ymlaen gyda'r ddeddfwriaeth hon, ac ar gam pellach, gallai'r Llywodraeth ddewis ymgymryd â hi a'i hymgorffori mewn gwaith pellach y maent yn ei wneud, fel y gwnaethpwyd, er enghraifft, pan gyflwynais Fesur hawliau gofalwyr mewn Cynulliad blaenorol, Mesur a gafodd ei fabwysiadu wedyn gan y Llywodraeth a'i roi mewn darn ehangach o waith yr oeddent yn ei wneud ar hyrwyddo hawliau gofalwyr.
Hoffwn ddweud yn glir iawn heddiw wrth y Llywodraeth nad wyf yn credu y gallwn ddefnyddio Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, fel y mae yn awr, i symud yr agenda hon yn ei blaen. Ni ellir sicrhau iawn i'r unigolyn o dan y Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, ac mae'r Comisiynydd ei hun yn ei gwneud yn glir na all wneud dim heblaw enwi a chodi cywilydd. A gwn fod Gweinidogion yn edrych ar yr anghysondeb rhwng pwerau ein comisiynwyr gwahanol, a hefyd yn edrych ar y ffordd y mae'r pwerau hynny wedi neu heb gael eu defnyddio. Ac unwaith eto, gwn y caiff hynny ei ymgorffori yn y gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i amlinellu heddiw. Ond unwaith eto, ni welaf fod hwnnw'n rheswm ar hyn o bryd o reidrwydd i'r Cynulliad hwn beidio â chaniatáu i gynnig Darren Millar symud yn ei flaen.
Bydd yn ddiddorol iawn gweld manylion y Bil. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y mater a gododd Suzy Davies ynglŷn â gorfodadwyedd oherwydd fe wyddom—ac rwy'n edrych ar Jane Hutt, ein Gweinidog cydraddoldeb, sy'n gwybod yn iawn, oni bai fod gan unigolion fecanweithiau y gallant eu defnyddio, mecanweithiau nad ydynt yn dibynnu ar y Llywodraeth, nad ydynt yn dibynnu ar gomisiynydd annibynnol, ond y gallant eu defnyddio eu hunain i orfodi'r hawliau hynny, mae'n bosibl na chaiff yr hawliau hynny eu gorfodi yn y pen draw. Ac mae gennym brofiad o geisio gweithredu deddfwriaeth cydraddoldeb rhywiol sy'n gwneud hynny'n glir.
Rwy'n credu ein bod—gallwn weld o'r ddadl hon—yn unedig yn ein dymuniad yn y Siambr hon i fynd i'r afael â gwahaniaethu sydd, heb amheuaeth, yn wynebu pobl hŷn. Credaf y dylem aros i weld manylion y Bil hwn cyn dod i gasgliad pa un ai hon yw'r ffordd iawn ymlaen ai peidio. Ac ar sail hynny, rwy'n cymeradwyo cynnig Darren Millar i'r tŷ.
Mae'n fraint heddiw i gymryd rhan yn yr hyn a allai fod yn foment hanesyddol i'n pobl hŷn yng Nghymru, ac yn wir i genedlaethau'r dyfodol. Er bod Cymru yn gartref i lai nag 1 y cant o boblogaeth y byd, gallai'r Bil a gyflwynwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar AC, fod yn newid ar lefel fyd-eang. Byddai'n gosod cynsail pwysig i wledydd eraill ei ddilyn—yr angen i ymgorffori dull yn seiliedig ar hawliau o ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar ein pobl hŷn.
Er bod rhaid imi gydnabod bod Cymru wedi bod yn wlad arloesol o ran buddiannau pobl hŷn mewn nifer o ffyrdd, megis creu rôl comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2006, fe ellir ac fe ddylid gwneud mwy. Dylem i gyd ofyn i ni ein hunain pam na fyddem eisiau helpu i greu cenedl lle y ceir dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus Cymru i ystyried 18 egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Yn bersonol, ni welaf unrhyw esgus posibl dros rwystro hyn, gan fod lles gorau a pharch at bobl hŷn yn ganolog i'r egwyddorion.
Ystyriwch hyn: pe bai'r Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, gallai fynd ati bron ar unwaith i drawsnewid bywydau dros 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru, oherwydd byddai'n mynd yn bell i alluogi pobl hŷn i gael rheolaeth dros y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, er enghraifft, gan gynnwys ansawdd eu gofal. Nawr, amlygwyd yr angen am hyn yn yr adroddiad 'Lle i'w alw'n gartref?', lle y nodwyd un gwirionedd sy'n peri pryder—fod ansawdd bywyd gormod o bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn annerbyniol. Er enghraifft, canfuwyd bod pobl hŷn yn gweld eu hunaniaeth bersonol a'u hunigoliaeth yn lleihau'n gyflym, a'u bod yn colli'r hawl i ddewis a chael rheolaeth dros eu bywydau pan fyddant yn mynd i gartref gofal. Yn aml nid ydynt yn cael y lefel o ofal y mae ganddynt hawl i'w disgwyl, ac mae diwylliant cartrefi gofal yn aml wedi'i adeiladu ar fodel dibyniaeth, sy'n aml yn methu atal dirywiad corfforol, ac nid yw'n caniatáu i bobl gadw neu adennill eu hannibyniaeth. Nawr, yn fy marn i, byddai'r Bil yn helpu unigolion ac awdurdodau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau dinistriol o'r fath. Nid fi sy'n dweud hyn i gyd—yr adroddiad a ddywedai hynny.
Yn ogystal, i etholaethau gwledig fel fy un i, Aberconwy, sy'n rhan o'r cyngor sir sydd â'r gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, mae'n wir y byddai'r Bil hwn yn cyflawni llawer iawn, drwy helpu i ddiogelu buddiannau trigolion oedrannus pan wneir newidiadau i gyfleusterau lleol. Er enghraifft, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi cymryd rhan mewn ymgyrch i achub gwasanaethau bysiau, sy'n achubiaeth allweddol i gymunedau, ac yn enwedig trigolion oedrannus. Pe bai'r ddeddfwriaeth hon ar waith, rwy'n hyderus y byddai mwy o ystyriaeth o effaith newidiadau ar y person hŷn a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar yr effaith hon—yn fy etholaeth, ac yn etholaethau a rhanbarthau pob un ohonom yn wir. Mae'r angen am hyn yn amlwg, gan fod cau 189 o doiledau cyhoeddus, un o bob chwech llyfrgell, a 29 o bractisau meddyg teulu yng Nghymru yn cyd-daro â chyfradd uchel iawn o arwahanrwydd ac unigrwydd. Yn wir, yn ôl Age Cymru, mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig—problem a waethygir wrth i wasanaethau lleol gael eu tynnu'n ôl. Ac mae hyn yn digwydd o dan Lywodraeth Lafur Cymru.
Yn sicr, wrth ystyried mai'r genhedlaeth hŷn sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fyddin Cymru o wirfoddolwyr, a bod neiniau a theidiau yn unig yn arbed £259 miliwn y flwyddyn i rieni Cymru, mae'n amlwg i mi mai'r Bil hwn yw'r peth lleiaf y gallwn ei roi'n ôl iddynt. Felly rwy'n gobeithio, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn newid eich meddwl, ac Aelodau eich meinciau cefn a'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet yn wir. Oherwydd, wyddoch chi beth, yr un Siambr yw hi, ond deddfwriaeth wahanol, ar wythnos wahanol. Rwy'n ofni mai'r rheswm am hyn yw mai deddfwriaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yw hi. Pa obaith y mae'n ei roi i Aelodau'r meinciau cefn fel fi? Pa obaith y mae'n ei roi i Aelodau ac ymgeiswyr newydd i'r Cynulliad fod modd iddynt gael eu dewis mewn pleidlais a'i fod yn cyrraedd llawr y Siambr hon, ddim ond i gael ei wrthod oherwydd teyrngarwch llwythol pur a gwleidyddiaeth plaid?
Wel, yn amlwg, o ystyried fy oedran, rwy'n teimlo y dylwn ddatgan buddiant ar y pwynt hwn. [Chwerthin.] Er na ddylai ein hawliau newid wrth i ni fynd yn hŷn, mae pobl hŷn yn aml yn wynebu agweddau negyddol a gwahaniaethu ar sail oedran, yn arbennig, mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd, cyflogaeth, nwyddau a gwasanaethau, gwybodaeth ac addysg. Mae pobl hŷn hefyd yn wynebu rhwystrau cynyddol i gyfranogi, yn dod yn fwy dibynnol ar eraill ac yn colli peth, neu'r cyfan, o'u hannibyniaeth bersonol. Gall y bygythiadau hyn i'w hurddas eu gwneud yn fwy tebygol o ddioddef esgeulustod, cam-drin a cholli hawliau.
Credaf y byddai'r Bil arfaethedig hwn yn sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cryfhau. Byddai hefyd yn diogelu'r egwyddor, yn yr un modd ag y mae pobl hŷn yn ganolog i lawer o'n teuluoedd, y byddant hefyd yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth ystyried materion allweddol, megis mynediad at ofal iechyd, cynhwysiant ariannol a gwasanaethau cyhoeddus.
Yn aml, clywn straeon newyddion ynglŷn â sut y mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Mae tua 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru, a rhagwelir cynnydd o 232,000 yn nifer y bobl 65 oed a hŷn, sef 36 y cant, erbyn 2041. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl ar y gost o dalu am ofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, mae'n bwysig inni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n hyrwyddo heneiddio'n dda a thrwy drafodaeth urddasol a pharchus.
Er bod gofal cymdeithasol yn ffactor o bwys wrth drafod sut y cynlluniwn ar gyfer y dyfodol, ceir llawer o ystyriaethau eraill. Yn fy rhanbarth i, mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf sut yr effeithir yn niweidiol arnynt gan doriadau i wasanaethau llyfrgell a gofal dydd neu newidiadau i wasanaethau swyddfeydd post. Cafwyd achosion torcalonnus, wrth gwrs, o bobl hŷn yn dioddef sgamiau. Fel yr Aelodau eraill, rwyf innau hefyd wedi clywed gan etholwyr sy'n cael trafferth i gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Credaf y byddai'r Bil hwn yn mynd yn bell i helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o hawliau pobl hŷn a lleddfu anawsterau real iawn o'r fath.
Mae sicrhau nad yw pobl hŷn dan anfantais oherwydd eu hoedran yn un o heriau mwyaf y cyfnod modern. Yr her honno yw sicrhau bod pob un o'n pobl hŷn yn gallu byw bywydau cyflawn, ac nad ydynt yn cael eu gweld fel baich, ond yn hytrach eu bod yn cael eu cydnabod am y cyfraniad a wnaethant ar hyd eu bywydau i'r economi a'r gymuned yn gyffredinol, a hefyd i gydnabod bod llawer ohonynt yn dal i gyfrannu at y fywyd y gymdeithas mewn nifer o ffyrdd, ac yn aml eu bod yn asgwrn cefn i lawer o elusennau a gweithgareddau cymdeithasol.
Felly, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau statudol i sicrhau bod y gwasanaethau craidd a phrif ffrwd ar gael i drigolion hŷn yn yr un modd ag y maent i bobl eraill. Am y rheswm hwnnw, byddwn ni yn UKIP yn cefnogi'r Bil heddiw, ac rydym yn annog pob ochr i'r Siambr i wneud yr un peth. Os caiff plant eu hamddiffyn yn y gyfraith, pam nad y grŵp arall hwnnw sy'n fwyaf agored i niwed, yr henoed?
Hoffwn ddiolch i Darren am gyflwyno'i gynnig ar gyfer Bil ar hawliau pobl hŷn. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i gynigion Darren yn llawn, ac fe wnaf bopeth a allaf i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn dod yn Ddeddf y Cynulliad hwn. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â threchu unigrwydd ac arwahanrwydd ac rwyf wedi siarad yn y Siambr hon droeon ar y pwnc. Bydd diogelu hawliau pobl hŷn yn mynd yn bell i ymdrin ag achosion craidd arwahanrwydd yn ein poblogaeth hŷn.
Yn anffodus, mae rhagfarn ar sail oedran yn dal i fodoli yn ein cymdeithas, ac mae'n sefydliadol mewn llawer o ffyrdd. Cefais nifer o alwadau ffôn gan bobl dros 75 oed yr oedd eu hyswiriant car wedi dyblu neu dreblu hyd yn oed oherwydd eu hoedran yn unig, nid oherwydd nad oedd yn ddiogel iddynt yrru neu ar ôl cael damweiniau, ond oherwydd eu hoedran yn unig—ac os nad yw hynny'n wahaniaethu ar sail oedran, nid oes dim arall—gan eu prisio allan o'r farchnad, i bob pwrpas, eu hamddifadu o'u rhyddid a chyfrannu at gynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd. Nid y cwmnïau yswiriant yn unig sy'n arddangos rhagfarn sefydliadol. Mae gwasanaethau o fanciau i gwmnïau cyfleustodau yn symud fwyfwy ar-lein, gan ynysu cenhedlaeth a ystyriai gyfrifiaduron fel pethau maint adeiladau mawr ac yn eiddo i lywodraethau a phrifysgolion yn unig.
Yn anffodus, mae lefelau allgáu digidol ar eu huchaf ymhlith pobl dros 65 oed a gwaethygir ei effeithiau gan Lywodraethau'n symud gwasanaethau ar-lein, gan fanciau'n cau a chwmnïau cyfleustodau'n mynd yn ddi-bapur. Mae'n ffaith drist yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain fod pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd eu bod yn hŷn.
Cryfhawyd rhagfarn ar sail oedran yn y blynyddoedd diwethaf gan y drafodaeth ynglŷn â dyfodol pensiynau a gofal cymdeithasol. Weithiau trafodwyd hyn yn ansensitif gan greu gwrthdaro rhwng y cenedlaethau a rhoi'r bai ar y rhai dros 65 oed am galedi'r rhai a anwyd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.
Mae'r cenedlaethau hŷn wedi talu treth ac yswiriant gwladol am dros 50 mlynedd; maent wedi mwy na thalu am eu gofal a'u lles yn ystod eu hymddeoliad. A mater i Lywodraethau olynol oedd cynllunio a darparu ar gyfer gofal cymdeithasol a phensiynau.
Mae'n amlwg i mi fod angen inni ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru mewn cyfraith er mwyn tanlinellu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, sy'n hyrwyddo annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac yn bwysig iawn, urddas. Dylai'r egwyddorion hyn fod yn sail i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat i bobl hŷn yng Nghymru. Bydd gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn cael effaith ddramatig ar hawliau pobl hŷn yng Nghymru.
Dull o weithredu gwasanaethau cyhoeddus sy'n seiliedig ar hawliau yw'r dull cywir. Felly, rwy'n croesawu argymhellion Darren ar gyfer y Bil hwn ac yn ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr i gefnogi'r cynnig hwn, cynnig sy'n ennyn cefnogaeth aruthrol o blith y cyhoedd a'r trydydd sector. Felly, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, ar draws y Siambr hon i ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn y gyfraith. Diolch yn fawr.
Fel Huw Irranca, hoffwn yn fawr iawn groesawu Julie Morgan i swydd y Dirprwy Weinidog, oherwydd rwy'n siŵr y bydd eich profiad anferth yn sicrhau rhagoriaeth yn y portffolio penodol hwn.
Mae'n debyg fod angen imi ddatgan buddiant yn ogystal: fel mam-gu ddwywaith drosodd, rhaid fy mod yng nghategori person hŷn yn ôl pob tebyg, ac mae pawb ohonom yn wynebu hynny yn ein tro. Credaf fod rhai o'r ystadegau a gynhyrchwyd gan Darren Millar, wrth gwrs, yn ddigalon iawn. Mae'r ffaith bod 75,000 o bobl yn teimlo'n unig y rhan fwyaf o'r amser yn ysgytwad i bawb ohonom. Ond rwy'n meddwl tybed sut y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i'r afael â hynny. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ohonom roi sylw iddo, ond nid wyf yn gweld sut y mae deddfwriaeth yn mynd i wneud hynny.
Roeddwn yn pryderu na sonioch chi am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eich cyflwyniad. Ac roedd hynny cyn i Helen Mary ddweud nad oedd hi'n gweld fod gan y Ddeddf unrhyw beth i'w wneud â'r mater. Rwy'n pryderu—
A wnewch chi ildio?
Na wnaf. Rwy'n credu fy mod ar ganol dweud rhywbeth ar y foment. Fe'i cymeraf mewn eiliad, gwnaf.
Rwy'n pryderu ein bod yn y broses o bosibl o dorri darnau oddi ar y dull cyfannol iawn a oedd gennym o benderfynu ar ein blaenoriaethau, deddfwriaeth a oedd yn arloesol ac o bosibl, gallai hyn danseilio'r dull cyfannol hwnnw.
Felly, rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
I egluro, Jenny Rathbone, er eich budd, ni ddywedais nad oedd ganddi ddim i'w wneud â'r peth. Yr hyn a ddywedais oedd nad oedd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi hawliau gorfodadwy i unigolion ac felly, nid dyna oedd y cyfrwng priodol i ymdrin â'r holl faterion a godwyd gan Darren Millar. Nid yw hynny'n golygu nad yw'n ddarn gwerthfawr o ddeddfwriaeth a all wneud pethau eraill defnyddiol iawn.
Diolch i chi, Helen Mary, am fy atgoffa o'r hyn a ddywedoch chi mewn gwirionedd, gan fy mod yn mynd i ddweud mewn ymateb i hynny fod gan bobl hŷn ffordd eisoes o gwyno i'r comisiynydd pobl hŷn os nad ydynt yn credu eu bod yn cael eu trin yn deg, yn ogystal â'r holl ffyrdd eraill y gall pawb ohonom gwyno. Credaf fod gennyf bryderon ein bod yn canolbwyntio ar un grŵp penodol—un grŵp arbennig nad yw wedi gwneud mor wael â phobl eraill yn sgil y rhaglen gyni ers 2010. Y bobl sydd wedi dioddef fwyaf o'r rhaglen gyni yw plant, nad oes ganddynt unrhyw lais a fawr iawn o bŵer. Felly, rwy'n pryderu am gydbwysedd ein dull o weithredu, ac fel y dywed Darren Millar, mae'n credu y byddai'n costio £1.75 miliwn i'w weithredu, ac rwy'n meddwl tybed onid oes ffyrdd gwell o ailffurfio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn well na chael deddfwriaeth newydd. Gweithredu sydd ei angen arnom, nid geiriau. Os bydd angen inni roi mwy o arian tuag at wasanaethau pobl hŷn, rydym yn mynd i orfod canfod ffyrdd o'i gynhyrchu. A pham fod cynigion Holtham yn dadlau, os ydym yn mynd i gael gofal cymdeithasol am ddim lle y mae ei angen, ac am ddim lle y caiff ei ddarparu, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i fecanwaith arall ar gyfer rhoi mwy o arian yn y system, oherwydd ar hyn o bryd nid ydym yn talu digon i bobl am wneud y gwaith pwysig iawn y maent yn ei wneud.
Yn wahanol i Helen Mary Jones, rwyf wedi gweld arferion da iawn yn fy etholaeth. Rwyf hefyd wedi gweld enghreifftiau o arferion gwael, ac ymdriniwyd â'r rheini gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac maent wedi cael eu cau o ganlyniad. Dyna sut y dylai fod. Ond credaf ei bod yn warth nad ydym yn talu mwy i bobl, ac rwy'n credu bod angen inni fynd i'r afael â pham nad ydym yn rhoi mwy o arian yn y system fel cymdeithas i sicrhau bod pobl hŷn yn cael henaint rhagorol. Bydd rhai pobl yn dewis mynd i gartref nyrsio preswyl, neu gartref preswyl, ond bydd eraill yn dymuno aros yn eu cartref eu hunain, a dyna lle yr hoffwn weld llawer iawn mwy o ffocws.
Felly, o ran yr hyn roedd Caroline yn ei ddweud ynglŷn â chwmnïau yswiriant car yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn—wyddoch chi, cwmnïau preifat yw'r rhain. Byddant yn ymdrechu i godi'r uchafswm y gallant lwyddo i'w gael, ac mae angen i bobl eu herio a cheisio mynd i rywle arall. Nid yw pob person hŷn yr un fath. Mae rhai pobl hŷn yn berffaith abl i ddadlau eu hachos, fel y mae rhai pobl iau yn methu dadlau eu hachos yn dda. Fe gymeraf ymyriad—
Wel, mae eich amser wedi dod i ben, fel mae'n digwydd, felly os hoffech chi ddirwyn eich araith i ben, ac yna fe symudwn ymlaen.
Hoffwn ddirwyn i ben a dweud fy mod yn pryderu am y dull tameidiog hwn o weithredu hawliau dynol, a hoffwn weld dull llawer ehangach yn cael ei arfer. Rydym yn mynd i orfod deddfu yn ôl pob tebyg, os ydym yn gadael Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac ymddengys i mi fod hwnnw'n ddull llawer gwell.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae pobl wedi bod yn ei ddweud, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gefais, yn sicr ar feinciau'r wrthblaid, i'r cynnig rwyf am fwrw ymlaen ag ef. Yn amlwg, rwy'n siomedig iawn fod y Llywodraeth yn anghydweld â mi yn hyn o beth, ynglŷn â bod hon yn ffordd briodol o fwrw ymlaen â'r agenda sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio at ddull tameidiog o weithredu. Wel, dull tameidiog sydd gennym yn awr, un a ddechreuwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â hawliau plant a phobl ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth roedd pawb ohonom yn teimlo bod angen mynd i'r afael ag ef. Ac fel y dywedodd David Rowlands yn hollol gywir, mae hawliau pobl ifanc wedi eu diogelu yng nghyfraith Cymru, ac mae pobl hŷn yn haeddu cael eu hawliau hwy wedi'u diogelu hefyd.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, yn fyr iawn.
Dywed ei fod yn dameidiog ac mae'n rhoi un enghraifft, ond credaf fod enghraifft arall wedi'i hawgrymu yn awr yn y ffaith bod cwmnïau yswiriant—bydd ein pobl hŷn yn dibynnu ar gystadleuaeth. Ni allwch gael cwmni yswiriant yn gwahaniaethu ar sail rhyw. Pam y dylent allu gwneud hynny ar sail oedran?
Mae'n hollol gywir. Mae unrhyw wahaniaethu ar sail oedran yn rhywbeth na ddylem ei oddef, ond yn anffodus, mae gormod o bobl yn cael rhwydd hynt i wneud hynny. Credaf y bydd canfyddiad y gall fod peth teyrngarwch llwythol gwleidyddol ar waith yma. Ni allaf warantu mai dyna fydd y canfyddiad, ond credaf y bydd rhai pobl yn ei weld felly. Dyna sy'n cael ei awgrymu yn sicr, rwy'n credu, gan y ffaith bod un blaid ag ymagwedd wahanol i'r lleill. Ac roeddwn yn gefnogol iawn i'r angen i wneud pethau ar yr agenda hawliau ehangach, a dyna pam y derbyniais y gwahoddiad i fod gyda chi yn y cyfarfod ar 6 Chwefror, er y gwyddom fod hwnnw'n gyfarfod a drefnwyd yn frysiog iawn. Ddoe ddiwethaf y cafodd y comisiynydd pobl hŷn wahoddiad, fel minnau, mewn ymgais i rwystro'r cynnig penodol hwn rhag gwneud cynnydd yn y Siambr. Rydym yn gwybod bod hynny'n wir, felly rwy'n siomedig braidd ynglŷn â'r ymdrechion munud olaf hyn i droi pobl yn erbyn y Bil.
Jenny Rathbone, fe wnaethoch araith ddiddorol, ond ni wnaethoch lynu wrth y thema yma. Roeddech yn sôn am yr holl agenda talu am ofal ac agenda Holtham, ond wrth gwrs rwy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl yma ar hawliau: gwneud yn siŵr fod yr hawliau hynny'n hygyrch i bobl hŷn; y gallant wireddu eu hawliau; ac y gallant sicrhau rhywfaint o iawn i wneud yn siŵr fod eu hawliau'n cael eu diogelu, eu hyrwyddo a'u parchu gan bawb yng Nghymru, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Yn rhy aml, ni roddir cyfle i ymgynghori â phobl hŷn ar y pethau mawr sy'n digwydd yn eu cymunedau lleol, er enghraifft. Fel arfer, drwy byrth ar y we yn unig y bydd cyfle i bobl edrych ar ddogfennau ymgynghori ac ymateb iddynt. Felly, credaf fod yna bryder yn y cyswllt hwnnw.
Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn gwbl briodol—treuliodd amser yng ngofal y briff pobl hŷn, ac rwy'n dymuno'r gorau i Julie Morgan am ymgymryd â hyn—mae'n gwybod cystal â minnau pan ewch o gwmpas i siarad â phobl hŷn, nad ydynt yn ymwybodol beth yw eu hawliau. Mae pobl ifanc yn gwybod oherwydd llwyddiant Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond nid oes gan bobl hŷn unrhyw syniad. Felly, mae'n iawn dweud bod ganddynt gomisiynydd pobl hŷn a all eu helpu i ymdrin â'u cwynion, ond os nad ydynt yn gwybod beth yw eu hawliau, ni allant wireddu'r hawliau hynny a gwneud cwyn pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu tramgwyddo. Fe gymeraf ymyriad gan Huw Irranca.
Diolch, Darren, am gymryd yr ymyriad. Rydych yn gwneud pwynt da iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Nid ydym yn gwybod sut y mae'r bleidlais yn mynd i fynd heddiw, ond a gaf fi ofyn iddo: pe bai'r bleidlais yn mynd—. Os na fwrir ymlaen â'i gynnig ar gyfer Bil—ac yn seiliedig ar y cynnig i ddatblygu nid yn unig yr hyn sydd o fewn ysbryd a bwriad a manylion ei gynnig, ond hefyd yr agenda hawliau ehangach—a fyddai'n barod, ac rwy'n gofyn hyn yn hollol resymol, yn fodlon gweithio gyda'r Gweinidog wedyn, gyda'r Llywodraeth, ar y gwaith o'i gyflawni? Oherwydd mewn gwirionedd rwy'n gweld y wobr fwy yma hefyd. Pa un a yw'n hawliau pobl anabl, hawliau pobl hŷn, hawliau plant—mae agenda enfawr yma ar gyfer y dyfodol. Credaf y byddai'r Llywodraeth yn ôl pob tebyg—ac mae'r Gweinidog wedi dynodi hyn—yn croesawu eich cyfranogiad wrth fwrw ymlaen â hynny: ffordd wahanol at yr un nod.
Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad i ymwneud â'r Llywodraeth ar yr agenda honno. Rwy'n aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Rwy'n ymrwymedig i hawliau dynol, ac mae arnaf eisiau eu hyrwyddo yr holl ffordd. Credaf mai'r hyn sy'n fy mhryderu ynglŷn â dull y Llywodraeth yw ei fod yn ei ddyddiau cynnar iawn—mae'n embryonig. Nid oes unrhyw obaith o gwbl y cawn ni rywbeth ar y llyfr statud erbyn diwedd y Cynulliad hwn, ond gyda fy Mil pobl hŷn, mae hynny'n bosibl. Gwneir llawer o waith sylfaenol o fewn y Llywodraeth, gan y comisiynydd pobl hŷn ac eraill ar yr agenda hon. Mae gennym gyfle i lywio hyn drwy'r Cynulliad erbyn mis Rhagfyr 2020. Dyna'r awgrym a gefais gan y clercod sy'n fy nghynorthwyo gyda'r Bil hwn. Nid yw gwneud hyn yn atal gwneud y llall. Mae cyfle o hyd i weithredu ar ddau lwybr. Rydym bob amser yn mynd i gael trefniadau ar wahân ar gyfer plant a phobl hŷn, yn rhinwedd y ffaith bod gennym gomisiynwyr ar gyfer yr agendâu penodol hynny sy'n seiliedig ar hawliau. Nid yw hynny'n wir am unrhyw beth arall o ran hawliau dynol, ond maent yno ar gyfer plant a phobl hŷn. Dyna pam rwy'n argymell y dull hwn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd rhai pobl ar y meinciau Llafur, ar feinciau'r Llywodraeth, yn meddwl eto cyn gwrthod y cynnig hwn heddiw.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.