2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 20 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog Brexit, gyda phwy y cytunwch ynglŷn ag a ddylid cynnal ail refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd—y Prif Weinidog neu'r Gweinidog iechyd?
Roedd y Prif Weinidog yn glir iawn ddoe yn y Siambr ynghylch polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Brexit. Rydym o'r farn fod dau opsiwn ar gael ar gyfer y dyfodol. Un yw'r math o gytundeb rydym wedi bod yn ei ddisgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ers dros ddwy flynedd, ac yn niffyg hynny, refferendwm.
Wel, roedd honno'n ymdrech dda i osgoi, ond ni wnaethoch ateb y cwestiwn mewn gwirionedd. Rydych yn gwbl iawn i ddweud bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai cynnal ail refferendwm yn peri rhwyg ac efallai na fyddai'n derfynol, a dywedodd yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi ail refferendwm o gwbl ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs, mae hynny'n wahanol iawn i'r datganiadau gan y Gweinidog iechyd heddiw, sydd bellach yn ymgyrchu'n weithredol, mae'n ymddangos, dros bleidlais y bobl, fel y'i gelwir, i'r graddau ei fod yn trefnu dau fws o Lundain i Gaerdydd. A allwch ddweud wrthym ble mae hyn yn gadael cyfrifoldeb cyfunol Llywodraeth Cymru, a ydych o'r farn y dylai Gweinidog sy'n mynd yn groes i safbwynt y Llywodraeth ymddiswyddo, oherwydd yn amlwg—[Torri ar draws.]—yn amlwg, efallai fod y Gweinidog iechyd—[Torri ar draws.]—efallai fod y Gweinidog iechyd yn awyddus i drefnu bysiau, ond nid yw ar yr un bws â Llywodraeth Cymru?
Wel, mae hynny'n gamddisgrifiad llwyr o safbwynt y Gweinidog iechyd, trafodaeth y Prif Weinidog ddoe yn y Siambr a pholisi Llywodraeth Cymru, sydd, fel y dywedaf, yn hollol glir ac fe'i eglurwyd eto yn y Siambr ddoe gan y Prif Weinidog. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod refferendwm yn un o'r opsiynau ar gyfer datrys hyn. Rydym hefyd wedi disgrifio'r math o gytundeb y credwn y dylem ei geisio, ac yn niffyg hynny, refferendwm yw'r ffordd o'i ddatrys. Rydym wedi galw am wneud paratoadau ar y sail honno. Nid oes unrhyw broblem yma; roedd y Prif Weinidog yn glir iawn ynglŷn â pholisi'r Llywodraeth ddoe.
Mae'r Prif Weinidog, fel roeddwn yn gwbl iawn i'w ddweud, yn gwbl glir ynghylch y mater hwn, ond ymddengys nad oes diddordeb gan y Gweinidog iechyd yn y mater hwn o gyfrifoldeb cyfunol. Ac a dweud y gwir, dylai unrhyw un nad yw'n barod i gadw at gyfrifoldeb cyfunol mewn unrhyw Lywodraeth ymddiswyddo. [Torri ar draws.] Gadewch imi—[Torri ar draws.] Gadewch imi eich atgoffa—[Torri ar draws.] Gadewch imi eich atgoffa o'r sefyllfa bresennol mewn perthynas ag ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Senedd y DU wedi gwrthod ail refferendwm, wedi gwrthod 'dim bargen', ac wedi gwrthod aelodaeth o unrhyw fath o undeb tollau yn llwyr. Un cytundeb yn unig a negodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd: y cytundeb ymadael a negodwyd gan Brif Weinidog y DU. Mae'r cytundeb hwnnw'n cyflawni canlyniad y refferendwm, mae'n diogelu swyddi, mae'n diogelu trefniadau diogelwch ledled yr UE, ac yn wir, mae'n diogelu uniondeb y Deyrnas Unedig. Felly, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn deffro, yn derbyn y sefyllfa fel y mae, yn cefnogi Prif Weinidog y DU, fel rhan o dîm y DU, fel y gallwn gyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig o'i blaid?
A gaf fi roi ychydig bach o gyngor i'r Aelod? Os yw'n mynd i ddewis ymosod arnom ar sail cysondeb, awgrymaf ei fod yn edrych ychydig yn nes adref. A chredaf y byddai ychydig mwy o ffocws ar y lles cenedlaethol, yn hytrach na dim ond lles y blaid, wedi golygu na fyddai'r wlad hon yn y sefyllfa y mae ynddi yn awr, o dair blynedd o wastraffu amser, pan nad oedd ei Brif Weinidog yn gallu cynnig cytundeb sy'n ennyn cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin, na chefnogaeth ei Chabinet, neu roi Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn sefyllfa lle gall bleidleisio'n gyson â'i record bleidleisio ei hun—gan bleidleisio dros ac yn erbyn 'dim bargen'. Cwbl anghyfrifol.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Weinidog, a ydych chi'n bersonol yn credu fod y Gweinidog iechyd yn iawn i alw am yr ail bleidlais?
Wel, fel rwyf newydd ei nodi, rwy'n gwbl glir fod polisi'r Llywodraeth ar hyn yn glir iawn. Mae Prif Weinidog Cymru a'r Gweinidog iechyd wedi ymateb ynglŷn â hyn. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch polisi'r Llywodraeth ar hyn, fel y dywedais sawl gwaith yn barod heddiw.
Weinidog, rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn cymeradwyo Mr Gething am ei ddewrder, ac am fod yn barod i roi ei swydd yn y fantol er mwyn sefyll dros beth sydd orau i Gymru, ac i'r DU gyfan. Wrth gwrs, er mwyn gallu cynnal refferendwm, neu'n wir o ran safbwynt Prif Weinidog Cymru ynghylch dod i gytundeb, bydd angen ymestyn erthygl 50. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym am ba hyd y cred Llywodraeth Cymru y dylid ymestyn erthygl 50, ac i ba ddiben?
Wel, rwy'n falch o weld yr Aelod bellach yn glir iawn ynghylch ei pholisi. Mae Plaid Cymru wedi arddel tri gwahanol bolisi mewn tri mis ar y cwestiwn hwn, felly mae'n dda ei chael yn egluro ei safbwynt. Credaf ei bod yn siomedig fod Prif Weinidog y DU wedi gofyn am estyniad hyd at ddiwedd mis Mehefin, ac yn amlwg mae hi'n mynd ar drywydd strategaeth sy'n gwbl anghyfrifol, o fwrw ymlaen doed a ddel. Rydym wedi nodi'n glir mai'r hyn a ddylai ddigwydd yn awr—ac rwyf wedi bod yn glir y bore yma, mewn sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU mai'r hyn sydd angen ei weld yn digwydd yw newid strategaeth yn sylfaenol, fel bod y Prif Weinidog yn ceisio consensws llawer ehangach yn y Senedd, i adlewyrchu'r mathau o egwyddorion a amlinellwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', un sy'n ymwneud â thrafodaethau trawsbleidiol, heb unrhyw linellau coch. Mae hynny'n golygu ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol a fyddai'n bosibl, pe bai'n mynd ar drywydd hynny, o fewn y ffrâm amser gyfredol sydd ar ôl ganddi ar gyfer estyniad. Ond heb newid strategaeth o'r fath, ni chredaf y bydd y ffrâm amser y mae hi wedi gofyn amdani yn ei llythyr at Donald Tusk heddiw yn ein harwain i unrhyw sefyllfa well nag yr ydym ynddi heddiw.
Weinidog, rhaid imi ddweud nad wyf yn deall pam y mae Llafur Cymru yn sefyll yn etholiadau'r Cynulliad os nad oes gan y blaid unrhyw awydd ffurfio polisi cydlynol ar fater mawr y dydd pan fyddant mewn Llywodraeth. Fe fyddwch yn gwybod bod yr UE wedi dweud nad yw ond yn fodlon caniatáu estyniad i erthygl yn 50 os yw diben gwneud hynny'n gwbl glir, ac mae hynny'n galw am amserlen sy'n gwneud synnwyr. Nawr, oni bai fy mod wedi'i fethu yn eich ateb, ni ddywedoch yn union pa mor hir y credwch y dylid ymestyn erthygl 50. Mae The Times wedi adrodd bod y Comisiwn Ewropeaidd yn annhebygol o dderbyn estyniad byr, oherwydd byddai'n frith o anawsterau cyfreithiol a gwleidyddol, ac mae Ffrainc yn annhebygol o gydsynio â hynny, sy'n golygu, os bydd Llafur yn galw—fel yr adroddir yn awr—am oedi byr yn unig, byddai hynny'n gwneud gadael yr UE mewn 11 diwrnod heb gytundeb yn ganlyniad tebygol iawn.
Weinidog, mae eich sefyllfa'n afresymegol, yn afreolaidd ac yn anghyfrifol. Ac rwy'n meddwl tybed a ydych o ddifrif ynghylch cynnig strategaeth synhwyrol allan o'r llanastr hwn, neu ai gwir nod Llafur yma yw gweithredu strategaeth tir llosg, drwy hwyluso Brexit 'dim bargen' trychinebus fel modd o roi Jeremy Corbyn mewn grym. Mae Plaid Cymru yn hollol glir ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd yn awr. Dylid ymestyn erthygl 50 am 21 mis fel y gellir cynnal refferendwm ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan fyddwn yn gwybod beth y bydd hynny'n ei olygu—rhwng pa gytundeb bynnag a negodir yn y cyfamser, ac aros yn yr UE. Byddai hyn yn osgoi'r bygythiad o drychineb 'dim bargen', ac yn caniatáu amser i roi trefn ar y llanastr hwn, unwaith ac am byth, fel y mae Mr Gething yn amlwg yn ei ddeall. Ddoe, cyhuddodd Prif Weinidog Cymru Lywodraeth y DU o fethu darparu unrhyw arweiniad, cyfrifoldeb cyfunol nac unrhyw reolaeth dros Brexit. Weinidog, a yw'r un peth yn wir am eich Llywodraeth chi?
Wel, fe wnaf y pwynt yn glir i'r Aelod eto: yr hyn a ddywedais y bore yma wrth Lywodraeth y DU mewn cynhadledd ffôn yw bod angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn edrych ar y cwestiwn hwn. Mae'r hyn a wnânt yn gwbl anghyfrifol. Os mai 30 Mehefin yw graddau'r estyniad, i'w ystyried gan yr UE—. Gyda llaw, wrth inni sefyll yma heddiw, nid yw'n glir fod hynny'n dderbyniol i'r Undeb Ewropeaidd hyd yn oed, felly gadewch i ni beidio â bod yn ddifater ynghylch y posibilrwydd o adael heb gytundeb ddiwedd yr wythnos nesaf. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni barhau i ganolbwyntio arno. Ond os mai dyna yw maint yr estyniad sydd ei angen, mae'n sicr yn bosibl ailnegodi datganiad gwleidyddol yn y ffrâm amser honno. A phe baem yn gwneud hynny, byddem yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r egwyddorion y mae ei phlaid hi hefyd wedi'i gefnogi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a chredaf yn gryf, ac mae Llywodraeth Cymru'n credu bod mwyafrif o blaid hynny yn y Senedd ac yn sicr, ceir brwdfrydedd o blaid hynny yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel y dywedais, ac fel y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro: os nad yw hynny'n bosibl, byddai angen refferendwm arall i ddatrys yr anghytundeb hwnnw.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, bellach mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud cais ffurfiol i'r UE i ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE tan 30 Mehefin, ond a fyddai'n cytuno nad penderfyniad gwleidyddol yn unig yw'r penderfyniad sydd i'w wneud, ond bod iddo oblygiadau cyfreithiol hefyd, ac mai'r cyngor a dderbyniodd y Comisiwn Ewropeaidd, os caniateir y DU i ymestyn ei haelodaeth y tu hwnt i 22 Mai, yw y bydd yn ofyniad cyfreithiol felly fod Prydain yn cymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop? Ac o gofio bod 148 o etholaethau Llafur wedi pleidleisio dros adael yn y refferendwm a dim ond 84 wedi pleidleisio dros aros, a yw'n ddigynnwrf ynghylch y posibilrwydd hwnnw?
Yn sicr, mae'r cwestiwn ynghylch goblygiadau cyfreithiol estyniad yn un ystyriaeth y gwn ei bod yn fyw ym meddyliau partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, mae yna bwynt pan fydd cyfansoddiad y Senedd newydd ar ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf, yn peri newid sylweddol iawn yn yr amgylchedd. A cheir pryderon, rwy'n credu, ynglŷn ag os yw'r DU yn aelod y tu hwnt i'r pwynt hwnnw heb fod wedi ethol Aelodau o Senedd Ewrop, gallai fod her i gyfansoddiad y Comisiwn newydd ac ati, sy'n teimlo i mi fel risg y byddent yn gyndyn iawn i'w chreu yn ymarferol. Felly, ceir cyfyngiadau go iawn i'r cwestiwn y buom yn ei drafod dros y 10 neu 15 munud diwethaf ynglŷn â'r estyniad a allai fod yn bosibl.
Pa gyngor a roddodd i Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn? Ai ei farn gyfreithiol os yw aelodaeth Prydain yn ymestyn y tu hwnt i 22 neu 23 Mai, yw y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i gymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop a fydd yn digwydd ym mhob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE ledled Ewrop?
Wel, nid wyf yn ateb cwestiynau yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, ond rwyf am ddatgan y fraint rwy'n tueddu i beidio â'i defnyddio fel arfer a hoffwn ei atgoffa nad wyf yn datgelu cyngor a roddaf i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ateb nad yw'n cynnig unrhyw oleuni, wrth gwrs. Ond os caf ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnodd Lynne Neagle yn gynharach am effaith 'dim bargen' ar y diwydiant modurol yn ei hetholaeth hi, fel yr honnodd hi beth bynnag, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld heddiw, yn wir, fod Toyota wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i ddechrau cynhyrchu cenhedlaeth newydd o geir hybrid yn eu ffatri yn Swydd Derby y flwyddyn nesaf, er gwaethaf y dirywiad yn y diwydiant ceir yn fyd-eang, ac y bydd y ceir hyn a gaiff eu hadeiladu ar gyfer Suzuki hefyd yn defnyddio injans a gynhyrchir yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy yng Nghymru—y cyfan er gwaethaf Brexit, wrth gwrs? Yn y cyfamser, mae Ford hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn torri 5,000 o swyddi yn yr Almaen, sydd, wrth gwrs, â dim i'w wneud â Brexit, ac felly, beth sy'n digwydd yn y byd, yn sicr yn y byd modurol, yw bod y platiau tectonig yn newid a bod Ewrop, yn ei chyfanrwydd, yn mynd i ddioddef yn sgil ei dibyniaeth ar or-reoleiddio ac agweddau amddiffynnol mewnblyg, a phe baem ni ar y tu allan i'r gyfundrefn tollau a'r tariff allanol cyffredin, byddai gennym gyfle i fanteisio ar yr 85 y cant o'r economi fyd-eang nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n ehangu, yn wahanol i'r Undeb Ewropeaidd, sy'n crebachu'n economaidd.
Wel, rydym yn byw mewn economi fyd-eang, sy'n newid yn drawiadol iawn. Dyna'r union bwynt. Dyna pam y credwn bod y farn sydd gan yr Aelod ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb yn arbennig o drychinebus. Ar adeg pan fo pawb ohonom yn rheoli newid byd-eang, byddai ceisio'r math o newid trawmatig y mae ef yn ei argymell yn gwbl anghyfrifol. Lle bu—[Torri ar draws.] Lle bu enghreifftiau o fuddsoddi, fel y noda, maent yn deillio o waith dygn gan Lywodraeth Cymru, gan Ysgrifennydd yr economi, dros gyfnod hir o amser i sicrhau bod cwmnïau'n deall lefel yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w wneud i gyflogwyr sylweddol yng Nghymru. A'r gwaith paratoi hwnnw yw'r union waith y mae angen iddo ddigwydd a pharhau i ddigwydd ar draws y DU er mwyn inni sicrhau bod effeithiau aflonyddgar Brexit yn cael eu lleihau, a lle gallwn annog busnesau i fuddsoddi, ein bod yn gallu gwneud hynny.